– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 29 Mawrth 2022.
Mae hyn yn caniatáu i ni nawr drafod eitem 13, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Lee Waters.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bu farw saith deg dau o bobl yn nhân Tŵr Grenfell. Hwn oedd y tân strwythurol mwyaf angheuol yn y Deyrnas Unedig ers 30 mlynedd, ac fe wnaeth amlygu methiannau difrifol yn y systemau rheoleiddio o ran diogelwch adeiladau. Mae adolygiad y Fonesig Judith Hackitt wedi ceisio mynd i'r afael â'r methiannau hyn, ac roedd argymhellion ei hadroddiad yn perthyn i ddau gategori: gwaith dylunio ac adeiladu adeiladau ac yna eu meddiannaeth. Mae'r cynnig hwn yn ymdrin â'r cyntaf o'r rhain ac mae hefyd yn mynd i'r afael â hawliau gwneud iawn i brynwyr tai, gan gynnwys y rhai sy'n dioddef canlyniadau diffygion adeiladu.
Y diwygiadau yn y Bil i'r system rheoli adeiladu yw'r gyfres fwyaf cynhwysfawr o newidiadau ers Deddf Adeiladu 1984. Eu bwriad yw atal tân Grenfell rhag digwydd yn y dyfodol. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio i sicrhau triniaeth deg i'r rhai sy'n wynebu gwaith adfer y fflatiau maen nhw’n byw ynddyn nhw. Dyna pam rydym ni wedi cyhoeddi y bydd arolygon a phasbortau adeiladu yn cael eu hariannu, ac y byddan nhw'n llywio'r cymorth sydd ei angen. Mae'n ffaith y gallai'r feirniadaeth a roddwyd i'r system yn Lloegr gan y Fonesig Judith fod ar yr un mor berthnasol yng Nghymru. Am y rheswm hwn, rydym ni wedi mynd ati i geisio cynnwys gwelliannau i Fil Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU i adlewyrchu anghenion Cymru. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth o'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed y dylai hwn fod wedi bod yn Fil Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r Bil hwn yn gyfle pragmatig i gymryd camau cynharach yn ein hymdrechion i ymateb i'r materion hyn.
Bydd y drefn newydd yn darparu ar gyfer rheoleiddio adeiladau risg uwch yn llymach yng Nghymru. Rwyf wedi nodi o'r blaen fod adeilad risg uwch yng Nghymru yn adeilad â llawr o 18m neu fwy, neu saith llawr. Bydd pwerau i newid y diffiniad hwn os bydd rhagor o dystiolaeth yn llywio ein barn ar risg a nodweddion adeiladau. Mae'r Bil yn rhoi gofynion ar waith a fydd yn sicrhau na allwch chi ddewis eich corff rheoli adeiladau ar gyfer adeiladau risg uwch mwyach. Yng Nghymru, bydd timau rheoli adeiladau yr awdurdodau lleol yn cyflawni'r gwaith hwn fel estyniad i'w dyletswyddau presennol. Bydd gan adeiladau system glir o gamau porth, o'r cam dylunio, adeiladu, i'r cam meddiannaeth gychwynnol. Bydd mannau aros ar wahanol gamau yn atal gwaith rhag parhau heb dystiolaeth bod diogelwch adeiladau yn cael sylw priodol.
Yn ogystal â'r system ei hun, mae pobl hefyd yn hollbwysig o ran diogelwch adeiladau. Bydd y Bil yn rhoi gofynion newydd ar waith ar gyfer deiliaid dyletswydd, er enghraifft ar y cleientiaid, y dylunwyr a'r contractwyr sy'n cynllunio, yn rheoli ac yn ymgymryd â gwaith adeiladu. Byddan nhw'n gyfrifol am nodi a lliniaru risgiau diogelwch adeiladau drwyddi draw. Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno darpariaethau newydd i ddarparu ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladau a chyrff sy'n goruchwylio gwaith adeiladu. Yn ogystal â system orfodi fwy cadarn, mae'r Bil yn helpu i wella hawliau gwneud iawn, gan gynnwys lle y daw'n amlwg bod gwaith is-safonol wedi ei wneud ar ôl meddiannu cartref.
Prynu cartref yw un o'r ymrwymiadau ariannol mwyaf y mae llawer o bobl yn ei wneud yn eu bywydau, ac mae'n gwbl annerbyniol i brynwyr barhau i aros i faterion gael sylw fisoedd ar ôl symud i mewn, neu i ddiffygion wneud cartref yn anaddas. Er y dylai perchnogion cartrefi ddisgwyl i gartref fod o ansawdd da ar y diwrnod y maen nhw’n symud i mewn, mae cael proses glir sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr weithredu'n gyflym i unioni materion yn bwysig o ran amddiffyn perchnogion cartrefi. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn drwy'r newidiadau i Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972, a chreu Ombwdsmon Cartrefi Newydd. Bydd darpariaethau'r Ddeddf Mangreoedd Diffygiol yn cael eu hymestyn o anheddau newydd yn unig i gynnwys gwaith adnewyddu ac estyniad anheddau sy'n bodoli eisoes a fydd yn cael ei wneud gan fusnes. Bydd hefyd yn ymestyn y cyfnod cyfyngu ar gyfer hawliadau o chwech i 15 mlynedd yn yr arfaeth, ac o chwech i 30 mlynedd yn ôl-weithredol.
Mae'r Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn cael ei gyflwyno o ganlyniad i feirniadaeth o'r diwydiant adeiladu tai, o ran ansawdd ei waith adeiladu a'r cofnod o wasanaeth cwsmeriaid. Bydd yr ombwdsmon yn darparu ar gyfer datrys anghydfodau ac yn penderfynu ar gwynion a wneir gan y rhai sydd â buddiant perthnasol mewn cartrefi newydd yn erbyn datblygwyr. Mae cod ymarfer, sy'n nodi safonau ymddygiad ac ansawdd gwaith, yn un o nodweddion yr ombwdsmon, er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddyn nhw, a bod y rhai sy'n prynu cartref yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu tai yn talu costau'r ombwdsmon newydd ac, ar ôl ei sefydlu, bydd y gwasanaeth am ddim i'r rhai sy'n cyflwyno cwynion.
Llywydd, i grynhoi, mae'r diwygiadau hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol a godwyd gan y Fonesig Judith Hackitt, ac yn creu system reoli newydd i Gymru sy'n darparu fframwaith clir a chadarn i sicrhau bod y diwydiant adeiladu yn adeiladu cartrefi sy'n ddiogel, ac a fydd yn darparu llwybr effeithiol at wneud iawn os bydd pethau’n mynd o chwith. Diolch.
Dwi'n galw'n gyntaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad, ydw, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau heddiw. Fe wnaethom ni gyflwyno adroddiad blaenorol ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol a memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Rhif 2 atodol ddiwedd y llynedd ym mis Rhagfyr. Fel y soniwyd yn yr adroddiad, yn anffodus, ni chawsom ni ddigon o amser i ystyried ac adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Rhif 5 atodol diweddaraf a gyflwynwyd ar 25 Mawrth.
Mae diogelwch adeiladau, mewn gwirionedd, wedi bod yn faes blaenoriaeth i'r pwyllgor, ac yn wir i ragflaenydd y pwyllgor yn y bumed Senedd, ers y drychineb, trychineb ofnadwy, tân Grenfell yn 2017. Mewn egwyddor, rydym yn croesawu'r mesurau a ddaw yn sgil y darpariaethau yn y memoranda atodol, gan gynnwys sefydlu cynllun Ombwdsmon Cartrefi Newydd, ac rydym yn pwysleisio'r farn a fynegwyd yn yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, y byddai wedi bod yn well pe bai'r darpariaethau yn y memoranda yn cael eu cyflwyno mewn Bil Senedd. Byddai hyn wedi bod yn well oherwydd byddai wedi galluogi craffu manylach gan bwyllgorau ar y ddeddfwriaeth, a byddai rhanddeiliaid o Gymru wedi gallu rhannu eu barn ar y darpariaethau.
Dywedodd y Gweinidog wrthym ym mis Tachwedd y llynedd fod y rhesymeg dros ddefnyddio Bil y DU i ddeddfu, yn hytrach na chyflwyno Bil Senedd, yn ymwneud â hwylustod. Fe wnaethom gytuno y dylid gweithredu'r mesurau pwysig hyn cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, bedwar mis yn ddiweddarach, nid yw'r Bil wedi ei gytuno eto. Teimlai rhai aelodau o'r pwyllgor, mewn cyfnod tebyg i'r un rhwng cyflwyno'r memorandwm cyntaf ym mis Gorffennaf y llynedd a'r un diweddaraf, y gellid bod wedi cyflwyno Bil Senedd a chael craffu deddfwriaethol llawn. Hyd yn oed os na fyddai hyn yn bosibl, mae gweithdrefnau ar gael i hwyluso deddfwriaeth sylfaenol drwy'r Senedd. Mae rhai aelodau o'r pwyllgor hefyd yn cwestiynu a fyddai natur drawsffiniol darpariaethau cynllun yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd yn fwy gwerthfawr na chynllun i Gymru'n unig, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud ym memorandwm atodol Rhif 3.
Byddai'r pwyllgor yn croesawu sicrwydd gan y Gweinidog heddiw y bydd pwyllgorau, yn y dyfodol, yn cael digon o amser i ystyried ac adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac, yn wir, memoranda atodol. Ond Llywydd, er gwaethaf y pryderon yr wyf i newydd eu hamlinellu, mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn gweld y budd o gymhwyso'r diwygiadau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl. Ond mae'n rhaid dweud o hyd fod diffyg craffu yn golygu na allwn roi'r darpariaethau hyn ar brawf. Mae ein pwyllgor yn teimlo'n rhwystredig iawn nad oeddem ni'n gallu craffu ar y darpariaethau ym memorandwm atodol Rhif 5 ac adrodd ar ein barn i'r Senedd cyn y ddadl hon. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pwyllgorau'n cael yr amser a'r wybodaeth angenrheidiol i allu chwarae rhan ystyrlon yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch, Gweinidog, hefyd. Rydym wedi llunio dau adroddiad sy’n ymdrin â phedwar memorandwm cydsyniad sydd wedi’u gosod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y Bil hwn. Cwblhawyd y cyntaf ym mis Rhagfyr y llynedd, a gosodwyd yr ail yn gynharach y mis hwn. Roeddem yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ymateb i’r ddau adroddiad. Yn anffodus,
fodd bynnag, brynhawn Gwener diwethaf y cyflwynwyd memorandwm Rhif 5, sy'n golygu nad yw unrhyw un o bwyllgorau'r Senedd wedi craffu arno. Mae hyn yn amlwg yn peri rhwystredigaeth, fel y mae fy nghyd-Aelod John Griffiths, Cadeirydd fy nghyd-bwyllgor, wedi sôn amdano, ac mae'n destun gofid.
Er bod ein dau adroddiad yn rhoi sylwadau ar ddarpariaethau penodol yn y Bil, y prynhawn yma rwy’n canolbwyntio ar y sylwadau helaeth yn ein hadroddiadau ar ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o geisio defnyddio Bil sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU sy'n pasio drwy Senedd wahanol mewn lle gwahanol i ddeddfu ar gyfer Cymru ar faterion sydd wedi eu datganoli'n llwyr—unwaith eto, mater y cyfeiriodd fy nghyd-Gadeirydd, John Griffiths ato hefyd yn ei sylwadau heddiw. Mae hyn yn fyrdwn cyfarwydd, rwy'n gwybod, i Weinidogion Llywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon, ac mewn gwirionedd dywedodd y Gweinidog heddiw ei fod yn cydnabod hyn yn ei sylwadau agoriadol. Rwy’n teimlo weithiau bod Gweinidogion yn gyfrinachol yn cytuno â ni yn eu munudau tawel pan fyddan nhw’n gorffwys eu pen ar eu gobennydd, ac ar ryw adeg maen nhw’n mynd i symud i ddweud hynny'n glir a gweithredu yn y ffordd honno hefyd.
Rydym yn pryderu ynghylch goblygiadau cyfansoddiadol cronnol dull gweithredu Llywodraeth Cymru, ac nid oherwydd yr effaith bosibl ar ddatganoli yn unig y mae hynny, ni waeth beth fo'r materion sy'n ymwneud â hwylustod ac yn y blaen. Ond mae hefyd o ran hygyrchedd y gyfraith i'n dinasyddion. Nawr, rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog ei hun yn gallu bod yma gyda ni y prynhawn yma ond, o ran sylwadau'r Gweinidog o'r blaen fod llawer o weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu yn gweithio yng Nghymru a Lloegr a bod rhinwedd felly i ddarpariaethau tebyg fod yn berthnasol i'r ddwy wlad, rydym yn deall hynny, ond nid ydym yn gweld pam na ellid cyflawni'r gyfraith gyffredin ledled Cymru a Lloegr drwy Fil Senedd, gyda'r craffu llawn y cyfeiriodd fy nghyd-Gadeirydd ato. Rydym ni hefyd yn aneglur ynghylch sut mae gofyn am ddarpariaethau i Gymru mewn Bil y DU, yn ogystal â chynllunio ar gyfer Bil Cymru yn y dyfodol i fynd i'r afael â materion eraill sy'n ymwneud â diogelwch adeiladau, yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i wella ansawdd a hygyrchedd cyfraith ddwyieithog Cymru. Mae'n egwyddor y mae'r Llywodraeth yn sefyll arni. Rydym ni am eu gweld yn cadw at hynny.
Nawr, fe wnaeth y Gweinidog fynegi i ni—ein pwyllgor—faterion capasiti yn Llywodraeth Cymru fel un rheswm dros ddefnyddio Biliau'r DU i ddeddfu ar gyfer Cymru. Ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan y ddadl hon i ddyrannu adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a phasio Bil y DU drwy Senedd y DU yn hytrach na dyrannu'r adnoddau hynny i gyflwyno Bil i Gymru, hyd yn oed ar yr un pryd, drwy ein Senedd ni. Rydym ni o'r farn bod y rhesymu a'r dull gweithredu yn ddryslyd, o gofio y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r cyfarwyddiadau polisi ar gyfer y cymalau pwrpasol perthnasol yn y Bil, ac wedi hynny gwneud sylwadau ar gymalau drafft a baratowyd gan gwnsler cyfreithiol Llywodraeth y DU beth bynnag. At hynny, mae'n amlwg bod gwaith rhynglywodraethol wedi parhau tra bo'r Bil yn mynd rhagddo drwy Senedd y DU, a fydd hefyd, ynddo'i hun, wedi bod yn destun ymrwymiadau amser ac adnoddau.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ein bod yn dal yn bryderus iawn ynghylch ei gallu, os yw hyn yn broblem, i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, ac rydym yn mynd ar drywydd y mater hwn ar draws Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd. Ond mae gennym ni bryderon hefyd y gallai Llywodraeth Cymru, wrth fynd ar drywydd y dull hwn, fod wedi colli cyfle arall i ddefnyddio'r system gyfiawnder sydd gennym ni eisoes yng Nghymru i ymdrin â materion y gallai darpariaethau cynllun yr Ombwdsmon Cartrefi Newydd ymdrin â nhw, sydd wedi eu nodi ym memorandwm Rhif 3.
Gadewch i mi droi yn awr at fater yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn ddiffyg democrataidd sy'n dod i'r amlwg a achosir gan ddewisiadau deddfwriaethol penodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ein hail adroddiad, fe wnaethom nodi bod nifer o welliannau wedi eu gwneud i'r Bil sy'n golygu y bydd gan Weinidogion Cymru rôl ymgynghorol bellach cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pwerau penodol i wneud rheoliadau. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud mewn llawer o adroddiadau eraill ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU, nid yw rôl i Weinidogion Cymru, boed hynny'n rôl ymgynghorol neu'n rôl gydsynio, cyn i un o Weinidogion y DU arfer pŵer i wneud rheoliadau sydd wedi ei gynnwys mewn Bil y DU, yw mynd i'r afael â'r diffyg democrataidd cynhenid sy'n golygu bod y Senedd wedi ei heithrio rhag llunio a chytuno i gyfraith a fydd yn berthnasol yng Nghymru. Rydym ni’n glynu'n gryf wrth hyn.
Argymhelliad—. Llywydd, rwy'n ymddiheuro, rwyf wedi mynd ychydig dros amser; byddaf yn dod i fy nghasgliadau yn gyflym yma. Roedd argymhelliad 1 yn ein hadroddiad cyntaf yn gofyn i'r Gweinidog geisio gwelliannau i'r Bil i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael pwerau cychwyn cyfatebol sy'n ymwneud â'r darpariaethau ar gyfer Cymru i'r rhai a roddir eisoes i'r Ysgrifennydd Gwladol, fel bod gan Weinidogion Cymru reolaeth lwyr o ran pryd y daw'r darpariaethau ar gyfer Cymru i rym. Felly, rydym ni wedi ein siomi gan ymateb y Gweinidog i'r argymhelliad hwnnw nad yw'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol ac na fyddai'n mynd ar drywydd gwelliannau o'r fath. Nid ydym ni yn gweld bod rhoi'r gorau i'r rheolaeth hon yn briodol o gwbl, ac mae gwrthgyferbyniad yma â'r dull y mae Gweinidogion eraill yn ei ddefnyddio ar gyfer Biliau eraill o fewn y tymor Senedd. Ond, fel y gwnaethom ei nodi, rydym ni’n anghytuno'n barchus â'r penderfyniad cyffredinol i ddefnyddio Bil y DU i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru, ni waeth beth fo'u hwylustod na'u hadnoddau, am y rhesymau yr ydym ni wedi eu rhoi. Ni ddylai pa bynnag asesiadau a gynhaliwyd o ran manteision ymarferol manteisio ar y cyfle fod yn drech na mandad democrataidd y Senedd ac atebolrwydd canlyniadol Llywodraeth Cymru i'r Senedd hon. Felly, rydym yn dal i bryderu'n fawr am y dull hwnnw mewn llawer o Filiau.
Llywydd, ein hadroddiad ar femoranda Rhif 3 a Rhif 4 ar gyfer y Bil hwn oedd y chweched adroddiad ar hugain ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol y mae ein pwyllgor wedi eu cyflwyno mewn saith mis. Cyn bo hir, byddwn yn gosod ein seithfed ar hugain. Nawr, i nodi, nid yw'r ystadegau hyn i'w croesawu'n arbennig, ond mae angen tynnu sylw atyn nhw, gan nad yw'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei gwneud ar gyfer Cymru yn cael ei gwneud yng Nghymru ar hyn o bryd.
Aelodau o'r Senedd, bron i bum mlynedd ers trychineb Grenfell, mae’n gwbl annerbyniol bod trigolion yn byw mewn ofn yng Nghymru yn eu cartrefi eu hunain. Yn wir, cyhoeddwyd adroddiad 'Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân' ar 17 Mai 2018. Wel, rydw i wir yn croesawu'r ffaith bod y Bil sy'n cael ei ystyried yn gweithredu argymhellion adolygiad y Fonesig Judith Hackitt. Mae'r Bil yn hanfodol bwysig gan ei fod yn darparu ar gyfer rheoleiddio'r holl gynhyrchion adeiladu sy’n cael eu gosod ar farchnad y DU, y cyfnod dylunio ac adeiladu ar gyfer cyfnod adeiladu adeiladau risg uwch, a chreu strwythur unedig, proffesiynol a rheoleiddiol ar gyfer rheoli adeiladu.
Drwy gefnogi'r LCM hwn heddiw, byddem yn cefnogi newidiadau synnwyr cyffredin, fel cymal 31, gan roi pŵer i Weinidogion Cymru mewn rheoliadau adeiladu i ddynodi awdurdod lleol amgen i weithredu fel awdurdod rheoli adeiladu lle mae awdurdod lleol yr ardal yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu risg uwch; cymal 32, sy'n ei galluogi cyflwyno gweithdrefnau a gofynion newydd ar gyfer unrhyw waith, gan gynnwys adeiladau risg uwch newydd wrth iddynt gael eu cynllunio a'u hadeiladu; a chymal 37, sy'n galluogi'r awdurdod rheoli adeiladu i gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio neu hysbysiadau atal pan fo rheoliadau adeiladu yn mynd yn groes i reoliadau adeiladu, neu'n debygol o fod yn groes i'r rheoliadau hynny.
Mae'r newidiadau arfaethedig i'r ddeddfwriaeth sylfaenol graidd, Deddf 1984, mae'r Bil bellach yn eu cynnig mewn gwirionedd yn darparu'r arfau angenrheidiol y byddai Gweinidogion Cymru yn gallu eu defnyddio i foderneiddio a gwella'r system yma yng Nghymru. Nid yw'r cynigion yn golygu rhoi cynigion y DU ar waith yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn y Bil sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn ddiwygiadau pwrpasol i Ddeddf 1984 sy'n addas i'r materion diogelwch adeiladu yng Nghymru. Felly, rwy’n credu y dylem fod yn pleidleisio o blaid hyn heddiw.
Nawr, er fy mod i’n gwybod bod y Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn anghytuno â phenderfyniad cyffredinol i ddefnyddio Bil y DU i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru, a wnewch chi, Dirprwy Weinidog, er budd y Senedd, ailadrodd manteision ymarferol cyfle o'r fath? Rydw i’n cydnabod bod y pwyllgor hefyd yn pryderu'n fawr am allu Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Er y byddwn ni’n cefnogi hyn heddiw, hoffwn wneud pwynt cyffredinol pwysig: rwy’n credu bod yr amser wedi dod i weld mwy o Filiau Aelodau preifat a Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno.
O ran y camau rydych chi’n eu cymryd nawr, mae'n newyddion da bod arolygon digidol wedi'u cwblhau ar gyfer y 248 o geisiadau cyntaf. Byddwn yn falch, serch hynny, pe gallech chi egluro erbyn pryd y bydd yr arolygon ymwthiol yn cael eu cwblhau.
Yn olaf, rwy’n sylwi eich bod wedi tynnu'r datganiad disgwyliedig heddiw ar ddiogelwch adeiladau yn ôl. Mae grŵp gweithredu Celestia wedi trydar, gan fynegi eu pryderon eich bod chi nid yn unig wedi canslo'r datganiad, ond hefyd wedi canslo cyfarfodydd gyda dioddefwyr. Mae hyn wedi eu harwain at deimlo'n fwy pryderus, ac maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cadw yn y tywyllwch yn llythrennol. Rhaid i'r Senedd, a ninnau fel gwleidyddion, wneud yn well i drigolion sydd wedi'u dal mewn cartrefi fflamadwy, felly a wnewch chi adolygu'r camau sy'n cael eu cymryd nawr i ymgysylltu â phreswylwyr a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ddiogelwch adeiladau yng Nghymru? A byddwn i wir yn gofyn i bawb gefnogi'r LCM hwn heddiw. Diolch.
Dwi'n croesawu sylwadau'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs—yn croesawu unrhyw ymgais i gryfhau hawliau pobl sy'n byw mewn fflatiau sy'n anniogel—ond dwi ddim yn derbyn y ddadl, Dirprwy Weinidog, fod defnyddio proses yr LCM yn gynt na chael Deddf ein hunain fan hyn yng Nghymru. Rŷm ni wedi gweld dros y ddwy flynedd diwethaf fod modd i'r lle yma basio Deddfau yn gyflym iawn pan fo angen.
Bydd Aelodau wedi fy nghlywed i sawl gwaith yn pwysleisio fy mhryderon ynghylch y ffordd y mae'r broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei defnyddio yn y lle hwn.
Nid yw'r broses yn gwneud dim i symleiddio ein setliad datganoledig na'n system gyfreithiol, system a setliad a wnaeth i hyd yn oed y cyn-Brif Arglwydd Ustus Thomas o Gwmgïedd, un o gyfreithwyr mwyaf dawnus ein hoes ni, ddweud ei bod bron â bod yn amhosibl iddo fe ddeall y system, heb sôn am y cyhoedd. Mae enghraifft benodol fan hyn o gymhlethu ein system gyfreithiol yn bellach, gyda'r Bil yn sefydlu'r system ombwdsmon tai Lloegr, a bod y Gweinidog yng Nghymru wedi gofyn i ni fod yn rhan o ombwdsmon tai newydd Lloegr. Collwyd cyfle arall fan hyn—a dwi'n edrych ar fy nghyfaill y Cwnsler Cyffredinol—i ymestyn terfynau'r setliad datganoli a defnyddio ein tribiwnlysoedd Cymreig.
Yn hytrach na defnyddio cynllun ombwdsmon Lloegr, dylem ni fod wedi defnyddio'r tribiwnlysoedd sydd eisoes yng Nghymru. Gallai tribiwnlys eiddo preswyl Cymru fod wedi cael ei ailenwi'n dribiwnlys tai Cymru yn hawdd. Yn hytrach, er hynny, na defnyddio system dribiwnlysoedd bresennol, rydym yn sefydlu cynllun ombwdsmon arall, gan gymhlethu tapestri sydd eisoes yn gymhleth. Mae'r rhesymau a roddwyd gan y Gweinidog i ofyn i Lywodraeth y DU gael ei chynnwys yn ombwdsmon eiddo Lloegr yn swnio fel rhestr o resymau y byddaf i'n eu clywed gan y meinciau gyferbyn yn gwrthwynebu datganoli cyfiawnder. Yn wir, gallech chi glywed aelod o Blaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cyflwyno'r rhesymau hyn, a dyma'r rhesymau: bydd ganddo fwy o werth os yw'n drawsffiniol; bydd yn sicrhau dull gweithredu safonol; bydd yn arbed arian; ac mae datblygwyr yn debygol o ffafrio un system. Yn sicr, nid penderfynu defnyddio Bil y DU yn seiliedig ar y ffaith ei bod yn debygol y byddai datblygwyr yn ei ffafrio yw'r ffordd briodol a chywir o ddeddfu. Ni ddylem fod yn defnyddio Bil y DU yn hytrach nag ein Bil Cymru ein hunain dim ond oherwydd bod datblygwyr mawr yn debygol o ffafrio hynny yn hytrach na defnyddio ein system ddatganoledig ein hunain.
Ac mae'r Gweinidog yn mynd ymlaen i ddweud os nad yw'r cynllun ombwdsmon yn gweithio i Gymru, gallem ni sefydlu ein system ein hunain bryd hynny. Ond, mae'n dweud y byddai angen cydsyniad un o Weinidogion y DU a byddai gofyn am ganiatâd o'r fath yn cael effaith negyddol ar gymhwysedd y Senedd. Wel, Dirprwy Weinidog, ni fyddem yn y sefyllfa honno pe na baem wedi gofyn am fod yn rhan o gynllun yr ombwdsmon yn y lle cyntaf.
Wrth ymateb i adroddiad cyntaf y pwyllgor, ac mae'n anhygoel ein bod wedi cael pum memorandwm ar yr un Bil hwn yn unig—unwaith eto, mor gymhleth—roedd yn destun pryder mawr clywed y Gweinidog yn dweud nad oedd yn gweld unrhyw oblygiadau cyfansoddiadol cronnol o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil. Ac eto, mae hwn yn ddarn arall o ddeddfwriaeth y DU a basiwyd o fewn pwerau ein setliad datganoledig, mewn maes sy'n amlwg o fewn cymhwysedd y Senedd, ac nid oes gennym graffu priodol arno. Bydd yr Aelodau gyferbyn yn cytuno i unrhyw gynnig cydsyniad deddfwriaethol oherwydd eu bod yn credu bod unrhyw beth sy'n dod i lawr y ffordd o Lundain yn wych. Nid ydym yn cael craffu priodol o fewn pwyllgorau gan nad ydym yn cael digon o amser, oherwydd y dadlau, y ping-pong rhwng y ddwy Lywodraeth. Y tymor hwn, dywedodd fy nghyfaill, Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaethol, ein bod wedi cael 27 o adroddiadau gan y pwyllgor hwnnw—27 o adroddiadau ar gyfer 42 o femoranda cydsyniad deddfwriaethol a memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol. Ni ddylai goblygiadau cyfansoddiadol y 42 o femoranda cydsyniad deddfwriaethol hynny a'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol atodol gael eu tanbrisio gennym ni. Diolch yn fawr.
Mae Aelodau'n cael eu rhoi mewn sefyllfa warthus y prynhawn yma gan y Llywodraeth, ac roedd y Dirprwy Weinidog yn cydnabod hynny, rwy'n credu, yn y cywair a ddefnyddiodd a'r geiriau a ddefnyddiodd er mwyn cyflwyno'r ddadl hon, oherwydd pryd bynnag y gofynnir i ni drafod cynigion cydsyniad deddfwriaethol, rydym yn gwneud dau beth, onid ydym? Mae Gweinidogion yn canolbwyntio ar y cynnwys, ar y ddeddfwriaeth, a bydd yr Aelodau wedyn yn canolbwyntio ar y broses, ac mae'r tensiwn hwnnw'n anochel, ac mae'n beth da bod y math hwnnw o densiwn yn bodoli. Yn yr achos hwn, rydym wedi cael nifer o resymau gwahanol gan y Llywodraeth pam y mae Bil y DU yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â mater difrifol sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru, ac mae pob un o'r adroddiadau gan y pwyllgor deddfwriaeth yn cynnwys rhesymeg wahanol gan y Llywodraeth dros wneud hynny. Dywedwyd wrthym yr haf diwethaf, pan ddaeth y mater hwn o'n blaenau am y tro cyntaf, ei fod yn fater o hwylustod ac y gallai hyn gyrraedd y llyfr statud mewn ffordd a fyddai'n darparu amddiffyniad llawer cynharach a llawer mwy o amddiffyniad i bobl sy'n byw yng Nghymru, ac ar y sail honno, er bod llawer ohonom yn anhapus â'r broses, roeddem yn fodlon cydsynio iddo. Wel, yn awr, gyda Morgannwg yn dechrau'r tymor criced yr wythnos nesaf, rydym yn dal i glywed yr un peth. Nawr, bydd pob un ohonom sydd wedi bod yn y lle hwn am fwy nag ychydig fisoedd yn deall ac yn gwybod bod nifer o brosesau y gallai'r Llywodraeth fod wedi'u defnyddio i gyflwyno deddfwriaeth ar y llyfr statud o fewn yr amserlen yr ydym ni wedi'i chael i ni. Gwyddom hefyd fod datblygu polisi wedi bod yn digwydd drwy gydol holl broses y Bil hwn sy'n mynd drwy San Steffan, felly nid yr hyn yr oedd y Llywodraeth yn ceisio'i wneud yn ôl ym mis Gorffennaf yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn gofyn i ni gytuno arno'n awr ddiwedd mis Mawrth. Felly, bu newidiadau drwy hynny, ac rwyf yn fodlon â hynny, fel y mae'n digwydd, cyn belled â bod gennym gyfle i graffu ar y newidiadau hynny, y rhesymau drostyn nhw a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei roi ar y llyfr statud. Nid oes yr un o'r pethau hynny'n digwydd heddiw, ac nid oes yr un o'r pethau hynny wedi digwydd dros y saith mis diwethaf. Mae hon yn ffordd wael o ddeddfu, Dirprwy Weinidog. Mae hyn yn beth drwg i'w wneud, ac nid yw'n dda eich bod yn gofyn i Aelodau bleidleisio drosto fel hyn.
Rydym wedi clywed araith gan yr wrthblaid swyddogol sy'n gofyn i ni gefnogi hyn oherwydd pwysigrwydd yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys. Dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i ddarllen y Bil. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth sydd ynddo. Nid oes yr un ohonom yn gwybod. Nid ydym wedi cael y cyfle i graffu arno. Sefydlwyd math o ddeddfu gennym yn y lle hwn sy'n wahanol i San Steffan oherwydd pwysigrwydd craffu ac oherwydd pwysigrwydd cynnwys rhanddeiliaid a'r rhai y mae deddfwriaeth yn effeithio arnynt, drwy waith craffu Cyfnod 1, sy'n rhan bwysig ac annatod o'r ffordd yr ydym ni'n deall effaith deddfwriaeth. Nid oes dim o hynny wedi digwydd. Nid oes yr un ohonom ni wedi cael cyfle i'w astudio. Felly, i wrando ar wrthblaid yn dweud, 'Rydym ni'n hapus â'r ddeddfwriaeth hon, gadewch i ni ei rhoi'n syth ar y llyfr statud. Gadewch i ni beidio â thrafferthu gyda chraffu, gadewch i ni beidio â thrafferthu i'w archwilio, gadewch i ni beidio â cheisio ei wella, ei anfon yn syth i gastell Windsor ar gyfer Cydsyniad Brenhinol, mae'n anghredadwy. Mae'n dileu swyddogaeth gwrthwynebu wrth graffu ar ddeddfwriaeth a hynny mewn modd ryfeddol.
Ac mae hynny'n dod â ni'n ôl i lle'r ydym ni heddiw. Rwy'n mynd i bleidleisio dros yr LCM y prynhawn yma oherwydd ein bod ni'n cael ein gorfodi i wneud hynny. Ond, Gweinidog, peidiwch â chredu am eiliad fy mod wedi fy argyhoeddi gan eich dadleuon, peidiwch â chredu am eiliad fy mod yn derbyn y safbwynt yr ydych chi wedi'i gyflwyno, a peidiwch â chredu am eiliad bod fy mhleidlais o blaid hyn yn cefnogi'r ffordd yr ydych chi—
Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae Alun Davies yn arwain ato, a dydw i ddim yn gallu oherwydd eich bod yn creu cryn dipyn o gyffro yn y Siambr, Alun. Felly, os gallaf gael rhywfaint o dawelwch yn y Siambr, ac Alun i orffen ei gyfraniad. Diolch.
Dyna yr oeddwn yn arwain ato, yn ffodus, Llywydd. Un o'r anawsterau, wrth gwrs, o gyfrannu o leoliad anghysbell yw na allwch chi weld na chlywed beth sy'n digwydd yn y Siambr, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried.
Gweinidog, rydych chi wedi ein rhoi mewn sefyllfa amhosibl y prynhawn yma. Rydych chi wedi dal gwn i'n pennau, ac er y bydd gennych chi ein cefnogaeth, peidiwch â chredu am eiliad fod y gefnogaeth hon ar gyfer y ffordd yr ydych chi wedi trin y Senedd hon; mae ar gyfer y ddeddfwriaeth. Rydym ni'n pleidleisio oherwydd y sefyllfa y mae pobl yn cael eu hunain ynddi ledled y wlad. Rydym ni'n pleidleisio ar eu ran nhw, Gweinidog, y prynhawn yma; nid ydym yn pleidleisio drosoch chi.
Prynhawn da, Dirprwy Weinidog. Rwy'n ategu llawer o'r datganiadau sydd wedi'u gwneud ynghylch y broses. Rydym ni'n ein cael ein hunain ar olwyn bochdew o ynghylch memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac mae'r amserlen a roddwyd i ni—unwaith eto—yn gwbl wrthun, ac nid dyma y dylai'r Senedd hon fod yn ei wneud o gwbl. Mae llawer ohonom, rwy'n gwybod, a byddai hynny'n cynnwys y Gweinidogion, yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwyf yn adleisio a diolch i Gadeiryddion y pwyllgorau am y gwaith a wnânt wrth dynnu ein sylw at hynny.
O ran y mater penodol, mae bron i bum mlynedd ers Grenfell, ac rwyf yn croesawu'r cyhoeddiadau a'r datblygiadau yn hyn o beth, er yn hwyr iawn. Hoffwn bwysleisio hefyd bwysigrwydd ymgysylltu a chyfathrebu ac ymgynghori â'r dioddefwyr hynny, y mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef problemau iechyd meddwl eithafol ac ansefydlogrwydd ariannol hefyd.
Gan droi at yr hyn sydd gennym o'n blaenau, rwyf yn awyddus iawn i wneud un pwynt ar gymal 160, sy'n darparu bod y mesurau yn dod i rym ddau fis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn cysylltu â mi, sydd, er eu bod yn croesawu'r amserlen honno, yn pryderu y gallen nhw ddechrau wynebu biliau adfer cynyddol pe bai datblygwyr neu gwmnïau rheoli yn penderfynu codi arian ar lesddeiliaid cyn i'r darpariaethau ddod i rym. Yn gysylltiedig â'r darpariaethau hynny, gwelwn fod y darpariaethau hynny, yn Lloegr, wedi'u cyflwyno mewn gwirionedd i ddiogelu'r bobl hynny yr effeithir arnyn nhw rhag y baich ariannol sylweddol o dalu am fethiannau datblygwyr—yr amddiffyniadau rhaeadr fel y'u gelwir. Gan nad yw'r amddiffyniadau hynny, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn berthnasol i Gymru, rwyf yn pryderu y gallai'r trefniadau pontio hynny roi baich ychwanegol ar lesddeiliaid yn y tymor byr iawn.
Felly, dim ond i droi at fy nghwestiwn, os caf i, Dirprwy Weinidog: pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i lesddeiliaid nad ydyn nhw ar eu colled yn ariannol, ac a allwch chi ein sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu, yn siarad ac yn ymgysylltu â'r dioddefwyr hynny yr effeithir arnyn nhw? Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno hwn heddiw. A gaf i ar y dechrau fan yma jest nodi pa mor gwbl annigonol ydy'r broses yma wrth lunio deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig? Dydy'r pwyllgor, er enghraifft, ddim wedi cael amser i graffu yn iawn, heb sôn am y gallu i bobl Cymru fedru cymryd rhan yn y broses hon.
Y rheswm a roddwyd am bam y dylid cefnogi'r LCMs yma i gychwyn oedd oherwydd natur argyfyngus y sefyllfa, fel dŷn ni wedi clywed—roedd yn fater o'r brys mwyaf. Mae yna sawl LCM wedi cael eu cyflwyno ynghylch y mater erbyn hyn, ac mi ydyn ni 10 mis i mewn i'r chweched Senedd a dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw ddeddfwriaeth gynradd yn cael ei chyflwyno eto. Gallai'r Llywodraeth yma fod wedi drafftio ei Bil ei hun i fynd i'r afael â'r problemau dybryd sydd yn wynebu lesddeiliaid a thenantiaid, ond rydyn ni'n dal i aros.
Mae nifer o'r cymalau yn cynnwys pwerau dirprwyedig. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r rhain, a dim ond un pŵer a roddir i Weinidogion Cymru. Ydych chi'n hapus i drosglwyddo'r grym yma drosodd i'r Ysgrifennydd Gwladol? Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd efo'r hawl i sefydlu swyddfa'r ombwdsman newydd, fydd efo'i rymoedd yn ymestyn dros Gymru. Rôl ymgynghorol yn unig fydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn. Ydych chi, felly, yn hapus efo trosglwyddo'r grymoedd yma i San Steffan, ac ydych chi'n hapus yn trystio'r Llywodraeth yno i wneud y penderfyniad gorau ar ran pobl Cymru? Ac mi wnaf i nodi'n fan yma fy mod i'n gweld y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cael mwy o wleidyddion i Gymru—rôl gwleidyddion, wrth gwrs, ydy craffu Biliau er mwyn gwneud yn siŵr bod Biliau da yn cael eu gweithredu yng Nghymru—ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu rôl swyddfeydd newydd, fel ombwdsmyn, sydd yn ffeindio bai ar ôl i bethau fynd o'u lle.
Yn yr un modd, yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig sydd â'r pŵer i gyhoeddi a chymeradwyo cod ymarfer. Rôl ymgynghorol yn unig yw rôl Gweinidogion Cymru cyn i reoliadau o'r fath gael eu gwneud, ac ni fydd gan Weinidogion Cymru unrhyw hawliau eraill—er enghraifft, yr hawl i feto. Ydych chi'n fodlon, felly, y bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithredu yn unol â dymuniadau Cymru? Yn olaf yn y mater hwn, bydd darpariaethau'r cynllun Ombwdsman Cartrefi Newydd yn dod i rym ar ddyddiad a bennir mewn rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ydych chi'n meddwl bod hyn yn briodol, gan, unwaith eto, y byddwn ni'n gweld llais Cymru yn cael ei wanhau?
O ran y Bil sy'n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd, mae'n rhwystredig gweld y Llywodraeth yma yn fodlon gadael i'r sefydliad llychlyd ar lannau Tafwys ddeddfu ar ein rhan unwaith eto. Ond ydy hyn yn gosod cynsail? Ydy Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio Biliau'r Deyrnas Gyfunol er mwyn gwneud newidiadau pellach i ddiogelwch adeiladau yma, ynteu a fydd unrhyw newidiadau pellach yn cael eu cynnwys mewn Bil diogelwch ar lawr y Senedd hon?
Yn olaf, mae nifer o randdeiliaid, pobl sy'n llesddalwyr, wedi bod mewn cyswllt â fi'n ddiweddar yn pryderu'n arw am y costau sylweddol y maen nhw'n eu hwynebu rŵan hyn. Pa sicrwydd y medrwch chi roi i'r bobl yma na fydd yn rhaid iddyn nhw dalu dim mwy na'r hyn maen nhw eisoes wedi'i dalu am waith atgyweirio, boed yn waith allanol neu yn waith mewnol? Diolch.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb nawr i'r ddadl. Lee Waters.
Diolch. A diolch am yr holl gyfraniadau. Rhaid i mi ddweud, Llywydd, dyma'r ail dro heddiw i mi gael stŵr gan Janet Finch-Saunders am beidio â rhoi digon o sylw i Twitter, ond dylwn i roi gwybod i'r Aelodau fy mod yn cael ychydig o seibiant o Twitter, sydd, yn amlwg, yn cael ei groesawu gan rhai o fy nghyd-Aelodau, a gallaf eich sicrhau chi bod swyddfa'r wasg y Llywodraeth wrth eu bodd. [Chwerthin.] Felly, mae arnaf i ofn na welais i y sgyrsiau hynny. Ond, edrychwch, mae'n ymddangos bod cefnogaeth yn y Senedd i egwyddor yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud a'r bwriad polisi. Mae anesmwythyd amlwg ynglŷn â'r mecanwaith yr ydym ni'n ei ddefnyddio i wneud hynny, ac rwyf yn cydnabod y pryderon ac rwyf yn deall y rhwystredigaethau.
Gwnaeth Huw Irranca-Davies greu delwedd ohonof yn y nos gyda fy mhen ar y gobennydd, yn poeni am wahanol bethau, ac yn cytuno'n gyfrinachol â'r pwyntiau a wnaeth. Ac, wrth gwrs, rwy'n gyn-aelod o'i bwyllgor ac rwy'n deall yn iawn y pryderon sydd gan Aelodau. Ac mae tensiwn, fel y nododd Alun Davies yn gywir, rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth bob amser, a dyna sut y dylai fod. Rydym ni'n wynebu dyfarniadau pragmatig. Wrth gwrs, gallem ni fod wedi cyflwyno ein deddfwriaeth ar wahân ar hyn, ond yna ni fyddem wedi gallu gwneud hynny o fewn yr un amserlen. Ac o ystyried difrifoldeb y materion a wynebir yma, ein barn ni oedd ei bod yn well cael rhywbeth a oedd yn addas i'r diben ar y llyfr statud cyn gynted ag y gallem ni, i ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed, yn hytrach nag aros i fod â Bil Cymru. Pe byddem wedi bod â Bil Cymru—. Mae'r pwyllgor eisoes wedi nodi bod gennym raglen ddeddfwriaethol lawn, felly pe byddem â Bil ar wahân ar hyn, byddai hynny ar draul rhywbeth arall. Ac fel yr ydym ni newydd fod yn ei drafod yn y Senedd y prynhawn yma, mae ein gallu cyfreithiol yn dal i fod ynghlwm wrth reoliadau coronafeirws a gyda gwaddol Brexit, ac ychydig iawn y gall ein swyddogion polisi a'n swyddogion cyfreithiol ei wneud. Felly, mae gennym raglen ddeddfwriaethol lawn a beiddgar, a phan fydd cyfleoedd i ddefnyddio deddfwriaeth y DU i hyrwyddo ein nodau polisi, mae gennym farn bragmatig ei bod yn iawn gwneud hynny.
Mae gennyf awgrym o ymyriad gan Alun Davies. A ydych yn fodlon derbyn yr ymyriad?
Rwy'n credu fy mod yn deall grym llawn ei ddadl, Llywydd, felly byddai'n well gennyf—. Wel, gadewch iddo fod yn gryno a gadewch i mi glywed ffrwydrad ei ddadl un tro eto. [Chwerthin.]
Alun Davies.
Mae'n dipyn o beth i Lee Waters ddweud wrthyf i am fod yn gryno, onid yw? Rydych chi'n dweud bod angen i chi fod â hyn ar y llyfr statud cyn gynted â phosibl, ond mae arnaf i ofn, Gweinidog, nad yw'n wir. Mae gweithdrefnau ar waith yn y Senedd i alluogi'r Llywodraeth i gyflawni ei busnes yn gyflymach pan fo angen hynny, ac mae'r Senedd bob amser wedi mabwysiadu ymagwedd bragmatig iawn at hynny. Gwyddom hefyd fod y Llywodraeth wedi parhau â'i gwaith datblygu polisi yn ystod cyfnod y Bil hwn sy'n mynd drwy San Steffan. Felly, nid yr hyn a ddywedwyd wrthym yr haf diwethaf yw'r hyn y gofynnir i ni ei gefnogi heddiw. Felly, gwyddom fod y Llywodraeth yn parhau i weithio ar hyn ac y gallai fod wedi cyflwyno Bil i'r lle hwn yn yr amser y mae wedi'i gymryd i gyrraedd y pwynt hwn heddiw. Felly, nid yw'r ddadl honno'n sefyll ar ôl ei harchwilio, mae arnaf i ofn.
Wel, â phob parch i Alun Davies, nid mater o gael amser y Senedd yn unig ydyw. Mae'n ymwneud â bod â'r capasiti o fewn y Llywodraeth i fynd â Bil cyfan drwodd, ac mae'r rheini'n bethau gwahanol. Felly, rwy'n anghytuno'n barchus ag ef ynglŷn â'r dyfarniadau pragmatig yr ydym wedi'u hwynebu.
A byddwn yn pwysleisio i'r Aelodau mai deddfwriaeth sylfaenol yw hon. Bydd sylwedd y deddfiad mewn is-ddeddfwriaeth, a fydd i gyd yn ddwyieithog, y bydd yn destun craffu arni ac ymgynghori, gyda swyddogaeth i'r Senedd hon, a bydd y rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Bil wedi'u cychwyn gan Weinidogion Cymru. Felly, rwy'n credu bod cydbwysedd i'w daro. Credwn fod gennym y cydbwysedd cywir, ond rwy'n deall yn llwyr yr anesmwythyd gyda'r dull hwn. Ond mae arnaf i ofn bod Gweinidogion y Llywodraeth, gyda'i gilydd, yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd weithiau ar gydbwysedd y pethau hyn, ac er gwaethaf pryderon Aelodau, rydym o'r farn, y tro hwn, o ystyried difrifoldeb y mater dan sylw, ein bod wedi gwneud yr un iawn, ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn diystyru pryderon a godwyd ac nad ydym yn eu cymryd o ddifrif. Ond anogaf Aelodau i gefnogi'r LCM. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly, mae'r—[Torri ar draws.] Na, dyw e ddim yn rhy hwyr, nes i glywed e cyn i fi orffen fy mrawddeg. [Gwrthwynebiad.] Dwi yn clywed gwrthwynebiad, ac felly, fe wnawn ni atal y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.