2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau.
Ac yn gyntaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd, ac yn gyntaf, a gaf fi ddechrau drwy ddymuno Nadolig llawen iawn i'r Gweinidog a thrwy ddiolch iddi am y ddeialog onest ac agored a gafodd hi a minnau ynglŷn â'r portffolio hwn?
Weinidog, rwyf wedi crybwyll arian cynllun datblygu gwledig nas gwariwyd neu a gamwariwyd yn y Siambr ar sawl achlysur eisoes, a hoffwn ganolbwyntio ar y cynllun 'coeden am ddim i bob cartref' y gwnaethpwyd sioe fawr o'i gyhoeddi ar 6 Rhagfyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. O ystyried bod y cyllid ar gyfer plannu coed o fewn eich portffolio chi, yn eich llaw chi y mae'r pwrs, fel petai. Felly, a allwch chi roi manylion am gost y cynllun hwn, boed yn arian newydd neu'n arian wedi'i ailddyrannu, ac yn olaf, a allwch roi sicrwydd, os yw'n arian wedi'i ailddyrannu, nad yw'n arian a fyddai'n mynd fel arall tuag at gefnogi'r diwydiant amaethyddol?
Diolch, a hoffwn ddymuno Nadolig heddychlon a hapus iawn i Sam Kurtz a'r holl Aelodau a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Daw hyn o fewn portffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd fel y dywedwch ac fe'i cyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Yn fy llaw i y mae'r pwrs ar gyfer rhai pethau, ond nid popeth, ac mae'r polisi rydych newydd gyfeirio ato a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd—mae'r cyllid yn rhan o'i bortffolio ef.
Diolch, Weinidog—diolch am yr eglurhad hwnnw.
Rwy'n siŵr eich bod wedi eich dychryn lawn cymaint â minnau, Weinidog, pan dynnodd BBC Wales sylw mewn rhaglen ddogfen yn gynharach yr wythnos hon at docio clustiau cŵn tarw bach i gynyddu gwerth y cŵn i fridwyr a'u gwneud yn ddeniadol i berchnogion newydd. Clywodd y rhaglen ddogfen sut y gall cŵn bach sydd â'u clustiau wedi'u tocio werthu am £1,500 ychwanegol, gan wneud yr arfer creulon hwn yn fenter werthfawr i droseddwyr. Er bod tocio clustiau yn anghyfreithlon yn y DU, nid oes unrhyw ddeddf yn gwahardd yr hawl i fewnforio'r anifeiliaid hyn i'r DU. Ond er ein bod yn derbyn bod mewnforio anifeiliaid yn fater a gadwyd yn ôl, mae gennych bwerau gorfodi os caiff y cŵn bach hyn eu gwerthu i drigolion Cymru neu os ydynt ym mherchnogaeth trigolion Cymru. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, i fynd i'r afael â'r math gofidus hwn o gam-drin anifeiliaid, ac a wnewch chi roi mwy o bwerau i'r RSPCA i ymladd creulondeb i anifeiliaid?
Diolch. Do, arswydais wrth weld y rhaglen y cyfeirioch chi ati. Mae tocio clustiau cŵn yn anghyfreithlon, mae'n ddiangen ac rwy'n siŵr ei fod yn hynod o boenus ac nid oes unrhyw fanteision i les nac iechyd y ci. Am resymau cosmetig yn unig y caiff ei wneud mewn gwirionedd, er mwyn gwneud i'r cŵn edrych yn fwy milain, a chredaf ei fod yn gwbl wrthun.
Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y ffordd yn ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn. Fel y dywedwch, Bil Llywodraeth y DU ydyw wrth gwrs, ond mae'n ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn a chŵn bach sydd wedi cael eu hanffurfio, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys tocio clustiau. A chredaf y bydd cyfyngu ar eu mewnforio yn cryfhau gallu ein swyddogion gorfodi i allu adnabod cŵn o'r fath yn haws ac erlyn y rhai sy'n ymwneud â thocio clustiau'n anghyfreithlon yng Nghymru a ledled y DU. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hyn.
Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, roeddwn yn falch o arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar les anifeiliaid y mis diwethaf, a welodd y Llywodraeth yn cael ei threchu a'r cynnig yn cael ei basio heb ei ddiwygio yn y Senedd. Roedd hi'n braf gweld yr agwedd gytbwys a meddwl agored a oedd gan bawb yn ystod y ddadl, ac rwy'n gobeithio y gall hyn barhau.
Rwy'n ymwybodol o lythyr a gawsoch gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, a fynegodd bryder ynghylch peth o'r hyn a hepgorwyd, er ei fod yn croesawu rhai agweddau ar gynllun gweithredu lles anifeiliaid eich Llywodraeth. Un mater felly oedd absenoldeb unrhyw gyfeiriad at gyflwyno rheoliadau ar fridio cathod. A gaf fi ofyn am eich ymrwymiad heddiw i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rheoliadau bridio cathod a chŵn ar sail gyfartal a sicrhau y bydd cathod bach a gaiff eu bridio yng Nghymru yn gallu mwynhau'r un lefelau uchel o les a diogelwch ag a roddir i gŵn bach?
Yn bendant. Rwy'n edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas â hynny, yn union fel rwy'n edrych ar ficrosglodynnu cathod hefyd. A phan fyddaf yn ymateb i'r ohebiaeth y mae Sam Kurtz yn cyfeirio ati, byddaf yn hapus iawn i rannu hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod prinder milfeddygon yng Nghymru yn dal i fod yn broblem i ni yma, ac mae wedi'i waethygu gan Brexit a'r pandemig hefyd wrth gwrs. Nawr, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn dweud bod mwy o lefydd mewn ysgolion milfeddygol yn rhan o'r ateb, ac roedd agoriad swyddogol ysgol gwyddor filfeddygol Prifysgol Aberystwyth yr wythnos diwethaf yn sicr i'w groesawu. Bydd y myfyrwyr milfeddygol yno, wrth gwrs, yn treulio'r ddwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, a thair blynedd wedyn yn astudio ar gampws Coleg Milfeddygol Brenhinol Hawkshead yn Swydd Hertford. Nawr, yn y cyfamser, mae gan yr Alban ddwy ysgol filfeddygol ac mae naw yn Lloegr, a phob un ohonynt yn cynnig y cyrsiau pum mlynedd llawn sy'n arwain at radd lawn. Felly, Weinidog, os ydym am ddatrys prinder milfeddygon yng Nghymru yn iawn, a ydych yn cytuno fod angen ysgol filfeddygol lawn ar Gymru, sy'n cynnig ei chyrsiau gradd pum mlynedd ei hun? Ac os ydych chi'n cytuno, ac rwy'n hyderus eich bod, a wnewch chi agor trafodaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth, a'r sector amaethyddol yn ehangach, i ystyried sut y gellir datblygu cwrs Aberystwyth yn gwrs pum mlynedd llawn a hynny'n gyflym, gyda'r cyfleusterau angenrheidiol, i helpu i ddatrys y prinder milfeddygon sydd gennym yma yng Nghymru?
Diolch. Credaf fod Llyr Huws Gruffydd yn gwneud pwynt pwysig iawn am brinder milfeddygon. A hoffwn ychwanegu at y rhestr rydych wedi sôn amdani, mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd a Brexit, yr achosion o ffliw adar sydd gennym ar draws y DU yn anffodus. Erbyn hyn mae gennym 52 o achosion, a gallwch ddychmygu'r capasiti milfeddygol y mae'r achosion o ffliw adar yn ei lyncu hefyd. Roeddwn yn falch iawn o weld Prifysgol Aberystwyth—yr ysgol filfeddygol yno—yn cael ei hagor yr wythnos diwethaf. Yn anffodus, ni allwn fynychu'r agoriad, ond cefais ymweliad—ym mis Hydref rwy'n credu—i'w weld drosof fy hun, ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Ac rwy'n gwybod bod Christianne Glossop, sydd wedi gweithio ar sicrhau bod hynny'n digwydd dros y 18 mlynedd diwethaf, yn falch dros ben. Ac rwy'n credu ei fod yn gam cyntaf. Roeddwn i fod i gyfarfod â'r Gweinidog addysg ddydd Llun i weld beth arall y gallem ei wneud i gefnogi prifysgol Aber mewn perthynas â hyn, ond yn anffodus, rwy'n credu mai'r wythnos nesaf y mae'r cyfarfod yn awr. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylid ei archwilio, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod a gaf gyda'r Gweinidog addysg.
Diolch, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn tybio bod y gwaith ar ben, oherwydd yn amlwg, dechrau'r daith yw hyn, a hoffem ei weld yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Diolch.
Nawr, agwedd hanfodol arall ar gymorth i bobl ifanc yn y sector amaethyddol yw cymorth iechyd meddwl wrth gwrs. Ym mis Hydref, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Plaid Cymru, Cefin Campbell, fe ddywedoch chi fod cefnogaeth i elusennau iechyd meddwl yn y sector ffermio, ac rwy'n dyfynnu,
'yn rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno, ac os oes unrhyw beth arall y gallaf ei wneud i helpu, rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny.'
Nawr, yn ddiweddar, yn y ffair aeaf, mynegodd Sefydliad DPJ bryderon, er eu bod yn cael rhywfaint o gefnogaeth ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, nad oes sicrwydd mwy hirdymor o gyllid. Ac rwy'n gwybod y byddai sefydliadau iechyd meddwl gwledig eraill yn rhannu'r un pryder. Felly, o ystyried eich ymrwymiadau blaenorol ar lawr y Senedd, a chyn cyhoeddi'r gyllideb yr wythnos nesaf wrth gwrs, a allech ddweud wrthym a ydych yn bwriadu cyflwyno cynllun ariannu hirdymor ar gyfer elusennau iechyd meddwl fel Sefydliad DPJ?
Diolch. Cyfarfûm â'r elusennau iechyd meddwl yn y sector amaethyddol yn y ffair aeaf fy hun, ac roedd yno gynrychiolwyr o tua chwech ohonynt, rwy'n credu, ac yn amlwg, buom yn trafod yr heriau—. Fe fyddwch yn deall ei bod yn anodd iawn rhoi ymrwymiadau hirdymor—nid wyf yn siŵr beth a olygwch wrth 'hirdymor'—ond yn sicr rwy'n bwriadu parhau i'w cefnogi, yn ariannol a hefyd gydag amser swyddogion, oherwydd mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda hwy. Ac rwy'n mynychu—yn sicr, dros gyfnod y pandemig, rwyf wedi mynychu llawer o gyfarfodydd y grŵp a ddaeth ynghyd o dan ymbarél i gefnogi ein sector amaethyddol. Felly, byddaf yn parhau i wneud hynny, yn sicr. Fel y dywedaf, nid wyf yn glir beth a olygwch wrth 'hirdymor', ond yn ystod proses y gyllideb, byddaf yn sicr yn ymrwymo i gyllid.
Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Rwy'n credu bod 'mwy hirdymor', mae'n debyg, yn ddisgrifiad gwell, efallai.
Unwaith eto, gan ddatblygu thema ffermwyr iau, clywais bryderon yn ddiweddar gan ffermwyr tenant yn enwedig, a Chymdeithas y Ffermwyr Tenant, fod ffermwyr iau yn ei chael hi'n anodd caffael tir o dan reolau olyniaeth. Nawr, rwy'n ymwybodol, drwy waith achos, o sefyllfaoedd lle nad yw teuluoedd wedi gallu trosglwyddo'r denantiaeth i'w mab neu eu merch am nad yw'r mab neu'r ferch yn gallu gwneud eu bywoliaeth o'r daliad yn unig. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod mwy a mwy o ffermydd yn dibynnu ar incwm oddi ar y fferm i allu goroesi y dyddiau hyn, ac mewn gwirionedd, mae llawer o'r tenantiaethau hynny o faint lle mae'n debygol fod gwneud eich bywoliaeth ohonynt bron yn amhosibl beth bynnag. Felly, mae'n amlwg i mi nad yw deddfwriaeth tenantiaeth yng Nghymru yn cyd-fynd â newidiadau yn y byd amaeth.
Nawr, rwy'n ymwybodol nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau eto i weithredu darpariaethau penodol yn Atodlen 3 i Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020 sy'n ymwneud â ffermydd tenant fel y maent yn gymwys i Gymru. Daeth rheoliadau i rym yn Lloegr, gyda llaw, yn ôl ym mis Mai eleni. Felly, a gaf fi ofyn: pa bryd y bwriadwch gyflwyno rheoliadau tebyg i'r rhai a welir yn Lloegr, fel y gallwn newid y profion addasrwydd a masnachol hen ffasiwn presennol, a gwneud y gyfraith yn fwy addas i'r diben, a hwyluso olyniaeth tenantiaid yn y pen draw wrth gwrs?
Diolch. Nid wyf yn gallu rhoi amser penodol i chi, oherwydd mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Cyfarfûm â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant yn y ffair aeaf, unwaith eto—manteisiais ar y cyfle i gyfarfod â chryn dipyn o bobl wyneb yn wyneb y mis diwethaf—ac rwy'n cytuno; credaf fod llawer o broblemau'n codi gyda ffermwyr tenant nad ydych yn eu cael, yn amlwg, gyda ffermwyr sy'n berchen ar y tir eu hunain, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni ei gael yn iawn. Felly, mae'n galw am fwy nag edrych ar un darn o'r ddeddfwriaeth yn unig; mae angen edrych ar y cyfan mewn ffordd gyfannol. Felly, rwy'n gwybod bod swyddogion yn parhau i gyfarfod. Rwy'n disgwyl cyngor pellach, yn ôl pob tebyg—wel, bydd hynny yn y flwyddyn newydd, ond nid wyf yn gwybod pa mor gyflym yn y flwyddyn newydd. Ond unwaith eto, pan gawn ragor o wybodaeth, byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.