– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 5 Hydref 2021.
Mae yna ddadl nawr ar ddatganoli pwerau trethu newydd, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM7786 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod posibilrwydd cyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru er mwyn cyfrannu at gynyddu’r cyflenwad o dai a sicrhau defnydd cynhyrchiol o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r cynnig hwn, a hynny’n unol â darpariaethau Deddf Cymru 2014.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli cymhwysedd deddfwriaethol dros drethi newydd i’r Senedd.
Diolch, Llywydd. Gwnaethom drafod yr achos dros drethi newydd am y tro cyntaf yn 2017, gan ddechrau trafodaeth genedlaethol ar sut y gallai pwerau trethu newydd ddarparu cyfleoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Dros bedair blynedd yn ddiweddarach, nid yw'r cyfleoedd hynny ar gael i ni o hyd.
Mae Deddf Cymru 2014 yn caniatáu datganoli trethi newydd a phresennol y DU, ond nid yw'n rhoi llawer o fanylion am sut y byddai'r broses honno'n gweithio. Gweithiodd Llywodraethau Cymru a'r DU gyda'i gilydd i gynllunio yn ofalus proses a fyddai'n galluogi cyflwyno trethi datganoledig newydd, gan barchu buddiannau'r ddwy Lywodraeth. Mae dau gam penodol i'r broses. Y cam cyntaf yw datganoli'r pwerau. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig gael ei ddatblygu, ac ymgynghori arno, cyn ei gyflwyno i Senedd y DU a'r Senedd hon er mwyn cytuno i ddatganoli a derbyn y pwerau. Yr ail gam yw i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cynigion polisi a deddfwriaethol manwl i'r Senedd hon i gyflwyno'r dreth newydd.
Nodwyd treth ar dir gwag gennym fel y dreth newydd gyntaf y byddem ni'n ceisio cymhwysedd i ddefnyddio'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag oherwydd gall chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o dai, a chefnogi adfywio ein trefi a'n cymunedau. Fe wnaethom ddewis treth ar dir gwag hefyd oherwydd ein bod yn credu bod yr achos dros ddatganoli yn glir ac yn syml, ac y byddai hyn yn caniatáu i ni brofi a mireinio'r broses ar gyfer datganoli trethi eraill.
Mae tai diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel yn gonglfaen i well iechyd, gwell canlyniadau addysgol a gwell lles. Gwyddom o amcangyfrifon angen tai y bydd arnom angen 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu anghenion tai Cymru. Ond, gyda phwerau treth newydd i gymell datblygwyr i fwrw ymlaen â datblygiadau sydd wedi'u gohirio, gallem ni wneud mwy. Nid yw treth ar dir gwag yn unig yn ateb i'r argyfwng tai, wrth gwrs, ond mae'n ymyriad y gallwn ni ei wneud i gyflwyno datblygiad amserol. Fel y mae, mae perchnogion tir yn elwa ar gynnydd yng ngwerth eu tir pan gaiff ei nodi yn y broses gynllunio ar gyfer datblygu. Pan fo'r tir wedyn yn cael ei ddatblygu, gan ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen, mae'r system hon yn gweithio. Ond, pan fo'r perchnogion tir yn dal y tir hwnnw ac nad yw/n cael ei ddatblygu, mae enillion preifat, ond ar gost gyhoeddus. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi i'w ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i annog datblygiad ac ail-gydbwyso pwy sy'n ysgwyddo'r gost pan na fydd datblygiad yn digwydd. Gallai treth ar dir gwag hefyd helpu i gyfrannu at adfywio, mynd i'r afael â golwg wael safleoedd segur a'u heffaith ar les y rhai sy'n byw gerllaw.
Er mwyn dechrau archwilio'n briodol cyfleoedd y dreth ar dir gwag i Gymru, mae angen y pwerau arnom yn gyntaf. Rydym bob amser wedi bod yn glir, wrth geisio pwerau newydd am y tro cyntaf, y byddwn yn profi dull Deddf Cymru 2014, ac nid ydym erioed wedi tanamcangyfrif yr her o lywio'r broses hon. Aeth dwy flynedd o waith i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU yr wybodaeth yr oedd ei hangen arni i ystyried yr achos dros ddatganoli, cyn i ni wneud cais ffurfiol am drosglwyddo pwerau. Cefais drafodaeth adeiladol gydag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys mewn cyfarfod Cydbwyllgor y Trysorlys. Cytunwyd mai Mater i Lywodraeth Cymru oedd gwneud penderfyniadau polisi ynghylch sut y byddai unrhyw dreth ddatganoledig newydd yn gweithredu, ac i'r Senedd hon benderfynu a ddylid trosglwyddo unrhyw dreth newydd i gyfraith. Swyddogaeth Llywodraeth a Senedd y DU yw penderfynu datganoli pwerau treth newydd. Fodd bynnag, pan wnes i'r cais ffurfiol ym mis Mawrth 2020, eu hymateb oedd gofyn am ragor o wybodaeth eto am weithrediad y dreth. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU yn ddidwyll i benderfynu a darparu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt, ond nid yw'n briodol i Lywodraeth y DU gymryd rhan mewn materion sydd, yn briodol, i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw arnom i gydnabod bod nifer o resymau pam y gallai fod oedi mewn datblygiadau. Wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni bob amser wedi'i gydnabod. Gwnaethom gomisiynu ymchwil i'r rhesymau a'u mynychder ledled Cymru. Rydym bob amser wedi bod yn glir iawn nad ydym yn ceisio cosbi'r rhai sy'n mynd ati i ddatblygu o fewn amserlenni proses arferol, na'r rhai sy'n cael eu hatal rhag cael eu datblygu gan resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.
Er mwyn cyflawni ein hamcanion polisi, gwyddom y bydd angen i ni ystyried yn ofalus sut y byddai treth o'r fath yn cael ei phennu a'i strwythuro, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio dull sy'n datgymell yr ymddygiadau nad ydym eu heisiau, heb greu canlyniadau anfwriadol. Ond, mae'n rhaid i'r pwerau ddod cyn y gellir ymgymryd â'r dyluniad polisi manwl. Mae'r diffyg cynnydd parhaus o ran datganoli pwerau newydd nid yn unig yn gwadu ysgogiad sylweddol i ni o ran diwallu'r angen am dai a chefnogi adfywio, mae'n awgrymu nad yw'r broses yn ymarferol. Ac eto, yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau i gyflwyno treth datblygu eiddo preswyl ledled y DU, a fydd yn cynnwys, o fewn ei chwmpas, trethu'r elw sy'n deillio o ddal gafael ar dir a nodwyd i'w ddatblygu.
Mae treth ar dir gwag yn dreth gul wedi'i thargedu. Mae'n cyd-fynd yn agos â chyfrifoldebau datganoledig, ac ni fyddai ganddi fawr o ryngweithio â meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Byddai'n berthnasol i dir yng Nghymru yn unig, ac ni fyddai disgwyl yn rhesymol iddi gael effaith sylweddol y tu allan i Gymru. Os na allwn sicrhau pwerau ar gyfer treth o'r fath, mae'n anodd credu y gallem ni sicrhau pwerau ar gyfer unrhyw dreth newydd o dan y broses bresennol. Pe bai Llywodraeth y DU yn cytuno i fwrw ymlaen â'n cais yn ysbryd yr hyn yr ydym ni wedi cytuno arno, gallem ni heddiw fod yn trafod a ddylid derbyn trosglwyddo pwerau, yn hytrach na pharhau i edifarhau am y diffyg cynnydd. Yn hytrach, mewn proses lle y gall Llywodraeth y DU ofyn am ragor o wybodaeth, mae'n rhaid i ni gwestiynu a yw'r broses honno'n addas i'r diben. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Peter Fox i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Peter Fox.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.
2. Yn cydnabod bod nifer o resymau pam y gallai datblygiadau newydd arafu, ac yn nodi pryderon y gallai treth ar dir gwag arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran argaeledd a fforddiadwyedd tir i'w ddatblygu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chynigion ar gyfer treth ar dir gwag, gan gynnwys asesiad llawn o'r effaith ar y sector tai.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag adeiladwyr tai, ac i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael ar hyn o bryd i adeiladu'r cartrefi fforddiadwy o ansawdd sydd eu hangen ar Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad, ond rwy'n cwestiynu pam mae'r Llywodraeth wedi defnyddio ei hamser seneddol i gyflwyno dadl ar ddatganoli trethi ymhellach ac i achosi rhaniad arall, mae'n debyg, rhwng Cymru a Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod yn sôn am ddatganoli, yn hytrach na sôn am y materion mawr sy'n wynebu pobl Cymru, gan edrych o'r tu allan ar ein hunain, bod ag obsesiwn ynghylch proses, yn hytrach na'r canlyniadau polisi a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i deuluoedd ledled y wlad.
Rydym ar adeg anodd yn adferiad Cymru o'r pandemig, ac rwy'n credu yn gryf y dylai adnoddau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio'n llwyr ar gyflawni blaenoriaethau'r bobl: swyddi a chodi gwastad yr economi, y GIG a chynorthwyo pobl ifanc i ddal i fyny â'u haddysg. Fe wnaethoch chi gydnabod heddiw, Gweinidog, fod Llywodraeth y DU—eich bod wedi bod mewn sgyrsiau â nhw. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod hynny. Fel y gwyddom, mae eich adroddiad polisi treth eich hun yn 2021-22, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn cydnabod cytundeb, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn awr, yng Nghydbwyllgor y Trysorlys yn 2021 y gellid symud cynigion ar gyfer y dreth ar dir gwag ymlaen i'r cam nesaf. Ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi gofyn am fwy o wybodaeth ers hynny ac mae hynny wedi gohirio'r broses hon, ac rwy'n cydnabod eich rhwystredigaeth yn yr oedi hwn heddiw, Gweinidog.
Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud mewn ymateb yw ei bod yn gwbl gywir bod pob ochr yn craffu'n llawn ar y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion ac nad ydyn nhw'n cael effaith negyddol ar farchnad fewnol y DU yn ogystal â'r sector adeiladu tai ac adeiladu ehangach. I ddefnyddio cyfatebiaeth adeiladu tŷ, Llywydd, ni fyddech yn symud i gartref newydd heb wirio ei fod wedi'i adeiladu'n briodol yn gyntaf a bod y strwythur yn ddiogel; rydych yn gofyn i syrfëwr chwilio am broblemau, yn gofyn i syrfëwr sicrhau bod y gosodiadau a'r ffitiadau fel y dylen nhw fod. Dyma y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, a dylid croesawu'r haenau ychwanegol o graffu ac ni ddylid eu hystyried yn rhwystr. Dyma'r peth, Gweinidog: rydych yn gofyn i Senedd Cymru gefnogi datganoli treth ar dir gwag yn y pen draw heb ddweud beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd. Aelodau, mae'r Gweinidog yn ceisio gwerthu tŷ i ni heb ganiatáu i ni edrych ar y cynlluniau yn gyntaf.
Felly, Gweinidog, sut olwg fyddai ar dreth ar dir gwag yng Nghymru, ac a ydych chi'n gwybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar adeiladwyr tai a'r diwydiant adeiladu ehangach? Llywydd, rwy'n deall yn fras yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ei gyflawni drwy gyflwyno treth dir wag, fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o resymau, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, ynghylch pam y gallai datblygiadau newydd arafu. Canfu ymchwil, o'r holl ddatblygiadau sydd wedi'u gohirio yng Nghymru, fod 13 y cant yn oedi oherwydd materion sy'n benodol i'r safle, fel amodau tir, materion ecolegol a llifogydd ac addasrwydd y tir ei hun, mae 6 y cant wedi'u hoedi oherwydd trafodaethau cynllunio, mae 6 y cant arall wedi'u hoedi oherwydd diffyg cyllid. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod 47 y cant o safleoedd dibreswyl wedi'u hoedi wedi dod i ben oherwydd trafodaethau cynllunio, ac mae'r rhain yn faterion na fyddai'n cael eu datrys gan dreth ar dir gwag.
Bu rhai datblygiadau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r materion hyn yng Nghymru, er enghraifft, cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru y gronfa safleoedd segur, a byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r gronfa hon ac a fydd mentrau o'r fath yn cael eu hymestyn. Hefyd, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd, yn y cyfamser, wedi cyhoeddi cronfa o £45 miliwn i roi hwb i adeiladu tai yn yr ardal ar ôl iddi ganfod bod 55 y cant o safleoedd wedi'u gohirio yn cael eu hoedi gan bethau fel cost adfer a chael gwared ar lygryddion o'r tir. Mae ystod eang o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw yma, Gweinidog, ac felly byddwn yn croesawu mwy o fanylion am sut yr ydych yn cydweithio ag adeiladwyr tai i'w helpu i oresgyn heriau a brofwyd yn ystod y broses ddatblygu, yn hytrach na'u llesteirio ymhellach drwy osod treth newydd ar ddatblygu. Hefyd, sut mae Llywodraeth Cymru yn diwygio'r broses gynllunio fel ei bod yn fwy hyblyg ac ymatebol i anghenion lleol?
Ac yn olaf, gan droi at thema gyffredinol y ddadl heddiw, datganoli trethi, hoffwn ailddatgan safbwynt polisi maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig sef dim trethi newydd. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau i godi'r gwastad ledled y wlad ac i fynd i'r afael â materion hirsefydlog yng Nghymru o'r diwedd. Ac eto, o ran cyflawni, yn aml nid yw Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi cael fawr ddim i'w ddangos am eu hymdrechion. Mae cynigion ar gyfer treth ar dir gwag yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru lawer o'r dulliau sydd eu hangen eisoes i ddarparu'r tai sydd eu hangen ar deuluoedd Cymru. Gweinidog, pam ddylai pobl Cymru gredu mai Llywodraeth yw hon a fydd yn un sy'n gweithredu ac nid yn un o ddiffyg gweithredu? Nid wyf yn argyhoeddedig o hyd ynghylch yr angen am dreth ar dir gwag yng Nghymru, yn enwedig o ystyried yr ystod eang o faterion sy'n llesteirio adeiladu tai na fyddai treth ar dir gwag yn ei datrys. Gyda hyn mewn golwg, Llywydd, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod cynnig y Llywodraeth a chefnogi ein gwelliant ni. Diolch yn fawr.
Mae yna ddau ran i'r cynnig yma sydd ger ein bron ni: yn gyntaf, potensial y dreth ar dir gwag, ac yn ail, wedyn, diffygion y protocol. Ar yr elfen gyntaf, dwi'n meddwl bod yna ddadleuon cryf o blaid ystyried cyflwyno treth ar dir gwag. Mi fyddai fe, wrth gwrs, yn helpu i daclo sefyllfaoedd lle mae datblygwyr mawr yn camddefnyddio'r system er mwyn chwyddo elw ar draul cymunedau. Mi ddywedodd Peter Fox bod angen canolbwyntio ar wella bywydau pobl ac nid obsesiynu gyda phroses. Wel, os felly, rhowch y grymoedd i Lywodraeth Cymru i gael bwrw ymlaen â'r gwaith yna, oherwydd mae'r arfer yma o fancio tir yn anfoesol ac yn anghywir, ac mae'n berffaith iawn bod y Senedd yma yn gofyn am hawliau i fedru mynd i'r afael â hynny'n effeithiol. Mae yna dreth debyg eisoes yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon, sef ardoll ar safleoedd gwag. Ac mae angen pŵer tebyg fan hyn er mwyn helpu yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r crisis tai yng Nghymru.
Wedi dweud hynny, mae yna gwestiynau wrth gwrs o hyd sydd angen eu hateb cyn y byddai treth o'r fath yn cael ei chyflwyno. Mae angen sicrhau bod y dreth yn targedu datblygiadau sydd wedi eu gohirio'n fwriadol, ac nid, wrth gwrs, yn effeithio ar rai sydd wedi methu â symud ymlaen am resymau cwbl ddilys. Mae yna pros ac mae yna cons, ond mater i'r Senedd yma yw trafod a mireinio'r dadleuon hynny, oherwydd materion gweithredol yw'r rheini—ystyriaethau sy'n dod ar ôl y drafodaeth lefel uwch, rhynglywodraethol ar yr egwyddor o ddatganoli neu beidio â datganoli. A dyma ni'n dod at ail ran y cynnig.
Mae methiant y protocol presennol yn amlwg i bawb ei weld. Mae wedi'i gymharu nifer o weithiau, on'd yw e, â'r hen Orchmynion cymhwysedd deddfwriaethol, a oedd yn bla ar y Senedd yn ôl ar ddiwedd y 2000au. Fe'u disodlwyd yn gyflym iawn oherwydd pryderon ynghylch cymhlethdod y trafodaethau sy'n gysylltiedig â'r rheini, a dylid ymdrin â'r trefniant hwn hefyd mewn ffordd debyg. Mae'r protocolau wedi methu ar y rhwystr cyntaf, yn fy marn i. Dyma'r tro cyntaf i'r rhain gael eu profi, a dangoswyd eu bod yn ddiffygiol a'u bod yn methu. Ac, a dweud y gwir, mae'r Trysorlys yn ceisio mynd yn rhy ddwfn i faterion gweithredol yn hytrach na'r egwyddorion lefel uwch o ble y dylai'r pwerau hyn fod. Wrth gwrs, maen nhw'n fwriadol yn gwneud y broses yn ddiangen o gymhleth ac yn rhy hir, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod beth yw barn y Llywodraeth bresennol hon yn San Steffan am ddatganoli unrhyw bwerau neu gyfrifoldebau pellach i Gymru.
Yn ystod fy nghyfnod yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, gwelais sut yr aeth Llywodraeth Cymru i drafferthion sylweddol i nodi'r rhesymeg dros y dreth ar dir gwag, ond mae ond yn achos arall o Gymru yn cyflawni ei rhan hi o'r fargen a San Steffan yn methu â chyflawni eu un nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir; nid yw'r broses hon yn addas i'r diben, a chraidd y broblem, wrth gwrs, yw mai Llywodraeth y DU yw canolwr terfynol ei phenderfyniadau ei hun. Rhoddodd yr Athro Gerry Holtham dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, a dywedodd
'mae'r barnwr a'r rheithgor a'r tystion i gyd yn un person, ac felly mae ychydig yn aneglur sut i fwrw ymlaen. Os yw Llywodraeth Prydain yn dweud "na", beth ydych chi'n ei wneud bryd hynny, hyd yn oed os yw eich cais yn gwbl resymol? Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth, fel llawer o bethau yng nghyfansoddiad Prydain, a fyddai'n elwa ar ychydig mwy o eglurder ac efallai ychydig mwy o godeiddio'.
Mae'r Gweinidog wedi dweud bod achos dros ryw fath o asesiad trydydd parti o'r wybodaeth, rhyw fath o farn annibynnol a goruchwyliaeth ohono. Wel, os ydym ni eisiau cadw at y protocol hwn, yna mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynnu arno, oherwydd mae'r cydbwysedd o blaid Llywodraeth y DU fel y mae pethau. Nawr, mae ychydig fel fy groser lleol yn dweud wrthyf na wnaiff e werthu wyau i mi oni bai fy mod yn dweud wrtho a ydw i'n mynd i'w berwi, eu sgramblo neu'n eu potsio. Mae'n eithaf rhyfedd, on'd yw e, mewn gwirionedd?
Yn y bôn, mae hwn yn fater o gymhwysedd, nid yn fater polisi. Gwelsom yn y Senedd ddiwethaf na wnaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid, gan wrthod ymddangos o'i flaen ac rwy'n gwybod bod y teimladau hynny'n dal yno. Y gwir yw, nid oes gan Lywodraeth San Steffan unrhyw fwriad o gwbl o ddatganoli unrhyw bwerau eraill yn y maes hwn nac unrhyw faes arall i Gymru. Yn wir, mae bwriad Llywodraeth y DU yn eithaf clir, on'd yw e? Maen nhw'n cymryd popeth yn ôl drwy ddeddfwriaeth, Deddf y farchnad fewnol, rydym wedi cael cyfeiriadau at y llu o memoranda cydsyniad deddfwriaethol sydd bellach yn dod ger ein bron ar gyfradd ddigynsail. Mae eironi yma, wrth gwrs: Llafur sy'n cyflwyno'r cynnig hwn, pan wrth gwrs y Gweinidog Llafur, Mark Drakeford, y Gweinidog cyllid ar y pryd, a gytunodd ar y protocol hwn gyda Llywodraeth y DU. Felly, gobeithio nawr eich bod yn sylweddoli nad yw San Steffan eisiau i'r protocol hwn weithio. Mae'n llanast; mae'n ddull, nid i hwyluso cynnydd, ond i rwystro cynnydd, ac wrth gwrs mae'n gweithio. Felly, gorau po gyntaf y cawn ein rhyddhau o gefynnau San Steffan sy'n dal Cymru yn ôl.
Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn ni gael yr un ansawdd o wasanaethau cyhoeddus â Sgandinafia pan fo ein system drethu yn debycach i'r un yn UDA. Mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cynyddu unrhyw drethi neu gyflwyno trethi newydd. Mae angen dadl ar ba wasanaethau cyhoeddus sydd gennym a sut i dalu amdanyn nhw. Pan edrychwch chi ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi mewn persbectif y gwerth am arian a gawn o'n system drethu. Nid ar hap neu serendipedd y mae gan y gwledydd hynny sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau a'r rhai sydd â'r lefelau treth isaf y gwaethaf. Y rheswm am hynny yw bod angen trethiant i godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen arnom ni i gyd, gwasanaethau fel y ffyrdd yr ydym ni'n teithio arnyn nhw, diogelwch pobl yn y gwaith, diogelwch bwyd, addysg a'r gwasanaeth iechyd—y mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw—plismona ein strydoedd; trethiant sy'n talu am bob un o'r rhain. Os yw pobl eisiau gwasanaethau cyhoeddus o safon, yna mae angen trethi i dalu amdanyn nhw.
Er nad oes unrhyw un yn hoffi talu trethi, mae rhai unigolion cyfoethog a chwmnïau rhyngwladol yn arbenigwyr ar leihau eu taliadau treth. I gwmni rhyngwladol, mae treth gorfforaethol yn daliad dewisol y gellir lleihau ei werth gan bethau fel taliadau o fewn y cwmni, talu am hawliau eiddo deallusol, trosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu symud y pwynt gwerthu y tu allan i Brydain. Mae pob un yn sicrhau bod elw busnes yn digwydd mewn gwlad dreth isel neu ddim treth. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon yn golygu, os nad yw rhai pobl yn talu treth neu eu cyfran deg o dreth, yna naill ai mae gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef, neu bydd yn rhaid i eraill fel ni dalu mwy.
Bob tro y gwneir toriadau treth, dangosir nhw fel rhai sy'n fuddiol—mae'n ymddangos eu bod yn fuddiol i'r rhai hynny sy'n talu llai o dreth ac sydd â mwy o arian yn eu poced. Mae'r effaith y mae cyflwyno toriadau treth incwm y Llywodraeth yn ei gael ar wariant cyhoeddus, ar wasanaethau fel iechyd, llywodraeth leol ac addysg yn cael ei hanwybyddu'n llwyr nes bod y toriadau'n dechrau effeithio ar bobl. Y mwyaf anodd yw'r dreth i'w hosgoi, y mwyaf amhoblogaidd ydyw gyda'r cyfoethog a'r pwerus. Y trethi anoddaf i'w hosgoi o bell ffordd yw'r trethi eiddo, ardrethi annomestig a'r dreth gyngor. Mae treth ar werth tir yn dreth fel y rheini. Nid oes unrhyw driciau fel trafodiadau cwmni mewnol neu fod â statws byw tu allan i'r wlad er mwyn osgoi talu'r dreth; nid oes modd symud y tir, ac mae'r dreth yn dod yn rhwymedig a rhaid ei thalu.
Mae sawl ffordd o godi trethi, ac er bod treth gwariant fel TAW, mae'r hyn yr wyf i'n ei dalu ar eitem yr un fath ag unrhyw un arall sy'n byw ym Mhrydain Fawr, nid yw hyn yn wir am dreth ar incwm, er enghraifft. Cymerwch rywun sy'n ennill £30,000 y flwyddyn, yna os ydyn nhw o dan oedran ymddeol, maen nhw'n talu treth incwm ac yswiriant gwladol. Pan fydd y person hwnnw'n cyrraedd oedran ymddeol, ni fydd yn talu yswiriant gwladol. Mae myfyriwr newydd raddio ar yr un incwm yn talu benthyciad myfyriwr yn ôl yn ogystal â threth incwm ac yswiriant gwladol. Bydd rhywun sy'n derbyn ei incwm drwy ddifidend yn talu cyfradd dreth o 7.5 y cant ar incwm dros £2,000. Mae hyn i mi yn ymddangos yn annheg iawn.
Yr hyn sydd angen i dreth fod yw teg ac anodd ei hosgoi. Mae treth ar dir gwag yn bodloni'r gofyniad hwn. Rwy'n credu hefyd fod y Llywodraeth yn cydnabod y potensial i dreth ar dir gwag yng Nghymru gyfrannu at gynyddu'r cyflenwad tai a dod â thir segur yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Mae gormod o dir y gellid ei ddefnyddio yn cael ei fancio ar gyfer y dyfodol. Bydd treth ar dir gwag yn berthnasol i dir sydd wedi cael yr holl ganiatâd cynllunio angenrheidiol, a chaniatâd arall i'w ddatblygu, ond lle na fu unrhyw ddatblygiad. Bydd y dreth yn berthnasol i bob perchennog tir o ddatblygiad eiddo masnachol a phreswyl, datblygwyr preifat, ond hefyd awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac ie, Llywodraeth Cymru ei hun. Os oes rhesymau dilys dros y diffyg datblygiad sydd y tu allan i reolaeth y perchennog tir, ni fyddai'r dreth yn berthnasol. Mae treth ar werth tir wedi'i disgrifio fel y dreth berffaith, ac mae effeithlonrwydd economaidd treth ar werth tir wedi bod yn hysbys ers y ddeunawfed ganrif. Mae'n ddigon posibl y bydd un o'r prif Geidwadwyr, Jacob Rees-Mogg, sy'n credu ein bod yn dal i fod yn y ddeunawfed ganrif, yn derbyn hynny fel rhywbeth sy'n ddefnyddiol. Mae treth ar werth tir yn dreth flaengar gan fod y baich treth yn disgyn ar ddeiliad y teitl yn gymesur â gwerth y lleoliad, ac mae cysylltiad mawr rhwng perchnogaeth y rhain a chyfoeth ac incwm cyffredinol.
Ni fyddai hyn yn unigryw i Gymru. Rwy'n credu weithiau fod Llywodraeth Cymru yn dweud yn aml, 'Dyma Gymru yn arwain y ffordd', ac mae'r Ceidwadwyr yn dweud, 'Mae'n arbrofol'. Byddai'r ddau yn anghywir. Byddai tir—[Torri ar draws.]. Mae'n ddrwg gen i, fe wnaf i ildio, Peter.
Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle. Nid rhywbeth y mae Cymru yn unig wedi'i ystyried yw hyn. Edrychodd Trysorlys Seland Newydd ar hyn a daeth i'r casgliad bod y dreth yn afresymol o gymhleth i'w chynllunio, ac fe wnaethon nhw ddweud bod y comisiwn wedi awgrymu'n flaenorol y gallai treth ar dir gwag leihau'r cyflenwad tai yn y tymor hirach, a bod y dreth yn cymell perchnogion tir i adeiladu anheddau yn gynharach nag y bydden nhw fel arall. Mae wedi dangos nad yw'r dreth tir yn gweithio mewn rhai gwledydd ac nid ydym ni eisiau ailadrodd hynny yma, Mike.
Diolch, Peter Fox. Rydych wedi crybwyll un wlad—a gaf i daflu rhai eraill yn ôl atoch chi? Denmarc, Estonia, Lithwania, Rwsia, Singapore a Taiwan, rhai rhanbarthau o Awstralia, Mecsico, taleithiau unigol Unol Daleithiau America. Mae treth ar werth tir yn dileu'r cymhelliad ariannol i ddal gafael ar dir na chaiff ei ddefnyddio er mwyn iddo godi mewn gwerth yn unig. Nid yw pris gwerthu nwyddau pan fyddan nhw'n sefydlog o ran cyflenwad, fel tir, yn newid os caiff ei drethu. Nid yw'n costio unrhyw beth i storio tir, nid yw'n mynd i unrhyw le, a bydd bron yn sicr yn cynyddu mewn gwerth gydag amser. Rwyf yn llwyr gefnogi cyflwyno treth ar werth tir yng Nghymru. Mae'n ffordd dda o godi arian er budd pobl Cymru.
Wythnos arall yn y Senedd ac unwaith eto'r un hen Llafur Cymru—mwy o ddadleuon am bwerau ac eisiau mwy o ddatganoli i godi trethi, a fydd yn y pen draw yn brifo pobl Cymru sy'n gweithio'n galed. Un peth yr wyf i wedi'i ddysgu ers dod yn Aelod o'r Senedd yw nad yw Llywodraeth Cymru wir eisiau mynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu ein gwlad, ac maen nhw eisiau defnyddio'r amser gwerthfawr hwn i drafod materion cyfansoddiadol. Nid yw pobl Cymru yn ffyliaid. Maen nhw'n gweld eich bod chi'n cael trafferth datrys y problemau enfawr y mae Cymru'n eu hwynebu, ond maen nhw eisiau i chi fod yn onest a chymryd cyfrifoldeb a mynd i'r afael â nhw. Economi Cymru—mae Cymru wedi bod â'r cynnyrch domestig gros isaf o holl wledydd Prydain Fawr yn gyson. GIG Cymru—un o bob pump o bobl ar restr aros. Ac a wyddoch chi, rydych chi'n methu â chyrraedd targedau tai ar hyn o bryd, ac ni fydd treth ar dir gwag yn gweithio, fel y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi sôn. Mae'n gymhleth iawn ac yn anodd iawn ei gyflwyno.
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o'r ffordd y mae'r weinyddiaeth Lafur hon yn methu, ond yr hyn yr ydym ni eisiau eich gweld chi yn ei wneud yw bwrw ymlaen â phethau. Nid yw'r holl sgwrsio cyfansoddiadol hwn yn helpu'r wlad hon. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y Llywodraeth wedi rhedeg allan o syniadau. Rydych chi'n rhedeg i ffwrdd o'r materion mawr, ac os na allwch chi ddangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen ar y wlad, rwy'n awgrymu eich bod yn camu o'r neilltu ac yn gadael i eraill roi cynnig arni. Mae angen mwy o dai arnom ni yng Nghymru, ond yn hytrach na galw am fwy o bwerau codi trethi o San Steffan, adeiladwch mwy o gartrefi gyda'r pwerau sydd ar gael i chi ar hyn o bryd. Rydych chi'n ei chael hi'n anodd mynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi cael dros 15 o ddadleuon a datganiadau gan y Llywodraeth ar faterion cyfansoddiadol. Rydych yn osgoi'r materion gwirioneddol sy'n wynebu Cymru. Mae meddwl am y Llywodraeth hon â mwy o bŵer dros drethi yn gyrru ias i lawr fy nghefn ac allan o'm hesgidiau. Ni allwch redeg Cymru gyda'r pwerau sydd gennych ar hyn o bryd, ac nid ydych yn adeiladu'r tai sydd eu hangen arnom ni ar hyn o bryd i ateb y galw. Ar yr un pryd, nid yw pethau'n gwella, maen nhw'n gwaethygu, ac os na allwch chi gymryd y camau gwirioneddol sydd eu hangen i gael ein gwlad yn ôl yn llwyddiannus, awgrymaf fod Llafur yn camu o'r neilltu ac yn gadael i'r Ceidwadwyr Cymreig roi cynnig ar redeg ein gwlad.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sydd nesaf, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Mae pwerau codi treth, gan gynnwys y gallu i greu trethi newydd, yn arfau hanfodol i lywodraethau eu defnyddio fel ffordd o godi refeniw i gefnogi gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddylanwadu ar newid ymddygiad. Mae Deddf Cymru 2014 wedi datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd am y tro cyntaf, gan gynnwys rhoi pwerau trethu i gymryd lle treth dir y dreth stamp, treth tirlenwi, yn ogystal â'r gallu i amrywio cyfraddau treth incwm Cymru. Mae'r pwerau cyllidol ychwanegol hyn yn golygu bod tua 20 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei hariannu o refeniw treth. Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru—yn amlwg, datblygiad i'w groesawu.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog Cymru wrth y pwyllgor ei bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau datganoli treth ar dir gwag, ond bod y broses wedi bod yn cymryd llawer o amser ac maen nhw'n rhwystredig, gyda thrafodaethau eisoes wedi cymryd dros ddwy flynedd. Mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw at yr heriau gan Drysorlys EM yn gofyn am ragor o wybodaeth yn barhaus ac mae wedi dweud o'r blaen mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr terfynol o ran a oes digon o wybodaeth wedi'i darparu i gefnogi cynnig.
Mae'r Gweinidog wedi sôn am fynd ar drywydd datrys anghydfodau annibynnol ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â'r dreth ar dir gwag ai peidio, fel y nodir yn Neddf Cymru 2014. Dyma'r ymgais gyntaf i geisio cymhwysedd ar gyfer treth newydd ac, o ganlyniad, mae'n rhesymol disgwyl problemau cychwynnol wrth i'r broses gael ei datrys. Fodd bynnag, mae'n annhebygol mai'r bwriad yn Neddf Cymru oedd y byddai'r broses hon yn cymryd cyhyd, ac yn bwrw amheuaeth ynghylch a yw'r dull ar gyfer datganoli trethi yn addas i'r diben. Fel y bydd aelodau o'r drydedd Senedd yn cofio, rwy'n siŵr, mae ganddo adleisiau anffodus o'r system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol arteithiol o ddatganoli cymhwysedd deddfwriaethol yn dameidiog, a oedd yn ychwanegu lefel ychwanegol o gymhlethdod a biwrocratiaeth at broses sydd eisoes yn hirfaith. Dydw i ddim yn dychmygu y byddai unrhyw un yn hoffi dychwelyd i'r dyddiau hynny.
Yn y Senedd flaenorol, roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd yn amharod i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014. Fodd bynnag, roedd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol a phan ofynnwyd iddo am y dull ar gyfer datganoli trethi newydd dywedodd
'pe byddai pryder dilys yn cael ei godi ynghylch cyflymder cynnydd neu'r dull o ymgysylltu', byddai'n hapus iawn i drafod y mater gyda'r Trysorlys. Rydym yn croesawu'r dull gweithredu yn fawr, ac yn gobeithio y bydd y Prif Ysgrifennydd newydd yn fwy parod na'i ragflaenydd i fwrw ymlaen â datganoli'r dreth hon gyda'r Gweinidog. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn fwy parod i ymgysylltu â ni fel pwyllgor, a chymryd rhan yn y gwaith o graffu ar bwerau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau treth a materion cyllidol eraill.
Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod proses effeithiol ar gyfer datganoli meysydd treth newydd i'r Senedd hon. Yr hyn y mae ar bawb ei eisiau yw proses llyfn a thryloyw, a dim ond os yw'r strwythurau i'w gefnogi yn glir, yn gadarn ac yn gydnerth y gellir cyflawni hynny. Diolch.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld bancio tir a chefnu ar safleoedd tir llwyd sydd â defnyddiau diwydiannol blaenorol ar gyfer tir gwyrdd haws ei ddatblygu. Mae'r safleoedd tir llwyd yn achosi problemau wedyn i'r gymuned leol. Mae gan rai adeiladau peryglus, coed anniben a ffensys wrth ymyl y priffyrdd ac eiddo preifat. Mae dŵr ffo a halogiad i ddraeniau priffyrdd yn gwneud i gymuned ymddangos nad yw'n cael ei gofalu amdani. Maen nhw'n safleoedd delfrydol ar gyfer datblygu tai, a fyddai'n gwella hyfywedd, cynaliadwyedd a lles cymunedau.
Os yw safle tir llwyd neu safle maes glas wedi'i gynnwys mewn cynllun datblygu, mae'n cynyddu ei werth. Pan fydd ganddo ganiatâd cynllunio, gall wedyn gynyddu bedair neu bum gwaith cost wreiddiol y tir hwnnw. Byddai cyflwyno treth ar dir gwag i'r rhai sydd â safleoedd sydd wedi'u dyrannu a/neu ganiatâd cynllunio, ac sydd wedi oedi, yn helpu i ysgogi eu datblygu, ac yn eu gwneud yn fwy o flaenoriaeth. Yna gellid defnyddio'r dreth i dalu am weinyddu a hyfforddi mewn awdurdodau cynllunio sydd â gormod o lwyth gwaith. Gallai fod yn rhan o becyn o fesurau eraill, fel lleihau neu hepgor cyfraniadau 106, os yw'n safle tir llwyd.
Ac mae'n bryd, rwy'n meddwl, ein bod ni'n symud ymlaen gyda hyn ac yn dechrau defnyddio'r holl safleoedd tir llwyd a ddyrannwyd. Diolch.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans.
Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn, ac fe wnaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd swyddogaeth Trysorlys EM wrth asesu a chraffu ar ein cais, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw gynnig ar gyfer trethi datganoledig newydd yn cael effeithiau anfwriadol neu annymunol ar gydlyniant system dreth y DU yn gyffredinol.
A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud yn llawn ac yn agored â swyddogion Trysorlys EM dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan roi nifer o ddogfennau i Lywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir yn y papur gorchymyn, gan gynnwys y senarios lle mae treth yn debygol o fod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, pwy fyddai'r targed a fwriedir ar gyfer unrhyw dreth, rhyngweithiadau posibl â threthi datganoledig a threthi a gadwyd yn ôl, seiliau treth a refeniw treth, ac effeithiau ar system dreth y DU ar gyfer datganoli'r pŵer hwn. Arweiniodd y gwaith hwn at bapur ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Trysorlys EM, gan argymell bod y deunydd a ddarparwyd hyd yma yn sail i Lywodraeth Cymru ysgrifennu'r cais ffurfiol hwnnw i Lywodraeth y DU.
Felly, pan gyfarfûm ag Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd, yn ôl ym mis Chwefror, yr oedd ar y ddealltwriaeth bod digon o wybodaeth wedi'i darparu gan Lywodraeth Cymru a bod Trysorlys EM yn fodlon i'n cynnig fynd ymlaen i gam nesaf y broses, a fyddai wedi'i gytuno rhwng ein dwy Lywodraeth i ddatganoli'r pwerau newydd. Ac ni wnaeth Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd nodi ei fod o'r farn nad oedd y cynigion wedi'u datblygu'n ddigonol i symud ymlaen, ac nid wyf yn glir o hyd pa bryderon penodol sydd wedi codi rhwng mis Chwefror a nawr a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddychwelyd i ddechrau'r broses. Paratowyd Gorchymyn drafft y Cyfrin Gyngor, yn ogystal â memorandwm esboniadol, a oedd yn dangos sut y byddai'r wybodaeth a ddarparwyd yn cefnogi hynt y Gorchymyn drafft drwy Senedd y DU a'r Senedd hon. A fy ngobaith i yw y bydd Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys yn cael ei gysuro gan lefel y manylion yr ydym ni eisoes wedi'u darparu, ac yn cydnabod ein bod, drwy gydol y broses hon, wedi bod yn fwy na pharod i ddarparu cymaint o fanylion ag y gallem ni.
Ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru ar sut y byddai unrhyw dreth ar dir y nodwyd ei bod yn addas i'w datblygu yn y dyfodol yn gymwys yng Nghymru. Ac, fel yr ydym wedi'i amlinellu droeon, bydd y gwaith polisi manwl hwn yn digwydd ar ôl i'r dreth gael ei ddatganoli i Gymru a bydd yn dilyn proses briodol drwyadl yma yng Nghymru. Ac mae llawer o'r cyfraniadau o feinciau'r Ceidwadwyr heddiw wedi bod yn ymwneud â phriodoldeb y dreth, a dymunoldeb y dreth, ac mae'n gwbl briodol bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal yma a bod y gwaith craffu'n cael ei wneud yma yn y lle hwn, ac mae hynny, rwy'n credu, yn greiddiol i bwynt y ddadl hon heddiw. Os gallwn ni symud ymlaen i gam nesaf y broses ac mae ymgynghoriad yn y DU yn tynnu sylw at unrhyw senarios neu faterion allweddol nad ymdrinnir â nhw yn yr wybodaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, yna wrth gwrs mae fy swyddogion a minnau wedi ymrwymo i weithio gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU ddigon o fanylion i lywio asesiad ystyriol. Ond, mewn gwirionedd, heb unrhyw symudiad brys, mae gwir angen adolygiad o'r broses.
Felly, gan siarad yn fwy cyffredinol, rwy'n credu bod y Llywodraeth Llafur Cymru hon wedi profi y gellir ymddiried ynddi ar dreth. Mae ein penderfyniadau'n seiliedig ar set gref o egwyddorion treth, sef y dylai ein trethi ni yma yng Nghymru godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl, cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig cefnogi swyddi a thwf, bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml, cael eu datblygu drwy gydweithio ac ymglymiad, ac wrth gwrs cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Ac mae'r egwyddorion hynny wedi'u hamgylchynu gan ein fframwaith polisi treth, a ddatblygir ar y cyd â rhanddeiliaid, ac mae llawer o waith yn mynd rhagddo i ddatblygu hynny drwy gydol y flwyddyn drwy wahanol fathau o ymgysylltu â phobl sydd â buddiant. A hefyd, mae gennym 20 mlynedd o brofiad yma o ran gwneud trethiant lleol. Rydym wedi gweithio i wneud y dreth gyngor yn decach ac rydym wedi gwneud cynnydd da iawn o ran hynny—dileu'r bobl ifanc sy'n gadael gofal o faich y dreth gyngor er enghraifft, a sicrhau ein bod yn dileu'r gosb o garchar i bobl nad ydynt yn talu, nad ydynt yn gallu talu, eu treth gyngor, oherwydd, wrth gwrs, ni ddylid ystyried ei fod yn drosedd. O ran cyfraddau treth incwm Cymru, gwnaethom gadw ein haddewid drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Ni wnaethom godi cyfraddau treth incwm Cymru. Ac rydym wedi addo yn y Senedd hon i beidio â chynyddu baich cyfraddau treth incwm Cymru ar deuluoedd a phobl yma yng Nghymru cyhyd ag y teimlir effeithiau economaidd y pandemig, a byddwn yn cadw'r addewid hwnnw. Cymharwch a gwrthgyferbynnwch hynny â'r dull gweithredu dros y ffin, wrth gwrs, gyda'r cynnydd diweddar mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a wnaed heb unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o'r effaith amrywiol y byddai'n ei chael, felly ni allaf gymryd unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw y prynhawn yma.
O ran treth trafodiadau tir, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol yma yng Nghymru ac rydym wedi gwneud y penderfyniadau sy'n iawn i Gymru. Felly, yng Nghymru, cawsom y rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ac yn hytrach darparwyd rhyddhad ar gyfer pob prif eiddo preswyl hyd at £180,000, ac mae hynny'n agos at bris cyfartalog tai yma yng Nghymru, sy'n golygu bod gennym system lawer mwy priodol yma ar gyfer ein marchnad dai a hefyd un sy'n fwy blaengar. Ac ym mis Rhagfyr, byddwch yn cofio i ni gyhoeddi gostyngiad o 1 pwynt canran yn y cyfraddau treth trafodiadau tir dibreswyl i helpu busnesau drwy'r pandemig a hefyd, ychwanegwyd 1 pwynt canran ychwanegol at gyfraddau uwch treth trafodiadau tir. Ac, wrth gwrs, nid oeddem yn cynnwys landlordiaid prynu i osod na phrynu ail gartref yn ein gwyliau treth yn ystod y pandemig a ni oedd yr unig ran o'r DU i wneud y penderfyniad hwnnw.
Ac yna, o ran treth gwarediadau tirlenwi, rydym wedi gweld cyfleoedd penodol i ni yng Nghymru a ni oedd y cyntaf i gyflwyno'r band gwastraff anawdurdodedig ac, wrth gwrs, mae rhannau eraill o'r DU bellach yn dilyn hynny. Ac yna, hoffwn bwysleisio fy mod yn wirioneddol falch o Awdurdod Cyllid Cymru a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran casglu ein trethi Cymreig. Unwaith eto, mae hyn yn destun balchder arbennig i ni o ran ansawdd y gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu a'r berthynas wahanol yr ydym yn ei sefydlu yma yng Nghymru gyda threthdalwyr.
Felly, i gloi, Llywydd, mae gennym yr egwyddorion, mae gennym y fframwaith, mae gennym yr ymgysylltiad â rhanddeiliaid, mae gennym y profiad ac mae gennym hanes profedig ym maes trethi, sy'n dangos y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Llafur Cymru hon ar dreth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Do, fe wnes i roi dipyn o amser i chi yn y fan yna [Chwerthin.]
Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn ni nawr yn cymryd toriad wrth baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio.