– Senedd Cymru ar 26 Ebrill 2022.
Eitem 14 sydd nesaf, a'r eitem yma yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn am y flwyddyn 2020-21, a dwi'n galw ar Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i wneud y cynnig. Jeremy Miles.
Cynnig NDM7980 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.
2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.
3. Yn croesawu'r ffaith y 'rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr' a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.
4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.
Diolch Llywydd, ac a gaf i agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Claire Morgan, prif arolygydd dros dro addysg a hyfforddiant yng Nghymru ar y pryd, am ei hadroddiad blynyddol? Mae'r adroddiad annibynnol hwn yn gofnod pwysig o'r ffordd yr ymatebodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill i'r heriau a gododd ym mlwyddyn academaidd 2020-21 o ganlyniad i'r pandemig. Mae hefyd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o effaith y coronafeirws ar ddysgwyr a'r gweithlu addysg. Er bod yr effaith hon yn anochel, yn aml yn negyddol, mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at rai o'r agweddau cadarnhaol a welwyd gan Estyn. Er enghraifft, mae dysgwyr a staff wedi addasu ac arloesi, gan adeiladu sgiliau digidol newydd, tra bod ysgolion yn gyffredinol wedi cryfhau eu perthynas gyda'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
Rwy'r un mor falch bod yr adroddiad yn cydnabod gwytnwch a dyfalbarhad aruthrol y gweithlu addysg. Mae'n disgrifio sut maen nhw wedi bod yn hyblyg, yn greadigol, ac wedyn addasu'n barhaus mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr. Roedd hyn yn hollbwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond gallai fod o fudd i'r system addysg yn y dyfodol hefyd. Rwyf am achub ar y cyfle heddiw i ystyried y negeseuon hyn, ac i ddiolch o waelod calon i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg am eu holl waith i wneud y mwyaf o'r dysgu, ac i leihau'r aflonyddwch i'n dysgwyr. Rhaid inni adeiladu ar y cryfderau y mae Estyn wedi eu nodi wrth inni barhau i gyflawni ein diwygiadau addysg trawsnewidiol.
Hoffwn i gymryd peth amser, Llywydd, i ganolbwyntio ar lesiant. Rwy'n cytuno na ddylem ni danamcangyfrif yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar lesiant ein dysgwyr, ein staff a'n harweinwyr. Felly, roeddwn i'n falch o ddarllen yn yr adroddiad sut roedd darparwyr yn blaenoriaethu llesiant dysgwyr yn gyson. Mae llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i mi. Rwy'n benderfynol felly o adeiladu ar y pwyslais hwn ar lesiant drwy'r Cwricwlwm i Gymru. Rwy'n credu pan fydd dysgwyr yn hapus, gyda chefnogaeth gweithlu diogel a bodlon, maen nhw'n fwy tebygol o fod yn hyderus ac yn barod i ddysgu ac i gyflawni eu potensial.
Dyma pam mai un o elfennau allweddol y cwricwlwm yw datblygu fframwaith i helpu ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Mae hyn yn rhoi'r arfau i ysgolion ddatblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau, adeiladu ar y cryfderau, ac wedyn i werthuso llwyddiant y gwaith hwn. Mae'r fframwaith dull ysgol gyfan yn rhoi pwyslais gwirioneddol ar hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial personol ac academaidd.
Rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion eisoes wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r fframwaith hwn a rhoi strategaethau ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc drwy ddull ysgol gyfan cynhwysol o ymdrin â'u hiechyd a'u lles. Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn eu helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio i hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol yn yr ysgol. Bydd hyn yn creu ffynhonnell annibynnol o gyngor ar yr ystod o ymyraethau, rhaglenni a hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd ac sy'n cael eu marchnata i ysgolion. Rydym hefyd yn dymuno cefnogi pobl ifanc yn uniongyrchol â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol. Dyna pam yr ydym wedi creu'r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc i hyrwyddo a chyfeirio pobl ifanc i'r offer digidol niferus sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar eu cyfer nhw.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen cymorth mwy uniongyrchol ar unigolion o hyd mewn rhai achosion. Am y rheswm hwn, rydym yn cynyddu ein dyraniadau i awdurdodau lleol ar gyfer cwnsela, ymyraethau a hyfforddiant i blant ac oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw ledled Cymru o £3.8 miliwn i £6.5 miliwn yn 2024-25.
Mae lles ein gweithlu addysg yn flaenoriaeth arall. Mae adroddiad Estyn yn glir ynghylch y pwysau aruthrol a wynebwyd gan arweinwyr ysgolion a'r gweithlu ehangach yn ystod y pandemig. Gan gydnabod hyn, bydd cyllid ar gyfer cymorth iechyd a lles meddwl i staff ysgolion yn cael ei dreblu yn y flwyddyn ariannol newydd. Am yr ail flwyddyn, rydym hefyd yn ariannu pecyn pwrpasol wedi'i deilwra o wasanaethau cymorth iechyd a lles meddwl i athrawon a staff cymorth drwy'r elusen Cymorth Addysg.
Llywydd, un canlyniad cadarnhaol a amlygwyd yn yr adroddiad yw gwella sgiliau digidol gan ddysgwyr ac athrawon. Mae gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol o fewn addysg yn sicr yn rhoi cyfle i ni gyfoethogi dysgu ac addysgu a helpu i godi cyrhaeddiad a dyheadau ein plant a'n pobl ifanc. Rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau bod ysgolion yn gallu croesawu a gwireddu'n llawn y manteision y mae datblygiadau digidol yn eu cynnig. Drwy ein rhaglen Hwb, rydym yn darparu sylfeini cenedlaethol i gefnogi a chyflawni trawsnewid gwirioneddol o fewn y sector addysg.
Yn ddiamau, mae technoleg ddigidol wedi ein cefnogi ni i gyd drwy gydol y pandemig i raddau nad ydym erioed wedi'u profi o'r blaen. Roedd Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi ysgolion i bontio i ddysgu o bell ac i sefydlu cymorth yn gyflym ar gyfer dysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Gyda chymaint ohonom yn treulio mwy o amser ar-lein, mae hefyd wedi tynnu sylw at ba mor hanfodol yw parhau â'n gwaith cydnerthedd digidol i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel. Rwy'n benderfynol bod Cymru'n dod yn arweinydd rhyngwladol wrth groesawu'r byd digidol a thechnoleg mewn addysg, gan ei roi wrth wraidd y cwricwlwm i Gymru. Mae'n rhaid i ni bellach adeiladu ar y gwersi yr ydym wedi'u dysgu a pharhau i fabwysiadu cyfleoedd arloesi digidol fel ein bod yn sicrhau llwyddiant y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Llywydd, mae rhai o ganfyddiadau mwyaf gofidus yr adroddiad blynyddol yn ymwneud â'n dysgwyr mwyaf difreintiedig ac, mewn rhai achosion, effaith anghymesur y pandemig ar eu dysgu a'u lles. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod presenoldeb disgyblion ysgol uwchradd o gefndiroedd difreintiedig yn ystod y pandemig yn llawer is na disgyblion eraill. Roedd y staff yn pryderu'n arbennig am yr ymgysylltiad isel â dysgu o gartref gan ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gyffredinol, a daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Nid yw'r canfyddiadau hyn ond yn pwysleisio pwysigrwydd y datganiad i'r Senedd a wnes i fis diwethaf, gan amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan roi hyn wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol mewn addysg a cheisio cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.
Llywydd, wrth gloi, rwyf wedi dewis rhai o'r rhannau mwyaf amlwg o adroddiad blynyddol Estyn ac wedi ystyried yr hyn y maen nhw'n ei ddweud wrthym am agweddau allweddol ar ein rhaglen o ddiwygio a thrawsnewid addysg. Rwy'n ddiolchgar unwaith eto i Estyn am lunio'r adroddiad hwn. Dim ond drwy gasglu a rhannu dysgu o'r fath, deall yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a'r hyn nad yw wedi gweithio'n dda, y byddwn yn parhau i adeiladu system addysg sy'n addas ar gyfer heriau yfory yn ogystal ag ymdrin â'r rhai a wynebir gan ddysgwyr heddiw.
Dwi wedi dethol un gwelliant i'r cynnig, a'r gwelliant hwnnw yn enw Siân Gwenllian. Dwi'n galw ar Heledd Fychan i gyflwyno'r gwelliant hwnnw.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y 'daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig.'
Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol.
Fel y gwyddom i gyd, ac fel y mae'r adroddiad yn amlwg yn ei grybwyll ac wedi ei amlinellu gan y Gweinidog, efallai mai blwyddyn academaidd 2020-21 oedd yr un fwyaf heriol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a ledled y byd. Mae'r pandemig wedi amharu'n aruthrol ar y system ac mae'n parhau i wneud hynny, gan effeithio ar holl staff yr ysgol, disgyblion a'u teuluoedd. Er, fel y gwelsom gyda'r adroddiad, nid oedd yr effeithiau'n cael eu teimlo'n gyfartal. Roedd darparwyr addysg yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg o'r blaen yn ystod y pandemig, ac eto roedden nhw'n dal i reoli sefyllfaoedd heriol yn effeithiol ac yn sicrhau eu bod ar gael mwyfwy i ddysgwyr a'u teuluoedd.
Rydym yn gwybod am athrawon yn ceisio cadw cydbwysedd wrth geisio addysgu eu plant o'u cartrefi, ac yn gorfod ynysu, a'r holl heriau yna hefyd. Ac eto, nid oedd eu hymdrechion heb eu canlyniadau. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod staff wedi teimlo lefelau uwch o bryder, gydag arweinwyr a staff fel ei gilydd yn teimlo'n ynysig ac wedi blino. Roedd darparwyr addysg yn gydnerth ac yn rhagweithiol yn eu hymateb i'r aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig, a dylid eu canmol am flaenoriaethu lles eu dysgwyr yn ystod cyfnod mor heriol. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod darparwyr wedi sefydlu systemau cynhwysfawr i gadw mewn cysylltiad â'u dysgwyr er mwyn iddyn nhw allu nodi materion yn gyflym a mynd i'r afael â nhw pan oedden nhw'n codi.
Wrth i ni ddechrau dod allan o'r pandemig, er bod yr effeithiau'n dal i fod yno, gyda niferoedd yn dal i fod yn her i athrawon a disgyblion fel ei gilydd, gwelwn ddarparwyr addysg yn dal i wynebu'r heriau sylweddol o weithredu diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol a'r cwricwlwm newydd, yng nghyd-destun effeithiau tymor hwy y pandemig ar addysg a lles, yn ogystal â chael effaith ar faterion recriwtio a chadw staff. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod anghenion lles y sector yn cael eu cefnogi, a bod adferiad addysg ystyrlon yn digwydd, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r rhai y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw fwyaf.
Mae ein gwelliant yn nodi ein gofid bod Estyn wedi canfod bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir bod y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg, gyda'r grŵp cyntaf yn llai tebygol o gael mynediad at Wi-Fi, dyfeisiau digidol a chymorth gyda'u gwaith ysgol gartref, a'r pandemig yn debygol o effeithio'n ariannol ar eu teuluoedd, wrth i deuluoedd mwy orfod hunanynysu'n amlach. Ac er fy mod i'n croesawu pwyslais y Gweinidog o ran arloesi digidol, sydd yn sicr wedi arwain at wahanol ffyrdd o weithio, gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â disgyblion, ni allwn danbrisio'r effaith yr ydym yn ei gweld o ran y rhaniad digidol hwnnw, a'r effaith y mae hyn wedi bod yn ei chael o ran gwneud y gwahaniaeth hwnnw hyd yn oed yn fwy amlwg.
Gadewch i ni fod yn glir: cyn y pandemig, roeddem yn gwybod bod tua 195,000 o blant yn byw mewn cartrefi islaw'r llinell dlodi, a bydd y ffigur hwn, rydym yn gwybod, wedi tyfu oherwydd yr argyfwng presennol, yn ogystal â'r pandemig. Ac rydym yn gwybod, fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog, fod tlodi'n cael effaith sylweddol ar addysg plentyn. Fel y dywedodd un Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru: 'Mae addysg i fod am ddim, ond mae llawer o bethau yn yr ysgol nad ydyn nhw am ddim.' Felly, gofynnir i deuluoedd gyfrannu'n rheolaidd at gost gwisg ysgol, teithiau, codi arian elusennol, prydau ysgol a byrbrydau, a darparu offer ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Ac nid oes gan lawer o deuluoedd tlawd arian i'w wario ar ôl iddyn nhw dalu am dai a biliau hanfodol, sy'n gwneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan nad ydyn nhw'n gallu fforddio taliadau bach hyd yn oed i gael cymryd rhan.
Rwy'n gwybod o siarad â theuluoedd yn fy rhanbarth i, sef Canol De Cymru, am eu gofid pan fydd ysgolion yn casglu ar gyfer banciau bwyd, a'u plant yn gorfod egluro eu bod nhw eu hunain yn dibynnu ar gyfraniadau'r banciau bwyd. Rwy'n gwybod bod rhai ysgolion yn gwneud hyn yn sensitif iawn, ond nid yw pobl bob amser yn gwybod beth yw'r effaith ar deulu, teulu nad yw erioed wedi bod mewn argyfwng o'r blaen, sydd bellach mewn argyfwng ac yn gorfod mynd i fanc bwyd am y tro cyntaf. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn sensitif i hyn i gyd, ac mae wedi'i amlinellu yn yr adroddiad o ran y gwahaniaeth hwnnw yr ydym yn ei weld.
Rydym yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn gwaethygu ymhellach yn sgil yr argyfwng costau byw, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
Mae nifer o enghreifftiau o atebion posibl lle gallwn gymryd mwy o gamau ar fforddiadwyedd a darparu rhagor o gymorth i deuluoedd, er enghraifft, sy'n ei chael yn anodd talu am wisg, neu ar gyfer teithiau a gweithgareddau allgyrsiol, i sicrhau arfer cyson ledled Cymru. Dylid rhoi dulliau ariannu, arweiniad ac atebolrwydd ar waith.
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o dlodi ar gyfer ysgolion. Mae'n bwysig bod gan staff ysgolion ddealltwriaeth glir o achosion a chanlyniadau tlodi plant yn eu hardal, er mwyn iddyn nhw allu gweithredu polisïau ac arferion sy'n gynhwysol i bawb. Felly, gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein gwelliant heddiw. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Estyn am yr adroddiad hwn. Mae'n ddiddorol darllen adroddiad annibynnol Estyn ar gyfer 2020-21 ac mae'n peri pryder mawr mewn rhai meysydd, fel yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, sydd wrth gwrs yn adlewyrchu'r pandemig, ac mewn rhai meysydd mae'r hyn a welwn yn ddealladwy. Ond mae problemau hefyd wedi'u hamlygu a oedd yn gynhenid cyn y pandemig, wedi'u gwaethygu gan y pandemig, ac nid ydyn nhw mor anfaddeuol. Cyn i mi fanylu ar yr adroddiad, hoffwn gofnodi eto fod y Ceidwadwyr Cymreig yn canmol holl arweinwyr a staff ysgolion, sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed a diflino yn ystod cyfnod anodd iawn—yn y rhan fwyaf o achosion, aethon nhw y tu hwnt i'r disgwyl.
Gan symud at yr adroddiad, plant Cymru sydd wedi colli'r mwyaf o ddysgu yn y Deyrnas Unedig gyfan, gyda phlant Cymru yn colli traean o'u dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gyda chanlyniadau PISA Cymru yn gyfartal â chyn-wladwriaethau y bloc Sofietaidd, mae hyn yn bryder. Fel y dywedir yn yr adroddiad, cododd bron pob ysgol, arweinydd ac athro bryderon ynghylch cynnydd disgyblion yn ystod effaith y pandemig. Arweiniodd tarfu ar ddysgu drwy gyfnodau o gyfyngiadau symud a hunanynysu at gynnydd gwaeth yn sgiliau llythrennedd a rhifedd llawer o ddisgyblion. Er bod ysgolion yn darparu gweithgareddau darllen i ddisgyblion ar-lein ac awgrymiadau ar gyfer ymarfer eu darllen gartref, roedd ymgysylltiad disgyblion â'r cyfleoedd hyn yn amrywio'n sylweddol, fel y gwelsom yn gyffredinol. Ac roedd hyn yn wir am ddysgu ar-lein ar bob lefel o addysg. Yn anffodus, fel y dywed yr adroddiad, ychydig iawn o gynnydd a wnaeth y rhai nad oedden nhw'n darllen yn rheolaidd yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd hyn yn golygu, pan ddychwelon nhw i'r ysgol, fod disgyblion hŷn, fel y dywed yr adroddiad, weithiau'n ei chael hi'n anodd darllen y tu hwnt i ystyr llythrennol testun, a bod disgyblion iau yn aml yn ei chael hi'n anodd dadgodio geiriau anghyfarwydd a gwneud synnwyr o'r hyn yr oedden nhw'n ei ddarllen. Hefyd, amcangyfrifodd y Sefydliad Polisi Addysg fod disgyblion mewn ysgolion cynradd, ar gyfartaledd, wedi colli tua thri mis o ddysgu o ran mathemateg. Nododd athrawon ddirywiad yn sgiliau gwrando, siarad a chymdeithasol disgyblion, yn enwedig disgyblion sy'n agored i niwed a'r rhai yn y cyfnod sylfaen. Yn y cyfnod sylfaen, y pryder mwyaf oedd bod disgyblion yn colli datblygiad allweddol a cherrig milltir meddyliol, fel y gwnaeth fy mhlentyn fy hun, a allai effeithio ar eu lles emosiynol, eu cyfathrebu a'u datblygiad dysgu.
Gweinidog, pan ddarllenais yr adroddiad, yr oedd un dyfyniad yn yr adroddiad wedi gadael ei farc arnaf, fel y gwnaeth, yn amlwg ar Blaid Cymru, fel y crybwyllwyd yn eu gwelliant, y byddwn ni yn ei gefnogi: daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Rwy'n credu mai dyna'r peth allweddol i'w dynnu o'r adroddiad hwn, a dyna'r peth sy'n peri'r pryder mwyaf, ac ni ellir ei waethygu ymhellach. Yn anffodus, mae effaith y pandemig wedi'i hamlygu'n glir i bawb yn y ddogfen hon, a'r effaith andwyol ar ddisgyblion yn peidio â chael eu haddysgu wyneb yn wyneb yn ein hysgolion. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwersi yr ydym wedi'u dysgu, fel y mae'r Gweinidog newydd ei amlinellu, a'n harlwy digidol, a'r gefnogaeth ar-lein i fynd gyda hynny.
Ym mron pob ysgol, methodd cyfran o ddisgyblion ag ymgysylltu â'r holl ddysgu gartref, ac roedd hyn yn fater arbennig i ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwy difreintiedig. Dywedodd fod uwch arweinwyr yn credu nad oedd hyd at draean o'r disgyblion yn ymgysylltu â gwaith a osodwyd. Mae hyn yn peri pryder mawr, yn enwedig o ran pobl ifanc o oedran arholiad. Ac, fel yr amlygwyd gan fy nghyd-Aelod Tom Giffard, mae'r disgyblion hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn wynebu'r risg fwyaf o gael eu gadael ar eu hôl pan nad ydyn nhw yn yr ysgol yn gorfforol.
Mae presenoldeb disgyblion, fel yr amlinellodd y Gweinidog, yn peri pryder am lu o resymau. Arhosodd yn gyson yn is na 90 y cant, hyd yn oed ar gyfer tymor yr haf, o'i gymharu â phresenoldeb cyfartalog o dan 94 y cant ar gyfer blwyddyn lawn olaf addysg, 2018-19. Roedd presenoldeb disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn llawer is na phresenoldeb disgyblion eraill. Mewn rhai achosion, fel y nodir yn yr adroddiad hwn, nid oedd disgyblion blwyddyn 11 hyd yn oed yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol, a oedd yn eu gadael mewn perygl o adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Roedd hyn am sawl rheswm, ond mae methiannau amlwg gan y Llywodraeth hon i helpu ysgolion, helpu plant a phobl ifanc a welodd effaith ar eu hiechyd meddwl. Byddwn yn annog y Gweinidog i gyflwyno'n gyflym y gefnogaeth a amlinellodd yn gynharach ar gyfer helpu gydag iechyd meddwl.
Er bod amrywiaeth sylweddol, ledled Cymru, yn yr amser ysgol a gollodd disgyblion ysgol uwchradd oherwydd eu bod yn gorfod hunanynysu, mewn rhai ysgolion collodd grwpiau blwyddyn cyfan 12 wythnos o ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn nhymor yr hydref. Yn fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru, gwelais ysgol leol â dim ond dau grŵp blwyddyn ar un adeg.
Mae'r adroddiad yn nodi bod llawer o ysgolion, yn dilyn y cyfyngiadau symud, wedi nodi dirywiad yn sgiliau cymdeithasol disgyblion, a bod bron pob ysgol wedi canfod bod y cyfyngiadau symud wedi effeithio'n andwyol ar les disgyblion i ryw raddau. Mae'n amlwg bellach fod cael eu cadw i ffwrdd o amgylchedd ysgol yn cael effaith fawr ar ddisgyblion yn gyffredinol, nid ar eu haddysg yn unig. Mae'r ysgol yn chwarae rhan enfawr, fel y gwyddom i gyd erbyn hyn, o ran cymdeithasu plant, o ran gwella eu hiechyd meddwl drwy chwarae a dysgu gydag eraill. Mae angen i ni weld mwy o adnoddau wedi'u targedu'n cael eu darparu i sicrhau bod plant yn gallu gwella, addasu a dal i fyny'n iawn, er nad ydym yn hoffi defnyddio'r gair hwnnw, ar ôl effeithiau'r pandemig. Mae'n destun pryder bod yr adroddiad hefyd wedi canfod bod bylchau cyffredinol o ran dysgu disgyblion yn cyd-fynd â bylchau yn y ddarpariaeth.
Yn gyflym iawn, roedd iechyd meddwl gwael y staff yn gyffredin yn bennaf mewn ysgolion uwchradd, oherwydd eu bod yn gorfod cymryd y cyfrifoldeb dros raddau a bennwyd gan ganolfannau ac roedd y cyfrifoldeb wedi ei roi arnyn nhw yn hytrach nag ar fyrddau arholi. Cafodd y pwysau ychwanegol hwn effaith andwyol iawn ar lawer o athrawon a oedd dan fwy o bwysau ac na chawson nhw eu gwobrwyo'n ariannol.
Y cwricwlwm, yn gyflym: mae'r cynnydd o ran cynllunio ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm—mae'n rhaid bod pob un ohonom yn poeni amdano—mor ysbeidiol ar draws ein hysgolion, ac, fel y dywedodd Heledd, ochr yn ochr â rhoi'r ADY newydd ar waith hefyd. Mae eisiau i ni sicrhau, Gweinidog, fod y cymorth yn cael ei dargedu i'r ysgolion hynny y mae gwir ei angen arnyn nhw.
Mae cyfathrebu Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig yn cael ei amlygu yn yr adroddiad fel un 'gresynus', gyda chyhoeddiadau a rheoliadau neu ganllawiau'n cael eu rhoi heb fawr o rybudd neu ddim o gwbl. Clywais y pryderon hynny'n barhaus yn ystod y pandemig. Felly, hoffwn i wybod sut y mae'r Gweinidog yn mynd i wella'r cyfathrebu hwnnw, ei wella rhwng awdurdodau lleol, yr ysgolion a Llywodraeth Cymru.
Gweinidog, mae angen i ni sicrhau bod addysg yn cael ei diogelu ar gyfer y dyfodol rhag unrhyw ddigwyddiad posibl wrth symud ymlaen: sgiliau digidol, dysgu proffesiynol, cyflwyno band eang, peryglon disgyblion ar-lein. Gallwn fynd ymlaen. Yn anffodus, nid oes gen i ddigon o amser i fynd drwy'r adroddiad cyfan hwn, gan ei fod mor fawr. Mae'r adroddiad hwn yn ddamniol, ond oherwydd y pandemig a'r dystiolaeth yr ydym wedi ei thrafod yn y pwyllgor, nid yw'n syndod. Mae angen i les disgyblion fod ar frig ein hagenda. Rwy'n credu mai dyna'r peth sy'n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro gan blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gondemniad damniol o arweinyddiaeth addysgol Llafur yng Nghymru dros y 23 mlynedd diwethaf, ac, yn gwbl amlwg, mae angen cymryd camau yn awr i wrthdroi'r dirywiad hwnnw a gyflwynwyd ganddyn nhw eu hunain ac mae hynny wedi'i waethygu gan y pandemig hwn.
Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i Claire Morgan am ei gwaith yn ystod ei chyfnod fel prif arolygydd dros dro, a hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i Owen Evans, a ddechreuodd yn y swydd barhaol ym mis Ionawr 2022, ac mae'n dda iawn gweld Owen yma yn yr oriel heddiw. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gydag Owen, Claire a'u cydweithwyr drwy gydol y chweched Senedd.
Nid yw'n syndod mai'r pandemig yw thema ganolog adroddiad Estyn ar gyfer 2020-21. Er i ysgolion ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb ym mis Medi 2020, parhaodd disgyblion, staff a theuluoedd i wynebu aflonyddwch sylweddol drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r rhagair i adroddiad Estyn yn dweud wrthym,
'mae'r gweithlu wedi ymateb unwaith eto i'r heriau hyn.'
Mae'n ein hannog i
'gydnabod a gwerthfawrogi'r athrawon, yr hyfforddwyr, y staff cymorth a'r arweinwyr a ddaeth o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu ar gyfer anghenion addysgol a llesiant eu dysgwyr a chefnogi ei gilydd drwy gyfnodau anodd.'
Ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, hoffwn gofnodi ein diolch i Estyn, y dysgwyr, y staff, y teuluoedd a'r llu o broffesiynau a staff cymorth eraill am bopeth y maen nhw wedi'i wneud ar gyfer addysg a lles plant drwy gydol y pandemig.
Buom yn craffu ar Estyn a'u hadroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr 2021. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth honno ac yn yr adroddiad ei hun, nododd Claire a'i chydweithwyr sut yr oedd Estyn yn mynd ati i weithio yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Roedd Estyn wedi bwriadu cefnogi ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar sut yr oedd ysgolion yn ymateb i'r pandemig, lles dysgwyr, lles y gweithlu, addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth. Rhoddodd Estyn mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth, gan gyfarfod yn rheolaidd â rhanddeiliaid, undebau athrawon a'i grŵp cyfeirio penaethiaid. Cynhaliodd gyfres o adolygiadau thematig, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr, rhieni a staff. Cawsom ein calonogi hefyd o glywed bod Estyn yn parhau â'i raglen ddysgu broffesiynol ar gyfer ei arolygwyr, yn enwedig yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol, a bod Estyn yn parhau i fonitro ysgolion sy'n peri pryder. Ar y cyfan, roeddem yn teimlo bod dull gweithredu Estyn yn briodol. Gwnaethom gefnogi ei ymdrechion i helpu ysgolion i barhau i gefnogi lles eu dysgwyr a'u staff, a chyflwyno'r cwricwlwm craidd.
Ond nid oes amheuaeth beth yw goblygiadau'r pandemig i Estyn ac i addysg a lles plant. Fe wnaeth y pandemig amharu ar addysg pob plentyn yng Nghymru. I rai, fel dysgwyr sy'n agored i niwed, y rhai ag anghenion ychwanegol neu'r rhai y mae Saesneg yn ail iaith iddyn nhw, roedd yr aflonyddwch yn arbennig o ddifrifol. Gwaethygodd y pandemig yr anghydraddoldebau presennol rhwng dysgwyr difreintiedig a'u cyfoedion. Nid oedd Estyn yn gallu darparu'r lefel o gymorth yr oedd wedi gobeithio ei roi i sefydliadau mewn cysylltiad â'r cwricwlwm newydd a'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n destun pryder bod Estyn yn adrodd bod y cynnydd o ran cynllunio ar gyfer gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn amrywio'n fawr ar draws y sector. Mae sgiliau Cymraeg dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg gartref wedi dirywio.
Er gwaethaf rhai ymylon arian, roeddem yn pryderu am lawer o'r hyn a nodwyd gan Estyn yn ei adroddiad blynyddol ac am yr hyn a glywsom yn y pwyllgor ac rydym yn dal i bryderu am hynny. Cymaint felly, mewn gwirionedd, fod ein gwaith craffu blynyddol ar Estyn wedi bod yn sbardun allweddol i ddau ymchwiliad pwyllgor. Ysgogwyd y cyntaf, i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr, gan gyhoeddi adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion ysgol uwchradd ym mis Rhagfyr. Disgwylir i'n hadroddiad terfynol ar y broblem hon sy'n peri gofid mawr ac sy'n endemig gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd yr ail, y byddwn yn ei lansio'n fuan iawn, yn ymchwilio i absenoldeb parhaus o'r ysgol ymhlith rhai plant—ein mwyaf agored i niwed yn aml—sydd wedi'i waethygu gan gyfyngiadau symud pandemig COVID-19.
Byddwn ni hefyd yn defnyddio gwaith Estyn i lywio darn o waith yn y Senedd i fonitro'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd a gweithredu'r diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol, a fydd yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn dangos pam y mae gwaith Estyn, ein gwaith craffu blynyddol ar adroddiadau blynyddol Estyn a'n perthynas barhaus ag Estyn mor hanfodol i allu'r Senedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif o ran lles ac ansawdd yr addysg y mae'n ei darparu i blant a phobl ifanc. Fel y mae adroddiad Estyn yn ei gwneud yn gwbl glir, mae craffu'n bwysicach yn awr nag y bu erioed.
Hoffwn i ychwanegu at yr hyn a ddywedodd llefarydd y Torïaid am y cyfnod sylfaen a'r ysgolion cynradd. Hoffwn i edrych ar y sector pwysicaf, yn fy marn i, sef y sector blynyddoedd cynnar, oherwydd dyna pryd y gallwch chi wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran anfantais.
Mae'n debyg mai'r peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw fy mod i'n pryderu am y gostyngiad mewn addysg feithrin anstatudol o'r penllanw o 700 o ddarparwyr i ychydig dros 500 ym mis Gorffennaf y llynedd. Efallai nad yw hynny'n peri cymaint o bryder os yw wedi arwain at gynnydd yn y sector statudol o ddarpariaeth addysg feithrin, ac efallai y gallai'r Gweinidog addysg egluro hynny, ond yng nghyd-destun ein huchelgais i ehangu'r sector blynyddoedd cynnar a chynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant dwy flwydd oed yn ogystal â phlant tair a phedair oed, gallai hynny fod yn fater eithaf difrifol.
Rwy'n pryderu hefyd, yn amlwg, fel y mae eraill yn ei wneud, am effaith y pandemig, yn enwedig ar y plant ieuengaf nad ydyn nhw'n byw mewn tai sydd â llawer o le gardd hyfryd, oherwydd byddai'r canlyniadau wedi bod yn ddinistriol iddyn nhw. Ceisio addysgu a darparu addysg amgen drwy sgrin i blant dwy, tair a phedair oed—wel, pob lwc gyda hynny, gan ei bod yn anodd iawn cadw eu sylw ar-lein am fwy nag ychydig funudau. Rwy'n credu mai un o'r pryderon mwyaf yw'r dirywiad mewn ymddygiad, y sgiliau corfforol a'r anawsterau iaith a lleferydd, sydd wrth gwrs yn arwain at rwystredigaeth, gan fod unrhyw blentyn na all fynegi ei hun yn sicr o adlewyrchu hyn drwy ymddygiad gwael.
Mae rhai pethau cadarnhaol o adroddiad Estyn, sydd bob amser yn wych i ddarllen amdanyn nhw, sef gwneud yr angen i gael mwy o addysg yn yr awyr agored yn rhinwedd, oherwydd yn amlwg, mae cael addysg yn yr awyr agored yn lleihau'r risg o ddal COVID yn aruthrol. Roedd yn wych darllen am y gwaith da sy'n cael ei wneud yn sir Ddinbych, Wrecsam a Llanidloes i gynyddu'n wirioneddol y ddealltwriaeth gyfoethog y gall pobl ifanc ei chael o'r awyr agored, yn ogystal ag annog, yn ystod y cyfyngiadau symud, ddysgu rhieni drwy ddarparu'r offer cywir i annog rhieni i fynd â'u plant allan a helpu eu dysgu, dim ond drwy sefyll ar y glaswellt gyda thraed noeth.
Rwy'n credu bod pryder hefyd mewn cysylltiad â'r blynyddoedd cynnar, sef nad oedd llawer o leoliadau'n derbyn myfyrwyr coleg na phrentisiaid eleni, sy'n amlwg yn arwain at fwy byth o heriau o ran cael staff sydd â chymwysterau priodol ar gyfer ein hymdrechion i ehangu'r sector blynyddoedd cynnar. Mae'r rhain yn amlwg yn faterion sy'n peri cryn bryder ac yn creu heriau sylweddol i ni wrth symud ymlaen.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Er bod yr hyn sydd yn adroddiad Estyn yn dangos bod llawer gyda ni i fod yn falch ohono fe yn ein system addysg, mae'r adroddiad hefyd, wrth gwrs, yn taflu goleuni ar rai o'r elfennau hynny sydd yn rhaid inni barhau i ddelio â nhw. Rwy'n cytuno bod hyn yn cynnwys rhai o'r pethau a wnaeth Heledd Fychan sôn amdanyn nhw yn ei chyfraniad hi.
Byddwn ni'n cefnogi gwelliant Plaid, y soniodd Heledd Fychan amdano. Mae'n adlewyrchu ein pwyslais a'n blaenoriaeth fel Llywodraeth, ac ymdrechion y gweithlu addysg cyfan, yn wir. Gwnaeth rai pwyntiau pwysig mewn cysylltiad â chostau'r diwrnod ysgol. Bydd yn ymwybodol o'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid i roi arweiniad i ysgolion mewn cysylltiad â hynny, a gwn y bydd wedi croesawu ymestyn cyllid mynediad y Grant Datblygu Disgyblion, o ran bod ar gael i bob blwyddyn ysgol a'r cyfraniad ychwanegol yn ystod y flwyddyn yr ydym wedi gallu ei wneud fel Llywodraeth i'r teuluoedd hynny sy'n ei chael yn anodd eleni.
Gwnaeth Laura Anne Jones gyfres o bwyntiau pwysig. Rwy'n cytuno â hi fod y pwynt allweddol yn yr adroddiad, mae'n debyg, yn ymwneud â'r beichiau anghyfartal yr oedd gwahanol ddysgwyr yn eu teimlo, ac yn enwedig y rhai hynny o gefndir difreintiedig. Rhoddodd groeso cynnes i'r datganiad a wnes i yn y Senedd ddiwedd y tymor diwethaf mewn cysylltiad â'r gwaith yr ydym yn ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi'r dysgwyr hynny. Gwnaeth bwynt pwysig am bresenoldeb, sy'n cael ei amlygu'n glir iawn yn bryder yn yr adroddiad, a byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd yn fuan iawn ar ein dull o ymdrin â phresenoldeb, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o adolygiad yr ydym wedi'i gynnal sy'n mynd y tu hwnt i'r data, os mynnwch chi, i geisio rhoi hynny yn ei gyd-destun ehangach.
Gwnaeth Jayne Bryant bwynt pwysig iawn ynglŷn â'r effaith ar y Gymraeg.
Mae'r gwaith mae awdurdodau lleol mewn mannau yng Nghymru yn ei wneud i aildrochi rhai o'n dysgwyr ni sydd wedi cael y profiad o golli rywfaint ar eu Cymraeg yn y cyfnod hwn yn bwysig, a hoffwn i ddiolch hefyd i'r partneriaid, fel RhAG ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i wneud ein gorau glas i leihau'r impact andwyol hynny ar yr iaith.
Gwnaeth Jenny Rathbone gyfres bwysig o bwyntiau mewn cysylltiad â'r effaith ar y sector nas cynhelir. Mae'r adroddiad yn sôn am nifer o leoliadau sy'n fregus yn ariannol. Bydd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo £8 miliwn rhwng mis Mawrth 2020 a 2021 drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Estyn, i ddeall i ble y gellid cyfeirio cymorth orau yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau iaith a lleferydd, y tynnodd sylw atyn nhw yn ei chwestiwn. Yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, rydym yn cynyddu'r cyllid i awdurdodau lleol fel y gallan nhw gefnogi lleoliadau sy'n darparu addysg gynnar yn well i adlewyrchu'r pwyntiau pwysig a wnaeth yn ei chyfraniad.
Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, Llywydd, hoffwn sôn yn fyr am swyddogaeth Estyn ei hun. Roedd yr adroddiad blynyddol yr ydym wedi'i drafod heddiw yn cwmpasu blwyddyn academaidd pan ataliwyd arolygiadau craidd bron yn llwyr oherwydd y pandemig. Yn lle hynny, ymgysylltodd arolygwyr Estyn ag ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys effaith y pandemig, ac, yn bwysig, i gynnig cymorth. Fel y dywedodd Jayne Bryant yn ei chyfraniad, mae Estyn yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau mewn gwaith dilynol. Ailddechreuodd monitro ffurfiol ar ysgolion sydd angen mesurau arbennig neu welliant sylweddol yn nhymor yr haf 2021, ac rwy'n falch o ddweud bod cyfran dda o'r ysgolion hyn, hyd yma, wedi gwneud cynnydd digonol ac wedi eu tynnu o'r categori.
Mae arweinwyr ein hysgolion a'r gweithlu addysgol ehangach wedi wynebu pwysau sylweddol ac yn parhau i'w hwynebu. Dyna pam yr oedd yn bwysig i mi gytuno â'r prif arolygydd blaenorol yr haf diwethaf i barhau i atal rhaglen arolygu graidd Estyn am dymor arall, ochr yn ochr â nifer o fesurau eraill a gyhoeddais i wneud lle i ysgolion. Wedi hynny, dechreuodd Estyn dreialu trefniadau arolygu newydd gydag ysgolion gwirfoddol ac unedau cyfeirio disgyblion yn nhymor y gwanwyn eleni, ac yn ystod tymor yr haf, maen nhw'n ymestyn eu cynllun treialu gyda sampl mwy o ysgolion, y byddan nhw'n eu dewis eu hunain, i brofi'r trefniadau newydd mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau. Byddan nhw'n parhau i ddychwelyd i arolygiadau ar draws sectorau eraill, gan gynnwys ar gyfer ein lleoliadau ôl-16.
O fis Medi ymlaen, mae Estyn yn bwriadu ailddechrau rhaglen arolygu arferol ar draws pob sector. Bydd yr wybodaeth wrthrychol ac annibynnol a ddarperir gan arolygiadau yn rhoi tystiolaeth hanfodol i ni o sut y mae ysgolion yn gweithredu diwygiadau'r cwricwlwm ac ADY, y mae nifer o siaradwyr wedi cyfeirio atyn nhw, yn ogystal â gwybodaeth ehangach am y system addysg. Dyna pam yr ydym wedi cynyddu'r dyraniadau cyllid i Estyn i alluogi'r arolygiaeth i gwblhau'r arolygiad o bob ysgol yn y cylch presennol erbyn mis Gorffennaf 2024, er gwaethaf yr oedi mewn arolygiadau yn ystod y pandemig.
Yn olaf, byddwch i gyd yn gwybod bod prif arolygydd newydd wedi'i benodi ers cyhoeddi'r adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag Owen Evans dros y misoedd nesaf a gwrando ar ei farn ar sut y gall arolygu a gweithgareddau ehangach Estyn helpu i gefnogi ein system addysg i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? Nac oes, dim gwrthwynebiad, ac felly derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio?
Cynnig NDM7980 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.
2. Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.
3. Yn croesawu'r ffaith y 'rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.
4. Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.
5. Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y 'daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig.'
6. Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.
A oes unrhyw wrthwynebiad i dderbyn y cynnig wedi ei ddiwygio? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio ar gyfer y pleidleisiau eraill, ac felly mi wnawn ni gymryd toriad byr nawr, tra'n bod ni'n paratoi ar gyfer y bleidlais yn dechnegol.