1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 11 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, a'r cwestiynau yma i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. James Evans.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n siŵr yr hoffech ymuno â mi ac eraill yn y Siambr hon i gydnabod pwysigrwydd yr wythnos hon i godi proffil y rheini sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ac i'w cynorthwyo i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt gan sefydliadau y maent angen iddynt wrando, fel nad oes gennym bobl ledled Cymru yn dioddef yn dawel. Weinidog, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae’r Llywodraeth wedi’i roi i sefydliadau trydydd sector i’w helpu i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r wythnos hon, a pha gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i’r afael â thema eleni, sef unigrwydd?
Diolch am eich cwestiwn, James. Ac rwy'n falch iawn hefyd o gydnabod ar goedd y ffaith ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o weithgareddau'n cael eu cynnal ac ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn darparu cyllid i gryn dipyn o sefydliadau trydydd sector—rhai’n uniongyrchol, eraill drwy’r cyllid a ddarparwn i fyrddau iechyd. Mae’n debyg eich bod hefyd yn ymwybodol inni gyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer Amser i Newid Cymru ychydig fisoedd yn ôl. Ni, bellach, yw’r unig ran o'r DU sy'n ariannu Amser i Newid. Felly, rydym yn buddsoddi cryn dipyn o arian—£1.4 miliwn oedd y swm a gyhoeddwyd gennym—i'w galluogi i barhau â'u gwaith gwrth-stigma hynod bwysig. Ac wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl ac i ofyn am gymorth. Ac mae ein dull gweithredu yng Nghymru wedi bod yn seiliedig ar sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth hwnnw’n gyflym iawn, heb fod angen eu hatgyfeirio drwy bethau fel llinell gymorth CALL, drwy SilverCloud, ac i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael cyn gynted â phosibl.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae dysmorffia'r corff yn broblem enfawr y mae llawer o bobl ledled y wlad yn ei hwynebu. Mae llawer o bobl ifanc yn nodi'r broblem o gael eu peledu'n gyson ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddelweddau sydd wedi’u golygu â ffilteri, gan roi syniad camystumiedig o beth yw'r gwirionedd i lawer o bobl ifanc. Y gobaith yw y bydd y Bil diogelwch a niwed ar-lein a gynigir gan Lywodraeth y DU yn gwneud rhywfaint i fynd i’r afael â’r materion hyn. Gwn nad yw materion digidol yn faes lle mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ond mae’r holl wasanaethau cymorth ar gyfer pobl ifanc wedi eu datganoli. Felly, a allwch gadarnhau pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl ifanc sy'n dioddef o ddysmorffia'r corff, ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil diogelwch a niwed ar-lein sy'n mynd drwy Senedd y DU?
Diolch, James. Yn amlwg, mae'r Bil diogelwch a niwed ar-lein yn gyfrwng pwysig i geisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau y cyfeirioch chi atynt, ac y gwn eich bod wedi eu codi eisoes yn y Siambr hon. Rydych yn llygad eich lle nad yw materion digidol wedi’u datganoli i ni, ond mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru a swyddogion yn San Steffan, ac rwy’n edrych yn benodol ar y cyfleoedd y gallwn eu hadeiladu ar y Bil hwnnw i wella ein gwaith mewn perthynas â phethau fel atal hunanladdiad. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael cymorth mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy—er enghraifft, ein pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, sydd wedi’i ddiwygio’n ddiweddar, ac sy’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad at gymorth mewn ffordd sy'n addas iddynt, sef ar-lein. Rydym hefyd yn edrych ar ymyriadau gan wylwyr gyda phethau fel bwlio, ac mae ein holl ymatebion wedi’u hanelu at sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ifanc lle mae angen iddynt gael eu cefnogi, ac wrth gwrs, mae gan ein cwricwlwm newydd rôl bwysig iawn i’w chwarae yn hynny o beth. Mae gennym faes dysgu iechyd a lles yn y cwricwlwm a fydd yn cael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm cyfan, ochr yn ochr â'r gwaith a wnawn i roi addysg rhyw a chydberthynas i blant a phobl ifanc, a chredaf ei bod yn bwysig iawn mynd i'r afael â'r materion hynny fel rhan o hynny ar draws y cwricwlwm cyfan, ac o oedran iau hefyd, gobeithio. Ond fel y dywedwch, nid yw wedi'i ddatganoli, yr hyn sy'n digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi pobl ifanc a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cymorth, fel eu bod yn gwybod nad yw'r pethau a welant ar y cyfryngau cymdeithasol yn bethau go iawn.
Yn sicr, a diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog addysg ar hynny er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu haddysgu ar hynny mewn ysgolion. Ac fe sonioch chi am gael mynediad at gymorth, ac mae llawer o’r bobl ifanc hynny sy’n ei chael hi'n anodd angen y cymorth priodol i ymdopi â'u trafferthion, ond mae llawer o hynny, Weinidog, yn brin ledled Cymru. Ni all llawer o bobl ifanc gael mynediad at asesiadau cychwynnol gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed: mae 60 y cant o blant sydd angen llwybrau CAMHS arbenigol yn aros dros bedair wythnos am asesiad cychwynnol; mae wedi dyblu bron ers mis Mawrth 2020. A gwn eich bod chi a minnau'n cytuno nad yw hynny'n ddigon da. Fel y dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar, Ddirprwy Weinidog, 'Mae angen ichi fod ar fin gwneud rhywbeth hynod o wirion i gael y cymorth sydd ei angen arnoch'. Gwn fod hynny'n rhywbeth nad ydych am ei glywed, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth nad wyf i am ei glywed. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi amlinellu sut rydych yn mynd i weithio i gyflymu atgyfeiriadau CAMHS, a sut rydych yn mynd i sicrhau, pan fydd unigolyn ifanc yn ei chael hi'n anodd ac yn dangos arwyddion o'u problemau iechyd meddwl ar y camau cynnar hynny, eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac nad ydynt yn cael eu gadael hyd nes eu bod mewn argyfwng? Diolch, Lywydd.
Diolch, James. Ac mae'r hyn rydych wedi'i ddweud yn bwysig iawn, oherwydd yn amlwg, nid ydym am i broblemau pobl ifanc waethygu. Dyna pam fod ein holl bwyslais yn Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gynnar a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth yn gynnar, yn ddelfrydol yn yr amgylcheddau lle maent yn byw eu bywydau, fel yr ysgol. Felly, mae gennym ddull ysgol gyfan yr ydym yn parhau i fuddsoddi symiau sylweddol iawn o arian ynddo, ac sy'n cael ei hybu gennyf fi a'r Gweinidog addysg. Rydym yn bwrw ymlaen â'n fframwaith NYTH, sef ein mecanwaith cymorth cynnar a chefnogaeth ychwanegol, ledled Cymru. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod angen i blant sydd angen cymorth arbenigol gael mynediad cyflym at wasanaethau CAMHS arbenigol.
Yn amlwg, mae’r pandemig wedi cael effaith ar amseroedd aros CAMHS, ac rydym yn ymwybodol o hynny ac yn gweithio’n agos iawn gyda byrddau iechyd i wella amseroedd aros. Dylwn ddweud, fel y nodais yn fy nghwestiynau diwethaf, fod pedwar o bob pump o’r plant a’r bobl ifanc sy’n aros am apwyntiadau CAMHS yng Nghymru yng Nghaerdydd a’r Fro. Felly, mae hynny’n ystumio’r sefyllfa ychydig. Ond i dawelu eich meddwl, rydym wedi cyhoeddi, o'r £50 miliwn ychwanegol a sicrhawyd gennym ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y gyllideb, fod £10 miliwn o gyllid gwella gwasanaethau yn mynd i'r byrddau iechyd. Mae pob un ohonynt wedi cael gwybod bod gwella amseroedd aros CAMHS yn flaenoriaeth, a bydd disgwyl i bob un ohonynt nodi eu cynigion ar gyfer lleihau'r amseroedd aros hynny.
Yn ogystal â hynny, rydym wedi gofyn i'r uned gyflawni gynnal adolygiad o CAMHS arbenigol yng Nghymru, a fydd yn edrych ar CAMHS arbenigol yn gyffredinol, ac i edrych yn benodol ar y data hefyd, gan mai'r hyn a welwn yw nad ydym yn mesur yr un pethau. Mae gan wahanol fyrddau iechyd strwythurau gwahanol, ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gwybod beth yn union sy’n digwydd er mwyn inni gael dull gweithredu cyson yng Nghymru. Ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod sicrhau nad oes angen i bethau ddod yn argyfwng yn un o fy mhrif flaenoriaethau.
Cwestiynau nawr gan lefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod y Nyrsys yfory, a dwi eisiau diolch i nyrsys ymhob cwr o Gymru am eu gofal a'u hymroddiad. Ond dwi am dynnu sylw'r Gweinidog at bryderon sydd wedi eu codi efo fi gan nyrs, sy'n dweud ei bod hi'n cynrychioli nifer sylweddol o staff nyrsio Ysbyty Gwynedd. Mi gefais fy nhristau o wrando ar y nyrs yn disgrifio'r awyrgylch gwaith, yn disgrifio bwlio, y pwysau ac oriau gwaith afresymol, gorfodaeth i weithio'n gyson dros oriau arferol, perthynas wael efo matrons ac uwch reolwyr; mae morâl yn isel meddan nhw, niferoedd uchel yn gadael—allan o 20 nyrs wedi'u hyfforddi'n llawn mewn un adran, mi ddywedwyd wrthyf i bod pump wedi gadael yn y tri mis diwethaf. Un pryder penodol oedd bod nyrsys yn cael eu symud yn gyson o'r adrannau maen nhw wedi arbenigo ynddyn nhw i adrannau eraill, a hynny'n rhoi straen ar nyrsys, sydd ofn gwneud camgymeriadau, ac maen nhw'n bryderus bod hyn yn groes i ganllawiau'r NMC. Pam eu bod nhw'n symud? Oherwydd bod nyrsys asiantaeth yn gwrthod symud. Mae yna'n amlwg ormod o ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth. Weinidog, mi ysgrifennaf i atoch chi am hyn, ac at y bwrdd iechyd. Pam dwi'n codi hyn yn fan hyn yn y lle cyntaf? Wel, er mwyn trio rhoi hyder i'r nyrsys y bydd eu pryderon nhw'n cael eu cymryd o ddifrif. Does ganddyn nhw ddim hyder yn y broses whistleblowing. Allaf i gael sicrwydd, felly, y bydd y Gweinidog yn dilyn yn fanwl y ffordd y bydd y bwrdd iechyd yn ymateb i'r pryderon yma?
Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed hynny. Yn amlwg, mae hynny'n codi pryder. Mi wnes i gwrdd ag aelodau undeb yn y gogledd yn ddiweddar—aelodau o'r RCN ac aelodau o Unison—a doedd hwn ddim yn rhywbeth gwnaethon nhw godi gyda fi. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna ffyrdd eraill iddyn nhw godi pryderon fel hyn. Dwi yn meddwl ei fod yn bwysig bod pob un yn gallu bod yn agored. Os nad ydyn ni'n gallu bod yn agored, allwn ni ddim gwella'r sefyllfa. Yn sicr, dwi'n barod i siarad gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud fel eu bod nhw yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy hyderus ynglŷn â chodi materion fel hynny. Rydyn ni yn gwneud lot, fel rydych chi'n ymwybodol, i drio recriwtio nyrsys, ac wedi gweld 76 y cant o gynnydd yn nifer y nyrsys rydyn ni'n eu hyfforddi. Ond does dim iws gwneud hynny os ydyn ni'n colli pobl ar ochr arall y system. Felly, yn sicr, mi wnaf i godi'r mater yma gyda'r cadeirydd.
Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mi oedd y nyrs yma yn sicr yn poeni am lefelau staffio yn gyffredinol, ac yn amlwg y gor-ddibyniaeth ar staff asiantaeth. Mi ddywedwyd wrthyf i bod y rhan fwyaf o'r nyrsys ddaeth o Sbaen ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl ymgyrch recriwtio, wedi dychwelyd i Sbaen erbyn hyn. Mae yna dyllau mawr yn y gweithlu. Mi fydd y Gweinidog, dwi'n gwybod, wedi cael copi o'r adroddiad diweddar yma gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar y lefelau staffio. Dau o'r argymhellion yn hwnnw: (1) bod angen strategaeth recriwtio nyrsys rhyngwladol, sydd yn ategu beth roedd y nyrs yma yn ei ddweud; a hefyd bod angen datblygu strategaeth cadw staff, ac mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth. Ond, at yr argymhelliad cyntaf dwi'n troi efo cwestiwn syml: mae'r coleg brenhinol yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ystod y tymor seneddol yma, ymestyn adran 25B o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i nyrsio cymunedol a wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl. Mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn bod hynny'n ofyniad sydd wedi cael ei glywed dro ar ôl tro; rydyn ni'n gwybod bod lefelau staffio rhy isel yn peryglu lles cleifion. A gawn ni'r ymrwymiad yna gan y Gweinidog heddiw?
Diolch yn fawr. Yn sicr, dyw Brexit ddim wedi helpu'r sefyllfa o ran nifer y nyrsys sy'n gweithio yn ein cymunedau ni ac yn ein hysbytai ni. Wrth gwrs, byddai'n well gyda ni weld pobl yn gweithio'n llawn amser i'r NHS a ddim yn gweithio i asiantaethau, felly mae'n rhaid inni fwrw ati yn gyson i sicrhau ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa yna, a'r ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod mwy o bobl yn yr NHS. Ond y drafferth yw, wrth gwrs, pan fo pobl yn mynd yn sâl—ac mae lot o nyrsys yn mynd yn sâl ar hyn o bryd achos COVID—wedyn mae'n rhaid ichi alw nyrsys asiantaeth i ddod mewn hefyd. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed bod cyhoeddiad yn mynd i ddod yfory ynglŷn â recriwtio nyrsys rhyngwladol. Yn sicr, dwi'n ymwybodol iawn o ofyniad yr RCN, ac rydyn ni'n cael trafodaethau yn gyson gyda nhw, ac mae hwn yn fater sy'n cael ei godi ar bob achlysur dwi'n cwrdd â nhw. Yn amlwg, rŷn ni wedi'i wneud yn glir iddyn nhw beth rydyn ni'n meddwl sydd angen ei wneud yn y maes yma cyn ein bod ni'n mynd i'r cam nesaf.