– Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
Croeso nôl, a'r eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, mynediad at ddiffibrilwyr. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7771 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sy'n goroesi ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi ymhellach bod pob munud nad oes gan glaf fynediad at ddiffibriliwr neu adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn golygu bod eu siawns o oroesi yn gostwng 10 y cant.
3. Yn cydnabod y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid grant neu fenthyciadau i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser agor y ddadl hon yn enw Darren Millar ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r cynnig hwn heddiw yn rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn denu cefnogaeth drawsbleidiol enfawr. Cyfradd goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ac un o'r cyfraddau isaf yn Ewrop. Mae hyn yn rhywbeth y dylai pob un ohonom yn y Siambr hon wneud popeth yn ein gallu i'w wella yng Nghymru. Pa ffordd well o fynd ati ar ôl Diwrnod Cymorth Cyntaf y Byd, a ddigwyddodd dros y penwythnos, ac i nodi ymgyrch Achub Bywydau ym Mis Medi, na thrwy gefnogi'r cynnig hwn sydd ger ein bron? Mae tua 30,000 o bobl ledled y DU yn dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn, a chyn y pandemig dim ond un o bob 10 o bobl oedd yn goroesi. A bellach, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn amcangyfrif mai un o bob 20 o bobl sy'n goroesi o ganlyniad i'r pandemig.
Mae diffibrilwyr yn chwarae rhan enfawr yn achub bywyd rhywun pan fyddant yn dioddef ataliad y galon. Os caiff ei ddefnyddio o fewn pum munud i ataliad y galon, gall godi cyfraddau goroesi o 6 y cant i 74 y cant. Heb driniaeth ar unwaith, bydd y mwyafrif llethol o ddioddefwyr ataliad sydyn ar y galon yn marw, a dyna pam y mae cael diffibrilwyr wrth law mor bwysig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Calon Hearts am ddarparu diffibrilwyr yn fy nhref i, sef Prestatyn, ac yng Nghlwb Rygbi Dinbych. Bydd y peiriannau hanfodol hyn yn sicr o achub bywydau fy etholwyr, ond mae arnom angen cymaint mwy ohonynt. Er bod elusennau fel Calon Hearts, Sefydliad Prydeinig y Galon, yn ogystal â chlybiau rotari ar hyd a lled y wlad yn gwneud yr hyn a allant, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
Mae'n rhaid iddynt sicrhau bod diffibrilwyr ym mhob cymuned yng Nghymru a llu o bobl wedi'u hyfforddi mewn CPR. Heb y ddau gysylltiad hanfodol hyn yn y gadwyn oroesi, mae llawer gormod o bobl yn marw o ataliad y galon. Rydym i gyd wedi gweld y straeon dros yr wythnosau diwethaf am berfformiad ein gwasanaeth ambiwlans. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael ei gorweithio a'i llethu. Yn fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dim ond hanner yr holl alwadau 999 coch yr ymatebir iddynt o fewn y targed o wyth munud. Mae ein cynnig yn nodi bod y gobaith o oroesi ataliad y galon yn gostwng 10 y cant bob munud. Nid yw'n syndod mai cyfradd goroesi ataliad y galon yng Nghymru yw'r isaf yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Ychydig dros 4.5 y cant o bobl sy'n goroesi ataliad y galon yng Nghymru. Dros y ffin yn Lloegr, mae dwywaith cymaint o bobl yn goroesi, yn ystadegol.
Gyda llai a llai o alwadau 999 yn cyrraedd y targed ar gyfer galwadau coch, rhaid inni sicrhau bod gan bobl yn y gymuned offer a sgiliau i ymateb. Mae'n cymryd cyn lleied â 30 munud i hyfforddi rhywun mewn CPR, a gellir defnyddio diffibriliwr heb unrhyw hyfforddiant o gwbl. Gall unrhyw un ddefnyddio cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig modern, y math o offer sy'n cael ei ddarparu gan elusennau Cymru. Maent yn cyfarwyddo'r defnyddiwr ar sut i weithredu'r peiriant ac achub bywyd rhywun.
Mae ychydig dros dri mis ers i Christian Eriksen, capten tîm pêl-droed cenedlaethol Denmarc, ddisgyn yn ystod gêm Ewro 2020 yn erbyn y Ffindir. Ac efallai y bydd cefnogwyr pêl-droed hŷn yn cofio Marc-Vivien Foé yn ôl yn 2003, rwy'n meddwl: chwaraeai dros Manchester City; ni wnaeth oroesi, gwaetha'r modd, ond fe wnaeth Christian Eriksen, yn ffodus. Wrth i bobl ledled y byd wylio'r tîm meddygol rhyfeddol yn ymyrryd i achub bywyd Eriksen, daeth yn amlwg fod y seren bêl-droed wedi dioddef ataliad y galon. Diolch byth, gweithredodd y tîm meddygol yn gyflym i gyflawni CPR arno a defnyddio diffibriliwr i achub ei fywyd. Ond yn anffodus, nid yw pawb mor lwcus â Christian Eriksen, fel y gwelsom yr holl flynyddoedd yn ôl gyda Marc-Vivien Foé. Bu farw Maqsood Anwar hefyd yn 44 oed ar ôl dioddef trawiad ar y galon, yn ôl pob tebyg, wrth chwarae criced ym Mro Morgannwg yn gynharach yn yr haf, ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach, bu farw Alex Evans, 31 oed, ar ôl cael ataliad y galon wrth chwarae rygbi yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Yn ôl y Cyngor Dadebru, mae angen i'r cyhoedd fod o fewn 200m i ddiffibriliwr. O ystyried eu heffaith ar achub bywydau, mae'n hanfodol bwysig fod gennym ddiffibrilwyr wedi'u gosod mewn cynifer o fannau cyhoeddus hygyrch â phosibl ledled Cymru. Ar hyn o bryd ychydig dros 4,000 o ddiffibrilwyr allanol a geir yng Nghymru, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig am ei newid yn gyflym. Ond ni allwn ddibynnu ar elusennau i ddarparu'r darnau hanfodol hyn o offer achub bywyd—mae'r gost yn rhy uchel. Gall pob peiriant gostio tua £1,500, yn enwedig y peiriannau sy'n ddigon cadarn i'w gosod mewn lleoliadau cymunedol. Y Llywodraeth sy'n methu darparu digon o yswiriant brys, felly y Llywodraeth a ddylai ariannu cost yr hyfforddiant a'r offer i ddarparu gofal cardiaidd brys yn y gymuned.
Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2019, dywedodd dros 55 y cant o'r bobl a holwyd nad oeddent yn gwybod ble'r oedd y diffibriliwr agosaf. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, maent o'r diwedd wedi cyflwyno cyllid ar gyfer Achub Bywydau Cymru. Mae'r cyllid hwn yn helpu i ddatblygu rhaglen i addysgu pobl ar sut i helpu rhywun sy'n dioddef ataliad y galon, a hefyd i helpu pobl i fod yn hyderus wrth ddefnyddio diffibriliwr. Er bod croeso i'r cyllid a'r cynllun hwn, mae angen inni wneud mwy. Mae pobl Cymru yn haeddu cael diffibriliwr ym mhob neuadd gymunedol, maes chwaraeon a hyd yn oed mewn siopau annibynnol, fel y gallwn leihau nifer y marwolaethau drwy ataliad y galon yng Nghymru.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw ac i anfon neges glir fod Cymru'n gweithredu yn ystod ymgyrch Achub Bywydau ym Mis Medi. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 4 a rhoi pwyntiau newydd yn ei le:
4. Yn cydnabod y cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Achub Bywydau Cymru i wella ymwybyddiaeth a mynediad at CPR a diffibrilwyr.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ychwanegu £500,000 eleni at y cymorth hwn i gynyddu ymhellach nifer y diffibrilwyr mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Yn ffurfiol.
Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig yma heddiw. Dydy hwn ddim yn fater pleidiol wleidyddol, yn amlwg. Dwi wedi gweithio ar ddatganiadau ar y cyd efo Aelodau Llafur a Cheidwadol yn y gorffennol ar yr union fater yma, ac mae'r hyn sydd o'n blaenau ni yn rhywbeth sy'n synhwyrol ac yn gofyn am gamau digon sylfaenol ac ymarferol er mwyn achub bywydau ar draws Cymru. Mae o'n rhywbeth dwi wedi bod yn rhan ohono fo fy hun. Mae o'n berthnasol i ni i gyd.
Tra bo'r rhan fwyaf o achosion o cardiac arrest yn digwydd o fewn y cartref, mae yna gyfran sylweddol ohonyn nhw yn digwydd y tu allan i'r cartref. Ac rydyn ni'n gwybod mor allweddol ydy argaeledd y peiriannau defibrillator er mwyn rhoi cyfle i rywun allu goroesi digwyddiad fel hyn. Mae un o'n plith ni wedi cael y profiad hwnnw yn lled ddiweddar, ond mae o'n digwydd yn ddyddiol. Mae yna lefydd yn benodol lle rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n wirioneddol bwysig cael peiriannau oherwydd bod astudiaethau rhyngwladol yn dangos inni fod rhywun yn fwy tebyg o gael cardiac arrest mewn hybs trafnidiaeth, mewn canolfannau siopa, mewn canolfannau chwaraeon, mewn llefydd fel cyrsiau golff ac ati. Felly, mi ddylai hi fod yn nod i bob un ohonom ni sicrhau bod yna gefnogaeth wirioneddol, ymarferol ac ariannol gan Lywodraeth i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac mae yna wastad le i'r Llywodraeth wneud mwy.
A dyna pam dydw i ddim eisiau cefnogi, a byddwn ni ddim yn cefnogi'r gwelliant gan y Llywodraeth heddiw. Wrth gwrs bod y Llywodraeth wedi buddsoddi yn y maes yma yn barod, a beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy gwelliant sydd yn nodi hynny. Ond dwi'n meddwl ein bod ni angen gwneud mwy ar ddiwrnod fel hyn na nodi'r camau sydd wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth. Beth sydd eisiau ydy i'r Llywodraeth dderbyn, oes, mae yna fwy y gallwn ni ei wneud, wastad.
Mae yna gymaint mwy, wrth gwrs, sydd angen edrych arno fo na dim ond arian. Mae'r cwestiwn o gofrestr yn un pwysig iawn. Mae yna un gofrestr, The Circuit—y national defibrillator network—lle mae'n bosib nodi lle mae'r holl beiriannau ar draws y Deyrnas Unedig, a dwi'n gwybod bod Sefydliad y Galon yn galw ar Lywodraeth Prydain i annog pobl sydd yn edrych ar ôl eu peiriannau nhw i'w cofrestru nhw. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae codi ymwybyddiaeth wastad yn bwysig. Faint ohonom ni yn fan hyn sydd wedi cael ein dysgu gan y British Heart Foundation ac eraill sut i ddefnyddio defibrillator? Dwi, a'n swyddfa i, wedi agor y drysau i gynnal dosbarthiadau yn y gorffennol, er mwyn i fwy a mwy o bobl gael gwybodaeth ymarferol ar sut i'w defnyddio nhw. Felly, mae angen gwneud llawer mwy eto i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Ond, fel cam cychwynnol heddiw yma, gadewch inni gyd gefnogi'r cynnig yma, a'i gwneud hi'n glir ein bod ni, fel Senedd, yn unedig ar y cwestiwn o bwysigrwydd y peiriannau bach yma sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Nid oes llawer o ddyddiau pan fyddaf yn cerdded i mewn heb fod yn meddwl am y pwnc hwn, oherwydd rwy'n gweld fy nghyd-Aelod o Flaenau Gwent yma, sydd wedi siarad yn huawdl am ei brofiad personol—profiad trawmatig, ddywedwn i—ac mae pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i bobl am ddiffibrilwyr yn golygu ei fod yma gyda ni. Ar rai dyddiau pan fydd yn cyfrannu, efallai y byddai'n well gennyf pe bai yn yr ystafell de yn hytrach na'r fan hon—[Chwerthin.]—ond mae'n wych ei weld o gwmpas ac yn cerdded ac yn mwynhau bywyd.
Ac mae'n dda gweld gwên ar wynebau pobl pan fydd hynny'n cael ei ddweud, oherwydd y cyfrannwr arall i'r ddadl hon yn y Cynulliad blaenorol oedd Suzy Davies, a arweiniodd sawl dadl yma ar yr angen, yn y cwricwlwm yn benodol, i gael addysg ar ddiffibrilwyr a'r defnydd o ddiffibrilwyr yn y gymuned, oherwydd nid oes diben eu cael os na allwch eu defnyddio, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â'r pwynt hwnnw hefyd. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth flaenorol wedi newid ei safbwynt ar ôl llawer o lobïo gan Suzy Davies i gael y pwynt pwysig hwn i mewn i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, fel y byddai lle o fewn y cwricwlwm i'r addysg honno gael ei darparu mewn colegau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, oherwydd, unwaith eto, clywn y rhifau, fel y soniodd Gareth yn ei sylwadau agoriadol, a bydd 8,000 o bobl yn cael ataliad y galon yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae ataliad y galon yn lladd mwy o bobl na chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS gyda'i gilydd—gyda'i gilydd. Mae hynny'n werth ei ystyried. Gyda chanser yr ysgyfaint, canser y fron ac AIDS wedi'u cyfuno, mae mwy o bobl yn marw o ataliad y galon yma yng Nghymru. Ond mae yna ateb: gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ar gael yn haws, a gallwn sicrhau bod y dyfeisiau hyn ym mhob cymuned ar hyd a lled Cymru. Ond pan fyddwn yn sicrhau eu bod ar gael, yr hyn sy'n bwysig yw eu bod ar gael i'w defnyddio 24/7, nid yn unig mewn mannau gwaith cyfyngedig, megis mewn colegau, er enghraifft, lle mae llawer o golegau'n nodi bod ganddynt ddiffibrilwyr, ac mae hynny i'w groesawu, ond nid yw'n llawer o werth iddo fod yn y coleg os yw'r drws wedi'i gloi ac na allwch ei gyrraedd pan fydd ei angen. A dyna pam y mae angen mwy o weithgaredd cymunedol arnom i geisio cael mwy o neuaddau cymunedol, a lleoliadau chwaraeon yn arbennig, i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio'r cyfleusterau hyn. A dyna pam rwyf wedi bod mor falch yn fy rôl—ac nid wyf yn ceisio cael fy ailethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf, felly nid cais i gael fy ethol y flwyddyn nesaf yw hwn; rwy'n datgan buddiant—fy mod wedi cael y pleser o chwarae rhan yn codi arian ar gyfer o leiaf bum diffibriliwr yn ward y Rhws i sicrhau, o'r clwb pêl-droed i safle preswyl Trwyn y Rhws i bentref Llantrithyd, fod diffibrilwyr bellach ar gael i'r cymunedau hynny. A dyna lle mae'n wirioneddol bwysig.
Rwy'n gresynu bod y Llywodraeth wedi dewis dileu'r un pwynt yn y cynnig hwn heddiw a alwai am weithredu ar ran y Llywodraeth i ymgysylltu â grwpiau cymunedol i sicrhau bod arian ar gael ar sail gyson a chynaliadwy i sicrhau y gallwn godi'r niferoedd y soniodd Gareth amdanynt. Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua 4,000 o ddiffibrilwyr ar gael ledled Cymru. Os ydym am gael darpariaeth ystyrlon ar sail genedlaethol, mae'n debyg y bydd angen inni ddyblu'r nifer honno, ac mae hynny'n gofyn llawer. Ond credaf fod y Llywodraeth wedi cymryd cam yn ôl wrth geisio dileu'r pwynt hwn yn y cynnig y prynhawn yma, oherwydd mae'n gynnig cydsyniol ac yn y pen draw mae'n ceisio cyrraedd y ddarpariaeth ddigonol honno'n genedlaethol drwy alw ar y Llywodraeth i sicrhau bod yr adnoddau cenedlaethol hynny ar gael.
Rwy'n derbyn bod gwelliant y Llywodraeth yn sôn am arian sydd ar gael gan y Llywodraeth i wahanol grwpiau cymunedol, ond yn amlwg, mae llawer mwy o waith i'w wneud. Pan edrychwch ar yr ymatebion addysg y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'u cael yn ôl, yn enwedig gan awdurdodau addysg lleol, dim ond sir Ddinbych a allai nodi'n union beth oedd gan safleoedd ysgol o ran diffibrilwyr. Cadarnhaodd yr 11 awdurdod lleol arall allan o 12 a ymatebodd i'r cais rhyddid gwybodaeth nad oes cronfa ddata ganolog o fewn yr adran addysg i ddangos ble mewn ysgolion y gallai diffibrilwyr fod ai peidio. Unwaith eto, mae hynny'n ddiffyg yn ein dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud.
Mae llawer o waith i'w wneud, ond rydym yn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Gobeithio y gallwn ganfod consensws gyda'r ddadl hon heddiw, oherwydd fel y gwelsom gyda'r pandemig, yn anffodus roedd yn un o bob 10 cyn y pandemig yn goroesi ataliad y galon yma yng Nghymru, ac mae bellach yn un o bob 20, felly mae'r niferoedd wedi mynd tuag yn ôl. Nid yw hynny'n fai ar neb, oherwydd y pandemig—rwy'n derbyn hynny—ond mae'n pwysleisio'r mynydd sy'n rhaid inni ei ddringo a'r gwaith sy'n rhaid inni ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru gyfan i sicrhau ein bod yn creu mwy o addysg o amgylch y defnydd o ddiffibrilwyr, a mynediad at ddiffibrilwyr, yn bwysig iawn. Rwyf am ailadrodd y llinell honno eto: mae angen iddynt fod ar gael yn rhwydd 24/7. Nid oes unrhyw bwynt ticio blwch yn dweud bod diffibriliwr mewn lleoliad dan glo sydd ddim ar gael am 12 awr o'r dydd, na thros y penwythnos. Oherwydd fel y digwyddodd i Alun, roedd yn digwydd bod mewn parc; yn y pen draw, roedd yn lwcus fod rhywun yn mynd heibio ac yn gallu gwneud yr hyn roedd angen ei wneud i ddod ag ef yn ôl yn fyw. Ond pwy a ŵyr ble y gallai daro un o'r 8,000 o bobl yng Nghymru a fyddai'n cael digwyddiad cardiaidd o'r fath.
Galwaf ar y Llywodraeth i wneud mwy, fel y mae'r wrthblaid bob amser yn ei wneud mewn dadleuon ar brynhawn dydd Mercher. Ond rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth am y gwaith a wnaeth yn y Cynulliad diwethaf gyda Suzy Davies i sicrhau bod lle yn y cwricwlwm addysg i ganiatáu mwy o ddysgu addysgol fel bod pobl yn gwybod beth i'w wneud os byddant yn wynebu hynny. Mae'r Llywydd yn edrych arnaf yn awr, oherwydd mae'r llinell goch wedi codi, felly ar y nodyn hwnnw, rwyf am orffen. Diolch.
Alun Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, a diolch am y geiriau caredig rydym newydd eu clywed.
O ran ble'r ydym, mae'r araith a wnaed gan Andrew R.T. Davies yn gwbl gywir: mae'n dda ac rydym yn croesawu ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi'i gwblhau, ac rydym yn hynod ddiolchgar am waith unigolion a grwpiau a chymunedau ar hyd a lled y wlad sydd wedi gosod offer achub bywyd mewn cymunedau ledled Cymru. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Gweinidog y prynhawn yma yw na allwch ddibynnu ar elusen i ymateb ar frys pan fydd rhywun yn gorwedd rhwng byw a marw gyda dim ond munudau i'w sbario. Ni allwch ddibynnu ar ewyllys da na dymuniadau gorau ar brynhawn dydd Mercher i ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen. Dim ond Llywodraeth a all gyflawni hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fyfyrio ar brofiad pobl y prynhawn yma—nid yn gymaint profiad pobl fel fi sydd wedi dioddef ataliad y galon ac wedi goroesi, ond y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid am na wnaethant oroesi, a gwyddom fod hynny wedi effeithio ar Aelodau yma yn y Siambr hon.
Gwyddom fod pobl sy'n ymddangos fel pe baent mewn iechyd ardderchog wedi dioddef ataliad y galon heb rybudd, heb symptomau, a heb gyfle i gael cymorth meddygol. Roedd yn frawychus gwylio'r hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen yn yr haf. Yr hyn a ddigwyddodd iddo ef oedd yr hyn y disgrifiwyd ei fod wedi digwydd i mi—dim rhybudd, dim gwybodaeth, ynghanol rhyw weithgarwch corfforol roeddech yn rhagweld, roeddech yn disgwyl, ei oroesi. Fe syrthiodd gydag ataliad y galon yn union yn yr un ffordd ag y gwnes innau. Dim ond cefnogaeth a chymorth pobl yn ein cymuned a fydd yn galluogi'r parafeddygon, y cardiolegwyr a'r llawfeddygon i ddefnyddio eu sgiliau, i ddefnyddio eu gwybodaeth, i ddefnyddio eu profiad i sicrhau y gall pobl fwrw ymlaen â'u bywydau. Yn sicr, mae'r driniaeth a gefais yma yng Nghaerdydd wedi fy ngalluogi i barhau i fyw fy mywyd. Ac rwy'n ymddiheuro, Andrew R.T. Davies, os wyf fi weithiau'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, ond wedi dweud hynny, ni fyddech yn disgwyl iddi fod fel arall.
Gadewch imi ddweud hyn: mae gennym gyfrifoldeb yn y lle hwn i wneud mwy na gwneud areithiau, ac i wneud mwy na mynegi ewyllys da a dymuniadau da i bobl ledled y wlad hon. Mae gennym gyfrifoldeb i sefydlu'r strwythurau a fydd yn galluogi pobl i oroesi'r profiadau hyn. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi'r ddeddfwriaeth Aelod preifat y byddaf yn ei chyflwyno eto yr wythnos hon. Roedd yr Aelodau'n ddigon caredig i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol a wneuthum yn y Senedd ddiwethaf i ddarparu cyfrifoldeb cyfreithiol, statudol ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad, a bod pobl yn cael yr hyfforddiant sydd ar gael i ddefnyddio'r diffibrilwyr hynny ac i ddarparu CPR nes y gellir defnyddio diffibriliwr. Oherwydd nid lleoliad y diffibriliwr yn unig sy'n bwysig, ond cynnal a chadw'r diffibriliwr, sicrhau bod y diffibriliwr ar gael i'w ddefnyddio pan fydd ei angen. Cefais ataliad y galon am 7 o'r gloch ar nos Wener. Ni allwch ddibynnu ar bobl i gael ataliad y galon o fewn oriau gwaith mewn lleoliad cyfleus. Rydym eisoes yn pennu ac yn mynnu deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ein cymdeithas drwyddi draw, o ddiogelwch tân i bob dull arall o gynnal a sicrhau bod bywyd yn cael ei ddiogelu. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y dylem ei wneud yn orfodol.
Hoffwn ddweud hyn wrth gloi. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr, fel y dywedais eisoes, ac yn ddiolchgar am y geiriau caredig, ac nid wyf am dreulio gormod o amser yn siarad am fy mhrofiad fy hun, ond mae geiriau'n bwysig. Mae geiriau'n sicr yn bwysig, ond yr hyn sy'n bwysicach na geiriau yw gweithredu. Cawn gyfle yn y Senedd hon i ddeddfu i ddarparu ar gyfer fframwaith statudol i alluogi pobl ledled Cymru i wybod bod ganddynt offer achub bywyd ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith a arweiniodd Suzy Davies yn y Senedd ddiwethaf i sicrhau bod hyfforddiant ar gael. Ac ni allwn ddibynnu'n syml ar ysgolion i gyflawni hynny; rhaid inni fynd i weithleoedd a chymunedau i gyflawni hynny hefyd. Yna mae'n rhaid inni sicrhau bod cadwyn oroesi ar waith sy'n ein galluogi—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—nid yn unig i achub bywydau, ond i fuddsoddi yn nyfodol bywydau hefyd. Rwy'n gobeithio y daw Aelodau ar draws y Siambr at ei gilydd a phleidleisio dros hyn y prynhawn yma, a chefnogi'r ddeddfwriaeth breifat y gobeithiaf ei chyflwyno yn y Senedd hon er mwyn gwireddu gobeithion pawb ohonom. Diolch.
Ceir 2,000 o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn. Gall CPR a diffibriliwr ar unwaith fwy na dyblu'r gobaith o oroesi. Rydym i gyd yn cytuno y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, serch hynny, i gondemnio pwy bynnag a oedd yn gyfrifol yn ddiweddar iawn am ymosod ar gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a brynwyd gan y gymuned, ac a oedd newydd ei osod ar draeth y Gorllewin, Llandudno. Mae'r weithred ddinistriol, ddifeddwl hon yn dangos bod angen i ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a CPR wella'n helaeth.
Wrth gwrs, rwy'n ategu'r sylwadau a wnaed, a'n diolch enfawr i'n cyn gyd-Aelod Suzy Davies, a ymgyrchodd yn ddiflino i weld Cymru'n ymuno â Lloegr a'r Alban i wneud addysgu sgiliau achub bywyd yn un o ofynion y cwricwlwm ysgol newydd. Bydd addysgu sgiliau achub bywyd mewn ysgolion yn helpu i fynd i'r afael â'r ffaith na fyddai cynifer â thri chwarter y bobl a holwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn teimlo'n ddigon hyderus i weithredu pe baent yn gweld rhywun yn cael ataliad y galon. Fodd bynnag, er ein bod yn disgwyl i'r canllawiau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a lles gael eu diwygio i ddatgan y dylai dysgwyr ddysgu sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf, pam na chawn fynd gam ymhellach drwy ddweud bod hyfforddiant diffibrilio yn orfodol hefyd?
Drwy gydol y pandemig, rwyf wedi bod yn cymryd camau i helpu, addysgu a diogelu'r cyhoedd. Rwyf wedi cefnogi ymgyrch Cadwch Curiadau Awyr Las, sy'n annog trigolion o bob oed i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartref eu hunain drwy ddefnyddio eitemau cyffredin yn y cartref fel peli, clustogau a thedis. Mae fy nhîm etholaethol wedi dilyn cwrs hyfforddi CPR a diffibrilio gydag Ambiwlans Sant Ioan, felly diolch i Ambiwlans Sant Ioan am hynny, gan sicrhau bod gwybodaeth lawn a phriodol am weithdrefnau achub bywyd wedi gwreiddio'n iawn yng nghalon fy etholaeth yn Llandudno. Byddwn yn sicr yn annog Aelodau eraill i wneud yr un peth gyda'u timau swyddfa, fel ein bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n gallu ac yn barod i ymateb pe bai ataliad y galon yn digwydd y tu allan i'r ysbyty.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi amcangyfrif y gallai fod cannoedd neu hyd yn oed filoedd o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru nad ydynt byth yn cael eu defnyddio am nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod ble y maent. I fynd i'r afael â hyn, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn lansio 'The Circuit', gyda'r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan a Chyngor Dadebru'r DU. O gofio eich bod wedi ymrwymo i £500,000 arall i gynyddu nifer y diffibrilwyr ymhellach, tybed a allech ei wneud yn un o amodau'r cyllid hwn y dylid cofrestru cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig ar y rhestr hon.
Mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod bod cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau cardiofasgwlaidd ac ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac maent yn llai tebygol o oroesi na phobl o ardaloedd mwy cefnog. Nododd cynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ym mis Mehefin 2017 y dylid gwneud gwaith i sicrhau nad yw'r cyhoedd o dan anfantais oherwydd daearyddiaeth neu heriau cymdeithasol. Mae llawer ohonom yn teithio ar hyd Cymru yn wythnosol, a gallaf ddweud yn ddiogel nad wyf ond wedi gweld un cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig, wrth ochr yr A5 ym Mhadog, Ysbyty Ifan. Mae hynny'n dystiolaeth glir o anfantais ddaearyddol. Dylai fod gan gymunedau sydd ag offer achub bywyd arwyddion amlwg sy'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am eu presenoldeb. Dylent fod yr un mor bwysig ag arwyddion twristiaeth brown. Felly, a wnewch chi gysylltu â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ddarparu arwyddion ffyrdd yn tynnu sylw at gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig?
Ochr yn ochr â chyflwyno arwyddion, rwy'n cefnogi'r galwadau i sicrhau bod cyllid grant ar gael i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr. Yn bersonol, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn cynnig y dylent fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru. Gallai hynny, Weinidog, fod yn un o'r prif ysgytiadau sydd eu hangen ar Gymru i symud gam yn nes at fod yn genedl sy'n achub bywydau go iawn. Diolch.
Rwy'n gobeithio na fydd anghytundeb heddiw ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn, ac nid ailadroddaf y pwyntiau dilys iawn a wnaed. Ategaf alwadau Janet ynghylch y gofrestr honno. Credaf fod hynny'n hollbwysig. Pan fyddwch chi'n chwilio Google ar hyn o bryd mewn perthynas â rhai o'r ardaloedd yng Nghanol De Cymru, gwn am rai diffibrilwyr sy'n bodoli ond ni allwch ddod o hyd iddynt yn unman. Mae sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r lleoliadau hynny, yn enwedig ar lefel leol, yn hollbwysig, oherwydd efallai y byddwch yn rhuthro i fynd ar Google, ond os na allwch ddod o hyd iddo yno hyd yn oed, credaf fod gennym broblem fawr, yn enwedig pan nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod chwaith.
Fel rhan o'r ddadl hon heddiw roeddwn am godi un peth a gafodd ei ddwyn i fy sylw yr wythnos ddiwethaf mewn perthynas â diffibrilwyr presennol yng Nghanol De Cymru, a'r broblem fod rhai yn gysylltiedig â banciau a bod y canghennau hynny bellach wedi cau. Yn yr un modd, mae rhai yn gysylltiedig â swyddfeydd yng nghanol trefi, sydd hefyd wedi'u cau naill ai yn ystod COVID wrth i bobl weithio gartref, neu bellach wedi cau'n barhaol wrth i bobl newid i weithio gartref. Felly, os caf ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â chofrestru'r rhain fel y gellir eu cynnal ac yn y blaen, oherwydd y peth gwaethaf a allai ddigwydd yw i rywun gyrraedd diffibriliwr ac nad yw hwnnw'n gweithio chwaith. Felly, un peth yw buddsoddi, ond rhaid inni gael cynllun hirdymor, oherwydd yn aml mae'r wybodaeth am y diffibrilwyr hyn ym mhen rhywun—rhywun sy'n angerddol, sydd wedi bod yn codi arian yn y gymuned ar gyfer hyn—ac os ydym am gynnal y rhwydwaith, mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu cynnal, fod modd eu defnyddio, hefyd eu bod yn weladwy. Felly, mae'n apêl ar bob un ohonom i gydweithio er mwyn sicrhau bod y rhain ym mhob cymuned, y dylent fod ym mhob clwb chwaraeon ac yn y blaen, a chredaf fod awgrym Janet ynglŷn â phob ysgol hefyd yn bwynt dilys iawn, er y gall y rheini fod ymhell iawn o gymunedau wrth gwrs a heb fod mor hygyrch â chanol rhai o'n trefi. Felly, rwy'n gobeithio y gallem i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn fel ein bod yn gallu achub cymaint o fywydau â phosibl yn y ddeddf hon. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Mae'r ystadegau'n amlwg yn peri pryder, a dylai cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty fod yn ddigon, ar eu pen eu hunain, i'n cael ni i weithredu. Mae yna ychydig o heriau, fodd bynnag. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod ein gwlad yn gweithio'n ddigon cyflym i adeiladu mwy o gapasiti yn ein rhwydwaith o ddiffibrilwyr. Yn ystod toriad yr haf, ymwelais â fferyllfa gymunedol a chefais fy synnu gan y cynnydd araf wrth gyflwyno cyflenwad digonol o ddiffibrilwyr ledled y fferyllfeydd lleol gwych. Wrth gefnogi’r alwad i sicrhau bod cyllid ar gael i leoliadau ledled Cymru i ddarparu rhwydwaith o ddiffibrilwyr, rwyf eisiau i’r Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod gan bob fferyllfa gymunedol fynediad at gymorth, fel rhan allweddol a hanfodol o’n gwasanaeth iechyd. Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnwys nifer o staff sydd â'r sgiliau i ymateb i anghenion y boblogaeth leol. Beth am wneud gwell defnydd o fferyllfeydd cymunedol, sy'n rhan allweddol o'n trefi a'n pentrefi, a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â llawer o bobl bob dydd? A allai'r Gweinidog gadarnhau faint o fferyllfeydd cymunedol sydd â diffibrilwyr heddiw, o gymharu â dwy neu dair blynedd yn ôl?
Yn ail, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, llai na 5 y cant o bobl sy’n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty sy'n cael triniaeth ddiffibrilio gan rywun sy'n digwydd bod yno, a cheir degau o filoedd o ddiffibrilwyr nad yw’r gwasanaethau ambiwlans yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd am nad ydynt wedi’u cofrestru. Yn amlwg, gall gwybod am leoliad diffibriliwr olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Er bod angen inni fynd i'r afael â nifer gyffredinol y diffibrilwyr, mae angen inni hefyd sicrhau bod pob uned wedi'i chofrestru fel y gall y gwasanaethau brys ddod o hyd iddynt, ac efallai mai un ffordd o ddod o hyd i ddiffibriliwr pan fydd aelod o'r cyhoedd yn galw am ddefnyddio un fydd system debyg i'r ffonau AA ar draffyrdd, sy'n rhoi'r union leoliad. Yn drydydd, mae Cyngor Dadebru'r DU yn cyflwyno achos cryf dros wella gwybodaeth a chyngor i bobl er mwyn meithrin hyder ymhlith y boblogaeth i ddefnyddio diffibriliwr mewn argyfwng. Mae hyn yn wir ar gyfer darparu CPR heb fod diffibriliwr ar gael hefyd, ac yn fwy heriol oherwydd y camau uniongyrchol sydd angen i’r unigolyn eu cyflawni i'w ddarparu. Byddwn hefyd yn gofyn i'r Llywodraeth adolygu ei chynllun ei hun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a gyhoeddwyd yn 2017. Mae'n nodi'n glir mai un o ganlyniadau allweddol y cynllun yw bod diffibrilwyr,
‘ar gael i’r cyhoedd yn hwylus.’
Mae hefyd yn nodi’r canlyniad fod y cyhoedd
‘yn gwybod ei bod yn hawdd defnyddio diffibrilwyr ac na allant achosi niwed.’
Mae hynny wedi’i ysgrifennu yn hwn. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog a wnaed unrhyw waith meincnodi mewn perthynas â chynllun 2017 wrth ei ysgrifennu, a lle'r ydym arni yn awr ar sicrhau’r gwelliant i allu a hygyrchedd. Mae’r cynllun yn un synhwyrol ac mae’r bwriad yn glir, ond mae’r bennod ar weithredu yn wan wrth geisio disgrifio llwyddiant. Dywed.
‘Er bod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar rai elfennau o’r llwybr, mae angen ffocws a chamau buan i ddatblygu’r manylion ar draws y cynllun i gyd a’i roi ar waith ledled Cymru.’
Edrychodd adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 ar wybodaeth, agwedd ac ymddygiad y cyhoedd tuag at CPR a diffibrilwyr. Daeth yr arolwg i'r casgliad fod y gyfran a hyfforddwyd i ddefnyddio diffibriliwr yn llawer is na’r gyfran a hyfforddwyd i roi CPR, gyda dim ond 23 y cant o'r holl ymatebwyr yn nodi eu bod wedi cael hyfforddiant. Er hynny, nododd dros 50 y cant o bobl y byddent yn hoffi cael rhywfaint o hyfforddiant. O ran defnyddio diffibrilwyr, roedd lefel yr hyder yn is nag ar gyfer y rhai sy'n rhoi CPR, gyda dim ond 38 y cant o'r ymatebwyr yn dweud y byddent yn hyderus. Roedd lefelau hyder yn uwch ymhlith y rhai a hyfforddwyd mewn CPR neu sut i ddefnyddio diffibrilwyr, ar 55 y cant ac 88 y cant yn eu tro.
Fodd bynnag, mae'n destun pryder nad oedd 55 y cant o’r ymatebwyr yn gwybod lle'r oedd eu diffibriliwr agosaf. Hyd yn oed ymhlith y rhai a gafodd hyfforddiant diffibrilio, nododd 35 y cant nad oeddent yn gwybod lle'r oedd eu diffibrilwyr agosaf—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr os gwelwch yn dda?
Mae’n bosibl fod y ffigurau hyn wedi newid yn y tair blynedd ddiwethaf, ond maent yn dangos maint yr her, hyd yn oed pe bai gennym y nifer cywir o ddiffibrilwyr yn eu lle. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Siaradodd arweinydd yr wrthblaid am gonsensws ar ddechrau'r ddadl hon ac rwy'n cytuno: mae angen inni ddod o hyd i gonsensws. Ni fyddwch yn fy nghlywed yn dweud hyn yn aml, ond rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw—[Chwerthin.]
Ond Ddirprwy Lywydd, cyfarfûm yn ddiweddar â Mark King o Sefydliad Oliver King, sy'n ymgyrchu dros ddarparu diffibriliwr achub bywydau ym mhob ysgol ar draws y Deyrnas Unedig. Cafodd y sefydliad ei sefydlu ym mis Ionawr 2012, yn dilyn marwolaeth drasig mab Mark, Oliver King, yn 12 oed. Bu farw Oliver o syndrom marwolaeth arrhythmig sydyn—cyflwr cudd ar y galon sy'n lladd 12 o bobl ifanc bob wythnos. Nawr, fel llawer o rai eraill ar draws y Siambr, mae fy nghyfarfod â Mark a'r sefydliad wedi gwneud imi feddwl am yr ysgolion yn fy nghymuned fy hun, felly cysylltodd fy swyddfa â'r ysgolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, a chanfuwyd bod gan 23 o ysgolion ddiffibriliwr, ond nid oedd un gan 10 ohonynt. Cysylltodd sawl un o'r 10 ysgol â'm swyddfa i ofyn sut y gallant fynd ati i gael un ac a oedd hi'n bosibl iddynt gael arian i gael un ac roeddent eisiau cyngor ar sut i wneud hynny. Felly, byddaf yn rhoi mewn cysylltiad â Sefydliad Oliver King, ond hoffwn ofyn hefyd i Lywodraeth Cymru a chydweithwyr llywodraeth leol ledled Cymru ystyried mapio hyn yn iawn a helpu ysgolion i gael yr offer achub bywyd y maent yn daer ei angen.
At hynny, Ddirprwy Lywydd, yn ddiweddar, cefais wybod gan ffrindiau i mi am aelod oedrannus o'r teulu a aeth yn sâl yn ystod oriau mân y bore. Ar ôl ffonio 999, cawsant gyfarwyddyd i fynd at y diffibriliwr agosaf a oedd wedi'i leoli yn yr archfarchnad leol, ond yn anffodus, roedd yr archfarchnad ar gau ac roedd y diffibriliwr wedi'i gloi y tu mewn. Ni allodd fy ffrind ei ddefnyddio. Fel y clywsom gan Aelodau ar draws pob un o'r meinciau yma heddiw, mae'n hanfodol fod diffibrilwyr mewn lleoliadau sy'n golygu eu bod yn hygyrch 24 awr y dydd. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at Morrisons yng Nghei Connah yn fy etholaeth yn gofyn iddynt hwyluso'r cam synhwyrol hwn, a hoffwn i siopau eraill ar draws fy etholaeth ac ar draws Cymru a'r DU wneud yr un peth. Felly, rwy'n annog y Gweinidog a Llywodraeth Cymru i fynd ar drywydd y mater hwn ledled Cymru.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n ddiolchgar iawn i chi am adael imi siarad yn y ddadl hon heddiw, rydym i gyd yn deall y gwahaniaeth rhwng diffibriliwr a'r hyn y gall ei wneud o ran achub bywydau neu beidio, ond mae hyfforddiant ar eu defnydd a hyfforddiant CPR sylfaenol hefyd yn allweddol i achub bywydau. Ac fel y clywsom y prynhawn yma, nid oes neb yn gwybod hynny'n well na'm cyfaill Alun Davies, felly hoffwn dalu teyrnged i'r bobl a helpodd fy nghyfaill Alun Davies pan oedd angen cymorth arno, oherwydd hebddynt hwy, ni fyddai yma gyda mi, yn anghytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, fel rydym mor hoff o wneud. Ond nid heddiw: rydym yn cytuno, ac yn diolch yn fawr iawn i chi am y ddadl. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y cyfraniadau meddylgar y maent wedi'u gwneud heddiw, ac yn arbennig, diolch i Darren Millar a Gareth am gyflwyno'r mater pwysig hwn. O ddifrif, ceir consensws yn y Siambr fod hwn yn fater pwysig iawn, ac yn sicr mae yna gefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Credaf ein bod i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy ar hyn.
Fel Llywodraeth, rydym yn rhannu ymrwymiad i wella gobaith pobl o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Fel y mae rhai ohonoch wedi'i nodi, lansiodd fy rhagflaenydd y cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru yn 2017, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r canlyniadau gwael iawn sydd gennym yng Nghymru mewn perthynas â phobl sy'n dioddef ataliad y galon yn y gymuned. Yn ddiweddar, fel y soniodd Gareth, bydd yr Aelodau'n cofio i mi ailddatgan agweddau ar y cynllun hwnnw drwy ddyrannu cyllid ychwanegol, a byddaf yn dweud mwy am hynny yn y man.
Fel y clywsom eisoes gan gynifer o'r Aelodau heddiw, y gwir amdani yw bod gobaith claf o oroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn gostwng oddeutu 10 y cant gyda phob munud sy'n mynd heibio. Clywsom am lawer o enghreifftiau o hynny, ac mae gennym ein henghraifft ein hunain yma, Alun, sydd—. Cefais fy syfrdanu'n fawr pan welais y ffigur—mai dim ond 3 y cant a fyddai wedi bod drwy sefyllfa o'r fath a goroesi. Felly, rydym i gyd mor ddiolchgar i'ch cael chi yma, Alun, ac mae'n tanlinellu pwysigrwydd yr angen i un o'r diffibrilwyr hyn fod yn hygyrch.
Felly, mae cyfraddau goroesi'n isel, ond mae potensial i lawer mwy o fywydau gael eu hachub, fel y dangoswyd gan nifer y gwledydd sydd wedi bod yn rhoi camau ar waith i wella pob cam o'r hyn a alwant yn gadwyn oroesi. Dyma'r rheswm dros gael y cynllun hwn, a bod camau cydunol yn cael eu cymryd.
Felly, rwy'n llwyr gefnogi galwadau am fwy o ddiffibrilwyr, ond credaf ei bod yn bwysig i bobl ddeall bod gwneud cynnydd yn y maes hwn yn gymhleth, a bod angen i nifer o bethau gael eu dwyn ynghyd—ac mae Aelodau yn y Siambr hon wedi cyfeirio at lawer ohonynt heddiw.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog wrth ei chlywed yn dweud y byddai'n falch o weld mwy o ddiffibrilwyr yng Nghymru. Chi yw'r Gweinidog. A wnewch chi osod targed ar gyfer nifer y diffibrilwyr a allai fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd tymor pum mlynedd y Cynulliad hwn? O leiaf, wedyn, os oes gennym darged, mae gennym rywbeth i anelu ato, yn hytrach na'r geiriau cynnes—a geiriau diffuant, rwy'n cymryd—y mae'r Gweinidog wedi'u dweud ar goedd heddiw. Mae angen inni wybod pa fath o niferoedd rydym yn sôn amdanynt yma.
Wel, rwy'n sicr yn hapus i edrych ar hynny. Credaf y bydd y ffaith ein bod wedi darparu adnoddau ychwanegol sylweddol yn ystod yr haf, gobeithio, yn mynd beth o'r ffordd tuag at gyrraedd targed. Rwy'n hapus i edrych ar darged oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl barhau i roi pwysau arnom yn hyn o beth. Felly, rwy'n fodlon edrych ar hynny.
Yr hyn sy'n ddiddorol yw'r ffaith bod yna feysydd lle'r ydym, mewn gwirionedd, ymhellach ar y blaen nag y maent yn Lloegr, er enghraifft. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr ymgyrch y soniodd Jack Sargeant amdani, gan Mark King, er enghraifft, sydd wedi bod yn ymgyrchydd anhygoel, wrth geisio cael pobl i gyflwyno'r rhain ym mhob ysgol yn y Deyrnas Unedig, er cof am ei fab, Oliver, a fu farw mewn modd mor drasig. Mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi cynnig diffibriliwr i bob ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae hynny eisoes wedi digwydd yng Nghymru, felly rydym ymhellach ar y blaen mewn rhai pethau.
Fel y dywedais, mae'n faes cymhleth. Rhaid inni feddwl am y mater sgiliau, pwynt a godwyd gan gymaint o bobl a rhywbeth roedd Suzy Davies yn dadlau mor gryf drosto pan oedd hi yma. Ar ben hynny, credaf ei bod yn bwysig iawn inni ddeall bod yn rhaid eu cynnal; fel arall, nid ydynt yn werth eu cael. Felly, hoffwn ymuno â Janet Finch-Saunders i gondemnio'r rhai sy'n fandaleiddio offer achub bywyd lle bynnag y mae hynny'n digwydd yng Nghymru. Dyna pam ein bod wedi sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru, ym mis Ionawr 2019, i ddod â'r holl ddarnau gwahanol o'r jig-so at ei gilydd, mewn perthynas ag annog y cyhoedd i gymryd rhan a gweithredu os byddant yn wynebu ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac mae Achub Bywydau Cymru yn gweithio gyda nifer fawr iawn o sefydliadau yn hyn o beth, yn ogystal â chynnal ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr 'cyffwrdd â bywyd' i annog pobl i gamu ymlaen, fel y mae cynifer ohonoch wedi'i grybwyll. Mae rhai ohonoch yn gwneud y cynnig gweithredol hwnnw yn eich cymunedau eich hunain.
Mae nifer y diffibrilwyr yn cynyddu drwy'r amser. Ar hyn o bryd, mae 5,423 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi'u cofrestru gydag ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru a 'The Circuit', a hoffwn ddweud rhywbeth am y rhestr honno, oherwydd awgrymodd Janet Finch-Saunders efallai y dylem wneud y cyllid hwn yn amodol ar y ffaith bod angen iddynt gofrestru. Felly, rydych yn llygad eich lle—mae'n debyg bod llawer mwy, ond os nad yw pobl yn gwybod lle maent, nid yw hynny'n fawr o werth. Felly, rwy'n hapus iawn i wneud y cyllid hwnnw'n amodol ar y ffaith bod yn rhaid iddynt gofrestru eu lleoliad gyda 'The Circuit'.
Mae'n rhaid cael gofalwyr dynodedig ar gyfer diffibrilwyr hefyd—rhywun i edrych ar eu hôl nhw i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio'n iawn. Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o dan 50 y cant o'r diffibrilwyr hyn sydd wedi cofrestru â gofalwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y batris a'r padiau yn cael eu profi'n rheolaidd. Felly, mae e'n sefyllfa gymhleth—does dim pwynt jest rhoi y peiriannau yma yn eu lle. Yn ddiweddar, cyhoeddais £2.5 miliwn arall ar gyfer y bartneriaeth yna gydag Achub Bywydau Cymru i godi ymwybyddiaeth o CPR a diffibrilio, ac i wella’r defnydd o'r technegau hyn. Heddiw, hoffwn i gyhoeddi y byddwn ni'n mynd gam ymhellach ac yn dyrannu £0.5 miliwn yn ychwanegol i sicrhau rhagor o ddiffibrilwyr i gymunedau ledled Cymru, a dyna pam rŷn ni'n awgrymu'r gwelliant i'r cynnig yma heddiw.
Dwi wedi gofyn i’r swyddogion weithio gydag Achub Bywydau Cymru ar drefniadau ar gyfer defnyddio'r cyllid hwn. Ar 16 Hydref rŷn ni’n dathlu Diwrnod Adfywio'r Galon. Bydd Achub Bywydau Cymru, ynghyd a'u partneriaid ledled Cymru, yn annog pob un ohonom ni i gymryd rhan. Hefyd bydd ymgyrch Shoctober gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cael ei hyrwyddo drwy fis Hydref. Bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o ddefnydd priodol o'r gwasanaeth 999 ac o CPR dwylo yn unig i ddysgwyr oedran cynradd. Felly, yn cario ymlaen gyda'r legasi yna, gobeithio, oedd mor bwysig i Suzy Davies.
Dwi'n gwybod bod y cyhoedd yng Nghymru am wneud ei ran. Mae'n gwaith ymchwil wedi dangos bod agwedd y cyhoedd yn bositif a bod pobl yn awyddus i gael cyfleoedd hyfforddi, ond mae hyder i berfformio CPR neu i ddefnyddio diffibrilwyr yng Nghymru yn isel, ac mae hyn yn rhywbeth gallwn ni ei newid. Felly, gobeithio bydd yr ymdrechion hyn dwi wedi sôn amdanyn nhw heddiw yn dechrau mynd i'r afael â materion fel hyder y cyhoedd, a bydd hynny'n gwella canlyniadau ar gyfer y rhai sy'n dioddef ataliad y galon tu allan i'r ysbyty.
Hoffwn i dalu teyrnged i'r holl sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, sy'n gweithio'n arbennig o galed ledled Cymru i wella'r defnydd o CPR a diffibrilio. Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, a gall pob un ohonom ni helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR a diffibrilio cynnar. Diolch.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau, a'r Gweinidog, sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Ar ôl y golygfeydd erchyll a welwyd ar y teledu rhyngwladol yn ystod gêm Denmarc yn erbyn y Ffindir fis Mehefin diwethaf yn ystod yr Ewros, cefais fy ysgogi, fel cynifer o rai eraill, i weithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i hyrwyddo'r angen am fynediad cyffredinol at ddiffibriliwr, yn enwedig ar ein caeau chwaraeon, yn ein neuaddau cymunedol, ac ar ein prif strydoedd, a diolch i'r holl Aelodau a lofnododd fy natganiad barn cyn y toriad ar y mater hwn.
Ac er fy mod yn hynod falch o weld bod cyd-Aelodau o bob plaid yn frwd iawn i drafod y cynnig hwn, yn yr amser rhwng dechrau'r sesiwn hon y prynhawn yma a diwedd y diwrnod gwaith yn ddiweddarach heddiw, amcangyfrifir y bydd 14 o unigolion wedi dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn y Deyrnas Unedig. Am bob munud sy'n mynd heibio heb weinyddu CPR a diffibriliwr, bydd eu gobaith o oroesi yn gostwng hyd at 10 y cant. Dyna pam y mae'r cynnig y prynhawn yma mor hynod o bwysig. Yma ar y meinciau hyn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod CPR yn cael ei addysgu mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru. Ac ategaf eiriau cynnes yr Aelodau yma sydd wedi canmol gwaith y cyn Aelod Suzy Davies ar hyn. Fodd bynnag, dyma gyfle perffaith yn awr i Lywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol, i adeiladu ar y llwyddiant a chamu ymlaen ymhellach. Fel y clywsom y prynhawn yma, dyma'r neges yn syml: po agosaf yw unigolyn at ddiffibriliwr, y mwyaf yw eu gobaith o oroesi.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cymunedau ledled Cymru yn camu i'r adwy drwy godi arian a threfnu bod diffibrilwyr yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus. Diolchodd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn briodol iawn i elusennau am y rôl y maent wedi'i chwarae yn dosbarthu offer achub bywyd i gymunedau yn ei etholaeth, ac fel y nododd yr Aelod o Flaenau Gwent yn gywir, ni ddylai fod yn gyfrifoldeb i elusennau yn unig. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chynnig y cymorth angenrheidiol, ac er bod y £0.5 miliwn o gyllid ychwanegol i'w groesawu, Weinidog, rydych yn tynnu sylw at gymhlethdodau dod â rhanddeiliaid at ei gilydd; byddwn yn dadlau mai rôl Llywodraeth Cymru yw dod â'r rhanddeiliaid hynny at ei gilydd i sicrhau'r newid angenrheidiol. Ac fel y nododd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn gywir, bydd mynediad cyflym at ddiffibriliwr yn tynnu pwysau oddi ar wasanaeth ambiwlans Cymru, sy'n dweud bod 4,100 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi'u gwasgaru ledled y wlad. Fodd bynnag, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn dweud ei bod yn debygol fod cannoedd, neu filoedd hyd yn oed, o ddiffibrilwyr sy'n achub bywydau mewn cymunedau ledled Cymru nad ydynt eto wedi'u cofrestru gyda'r gwasanaeth ambiwlans. I'w roi yn syml, os nad yw gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gwybod eu bod yn bodoli, nid yw'r cyhoedd yn gwybod chwaith—pwynt a godwyd yn huawdl gan Aelodau Ynys Môn, Aberconwy, a Chanol De Cymru yn gynharach—ac mae'r ystadegau'n adlewyrchu hyn.
Amcangyfrifir bod diffibrilwyr cyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. Ac rydym wedi clywed stori'r Aelod o Flaenau Gwent heddiw—a heb chwyddo ei ego ymhellach, rydym yn ddiolchgar iawn ei fod yma gyda ni o hyd, yn cyfrannu at wleidyddiaeth Cymru. Ond mae'n llygad ei le i godi'r pwynt nad straeon y rhai sydd wedi goroesi y dylem wrando arnynt, ond straeon dirdynnol y rhai nad ydynt wedi goroesi, gan gynnwys y chwaraewr rygbi Alex Evans, y cricedwr Maqsood Anwar, a gollodd eu bywydau yn gynharach eleni yn anffodus oherwydd nad oedd diffibriliwr wrth law. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn ein hetholaethau wedi clywed straeon eraill am bobl sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau, a dyna pam rwy'n credu bod cymaint o gonsensws trawsbleidiol ar y mater hwn heddiw.
A chlywsom yn glir am y sefyllfa yng Nghymru a dro ar ôl tro, dywedwyd nad oes a wnelo hyn â gwleidyddiaeth, fel y nododd yr Aelod o Ynys Môn yn gywir; mae'n ymwneud â newid gwirioneddol a all achub bywydau. A gwn fod gwleidyddion yn aml yn cael eu hystyried fel rhai heb lawer o synnwyr cyffredin, ond mae'n ymddangos i mi mai synnwyr cyffredin a ddylai ddod yn gyntaf yn yr achos hwn, ac y dylai hwn fod yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arno gydag arddeliad er mwyn sicrhau bod offer achub bywyd ar gael i bawb a allai fod ei angen, yn anffodus, ar unrhyw adeg. Felly, rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw i sicrhau'r newid angenrheidiol hwn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.