– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 8 Chwefror 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cap ar brisiau ynni. Galwaf ar y Gweinidog, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, y cap ar brisiau a fydd yn dod i rym o fis Ebrill eleni ar gyfer defnyddwyr ynni preswyl. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Jane Hutt ddydd Iau, mae'r cynnydd o 54 y cant yn y cap yn amlwg yn ergyd drom i aelwydydd a theuluoedd sydd eisoes dan bwysau ac sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw. Daw'r cynnydd diweddaraf hwn yn dynn ar sodlau cynnydd sylweddol yn 2021, ac mae'n golygu y bydd bil ynni tanwydd deuol cartref nodweddiadol yn agos at £2,000 y flwyddyn. Er bod y cynnydd hwn wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr amrywiadau diweddar ym mhris cyfanwerthu byd-eang nwy, rhaid i Lywodraeth y DU gael ei dwyn yn atebol am y dewisiadau y maen nhw wedi'u cymryd. Llywodraeth y DU sy'n gosod y fframwaith prisio mae Ofgem yn ei weithredu, ac mae hyn yn cael effaith annheg ar aelwydydd.
Rydyn ni i gyd yn cydnabod yr angen am weithredu ar frys gan y Llywodraeth i gyrraedd ein targedau sero-net, ond rhaid i ni gydnabod hefyd mai dull blaengar yw'r ffordd decaf o gyflawni'r nod hwnnw. Rydyn ni wedi bod yn gyson ac yn glir ynghylch yr angen am gyfnod pontio cyfiawn, gyda'r rhai mwyaf abl i dalu am y newidiadau angenrheidiol yn talu'r gyfran fwyaf o'r costau. O ganlyniad, rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu cost y newid drwy system dreth flaengar, yn hytrach na bod y costau hyn yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, gan daro aelwydydd yn galed gyda'r codiadau prisiau serth hyn pan fydd costau eraill hefyd yn cynyddu.
Yn ail, mae'r DU wedi dioddef ers tro byd o danfuddsoddi sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Drwy gydol y degawd diwethaf, torrodd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain gymorthdaliadau a methodd â rhoi'r cymhellion ar waith ar gyfer maint y buddsoddiad sydd ei angen. O ganlyniad, mae gennym anghydbwysedd yn ein system ynni, gyda gorddibyniaeth ar danwydd ffosil, am gost amgylcheddol sylweddol. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU yn argymell modelau ariannol ar gyfer buddsoddi ynni newydd sy'n trosglwyddo'r costau i ddefnyddwyr, gan drosglwyddo'r risg o ddatblygwyr i aelwydydd, gan roi pwysau ar filiau'r cartref yn y dyfodol drwy brisiau uwch.
Ac yn olaf, mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd wedi parhau i dorri taliadau lles i'r rhai mwyaf anghenus, wedi methu â chodi trethiant gan y rhai mwyaf abl i dalu, ac wedi gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau gydag argyfwng cost byw. Gan ystyried y cynnydd diweddaraf hwn yn y cap ar brisiau, mae 145,000 o aelwydydd a oedd mewn perygl o dlodi tanwydd yn 2018 bellach yn debygol o gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae hyn yn golygu bod mwy na chwarter yr holl aelwydydd yng Nghymru, os nad mwy, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch a ddylid gwresogi eu cartrefi ai peidio.
Ysgrifennodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau at Lywodraeth y DU ar 11 Ionawr, gan bwyso'r achos dros weithredu ar unwaith a nodi cyfres o gamau y mae angen eu cymryd. Mae'r camau hynny'n cynnwys ehangu'r gostyngiad cynnes yn y cartref, dileu costau polisi o filiau'r cartref a'u hariannu yn hytrach na threthiant cyffredinol. Mae ymateb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn llai na'r camau sydd eu hangen. Er y bydd y cynnig i ddarparu gostyngiad o £200 i bob aelwyd yn helpu gyda'r biliau mae angen i aelwydydd eu talu heddiw, nid yw ar gael tan fis Hydref nesaf. Hyd yn oed pan ddaw'r cymorth hwn drwodd, mae'n daliad untro; mae angen ei ad-dalu dros y pum mlynedd nesaf, felly ni fydd yn gwneud dim i helpu aelwydydd yn y tymor canolig.
Mae Llywodraeth y DU yn gamblo y bydd prisiau nwy cyfanwerthol yn gostwng fel na fydd effaith yr ad-daliad yn cael ei deimlo cymaint gan aelwydydd. Ond mae'r realiti yn debygol o fod yn faich ychwanegol ar aelwydydd i dalu'r arian hwn yn ôl ar adeg pan fo'r cap ar brisiau yn parhau i godi o ganlyniad i'r methiannau sylfaenol yn y ffordd mae Llywodraeth y DU yn goruchwylio'r system ynni. Y canlyniad yma yw bod defnyddwyr yn wynebu costau uwch am gyfnod parhaus o amser. Nid brig tymor byr yn y farchnad yw hwn, ac yn fy nghyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf roedden nhw’n glir gyda mi y bydd adegau anodd o'n blaenau i aelwydydd. Galwais ar Ofgem i sicrhau bod hawliau cwsmeriaid yn cael eu diogelu a bod gan aelwydydd sy'n agored i niwed fynediad llawn i'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Ailadroddais fy ymrwymiad i weithio gydag Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn manteisio i'r eithaf ar yr holl wasanaethau ar yr adeg hon o gyni.
Dirprwy Lywydd, rydyn ni’n glir y byddwn ni’n defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun ymdopi â thywydd oer yn nodi 14 o gamau gweithredu yr ydym ni eisoes yn eu cymryd gyda phartneriaid i gefnogi aelwydydd. Cam allweddol yw helpu i wella effeithlonrwydd ynni domestig drwy gynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Cynnes. Mae ein buddsoddiad parhaus yn arbed mwy na £300 ar gyfartaledd i aelwydydd incwm ar eu biliau ynni. Roedd ein cronfa cymorth i gartrefi gwerth £51 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cynnwys £38 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Roedd hyn yn cynnig budd-daliadau untro o £100 i aelwydydd o oedran gweithio sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd tuag at gost eu hanghenion ynni. Ac, yr wythnos diwethaf, yn wyneb pwysau cynyddol ar aelwydydd a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU, fe wnaethom arwain drwy esiampl a chyhoeddi ehangiad i’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro i £200. Yn wahanol i gynnig Llywodraeth y DU, mae hyn yn gymorth ar unwaith heb amserlen ad-dalu. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn mynd beth o'r ffordd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond fe wyddom ni na fydd hyn yn ddigon o hyd i lawer o bobl sy'n byw mewn angen.
Yng ngoleuni'r newidiadau ym mis Ebrill, a'r tebygolrwydd o gynnydd pellach, rydyn ni am wneud mwy. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â Gweithredu Ynni Cenedlaethol i archwilio'r opsiynau ar gyfer mesurau cymorth pellach. Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ar 17 Chwefror gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol eraill i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi aelwydydd yn awr ac yn y dyfodol. Ac, wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae angen i ni gydnabod mai'r watt mwyaf cynaliadwy o ynni yw'r un nad oes ei angen. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i sefydlu polisïau sy'n cefnogi lleihau'r galw am ynni, arbed arian i bobl a busnesau Cymru yn ogystal â mynd i'r afael ag allyriadau—polisïau sy'n cynnwys buddsoddi yn y stoc dai i wella effeithlonrwydd ynni, cefnogi'r economi gylchol i annog ailddefnyddio ac atgyweirio, a gweithio'n agos gyda diwydiant i gefnogi defnydd mwy cynaliadwy o ynni.
Rydyn ni wedi ymrwymo i drawsnewid cyfiawn a sicrhau bod y system ynni yng Nghymru yn cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y ffordd decaf bosibl. Wrth i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau brys i'r ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi aelwydydd yng Nghymru. Mae dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach i Gymru mewn perygl yn sgil marchnad ynni hen ffasiwn a strwythur prisio ynni sy'n ddall i'r effeithiau ar y tlotaf a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rhaid i ni weithio i wneud beth bynnag y gallwn ni i gadw ein gweledigaeth yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. A dweud y gwir, mae'n rhaid i mi fod yn onest, pan ddarllenais y ddogfen gyntaf, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi codi'r ddogfen anghywir, oherwydd yr oedd yn darllen braidd yn debycach i ddarllediad gwleidyddol pleidiol gan Blaid Lafur Cymru. Mae gennym ni ddatganoli, rydyn ni wedi bod â hyn ers 22 mlynedd bellach, ac, mae arnaf i ofn, mae dal i bwyntio bys ar Lywodraeth y DU am yr hyn sy'n argyfwng byd-eang yn rhywbeth nad yw fy etholwyr yn Aberconwy am ei glywed. Eich targed gwreiddiol oedd dileu tlodi tanwydd yn llwyr ym mhob aelwyd erbyn 2018, ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn dangos bod 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, 12 y cant o aelwydydd yma yng Nghymru, 20 y cant o aelwydydd yn y sector preifat yn byw mewn tlodi tanwydd, a 9 y cant yn y sector tai cymdeithasol. Pe na bai'r targedau hyn wedi'u methu, yn syml iawn, ni fyddai pobl Cymru yn wynebu argyfwng mor ddifrifol ag y maen nhw heddiw.
Rwyf yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwrw ymlaen â rhai gwelliannau i effeithlonrwydd ynni, ond mae hynny bellach yn troi'n dipyn o hunllef, on'd ydy, i chi fel Llywodraeth? Mae Arbed wedi gweld trigolion mewn nifer o bentrefi yng Ngwynedd yn cael problemau gyda lleithder a llaid gwyrdd yn dilyn gwaith i'w cartrefi. Yn ddiweddar, gorfodwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymddiheuro i drigolion ar ôl problemau fel selio ffenestri ddiffygiol, lleithder, llwydni ac algâu. Mae disgwyl i'ch dull cyflawni allweddol, y rhaglen Cartrefi Cynnes, rhwng 2011 a 2023, gyrraedd 79,000 o gartrefi yn unig. Felly, a fyddwch chi’n ystyried, Gweinidog, bod yn rhagweithiol a diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth, fel y gall pob un o'r 155,000 o'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd weld rhywfaint o fudd mewn gwirionedd?
Cyfanswm cost datgarboneiddio stoc tai yn seiliedig ar amcangyfrifon Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw tua £15 biliwn, ac mae mwy na £10 biliwn ohono ar gyfer y stoc tai cymdeithasol ac ar gyfer cartrefi mewn tlodi tanwydd. Mae cyllid cyfalaf o dan y llinell wariant ar y gyllideb breswyl a'r gyllideb ansawdd yn £72 miliwn ar gyfer 2022-23, gan gynyddu i £92 miliwn ar gyfer y ddau gynllun yn 2023-24 a 2024-25. Ar y sail honno, gallai gymryd dros 160 mlynedd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'r holl arian sydd ei angen i ddatgarboneiddio'r holl stoc tai. Felly, dywedwch wrthym ni, mewn ffordd ystyrlon, sut ydych chi’n mynd i gyflymu pethau?
Rydych chi’n honni eich bod am gael system dreth flaengar. Fodd bynnag, byddai treth ffawdelw o 10 y cant, sydd wedi cael ei chynnig, yn debygol o godi llawer llai nag sy'n cael ei hawlio, ac, yn dibynnu ar ymateb ymddygiadol cwmnïau, gall leihau refeniw treth mewn gwirionedd. Felly, rwyf i’n gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi’n cydnabod bod y gyfradd dreth bresennol a godir ar elw olew a nwy eisoes yn fwy na dwbl y gyfradd a godir ar elw yn rhan fwyaf o sectorau eraill yr economi.
Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi mwy o drethiant yn cael ei roi ar ein teuluoedd sy'n gweithio'n galed gan eich Llywodraeth. Mae ychydig o ysgogiadau y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin â nhw—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi ei glywed, ond mae'n rhaid dweud hynny. [Torri ar draws.]
Hoffwn glywed y—[Torri ar draws.] Hoffwn glywed cwestiynau'r Aelod i'r Gweinidog, felly rhowch gyfle iddi wneud hynny.
Diolch. Lleihau'r gyfradd raddedig credyd cynhwysol, cynyddu'r cyflog byw cenedlaethol, rhewi'r dreth tanwydd am y deuddegfed flwyddyn yn olynol, a bellach y cynllun ad-dalu hanesyddol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Bydd cynllun Llywodraeth y DU, Joyce, yn helpu gyda biliau'r cartref ar unwaith a bydd yn amddiffyn pobl rhag cymaint â hanner y cynnydd o £700. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £175 miliwn mewn symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU o £150 oddi ar filiau'r dreth gyngor. A wnewch chi ymrwymo i wneud hyn yng Nghymru?
Rwyf i wedi fy syfrdanu gan eich honiad ffug y bu tanfuddsoddi sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Rwy'n gobeithio eich bod yn sicr yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i arloesi prosiectau sero-net Cymru, ac yn sicr mae'n cyflawni ei chynllun ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gan Lywodraeth y DU—yr ydych chi'n cadw sôn amdani, felly fe wnaf innau hefyd—gynllun hefyd ar gyfer economi hydrogen sy'n arwain y byd, sy'n cynnwys ymrwymiad i greu treial pentref hydrogen erbyn 2025, ac o bosibl treialu tref hydrogen erbyn diwedd y degawd. Felly, a wnewch chi eto adlewyrchu uchelgais o'r fath drwy ehangu ar yr ymrwymiad yng nghyllideb carbon 2 i gefnogi prosiectau hydrogen lleol ac atebion sy'n seiliedig ar deuluoedd?
Rwy'n cydnabod bod cymorth i'w ddarparu—
Rhaid i'r Aelod ddod i gasgliad nawr.
Ie, fe wnaf i nawr—i Flaenau Gwent drwy'r rhaglen Byw'n Gall i ddatblygu math o ficrogrid ar ystad ddiwydiannol a fyddai'n ein helpu i symud i ynni adnewyddadwy a chreu a dosbarthu ynni glanach yn lleol. Felly, o gofio, Gweinidog, fod strategaeth ynni y gogledd yn cynnwys datblygiad microgrid fel maes blaenoriaeth, a wnewch chi sefydlu treial microgrid yn y gogledd? Mae'n bryd i'r gogledd elwa ar rywfaint o arloesedd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Wel, ble i ddechrau? Arbed—mae Arbed wedi cael rhai problemau, yn sicr, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders ei hun, rydyn ni wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rheini drwy ein hawdurdodau lleol ac fel Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd cynlluniau blaenorol cyn Arbed mae Llywodraeth y DU wedi'u lledaenu—mae llawer o'r Aelodau yma wedi cael problemau ofnadwy gyda nhw yn eu hetholaethau. Ymateb Llywodraeth y DU i hynny oedd taflu eu dwylo mewn arswyd, dweud nad oes bond ac nid oes dim y gellir ei wneud ac mae'r deiliad tŷ yn gyfan gwbl ar ei ben ei hun. Felly, Janet, cyn i chi ddechrau taflu cerrig, dylech chi wirioneddol edrych ar ble rydych chi'n codi'r cerrig, oherwydd dydych chi ddim mewn lle da fel Ceidwadwyr i ddweud eich bod wedi gwarchod defnyddwyr rhag cynlluniau sydd wedi'u cynllunio yn wael iawn.
Gan fynd ymlaen at y cynnig datgarboneiddio, rydyn ni’n sicr wedi dysgu am rai o'r anawsterau a gawsom gydag Arbed, ac yn wir o rai o'r anawsterau bach a gawsom ni gyda safon ansawdd tai Cymru. Nid yw un maint yn addas i bawb. Felly, mae gennym ni raglen ôl-ffitio wedi’i hoptimeiddio yma yng Nghymru lle rydyn ni’n treialu gwahanol dechnolegau ar gyfer gwahanol fathau o dai, gan sicrhau ein bod yn dysgu o broblemau'r gorffennol gyda gosodiadau waliau ceudod sydd wedi mynd o'i le—mae rhai ohonynt yn rhagorol, ond mae rhai ohonynt wedi mynd o'i le—a materion eraill sydd wedi codi, i sicrhau bod gennym ni’r rhaglen gywir ar gyfer y tŷ cywir.
Dros y ffin, mae gennym ni Brif Weinidog de Pfeffel yn sôn am bympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer pob tŷ, y byddai waeth i chi ei osod ar y tu allan, oherwydd heb fynd i'r afael â'r holl faterion eraill, ni fyddant yn cael unrhyw effaith.
Un neu ddau o bethau eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw: y dreth ffawdelw. Wyddoch chi, dydw i ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda hynny. Cwmni a all gyhoeddi'r elw mwyaf erioed ar yr un adeg â chodi prisiau ynni i'r pwynt lle mae pobl yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac rydych chi’n dweud wrthyf i eu bod nhw eisoes yn talu digon o dreth—. Wel, rwy’n credu bod hynny'n dweud y cyfan am y Ceidwadwyr. Mae y tu hwnt i ddychan—ni fyddaf i hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny. Os na allwch chi weld y problemau rydych chi'n eu gwneud, rwy'n teimlo'n flin iawn drosoch chi.
Mae'r mater £150 y dreth gyngor yn un arall. Felly, mae hynny'n ad-daliad ar y dreth gyngor; mae gennym ni eisoes gynllun rhyddhad treth gyngor yma yng Nghymru nad yw'n cael ei ddyblygu yn Lloegr. Ni all unrhyw un sy'n talu rhent ar y cyd hawlio ad-daliad y dreth gyngor, felly ni fydd unrhyw un sy'n talu treth gyngor fel rhan o'i rent yn gallu ei hawlio. Rydyn ni wedi gofyn cwestiynau am hynny. Bydd yn ddiddorol iawn gweld sut mae hynny'n gweithio. Mae'r syniad bod y £200 sy'n cael ei roi i bobl yn fenthyciad— mae’n rhaid eich bod chi, hyd yn oed, Janet, yn gallu gweld y twpdra o ddibynnu ar farchnad mor gyfnewidiol â hyn i wastatáu fel na fydd ots gan bobl ad-dalu benthyciad. Mae'n syfrdanol.
Mae'r Llywodraeth hon, ar y llaw arall, yn gwneud yr hyn a allwn ni i helpu ar unwaith gyda grantiau i bobl sydd mewn angen ar unwaith. Y syniad eich bod chi’n dweud wrthyf i beth yw costau byw pan mai chi yw'r Llywodraeth a gymerodd y codiad credyd cynhwysol o £20 i ffwrdd, chi sydd wedi rhewi'r lwfans marchnad dai lleol—. Rydych chi’n siarad â mi am gynnydd mewn rhenti ar yr un pryd â rhewi'r lwfans tai lleol, ar ôl ei godi unwaith mewn 15 mlynedd yn unig—ymddygiad hollol warthus, a dweud y gwir, gyrru pobl i dlodi—ni fyddaf yn derbyn hynny. Mae'n gwbl warthus eich bod chi wedi gwneud hynny. Pobl sy'n byw mewn llety rhent yn y sector preifat na allant bellach hawlio cost lawn eu rhent yn llwyr drwy bolisïau lles eich Llywodraeth, rydych chi’n eu cefnogi, nad oes gennych chi erioed ddim i'w ddweud yn eu herbyn—mae'n rhyfeddol. Rwy'n siŵr bod gan bobl Aberconwy lawer o gwestiynau i'w gofyn ar hyd y llinellau hynny, mae’n debyg.
O ran datblygiadau ynni arloesol, rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn yma yng Nghymru, gydag Ofgem a gyda phawb arall i ddatblygu strwythurau grid datganoledig. Fodd bynnag, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y grid cenedlaethol fel mae’n cael ei alw. Mae'r cyfarwyddiadau i Ofgem yn lliniaru hynny. Gallech chi wneud llawer o les i'ch etholwyr, Janet, drwy ofyn i Lywodraeth y DU ddatganoli hynny i Gymru, oherwydd mae arnom angen datblygu grid ymlaen llaw nad yw'n cael ei lywio gan bolisïau a chontractau defnyddwyr, ond sy'n cael ei ysgogi gan angen ac sy'n caniatáu grid gwasgaredig. Byddwn yn eich cefnogi’n llwyr ar hynny. Mae gridiau dolen gaeedig wedi achosi problemau diddiwedd oherwydd cyn gynted ag y byddant yn mynd i lawr, fel rydyn ni wedi dysgu am gost ym Maglan, ni fydd Llywodraeth y DU yn camu i mewn, ni fydd yn deddfu i sicrhau bod y derbynnydd swyddogol yn camu i mewn i helpu'r bobl yno.
Felly, dydw i ddim yn cymryd unrhyw wersi o gwbl gennych chi ar sut i ddelio â lles, ar sut i ddelio â thlodi, ar sut i ddatblygu strwythurau ynni arloesol na sut i ddelio â Llywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, Janet, mae gwir angen i chi wneud eich ymchwil yn well.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel rydyn ni newydd ei glywed, bydd miliynau o bobl ledled y DU yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o straen anhygoel oherwydd y cap prisiau ar filiau sy'n codi 54 y cant. Bydd rhannau o Gymru ymhlith y rhannau fydd yn cael eu taro waethaf yn y DU gyfan. Bydd ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Ceredigion, yn edrych ar £972, Gwynedd £904, sir Gaerfyrddin £853, Powys £848. Ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini. Bydd 14 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n waeth na'r cynnydd cyfartalog mewn prisiau o £693. Mae rhai o'r ardaloedd hynny eisoes yn ardaloedd sydd â rhai o'r cyflogau isaf yn y DU hefyd ac, yn amlwg, fel rydyn ni’n ei drafod yn aml, y tu ôl i'r holl ffigurau hynny, bydd sefyllfaoedd gwirioneddol frawychus i unigolion ac i deuluoedd.
Daw hyn ar adeg, wrth gwrs, pan fydd miliynau eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, i roi bwyd ar y bwrdd, i dalu biliau ffôn, biliau band eang, costau trafnidiaeth, costau tai, costau sy'n gysylltiedig ag addysg—mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, on’d ydy? Un cam mae angen i Lywodraeth Cymru ei gymryd, rwy’n credu, yw lleihau costau byw cyffredinol er mwyn lleddfu rhywfaint o’r cynnydd mewn prisiau mwy serth. Gwn eich bod chi wedi bod yn cyfeirio at hyn ychydig yn barod. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd yr uwchgynhadledd yn mynd yn ei blaen ar 17 Chwefror. Wrth gwrs, daw hynny o ganlyniad i’r Senedd yn pleidleisio o blaid cynnig diweddar Plaid Cymru yn galw am gynllun argyfwng. Rwy’n croesawu hyn yn fawr. A gaf i ofyn i chi pa fathau o fesurau fydd yn cael eu trafod yn yr uwchgynhadledd hon? Fe wnaethoch chi ddweud y bydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol, ac rwy’n croesawu hynny'n fawr, ond a allech chi gynnig rhywfaint o sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y bydd yr uwchgynhadledd hon yn cynnwys lleisiau pobl sy'n mynd i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng costau byw hwn, a sut y gellid clywed eu lleisiau fel rhan o hynny?
Nid yw tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn broblem newydd. Mae pobl eisoes yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach, ac mae'r cynnydd mewn capiau prisiau yn mynd i'w gwthio'n ddyfnach i drafferthion. Fel mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi'i fynegi, mae pobl yn newid eu hymddygiad, ac mae hyn yn mynd i effeithio ar eu hiechyd. Maen nhw'n mynd i dorri'n ôl ar wresogi a defnyddio llai o drydan allan o ofn mynd i ddyled ynni. Mae'r oerfel yn gyfrifol am lawer o gyflyrau iechyd. Mae'n achosi derbyniadau i'r ysbyty a mwy o farwolaethau. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa fesurau wedi'u targedu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n mynd i fod fwyaf agored i'r cynnydd hwn? Byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran atal ac ymateb i ddyled o ran biliau ynni, yn ogystal â'r hyn rydych chi eisoes wedi'i nodi, wrth gwrs. Rwy'n awyddus iawn, a gwn fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen, i glywed mwy am sut y bydd pobl ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu cefnogi, oherwydd gallent wynebu eu ynni yn cael ei ddiffodd os byddan nhw'n rhedeg allan o arian. Felly, a oes mesur penodol rydych chi’n ei archwilio a allai helpu pobl yn y sefyllfa wirioneddol enbyd honno, os gwelwch chi’n dda?
Ac yn olaf, mae hwn yn faes sydd eisoes wedi codi yn eich sgwrs â Janet, wrth gwrs, i droi at dai. Fel rydyn ni wedi bod yn ei glywed, mae gennym y stoc dai hynaf yn y DU a rhai o'r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon hefyd. Mae'r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru eisoes yn 12 y cant, sy'n un ym mhob 10 cartref neu rywbeth, ac rwy’n credu bod yr amcangyfrif hwnnw o 2019, felly gallai hynny danbrisio'r broblem yn sicr. Mae cydweithiwr i mi yn San Steffan wedi bod yn sôn am sut mae 275,000 o gartrefi yng Nghymru—bron i un rhan o bump o'r holl aelwydydd—nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r grid nwy. Rwy’n credu bod y ffigur hwnnw o 2020. Ac mewn ardaloedd gwledig, fel Ceredigion, mae'r ffigur hwnnw'n codi cymaint ag i 80 y cant. Yng Nghymru, mae'n ymddangos bod gennym ni gyfres o heriau unigryw sy'n mynd i wneud yr argyfwng hwn, neu'r argyfyngau hyn sy’n ymdoddi, hyd yn oed yn fwy difrifol, o ran tai, o ran gwresogi, ac mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hynny'n awr yn fwy nag erioed.
Rwy’n cydnabod bod y cwestiynau eisoes wedi'u hateb yn y sesiwn hon, ond yn eich datganiad fe wnaethoch chi gyfeirio at y sefyllfa hon. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ystod tymor y Senedd a rhoi gwybod i'r Senedd am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i wneud stoc tai Cymru'n fwy effeithlon o ran ynni, yn enwedig, efallai, pan fyddwn ni’n sôn am gartrefi oddi ar y grid? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Felly, ie, fe wnaf i redeg drwy rhai o’r rheini, yn gyflym iawn. Felly, cafodd Jane Hutt a minnau gyfarfod da iawn gydag Ofgem. Mae'n ddrwg gen i, mae pob diwrnod yn cymysgu â'i gilydd—rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi. Yn hwyr yr wythnos diwethaf beth bynnag. Efallai mai yn hwyr iawn ddydd Iau oedd hi, ond dydw i ddim yn gallu cofio. Ond, beth bynnag, roedd yn gyfarfod da iawn, er bod tipyn o densiwn, oherwydd nid ydym yn hapus o gwbl am y ffordd mae hyn wedi cael ei drin, ond fe wnaethom ni godi nifer o bwyntiau. Roedd y pwynt am y mesurydd rhagdalu yn sicr yn un a oedd yn uchel ar ein hagenda. Mae rhai materion gwirioneddol dechnegol ynghylch os yw eich cyflenwr yn methu, beth sy'n digwydd i'r taliadau presennol sydd gennych chi, ac a oes rhaid i chi dalu taliadau balŵn ai peidio. Felly, cafodd hynny ei wyntyllu'n dda yn y cyfarfod. Cawsom ein sicrhau hefyd gan Ofgem eu bod wedi gofyn i'r cwmnïau ynni roi mesurau ar waith a fydd yn nodi pobl sy'n hunan-ddatgysylltu, gan nad ydyn nhw’n defnyddio unrhyw ynni mwyach, oherwydd eu bod nhw wedi diffodd eu gwres ac yn y blaen. Oherwydd yn amlwg gallan nhw weld hynny o'r mesuryddion, yn enwedig ar fesuryddion rhagdalu—gallan nhw weld nad yw pobl yn talu i mewn iddynt. Felly, byddwn yn parhau â'r sgwrs honno, wrth y bwrdd crwn a gydag Ofgem. Mae nifer o bethau mae angen i ni eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw pobl yn hunan-ddatgysylltu, fel maen nhw’n ei alw—rhoi'r gorau i ddefnyddio ynni.
Rhan o'r mater ynglŷn â'r bwrdd crwn yw casglu gwybodaeth a syniadau o bob cwr o Gymru ar yr hyn y gallwn ni ei wneud, a rhoi'r mesurau hynny ar waith. Mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt mewn gwirionedd yn gyfrifol am y bwrdd crwn a'i ddosbarthiad, ac rwyf i’n bresennol hefyd. Fodd bynnag, byddaf yn codi'r pwynt am brofiad byw; rwy'n siŵr y bydd ganddi hynny mewn llaw, ond byddaf yn dod yn ôl atoch chi ar hynny. Yn sicr, byddwn yn sicrhau bod Gweithredu Ynni Cenedlaethol yno fel llais y sector wrth gynrychioli hynny, felly byddaf yn sicr yn dod yn ôl atoch chi ar hynny.
Un o'r pethau rydyn ni’n awyddus iawn i'w wneud, ac rydyn ni eisoes wedi ariannu ein hasiantaethau cynghori i wneud hyn, yw sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor cywir. Felly, ar y pwynt oddi ar y grid, er enghraifft, nid yw pobl bob amser yn deall bod y taliadau tanwydd—. Rydych chi’n gymwys ar gyfer y rheini hyd yn oed os ydych chi ar olew oddi ar y grid. Does dim rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr nwy. Felly, os ydych chi’n bodloni'r meini prawf cymhwysedd, byddwch chi ar y trywydd iawn ar gyfer hynny.
Byddwch wedi fy nghlywed i, Delyth, nifer o weithiau yn y Siambr hon yn sôn am y problemau sydd gennym ni yng Nghymru lle gallwch chi weld fferm wynt allan o'ch ffenestr, ond rydych chi ar olew oddi ar y grid ac yn y blaen. Byddwn yn gweithio gyda'n gwasanaethau cynghori ar ynni i sicrhau bod cymunedau sy'n cynnal ffermydd gwynt, er enghraifft, yn gallu cymryd buddion cymunedol y gellir eu defnyddio i insiwleiddio eu cartrefi, a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer gwresogi trydan. Ni fyddai hynny'n wir nes eich bod wedi gwneud cryn dipyn o waith. Gellir defnyddio manteision cymunedol ar gyfer nifer o bethau. Mae angen i'r gymuned eu hunain ddewis y budd-daliadau hynny, ond gallwn ni eu cynorthwyo gyda dewislen o ddewisiadau y gallai pobl ddewis ohonynt, ac annog y defnydd o'r budd-daliadau hynny ar gyfer pethau fel inswleiddio, ôl-ffitio ac yn y blaen, i sicrhau bod y tai'n cyrraedd y safon. Mae'n amlwg er budd y cwmnïau ynni hefyd, oherwydd mae hynny'n rhoi mwy o gwsmeriaid iddynt am eu hynni, ond hefyd rydych chi’n defnyddio llai o ynni drwy insiwleiddio eich cartref yn y ffordd honno. Felly, mae nifer o bethau sydd gennym ar y gweill i wneud hyn, ond, yn amlwg, maen nhw ar gyfer y tymor hwy, nid ydyn nhw’n mynd i ddatrys yr argyfwng uniongyrchol rydyn ni’n sicr yn ei wynebu, ac mae fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith, fel y dywedais i, a nifer o daliadau.
Y peth olaf roeddwn i am ei ddweud wrthych chi oedd ein bod yn awyddus iawn i siarad â'r sector rhentu preifat—unwaith eto, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud hyn—am gymryd y gwersi o'n rhaglen ôl-ffitio wedi'i optimeiddio a dechrau eu cyflwyno i dai'r sector rhentu preifat, felly nid y sector perchen-feddianwyr eto. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi bod yn rhoi cynlluniau cymhelliant ar waith i gael landlordiaid sector rhentu preifat i roi eu tai i ni tra byddwn ni'n eu datblygu i'r safon.
Mae gostyngiad y lwfans tai lleol yn broblem fawr iawn i ni. Felly, roedd yn arfer bod ar 50 y cant, dim ond i atgoffa pawb; gostyngodd y Ceidwadwyr hynny i 30 y cant ac yna ei rewi. Mewn ardaloedd yng Nghymru, mae'n cwmpasu llai na 5 y cant o'r farchnad rentu ar ei lefel bresennol, felly mae'n drychineb, mewn gwirionedd. Bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i ryw ddull arall er mwyn gallu cefnogi'r landlordiaid hynny er mwyn sicrhau bod hynny ar waith. Ond ni allaf bwysleisio digon y math o fesur llechwraidd a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol wrth rewi'r lwfans hwnnw, a'r effaith mae hynny'n ei chael ar (a) allu pobl i wresogi eu cartref a thalu eu rhent, ond hefyd ar ein gallu i ymyrryd yn y farchnad honno mewn ffordd sy'n golygu y gall landlordiaid rhent y sector preifat gael help i godi eu heiddo i'r safon, sy'n bwysig iawn.
Y peth olaf y byddaf yn ei ddweud, Dirprwy Lywydd, yw mai rhan o'r rhaglen ORP, y rhaglen ôl-ffitio optimaidd, yw nodi'r hyn sy'n gweithio, ond mae hefyd i ddatblygu sgiliau gweithlu. Felly, ar hyn o bryd rydym yn datblygu sgiliau pobl i roi boeleri nwy mwy effeithlon i mewn. Holl bwynt y rhaglen hon yw cyfrifo'r dechnoleg sy'n gweithio, ond hefyd i gyfrifo'r sgiliau sy'n angenrheidiol i'w ffitio, fel y gallwn gyflwyno'r rhaglen grant i'r sector preifat unwaith y bydd gennym y sgiliau hynny, gan wybod y bydd y gweithwyr medrus yno i roi'r darpariaethau hynny ar waith, ac nid yw hynny'n wir yn awr, os edrychwch chi ar hynny. Yna, mae fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans, sy'n eistedd yn y Siambr gyda mi, a minnau wedi dechrau trafod, fel pwynt rhagarweiniol, a ellir rhoi cymhellion yn y farchnad i wobrwyo pobl sy'n dod â'u tai i fyny i'r safon effeithlonrwydd ynni A ac yn y blaen, o ran disgowntiau ac yn y blaen. Oherwydd rhan ddiddorol iawn o'r sgwrs gydag Ofgem oedd rhan yn ymwneud â pham nad yw'r farchnad ei hun yn ymateb i hynny. Felly, os byddwch chi’n dod â'ch tŷ i fyny i EPC A nid yw'n hawlio premiwm yn y farchnad ar hyn o bryd, sy'n ymddangos yn wrthun. Felly, byddwn ni’n edrych ar gymhellion i wneud hynny hefyd.
Diolch, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Fe wnaethoch chi ddweud prynhawn yma fod gwahaniaeth amlwg rhwng ymyriadau'r Llywodraeth yng Nghymru a'r ymyriadau hynny gan y Llywodraeth yn Lloegr. Mae cynllun y DU, fel y gwyddom ni i gyd, yn rhy hwyr. Mae'n mynd i rhoi baich dyled ar bob deiliad tŷ, gan roi gydag un llaw a chymryd yn ôl gyda'r llall, tra bod Llywodraeth Cymru wedi targedu cymorth i'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn awr, heb unrhyw amodau. Fe wnaethoch chi sôn am gambl Llywodraeth y DU ar brisiau cyfanwerthu. Y gwir amdani yw bod Llywodraethau Torïaidd wedi bod yn gamblo gyda diogelwch ynni'r DU ers blynyddoedd. Er enghraifft, yn 2017, fe wnaeth ganiatáu i gyfleuster storio nwy mwyaf y wlad gau. Gadawodd hynny Brydain gyda'r gallu i storio dim ond 2 y cant o'r galw blynyddol, tra gall mewnforwyr nwy mawr eraill storio 20 i 30 y cant. Ar yr un pryd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, nid yw Llywodraethau Ceidwadol wedi buddsoddi digon o bell ffordd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Maen nhw wedi torri cymorthdaliadau ac—
A allai'r Aelod ddod i gwestiwn?
—dydyn nhw erioed wedi trwsio'r to pan oedd yr haul yn disgleirio. Dim ond un frawddeg arall, os caf i. Yr hyn y byddwn i'n ei hoffi, Gweinidog, yw rhywfaint o adborth o'r cyfarfod ar 17 Chwefror yr ydych chi wedi cyfeirio ato, yn enwedig ar gyfer fy ardal i, lle mae llawer o bobl oddi ar y grid, i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi i'r bobl hynny sy'n cael gafael ar nwy ac olew oddi ar y grid ac nad yw moeth y cap prisiau hwnnw ganddyn nhw.
Diolch, Joyce. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Yn bendant, ar y pwynt storio, er mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw symud oddi wrth danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Mae un o'r materion sy'n ymwneud â'r buddsoddiad a'r diffyg buddsoddiad a'r modelau buddsoddi yn ddiddorol iawn. Felly, fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori y llynedd, ac yna derbyn, o ganlyniad i ddarn o waith ac ymgynghoriad, model o'r enw model sylfaen asedau a reoleiddir, sy'n cyfalafu yn effeithiol cost buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy ac yna'n rhoi cost hynny ar filiau defnyddwyr. Felly, yn y bôn, mae'n cael y defnyddiwr i dalu amdano. Felly, mae'n sgâm i beidio â gorfod rhoi unrhyw arian y Llywodraeth ynddo. A dyna un o'r anawsterau sydd gennym ni, ein bod ni yn erbyn Llywodraeth nad yw'n buddsoddi ymlaen llaw ac sy'n llunio model sy'n trosglwyddo'r pris yn ôl i'r defnyddiwr. Ac, mewn gwirionedd, fe wnaethon nhw gyhoeddi hynny ar adeg y cynnydd cyntaf i brisiau Ofgem ddiwedd y llynedd mewn ffordd hynod o ansensitif o'i gyhoeddi yn fy marn i, hyd yn oed i'r Ceidwadwyr.
Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, byddwn yn hapus iawn i roi adborth ar 17 Chwefror. Byddaf i neu Jane Hutt, rwy'n siŵr, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ganlyniad hynny, fel y gallwn ni gael y cyngor allan i etholwyr pawb. Ac o ran olew oddi ar y grid, rydym ni'n chwilio am syniadau a phethau arloesol y gallwn ni eu gwneud wrth y bwrdd crwn, yn ogystal â rhannu pethau. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pa un a allem ni helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i swmp-brynu olew, a fyddai'n cael y pris i lawr, ac i'w helpu i roi'r cyfleusterau storio ar waith drostyn nhw eu hunain oherwydd, fel erioed, y tlotaf ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o allu manteisio ar brisiau swmp, y lleiaf tebygol yr ydych chi o ddod at eich gilydd fel cymuned i wneud hynny. Felly, bydd pethau y mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych i weld a allwn ni gynorthwyo pobl i'w gwneud, efallai gyda benthyciadau ymlaen llaw er mwyn gwneud y swmp-brynu a chael y pris is, neu nifer o bethau eraill y mae gennym ni ddiddordeb mewn edrych arnyn nhw. Felly, Joyce, os oes gennych chi gymunedau yr ydych chi'n credu y byddai ganddyn nhw ddiddordeb yn hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn o weithio gyda chi i weld a allwn ni eu nodi.
Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy'n cydnabod y dicter a'r angerdd rydych chi'n eu teimlo pan fyddwch chi'n cyfeirio at y diffyg empathi a thegwch llwyr yr ydym ni'n ei glywed gan y blaid gyferbyn yn eu swyddogaeth o wneud teuluoedd yn dlotach, ac yn enwedig pan fyddwn ni'n wynebu'r effaith enfawr iawn hon ar eu bywydau. Rwyf i'n gallu fforddio talu'r cynnydd i brisiau tanwydd sy'n cael ei gyflwyno, ac rwy'n siŵr y gall llawer ohonom ni yn y Siambr hon, ond mae llawer nad ydyn nhw'n gallu. Ac rwy'n eich annog chi, pa blaid bynnag yr ydych chi'n perthyn iddi, ewch i siarad â'r aelwydydd hynny, ewch i glywed eu hanesion, ewch i glywed yr union sefyllfaoedd y maen nhw ynddyn nhw, oherwydd dyna sydd ar goll yma gan y Ceidwadwyr: tegwch ac empathi.
Rydym ni wedi clywed llawer am aelwydydd. Hoffwn siarad ychydig, os caf i, Gweinidog, am fusnesau bach. Ym Mhowys a sir Benfro, yn y rhanbarth yr wyf i'n gyfrifol amdano, ac y mae eraill yn y Siambr yn gyfrifol amdano, mae nifer uwch o ficro-fusnesau a busnesau bach, ac maen nhw'n cael eu heffeithio gan y cynnydd hwn i brisiau. Tybed a gaf i ofyn i chi pa gymorth wedi'i dargedu sydd ar gael i'r busnesau bach hynny ar yr adeg benodol hon gan Lywodraeth Cymru. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Jane. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau eu hystyried wrth y bwrdd crwn yw sut y gallwn ni dargedu microfusnesau yn benodol. Felly, mae gennym ni'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar waith, wrth gwrs, felly ni fydd llawer iawn o fusnesau bach yn talu ardrethi eisoes gan y byddan nhw'n manteisio ar hwnnw. Ond rydym ni'n awyddus iawn i dargedu cymorth arall i fusnesau. Felly, un o'r pethau y byddwn ni'n eu hystyried wrth y bwrdd crwn yw sut y gallwn ni wneud hynny. Mae hefyd yn ymwneud â sut y gallwn ni wella sgiliau ein hasiantaethau cynghori i roi'r cyngor cywir ar gyfer dyledion busnes a masnachol, yn ogystal ag ar gyfer dyledion personol a chartref. Felly, byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny. Byddwn yn gweithio gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill i wneud yn siŵr ein bod ni'n deall hynny. Rydym ni'n pryderu'n fawr bod hyd yn oed y siop goffi leiaf, a oedd efallai'n gwneud elw bach, yn mynd i gael trafferth gyda'i chostau ynni, o ystyried y cynnydd i brisiau sydd gennym ni. Felly, byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny. Nid yw'r ateb gen i ar hyn o bryd; rhan o ddiben y bwrdd crwn, wrth gwrs, yw gwneud yn union hynny.
Rydym ni hefyd yn annog busnesau, wrth gwrs, i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar ac yn y blaen, a batris storio, i wneud yn siŵr y gallan nhw gael y gorau o newid i ynni adnewyddadwy. Ac ni allaf i bwysleisio digon bod diogelwch y cyflenwad yn bwysig iawn i'n cymunedau busnes, wrth gwrs, yn ogystal ag i'n haelwydydd.
Diolch, Gweinidog, ar gyfer eich datganiad heddiw ar fater sy'n peri pryder i lawer iawn o'm hetholwyr. Mae gen i dri chwestiwn i chi. Yn gyntaf, rwy'n nodi sylwadau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cap tariff ynni domestig gwahaniaethol, neu dariff ynni cymdeithasol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hyn; er enghraifft, sut y gallai weithio, faint o bobl yng Nghymru a allai elwa a faint.
Fy ail gwestiwn, Gweinidog. Pan oedd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn siarad gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi, nodwyd nad oedd llawer o bobl a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf wedi gwneud, bryd hynny, cais am y cymorth. A allwch chi roi unrhyw wybodaeth ddiweddaraf am hyn ac efallai amlinellu pa waith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n gymwys yn cael y cyllid hwn?
Ac yn olaf, cynhaliodd fy undeb llafur, Undeb y Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gweithwyr Perthynol, arolwg o'u haelodaeth yn ddiweddar, a dywedodd pedwar o bob pump o bobl a ymatebodd fod pryderon ariannol yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno mecanweithiau a chymorth i ddinasyddion Cymru y mae eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio gan bryderon ariannol?
Diolch, Vikki. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Y cap gwahaniaethol, roeddem ni’n trafod gydag Ofgem sut y gallai hwnnw weithio. Rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi cap ar brisiau gwahaniaethol ar waith. Braidd yn groes i’r amcan hefyd, ac maen nhw wedi ei gyhoeddi bellach, fe wnaethon ni hefyd ofyn iddyn nhw edrych ar adolygu'r pris yn amlach, oherwydd un o'r problemau mawr i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yw'r gallu i ragweld. Felly, mae'r syniad eich bod chi'n aros bob chwe mis ac yna mae cynnydd enfawr, nid yw'n bosibl i chi ragweld hynny, allwch chi ddim cyllidebu ar ei gyfer, allwch chi ddim rhoi arian o'r neilltu. A braidd yn groes i’r amcan, am wn i, os oes gennych chi gynnydd llai yn raddol, mae'n llawer haws ei reoli. Felly, cyhoeddwyd hynny gan Ofgem fel cais hefyd. Ond rydym ni’n dweud yn y bôn, 'Pam na allwch chi gael cap sy'n gwahaniaethu ar gyfer modd?' Felly, os ydych chi ar fudd-daliadau lles, yna mae'r cap yn is, os ydych chi ar fesurydd rhagdalu, yna mae'r cap yn is, ac yn y blaen. Gallaf feddwl yn y fan a’r lle am nifer o ffyrdd y gallem ni wneud hynny a fyddai'n gwneud i hynny weithio, ac mae'n rhannu'r baich yn wahaniaethol oddi wrth y rhai sy’n cael eu taro fwyaf, y mae'n ymddangos ein bod ni bob amser yn rhoi'r baich mwyaf arnyn nhw, draw i'r rheini ohonom ni, fel y dywedodd Jane Dodds, sydd efallai’n gallu fforddio, neu o leiaf sy’n ei chael hi’n haws fforddio, y cynnydd i brisiau. Felly, dyna oedd y pwynt hwnnw.
O ran y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, un o'r rhesymau pam rydym ni'n cynnal y bwrdd crwn ar 17 Chwefror yw i nodi, ynghyd â'r holl asiantaethau cynghori a fydd yn cymryd rhan, sut y gallwn ni gael y cyngor hwnnw allan yn fwy effeithiol. Rydym ni’n gweithio gyda chydweithwyr mewn cynghorau hefyd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n gymwys i gael budd-daliadau eraill yn cael eu cyfeirio at y budd-daliadau hyn. Rwyf i wedi cael un neu ddau o gyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill—banciau ac yn y blaen—sy’n dweud y gallan nhw ei gael allan drwy’r ffordd honno, gan fod ganddyn nhw fecanweithiau hysbysu ar gyfer cwsmeriaid sy'n cael anawsterau dyled, y gallan nhw ddechrau eu cyfeirio at wasanaethau cynghori a fyddai'n eu cynorthwyo i gael cymorth grant gennym ni ac yn y blaen. Felly, rydym ni’n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar yr arian pan fydd ar gael, a dyna pam roeddwn i’n awyddus i ddweud bod pobl ar olew oddi ar y grid hefyd yn gymwys. Rwy'n credu ei fod yn aml yn fyth bod pobl yn meddwl nad ydyn nhw.
Ac yna, o ran y mater iechyd meddwl, eto, wrth gyfeirio at gyngor ar ddyledion, rydym ni’n cyfeirio gwasanaethau iechyd meddwl ar yr un pryd. Rydym ni wedi ariannu'r asiantaethau cynghori er mwyn rhoi pecyn cyfannol o gymorth i deuluoedd sy'n dod ymlaen, ac rydym ni mewn trafodaethau gyda nifer o feysydd eraill, y tîm o amgylch y teulu ac yn y blaen, mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd i wneud yn siŵr bod gweithwyr wedi'u henwi yn gallu helpu gyda chyfeirio hefyd. Yn aml, mae gan deuluoedd sydd mewn trafferthion broblem wirioneddol yn ei gyfaddef, ac rwyf i wir yn ofni hynny, yn y don benodol hon—. Hynny yw, mae hyn yn beth ofnadwy, yn gondemniad o'n cymdeithas, os caf i ddweud hynny. Mae gennym ni rai teuluoedd sydd wedi arfer gorfod gofyn am gymorth a chael rhyw fath o groen mwy trwchus ynghylch hynny—am beth ofnadwy i'w ddweud mewn cymdeithas gyfoethog. Mae gennym ni don arall o bobl na fydd wedi tyfu'r croen mwy trwchus hwnnw ac a fydd yn teimlo cywilydd ac embaras. Rwyf i yma i ddweud na ddylen nhw, nad yw'n ddim y maen nhw wedi ei wneud o'i le eu hunain, y dylen nhw ddod ymlaen a chael y cymorth y maen nhw wir yn ei haeddu, ac na ddylai pobl deimlo mai eu bai nhw yw'r ffaith nad ydyn nhw'n gallu ymdopi.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, sydd, wrth gwrs, yn amserol iawn. Hoffwn, yn gyntaf oll, ymuno ag Aelodau ar draws y Siambr i gydnabod yr anawsterau sy'n deillio o'r cynnydd i'r costau ynni hyn, a fydd yn taro llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad.
Fel rydych chi wedi tynnu sylw ato yn eich datganiad, Gweinidog, ceir problemau hirdymor, fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â nhw. Y cyntaf, y ffordd yr wyf i'n ei weld, yw sut y gallwn ni fel cenedl ynys Prydain Fawr ddod yn hunangynhaliol o ran ynni ac, wrth gwrs, y rhan y gallwn ni ei chwarae yma yng Nghymru i gyflawni'r nod hwnnw. Yr ail, yr ydych chi hefyd wedi ei gydnabod yn eich datganiad, yw'r mesurau y gellir eu cymryd i leihau ein dibyniaeth ar ddefnyddio ynni yn gyfan gwbl.
Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, sut ydych chi'n gweld eich swyddogaeth chi a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â'r materion hirdymor hyn, a sut gwnewch chi gyflymu eich cynlluniau i ddelio â'r cyfleoedd strategol a fydd yn dod yn sgil y rhain hefyd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am hynna, Sam. Yn sicr, ceir rhai problemau hirdymor. Mae'r holl fater ynghylch diogelwch ynni a bod yn hunangynhaliol o ran ynni yn sicr yn un ohonyn nhw. Ein bwriad, wrth gwrs, yw cael Cymru i'r pwynt lle mae'n allforiwr ynni net, felly rydym ni'n cynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru fel y gallwn ni ei allforio, ac mae ein holl anghenion yn cael eu diwallu yma.
Mae nifer o bethau y mae angen i ni eu gwneud o ran cynhyrchu ynni, ond mae pethau y mae angen i ni eu gwneud hefyd o ran lleihau defnydd. Mae hynny yn ymwneud â'r holl bethau yr ydym ni newydd sôn amdanyn nhw—ôl-osod wedi'i optimeiddio, gan wneud yn siŵr bod ein cartrefi yn addas i'r diben ac yn y blaen.
Mae hefyd yn ymwneud â newid arferion oes. Rwy'n dweud yn gyson wrth fy mhlant, 'Rwy'n gwybod mai LED yw ef, ond mae'n dal i ddefnyddio rhywfaint o drydan. Diffoddwch y golau pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell.' Rydych chi'n cael y math o agwedd 'siaradwch â'r llaw' yna rydych chi'n ei chael gyda phobl ifanc yn eu harddegau, ond rwy'n credu bod arferion oes yn bwysig: tynnu plygiau pethau nad ydych chi'n eu defnyddio, a sicrhau bod eich defnydd o ynni cyn lleied â phosibl—nid oherwydd eich bod chi'n dlawd neu oherwydd ei fod yn broblem, ond oherwydd ei fod o ddaioni i'r byd, mae o ddaioni i'r blaned. Po fwyaf o egni nad oes angen i ni ei gynhyrchu, gorau oll i'r blaned.
Felly, rydym ni'n cynnal rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd lawn gyda'n cyllideb garbon 2, sy'n dilyn y mathau hynny o newidiadau ymddygiad bach sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Byddwn yn ymgysylltu â'r sector masnachol ar hynny hefyd. Rydym ni wedi dod i'r arfer yn ystod yr ugeinfed ganrif o oleuo ffenestri ein siopau a'n trefi mewn ffordd nad yw'n gwbl angenrheidiol o bosibl wrth i ni fynd ymlaen i argyfwng hinsawdd.
Ond, yn y bôn, mae angen i ni gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy. Mae angen i ni fanteisio ar yr adnoddau naturiol helaeth sydd gennym ni o'n cwmpas, ac mae gennym ni nifer o raglenni ar waith i fanteisio ar ynni morol—ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, sy'n ddau beth gwahanol, rwyf i wedi ei ddysgu yn ddiweddar—gwynt, solar a'r gweddill.
Fe wnes i sôn yn gryno mewn ateb blaenorol, Dirprwy Lywydd, ein bod ni'n cael sgwrs barhaus gydag Ofgem, nid yn unig am y cap ar brisiau ynni a sut mae'n gweithio, er ein bod ni'n amlwg wedi cael nifer o broblemau gyda hynny, ond am y grid a'r angen i wneud hwnnw yn addas i'r diben ac i ganiatáu mathau gwasgaredig o gynhyrchu ynni, felly, cartrefi fel gorsafoedd pŵer. Mae hynny yn golygu bod yn rhaid i chi gael trefniant cyflenwi yn ogystal â threfniant darparu ar y grid. Felly, rydym ni'n cael sgyrsiau da am sut y gallwn ni sicrhau bod y pethau hynny yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac i gael y buddsoddiad ar waith i wneud hynny.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, mae argyfwng costau byw'r Torïaid yn effeithio ar bob un aelwyd yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr gyfarfod Ofgem y Gweinidog ar lawer o bynciau, ond yn enwedig o ran y pryderon ynghylch y mesuryddion rhagdalu a godwyd. Mae Ofgem wedi dweud y bydd taliadau ynni cyfartalog aelwydydd yn codi i £1,971 ym mis Ebrill, heb unrhyw gymorth uniongyrchol ar hyn o bryd yn y DU. Gyda'r DU wedi'i rhannu yn 14 gwahanol ranbarth prisio, lle mae'n costio gwahanol symiau i gael trydan a nwy i mewn i gartrefi pobl, ceir darnio prisiau cynhenid ledled Prydain.
Gweinidog, mae pobl Islwyn wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Lafur Cymru am ehangu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro ymlaen llaw i £200. Felly, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ddigonolrwydd, neu fel arall, ymateb Llywodraeth Dorïaidd y DU i'r argyfwng cost byw hwn? Sut mae rhewi lwfans tai lleol yn deg? Pa sylwadau pellach fydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth Dorïaidd y DU yn galw am newidiadau brys i'r ffordd y mae'r farchnad ynni yn cael ei rheoleiddio i gynorthwyo pobl Cymru? A sut gall Cymru arloesi a datblygu ymhellach gynlluniau ynni cymunedol sydd o fudd i gymunedau lleol, fel y cynllun ynni dŵr gwyrdd arfaethedig ar lwyfandir Aberbargod yn Islwyn? Diolch.
Diolch, Rhianon. Felly, fel y dywedais i, mae Jane Hutt a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn galw am bum cam eithaf syml: dileu'r costau polisi cymdeithasol ar filiau ynni'r cartref a'u symud i drethiant cyffredinol oherwydd, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, maen nhw'n dreth atchweliadol ac annheg iawn ar eu ffurf bresennol; cyflwyno terfyn uchaf ar dariff ynni domestig gwahaniaethol y mae Vikki Howells newydd sôn amdano, a chyflwyno gwell tariff wedi ei dargedu at gefnogi aelwydydd incwm is yn well; darparu rhagor a mwy o gymorth drwy'r gostyngiad cartrefi cynnes a chynlluniau taliad tanwydd gaeaf eraill, felly nid benthyciadau ond grantiau a thaliadau untro, i gyrraedd pobl; ehangu gallu cyflenwyr, yn bwysig iawn, i ddileu dyled ynni cartrefi a chyflwyno elfennau o arian cyfatebol i'r cynlluniau, gyda chostau'n cael eu talu gan Lywodraeth y DU; a chynyddu'r lwfans tai lleol, am yr holl resymau yr ydym wedi eu nodi. Nid ydym wedi cael ymateb hyd yn hyn. Byddaf yn ysgrifennu eto i atgoffa'r Ysgrifennydd Gwladol nad yw wedi ymateb eto.
Hoffwn i dynnu sylw hefyd, Rhianon, gan y gwnaethoch chi ei godi, y byddwn yn cael y £175 miliwn o gyllid canlyniadol o ganlyniad i'r ad-daliad o £150 ar gyfer cartrefi ym mandiau A i D. Fe wnes i ddweud, wrth ateb Janet Finch-Saunders, na fydd niferoedd mawr o bobl yn gallu manteisio ar hynny. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud y bydd y Cabinet yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio'r cyllid i gefnogi pobl y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Rebecca Evans yn edrych ar hynny gyda'i swyddogion.
Hoffwn atgoffa'r Senedd fod bil cyfartalog y dreth gyngor ym mand D yn Lloegr £167 yn uwch nag yng Nghymru eisoes, a bod gennym ni gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £244 miliwn ar waith, sy'n helpu 270,000 o aelwydydd yng Nghymru gyda biliau'r dreth gyngor, ac nad yw tua 220,000 yn talu dim o gwbl. Felly, rydym ni eisoes wedi datblygu'n sylweddol fwy—yn fy marn i—na'r cynnig pitw iawn gan y Llywodraeth Geidwadol.
Diolch i'r Gweinidog.