– Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl gweithwyr gofal iechyd. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7791 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â'r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi diolch iddynt; rydym wedi eu cymeradwyo; rydym wedi dod i'w gwerthfawrogi yn fwy nag erioed efallai dros y 18 mis diwethaf. Ond ar ôl aberthu cymaint, mae gweithwyr iechyd a gofal y GIG ledled Cymru yn haeddu cael eu gwobrwyo’n iawn ac yn deg drwy eu cyflog. Y peth lleiaf y credwn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw sefyll ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ac ymrwymo i godiad uwch na'r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, nad yw, wrth gwrs, yn cadw i fyny â chwyddiant hyd yn oed. Dyna pam ein bod yn cynnal y ddadl hon heddiw.
Yr hyn a wnaeth profiadau'r pandemig wrth gwrs oedd atgyfnerthu'r hyn a wyddem eisoes am y GIG a'r gweithlu iechyd a gofal—gweithlu a oedd yn dioddef oherwydd prinder staff a morâl isel, a oedd yn gweithredu mewn amgylchedd heb ddigon o fuddsoddiad ac adnoddau. Nawr, ychwanegwch doriad cyflog mewn termau real at hynny, ac nid oes unrhyw ryfedd fod cymaint o weithwyr iechyd a gofal wedi pleidleisio drwy eu hundebau a’u cyrff cynrychioliadol i fynegi eu dicter ynglŷn â'r hyn a roddwyd iddynt.
Ers pa bryd y mae Llywodraeth Cymru yn efelychu'r hyn a welsom gan Lywodraeth y DU, a gynigodd, wrth gwrs, yn gyntaf oll, y cynnig gwarthus hwnnw o 1 y cant, cyn ei gynyddu wedyn i 3 y cant? Credwn y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy na hynny. 'Nid yw arian yn tyfu ar goed', meddai'r Prif Weinidog. Mae'n llygad ei le, wrth gwrs, ond credaf y byddai methu buddsoddi, cefnogi, denu a chadw staff—y staff gorau, y mae eu hangen arnom—mewn iechyd a gofal yn creu perygl o ddinistrio unrhyw obaith o dwf, o forâl mewn iechyd a gofal, ac o feithrin y staff y dylem fod yn eu trysori.
Mewn arolwg diweddar, nododd aelodau o Gonffederasiwn GIG Cymru mai recriwtio a chadw'r gweithlu yw un o'r prif heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod gyrfaoedd yn y GIG yn parhau i fod yn gynnig deniadol, er mwyn sicrhau bod y gweithlu'n parhau i fod yn awyddus i ddarparu gofal o fewn y GIG, a gallu fforddio gwneud hynny, mae angen i'r gweithlu wybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae cyflog teg yn ganolog i hynny.
Yn ystod y pandemig, darparodd y gweithlu nyrsio yng Nghymru ofal clinigol cymhleth bob dydd—gan ddangos arweinyddiaeth; gan roi cymorth tosturiol i gydweithwyr, i gleifion a'u teuluoedd. Mae'n wir fod gweithwyr gofal iechyd bob amser wedi darparu'r lefel honno o ofal ac ymroddiad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Ond ni allwn gymryd hynny'n ganiataol. Mae angen inni gydnabod bod prinder cronig o staff yng ngweithlu Cymru. Mae'n methu denu digon o unigolion i'r proffesiynau gofal iechyd; yn methu annog staff gofal iechyd i aros. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r prinder presennol yn y gweithlu a sicrhau bod y proffesiynau gofal iechyd yn opsiwn gyrfa deniadol—yn un sy'n talu'n dda ac wedi'i gefnogi'n ystyrlon. Mae cyflog teg yn ganolog i hynny.
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi arwain y frwydr i sicrhau bod nyrsys yng Nghymru'n cael cyflog sy'n cydnabod eu cyfraniad i gymdeithas, nid i'r GIG yn unig. Drwy gydol y pandemig, mae pob un ohonom wedi bod yn dyst i nyrsio ar ei fwyaf trawiadol—hynod drawiadol—ac wedi gweld, yn gwbl gywir, ei fod yn broffesiwn medrus iawn, sy'n haeddu cyflog teg, ac mae arnom ddyled enfawr i'r proffesiwn nyrsio, fel i weithwyr eraill ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal. Ond erbyn hyn, maent yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a phwy all eu beio?
Mae undebau a chyrff cynrychioliadol wedi cynnal ymgynghoriadau cyflog. Canfu ymgynghoriad cyflog gan Unsain Cymru fod 87 y cant o weithwyr gofal iechyd wedi pleidleisio i wrthwynebu'r cynnig; mae aelodau'r GIG o undeb Unite Cymru wedi pleidleisio i wrthod eu codiad cyflog o 3 y cant; dywedodd 93.9 y cant o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a bleidleisiodd eu bod yn credu bod y dyfarniad cyflog yn annerbyniol, gyda 6.1 y cant yn unig yn dweud ei fod yn dderbyniol. Y prynhawn yma, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi penderfynu cynnal pleidlais ddangosol ar weithredu diwydiannol yn Lloegr, gyda disgwyl i benderfyniad ar gyfer Cymru gael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Rydym yn clywed bod y Llywodraeth mewn trafodaethau gyda’r undebau, ac rwy'n gobeithio y bydd yr undebau’n llwyddiannus yn y trafodaethau hynny er lles y gweithwyr, er lles eu haelodau. Ac efallai y gall y Gweinidog gadarnhau heddiw fod y trafodaethau hynny'n cynnwys codiad cyflog ystyrlon—fod y posibilrwydd o godiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'i aelodau wedi mynegi cryn rwystredigaeth ynghylch awgrymiadau eu bod rywsut wedi bod yn tynnu allan o drafodaethau gyda'r Llywodraeth; y Llywodraeth sydd wedi bod yn dweud, 'Nid ydych i drafod codiad cyflog ystyrlon'. Deallaf y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar ag yfory, o bosibl, ac unwaith eto, efallai y gall y Gweinidog gadarnhau bod codiad cyflog ystyrlon ar y bwrdd.
Mae mesurau eraill a ystyrir wrth edrych ar dâl ac amodau, mesurau fel mwy o wyliau blynyddol a thâl gwyliau, i'w croesawu wrth gwrs, ond does bosibl na all y Llywodraeth dderbyn, yn y pen draw, er mwyn dangos diolch a gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth o'r gwaith a wnaed gan ein gweithwyr iechyd a gofal, fod yn rhaid i hynny gynnwys codiad cyflog mewn termau real yn awr. Mae'n bryd gwobrwyo ein gweithwyr iechyd a gofal â chytundeb cyflog teg newydd.
Rwyf i wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ymroddiad ac aberth holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i bob rhanbarth a gwlad yn y DU, gan gynnwys Cymru, mewn cyllidebau olynol ac yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
3. Yn nodi argymhellion corff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddyfarnu codiad cyflog o 3 y cant i staff y GIG.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys ag amodau gwaith fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a llenwi bylchau staffio o fewn y GIG, er mwyn sicrhau bod gennym weithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac ychwanegu fy niolch innau i'r gweithwyr gofal iechyd sydd wedi cadw Cymru'n ddiogel ac wedi ymladd mor galed yn ystod y pandemig yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws?
Rwy’n cynnig gwelliant 1, Ddirprwy Lywydd, yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, a chredaf yn gryf, fel y mae pob un o'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gredu yma yn y Senedd, y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yn benodol ymroddiad holl staff y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw oni bai am ymdrechion enfawr ein gweithwyr gofal iechyd. Credaf na fydd unrhyw amheuaeth ar draws y Siambr hon, Ddirprwy Lywydd, fod y GIG wedi bod dan bwysau aruthrol dros y 18 mis i ddwy flynedd ddiwethaf, a chredaf ei bod yn braf fod Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw wrth gwrs, yn cynnwys £8.6 biliwn i ymladd y coronafeirws, y £2 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ac wrth gwrs, yr £1.9 biliwn o gyllid ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar y GIG dros y tair blynedd nesaf.
O'm rhan i, credaf mai'r hyn yr hoffwn ei ddweud yn y cyfraniad hwn yw nad mater o gyflog yn unig yw gofalu am ein gweithwyr gofal iechyd. Mae honno'n elfen bwysig, ond credaf ei bod yn bwysig hefyd fod Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael ag amodau gwaith; cymorth iechyd meddwl—mae hyn yn dilyn y ddadl flaenorol a arweiniwyd gennym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wrth gwrs; cadw staff; ac uwchsgilio bylchau staffio yn y GIG i sicrhau bod y gweithlu'n addas ar gyfer y dyfodol. Credaf mai'r hyn y dylem ei wneud yw ceisio ysgwyddo rhywfaint o'r pwysau, gan leddfu'r pwysau ar ein gweithwyr gofal iechyd drwy sicrhau y darperir nifer ddigonol o staff. Dyma un o'r rhesymau pam fy mod wedi cyflwyno Bil cyfamod GIG Cymru yn y bleidlais Aelodau yn ddiweddar. Byddai'r Bil hwn yn gwarantu y bydd y GIG yn parhau i fod mewn dwylo cyhoeddus, yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac yn gwarantu bod staff y GIG bob amser yn cael y cyflog a argymhellir gan gorff adolygu cyflogau'r GIG, sy'n gorff annibynnol. Ac nid yn unig hyn, byddai'n ymdrechu hefyd wrth gwrs i wella llesiant staff gydag oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o wyliau, mwy o fynediad at ofal plant a chymorth iechyd meddwl. Mae'r rhain yn gynlluniau pendant ar gyfer dyletswydd i gefnogi staff y GIG yn ystod eu gyrfaoedd.
Mae fy nghyd-Aelodau a minnau wedi dweud y dylid trin gweithwyr rheng flaen yn wahanol o fewn y dyfarniad cyflog. Rydym wedi dadlau o'r blaen fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymrwymiadau cyflog i'r proffesiwn nyrsio, sydd ar wahân i staff eraill y GIG, a dylai fod mai rôl i Lywodraeth Cymru yw siarad ag undebau a'r corff adolygu cyflogau annibynnol i drafod y posibiliadau hyn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Yn ffurfiol.
Diolch. Hefin David.
Gallaf gofio’r datganiad a wnaeth Joel James yn ystod y ddadl ar y Bil partneriaeth gymdeithasol, ac roedd yn ddatganiad eithaf cryf. Y geiriau a ddefnyddiodd, maent ar y sgrin gennyf yma:
'mae'r Llywodraeth hon yn poeni'n bennaf am ofalu am eu cyflogwyr undebau llafur.'
A, 'Siawns na all y Dirprwy Weinidog weld bod problem amlwg o ran sut y bydd undebau llafur yn cael dylanwad gormodol ar bolisi'.
Dyna'r geiriau a ddefnyddiwyd gan Aelod o feinciau’r Ceidwadwyr, ac ar y pryd, roedd gennyf bryderon dybryd am yr hyn a ddywedwyd, a mynegwyd llawer o bryderon yn y Siambr hon ynglŷn â hynny. Ond mae angen inni gofio mai'r undebau llafur yw cynrychiolwyr mwyaf effeithiol y gweithlu a welwyd yn y wlad hon. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda fy undeb llafur fy hun, Unsain, am y mater hwn, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y sgwrs honno, yn enwedig fel cadeirydd grŵp Unsain yr Aelodau o'r Senedd, ac rwy'n hwyluso cysylltiadau rhwng Aelodau o'r Senedd ac Unsain fel y gellir cael y trafodaethau hynny.
Os oes beirniadaeth o'r Llywodraeth yn y mater hwn, ac rwy'n teimlo bod beirniadaeth, gallai'r undebau llafur—. Rwyf wedi dweud hyn wrth y Gweinidog fy hun yn breifat, fy mod yn teimlo y gallai'r undebau llafur fod wedi cymryd rhan fwy cynhwysfawr a dyfnach yn gynharach yn y broses hon. Credaf fod hwnnw'n fater y byddwn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn ei gydnabod. A gwn fod system, corff annibynnol sy'n argymell cyflogau'r GIG ac sydd wedi'i sefydlu at y diben hwnnw, ond serch hynny, nid ydym yn dda i ddim os nad ydym yn gwrando ar y gweithlu, a'r corff sy'n cyflawni hynny yw'r undebau llafur. Felly, hoffwn pe bai'r Gweinidog yn ymateb ar y mater hwnnw.
Er hynny, ddoe, yn yr ymateb i arweinydd Plaid Cymru, dywedodd y Prif Weinidog yn glir mai pot cyfyngedig o gyllid sydd ar gael, gyda llawer o alwadau arno, a dyna’n union pam fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gyflwyno diwygio cyfansoddiadol a gweld y cysyniad o ffederaliaeth radical a fyddai’n rhyddhau Llywodraeth Cymru i wneud yn union fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith. Un o'r pethau yr hoffwn eu gweld, er enghraifft, yw ardoll Holtham, ond byddai'n rhaid inni weld pwerau wedi'u dosbarthu'n wahanol ar draws y Deyrnas Unedig hon er mwyn codi ardoll Holtham am ofal cymdeithasol.
Mae'r Cynghorydd Carol Andrews yn gynghorydd Llafur ym Margoed, ond mae hi hefyd yn nyrs yn Ysbyty Ystrad Fawr. Tynnodd fy sylw at yr ymdrechion arwrol y mae hi a nyrsys eraill yn eu gwneud yno, yn enwedig drwy gyfnod COVID. Mae ei merch, Megan, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn nyrsio, a bydd yn nyrs wych yn y dyfodol.
Mae gweithwyr y GIG yn haeddu gwell cytundeb cyflog, ac rwy'n falch o glywed bod y drafodaeth honno'n parhau gyda Llywodraeth Cymru. Ac Unsain, yn hytrach na chyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, byddwn yn dweud wrth Unsain eu bod yn iawn i gyfarfod yn lle hynny â Llywodraeth Cymru, a pharhau â'r trafodaethau hynny, oherwydd fy mhryder yw, pan gynhelir trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau, a'r pwyntiau hynny wedyn yn cael eu gwneud er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'n tynnu oddi ar ddifrifoldeb y mater hwn. Yr hyn sydd angen ei wneud, fel y mae'r Gweinidog yn ei wneud, yw parhau â'r sgwrs adeiladol honno. A gwn mai dyna sy'n digwydd gydag undebau cyfrifol, fel fy un i, Unsain, ac edrychwn ymlaen at glywed canlyniad hynny. Gwyddom fod potensial ar gyfer gweithredu diwydiannol; rwy’n annog y Gweinidog a’r undebau i weithio gyda’i gilydd i wneud popeth a allant i osgoi hynny.
Efallai dylwn i fod yn dechrau drwy ddatgan diddordeb: buodd fy ngwraig yn nyrsio ar hyd ei bywyd nes ei bod hi wedi gorfod ymddeol yn ddiweddar, ac mae llawer iawn o'r nyrsys oedd yn gweithio gyda hi yn parhau i fod yn ffrindiau agos i ni fel teulu. Ac oherwydd hynny, dwi wedi gweld, dwi wedi bod yn llygad-dyst i effaith y pandemig arnyn nhw fel nyrsys dros y 18 mis diwethaf. Ar lefel bersonol, dwi wedi gweld y straen maen nhw wedi'i ddioddef, yr heriau maen nhw wedi gorfod eu hwynebu, a'r blinder ofnadwy maen nhw nawr yn ei deimlo. Ac mae'r hyn dwi wedi'i weld yn cael ei gadarnhau gan arolwg diweddar gan yr RCN, sy'n dangos bod rhyw 38 y cant o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn oherwydd amodau gwaith anodd a phwysau gwaith enbyd, gyda 58 y cant ohonyn nhw'n credu taw cyflog cwbl annigonol sydd wrth wraidd eu hanfodlonrwydd.
Mae problemau cadw staff, methiant i recriwtio, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, a'r ffaith bod cynifer i ffwrdd o'u gwaith oherwydd salwch, wedi gwaethygu'r sefyllfa i bwynt lle mae gennym erbyn hyn yng Nghymru argyfwng yn y maes iechyd a gofal. A does dim dwywaith yn fy meddwl i, felly, y byddai rhoi codiad cyflog mwy na'r 3 y cant sy'n cael ei argymell yn ffordd o gadw staff profiadol, drwy ddangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ynghyd â denu pobl ifanc i mewn i'r proffesiwn.
Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae cynnig 3 y cant o godiad cyflog i nyrsys yn golygu, mewn termau real, leihad yn eu cyflog, a hynny ar ben yr 1.25 y cant y byddan nhw'n gorfod ei dalu yn ychwanegol o yswiriant gwladol, a hefyd heb sôn am y cynnydd sylweddol mewn costau byw.
Ddirprwy Lywydd, bûm yn siarad neithiwr ag uwch brif nyrs, sydd wedi rhoi bron i 40 mlynedd o’i bywyd i’r GIG. Dywedodd wrthyf yn deimladwy iawn nad yw hi erioed, drwy gydol ei gyrfa hir, wedi teimlo mor isel, mor lluddedig a heb ei gwerthfawrogi. Dywedodd wrthyf sut yr oedd hi a'i chydweithwyr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig fel nyrs gymunedol, yn ymweld â chleifion heb gyfarpar diogelu personol digonol, heb wybod a oedd COVID ar y cleifion hynny, cleifion a oedd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn aml, a pha mor ofnadwy o agored i niwed y teimlent. Ac eto, drwy hyn i gyd, fe wnaethant barhau heb ochel rhag eu rhwymedigaethau i'r cleifion yn eu gofal. Rhoddodd y gweithwyr iechyd dewr hyn eu bywydau eu hunain mewn perygl er mwyn achub bywydau eraill, a gweithio oriau hir, blinedig, ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl iddynt ei wneud, i ofalu am bobl a oedd yn dibynnu'n llwyr arnynt. A gwelsom enghreifftiau dirifedi o aberth anhunanol ledled y wlad, ac mewn amgylchiadau gwaeth nag a welsom ers yr ail ryfel byd dangosodd ein gweithwyr iechyd stoiciaeth ac argyhoeddiad diarbed ac ysbrydoledig.
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Rwy'n dod at y diwedd.
A phan oeddem yn clapio, fel y clywsom yn gynharach, rhoddwyd gobaith iddynt y byddai'r Llywodraethau, o'r diwedd, yn rhoi cyflog teg iddynt i gydnabod y tasgau heriol y maent yn eu cyflawni bob dydd. Ond yn anffodus, mae hynny wedi troi’n siom. Iddynt hwy, mae'r clapio byddarol ar garreg ein drysau wedi dod yn adlais pell wrth i'r anobaith a'r dadrithiad lifo'n ôl, gan nad oedd y clapio byth yn mynd i dalu eu biliau a'u morgais ac am y bwyd ar y bwrdd.
Felly—a dwi'n gorffen gyda hyn—does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Byddai un penderfyniad gan y Llywodraeth i roi'r tâl sydd yn deilwng iddyn nhw yn newid y sefyllfa'n llwyr, yn rhoi'r haeddiant iddyn nhw y maen nhw i gyd yn eu haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Wel, byddwn wedi cymryd pedwar munud a hanner pe bawn yn gwybod fy mod yn mynd i'w gael.
[Anghlywadwy.]—Aelodau i barchu'r Cadeirydd. Altaf Hussain.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweithio gyda nyrsys ar hyd fy oes, ac mae'n iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad ein holl weithwyr gofal iechyd ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol. Fel cymaint o rai eraill yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rheini ar y rheng flaen ym maes gofal wedi bod yn dyst i drasiedi ddynol y pandemig. Mae adroddiad corff adolygu cyflogau'r GIG, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn adroddiad eithriadol o fanwl sy'n seiliedig ar gorff sylweddol o dystiolaeth, cyflwyniadau a dadansoddiadau. Mae'r ddogfen yn cynnwys amryw o bwyntiau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a nododd y byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn ag a fyddai unrhyw arian ychwanegol sydd ei angen yn dod o gyllidebau presennol maes o law.
Mae pob un ohonom yn cydnabod y byddai angen i Weinidogion Cymru a fyddai'n gwneud unrhyw godiad pellach i gyflog staff ddod o hyd i'r arian hwnnw o'r cyllidebau presennol, ac yn eu tystiolaeth i'r adolygiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, po uchaf y dyfarniad cyflog, yr anoddaf fyddai'r dewisiadau ynglŷn â sut i ddod o hyd iddo a blaenoriaethau eraill i GIG Cymru. Rwy’n falch fod Llywodraeth Geidwadol y DU nid yn unig wedi darparu £8.6 biliwn i Gymru yn yr ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafeirws, yn ychwanegol at fwy na £2.1 biliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22, ond eu bod wedi cyhoeddi hefyd y byddant yn buddsoddi £1.9 biliwn ychwanegol yn GIG Cymru dros y tair blynedd nesaf. Yn fy marn i, os yw Llywodraeth Cymru eisiau talu am godiadau pellach, prin y gallant ddweud eu bod yn brin o arian. Rwy'n cydnabod pa mor anodd yw hyn i lawer o staff sy'n credu y dylid gwobrwyo eu cyfraniad.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo yr un fath am ein staff gofal cymdeithasol hefyd. Yn y pandemig, i raddau helaeth fe anwybyddodd y cyfryngau a'r naratif gwleidyddol waith y rheini sy'n gofalu am lawer o bobl hŷn a oedd yn agosáu at ddiwedd eu bywydau oherwydd COVID-19, gan brofi'r trawma yn y sector cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio, lle'r oedd trigolion yn marw ar gyfradd gyflymach, a lle daeth yr aelodau hynny o staff yn aelodau teuluol ar fenthyg yn yr oriau olaf hynny, wrth iddynt eu cysuro ar y diwedd. Datgelodd y pandemig pa mor wael yw ein cydnabyddiaeth o gyfraniad ein staff gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid inni unioni hyn. Ac er fy mod yn croesawu'r cynigion i fynd i'r afael â chyflog fel rhan o drefniadau comisiynu newydd ar gyfer y gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae angen inni fod yn gadarn wrth lywio mwy o arian tuag at gefnogi'r rhan hanfodol hon o'n sector iechyd a gofal. Diolch yn fawr iawn.
Eisoes, yn y Senedd yma, rydyn ni wedi trafod yr egwyddor o UBI a'r pwysigrwydd o roi urddas i bobl trwy eu bod nhw'n cael incwm digonol i fyw. Y Llywodraeth Lafur, wrth gwrs, ddaru gyflwyno'r isafswm cyflog er mwyn trio rhoi rhyw lefel o sicrwydd ac urddas i'r gweithlu. Mae'r egwyddor sylfaenol, felly, o gael cyflog teg am eich gwaith, gan roi urddas i bobl, wedi hen basio. Ond eto, dyma ni yn 2021 yn gorfod dadlau dros roi cyflogau teg i weithwyr—cyflog sy'n adlewyrchu eu gwaith, eu hymrwymiad a'u gallu, ac, yn wir, cyflog fydd yn denu pobl i yrfa o ofal.
Mae dros hanner gweithlu y gwasanaeth iechyd yn brif gyfranwyr incwm i'w haelwydydd. Mae degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru yn ddibynnol ar gyflogau nyrsys er mwyn medru byw, cadw to uwch eu pennau a bwyd yn eu boliau. Yn fwy syfrdanol fyth, mae un o bob pump o'r gweithlu yn gorfod cael cyflogaeth arall ar ben gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Onid yw hyn yn ei hun yn ddigon i ddangos pwysigrwydd cyflogaeth y gwasanaeth iechyd, ac nad yw cyflog bresennol y gweithlu yn ddigonol i nifer o bobl?
Yn ôl ymchwil drylwyr y Royal Society for Arts, Manufactures and Commerce, mae bron i 60 y cant o weithlu y gwasanaeth iechyd yn methu â chael balans teg rhwng bywyd a gwaith, a hynny oherwydd eu bod nhw'n gweithio fwy o oriau nag maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw, ac yn aml yn gweithio sifftiau anghymdeithasol. Yn wir, mae tri chwarter y gweithlu nyrsio yn dweud eu bod nhw'n gweithio goramser, gan arwain at gynnydd mewn lefelau straen ac afiechydon meddwl, ynghyd â phroblemau eraill. Mae hyn, yn ei dro, yn gostus i'r gwasanaeth iechyd. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth i fwrdd iechyd y gogledd cyn y pandemig fod 77,000 o ddiwrnodau staff wedi cael eu colli o ganlyniad i straen, oedd yn gyfwerth â £5.5 miliwn i'r gwasanaeth. Does dim syndod felly fod nifer uchel o bobl yn gadael gweithlu'r gwasanaeth iechyd, ond mae'r pres yno ond yn cael ei roi i'r mannau anghywir. Mae hyn, yn ei dro, yn arwain at ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth a chostau llawer iawn uwch i'r gwasanaeth iechyd—degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn, ac yn cynyddu yn flynyddol.
Bythefnos yn ôl cafwyd dadl yma am y gwasanaeth ambiwlans, a phawb yn gytûn fod y diffyg gwelyau yn yr ysbytai yn rhan greiddiol o'r broblem. Er mwyn diwallu hynny, rhaid wrth gwrs gael rhagor o nyrsys, ac mae'n wybyddus bellach, ers degawd a mwy, am y prinder staff nyrsio. Mae gwaith Anne Marie Rafferty'n dangos yn ddiymwad fod prinder nyrsys yn arwain at gynnydd yng nghyfradd marwolaethau ymhlith cleifion. Mae diffyg nyrsys yn arwain at fwy o ddamweiniau, camgymeriadau a chynnydd mewn heintiau. Ydyn ni'n wirioneddol yn disgwyl diwallu'r anghenion nyrsio heb roi cyflog teg iddyn nhw? A phwy yw'r bobl sydd yn dioddef mwyaf o'r ansicrwydd economaidd yma?
Bydd yr Aelod yn dod i gasgliad nawr, os gwelwch yn dda.
Dwi'n dod i ben rŵan. Menywod, pobl ddu, pobl Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill, sef y rhelyw sydd yn gwneud i fyny y gweithlu nyrsio. Dyma'r un garfan o bobl sydd ar waelod pob tabl anghyfiawnder a thegwch, ac, unwaith eto, dyma'r bobl sy'n dioddef oherwydd y polisi yma i fethu â'u talu nhw'n iawn. Dyma'r bobl sy'n cynnal ein gwasanaethau iechyd ni—hebddyn nhw byddai'r gwasanaeth yn dymchwel. Mae'n rhaid inni ddangos ein diolch nid trwy glapio, ond drwy roi tâl teg iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
A gaf fi atgoffa’r Aelodau, pan ydym yn cael dadl 30 munud, mai tair munud yw'r cyfraniadau? Ac yn enwedig pan fydd eich plaid yn cyflwyno'r ddadl honno am 30 munud, cadwch at hynny fel y gall pawb gael cyfle i siarad.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddewis y pwnc hwn i'w drafod heddiw, gan ei fod yn caniatáu imi ailadrodd barn Llywodraeth Cymru ar y pwnc pwysig hwn. Nawr, mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn ddidrugaredd. Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n sylweddol ar gleifion a staff, a hoffwn dalu teyrnged heddiw a gofyn i'r Aelodau gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel a wynebwyd gan ein gweithlu o ganlyniad i geisio ein cadw ni oll yn ddiogel.
Nawr, er mwyn pennu codiadau cyflog, sefydlwyd proses adolygu cyflogau annibynnol. Mae llywodraethau, undebau llafur a chyflogwyr yn cyflwyno tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau er mwyn iddynt ei hystyried cyn gwneud eu hargymhellion. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth yn fawr, a gwnaed hynny'n glir eleni ar ôl i Lywodraeth Dorïaidd y DU, wrth gyflwyno eu tystiolaeth, orfodi cap mympwyol o 1 y cant ar yr hyn y dywedasant y byddent yn ei dalu i weithwyr y GIG. Cynhaliodd y corff adolygu cyflogau eu hasesiad annibynnol, ac argymell codiad o 3 y cant ar gyfer eleni. Ariannwyd argymhelliad y corff adolygu cyflogau o 3 y cant yma yng Nghymru o gyllid presennol adran iechyd Llywodraeth Cymru. Ni roddwyd unrhyw arian neu gyllid canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU tuag at ariannu cyflogau'r GIG.
Rwy’n llwyr gefnogi’r angen am gyflog teg a fforddiadwy i weithwyr y GIG, ond yn anffodus, ni allaf wneud hyn heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, oherwydd, er mwyn cynyddu cyfradd cyflog sylfaenol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. A ydych yn cydnabod, o ganlyniad i'r setliad presennol gyda Llywodraeth y DU, fod Cymru'n derbyn oddeutu £1.20 am bob £1 ar gyfer y gwasanaeth iechyd datganoledig? Mae hynny'n eich galluogi, pe baech yn dymuno gwneud hynny, i roi 20 y cant yn ychwanegol at yr hyn a dalwch i aelodau staff ar hyn o bryd. A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn mai dyna'r—[Torri ar draws.] A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr heclo. Gallaf weld y Prif Weinidog yn gwenu. Ef yw'r un a darodd fargen gyda’r Trysorlys i gael yr iawndal hwnnw. Dyna'r gwir, dyna'r ffeithiau, a ydych yn derbyn bod gennych fwy o adnoddau na Llywodraeth y DU i dalu eich staff?
Ddim o gwbl. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod pobl yn y GIG sydd wedi bod yn gweithio'n galed drwy gydol y pandemig hwn yn haeddu eu dyfarniad cyflog o 3 y cant, a dylai fod wedi dod gan Lywodraeth y DU. Yn lle hynny, rydym wedi gorfod dod o hyd i'r arian o'r cyllidebau a oedd gennym yma eisoes. Golyga hynny ein bod i bob pwrpas wedi gorfod gwneud toriadau mewn meysydd eraill gan ein bod am sicrhau ein bod yn gwobrwyo'r bobl hyn sydd wedi bod yn gweithio mor galed drwy gydol y pandemig. Ac fe ddywedaf wrthych faint y byddai'n ei gostio. Er mwyn inni ddod o hyd i 1 y cant, bydd yn costio £50 miliwn y flwyddyn i ni. Bydd mynd ymhellach na 3 y cant yn eithriadol o anodd. Ac yn anffodus, yn wahanol i Blaid Cymru, nid oes gennym goeden arian hud i fynd i’r afael â hynny, a byddai’n ddiddorol iawn clywed gan Blaid Cymru beth yn union y byddent yn ei dorri er mwyn dod o hyd i’r cyllid ychwanegol y dywedant y byddent yn ei dalu, gan fod yn rhaid iddo ddod o gyllideb y GIG. Felly, beth y byddech chi'n ei dorri? Mae'n rhaid ichi fod o ddifrif ynglŷn â gwleidyddiaeth. Nid ydych o ddifrif. Mae a wnelo hyn ag iaith blaenoriaethau. Dyna y siaradai Aneurin Bevan amdano. Rydym yn gwybod am hynny. Rydym yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny, nid ydych chi byth yn eu gwneud. Dywedwch wrthym beth y byddech chi'n ei dorri yn ei le. Nid ydych yn gwneud hynny.
Rwy'n sicr yn deall cryfder teimladau staff a'u hundebau llafur. Rydym yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr undebau llafur o'r rhan fwyaf o undebau'r GIG. A byddaf yn eu cyfarfod eto yfory. Ac maent hwy, a ninnau, yn cytuno, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn hyn, fod ein dull partneriaeth gymdeithasol yn darparu'r mecanwaith gorau posibl ar gyfer dod o hyd i'r ateb gorau posibl. Ac maent yn parhau i wthio’n galed iawn ar ran eu haelodau am fuddion ac ychwanegiadau i ategu'r cynnig o 3 y cant i staff gweithgar ac ymroddedig ein GIG.
Ac er fy mod wedi ymrwymo i gyflog teg i GIG Cymru, mae gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at ein cadw'n ddiogel yn ystod y pandemig, ac rydym yn ysu am recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth gwerthfawr hwn, a fydd yn tynnu'r pwysau oddi ar staff y GIG. Ac yn wahanol i staff GIG Cymru, telir cyflogau is na'r cyflog byw gwirioneddol i lawer o weithwyr gofal cymdeithasol, ac mae'n rhaid i'w cyflog hwythau fod yn flaenoriaeth hefyd.
Nid wyf am wrando ar unrhyw wersi gan y Torïaid ar y pwnc hwn. Nid ydynt wedi rhoi’r cyllid ychwanegol y dylem fod wedi’i gael i ni. Mae'r sgyrsiau'n parhau. Maent yn anodd, maent yn drylwyr, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau canlyniad teg i bawb. Ac wrth gwrs, mae pob un ohonom yn awyddus i osgoi anghydfod diwydiannol. Yn sicr, mae gweithwyr y GIG yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith ar yr adeg hynod heriol hon, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi'r hyn y maent ei eisiau o fewn yr hyn sydd ar gael i ni.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch am eich holl gyfraniadau, gan ddechrau gyda Russell George, a agorodd mewn ffordd bwyllog, drwy dalu teyrnged i'n gweithwyr iechyd. Ond nid yw hyn yn ymwneud â dangos ymrwymiad, geiriau caredig am y gweithlu; mae'n ymwneud â'u talu'n briodol. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog iechyd pan feirniadodd Lywodraeth y DU am ei gweithredoedd mewn perthynas â'i hamharodrwydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy'r setliad i Gymru. A dweud y gwir, roedd cyfraniad Darren Millar yn un y gallai bachgen ysgol fod wedi'i wneud pan awgrymodd, rywsut, fod arian ychwanegol yn dod i Gymru drwy fformiwla Barnett ar gael i'w wario. Onid yw wedi clywed am anghenion—anghenion yng Nghymru sydd wedi'u dyfnhau gan weithredoedd ei Lywodraeth Geidwadol ef?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw pob rhan o'r £1.20 am bob £1 a ddaw yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r gwasanaeth iechyd yn derbyn y £1.20 yng Nghymru am bob £1 a werir, felly mae capasiti o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein GIG ac i dalu staff y GIG yn wahanol, pe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno gwneud hynny.
Ond eich dadl chi yw lladd ar Gymru a lladd ar ddatganoli, felly ni allwn fod o ddifrif yn ei chylch yn y cyd-destun hwn.
Dywedodd y Gweinidog wrthym y dylai Plaid Cymru flaenoriaethu. Y fraint o fod yn Llywodraeth yw'r gallu i gyllidebu i flaenoriaethu, onid e? Ac yn sicr, mae'n rhaid i fuddsoddi yn ein hased mwyaf gwerthfawr, ein gweithlu iechyd a gofal, fod yn flaenoriaeth go iawn. Gwahoddodd y Gweinidog bob un ohonom i dalu teyrnged i weithwyr iechyd a gofal; mae hyn yn ymwneud â thalu teyrnged drwy gyflog teg. A diolch i'n gweithlu am eu gwaith, ond yn awr, maent angen cytundeb cyflog teg.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.