– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 15 Medi 2021.
Ond mae yna un eitem eto, wrth gwrs, sef y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw yn cael ei chyflwyno gan Paul Davies. Paul Davies.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud i Peter Fox a James Evans—
Os wnaiff Aelodau—sori, Paul—os wnaiff Aelodau adael yn dawel.
Os gall yr Aelodau adael yn dawel iawn, byddai hynny'n gwrtais.
Felly cychwyn eto. Paul Davies.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Peter Fox a James Evans yn y ddadl hon. Mae'r ddadl heddiw yn arbennig o ingol gan ei bod yn Ddiwrnod Brwydr Prydain ac rydym yn anrhydeddu gwaddol y criwiau awyr dewr a amddiffynnodd Brydain yn erbyn gorthrwm. Nawr, mae'r ymgyrch i ddiogelu cofebion rhyfel ledled Cymru wedi bod yn un rwyf wedi bod yn falch o'i harwain ers sawl blwyddyn bellach, ac er ei bod yn bleser mawr gennyf dynnu sylw at y mater hwn eto, dyma'r trydydd tro imi gyflwyno dadl ar y pwnc, felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall ei bod yn rhwystredig iawn gweld mai ychydig o weithredu a gafwyd gan Lywodraethau olynol ar y mater hwn. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol fy mod hefyd wedi cyflwyno cynnig deddfwriaethol i ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru ac os bydd yn llwyddiannus yn y bleidlais honno, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ddeddfwriaeth.
Rwyf am nodi o'r cychwyn nad yw'r ymgyrch hon yn un wleidyddol bleidiol, ac mae gwleidyddion o bob plaid ledled y DU wedi ymgyrchu i ddiogelu cofebion rhyfel yn well. Maent yn rhan hanfodol o'n gwead diwylliannol a chymdeithasol, ac mae'n bwysig ein bod yn anrhydeddu aberth ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog ei hun yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu cofebion rhyfel, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y ddeddfwriaeth honno pan ddaw'r manylion i'r amlwg.
Yn yr Alban, cefnogodd Aelodau Llafur o Senedd yr Alban dros yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, sef Rhoda Grant a David Stewart, alwadau am fwy o warchodaeth i gofebion rhyfel. Mae Aelod o'r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban, Gillian Mackay, hefyd wedi siarad am warchod cofebion rhyfel yn ddiweddar ar ôl i gofeb ryfel yn Motherwell gael ei fandaleiddio am yr eildro mewn ychydig wythnosau yn unig. Ac yma yng Nghymru, mae Gweinidogion wedi ymrwymo dro ar ôl tro i wneud mwy i warchod ein cofebion rhyfel.
Mae'n hanfodol fod cenedlaethau'r dyfodol yn cofio'r rhai a fu farw dros ein rhyddid ac yn dysgu o ryfeloedd blaenorol fel na chânt eu hailadrodd eto. Felly, rwy'n annog y Dirprwy Weinidog yn gryf i flaenoriaethu'r mater hwn ac ymrwymo i wneud popeth y gellir ei wneud i ddiogelu a chynnal y cofebion hyn wrth iddynt ddod o dan fygythiad cynyddol.
Nawr yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan Gymru oddeutu 5,000 o gofebion rhyfel o bob lliw a llun, o barciau a gerddi i gerfluniau a senotaffau. A gwyddom fod pob cofeb ryfel yn unigryw yn ei ffordd ei hun; mewn rhai achosion, efallai mai'r enwau a restrir ar gofeb yw'r unig gofnod o aberth yr unigolyn hwnnw. Maent hefyd yn bwynt ffocws pwysig yn ein cymunedau lleol sy'n cael gofal a chefnogaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf bwriadau da a gwaith caled llawer o bobl, mae'n dal yn wir fod cofebion rhyfel yn parhau i fod yn agored i'r tywydd ac i amser, a hyd yn oed yn waeth na hynny, mae rhai wedi cael eu fandaleiddio a'u haflunio.
Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio yn ôl ym mis Chwefror pan gafodd cofeb ryfel yn y Rhyl ei fandaleiddio â swasticas a graffiti gwrth-semitig. Dangosodd y fandaliaeth honno'r dirmyg mwyaf i'r rhai a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru heddiw yn rhoi'r ymrwymiad cryfaf posibl i ddiogelu a gwarchod ein cofebion ar gyfer y dyfodol. Yn ôl yn 2012 ac eto yn 2019, cyflwynais lawer o'r un dadleuon ag y byddaf yn eu rhoi heddiw i Lywodraeth Cymru. Ar y pryd, er bod pob ymateb i'r ddadl yn ddiffuant a chydymdeimladol, nid yw cofebion rhyfel Cymru ronyn yn fwy diogel heddiw nag oeddent bryd hynny.
Rhan gyntaf fy nghynnig deddfwriaethol yw i Lywodraeth Cymru, drwy awdurdodau lleol, lunio rhestr genedlaethol gyfoes o gofebion rhyfel Cymru. Gwn fod peth gwaith wedi'i wneud ar hyn gan Cadw drwy raglen Cymru'n Cofio, ond mae mor bwysig fod y data diweddaraf yn cael ei gofnodi a'i fonitro'n rheolaidd i gadarnhau nifer a lleoliad cofebion rhyfel yng Nghymru. Credaf y gellid gwneud hyn orau drwy awdurdodau lleol, a ddylai fod mewn sefyllfa well i nodi a llunio rhestr o'r cofebion rhyfel ym mhob un o'u hardaloedd. Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, bydd yna adegau lle bydd rhai cofebion ar dir preifat efallai neu, er enghraifft, wedi'u lleoli mewn ysgol neu eglwys, ac fel y cyfryw, perchennog y tir hwnnw fyddai'n gyfrifol am gynnal y cofebion hynny. Fodd bynnag, yr hyn sy'n allweddol i ddiogelu cofebion rhyfel Cymru yw gwybod yn union ble y maent ynghyd â'u cyflwr.
Yn ail, ni fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog glywed fy mod yn credu y dylai fod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, a byddai hynny'n golygu bod dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod cofebion rhyfel yn eu hardaloedd yn cael eu cynnal. Rwyf wedi galw ers tro am ddeddfwriaeth i osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddiogelu cofebion rhyfel yn eu hardaloedd, ac er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y syniad, nid oes unrhyw ymrwymiad cryf wedi'i roi i ddeddfwriaeth hyd yma. Wrth gwrs, gwyddom fod Deddf Cofebion Rhyfel (Pwerau Awdurdodau Lleol) 1923 yn caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer cynnal a chadw cofebion, ond nid oes rheidrwydd ar gynghorau i wneud hynny. Byddai gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yn sicrhau bod pob cofeb ryfel gyhoeddus yn cael ei diogelu a'i chynnal. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob awdurdod lleol geidwad penodol a fyddai'n gweithio i nodi a chadw cofebion rhyfel yn eu hardaloedd. Yn y swydd hon, byddai'r unigolyn dan sylw'n gweithio'n agos gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y cofebion a'r bobl sydd â'u henwau arnynt. Yn anffodus, mewn llawer o awdurdodau lleol, nid oes pwynt cyswllt i bobl gael gwybod mwy am y cofebion yn yr ardal, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod gwir angen ei newid.
Yn fy marn i, dim ond drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymunedau lleol y gallwn sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu gwarchod yn briodol. Mae'n bosibl fod rhai cofebion rhyfel o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gallent hefyd fod yn gynrychioliadol o fath penodol o waith, ac felly yn aml gall cymunedau lleol ddweud ffeithiau wrthych am gofebion nad ydynt bob amser yn wybodaeth gyhoeddus. Felly, mae'n hanfodol sicrhau partneriaeth wirioneddol rhwng awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol fel y gellir archwilio a gwerthfawrogi diwylliant a hanes lleol yn llawn ar gyfer y dyfodol. Wrth gwrs, mae rhai grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud gwaith gwych yn diogelu cofebion rhyfel, a dylid eu hannog i barhau i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai cefnogaeth rhywun o fewn yr awdurdod lleol yn helpu i gryfhau'r gwaith a wneir eisoes gan lawer o grwpiau cymunedol ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol iddynt ar bopeth o olrhain hanes i gynnal a chadw a chadwraeth.
Fel y dywedais mewn dadleuon blaenorol, mae cyfle hefyd i'r rôl hon gynnwys rhywfaint o waith addysgol allgymorth, er enghraifft, drwy ymweld ag ysgolion a siarad â phlant a phobl ifanc. Mae hyn mor bwysig er mwyn addysgu ein plant a'n pobl ifanc am ryfeloedd blaenorol a'r aberth a wnaed gan bobl yn eu cymuned leol. Credaf o ddifrif y byddai creu'r rôl hon yn anfon neges gref fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i anrhydeddu ei harwyr a chynnal ei threftadaeth filwrol. Ar yr un pryd, mae hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad yw cenedlaethau'r dyfodol byth yn anghofio'r aberth a wnaed gan gynifer dros ein rhyddid. Penodi ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel mewn cymunedau fyddai'r ffordd orau o sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda grwpiau cymunedol lleol, a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach ag ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd straeon ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad.
Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno nad yw cynnal a chadw cofebion rhyfel yn gamp hawdd. Mae pob cofeb yn wahanol ac o'r herwydd, dylid ei hatgyweirio a'i gwarchod mewn ymateb i'w hanghenion unigol. Bydd angen cyngor arbenigol proffesiynol mewn perthynas â llawer o gofebion i asesu cyflwr y gofeb yn gywir a sefydlu'r ffordd gywir o atgyweirio neu warchod y gofeb, ac mae hynny'n costio arian. Gallai ceidwad cadwraeth neu swyddog cofebion rhyfel gefnogi grwpiau cymunedol yn eu cais i ddenu cyllid grant ar gyfer prosiectau penodol, a chyflwyno'r achos i gyngor y dylai ymyrryd a chefnogi prosiect.
Yn olaf, credaf ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod ble mae ein cofebion rhyfel wedi'u lleoli a phwy sy'n gyfrifol amdanynt. Mae mor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynghorau'n cael digon o gymorth a chyllid i fynd i'r afael ag achosion o fandaliaeth, ac i fynd i'r afael hefyd â'r rhai sy'n targedu cofebion rhyfel fel metel sgrap. Ni allaf ei ddweud yn gliriach: nid troseddau heb ddioddefwyr yw'r rhain o gwbl. Maent yn droseddau yn erbyn cymdeithas, a dylem droi pob carreg wrth nodi ffyrdd o atal y rhai sy'n ceisio symud cofebion rhyfel.
Bydd y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn ymwybodol o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013 a gyflwynwyd i gryfhau'r rheoliadau ynghylch delwyr metel sgrap, ac i dynhau'r drefn bresennol. Mae'r ddeddfwriaeth honno, a gyflwynwyd yn 2013, yn golygu bod yn rhaid i bob unigolyn a busnes gwblhau proses ymgeisio drylwyr i gael trwydded deliwr metel sgrap, ac mae hefyd yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol wrthod ymgeiswyr anaddas a dirymu trwyddedau. Mae'n gam cadarnhaol ymlaen, ond mae mwy y gellir ei wneud bob amser.
Rwyf hefyd yn ymgyrchu i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu llofnod SmartWater arloesol ar gyfer awdurdodau lleol. Hylif atal troseddau yw SmartWater sy'n ei gwneud hi'n bosibl adnabod cofebion rhyfel unigol, ac mae'n cynnig ffordd sicr o ddod o hyd iddynt pe bai lladrad yn digwydd. Dim ond o dan olau uwchfioled y mae'n weladwy, a gall helpu'r heddlu i olrhain cofebion wedi'u dwyn, ac ar ôl ei osod, mae bron yn amhosibl ei dynnu, gan ei fod yn gwrthsefyll llosgi, sgwrio â thywod ac amlygiad hirdymor i olau uwchfioled. Dyma un ffordd o ddiogelu cofebion rhyfel, ac rwy'n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i ddatblygu partneriaeth ehangach gyda Sefydliad SmartWater, a'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel yn wir, i ddefnyddio'r ataliad pwerus hwn a sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol fodd o'i ddefnyddio.
Nid yw hynny'n golygu nad oes rhywfaint o waith wedi'i wneud i warchod cofebion yng Nghymru, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r rhai yn Cadw sydd wedi gweithio gyda chymunedau ac unigolion lleol i greu cynlluniau cynnal a chadw cadwraethol. Fodd bynnag, y realiti yw bod llawer o gofebion rhyfel heb geidwaid, ac mae'r cofebion hynny'n haeddu ein hamser a'n parch hefyd. Ac felly, yn anad dim arall heddiw, rwy'n mawr obeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau y bydd yn adolygu'r ddeddfwriaeth ynghylch gwarchod cofebion rhyfel, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid fel yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Cadw i dynhau'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Lywydd, wrth gloi, rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r amser a'r sylw y maent yn eu haeddu i'r cynigion hyn, a byddwn yn hapus i weithio gydag unrhyw Aelod yn y Siambr i warchod cofebion rhyfel Cymru yn well. Teitl y ddadl hon yw 'Byddwn yn eu cofio', ac mae diogelu a gwarchod cofebion rhyfel yn un ffordd o anrhydeddu ein harwyr a syrthiodd ar faes y gad. Ac mae'n fwy na hynny. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mwy amdanynt, a'r pris uchaf a dalwyd ganddynt am ein rhyddid. Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwarchod ein treftadaeth filwrol yn y Senedd hon, ac ymrwymo i wneud mwy i warchod cofebion rhyfel yma yng Nghymru. Diolch.
Rwy'n falch iawn o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n diolch yn ddiffuant i Paul Davies am roi'r amser i mi. Rwy'n gwybod bod Paul yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â hyn, fel y mae llawer ohonom. Mae'n fater pwysig, un sy'n croesi'r holl linellau pleidiol. Rhaid inni beidio byth ag anghofio'r bobl sydd wedi gwasanaethu ac wedi gwneud yr aberth eithaf ar ein rhan. Mae cofebion rhyfel yn chwarae rhan ganolog yn ein cymdeithas ac yn ein hatgoffa o'r rôl aruthrol y mae Prydain wedi'i chwarae yn diogelu'r rhyddid rydym yn ei fwynhau hyd heddiw. Ond ers gormod o amser, mae llawer o'n cofebion rhyfel wedi dioddef yn sgil dadfeilio a fandaliaeth, fel y nododd Paul, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae sicrhau dyletswydd statudol i'w hamddiffyn, a fyddai'n cynnwys penodi swyddog cofebion rhyfel, yn rhywbeth y dylai pob Aelod o'r Senedd ei gefnogi. Rwy'n ymuno â'm cyd-Aelodau yma heddiw i alw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i wrando ar ein galwadau. Mae mor bwysig nad ydym byth yn anghofio'r bobl sydd wedi gwasanaethu mor ddewr drosom. Diolch, Lywydd.
Hoffwn dalu teyrnged a diolch i'm cyd-Aelod Paul Davies, am ganiatáu i mi gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n talu teyrnged i'r gwaith a wnaethoch a'r ymroddiad rydych wedi'i ddangos i wella a gwarchod ein cofebion rhyfel a'n harwyr a syrthiodd ar faes y gad.
Ni ddylai Llywodraeth Cymru nac unrhyw Lywodraeth esgeuluso'r gwaith o warchod ein cofebion rhyfel, ac rwy'n cefnogi galwadau am gonsensws trawsbleidiol ar sicrhau bod ein cofebion rhyfel yn cael cydnabyddiaeth a gwarchodaeth statudol yn y gyfraith. Mae cofebion ar draws Brycheiniog a Sir Faesyfed yn ein hatgoffa'n ingol am yr aberth eithaf a wnaed gan y milwyr a'r menywod dewr a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid, fel y gallwn ddod yma i gynrychioli ein cymunedau a'n democratiaeth.
Ni ddylid anghofio'r arwyr a syrthiodd ar faes y gad, a rhaid i'r rhai sy'n dewis difenwi ac amharchu ein cofebion rhyfel wynebu holl rym y gyfraith. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid penodol ar gael i awdurdodau lleol fel y gallant gynnal ein cofebion rhyfel yn ddigonol ac atgyweirio'r cofebion hynny os cânt eu fandaleiddio, gan fod yn rhaid inni gofio ac anrhydeddu ein gorffennol os ydym am newid y dyfodol. Felly, rwy'n ymuno â galwadau ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r gwaith o warchod ein cofebion rhyfel ac ymrwymo i wneud mwy yn nhymor y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Rwy'n sicr yn ddiolchgar iawn i Paul Davies am gychwyn y ddadl hon heddiw am bwysigrwydd gwarchod ein cofebion. Gwn ei fod wedi codi'r mater hwn yn y Senedd ar sawl achlysur ac yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac rwy'n cytuno bod cofebion Cymru yn rhannau pwysig o'n treftadaeth. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un wadu pŵer emosiynol y cofebion hyn, a'u pwysigrwydd i gymunedau lleol ac yn narlun ehangach ein hanes cenedlaethol.
Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais â Rheilffordd Llangollen, a thra oeddwn yno cefais brofiad ingol iawn. Yn y danffordd yng ngorsaf y Berwyn, gwelais graffiti ysgrifenedig ar y waliau, a adawyd yno gan filwyr yn gadael am y ffrynt yn y rhyfel byd cyntaf. Ni ddaeth rhai ohonynt yn eu holau, a rhestrir eu henwau ar y gofeb ryfel yn y dref. Ond mae gweld y negeseuon a'r llofnodion hynny'n ein hatgoffa'n rymus o'r aberth ofnadwy a wnaed—aberth mor fawr fel na ddylem byth mo'i hanghofio. Mae pob rhyfel yn ofnadwy, ond mae rhywbeth arbennig o erchyll am gyflafan y rhyfel byd cyntaf, lle lladdwyd 35,000 o Gymry. Mae hynny'n dangos yn glir yr angen i ni gofio.
Rhwng 2014 a 2019, rhoddodd menter Cymru'n Cofio gyfle inni weithio gyda sefydliadau ac unigolion ledled Cymru ac yn rhyngwladol i goffáu a myfyrio ar effaith rhyfel. Drwy'r fenter honno, cefnogodd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid nifer fawr o weithgareddau, digwyddiadau coffa, rhaglenni diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â gwarchod cofebion rhyfel a safleoedd hanesyddol eraill sy'n gysylltiedig â'r rhyfel. Roedd y prosiectau'n cynnwys adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, lle mae £2.8 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi creu canolfan ddiwylliannol a fydd yn sicrhau y bydd ymwybyddiaeth y cyhoedd o arwyddocâd y rhyfel yn parhau. Gwnaethom hefyd gefnogi'r gwaith o greu cofebion rhyfel newydd: parc coffa Cymreig yn Langemark, ac ym mis Tachwedd 2019, dadorchuddiwyd cofeb newydd yng Ngerddi Alexandra yma yng Nghaerdydd, ger ein cofeb genedlaethol, i gydnabod cyfraniad eithriadol dynion a menywod o amrywiol gymunedau ethnig a'r gymanwlad. Gweithio mewn partneriaeth oedd yr allwedd i lwyddiant Cymru'n Cofio, ac yn fy marn i, dylai barhau i fod wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio yn y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r fenter ac sy'n parhau i wneud gwaith mor bwysig ar ein rhan i gadw'n fyw y cof am aberth y rhai a ymladdodd drosom.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cofebion rhyfel fel darnau gweladwy ac ingol o dreftadaeth, a phwyntiau ffocws i gymunedau a theuluoedd allu coffáu. Maent yn gofnod ffisegol o'r rhai a fu farw dros eu gwlad ac yn ein hatgoffa'n weledol o effaith rhyfel. Mae llawer o gofebion rhyfel hefyd yn bwysig i'n treftadaeth bensaernïol a chelfyddydol. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, roedd codi cynifer o gofebion newydd ar draws y Deyrnas Unedig, i bob pwrpas, yn brosiect celf gyhoeddus unigryw, a helpodd gymunedau lleol a oedd yn profi cymysgedd torcalonnus o emosiynau o ddolur i ryddhad yn sgil y fuddugoliaeth. Mae effaith rhyfel wedi bod mor eang fel ei bod wedi arwain at nifer eithriadol o gofebion rhyfel—dros 90,000 ar draws y Deyrnas Unedig a thros 3,700 yma yng Nghymru, yn amrywio o gofebion tref a gynlluniwyd gan artistiaid blaenllaw i blaciau bach mewn pentrefi.
Mae'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn cadw cofrestr o gofebion rhyfel ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel i wneud gwybodaeth am y cofebion hynny'n fwy hygyrch i'r cyhoedd drwy War Memorials Online. Mae'n cynnwys miloedd o gofnodion ac mae'n rhoi llwyfan i aelodau'r cyhoedd gymryd rhan drwy gyfrannu eu ffotograffau eu hunain a manylion am gofebion. Mae ffynonellau gwybodaeth eraill yn cynnwys cronfa ddata ar-lein Cadw Cof Cymru, sy'n rhoi manylion dros 230 o gofebion rhestredig, a'r cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol a gedwir gan bedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru. Yn ogystal â chofebion rhyfel, wrth gwrs, mae'r rhain hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gannoedd o adeiladau a strwythurau hanesyddol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn Prydain a bywyd ar y ffrynt cartref, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag ymosodiadau, meysydd glanio, ysbytai a ffatrïoedd arfau, ac archwiliwyd y cyfan gan yr ymddiriedolaethau archeolegol drwy gymorth cyllid gan Cadw dros y 10 mlynedd diwethaf.
Nawr, fel y dywedodd Paul Davies, mae'r amrywiaeth o gofebion rhyfel yng Nghymru yn rhyfeddol, o gerfluniau coffa, obelisgau a phlaciau i ffenestri, gerddi, neuaddau cymunedol, ysbytai, capeli a phontydd. Mae ystod y mathau o berchnogaeth yr un mor amrywiol, ond mae'r rhain i gyd yn asedau cymunedol pwysig. Yn aml, talwyd amdanynt drwy danysgrifiadau gyda chysylltiadau personol â theuluoedd ac unigolion. Er bod rhai wedi dadfeilio, ni ddylem anwybyddu llwyddiant cynifer o fentrau cymunedol sy'n parhau i ofalu am y cofebion hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gyda hynny. Mae'r ddogfen ganllaw, 'Gofalu am Gofebion Rhyfel yng Nghymru', a gynhyrchwyd gan Cadw ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, yn darparu canllawiau gyda'r nod penodol o helpu cymunedau i ofalu am eu cofebion rhyfel. Mae'n cynnwys cyngor ymarferol ar gadwraeth ac atgyweirio ac mae wedi'i darlunio'n hyfryd gyda ffotograffau o gofebion o bob rhan o Gymru, ac enghreifftiau o brosiectau cadwraeth llwyddiannus. Rwy'n annog yr holl Aelodau i'w darllen. Gellir ei lawrlwytho am ddim drwy wefan Cadw.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth ariannol hael i ddiogelu cofebion rhyfel rhag dadfeilio. Mae Cadw yn darparu grantiau i helpu i warchod henebion hanesyddol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynnwys bron i £240,000 ar gyfer atgyweirio cofebion rhyfel. O dan y cynllun grantiau ar gyfer cofebion rhyfel, rhoddodd arian i 45 o brosiectau mewn cymunedau ledled Cymru. Cyn bo hir, bydd Cadw yn cyhoeddi cynllun grantiau newydd ar gyfer treftadaeth gymunedol a fydd yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 i gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol, a bydd cofebion rhyfel rhestredig yn gymwys i wneud cais am gymorth. Nawr, gwn fod Cadw bob amser yn awyddus i gefnogi asedau hanesyddol ledled Cymru sydd ag arwyddocâd arbennig i'w cymunedau, a'r peth olaf y dymunwn ei weld yw bod strwythurau ac adeiladau hanesyddol pwysig yn cael eu colli, yn enwedig y rheini sy'n golygu cymaint i bobl leol.
Mae cronfa dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi bod yn hael iawn yn ei chefnogaeth i brosiectau. Yn ogystal â darparu'r £2.8 miliwn i ariannu'r gwaith o adfer Yr Ysgwrn, fel y soniais yn gynharach, darparodd dros £1 filiwn o gymorth grantiau i 126 o brosiectau coffa a arweinir gan y gymuned sy'n adlewyrchu treftadaeth rhyfel. Ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Cadw i ddarparu cynllun grant treftadaeth 15 munud newydd sy'n annog ymgysylltiad cymunedol â threftadaeth leol.
Ond yn ogystal ag ariannu gweithgareddau yng Nghymru, rydym hefyd wedi ariannu cofebion yn Ffrainc a Gwlad Belg, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi'r gwaith o adnewyddu'r gofeb i'r 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoed Mametz, a oedd yn un o'r pwyntiau ffocws ar gyfer gwasanaeth coffa cenedlaethol Cymru'n Cofio, a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru yn 2016. Rydym hefyd wedi ariannu'r heneb genedlaethol yn Pilkem Ridge yn Langemark yng Ngwlad Belg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, er bod cofebion rhyfel mewn trefi a phentrefi ledled Cymru yno ar gyfer cymunedau lleol, fod cofebion ar safleoedd y brwydrau eu hunain yn darparu ffocws pwysig arall ar gyfer coffáu yn y mannau lle collwyd cynifer o fywydau.
Un pryder rydym i gyd yn ei rannu rwy'n siŵr—a gwn fod Paul wedi cyffwrdd â hyn, fel y mae siaradwyr eraill heno—yw'r difrod troseddol megis fandaliaeth sy'n effeithio ar y cofebion hyn. Yn anffodus, mae'r newyddion syfrdanol diweddar am ddifenwi'r gofeb i'r bardd Hedd Wyn ynghanol Trawsfynydd yn berthnasol i'n dadl heddiw. Rwy'n ymuno â'r gymuned leol i gondemnio'r weithred ffiaidd hon o ddiffyg parch at gofeb sy'n cynrychioli'r holl ddynion o Drawsfynydd a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gobeithio y daw'r heddlu o hyd i'r tramgwyddwyr cyn bo hir a'u dwyn o flaen eu gwell.
Yn anffodus, mae gennyf innau hefyd brofiad o enghraifft o fandaliaeth a ddigwyddodd yn fy etholaeth i heb fod yn bell yn ôl. Mae cofeb hardd ym mharc Troed-y-rhiw ym Merthyr Tudful ar ffurf cerflun o filwr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd dryll y milwr, a wnaed o farmor, nid metel, ei ddwyn. Talwyd am yr heneb drwy danysgrifiad cyhoeddus, ac mae'r weithred hon o fandaliaeth yn amharchu'r cof am 73 o ddynion lleol y rhestrir eu henwau arni ac a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac mae hefyd yn amharchu'r bobl leol a roddodd eu harian prin i adeiladu'r gofeb honno yn y lle cyntaf. Rwy'n falch o ddweud bod gwaith bellach ar y gweill i'w hatgyweirio, gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel.
Nid yw gweithredoedd lleiafrif o fandaliaid yn cynrychioli barn y mwyafrif ac ni ddylid eu goddef. Mae gan yr heddlu bwerau eisoes i fynd i'r afael â fandaliaeth, a gellir erlyn cyflawnwyr o dan drosedd difrod troseddol, sy'n gallu golygu dedfryd o garchar. Mae troseddau treftadaeth yn rhywbeth sy'n cael ei gymryd o ddifrif yng Nghymru, ac mae Cadw yn gweithio'n agos gyda heddluoedd lleol i ymchwilio ac atal troseddau o'r fath, er mwyn annog y defnydd o ataliadau fel SmartWater, y cyfeiriodd Paul atynt, i ddiogelu cofebion sydd mewn perygl o gael eu dwyn. Rwy'n deall y gall unrhyw un sy'n gyfrifol am gofeb ryfel wneud cais i Sefydliad SmartWater am ddefnyddio'r cynnyrch hwn am ddim.
Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig yn gofalu am gofebion rhyfel, yn benodol y rhai sydd o dan warchodaeth statudol, ac mae ganddynt bwerau hefyd o dan y ddeddfwriaeth bresennol i wneud gwaith i atgyweirio henebion. Mae llawer wedi cynnal mentrau i gefnogi ymgysylltiad y gymuned â chofebion. Felly, nid wyf yn credu bod angen defnyddio deddfwriaeth ychwanegol i bwyso arnynt i weithredu, ond yn hytrach eu bod yn cymryd rhan mewn ysbryd o bartneriaeth gydweithredol.
Mae pwysigrwydd cofebion rhyfel yn cael ei dderbyn yn eang, ac mae awdurdodau lleol ledled Cymru eisoes yn gwneud gwaith atgyweirio pwysig. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod lle i wella bob amser, ac rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau ar awdurdodau lleol i barhau i fod yn rhagweithiol yn eu cefnogaeth i gofebion rhyfel, ac i sicrhau eu bod yn chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo cymunedau i ymgysylltu ar bob lefel. Gellir hwyluso hyn drwy swyddogion unigol o fewn awdurdodau lleol sy'n gweithio i annog partneriaethau, a hefyd drwy annog y defnydd o'r nifer fawr o adnoddau sydd ar gael yn y maes hwn, megis y pecynnau addysg dwyieithog a gynhyrchwyd i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd ar Hwb.
Mae coffáu'n parhau i fod yr un mor bwysig heddiw â phan adeiladwyd ein cofebion gyntaf, felly diolch i Paul Davies unwaith eto am godi'r pwnc hwn heddiw a chydnabod y rôl y mae cofebion yn ei chwarae ym mywydau ein cymunedau heddiw a'r rôl y byddant yn ei chwarae yn y dyfodol. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a dyna ddiwedd ein trafodaethau ni am y dydd. Diolch yn fawr a phrynhawn da i chi i gyd.