– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Gymru ac Affrica, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Jane Hutt.
Llywydd, mae Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan, a byddwn ni bob amser yn ymdrechu i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae ein rhaglen Cymru ac Affrica yn ffordd bwysig o ddangos hyn.
Eleni, rydym yn dathlu 15 mlynedd o raglen Cymru ac Affrica, sy'n parhau i addasu i heriau a chyfleoedd. Mae ganddo le amlwg yn ein strategaeth ryngwladol a lansiwyd yn 2020. Yn y datganiad hwn, byddaf yn canolbwyntio ar ddwy o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu—COVID-19 a'r argyfwng hinsawdd—a sut y mae'r rhaglen Cymru ac Affrica yn ymateb.
Mae'r pandemig wedi gadael llawer iawn o ddinistr a cholled yn ei sgil—ac nid yw wedi dod i ben eto. Mae llawer o wledydd Affrica yn dal i fod yn llygad y ddrycin, gydag achosion COVID a thonnau mynych o heintiau'n ysgubo drwy gymunedau. Chwech y cant yn unig yw cyfartaledd y gyfradd frechu yn Affrica is-Sahara. Yn wir, nid oes yr un ohonom yn ddiogel nes bod pob un ohonom yn ddiogel.
Annhegwch brechu yw'r rhwystr mwyaf sy'n atal y byd rhag dod allan o'r pandemig hwn. Er nad yw dosbarthiad y brechlyn wedi ei ddatganoli, mae'r Prif Weinidog wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol, ac, yn benodol, i leoedd sydd â chysylltiadau cryf â Chymru fel Uganda, Namibia a Lesotho. Ac rwy'n gwneud yr alwad honno eto heddiw, Llywydd. Yma yn y DU, bydd miliynau o ddosau'n cael eu taflu, hyd yn oed pan fyddai modd iddyn nhw, o gynllunio yn well, gael eu defnyddio yn Affrica is-Sahara, fel mae Cynghrair Brechu'r Bobl wedi ei nodi. Er na allwn ni anfon brechlynnau ein hunain, fel Llywodraeth, mae gwaith pwysig y gallwn ei gefnogi, a dyma pam, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.5 miliwn ychwanegol i sefydliadau yng Nghymru er mwyn gweithio mewn partneriaeth â llawer o wledydd yn Affrica i ymladd yn erbyn COVID.
Petruster ynghylch y brechlyn a diffyg ymwybyddiaeth, diffyg ocsigen, cyfarpar diogelu personol a'r hyfforddiant i'w ddefnyddio'n iawn—mae'r rhain i gyd yn feysydd sy'n peri pryder. Dyna pam yr wyf i'n falch ein bod ni wedi gallu cefnogi nifer o wahanol brosiectau gyda'r cyllid ychwanegol hwn. Un enghraifft yw United Purpose yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn darparu ymateb brys cyflym i COVID yn Nigeria, y Gambia, Senegal a Guinea, gan gyrraedd dros 4 miliwn o'r bobl dlotaf yn y byd. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae ardaloedd glanweithdra glân yn cael eu darparu, mae ymwybyddiaeth o frechlynnau yn cael ei chodi, ac mae pobl sydd wedi colli eu bywoliaeth gyfan o ganlyniad i COVID yn cael hyfforddiant mewn ffyrdd eraill o'u cefnogi eu hunain.
Enghraifft arall yw Teams4U. Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol yn Uganda, gan wella glanweithdra a darpariaeth mislif mewn canolfannau iechyd ac ysgolion, a sicrhau bod dŵr poeth yn cael ei blymio i ganolfannau iechyd, sy'n hanfodol ar gyfer trin cleifion yn effeithiol ac yn ddiogel.
Mae'r Prosiect Phoenix yn brosiect hynod gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, sy'n gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno rhaglen hybu brechu yn Namibia yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yna cyflwyno'r rhaglen frechu ei hun, gan achub llawer o fywydau. Dyfarnwyd grant i Brosiect Phoenix hefyd yn ddiweddar i gefnogi Namibia i sicrhau bod cyflenwadau ocsigen gwell yn y mannau cywir, ar yr adeg gywir, gyda hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu i gannoedd o nyrsys a meddygon i reoli'r cyflenwadau ocsigen hynny.
Yn yr un modd, fe wnaethom ni ddarparu grant hefyd i Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Partneriaethau Tramor, neu PONT, sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty Cyfeirio Rhanbarthol Mbale yn Uganda, i brynu cyfarpar diogelu personol, offer a generaduron ocsigen hanfodol. Wrth gwrs, nid dim ond drwy ddarparu arian y gallwn ddangos ein hymrwymiad i gefnogi gwledydd lle mae ei angen fwyaf. Mae'r rhodd ddiweddar i Namibia o offer dros ben a phrofion llif unffordd wedi helpu gyda'i thrydedd don o COVID.
Gyda COP26 yn digwydd yn Glasgow, hoffwn i hefyd dynnu sylw at y gwaith parhaus y mae ein rhaglenni cymorth i blannu coed yn ei wneud wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae ein prosiectau partner yn gweithio i liniaru tlodi a chefnogi ymaddasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir o blannu 15 miliwn o goed yn gynharach eleni, tuag at y targed o ddosbarthu 25 miliwn o goed erbyn 2025.
Yn gysylltiedig â'r gwaith hwn mae Jenipher’s Coffi, partneriaeth rydym yn falch o'i chefnogi, sy'n mewnforio coffi masnach deg ac organig o'r ansawdd gorau i Gymru ac yn helpu ffermwyr o Uganda i weithio mewn cytgord â natur, wrth iddyn nhw wynebu'r argyfwng hinsawdd. Jenipher Sambazi sy'n arwain y prosiect hwn, gan arwain y ffordd i fenywod a'u cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ei chyfarfod pan fydd yn ymweld â Chymru yn ddiweddarach y mis hwn. Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ei chefnogi i fynychu COP26. Mae hi'n siarad y prynhawn yma mewn digwyddiad COP26 gan Lywodraeth Cymru yn Glasgow, ynghyd â chynrychiolwyr o Namibia ac Uganda. Byddan nhw'n sôn am effaith gweithgarwch plannu ac ailgoedwigo y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ariannu.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a bydd y rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i chwarae ei rhan yn hynny. Rydym yn defnyddio ein cynlluniau grant bach a mwy i roi cymorth i'r heriau byd-eang hyn. Agorodd ail rownd cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica a'r £700,000 sy'n weddill o'r £2.5 miliwn o gyllid ymateb brys COVID ar gyfer ceisiadau yr wythnos diwethaf. Bydd y grantiau bach yn parhau i ariannu sefydliadau yng Nghymru a'u gwaith gyda phartneriaid yn Affrica i gyflawni prosiectau o dan bedair thema, sef dysgu gydol oes, iechyd, bywoliaeth gynaliadwy a newid yn yr hinsawdd.
Gan ei fod yn thema diwrnod rhywedd yn COP26 heddiw, roeddwn i eisiau nodi rhai o'r prosiectau ar draws ein grantiau a'n rhaglenni sy'n cefnogi mentrau cydraddoldeb rhwng y rhywiau—prosiectau fel Mamau Affrica, Cydweithfa Menywod Chomuzangari a phrosiect grymuso menywod Hub Cymru Africa sy'n ymchwilio i brofiad dioddefwyr trais ar sail rhywedd yn Lesotho, sut y mae angen asesu'r system adrodd. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Hub Cymru Africa yn lansio cynllun grant i sefydliadau gyflwyno cynigion prosiect i weithio gyda'u partneriaid yn Uganda ar y gweithgaredd cydraddoldeb rhwng y rhywiau hwn. A gaf i fanteisio ar y cyfle i ganmol y gweithredydd hinsawdd o Uganda Vanessa Nakate, sydd wedi dweud yr wythnos hon yn COP26 yn Glasgow:
'Mae rhai ohonom yn dod o gymunedau lle mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched'?
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn gweld mwy o waith gyda'n cymunedau sydd ar wasgar yng Nghymru. Dylai unrhyw weithgarwch a wneir yn Affrica fod yn llai amdanom ni’n gwneud penderfyniadau ac yn gwneud y gwaith a mwy am gefnogi pobl yn y cymunedau hyn i nodi a chyflawni'r hyn sydd ei angen. Mae gan bob etholaeth yng Nghymru bartneriaethau yn Affrica, a byddwn yn parhau i gefnogi'r partneriaethau hyn drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen hyn. Am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, cododd tlodi eithafol byd-eang yn 2020. Nawr yw'r amser i roi hwb i gymorth i genhedloedd sydd ei angen fwyaf. Rydym yn glynu wrth ein hegwyddorion fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac rydym yn sefyll wrth ochr ein ffrindiau. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n wych gweld bod y rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i fod o fudd i rai o wledydd tlotaf y byd, a bod cylch arall o gyllid ar raddfa fach wedi ei lansio. Mae hyn wedi bod yn ffynhonnell hanfodol o incwm i ddarparu cymorth a chefnogaeth i lawer o elusennau bach a grwpiau cymunedol ar gyfandir Affrica. A hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch a fy nghefnogaeth i'r holl waith maen nhw’n ei wneud.
Gan fyfyrio ar y ffordd orau o sicrhau y cyllid grant mwyaf, hoffwn i godi mater trosi a chyfnewid arian cyfred, sy'n elfen hanfodol ar gyfer cyllido prosiectau dramor. Fel y gŵyr y Gweinidog, ac os defnyddiwn ni Uganda fel enghraifft, mae'r bunt Brydeinig dros y degawd diwethaf wedi bod yn werth unrhyw beth o 3,600 swllt Uganda i hyd at 5,700 swllt, a bydd y gwahaniaeth eithaf mawr hwn yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar faint o arian y gall prosiect ei wario. Gall pum mil o bunnoedd, er enghraifft, fod yn werth unrhyw beth o 18 miliwn i 28 miliwn swllt, yn dibynnu ar ba bryd y caiff yr arian ei gyfnewid, ac mae hyn yn golygu y gallai prosiectau ei chael hi’n anodd cyflawni eu potensial llawn.
Mae'n sicr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol na allwch chi brynu swllt Uganda a llawer o arian Affricanaidd arall yn y Deyrnas Unedig, a'r ffordd fwyaf effeithlon o ran cost i elusennau drosglwyddo arian i'r gwledydd hyn yw trwy fynd ag ef yno eu hunain mewn arian parod yn gorfforol ac yna ei gyfnewid wrth gyrraedd. Yn ogystal â'r ffaith y gall cario arian parod mewn symiau mor fawr fod yn beryglus, mae prosiectau elusennol a chymunedol hefyd ar drugaredd ffioedd cyfnewid uchel, sy'n golygu ei bod yn anodd iawn pennu costau a rheoli cyllidebau. Gyda hyn mewn golwg, a all y Gweinidog gadarnhau p’un a yw wedi ystyried y posibilrwydd o ganiatáu i'r elusennau a'r grwpiau cymunedol hyn hawlio arian prosiect yn uniongyrchol yn eu priod wledydd, yn hytrach na rhedeg y risgiau o fewnforio eu harian yn gorfforol?
Rwy'n ymwybodol nad yw'r Gweinidog wedi sôn amdano, ond, yr wythnos diwethaf, cefais i wrando ar rai o'r trafodaethau yng nghynhadledd flynyddol Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, GlobalCitizenship2021, a chefais fy nharo gan y drafodaeth ar yr adroddiad ar sicrhau’r potensial mwyaf posibl ar gyfer budd yn y dyfodol, sy'n dadansoddi cysylltiadau partneriaeth iechyd mewn cysylltiad â'r rhaglen Cymru ac Affrica a'r gwaith rhyngwladol a wneir gan staff iechyd yng Nghymru. Nid yw'n syndod bod beirniadaeth yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at sawl maes y mae angen eu gwella, a byddwn i'n croesawu'n fawr sylwadau'r Gweinidog ar ddau o'r pwyntiau hynny.
Yn gyntaf, mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr adroddiad, tynnodd y cyfranogwyr sylw at eu pryderon ynghylch rhwystrau sydd ar waith sy'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd cymunedau ar wasgar yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gwaith partneriaeth iechyd. Un o'r materion sylfaenol a nodwyd, ac rwy’n dyfynnu, yw 'ymdeimlad o allgáu o sector datblygu rhyngwladol rhy wyn'. Yn wir, os byddwn yn crafu'r wyneb, fel maen nhw’n ei ddweud, gallwn ddod o hyd i ryw elfen o wirionedd yn hyn o beth. Er enghraifft, mae'r naw ymddiriedolwr ym Maint Cymru, dan arweiniad cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn wyn; mae gan Rwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru yn Affrica bedwar allan o chwe ymddiriedolwr gwyn; ac ar dudalen we Hub Cymru Africa, mae 10 allan o 12 o'r rhai hynny a restrir hefyd yn wyn. Er nad oes gen i amheuaeth bod ymgysylltiad â'r gymuned ar wasgar yng Nghymru, ac rydych chi wedi sôn yn benodol amdano yn eich datganiad heddiw, mae'n amlwg pam mae cymunedau'n credu nad oes ganddyn nhw lais ar y prif fwrdd. Gan fyfyrio ar ddatganiadau Llywodraeth Cymru ar greu ac annog mwy o amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, rwy'n awyddus i wybod beth mae'r Gweinidog yn ei wneud mewn gwirionedd i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Yn ail, fel y mae'r adroddiad yn ei amlinellu, mae cynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu hategu gan weithrediad polisi tameidiog a darniog, sy'n creu bwlch amlwg rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei fwriadu ac arfer gwirioneddol. Mae hwn yn fater sydd, ar bob golwg, yn codi dro ar ôl tro gyda'r Llywodraeth hon. Er enghraifft, ar ôl wyth mlynedd o'i mabwysiadu, nid yw'r siarter ar gyfer partneriaethau iechyd rhyngwladol yn cael ei gweithredu'n llawn o hyd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu â darparu digon o adnoddau i sefydliadau neilltuo cyfrifoldeb am waith rhyngwladol o fewn eu strwythurau sefydliadol—sy'n eithaf eironig, o gofio bod 'rhyngwladol' wedi ei gynnwys yn enw'r siarter. At hynny, er gwaethaf manteision canfyddedig y siarter, mae diffyg strategaeth gyfathrebu, sy'n golygu nad yw sefydliadau wedi cynnwys y siarter yn eu blaengynlluniau gwaith. Yn wir, prin iawn yw'r ymwybyddiaeth o'r siarter y tu hwnt i lefel y bwrdd, gan awgrymu'n glir mai ychydig o bobl sy'n credu ei bod yn werth siarad amdano.
Rydym yn gwybod am y manteision y gall gwaith rhyngwladol eu cynnig i'r GIG, ac mae pobl ymroddedig yn buddsoddi eu hamser a'u hegni i geisio gwneud i hyn weithio a datblygu partneriaethau iechyd rhyngwladol, ond maen nhw’n cael eu siomi gan obsesiwn afiach y Llywodraeth hon â gor-gymhlethu popeth. Mae'r adroddiad ar sicrhau’r potensial mwyaf posibl ar gyfer budd yn y dyfodol yn frith o gyhuddiadau nad oes gan y Llywodraeth strategaeth glir ym maes iechyd rhyngwladol ac nad oes dim nodau nac amcanion cydgysylltiedig. At hynny, mae'n ymddangos bod gennych gymhelliad seicotig bron i greu mwy a mwy o gytundebau partneriaeth yn wyneb dyblygu ymdrech a phledio'r rhai sy'n gysylltiedig i leihau nifer y cyfarfodydd y mae'n rhaid iddyn nhw eu mynychu. Dangosir hyn gan y siart rhyngddibyniaeth ysgubol sydd i’w weld yn yr adroddiad, a fyddai'n rhoi hunllefau hyd yn oed i'r gwyliwr ffilmiau arswyd mwyaf caled.
Felly, mae'n codi'r cwestiwn pam ydych chi'n ymwneud â hyn o gwbl. Mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod y gymuned partneriaeth iechyd yn galw am arweinyddiaeth ac ewyllys wleidyddol i ddatrys y materion hyn. Felly, fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am y rhaglen Cymru ac Affrica, mae'r cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â'r materion hyn ar eich ysgwyddau chi. Sut ydych chi’n bwriadu mynd i'r afael â'r pryderon hyn? Diolch.
Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am ei gefnogaeth agoriadol amlinellol i'r rhaglen Cymru ac Affrica ac i'r partneriaethau, sydd, wrth gwrs, yn ymestyn i bob etholaeth, ac mae llawer o'r Aelodau yma yn falch iawn ohonyn nhw ac wedi derbyn ein cyllid grantiau bach hollbwysig.
Wrth gwrs, rydych chi’n codi pwyntiau pwysig am faterion trosi, cyfnewid ac arian cyfred, materion sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar yr holl waith o gefnogi datblygiad rhyngwladol, o ran cyfraddau cyfnewid a mynediad at arian cyfred, ac mae hynny'n bwynt pwysig, o ran sicrhau y gall ein sefydliadau partner hawlio’r cyllid yr ydym ni, wrth gwrs, yn ei rannu ac yn ei ddyrannu i ddiwallu eu hanghenion.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu mynd i gynhadledd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, yr oeddwn i'n bresennol ynddi hefyd, fel y gwyddoch chi, a lle cyflwynais araith yr wythnos diwethaf. A thema'r gynhadledd hon i gyd-Aelodau oedd dinasyddiaeth fyd-eang. Wrth gwrs, cawsom gynrychiolaeth gan yr holl fyrddau iechyd hynny, sefydliadau Cymru a phartneriaid Affrica, prifysgolion, a gweithwyr iechyd a'r GIG o bob rhan o'r DU, sy'n cydnabod y gwaith yr ydym yn ei wneud a’i bwysigrwydd. Ac rwy'n credu ei bod hi, mewn gwirionedd, yn ddefnyddiol i fyfyrio ar gryfder cyfleoedd dysgu rhyngwladol. Mae'r cynllun hwnnw wedi ei ddarparu i bron i 200 o bobl o Gymru, gyda lleoliadau wyth wythnos naill ai yn Lesotho, Uganda neu Namibia, ac maen nhw wedi cynorthwyo sefydliadau partner yn eu hymdrechion i gyflawni agweddau ar nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Os oes unrhyw un ohonoch chi wedi cwrdd â phobl yn ein byrddau iechyd sydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd—ac, yn wir, gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi cymryd rhan—yn y cynllun cyfleoedd dysgu rhyngwladol hwn, byddwch chi'n gwybod pa mor drawsnewidiol ydyw ar sail cyd-ddysgu o ran y cyfleoedd hynny.
Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y ddarpariaeth a'r cymorth a roddir o ganlyniad i'n rhaglen grantiau bach a gwaith Hub Cymru Africa, ac rwy'n credu, dim ond o ran edrych ar Hub Cymru Africa, cefnogi cymuned Cymru-Affrica, soniais am y gymuned ar wasgar, ac rydym ni'n cydweithio'n agos iawn â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Masnach Deg Cymru, ac, i roi un enghraifft i chi, fis diwethaf, cafodd Hub Cymru Africa £40,000 gan y rhaglen Cymru ac Affrica i gyflawni'r prosiect grymuso menywod. Ac mae hynny yn ymwneud â grymuso felly—. Mae'r Aelod yn tynnu sylw pwysig at y ffaith bod hyn yn ymwneud â grymuso'r cymunedau hynny a grymuso, yn arbennig, menywod, ac mae hynny'n caniatáu i grwpiau o Gymru gyfrannu at ganlyniadau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn Uganda.
Rwyf i wedi siomi yn y ffaith nad yw'n ymddangos eich bod chi'n cydnabod effaith y rhaglen Cymru ac Affrica am gynifer o flynyddoedd. Hoffwn i atgoffa'r Aelod mai gweledigaeth rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yw cefnogi Cymru i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy ddatblygu a meithrin partneriaethau cynaliadwy, ac mae yn cyflawni'r partneriaethau cynaliadwy hynny yn Affrica Is-Sahara mewn gwirionedd, neu yn y swyddogaeth o gefnogi nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Ac, wrth gwrs, mae galw enfawr yng Nghymru am ymateb Cymreig nodedig i gyfrannu at ddatblygu rhyngwladol. Ac, wrth gwrs, y rheswm am yr ymateb hwnnw yw ein bod ni'n gweld ein bod ni'n cefnogi dwsinau o grwpiau cymdeithas sifil bach sy'n gweithio gyda phartneriaid yn Affrica ar addysg ac ar anghenion cymunedol, gan hybu iechyd a lles, diwylliant, chwaraeon a busnes, fel Jenipher’s Coffi, ac rydym yn dangos effaith ein gweithgareddau datblygu cynaliadwy a newid yn yr hinsawdd mwyaf llwyddiannus ledled Cymru.
A byddwn i'n gobeithio, fel y dywedais i ar ddiwedd fy natganiad, y byddem ni'n gweld mai dyma'r amser i ni ddod at ein gilydd, ac yn enwedig gyda COP26 a'r her newid yn yr hinsawdd. Byddwch chi wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i Affrica o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, ac fe wnes i’r pwynt yn fy natganiad: nawr yw'r amser i ni wneud popeth o fewn ein gallu i rannu ein hadnoddau ac edrych ar roi cymorth. Felly, gofynnaf i chi godi gyda'ch Llywodraeth yn y DU y pryderon sydd gennym ni fod Llywodraeth y DU wedi diddymu'r Adran Datblygu Rhyngwladol ac wedi amsugno ei chyllideb i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad y llynedd—ac roeddem ni'n gwybod y byddai rhai tlotaf y byd yn dioddef—ac yna troi yn ôl ar ymrwymiad maniffesto'r Ceidwadwyr, gan dorri £4 biliwn o'r gyllideb dramor, gan arwain at effaith ddinistriol ar gynifer o fywydau yn y gwledydd tlotaf. Ac i roi un enghraifft i chi, Bees for Development yn Nhrefynwy—mae eu cyllid grant partneriaeth gymunedol tair blynedd o £250,000 ar gyfer gwaith yn Ethiopia wedi ei dorri o ganlyniad i'r toriadau o'r gyllideb datblygu cymorth tramor. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cau prosiect pwysig, gan dorri 41 y cant o'r gyllideb. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwrando ar Jenipher, wrth iddi sôn am ei gwaith heddiw yn Glasgow, yn COP26. Mae hi'n mynd i fod yn sôn am yr hyn y mae'n ei olygu iddi gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r rhaglen Cymru ac Affrica i gefnogi ei gwaith fel tyfwr coffi yn Uganda.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae nifer o bwyntiau pwysig yn cael eu codi gennych, ac roedd yn wych cael ein hatgoffa am yr holl gysylltiadau cryf sydd rhwng Cymru ac Affrica, a’r cyfoeth o brosiectau sydd yn cael eu gwireddu’n barod.
Fel y byddwch yn ymwybodol, mae ymgyrch Brechlyn y Bobl yn rhywbeth rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn gyfan gwbl gefnogol ohono, a dwi'n cytuno’n llwyr gyda chi: mae diogelwch pawb yn ddibynnol ar bawb yn cael yr un cyfle i dderbyn y brechlyn, lle bynnag eu bod yn byw yn y byd, ac mae’n warth o beth nad yw Llywodraeth Prydain wedi gweithredu’n gynt ar hyn.
Mi oedd hi'n amlwg iawn bod Joel James wedi penderfynu peidio cyfeirio at y rhan yna o'ch datganiad chi, a dwi'n meddwl os gall pobl yn y Blaid Geidwadol sydd yma heddiw fynd â'r neges yna nôl i San Steffan mi fyddai hynny'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bawb ohonom ni.
Fe wnaethoch chi nodi yn eich datganiad, Gweinidog, fod y Prif Weinidog wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol. A allwch chi roi gwybod pa ymateb mae'r Prif Weinidog wedi ei gael i'r cais hwn ac, yn ogystal â gwneud yr alwad heddiw, a ydych chi eich hun hefyd wedi ysgrifennu neu a fyddwch chi’n ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn? Byddai gennych ein cefnogaeth lawn ar hyn.
Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi sôn hefyd, mae'r cymorth rhyngwladol a dorrwyd gan Lywodraeth y DU, gan arwain at fod ar ei isaf ers naw mlynedd, gyda'r toriad i wariant cymorth tramor yn dod i gyfanswm o tua £4 biliwn. Ni fydd y toriad hwn yn cael ei wrthdroi tan 2024-25 ar y cynharaf, a bydd yr effaith hon nid yn unig yn cael ei theimlo o ran ymateb ac adfer ar ôl COVID, ond hefyd, fel yr ydych chi’n ei amlinellu'n briodol, yr effaith andwyol ar iechyd mewn pob math o wahanol ffyrdd. I ychwanegu at eich enghreifftiau, bydd menter dileu polio byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, i bob pwrpas, yn colli ei holl gyllid yn y DU, o £110 miliwn i £5 miliwn. Yn yr un modd, mae WaterAid wedi lleisio pryderon y bydd y toriad hwn yn golygu o leiaf tair blynedd arall o ddŵr budr a marwolaethau babanod mewn cymunedau sy'n agored i niwed. Bydd UNICEF hefyd yn gweld toriad o 60 y cant i'w gyllid yn y DU. Felly, er ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei meddwl, a fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r rhaglen Cymru ac Affrica i geisio unioni effaith y toriadau cymorth llym hyn sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth y DU ac, os felly, sut?
Ac wrth gwrs, bydd y toriad hwn hefyd yn effeithio'n negyddol ar sut y bydd y gwledydd hyn yn gallu ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur—rhywbeth y gwnaethoch chi hefyd gyfeirio ato, Gweinidog, fel rhywbeth cwbl hanfodol yn eich datganiad—ac roedd hi’n dda clywed bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio cyfleoedd a grëwyd gan COP26 i hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Yn amlwg, nodwyd hyn fel cam gweithredu yn rhan o gynllun gweithredu Cymru ac Affrica, a oedd hefyd yn nodi y byddai COP26 yn gyfle i greu partneriaethau newydd. Byddai'n dda gen i wybod pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran gwireddu'r amcanion hyn hyd yma. Yn amlwg, mae COP26 yn parhau, felly byddwn i'n ddiolchgar yn y dyfodol am ddiweddariad hefyd.
Un o'r ffactorau allweddol sy'n ysgogi newid yn yr hinsawdd byd-eang ac argyfwng natur, fel y gwyddom ni, yw datgoedwigo a cholli cynefinoedd. Yn ôl astudiaeth WWF Cymru, Maint Cymru ac RSPB Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yr adroddiad 'Cymru a Chyfrifoldeb Byd-eang', mae ardal sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru yn cael ei defnyddio dramor i dyfu nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Gymru. Er enghraifft, mae'r tir cyfartalog sydd ei angen bob blwyddyn i gynhyrchu galw Cymru am goco yn unig yn cyfateb i faint sir Wrecsam neu ddwywaith arwynebedd tir Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Cymru'n mewnforio y rhan fwyaf o'i goco o wledydd gorllewin Affrica, lle mae risgiau uchel o ddatgoedwigo a materion cymdeithasol, tra bod 55 y cant o dir mewnforio coco i'w weld mewn gwledydd lle mae risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo a materion cymdeithasol. Hefyd, mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o gynhyrchu coco ar gyfer mewnforion Cymru yn dod i gyfanswm o tua 68,800 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ehangu mentrau fel Coffi 2020 a Fair Do's/Siopa Teg i fynd i'r afael â datgoedwigo a materion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â mewnforion Cymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei pholisïau contract economaidd a chaffael i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn rhydd o ddatgoedwigo a chamfanteisio cymdeithasol?
Fel y gwnaethoch chi ei nodi, Gweinidog, cynyddodd tlodi eithafol byd-eang yn 2020, ac os ydym ni am fod yn genedl wirioneddol gyfrifol yn fyd-eang, yna mae angen gweithredu gan bob Llywodraeth, nid geiriau cynnes yn unig. Mae dyfodol ein planed yn gofyn am hyn gennym ni.
Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth i fy natganiad heddiw. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy godi'r mater ynghylch mynediad i frechlynnau. Byddaf i'n ailadrodd eto yr hyn a ddywedais o ran cyfraddau brechu yn Affrica Is-Sahara ar gyfartaledd o 6 y cant yn unig. A'r pwynt yr ydym ni i gyd yn ei wneud yw nad yw'r un ohonom ni'n ddiogel nes bod pob un ohonom ni'n ddiogel, ac rydym yn ddinasyddion byd-eang ac mae gennym ni'r cyfrifoldebau hynny. Mae'n rhwystr enfawr i atal y byd rhag dod allan o'r pandemig. Ydy, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu ac wedi annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cyflenwad o frechlynnau i'r byd datblygol. Mae wedi ysgrifennu at y cyn-Ysgrifennydd Tramor, ac mae wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor newydd hefyd, i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn glir yn Llywodraeth y DU. Ac rwyf i wedi gwneud yr alwad honno eto—ac rwy'n dyfynnu Cynghrair Brechu'r Bobl—oherwydd ein bod ni'n taflu brechlynnau i ffwrdd. Ni allwn anfon y brechlynnau dramor ein hunain, ond fe allwn ni helpu o ran estyn allan a dweud, 'Wel, beth ydyw?' Ac rwyf i eisoes wedi disgrifio sawl ffordd yr ydym yn cefnogi ein partneriaid yn Affrica.
Hoffwn roi enghraifft i chi o Brosiect Phoenix eto gyda Phrifysgol Caerdydd. Bydd llawer ohonoch chi'n adnabod yr Athro Judith Hall sy'n arwain y bartneriaeth honno. Roeddem ni'n gallu rhoi grant o £125,000 i gyflwyno rhaglen frechu yn Namibia—roedd hyn gennym i'w galluogi nhw i wneud y gwaith hwnnw, a oedd yn hollbwysig; eu rhaglen nhw ydyw, mae'n eu galluogi—oherwydd bod ganddyn nhw ymwrthedd mawr i frechu COVID-19, yn enwedig ymysg y cymunedau agored i niwed, anghysbell a difreintiedig. Ond yr hyn a wnaethon nhw—. Mewn partneriaeth, mae Gweinyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Namibia, Prifysgol Namibia a Phrifysgol Caerdydd wedi cyd-gynhyrchu ymgyrchoedd cymorth, hyrwyddo ac ymwybyddiaeth i 90,000 o'r bobl fwyaf difreintiedig, ac roedd hynny'n cynnwys pobl anabl, pobl oedrannus a charcharorion, ac yna roedden nhw, yn Namibia, yn gallu darparu'r rhaglen frechu ei hun, gan achub llawer o fywydau. Ond hefyd, mae cynghrair the People's Vaccine yn glymblaid o sefydliadau ac ymgyrchwyr. Mae'n ymgyrchu dros frechlyn pobl ar gyfer COVID-19. A diolch i chi am eich cefnogaeth i hyn, oherwydd dylai hyn fod yn seiliedig ar yr wybodaeth gyffredin honno a sicrhau ei bod ar gael am ddim i bawb. Mae er lles cyffredinol byd-eang, ac mae hefyd yn cael ei gefnogi gan arweinwyr y byd yn y gorffennol a'r presennol, arbenigwyr iechyd, arweinwyr ffydd ac economegwyr.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â datgoedwigo a'r gwaith sydd wedi bod—. Mae cymaint o broffil i hyn yn ystod y dyddiau diwethaf a'r wythnos ddiwethaf yn COP26. I edrych ar raglen goed Mbale yn Uganda, sy'n dangos yn glir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid. Mae'n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd, onid yw? Pobl wledig Uganda sydd wedi gwneud ychydig iawn i achosi'r newid yn yr hinsawdd sydd bellach yn achosi cymaint o broblemau iddyn nhw. Felly, mae hwn yn brosiect a arweinir gan Uganda—rydym ni'n helpu rhai o'r bobl dlotaf yn y byd i addasu i newid yn yr hinsawdd—wedi ei ddarparu gan elusen Maint Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'n fenter tyfu coed Mount Elgon, a ddarperir yn lleol ac ar gyfer cyrff anllywodraethol lleol yn rhanbarth Mbale yn nwyrain Uganda.
A'r hyn sy'n bwysig iawn o ran plannu coed hefyd yw cysylltu hyn â'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn rhannau eraill o Affrica gyda'n cymorth ni, sy'n mynd i'r afael â'r pwyntiau allweddol iawn yr ydych chi'n eu gwneud am ddatgoedwigo ac ailgoedwigo. Felly, os edrychwch ar brosiect parc coedwig frodorol Ogongo, mae hynny'n gydweithrediad arall rhwng Prifysgol Caerdydd, Prosiect Phoenix a Phrifysgol Namibia, sy'n cefnogi gwaith ailgoedwigo ym mharc coedwig frodorol Ogongo, gan weithio mewn partneriaeth, unwaith eto, a chreu 100 hectar o goetir wedi ei adfer yng ngogledd pellaf Namibia. Ac mae hynny'n ymwneud â sefydlu ecosystem gyfan mewn ardal a oedd unwaith yn wyrdd ac yn ffrwythlon, ac mae'n ymwneud ag annog y prosiect hunangynhaliol hwn i fwrw ymlaen â hyn mewn partneriaeth â Phrosiect Phoenix. Unwaith eto, coedwig gymunedol Bore yn Kenya, rydym ni wedi bod yn ei chefnogi dros y 13 mlynedd diwethaf, ac mae hwn unwaith eto yn brosiect a reolir yn lleol i blannu 2.4 miliwn o goed trofannol, sy'n oeri'r hinsawdd, gan ehangu'r capasiti blynyddol presennol, gydag 1 miliwn o hadau wedi eu dosbarthu i 3,000 o ffermwyr teuluol a 460 o ysgolion. Mae hyn, unwaith eto, yn ehangiad mawr iawn o ran mynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni gysylltu ein polisi caffael â phwysigrwydd cadwyni cyflenwi a chydnabod bod yn rhaid i hyn fod yn foesegol. Mae gennym ni god ymarfer ar gaffael moesegol yr ydym ni wedi ei ddatblygu, ac mae hynny'n cael effaith ac, wrth gwrs, mae'n bwysig wrth i ni fwrw ymlaen â'n Bil partneriaeth a chaffael cymdeithasol, deddfwriaeth newydd, yn y dyfodol agos.
Felly, hoffwn i ddweud eto fod Affrica wedi ei tharo gan COVID-19 a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gweld y newyn newid hinsawdd cyntaf ym Madagascar, ond rydym ni'n gweld athro o Brifysgol Bangor yn gweithio ym Madagascar i fynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae gennym ni arbenigwyr ac mae gennym ni bartneriaid ledled Cymru sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac, wrth gwrs, mae'n ymwneud â chynaliadwyedd, ac mae'n ymwneud â dull partneriaeth a fydd yn cyflawni'r newid trawsnewidiol gyda'n partneriaid, ochr yn ochr â'n partneriaid.
Yn gyntaf, rwy'n falch iawn bod Jenipher Sambazi wedi mynd i Glasgow i roi barn pobl Uganda i COP. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n dal i fod yno pan fyddaf i'n cyrraedd yno nos yfory, oherwydd ei bod hi'n gwbl anhygoel, fel y rhai ohonom a gafodd y fraint o'i chyfarfod cyn y pandemig—ac yn eiriolwr gwych dros ei chymuned a'r gwaith maen nhw’n ei wneud.
Ond rwy'n dal i geisio prosesu'r wybodaeth rydych chi wedi ei rhannu â ni am y brechlynnau, oherwydd codais hyn gyda'r Gweinidog iechyd ychydig fisoedd yn ôl, a chefais sicrwydd, neu cefais yr argraff bod yr holl AstraZeneca yr oeddem ni'n ei ddefnyddio’n flaenorol yng Nghymru yn mynd i fynd i Affrica yn awr, a oedd yn ymddangos i mi fel y lle iawn ar ei gyfer. Felly, ydym ni’n dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwahardd defnyddio'r brechlynnau y gallem ni fod wedi eu defnyddio yng Nghymru yr oeddem ni wedi penderfynu y dylen nhw fynd i Affrica? Gan ei bod hi'n sefyllfa wirioneddol anghyfforddus iawn, iawn, rwyf i’n teimlo, ynof i fy hun, ar ôl cael brechlyn atgyfnerthu yr wythnos diwethaf, pan ddarllenais mai dim ond 2 y cant o bobl yn Kenya sydd wedi cael brechlyn, a byddai hynny'n cynnwys, felly, bod gweithwyr iechyd sy'n ceisio gofalu am bobl â COVID heb eu diogelu mewn unrhyw ffordd. Felly, dyma'r sefyllfa fwyaf anghyfforddus, sy'n tynnu sylw yn wirioneddol at y byd anghyfartal iawn yr ydym ni i gyd yn byw ynddo. Felly, mae hyn yn gwbl annerbyniol, a ble mae'r cyfryngau i ddweud wrth bawb am hyn? Helo, bobl, mae gwir angen i chi fod yn hyrwyddo hyn; mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Os yw Llywodraeth y DU yn gwrthod gweithredu, yna mae angen ei bod yn ofynnol iddi siarad ynghylch pam ei bod yn gwrthod gweithredu.
Un neu ddau o gwestiynau penodol: rydych chi’n sôn am y cynhyrchion mislif y mae Teams4U yn eu hanfon i Affrica, ac roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym a yw'r rhain yn gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio, gan fod cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn elfen hanfodol o sicrhau bod merched yn aros yn yr ysgol ar ôl iddyn nhw gyrraedd y glasoed. Ond rwy'n derbyn, os nad oes gennych chi ddŵr rhedeg glân, y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio rhai untro, gyda'r holl broblemau y maen nhw’n eu hachosi i'w gwaredu. Felly, mae'n ymddangos i mi—. Siaradais am hyn â Jenipher Sambazi ddwy flynedd yn ôl, ac mae angen i ni sicrhau bod yr holl gymunedau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn Affrica yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio maen nhw’n eu gwneud eu hunain. Nid yw hynny’n gymhleth iawn: y cyfan sydd ei angen ar bobl yw dyluniad sylfaenol a sut i'w wneud a'r deunyddiau er mwyn ei wneud, ond mae'n fater ffeministaidd hynod bwysig.
O ran plannu coed, sut mae ein rhaglen plannu coed yn amrywio deiet, gan fod coffi'n gnwd allforio defnyddiol, ond nid yw'n sail i ddeiet iach ac amrywiol? Felly, mae'n ymddangos i mi, os ydym yn elwa ar goffi gwych Uganda, fod angen i ni fod yn sicrhau bod cynhyrchion eraill sy'n atgyfnerthu iechyd a lles y cymunedau sy'n eu gwneud i ni.
Ac rwy'n credu efallai mai dyna'r peth olaf oedd gen i. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn. Rwy'n credu, o ran y rhaglen atgyfnerthu, ei bod yn amlwg bod angen i ni weiddi'n groch gyda'n gilydd ei bod yn gwbl annerbyniol nad yw Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy ar y mater pwysig hwn. Nid yn unig maen nhw’n torri popeth yr oedd yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn enwog amdano o ran darparu cymorth datblygu da iawn, ond maen nhw’n ei amsugno i'r swyddfa dramor i hyrwyddo jac yr undeb. Mae'n drychineb llwyr.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. A gaf i ddechrau drwy adleisio eich edmygedd a'ch cefnogaeth i Jenipher, sy'n siarad mewn gwirionedd, yn ôl pob tebyg wrth i ni siarad, y prynhawn yma yn Glasgow? Mae Jenipher’s Coffi yn brosiect sy'n bartneriaeth rhwng siop masnach deg Caerdydd, Fair Do's, y soniais amdani'n gynharach, rhostwyr coffi Ferrari ym Mhont-y-clun, Canolfan Cydweithredol Cymru a chydweithfa coffi o Uganda. Mae'n bartneriaeth sy'n mewnforio coffi masnach deg ac organig o'r radd flaenaf. Bydd llawer ohonom ni yma heddiw yn cofio ymweliadau Jenipher â'r Senedd, ac yn cydnabod bod hyn bellach yn cael ei fewnforio i Gymru ac yn uchel ei barch, yn enwedig o ganlyniad i effaith rhostwyr coffi Ferrari ar y coffi hwnnw. Ond hefyd, wrth gwrs, mae hyn yn mynd yn ôl at eich pwynt a'ch cwestiwn ynglŷn â phlannu coed. Mae'r coffi organig yn cael ei dyfu gan ein partneriaid plannu coed. Mae hi'n sôn am hynny y prynhawn yma. Mae'n ffordd wych i ni helpu ffermwyr Uganda, wrth iddyn nhw wynebu'r argyfwng hinsawdd, ond hi hefyd sy'n arwain y prosiect hwn yn Uganda, gan arwain y ffordd i fenywod a'u cymunedau. Mae hi yn dod i Gaerdydd, ac mae wedi bod cyn iddi fynd i Glasgow, ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n gallu dod i gwrdd â chyd-Aelodau ac Aelodau ar draws y Siambr eto yr wythnos nesaf.
Rydych chi yn codi pwynt pwysig am fynediad i frechlynnau. Yn anffodus, ni allwn allforio na rhoi ein brechlynnau. Rwyf i wedi rhoi enghraifft i chi gyda phrosiect Namibia lle gallwn helpu i hwyluso'r rhaglen frechu mewn gwahanol ffyrdd. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi gwneud yr hyn a allwn o ran darparu offer, cyfarpar diogelu personol, ond hefyd ocsigen, pan ofynnwyd i ni, 'Wel, beth allwch chi ei wneud?' Mae'n bwysig nad ydym ni'n dweud, 'Wel, allwn ni ddim gwneud hyn, felly nid ydym yn gwneud dim.' Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol. Ond mewn gwirionedd, darperir y rhaglen frechu drwy'r mecanwaith byd-eang, COVAX. Gan Lywodraeth y DU mae'r dylanwad ar COVAX i ateb ein cwestiynau ynghylch pam nad ydym yn sicrhau bod y brechlyn sydd gennym yn cael ei rannu'n briodol. Mae'n annioddefol ei fod yn cael ei ddinistrio. Mae'n warthus ei fod yn cael ei ddinistrio, ac rwy'n falch y gallwn ni godi'r pwynt hwnnw yma heddiw. Rwy'n credu bod cynghrair The People's Vaccine yn bwysig. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn dymuno cael gwybod mwy am hyn.
Mae materion eraill yn ymwneud â'r brechlyn hefyd, sy'n ymwneud â chost. Oherwydd os edrychwch chi ar Pfizer mewn gwirionedd, mae'n gwerthu ei ymgeisydd brechlyn COVID-19 am tua $39 am ddau ddos, sy'n tua 80 y cant o elw. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn ei roi y tu hwnt i gyrraedd pob gwlad ond y cyfoethocaf. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynegi'r pwyntiau hyn, ein bod yn sicrhau bod y materion hyn ar gael, bod pobl yn ymwybodol o sut y gallwn ni ddylanwadu ar COVAX a Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i lywodraethau gwledydd datblygol gynyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd er mwyn iddyn nhw allu darparu'r brechlyn pan fydd ar gael. A gadewch i ni fyfyrio ar y ffaith mai brechu yw un o'r buddugoliaethau iechyd mwyaf llwyddiannus mewn hanes dynol.
Rwyf wedi ateb rhai cwestiynau ynglŷn â phwysigrwydd y cynlluniau plannu coed yr ydym ni eisoes yn eu cefnogi, ac mae eich pwyntiau ynglŷn â chynaliadwyedd yn hollbwysig, fel yn wir yw eich pwyntiau ynglŷn â'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud o ran lles mislifol a chynhyrchion mislif. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth lle rydym yn mynd allan am fwy o brosiectau ar sail rhywedd sy'n dod drwy'r cynlluniau grantiau bach, lle rydym yn edrych yn arbennig ar faterion rhywedd. Rwy'n credu y bydd rhai o'r prosiectau hynny yr ydym ni eisoes yn eu hariannu, ac yn sicr y dull cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, yn rhan allweddol o'r amcan ecolegol a chynaliadwy hwnnw.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad manwl am COVID a newid yn yr hinsawdd, cynorthwyo gwledydd sydd ei angen fwyaf, cadw'n driw i'n hegwyddorion a sefyll gyda’n ffrindiau. A all y Gweinidog gadarnhau faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario dros y 15 mlynedd diwethaf yn cefnogi'r rhaglen hon, nid yn unig drwy ddyraniadau grant, ond hefyd o ran y gost o gyflogi swyddogion mewn Llywodraeth? A all y Gweinidog nodi'n fanwl sut y cyflawnwyd amcanion strategaeth ryngwladol y Llywodraeth i dyfu'r economi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad drwy'r rhaglen hon ac a oes unrhyw fudd pendant i bobl Cymru? Yn olaf, a yw'r Llywodraeth wedi comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen hon i sicrhau gwerth am arian? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Altaf Hussain, a diolch am eich cefnogaeth i'r rhaglen Cymru ac Affrica. Yr hyn sy'n glir iawn yw bod hon yn rhaglen 15 mlynedd— rwy’n ei chofio’n cael ei lansio yn y Siambr hon gan y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan—ac mae'n rhaglen sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran ei heffaith. Mae gennym ni dîm Cymru ac Affrica bach iawn yn Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hyn, ond mae wedi bod yn rhan o'r strategaeth ryngwladol, a gafodd ei chyhoeddi yn 2020 cyn i chi ymuno â ni. Bydd llawer o'r Aelodau newydd yn gwybod bod gennym ni strategaeth ryngwladol gyda chynlluniau gweithredu, ac mae'r rhaglen Cymru ac Affrica yn un o'r cynlluniau gweithredu.
Yn sicr, gallaf roi rhagor o wybodaeth am gyfanswm y gwariant dros y 15 mlynedd diwethaf.FootnoteLink Ond rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi'r cyfle i mi atgoffa ein Haelodau eto a'ch hysbysu am effaith rhywfaint o'r cyllid yr ydym ni wedi ei roi, yn enwedig wrth ymateb i bandemig COVID-19. Roedd y tri grant mawr y gwnaethom eu dyfarnu drwy'r £1 miliwn ychwanegol a gafodd ei ddyrannu i'r rhaglen Cymru ac Affrica ym mis Mawrth eleni yn cynnwys United Purpose o Gaerdydd. Roedd hwnnw'n grant o £600,000 ar gyfer yr ymateb brys cyflym yn Nigeria, y Gambia, Senegal a Guinea; cyrhaeddodd 4.4 miliwn o bobl. A hefyd, mae Teams4U yn Wrecsam yn bartneriaeth bwysig iawn; bydd yr Aelodau yn y gogledd yn ymwybodol o hyn. Darparodd yr elusen gyllid grant o £125,000 ar gyfer gwella glanweithdra, darpariaeth mislif a chyfleusterau iechyd ac ysgolion yn Uganda mewn ymateb i COVID-19—dŵr poeth yn rhedeg wedi'i blymio'n uniongyrchol i theatrau llawdriniaeth, dwy ganolfan iechyd 24/7 sy'n trin hyd at 300 o gleifion bob dydd, gan gwmpasu pob agwedd ar ofal iechyd cymunedol, gan gynnwys profion a thriniaeth HIV, triniaeth TB, imiwneiddio, cynllunio teulu, gofal cyffredinol, gofal cynenedigol ac ôl-enedigol. Mae hon yn bartneriaeth rhwng pobl Wrecsam ac Uganda, gyda Teams4U. A, wyddoch chi, yr adborth a gafwyd yw bod gweithwyr gofal iechyd, yn enwedig menywod a merched, yn teimlo'n llawer mwy diogel yn defnyddio'r cyfleusterau hyn na'r hen rai, a oedd yn aml y tu allan ac mewn ardaloedd heb olau.
Hoffwn i ddweud bod hyn yn gweithio gyda Llywodraethau yn ogystal â phrosiectau lleol. Felly, mae Ysbyty Atgyfeirio Rhanbarthol Mbale y gwnes i sôn amdano—byddaf i yn dweud, pan oeddem yn gallu darparu cymorth ar gyfer darparu ocsigen, y bydd y peiriant ocsigen newydd, sy'n cael ei gynllunio gan y Weinyddiaeth Iechyd yn Uganda, yn cael ei ategu gan ein cyfraniad ni. A hefyd y ffaith bod effaith y buddsoddiadau yr ydym ni wedi eu gwneud wedi golygu bod pobl wedi dweud mewn gwirionedd—ac mae'n dda cael dyfyniad gan fuddiolwr y prosiect dŵr, glanweithdra a hylendid—'Roedd arfer bod ofn arnaf i fynd i'r tŷ bach ar fy sifft nos oherwydd byddai'n rhaid i mi symud allan o'r ward, ac roedd yn dywyll iawn y tu allan. Nawr, rwy'n gallu defnyddio'r toiled y tu mewn ac rwy'n ddiogel ac nid yw'n mynd â fi oddi wrth y cleifion.’ Dyna Lydia, o ganolfan iechyd Mukongoro. Felly, dyma'r effaith mae ein cyllid a'n cymorth i'r rhaglen Cymru ac Affrica yn ei chael.
Yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Gallaf i ddweud yn sicr, ar ôl bod i Mbale fy hun, fod arian y rhaglen ar gyfer Affrica yn cael ei wario'n dda, oherwydd roedd y cysylltiadau iechyd, y cysylltiadau addysgol rhwng y rhanbarth hwnnw o Uganda a PONT, er enghraifft, ym Mhontypridd yng Nghymru mor gryf, ac roedd y ddwy wlad ac ardal yn elwa’n fawr iawn ar y berthynas gilyddol a'r ymweliadau cyfnewid. Roedd hi mor galonogol gweld y plant ysgol yn dawnsio gyda'i gilydd yn ogystal â'r staff yno ym Mbale mewn digwyddiadau penodol, ac wrth gwrs yr holl godi arian a ddigwyddodd yn ôl yng Nghymru ar gyfer ystafelloedd dosbarth newydd a chyfleusterau newydd. Felly, roedd y sector iechyd, roedd y sector addysg, roedd cydweithfa coffi masnach deg Gumutindo, a'r holl waith datblygu cymunedol a gafodd ei wneud o ran y ffermio ymgynhaliol hefyd. Roedd cymaint o elfennau iddo, roedd yn dangos gwerth y rhaglen hon, ac mae'n braf iawn ein bod ni wedi cael 15 mlynedd bellach o Gymru dros Affrica yn gwneud y gwaith da iawn hwn, a chydnabod bod Cymru'n lwcus—rydym ni yn lwcus o fod yn rhan o'r byd heddychlon, cymharol ffyniannus, ac mae hynny yn rhoi cyfrifoldeb moesol i ni weithio gyda gwledydd eraill nad ydyn nhw o dan yr amgylchiadau ffafriol hynny i'w helpu, a thrwy wneud hynny rydym ni hefyd yn helpu ein hunain. Ac wrth gwrs mae'n rhan o'r rhyngwladoli honno o Gymru sydd, yn fy marn i, wedi bod yn nodwedd gref o ddatganoli ers 1999, ac mae'n beth da iawn i bawb yn ein gwlad.
Yn fwy lleol i mi yn awr, mae gennym ni Love Zimbabwe, sy'n gwneud gwaith da iawn yn y rhan honno o Affrica, ac maen nhw’n dweud wrthyf i fod rhai materion, yn union fel y mae'r Gweinidog wedi sôn, yn amlwg o ran y pandemig ac, yn wir, newid hinsawdd. Felly, o ran newid hinsawdd, mae'r ffactorau newydd hynny y mae'n rhaid i ffermwyr eu hystyried yn peri pryder gwirioneddol iddyn nhw ac yn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gynhyrchu'r bwyd y maen nhw’n dibynnu arno, ac mae pryder gwirioneddol ynghylch methiant cnydau cynyddol. Ar yr un pryd, yn ystod y pandemig, roedden nhw'n ei chael yn anoddach mewnforio bwyd i'r wlad hefyd, felly mae anawsterau mawr yno mae'n rhaid i ni eu cydnabod. A dywedir wrthyf nad ydyn nhw mewn sefyllfa dda iawn i amcangyfrif nifer yr achosion o COVID, oherwydd bod cost profion llif unffordd tua £25, ac yn amlwg nid yw llawer iawn o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, mae'r agwedd honno ar nodi achosion yn broblem yn Zimbabwe, ac mae hynny wedi ei gwneud yn anodd gwybod graddau'r haint yn y wlad.
Mae problem hefyd o ran brechu. Dywedwyd wrthyf mai dim ond tua 1 miliwn allan o tua 15 miliwn sydd wedi cael eu brechu, a'r brechlyn sy'n cael ei ddefnyddio yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU, sydd ynddo’i hun yn creu nifer o anawsterau. Felly, byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech helpu i wneud y pwyntiau hynny yn eich cyswllt a'ch gwaith ar y cyd â Llywodraeth y DU. Rwy'n credu y bu'n destun siom mawr iawn bod Llywodraeth bresennol y DU wedi torri'r consensws hwnnw i gynnal cyllid datblygu rhyngwladol ar gyfer y byd datblygol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl bengam, yn anghywir, yn anfoesol, ac yn wir yn wrthgynhyrchiol o ran yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn dweud yw ei hamcan. Rwy'n gobeithio yn fawr y byddan nhw'n ailystyried, hyd yn oed ar y cam hwyr hwn, ac yn mabwysiadu polisi a dull mwy moesol y gellir ei amddiffyn.
Y mater arall y byddaf yn sôn amdano, Gweinidog, yw Somaliland, oherwydd bod gennym ni nifer o bobl, yng Nghaerdydd yn arbennig, ond hefyd yng Nghasnewydd, sydd â chysylltiadau â Somalia a Somaliland. Mae Somaliland wedi cymryd camau breision i brofi ei hun yn ddemocratiaeth weithredol sydd wedi ymrwymo i sefydlogrwydd a datblygiad cynyddol yn y wlad. Ond yn amlwg maen nhw'n cael anawsterau mawr gyda COVID, fel y mae gweddill y byd, ac yn fwy felly oherwydd y tlodi mawr yn y wlad. Felly, rwy'n gwybod bod gennym ni gysylltiadau yn datblygu â Somaliland, Gweinidog, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ddweud rhywfaint am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweld y berthynas honno'n esblygu ac yn datblygu, yn enwedig yng ngoleuni'r anawsterau presennol o ran y pandemig.
Diolch yn fawr, John Griffiths, a John, rwy'n cofio pan aethoch chi i Uganda, mae'n debyg eich bod chi wedi plannu coed eich hun pan aethoch yno a dod yn ôl a dweud wrthym. Mae gennym ni gonsensws cryf. Rydym yn sicr wedi ei gael yn y gorffennol yn y Siambr hon i gefnogi Cymru ac Affrica, ac rwy'n cofio Rhun ap Iorwerth yn cadeirio'r grŵp datblygu lle cawsom ni gefnogaeth drawsbleidiol i'r hyn yr oeddem yn ei wneud yng Nghymru ac Affrica. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am Zimbabwe gan fy mod i'n ymwybodol iawn o Gymdeithas Gwirfoddoli Zimbabwe Casnewydd, ac roeddem yn gallu rhoi rhywfaint o gyllid, fel y gwyddoch chi, o'r grant COVID-19, i brynu bwyd ar gyfer ceginau cymunedol, diheintyddion ar gyfer 18 gorsaf, cyfarpar diogelu personol i wirfoddolwyr, treuliau gwirfoddolwyr, ar gyfer mynd i'r afael â chamwybodaeth sydd, wrth gwrs, rydym yn gwybod yn broblem enfawr, ond hefyd cymorth banc bwyd, masgiau wyneb. Rydym ni wedi gwneud llawer i gefnogi cymdeithas wirfoddoli Casnewydd, pob etholaeth—. A sawl gwaith rydym ni wedi cael ymweliadau gan Love Zimbabwe, ac rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau wedi croesawu Love Zimbabwe i'r Senedd. Ac rydym ni wedi rhoi cyllid iddyn nhw hefyd, unwaith eto i wella hylendid, mynediad at ddŵr glân ar gyfer golchi dwylo, ymgysylltu â'r gymuned, hyfforddi pobl i wnïo masgiau wyneb, cadw pellter cymdeithasol, deall golchi dwylo, ac yn y blaen. Rydym ni wedi ymateb i'r cynigion sydd wedi dod o'r cymunedau hyn.
Yn olaf, rwyf i am ddweud fy mod i'n credu bod consensws cryf, mae cefnogaeth fwyafrifol gref yn y Siambr hon heddiw i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r brechlyn nad yw'n cael ei ddefnyddio yn y wlad hon. Rwy'n credu bod honno yn neges gref sydd wedi dod i'r amlwg heddiw; siom a gofid enfawr ynghylch torri'r cyllid i'r gyllideb dramor. Ac i ddweud i gloi, trwy gau prosiect ym Malawi o ganlyniad i'r toriad hwnnw, dywedodd United Purpose yng Nghaerdydd fod y prosiect adeiladu mwyaf o ran gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd ym Malawi wedi ei derfynu ar fyr rybudd yn uniongyrchol oherwydd y toriad hwn, colledion enfawr ar gyfer gweithgareddau datblygu a chanlyniadau partneriaeth, gan gynnwys 23 o ddiswyddiadau Malawi yn United Purpose yn unig, gan dorri £1 miliwn o'r prosiect. Felly, mae gennym ni lais cryf, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon i gefnogi Cymru ac Affrica, i gefnogi ein dulliau o ymdrin â Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn cael y brechlynnau hynny i Affrica ac yn fyd-eang ledled y byd i'r man lle mae eu hangen, ac unwaith eto ein pryder a'n siom fawr barhaus ynghylch toriadau'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.