7. Dadl Plaid Cymru: Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol

– Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:36, 11 Mai 2022

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7996 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.

2. Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru, sy'n effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol o fewn cynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:36, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tafarndai wedi bod yn rhan o gyfansoddiad bywyd cymunedol yng Nghymru ers canrifoedd. Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at gynnydd mewn safleoedd trwyddedig, gyda llawer o glybiau cymdeithasol yn agor yn y cymunedau newydd a grëwyd i roi llety i'r gweithwyr a oedd yn rhan o'r ymchwydd yn y boblogaeth yng Nghymru. Roedd y lleoliadau hyn yn lleoedd y gallai pobl fynd ar ôl shifft anodd i dorri eu syched. Roeddent hefyd yn fan cyfarfod i'r gymuned ddod at ei gilydd a threfnu. Ers cael fy ethol, rwyf wedi bod yn darparu cymorth i grŵp cymunedol yn y rhanbarth sy'n ceisio ailagor tafarn a fu'n wag ers peth amser. Rwy’n cydnabod yr hwb enfawr y byddai hyn yn ei roi i’r gymuned hon.

Cyn y chwyldro diwydiannol, gwyddom fod alcohol yn rhan o fywyd ers canrifoedd lawer. Mae’n wir dweud nad oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n yfed alcohol unrhyw broblem o gwbl. Gallant fwynhau ychydig beintiau neu wydraid o win yn gyfrifol, gallant gadw o fewn yr unedau alcohol a argymhellir bob wythnos, gallant fynd am wythnosau neu hyd yn oed am fisoedd heb ddiod alcoholaidd. Nid bwriad y ddadl hon yw condemnio neu annog pobl i beidio ag yfed yn gymedrol, mae’n ymwneud â sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini na allant gael un neu ddau yn unig. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn adnabod neu wedi adnabod rhywun a chanddynt broblem yfed, boed yn ffrindiau neu’n deulu.

Mae’r ystadegau sydd ar gael i ni'n tanlinellu pa mor gyffredin yw camddefnyddio alcohol yn ein gwlad. Yn 2018, cafwyd 54,900 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol, a 14,600 o dderbyniadau a achoswyd gan alcohol yn benodol yng Nghymru. Mae mwy na chwarter yr oedolion sy’n yfed alcohol yn yfed yn amlach ers y cyfyngiadau symud. Efallai mai’r peth mwyaf niweidiol oll yw ein bod, yn 2020, er gwaethaf amryw bolisïau a mesurau gan Lywodraeth Cymru, wedi cyrraedd y nifer uchaf ers 20 mlynedd o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae'r ffigurau hyn yn ddigalon ac maent yn arswydus. Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio'r bywydau y tu ôl i’r ystadegau hyn sydd wedi'u dinistrio a'u colli cyn pryd, gan achosi trallod aruthrol i’r rheini sy’n camddefnyddio alcohol, eu teulu a’u ffrindiau a’u cymuned ehangach.

Gall aelodau teuluoedd alcoholigion ddioddef problemau iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a chywilydd oherwydd caethiwed eu hanwyliaid. Mae perygl hefyd y gallant ddioddef yn sgil colli tymer oherwydd meddwdod. I oddeutu 200,000 o oedolion yng Nghymru, arweiniodd alcohol at fwy o densiwn neu wrthdaro yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd mwy nag un o bob 13 o bobl fod eu hyfed eu hunain neu yfed rhywun arall wedi gwaethygu'r tensiwn yn eu cartrefi ers y cyfyngiadau symud. Mae'r ffigur hyd yn oed yn uwch mewn aelwydydd â phlant.

Yn ogystal â chost ddynol sylweddol, mae alcohol yn arwain at gost ariannol i’n gwasanaethau lleol, ein GIG a’r system cyfiawnder troseddol hefyd. Mae'n effeithio ar bawb yn ddiwahân. Yn 2015, credid bod camddefnyddio alcohol yn costio mwy na £109 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, ffigur sy’n debygol o fod wedi codi ers hynny. Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau ar gyfer 2019-22, ond credwn fod rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â phroblem gynyddol camddefnyddio alcohol yng Nghymru yn effeithiol. Mae'n rhaid gwneud hyn mewn ffordd flaengar, nid mewn ffordd gosbol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:40, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r darlun wedi newid ers llunio'r cynllun hwn. Mae gan y Llywodraeth gyfle i ymateb i’r bygythiad cynyddol y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi i’n cymunedau. Mae arnom angen adnoddau gwell a thargedau mesuradwy i wrthsefyll niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghynllun cyflawni'r Llywodraeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau o 2023 ymlaen. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn gweithio. Rwy'n gobeithio y gall pawb gytuno ar hynny. Rwy'n gwneud y cynnig. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw, felly, ar y Dirprwy Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. 

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y bu 438 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru yn 2020: y lefel uchaf mewn 20 mlynedd, a chynnydd o 19 y cant ers 2019.

2. Yn nodi lefelau derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith anghymesur alcohol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 Llywodraeth Cymru.

4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau drwy ddiogelu a chlustnodi cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb, y cynnydd o £9m yn y cyllid ar gyfer 2022/23 ac ymrwymiad i gynnydd pellach yn 2023/24 a 2024/25.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Dwi nawr yn galw ar James Evans i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. 

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn pryderu bod nifer y triniaethau a ddechreuwyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghymru wedi gostwng 15 y cant dros y pum mlynedd diwethaf.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of James Evans James Evans Conservative 4:41, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon ar fater pwysig y mae pob un ohonom yn ei wynebu yma yng Nghymru. Roedd y cyfraniad diwethaf yn bwerus iawn a diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Mae’r ddadl hon ar farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn tynnu sylw at nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae ar ei lefel uchaf ers 20 mlynedd, gyda chynnydd o 19 y cant ers 2019, ac mae'r pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa. Nid yw'n ddigon da. Mae gormod o bobl yn colli eu bywydau'n ddiangen o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol.

Mae achosion o ddibyniaeth ar alcohol yng Nghymru yn effeithio’n anghymesur ar bobl o gymunedau tlotach, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, wneud mwy i helpu’r bobl hynny yn ein cymunedau tlotach, a darparu ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy i fynd i’r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yma yng Nghymru. Rwy’n bryderus iawn ynghylch y ffigurau o’r gronfa ddata cyfnodau gofal cleifion yn 2019-20, a ddangosodd fod bron i 14,749 o dderbyniadau i’r ysbyty yn ymwneud â chyflwr a achoswyd gan alcohol yn benodol. Mae hwn yn ffigur hollol syfrdanol a ddylai beri syndod i bawb yn y Siambr hon, ac mae'n dangos cymaint y mae camddefnyddio alcohol yn rhoi pwysau ar ein GIG ar adeg pan na all gymryd rhagor o bwysau.

Yn ychwanegol at hynny, amcangyfrifir bod alcohol yn ffactor mewn bron i 49 y cant o’r holl droseddau treisgar yng Nghymru, o gymharu â 39 y cant yn Lloegr, a bod 18 y cant o oedolion Cymru wedi dweud eu bod yn yfed mwy na’r canllawiau wythnosol. Efallai y bydd cael un neu ddau wydraid o win yn iawn, ond i rai pobl, nid yw'n ddigon. Ni all rhai pobl ddal eu diod, ac mae hyn yn cynyddu achosion o drais domestig ac achosion o drais eithafol ar ein strydoedd. Os gallwn liniaru hyn, gallwn ddechrau mynd i’r afael â’r problemau ehangach yn ein cymdeithas.

Pan fyddwn yn ymwybodol o broblem fel hon, a bod gennym yr offer a'r gallu i fynd i'r afael â'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu, mae gennym ddyletswydd i weithredu lle bynnag y bo modd, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Rwy’n gwbl ymwybodol o gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Rydym wedi trafod hyn yn y Siambr hon eisoes, ond mae'n rhaid inni wneud mwy mewn perthynas â hynny i roi cymorth go iawn i bobl sy’n ddibynnol ar alcohol.

Nid wyf am ychwanegu llawer mwy gan y credaf fod y sawl a agorodd y ddadl hon wedi gwneud cyfraniad mor dda. Byddwn ni ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma, gan y credaf fod angen dull blaengar, beiddgar a chydweithredol o fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae pobl yn colli gormod o anwyliaid yn llawer rhy fuan, a hoffwn annog pob un o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, hyd yn oed aelodau’r Llywodraeth, i gefnogi’r cynnig hwn heddiw er mwyn sicrhau nad ydym yn colli unrhyw un cyn eu hamser. Diolch, Lywydd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:44, 11 Mai 2022

Mae'r nifer gynyddol o achosion o gamddefnydd alcohol, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae o'n rhywbeth ddylai boeni pob un ohonom ni. Y gred ydy mai yfwyr risg uchel sydd wedi bod yn gyrru'r cynnydd diweddar mewn yfed alcohol, a hynny wedi arwain at y lefel uchaf ers 20 mlynedd o gamddefnydd alcohol. Rydyn ni'n gwybod am yr effaith niweidiol y gall camddefnydd alcohol ei gael ar ein hiechyd corfforol, yn ogystal â'n hiechyd meddwl ni. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, rydyn ni'n gwybod bod y cyfnod clo yn arbennig wedi cael effaith ar faint mae pobl yn ei yfed, a hynny yn ei dro wedi cael effaith andwyol ar iechyd. Mi ddywedodd y British Liver Trust wrthyf i mewn digwyddiad Love Your Liver y tu allan i'r Senedd yn ddiweddar—dwi'n gwybod bod nifer o Aelodau wedi bod draw i hwnnw—fod yna gynnydd o 20 y cant wedi bod mewn marwolaethau o afiechydon yr iau yn gysylltiedig ag alcohol yn ystod y pandemig. Hynny ydy, mae'r niwed wedi cael ei ddangos yn nifer y marwolaethau yn barod mewn cyfnod mor gyfyngedig â dwy flynedd.

Mae yfed trwm, hirdymor hefyd yn gallu achosi newidiadau i'r ymennydd, yn achosi anawsterau rhesymu, cofio a deall. Mae o'n gallu hefyd arwain at niwed go iawn i'r ymennydd—brain damage, felly—sy'n gysylltiedig ag alcohol, ARBD, alcohol-related brain damage. Ac mae o'n gyflwr y mae'n bosib ei atal o rhag mynd yn waeth, os ydy claf yn gallu rhoi'r gorau i yfed alcohol, ac efo'r cymorth priodol ar yr amser iawn, mae'r mwyafrif o bobl yn gallu gwella rhywfaint hefyd. Ond er gwaethaf hynny, mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud wrthym ni mai dim ond ryw 16 y cant o ddioddefwyr sy'n cael diagnosis, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr, ac agwedd anghyson, dywedwn ni, at driniaeth oherwydd absenoldeb y math o fodel triniaeth fyddai'n ddigonol i ateb y galw amdano fo. Maen nhw'n awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi a chyflwyno pecyn ymwybyddiaeth ARBD—pecyn sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru—a hynny ar frys.

Rŵan, mae'r berthynas rhwng alcohol ac iechyd meddwl yn un gwybyddus ond cymhleth iawn hefyd. Mae alcohol, wrth gwrs, yn cael ei ddefnyddio, weithiau, gan bobl i geisio—maen nhw'n meddwl—helpu rheoli symptomau gorbryder neu symptomau iselder. Ond, wrth gwrs, y gwir ydy bod yfed gormod yn debyg o waethygu'r symptomau hynny, ac mae gan iselder ac yfed yn drwm berthynas glos efo'i gilydd, a pherthynas sy'n atgyfnerthu ei gilydd hefyd, sy'n golygu, os ydy rhywun yn dangos arwyddion o un ai iselder neu yfed yn drwm, mae o'n debyg o gynyddu'r siawns y bydd person yn profi'r llall hefyd. Mae hi'n gydberthynas bryderus, ac mae rheoli yfed a chael y gefnogaeth gywir yn hanfodol i iechyd meddwl da.

Rŵan, mae'r cysylltiad clir rhwng y cyfnod clo a'r cynnydd mewn ffigurau camddefnydd alcohol yn dangos sut mae teimlo'n unig, bod ar wahân, a newidiadau mewn trefn, os liciwch chi, yn gallu effeithio yn ddifrifol ar unigolion a'u cyflwr meddwl nhw. Ac o fod wedi dysgu o'r profiad yma, dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn ceisio darparu cymorth i bobl. A dŷn ni'n sôn yn fan hyn am roi cymorth i bobl i atal ei hunain rhag niweidio eu hunain. Dyna ydy hyn, a dyna pam roeddem ni wedi dymuno, wrth i'r Bil isafswm pris alcohol fynd drwy'r Cynulliad, fel oedd o ar y pryd, gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth, ac ymdrech yn cael ei wneud yn sgil y ddeddfwriaeth honno er mwyn taclo camddefnydd alcohol hefyd. Nid gosod er mwyn gosod pris oedd hyn; gosod deddfwriaeth mewn lle efo'r bwriad o newid perthynas pobl efo alcohol, ac mae'n bwysig iawn fod y camau hynny yn digwydd yn sgil y ddeddfwriaeth honno, i wneud yn siŵr bod pobl yn sylweddoli ac yn profi cefnogaeth, fel, yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi gallu cael gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:49, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon. Mae'n bwnc pwysig iawn. Mae'n cael effaith ddifrifol ar fywydau cymaint o bobl. Mae niwed alcohol yng Nghymru, ac yn wir, yn y DU, yn broblem sylweddol. Pan gymerwch gam yn ôl ac edrych ar ba mor aml y caiff ei wthio arnom ar bob cyfle gan hysbysebion, mae'n anodd iawn ei anwybyddu. Pe baech yn credu hysbysebion a'r brolio ynghylch alcohol, byddech yn credu na allem fyw hebddo. Rydym yn cael clywed y neges fod arnom ei angen mewn digwyddiadau chwaraeon, ar noson allan neu noson i mewn gyda ffrindiau, mewn dathliadau, digwyddiadau trist neu hyd yn oed i fagu plant o ddydd i ddydd. Gyda gwthio di-baid o'r fath, nid yw'n syndod fod niwed alcohol yn broblem gynyddol, yn enwedig pan ystyriwch fod alcohol yn un o'r sylweddau mwyaf caethiwus sydd ar gael yn rhwydd ac yn gyfreithlon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf yn y diwylliant gwin mam, fel y'i gelwir. Mae hyn yn cynnwys memynnau ar y cyfryngau cymdeithasol, placardiau i'w hongian yn y cartref a chardiau pen-blwydd yn dweud wrth famau fod angen gwin neu jin arnynt i ymdopi â'r gwaith o fagu plant. Gwelais un yn ddiweddar a oedd yn dweud, 'Fi yw'r rheswm pam fod fy mam yn yfed'. Rwy'n gwybod eu bod i fod yn ddoniol, ond nid wyf yn credu mai dyna'r brif neges. Pa fath o neges y mae'n ei rhoi i rieni a'u plant? Mae negeseuon tebyg yn cael eu targedu at dadau hefyd, ond nid ydynt ar yr un raddfa â'r rhai ar gyfer menywod.

Mae niwed alcohol ymhlith menywod wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac eto nid oes digon o sôn amdano. Credaf fod hynny’n destun pryder difrifol. Nid wyf yn beio'r holl gynnydd hwnnw ar ddiwylliant gwin mam yn unig; mae'r rhesymau'n amlweddog. Mae effaith y cynnydd hwn yn y defnydd o alcohol ymhlith menywod yn cael effaith ddinistriol ar eu hiechyd a'u llesiant. Mae ymchwil wedi dangos bod menywod yn dechrau cael problemau iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn gynt, ar lefelau yfed is na dynion. Mae hynny'n bennaf oherwydd y gwahaniaethau biolegol. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd y galon, clefyd yr afu, canser y fron a niwed i'r ymennydd. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn wybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywbeth penodol i dargedu niwed alcohol ymhlith menywod. Gwyddom y gall defnyddio alcohol achosi llu o afiechydon ymhlith dynion a menywod, ond ble mae'r rhybuddion i amlygu hynny ar y poteli neu’r caniau? Yr hyn a welwch fel arfer yw neges sy’n dweud, 'Yfwch yn gyfrifol’, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu, a llun o fenyw feichiog â chroes drwyddi. Hoffwn weld hyn yn newid, ac rwy’n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda’r diwydiant alcohol ynglŷn â diffyg rhybuddion iechyd ar eu cynnyrch.

Ceir negeseuon dryslyd hefyd am gryfder alcohol a’r unedau, nad ydynt yn cael eu dangos yn glir ac yn amlwg ar y cynnyrch, ac rwy’n edrych i weld—ac fel y gŵyr llawer ohonoch, rwyf cystal â bod yn llwyrymwrthodwr—beth yw cryfder alcohol ar gynnyrch yn eithaf aml. Ac weithiau, fe fyddwch yn lwcus os llwyddwch i ddod o hyd iddo o gwbl. Fe fydd yno, ond os gallwch ddod o hyd iddo, fe fyddwch wedi chwilio'n hir. Felly, rwy'n credu bod rhaid inni wneud dau beth: rhaid inni ddangos y rhybuddion yn glir, ond mae’n rhaid inni atal yr hysbysebu—a lleihau ei niwed—sy'n dweud bod rhaid ichi gael diod i ymdopi â'ch diwrnod. Pan ewch chi adref a gwylio'r teledu, rwy'n gobeithio y bydd rhai ohonoch yn sylwi ar yr hysbysebion, os ydych yn cael pryd o fwyd neu beth bynnag a wnewch, a'r nifer o weithiau y byddwch yn gweld alcohol ym mhob un hysbyseb. Ac mae gennym yr un broblem, wrth gwrs, gyda gamblo, os ydych yn gwylio chwaraeon.

Felly, rwy'n credu mai dyna’r negeseuon y mae'n rhaid inni fynd i’r afael â hwy, a helpu pobl i beidio â dod yn gaeth yn y lle cyntaf. Nid yw'n iawn i yfed gormod, mae'n niweidiol, ac mae'r niwed yn sylweddol. Diolch.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:54, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Yr hyn sy'n fwyaf trasig am farwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol, derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol a chanlyniadau dibyniaeth ar alcohol yw eu bod yn gwbl ataliadwy. Yr hyn sy’n anfaddeuol, efallai, yw bod dibyniaeth ar alcohol yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Ar gyfartaledd, mae pobl ar incwm isel yn yfed llai na phobl ar incwm uwch. Mae’r mesur isafbris uned a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ceisio ymateb i’r ffaith bod fforddiadwyedd yn un o'r prif ffactorau sy'n cynyddu lefelau yfed. Fodd bynnag, mae'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dal i fod mewn mwy o berygl o niwed ac afiechyd a achosir gan alcohol. Drwy fethu mynd i’r afael ag achosion tlodi, a methu cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn well, rydym yn rhoi gormod o bobl mewn perygl o ganlyniadau peryglus dibyniaeth ar alcohol. Mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Yng Nghymru, mae cyfradd y derbyniadau i’r ysbyty a achoswyd gan alcohol yn benodol 3.3 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae oddeutu 45 y cant o bobl sy’n cael triniaeth alcohol yn byw yn y 30 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae gan 10 y cant o bobl sy’n cael triniaeth alcohol broblemau tai. Mae bron i 30 y cant o bobl yn y DU sy'n cael triniaeth alcohol yn dweud bod ganddynt ryw fath o anabledd. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i atal cynnydd pellach yn y ffigurau brawychus hyn. Mae’r ffigurau, fodd bynnag, yn adlewyrchu anghydraddoldebau iechyd sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymdeithas, anghydraddoldebau a adlewyrchwyd yn y cyfraddau marwolaeth uchel yn sgil COVID mewn cymunedau difreintiedig.

Mae effaith y storm economaidd, yr argyfwng costau byw sy’n taro’r cymunedau hyn galetaf, ar ddibyniaeth ac iechyd meddwl yn y dyfodol yn gwneud camau gweithredu wedi’u targedu yn awr i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny yn bwysicach fyth. Mae angen inni fabwysiadu agwedd gyfannol at leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol drwy gefnogi’r bobl fwyaf agored i’r niwed hwnnw. Mae tlodi'n effeithio ar iechyd. Dengys ymchwil fod pobl sy'n byw mewn tlodi'n fwy tebygol nid yn unig o fyw bywyd afiach, ond hefyd i gael eu niweidio o ganlyniad i dai gwael a straen yn gysylltiedig â'u hamgylchiadau materol a chymdeithasol. Gwyddom fod tlodi'n lleihau gallu pobl i wrthsefyll clefydau, sydd, yn ei dro, wrth gwrs, yn eu gwneud yn fwy agored i fathau gwaeth o niwed i iechyd y mae alcohol yn eu hachosi. Mae sawl astudiaeth wedi dangos y gall alcohol chwyddo a gwaethygu effeithiau niweidiol tlodi. Pan gyfunir alcohol a deiet gwael, er enghraifft, mae’r risg o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn cynyddu’n sylweddol mewn cymunedau tlotach.

Yn Araith y Frenhines, unwaith eto dangosodd Llywodraeth San Steffan fuddiannau pwy sydd agosaf at ei chalon, ac roedd yn amlwg eto nad y bobl sy’n byw mewn angen, sy’n ymrafael bob dydd â phwysau ariannol, safonau byw gwael, anableddau ac incwm annigonol yw'r rheini. Pe bai lles a threthi’n cael eu datganoli'n llawn i ni, er enghraifft, gallem lunio a gweithredu system fudd-daliadau dosturiol, ariannu cymorth wedi’i dargedu, yn hytrach na chodi ein hysgwyddau a derbyn ein bod ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd ddideimlad ac esgeulus yn San Steffan. Gallem ddarparu cymorth anabledd addas i bobl, er enghraifft, i godi safonau byw pobl a'u helpu i ymdopi'n well â'r argyfwng costau byw hwn.

P’un a yw'r isafbris uned yn gwneud rhywfaint i fynd i’r afael ag yfed ai peidio, mae’r anghydraddoldebau a fydd bob amser yn gwneud rhai o’n dinasyddion yn fwy agored i niwed alcohol yn parhau ac yn gwaethygu. Mae deall rôl anghydraddoldebau cymdeithasol yn achosi niwed alcohol a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hynny i atal niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn hollbwysig. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 4:58, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddatgan buddiant gan fy mod yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Adsefydlu Brynawel. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a diolch i fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn i’w drafod ar lawr y Senedd.

Ceir llawer o agweddau ar y ddadl hon y mae pob un ohonom yn cytuno â hwy. Mae niwed, dibyniaeth, ac yn anffodus, marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn heriau mawr yma yng Nghymru, fel y maent ledled y Deyrnas Unedig. Nid ydym ar ein pen ein hunain gyda'n pryderon am y defnydd cynyddol o alcohol fel modd o ymdopi â heriau bywyd bob dydd. Mae’n bwysig cofio bod modd atal marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ac mae’r boen y maent yn ei hachosi yn ataliadwy yn wir, a chyda’r cynnydd mewn dibyniaeth, effeithiau cyfyngiadau symud COVID-19 a’r pryderon ynghylch lles meddyliol y boblogaeth, mae'n glir fod yn rhaid inni weithredu ar fwy o frys, yn ystod tymor y Senedd hon, i ddechrau atal a gwrthdroi’r duedd a welwn.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 5:00, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o fod yn un o ymddiriedolwyr Brynawel, gwasanaeth adsefydlu cyffuriau ac alcohol yn ne Cymru sy'n gweithio i gefnogi pobl sydd wedi dod yn ddibynnol. Yr hyn a wyddom yw bod llawer o bobl ledled Cymru sy'n gallu byw bywydau normal, gweithredol, ond sydd, ar yr un pryd, yn cynnal ffordd o fyw sy'n dibynnu fwyfwy ar alcohol fel rhan allweddol o'u bywyd cymdeithasol a theuluol. Mae llawer yn cynnal y ffordd hon o fyw cyn mynd yn sâl yn gorfforol a chyn eu bod angen cymorth gwasanaethau acíwt y GIG. Mae llawer yn llithro i ddibyniaeth yn rhy hawdd o lawer, ac yn anffodus, o'r fan honno mae'r newid parhaol ar i lawr tuag at gam-drin alcohol yn gyson yn cael ei normaleiddio.

Hoffwn ganolbwyntio ar gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn hanfodol i'r ffordd y mae'r wlad hon yn ymateb i her gynyddol; ar adeg pan ydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y rhai a gaiff eu trin dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn uwch nag y bu ers 20 mlynedd. Hoffwn nodi nifer o bryderon sydd gennyf, a gobeithio y bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â hwy. 

Er bod angen inni fynd i'r afael ag achosion y broblem, ac mae hyn yn eithriadol o heriol, hoffwn dalu teyrnged i'r holl weithwyr proffesiynol ar draws y sector iechyd a'r trydydd sector sy'n chwarae rhan mor bwysig yn cefnogi'r rheini sy'n gaeth. Mae dewisiadau ffordd o fyw, y modd yr ydym yn byw ein bywydau, yn ychwanegu'n aruthrol at y pwysau ar y GIG, boed yn ddefnydd o gyffuriau ac alcohol, yn ysmygu neu'n ordewdra. Felly, gweithredu'n ymatebol i'r her gynyddol hon y mae'r GIG yn ei wneud i raddau helaeth, ac nid wyf am danbrisio'r effaith arnynt hwy a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Wrth gwrs, ceir amrywiaeth o opsiynau inni eu dilyn, ac nid y GIG yw'r unig gorff sy'n darparu gwasanaethau. 

Mae sicrhau darpariaeth briodol ac effeithlon o wasanaethau yn allweddol, ac er fy mod wedi fy nghalonogi wrth weld ffocws ar bartneriaethau a llwybrau i ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn bob amser yn digwydd yn eu profiad hwy o wasanaethau. Mae partneriaethau rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a'r trydydd sector yn hollbwysig, fel mewn meysydd eraill o'n system iechyd a gofal. Nid yw bob amser yn gweithio'n effeithiol. Gall llwybrau rhwng gwasanaethau arbenigol ar gyfer camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl fod yn aneglur, gyda llawer o fyrddau iechyd yn methu dangos sut y maent yn darparu llwybrau di-dor i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd. Rhaid bod achos i'w wneud dros sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau dibyniaeth yn mabwysiadu dull 'dim drws anghywir' o ddarparu gwasanaethau.

Mae hefyd yn bwysig i Gymru sefydlu cynllun adfer i Gymru gyfan ar gyfer y rheini sydd ar restrau aros hir am bresgripsiynu cymunedol a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbyty. Wrth inni gefnu ar effeithiau'r pandemig ar y boblogaeth ehangach, rwy'n sylweddoli ein bod yn gwybod bod gwasanaethau'n ei chael yn anodd camu ymlaen i gyrraedd lle'r oeddent cyn mis Mawrth 2020. Mae hyn yn effeithio ar lawer o bobl, ond oni weithredwn yn ddigon cyflym, mae'n destun pryder y bydd effaith ein methiant yn anghymesur ar y rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Os bydd eu cyflwr yn gwaethygu, bydd llawer o bobl sy'n ddibynnol ar alcohol angen cymorth aelodau o'r teulu, sy'n aml yn ysgwyddo cyfrifoldeb gofalu. Hoffwn wybod sut y bydd gwasanaethau'n dangos tystiolaeth fod cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwyr ac aelodau o'r teulu, o ystyried y nifer gymharol isel o asesiadau gofalwyr a gynigir gan wasanaethau camddefnyddio sylweddau haen 2 a haen 3. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar gyfer y grŵp hwn o bobl. Mae llawer o aelodau o deuluoedd pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn methu gweld eu hunain fel gofalwyr yn yr un ffordd â rhai sy'n gofalu am bobl â dementia er enghraifft. Nid ydynt yn ymwybodol o'r budd-daliadau, cymorth ymarferol fel asesiadau gofalwyr, na'u hawliau yn y gwaith mewn perthynas ag absenoldeb hyblyg a diogelwch rhag gwahaniaethu.

Hoffwn i'r Gweinidog nodi sut yr awn i'r afael ag achosion y broblem, gan gynnwys diffyg cymorth iechyd meddwl priodol, a allai leihau'r perygl o fynd yn ddibynnol ar alcohol, ac archwilio pa gapasiti sydd ei angen i ddyblu ein hymdrechion i gefnogi'r rheini sydd wedi cyrraedd y gwaelod. Fe gymeraf funud. Mae amser yn allweddol, Weinidog, os ydym am osgoi argyfwng mawr o ran iechyd y cyhoedd a darparu gwasanaethau.

Yn olaf, er bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r fframwaith triniaethau ar gyfer rhai â niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, cyfyngedig yw'r cynnydd y mae'r byrddau iechyd yn ei wneud. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:05, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu at y ddadl yn awr. Lynne Neagle.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn galw am

'ymrwymiad cryfach, gwell adnoddau a thargedau mesuradwy.'

Fel y mae ein gwelliant yn cydnabod, nid ydym yn hunanfodlon, ond mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i atal a mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio alcohol a hanes cadarn o gyflawniad.

Yn wahanol i fannau eraill yn y DU, rydym wedi diogelu a neilltuo ein cyllid dros flynyddoedd lawer. Caiff hyn ei gydnabod ymhellach gan ein buddsoddiad cynyddol mewn atal a thrin camddefnyddio sylweddau, sydd wedi codi o bron £55 miliwn y llynedd i bron £64 miliwn yn 2022-23. Yn rhan o ddyraniad Llywodraeth Cymru i fyrddau cynllunio ardal i gefnogi'r gwaith o gomisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau lleol, rydym wedi sicrhau cynnydd o £1 filiwn yn y dyraniadau a neilltuwyd ar gyfer plant a phobl ifanc ac ar gyfer adsefydlu preswyl yn 2022-23 i £3.75 miliwn a £2 filiwn. Gan gydnabod cynnydd yn y galw am gymorth, ceir cynlluniau hefyd i gynyddu'r dyraniad a neilltuwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

O ran targedau, mae gennym dargedau ar waith i fesur atgyfeiriadau, mynediad a chanlyniadau triniaeth. Mae ein cyflawniad ar fynediad a thriniaeth yn galonogol, gydag ystadegau'n parhau'n uwch na 80 y cant. Ym mis Mawrth eleni, cododd i ychydig dros 90 y cant. Mae atgyfeiriadau'n achosi mwy o bryder, a byddwn yn mynd i'r afael â hynny, ond yn sicr mae'r pandemig wedi effeithio arnynt. Mae cael targedau ystyrlon ar gyfer mesur lefelau'r defnydd o alcohol yn llawer anos, yn enwedig gan fod y data'n hunangofnodedig. Yn hytrach, mae arnom angen i'n negeseuon iechyd cyhoeddus helpu pobl i ganfod a oes ganddynt broblem gydag alcohol a chael y cymorth a ddarperir gennym cyn gynted â phosibl. Gwyddom fod y pandemig wedi effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd â'r anghenion a'r gwendidau mwyaf cymhleth. Felly, rydym hefyd wedi dyblu ein cyllid ar gyfer gwasanaethau i bobl ag anghenion tai ac anghenion cymhleth i £2 filiwn. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cynyddu dros y ddwy flynedd nesaf i gyfanswm o £4.5 miliwn yn 2024-25.

Mae mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn rhan allweddol o'n hagenda camddefnyddio sylweddau. Nod cyffredinol ein cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau, a ddiweddarwyd mewn ymateb i COVID-19, yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod lle y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Ac er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni cynllun presennol 2019-22, gydag amryw o randdeiliaid eleni, rydym yn bwriadu archwilio'r angen i adnewyddu ac ailffocysu'r camau gweithredu ar gyfer unrhyw gynllun cyflawni newydd ar ôl 2022. Fodd bynnag, mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid hyd yma yn awgrymu bod llawer o'r blaenoriaethau presennol yn parhau'n berthnasol.

Mae'r ffactorau sy'n sail i'r cynnydd yn nifer y marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol yn gymhleth, a bydd y niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae pob un o'r marwolaethau hyn yn drasiedi, ac rydym yn cydnabod yn llwyr fod mwy o waith i'w wneud. Cydnabyddir bod amddifadedd yn ffactor pwysig, a dengys data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pobl yn y 10 y cant uchaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru bron deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty am gyflyrau a achoswyd gan alcohol yn benodol na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Bydd lleihau anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig wrth inni gefnu ar y pandemig, yn faes blaenoriaeth yn ein gwaith wrth symud ymlaen.

Gwyddom hefyd mai dod o hyd i'r swydd gywir yw un o'r ffactorau pwysicaf wrth helpu pobl sy'n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau. Mae ein gwasanaeth y tu allan i'r gwaith a ariennir gan Ewrop, sy'n dod i ben ym mis Awst 2022, wedi helpu dros 18,000 o gyfranogwyr i wella o broblemau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl ers iddo ddechrau ym mis Awst 2016; mae dros 46 y cant o'r rhain yn gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau yn unig, neu ar ôl camddefnyddio sylweddau ynghyd ag afiechyd meddwl. Er gwaethaf addewidion lu na fydd Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit, nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu arian yn lle'r cyllid hwn. Ond gwyddom fod bod mewn gwaith mor bwysig i iechyd a lles cyffredinol llawer o bobl, gan fod hynny'n rhoi diben yn ogystal ag incwm a gall chwarae rhan yn atal problemau iechyd corfforol a meddyliol. Felly, mae cefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn y gwaith ac i ddychwelyd i'r gwaith yn hollbwysig. Dyna pam y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth, gan gynnwys ymestyn y gwasanaeth cymorth di-waith tan 2025.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol addysg ac atal i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rydym yn gweithio i hyrwyddo canllawiau yfed risg isel prif swyddogion meddygol y DU, gyda'r nod o gynorthwyo pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hyfed. Roedd negeseuon cyhoeddus ynghylch lleihau risgiau alcohol i iechyd hefyd yn rhan allweddol o'n hymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi ac anogent bobl i leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed a pha mor aml y maent yn ei yfed.

Cyn y pandemig, galwodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth genedlaethol atal camddefnyddio alcohol ynghyd i ddatblygu blaenoriaethau ar y cyd ar gyfer lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn ailddechrau yn 2022-23, gan ddechrau gyda ffocws ar leihau nifer y bobl ifanc oedran ysgol yng Nghymru sy'n yfed alcohol yn rheolaidd.

Rydym hefyd yn falch o'n gwaith ar weithredu isafbris uned, a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau niwed alcohol. Mae hwn yn faes lle'r ydym wedi manteisio i'r eithaf ar ein pwerau datganoledig i weithredu ar gyngor Sefydliad Iechyd y Byd fod camau i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cynnwys edrych ar fforddiadwyedd, hygyrchedd ac argaeledd. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 2 Mawrth 2020, a'n nod yw y bydd ei chyflwyno'n gwneud cyfraniad pwysig tuag at fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig ag yfed gormod o alcohol. Yr effaith a fwriedir ar gyfer y ddeddfwriaeth yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol a marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn benodol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol y mae yfwyr peryglus a niweidiol yn ei yfed.

Yn olaf, mae ein fframwaith trin niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ddatblygiad allweddol. Mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol allu rhoi arweiniad ar sut y dylent ymateb i'r rhai y mae niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn effeithio arnynt.

Felly, fel y dywedais, rydym wedi dangos ymrwymiad parhaus i'r agenda hon ers blynyddoedd lawer, o ran cymorth a chyllid, fel y mae'r cynnydd diweddar o £9 miliwn yn y cyllid eleni yn ei ddangos. Ond fel y dywedais, nid ydym yn hunanfodlon. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar yr agenda atal a thrwy gynorthwyo gwasanaethau i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn hefyd yn gweithio ar ymrwymiad ein cynllun cyflawni i ddatblygu fframwaith canlyniadau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys adolygu dangosyddion perfformiad. Er bod yn rhaid inni gydnabod bod llawer o ffactorau cymhleth wrth wraidd y trasiedïau hyn, rwy'n gobeithio y bydd yr adnoddau a'r ffocws ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer ein gwasanaethau yn helpu i leihau nifer y marwolaethau a achosir gan alcohol yn benodol yn y dyfodol. Rwy'n eich annog i gyd i gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Diolch. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:13, 11 Mai 2022

Galwaf ar Peredur Owen Griffiths nawr i ymateb i'r ddadl.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Diolch, Llywydd a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Mae wedi bod yn ddadl ddifyr ac efo syniadau diddorol ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Clywon gan—.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:14, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd James yn sôn am fesurau a thargedau gwell, ac mae angen y rheini arnom.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Roedd Rhun yn siarad am y niferoedd sydd yn mynd ymlaen a'r lefel uchaf mewn 20 mlynedd, ond bod alcohol a iechyd meddwl yn mynd vice versa. Mae'r ddau yn gylch dieflig yn cydweithio â'i gilydd.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Soniodd Joyce am hysbysebu a phresenoldeb alcohol ym mhob agwedd ar fywyd a hefyd niwed cynyddol alcohol ymhlith menywod yn arbennig; Sioned, yr anghydraddoldebau trasig ac yn aml, yr anghydraddoldebau iechyd sy'n achosi'r problemau. Maent wedi ymwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y rhain. Ac Altaf yn sôn am alcoholigion gweithredol yn troi'n anweithredol ac yna'r pwysau ar y GIG, ond hefyd fe wnaeth bwynt da ynglŷn â'r dull 'dim drws anghywir' o gael gafael ar gymorth.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymrwymiad personol i symud hyn yn ei flaen a pheidio â bod yn hunanfodlon a'r ymrwymiad hirsefydlog yno. Rydym yn ymwybodol fod y Llywodraeth—yn awr, gennych chi eich hun—yn archwilio ac yn adnewyddu'r cynllun ar ôl 2022 a byddwn yn hapus iawn i weithio gyda chi ar y pethau hynny gan ei fod mor bwysig i gynifer o bobl yn ein cymdeithas. 

Yn fy marn i, dangosodd y ddadl bod rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn fwy radical yn eu hatebion er mwyn mynd i'r afael â'r problemau y clywsom amdanynt heddiw. Mae gennym system ar waith ar gyfer atal a chefnogi nad yw'n cael yr effaith a ddymunir eto. Heb newid cyfeiriad a pholisïau mwy radical, teimlaf y gallai'r ffigurau barhau i godi. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod nad yw'r polisïau'n cyrraedd y nod yn llwyr a gwneud newidiadau yn unol â hynny, a chlywsom am y diweddariad ar gyfer y dyfodol.

Gyda'r argyfwng costau byw'n niweidio cynifer o deuluoedd ac ar fin gwaethygu, mae angen gweithredu ar frys ar y mater hwn. Heb newid, byddwn yn colli mwy o fywydau, a bydd mwy o unigolion, mwy o deuluoedd a mwy o gymunedau yn parhau i ddioddef. Mae angen mwy o arian ar gyfer therapi triniaeth ataliol iechyd meddwl fwy helaeth, yn ogystal â'r triniaethau sydd eu hangen pan fydd rhywun eisoes yn ymrafael ag alcoholiaeth. Mae angen mesurau ataliol gwell y gellid eu defnyddio gyda theuluoedd sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu alcoholiaeth. Gall hyn fod ar ffurf cadw mewn cysylltiad â pherthnasau pobl y gwyddys bod ganddynt anhwylderau camddefnyddio alcohol neu atal alcoholiaeth enetig ac etifeddol mewn teuluoedd. Ochr yn ochr â hyn mae angen darparu cymorth i rai a allai fod wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ar ôl cyfarfod eto heddiw gydag Ymgyrch 70/30, mae targedau pendant y gellid eu gosod ynghylch hynny.

Fel y gwelwyd yn y ddadl hon, rhaid rhoi mwy o gefnogaeth i gymunedau sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol ac sy'n ei chael hi'n anodd, fel nad oes neb yn cael ei adael i deimlo nad yw'n cael cyfle ac yn ddiobaith. Gan fod camddefnyddio alcohol yn effeithio cymaint ar ein cymunedau, mae'n werth inni gael y ddadl hon yma yn ein Senedd genedlaethol. Sefydlais y grŵp trawsbleidiol ar gamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth er mwyn annog mwy o ddeialog ynglŷn â phrofiadau pobl sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcoholiaeth. Gobeithio y gall fod yn gyfrwng i rannu arferion da a chryfhau'r gwasanaethau a ddarparwn i bobl sy'n ceisio cael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Rwy'n gobeithio heddiw y gall pawb yn y Siambr gefnogi ein dadl, sydd nid yn unig yn galw am gryfhau a chefnogi, ond am ddarparu adnoddau wedi'u neilltuo hefyd er mwyn helpu pobl i ddianc o afael alcoholiaeth. Mae angen inni roi gobaith o well yfory i bobl sydd â phroblem yfed, heb sôn am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:18, 11 Mai 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pledleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.