– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar y rhaglen i ddileu TB buchol. Rwy'n galw ar y Gweinidog i newid ei ffeil ac i gyflwyno'r datganiad ar TB. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n rhoi fy niweddariad blynyddol ar gynnydd ein rhaglen i ddileu TB. Lansiwyd y dull rhanbarthol bedair blynedd yn ôl ac rydym ni wedi mireinio ein polisïau yn barhaus, yn enwedig o ran y darlun o'r clefyd sy'n newid. Rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos hefyd ar adnewyddu'r rhaglen i ddileu TB. Rydym ni wedi gweld cynnydd da ers sefydlu ein rhaglen gyntaf, a lleihad hirdymor yn nifer a chyffredinolrwydd yr achosion. Mae'r gostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009 yn dangos bod ein rhaglen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd a busnesau ffermio.
Yn anffodus, rydym ni, ar hyn o bryd, yn mynd i'r afael â chynnydd sydyn yn y clefyd yn ardal TB ganolradd y gogledd, ac ardal TB isel, drwy weithredu mesurau gwell. Ar y cyntaf o Dachwedd, fe neilltuwyd statws ardal TB ganolradd y gogledd i fuchesi mewn mannau lle ceir problemau yn sir Ddinbych a Dyffryn Conwy. Fe fydd hyn yn golygu cael profion cyn unrhyw symudiadau, sy'n fesur allweddol i leihau risg er mwyn atal y clefyd rhag ymledu. Bydd angen profion ychwanegol ar fuchesi ag achosion o TB nawr hefyd, gydag ymweliadau 'cadwch TB allan' milfeddygol ar gael i brofi buchesi cyffiniol sy'n profi'n glir yn y mannau arbennig hyn, a'r clwstwr bychan o amgylch Pennal, ac mae rhagor o fesurau ar y ffordd.
I ymateb i newidiadau mewn contractau llaeth, fe wnaethom ni roi caniatâd i sefydlu marchnadoedd oren ac unedau pesgi cymeradwy, gan gynnig rhywle i ffermwyr anfon lloi llaeth dros ben. Ar ôl derbyn llawer o sylwadau gan ffermwyr sy'n awyddus i gael y lleoedd hyn, mae hi'n siomedig gweld ychydig o ddefnydd yn cael ei wneud ohonyn nhw. Fe fyddwn i'n annog y diwydiant i ystyried sefydlu mwy ohonyn nhw i wneud y mwyaf o'u potensial.
Un o amcanion allweddol ein rhaglen ni yw nodi'r haint yn gyflym, yn gywir, ac yn gynnar. Rydym ni'n ymdrechu i wella diagnosteg TB, gan groesawu ymchwil newydd a bod yn agored i brofion newydd a ddilysir. Mewn cydweithrediad â'n bwrdd rhaglen a Phrifysgol Aberystwyth, rydym ni'n rhoi ystyriaeth i ddyfodol diagnosteg TB. Rydym ni yn ceisio barn yn yr ymgynghoriad ar brotocolau profi, o ran y prawf cyn symud yn y lle cyntaf, i leihau'r risg o symud gwartheg wedi'u heintio.
Gan ddysgu o brofiadau yn y gogledd, mae pecyn cymorth o fesurau gennym ni'n barod i'w defnyddio mewn ardaloedd lle ceir problemau os oes angen, i fynd i'r afael â chynnydd sydyn yn yr achosion o'r clefyd. Yn y flwyddyn newydd, fe fyddwn ni'n cryfhau ein rheolaethau ni o ran Buchesi ag achosion TB ledled Cymru, ac fe fydd ceidwaid yn cael rhagor o wybodaeth ymlaen llaw.
Wrth i ni ystyried y trefniadau profi, rydym ni'n cydnabod yr heriau o ran adnoddau sy'n wynebu'r proffesiwn milfeddygol. I ymateb i hyn, rwy'n comisiynu adolygiad o'r dewisiadau i ategu ein gallu milfeddygol ni ar gyfer profi am TB drwy ddefnyddio mwy o staff parabroffesiynol a hyfforddwyd a'u goruchwylio yn briodol.
Fe ellir priodoli wyth o bob 10 Buches ag achosion o TB yn yr ardal TB isel i symudiadau gwartheg, yn bennaf. Gan adeiladu ar ein cyllid cynharach i farchnadoedd, rydym ni'n parhau i annog pobl sy'n cadw gwartheg i ystyried gwybodaeth am TB wrth eu prynu. Rydym ni'n deall nad yw pawb sy'n cadw gwartheg yn cynnig gwybodaeth o'r fath, fel a ddaeth i'r amlwg oherwydd y nifer fawr o symudiadau risg uchel yn ystod 2020. Rydym ni'n annog aelodaeth o gynlluniau achredu hefyd, fel Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) ar gyfer TB buchol, i hybu iechyd buchesi a rhoi sicrwydd i ddarpar brynwyr.
Yn 2019, fe gyhoeddais i adolygiad o'r taliadau a gafodd ffermwyr am wartheg a laddwyd oherwydd TB. Roedd hyn yn dilyn gorwariant parhaus o flwyddyn i flwyddyn yn ôl y gyllideb, a cholli incwm oddi wrth yr UE a'r angen i annog ymarfer ffermio da. Mae'r dewisiadau a adolygwyd gan fwrdd y rhaglen yn gynwysedig yn yr ymgynghoriad, ac rwy'n annog ffermwyr i ymateb.
Fe fydd grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn ystyried y ffyrdd gorau o gyfathrebu â phobl sy'n cadw gwartheg i'w helpu nhw i ddiogelu eu buchesi, ac estyn cymorth pan fo eu buchesi ag achosion o TB. Bydd yn ystyried swyddogaeth bosibl i hyrwyddwyr TB yng Nghymru. Fe ofynnwyd i sefydliadau ffermio a milfeddygaeth enwebu aelodau ar gyfer y grŵp hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld eu hargymhellion nhw.
Fe fyddaf i'n diddymu yn raddol y gwaith o drapio a phrofi moch daear mewn cysylltiad â Buchesi ag achosion TB o eleni ymlaen. O safbwynt epidemiolegol, mae maint bach y sampl a'r cyfnod dilynol byr yn rhoi canlyniadau cyfyngedig o ran bod yn ystyrlon i fesur effaith ymyriadau ar TB mewn gwartheg. Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo ar ffermydd eisoes yn cael ei gwblhau, ond ni fydd rhai newydd yn cael eu recriwtio.
Rwy'n awyddus i ymchwilio ymhellach i'r cyfraniad y gall brechu moch daear ei wneud i'n rhaglen, gan asesu'r defnydd mwyaf priodol, cost-effeithiol o'r brechlyn BCG ar gyfer moch daear. Mae brechu moch daear wedi bod yn rhan o'n rhaglen ers 2012, ac fe ddefnyddiwyd hynny yn gyntaf mewn ardal triniaeth ddwys yn rhan o gyfres o fesurau. Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau blynyddol sylweddol a pharhaus yn nifer a chyffredinolrwydd yr achosion yn yr ardal triniaeth ddwys. O 2014, rydym ni wedi cefnogi brechu moch daear yn breifat drwy grant ac fe wnaethom ni ariannu'r fenter, yn rhannol, a arweinir gan y diwydiant ar benrhyn Gŵyr. Rwy'n llongyfarch Cefn Gwlad Solutions, sydd wedi gwneud llawer iawn o waith i gyflawni'r prosiect hwn yn llwyddiannus.
Bydd cyllid a gaiff ei arbed drwy ddiddymu yn raddol y gwaith o drapio a phrofi moch daear yn ein galluogi i adeiladu ar yr ymdrechion i frechu, ac rwy'n croesawu'r diddordeb a ddangosir eisoes wrth fwrw ymlaen â phrosiectau preifat. I ddechrau, rwyf i am sicrhau y bydd £100,000 ychwanegol ar gael ar gyfer ehangu brechu moch daear ledled Cymru drwy'r cynllun grant. Rwy'n bwriadu parhau hefyd â'r arolwg Cymru gyfan o foch daear i gynyddu ein gwybodaeth am y clefyd mewn moch daear.
Rydym ni'n parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio, gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid a frechwyd i fod ar waith erbyn 2025. Mae hi'n siomedig nad oes yna unrhyw ffermydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y treialon hyd yma, ac fe fyddwn i'n annog diddordeb o'r ardal TB isel. Mae'r potensial i frechu gwartheg fod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd, ac rydym ni'n ymgysylltu â'r ganolfan ragoriaeth TB i gynllunio'r defnydd mwyaf priodol yng Nghymru.
Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, derbyn perchnogaeth a chydnabod bod gan bob un ohonom ni ran yn hyn yn allweddol i lwyddiant ein rhaglen. Mae TB buchol yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant ffermio, ac mae'r gost emosiynol yn ddirfawr. Mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein buchesi rhag y clefyd hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich barn chi ar y rhaglen ddiwygiedig i ddileu TB.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ddatganiad heddiw, ac rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr buddiannau. Fe hoffwn i ddechrau, yn y lle cyntaf, drwy roi teyrnged i'n ffermwyr ni ledled Cymru am barhau i fwydo cenedl hyd yn oed yn wyneb y straen corfforol, meddyliol ac economaidd a achosir gan TB buchol. Yn anffodus, i rai ffermwyr, mae'r frwydr barhaus hon yn erbyn y clefyd erchyll hwn wedi bod yn ormod iddyn nhw ac maen nhw wedi cymryd eu bywydau eu hunain. Ni ellir amau difrifoldeb y sefyllfa hon na fydd llawer y tu allan i gefn gwlad Cymru yn ei deall hi'n llawn nac yn wir yn ei dirnad hi. Mae TB buchol yn taflu cysgod hir dros ein diwydiant ffermio ni, gan fod yn un o'r prif rwystrau i sicrwydd o sector amaethyddol cynhyrchiol, blaengar a llewyrchus. Mae achosion o TB ar fferm deuluol yn effeithio ar bob agwedd ar allu'r fferm honno i weithredu model busnes hyfyw. Ac felly, nid trafod haint trychinebus ar wartheg yn unig yr ydym ni, ond mae angen i ni ystyried hefyd fod bywoliaeth pobl yn y fantol.
Gweinidog, rydych chi'n sôn yn eich datganiad am ostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009, ond fe fyddai hi'n dda gennyf gael gwybod beth mae'r ystadegau yn ei ddweud am ailymddangosiad y clefyd mewn buchesi sydd wedi'u heintio a faint o fuchesi a ddiffiniwyd yn rhai sy'n rhydd o TB ar ôl cyfnod maith dan gyfyngiadau. Mae atal buchesi newydd rhag cael y clefyd yn bwysig, ond i'r ffermwyr hynny sydd wedi bod dan gyfyngiadau TB ers tro, y nhw sy'n gweld effaith economaidd a meddyliol fwyaf garw'r clefyd, ac ni ddylid anghofio amdanyn nhw. Ac er fy mod i'n ddiolchgar am eich datganiad chi'r prynhawn yma, mae'n dod ar ôl 13 mlynedd o bolisi sydd wedi bod yn araf i daro'r nod terfynol o weld cydnabyddiaeth swyddogol o Gymru yn rhanbarth o'r DU sy'n rhydd o TB.
Os caf i, fe hoffwn i sôn am dri phwynt penodol wrth ymateb i'ch datganiad: brechlynnau, profion, ac iawndal. Rwy'n siŵr y bydd y sector yn croesawu eich diweddariad ar y cynnydd a welir yng Nghymru wrth sefydlu cynllun brechu. Eto i gyd, mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r diwydiant amaethyddol: ni fydd brechlyn yn atal yr haint yn llwyr. Os yw'r pandemig byd-eang wedi dysgu unrhyw beth i ni, hyd yn oed gyda defnydd cyffredin o frechlyn, fe all mynychder clefyd barhau a gellir ei drosglwyddo, hyd yn oed pan fo'r cyfraddau yn is. Fe fyddai brechlyn i wartheg yn golygu y bydd ffermwyr yn parhau i fynd i'r afael â phresenoldeb posibl TB buchol yn eu buches nhw. Felly, mae hi'n bwysig nad ydym ni'n cyflwyno'r brechlyn fel ateb hud a lledrith i weld diwedd ar TB buchol. Er hynny, yn sicr fe all fod yn arf arall sydd ar gael i ni. Ac er fy mod i'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio, ni ddylai hynny guddio'r ffaith ein bod ni'n dal i fod sawl blwyddyn oddi wrth raglen hyfyw—dyna o leiaf bedair blynedd y bydd TB yn parhau i heintio ein gwartheg ni, a lladd ein da byw a niweidio cenhedlaeth arall o fusnesau teuluol.
I liniaru hyn, mae'n rhaid i ni fod yn arloesol ac yn uchelgeisiol yn ein cyfundrefn brofi. Mae hynny'n golygu ehangu ar y drefn brofi sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a gwneud yn fawr o rai dewisiadau amgen sydd ar gael ar hyn o bryd yn y diwydiant. Fe wyddom ni eisoes fod y prawf croen cyfredol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi canlyniadau negatif anghywir, ac mae hynny'n cael ei nodi yn y rhaglen dileu TB ddiwygiedig gan ei bod hi'n nodi nad yw'n bosibl dileu'r risg o ymlediad TB yn llwyr drwy haint nad ydyw wedi ei ganfod. Ond, drwy wella'r profion, fe fydd hynny'n lleihau nifer yr achosion sydd heb eu canfod. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad y bydd yr ymgynghoriad newydd yn gofyn am farn ar brotocolau profi, ond nid oes sôn am y profion a gaiff eu defnyddio. Fe hoffwn i gael rhagor o wybodaeth gennych chi am gyflwyno'r profion newydd hyn, gan gynnwys Enferplex ac IDEXX, i gael gwared ar ganlyniadau negatif anghywir wedi profion croen.
Yn olaf, iawndal. Roeddwn i'n bryderus o ddarllen bod y gyllideb ar gyfer taliadau TB wedi rhagweld gorwariant o £7 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae hon yn gyllideb sydd wedi gweld gorwariant bob blwyddyn ers 2015-16. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â TB buchol, a mynd i'r afael â gwraidd y clefyd yn gynt, yna ni fyddai'r gorwariant wedi digwydd, gan na fyddai'r clefyd wedi gallu ymledu trwy Gymru benbaladr, gan weld 10,000 a mwy o wartheg yn cael eu lladd yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig.
Gweinidog, rwy'n ailadrodd ei bod hi'n rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol hirdymor o ran mynd i'r afael ag effaith y clefyd hwn. Mae hi'n anghyfrifol i ni beidio ag ariannu'r cynllun iawndal yn briodol i ffermwyr, a chwyno am orwario ac edrych ar ffyrdd o leihau taliadau i wneud yn iawn am golli da byw yn hytrach na chanolbwyntio ar ffyrdd cynaliadwy o leihau ymlediad y clefyd yn y lle cyntaf. Rwy'n nodi'r tri dewis sy'n cael eu hawgrymu gan Lywodraeth Cymru gyda diddordeb, ac er bod yn rhaid i unrhyw gynllun iawndal adlewyrchu gwerth am arian i drethdalwyr, mae hi'r un mor hanfodol ein bod ni'n setlo ar gynllun sy'n cynnig taliad TB teg a chymesur i geidwaid gwartheg. Rwy'n aros yn eiddgar am ganlyniad yr ymgynghoriad y gwanwyn nesaf, ond rwy'n poeni ein bod ni'n canolbwyntio ar swm yr arian y gellir ei arbed yn hytrach na datrys y broblem, sef TB buchol.
Gweinidog, rydych chi'n cyfeirio at hyrwyddwyr TB yn eich datganiad. A gaf i ofyn i chi ailystyried y geiriad, os gwelwch yn dda? Nid oes neb yn dymuno hyrwyddo clefyd mor angheuol, sydd wedi achosi cymaint o helbul i ffermwyr ledled Cymru.
Os ydym ni am fynd i'r afael â TB buchol, mae'n rhaid i ni geisio gwella ansawdd ein cyfundrefn brofi, a pharhau i fuddsoddi mewn prosiect i gyflwyno brechlynnau, a sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu cefnogi mewn modd priodol. Gweinidog, rydych chi'n iawn i ddweud bod cydweithredu a phartneriaeth yn allweddol, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i hyn gyda mesurau cyfatebol. Ac felly rwy'n eich annog chi, peidiwch â gadael i ni weld 13 mlynedd arall yn mynd heibio; gadewch i ni weithio ar frys gyda'r diwydiant i weithredu strategaeth lawn a chynhwysfawr i ddileu TB sy'n cael ymwared o'r clefyd erchyll hwn yn ein gwartheg a'n bywyd gwyllt yng Nghymru unwaith ac am byth. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am y cwestiynau yna. Ydy, mae hwn yn glefyd erchyll, rwy'n cytuno yn llwyr â chi, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Ni fyddwn i fyth bythoedd yn cyflwyno un peth yn y gist arfau fel—nid wyf i'n hoff o'r ymadrodd 'ateb hud a lledrith', ond dyna a ddywedasoch chi. Ond, nid dyna ystyr hyn, cyfres o fesurau sydd gennym ni, ac yn sicr am y pum mlynedd yr wyf i wedi bod mewn portffolio, fe ddysgais i hynny'n gyflym iawn, iawn. Pan edrychwch chi ar y wyddoniaeth, nid oes unrhyw un ateb; pe byddai hi felly, pa mor hawdd fyddai bywyd? Ond nid felly y mae hi. Ystyr hyn, felly, yw sicrhau bod y mesurau sydd gennym ni ar waith yn gwbl briodol.
Roeddech chi'n gofyn am ystadegau yn eich cwestiwn cyntaf chi ac yn sicr, gan edrych ar dueddiadau byrdymor, ar 30 o fis Mehefin eleni, roedd 81 yn llai o fuchesi o dan gyfyngiadau symud o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, 30 o'r mis Mehefin blaenorol yn 2020. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n darllen gormod i dueddiadau byrdymor, gan ein bod ni'n disgwyl amrywiadau byrdymor yn y ffigurau. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni edrych ar y ffigurau, ac fe soniais i yn fy natganiad am y 48 y cant yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw.
Nid wyf i'n cytuno â chi mai cynnydd araf sydd wedi bod. Ond rwyf i o'r farn ein bod ni wedi gwneud peth cynnydd sylweddol ers i ni fod â'r rhaglen hon, ond wrth gwrs os ydych chi wedi bod ag achosion hirdymor o TB yn eich buches chi—hynny yw am dros 18 mis—nid yw hynny o lawer iawn o gysur i chi o gwbl, ac rwy'n llwyr werthfawrogi hynny. Pan wnaethom ni adnewyddu'r rhaglen bedair blynedd yn ôl, fe ddaethom ni â'r cynlluniau gweithredu pwrpasol, sydd, yn fy marn i, wedi helpu rhai ffermwyr. Nid yw pob ffermwr wedi croesawu hynny, ond rwy'n sicr yn credu bod hyn wedi eu helpu nhw. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni ddiwygio eto erbyn hyn ac, fel rydych chi'n dweud, yn yr ymgynghoriad, rydym ni wedi cyflwyno sawl peth i'w hystyried, ac rwyf i'n cynnig ein bod ni'n eu newid nhw.
O ran brechu gwartheg yr oeddech chi'n cyfeirio ato—fel rwyf i'n dweud, nid wyf i o'r farn fod unrhyw beth unigol, mae'n rhaid cael cyfuniad—y nod yw cael brechlyn TB ar gyfer gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf a all wahaniaethu rhwng anifeiliaid a frechwyd erbyn 2025. Yn sicr, pan wnes i gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson yn yr haf ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd ef yn gyffrous iawn am hyn gan ei fod ef wedi dweud ei fod ef bob amser wedi clywed y byddai'r brechlyn yn dod ymhen 10 mlynedd eto, ac erbyn hyn ymhen pedair blynedd eto yw'r ddealltwriaeth, ac rwy'n gwerthfawrogi bod hwnnw'n gyfnod gweddol faith, ond rydym ni'n nes at ddiwedd y daith nawr. Rwy'n sicr yn credu bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gael brechiad ar gyfer gwartheg, ac yn bendant fe geir hwb ymlaen at hynny nawr, fe fyddwn i'n dweud, ledled y DU.
Roeddwn i'n sôn yn fy natganiad fy mod i'n siomedig nad oes unrhyw ffermydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn y treialon hyn, ar ffermydd yn Lloegr y maen nhw i gyd ar hyn o bryd. Peth da fyddai unrhyw anogaeth i ffermydd o ardaloedd TB isel i gymryd rhan yn y treialon hyn. Yn sicr, yn y Llywodraeth, rydym ni'n gweithio yn agos gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban, ac fe fu yna tua 20 mlynedd o ymchwil i'r brechiad hwn erbyn hyn, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru, ymhell cyn fy amser i, wedi arwain ar hyn mewn gwirionedd.
Roeddech chi'n gofyn am brofion croen a phrofion yn gyffredinol. Yn sicr, mae'r prawf croen yn brawf hirsefydlog ac mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio trwy'r byd. Dyma'r prif brawf gwyliadwriaeth, hyd y gwelaf i, ym mhob un o'r rhaglenni a reolir gan TB, ac mae'n debygol o roi dim ond un canlyniad positif anghywir i un anifail ym mhob 5,000 o wartheg nad ydyn nhw wedi cael eu heintio. Rwy'n awyddus iawn i edrych ar brofion newydd, ac fe soniais i fod hynny'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed pobl yn rhoi eu safbwyntiau nhw ynglŷn â phrofion. Mae yna brofion nad ydyn nhw wedi cael eu dilysu hyd yn hyn, ond unwaith eto rwy'n gwybod bod fy swyddogion i wedi ymgysylltu â phobl ynglŷn â hynny. Rwy'n credu ein bod i gyd yn awyddus i wella'r profion ar y cyd, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol nawr i gael golwg ar hynny.
Roeddech chi'n sôn am y—rwy'n credu mai'r prawf gwrthgyrff IDEXX yn benodol, sef, fel y gwyddoch chi, prawf gwaed ac mae'n rhaid ei roi rhwng 10 a 30 diwrnod wedi prawf croen TB. Mae'r gyfradd uchel o brofion positif a welsom ni yn 2020 yn debygol o fod oherwydd ein bod ni wedi anelu'r prawf hwnnw, ac wrth gwrs, at ein hanifeiliaid ni â mwy o risg. Felly, rydym ni wedi bod yn ei ddefnyddio, yn ogystal â'r prawf gama, yn y mannau lle gwelwn ni lawer o achosion o TB yn y gogledd am y tro cyntaf. Felly, mae hi'n ddiddorol gweld y canlyniadau yr ydym ni'n eu cael yn y fan honno.
O ran iawndal, unwaith eto, rwy'n ymgynghori ar dri dewis, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael amser i gael golwg ar yr ymgynghoriad. Rydym ni'n ymgynghori ar dri dewis. Maen nhw wedi cael eu hargymell i mi gan fwrdd y rhaglen. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i gael y tablau prisio ynghyd ag ychwanegiadau am fod yn aelod o gynllun achredu, ac yna'r ardoll TB. Caiff y tri dewis hynny eu nodi yn y ddogfen ymgynghori.
Roeddech chi'n sôn am y gorwariant ac rydych chi'n iawn: cynllun yw hwn sy'n cael ei arwain gan y galw, felly, yn amlwg—. Rwy'n credu, bob blwyddyn, ein bod ni wedi gordanysgrifio ar ei gyfer, ond, yn y Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd statudol i dalu ffermwyr am anifeiliaid a gafodd eu lladd o dan y rhaglen, ac rydym ni'n dod o hyd i'r cyllid hwnnw bob tro. Rwyf i'n ailflaenoriaethu, rwy'n ailgyfeirio ac rwy'n dargyfeirio cyllid oddi wrtho, ond mae yna angen i ni leihau'r cyllid hwnnw—ac, unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r ymgynghoriad. Felly, unwaith eto, fe fyddwn i'n annog Aelodau i annog ffermwyr, yn sicr, a'u hetholwyr nhw i gyd, os oes ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn, i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n mynd i gadw hwn yn weddol fyr achos dwi ddim eisiau ailadrodd llawer o'r pethau mae Sam Kurtz wedi'u dweud; dwi'n digwydd cytuno â nhw.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod TB mewn gwartheg yn parhau i gael effaith ddinistriol iawn ar ffermio yng Nghymru, nid yn unig o ran yr effaith economaidd, ond hefyd yr effaith emosiynol a'r effaith ar iechyd meddwl, fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod. Felly, mae'n amlwg bod angen amryw o ddulliau gwahanol i ddelio gyda hyn, yn seiliedig ar angen lleol a statws clefydau. Mae'n rhaid rheoli'r clefyd, wrth gwrs, mewn bywyd gwyllt, yn ogystal â chyfyngiadau ar symud anifeiliaid a phrofion anifeiliaid.
Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad, wrth gwrs, ac mae e'n gyfle i bobl sydd yn gallu cyfrannu ar sail eu harbenigedd ar y mater cymhleth hwn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna leihad wedi bod yn y nifer o achosion, ond mae rhywun hefyd yn sylweddoli mai jest un mesur yn unig yw hwn.
Rydych chi wedi'i ddweud, a'r Prif Weinidog, sawl gwaith, fod difa moch daear ddim yn opsiwn i chi, felly mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar ffordd wahanol o weithio mor effeithiol â phosibl, gan leihau unrhyw anhwylustod i ffermwyr.
Nawr, beth fyddwn i wedi hoffi ei weld yn y datganiad hwn yw rhyw fath o ddatrysiad, mewn gwirionedd, lle rydych chi'n cydnabod bod yna gynnydd wedi bod mewn achosion TB mewn rhai ardaloedd, gan gyfeirio'n benodol at ogledd Cymru, ond rŷn ni'n gyfarwydd, dros gyfnod o 20 mlynedd, o ardaloedd lle mae yna sbeicio wedi digwydd o ran y diciâu.
O ran symud ymlaen, dwi ddim yn deall pam nad oes yna fwy o ymrwymiad yma i frechu moch daear yn yr ardaloedd yna sydd yn ardaloedd problematig i ni, a pham dim rhaglen fwy systematig, felly, o brofi moch daear ar ffermydd lle mae achosion cyson yn codi, a chysylltu hyn gyda rhaglen frechu leol. Felly, byddai hynny wedi cael ei groesawu, yn fy marn i. Rydych chi'n cyfeirio at raglen frechu yn ardal Gŵyr; mi fydden i wedi hoffi clywed mwy am ddeilliannau hyn—canlyniadau y prosiect arbennig yna.
Rydych chi'n cyfeirio at 'toolkit of measures in hotspot areas'—wel, unwaith yn rhagor, byddai mwy o fanylion ynglŷn â'n union beth ydy'r mesurau yna a beth maen nhw'n ei olygu yn ddefnyddiol.
O ran iawndal, eto, dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r sylwadau wnaeth Sam Kurtz: mae achosion o TB ar ffermydd yn effeithio ar bob agwedd ddyddiol ar fywyd ffermio—prynu a gwerthu ac yn y blaen. Ac yn ein barn ni, mae'n rhaid i drefniadau iawndal adlewyrchu gwerth unigol pob anifail, a dim ond trwy brisiad unigol y gellir cyflawni hyn. Felly, ydy'r Gweinidog yn derbyn, os nad yw anifail yn cael ei brisio ar sail ei nodweddion unigol, fod perygl o orddigolledu ddigwydd, neu ar y llaw arall, tanddigolledu ddigwydd, rhywbeth a fyddai'n annheg iawn ar drethdalwyr a ffermwyr fel ei gilydd?
Ond yr hyn sydd yn gwbl ganolog i'r datganiad yw os ŷch chi'n benderfynol o gynnal y strategaeth bresennol, mae'n anochel y gwelwn ni ddegau o filoedd o wartheg yn parhau i gael eu lladd eto dros y blynyddoedd nesaf yn yr un modd ag ŷn ni wedi gweld dros 30,000 o wartheg yn cael eu lladd dros y tair blynedd ddiwethaf, ie, 30,000 o wartheg, ac effaith economaidd ac emosiynol hynny ar ffermydd.
I arwain at yr iawndal, mae hyn yn anochel, wrth gwrs, yn mynd i olygu cynnydd mewn costau, ac mae awgrym eich bod chi'n ystyried hyn yn anghynaladwy. Nawr, tra gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian o ganlyniad i hyn fod yn gwaethygu'r sefyllfa, ydy'r Gweinidog yn derbyn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw balanso'r llyfrau ar y mater hwn ac na ddylid disgwyl i ffermwyr dalu'r bil am gael pris teg am y gwartheg sy'n gorfod cael eu difa?
Ac mae'r pwynt olaf, Gweinidog, yn ymwneud â brechu. Pan fo brechu ar gael, mae rôl ar ei gyfer, yn amlwg, wrth ddileu TB, ond dim ond wrth atal ac nid wrth wella'r clefyd y gellir ei ddefnyddio. Mae treialon maes gyda brechu gwartheg yn erbyn TB, fel gwnaethoch chi amlinellu eisoes, ar y gweill, ac rydych chi'n gobeithio y bydd brechlyn effeithiol ar gael erbyn 2025, felly fy nghwestiwn i yw: pa mor hyderus ydych chi y gallwn ni daro'r nod hwn, o ystyried y nifer isel o ffermydd sy'n cymryd rhan yn y treialon ar hyn o bryd?
A'm pwynt olaf i yw hwn: drwy ddiystyru mesurau eraill fel rheoli'r clefyd mewn bywyd gwyllt, a yw'r Gweinidog yn derbyn, felly, fod y Llywodraeth yn fodlon cadw'r sefyllfa mor ddisymud ag y mae hi ar hyn o bryd am o leiaf dair neu bedair blynedd arall, ac na fydd yn ysgafnu'r baich emosiynol neu ariannol ar ffermwyr i ryw raddau, neu leihau nifer yr achosion o'r clefyd i'r un graddau ag a welsom ni mewn gwledydd eraill? A fy mhwynt olaf i hefyd yw'r arolwg o foch daear marw sydd, yn fy marn i, yn aneffeithiol a braidd yn ad hoc ac nid yw'n dysgu unrhyw beth i ni am y clefyd hwn o gwbl. Diolch yn fawr.
Rwyf i am ddechrau gyda'r ail bwynt olaf ynghylch yr arolwg, nid wyf—
Mae'n ddrwg gen i.
Popeth yn iawn. Nid wyf i'n cytuno â chi, rwyf i o'r farn ei fod wedi rhoi tystiolaeth dda iawn i ni, ac fe ddylai ddod i ben ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, ond rwyf i wedi ymrwymo i'w barhau am ddwy flynedd arall, oherwydd mae ein cynghorwyr ni'n dweud, a'r prif swyddog milfeddygol, a'r gwyddonwyr ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n parhau â'r gwaith hwnnw, oherwydd maen nhw o'r farn ei fod yn werth ei wneud.
Ond rwy'n diolch i chi am eich cwestiynau, ac nid wyf i'n awyddus i barhau â sefyllfa ddisymud, wrth gwrs, ac un o'r rhesymau am gyflwyno'r nodau nôl yn 2017 a'r ymagwedd o fod â rhanbarthau oedd diogelu'r statws hwnnw o fod yn rhydd o TB cyn gynted â phosibl. Yn sicr, yn y trafodaethau a gefais i, yn arbennig felly pan oeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd, gyda phobl mewn cynghorau amaethyddol Ewropeaidd, ac ati, y farn oedd y byddai ymagwedd o fod â rhanbarthau yn ein helpu ni mewn gwirionedd. Felly, pe byddech chi'n gweld un rhanbarth yng Nghymru yn cael ei ddatgan yn rhydd o TB, fe fyddai hynny'n hwb aruthrol i weddill Cymru. Felly, roeddwn i'n awyddus iawn i ddod â'r ymagwedd o fod â rhanbarthau i mewn i'r rhaglen i ddileu TB nôl yn 2017, ac fe fyddaf i'n sicr o'i chadw.
Roeddech chi'n sôn am adegau lle cafwyd nifer fawr o achosion o'r clefyd dros y blynyddoedd blaenorol. Y rheswm y soniais i am hynny yw oherwydd dyma fy niweddariad blynyddol i, ac rwy'n gwerthfawrogi mai dyma'r un cyntaf i'r Aelod fod yn y Siambr ar ei gyfer, ond bob blwyddyn rwy'n ymrwymo i wneud datganiad. Felly, er fy mod i'n edrych hefyd ar ddiwygio'r rhaglen dileu TB, oherwydd nad ydym wedi cael un am bedair blynedd, fy natganiad blynyddol yw hwn, mewn gwirionedd, felly dyna'r rheswm pam roeddwn i'n canolbwyntio ar hynny.
Rwy'n ymwybodol eich bod yn cael sesiwn friffio dechnegol gyda'r prif swyddog milfeddygol, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n sicr yn gallu rhoi llawer mwy o fanylion i chi nag y gallaf i yn yr amser byr sydd gennyf i ynglŷn â phrosiect Gŵyr, ond mae hwnnw wedi bod yn galonogol iawn, yn sicr, ac rydym ni wedi defnyddio brechiadau i foch daear. Dyma un o'r pethau sydd wedi bod yn rhan o'n pecyn cymorth ni ers 2012; bu'n rhan o'n rhaglen ni, ac fe'i defnyddiwyd gyntaf, fel y dywedais i yn fy natganiad gwreiddiol, yn yr ardal triniaeth ddwys, yn rhan o'r gyfres honno o fesurau. Ac fe welsom ni ostyngiad yn nifer yr achosion a'r cyfraddau o ran mynychder yn yr ardal triniaeth ddwys. Ac, yn ffodus, mae'r sefyllfa honno wedi aros yr un fath.
Ystyr hyn yw bod â'r gyfres honno o fesurau y soniais i amdanyn nhw. Ac mae'r drefn brofi gennym ni, a'r drefn frechu gennym ni, ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i ni ddefnyddio'r gair 'partneriaeth' yna unwaith eto. Ac rwy'n falch iawn—fe wnes i gyfarfod â'r NFU yr wythnos diwethaf, ac mae ganddyn nhw eu grŵp eu hunain i ganolbwyntio ar TB nawr, ac roedd hi'n galonogol iawn i glywed am y cynnydd y maen nhw'n credu sydd yn digwydd o fewn y grŵp hwnnw. Maen nhw wedi cael y prif swyddog milfeddygol yno i siarad â nhw, maen nhw wedi cyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson i wrando ar ei farn ef, ac mae hi'n ardderchog bod â'r berchnogaeth honno, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth, oherwydd ni allwn ni wneud dim ar ein pennau ein hunain ac ni allan nhw wneud hyn ar eu pennau eu hunain; cydweithio yw ystyr hyn. A'i ystyr hefyd yw gwell bioddiogelwch, hwsmonaeth dda, ac, wrth gwrs, mae Cymorth TB gennym ni, rydym ni'n ariannu hwnnw, ac mae'n ceisio rhoi cymorth ymarferol i'n ffermwyr ni, i'r rhai sy'n cadw buchesi y mae TB yn effeithio arnyn nhw. Maen nhw'n cynnig ymyriadau milfeddygol pwrpasol ar wahanol gamau yn ystod y dadansoddiad. Rwyf i am ofyn i'r grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddais i heddiw i fwrw golwg ar y dull o ymgysylltu â'n ffermwyr ni a'r rhai sy'n cadw buchesi i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r ymgysylltiad hwnnw, a dangos mai bod mewn partneriaeth yw hyn yn gyfan gwbl, ac rwy'n cydnabod hynny i raddau helaeth iawn.
Rydym ni'n gweithio yn agos iawn hefyd gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gynnig cyngor parhad busnes i ffermwyr ac, yn bwysig iawn, eu teuluoedd nhw, oherwydd nid y ffermwr yn unig sy'n cael eu heffeithio; mae'r teulu cyfan yn dioddef oherwydd TB buchol. Ac fe fyddwn i'n annog ffermwyr a'u milfeddygon yn gryf i fanteisio ar y rhaglen cyngor milfeddygol bwrpasol honno a ariennir gan y Llywodraeth a ffermwyr i siarad â'u milfeddygon preifat nhw hefyd ynghylch hyn, a sut y gallan nhw gael gafael arno. Ac, unwaith eto, bydd dyfodol Cymorth TB ac unrhyw fentrau eraill sydd gennym ni'n cael eu cynnwys o fewn cylch gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen, ac fe wnaf ofyn iddyn nhw edrych ar hynny.
Ynglŷn â'ch cwestiynau chi o ran iawndal, nage, mater i Lywodraeth Cymru yw mantoli'r llyfrau. Fy ngwaith i yw sicrhau bod yr arian hwnnw gennyf i. Nid wyf i'n disgwyl i'r ffermwyr fod ag unrhyw ran yn hynny. Ein dyletswydd statudol ni yw hon. Er hynny, yr hyn yr wyf i'n ei ddisgwyl yw, os yw rhywun yn meddwl—. Felly, y terfyn nawr yw £5,000, felly os ydych chi'n meddwl bod gennych chi wartheg sy'n werth mwy na hynny, yna fe ddylech chi ystyried yswiriant. Rwy'n credu bod hwnnw'n rhywbeth pwysig iawn i'w wneud.
Mae'r brechiad ar gyfer gwartheg, fel y dywedais i yn fy ateb i Sam, yn fy marn i, o fewn cyrraedd nawr—rhyw dair, bedair blynedd ac rwy'n ffyddiog y cawn ni hwnnw. Roeddech chi'n sôn bod nifer y ffermydd yn isel, ac fe soniais i nad oedd yna unrhyw fferm yng Nghymru, ac fe fyddwn i wir yn annog ffermydd Cymru i gymryd rhan yn y treial, oherwydd rwy'n awyddus i fod yn rhan ohono. Fel y dywedais i, rwy'n gweithio gyda DEFRA ac rwy'n gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, ac mae llawer o ffermydd yn Lloegr yn rhan o'r treial, ond yr hyn yr wyf i'n awyddus i'w weld mewn gwirionedd yw gweld rhai ffermydd yng Nghymru yn rhan o'r treialon hynny.
Diolch i chi am eich diweddariad blynyddol, Gweinidog. Fel mae'r prif swyddog milfeddygol yn ei nodi yn y rhagair i'r ddogfen ymgynghori, roedd y rhaglen ddileu bob amser yn golygu taith bell ac mae'r tueddiadau hirdymor yn parhau i fod yn gadarnhaol. Rydym ni wedi caniatáu i'r wyddoniaeth lywio a'n rhanddeiliaid allweddol ni—ffermwyr, milfeddygon a chyrff cynrychioliadol—wrth fwrw ymlaen â honno. Mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi bod yn hyblyg wrth addasu'r cynllun cyflawni, ond fe wnaethom ni dynnu llinell o ran difa moch daear, ac rwy'n falch bod rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn gwahardd difa moch daear i reoli ymlediad TB mewn gwartheg. Yn wahanol iawn, ni fydd Llywodraeth y DU ond yn dechrau gwneud hynny'n raddol yn Lloegr y flwyddyn nesaf. Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn amcangyfrif, pan ddaw'r difa i ben, y gallai 300,000 o boblogaeth a amcangyfrifir i fod yn 485,000 o foch daear fod wedi eu lladd, gan ddifa'r poblogaethau mewn ardaloedd sydd wedi bod yn gynefin iddyn nhw ers yr oes iâ.
Ond yn ôl at ddatganiad heddiw ac yn ôl at y daith bell honno yr ydych chi'n sôn amdani hi—ac fe fu yna ddigon o sôn yn y fan hon y prynhawn yma am y treial brechu gwartheg. Ac, fel roeddech chi'n dweud, fe fyddai brechlyn TB effeithiol ar gyfer gwartheg yn arf pwerus iawn. Rydych chi wedi crybwyll hefyd mai dim ond un peth yn y gist arfau ydyw hyn. Felly, rwyf innau wedi fy siomi hefyd yn niffyg cyfranogiad ffermwyr Cymru. Rwy'n cymryd eich bod chi wedi trafod hynny gydag undebau ffermio, a da iawn o beth fyddai i chi allu rhoi unrhyw ddiweddariad ar hynny, naill ai nawr neu yn y dyfodol agos. Diolch i chi.
Diolch. Felly, o ran eich sylwadau chi ynghylch ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu ni na fyddwn ni'n caniatáu i ddifa moch daear fod yn rhan o'r mesurau i ymdrin â TB buchol, nid yw astudiaethau gwyddonol diweddar wedi cynnig unrhyw dystiolaeth bendant y byddai difa moch daear yn lleihau cyfraddau mynychder mewn buchesi gwartheg. Ac roeddech chi'n sôn am Loegr, sydd wedi lladd nifer aruthrol o foch daear, ond maen nhw'n tynnu'n ôl nawr ac yn cilio oddi wrth hynny. Ac rwy'n credu mai'r rheswm am y pwyslais ar frechu gwartheg, yr wyf i'n ei groesawu yn fawr, yw bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ba ddewisiadau eraill sydd ganddyn nhw. Ac os edrychwch chi ar yr ardaloedd lle maen nhw wedi difa moch daear, mae TB buchol yno o hyd. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.
Rwyf i wedi codi'r diffyg ffermydd—wel, dim un fferm—yn cymryd rhan yng Nghymru yn y treialon gyda'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru, ac fe soniais i yn fy ateb yn gynharach i Cefin Campbell fod y prif swyddog milfeddygol wedi mynychu grŵp ffocws TB yr NFU ac fe godwyd hyn yn y fan honno, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n gwneud popeth yn eu gallu i annog ffermydd yn yr Ardal TB isel i gymryd rhan.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae ffermydd ledled y gogledd â rhan enfawr yn y gwaith o gefnogi ein heconomi leol ni, ein cymunedau ni ac yn wir ein cadwyn fwyd ni. Mae llawer o ffermwyr yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn ystod y misoedd diwethaf ochr yn ochr â'r NFU wedi codi eu pryderon nhw am raglen dileu TB buchol nad ydyw hi'n ddigon cadarn ac nad yw hi'n gwneud digon i ymdrin â gwraidd y broblem. Ac mae'r pryderon hyn ynghlwm â'r cynnydd mewn achosion yn y gogledd, rhywbeth y gwnaethoch chi ei gydnabod yn eich datganiad heddiw ac roedd hynny'n rhywbeth y cyfeiriodd Mr Campbell ato yn gynharach yn ei gyfraniad yntau. Wrth gwrs, fe wyddom ni fod y posibilrwydd o orfod lladd buchesi cyfan o wartheg yn dilyn achosion o TB yn bryder gwirioneddol i ffermwyr yn fy rhanbarth i, ac, er bod iawndal ar gael, nid yw hynny'n gwneud cyfiawnder â'r tarfu ar eu busnes, a allai wneud fferm yn anymarferol, heb sôn am y straen emosiynol ar ffermwyr sy'n gweithio mor galed. Felly, Gweinidog, pa gymorth penodol y byddwch chi'n ei roi i ffermwyr yn y gogledd lle mae'r cynnydd mewn TB wedi cael ei brofi a sut ydych chi am weithio gyda'r ffermwyr hynny i sicrhau bod y tarfu ar fusnes yn cael ei gadw dan reolaeth gymaint â phosibl? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi, ac fe gyfeiriais i at yr adegau lle cafwyd nifer fawr o achosion a welsom ni, yn anffodus, ac roeddwn i'n sicr yn bryderus iawn o weld y rhain, fe soniais i am y nodau y gwnaethom ni eu pennu i fod yn rhydd o TB buchol. Roedd yr Ardaloedd TB isel yn amlwg yn bwysig iawn yn rhan o hynny.
Gwelwyd nifer fawr o achosion mewn tair ardal sef Conwy, sir Ddinbych a Phennal, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw. Rydym ni wedi cyflwyno mesurau gwell, profi ac ati, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw. Ond rwy'n credu, unwaith eto, ei bod hi'n bwysig iawn nodi bod wyth o bob 10 o'r achosion hynny o ganlyniad i symudiadau gwartheg, felly mae hi'n bwysig ein bod ni'n parhau i weithio, bod ffermwyr yn cael gafael ar y cymorth hwnnw, ei fod ar gael, a'r canllawiau a'r cyngor hwnnw sydd ar gael, wrth symud ymlaen.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oeddwn i'n bwriadu ymateb i'r datganiad mewn gwirionedd, ond rwyf i wedi bod yn eistedd yma ac yn gwrando yn astud ar yr hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud, ac, yn y bôn, nid oes unrhyw beth wedi newid, mewn gwirionedd, a oes yna? Fe allech chi fod wedi cyflwyno'r datganiad hwn 10 mlynedd yn ôl, ac, yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ddifa 10,000 o wartheg bob blwyddyn. Mae hyn yn awgrymu bodloni ar y sefyllfa, mewn gwirionedd. Felly, dewch ymlaen, gadewch i ni fod yn ddewr yn hyn o beth. Gadewch i ni fod yn radical. Gadewch i ni fwrw'r maen i'r wal a rhoi'r gorau i din-droi. Onid yw hi'n hen bryd i'r Llywodraeth hon ddod i'r adwy a mynd i'r afael â TB mewn bywyd gwyllt? Oherwydd, os na wnewch chi hynny, yna, yn siŵr i chi, fe fyddwn ni yn ein holau yma mewn 12 mis arall pan fyddwch chi'n cyflwyno eich datganiad blynyddol nesaf. A wyddoch chi beth? 10 mlynedd arall eto fel hyn fydd hi.
Felly, mae'n debyg fy mod i'n anghytuno yn gyfan gwbl â phopeth a ddywedodd Llŷr Huws Gruffydd. Rydych chi'n sôn am fywyd gwyllt ac, yn hollol, os edrychwch chi yn y cynlluniau gweithredu pwrpasol, un o'r meysydd yr oeddem ni'n dweud yn benodol y byddem ni'n anelu tuag atyn nhw gyda'r buchesi ag achosion TB hirdymor oedd o ran y bywyd gwyllt. Ac os edrychwch chi ar y cynlluniau gweithredu pwrpasol a gyflwynwyd gennym ni—ac rwy'n ceisio cofio'r ganran, ond fe geir nifer sylweddol—nid oedd y bywyd gwyllt ag unrhyw ran yn y dadansoddiad hwnnw. Ac un o'r rhesymau yr wyf i am roi'r gorau i brofi a thrapio moch daear—mae'n ddrwg gennyf i, y trapio a'r profi—mewn cynlluniau gweithredu pwrpasol yn y dadansoddiad hirdymor yw am nad yw hynny wedi bod yn boblogaidd mewn gwirionedd. Nid oedd rhai ffermwyr yn dymuno i ni wneud hynny, ac rwy'n credu ei bod hi'n well gwario'r arian ar frechu moch daear. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr â chi fod yn rhaid i ni weithredu, ac un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud—ac rwyf i wedi cyhoeddi'r £100,000 ychwanegol heddiw, oherwydd mae hi'n ymddangos bod hynny o fudd mawr.
Yn ferch i ffermwr, Gweinidog, rwyf i wedi gweld effaith ddinistriol TB Buchol ar ffermwyr a'n cymunedau gwledig ni â'm llygaid fy hun, ac mae'n rhaid i mi gytuno â Llŷr; mae hi'n llythrennol yn teimlo fel ein bod ni'n troi yn yr unfan yn y Senedd hon yn hyn o beth. Roeddwn i'n sefyll yma yn ymateb i ddatganiad tebyg iawn yn ôl yn 2003, gan glywed dadleuon tebyg iawn, iawn, ac eto rwy'n sefyll yma heddiw ac rwy'n nodi nad oes fawr ddim wedi newid, Gweinidog. Nid yw hyn yn ddigon da. Nid oes unrhyw gynnydd o sylwedd wedi bod o gwbl, ac mae Cymru yn crefu am ateb cymwys i TB buchol.
Mae'r diffyg dealltwriaeth sy'n gynhenid yn y Llywodraeth hon o ran ein cymunedau gwledig ni a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn peri dryswch i mi. Fe allwch chi ddefnyddio ystadegau, fel gwnaethom ni heddiw, i gefnogi'r naill ochr neu'r llall i ddadl heddiw, ond yr hyn sy'n ein hwynebu ni i gyd yw bod problem wirioneddol yn parhau o ran TB buchol. Caiff 11 mil o wartheg eu lladd bob blwyddyn i reoli TB. Mae hi'n amlwg nad yw hyn yn gynaliadwy, sef bod gwartheg yn cael eu lladd yn y niferoedd hyn o flwyddyn i flwyddyn. Mae brechiadau ar gyfer moch daear, yr ydych chi o'r farn eu bod nhw'n ddatrysiad i hyn, yn rhy agored i broblemau cyflenwad a chostau uchel, ac mewn gwirionedd, fel dywedodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz yn gynharach, nid yw'n gwella'r anifail o'r haint. Nid yw'n ateb hud a lledrith i bopeth, ac mae hi'n amlwg bod llu o bethau y mae angen eu gwneud ar y cyd i fynd i'r afael â TB buchol, fel yr amlinellwyd gennych chi'n gynharach.
Mae yna sôn wedi bod am frechlyn i wartheg ers bron i 30 mlynedd erbyn hyn, Gweinidog. Rwy'n falch tu hwnt o'ch clywed chi'n dweud bod cynnydd yn cael ei wneud o'r diwedd ac mae hi'n ymddangos ein bod ni'n gweld cynnydd yn hyn o beth, ond roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n credu y byddwn ni'n ei weld yn y dyfodol.' 'Rwy'n credu y byddwn ni'n ei weld'—felly, nid oes yna ddyddiad pendant o gwbl. Rwy'n meddwl tybed a fyddech chi'n cynnig rhywbeth ychydig yn fwy sylweddol i ni yn hynny o beth, oherwydd mae'n beth cyffrous, oherwydd fe fyddai hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dros y ffin yn Lloegr maen nhw wedi bod yn treialu difa moch daear mewn rhai ardaloedd yn ddiweddar, gyda gostyngiad o 66 y cant mewn TB yn Swydd Gaerloyw a gostyngiad o 37 y cant mewn TB yng Ngwlad yr Haf. Mae'r Prif Weinidog wedi diystyru difa tra bydd ef wrth y llyw, mae'n debyg, ond mae'r canlyniadau yno, Gweinidog. Mae hynny'n gweithio. Rydym ni wedi siarad a siarad, wedi ymgynghori, ymgynghori, ymgynghori yn y Siambr hon, Gweinidog, ond mae angen gweithredu pendant ar Gymru. Yn sicr iawn, mae'n rhaid i ddifa fod yn rhan o'r ateb nawr, gan na allwn ni anwybyddu'r gronfa ym mywyd gwyllt ddim mwy.
Fe wnaethoch chi hepgor 'ar y cyd'—mae angen i ni wneud hyn ar y cyd. Mae hi'n ymddangos eich bod chi'n dweud mai ar Lywodraeth Cymru y mae'r bai am bopeth, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Fe ddywedais i'n benodol ei bod hi'n rhaid i ni wneud hyn mewn partneriaeth. Nid yw'r holl atebion gennyf i, na Llywodraeth Cymru, ac nid yw ffermwyr wedi gwneud hynny ychwaith, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gweithio ar y cyd.
Ni ddywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n ei gael yn y dyfodol—dywedais i fy mod i'n credu y byddwn ni'n ei gael yn 2025, ac un o'r rhesymau yr wyf i o'r farn y byddwn ni'n ei gael yn 2025—ac, unwaith eto, dweud wnes i, pe baech chi wedi bod yn gwrando—yw bod Llywodraeth Cymru wedi arwain yn wirioneddol ar yr ymchwil hwn mewn perthynas â hynny—ymhell cyn fy amser i, nid wyf i'n derbyn unrhyw glod, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Ond mae DEFRA erbyn hyn yn cymryd diddordeb brwd, ac un o'r rhesymau y mae DEFRA yn cymryd diddordeb brwd, yn fy marn i, yw am nad ydyn nhw o'r farn fod difa wedi gweithio. Felly, os—wyddoch chi, rydych chi'n dyfynnu ffigurau ar fy nghyfer i. Pam maen nhw'n rhoi'r gorau i ddifa? Os yw hynny mor llwyddiannus, pam mae Lloegr yn arafu ac yn ymatal rhag difa? Pam maen nhw'n chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud? Y rheswm yw bod TB yn parhau o hyd yn yr ardaloedd yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw.
Felly, mae'r rhaglen hon i ddileu TB wedi mynd allan i ymgynghoriad erbyn hyn, nawr yw'r amser i bobl roi eu barn arni hi. Rwyf i wedi anghofio pwy ddywedodd nad oedden nhw o'r farn ei bod yn ddigon cadarn; Llŷr, efallai. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n clywed barn pobl nawr. Ond ni ddywedais i erioed fod unrhyw beth unigol yn—. Fel dywedais i, nid wyf yn hoffi'r ymadrodd 'ateb hud a lledrith i bopeth' mewn gwirionedd, rwy'n defnyddio'r geiriau yr ydych chi Geidwadwyr yn eu defnyddio nhw, ond nid oes un yn bod. Pe byddai un i'w gael, fe fyddem ni i gyd wedi dod o hyd iddo erbyn hyn, oni fyddem ni?
Un o'r pethau yr wyf i o'r farn y bydden nhw o gymorth fyddai system brynu gwybodus orfodol. Yn sicr, fe weithiodd hyn yn Seland Newydd. Maen nhw'n dweud wrthyf i mai dyna'r un peth a weithiodd orau, mae'n debyg—felly, unwaith eto, allan i ymgynghoriad ar hynny. Rydym ni wedi rhoi arian grant ar gyfer hynny ac, yn anffodus, nid wyf i'n credu bod marchnadoedd yn cynnig y wybodaeth honno, neu efallai mai'r prynwyr sy'n peidio â'i chynnig i'r marchnadoedd er mwyn i bawb allu prynu yn wybodus fel hyn.
Ac yn olaf, James Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gen i ffrind agos sydd â'i fusnes wedi ei ddinistrio gan TB; dywedaf hynny fel buddiant.
Gweinidog, mae rhaglen dileu TB Llafur wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd, gyda nod hirdymor o ddileu TB buchol. Ac eto, yng Nghymru, nid yw pethau'n gwella, maen nhw'n gwaethygu, oherwydd na fyddwch chi'n cymryd y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem mewn bywyd gwyllt heintiedig. Nid oes gan y bywyd gwyllt hwnnw unrhyw ysglyfaethwyr naturiol yn y wlad hon. Mae TB buchol wedi dod yn ddiwydiant enfawr ynddo'i hun, gan gyflogi llawer iawn o weision sifil am gost o filiynau o bunnau i'r trethdalwr bob blwyddyn. Rydym ni bellach yn gweld gwartheg cyflo a heffrod yn cael eu lladd ar y buarth, tra bod y llo heb ei eni y tu mewn iddyn nhw yn cicio wrth dagu i farwolaeth. Nid yw'n brofiad dymunol i unrhyw un ei weld ac mae'r straen meddyliol a roddir ar ein ffermwyr yn enfawr.
Felly, Gweinidog, a wnewch chi edrych eto ar y rhan hon o'r ddeddfwriaeth er mwyn rhoi hyblygrwydd, i ganiatáu i loi, os dyna yw'r dymuniad, gael eu geni a'u profi ar ôl i'r fam roi genedigaeth? A hefyd, a wnewch chi a'r Llywodraeth hon gymryd y camau beiddgar y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â TB buchol yng Nghymru ac i arbed llawer o deuluoedd ffermio ledled ein gwlad rhag cael eu dinistrio gan iechyd meddwl a cholled emosiynol oherwydd TB buchol yng Nghymru? Rydym ni wedi bod yn sôn am frechlyn ar gyfer TB buchol ers dechrau'r 2010au. Nid yw yma eto. Os gwelwch yn dda, Gweinidog, ewch ymlaen â'r gwaith, a gadewch i ni ddarparu brechlyn a rhywbeth sydd wir yn dileu TB yng Nghymru.
Felly, unwaith eto, nid wyf i'n credu bod yr Aelod wedi bod yn gwrando oherwydd rwyf i wedi sôn droeon ein bod ni'n gweithio gyda DEFRA, gyda Llywodraeth yr Alban, i gyflwyno brechiad gwartheg. Ac, unwaith eto, soniaf fod Glyn Hewinson wedi dweud wrthyf erioed ei fod yn credu ei fod 10 mlynedd ar y blaen, ac mae'n credu mewn gwirionedd, oherwydd bod DEFRA bellach wedi rhoi pwyslais ar hyn, y byddwn yn ei gael erbyn 2025. Ond, unwaith eto, nid yr un peth fydd hwnnw; mae angen iddo fod yn gyfres o bethau. Mae'r rhaglen dileu TB wedi arwain at welliant. Soniais am y ffigurau yn fy natganiad. Nid yw'n ymddangos bod pobl eisiau derbyn ystadegau, felly ni fyddaf yn ailadrodd hynny.
O ran lladd ar y fferm, rwy'n cytuno yn llwyr â chi pa mor ofidus y gall hynny fod. Cefais i sylwadau gan y diwydiant, ac roeddwn i'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni geisio dod o hyd i ateb ar gyfer lladd ar y fferm. Ac fe wnaethom ni dreialu—ac efallai y byddwch chi'n ymwybodol o hyn—ewthanasia fferm ar gyfer gwartheg TB drwy chwistrelliad marwol. Roedd yn anodd iawn ei gyflawni yn ymarferol ar y fferm. Roedd yn rhaid i chi gydlynu presenoldeb milfeddygon a chludwyr. Dywedodd rhai ffermwyr wrthyf fod hynny hyd yn oed yn fwy gofidus iddyn nhw, a bod yn well ganddyn nhw saethu eu gwartheg. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth sy'n ddewis personol i'r ffermwr.
Gwelais hefyd fod y cynllun treialu wedi achosi oedi wrth gael gwared ar wartheg heintiedig. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod am bwysigrwydd gwneud hynny. Felly, fe wnaethom ni roi'r gorau i'r cynllun treialu ar ôl cryn ystyriaeth—rwy'n credu mai yn ystod yr haf y llynedd oedd hynny. Edrychais ar Loegr a'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud ac roedd yn ymddangos nad oedd ganddyn nhw yr un problemau â ni, ond rwy'n credu mai'r rheswm dros hynny yw eu bod wedi ymestyn yr amser rhwng ymateb a symud. Rwy'n credu bod hynny'n groes i ganllawiau rheoli clefydau, ac yn sicr dyna'r cyngor a gefais i gan y prif swyddog milfeddygol. Ond rwy'n agored iawn i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, oherwydd fy mod i'n cytuno yn llwyr â chi, yn sicr mae hwn yn un o'r pethau mwyaf gofidus i ffermwr.
Diolch i'r Gweinidog.