– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 19 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar symud economi Cymru ymlaen. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ddoe, cynhaliais uwchgynhadledd economaidd i amlinellu fy uchelgeisiau o ran symud ein heconomi ymlaen wrth i ni ymdrechu i weld Cymru sy'n fwy cadarn, teg, a gwyrdd. Roeddwn i'n falch o gael ymuno â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, Cyngres Undebau Llafur Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddechrau sgwrs ynglŷn â sut y gallwn ni gydweithio i gael adferiad tîm Cymru y mae pob un ohonom ni'n helpu i'w ddatblygu. Mae'n rhaid i adferiad cadarn i Gymru sy'n addas ar gyfer y tymor hir fod wedi ei seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd, gyda buddsoddiad yn niwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Ers fy mhenodiad ym mis Mai eleni, rwyf i wedi ymweld ag amrywiaeth o fusnesau ledled Cymru i gael ymdeimlad o'u gobeithion a'u pryderon wrth i ni wynebu'r hyn a fydd yn ddyddiau olaf y pandemig hwn, gobeithio.
O'r economi bob dydd a wnaeth ein cynnal drwy'r argyfwng i'r arloesi sy'n arwain y byd sy'n sbarduno ein gweithgynhyrchu uwch, rwyf i wedi gweld bod llawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Serch hynny, mae heriau realiti Brexit, adferiad cyfnewidiol, ac absenoldeb cynllun yn y DU i ddisodli cyllid yr UE yn cyflwyno heriau mawr i fusnesau a gweithwyr ledled Cymru. Wrth i ni symud ymlaen gyda'n rhaglen lywodraethu, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i helpu busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol ni wedi gofyn am sgyrsiau a chyfaddawdau anodd, sydd wedi eu hysgogi yn aml gan ddiffyg adnoddau a'r angen i symud yn gyflym gyda gwybodaeth rannol drwy'r pandemig ei hun. Eto i gyd, mae'r ddeialog hon wedi gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac mae'n siŵr ei bod hi wedi helpu i achub bywydau a bywoliaethau.
Wrth i ni symud ein heconomi ymlaen, fe fydd, wrth gwrs, ragor o benderfyniadau anodd na fyddan nhw'n plesio ein partneriaid i gyd, ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur y byddai dychwelyd at gyni ym mhopeth ond yr enw ar lefel y DU yn cyfyngu ar ein gallu i weithredu ac yn peri niwed economaidd a chymdeithasol gwirioneddol. Llywydd, mae'r rhain yn heriau sy'n gwneud deialog yn fwy angenrheidiol nag erioed. Byddwn ni i gyd yn elwa ar weithio fel partneriaid dibynadwy, gan rannu ein syniadau wrth i ni symud ymlaen ag ymdeimlad o bartneriaeth. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yn ystod yr uwchgynhadledd ddoe, bartneriaid cymdeithasol yn ymrwymo i'r model tîm Cymru hwn i fod yn gyfraniad pwysig at ein hadferiad. Bydd ein cynlluniau yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r genhadaeth o gydnerthedd economaidd ac ailgodi a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, gyda chamau gweithredu yn canolbwyntio ar ein cymunedau yn y rhaglen lywodraethu newydd.
Yn ddiweddar, fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen Twf Swyddi Cymru+, a fydd yn helpu i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i'r rhai nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac mae hon yn nodwedd bwysig o'n gwarant ni i bobl ifanc ac yn ychwanegu at gryfder y cynlluniau sy'n bodoli eisoes. Byddwn yn cynnig cyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel gyda chyfrifon dysgu personol sydd â'r bwriad o roi hwb i'w henillion posibl, a byddwn yn ychwanegu at ein henw da o ran prentisiaethau, drwy ddarparu 125,000 o leoedd ychwanegol yn y tymor Senedd hwn. Bydd ein strategaeth cyflogadwyedd a sgiliau sydd i ddod yn cryfhau ein henw da o ran lleihau'r rhaniad sgiliau, gan ganolbwyntio ar gymorth i'r rhai sydd wedi ymbellhau fwyaf o'r farchnad lafur. Byddaf i'n cefnogi twf cynrychiolwyr materion gwyrdd undebau hefyd i helpu i sicrhau bod ein trawsnewidiad i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. A byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull rhywbeth-am-rywbeth ac yn cryfhau'r cyswllt economaidd. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â datblygu economi gryfach yng Nghymru, bydd yn rhaid i arian cyhoeddus Cymru gefnogi gwaith teg, gweithredu o ran newid hinsawdd a'r sgiliau a fydd yn datgloi dawn ledled Cymru.
Byddwn yn lansio'r gronfa i gefnogi cwmnïau lleol hefyd er mwyn cefnogi economïau lleol sy'n fwy deinamig. Bydd gen i fwy i'w ddweud eto fis nesaf ynghylch sut y bydd ein cynllun cyflawni ar gyfer yr economi sylfaenol yn helpu i greu cadwyni cyflenwi byrrach, lleihau allyriadau, a throi ein cynlluniau o ran tai, iechyd, trafnidiaeth ac ynni yn swyddi gwell yn nes at adref. Byddaf i'n gwneud mwy hefyd i gefnogi'r economi gydweithredol, sydd â chynaliadwyedd wrth ei hanfod yn ôl ei thraddodiad. Mae hynny'n cynnwys cefnogi rhagor o gynlluniau lle mae gweithwyr yn prynu cwmnïau er mwyn diogelu swyddi a chadw busnesau hyfyw yng Nghymru.
Llywydd, mae Cymru yn gartref balch i sectorau gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf yn y byd, megis modurol, dur, ac awyrofod. Byddwn yn llunio partneriaeth â nhw i'w helpu i symud tuag at ddyfodol carbon isel sy'n cynnal swyddi. Mae'r dasg honno bellach yn fater o frys yn ein sector dur. Nid yw'r gallu i gyd gennym ni o fewn gafael y Llywodraeth hon, a dyma'r amser nawr i Lywodraeth y DU weithredu. Rwy'n awyddus i weld cynllun sy'n adeiladol lle bydd ein cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ategu'r camau gweithredu gan Lywodraeth y DU, ond dim ond pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn San Steffan y bydd hynny'n bosibl. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn eglur: cyflwynwch eich bargen a gadewch i ni weithio ar gynllun ar y cyd i weld sector dur ffyniannus mewn economi ddiogel, carbon isel.
Bydd ein cynlluniau yn golygu ffyrdd newydd o weithio ar draws y Llywodraeth hefyd. Rwyf i'n gweithio yn agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i ystyried sut y gall Cymru ennill y swyddi gwyrdd ychwanegol a ddaw yn sgil diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Wrth i dechnolegau newydd wneud lleoliadau gwaith yn llai perthnasol a gyda buddsoddiad newydd mewn datgarboneiddio, mae Cymru mewn sefyllfa ragorol i ddatblygu arloesedd ag effaith fyd-eang. Yn y cyd-destun hwn, mae'r adolygiad o wariant sydd ar ddod yn gyfle pwysig i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad a'i huchelgais i Gymru. Byddai'n argoeli yn dda pe gellid cael y cyllid llawn a addawyd i Gymru dro ar ôl tro yn lle'r cyllid oddi wrth yr UE, cefnogaeth i brosiectau ynni adnewyddadwy mawr a chynllun ar gyfer diwydiannau ynni dwys, cyllid i ymdrin â'n tomenni glo, caniatáu i Gymru fuddsoddi yn y dechnoleg, y swyddi a'r sgiliau y byddai hyn yn eu cynnig, a chyfran deg i Gymru o'r buddsoddiad ymchwil a datblygu a wneir ledled y DU. Fodd bynnag, yr argoel yw gallai'r adolygiad o wariant olygu penderfyniadau anoddach byth i ni wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Byddai hynny'n golygu ystyried y blaenoriaethau yn fanwl os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod rhoi caniatâd i Gymru wneud penderfyniadau ynghylch gwario'r arian o'n cronfeydd newydd yn lle rhai'r UE.
Fy ngobaith i yw, drwy gymryd camau beiddgar, y byddwn yn creu dyfodol lle bydd mwy o bobl ifanc yn teimlo nad oes angen iddyn nhw adael eu bro i lwyddo. Bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn benodol. Ar yr un pryd, os bydd mwy o bobl yn gwneud y dewis cadarnhaol i ddod i weithio a byw yng Nghymru, gallwn ni fynd i'r afael â'r risgiau sy'n deillio o'r dirywiad yn ein poblogaeth sydd o oedran gwaith. Byddwn yn datblygu cynnig cydlynol a chymhellol ac yn archwilio cyfleoedd pellach i gadw graddedigion a chymorth i fusnesau newydd i annog twf mwy o gwmnïau sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.
Rwyf wedi cyffroi ynglŷn â'r cyfle sydd gennym i saernïo'r economi Gymreig hon sy'n gryfach, tecach, a gwyrddach. Rwy'n edrych ymlaen at glywed syniadau a dealltwriaeth yr Aelodau o'r ffordd y gallwn ni wireddu hyn. Diolch, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei fod yn dechrau trafodaeth ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gydweithio i gael adferiad tîm Cymru. Er hynny, dylai hyn fod wedi bod yn brif amcan i'r Gweinidog ers ei benodi yn Weinidog yr Economi bron i chwe mis yn ôl erbyn hyn.
Nawr, wrth i ni symud i'r dyfodol, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i roi hwb gwirioneddol i hyn drwy gyflwyno'r newid y mae angen mawr amdano i gefnogi busnesau a chreu'r amodau ar gyfer twf ar ôl y pandemig. Mae hi'n gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei gallu i wneud Cymru yn gyrchfan fwy deniadol i fusnesau, ac er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid iddi fynd ati i helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi cynaliadwy, creu arferion caffael cyhoeddus rhwyddach, ac adolygu'r system gynllunio i'w gwneud yn fwy parod i ymateb i heriau'r dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cadarnhau heddiw fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr i ddiwygio arferion caffael a'r system gynllunio, ac efallai y gwnaiff roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd bellach.
Nawr, rwyf i wedi pwyso ar y Gweinidog eisoes am yr angen i greu amgylchedd buddsoddi cryfach yng Nghymru, gan dynnu sylw at adroddiad mynegai ffyniant y DU yn 2021, sy'n dweud bod economi Cymru yn wan ac wedi ei thanseilio gan seilwaith annigonol ac amodau gwael ar gyfer menter. Mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gefnogi busnesau sydd ar gychwyn a newydd o bob math, ac rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu hynny. Er hynny, mae angen gwneud mwy i wella'r amgylchedd buddsoddi yng Nghymru yn wirioneddol, ac felly rwy'n gofyn i'r Gweinidog eto heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r cyflenwad cyfalaf, a sut yn benodol y bydd yn gwella'r cyllid sydd ar gael ac yn darparu cymorth menter i helpu busnesau newydd.
Nawr, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda busnesau ledled Cymru a sefydliadau busnes, mae'r angen i wella seilwaith a buddsoddiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Dangosodd adroddiad cyn y pandemig gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fod materion seilwaith wedi effeithio ar 63 y cant o fusnesau bach yng Nghymru. Felly, mae hi'n destun siom nad oes unrhyw gyfeiriad nac ymrwymiad i wella seilwaith nac unrhyw fanylion yn ymwneud â buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn y datganiad heddiw. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wedi methu â darparu cynllun hirdymor hyd yn hyn o ran gwaith seilwaith arfaethedig, felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth yn union y mae'r comisiwn yn ei wneud a phryd y byddwn yn gweld cynlluniau ganddyn nhw o ran gwaith seilwaith dros y blynyddoedd nesaf, a fydd, yn ddiamau, yn cael effaith enfawr ar ein heconomi wrth symud ymlaen.
Nawr, agwedd allweddol arall ar symud economi Cymru ymlaen yw sicrhau y bydd mynd i'r afael â'r prinder sgiliau yng Nghymru yn digwydd mewn modd priodol. Mae angen i ni weld mwy o eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â bylchau sgiliau yng Nghymru, ac mae angen i ni wybod pa drafodaethau sy'n digwydd gyda busnesau a darparwyr addysg. Yn wir, fel mae datganiad heddiw yn ei gydnabod, mae Cymru yn parhau i hyrwyddo economi fwy gwyrdd ac yn sicrhau bod y trawsnewid i sero net yn deg i bobl sy'n gweithio. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau a yw archwiliad a chynllun sgiliau sero net yn yr arfaeth, a phryd y caiff hwnnw ei gyhoeddi. Yn wir, efallai y gall ddweud mwy wrthym ni hefyd am rai o'r camau tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yma yng Nghymru.
Nawr, ynghyd â mynd i'r afael â phrinder sgiliau, mae angen amlwg i greu gwell cysylltiadau rhwng busnesau a diwydiannau a darparwyr addysg a hyfforddiant, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio i ddod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod yr angen i annog arloesedd a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru. Fe wnaeth adolygiad Reid, yn ddefnyddiol iawn, ddarparu'r ymrwymiadau gwariant pe byddai gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol ar arian newydd oddi wrth yr UE, neu beidio, ac felly nid oes unrhyw esgus dros ddiffyg cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru o ran ei blaenoriaethau ymchwil ac arloesi. Yn wir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn y galwadau yn adolygiadau Diamond a Reid, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu pob un o'r argymhellion yn yr adolygiadau penodol hynny sy'n weddill.
Llywydd, mae'r Gweinidog eisoes wedi cadarnhau gwarant i bobl ifanc, ac mae datganiad heddiw yn cadarnhau hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy o gyrsiau hyblyg o safon i weithwyr ar gyflog isel, gyda chyfrifon addysg bersonol wedi eu cynllunio i roi hwb i'w potensial i ennill cyflog. Er hynny, rwyf i wedi siarad â nifer di-rif o sefydliadau busnes, darparwyr addysg bellach ac, yn wir, sefydliadau'r trydydd sector ac mae pob un wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n gwybod fawr ddim am y cynllun, nad ydyn nhw wedi cyfrannu ato o gwbl ac nad oes ganddyn nhw syniad sut mae'r warant yn cael ei datblygu na'i mesur. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog gadarnhau heddiw sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â busnesau ynglŷn â'r agenda hon, a sut y bydd yn sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Mae symud economi Cymru ymlaen yn gofyn arweiniad ac ymrwymiad difrifol i greu'r amodau i fusnesau dyfu a datblygu drwy wneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol i gynnal busnes. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog y bydd cefnogi economïau lleol cryfach yn hanfodol i'r gwaith o fynd i'r afael â thlodi, yn ogystal â chynnal y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Ac efallai y cawn ni glywed ychydig mwy ganddo am y gwaith sy'n cael ei wneud yn benodol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
Felly, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud y byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwneud yr hyn a allwn i ymgysylltu'n adeiladol ar yr agenda hon i gefnogi a datblygu ein heconomi gorau y gallwn ni i'r dyfodol? Diolch i chi.
Rwy'n diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau, ac rwyf i am geisio trafod cynifer ohonyn nhw ag y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Gallaf i ddweud fy mod i wedi bod â chyswllt rheolaidd â grwpiau busnes, busnesau, llywodraeth leol, ac undebau llafur ers i mi gael fy mhenodi. Felly, dyma'r cam nesaf yn y drafodaeth sy'n cael ei chynnal gyda nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n fwriadol anghywir i awgrymu nad wyf i wedi bod yn trafod gyda nhw hyd yn hyn. Braidd y bu'n gyfrinach o gwbl fy mod i wedi bod â'r cyswllt rheolaidd hwnnw â nhw.
O ran eich pwynt ynglŷn â'r adolygiad caffael, rydym ni wedi gwneud cynnydd mewn gwirionedd o ran gwariant caffael yn ystod datganoli, gan gynnwys yn ystod y tymor diwethaf, a'r her bellach yw ystyried pa mor bell yr ydym ni wedi mynd ac ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud, oherwydd nid yw'r Llywodraeth yn llaesu dwylo o ran ein huchelgais i weld hyd yn oed mwy o fudd i gwmnïau lleol yn sgil y ffordd yr ydym ni'n caffael nwyddau a gwasanaethau yma yng Nghymru.
Mae'n un o'r ysgogiadau y mae gennym ni reolaeth arno, ac, fel y gwyddoch chi, y Gweinidog arweiniol o ran caffael yw'r Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, ond mae'n faes y mae gan lawer ohonom ni fuddiant uniongyrchol ynddo o'n gwahanol safbwyntiau portffolio. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud o ran rhoi gwerth ar gaffael yng Nghymru—nid yn unig o ran y gwariant a'r swm o arian o ran contractau caffael, ond y gwerth ehangach y mae'r broses gaffael honno yn ei gyflawni. Ac mewn gwirionedd, yn hyn o beth, yn ogystal â chanfod bod cytundeb ar draws y Llywodraeth o ran mabwysiadu'r dull hwnnw, rydym yn gweld bod cytundeb mewn gwirionedd o fewn grwpiau busnes hefyd.
A phan oeddech chi'n siarad am seilwaith a chael gafael ar gyllid, wrth gwrs yng nghwestiynau'r Prif Weinidog fe wnaethom ni dynnu sylw eto at rai o'r heriau o ran yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yn seilwaith modern mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys y meysydd hynny nad ydyn nhw wedi eu datganoli; felly, o ran seilwaith y rheilffyrdd, lle mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud, ac o ran band eang, nad yw'n gyfrifoldeb datganoledig, y seilwaith hwnnw, ond mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi oherwydd diffyg cyflymder a pharodrwydd gan Lywodraeth y DU i wneud hynny. Felly, mae yna feysydd eisoes lle rydym ni'n buddsoddi mewn meysydd nad ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw'n uniongyrchol ond rydym ni'n cydnabod yr angen i wneud hynny er mwyn cynyddu gallu pobl i weithio a symud o gwmpas. Ac mewn gwirionedd, mae hynny'n cyflymu, oherwydd, pan ydym ni'n sôn am y gallu i weithio mewn ffordd wahanol—yn arbennig felly, gweithio o bell—mewn gwirionedd mae ein seilwaith band eang yn gwbl hanfodol i wneud hynny, a byddai hwnnw'n faes lle gellid cael sgwrs gynhyrchiol, unwaith eto, rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU pe byddai parodrwydd gwirioneddol i ymrwymo i gynllun sy'n cynyddu buddsoddiad.
Roedd gen i ddiddordeb yn eich pwynt ynglŷn â chael gafael ar gyllid, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gennym ni rywfaint o gyllid yr ydym ni'n ei ddarparu eisoes ac sydd ar gael. Ceir ffynonellau traddodiadol, ond wrth gwrs mae'r banc datblygu wedi bod yn ased sylweddol yn ystod y pandemig a thu hwnt i hynny, wrth fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i roi cyfle iddyn nhw dyfu ac ehangu ymhellach. Ond, yn fwy na hynny, ym Manc Busnes Prydain, sydd â'i gylch gwaith yn ymestyn ledled Prydain, mewn gwirionedd pan edrychwch chi ar ei ddewisiadau buddsoddi hyd yn hyn, mae tuedd iddo ffafrio rhannau penodol o'r DU, a mater yw hwn o wahaniaethu rhwng rhanbarthau yn Lloegr ei hunan, heb sôn am weddill y DU. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi y bydd yn cael cronfeydd buddsoddi ecwiti i edrych ar gyfryngau mewn rhai rhannau o'r DU, gan gynnwys de-orllewin Lloegr. Hyd yn hyn, nid yw wedi edrych ar gronfa fuddsoddi benodol i flaenoriaethu a chynyddu'r buddsoddiadau ecwiti y mae'n fodlon eu gwneud mewn busnesau yng Nghymru. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i gael sgwrs gyda'r banc yn ei gylch, oherwydd yn fy marn i, os nad ydych chi'n fodlon dweud y byddwch chi'n buddsoddi mewn gwahanol rannau o'r DU, gan gynnwys Cymru, ni ddylai fod yn syndod i chi os nad yw busnesau yma yn gallu cael gafael ar y cyfalaf sydd ar gael lle ceir cysylltiadau mwy arferol a dibynadwy mewn gwahanol rannau o fusnes yn y DU.
Ac o ran y prinder sgiliau, unwaith eto, pwynt yw hwn sy'n dilyn ymlaen o Fanc Datblygu Cymru. Mae'n bwynt yr wyf i wedi ei wneud droeon, a byddaf i'n parhau i'w wneud nes y cawn ni rywfaint o gydnabyddiaeth o wirionedd y sefyllfa. Mae sgiliau yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl, yn ogystal â lleoedd, i ddefnyddio'r doniau sydd gennym ni a denu a chadw doniau yma yng Nghymru. Ond, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar brentisiaethau, y mae pob plaid yn y lle hwn yn eu cefnogi ac yn awyddus i weld mwy ohonyn nhw, mae traean o'r prentisiaethau yr ydym ni'n eu darparu yn cael eu hariannu gan gronfeydd strwythurol blaenorol gan Ewrop. A heb gynllun—ac nid oes cynllun yn bodoli ar hyn o bryd—ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd i'r cronfeydd blaenorol hynny, nid pwynt o ansicrwydd yn unig yr ydym yn ei wynebu, ond y blynyddoedd treialu, gyda'r £10 miliwn nad yw wedi ei ariannu hyd yn hyn ac nad yw wedi mynd tuag at unrhyw brosiect treialu unigol, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, maen nhw'n hepgor prosiectau sydd o bwys rhanbarthol neu genedlaethol.
Felly, mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ddatgymalu'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a bydd yn tynnu arian oddi ar fuddsoddi mewn sgiliau. Byddai'n drychineb, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU. Os ydych chi'n meddwl am faint o wariant yr ydym ni'n sôn amdano, os caiff yr arian treialu ei ddarparu o'r diwedd ac os gallwn ni, er mawr ryfeddod, wario'r cyfan yn ystod y flwyddyn hon, bydd y diffyg yn dal i fod yn eithriadol. I roi enghraifft i chi o'i faint mewn gwirionedd, mae'r arian na fyddwn yn ei gael yn ystod yr un flwyddyn hon yn cyfateb i fwy na dwbl maint cyllideb flynyddol Cyngor Sir Fynwy. Dyna'r arian na fydd Cymru yn ei gael eleni, ac, os nad oes cynllun ar gyfer y dyfodol, dyna fydd y diffyg y flwyddyn nesaf, ar gyfer yr arian a ddylai fod yn dod i Gymru. Ac mae hi wir yn syndod gweld gwleidyddion Ceidwadol yn siarad yn y fan hon ac yn dweud, 'Diolch i'r nefoedd am Lywodraeth y DU', nad yw'n darparu'r cyllid hwn i Gymru. Mae angen i chi benderfynu a ydych chi o blaid eich etholwyr chi, eu swyddi nhw, a'r busnesau sy'n dibynnu ar yr arian hwnnw, neu a ydych chi yma i gefnogi Llywodraeth y DU sy'n tynnu cannoedd o filiynau o bunnoedd allan o Gymru ar hyn o bryd.
Ac o ran ein cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, wrth gwrs bod hyn, unwaith eto, yn rhan o'r her i ni. Felly, bydd hon yn ffordd y byddwn yn gallu ystyried y dull o ddwyn pobl yn nes at y farchnad lafur ac i waith unwaith eto. Gadawodd yr Adran Gwaith a Phensiynau rywfaint o hyn yn wagle yn y gorffennol ac maen nhw wedi dychwelyd erbyn hyn i lenwi mwy o'r gwagle cyflogadwyedd gyda'r rhaglenni y maen nhw'n eu cynnal. Ond mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni hynny ar gyfer pobl sydd eisoes yn agos at y farchnad lafur ei hun—felly pobl sydd eisoes, yn y bôn, yn barod i weithio. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw cael gwaith i'r bobl hynny, ond hefyd i'r bobl nad ydyn nhw'n gweithio, heb waith a heb fod yn agos at fod mewn gwaith. A dyna'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud a'i flaenoriaethu, fel y nodais yn fy natganiad i. Oherwydd, os na chawn ni fwy o'r bobl hynny'n ôl yn y gwaith, yna, mewn gwirionedd, yn nyfodol economi Cymru, bydd gennym ni faen melin am ein gwddf o ran ein gallu i gynyddu incwm y wlad gyfan yn wirioneddol. Felly, mae honno'n her fawr iawn. Ni fyddwch chi'n gweld cymaint o elw y pen ag y byddech chi gyda'r rhaglenni hynny sy'n ymwneud â phobl sy'n barod am waith, ond byddwch chi yn gweld effaith wirioneddol ar ddyfodol yr economi. Gallwch chi ddisgwyl clywed mwy am hynny pan fydd sôn am ddyfodol ynni adnewyddadwy, a mwy am yr hyn y byddwn ni'n ei wneud i fanteisio ar y potensial gwyrdd yng Nghymru, pan fydd Julie James yn nodi'r ail gynllun cyflawni carbon isel cyn diwedd y mis hwn.
Ac, o ran adolygiad Reid, unwaith eto, nid wyf i am ailadrodd yr holl bwyntiau a wnes i o'r blaen ynghylch cyllid, ond, wrth gwrs, mae addysg uwch wedi ei heithrio o'r cynlluniau treialu presennol ar gyfer y cronfeydd a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd. A siaradais i â rhwydwaith arloesi Cymru o brifysgolion Cymru, gan ystyried arloesedd, ynghyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac maen nhw'n wirioneddol bryderus ynghylch y ffaith nad oes yna gynllun o ran sut y gellir parhau i ariannu'r rhain i wneud y gwaith maen nhw'n ei wneud—nid dim ond y gwerth academaidd o gaffael gwybodaeth, ond y gallu i'w gymhwyso ac ysgogi twf economaidd pellach. Ac maen nhw'n cydnabod y bydd yn rhaid cwtogi ar y pennawd yn adolygiad Reid os na chawn ni'r sicrwydd hwnnw ynglŷn â chyllid. Ond, yn sicr, rydym ni'n dymuno gallu bwrw ymlaen â hynny a chyflawni'r ymrwymiadau yr ydym ni wedi eu gwneud os cawn ni sicrwydd o gyllid.
Ac o ran y warant i bobl ifanc, bydd gen i ddatganiad arall i'w wneud cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, ond rydym ni eisoes wedi bwrw ymlaen, fel dywedais i yn fy natganiad, â Twf Swyddi Cymru+—mae honno'n rhan allweddol o helpu pobl nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl i'r gwaith, gan adeiladu ar gynlluniau llwyddiannus. Ac mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud eisoes gyda phobl ifanc yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn awyddus i ddod o hyd i waith. Felly, mae mwy o'n cefnogaeth yn cael ei symud i weld beth allwn ni ei wneud i helpu'r bobl hynny i ymuno â'r farchnad lafur unwaith eto, neu ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf, a dod o hyd i waith ystyrlon sy'n talu'n dda. Wedi'r cyfan, dyna'r hyn y mae pob un ohonom ni yn y Siambr yn dymuno ei weld i'n pobl ifanc ni a thu hwnt.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r datganiad. Rwyf i wedi dweud droeon yn y Siambr fod angen i ni gael gweledigaeth a strategaeth hirdymor i economi Cymru, ac rwy'n arbennig o falch o weld y pwyslais ar beidio â cholli doniau.
Byddwn i'n dweud, er hynny, nad wyf i'n teimlo mai dechrau'r drafodaeth yw hyn. Mae'r drafodaeth ar golli doniau wedi bod yn digwydd am ddegawd neu fwy neu felly mae'n teimlo. Er enghraifft, roedd 'A Strategy for Rural Wales', a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl ym 1971, yn trafod yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru. Yn 2017, cododd Adam Price ei bryderon ef ynghylch y golled doniau sydd wedi ei gweld yng Nghymru, gan nodi bod Cymru yn y degfed safle o 12 rhanbarth y DU o ran y gyfradd o golli graddedigion, ac rwy'n cofio fy rhagflaenydd i Bethan Sayed yn gofyn sawl cwestiwn ynghylch hynny. Rwy'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog faddau i mi am ddweud ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru ar ei hôl hi yn hyn o beth.
Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog i ba raddau y mae wedi ystyried y mater hwn eisoes ac a yw wedi ystyried yr enghraifft a roddwyd gan yr Alban neu beidio. Ac a fyddai ef yn cefnogi gwneud newidiadau i'r system cyllid myfyrwyr i greu cymhellion i ddawn aros yng Nghymru? Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fy mod i bob amser yn pryderu wrth weld terminoleg lac mewn datganiadau. Er enghraifft,
'archwilio sut rydym yn cadw ein graddedigion a'n doniau...drwy feithrin cysylltiadau cryf â phrifysgolion, a rhwng prifysgolion a busnesau'.
Mae'n beth canmoladwy iawn, ond nid oes unrhyw ymrwymiad gwirioneddol yma gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gnawd ar yr esgyrn cyn bo hir. Ymrwymodd fy mhlaid i, yn y maes hwn, yn ein maniffesto yn yr etholiad diwethaf i sefydlu prosiect treialu i brofi dichonoldeb olrhain a chadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy'n gadael Cymru ar gyfer eu haddysg uwch neu gyflogaeth gychwynnol i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyfredol gartref a chreu cronfa ddata o dalent alltud. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithredu'r polisi hwn?
Mae pwynt 7 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen yn cynnwys
'sicrhau bod gennym gwmnïau...yng Nghymru sy'n gallu darparu cyfleoedd yn y dyfodol'.
Rwy'n falch bod y Llywodraeth yn cydnabod, os ydyn nhw wir yn dymuno darparu cyfleoedd i bawb yng Nghymru yn y dyfodol, y byddai angen iddyn nhw sicrhau mai'r cwmnïau sy'n darparu'r cyfleoedd hyn yw'r rhai y mae eu strwythur yn gwobrwyo gweithwyr a'r gymuned leol yn well nag y byddai strwythurau cwmnïau yn draddodiadol. Ni fydd y system bresennol o drachwant, mantais a gorelwa gan yr ychydig yn dileu tlodi yng Nghymru nac yn symud yr economi ymlaen. Os na newidiwn ni ddim, ni fyddwn yn symud dim; byddwn ni'n aros yn yr unfan.
Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ymagwedd tîm Cymru, sy'n cael ei hadeiladu gan bob un ohonom ni, a dylai'r Llywodraeth ystyried canolbwyntio ar gwmnïau cydweithredol a pherchnogaeth gweithwyr. Fel y dywedais i, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cydnabod hyn. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod gan fodelau cydweithredol swyddogaeth hollbwysig, nid yn unig wrth fynd i'r afael â thlodi ond wrth gynnal twf economaidd. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithio ar Fil datblygiad economaidd i Gymru, gyda mentrau cydweithredol a busnesau bach a chanolig wrth ei hanfod, yng ngoleuni hyn i gyd?
Yn olaf, Llywydd, rydym yn croesawu pwynt 8 yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at symud economi Cymru ymlaen, drwy dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy weithio o bell a chymudo hyblyg. Dylai Cymru ymdrechu i feithrin twf economaidd cynhwysol, a dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyflogwyr i barhau i gynnig trefniadau gweithio o bell a hyblyg, gan mai dyma un ffordd o fynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth i bobl anabl. Yn 2020, dim ond 53.7 y cant oedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl, o'i gymharu ag 82 y cant ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hyn yn niweidiol iawn, nid yn unig i unigolion, ond mae'n niweidiol i'r gymdeithas hefyd. Pan fydd economi yn un gynhwysol, ceir mwy o gynhyrchiant a thrafodaeth fwy amrywiol o ran syniadau ac arloesedd.
Am flynyddoedd cyn y pandemig, roedd ymgyrchwyr anabledd wedi bod yn pwyso ac yn dadlau dros fwy o hyblygrwydd a gweithio o bell, ac yn aml iawn, cawson nhw eu hatal. Ac eto, mae'r cyfnod clo wedi dangos y gellir gwneud y newidiadau hyn, ac yn gyflym iawn hefyd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am amlinelliad o sut yn union y bydd yn ceisio helpu i annog gweithio o bell a hyblyg yn barhaus? Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld ymrwymiad i wythnos waith bedwar diwrnod, er enghraifft, yn y dyfodol agos. Fel y dywedais i eisoes, rwy'n falch o'r Gweinidog a'i ymgysylltiad â hyn, ond mae gennym ni daith hir eto os ydym ni'n awyddus i ddwyn economi Cymru hyd at lefel fwy cynaliadwy a theg.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Rwyf i am ddechrau gyda'r pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â thalent a sut rydym am gynnig dyfodol gwirioneddol i bobl ifanc yng Nghymru, a'r pwynt cysylltiedig hefyd ynglŷn â'r rhai ar wasgar—y bobl hynny sydd wedi symud naill ai i fynd i brifysgol neu oherwydd cyfleoedd gwaith eraill, a'r cyfleoedd i'r bobl hynny fod yn rhan o ddyfodol Cymru yng Nghymru hefyd. Mae'n rhan o'r her yr ydym yn gwybod sydd gennym ni, ac mae'n arbennig o amlwg ar hyn o bryd oherwydd yr her ddemograffig sydd gennym ni. Mae'n bosibl y bydd gennym ni lai na chwech o bob 10 o bobl o oedran gweithio ym mhoblogaeth gyfan Cymru erbyn i ni gyrraedd y 2040au, ac mae honno'n her enfawr i ni.
Yn y gorffennol, byddai'r llwyddiant mawr sy'n ymhlyg yn y ffaith bod mwy ohonom ni'n disgwyl byw yn hŷn wedi bod yn her i mi ei hystyried yn y swydd sydd gan Eluned Morgan erbyn hyn—o ran yr heriau ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i fwy ohonom ni ddisgwyl byw yn hirach. Ac fe wnaeth hynny yn wirioneddol ysgogi'r adolygiad seneddol a gawsom ni ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ar ddechrau tymor diwethaf y Senedd. Ond mae hon, wrth gwrs, yn her economaidd sylweddol iawn i ni hefyd. Mae'n ymwneud â sut y byddwn yn sicrhau dyfodol i bobl sydd yma eisoes yn ogystal â dymuno buddsoddi yn eu dyfodol cyfan yma yng Nghymru rywbryd hefyd.
Felly, mae graddedigion yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei ystyried, ac, ydym, rydym ni'n edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Rwyf i wedi cael trafodaethau eisoes gyda'r Gweinidog addysg am y potensial i greu cymhellion i raddedigion aros yma, y bobl sy'n graddio o brifysgol yng Nghymru—. Ac mae gennym ni ormodedd o raddedigion yr ydym ni'n eu cynhyrchu yng Nghymru; rydym ni'n allforiwr net o raddedigion. I rai o'r bobl hynny sydd wedi byw ac astudio yng Nghymru, am o leiaf dair blynedd neu fwy fel arfer, i ddymuno iddyn nhw aros—. Rydym ni wedi trafod ychydig o ran graddedigion meddygol a gofal iechyd. Mewn gwirionedd, mae angen i ni gael trafodaeth ehangach ynglŷn â'r mathau o gymhellion y gallem ni eu cyflwyno mewn ffordd gynaliadwy yma yng Nghymru i annog pobl i aros, ond i ddenu pobl o'r tu allan i Gymru hefyd i fod yn rhan o'n stori ni hefyd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle cyffrous iawn—i fod ag ymrwymiad ehangach a strategol i wneud hynny, yn ogystal â helpu pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Nawr, ni fyddwn i'n dweud ei bod hi'n deg nodweddu hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru newydd ei amgyffred. Rydym ni wedi bod ag amrywiaeth o wahanol ymyriadau i helpu i gadw pobl mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn y gorffennol. Mae hyn yn cydnabod pa mor ddifrifol yw'r cam erbyn hyn, yn sgil yr her ddemograffig sydd gennym ni ac, wrth gwrs, yr adferiad y mae angen i ni ei weld wrth i ni, gobeithio, ddod i ddiwedd y pandemig hwn yn ystod y misoedd nesaf.
Fodd bynnag, bydd mwy o waith i ni ei wneud gyda'n partneriaid, pan gawn ni ganlyniad yr adolygiad o wariant. Felly, mwy o sicrwydd ar amrywiaeth o feysydd gwario, nid dim ond yr arian yn lle'r hyn a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd, ond y gallu i gael sgwrs gyda'n partneriaid hefyd. Felly, bydd grwpiau busnes, busnesau, llywodraeth leol, ac undebau llafur yn dod yn eu holau gyda'r Llywodraeth, byddwn yn siarad dros y cyfnod nesaf hwn, ac yn edrych wedyn i gytuno ar fwy o fanylion yn ein cynllun ar gyfer y dyfodol. Felly, gallwch chi ddisgwyl clywed mwy ar ôl y digwyddiad hwnnw, ond yn fwy wrth i ni ddysgu am yr hyn a fydd yn llwyddo. Felly, oes, mae rhagor o ymyriadau polisi i'w cwblhau—rydych chi'n iawn i dynnu sylw at hynny o'r datganiad—ond ni fyddwn i â golwg besimistaidd ar hyn gan feddwl oherwydd nad oes dogfen fanwl o 100 tudalen yn barod ar hyn o bryd, fod hynny'n golygu nad oes yna ddim a all ddigwydd neu na fydd yna ddim yn digwydd. Rwy'n fwy na pharod i siarad ag ef am hynny ac, yn wir, â llefarydd y Ceidwadwyr wrth i ni weithio drwy hyn yn y misoedd nesaf.
O ran y pwynt ynglŷn â chwmnïau cydweithredol, wrth gwrs, fe fydd dadl yfory. Rwy'n gwybod bod yna Aelod ychydig y tu ôl i mi ac i'r dde sy'n awyddus i bledio'r achos dros ddeddfwriaeth, ond mae'n rhan o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei gydnabod am y cyfle sydd yno i gynyddu maint yr economi gydweithredol. Mae gennym ni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu maint yr economi gydweithredol o fewn y tymor Senedd hwn, ac rwyf i o ddifrif yn fy mwriad i wneud hynny.
Ac o ran cyflogaeth i'r anabl ac nid cyflogaeth i'r anabl yn unig, ond yn fwy felly'r cyfleoedd i weithio o bell, dyma rywbeth yr ydym ni i gyd wedi ei weld yn cynyddu ar ei ganfed yn ystod y pandemig ac mae hwn yn gyfle arall i Gymru. Roedd gennym ni ymrwymiad eisoes ar ddiwedd y tymor Senedd diwethaf i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu gweithio o bell. Mae'r pandemig wedi cyflymu'r duedd honno yn wirioneddol wrth i fwy o bobl, o anghenraid, ymgyfarwyddo â gweithio mewn lleoliad arall, gan fod mwy o bobl wedi newid eu barn eto ar y cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd y tu allan i'r gwaith, a sut y maen nhw eisiau byw a gweithio, o ran cymudo, neu beidio â chymudo, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu wedyn hefyd o ran natur newidiol y byd gwaith. A dyma fan lle mae'r canolfannau yr ydym ni'n eu datblygu yn rhan o'r ateb, ond mae'r busnesau eu hunain, yn aml drwy gydweithio ag undebau llafur sy'n dymuno gweld setliad yn hyn o beth hefyd, yn cydnabod y gallan nhw gael mwy o enillion cynhyrchiant i'w gweithlu drwy weithio mewn ffordd wahanol. Ond hefyd, i rai pobl, fe all hyn wella eu perthynas â'r byd gwaith hefyd.
Cefais fy nharo yn fawr gan sgwrs a gefais i ag undeb llafur sy'n trefnu yn y sector preifat, a dywedodd un o'u huwch drefnwyr wrthyf i eu bod nhw wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr honiadau o fwlio ac aflonyddu ar bobl drwy gyfnod y pandemig. Wrth i bobl ddychwelyd i weithio mewn dull mwy arferol ond gyda model hybrid yn parhau i fod ar waith, mae hynny'n gwella eu bywyd yn y gwaith yn ogystal â'r tu allan iddo i lawer o bobl, yn ogystal â'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn tuag at ei gilydd. Felly, ceir cyfleoedd gwirioneddol yn ogystal â heriau wrth wneud hyn, ond rwyf i'n obeithiol y gall y cyfnod hwn o newid fod yn un adeiladol iawn i Gymru os gall pob un ohonom ni gytuno ar yr hyn yr ydym ni am ei wneud i achub ar y cyfle.
Mae gen i nifer o siaradwyr sy'n dymuno cymryd rhan eto, felly a wnewch chi i gyd geisio bod yn gryno a chithau, Gweinidog, roi atebion cryno hefyd? Mike Hedges.
Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ac yn edrych ymlaen at ddatganiadau a thrafodaethau economaidd pellach. Rwy'n croesawu'n fawr iawn fynd ar drywydd polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar swyddi gwell, gan leihau'r rhaniad sgiliau a mynd i'r afael â thlodi. Yr arf gorau o ran datblygiad economaidd yw addysg. Mae angen polisi arnom sy'n cynhyrchu mwy o gwmnïau fel Yswiriant Admiral a llai o fewnfuddsoddiadau LG. Rwy'n croesawu'r fenter i gefnogi cwmnïau lleol. Yn rhy aml rydym ni wedi gweld ffatrïoedd cangen yma am gyfnod byr cyn iddyn nhw adael.
Mae llawer y gallwn ni ei ddysgu o UDA, Lloegr ac Ewrop o ran gweithio gyda phrifysgolion i ddatblygu'r economi. Mae'n rhaid i ni fod ag economi o sgiliau uchel, cyflog uchel gyda chyfleoedd i bawb. Mae gormod o fyfyrwyr o Gymru yn gadael Cymru ar ôl graddio, yn aml heb ddychwelyd wedyn. Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym ni wedi hyrwyddo sectorau TGCh, gwyddorau bywyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i hyrwyddo a datblygu'r sectorau economaidd hyn, sydd yn sectorau cyflog uchel? A beth sy'n cael ei wneud i ddatblygu mwy o barciau gwyddoniaeth dan arweiniad prifysgolion, fel M-SParc ar Ynys Môn?
Rwy'n credu y cafwyd dau gwestiwn ar ddiwedd hynny, ac o ran y cyntaf, o ran y sector gwyddorau bywyd, mae hwn yn gyfle allweddol i ni. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd, Eluned Morgan, a minnau wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn yn ystod y tymor blaenorol, yn ein swyddi gwahanol, ac yn ystod y tymor hwn eto hefyd, gan ein bod ni'n cydnabod bod hwn yn faes lle mae Cymru yn gwneud yn well na'r disgwyl, ac mae yna swyddi da, swyddi â chyflogau uchel. Rydym ni eisoes wedi gweld mwy o'r rhain yn dod i Gymru ar gyfer y dyfodol. Rydym ni o'r farn y gallwn ni gael mwy ohonyn nhw. Wrth gwrs, mae hyn yn gysylltiedig â gwariant ar arloesedd ledled y DU, ac rydym ni'n ymdrin â Gweinidog arloesi newydd, gan nad yw'r Arglwydd Bethell yn y Llywodraeth mwyach. Arglwydd Kamall sydd â gofal am hyn o safbwynt y DU erbyn hyn, ac rwyf i o'r farn bod yna gyfleoedd gwirioneddol i Gymru y mae Eluned Morgan a minnau yn awyddus i fanteisio arnyn nhw.
Ac o ran parciau gwyddoniaeth dan arweiniad prifysgolion, ni fyddwn i mor bendant mai un model addas sydd, ond rwyf i yn credu, o ystyried y rhan honno o fy nghyfrifoldeb yn Weinidog gwyddoniaeth y Llywodraeth, yn y drafodaeth a gefais i neithiwr gyda Rhwydwaith Arloesi Cymru, mae cyfle gwirioneddol yma i fod ar ein hennill o weld cydweithredu rhwng y byd academaidd a busnesau, a chymhwyso'r wybodaeth a gafwyd, boed hynny'n brosiect unigol neu yn wir drwy glystyru'r grwpiau hynny gyda'i gilydd. Felly, rwy'n chwilio am gyfleoedd i wireddu hynny, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gweld mwy o'r rhain yn y dyfodol, ac mae angen gwirioneddol am hynny os ydym yn dymuno cael yr economi sgiliau uchel, cyflog uchel y mae pob un ohonom ni'n awyddus i'w gweld.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae tri mater yr hoffwn i eu codi yn fyr gyda chi. Yn gyntaf, cynhyrchiant. Cynhyrchiant yw'r her fwyaf sy'n wynebu economi Cymru. Nid ydych chi wedi trafod hynny yn y datganiad, a hoffwn i ddeall beth fydd dull gweithredu'r Llywodraeth hon o ran cynhyrchiant.
Yn ail, fe wnaethoch chi gloi eich datganiad drwy ddweud eich bod yn awyddus i weld economi sy'n fwy cryf, gwyrdd a theg yng Nghymru. Beth mae hynny'n ei olygu? Oherwydd rwy'n credu mai un o'r problemau gwirioneddol sydd gen i ynglŷn â llawer o ddatganiadau'r Llywodraeth yw nad yw'r amcanion, na'r targedau, na'r eglurder gennym i ddeall beth mae hynny'n ei olygu i bobl ym Mlaenau Gwent. Sut byddwn ni'n gwybod ei bod yn economi fwy cryf, yn economi fwy gwyrdd, yn economi fwy teg?
Ac yn olaf, Gweinidog, roedd y pwynt y ceisiais ei wneud yn fy nadl fer i yr wythnos diwethaf yn ymwneud â chyflawni. Mae gan Lywodraeth Cymru strategaethau effeithiol iawn ar waith ond yn aml nid yw'r rhain yn cael eu cyflawni yn y ffordd y byddem ni'n disgwyl ac yn gobeithio ei gweld yn cael eu cyflawni. Ac wrth i mi edrych yn ôl dros fy amser i yn y lle hwn, cyflawni fu'r man gwan yn ymagwedd Llywodraeth Cymru. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod gennych chi'r dulliau cyflawni ar waith fel bod gennym ni fwy na strategaeth, fel ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Mewn gwirionedd, mae'r her o ran cynhyrchiant yn fater i bob economi fodern, ac mae'n rhan o'r rheswm pam mae buddsoddi mewn talent mor bwysig. Oherwydd heb i chi allu newid systemau gweithio, neu oni bai y gallwch chi gynyddu gallu unigolion i wneud eu gwaith yn well neu'n gynt, bydd yr her o ran cynhyrchiant yn parhau i bob un ohonom ni ym mhob sector, bron â bod. Felly, dyna pam mae angen i ni gael rhywfaint o sefydlogrwydd wrth fuddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu, ac arloesi. Os na allwn ni gynhyrchu mwy yn y meysydd hynny, yna, mewn gwirionedd, byddwn ni'n ei chael hi'n wirioneddol galed i weld gwelliant o ran cynhyrchiant.
Yn ystod datganoli, rydym ni wedi gweld cynnydd o ran cynhyrchiant, ond ein her ni yw pa un a yw hyn wedi bod yn ddigon cyflym a pha un a yw hyn yn cymharu â gweddill y DU, yn enwedig â rhanbarth de-ddwyrain Lloegr, heb sôn am y gallu i ddal i fyny a chyrraedd pwynt lle gwelwn ni'r her sydd gennym ni nid yn unig o ran cynhyrchiant, a beth mae hynny'n ei olygu i gyflogau a ffyniant i deuluoedd unigol, ond o ran cymunedau hefyd. Ac mae'n debyg bod hynny'n cyffwrdd â'ch pwynt chi ynglŷn â'r hyn y mae economi sy'n fwy cryf, gwyrdd, a theg yn ei olygu.
Wel, y perygl yw ein bod ni bob amser—. Y ffordd yr ydym ni'n ymgyrchu, a'r ffordd y mae'n rhaid i ni weithredu yn y Llywodraeth wedyn, rydych chi'n gweld llawer mwy o'r arlliw a'r manylder yn dod i'r amlwg wrth weithredu. Byddwn i'n dweud y bydd economi gryfach yn un fwy cadarn hefyd, lle rydym ni'n gwneud mwy na gwella'r cyfraddau ar gyfer talu cyflogau, ond lle mae tegwch yn rhan o'r cyflogau hefyd, a ble caiff y cyflogau hynny eu talu, ac i bwy, hefyd, i sicrhau na welwn ni rai o'r anghydraddoldebau strwythurol sydd gennym ni eisoes.
Mae angen i ni hefyd, o ran tegwch, ystyried dynion a menywod yn y gweithle. A'r her wahanol sydd gennym ni yw'r heriau croestoriadol sy'n ein hwynebu ni. Mae rhywun sy'n edrych fel fi yn y wlad hon yn debygol o ennill llawer llai na rhywun sy'n edrych fel yr Aelod, ac nid yw hynny oherwydd bod gan rywun sy'n edrych fel fi lai o dalent. Felly, mae angen i ni gydnabod hynny yn y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio yn fwy eang ac yn fwy cyffredinol.
Ac o feddwl am eich dadl fer chi a'ch pwyslais ar gyflawni a sicrhau bod rhywbeth yn digwydd, os na allwn ni weld cam sylweddol ymlaen yn ystod y tymor hwn a thu hwnt yn ardal Blaenau'r Cymoedd, ni fyddwn yn gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol y wlad: yr economi gryfach, wyrddach a thecach honno yr ydym ni yn awyddus i'w gweld.
Felly, o ran y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael eisoes gyda phartneriaid rhanbarthol: y cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd, y strwythurau rhanbarthol newydd y mae pawb wedi ymrwymo iddyn nhw, beth fyddan nhw'n ei gyflawni? A fyddwn ni'n gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu am le mae dewisiadau y bydd yr ardaloedd rhanbarthol hynny'n eu gwneud nhw drostyn nhw eu hunain, heb Lywodraeth Cymru, ardaloedd lle mae partneriaethau gwirioneddol a dealltwriaeth glir o bwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn bwrw ymlaen ac yn cyflawni hynny? Ac mae'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod yn ei ôl ac yn dweud, 'Wel, beth sy'n digwydd yn fy nghymuned i? Beth sy'n digwydd yn ardal Blaenau'r Cymoedd? A ydw i'n gweld fy nghymuned i'n mynd yn fwy ffyniannus mewn gwirionedd? A yw amodau economaidd-gymdeithasol y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn gwella ai peidio?' Dyna'r prawf yr wyf i'n gwybod y bydd yr Aelod yn ei roi, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y drafodaeth honno gydag ef.
Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad. Teitl y datganiad penodol hwn oedd 'Symud Economi Cymru Ymlaen', ac mae hi'n braf iawn clywed un o Weinidogion Llywodraeth Lafur Cymru sy'n dymuno symud yr economi ymlaen. Ond mae hyn yn dod oddi wrth Weinidog y mae ei blaid wedi bod yn y Llywodraeth yma yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf a mwy. Gweithwyr Cymru sydd â'r cyflogau wythnosol isaf ym Mhrydain Fawr, tra bod busnesau yng Nghymru yn talu'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain Fawr, ac, ar ben y cwbl, mae penderfyniadau allweddol o ran seilwaith i sbarduno ein heconomi ymlaen ar ôl COVID wedi eu rhewi gan y Dirprwy Weinidog drwy ei foratoriwm ar adeiladu ffyrdd. Serch hynny, os ydym ni am symud yr economi ymlaen, efallai fod hynny i gyd yn y gorffennol.
Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, rwy'n credu bod y gronfa i gefnogi cwmnïau lleol, yn rhywbeth cadarnhaol. Roedd rhai pethau cadarnhaol yn eich datganiad—
A wnewch chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda?
Gwnaf, fe ddof i at hynny nawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu y gallech chi fod wedi mynd ymhellach. Felly, Gweinidog, a wnewch chi geisio buddsoddi mewn seilwaith nawr i ddenu busnesau mawr? A wnewch chi eu cefnogi drwy dorri ardrethi busnes a grymuso pobl ifanc drwy greu mwy o swyddi medrus, datblygu mwy o gartrefi, buddsoddi mwy o arian mewn addysg a hyfforddiant a chodi gwastad y wlad gyfan y tu hwnt i Gaerdydd?
Diolch.
Oherwydd dyna sut mae codi gwastad yr economi, Gweinidog. A ydych chi'n cytuno?
Wel, mae'n gyfres ddiddorol o sylwadau. Nid wyf i'n siŵr a yw wedi gwrando ar y datganiad na'r atebion blaenorol yr wyf i wedi eu rhoi pan wyf i wedi sôn am fuddsoddi mewn sgiliau ac wedi trafod buddsoddi mewn pobl ifanc. Rydym ni wedi trafod y ffaith bod economi Cymru wedi gwella yn ystod datganoli, ac rwy'n falch iawn o fod yn dilyn Ken Skates yn y swydd hon: rhywun a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol yr economi i Gymru; rhywun na allech chi ei gyhuddo o beidio â bod yn awyddus i ddwyn economi Cymru ymlaen. Rwy'n credu ein bod ni'n edrych tua'r cyfeiriad cywir. O na fyddai gennym ni Lywodraeth y DU o'n plaid ni a fyddai'n barod i weithio gyda'r Llywodraeth Cymru hon i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru ac yn y dyfodol, nad oedd yn tynnu oddi wrth Gymru, mewn un flwyddyn galendr, fwy na dwbl maint cyllideb Cyngor Sir Fynwy, gallem ni wneud mwy eto. Ac rwyf i o'r farn bod pobl Cymru yn cytuno â ni. Wedi'r cyfan, eu dewis nhw fu ethol Llywodraethau dan arweiniad Llafur Cymru am y ddau ddegawd diwethaf.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac i'r Gweinidogion blaenorol am eu hymrwymiad nhw i ddwyn economi Cymru ymlaen hefyd. Fy nghymuned i, fel y gŵyr y Gweinidog, yw cadarnle gweithgynhyrchu Cymru, ac mae'n her i bob un ohonom ni sy'n llunio polisïau, a Gweinidogion ym mhob Llywodraeth yn arbennig, i sicrhau bod technoleg adnewyddadwy y dyfodol yn cael ei chynllunio a'i datblygu mewn cymunedau fel fy un i, ac yna yn cael ei chynhyrchu a'i gwasanaethu wedyn mewn cymunedau fel fy un i. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o'r tri pholisi beiddgar a nodais i cyn yr etholiadau: prawf incwm sylfaenol cyffredinol, wythnos waith bedwar diwrnod a bargen newydd werdd, a phwysigrwydd bargen newydd werdd, oherwydd ei bod yn cyflawni'r tri nod ehangach yr ydym ni i gyd wedi ein hethol i'w cyrraedd, sef creu swyddi, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac, yn bwysicaf oll, osgoi'r materion trychinebus sydd gennym ni o ran newid yn yr hinsawdd. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cefnogi fy ngalwad i am fargen newydd werdd, ac a wnewch chi nodi'n fanylach sut y byddwch chi'n sicrhau bod fy nghymuned i yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn elwa ar y don nesaf o greu swyddi wrth i ni ddwyn economi Cymru ymlaen?
Wel, rwy'n credu mai hwnnw yw'r diffiniad o'r hyn yr ydym ni'n ei galw yn 'fargen newydd werdd'. Pan fyddwch chi'n clywed Julie James yn trafod yr ail gynllun cyflawni carbon isel, rydym yn clywed llawer am arwain at economi newydd werdd i sicrhau ein bod ni'n gwella ein heffaith—ein heffaith amgylcheddol—ar ein gweithgarwch heddiw, a gwneud yn siŵr y gallwn ni fanteisio ar y diwydiannau hynny sydd yma eisoes. Rydym ni wedi cael cyflwyniadau yn ddiweddar, ac roedd llawer o'r Aelodau yn bresennol ynddyn nhw, ar gyflwyno ynni ar y môr, ond mae cyfleoedd mawr, nid yn unig wrth greu y rhain, ond yn y gadwyn gyflenwi sy'n dod gyda hynny, a dylai fod swyddi ar draws y sector cyfan.
Y seilwaith hydrogen a ddylai gael ei ddatblygu ar draws gogledd-orllewin Lloegr a thrwy ogledd Cymru, a'r cyfleoedd ar gyfer diwydiannau pellach hefyd. Ac yn eich etholaeth chi, a byddwch chi'n gwybod hyn, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru ac Airbus a'u hawydd nhw i weld tanwyddau'r dyfodol, i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae'r diwydiant awyr yn gweithio. Mae gennym ni gyfleoedd enfawr a risgiau os na fyddwn yn barod i gymryd y cam hwnnw ymlaen.
Ac, wrth gwrs, bydd ein diwydiannau traddodiadol yn parhau i fod yn bwysig hefyd, gan gynnwys dur Shotton, wrth gwrs, lle cefais gyfle i ymweld â'r Aelod, a'r cyfle i sicrhau bod y diwydiannau gwerth uchel hynny yn gallu datgarboneiddio, ond mewn ffordd lle mae'r newid yn un cyfiawn heb unrhyw golled o ran swyddi.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Yng nghyd-destun y pum mlynedd diwethaf, Brexit, toriadau cyni ac, wrth gwrs, y pandemig, mae angen cynllun uchelgeisiol arnom i ddwyn economi Cymru ymlaen. Mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda busnesau lleol fel Flowtech yn y Rhondda, busnes y bu'r Gweinidog a minnau yn ymweld ag ef ddoe, a fydd yn ehangu o ganlyniad i gontract economaidd Llywodraeth Cymru, ac, ochr yn ochr â miloedd o fusnesau eraill yn y Rhondda, bydd yn cyfrannu at ymdrech ehangach tîm Cymru i greu dyfodol economaidd sy'n fwy cryf, teg a gwyrdd.
Cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn, bues i'n gweithio ym maes addysg ac yn rhedeg elusen i gefnogi pobl ifanc y Rhondda. Y neges yr wyf i wedi ei chlywed gan ein pobl ifanc ers llawer gormod o amser fu, 'I lwyddo, mae'n rhaid gadael.' Beth all y Gweinidog ei ddweud wrth y bobl ifanc hynny yn y Rhondda sy'n dymuno gwneud eu bywoliaeth yng Nghymru, ond sy'n teimlo nad yw hyn yn bosibl?
Wel, ein gwaith ni yw sicrhau bod gan y bobl hynny ddyfodol lle na fydd angen iddyn nhw adael er mwyn llwyddo. Ac, mewn gwirionedd, pan aethom ni i ymweld â Flowtech ddoe, fe welsom ni fod llawer o bobl o fewn pellter cerdded i'r cyflogwr hwnnw hefyd, felly roedd yn fusnes gwirioneddol leol wedi ei ymsefydlu yn wirioneddol yn y gymuned honno. Ac, wrth gwrs, fel y dywedodd yr Aelod dros y Rhondda, yn ogystal â chontract economaidd yn awr, maen nhw'n treialu cam nesaf contract economaidd gwell i edrych ar yr ymrwymiad y byddan nhw'n ei wneud i'w gweithlu a'u heffaith ar eu cymuned leol. Ac rwyf i yn credu, drwy'r warant i bobl ifanc a'r ymyriadau sydd gennym ni, ond hefyd ymdeimlad gwirioneddol o optimistiaeth o ran ein dyfodol economaidd, y byddwn yn gallu dweud yn uniongyrchol wrth bobl, 'Mae dyfodol yma i chi yn eich cynefin. Mae'n ddyfodol disglair a chadarnhaol, ac yn wir nid oes angen i chi adael Cymru i lwyddo.' Nawr, rwy'n credu bod honno yn neges y gallai pawb yn y Siambr hon ei chefnogi.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch am y datganiad. Gweinidog, etholodd pobl dda Islwyn a Chymru Lywodraeth Lafur Cymru yn ôl ym mis Mai oherwydd eu hawydd democrataidd i ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru i dyfu economi Cymru yn ôl yn decach, yn gryfach ac yn wyrddach. Rwyf hefyd yn croesawu gwarant pobl ifanc Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed yng Nghymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol arloesol a radical ar gyfer ein pobl ifanc sy'n derbyn gofal. Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn ein hieuenctid ac rydym yn adeiladu llwybr i genedlaethau'r dyfodol ddysgu, byw a ffynnu yn y cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw. Fodd bynnag, er gwaethaf angerdd, optimistiaeth ein pobl ifanc nawr, y ddemocratiaeth fywiog sy'n cydio nawr, a'n Senedd Ieuenctid unigryw ac arloesol, rydym hefyd yn parhau i wynebu heriau gwirioneddol anodd—
Gofynnwch eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Gweinidog, mae'r weledigaeth ar gyfer economi Cymru wedi'i nodi'n glir gennych o dan ymbarél 'tîm Cymru'. Felly, Gweinidog, wrth inni nesáu at strategaeth ddi-garbon y DU a'i hystyried wrth agosáu at COP26, beth yw'r heriau, a beth yw'r rhwystrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu er mwyn parhau i greu dyfodol tecach, cryfach a gwyrddach i'r holl bobl sy'n ystyried Islwyn yn gartref?
Rwy'n credu ei fod yn berthnasol i bobl yn Islwyn ac ym mhob etholaeth a rhanbarth ledled Cymru; ein gallu i fuddsoddi mewn diwydiannau yn y dyfodol gyda'r lefel o sicrwydd y bydd ei angen arnom. Mae angen i Lywodraeth y DU gydweddu â'r sefydlogrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu drwy gynnig lefel o gysondeb hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, os oes gennym ymagwedd ychydig yn anhrefnus at y dyfodol, gyda'r holl wrth-friffio sy'n digwydd, mae'n gwneud ein holl swyddi'n llawer anoddach. Mae busnesau'n dweud, pan nad ydyn nhw o flaen camera, ond mewn gwirionedd, eu bod wirioneddol eisiau cael amgylchedd mwy cynaliadwy i ddeall a fydd yr addewidion sy'n debygol o gael eu gwneud yn y cyfnod cyn COP26 gan Lywodraeth y DU yn cael eu gwireddu, os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gael cyfle i fuddsoddi yn y sgiliau hynny yn y dyfodol, diwydiannau yn y dyfodol, oherwydd mae'r Llywodraeth hon yn barod i wneud hynny. Ac rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr hon, pan fydd Julie James yn nodi'r ail gynllun cyflawni carbon isel hwnnw, yn gweld maint yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon, ond hefyd, pa mor anodd fydd rhai o'r dewisiadau hynny. Bydd angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw a'r ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni ein huchelgeisiau, ond rwy'n credu yng Nghymru fod gennym gyfraniad gwirioneddol i'w wneud, nid yn unig i ni ein hunain, ond ein heffaith ar y byd ehangach hefyd. Llawer o ddiolch.
Diolch, Weinidog.