– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Dyma ni'n cyrraedd nawr eitem 5, sef y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ail gartrefi a fforddiadwyedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth hon record gref a balch o ran adeiladu tai fforddiadwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyn gyda'n targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu y tymor hwn. Ond, i rai pobl sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru, mae cartref fforddiadwy y tu hwnt i'w cyrraedd oherwydd cyfuniad o brisiau tai cynyddol a nifer anghymesur o ail-gartrefi ac eiddo gwyliau tymor byr.
Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o brynu neu rentu tai fforddiadwy yn y lleoedd y maen nhw wedi tyfu i fyny, fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol. Gall niferoedd uchel o ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig. Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o'n heconomi, gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru, ond nid ydym chwaith am gael pentrefi anghyfannedd mewn mannau gwyliau tymhorol—mannau lle nad oes neb gartref yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall. Mae angen i ni hefyd osgoi canlyniadau anfwriadol. Yn sicr, mae angen i ni gael cefnogaeth y cymunedau a'r bobl sy'n byw yno os ydym am ddod o hyd i ymatebion effeithiol a'u rhoi ar waith. Ac, mewn cyd-destun lle mae sylwebwyr yn cyfeirio at ddiffyg tystiolaeth gadarn am yr hyn sy'n gweithio, rhaid i ni greu ein ffordd Gymreig ein hunain, gan ddatblygu ein tystiolaeth ein hunain a'n hatebion ein hunain. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod nad oes un ateb syml yma, a bydd angen i ni gyflwyno ystod o gamau gweithredu.
Ym mis Gorffennaf, nodais ddull gweithredu tair elfen y Llywodraeth: mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd; defnyddio ein fframwaith rheoleiddio i reoli ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr yn well; a defnyddio trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad tecach.
Mae ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo newydd gau. Ymatebodd bron i 1,000 o bobl i'r ymgynghoriad, sy'n dangos cryfder y teimlad a'r amrywiaeth barn. Rydym yn gweithio drwy'r rhain a byddwn yn ymateb gyda'r camau nesaf i sicrhau bod cyfraniad ariannol teg yn cael ei wneud, sy'n adlewyrchu cyfiawnder cymdeithasol.
Yn ei adroddiad rhagorol, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru', argymhellodd Dr Simon Brooks ein bod yn treialu newidiadau i gyfraith cynllunio fel ffordd o fynd i'r afael â niferoedd gormodol o ail gartrefi mewn cymunedau lleol penodol. Dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, a hoffwn nodi fy niolch i'r cyngor am y ffordd adeiladol a chadarnhaol maen nhw wedi ymgysylltu â ni. Gan ddechrau ym mis Ionawr, byddwn yn cynnal cynllun treialu fesul cam i brofi nifer o ymyriadau yn Nwyfor, yng Ngwynedd. Dyma'r tro cyntaf y byddwn yn ymyrryd yn y farchnad i gefnogi pobl leol i fyw yn eu cymunedau lleol fel hyn. Mae Dwyfor yn un o'n cadarnleoedd Cymraeg. Mae'n ardal lle mae ail gartrefi yn amrywio o tua un o bob pump i bron hanner y stoc sydd ar gael.
Bydd cam cyntaf y cynllun treialu yn cynnwys ystod o gymorth ymarferol i helpu pobl i gael gafael ar dai fforddiadwy, a bydd yn cysylltu â'n hymyriadau presennol a newydd mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gamau rhagarweiniol, fel y gallwn ddechrau cyflawni gyda'n partneriaid cyn gynted â phosibl. Byddaf yn dweud mwy am y rhain ar ôl i'r Gweinidog cyllid gyhoeddi'r gyllideb ddrafft y mis nesaf, ond rydym yn awyddus i edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, atebion rhentu a'r hyn y gallwn ei wneud gyda chartrefi gwag.
Yng ngham dau, byddwn yn edrych ar y system gynllunio ei hun. Gwyddom fod y system gynllunio yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein hymdrechion i reoli ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod materion yn ymwneud ag ail gartrefi fel arfer yn lleol yn hytrach na ledled y wlad. Fodd bynnag, mae cyfraith cynllunio yn berthnasol ar draws Cymru gyfan. Felly, heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ar newidiadau a fyddai'n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i newid yr angen am ganiatâd cynllunio i newid o gartref cynradd i gartref eilaidd neu lety gwyliau tymor byr.
Rydym yn cynnig newidiadau i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, a fyddai, o'u gweithredu, yn creu dosbarthiadau defnydd penodol ar gyfer preswylfeydd gwyliau cynradd, eilaidd a thymor byr. Ochr yn ochr â hyn, mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion i ddiwygio'r Gorchymyn datblygu cyffredinol a ganiateir. Byddai'r rhain yn symud rhwng y dosbarthiadau datblygiad a ganiateir hyn. Byddai awdurdodau cynllunio unigol wedyn yn gallu penderfynu a oeddent yn dymuno dileu'r hawliau datblygu a ganiateir drwy'r hyn a elwir yn gyfarwyddyd erthygl 4. Pe bai'n cael ei weithredu, byddai hyn yn golygu y byddai angen caniatâd cynllunio i symud cartrefi rhwng gwahanol ddefnyddiau cartrefi cynradd, eilaidd a gwyliau tymor byr yn yr ardaloedd lle yr oedd yr awdurdodau lleol wedi penderfynu mai dyna yr oeddent yn dymuno ei wneud. Byddwn hefyd yn gofyn am newidiadau posibl i 'Bolisi Cynllunio Cymru', gan gyfeirio at unrhyw newidiadau.
Nid ydym yn rhagfarnu canlyniadau'r ymgynghoriad hwn na'r ymgynghoriadau lleol ar gyfarwyddiadau erthygl 4. Mae'n bwysig iawn clywed ac ystyried pob llais, ac mae'n rhaid i ni a'n partneriaid wneud hynny a byddwn yn gwneud hynny. Os oes cefnogaeth eang i'r newidiadau hyn, byddwn yn gallu newid deddfwriaeth a gwerthuso'r effaith. Rwy’n rhagweld y gall hynny ddechrau digwydd o'r haf nesaf. Os bydd Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn penderfynu, ar ôl ymgynghori ac ar sail eu tystiolaeth, i ddefnyddio eu pwerau yn Nwyfor, byddwn yn cynnwys effaith hyn o fewn y cynllun treialu.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chontractwr ar ddichonoldeb a ffurf cynllun trwyddedu neu gofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys llety wedi'i osod am dymor byr. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid lleol gyda'r bwriad o sefydlu cynllun gwirfoddol yn ardal y cynllun treialu, i ddefnyddio gwersi i lywio gweithrediad cynllun statudol. Er mai Dwyfor fydd canolbwynt y cynllun treialu, bydd gwerthusiad annibynnol yn cynnwys dysgu gweithredol parhaus, fel y gall meysydd eraill ymgysylltu, dylanwadu a dysgu o'r cynllun treialu. Rydym eisiau gwybod beth fydd effaith gyfunol y camau a gymerwn fel rhan o'n dull gweithredu tair elfen.
Un o'r pethau rydym ni eisoes yn ei wybod yw bod gormod o gartrefi'n eistedd yn wag ac yn segur. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth grant o £2 filiwn i Gyngor Gwynedd ar gyfer prynu cartrefi gwag ar gyfer rhent cymdeithasol. Rhaid gwario o leiaf £1 miliwn o hyn yng nghynllun treialu Dwyfor. Bydd £1 miliwn arall yr un ar gael i gynghorau Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i'r un diben. Bydd yr arian yn ein helpu i asesu'r effaith mae hyn yn ei gael mewn cymunedau sydd angen cartrefi cymdeithasol a lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol.
Heddiw, rwyf wedi nodi'r camau nesaf i fynd i'r afael â mater cymhleth ail gartrefi er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw a gweithio yn eu hardaloedd lleol. Nid oes atebion hawdd yma ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Gwynedd drwy gynllun treialu Dwyfor, ond hefyd gyda Phlaid Cymru, i ddatblygu'r mesurau hyn ymhellach, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Byddwn yn parhau i archwilio popeth y gellir ei wneud a datblygu'r dulliau polisi gorau posibl. Edrychaf ymlaen at eich cefnogaeth yn hyn o beth. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Cyn i mi ddechrau, hoffwn gyfeirio Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd at fy nghofrestr buddiannau fy hun o ran perchnogaeth eiddo.
Nawr, ddoe, clywsom i gyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cytundeb clymblaid â Phlaid Cymru. Mae llawer ohonom sydd wedi bod yma am beth amser bellach yn credu bod hwnnw'n drwm iawn o ran rhethreg ond yn ysgafn o ran manylion. Un diwrnod yn ddiweddarach, faint o syndod yw hi i ganfod bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £2 filiwn o gymorth i Gyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru ar gyfer prynu cartrefi gwag i'w rhentu'n gymdeithasol. Gweinidog, er ei bod yn dda iawn eich bod yn darparu £1 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol eraill, mae gan Gymru 22 o awdurdodau lleol, a chredaf, unwaith eto, na ddylai hyn gael ei gymell yn wleidyddol.
Mae gennyf lawer o amheuon ynghylch y datganiad a wnaed heddiw, gan ei bod yn bwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn ymyrryd yn y farchnad mewn modd sy'n cael gormod o effaith. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn cefnogi pobl i brynu tai, yn hytrach na gostwng prisiau tai yn ddiofal. Felly, nid cynyddu premiymau yw'r ateb, ac nid yw'r posibilrwydd chwaith o alluogi awdurdodau cynllunio lleol i newid yr angen am ganiatâd cynllunio i newid o gartref cynradd i gartref eilaidd neu eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr.
Yn ystod y grŵp trawsbleidiol ar dai yr wythnos diwethaf, cytunodd swyddogion Shelter Cymru a oedd yn bresennol na fydd mynd i'r afael ag ail gartrefi yn datrys y broblem o fforddiadwyedd tai. Y ffaith syml yma yw bod angen i ni fod yn adeiladu mwy o gartrefi—wel, yn hytrach, mae angen i chi fel Llywodraeth fod yn adeiladu mwy o gartrefi. Mae angen tua 7,400 o gartrefi newydd bob blwyddyn i ateb y galw yng Nghymru, ac er bod pob tymor etholiadol yn dod, neu dymor y Senedd yn dod, cawn addewidion o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd, ond nid yw'n digwydd. Yn 2019 roedd nifer y cofrestriadau ar gyfer cartrefi newydd wedi gostwng 12 y cant. Mae hyn yn hynod siomedig o gofio bod 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae rhai o'r rheini, nifer fawr, yn etholaeth Aberconwy.
Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau pa gynnydd arall sydd wedi'i wneud i droi tir gwag yn y sector cyhoeddus yn safleoedd sy'n barod i'w datblygu? Wyddoch chi yn y grwpiau yr ydym wedi'u cael yn drawsbleidiol, rydych chi’n gwbl ymwybodol fy mod wedi tynnu sylw at hyn, bod gan ein cyrff cyhoeddus lawer o dir ar gael, ac, mewn gwirionedd, adeiladau ar gael a fyddai'n sicrhau cartrefi diogel a chyfforddus i'r rhai sy'n dymuno mynd ar yr ysgol dai. Nid wyf wedi gweld dim byd tebyg i hynny'n cael ei gyflwyno, ond rwyf wedi clywed y rhethreg gan Blaid Cymru droeon am sut mae ail gartrefi ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau mor ddrwg i ni fel fy mod yn teimlo eich bod yn mynd i lawr y ffordd honno ychydig yn rhy gyflym.
Yr wythnos diwethaf yn unig, tynnwyd fy sylw at y ffaith na ellir symud ymlaen gyda chynifer â 10,000 o gartrefi—1,000 o'r rhain yn fforddiadwy—nawr oherwydd canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar ffosfforws. Gofynnais am ddatganiad, yn y datganiad busnes yn gynharach, gennych chi a James Evans, fe wnaeth fy nghyd-Aelod hefyd, oherwydd fe wnaethom gyfarfod arweinwyr, fe wnaethom gyfarfod aelodau'r cabinet, ac fe wnaethom gyfarfod swyddogion cynllunio llawer o gynghorau ledled Cymru yr wythnos diwethaf, ac roedden nhw i gyd yn dweud yr un peth: rydych chi’n gofyn am adeiladu mwy o dai, ond rydych chi'n eu hatal gyda'r rheoliadau cynllunio hyn ar ffosfforws. Felly, mae angen i chi gael gwared ar y rhwystr hwn naill ai drwy ofyn i CNC atal ei ganllawiau neu drwy weithredu eithriadau a galluogi tynnu ffosffad yn ein systemau draenio.
Mae angen mynd i'r afael â fforddiadwyedd drwy ddileu'r cap ar ddyhead drwy dorri'r dreth trafodiadau tir. Felly, er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad gan y Gweinidog cyllid y bydd deddfwriaeth newydd yn caniatáu i drethdalwyr hawlio ad-daliad o gyfraddau uwch LTT lle maen nhw’n disodli eu prif breswylfa, er mwyn gwneud Cymru yn gartref iddynt a chyfrannu'n economaidd at ein cymunedau, a fyddwch chi’n gallu cadarnhau'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath?
Ac mae angen i ni wynebu mater eiddo gwag, ac, fel y dywedais, mae rhai o'ch mentrau'n dda, ond rhaid gwneud hyn ar gymesuredd llawer mwy teg a chytbwys. Roedd 25,725 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru, a phedair blynedd yn ddiweddarach—yn frawychus—dim ond o 24 mae'r ffigur hwn wedi gostwng. Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol wedi cynnig dileu'r premiwm treth trafodiadau tir ail gartref a gwahanu eiddo prynu-i-osod oddi wrth ail gartrefi—oherwydd, unwaith eto, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym heddiw, Gweinidog, yr hyn a ystyriwch yn ail gartref—fel maen nhw wedi’u diffinio yn y drafodaeth bresennol, gan annog landlordiaid i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag.
Fel y dywedodd cynrychiolydd yn ystod fy nghyfarfod bord gron diweddar, a gynhaliwyd ar y cyd â Propertymark, 'Pam nad ydym yn cymell adnewyddu gofod gwag uwchben siopau gwag?' Rwyf wedi clywed hynny ers 11 mlynedd: 'Rydym yn mynd i ddod â'r holl fannau swyddfa gwag hynny yn ôl uwchben siopau yn ein strydoedd mawr.' Nid wyf yn gwybod am lawer o achosion lle mae hynny wedi digwydd. O ran siopau gwag a chymryd y siopau hynny'n ôl, mewn rhai achosion, os byddwch yn chwalu adeiladau, byddwch yn cael eich treth ar werth yn ôl; os ydych chi'n adnewyddu, nid ydych chi’n ei gael. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa benodol hon fel modd i helpu i annog adnewyddu eiddo canolog fforddiadwy ac adfywio ein stryd fawr?
I gloi, edrychaf ymlaen at eich ymatebion i'r cwestiynau pwysicaf hyn a gobeithiaf y byddant yn peri i chi oedi i feddwl am gyfeiriad teithio eich polisi. Rydym eisiau gweithio gyda chi, Gweinidog. Credwn fod problem, nid oes digon o gartrefi yng Nghymru, ond rhaid cael ymateb llawer mwy cytbwys a chymesur, ac ni ddylai hyn fod yn rhan o unrhyw gytundeb clymblaid â phlaid wleidyddol arall.
Credaf i mi ganfod pedwar cwestiwn yn yr araith eithaf hir yna, felly byddaf—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod pedwar, rwy'n credu fy mod yn iawn yn dweud, sy'n dipyn o beth o ystyried hyd yr araith. Ond, dyna ni.
Roedd yr un cyntaf yn ymwneud â thir ar gyfer adeiladu tai. Bydd Janet Finch-Saunders, oherwydd ei bod yn rhan o'r gweithgor trawsbleidiol, yn gwybod yn iawn ein bod wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru ar eu cynlluniau datblygu lleol i nodi tir tai a nodir yn y CDLl i ddeall pam nad yw'n cael ei gyflwyno ar gyfer tai ac i sicrhau ein bod wedi dileu'r holl rwystrau ar gyfer hynny. Byddai'n gwneud yn dda i drafod gyda Propertymark ac eraill ynghylch faint o fancio tir sydd yn y sector preifat ledled Cymru a pham mae rhyddhau tai mor araf, ac a yw hynny'n cael unrhyw effaith ar brisiau presennol tai, oherwydd credaf y byddai rhai o'r atebion yn ei synnu'n fawr.
Mae'r syniad mai'r ateb i adeiladu tai yw dileu rheolaethau llygredd ar orlifdiroedd yn eithaf rhyfeddol. Ni allaf ddeall o gwbl sut y gall y Ceidwadwyr, ar y naill law, ddweud eu bod yn cytuno bod argyfwng hinsawdd, ac ar y llaw arall, dweud y dylem adeiladu ar orlifdiroedd gyda phroblemau ffosffad. Felly, nid wyf yn mynd i anrhydeddu hynny gydag ateb hyd yn oed, oherwydd mae'n gwbl amlwg beth yw'r ateb. Wrth gwrs na allwn adeiladu ar orlifdiroedd lle mae perygl o lifogydd neu lygredd. Felly, rhaid i ni ddod o hyd i dir arall neu mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o allu amddiffyn rhag llifogydd i sicrhau bod y tir hwnnw ar gael. A does gen i ddim problem o gwbl gyda chanllawiau CNC ar y pwnc.
Mae'r ffigurau cartrefi gwag yn ddiddorol. Maen nhw’n cynnwys tai sydd, wrth gwrs, ar werth. Mae'n gwybod hynny hefyd o'r grŵp trawsbleidiol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym ffigurau priodol ynghylch cartrefi gwag, ac mae gennym nifer o fentrau yn hynny o beth, fel y bydd hefyd yn gwybod. Felly, ers amser maith bellach, rydym wedi bod yn cynnig cymorth grant i bobl ddod â'r cartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, naill ai at eu defnydd eu hunain, os ydyn nhw'n byw ynddyn nhw am bum mlynedd, neu i'w rhoi i ni fel cartrefi rhent cymdeithasol, pan fo hynny'n addas.
O ran TAW, unwaith eto, nid yw'n ymddangos bod Janet Finch-Saunders yn deall ei bod yn aelod o Blaid Geidwadol nad yw wedi dileu TAW ar ailwampio cartrefi, nac adnewyddu neu ailddefnyddio. Efallai yr hoffai fynd i'r afael â hynny gyda’i Llywodraeth ei hun, sydd wedi gwrthod gwneud hynny'n llwyr er gwaethaf eu datganiad eu hunain o argyfwng hinsawdd.
A'r peth olaf y byddwn yn ei ddweud yw, os yw'n credu'n onest nad oes problem gydag ail gartrefi, yna awgrymaf ei bod yn mynd allan mwy, oherwydd yn y rhan fwyaf o Gymru mae problem yn sicr.
Ar gyfer y record, mae gen i dŷ lle mae gen i denant hirdymor yn byw ynddo hefyd, lawr yn Aberystwyth.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Mae yna genedlaethau o bobl wedi bod yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael llywodraethau i weithredu ar yr argyfwng yma, argyfwng sydd wedi bod yn wynebu rhai o'n cymunedau ers degawdau. Nôl ar ddechrau'r 1980au, fe wnaeth fy rhagflaenydd yn Nwyfor, Dafydd Wigley, gyflwyno syniadau i fynd i'r afael â'r cwestiwn ail dau yn San Steffan, ond fe'i wfftiwyd bryd hynny. Mae'n rhaid hefyd cydnabod rôl Cyngor Gwynedd—a Phlaid Cymru yn arwain y cyngor, wrth gwrs—a nhwythau eisoes wedi gwneud llawer o'r gwaith o amgylch hyn, a diolch iddynt am eu harweiniad yn y mater.
Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld camau diriaethol yma heddiw er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiwn yma o ail gartrefi a fforddiadwyedd tai yn rhai o gymunedau Cymru i'w groesawu. Mae yna dristwch ei fod wedi cymryd cyhyd, wrth reswm, efo nifer o gymunedau wedi gweld diboblogi aruthrol dros y degawdau oherwydd methiant llywodraeth ar ôl llywodraeth i gymryd y mater o ddifrif a gweithredu. Ond gwell hwyr na hwyrach, ac mae'r ystod yma o bolisïau yn cynnig gobaith. Mae'n bwysig hefyd bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn gytbwys ac yn deg, gyda phroses ac amserlen gywir yn cael eu dilyn yn llawn. Ni allwn ragfarnu'r canlyniad, ac mae'n rhaid i bob llais gael ei glywed. Ni allwn ychwaith risgio niweidio unrhyw gyfleoedd sydd gennym ni i weithredu ar unrhyw ddatrysiadau. Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth rydyn ni wedi clywed amdano yn barod ar y meysydd penodol yma yn dangos fod posib gweithredu gwleidyddiaeth wahanol yma yng Nghymru. Dyma ddangos gwerth datganoli a bod posib cael datrysiadau yng Nghymru i broblemau sydd yn ein hwynebu ni yma yng Nghymru.
Mae'n rhaid hefyd cydnabod bod yr argyfwng tai ehangach yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Mae fforddiadwyedd tai a chostau rhentu yn golygu bod nifer yn methu â fforddio talu am do uwch eu pennau, a dwi'n edrych ymlaen at weithio a chydweithio efo'r Llywodraeth ar ddatrysiad i'r problemau yma hefyd wrth inni gydweithio ar y Papur Gwyn. Wrth gwrs, mae'r sialens felly yn un anferthol, ond gyda'r awydd gwleidyddol, y weledigaeth, polisïau cryf ac adnoddau ariannol digonol i wireddu'r amcanion, mae yna obaith eto am ddyfodol gwell i gymunedau Cymru.
Felly, i gloi, dwi am ofyn ychydig o gwestiynau i'r Gweinidog, os caf i. Pa sicrwydd, Weinidog, a pha atebion y gallwn ni eu cynnig i gymunedau eraill, y rhai y tu allan i'r cynlluniau peilot yma, nad ydyn nhw am gael eu gadael ar ôl? Bydd yna lawer yn pryderu am hyd y peilotiaid yma a'r symiau cymharol fach o bres sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd. Pa mor sydyn allwn ni ddisgwyl i'r ardaloedd eraill yma gael eu cynnwys yn ymateb y Llywodraeth unwaith bod y peilot wedi cael ei weithredu ac unwaith rŷn ni'n dysgu gwersi o'r cynllun, fel bod pob ardal yn gallu gweld budd mor fuan â phosib? Ac a oes yna ymrwymiad i gynyddu'r cyfraniad ariannol ar sail peilot llwyddiannus?
Ac yn olaf, er bod y Papur Gwyn ar y ffordd, ynghyd â sôn am rhentu, fforddiadwyedd a phrisiau tai—ac mae hynny'n sicr i'w groesawu—hoffwn i ofyn pa gamau brys fydd yn cael eu gweithredu er mwyn ymateb i'r twf anghynaliadwy yn y bwlch rhwng prisiau tai, prisiau rhentu a chyflogau, sy'n atal nifer rhag fforddio cadw to uwch eu pennau. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Diolch, Mabon. O ran a allwn gyflwyno'r cynllun treialu, mae'n rhaid i ni gyrraedd y cynllun treialu yn gyntaf. Un o'r pethau y byddwn yn ei wneud yw rhoi contract gwerthuso ar waith fel y gallwn gael y data o'r cynllun treialu hwnnw cyn gynted ag sy'n bosibl fel y gallwn werthuso'r hyn yr ydym yn ei weld o'r cynllun treialu, yr effaith mae'n ei chael, a'r hyn y bydd angen i ni ei wneud i'w addasu, os oes unrhyw beth. Yn amlwg, mae'r data hwnnw'n hanfodol i gymunedau eraill sy'n edrych i weld a ydyn nhw eisiau cymryd rhan mewn cynlluniau treialu tebyg, felly byddwn yn rhagweld y byddem yn gweld y data'n dod i mewn yn eithaf cyflym—data prisiau tai, data meddiannaeth ac ati—a byddwn yn gallu defnyddio'r data hwnnw i gynorthwyo meysydd eraill i wneud hynny.
Gan dybio bod yr ymgynghoriad cynllunio yn caniatáu i'r Gorchymyn dosbarth defnydd gael ei newid a bod unrhyw erthygl ddilynol ar gyfer ymgynghori a wneir gan awdurdod lleol yn nodi yr hoffent wneud hyn, nid oes dim i'w hatal rhag gwneud hynny. Yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yn ardal y cynllun treialu yw cynorthwyo'r cyngor i symud ychydig yn gyflymach gyda hynny gyda rhywfaint o adnoddau ychwanegol fel y gallwn gael y wybodaeth o'r cynllun treialu. Felly, nid ydym yn gosod unrhyw rwystrau yn y ffordd mae cynghorau'n ei wneud; rydym yn cynorthwyo Gwynedd, sydd wedi bod yn hynod o gymwynasgar a chydweithredol yn hyn o beth, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw dros fisoedd lawer bellach wrth ddod i'r pwynt hwn, i fynd ychydig yn gyflymach fel y gallwn gael y data i mewn. Felly, y neges yno yw ei bod yn bosibl mewn mannau eraill, ond rydym yn mynd i gynorthwyo mewn maes penodol o angen.
O ran yr holl ddarpariaethau eraill, rydym, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â'n gwaith i adeiladu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol di-garbon neu garbon isel. Rydym yn sgwrsio â chynghorau yn yr ardaloedd sydd â lefelau uchel o ail gartrefi i nodi tir er mwyn gwneud hynny ac i sicrhau bod ein Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'n cynghorau sy'n berchen ar stoc yn camu i fyny at hynny. Rwy'n falch iawn bod hynny'n mynd yn dda iawn, er gwaethaf y ffaith bod gennym gynnydd mawr mewn costau cadwyn gyflenwi fyd-eang. Felly, rydym wedi gallu helpu gyda hynny i'n hadeiladwyr BBaChau ledled Cymru i sicrhau eu bod yn aros mewn busnes, ac i gynorthwyo gydag arian ychwanegol i'r grant tai cymdeithasol i helpu gyda'r materion chwyddiant prisiau cyflenwi, sy'n effeithio, fel y gŵyr pob Aelod o'r Senedd, rwy'n siŵr, ar yr holl waith adeiladu, ar draws y Siambr.
Roedd y darn olaf yn ymwneud â'r hyn yr ydym ni’n ei wneud i sicrhau bod y farchnad llety rhent yn gwella mewn ardaloedd o dwristiaeth uchel ac ail gartrefi. Un o'r pethau yr ydym eisiau ei weld yn y cynllun treialu yw a fydd cofrestru eiddo a osodir ar gyfer gwyliau ar yr un sail neu'n debyg i drefniadau Rhentu Doeth Cymru yn cael effaith ar p'un a yw pobl yn dewis aros yn y sector rhentu hirdymor neu a ydynt yn dal i fod eisiau symud i eiddo a osodir ar gyfer gwyliau. Felly, un o bwyntiau'r cynllun treialu yw treialu a allwn gael dylanwad ar p'un a yw pobl yn gwneud y penderfyniad hwnnw ai peidio, er mwyn cynyddu'r cyflenwad o lety rhent hirdymor mewn niferoedd mawr yn rhannau arbennig o brydferth Cymru.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog. Pe bai gennym ormod o dai, yna ni fyddai perchnogaeth ail gartrefi yn broblem, ond yn anffodus, mae gennym brinder llety ledled Cymru ac mewn rhai rhannau o Gymru, prinder enfawr. Rwyf yn ei chael hi'n foesol anghywir bod gan rai pobl ddau neu fwy o dai ac eraill naill ai'n ddigartref, yn byw mewn tai o ansawdd gwael iawn neu'n byw mewn llety sy'n gwbl annigonol ar gyfer y niferoedd sy'n byw ynddo.
A yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i'r gwaith o adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr fod yn rhan o unrhyw ateb tai? Gwyddom mai'r unig adeg y cawsom gydbwysedd rhwng adeiladu tai a'r galw oedd yn ystod yr amser yr adeiladwyd tai cyngor ar raddfa fawr yn y 1950au a'r 1960au.
Mae eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr yn broblem gynyddol, hyd yn oed yn Nwyrain Abertawe. Gofynnaf eto i eiddo ar gyfer rhent tymor byr gael ei reoli drwy'r system gynllunio; mae'n digwydd ac mae'n achosi problemau enfawr i'r cymdogion. Rwy'n cytuno bod profi rhywbeth mewn un ardal yn syniad gwych, a gobeithiaf y bydd Gweinidogion eraill yn dysgu o hynny fel y gallwn brofi pethau cyn i ni eu gweithredu ledled Cymru gyfan.
Yn olaf, a gaf i ofyn eto i dai gael eu heithrio o ryddhad ardrethi busnesau bach? Dyna un o'r pethau sy'n ystumio'r farchnad, ac yn caniatáu i bobl wneud llawer o arian drwy beidio â thalu unrhyw dreth gyngor a pheidio â thalu unrhyw ardrethi busnes bach. Credaf fod angen i ni sicrhau bod tai ar gyfer pobl, nid er elw.
Diolch, Mike. Cytunaf yn llwyr â chi ynghylch yr adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr. Dyna pam mae gennym yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor y Senedd hon. Dim ond yn ddiweddar, wrth gwrs, y mae cynghorau wedi cael eu tynnu oddi ar gap y Ceidwadwyr ar y cyfrifon refeniw tai, ac maen nhw wedi gwneud pethau rhyfeddol ers hynny wrth gynyddu'r rhaglen adeiladu tai, gan orfod ailgyfansoddi llawer o'u sylfaen sgiliau a thalent yr oedden nhw wedi'u colli yn y 40 mlynedd ers i Thatcher gymryd yr hawl oddi wrthyn nhw. Rwy'n falch iawn o'r llwyddiant y maen nhw wedi'i gael wrth wneud hynny, ac rydym yn sicr yn gweithio gyda'r 11 cyngor sy'n dal stoc i gynyddu hynny ledled Cymru ar y cyd â phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd.
O ran y rhenti tymor byr, un o'r pethau yr ydym yn benderfynol iawn o'i wneud yw gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn newid y berthynas rhwng landlordiaid a thenantiaid a bydd yn helpu'n fawr yn yr adran rhentu tymor byr. Bydd yn rhoi sicrwydd i landlordiaid o incwm ac offer gwell i sicrhau bod eu tenantiaid da yn aros yn eu lle. A bydd yn rhoi gwell dulliau i denantiaid eu defnyddio yn erbyn y landlordiaid twyllodrus nad oes gennym lawer iawn ohonyn nhw yng Nghymru, ond pan fyddwn yn dod ar eu traws, mae angen inni ymdrin â'r sefyllfa. Rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu gwneud hynny, ac rydym ar y trywydd iawn i weithredu hynny wrth i ni fwrw ymlaen.
Wrth gwrs, mae'r pwynt eithrio ardrethi busnes yn rhan o'r ymgynghoriad sydd bellach wedi'i gwblhau. Rydym yn dadansoddi'r 1,000 o ymatebion a gawsom o hwnnw, a byddwn yn gallu dod yn ôl i'r Senedd gyda chanlyniad hwnnw cyn gynted ag y byddwn wedi gallu dadansoddi'r ymatebion hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, un o'r pethau sydd wedi fy nharo fwyaf yw'r diffyg tystiolaeth ddibynadwy a mesuradwy ynghylch yr hyn sy'n digwydd mewn cymunedau y mae'n ymddangos bod perchnogaeth ail gartrefi yn effeithio arnyn nhw, er gwaethaf y ffaith bod y Llywodraeth hon yn bwriadu newid polisi cynllunio yn y wlad hon i ymdrin ag ef. Rwy'n cydnabod, mewn rhai mannau, fod problem ddifrifol gyda thai, ond heb ymchwiliad priodol, dim ond damcaniaethu bydd ynghylch achosion y broblem dai. Ychydig iawn o gyfeiriadau sydd gan eich dogfen ymchwil eich hun, 'Gwaith ymchwil ar ail gartrefi: crynodeb o'r adolygiad o'r dystiolaeth', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni, y mae'n siŵr sydd wedi helpu i lywio eich datganiad, at unrhyw dystiolaeth a gasglwyd yng Nghymru o gwbl, gyda'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd yn dod o safbwynt Ewropeaidd ehangach, hyd yn oed cyn belled â Thwrci. At hynny, mae'r adroddiad yn nodi
'nid yw’r llenyddiaeth yn ein galluogi i ddarlunio nac i feintioli effaith ail gartrefi yng Nghymru yn fanwl gywir er mwyn deall ehangder yr effeithiau yn llawn. Felly mae gwerthuso a mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar farchnadoedd tai a chymunedau yn parhau i fod yn fater o ddefnyddio crebwyll.'
A wnaiff y Gweinidog felly egluro a oes gan y Llywodraeth hon gynlluniau i gasglu unrhyw ddata perthnasol am effaith wirioneddol ail gartrefi yng Nghymru er mwyn llywio eu polisi yn hytrach na chasglu tystiolaeth sy'n asesu effaith y cynigion ail gartrefi yr ydych newydd eu cyhoeddi? Diolch.
Yr ateb byr iawn i hynny yw 'oes'. Rydym yn casglu ystod o dystiolaeth yn barod, ac wrth gwrs byddwn yn gwerthuso'r cynllun treialu. Deallaf yr adroddiad tystiolaeth y mae'n ei ddyfynnu, ond credaf fod tystiolaeth ein llygaid ein hunain yno i bawb ei gweld. Mae'r ffyniant prisiau tai yr ydym yn ei brofi ar hyn o bryd ledled y DU a'r farchnad danbaid iawn yng Nghymru yn prisio pobl allan o'r farchnad wrth i ni siarad. Does ond rhaid i chi edrych ar y papurau newydd lleol i weld y cynnydd ym mhrisiau tai a pha mor gyflym y mae'r tai'n cael eu gwerthu, weithiau i bobl nad ydyn nhw hyd yn oed wedi'u gweld. Nid cael eu gwerthu i bobl sydd eisiau byw yn y tai hynny a gawn yma, ond gwerthu fel buddsoddiad. Un o'r problemau gyda marchnad dai'r DU yw nad cartref yn unig ydyw, mae'n fuddsoddiad, ac mae hynny'n drysu'r ffigurau yr ydym yn edrych arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, mae'r ffigurau eiddo gwag y soniodd Janet Finch-Saunders amdanyn nhw, er enghraifft, yn cynnwys tai ar werth. Felly, mae'n anodd iawn gwneud hynny, ond yr ydym yn benderfynol iawn o wella'r data, ac wrth gwrs rwyf newydd ateb mewn ymateb i Mabon y byddwn yn gwerthuso'r cynllun treialu yn ofalus iawn, gyda chontract wedi'i roi ar waith i wneud hynny.
John Griffiths, Cadeirydd y pwyllgor tai.
Diolch yn fawr, Llywydd, a byddaf, byddaf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai heddiw. Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Bydd ein pwyllgor yn edrych ar dai yn gyffredinol yn ystod tymor y Senedd—argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da sy'n ateb yr heriau newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae ein ffrwd waith gyntaf ar ail gartrefi—yn is-set, mewn gwirionedd, o'r darlun cyffredinol hwnnw—ac fe wnaethom lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar fel rhan o'r ymchwiliad hwn, a fydd ar agor tan ganol mis Ionawr. Gobeithiwn dderbyn ystod eang o ymatebion er mwyn casglu tystiolaeth, a gobeithiwn y daw hynny o sbectrwm o safbwyntiau gwahanol fel ein bod yn clywed pob safbwynt ar y materion pwysig iawn hyn.
Credaf fod datganiad y Gweinidog heddiw yn amserol iawn wrth i ni ddechrau ein hymchwiliad. Un o brif elfennau ein gwaith fydd archwilio argymhellion Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, a byddwn hefyd yn edrych, wrth gwrs, ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hynny. Rhan o'r ymateb llywodraethol hwnnw oedd bwrw ymlaen â'r cynlluniau treialu ac, yn amlwg, eu gwerthuso maes o law. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am yr ymarfer hwnnw a beth oedd y meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu ar ardal y cynllun treialu. Yn amlwg, mae maint y problemau yn y rhan benodol honno o Gymru yn bwysig iawn, ond tybed a allech ychwanegu at hynny gydag unrhyw feini prawf eraill a ddefnyddiwyd. A hefyd, a allech ddweud unrhyw beth am faint o ddiddordeb cymunedol sydd mewn dod yn ardaloedd cynllun treialu. Byddai'n dda gwybod beth oedd maint y diddordeb hwnnw.
Mae'n amserol iawn, wrth gwrs, y mater hwn, ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn ystod y misoedd diwethaf ac, yn wir, dros gyfnod eithaf hir. A chredaf nawr yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig a'i effaith bosibl o ran cynyddu gallu pobl i weithio gartref, a gwerthfawrogiad o'r amgylchedd ac awydd i fyw mewn ardaloedd arfordirol a gwledig deniadol, tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno bod hynny'n ddimensiwn ychwanegol ar hyn o bryd y mae angen ei ystyried yn y materion hyn.
Nid ydym wedi cael digon o dystiolaeth eto i ddod i unrhyw gasgliadau, ond gwyddom fod hwn yn fater cymhleth iawn. Fel y dywedodd Joel, rydym wedi clywed bod angen mwy o ymchwil a data er mwyn deall maint y broblem yn llawn, a byddwn yn parhau i archwilio hynny drwy ein gwaith. Rydym hefyd yn awyddus i ddeall yn well lle mae'r cydbwysedd rhwng manteision economaidd ail gartrefi ac ar ba bwynt y byddwch yn cyrraedd yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio’n aml fel pwynt tyngedfennol, lle mae niwed cymdeithasol yn drech na manteision economaidd posibl.
Felly, byddwn yn parhau â'n hymchwiliad i'r flwyddyn newydd pan fyddwn yn gwahodd rhanddeiliaid gydag amrywiaeth o safbwyntiau i gyflwyno eu tystiolaeth, a byddwn hefyd yn eich gwahodd chi, Gweinidog, i roi tystiolaeth ffurfiol i'r ymchwiliad cyn i ni ystyried ein casgliadau a chyhoeddi adroddiad. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, John Griffiths. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r pwyllgor ar hyn, felly byddaf wrth fy modd yn dod i roi tystiolaeth i'r pwyllgor ar eu hymchwiliad. Mae hwn yn fater mawr ledled Cymru, mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae gan rai ardaloedd fan poblogaidd iawn ar ei gyfer. Dewiswyd y cynllun treialu am ein bod wedi bod yn sgwrsio gyda Chyngor Gwynedd ers cryn amser cyn taro ar gynllun treialu, am y problemau yng Ngwynedd. Mae gan Wynedd un o'r lefelau uchaf o ail gartrefi, hynny yw pobl nad ydyn nhw yn eu defnyddio ar gyfer eu prif breswylfa, yng Nghymru, ac mae'n bryder y mae'r cyngor wedi mynegi i mi yn fy swyddogaeth flaenorol fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl achlysur. Felly, roeddem yn gallu gweithio'n dda gyda Chyngor Gwynedd, a oedd yn gallu gweithio gyda'u cymuned i sicrhau bod y gymuned yn dymuno cael y cynllun treialu. Felly, dyna sut y daeth y cynllun treialu i fodolaeth. Roeddem hefyd yn awyddus iawn i'w dreialu mewn ardal gyda lefel uchel o ail dai ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau, ac mewn ardal Gymraeg ei hiaith, am resymau amlwg, oherwydd mae rhai o'r pryderon yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd i'r Gymraeg os oes gennych chi nifer fawr o bobl nad ydyn nhw yn byw drwy'r amser yn y gymuned.
Hoffwn wneud y pwynt, serch hynny, eich bod wedi taro'n llwyr ar y ffaith, yn ystod y pandemig, daeth pobl yn ymwybodol y gallen nhw weithio o unrhyw le cyn belled â bod ganddyn nhw gysylltiad band eang digon da, ac maen nhw’n symud allan o'r dinasoedd. Fy safbwynt personol i yw bod Cymru'n genedl groesawgar. Os ydych chi eisiau dod i wneud eich cartref yng Nghymru ac integreiddio â'r gymuned leol a rhoi eich plant yn yr ysgol leol, mae croeso mawr i chi. Mae hynny'n beth hollol wahanol i ddweud mai'r hyn yr ydych chi eisiau ei wneud yw cael tŷ hyfryd ar lwybr arfordirol yn rhywle, sy'n edrych dros fôr hardd, y byddwch chi’n dod iddo dri phenwythnos y flwyddyn. Mae hynny'n beth arall yn gyfan gwbl. Mae ehangu ein cymunedau oherwydd bod pobl eisiau dod i fyw a gweithio a bod ynddyn nhw yn un peth. Mae eu gwagio, neu eu cafnu nhw, oherwydd bod gennym nifer fawr o dai sy'n wag i raddau helaeth, yn beth arall.
Gwyddom ein bod eisiau cymunedau cynaliadwy. Mae cymunedau cynaliadwy yn gymunedau sy'n gallu cynnal pethau fel siopau a thafarndai a chyfleusterau cymunedol. Os nad oes digon o bobl yn y gymuned i wneud hynny, yna mae gan y gymuned gyfan y pwynt tyngedfennol hwnnw y gwnaethoch chi sôn amdano. Felly, mae'r cynllun treialu yno i weld a fydd yr ymyriadau yr ydym yn eu hawgrymu yn gwneud gwahaniaeth i hynny, p'un a yw pobl Dwyfor yn hapus â'r ymyriadau neu a oes ganddyn nhw bethau eraill i'w hawgrymu, a bydd y data sy'n dod yn ôl ohono yn amhrisiadwy. Mae'n gontract dysgu gweithredol yr ydym yn ei osod ar gyfer y data o'r cynllun treialu. Felly, byddaf yn falch iawn o allu rhannu hynny gydag Aelodau'r Senedd a gyda'r pwyllgor, John, wrth i'r data ddechrau dod i mewn, fel bod gennym set ddeinamig o ddata y gallwn ei rannu.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn hefyd groesawu'r sylwadau a wnaethoch nawr i Gadeirydd y pwyllgor a diolch i chi am eich cyfathrebu parhaus, fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, hefyd. Yn unol â'ch datganiad, Gweinidog, cytunaf â chi fod angen i ni ddeall y materion yn llawn, yn unol â sylwadau Joel James hefyd, gan gasglu'r dystiolaeth fel y gallwn gael darlun llawn o rai o'r heriau, ond hefyd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud eiliad yn ôl yn un o'ch ymatebion, gan gofio'r her acíwt, efallai, y gall hyn fod mewn rhai cymunedau, sy'n wahanol iawn o un gymuned i'r llall, hyd yn oed ychydig filltiroedd ar wahân i'w gilydd. Rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, ac rwy'n dyfynnu, yr
'angen i osgoi canlyniadau anfwriadol' yn sgil unrhyw fesurau y gellir eu rhoi ar waith ar y mater hwn. Fel y gwyddoch, pryder enfawr sydd gennyf gyda'r drafodaeth ail gartrefi ar adegau yw naws y ddadl a'r effaith niweidiol bosibl y gallai ei chael ar ein sector twristiaeth yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae'n sector hanfodol bwysig yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, lle mae'n cefnogi degau o filoedd o swyddi ac yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi. Felly, Gweinidog, pa waith y byddwch chi'n ei wneud, gyda Gweinidog yr Economi, i sicrhau bod Cymru'n parhau i gael ei gweld fel gwlad agored a chroesawgar? Ie, i'r 11 miliwn o ymwelwyr domestig dros nos hynny, i'r 87 miliwn o ymwelwyr dydd, ac i'r 1 miliwn o ymwelwyr rhyngwladol yr ydym yn eu croesawu o flwyddyn i flwyddyn, sy'n dod i Gymru, yn gwario eu harian, yn cefnogi ein swyddi i bobl leol, ac yn gweld yr atyniadau eithriadol sydd gan ein gwlad i'w cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Ie, yn union, Sam Rowlands. Cytunaf yn llwyr â hynny. Mae Cymru yn wir yn wlad groesawgar, ac yn un sy'n falch iawn o'i chynnig twristiaeth a'r croeso cynnes. Felly, yn union. Nid yw hyn yn ymwneud â pheidio croesawu pobl sy'n dod ar eu gwyliau i wario eu harian gyda ni a threulio eu hamser gyda ni a rhannu eu bywyd a'u profiadau gyda ni—wrth gwrs nad yw —ond mae'r twristiaid hynny eisiau dod i gymunedau bywiog. Dydyn nhw ddim eisiau dod i drefi gwag lle nad oes siopau a dim tafarn, dim byd, oherwydd na allant gynnal eu hunain drwy fisoedd y gaeaf pan nad oes neb yno. Mae pobl eisiau mynd i gymuned fywiog. Pan fyddaf yn mynd fel ymwelydd i wahanol rannau o Gymru, rwyf eisiau gweld cymuned fywiog yno. Dydw i ddim eisiau gweld cragen wag heb ddim ond eiddo a osodir ar gyfer gwyliau. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r lefel gywir a'r cynaliadwyedd. A dweud y gwir, credaf ei bod yn hanfodol i'r cynnig i dwristiaid. Nid ydych chi eisiau mynd i'r hyn sydd i bob pwrpas yn barc gwyliau; rydych chi eisiau mynd i dref neu bentref bywiog neu le bynnag yr ydych chi'n mynd, ac rydych chi eisiau gweld y ffordd mae'r bobl leol yn byw eu bywydau, oherwydd mae hynny'n rhan o brofiad y cynnig i dwristiaid.
Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â'r cydbwysedd. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gallu tyfu i fyny, byw, a disgwyl parhau i fyw yn y gymuned y maen nhw wedi tyfu i fyny ynddi a theimlo'n rhan ohoni, ac yna croesawu'r ymwelwyr yn eu niferoedd, oherwydd wrth gwrs bydd hynny'n rhan fawr o'u cynnig economaidd. Felly, mae'n ymwneud â'r cydbwysedd, ac fel y dywedais, rwyf hefyd yn gwahaniaethu rhwng pobl sy'n symud i Gymru ac yn gwneud eu cartref yma, sydd i'w groesawu'n fawr, a phobl sy'n ei ddefnyddio'n achlysurol iawn am un neu ddau benwythnos, sydd mewn gwirionedd yn cael effaith wael iawn ar yr economi, oherwydd byddai'r tŷ hwnnw fel arall yn cefnogi teulu neu gynnig i dwristiaid a fyddai'n cael ei ddefnyddio drwy'r amser ac a fyddai felly'n dod â budd economaidd i'r ardal.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, a chroesawaf y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r diffyg tai fforddiadwy ledled y DU yn broblem y mae cenedlaethau iau yn ei theimlo'n ddifrifol. Nid yw llawer yn gallu cael morgais ac maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u dal o fewn y sector rhentu preifat, gan dalu morgais y landlord yn hytrach na chael talu eu morgeisi ei hunain. Yn aml, gall tenantiaid fod yn talu llawer mwy mewn taliadau rhent nag y bydden nhw mewn ad-daliadau morgais ac eto dywedir wrthyn nhw na allan nhw fforddio morgais.
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i annog banciau a chymdeithasau adeiladu, yn enwedig banciau cymunedol fel Banc Cambria, i ystyried taliadau rhent hanesyddol tenantiaid wrth gynnig morgeisi? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheolaethau rhent i helpu'r rhai sy'n cael trafferth yn y sector rhentu preifat presennol? Diolch.
Ie. Diolch, Carolyn, maen nhw yn ddau bwynt da iawn. Rydym ni wedi bod yn siarad â rhai benthycwyr ynghylch pa un a allem ni ddyfeisio cynllun a fyddai'n caniatáu i gofnod rhent hir o fwy na'r morgais efallai gael ei ystyried ar y gallu i dalu ai peidio. Yn aml, fodd bynnag, mae blaendal hefyd yn broblem i bobl sy'n rhentu, oherwydd gall cael eu blaendal at ei gilydd fod yn broblem wirioneddol. Felly, un o'r pethau yr ydym yn mynd i'w dreialu yn ardal Dwyfor yw newid bach i rywbeth o'r enw Prynu Cartref. Mae gennym ni gynllun o'r enw Prynu Cartref yr wyf i'n credu eich bod chi'n gyfarwydd ag ef, lle rydym yn cynorthwyo pobl i brynu tŷ drwy gymryd cyfran ecwiti cyhoeddus ynddo, i bob pwrpas, ac yna, pan fyddwch yn gwerthu'r tŷ, byddwch yn talu'r gyfran ecwiti yn ôl ac yn gwerthu'r tŷ i bwy bynnag yr ydych yn dymuno ac i ffwrdd â chi â'ch bywyd. Yn yr ardal dreialu, rydym yn mynd i newid hynny fel bod y gyfran ecwiti yn aros yn y sector cyhoeddus ar gyfer y tŷ hwnnw. Felly, pan fyddwch chi'n gwerthu, byddwch chi'n gwerthu eich rhan chi ohono ac yna gall rhywun arall ddod i mewn a manteisio ar y tŷ hwnnw, i weld a yw hynny'n cadw'r tai hynny mewn cylchrediad i bobl leol mewn ffordd well, ac mae hynny'n rhan o'r dull treialu i weld a yw'n gweithio ai peidio. Os ydyw'n gweithio, yna gallwn ni ystyried ei ymestyn i fannau eraill ac os nad yw'n gweithio, gallwn ni edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni hefyd yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud gyda benthycwyr, gan gynnwys y banc cymunedol a benthycwyr eraill sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, i weld beth allwn ni ei wneud i gynorthwyo pobl i gael morgeisi â chymorth gan ddefnyddio cofnodion rhent fel prawf fforddiadwyedd.
O ran rheolaethau rhent, rydym ni, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, wedi cytuno i edrych ar Bapur Gwyn ar sut y byddai hynny'n gweithio; byddwn ni eisiau cynnal ymgynghoriad ar hynny a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Yn benodol, byddwn i'n pryderu na fyddai landlordiaid y sector preifat wedyn yn codi eu tai i'r safon yr ydym yn disgwyl iddyn nhw fod, gan na fyddan nhw'n cael yr incwm o hynny. Felly, mae angen i ni fod yn ofalus ein bod ni'n gwneud y peth iawn i'n tenantiaid a'n bod ni'n gwneud y peth iawn i'n stoc tai, a'n landlordiaid, wrth gwrs. Rwy'n awyddus iawn i gynnig cynllun i landlordiaid sy'n caniatáu i'r Llywodraeth sicrhau bod eu cartrefi'n cyrraedd y safon, wrth ganiatáu hefyd i ni roi cytundebau rhentu tymor hwy o lawer i denantiaid yn y tai hynny, ac yna rhoi'r tŷ yn ôl i'r landlord ar ôl cyfnod hir. Drwy hynny, rydym yn cadw'r tai yn y sector rhentu ac rydym yn eu codi i'r safon. Rwy'n ofni nad oes gan lawer o landlordiaid sector preifat da y modd i sicrhau bod eu tai yn cyrraedd y safon. Felly, un o'r pethau y byddwn yn edrych arno yw rhyngweithio'r holl bethau amrywiol hyn i weld ein bod yn taro'r man iawn lle cawn ni'r lefel gywir o fuddsoddiad a chawn ni'r sicrwydd deiliadaeth iawn i'r tenantiaid.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Efallai y dylwn i ddechrau, o ystyried sylwadau'r Gweinidog, drwy ddatgan, yn fy swydd flaenorol yn gweithio i gymdeithas adeiladu, y bues i'n gweithio gyda Tai Cymru i gyflwyno nifer o gynlluniau perchentyaeth cost isel yng Nghymru.
Ond ddydd Gwener diwethaf, ymwelais â Phenmachno yng Nghonwy gyda'r rhaglen dyfodol gwledig wedi ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Pan oeddwn i yno, dangosodd trigolion lleol i mi nifer yr eiddo yng nghanol y dref a oedd bellach yn eiddo Airbnb—roedden nhw'n edrych mewn cyflwr da iawn, ond roedd bron pob un ohonyn nhw yn wag—a oedd yn arfer bod wedi eu meddiannu gan bobl leol. Fe wnaethon nhw gyflwyno cyflwyniad manwl i mi gyda thystiolaeth, gan ofyn i mi a fyddwn i'n rhoi hyn i chi yn bersonol. A gaf i drefnu i roi hyn i chi neu un o'ch swyddogion?
Gallwch, byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny. Rydym ni'n chwilio am y mathau hynny o gynlluniau menter i weld beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod tai yn cyrraedd y safon ac yn ôl i ddefnydd buddiol, felly byddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny, Mark.
Diolch.
Diolch i'r Gweinidog.