– Senedd Cymru am 4:32 pm ar 24 Mai 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar gyfiawnder yng Nghymru, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad. Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae system gyfiawnder deg ac effeithiol a rheolaeth y gyfraith yn hanfodol i'n democratiaeth seneddol. Fel gwleidyddion, rydyn ni'n gwneud deddfau, ond rhaid i'r broses o ddyfarnu'r deddfau hynny bob amser fod yn annibynnol ar wleidyddiaeth. Heddiw, hoffwn wneud datganiad am y ffordd orau o sicrhau y system gyfiawnder deg, effeithiol, annibynnol honno, ac mae cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i hynny. Er bod llawer o waith gweithredu'r system gyfiawnder wedi'i gadw yn ôl, mae gan gyrff datganoledig rannau hanfodol i'w chwarae yn y gwaith hwn. Mae'n wasanaeth cyhoeddus fel unrhyw un arall, ond mae'n gorfod gweithio law yn llaw ag addysg, iechyd, gwasanethau cymdeithasol, tai ac eraill. Mae ei weithrediad effeithiol yn dibynnu ar ansawdd a chysondeb y cydweithio a'r cynllunio tymor hir yn y gwasanaethau hyn i gyd.
Fel cadeirydd is-bwyllgor y Cabinet ar gyfiawnder, rwy'n gweld faint o waith sy'n cael ei wneud i geisio cyflawni hyn. Mae arnom ni ddyled o ddiolch i'n heddlu, y rhai sy'n gweithio yn ein llysoedd, ein carchardai, ein gwasanaethau prawf, yn ogystal â'n proffesiwn cyfreithiol, y farnwriaeth, yr undebau llafur cyfiawnder a llawer o rai eraill.
Fe hoffwn i hefyd grybwyll ymdrechion personol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sy'n eistedd gyda mi ar is-bwyllgor y Cabinet, ac sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau gwaith partneriaeth cryf a hanfodol dros y blynyddoedd. Roeddem yn arbennig o falch o'r gwaith partneriaeth eithriadol dros COVID-19, pan oedd cydweithio yn elfen hanfodol o gadw'r llysoedd yn weithredol ac yn ddiogel rhag COVID.
Ond er gwaethaf hyn i gyd, gwyddom y gallai ein system gyfiawnder fod gymaint yn well. Ni fydd neb yma wedi anghofio geiriau'r Arglwydd Thomas fod pobl Cymru'n cael eu siomi gan y system gyfiawnder yn ei chyflwr presennol. Roedd comisiwn Thomas, wrth gwrs, yn archwiliad digynsail o gyfiawnder yng Nghymru. Er bod llawer wedi'i wneud gennym ni mewn ymateb i hynny, mae llawer mwy i'w wneud.
Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi dogfen o'r enw 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â'r presennol, y dyfodol agos a'r tymor hwy. Diben y cyhoeddiad yw tynnu llinell o dan gecru plwyfol cyfansoddiadol y gorffennol a rhoi'r gorau i ofyn y cwestiwn, 'Pwy ddylai redeg y system gyfiawnder?' Yn hytrach, gofynnwn beth y mae angen i ni ei wneud i sicrhau gwell cyfiawnder yng Nghymru.
Felly, does arnaf i ddim eisiau ailadrodd methiannau'r gorffennol, ond mae angen i ni gydnabod maint yr heriau sy'n ein hwynebu: epidemig o drais yn erbyn menywod; diffyg gwasanaethau cymorth cyfreithiol pan fo taer angen amdanyn nhw, a gwarafun i lawer o bobl, y rhai mwyaf agored i niwed yn aml, fynediad i'r cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu; cymunedau lleiafrifoedd ethnig y mae eu perthynas â'r heddlu yn aml yn fregus; a rhannau o'n proffesiwn cyfreithiol yn ei chael hi'n anodd goroesi a rhai o'r rhannau tlotaf o Gymru yn troi yn ddiffeithwch o ran gwasanaethau cyngor cyfreithiol. Yr her i ni yw: beth rydym yn ei wneud yn ei gylch?
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith cydweithredol da sy'n digwydd nawr. Hyd yn oed o fewn y trefniadau cyfyngol presennol, mae meysydd lle yr ydym ni wedi llwyddo i ymgorffori ein dull o ymdrin â chyfiawnder sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae sefydliadau partner wedi ymateb i'r her lle gallan nhw, megis y gwaith ar y glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n croesawu'r cyhoeddiad am safle ar gyfer treialu canolfan breswyl i fenywod—y tro cyntaf y byddwn yn gallu lletya menywod sy'n cael dedfrydau o garchar yng Nghymru. Dylai Cyngor Cyfraith Cymru sydd newydd ei sefydlu fod yn enghraifft arall o waith partneriaeth cryf, i nodi cyd-flaenoriaethau ar gyfer y sector cyfreithiol yn ei gyfanrwydd, ac i weithredu fel corff i fynd i'r afael â nhw.
Mae'r cyhoeddiad hefyd yn nodi'r pethau yr ydym yn bwriadu eu gwneud gyda'n pwerau presennol, megis deddfu i greu gwasanaeth tribiwnlys un haen sy'n annibynnol yn strwythurol. Bydd hon yn garreg filltir bwysig ym maes cyfiawnder Cymru, gan gynnwys ein haen apeliadol gyntaf erioed a rhan gynyddol i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
Hoffem i'r cyhoeddiad sbarduno sgwrs ac ymgysylltiad â phobl sydd ag arbenigedd mewn unrhyw agwedd ar gyfiawnder, boed yn wleidyddion, academyddion, ymarferwyr, sefydliadau anllywodraethol neu bobl sydd â phrofiad personol o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder. Dylwn ddweud ein bod wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU i drafod yr argymhellion niferus hynny o gomisiwn Thomas sydd wedi'u cadw'n ôl ar hyn o bryd, ond roedd y sgyrsiau hynny'n araf yn dechrau, ac maen nhw, unwaith eto, wedi arafu. Mae'n ymddangos bod ymadawiad Robert Buckland yn gyntaf fel Yr Arglwydd Ganghellor ac yna'r Arglwydd Wolfson wedi dileu pob ysgogiad. Ac felly, yn anffodus, deuwn i'r casgliad unwaith eto fod angen newid strwythurol er mwyn sicrhau maint y diwygiadau angenrheidiol.
Yn bwysicaf oll efallai, mae'r cyhoeddiad heddiw'n dangos sut na ellir gwella'r system gyfiawnder draddodiadol yn ystyrlon heb ddarparu cyfiawnder cymdeithasol. Mae hynny'n golygu mynd i'r afael â heriau mwyaf cymdeithas, gan gynnwys tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y cenedlaethau. Mae'n golygu mynd i'r afael â chasineb, hiliaeth, casineb at fenywod a gwahaniaethu. Mae'n gofyn am ymyrraeth gynnar ac ymateb yn gyflym, yn gynhwysfawr ac yn dosturiol i drawma plentyndod a phrofiadau niweidiol. Dim ond drwy gydgysylltu polisi ar gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru y gallwn ni ganfod ffyrdd gwirioneddol effeithiol o leihau troseddu, neu yn wir leihau nifer y teuluoedd sy'n chwalu, neu'r holl achosion eraill sy'n rhoi pwysau aruthrol ar ein system gyfiawnder. Mae hwn yn fodel sylfaenol wahanol i wella'r system gyfiawnder ac mae angen ei gydgysylltu. Mae'r polisi dedfrydu presennol, sy'n cael ei redeg o Whitehall, sy'n rhoi pwyslais sylweddol ar gosbi, atal troseddau a charcharu pobl, yn wrthgynhyrchiol ac yn methu. Felly, credwn fod datganoli cyfiawnder nid yn unig yn angenrheidiol, ond mae'n anochel ac mae gennym ni ddyletswydd i baratoi ar ei gyfer. Dyna ail ran y sgwrs yr hoffem ei sbarduno heddiw.
Gwyddom y gallai'r system gyfiawnder, wedi'i chyfuno â'r holl wasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, sicrhau gwell canlyniadau i Gymru. Gwyddom yr egwyddorion a fyddai'n ein harwain, ac rydym ni wedi nodi yn y cyhoeddiad rai o elfennau craidd y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, ond does gennym ni ddim yr atebion i gyd. Rhaid i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol gael eu cyd-gynhyrchu gyda'r holl elfennau hynny o wasanaethau cyhoeddus a'r system gyfiawnder. Felly, dyma ddechrau sgwrs newydd ar gyfer newid, diwygio a gwella yr hoffem ddechrau arni gyda'r cyhoeddiad heddiw. Gobeithiaf y bydd pob Aelod yn ymddiddori yn y cyhoeddiad hwn, a gobeithio y gallwn i gyd ymdrin â hynny yn yr ysbryd a fwriedir. Credwn nad yw datganoli cyfiawnder yn nod ynddo'i hun, ond ei fod yn ddiwygiad angenrheidiol. Nid sgwrs am bwerau ydyw; mae'n sgwrs am yr hyn a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Mae gennym ni gyfrifoldeb i'w gyflawni cystal ag y gallwn ni i'n cymunedau ac i bobl Cymru. Diolch, Llywydd.
Wrth sôn am ei hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ddoe, disgrifiodd Llywodraeth Cymru,
'polisi cyfiawnder penodol i Gymru sy'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu' a chyferbynnu hyn â 'dull sy'n canolbwyntio'n fwy ar gosbi' gan Lywodraeth y DU—thema sy'n parhau yn y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed, ond na chawsom ni ymlaen llaw. Pam ydych chi wedi honni hyn pan fo Llywodraeth y DU wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi sy'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu? Sut ydych chi'n ymateb i 'Bapur Gwyn Strategaeth Carchardai' newydd Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU i adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddau, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr? Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â strategaeth dioddefwyr Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU i gysoni cymorth i ddioddefwyr â sut mae troseddu yn newid?
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed o ddedfrydau byr o garchar pryd bynnag y bo modd, buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol a sefydlu pum canolfan breswyl arbrofol i fenywod, gan gynnwys un yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, fel yr ydych chi wedi dweud, ysgrifennodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y fan yma at yr Aelodau yn dweud y bu'n gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, a dywedodd y byddai un o'r canolfannau hyn ger Abertawe yn y de, yn ôl pob tebyg oherwydd ei chyfraniad. Sut y bydd hyn yn helpu troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn nes at eu cartrefi?
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ei chynllun gweithredu, gyda £300 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi pob cyngor ledled Cymru a Lloegr i ddal ac atal troseddwyr ifanc yn gynt nag erioed, gan helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn yn eu harddegau rhag symud ymlaen i droseddu pellach, mwy difrifol. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n gadarnhaol â hyn?
Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod datganoli wedi newid y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi i blismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac wedi sefydlu math o ddatganoli gweinyddol drwy swyddfeydd, unedau neu gyfarwyddiaethau yng Nghymru yn seiliedig ar gydweithredu, ar gydweithio, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi Cymru. Felly, sut ydych chi'n ymgysylltu'n gadarnhaol â'r rhain wrth fynd ar drywydd agendâu cyffredin? Mae'n amlwg o'ch datganiad fod eich cyd-Weinidog, yn sicr y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac, rwy'n tybio, chi eich hun yn gwneud hynny.
Wrth sôn ddoe, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallwn ni ganfod ffyrdd gwirioneddol effeithiol o leihau troseddu drwy gydgysylltu'r system gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru. Fodd bynnag, pa mor ffyddiog allwn ni fod y bydd cysoni polisïau a phenderfyniadau am gyfiawnder ag agenda polisi datganoledig Llywodraeth Cymru yn gwella pethau, pan fo gan Gymru'r gyfran uchaf o blant yn y DU mewn gofal, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal gan unrhyw wladwriaeth yn y byd? Mae troseddau trefn gyhoeddus yng Nghymru yn 132 y cant o ffigur Cymru a Lloegr—y gyfradd uchaf o wyth rhanbarth; troseddau treisgar yng Nghymru 106 y cant o ffigur Cymru a Lloegr, hefyd y gyfradd uchaf o wyth rhanbarth; dangosodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hyd at fis Mehefin diwethaf fod gan ogledd Cymru un o'r cyfraddau uchaf o drais yn erbyn pobl a throseddau rhywiol fesul 1,000 o bobl yn y DU; canfu arolwg barn o 2,000 o oedolion ar draws 15 o ddinasoedd mawr yn y DU fis Medi diwethaf mai Caerdydd yw dinas fwyaf peryglus y DU lle mae pobl leol yn teimlo lleiaf diogel; ac adroddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn 2019 mai yng Nghymru y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ac er i gyfanswm nifer y dedfrydau o garchar godi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, bu gostyngiad o 16 y cant yn Lloegr. Dywedodd awdur yr adroddiad fod angen ymchwil ehangach i geisio esbonio'r gyfradd garcharu uchel sydd gan Gymru. Onid yw'n wir felly bod cymaint o wahaniaeth yn y ddarpariaeth o fewn system cyfiawnder troseddol ar y cyd yn dangos pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol?
Wrth sôn ddoe, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid cael datganoli fel y gellir ailfuddsoddi'r holl arian hwn i ddiwallu anghenion brys Cymru. Mewn gwirionedd, byddai creu awdurdodaethau ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr yn anghyfiawn o gostus ac yn arwain at ddyblygu swyddogaethau'n sylweddol. Pam felly ydych chi wedi anwybyddu'n gyfleus amcangyfrif comisiwn Silk y byddai datganoli plismona a chyfiawnder yn costio'r swm anhygoel o £100 miliwn y flwyddyn? Yn hytrach, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith fis Hydref diwethaf gan yr Arglwydd Wolfson—ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad—a oedd ar y pryd yn un o Weinidogion cyfiawnder y DU, ac, fel y dywedoch chi, nad yw yn y swyddogaeth honno mwyach? Dywedodd:
'rydym ni'n rhannu'r un awydd i barhau i wella'r ffordd y caiff cyfiawnder ei ddarparu yng Nghymru.'
Bu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn archwilio adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder i weld beth y gellir ei ddatblygu i wella cyfiawnder yng Nghymru, ac yn wir mae eisoes yn gwneud gwaith mewn cysylltiad â rhai o argymhellion y comisiwn. Ychwanegodd fod bod yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr wedi bod o fudd i Gymru, gan ei gwneud yn lle poblogaidd i wneud busnes yn rhyngwladol. Gan nodi eich sylwadau bod cyfathrebu, rydych chi'n honni, wedi methu, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan lefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddoe ddiwethaf, a ddywedodd:
'Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y cydweithio i gefnogi menywod a phobl ifanc, a bwrw ymlaen â rhai o argymhellion Comisiwn Thomas'?
I gloi, o gofio i uwch swyddogion yr heddlu ddweud wrthyf yn ystod fy ymweliad ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru: mae'r holl gynllunio am argyfyngau yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas gan y prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru wedyn yn cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn, pam ydych chi'n credu mai dim ond un cyfeiriad at unrhyw droseddu trawsffiniol yng nghyd-destun llinellau cyffuriau y mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn ei gynnwys, ac mai'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond dim cyfeiriad at bartneriaid dros y ffin, gyda phwy y mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn gwirionedd?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y nifer sylweddol iawn o gwestiynau a phwyntiau mae wedi'u codi? A gaf i ddechrau efallai drwy ddweud fy mod i’n gobeithio, wrth gwrs, pan fydd wedi cael cyfle i ystyried yr hyn sy'n adroddiad manwl iawn, iawn, y bydd trafodaeth lai difeddwl am rai o'r materion ehangach sy'n ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru yn cael ei hagor.
Ond a gaf i ddiolch i'r Aelod yn benodol am gryn nifer o'i sylwadau? Fel yr oeddech chi’n cyrraedd diwedd eich cyfraniad a'ch cwestiynau, roedd yn ymddangos yn glir i mi eich bod mewn gwirionedd yn dadlau'r achos dros ddatganoli cyfiawnder. Rwy'n credu pan fyddwn ni’n sôn am rai o'r pwyntiau sydd y tu ôl i hynny, a rhai o'r materion sydd, wrth gwrs, wedi effeithio cymaint ar gyfiawnder, a pham mae'r holl faterion sy'n ymwneud â darparu cyfiawnder yn yr ystyr ehangach mor bwysig i ni o ran diwygio a newid, gadewch i ni grynhoi lle mae llawer o'r system gyfiawnder.
Rydym ni wedi cael toriadau sylweddol yn niferoedd yr heddlu, ac mae niferoedd a chyllid yr heddlu yn dal yn isel mewn gwirionedd, ac yn is na'r hyn yr oedden nhw yn 2010. Mae 600 o lysoedd ledled y DU wedi cau, a nifer fawr o lysoedd yng Nghymru, sydd bron â dod â'r cysyniad o gyfiawnder lleol i ben. Bu toriadau enfawr mewn cymorth cyfreithiol—a hyd yn oed yn awr nid oes gennym ni ymrwymiad llawn i weithredu hyd yn oed argymhellion cyfyngedig yr Arglwydd Bellamy—sy'n cyfyngu ar fynediad i gyfiawnder.
Rydym ni wedi cael toriadau yn y buddsoddiad mewn llysoedd. Fe wnaethoch chi sôn ychydig am yr economi gyfreithiol ryngwladol—a gaf i ddweud nad yw'r trafodaethau rydw i ac eraill wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd wedi cyrraedd unman o gwbl? Mae cyflwr y llys hwnnw, mewn prifddinas, mewn amgylchedd lle'r ydym ni eisiau gweld yr economi gyfreithiol yng Nghymru yn tyfu, yn gwbl warthus, ac ni fyddai methiant llwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder i roi unrhyw sylw o gwbl i gyfiawnder yn y brifddinas, yn y ganolfan cyfiawnder sifil, a'r buddsoddiad sydd ei angen, yn digwydd mewn system gyfiawnder ddatganoledig, oherwydd ni fyddem yn cael maddeuant am hynny. Mae anialwch cyngor yn cael ei greu, cynnydd ym mhoblogaeth carchardai, y lefelau cynyddol o droseddau treisgar a throseddau cyllyll, y pwysau cynyddol ar y system gyfiawnder. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fod ei ymateb, i ryw raddau, mewn gwirionedd yn ymateb pen-yn-y-tywod—un nad yw'n mynd i'r afael â'r holl faterion sy’n cael eu codi yn y papur.
Rydym ni’n credu nad yw datganoli cyfiawnder neu'r angen am ddiwygio a newid mewn cyfiawnder yn ymwneud â phwy sy'n rheoli beth, ond sut y gallwn ni ei gyflawni'n well. Pan fyddwch chi’n ei osod yn erbyn y cefndir hwnnw o fethiant llwyr o fewn y system gyfiawnder—system gyfiawnder sy'n dadfeilio—yna rhaid i ni edrych ar ddiwygio. Mae un peth yn glir iawn, os meddyliwn ni am yr enghreifftiau o gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig, mae'r angen i'w hintegreiddio â'r holl gyfrifoldebau polisi datganoledig hynny sydd gennym ni yn rhesymegol. Mae'n gwneud synnwyr llwyr.
Rydw i’n croesawu'n fawr y cydweithrediad sy'n digwydd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder—cydweithredu anghyson. Dydyn ni byth yn gwybod o un flwyddyn i'r llall lle y gallem fynd. Ond diolch i'm cyd-Aelod Jane Hutt mae’r ganolfan breswyl i fenywod yng Nghaerdydd yn dwyn ffrwyth. Nid yw hyn wedi digwydd o ganlyniad i rywfaint o barodrwydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder; mae wedi digwydd diolch i Jane Hutt, ac mewn gwirionedd i gyn-Weinidogion eraill Llywodraeth Cymru. Felly, ydym, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn, ac rydym ni’n cydweithredu, ond y mater sy'n deillio o'r papur hwn, fel y byddwch chi’n cytuno, rwy’n siŵr, unwaith y byddwch chi wedi cael y cyfle i gymryd y cyfan i mewn, yw y gallem ni wneud cymaint yn well, ac rydym ni angen diwygio radical.
Cwnsler Cyffredinol, hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru am gynhyrchu eu gweledigaeth o sut y dylai system gyfiawnder edrych yng Nghymru. Rwy’n gwybod bod gennym ni yn y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac ynoch chi fel Cwnsler Cyffredinol ddau eiriolwr cryf dros system gyfiawnder well i bobl Cymru. Fodd bynnag, mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â fy nghyfaill Mark Isherwood am ddefnyddio'r un hen ddadleuon ag yr ydyn ni’n ei glywed ef yn eu defnyddio bob tro. Weithiau mae fel bingo, onid yw e? Roeddwn i’n aros iddyn nhw ddod allan. Oherwydd a bod yn deg, mae'n ddogfen hir iawn, ac a gaf i awgrymu efallai ychydig yn rhy hir, Cwnsler Cyffredinol? Roeddwn i’n falch o weld eich bod yn gwahodd sylwadau ac ymgysylltiad gan y proffesiwn a'r cyhoedd yn y ddogfen, ond a gaf i awgrymu, efallai mewn dogfen 161 tudalen o hyd, na fyddwch chi’n cael llawer o ymgysylltu gan y cyhoedd, ac efallai nad oes angen iddo fod mor hir â hynny? Er enghraifft, mae tudalen lawn ar Dechrau'n Deg, rhaglen 16 mlwydd oed, mewn dogfen am gyfiawnder; ydym ni wir angen dogfen mor hir?
Yn bersonol, roeddwn i’n gobeithio cael mwy o lasbrint ar sut y gallwn ni gyrraedd yno, sut fyddwn ni’n llwyddo i ddatganoli cyfiawnder, ac amserlen gadarn ar sut i wella'r meysydd hynny sydd eisoes wedi'u datganoli. Er gwaethaf ei rethreg gwrth-ddatganoli bresennol, rydym ni’n gwybod nad yw Boris Johnson mewn gwirionedd yn gwrthwynebu datganoli. Roedd am gael mwy o bwerau dros y system cyfiawnder troseddol tra'r oedd yn Faer Llundain. Nid oes ideoleg y tu ôl i hynny. Rydym ni i gyd yn gwybod os y byddai’n siwtio Boris Johnson yn y dyfodol i ddatganoli cyfiawnder, yna bydd yn ei ddatganoli ar unwaith, ni waeth beth a ddywed Mark Isherwood dro ar ôl tro. A gobeithio y bydd yr ailddarganfod hwn o Gymreictod y Ceidwadwyr yn eu cynhadledd plaid ddiweddar yn mynd y tu hwnt i ofyn am ŵyl banc ychwanegol yn unig, a bydd yn cynnwys cydraddoldeb datganoli ar draws y Deyrnas Unedig. Ni allwn ond gobeithio, beth bynnag.
Gallai cyfiawnder gael ei ddatganoli'n gynt nag yr ydym ni’n ei feddwl. Gallai pethau ddigwydd yn gyflym iawn. Pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli cyfiawnder? Yn yr adroddiad, fel y soniais, nid oes amserlen wedi'i hawgrymu ar gyfer datganoli cyfiawnder; mae'n dweud hyn:
'Bydd y broses o greu'r weledigaeth...yn digwydd fesul cam.'
Wel, beth mae hynny'n ei olygu? Sut hoffech chi weld cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, Cwnsler Cyffredinol?
Rwyf wedi gorfod dysgu llawer o bethau yn fy mlwyddyn gyntaf yn y lle hwn, ac rwyf wedi dysgu'r holl eiriau newydd gwych hyn—roedd 'opteg', er enghraifft, yn golygu rhywbeth hollol wahanol i mi flwyddyn yn ôl, ac nid oedd gen i syniad beth oedd 'archwiliad dwfn' cyn dod yma. Wel, yn ffodus, nid yw'r geiriau hynny wedi'u cynnwys yn y dogfennau hyn, ond mae gennym ni rai geiriau ffasiynol hyfryd eraill yma. Mae gennym ni 'archwilio' yn codi, ac 'edrych' yn codi. Nid yw'n rhoi dadansoddiad manwl o pryd na phwy fydd yn gwneud i bethau ddigwydd, ond rydym ni’n cael 'archwilio' o leiaf 21 o weithiau, mae 'edrych' wedi'i gynnwys 14 gwaith. Ac ymadrodd fel 'archwilio diwygio radical', wel, mae'n swnio'n wych, onid yw, ond beth mae 'archwilio diwygio radical' yn ei olygu mewn gwirionedd? Sut y byddwn ni’n cyrraedd y diwygiad radical hwnnw?
Gair arall a oedd yn codi yn aml yn y ddogfen, a achosodd rywfaint o bryder i mi, oedd y gair 'partneriaeth'. Rwy'n gwybod bod 'partneriaeth' yn air ffasiynol arall o ran Llywodraeth Cymru; cododd 65 o weithiau yn y ddogfen hon. Ac, wrth gwrs, mae partneriaeth yma'n golygu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn hytrach na phartneriaeth fel arfer gyda Llywodraeth Cymru. Ond, a ydym ni mewn gwirionedd eisiau canolbwyntio ar bartneriaeth â Llywodraeth y DU? Nid yw'n cyfrannu dim at ddatrys cymhlethdod y system gyfiawnder. Nid yw'n datrys yr ymyl garw hwn. Oni ddylem ni fod yn pwysleisio dro ar ôl tro ein bod ni angen cyfiawnder wedi’i ddatganoli yma, yn hytrach na'r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth y DU?
Rydw i’n llongyfarch y cyhoeddiad am y ganolfan i fenywod, ond mae'n peri pryder i mi na fydd yn weithredol tan o leiaf 2024. Mae'n gynllun treialu pum mlynedd yn cynnwys menywod yn ardal Abertawe yn unig, ac rydw i’n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn ddewis amgen i'r ddalfa—bod menywod a fyddai wedi cael eu hanfon i'r ddalfa yn cael eu hanfon yno, yn hytrach na chael gorchymyn cymunedol arall. Enghraifft arall y gwnaethoch chi ei rhoi am bartneriaeth oedd Cyngor y Gyfraith Cymru y mae mawr ei angen. Fodd bynnag, rwyf i’n pryderu am y cyngor ac fe wnes i ei godi pan ddaeth yr Arglwydd Lloyd-Jones o flaen ein Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Nid yw'n derbyn unrhyw gyllid o gwbl, ac mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr prysur iawn a haelioni Cymdeithas y Cyfreithwyr. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau y gall cyngor y gyfraith barhau â'i waith pwysig?
Ac yn olaf, roeddwn i’n siomedig i beidio â gweld unrhyw amserlen gadarn ar weithredu adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru. Roedd yr argymhellion eang a chyffredinol yn hysbys i bob un ohonom ni ers mis Rhagfyr 2020, ac rwy’n gwybod eich bod chi’n cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, fod gennym ni, drwy dribiwnlysoedd Cymru, gyfle gwirioneddol i adeiladu system gyfiawnder deg a hygyrch yma yng Nghymru. Mae hyn o fewn ein pŵer a phŵer Llywodraeth Cymru a'r lle hwn. Mae mor gyffrous gallu creu'r system apeliadau gyntaf yma yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Felly, pryd fyddwn ni’n gweld argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru yn cael eu rhoi ar waith? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod, unwaith eto, am yr amrywiaeth o sylwadau. Doeddwn i chwaith ddim yn gwybod beth oedd ystyr 'archwiliad dwfn' pan wnes i ddod yma, a llwyddais i gymryd arnaf fy mod i'n gwybod am ychydig ac yn y pen draw fe wnes i ddarganfod beth oedd hyn. Hefyd, pan fo'r term 'heriol' yn cael ei ddefnyddio, mae'n golygu'n eithaf amhosibl. [Chwerthin.] Roedd yn fy atgoffa ychydig o'r adeg pan ddaeth y Tywysog Philip i un o agoriadau'r Senedd, ac roedd sgwrs a gofynnodd rhywun iddo sut y llwyddodd i gael sgyrsiau gyda phawb a gwybod beth i'w ddweud. Dywedodd, 'Wel, rwy'n gweld cyn belled â fy mod yn taflu "cymuned" a "chynaliadwyedd" i'r sgwrs mae'n ymddangos ei fod yn gwneud y tric.' Felly, mae hwnnw'n bwynt dilys iawn.
Rwy’n credu mai un o'r mannau cychwyn, wrth gwrs, yw—fe wnaethoch chi godi hyn—mae'n ddogfen hir iawn, ac rwy’n cytuno â hynny. Gallai fod wedi bod yn llawer hirach, mewn gwirionedd, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelod wedi gweld y 'Cyflawni Cyfiawnder i Gymru: Crynodeb a Rhaglen Waith' hefyd, sy'n llawer byrrach. Rwy’n credu mai’r hyn y gwnaethom ni ei benderfynu oedd yn bwysig iawn oedd bod angen i ni gyflwyno darlun o bopeth sydd wir yn digwydd. Os ydym ni am siarad am gyfiawnder, cyfiawnder deddfwriaethol, y system gyfiawnder a chyfiawnder cymdeithasol, roedd angen i ni allu cyflwyno darlun cynhwysfawr i gymryd rhan mewn dadl ddilynol sy'n digwydd, oherwydd mewn sawl ffordd mae hyn yn ymwneud â chalonnau a meddyliau, ac mae'n ymwneud â chael dadl briodol. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen ymgysylltu â'r holl wahanol rannau hynny o'r system cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder, fel y mae cymdeithas ddinesig yn wir. Ac rwy'n cytuno â chi. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn darllen y peth llawn, ond gallan nhw ddarllen y darnau sy'n berthnasol iddyn nhw, a bydd y rheini mae'n bwysig iddyn nhw gael y darlun cyffredinol.
Felly, rydw i’n meddwl, am y tro cyntaf, fod gennym ni ddarlun o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ym maes cyfiawnder yng Nghymru. Mae gennym ni ddarlun o'r meysydd hynny lle rydw i, gan weithio ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod yn ymwneud ag ystod eang o feysydd, ac er clod i'r Aelod, mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud a phwysigrwydd hynny'n rhywbeth na allwn ei anwybyddu. Felly, mae'r cydweithredu hwnnw'n berthnasol iawn, iawn ac yn rhywbeth y mae'n rhaid iddo fynd rhagddo, ac mae wedi arwain at welliannau. Y broblem yw, mae'r gwelliannau hynny'n gyfyngedig. Rydym ni’n gweithio mewn system lle mae bron fel petaech chi’n cael eich dal yn ôl rhag gwneud y pethau a chyflawni'r pethau rydych chi am eu gwneud. Felly, mae'r llys cyffuriau ac alcohol, rydym ni’n ei noddi neu'n cyfrannu ato, yng Nghaerdydd—yn ddatblygiad pwysig iawn o lys datrys problemau—mae'n ddigon posibl y byddwn ni am gyflwyno hynny a'i gyflwyno'n gyflym. Dydyn ni ddim am orfod aros am benderfyniad yn Llundain ynghylch a yw'n briodol ac a yw'n cyd-fynd â chynllun yno, oherwydd mae'n debygol ei fod yn cyd-fynd yn union oddi mewn i’r mathau o fesurau rydym ni’n eu cymryd, mewn cyfrifoldebau datganoledig o ran tai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen.
Y mater arall, wrth gwrs, yw—. Pam ydw i'n dweud 'calonnau a meddyliau'? Y rheswm am hynny yw nad yw datganoli cyfiawnder, fel y cyfryw, yn broses hawdd. Rwy'n credu, i ryw raddau, y bydd yn gynyddrannol, ac nid yw ei amserlennu o reidrwydd o fewn ein dwylo. Mae'n ymwneud â dangos ffordd o sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu yng Nghymru yn well, ac rwy’n credu bod gwersi yma, yn yr un modd, sy'n berthnasol i Loegr. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Lundain—mae hynny'n hollol gywir. Mae manteision gwirioneddol i ddiwygio'r system gyfiawnder a'r ffordd mae’n cael ei chyflwyno a'i chydlynu yn Lloegr hefyd.
Nawr, o ran tribiwnlysoedd, wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog maes o law yn gwneud datganiad o ran y rhaglen ddeddfwriaethol, ond rwy’n gobeithio yn y papur hwn ein bod wedi'i gwneud yn eithaf clir bod argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn rhai rydym ni’n bwriadu ddeddfu arnyn nhw a’u rhoi ar waith, ac, wrth gwrs, o ran y rôl gynyddol rydyn ni’n ei rhagweld ar gyfer llywydd tribiwnlysoedd. Felly, rwyf am erfyn i ofyn am ychydig o amynedd yn ei gylch, ond byddwn yn mynd i’r afael ag ef, ac rydych chi’n llygad eich lle, dyma fydd y newid mwyaf arwyddocaol a hanesyddol yn system gyfiawnder Cymru, ers canrifoedd mae'n debyg—y tro cyntaf y byddwn ni erioed wedi cael strwythur apeliadol, a'r potensial i hynny ddod yn fan cychwyn ar gyfer newid ac yn y blaen.
O ran Cyngor y Gyfraith Cymru, wel, wrth gwrs, yn gyntaf, mae newydd gael ei sefydlu. Rwyf i’n croesawu'n fawr y gefnogaeth a roddwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, sy'n ei galluogi i ddigwydd. Wrth gwrs, mae'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Rwyf i wedi mynychu'r tri chyfarfod cyntaf, oherwydd rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig ei gefnogi, siarad am yr holl faterion hyn a'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwy’n credu y bydd cyngor y gyfraith ei hun rywbryd yn penderfynu beth sydd ei angen arno i fynd i'w gam datblygu nesaf. Byddaf i’n bendant yn gwrando’n ofalus iawn ar unrhyw beth maen nhw’n ei ofyn neu unrhyw argymhellion maen nhw’n eu gwneud, ond mae'n bwysig iawn ei fod yn dod oddi wrthyn nhw, yn hytrach nag yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru ei hun. Gobeithio i mi ateb y rhan fwyaf o'ch pwyntiau. Diolch.
Yr unig ffordd gynaliadwy o wella'r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ef. Dyna wnaethoch chi di ei ddweud, Mick Antoniw, ac rydw i’n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae angen i ni ddechrau gyda phlant, oherwydd mae gennym ni bron i 18,000 o blant o hyd bob blwyddyn yn profi trawma eu mam yn cael ei hanfon i'r carchar, sef 'cwbl drychinebus'—geiriau'r Farwnes Corston, a ysgrifennodd yr adroddiad arloesol y cytunodd pawb arno ar y pryd oedd y ffordd ymlaen i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, a dyma ni, yn dal i siarad amdano. Ond diolch yn fawr iawn i Jane Hutt ac eraill, sydd wir yn ceisio gwneud cynnydd ar hyn, mae gennym ni ganolfan dreialu i fenywod yn Abertawe, ac os yw'n gweithio, yna bydd gennym ni un yn y gogledd a'r gorllewin hefyd. Ond yn sicr ni allwn ni barhau fel yr ydym ni ar hyn o bryd, oherwydd mae'r system wedi torri'n llwyr. Mae'n warth cenedlaethol, lefelau atgwympo, a ddylem ni synnu? Mae adsefydlu'n amhosibl os yw carcharorion yn cael eu cloi am 23 awr y dydd ac bob tro mae Gweinidog yn mynegi llygedyn o ymgais i ddiwygio, maen nhw’n cael eu symud ymlaen. Dyna hefyd fy mhrofiad i o'r gwasanaeth carchardai pan wnes i geisio gweithio gyda nhw mewn bywyd blaenorol.
Felly, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd ac mae'n siomedig clywed yn y drafodaeth yr ydych chi eisoes wedi'i chael gydag Aelodau eraill y bydd hi’n 2024 cyn y byddwn ni’n gweld unrhyw newid, oherwydd mae'r dystiolaeth yn llethol bod y mwyafrif dirfawr o fenywod wedi dioddef trawma ac angen cymorth ac adsefydlu i roi eu bywydau'n ôl at ei gilydd eto, a pheidio profi’r tarfu o gael eu gwahanu oddi wrth eu plant a cholli eu cartrefi. Ac mae angen i ni ddysgu o wledydd eraill Sgandinafia lle mae pobl yn mynd i'r carchar a'u teuluoedd yn mynd gyda nhw: mae'r teuluoedd yn parhau gyda’u bywydau arferol, yn mynd i'r ysgol, yn mynd i'r gwaith, ac mae'n rhaid iddyn nhw eu hunain weithio yn ystod yr wythnos, ac yna maen nhw yn y carchar dros y penwythnos. Dyna yw eu cosb, ac mae hynny'n ymddangos i mi'n ffordd lawer mwy effeithiol o sicrhau bod pobl yn cael eu cosbi pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth o'i le, ond nad ydyn nhw’n profi gymaint o darfu fel na fyddan nhw byth yn llwyddo i roi eu bywydau'n ôl at ei gilydd.
Felly, dywedodd cyfamod 2021 y byddai llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y byddai ystad y menywod a phawb a ddaeth i gysylltiad â menywod yn cael eu hysbysu am drawma. Ac fe wnes i feddwl: cafodd y terfyn amser ei bennu ar gyfer Ionawr 2022 bryd hynny; allech chi ddweud wrthym ni pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar hynny?
Yn gyntaf, diolch am y sylwadau hynny. Maen nhw’n cytuno'n llwyr â'r holl deimladau rydych chi wedi'u mynegi ac, wrth gwrs, pwysigrwydd y datblygiadau sydd wedi bod yn digwydd a'r ymrwymiadau sydd yno, ond hefyd faint ymhellach mae'n rhaid i ni fynd.
O ran eich pwynt olaf, o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud, yr hyn y gallaf i ei ddweud yw fy mod i’n ymgysylltu'n rheolaidd iawn â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac rydym ni’n gweithio drwy'r rhain o ran ein portffolios priodol. Fe wnaf ddod yn ôl atoch chi o ran mwy o fanylion efallai am hynny. Ond hefyd i ddweud, wrth gwrs, mai rhan o bwrpas y papur hwn yw nad yw hyn yn fath o 'ddiwedd y ffordd' neu 'dyma lle'r ydym ni' ac ati. Dyma lle'r ydym ni’n cychwyn o ran ble rydym ni am fynd.
A gaf i ychwanegu un peth na wnes i sôn amdano'n iawn, mae'n debyg, mewn ymateb i Mark Isherwood, unwaith eto, ond sydd i ryw raddau'n berthnasol, ac mae hynny o ran mater plismona? A gaf i ddweud cymaint rydw i’n croesawu'r gwaith cydweithredol gwirioneddol sydd wedi bod yn digwydd rhwng yr heddlu a Llywodraeth Cymru ac asiantaethau, a rhwng comisiynwyr yr heddlu a throseddu, oherwydd mae llawer o'r ymdrechion ar y cyd sy'n digwydd, y cydweithio, a rhywfaint o'r cynnydd sydd wedi'i wneud, wedi bod yn ganlyniad uniongyrchol i'r cydweithredu hwnnw? Felly, mae'n dangos pethau sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Ac a gaf i ddweud hefyd, rydw i’n croesawu'n fawr y datganiad sydd wedi dod gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu heddiw mewn ymateb, sydd mewn gwirionedd yn cefnogi datganoli cyfiawnder, ac yn wir yn gefnogol i ddatganoli plismona? Mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig, swydd a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol i adlewyrchu a chyfrannu at blismona mewn cymunedau, 100 y cant o blaid y cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo, rwy’n meddwl. Rwy’n credu fod y ddadl o ran trawsffiniol—nid yw wedi effeithio o ran Gogledd Iwerddon, nid yw wedi effeithio o ran yr Alban, nid oes rheswm pam na ddylai'r materion hynny fod yr un mor berthnasol yng Nghymru. Mae gweithio trawsffiniol yn digwydd ym mhob math o feysydd, wedi'u datganoli a heb eu datganoli. Mae'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd, sydd wedi'i ddatganoli ar draws ffiniau, felly dydw i ddim yn credu bod y rheini'n faterion dilys. Ond rwy'n credu y dylem ni roi sylw, i bob pwrpas, i lais etholedig democrataidd y comisiynwyr heddlu a throseddu, a hefyd i groesawu'r ffaith nad yw ffederasiwn yr heddlu eu hunain yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid datganoli cyfiawnder. Mae eu sefyllfa wedi datblygu dros y blynyddoedd ac eto, rwy’n credu, mae'n un gadarnhaol iawn.
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu'r datganiad a hefyd y 160 a mwy o dudalennau cysylltiedig? Dydw i heb gyfrif unrhyw eiriau yna, ond rydym ni’n edrych ymlaen, fel pwyllgor, at gael ein dannedd i mewn i hyn hefyd. Rydw i’n croesawu'r pwyslais yr ydych chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei roi i hyn nawr; mae'n cael ei groesawu'n fawr yn wir.
Dim ond i gyffwrdd ag un neu ddau o faterion. Wrth ystyried materion cyfiawnder o fewn ein cylch gwaith eang, rydym ni wedi clywed tystiolaeth sy'n berthnasol i ddatganoli pwerau ar gyfiawnder ymhellach yng Nghymru ac, yn wir, plismona. Rwy’n nodi’r sylwadau rydych chi wedi’u gwneud ond hefyd y siaradwyr blaenorol o Blaid Cymru a meinciau'r Ceidwadwyr a wnaeth, mewn ffyrdd gwahanol, yr achos dros ddatganoli cyfiawnder. Ond ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, cyn-gadeirydd y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru ddwyn nifer o feysydd i’n sylw lle gallai gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru gael ei wella. Pwysigrwydd, er enghraifft, cael seilwaith sefydliadol ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a datblygu gwahanol gyrff i Gymru gyfan, yn enwedig byrddau cyfiawnder troseddol Cymru gyfan a byrddau cyfiawnder teuluol Cymru gyfan, gan fod materion troseddu a theuluol mor bwysig yng Nghymru. Felly, os gallai'r Gweinidog ymhelaethu ar hynny.
Pwynt allweddol arall a wnaeth oedd bod y cydlynu agosach hwn rhwng cyfiawnder a rhannau eraill o'r Llywodraeth, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio ato yn ei ddatganiad heddiw, yn enwedig ym maes iechyd ac addysg. Dywedodd y byddai'n haws sicrhau'r cydlynu hwnnw pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru, ond yn absenoldeb hyn, Gweinidog, beth arall y gellir ei wneud—y cydweithio ymarferol hwnnw yr oeddech chi’n sôn amdano ar gyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder menywod, a hefyd pethau fel y llys cyffuriau ac alcohol hefyd?
Un o'r sylwadau olaf a wnaeth yr Arglwydd Thomas yn ystod ein sesiwn oedd cyfiawnder sifil. Nododd nad oes canolfan llys sifil briodol yng Nghymru. Teimlai fod Canolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd yn is na'r safon, a gobeithiai y gall Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder weithio i roi’r hyn rydym ni ei angen yn briodol yn hyn o beth a'r hyn mae'r brifddinas yn ei haeddu mewn gwirionedd hefyd.
Cwnsler Cyffredinol, rydym ni’n edrych ar faterion cyfiawnder ehangach. Cawsom sesiwn dystiolaeth ddiweddar gyda Chyngor y Gyfraith Cymru. Rydym ni’n ymgysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol ar yr heriau sy'n eu hwynebu. Byddwn ni’n cyhoeddi crynodeb o'n hymgysylltiad yn fuan iawn, a allai fod o gymorth i chi, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ymgysylltu â chi hefyd, a'r Prif Weinidog, ar y gwariant sy'n gysylltiedig â chyfiawnder. Felly, i droi at ychydig o bethau yma. Ydych chi’n hyderus bod gennych chi’r gallu i gyflawni rhai o'r canlyniadau hyn yma yng Nghymru, yn enwedig os oes angen deddfwriaeth hefyd mewn perthynas â'r system tribiwnlysoedd un haen, er enghraifft? Sut fyddwch chi’n gwerthuso eich canlyniadau ar gyfer eich gwaith cyfiawnder yn erbyn gwariant? Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi cyfeirio ato mewn gohebiaeth. Ac yn olaf, sut rydych chi’n mynd i adrodd yn ôl yma i symud ymlaen ar y materion hyn hefyd? Ond rydym ni’n croesawu'n fawr y pwyslais yr ydych chi wedi'i roi i'r materion hyn—yn hir-ddisgwyliedig ac i’w groesawu’n fawr.
Wel, diolch am nifer o'r cwestiynau hynny. Darllenais gyda diddordeb sesiwn dystiolaeth yr Arglwydd Thomas gyda'ch pwyllgor, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, oherwydd mae'n rhywbeth sydd o ddiddordeb uniongyrchol. Rwy’n credu mai'r un peth sy'n bwysig, wrth gwrs, yw'r cyrff Cymru gyfan a drafodwyd beth amser yn ôl gan gomisiwn Thomas. Wrth gwrs, mae llawer o'r rheini ym meysydd troseddu a chyfiawnder teuluol, mewn gwirionedd, bellach yn cael eu datblygu, eu sefydlu neu eu gweithredu. Felly, mae symud eisoes a senario newid o fewn y system gyfiawnder. Felly, mae newid wedi bod yn digwydd.
Rydych chi’n codi'r mater o ran yr angen i gydlynu iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tai ac yn y blaen yn barhaus, ac, wrth gwrs, mae hynny'n digwydd i raddau. Y pwynt yr ydym ni’n dal i'w wneud, wrth gwrs, yw nad yw'n rhan integredig o system gyfiawnder gynhwysfawr. Mae'n cynnwys dewis a dethol darnau y gallwn ni geisio ymyrryd ynddyn nhw, yn hytrach nag edrych yn gynhwysfawr dros y tymor hir a chynllunio, yn hytrach na mympwyon llywodraethau sy'n newid neu Weinidogion sy’n newid o bryd i'w gilydd. Ac, wrth gwrs, yr ardaloedd cliriach o ran meysydd prawf, yr heddlu, llysoedd datrys problemau—y pethau y byddem ni am eu gwneud i geisio adfer cyfiawnder lleol, ond hefyd, yn gynyddol, i roi mynediad i gyfiawnder.
Mater y ganolfan cyfiawnder sifil—fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r Arglwydd Ganghellor. Rwy’n credu mai'r gorau a gawsom allan o drafodaethau rydym ni wedi'u cael yw bod lifft y ganolfan cyfiawnder sifil yn mynd i gael ei atgyweirio ac o bosibl y bydd yn cael ffynnon ddŵr. A dweud y gwir, rwy’n credu bod yr ymagwedd at y ganolfan cyfiawnder sifil, pan fyddwn ni’n edrych ar bwysigrwydd llysoedd, gwaith masnachol a gwaith eiddo i'r economi gyfreithiol, pan fyddwn ni’n edrych ar ganolfannau cyfiawnder fel Bryste, Manceinion, a phan fyddwn ni’n edrych ar Lundain ac yn edrych ar Gaeredin ac, yn wir, yn edrych ar Ogledd Iwerddon, y cyfan y gallwch chi ei ddweud yw bod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn warthus, ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw gymhelliant na bwriad i wneud dim yn ei gylch. Roedd yr Arglwydd Wolfson yn cydymdeimlo, ond roedd yn gwbl glir nad oedd dim yno. Ac fe wnaf i ddweud hyn: pan fyddwn ni’n edrych ar y biliynau o bunnoedd sy'n debygol o gael eu gwario ar adnewyddu San Steffan, wyddoch chi, wel, efallai byddai ychydig bach o rywbeth felly’n dod i gael canolfan gyfiawnder dda ym mhrifddinas un o genhedloedd y DU yn eithaf pwysig.
O ran y ddeddfwriaeth ar dribiwnlysoedd, wrth gwrs, mae gwaith Comisiwn y Gyfraith wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Yn amlwg, mae'n dal i gael ei ddadansoddi a'i ystyried yn ofalus iawn ac, wrth gwrs, bydd datganiadau pellach maes o law ar y rhaglen ddeddfwriaethol yno. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth mae'n rhaid i ni ei wneud, a dyna pam yr oedd yn bwysig ei fod o fewn hynny.
O ran y gwerthusiad, mae'n amlwg bod angen i bethau rydym ni am eu gwneud fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae materion gwirioneddol, sy'n cael eu cydnabod drwyddi draw, o ran dadgyfuno data, cael data priodol y gallwn ni seilio polisi arno fel ei fod yn berthnasol i Gymru, ac onid yw'n warthus nad yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd, bod yn rhaid i ni yn y bôn chwilio am wahanol ffynonellau o geisio cael data er mwyn asesu a gwerthuso polisïau cyfiawnder? Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn ofalus iawn o ran sut y gellir gwella hynny, ac mae mesurau eisoes yn datblygu o ran caffael y data hwnnw, ond ni ddylai fod yn wir ei fod yn fath o bosibilrwydd ychwanegol, yn hytrach na rhywbeth sy'n mynd at wraidd polisi.
Ac wrth adrodd yn ôl, fel rydw i wedi’i ddweud, mae'r papur yn ymwneud â sgwrs. Nid yw hyn yn diflannu ac mae'n rhywbeth rydw i’n gobeithio y byddaf yn adrodd arno'n rheolaidd iawn, yn enwedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Yn olaf, Joyce Watson.
Rydw i’n croesawu'r datganiad hwn heddiw, wrth gwrs. Rydw i eisiau canolbwyntio'n benodol ar dri maes sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i unrhyw system gyfiawnder. Y cyntaf yw sicrhau bod y system gyfiawnder yn cael ei gwahanu oddi wrth unrhyw ymyrraeth neu ddylanwad gwleidyddol. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n digwydd yn San Steffan, fel rydym ni’n siarad. Mae hynny'n eithriadol o bwysig os yw pobl yn mynd i fod â ffydd yn y system: yn gyntaf wrth sefydlu'r system honno ac, yn ail, wrth gael mynediad i'r system os oes angen.
Yn ail, sicrhau mynediad cyfartal i gyfiawnder, ac rydw i’n sôn am ddau fath o fynediad yma: (1) o ran fforddiadwyedd—. Rydym ni’n gwybod beth wnaeth ddigwydd i gymorth cyfreithiol ac rydym ni’n gwybod beth wnaeth ddigwydd, felly, i hawl pobl, ac rwy’n credu ei bod yn hawl ddynol, i gael mynediad at gyfiawnder, yn cael ei wrthod dim ond am nad oedd ganddyn nhw'r cyllid i wneud hynny. Ac yn yr un modd, rhaid i fynediad cyfartal fod o ran mynediad corfforol, y gallu i gael mynediad at gyfiawnder yn agos i'r cartref, pe bai ei angen arnoch chi. Ac eto, o dan hawliau dynol, mae pobl wedi ymgorffori mewn hawliau dynol yr hawl i gael mynediad at gyfiawnder. A gwyddom—sonioch chi amdano—nifer y llysoedd sydd wedi'u cau. Dydw i ddim yn dychmygu y byddan nhw’n cael eu hailagor, felly mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill i bobl gael mynediad at gyfiawnder, ac mae posibiliadau technegol yno mae angen buddsoddi ynddyn nhw.
Ac yn olaf gen i, rhaid i ni ddilyn llwybr sy'n benodol i'r Gymru. Rhaid i ni ganolbwyntio ar pam mae pobl yn cael eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol—ac rydych chi wedi sôn am gyfiawnder cymdeithasol—yn y lle cyntaf, ac wedi rhoi rhywfaint o waith atal yn gynnar iawn. A soniodd Jenny yn gwbl briodol am blant; byddwn i wedi sôn am blant o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n chwarae rhan hollbwysig, ac maen nhw yno mewn niferoedd mawr o fewn y system cyfiawnder troseddol. Felly, mae atal hefyd yn rhan enfawr o hyn. Felly, atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf, a rhag cyflawni troseddau yn ail.
Felly, rwy’n croesawu hyn. Mae llawer i'w wneud. Roeddwn i’n mynd i ofyn y cwestiwn y gwnaeth Huw ei ofyn—a oes gennym ni’r gallu i gyflawni hyn o ran popeth fyddwn ni ei angen wrth symud ymlaen—felly, ni wnaf ail-adrodd hynny. Ond, wyddoch chi, fe wnaethom ni edrych ar yr hyn sy'n digwydd os nad ydych chi’n cymryd y system cyfiawnder troseddol ac os byddwch chi’n dechrau tynnu rhywfaint ohono allan o degwch—a dim ond edrych ar y gwasanaeth prawf a phreifateiddio hynny sydd rhaid i ni ei wneud i weld beth oedd trychineb. Felly, dyna pam y gwnes i ddechrau ble wnes i, a dyna pam rwy'n gorffen lle rwy'n gorffen. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau. Mae'r pwynt cyntaf yr ydych chi’n ei godi mewn gwirionedd yn un sylfaenol iawn ac efallai, o ystyried, y dylwn i fod wedi rhoi mwy o bwyslais arno. Mae'n gwbl hanfodol ac yn angenrheidiol ein bod ni’n cefnogi ac yn cynnal annibyniaeth Llywodraeth y farnwriaeth a'r system lysoedd, a bydd unrhyw system Gymreig ac agweddau ar system Gymreig yn cynnal yr egwyddorion hynny. Un o'r materion allweddol, unwaith eto o fewn datblygu tribiwnlysoedd, fydd sicrhau hynny, nad yw ein system tribiwnlysoedd, ein system cyfiawnder embryonig, yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, ond ei bod yn gorff sy'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth yn y ffordd mae'n gweithredu. Nid yw hynny'n gwrth-ddweud y cysyniad a'r rôl o ran sut mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd a sut mae cyfiawnder yn ymgysylltu mewn gwirionedd.
Rydych chi’n codi pwyntiau dilys o ran cymorth cyfreithiol, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ceisio lleddfu effaith y toriadau mewn cymorth cyfreithiol gyda'r gronfa gynghori sengl. Ond rydych chi yn llygad eich lle, mae dwy agwedd arno: un yw mynediad at gyngor cyfreithiol a chymorth cyfreithiol i'r rhai sydd ei angen; y llall yw argaeledd y cyfreithwyr a'r gweithwyr cynghori hynny sy'n gallu rhoi'r cymorth hwnnw mewn gwirionedd. A'r ffaith yw, yn rhai o'n cymunedau tlotaf a'n cymunedau gwledig, fod anialwch cynyddol o ran argaeledd, a dyna pam mae datblygu economi gyfreithiol Cymru mor bwysig a pham rydym ni’n edrych ar bethau fel prentisiaethau a'r ffordd y gallem ni roi cymorth pellach i'r cwmnïau penodol hynny, oherwydd bod ganddyn nhw rôl hanfodol i wneud hefyd. Ac, mewn gwirionedd, mae rôl y cyfreithwyr cymorth cyfreithiol hynny mewn cymunedau yn cael ei thanbrisio a'i thangynrychioli'n aruthrol pan fyddwn ni’n sôn am y system gyfiawnder.
Fe wnaethoch chi sôn am lysoedd rhithwir, ac, wrth gwrs, i ryw raddau rydym ni wedi datblygu hynny yn ystod sefyllfa COVID. Dydyn nhw ddim yn addas i bawb, a rhaid i ni fod yn ymwybodol iawn o'r anghydraddoldebau posibl sy'n codi. Rydym ni’n gwybod nad oes gan rywbeth fel saith y cant o bobl dros 16 mlwydd oed fynediad digidol. Nid oes gan 25 y cant o lawer o'n cymunedau sgiliau digidol digonol. Felly, rhaid i ni sicrhau, pan fo'n briodol, a lle y gall llysoedd rhithwir ddigwydd—. Ac mae hynny wedi'i ddatblygu, i ryw raddau, o fewn ein system tribiwnlysoedd—mae hynny'n beth da ac yn beth blaengar, ond nid yw'n rhywbeth a all, ar ei ben ei hun, ddatrys problemau mynediad. Felly, rhaid ystyried y mater cydraddoldeb yn ofalus iawn, iawn o fewn y datblygiad hwnnw, ac rwy’n gwybod bod yr Aelod wedi siarad am hynny yn y gorffennol. Rydych chi yn llygad eich lle o ran y mater yr ydych chi’n ei godi o ran ymyrraeth gynnar a phwysigrwydd hynny o fewn y system gymdeithasol a chyfiawnder ehangach.
Ac o ran adnoddau, gadewch i ni ddweud hyn: onid yw'n hen bryd i ni roi'r gorau i fuddsoddi mewn methiant a dechrau buddsoddi mewn atal, ymgysylltu a chydweithredu? Yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yw symiau enfawr o arian yn cael ei wario ar system sy'n methu, ar system carchardai nad yw'n gweithio, nad yw'n cyflawni ac yn y blaen. Meddyliwch faint yn fwy effeithiol y gellid defnyddio'r adnoddau hynny gyda chyfeiriad gwahanol o ran polisi cymdeithasol a chyfiawnder. Diolch.
Diolch yn fawr i'r Cwnsler Cyffredinol am y datganiad yna. A dyna ni, dyna ddiwedd ein gwaith am heddiw.