– Senedd Cymru ar 29 Medi 2021.
Rydym yn symud ymlaen i eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth. Galwaf ar Joel James i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7784 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu effaith economaidd gadarnhaol dileu tollau croesi Afon Hafren.
2. Yn gresynu at gynigion Llywodraeth Cymru a allai arwain at daliadau i fodurwyr sy'n defnyddio'r M4, yr A470, yr A55 a chefnffyrdd eraill.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddiystyru cyflwyno tollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru;
b) hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd drwy gymryd camau fel:
i) cynyddu'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan ar rwydwaith ffyrdd Cymru;
ii) hyrwyddo teithio llesol ymhellach; a
iii) ymestyn tocynnau bws am ddim i bobl rhwng 16 a 25 oed.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae dileu tollau pont Hafren wedi bod o fudd enfawr i bobl Cymru. Wrth i Lywodraeth y DU lacio gafael y tollau yn 2017, cafodd busnesau a chymudwyr eu rhyddhau o feichiau ariannol enfawr, gyda rhai modurwyr yn arbed cymaint â £1,400 y flwyddyn. Heb os, bydd cael gwared ar dollffordd pont Hafren wedi agor de Cymru i lawer o fusnesau a fyddai wedi gweld tollffordd fel rhwystr i gynnal masnach. O ganlyniad, mae dileu'r tollau wedi arwain at hwb blynyddol amcangyfrifedig o dros £100 miliwn i economi Cymru. Mae'r sector technoleg wedi gweld twf digynsail yng Nghaerdydd, gan arwain prif ddinasoedd y DU ar 7 y cant, yn gyfartal â Manceinion ac ar y blaen i Lundain a Bryste. Credaf—ac yn wir, mae fy mhlaid yn credu—mai mygu'r twf hwnnw a wnâi cyflwyno tollffyrdd newydd.
Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog a llawer yma, mae arolygon a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi gofyn i ddefnyddwyr ffyrdd ynglŷn â thalu am ddefnyddio rhannau o'r M4 a'r A470 mewn ymgais i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Deallwn fod hyn yn rhan o gyfrifoldeb cyfreithiol Llywodraeth Cymru i arolygu camau gweithredu eraill posibl a allai helpu i wella ansawdd aer. Gofynnais gwestiwn ysgrifenedig yn ystod y toriad, a gallaf ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am ei gwestiwn i'r Prif Weinidog ar y mater hwn, ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb ddoe. Rwy'n siŵr y byddai wedi mynd beth o'r ffordd i dawelu meddwl y cyhoedd yn ehangach nad oedd argymhellion yn ymwneud â thollffyrdd yn rhan o flaengynllun presennol Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, heb amheuaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y bydd arolygu pobl ynglŷn â thollffyrdd a bod yn benodol iawn am yr M4 a'r A470 fel lleoliadau posibl yn rhoi'r syniad ym meddyliau pobl fod hwn yn gam gweithredu y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried. Gobeithio y gall y Llywodraeth gydnabod y pryder sylweddol ymhlith modurwyr a busnesau y byddai hyn wedi'i achosi. Felly, pwynt y cynnig hwn heddiw yw ein bod am ddiystyru tollffyrdd yn llwyr fel mesur i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael yn y dyfodol.
Yn ne Cymru yn arbennig, rydym yn wynebu problem ansawdd aer. Amlygodd erthygl ddiweddar gan y BBC y modd y mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn credu bod effeithiau ansawdd aer gwael yn llawer gwaeth nag a feddyliwyd yn flaenorol. Felly, mae'r ddadl hon yn amserol yn yr ystyr ein bod yn cael cyfle i drafod ansawdd aer gwael, sydd ar lefel argyfyngus. Rydym wedi cyflwyno'r cynigion pellach i geisio mynd i'r afael â'r pryderon hyn.
Hoffwn gofnodi y byddwn i, a fy mhlaid, yn gwrthwynebu cyflwyno tollau fel ateb i ansawdd aer gwael ar y sail y byddant yn cael effaith ddinistriol ar weithwyr ar y cyflogau isaf, a fydd yn gorfod talu swm anghymesur o'u hincwm i ddefnyddio'r ffyrdd, a hwy yw'r rhai mwyaf tebygol o fod â cherbydau hŷn. At hynny, byddai cyflwyno tollau yn sicr o wthio gyrwyr i geisio eu hosgoi a theithio ar hyd ffyrdd llai. Byddai hyn, wrth gwrs, yn achosi cynnydd mewn traffig ac yn y pen draw yn gostwng ansawdd aer mewn mannau eraill. Gwelsom hyn gyda chreu parth cerddwyr ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd, pryder y mae'r Prif Weinidog wedi'i fynegi ei hun yn y Siambr hon.
Mae problem yn codi wrth groesawu cerbydau trydan fel ateb pwysig i ansawdd aer gwael. Fodd bynnag, ychydig iawn o ddarpariaeth sydd gan Gymru fel gwlad o bwyntiau gwefru trydan. Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio cerbydau trydan ar hyn o bryd yn gallu gosod pwyntiau gwefru yn eu cartrefi, ond mae llawer o bobl yng Nghymru'n byw mewn fflatiau a thai teras, lle mae angen iddynt barcio gryn bellter o'u cartrefi a byddent yn ei chael hi'n anodd defnyddio pwyntiau gwefru trydan.
Er bod gan yr Alban 7.5 pwynt gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 sydd gan Gymru. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pwyntiau gwefru trydan yn gyflymach, oherwydd bydd hynny'n sbardun allweddol i annog pobl i fuddsoddi mewn cerbydau trydan fel dewis amgen dilys yn lle cerbydau diesel a phetrol. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd angen o leiaf 55,000 o bwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn cynnal digon o gerbydau trydan. Mae gwir angen inni wybod, heb wleidyddoli'r mater, a yw'r targed hwn yn debygol o gael ei gyflawni, oherwydd mae prinder pwyntiau gwefru yn prysur ddod yn ffactor sy'n cyfyngu ar berchnogaeth cerbydau trydan.
Credaf mai un o'r ffyrdd gorau posibl o fynd i'r afael â'n hansawdd aer gwael yw drwy ddefnyddio mesurau arloesol yn well. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog yn barod, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor newid hinsawdd yn mynegi fy mhryder nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddigon parod i ddefnyddio dulliau arloesol ar gyfer datrys problem ansawdd aer gwael. Er enghraifft, mae gan fysiau yn Lloegr ddyfeisiau sy'n gallu hidlo aer wrth iddynt deithio, gan gael gwared ar lygredd aer gronynnol a chwythu aer pur allan y tu ôl iddynt. Gall y dyfeisiau hyn gael gwared ar hyd at 1.25 kg o ronynnau o'r aer bob blwyddyn, a chredaf ei bod yn warthus nad yw'r dyfeisiau hyn ar bob bws yng Nghymru. Yn yr un modd, mae'r Iseldiroedd, ymhlith gwledydd eraill, bellach yn defnyddio tyrau puro aer, sy'n gallu puro hyd at 3.5 miliwn metr ciwbig o aer y dydd. Pam nad yw'r tyrau hyn ar ein cylchfannau? Mae'r rhain yn atebion eithaf costeffeithiol i broblem fawr.
Mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cryn bwyslais ar eu cynllun teithio llesol, gan annog pobl i feicio a cherdded. Yn academaidd, mae hwn yn ateb gwych i'r broblem ac yn un yr wyf fi a fy mhlaid yn ei gefnogi. Rydym am weld y cynllun teithio llesol yn ehangu i gyflawni ei wir botensial. Fodd bynnag, yn fy marn i caiff ei lesteirio gan ddau beth pwysig sydd angen eu datrys cyn y gall y cynllun teithio llesol lwyddo mewn gwirionedd. Y cyntaf yw nad yw ffyrdd yn ddigon diogel i feicwyr. Er bod y llwybrau beicio pwrpasol yn darparu llwybrau teithio diogel, mae teithio ar ffyrdd i ac o'r llwybrau pwrpasol yn beryglus iawn. Mae'r ochr fewn i ffyrdd yn aml iawn yn llawn tyllau a cherrig, sydd nid yn unig yn gwneud beicio'n annymunol, ond yn beryglus. Mae yna fygythiad hefyd o gael eich taro gan geir, faniau a lorïau. Er bod mwyafrif y gyrwyr yn ystyriol tuag at feicwyr, mae rhai gyrwyr yn dal i fod yn llawer rhy ymosodol tuag at feicwyr, yn eu cam-drin yn eiriol ac weithiau hyd yn oed yn mynd ati'n fwriadol i geisio eu taro oddi ar eu beiciau. Yn aml iawn, mae ceir a lorïau yn gyrru'n rhy agos at feicwyr wrth iddynt fynd yn rhwystredig ynglŷn â chyflymder teithio. Mae beicwyr yn cael eu gorfodi i fynd ar y pafin gan gerbydau, mae'n rhaid iddynt ymdopi â drysau ceir yn agor yn sydyn, ac os cânt eu gwthio oddi ar eu beiciau, maent yn aml yn cwympo ar ymylon ffyrdd sy'n aml wedi'u gorchuddio gan wydr wedi torri, hoelion, anifeiliaid marw a sbwriel o bob math.
Yn 2019, roedd dwy farwolaeth ymhlith defnyddwyr cerbydau am bob biliwn o filltiroedd, ac i feicwyr roedd yn 29 ac i gerddwyr roedd yn 35. O ran anaf difrifol, roedd y gyfradd yn 29 achos o anafiadau difrifol i bob biliwn o filltiroedd ymhlith defnyddwyr cerbydau, tra bod y gyfradd i feicwyr yn 1,255, ac i gerddwyr yn 504. Yn yr arolwg cenedlaethol o agweddau tuag at deithio, cytunai dwy ran o dair o'r boblogaeth dros 16 oed ei bod yn rhy beryglus i feicio ar ffyrdd. Yn y pen draw, i feicwyr nid oes ots pwy sydd ar fai—byddant bob amser yn waeth eu byd o gael eu taro gan gerbyd. Ddydd Llun, cafwyd adroddiad gan y BBC am farwolaeth Andy Fowell, meddyg ymgynghorol wedi ymddeol a fu farw pan fu ei feic mewn gwrthdrawiad â bws yn Eryri. Er bod beicwyr a cherddwyr yn defnyddio'r llwybrau teithio llesol, maent yn gwneud ymarfer corff a chyda hynny, maent yn anadlu'n ddyfnach, ac mewn ardaloedd o ansawdd aer gwael, ni all hynny ond bod yn beth drwg.
Yn olaf, hoffwn ddweud am docynnau bws am ddim a sut y byddai eu cynnig i rai rhwng 16 a 25 oed yn ffordd wych o annog pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i flaenoriaethu'r defnydd o fysiau drwy gydol eu bywydau. Rwyf fi a fy mhlaid o'r farn y byddai hyn yn helpu i annog y newid ymddygiad sydd ei angen i hyrwyddo teithio ar fysiau fel dewis amgen ymarferol yn lle'r car. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd yn:
1. Cydnabod ei bod yn argyfwng hinsawdd ac yn nodi mai trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17 y cant o allyriadau Cymru
2. Galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir ac i annog pobl i newid eu ffordd o deithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol;
b) dilyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddatgarboneiddio cerbydau a buddsoddi yn y seilwaith gwefru, a’i gydgysylltu, er mwyn i bobl allu troi at ddefnyddio cerbydau a beiciau trydan yn hyderus.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Delyth Jewell i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3(b):
ceisio datganoli llawn, gyda chyllid digonol, ar gyfer pob gwasanaeth rheilffordd yng Nghymru;
rhoi'r dasg i Drafnidiaeth Cymru o greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan, sy'n cysylltu'r gogledd â'r de a'n galluogi traffig rheilffordd rhwng y prif ganolfannau poblogaeth;
cyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws a reoleiddir i sicrhau bod opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarparu ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys trefi bach a phentrefi sydd â chyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus achlysurol yn unig ar hyn o bryd;
rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain;
pennu targed cenedlaethol lle bydd 10 y cant o'r holl deithiau'n cael eu gwneud drwy feicio neu deithio ar sgwteri erbyn 2030;
archwilio cynigion ar gyfer priffyrdd a thwneli trydan yn unig mewn ardaloedd lle mae llygredd aer uchel a thagfeydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau hynny.
Pan ddatganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019, roedd llawer ohonom yn disgwyl gweld gweithredu radical, ac mewn rhai meysydd polisi rydym wedi gweld uchelgais cryf mewn perthynas â chartrefi, ynni, coedwigaeth—mae'r rhestr yn parhau—i gyd wedi'i glymu gyda'i gilydd gan darged sero-net beiddgar ar gyfer 2050, ond gwyddom i gyd fod angen uchelgais mwy radical, a mwy o weithredu'n sail iddo. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â thrafnidiaeth, maes polisi y mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei nodau ynddo er gwaethaf y ffaith bod 17 y cant o allyriadau Cymru yn deillio ohono.
Gadewch inni siarad am dollau, pwnc sydd eisoes wedi codi. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu'r syniad fod modurwyr yng Nghymru yn talu i ddefnyddio ffyrdd er mwyn ceisio mynd i'r afael â llygredd aer. Yn amlwg, mae Deddf aer glân yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n gryf, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ymhellach hyd yma nag ymgynghori â'r cyhoedd ar y mater, gan awgrymu tollau o amgylch yr M4 yn ardal Casnewydd a'r A470 yn ardal Pontypridd. Yn sgil beirniadaeth—a gwn fod hyn eisoes wedi codi yn y cyfraniad blaenorol—mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer y tollau hyn. Ac mae hyn yn anodd—rwy'n cydnabod bod hwn yn fater anodd. Mae pawb ohonom am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae'n sefyllfa anodd iawn, ond byddai'r tollau hyn, o'u cyflwyno, yn brifo'r tlotaf mewn cymdeithas.
Gwyddom fod mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng llygredd yn galw am feddwl integredig a dulliau o annog pobl i newid eu harferion mewn ffyrdd a fydd yn dod â hwy gyda ni. Hyd yn oed gyda'r tollau ar waith i groesi afon Hafren, er enghraifft, dros nifer o flynyddoedd cynyddodd y traffig oddeutu 4 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Yn aml, yr hyn y byddai tollau'n ei wneud mewn gwirionedd yw cymell pobl i osgoi'r taliadau drwy ddilyn llwybr arall drwy gymunedau, gan arwain at fwy o dagfeydd a llygredd aer mewn trefi a phentrefi bach.
Ond mae'r broblem yn dal i fodoli hefyd fod dileu tollau croesi afon Hafren hefyd wedi cynyddu traffig, ac felly wedi cynyddu allyriadau carbon a llygredd aer. Mae data gan Highways England wedi dangos, ar ôl cael gwared ar y tollau hynny, fod cynnydd o 18 y cant wedi bod yn y traffig sy'n croesi pont Hafren ei hun, a chynnydd o 34 y cant dros yr hen bont Hafren. Felly, gyda thollau neu heb dollau, mae'r allyriadau'n codi. Mae'n ymddangos bod ein harferion wedi gwreiddio'n ddwfn.
Nawr, mae llawer o bobl a busnesau yn dal i ddibynnu ar ffyrdd, ac mae angen newid dramatig i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Byddwn yn croesawu sylwadau gan y Dirprwy Weinidog am gynlluniau i fuddsoddi mewn cerbydau trydan a'r seilwaith gwefru, ymchwil a datblygu i wella technolegau sy'n bodoli eisoes ac i ddatblygu technolegau'r dyfodol. Gallai Llywodraeth Cymru archwilio syniadau fel priffyrdd trydan yn unig a thwneli mewn ardaloedd lle ceir llygredd aer uchel a thagfeydd. Yn hollbwysig, Ddirprwy Lywydd, credwn y dylai Cymru fod yn gymuned gydgysylltiedig o gymunedau, ac mae angen i bobl ledled Cymru gael eu cysylltu â'i gilydd gan system drafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig gyda mwy o ddibyniaeth ar ddulliau teithio ecogyfeillgar. Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes y mae'r Dirprwy Weinidog yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno y bydd angen mwy fyth o fuddsoddiad i allu gwireddu'r uchelgais. Beth am ofyn i Trafnidiaeth Cymru greu rhwydwaith rheilffyrdd i Gymru gyfan sy'n cysylltu'r gogledd a'r de a galluogi traffig rheilffordd rhwng prif ganolfannau poblogaeth? Beth am gyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bws wedi'i reoleiddio, a beth am roi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain? Ac wrth gwrs, rhaid inni weld datganoli'r holl wasanaethau rheilffyrdd yn llawn yng Nghymru, gyda chyllid digonol. Nid yw'r sefyllfa bresennol ar gyfer y rheilffyrdd wedi gweithio. A allwn ni ymddiried yn San Steffan i gyflawni newidiadau hanfodol yng Nghymru? Credaf ein bod eisoes yn gwybod yr ateb i hynny.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni sicrhau ein bod yn mynd â phobl gyda ni ar y daith hon. Gadewch inni beidio â chosbi'r rhai sy'n methu ei fforddio. Gadewch inni yn hytrach gynnig gwell cyfleoedd trafnidiaeth iddynt. Beth am wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'i wneud yn wyrddach cyn meddwl am dollau a phrisiau ffyrdd ar ffyrdd Cymru.
Peter Fox.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum eich clywed yn fy nghyflwyno.
Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Joel James ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Delyth Jewell newydd ei ddweud hefyd. Pan fydd gennych bont gyda tholl ar ei thraws, mae'n gyfyngiad ar weithgarwch economaidd. Roedd hynny'n rhybudd clir, nid gan wleidydd ond gan ddarlithydd uchel ei barch mewn ysgol fusnes yng Nghymru—geiriau syml ond doeth a craff. Gall Llywodraethau'r DU sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr weld y pethau hyn, ac yn wir maent wedi gweld eu cyfle i gael gwared ar rwystrau i economi Cymru, oherwydd maent yn deall beth sydd ei angen ar economi ffyniannus. Un o'r rheini, fel y clywsom eisoes gan Joel James, oedd diddymu'r tollau cyfyngol wrth groesi afon Hafren. Ni ddylid anghofio'r gwersi a ddysgwyd o hyn. Arweiniodd dileu'r tollau at ddatgloi de Cymru, lle mae dwy ran o dair neu fwy o'r boblogaeth yn byw. Buddsoddodd Llywodraeth y DU yng Nghymru y diwrnod hwnnw drwy eu dileu. Roeddent am i'n heconomi gael ei rhyddhau ac fe wnaethant hynny. Arweiniodd cael gwared ar y tollau at arbed tua £1,400 y flwyddyn i'r cymudwr cyfartalog ac i fusnesau, fel y clywsom eisoes, yn ogystal â rhoi hwb enfawr i economi Cymru.
Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff, Aelodau: byddai tollau ar y ffyrdd yn cael canlyniad negyddol enfawr ar yr economi yma. Byddent yn gweithredu fel troed arall ar gorn gwddf ein heconomi. Mae buddsoddwyr a diwydiant angen Llywodraeth sy'n gweithio gyda hwy, gan helpu i iro olwynion llwyddiant yma, nid y gwrthwyneb. Efallai fod bwriad da i gynigion Llywodraeth Cymru, ond dônt ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth yn ei gallu i weithio i helpu ein heconomi i dyfu a ffynnu fel na wnaethant erioed o'r blaen. Gwelsom pa mor fregus y gall ein cadwyni cyflenwi fod ar adegau, a bydd seilwaith heb ei gysylltu'n dda a llyffethair ychwanegol fel tollau yn gwneud hynny'n waeth. Nid oes dianc rhag hynny.
Ac ar ôl mwy na dau ddegawd, mae'n warthus mai economi Cymru yw'r un sy'n dal i dangyflawni waethaf ym Mhrydain. Dyna waddol economaidd ofnadwy y mae Llywodraethau Llafur olynol yn y lle hwn yn ei adael i'n plant a'n hwyrion. Mwy o dollau a'r tâl atal tagfeydd posibl fyddai'r hoelen olaf yn yr arch, a fyddai'n sicr o achosi i lu o fuddsoddwyr posibl mewn busnesau sy'n bodoli eisoes fynd i rywle arall. Mae angen inni chwalu rhwystrau sy'n llesteirio twf economaidd, nid eu codi. Mae angen i ddileu rhwystrau i fewnfuddsoddi a thwf economaidd yn y dyfodol gan hyrwyddo trafnidiaeth werdd fod yn flaenoriaeth allweddol yn awr. Mae ymchwil a datblygu yng Nghymru wedi bod yn druenus o wael o'i gymharu â'n cymdogion yn y DU ac mae angen gwrthdroi hyn, fel y gellir cyflymu tanwyddau amgen y dyfodol, megis hydrogen gwyrdd, i bweru ein dulliau o symud nwyddau yn y dyfodol, gan gyrraedd ein targedau lleihau carbon fel canlyniad ychwanegol. Mae angen i groesawu a hyrwyddo trafnidiaeth werdd yn y dyfodol gydnabod pob math o drafnidiaeth, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig ar symud hyn i gyd yn ei flaen, yn enwedig gyda phwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Mae angen i hyn newid, Weinidogion. Gall Cymru fod yn agored o ddifrif i fusnes os gweithredir yn awr i atal penderfyniadau trychinebus rhag cael eu gwneud yn ogystal â hyrwyddo trafnidiaeth fwy gwyrdd. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon heddiw. O edrych ar welliant Llywodraeth Cymru sy'n tynnu sylw at arwyddocâd trafnidiaeth wrth wynebu her newid hinsawdd a lleihau allyriadau, a chyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ar leihau teithiau ceir a sicrhau bod mwy o bobl yn newid i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, fe'm hatgoffir yn glir ein bod yn wynebu'r heriau hynny i raddau helaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Wrth gwrs, dyna pam y cafwyd yr ymchwiliad i ffordd liniaru bosibl ar gyfer yr M4; penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen; sefydlu comisiwn Burns; ac yn awr, wrth gwrs, mae gennym y grŵp gweithredu, gyda'r dasg o fwrw ymlaen ag argymhellion y comisiwn.
Felly, yn ne-ddwyrain Cymru, o amgylch Casnewydd, mae'r heriau yno. Mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud a'r strwythurau wedi'u sefydlu i ymateb i'r heriau hynny. Yr hyn yr ydym yn aros amdano'n eiddgar iawn yn awr, a'r hyn y mae pobl yn Nwyrain Casnewydd a'r cyffiniau yn aros amdano'n eiddgar iawn, yw gweld argymhellion Burns yn cael eu gweithredu.
Mae rhywfaint o rwystredigaeth ar hyn o bryd nad ydym yn gweld gweithredu ar gyflymder ac ar y raddfa sy'n angenrheidiol. Rwyf wedi cyfarfod â'r comisiwn ac wedi cael trafodaethau gyda gwahanol gyrff sydd â chyfrifoldeb, ac mae gwir angen inni ddod o hyd i ffyrdd ymlaen. Mae yna rai enillion cynnar, fel petai, sy'n bosibl. Rydym wedi gweld datblygiadau'n ymwneud â theithio llesol ac mae angen inni weld mwy, oherwydd rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd eisoes am bwysigrwydd teithio llesol i gael ffyrdd mwy ecogyfeillgar, iach a blaengar o symud pobl o gwmpas.
Mae angen inni weld datblygiadau cynnar ar ffurf gwell llwybrau bysiau a ffyrdd o gael mwy o bobl ar fysiau. Mae gwasanaeth bws fflecsi diddorol yng Nghasnewydd yn awr sy'n cael mwy o gefnogaeth gan deithwyr wrth inni ddod allan o'r gwaethaf, gobeithio, o'r pandemig, wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio a'n bod yn nesu'n agosach at fywyd fel yr oedd cyn y pandemig. Ond mae angen inni wneud rhywbeth ar raddfa lawer mwy yng Nghasnewydd mewn gwirionedd i gael pobl yn ôl ar ein bysiau mewn niferoedd llawer mwy.
Wrth gwrs, mae gwasanaethau trên a seilwaith ar gyfer trenau'n cymryd cryn dipyn o amser i'w hadeiladu a'u datblygu, ac mae'n eithaf anodd, efallai, i gael yr enillion cynnar hynny mewn perthynas â rheilffyrdd. Ond rwy'n meddwl ein bod yn ffodus yn Nwyrain Casnewydd fod Magwyr gennym, sy'n enghraifft dda iawn o ble y gallem wneud cynnydd cynnar o ran cael mwy o bobl ar ein trenau ac oddi ar y ffyrdd, a hynny oherwydd bod grŵp ymroddedig iawn yno wedi bod yn gweithio tuag at orsaf rodfa Magwyr ers sawl blwyddyn. Maent wedi cael cyfarfodydd di-rif gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Network Rail ac eraill wrth gyflwyno eu cynigion a chwilio am gymorth a phartneriaeth. Felly, mae posibilrwydd ym Magwyr o ddefnyddio llawer o waith sydd eisoes wedi digwydd a llawer o'r broses sydd eisoes wedi'i gwneud, efallai, i fwrw ymlaen ag enghraifft gynnar o sut y gallwn ymateb i'r her o gael pobl oddi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, yn dilyn y ddadl hon heddiw, a chan gwybod maint yr heriau yn ne-ddwyrain Cymru, y broses yr ydym wedi mynd drwyddi, y sefyllfa yr ydym ynddi'n awr a'r uned gyflawni sydd bellach â thasg fawr o'i blaen—y bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gennym ddigon o ffocws a phwysau i wneud cynnydd er mwyn sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl o gwbl o ran y momentwm a adeiladodd o benderfyniad ffordd liniaru'r M4, comisiwn Burns, a sefydlu'r uned gyflawni. Mae gwir angen inni fwrw ymlaen a chyflawni, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill, yn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid cynlluniau codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yw'r ateb i dagfeydd, na'r llygredd aer a grëwyd o ganlyniad i draffig llonydd. Clywsom Aelodau'n cwyno am yr anhrefn traffig dyddiol ar hyd rhannau o'r M4 yn ne Cymru. I lawer o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, mae diflastod tagfeydd ar yr A55 yr un mor rhwystredig ac yn rhwystr i dwf.
Mae'r diflastod dyddiol a wynebir gan gymudwyr wedi cynyddu o ganlyniad uniongyrchol i ddiffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ein seilwaith trafnidiaeth. Ers 22 mlynedd, mae Llafur Cymru wedi dinistrio ein seilwaith gwasanaethau cyhoeddus. Gwelsom ostyngiad enfawr yn nifer y teithiau bws lleol. Mae hyn yn newyddion arbennig o wael i fy etholwyr, gan nad oes gan 21 y cant o aelwydydd yn ardal gogledd sir Ddinbych gar neu fan at eu defnydd.
Yn anffodus, nid yw'r sefyllfa ar y trenau'n llawer gwell. Ni all Llywodraeth Cymru feio gweithredwyr preifat am y llanastr a wynebwn ar ein rhwydwaith rheilffyrdd—hwy sydd wedi bod yn rhedeg ein trenau ers 2018. Ac eto, er gwaethaf addewidion mawr, mae wedi bod yn fethiant mwy fyth. Mae'r diffyg gwasanaethau yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn syfrdanol. Mae llawer o'r trenau wedi rhoi'r gorau i redeg ar adegau prysur—sydd wedi gwneud i lawer o fy etholwyr ysu am weld dyddiau Arriva yn dychwelyd—hyd yn oed i'r pwynt lle nad oes gwasanaeth yn rhedeg i'r gorllewin o Gaer rhwng 5 p.m a 7 p.m. ar ddiwrnodau'r wythnos, ac mae hynny'n syfrdanol, o ystyried mai dyna'r oriau prysuraf. Efallai fod pethau'n ddrwg bryd hynny, ond o leiaf roeddent yn gyson. I'r rhai sydd â cherbyd preifat at eu defnydd, nid yw'n syndod y byddai'n well ganddynt eistedd mewn tagfa ar yr A55—fe wyddant o leiaf y byddant yn cyrraedd eu cyrchfan yn y pen draw.
Rydym i gyd yn derbyn yr angen i fynd i'r afael â llygredd aer yn ogystal â'r angen i weithredu ar newid hinsawdd. Fodd bynnag, nid cosbi defnyddwyr y ffyrdd yw'r ffordd, ac ni fydd codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn ysgogi newid i ddulliau teithio. Mae pobl yn dibynnu ar y car am nad oes dewis arall, yn enwedig yn fy rhan i o'r byd. Y ffordd o sicrhau aer glân yw drwy wella ffyrdd, nid drwy gyfyngu ar eu defnydd. Ffyrdd yw'r cyswllt hanfodol rhwng cymunedau. Gallwn fynd i'r afael â llygredd ac allyriadau carbon deuocsid drwy wella'r cerbydau sy'n defnyddio'r cysylltiadau hanfodol hyn. Ond unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn methu yn hyn o beth. Mae gan ddau fwrdeistref yn Llundain fwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan na Chymru gyfan. Mae prinder difrifol o bwyntiau gwefru ar hyd yr A55, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i unigolion a busnesau roi'r gorau i'r peiriant tanio mewnol. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn treialu cynllun tacsi gwyrdd, ond oni welwn gynnydd enfawr yn y seilwaith gwefru, mae cynlluniau o'r fath yn mynd i barhau i fod yn fentrau trefol yn unig. Mae arnom angen seilwaith gwefru, nid cynlluniau codi tâl, os ydym am ddatgarboneiddio trafnidiaeth o ddifrif a gwella ansawdd aer, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Dwi wedi bod yn gwrando’n astud ar bawb yn cyfrannu heddiw, a dwi’n clywed lot o ddadleuon sy'n gwrth-ddweud ei gilydd mewn ffordd. Un sialens i’r Torïaid, wrth gwrs, ydy’r diffyg buddsoddiad gan y Llywodraeth Brydeinig cyn i’r Senedd hon fod yn bodoli, oherwydd mae hon wedi bod yn broblem sydd efo ni ers degawdau, ac er bod yna feirniadaeth gen i o ran Llywodraeth Cymru hefyd ers i ni gael y Senedd hon, mae yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth Prydain hefyd, a dwi’n meddwl bod yn rhaid inni gyd gydnabod hynny.
Mae’n ddadl gymhleth, onid ydy, oherwydd trafnidiaeth ar un llaw, ond hefyd, fel rydyn ni’n gweld, mae’r argyfwng hinsawdd yn greiddiol i hyn i gyd, a hefyd iechyd cyhoeddus—maen nhw i gyd yn cysylltu efo’i gilydd. Ac er bod fy mod i wedi mynegi pryderon yn gynharach o ran tollau o ran yr A470, dwi ddim yn erbyn y syniad o dollau neu weithredu radical os ydy o yng nghyd-destun ehangach. I mi, pan fuodd trigolion yn derbyn holiaduron dros yr haf, cysylltu efo mi nid i gwyno y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu i ddefnyddio'r A470 oedd trigolion ardal Pontypridd, ond pryderu ynglŷn â'r effaith y byddai hyn yn ei gael ar gymunedau a llygredd aer. A'u cwestiwn nhw i fi oedd: 'Rydyn ni'n byw mewn ardal rŵan lle mae mae pawb yn dweud bod llygredd aer yn broblem, ei fod o'n beryglus. Felly, rydych chi'n mynd i ddod â mwy o draffig drwy ein cymunedau ni?'
Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ato fo yn gofyn, yn ddiweddar, am y dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha mor effeithiol mae gweithredu 50 milltir yr awr o ran ardal rhwng Pontypridd ac Upper Boat wedi bod. Mi wnaethoch chi ddod â datganiad yn gynharach yr wythnos yma yn sôn bod yna ostyngiad o 47 y cant yn y lefelau nitrogen deuocsid yn yr ardaloedd hyn wedi dod, ond dwi'n methu â ffeindio'r data yna yn unman ar y funud, a byddwn i wrth fy modd pe bai modd cael gweld hynny. Oherwydd i fi, mi fyddai gweld bod effaith pethau fel 50 milltir yr awr wedi gwneud gwahaniaeth yn creu—o ran y cymunedau hynny sydd yn dioddef lefelu uchel o lygredd aer ar y funud, mi fyddai fo yn tawelu eu meddyliau nhw i weld bod pethau'n gwella. Wedyn, os ydy'r data yna, os gwelwch yn dda, ar gael, mi fyddwn i'n eu gwerthfawrogi.
Yn ystod y ddadl yn gynharach, mi oedd y cysylltiad posib rhwng dementia a llygredd aer wedi'i grybwyll. Ond, yn 2018, fe gyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd adroddiad ynglŷn â llygredd aer ac iechyd plant, ac mi ddangosodd hwnnw'n glir sut y gall llygredd aer effeithio ar niwroddatblygiad a gallu gwybyddol a sbarduno asthma a chanser mewn plant. Hefyd, gall plant sydd wedi cael eu magu mewn mannau gyda lefelau uchel o lygredd aer fod mewn mwy o berygl o gael clefydau cronig fel clefyd cardiofasgwlaidd yn ddiweddarach mewn bywyd.
Felly, i mi, mae'r holl beth o ran trafnidiaeth gymaint mwy, onid ydy, na jest y mater o ran sut ydyn ni'n teithio i lefydd. Mi fuaswn i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn gytûn, er bod yna rai dadleuon wedi cael eu rhoi heddiw o ran hawl modurwyr ac ati, a hawl pobl i ddefnyddio ceir ac ati. Oni ddylwn ni i gyd fod yn gweithio i gael gwared ar gyn gymaint o geir â phosib oddi wrth ein ffyrdd? Wedi'r cyfan, argyfwng hinsawdd. Mi welson ni weithredu radical o ran yr argyfwng efo COVID ac ati; mi welson ni ei bod hi'n bosib lleihau traffig ar ein lonydd ni, fod yna ffyrdd amgen o fyw.
Mi oeddwn i wedi fy nhristau bore yma yn cropian o Bontypridd i'r bae hwn yn fy nghar, o weld bod lefelau'r traffig yr un mor wael â mi oedden nhw cyn COVID. Mi oedd o'r gwaethaf dwi wedi ei weld ers cyn COVID. A'r rheswm roeddwn i yn y car yn hytrach na'r trên oedd oherwydd bod yn rhaid i fi fod yn Ynysybwl erbyn 19:45 heno yma, a dyna'r unig ffordd mai sicrhau fy mod i yno er mwyn bod mewn cyfarfod efo'r rhai dwi'n eu cynrychioli.
Felly, mae hi'n broblem o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. A dwi'n meddwl hefyd am bawb sydd yn methu â fforddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y funud. Mae'n broblem ehangach. Rydyn ni wedi sôn, mewn trafodaethau blaenorol ers mis Mai, ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaeth bysiau ac ati. Dwi'n gwerthfawrogi bod y Dirprwy Weinidog wedi sôn am bwyslais hyn, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn gytûn felly: mae'n rhaid inni feddwl yn holistig. Mae rhoi yr holl wrthddadleuon yma ynglŷn â hawliau pawb—mi fydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd. Efallai y bydd tollau yn un o'r rheini yn y dyfodol, ond, am rŵan, dydy o ddim yn opsiwn. Edrych ar y pethau amgen, ond mae eu hangen nhw ar frys. Allwn ni ddim aros pan fo yna argyfwng hinsawdd. Mae angen gweithredu.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwyf am wrthbrofi un neu ddau o'r pethau y mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi'u dweud. Rwyf am gwestiynu greal sanctaidd effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Efallai y bydd Peter Fox yn cofio cymaint y cynyddodd y pwysau ar dai yn yr ardaloedd o amgylch sir Fynwy, wrth ymyl ein ffin â Lloegr, oherwydd, yn amlwg, roedd yn fwy deniadol i bobl a oedd yn byw yn ardal Bryste ddod i fyw mewn tai rhatach yng Nghymru. Felly, yn amlwg, gallai hynny gynyddu llawer o'r traffig cymudo, sy'n amlwg yn cynyddu ein hallyriadau carbon. Wrth gwrs, rwy'n parchu'r ffaith ei fod wedi gostwng y costau i bobl a oedd yn gorfod mynd i weithio ar yr ochr arall i'r ffin am nad oeddent yn gallu cael gwaith addas yng Nghymru, ond serch hynny, mae cost sylweddol wedi deillio o ddileu'r tollau ar bont Hafren, a chydnabyddir hynny'n llawn yn adroddiad Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr y mae Caerdydd yn aelod ohono. Mae'n sôn am gost fawr y tagfeydd cynyddol i'r rhanbarth, cost y maent yn ystyried ei bod yn £300 miliwn y flwyddyn, a bod dileu tollau pontydd Hafren yn debygol o fod wedi gwaethygu'r broblem. Felly, maent bellach yn ystyried mesurau rheoli galw, megis codi tâl ar y ddwy ochr i afon Hafren er mwyn codi refeniw ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy amgen.
Hefyd, hoffwn gywiro Joel James ynglŷn â'r syniad mai Caerdydd, rywsut, yw'r ddinas sy'n tyfu fwyaf yn y DU o ganlyniad i ostwng y tollau. Caerdydd oedd y ddinas a oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU yn barod, cyn y tollau, a gobeithio y gwelwn dwf ychydig yn llai oherwydd effaith yr holl draffig ar lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. Pam ar y ddaear y byddem am ddiystyru tollau fel ysgogiad polisi os canfyddwn fod llygredd aer yn un o brif achosion dementia? Rwy'n cyfeirio'n ôl at y ddadl a gawsom yn gynharach. Rhaid inni ei gael yn yr arfogaeth rhag ofn y bydd ei angen arnom, oherwydd ni allwn barhau i wneud ein poblogaeth yn agored i lefelau anghyfreithlon o lygredd aer.
Hoffwn eich atgoffa o ddyfyniad gan eich arweinydd eich hun. 'Mae angen i'r ddynoliaeth dyfu i fyny a dod yn oedolyn', meddai Boris Johnson. Wel, rwy'n credu bod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig dyfu i fyny a dod yn oedolion. Mae gennym argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhaid inni newid ein ffyrdd. Gadewch imi egluro wrthych beth y mae hynny'n ei olygu. Roedd tystiolaeth i'r pwyllgor newid hinsawdd a'r amgylchedd gan Sustrans yn ein hatgoffa nad yw newid o gerbydau diesel a phetrol yn mynd i fod yn ddigonol i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau carbon y gwnaethoch chi, y Torïaid, bleidleisio drostynt. Felly, hyd yn oed os yw pob car newydd yn un allyriadau isel iawn erbyn 2035, bydd yn rhaid inni leihau nifer y milltiroedd a deithiwn yn ein ceir 58 y cant rhwng 2016 a 2035 os ydym am osgoi'r trychineb o beidio â chyrraedd ein targedau lleihau carbon. Felly, bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol.
Hoffwn ofyn i Joel James sut y teithiodd i'r Senedd heddiw, oherwydd, os na fyddwn ni yn newid ein ffyrdd, ni allwn ddisgwyl i bobl eraill—
O leiaf fe wnaeth deithio yma.
Wel, dyna syniad da; dyna pam y gall arwain ar y—. Ond y pwynt yw, os ydym am gynnig tocynnau bws am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed—rhywbeth nad wyf yn ei ddiystyru fel syniad gwych—rhaid inni gyfrifo sut y byddwn yn talu am wneud hynny. Yn yr un modd, rwyf am—. Rwy'n cwestiynu'r syniad gan Gareth Davies y byddai'n well gan bobl eistedd mewn ciw ar yr A55. A fyddai'n well ganddynt wneud hynny na thalu toll i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus—o ddifrif?
Ac yn olaf, rwy'n credu fy mod am—[Torri ar draws.] Hoffwn ein hatgoffa mai un o'r bobl eraill sy'n edrych ar y tollau yw eich Canghellor chi. Ac yn gwbl briodol hefyd, oherwydd mae'r doll ar danwydd yn werth £40 biliwn i'r Trysorlys ar hyn o bryd, ac mae honno'n talu am yr holl wasanaethau pwysig y mae pawb ohonom yn eu caru—
A wnaiff yr Aelod ddechrau dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—ac yn eu gwerthfawrogi. Felly, sut y down o hyd i arian yn lle'r £40 biliwn hwnnw pan nad yw pobl yn prynu petrol a diesel mwyach ac yn defnyddio ceir sy'n cael gwefru gan ynni adnewyddadwy, neu fel arall ni fydd yn werth dim?
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Felly, os yw Llywodraeth y DU yn ystyried codi tâl fel mecanwaith, fel a ddefnyddir yn eang mewn mannau fel Ffrainc—ac nid yw'r byd wedi rhoi'r gorau i droi yn Ffrainc—ac fel a ddefnyddir yn eang ar dwnnel Dartford i'r dwyrain o Lundain, pam ar y ddaear na allai fod yn arf polisi yn y wlad hon, os oes arnom ei angen? Pam—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—fod gyrwyr ceir yn credu bod ganddynt hawl ddwyfol i deithio am ddim ar ein ffyrdd pan fo'n rhaid i bob un ohonom ni dalu pan fyddwn yn mynd ar y trên neu ar fws?
I ateb Jenny Rathbone, y rheswm pam y mae pwysau ar sir Fynwy yw am na wnaeth eich Llywodraeth chi adeiladu tai yn y lle cyntaf, dyna oedd y broblem.
Weinidog, fel y gwyddom i gyd, ein ffyrdd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yw'r rhydwelïau hanfodol sy'n ein cysylltu ni i gyd. Mae'r ddynoliaeth wedi creu rhwydwaith cymhleth o ffyrdd sy'n cysylltu cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac wedi dod â ni i gyd yn agosach at ei gilydd. Ac mae wedi gwneud y gemau rygbi a phêl-droed lleol hynny'n llawer haws i bobl eu mynychu.
Rhaid inni beidio byth ag anghofio'r aberth, yr amser a'r ymdrech a aeth i gysylltu ein gwlad. Rydym yn defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd i gludo nwyddau a gwasanaethau ar draws pellteroedd hir a byr i dyfu ein heconomi yma yn y Deyrnas Unedig. Roedd y rhwydwaith ffyrdd hefyd, am y tro cyntaf mewn hanes dynol, yn rhoi cyfle i bobl a oedd â cherbyd neu ddulliau eraill o deithio i wneud hynny ar draws ein gwlad fawr ac ymweld â lleoedd, rhywbeth a oedd, ar un adeg, yn cael ei ystyried yn ddim mwy na breuddwyd. Ni ddylid tanbrisio'r rhyddid yr ydym i gyd yn ei fwynhau heddiw ar ein ffyrdd.
Fodd bynnag, mae'r amseroedd wedi newid. Rydym yn deall y pwysau real ar ein hamgylchedd. Rydym wedi symud at ddulliau mwy cynaliadwy o deithio. Mae datblygiad y car trydan wedi bod yn un o ddyfeisiadau gwych y cyfnod modern, ac rydym mewn sefyllfa bellach i symud at drafnidiaeth fwy gwyrdd, gan ddefnyddio pŵer hydrogen, a rhaid i'r Llywodraeth hon wneud mwy i fuddsoddi yn y technolegau gwyrdd a rhoi hwb i'r chwyldro gwyrdd hwnnw. Ac rwyf am dalu teyrnged gyflym i Riversimple, sy'n arwain y ffordd yng Nghymru gyda'r dechnoleg hon.
Yn fy etholaeth i ym Mrycheiniog a Maesyfed, mae'r rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol bwysig i fy etholwyr sy'n teithio'n bennaf allan o'r sir i weithio oherwydd y drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n gwasanaethu ein cymunedau. Mae'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru'n eu llunio ar gyfer teithio llesol yn wych os ydych yn byw mewn dinas, ond os ydych yn byw yng nghefn gwlad Cymru, mae eich mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy cyfyngedig, ac mae'r Llywodraeth yn anghofio hyn dro ar ôl tro. Dyna pam fy mod mor bryderus ynglŷn â galwadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ffordd a thollau ffyrdd yng Nghymru, gan honni eu bod yn diogelu'r amgylchedd. Os yw'r Llywodraeth hon am ddiogelu'r amgylchedd, efallai y dylech roi'r gorau i roi cyllid trethdalwyr tuag at faes awyr, neu efallai y dylech newid y fflyd gyfan o geir Gweinidogion o fod yn rhai sy'n rhedeg ar ddiesel i fod yn rhai sy'n rhedeg ar ynni gwyrdd, ond ni allaf eich gweld yn gwneud hynny. Mae gennych ambell Nissan Leaf, felly rydych chi'n mynd rywfaint o'r ffordd i ddatrys y broblem. Ac efallai y gallech hefyd gyflawni'r Ddeddf aer glân yr ydych yn hoffi siarad llawer iawn amdani.
Mae angen inni weld y Llywodraeth hon yn buddsoddi mwy o arian mewn pwyntiau gwefru trydan ac yn darparu mwy o gyllid ar gyfer ymchwil a datblygu pŵer hydrogen. Y gwir amdani yw y bydd trethi ffyrdd yn atal y tlotaf yn ein cymdeithas rhag gallu teithio a mwynhau eu bywydau yn y ffordd y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr nad yw'r Aelodau Llafur am wneud dim i niweidio'r tlotaf yn ein cymdeithas. Credaf y dylai Llywodraeth Cymru fod yn dryloyw a chynhyrchu papur sy'n dangos inni pwy fydd y tollau a'r trethi hynny'n eu taro galetaf. Pobl dlawd y wlad hon yr hoffwch ddweud eich bod yn eu cynrychioli—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad, nid oeddech chi am dderbyn un yn gynharach.
Mae hyn yn ymddangos i mi fel cam ideolegol a fydd yn costio i fusnesau ac yn taro ein heconomi mewn ffordd na allwch ei rhagweld. Bydd yn cyfyngu ar ryddid dinasyddion Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth na allaf ei dderbyn. Mae'n drueni heddiw fod Llafur wneud gwneud eu 'dileu'r cyfan' arferol i'n cynnig, gan osgoi'r pwnc unwaith eto. Gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn cefnogi ein cynnig. Rydym yma i wella bywydau pobl Cymru, nid eu hamddifadu o'u rhyddid dan sosialaeth ac ychwanegu beichiau ychwanegol i'w bywydau. Felly, gofynnaf i bob Aelod yn y Siambr gefnogi'r cynnig Ceidwadol hwn a chefnogi pobl weithgar Cymru. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd yn rhaid i Aelodau ateb cwestiynau eu hwyrion un diwrnod ynglŷn â'r hyn a wnaethant pan gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig rybudd coch am gyflwr y blaned, ac yn seiliedig ar eu cyfraniadau y prynhawn yma, y cyfan a glywsom yw ymdrechion i greu rhaniadau. Dyna a glywsom y prynhawn yma. Dro ar ôl tro, ymdrech i rannu pobl yn seiliedig ar anwireddau. Clywsom Joel James yn agor y ddadl drwy ddweud bod cryn bryder ymhlith modurwyr. Mae'r pryder hwnnw wedi codi yn sgil y ffaith bod y Ceidwadwyr wedi bod yn pweru algorithmau Facebook dros yr haf, gan gynhyrfu'n fawr ar sail ffeithiau ffug.
Dywed James Evans fod galwadau gan y Llywodraeth hon i gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar y ffyrdd. Fe ddywedodd hynny. Ni chynhyrchodd unrhyw dystiolaeth ar gyfer hynny o gwbl. Nid oes galwadau gan y Llywodraeth hon i gyflwyno cynlluniau i godi tâl ar y ffyrdd, fel y cydnabu Joel James yn ateb y Prif Weinidog ddoe i Tom Giffard. Gwnaeth yn glir iawn beth oedd y tu ôl i'r holiadur a ddosbarthwyd dros yr haf. Mae Llywodraeth y DU yn casglu tystiolaeth fel y mae'n rhaid i ni ei wneud drwy orchymyn llys i edrych ar wahanol opsiynau. Mae hwn yn opsiwn y mae'n rhaid inni edrych arno fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth a gasglwn ar gyfer y Ddeddf aer glân. Gwnaethom yn glir iawn nad yw'n rhan o'r pecyn polisi y bwriadwn bwyso arno. Felly, maent yn gwybod hynny ac eto maent yn parhau i chwifio'r faner i geisio creu rhaniadau ar adeg pan ydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur.
Mae hwn yn gyfnod difrifol, mae angen i wleidyddion difrifol roi ystyriaeth ddifrifol ac ymatebion difrifol, ac mae meinciau'r Ceidwadwyr wedi dangos eto y prynhawn yma nad ydynt o ddifrif ynglŷn â'r broblem. Ac fel y dyfynnodd Jenny Rathbone, gwelsom Boris Johnson yr wythnos hon yn dweud bod angen i ddynoliaeth fod o ddifrif ynglŷn â'r sefyllfa hon, ac nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw ddiddordeb mewn mynd i'r afael â'r dewisiadau anodd sy'n ein hwynebu. A chredaf eu bod yn anonest iawn yn dod gerbron y Siambr hon dro ar ôl tro, gan gefnogi targedau, ein hannog i fynd yn gyflymach, ein hannog i fod yn fwy beiddgar, ond pan ddaw'n fater o'r pethau y mae angen i chi eu gwneud i sicrhau newid mewn gwirionedd, maent yn rhedeg i guddio bob tro, y tu ôl i'r un hen ystrydebau, ac mae'n dechrau mynd yn fwrn, gan fod Julie James a minnau, bob dydd, yn ymrafael â chymhlethdodau'r newid y mae'n rhaid inni fynd drwyddo, gan wrando ar gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd y mae Llywodraeth y DU eu hunain wedi'i sefydlu, sy'n mynd yn groes i'r hyn a ddywedwyd gan bawb ohonoch chi. Felly, hoffwn awgrymu wrth y Ceidwadwyr Cymreig fod yr amser yn dod pan fydd yn rhaid iddynt wynebu ffeithiau a thyfu i fyny, neu fel arall dylent gau eu cegau, oherwydd nid yw hyn yn adeiladol i'r her a wynebwn fel Llywodraeth wrth geisio mynd i'r afael â'r problemau anodd hyn. [Torri ar draws.] Os yw'r Aelodau'n credu bod honno'n iaith anseneddol, gallwn ddweud pethau llawer gwaeth, a bod yn onest. [Chwerthin.]
Ni fydd yr Aelod yn dweud pethau gwaeth. [Chwerthin.]
Nawr, gwnaed cyfres o bwyntiau y ceisiaf fynd i'r afael â hwy yn eu tro. Fe'm trawyd gan ddadl Joel James. Dywedodd ei fod o blaid Deddf aer glân ond ei fod yn erbyn datgymhellion, ac roedd ei ddisgrifiad o sut brofiad oedd beicio yn destun penbleth i mi. Clywsom am bobl yn glanio ar ymylon ffyrdd wedi'u hamgylchynu gan anifeiliaid marw a sbwriel, a rhaid imi ddweud, nid dyna fy mhrofiad i o feicio, a byddwn yn awgrymu bod hynny'n eithaf anghyffredin. Gwelais ei fod allan gyda Sustrans dros yr haf, ac fe'm calonogwyd yn fawr gan hynny, ond nid wyf yn siŵr a aeth ar gefn y beic mewn gwirionedd. Ond o ddifrif, hoffwn ddweud bod hyfforddiant beicio i oedolion yn rhan bwysig iawn o'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, oherwydd mae gan lawer o bobl ganfyddiadau ynglŷn â sut brofiad yw beicio ar deithiau byr nad ydynt wedi'u gwreiddio mewn realiti, ac mae'r canfyddiadau ffug hynny'n rhwystrau gwirioneddol i newid ymddygiad pobl. Felly, un o'r pethau yr ydym yn edrych arno drwy ein buddsoddiad mwy nag erioed mewn teithio llesol, y mwyaf y pen mewn unrhyw ran o'r DU, yw sut y gallwn alluogi oedolion i ailhyfforddi, i feicio'n ddiogel ac yn gyfforddus, fel y gellir chwalu'r mythau y mae Joel James wedi bod yn eu lledaenu.
Daeth yn amlwg hefyd o gyfraniad rhyfeddol Gareth Davies mai ei gysyniad o Ddeddf aer glân, y maent yn dal i ddweud wrthym eu bod am ei chyflwyno, yw y dylem adeiladu mwy o ffyrdd o ganlyniad. Felly, mae honno'n gyfres ddiddorol iawn o gynigion, oherwydd mae mwy o ffyrdd yn cynhyrchu mwy o garbon ac yn cynhyrchu mwy o nitrogen deuocsid o'r traffig y maent yn ei ysgogi. Byddwn wrth fy modd yn clywed mwy.
Mae'r ddadl yn ymwneud â'r cerbyd ei hun. Os ydym yn gwella ansawdd y cerbydau o ddiesel a phetrol i drydan ar nifer cynyddol o ffyrdd, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud, yn hytrach na'r ffyrdd presennol gyda cheir diesel.
Rwy'n deall y ddadl, rwyf hefyd yn deall y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dangos nad yw hynny'n wir, oherwydd os ydych yn adeiladu mwy o ffyrdd, rydych wedi ymgorffori carbon yn y ffyrdd eu hunain, sy'n gynhyrchwyr allyriadau sylweddol. Mae cynhyrchu'r ceir ychwanegol a ddaw o'r gofod ffordd ychwanegol ynddo'i hun yn cynhyrchu carbon. A hyd yn oed pe bai gennych 100 y cant o geir trydan, rhywbeth sydd flynyddoedd lawer i ffwrdd, rydych yn dal i fod angen cynhyrchu ynni ychwanegol i'w pweru, ar ben yr holl fanteision negyddol eraill sydd gennym o fod gormod o geir yn ein trefi a'n dinasoedd, gyda lledaeniad siopau y tu allan i'r dref yn bygwth ac yn lladd canol trefi yn un, ac rwy'n eu clywed yn cwyno am hynny hefyd. Felly, mae arnaf ofn nad yw'r ddadl yn gwrthsefyll craffu ar y ffeithiau.
Ond nid wyf yn credu bod ganddynt ddiddordeb yn y ffeithiau; mae ganddynt ddiddordeb mewn cynhyrfu pobl yn hytrach na wynebu'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni, fel cymdeithas, eu hwynebu i wneud cynnydd yn erbyn yr her gymdeithasol ddirfodol hon. Ac unwaith eto, rwy'n dweud wrth yr Aelodau, er mwyn cyrraedd y targedau newid hinsawdd yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddynt, mae angen inni wneud mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf i allyriadau nag y llwyddasom i'w gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf. Nid wyf wedi clywed un cynnig difrifol gan y Ceidwadwyr ynglŷn â sut y byddent yn gwneud hynny, a hoffwn ofyn iddynt feddwl am hynny, a gwneud cyfraniad adeiladol i'r heriau sydd o'n blaenau.
I droi at rai o'r cyfraniadau eraill sy'n haeddu ymateb mwy difrifol, rwy'n cytuno'n llwyr gyda Delyth Jewell mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw gwella trafnidiaeth gyhoeddus cyn inni ddechrau meddwl am dollau. Ond fel y nododd Jenny Rathbone yn gywir, y Llywodraeth Geidwadol sydd wedi dweud na fydd hi'n gyfreithlon i werthu ceir diesel a phetrol erbyn diwedd y degawd hwn, ac mae hynny'n golygu y bydd angen newid yr holl sylfaen drethu. Os nad oes gennych geir petrol, ni allwch godi treth ar betrol; felly mae angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o gynhyrchu'r £40 biliwn y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato.
Hoffwn glywed y syniadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, oherwydd maent yn beiriant syniadau arloesol y prynhawn yma hyd yn hyn ynglŷn â sut i gynhyrchu'r refeniw hwnnw. Ond mae'n debyg fod codi tâl ar bobl yn ôl faint y maent yn ei yrru yn syniad synhwyrol; mae'n sicr yn syniad y mae Trysorlys eu Llywodraeth eu hunain yn edrych arno wrth inni siarad. Ond unwaith eto, nid oes a wnelo hyn â dadl ddifrifol i drafod syniadau difrifol; mae hyn yn ymwneud ag abwyd clicio a cheisio dosbarthu taflenni i pobl sy'n pryderu am y dewisiadau sy'n rhaid i bob un ohonom eu hwynebu fel cymdeithas. Mae gennym gynlluniau difrifol ar gyfer newid dulliau teithio, ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer rhoi dewisiadau amgen go iawn a realistig i bobl ynghyd ag ymgyrch newid ymddygiad, i roi'r cymhellion a'r wybodaeth i bobl er mwyn ceisio eu hannog i ymddwyn yn wahanol.
Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau am fethu ymdrin â'r holl bwyntiau dilys a wnaethant, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn werth rhoi amser i geisio datglymu'r nonsens a glywsom gan y Blaid Geidwadol fel y gallwn ddechrau canolbwyntio fel Senedd ar atebion go iawn i broblemau go iawn yn hytrach na malu awyr yr wrthblaid.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw? Agorodd fy nghyd-Aelod, Joel James, y ddadl heddiw, gan alw ar y Llywodraeth mewn nifer o feysydd, ond yn gyntaf oll, nododd Joel effaith gadarnhaol dileu tollau croesi afon Hafren. Roeddwn yn credu'n wirioneddol y gallai hyn fod yn rhywbeth y byddai pob Aelod yn cytuno yn ei gylch, ond nid yw hynny'n wir. Rwy'n gwerthfawrogi sylwadau Jenny Rathbone yn ei chyfraniad heddiw; nid wyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau a wnaethpwyd. Credaf yn wirioneddol fod yna effaith gadarnhaol wedi deillio o ddileu tollau croesi afon Hafren.
Hefyd, nododd Joel James ein pryder am yr argymhellion gan y Llywodraeth ynglŷn â'r tollau posibl ar yr M40, yr A470, yr A55, a chefnffyrdd eraill. Dywedodd y Dirprwy Weinidog nad ydynt yn argymhellion; mae'n arolwg sy'n awgrymu y gallai hyn ddigwydd. Felly, credaf fod peth gwahaniaeth barn ynglŷn ag ystyr 'argymhelliad'.
Hefyd, nododd fy nghyd-Aelod, Joel James, awgrymiadau cadarnhaol gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig ynghylch hyrwyddo trafnidiaeth wyrddach, ynghylch cefnogi'r ddarpariaeth o bwyntiau gwefru trydan, sy'n rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol amdano fy hun. Credaf fod rôl i'r Llywodraeth yma i gefnogi pwyntiau gwefru trydan ledled Cymru, oherwydd mae'n rhaid inni dorri cylch yr iâr a'r wy; ni chaiff pwyntiau gwefru trydan mo'u hadeiladu hyd nes bod gennym geir trydan, ac ni welir cynnydd cyflym yn niferoedd y ceir trydan yr hoffem eu gweld oni bai bod gennym bwyntiau gwefru yn eu lle. Felly, mae rôl i'r Llywodraeth gamu i mewn yma nes y gall y sector masnachol chwarae ei ran yn y ddarpariaeth honno.
Hefyd, hyrwyddo teithio llesol ymhellach; rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad Aelodau eraill a siaradodd yn dda yn y ddadl heddiw, John Griffiths ac eraill, a soniodd am fentrau yn eu hardaloedd eu hunain, fel y maent wedi'i wneud o'r blaen. A chynnig tocynnau bws am ddim i rai rhwng 16 a 25 oed hefyd; credaf fod rhywfaint o sôn am gost hynny. Rwy'n credu efallai mai Jenny a soniodd am hynny. Wel, mae wedi'i gostio, oherwydd roedd yn gynnig ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig; roedd yn rhywbeth a gafodd ei gostio yn y maniffesto hwnnw hefyd.
Diolch i Delyth Jewell am gynnig gwelliant Plaid Cymru heddiw, a hefyd i Heledd Fychan am siarad am y pwyntiau hynny. Ar welliant Plaid Cymru, credaf ein bod yn cytuno at ei gilydd â'r pwyntiau a wnaed yn y cyfraniadau ac yn y gwelliant a gyflwynwyd. Credaf mai'r unig gwestiwn a fyddai gennym yw bod rhai costau uchel posibl yn rhai o'r meysydd a amlinellodd Plaid Cymru yn eu gwelliant, felly credaf ein bod ni fel Ceidwadwyr am wybod mwy am y costau hynny cyn y gallem eu cefnogi. Ond ceir egwyddor gyffredinol o gefnogaeth, rwy'n meddwl, i welliannau Plaid Cymru heddiw.
Siaradodd fy nghyd-Aelodau eraill y prynhawn yma—Peter Fox, Gareth Davies—a chyflwynwyd awgrymiadau cadarnhaol i'r Llywodraeth yn fy marn i. Gallaf weld y Dirprwy Weinidog yn chwerthin. Ond fe gafwyd sylwadau cadarnhaol, ac ni nododd y Dirprwy Weinidog yr un ohonynt o gwbl—fe wnaeth eu diystyru, gan ddweud wrthym am gau ein cegau, ac nid wyf yn credu bod hynny'n briodol o gwbl. Ond yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau'n ei nodi yw bod gwahaniaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'n rhaid inni gael trafnidiaeth gyhoeddus ar waith os ydych am gael pobl i newid o ddefnyddio'r car i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae bylchau enfawr o hyd yn y Gymru wledig o ran y ddarpariaeth honno, ac yn anffodus credaf fod y rheini sy'n byw yn fy etholaeth i, ac mewn ardaloedd fel Brycheiniog a Maesyfed—yn anffodus nid oes dewis arall i'r mwyafrif llethol o bobl heblaw cael car. Felly, dyna lle mae'n rhaid inni ymdrechu i wella ein seilwaith a gwella'r ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus.
Rhaid imi ddweud y byddwn wedi gwerthfawrogi ymateb mwy cynhwysfawr gan y Dirprwy Weinidog i'r awgrymiadau cadarnhaol a gyflwynwyd gennym heddiw. Credaf ein bod wedi cyflwyno awgrymiadau mewn ysbryd cydweithredol. Rwy'n meddwl bod llawer y gallem fod wedi cytuno arno heddiw, fel y Ddeddf aer glân. Mae llawer y gallwn gytuno arno, ond gwrthodwyd hynny yn hytrach na'i drafod mewn unrhyw ffordd gadarnhaol heddiw. Ond diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'n dadl y prynhawn yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i wneud y paratoadau ar gyfer pleidleisio. Felly, toriad.