– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 8 Mawrth 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru gryfach, decach, wyrddach—cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bleser bod yn ôl yn y Siambr heddiw.
Yn y rhaglen lywodraethu, rydym ni'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod y tymor Seneddol hwn i helpu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a bod pawb yn cael cyfle i gyrraedd eu potensial. Heddiw, mae hi'n bleser gennyf lansio'r cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, i nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Mae hwn yn amlygu ein blaenoriaethau o ran polisi a buddsoddi, ynghyd â sut yr ydym yn disgwyl cynyddu ein pwyslais ar gyflawni ac ar weithgarwch ein partneriaid. Ac rydym ni'n gwneud hyn wrth adeiladu ar y gwelliant sylweddol sydd wedi bod yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddiad y cynllun diwethaf yn 2018.
Cyrhaeddodd anweithgarwch economaidd ei gyfradd isaf erioed yn 2018, ac fe ostyngodd yn is na chyfradd y DU am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018. Erbyn diwedd 2019, roeddem ni wedi cyrraedd ein nod o gau'r bwlch diweithdra gyda'r DU, ac mae'r cyfraddau yn parhau i fod yn is na rhai'r DU heddiw. Ac roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer chwarter olaf 2021 yn uwch nag ar unrhyw gyfnod cyn cyflwyno'r cynllun diwethaf ym mis Mawrth 2018. Ac, wrth gwrs, mae cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant erbyn hyn yn agos at y gyfradd uchaf a gofnodwyd erioed. Mae cyfran y bobl rhwng 18 a 64 oed heb unrhyw gymwysterau wedi gostwng mwy na 1 y cant, ac mae cyfran y rhai sydd â chymwysterau addysg uwch wedi cynyddu 4 y cant.
Rydym ni'n nodi ein cynllun newydd heddiw yng nghyd-destun y ffaith nad yw effeithiau COVID-19 ar y farchnad lafur wedi bod mor ddifrifol ag yr ofnwyd, ac mae cynnydd mawr wedi bod o ran cyflogi gweithwyr unwaith eto. Mae hyn wedi arwain at y gymhareb isaf erioed o ddiweithdra i swyddi gwag yn y DU. Serch hynny, wrth edrych ymlaen, rydym ni'n wynebu nifer o risgiau a heriau newydd: cyfraddau uchel o swyddi gwag, prinder gweithwyr allweddol, poblogaeth sy'n heneiddio, a mwy o bobl yn gadael y farchnad lafur cyn eu hamser oherwydd afiechyd—ac yn enwedig y rhai dros 50 oed.
Mae gorbenion busnes cynyddol, yr argyfwng costau byw ac effeithiau ar safonau byw i gyd yn heriau y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw. Ac, wrth gwrs, y gwirionedd trist amdani yw bod yr ymosodiad ar Wcráin yn nodi dechrau'r argyfwng dyngarol mwyaf ar ein cyfandir mewn degawdau. Ar yr un pryd, mae mynediad anghyfartal a darpariaeth annigonol o waith teg a'r bwlch cyflog o ran rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd yn dal i fodoli. Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng grwpiau, fel cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.
Nawr, wrth fynd i'r afael â'r cynllun, rwy'n gwybod na allwn, o gyllideb Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i'r holl filiynau a gollwyd oherwydd y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cadw ei haddewidion i Gymru o ran ariannu yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Fel y gŵyr yr Aelodau, fe fydd Cymru yn colli tua £1 biliwn dros y blynyddoedd nesaf, ac fe fyddai llawer o'r arian hwnnw a gollodd Cymru wedi cael ei fuddsoddi mewn gwella cyflogadwyedd a sgiliau. Mae hynny'n golygu fy mod i, ynghyd â fy nghyd-Weinidogion, wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ran blaenoriaethu cyllidebau, ar gyfer parhau i fuddsoddi yn ein pobl ni a'u sgiliau. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgeisiau tîm Cymru o ran buddsoddi yn nhalent ein pobl a chael y £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y pleidiau ar draws y Senedd hon yn unfryd yn y pen draw o ran y mater allweddol hwn ar gyfer dyfodol y bobl yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli.
Mae cefnogi pobl i aros mewn gwaith, dechrau neu symud ymlaen gyda chyflogaeth, a chynyddu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd yn hanfodol i chwyddo'r gronfa o dalent sydd ar gael, a chefnogi pobl i gael gwaith teg a chynnydd yn y farchnad lafur. Mae'r gallu i gael gafael ar waith teg yn cefnogi incwm a bywoliaeth aelwydydd yn ogystal ag iechyd a lles y gweithwyr.
Mae'r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, a ddylai ein harwain ni at ein cerrig milltir i'r tymor hwy. Y cyntaf o'r rhain yw darparu gwarant i bobl ifanc o ran diogelu cenhedlaeth gyfan rhag effeithiau addysg a gollwyd ac oedi cyn dechrau ar gyflogaeth. Rwy'n falch o lansio Twf Swyddi Cymru+ heddiw yn rhan o hynny. Fe fydd hyn yn darparu'r elfennau mwyaf llwyddiannus o'r rhaglenni hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru i gynnig y cymorth gorau posibl i bobl ifanc.
Yr ail yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd, gan roi mwy o bwyslais ar helpu'r rhai sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith, i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, a chymunedau ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â lefelau sgiliau is. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar batrwm Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wrth gefnogi cyflogaeth a pharhau â'n dull o bartneriaeth gydag awdurdodau lleol.
Y trydydd yw hybu gwaith teg i bawb, gan ddefnyddio ein hysgogiadau i wella'r cynnig sydd ar gael i weithwyr. Mae hynny'n cynnwys cyflwyno'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus ac, wrth gwrs, parhau â'n hanogaeth i gyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, gwell, tecach ac yn fwy sicr.
Y pedwerydd yw rhoi mwy o gymorth i bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor allu canfod gwaith. Mae hyn yn cynnwys angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr a phartner y rhwydwaith cyflenwi hefyd, i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr gofal iechyd.
A'r olaf yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd ein gweithlu drwy ehangu addysg hyblyg a phersonol i bobl sydd mewn gwaith ac allan o waith i wella eu sgiliau nhw, a dod o hyd i waith neu ailhyfforddi. Yr wythnos diwethaf, fe estynnodd Llywodraeth Cymru'r cynnig gofal plant i allu cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i fwrw ymlaen â'n blaenoriaethau yng nghynllun 2018 i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, a chynyddu cyfraddau cyflogaeth pobl anabl, a cheisio diogelu'r cyflenwad o bobl a sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynllun hwn yn ymateb i randdeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu fframwaith buddsoddi rhanbarthol Cymru, y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'r adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19'.
Wrth symud ymlaen, mae angen i ni weithio yn ddoeth a gyda'n gilydd bob amser i wneud y defnydd gorau o'n pobl a'n hadnoddau. Fe fydd y cynllun hwn yn helpu ein partneriaid ni i gysoni eu gweithgareddau â'n blaenoriaethau, ac yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi yn hytrach nag yn sefyll yn ffordd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae elfennau o'r cynllun hwn yn cael eu cynnwys yn y cytundeb cydweithredu, a phan fo hynny'n berthnasol fe fydd y polisïau hyn yn cael eu datblygu gyda Phlaid Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru i ddatblygu a goruchwylio maes gweithredu polisi traws-Lywodraethol gwirioneddol yng nghwrs y rhaglen lywodraethu hon.
Ein pobl yw ein mantais fwyaf ni, ac ni all Cymru ffynnu os na cheir mwy o gydraddoldeb o ran y gallu i ddysgu, hyfforddi a symud ymlaen yn y gwaith. I wireddu hyn bydd angen ymdeimlad cyffredin o genhadaeth gan bob partner, ar gyfer manteisio hyd yr eithaf ar ein hadnoddau i sicrhau Cymru gryfach, decach, wyrddach, gydag economi sy'n gweithio i bawb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad brynhawn yma? Mae'r datganiad heddiw yn ei gwneud hi'n eglur y bydd cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn cael ei wreiddio yn yr egwyddor o degwch a gyda'r bwriad o fynd i'r afael â newid hinsawdd a chreu economi lawer gwyrddach, ac felly rwy'n croesawu cynllun heddiw a'i bum maes allweddol. Dyma'r union adeg iawn i osod y sylfeini ar gyfer newid o ran darparu sgiliau i arwain at y manteision hynny yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni'n gallu manteisio ar gyfleoedd, ac rwy'n falch bod un o'r pum maes blaenoriaeth yn y datganiad heddiw yn cyfeirio at y warant i bobl ifanc, sydd â'r gallu i fod yn gyfrwng i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc mewn sectorau a diwydiannau na fydden nhw efallai wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cyfleoedd hyn yn berthnasol i'r sgiliau sydd eu hangen arnom ni yma yng Nghymru, a bod pobl ifanc yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn meysydd sy'n ystyrlon. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae'r warant i bobl ifanc yn cael ei holrhain ar gyfer cadw golwg ar ei heffeithiolrwydd, a sut bydd honno'n sicrhau y bydd pobl ifanc yn ennill y sgiliau iawn ar gyfer y dyfodol.
Wrth gwrs, fe ddylai unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau gysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r sector ôl 16 yng Nghymru, ac fe fydd yn gweithio i gysoni addysg a hyfforddiant yn nes at anghenion y cyflogwyr. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut y bydd y cynllun hwn yn cysylltu â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a pha drafodaethau y mae ef yn ei gael gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â hynny ac ynglŷn â'r mater ehangach o gysoni addysg a hyfforddiant ag anghenion y cyflogwyr hefyd?
Nawr, un o feysydd allweddol y cynllun yw o ran hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogwyr i wneud gwaith yn fwy diogel, yn well, yn decach ac yn fwy sicr. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni faint o arian sydd wedi ei ddyrannu i gyflawni'r nod penodol hwn, a sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu mewn gwirionedd.
Nawr, mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ganolog i gynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw o ran cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r galw sydd am sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, yn ogystal ag o ran nodi prinderau a chynghori ar sut i fynd i'r afael â'r prinderau hynny. Mae'r Aelodau yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol yn y Senedd ddiwethaf, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran argymhellion yr adroddiad hwnnw, ac efallai y gwnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am waith y partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar hyn o bryd.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol ei bod hi'n Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd, ac mae'n siomedig nad oes sôn am bolisi Llywodraeth Cymru o ran gyrfaoedd. Ac efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni sut bydd y cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau a strategaethau eraill, fel ei bolisi gyrfaoedd, parthau menter, bargeinion dinesig a thwf a rhaglen Twf Swyddi Cymru+, a lansiwyd heddiw hefyd.
Nawr, un o bum maes y cynllun yw cynyddu cyfraddau sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu, ac rwy'n falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru yn ehangu'r cyfleoedd o ran addysg hyblyg a phersonol. Mae pryder weithiau ein bod ni'n canolbwyntio ar ddarparu sgiliau'r rhai sy'n gadael yr ysgol, ac mae'n rhaid i ni ystyried bod datblygu sgiliau yn rhaglen barhaus drwy gydol oes waith yr unigolyn. Ac felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog cyflogwyr i ddatblygu dull o uwchsgilio a dysgu sy'n barhaus.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cyfeirio at gymryd camau i angori'r gwasanaeth iechyd yn well, fel cyflogwr ac yn rhan o'r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag mynd yn ddi-waith, neu golli gwaith oherwydd cyflwr iechyd. Ac mae hi'n hanfodol bod mwy o gymorth ar gael i rai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am gamau cychwynnol Llywodraeth Cymru yn y maes arbennig hwn.
Mae'r datganiad yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd hefyd, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl, pobl ethnig leiafrifol, menywod a'r rhai sydd â sgiliau isel. Un o'r cerrig milltir o ran mesur llwyddiant y cynllun yw cau'r bwlch cyflog rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa mor hyderus yw ef y bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.
Dirprwy Lywydd, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn eglur iawn fod symud at economi carbon isel, sero-net yn flaenoriaeth, ac, fel y dywedais i o'r blaen, rwyf i o'r farn bod angen cynnal archwiliad sgiliau sero-net ar gyfer nodi'r bylchau o ran sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau y bydd eu hangen ar ein heconomi. Ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r wybodaeth honno, ac os yw'n gwneud hynny'n rhan o'r cynllun hwn.
Dirprwy Lywydd, mae'r Gweinidog yn iawn, ein pobl ni yw ein mantais fwyaf ni, a dyna pam mai nawr yw'r amser i fuddsoddi yn ein tirlun sgiliau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog yn adeiladol i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd o ran addysg a hyfforddiant hanfodol ledled Cymru. Diolch i chi.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf i am ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf i heb drethu amynedd y Dirprwy Lywydd.
Felly, ynglŷn â'ch pwyntiau cychwynnol, o ran y warant i bobl ifanc, mae honno'n elfen allweddol, yn amlwg, o'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau. Ac nid yn unig yn y cynllun heddiw, ond yn fy natganiadau blaenorol ar y warant i bobl ifanc, rwyf i wedi nodi mai Cymru'n Gweithio sy'n rhedeg y warant a'r gwasanaeth paru swyddi, a'r ystod o bethau sy'n mynd rhagddyn nhw yn y fan honno. Ac fe fyddwn ni'n cael data, fel y dywedais i yn y datganiad blaenorol, a fydd yn helpu i ddangos nifer y bobl sy'n dod trwodd, ond y mathau o ganlyniadau y credwn y byddwn ni'n gallu eu cael hefyd.
Ac rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am Twf Swyddi Cymru+. Mae honno'n rhaglen newydd, sy'n cyfuno'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru, i helpu pobl i gael gwaith neu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith yn y lle cyntaf. Ac rydym ni wedi dysgu am y gefnogaeth y bydd ei hangen ar wahanol bobl ar wahanol adegau i sicrhau eu bod nhw'n barod i fynd ymlaen a chaffael y sgiliau hynny neu fynd i fyd gwaith. Felly, fe fydd yr elfen o gymorth i'r unigolyn yn bwysig i ni.
Nawr, rwy'n llwyr ddisgwyl, yn y Siambr hon, ac yn y pwyllgor yr ydych chi'n ei gadeirio, yn gwisgo het ychydig yn wahanol, mae hi'n ddigon posibl y bydd diddordeb gennych chi yn hyn, ac fe fyddwn i'n disgwyl i hynny fod yn wir drwy'r flwyddyn gyntaf, ond wrth i ni fwrw ymlaen drwy weddill y tymor hwn, i allu deall y mathau o ganlyniadau yr ydym ni'n eu cael ac a ydym ni'n dysgu wrth i ni fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i helpu i wella'r cynnig y bydd y rhaglen yn ei roi i bobl. Oherwydd yn hyn o beth, yn fy marn i, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y pleidiau yn y Siambr o ran yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yn y pen draw, sef mwy o bobl mewn gwaith ac mewn gwaith da, gyda darpariaeth well i unigolyn gaffael ac yna barhau i ennill sgiliau drwy gydol ei oes waith.
Ac mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi ynglŷn â'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Rwy'n hapus i allu cadarnhau i chi fy mod i wedi cwrdd â'r Gweinidog addysg cyn cyhoeddiad y cynllun hwn, a chyn trafodaeth y Cabinet a gytunodd ar hyn, ac rydym ni'n gweld bod gwaith sylweddol i'w wneud ar y cyd â'r hyn y bydd y comisiwn newydd yn ei wneud. Oherwydd yn rhan o'r hyn y bydd angen i ni ei wneud i helpu i wella sgiliau pobl, fe gaiff llawer o hynny ei wneud ym maes addysg erbyn hyn. Felly, fe fydd angen i ni ddeall yr hyn y byddwn ni'n ei wneud ochr yn ochr â nhw a sut y bydd hynny'n eu galluogi nhw i gyflawni ar ein cyfer ni. Wrth gwrs, fe fydd addysg bellach yn un o'r partneriaid allweddol wrth gyflwyno rhaglen Twf Swyddi Cymru+.
Ac o ran eich pwynt am bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydych chi wedi sôn amdanyn nhw droeon, rwyf i wedi cwrdd â'r holl bartneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac rwyf i wedi cwrdd â'r holl grwpiau rhanbarthol a arweinir gan awdurdodau lleol yn y cyd-bwyllgorau newydd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r bargeinion dinas. Ac un o'r pethau sydd, yn fy marn i, wedi bod yn gadarnhaol iawn yw eu bod nhw i gyd, ymhlith holl wahanol arweinwyr gwleidyddol yr awdurdodau lleol, yn ystyried y partneriaethau rhanbarthol sydd ganddyn nhw mor allweddol i'w dyfodol rhanbarthol nhw, ac maen nhw'n cydnabod bod hynny'n ychwanegu at yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn hytrach na'i chwalu. Ac maen nhw i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ac yn deall y cyfleoedd sy'n bodoli i fusnesau yn eu hardaloedd nhw, ac yn ceisio deall wedyn sut y byddwn ni'n cyfateb hynny i anghenion y busnesau o ran sgiliau. Felly, maen nhw'n rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i redeg y system yn llwyddiannus—sef sgiliau cynharach, ond, yn hollbwysig, datblygu sgiliau i bobl yn y gweithle hefyd.
Ac rwyf i o'r farn bod hynny'n dilyn ymlaen mewn gwirionedd ar eich pwynt chi ynglŷn â chyflogwyr yn buddsoddi yn eu gweithlu yn y dyfodol ac ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae gweithlu'r dyfodol i raddau helaeth iawn gyda ni'n barod. Y gweithwyr sydd eisoes yng ngweithle heddiw a fydd gyda ni ymhen pum mlynedd a 10 mlynedd. Felly, fe fydd angen parhau i fuddsoddi ynddyn nhw. A dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu gwneud wrth nodi ein cynllun ni heddiw: helpu i roi sefydlogrwydd i gyflogwyr ar gyfer gwneud eu dewisiadau eu hunain, ond iddyn nhw allu bod yn eglur hefyd ynghylch sut y gallan nhw fod â rhan gynorthwyol wrth ddylanwadu ar ein hagenda ni ein hunain ar gyfer y ddarpariaeth sgiliau.
Ac rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt hefyd ynglŷn â nid dim ond y cynllun hwn yn unigol ond ochr yn ochr ag ymyriadau eraill. Felly, i roi enghraifft i chi, mae gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb arbennig yn y cynllun hwn, nid yn unig am fod uchelgeisiau'r Llywodraeth gyfan neu ei hetholaeth hi yn bwysig iddi, ond, er enghraifft, y rhaglen ôl-ffitio tai, a ddylai wneud gwahaniaeth o ran gwario arian i wella effeithlonrwydd cartrefi pobl, i wneud eu cartrefi yn gynhesach a llai costus i'w ffitio. Mae digonedd o waith i'w wneud eto yn y rhaglen honno hefyd, ac rydym ni'n awyddus i sicrhau bod y sgiliau cywir gennym ni i bobl ymgymryd â'r rhaglen honno ar gyfer anghenion y dyfodol y gwyddom ni y bydd eu hangen nhw hefyd. Felly, mae angen swyddi a darpariaeth sgiliau.
Ac yn ddiweddar, fe ymwelais i nid â rhaglen ôl-ffitio, ond rhaglen adeiladu newydd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Wates, sy'n bartner yn y rhaglen Cartrefi Caerdydd. Ac maen nhw'n cynnig prentisiaethau ar y safle hwnnw—mae pobl yn cael eu hyfforddi heddiw yn y ffordd y caiff cartrefi eu hadeiladu, ac fe fydd y bobl hynny'n gweld mai dyna'r byd y byddan nhw'n parhau i weithio ynddo i'r dyfodol. Felly, rydym ni'n gweld swyddi ac elw o ran hyfforddiant eisoes wrth wella'r stoc newydd o dai, yn ogystal â'r angen i wella'r stoc o dai sydd gennym ni'n barod. Ac fe ddylech ddod o hyd i'r enghreifftiau hynny drwy'r ffordd y mae'r cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill gan y Llywodraeth. Ni fydd hyn yn llwyddo os mai dim ond fy adran i sy'n gweithio tuag ato.
Ac o ran yr her ynglŷn ag anghydraddoldeb economaidd, dyma un o'r pethau allweddol y gwyddom ni fod angen i ni fynd i'r afael ag ef. Gyda'n rhaglen gyfredol ni, y rhaglen Cymunedau dros Waith, mae anabledd neu gyflwr gofal iechyd cyfyngol gan 40 y cant o'r bobl a gafodd gymorth a chefnogaeth yn y rhaglen honno sy'n rhwystr iddyn nhw gael gwaith. Fe wyddom ni fod llawer o bobl yn cael cymorth gan ein rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, gan helpu rhieni i gael addysg lle mae gofal plant yn rhwystr iddyn nhw, ac fe wnes i gyfarfod â rhai o'r bobl hynny heddiw, wrth i ni lansio'r rhaglen. Felly, rydym ni'n mynegi yn bwrpasol sut rydym ni am geisio lleihau anghydraddoldeb economaidd wrth gyflawni'r cynllun hwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Nawr, rwy'n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ynglŷn â rhai o'r pwyntiau eraill a wnaeth ef, gan gynnwys y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i wella sgiliau sero-net a'r gwaith yr wyf i'n ei wneud gyda Gweinidogion newid hinsawdd yn y maes hwnnw. Ond rwy'n gallu gweld o'r olwg ar ei wyneb fod y Dirprwy Lywydd yn gofyn yn garedig i mi fod yn ddirwyn i ben a chaniatáu i'r cwestiwn nesaf gael ei ofyn.
Rwy'n hapus bob amser i chi roi atebion cryno, Gweinidog.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae llawer i'w groesawu yn hyn, ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau. Fe geir cysylltiad cryf rhwng ennill cyflogaeth o ansawdd uchel ac iechyd meddwl: mae 43 y cant o bobl ddi-waith yn dweud eu bod nhw'n cael problemau ag iechyd meddwl, o'i gymharu â 27 y cant o bobl mewn cyflogaeth. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi bod colli gwaith, a ddigwyddodd yn fynych yng Nghymru dros gyfnod y pandemig, yn brofiad dirdynnol ym mywyd rhywun ac yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar ei iechyd meddyliol. At hynny, fe achosir rhagor o niwed pan fydd diweithdra yn para i'r hirdymor.
Gweithwyr ar gyflogau isel oedd y rhai mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo neu golli eu swyddi, ac mae'r grwpiau a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o ddyled broblemus cyn y pandemig mewn mwy fyth o berygl erbyn hyn. Fe ddylai mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ariannol hyn ar y pen hwn i'r pandemig fod ar flaen ein hagenda wleidyddol ni. Er hynny, nid yw ennill cyflogaeth yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid i ni warantu bod y gyflogaeth honno'n deg ac yn gyfiawn. Erbyn hyn, mae hanner y bobl sydd mewn tlodi yn byw mewn teuluoedd sy'n gweithio. Mae pobl yn cael eu cadw mewn tlodi gan gyflogau isel, contractau dim oriau ac ansicrwydd o ran swyddi. Mae hyrwyddo gwaith teg yn ardderchog, ond fe hoffwn i'r Gweinidog fanylu ryw ychydig ac amlinellu sut y caiff gwaith teg ei warantu, gan gynnwys diogelwch swyddi, a chyfle i gael addysg a hyfforddiant ac ymgynghori â staff a'u cynrychioli. Sut yn union y caiff y rhain eu gwarantu?
O ran yr economi werdd, nid yw mewnforion olew a nwy o Rwsia wedi'u cynnwys yn llawn ar hyn o bryd yn sancsiynau economaidd y DU yn erbyn Rwsia, oherwydd pryder effaith hynny ar economi'r DU, yn arbennig felly gan ein bod ni eisoes yn gweld argyfwng costau byw a ysgogwyd i raddau helaeth gan gostau ynni cynyddol. Mae rhai adroddiadau yn awgrymu y bydd hyn yn newid heddiw, ond mae effaith ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil o Rwsia yn aruthrol. Mae Shell yn cyfrif bod yr allforion presennol a phrisiau llif i ddemocratiaethau gorllewinol yn helpu i ariannu tanc T-90 i Rwsia bob 20 munud. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithwraig Liz Saville-Roberts AS wedi bod yn ei godi yn rhinwedd ei swydd yn San Steffan, ac mae hwn yn bwnc y mae Adam Price wedi siarad amdano eisoes, ac, i ailadrodd ei eiriau ef,
'na ddylid dadlwytho diferyn o olew Rwsia i Gymru...tra bod gwaed pobl ddiniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin'.
Ond mae'r trafodaethau hyn wedi codi cwestiynau am ein dibyniaeth ni ar danwydd ffosil, a hynny'n briodol. Mae'n rhaid i ni ehangu ein heconomi carbon isel adnewyddadwy ni, a fydd, gobeithio, â rhan yn y gwaith o wneud felly. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar unwaith ac yn barhaus ym maes technolegau'r dyfodol yma yng Nghymru, a chreu swyddi gwyrdd drwy bontio sy'n gwneud cyfiawnder. Mae'r bwlch sgiliau yng Nghymru yn un o'r rhwystrau sy'n ein hatal ni rhag symud ar y gyfradd gyflymach hon oddi wrth danwydd ffosil, mater y mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi tynnu sylw ato, mater y gwn i fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Yn benodol, sut ydym ni am lenwi'r bylchau hyn o ran sgiliau? Sut y caiff y bylchau hyn eu llenwi ar frys i ni allu ehangu ein heconomi adnewyddadwy, carbon isel ni'n sylweddol?
Ac, yn olaf, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, ac mae menywod yn parhau i wynebu rhwystrau economaidd. Mae ein system economaidd ni, ein strwythurau ni a'n polisïau ni'n parhau i ail-lunio ac atgynhyrchu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r data diweddaraf gan Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gwaethygu yn ystod 2021. Fe gynyddodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 11.8 y cant i 12.3 y cant. Fe gynyddodd cyflog canolrifol fesul awr menywod gan 34c rhwng 2020 a 2021, yn is na'r cyfartaledd o 42c, tra bod dynion wedi cynyddu gan 49c. Ac mae hwn yn bwynt yr wyf i wedi tynnu sylw ato o'r blaen yn y Siambr hon, ond mae angen ei ailadrodd: o 2021 ymlaen, mae dynion yn ennill mwy na menywod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Fe ddylai'r ffigurau hyn dynnu ein sylw ni at y ffaith nad yw'r cynnydd tuag at ddiddymu anghydraddoldeb incwm yn gyson, yn sicr nac yn gyflym, ac mae'n rhaid i ni, felly, sicrhau ein bod ni'n rhoi ystyriaeth i farn ac anghenion menywod mewn cynlluniau fel rhain. Rwy'n pryderu, wrth i ni symud tuag at economi werdd, y gallai'r ffigurau hyn barhau i waethygu, gan ei bod hi'n hysbys fod y bylchau mwyaf rhwng y rhywiau yn digwydd mewn amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, adeiladu a thrafnidiaeth—meysydd a fydd yn allweddol ar gyfer pontio gwyrdd, lle bydd y swyddi a'r sgiliau newydd yn ymgasglu. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw menywod yn cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd.
Felly, yn olaf, rwy'n gofyn i'r Gweinidog: sut mae'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd sylweddol? Sut ydym ni am annog menywod yng Nghymru i ddilyn addysg pynciau STEM? Sut ydym ni am warantu cyflogaeth deg a gwyrdd i fenywod? A sut ydym ni am sicrhau nad ydyn nhw'n cael eu hepgor o'r cyfnod pontio gwyrdd? Ac wrth gwrs, os nad yw'r cynllun hwn am fynd i'r afael â'r materion hynny, a wnaiff y Gweinidog ystyried ehangu'r cynllun hwn i gynnwys ychwanegiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd mewn cyflogaeth a hyfforddiant, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?
Diolch i chi am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n cydnabod bod gwaith, a gwaith ystyrlon yn arbennig felly, yn elfen warcheidiol o ran iechyd meddwl pobl. Nid yw'n gwarantu hynny, ond fe wn y gall gwaith diwerth fod ag effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl hefyd. Fe wn i o'm gyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth, pan welais i bobl a oedd yn gweithio mewn gweithle truenus yn cael profiadau anodd yn y gwaith a fyddai nid yn unig yn effeithio ar eu gwaith nhw, ond ar eu bywydau cyfan a'u hamgylchiadau hefyd, yn ogystal â'r bobl y maen nhw'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw. Ac mae hynny'n arbennig o wir pan fydd pobl mewn gwaith sydd â thâl pitw hefyd. Felly, mae gwaith teg yn un o'r pum agwedd allweddol sydd gennym ni yn y cynllun.
Fe geir rhai pethau y gallwn ni eu gwneud ein hunain mewn ffordd ychydig yn fwy uniongyrchol. Felly, mae'r GIG, er enghraifft, yn gyflogwr cyflog byw, yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Rydym ni'n gwneud mwy yn y system gofal cymdeithasol o ran sicrhau bod gan bobl gyflogau parchus a gwell. Rydym ni'n ceisio sicrhau ein bod ni'n adeiladu ar y bartneriaeth gymdeithasol a luniwyd gennym ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyflymwyd ac a gryfhawyd yn ystod y pandemig, i geisio sicrhau ein bod ni'n cyflawni o ran sicrhau bod Cymru yn wlad o waith teg mewn gwirionedd.
Mae ein staff ni'n cael eu talu mewn ffordd arbennig; rydym ni'n gwybod na allwn ni ddylanwadu ar bob cyflogwr yn y sector preifat. Serch hynny, mae angen i ni fod yn eglur gyda'r enghreifftiau o'r hyn yr ydym ni'n barod i'w wobrwyo a'i argymell a dweud, 'Fel hyn y dylai hi fod.' Rwyf i wedi gweld rhagor yn hynny o beth yn y ffordd y mae'r Contract Economaidd yn gweithio ac yn cael ei gryfhau. Felly, rwy'n disgwyl bod â mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl yn y sector preifat lle gwneir y rhan fwyaf o ddewisiadau o ran cyflogau, wrth gwrs. Ac ar yr un pryd, rwy'n credu y byddwn ni'n gallu gwneud mwy ym maes caffael, ac mae hwnnw'n fater y mae'r Gweinidog cyllid yn arwain arno ac mae gan Weinidogion ar draws y Llywodraeth ddiddordeb gwirioneddol yn hynny. Felly, rwy'n credu y byddwch chi'n canfod, nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yn fwy cyffredinol yn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ein bod ni wedi gwir ymrwymo i hynny, yn ogystal ag i ymyriadau unigol fel Cymru Iach ar Waith ac Amser i Newid Cymru, y mae fy adran i'n ei ariannu ar y cyd, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, fel y Gweinidog arweiniol.
O ran y sylwadau a wnaethoch chi am ryfel Putin a'r ymosodiad ar Wcráin, rwy'n llwyr gydnabod y ceir heriau o ran prisiau cynyddol y bydd y rhyfel yn eu gwaethygu. Roedd yr argyfwng costau byw gyda ni eisoes cyn yr ymosodiad ar Wcráin. Fe waethygir y sefyllfa oherwydd fe fydd yna lai o gyflenwad olew a nwy o Rwsia. Un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu derbyn yw, os ydym ni o'r farn ei bod hi'n anghyfiawn i ni brynu olew a nwy oddi wrth Rwsia ac i hynny helpu i ariannu'r rhyfel hwnnw, yna fe fydd hynny'n golygu y bydd yna heriau o ran y cyflenwad ynni yn y wlad hon hefyd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r pwynt am ddiogelwch ynni a'n gallu ni i gynhyrchu mwy o'n hynni ein hunain a bod yn llai dibynnol ar gyflenwad o olew a nwy o rannau eraill o'r byd. Dyma un o'r pethau yr oedd Gweinidogion eisoes, hyd yn oed cyn yr argyfwng ofnadwy yn Wcráin, yn eglur iawn yn ei gylch ac yn awyddus i wneud yn fawr o'n hasedau ni ein hunain.
O fewn hynny, fe geir heriau, wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn sgiliau ac yn y seilwaith sydd ei angen arnom ni. Fe wyddom ni ein bod ni eisoes yn y sefyllfa o fod â dros hanner ein hanghenion ni o ran ynni, rwy'n credu, yn cael eu darparu o ffynonellau adnewyddadwy yn rheolaidd. Yr her wedyn yw faint yn fwy y gallwn ni ei wneud, faint yn fwy dibynadwy y bydd angen i hwnnw fod, sut y gallwn ni gael buddsoddiad gan y sector preifat yn ogystal â'r sector cyhoeddus y bydd ei angen i fanteisio ymhellach ar ynni gwynt, ynni morol, ac ynni'r llanw hefyd, ac yna'r sgiliau sy'n cyd-fynd â hynny. Mae honno'n sgwrs gylchol i ryw raddau oherwydd mae angen i ni ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd gyda buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi gyfan ar gyfer y diwydiannau hynny a gaiff eu creu pan fydd rowndiau newydd yn cael eu gwerthu ar ocsiwn gan Ystâd y Goron o ran gwynt ar y môr. Sut ydym ni am sicrhau wedyn ein bod ni'n deall yr hyn y bydd y cwmnïau hynny'n ei wneud a phryd y gallwn ni fuddsoddi yn ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod y cyflenwad sgiliau ar gael i bobl?
Un enghraifft o hynny'n mynd o'i le, wrth gwrs, yw Wylfa Newydd, y prosiect a oedd gan Hitachi. Fe wnaethom ni fuddsoddi mewn llawer o sgiliau, ac fe fyddai'r hyn yr oeddem ni'n ei wneud yno wedi gwneud synnwyr pe byddai'r prosiect wedi cael ei wireddu. Pan na ddigwyddodd hynny, roeddem ni i bob pwrpas wedi dod â chymuned o bobl gyda ni ar daith na ddaeth i'w diwedd bryd hynny. Eto i gyd, mae hynny'n dangos, yn fy marn i, lle ceir rhywfaint o sicrwydd gennym ni ynglŷn â'r dewisiadau mawr iawn hynny o ran buddsoddiad, fe allwn ni sicrhau bod yr ysgogiadau sydd gennym ni ar gael i helpu pobl at yr hyn a ddylai fod yn waith da i'r dyfodol. Rydym ni eisoes yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw gan ein bod ni'n gwybod y bydd angen i ni wneud mwy hyd yn oed i gyflymu'r broses o bontio at economi ddi-garbon, ac yn arbennig sut y cawn ni fwyaf o fudd yn sgil y ffynonellau o ynni adnewyddadwy.
Rwyf i am orffen gyda'ch pwyntiau chi ynglŷn â menywod a'r bwlch cyflog. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn yn fy oes waith i weithio gyda nifer o fenywod, a chael fy arwain a fy rheoli gan fenywod yn y gweithle, ac mae gennyf i lawer o falchder yn fy ngwraig sy'n fenyw o gyflawniad gwirioneddol yn ei busnes hi. Mae hi'n arweinydd a rheolwr llawer gwell yn y gweithle nag yr oeddwn i erioed. Ond, mewn gwirionedd, fe wyddom ni fod gennym ni anghydraddoldebau sylweddol o hyd o ran rhyw, nid yn unig o ran arian, ond yn y ffordd yr ymgymerir â swyddi arweiniol a'r diwylliant ymysg gweithluoedd ac mewn gweithleoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn hybu cyfleoedd i fenywod a merched chwilio am yrfaoedd mewn meysydd lle nad ydyn nhw wedi gweithio yn y gorffennol, mewn adeiladu, neu feysydd STEM neu, yn wir, mewn technoleg ac mewn technoleg ariannol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i dramor yn ddiweddar ac wrth edrych ar rywfaint o'r ymgyrchu a wnawn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ynghylch Expo y Byd yn Dubai, roeddwn i'n falch iawn o weld menywod Cymru yn ffigurau blaenllaw mewn technoleg ariannol, yn rhedeg y cwmnïau hynny ac yn rhoi cynnig ar ddangos eu bod nhw'n gwneud rhywbeth nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond er mwyn y sector cyfan lle gellid ac y dylid cydnabod eu sgiliau nhw. Rwyf i o'r farn y byddwn ni'n gweld mwy o hynny yn y dyfodol, i bawb sylweddoli y gallwch chi fod fel unrhyw un llwyddiannus a welwch chi, ac mae'r Llywodraeth ar eich ochr chi i wneud yn siŵr y byddwch chi'n cael yr hyn yr ydych chi'n ei haeddu, yn union yr un fath â'r unigolyn agosaf atoch chi, yn wryw neu'n fenyw.
Yn dilyn ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf i eisiau ceisio archwilio sut y byddwn ni'n cau'r bwlch rhwng y rhywiau o ran peidio â bod â menywod mewn un adran o'r gweithlu a dynion yn y llall, oherwydd mae angen—. Fe fyddai ychydig mwy o gymysgu o fudd i'r gymuned gyfan.
Felly, fe wyddom ni o adroddiad Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, 'Cartrefi sy'n Addas i'r Dyfodol: Her Ôl-ffitio', fod angen i dros 4,000 o bobl fod yn fedrus o ran inswleiddio cartrefi pobl—cartrefi sy'n bodoli eisoes—ac mae angen bron i 3,000 o aseswyr ynni ôl-ffitio arnom ni hefyd. Sut mae'r Llywodraeth yn credu y gallwn ni sicrhau gweithlu llawer mwy cytbwys yn y sgiliau pwysig iawn hyn, yn hytrach na bod pob un ohonyn nhw'n ddynion? Yn yr un modd, fe fyddai'r sector gofal cymdeithasol yn elwa ar gael amrywiaeth llawer ehangach o'r gweithlu, o ran mwy o ddynion yn gweithio ynddo, a hefyd amrywiaeth ethnig leiafrifol i adlewyrchu'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Felly, rwyf i'n awyddus iawn i ddeall sut y gellid llenwi'r prinder gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol ac mewn gofal plant drwy hyfforddi llawer mwy o bobl i weithio yn y maes hollol hanfodol hwn, na fydd byth yn cael ei roi ar gontract allanol i algorithmau artiffisial—swyddi go iawn y dyfodol yw'r rhain—yn ogystal â'r swyddi y mae'r angen amdanyn nhw ar frys gwirioneddol o ran ôl-ffitio, y mae angen i ni, yn amlwg, gyda chwyddiant prisiau ynni, fwrw ymlaen â nhw cyn gynted ag y gallwn ni.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. Nid wyf i'n siŵr pa mor bell na pha mor agos yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw â'r cynllun, ond rwy'n hapus i fynd i'r afael â'r pwyntiau a wneir, fel rwyf i'n eu deall. Oherwydd, unwaith eto, yn y gorffennol i mi, pan oeddwn i'n rhedeg hawliadau am gyflog cyfartal, roeddwn ni'n gallu gweld pethau a fyddai'n ymddangos yn anarferol yn gyflym iawn, ac yna mae'n rhaid i chi geisio eu profi nhw. Felly, er enghraifft, mewn meysydd lle ceir swyddi ar wahân ar gyfer y rhywiau a strwythurau negodi gwahanol, rydych chi'n gweld yn aml, hyd yn oed gyda'r un cyflogwr, fod canlyniadau amrywiol o ran strwythurau cyflog. Ac mae hynny wedi creu problem enfawr i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus ac mewn rhai rhannau o'r sector preifat. Yr anhawster yw bod rhedeg hawliad cyfreithiol yn arf heb awch i geisio cyflawni hynny, ac rydych chi'n gweld yn aml fod pobl yn buddsoddi llawer o arian i amddiffyn hawliadau, yn hytrach nag edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud i fynd i'r afael â'u systemau talu cyflog i sicrhau eu bod nhw'n gwobrwyo pobl yn iawn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Dyna pryd y dylai pobl sy'n gwneud y gwaith gael eu gwerthfawrogi a'u talu'r un fath, yn hytrach na'r herio sy'n tueddu i wneud i bobl ganolbwyntio ar yrfaoedd cyfan gwbl wahanol.
Rwy'n derbyn eich pwynt chi ynghylch rhywfaint o'r gwaith ar asesu ynni. Wel, mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â hyrwyddo cyfleoedd a bod yn eglur nad gwaith dyn neu waith menyw yn unig yw hyn. I fod yn glir iawn, fe geir swyddi i bobl sydd â sgiliau a thalent, a bod yn glir fod y dalent honno'n bodoli ym mhob rhan o'r wlad. A dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud ar gyfer rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd i bobl ailymuno â'r gweithlu. Fe wnes i gyfarfod ag un tad sengl ac un fam sengl a oedd wedi cael cymorth gan y rhaglenni y gwnaethom ni eu darparu, ac roedden nhw mewn gwaith erbyn hyn oherwydd y cymorth a'r gefnogaeth y gwnaethom ni eu rhoi. Ond mae hyn yn ymwneud ag egluro ein bod ni wedi ceisio tynnu rhai o'r rhwystrau hynny o ran y ffordd y mae pobl yn eu gweld eu hunain ynddi hi, yn ogystal â'r ffordd y maen nhw'n cael eu gweld gan bobl eraill. Ac mae honno'n her fwy, oherwydd, mewn gwirionedd, caiff llawer o ragfarn rhywedd yr ydym ni'n sôn amdani ei sefydlu o'r foment cyn i bobl gael eu geni ac yna ar ôl i bobl gael eu geni.
Nid wyf i'n gwybod faint ohonoch chi sy'n dal i grwydro ymysg yr eiliau dillad a llyfrau plant mewn siopau, ond rydych chi'n dal i weld llawer iawn o binc ar gyfer y pethau hynny sydd ar gyfer menywod—ac rwy'n gwisgo crys pinc drwy gyd-ddigwyddiad heddiw. Ond, pan edrychwch chi ar y negeseuon ar ddillad pobl, ac fe welais i negeseuon am hyn yn ddiweddar, mae'r negeseuon a roddir i ferched am bwy y dylen nhw fod a'r hyn y dylen nhw ei wneud yn wahanol iawn i'r negeseuon a roddir i fechgyn yn ifanc iawn. Ac, mewn gwirionedd, rhan o'n her yw sut yr ydym ni am fynd drwy rywfaint o hynny, oherwydd heb wybod hynny, fe fyddwn ni yn y pen draw yn tyfu i fyny gyda'r tybiaethau hynny amdanom ni ein hunain ac am bobl eraill. Mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun hwn yn rhan o'r hyn y dylem ei wneud yn y Llywodraeth i'w gwneud hi'n glir bod y cyfleoedd hyn ar gyfer pawb, ac rydym ni'n cydnabod nad yw pobl yn yr un sefyllfa ac rydym ni'n bwriadu gwneud rhywbeth ynghylch unioni hynny a sicrhau bod gan bobl sydd â chyfrifoldebau gwahanol a chanlyniadau gwahanol well cyfle oherwydd y camau y bydd y Llywodraeth hon yn eu cymryd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw a'r ymatebion hyd yn hyn yn y Siambr hon. Gan eich bod yn ddilynwyr brwd o'r Cyfarfod Llawn, rwy'n siŵr eich bod chi wedi sylwi fy mod i wedi gofyn cwestiwn yr wythnos diwethaf i'r Gweinidog newid hinsawdd ynghylch y cyfleoedd yn arbennig yn y gogledd ynghylch ynni adnewyddadwy a'r gadwyn gyflenwi yn y fan honno, ac am wneud yn fawr o'r adnoddau sydd gennym ni yn y gogledd i sicrhau bod yr economi werdd yn ffynnu yn y rhan honno o'r wlad. Fe amlinellais i'r cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig, ac, wrth gwrs, nid i'r gogledd yn unig y mae hynny'n wir ond i Gymru gyfan, boed hwnnw'n ynni gwynt, ynni'r haul neu rywfaint o ynni morol hefyd, ac rwy'n diolch i chi am gydnabod hynny heddiw yn rhai o'ch atebion chi. Roedd cydnabyddiaeth drawsbleidiol heddiw hefyd o'r cyfleoedd yn hynny o beth.
Fe nodais i yn un o'ch atebion—rwy'n credu mai i Paul Davies gynnau yr oedd hynny mae'n debyg—roeddech chi'n cyfeirio at rai o'r risgiau posibl oherwydd mae'r math hwn o ddatganiad a meddylfryd yn cyffwrdd â phob rhan o Lywodraeth, ac efallai fod perygl na fydd rhai adrannau o Lywodraeth â rhan lawn yn hyn, a'r hyn a welwn mewn Llywodraeth weithiau sef gweithio mewn seilos ar wahân. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu amlinellu sut rydych chi'n gweithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod eich cynlluniau a'ch meddylfryd o ran cyflogadwyedd a sgiliau, ac yn arbennig o ran yr economi a Chymru wyrddach, yn cael eu defnyddio yn llawn ac mewn ffordd briodol ac nad ydym ni'n gweld y gweithio mewn seilos ar wahân sy'n gysylltiedig â Llywodraeth o bryd i'w gilydd. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Oes, mae gennyf i ddiddordeb arbennig, fel sydd gan ein Gweinidogion newid hinsawdd yn wir, mewn cyfleoedd cadwyn gyflenwi ar gyfer ynni adnewyddadwy o bob math; mae yna lawer i'w gynnig i ni yn y gogledd a'r de o ran y cyfleoedd hynny. Ac fe fydd hynny'n mynnu ein bod ni'n cael sgwrs gyda busnesau yn ogystal â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r partneriaid sydd gennym ni mewn meysydd o gyfrifoldeb sy'n ddatganoledig hefyd.
O ran gweithio ar draws y Llywodraeth, yn y cwestiynau gynnau, ac fe wn i mi gael fy holi ynglŷn â gwaith gyda'r Gweinidog addysg a gyda'r Gweinidog tai ac eraill hefyd, oherwydd fe wyddom ni fod angen i ni, ar gyfer gwaith y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, gyfateb ein hymyriadau ni ein hunain ar gyfer tynnu i'r un cyfeiriad. Rhan o'r rheswm yr ydym ni wedi cynnal yr adolygiad hwn a bod â chynllun newydd yw bod newid wedi digwydd yn y ffordd y mae rhai o'n partneriaid ni'n gweithio. Y pandemig yw achos hynny'n rhannol, a hefyd bod Llywodraeth y DU wedi newid cyfeiriad a symud rhywfaint o'u cymorth cyflogadwyedd nhw hefyd. Rwy'n credu i mi sôn am hynny o'r blaen sef bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithgar i ryw raddau yn y maes hwn nag y buon nhw yn y gorffennol. Serch hynny, maen nhw'n tueddu i fod yn weithgar yn nes at y farchnad lafur, a dyna pam rydym ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ni ymhellach i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur, fel nad ydym ni'n gwrth-ddweud nac yn dyblygu'r gefnogaeth o bosibl a ddylai fod ar waith gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Nid yw hyn yn arbennig o ddiddorol yn yr ystyr bod pobl sy'n edrych yn cael llawer o hynny, ond mae'r rhwydwaith o fewn y Llywodraeth yn gweithio mewn gwirionedd: sut rydym ni'n sicrhau bod swyddogion yn siarad â'i gilydd, faint o'n papurau briffio sy'n cael eu rhannu ar yr amser priodol a sut rydym ni'n sicrhau bod Gweinidogion yn trafod hyn yn iawn pan fydd angen gwneud felly, ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn. Felly, mae'r pwyntiau amlwg ynglŷn â'r gwaith gyda'r Gweinidog addysg, ond y cyfleoedd hefyd nid yn unig ym maes tai ond mewn meysydd eraill yn bethau rwyf i'n awyddus i'w gweld yn cael eu dal ymlaen â nhw. Rwy'n gobeithio y caiff yr Aelod ei galonogi gan y ffaith, pan godwyd hynny yn y drafodaeth yn y Cabinet, nid yn unig yr oedd croeso cyffredinol i hynny, ond roedd cydnabyddiaeth gan lawer o Weinidogion fod rhan iddyn nhw yng nghyflawniad llwyddiannus y cynllun.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw, Gweinidog. Nid ar y meinciau hyn yn unig y ceir croeso i'r datganiad, rwyf i o'r farn bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Siambr yn gwneud felly. Fe wn i fod llefarydd yr wrthblaid yn edrych heddiw fel ei fod yn gwisgo tei a gafodd gan ein plaid ni, ond mae o hyd yn oed yn croesawu'r rhan fwyaf o hyn, fel ein cydweithwyr ni yng Nghyngres yr Undebau Llafur, wrth gwrs. Ond rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi, hefyd, yr hyn y gwnaethom ni ei gyflawni yn Llywodraeth Lafur Cymru. Yn y tymor seneddol diwethaf, fe ddarparwyd 112,000 a mwy o brentisiaethau yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n falch iawn ohono a minnau'n gyn-brentis. Ac mae'r datganiad hwn yn amlygu eto ein cynllun uchelgeisiol ni ar gyfer hyfforddiant yng Nghymru.
Rydych chi'n ymwybodol, Gweinidog, fod gennyf i uchelgais i ddod â dyluniad a gweithgynhyrchu technolegau adnewyddadwy i Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'r set sgiliau gennym ni, mae'r bobl gennym ni. Rwyf i wedi gweithio ochr yn ochr â nhw, rwyf i wedi cael fy hyfforddi ochr yn ochr â nhw. Felly, tybed a fyddech chi'n fodlon cwrdd â mi i drafod rhan Alun a Glannau Dyfrdwy yn y cynllun ar gyfer Cymru gryfach, decach, wyrddach, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi prosiectau a datgloi prosiectau posibl yn Alun a Glannau Dyfrdwy—efallai, er enghraifft, yng nghanolfan gweithgynhyrchu dur Tata yn Shotton, prosiect gwych ar gyfer dyfodol Alun a Glannau Dyfrdwy. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n derbyn y gwahoddiad hwnnw.
Rwy'n falch iawn fod Jack Sargeant wedi tynnu sylw at ein henw da ni o ran cyflawni ac, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i hynny o ran ein haddewid ni yn y tymor Seneddol diwethaf. Fe wnaethom ni addo 100,000 o brentisiaid; fe gawsom ni dros 112,000. Wrth gwrs, roedd y gallu gennym ni i ddefnyddio arian o Ewrop ar y pryd, felly fe fydd 125,000—sef cynnydd o 25 y cant ar ein nod blaenorol ni—yn galetach i'w gyflawni, ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n gwneud felly. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun hwn yn dangos ein bod ni'n dargyfeirio ein hadnoddau ni i wneud felly. Mae'n golygu y bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd mewn meysydd eraill, ond mae hynny'n atgyfnerthu'r flaenoriaeth a roddwn ni i ddyfodol prentisiaethau a'r sgiliau a ddaw yn eu sgil, y budd economaidd a ddaw yn eu sgil hefyd. O ran ei wahoddiad caredig ef, rwyf i eisoes, wrth gwrs, wedi ymweld ag etholaeth yr Aelod. Fe es i i waith Shotton gydag ef, ond rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod arall ag ef. A chan fod llawer gennym ni i'w drafod o ran cyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys, wrth gwrs, Alun a Glannau Dyfrdwy, y buddsoddiad yr ydym ni'n ei roi yn rhai o'n gweithgynhyrchwyr ni yno, y ganolfan gweithgynhyrchu uwch hefyd yr ydym ni'n ei hariannu a'i chefnogi. Felly, rwy'n fwy na pharod i drafod sut y gallem ni gael sgwrs ddefnyddiol gydag ystod o randdeiliaid ynglŷn â'i etholaeth ef i'r dyfodol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad a'r neges ynghylch tyfu Cymru gryfach, decach, wyrddach drwy fuddsoddi mewn pobl a datblygu sgiliau a hyder. Rwy'n credu bod hyder yn rhywbeth pwysig iawn. Fe fûm i mewn cyflwyniad diddorol iawn yn y grŵp trawsbleidiol ar fenywod, dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, ynglŷn ag adferiad a arweinir gan ofal, a fyddai'n creu mwy o gyflogaeth na buddsoddi mewn adeiladu, heb ehangu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fe fyddai hynny'n gwella llesiant drwy gyfrannu at boblogaeth sy'n derbyn gofal gwell, gan atal mwy o anghenion yn y dyfodol, a helpu i greu economi wyrddach, fwy cydnerth a gofalgar. Mae buddsoddi mewn gofal yn ehangu'r cyflenwad llafur ar draws y rhanbarthau, nid yn unig lle ceir cyflenwad o dir, ac yn adennill mwy o refeniw drwy gynyddu'r niferoedd mewn cyflogaeth sy'n gwario arian yn eu heconomïau lleol wedyn, ac yn cynnal cymunedau byrlymus. Crëwyd llwybrau at yrfaoedd nyrsio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yn y gogledd eisoes, drwy Grŵp Llandrillo Menai, gan weithio gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd i'w groesawu yn fawr. Gweinidog, a yw adferiad a arweinir gan ofal yn syniad y byddech chi'n ei ddatblygu gyda'r Gweinidog iechyd yn ôl y cynllun hwn ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? Diolch i chi.
Diolch i chi. Rwy'n gwybod ambell i beth am y gwasanaeth iechyd ac am fuddsoddi mewn dewisiadau ynglŷn â'n gweithlu yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, dyma un o'r pethau a wnaethom ni'n rheolaidd. Rydym ni bob amser, yn y cyfnod yr oeddwn i'n Weinidog iechyd, ond yng nghyfnod Eluned Morgan y Gweinidog newydd hefyd, wedi buddsoddi'r swm uchaf posibl yn yr hyn y gall ein cyfundrefn ni ei hyfforddi yn llwyddiannus o ran ein gweithlu iechyd yn y dyfodol. Yr hyn a wnaethom ni hefyd oedd nid yn unig y dewis y gallwn ni yn sicr ei wneud i gadw pethau fel y fwrsariaeth, i sicrhau nad yw pobl yn rhoi'r ffidil yn y to, ond i geisio sicrhau bod rhai amodoldebau hefyd, fel bod pobl sy'n cael y cymorth ychwanegol hwnnw nad yw ar gael dros y ffin yn ymrwymo wedyn i weithio o fewn ein system ni hefyd. Rydym ni'n gwybod y bydd angen mwy o bobl arnom ni yn ein sector iechyd a gofal yn y dyfodol. Mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni wedi llwyddo o ran bod gennym ni boblogaeth sy'n cyrraedd oedran teg, mae hyn yn rhannol oherwydd ein bod ni'n gwybod ein bod ni am golli rhai o'n staff ni yn dilyn y pandemig—pobl a fydd yn dymuno gadael eu gyrfaoedd yn gynnar neu beidio â gweithio amser llawn am gymaint o flynyddoedd ag y bydden nhw wedi gwneud fel arall. Ac rydym ni hefyd, rwy'n ofni, yn sicr y byddwn ni'n gweld mwy o angen am iechyd a gofal yn dod i mewn i'n system hefyd.
Y rheswm yr ydym ni'n buddsoddi yn incwm y bobl sydd yn ein sector gofal cymdeithasol ni, a'r sector gofal preswyl a gofal cartref yn arbennig felly, yw ein bod ni'n dymuno gweld pobl yn cael eu gwobrwyo yn deilwng am eu gwaith. Y cyflog byw gwirioneddol yw'r cam cyntaf tuag at wneud hynny. Rydych chi yn llygad eich lle wrth dynnu sylw at y ffaith y bydd buddsoddi yn y gweithwyr hynny'n arwain at yr arian hwnnw'n mynd i deuluoedd lleol a chymunedau lleol. Nid pobl a fydd yn cuddio eu cyfoeth ar ynysoedd y Seychelles neu ryw awdurdodaeth arall yw'r rhain; fe fyddan nhw'n gwario arian yn lleol ar eu teuluoedd nhw. Felly, fe allwch chi ddisgwyl ein gweld ni'n dal ati i fuddsoddi. Yn unol â'r cynllun, nid unig ystyr hyn yw'r pwynt yw na ddylai cyflyrau gofal iechyd fod yn rhwystr i waith, ond bod gan y system iechyd a gofal cymdeithasol swyddogaeth bwysig ynddi hi ei hun oherwydd ei bod yn gyflogwr mawr o ran cyflawni uchelgeisiau'r cynllun hwn a chreu Cymru decach, gryfach, wyrddach.
Diolch i'r Gweinidog. Mae croeso i chi ddod i Aberafan unrhyw amser i drafod eich cynlluniau chi hefyd.