– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 12 Gorffennaf 2022.
Eitem 16 sydd nesaf—y ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2022-23 yw hynny. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig yma. Rebecca Evans.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cyllideb atodol gyntaf 2022-23 yw'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad. Byddaf yn darparu ymateb manwl i'w 12 argymhelliad maes o law.
Mae'r prif newid yn y gyllideb atodol gyntaf hon yn ymwneud ag ailddosbarthu cyllidebau'n dechnegol i adlewyrchu gweithredu'r safon adrodd ariannol ryngwladol, neu IFRS 16, fel y'i gelwir yn gyffredin, ar brydlesi. Nid yw'r newidiadau sy'n ymwneud ag IFRS 16 yn effeithio ar bŵer gwario Llywodraeth Cymru ond maent yn adlewyrchu'r cynlluniau gwariant presennol ar drefniadau prydlesu yn fwy priodol fel buddsoddiad cyfalaf. Yn ogystal, mae'r gyllideb hon yn rheoleiddio nifer fach o ddyraniadau o gronfeydd wrth gefn, gan gynnwys dyraniad o £20 miliwn i gefnogi ein hymateb i'r rhyfel yn Wcráin. Bydd y dyraniad hwn yn cefnogi cynlluniau fel y rhaglen noddi, ein canolfannau croeso a chynyddu'r ddarpariaeth o gartrefi dros dro o ansawdd da gyda'u costau cysylltiedig.
Fel sy'n arferol ar gyfer cyllidebau atodol, mae'r newidiadau hefyd yn cynnwys addasiadau bach i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol sy'n deillio o newidiadau yng ngwariant adrannol y DU. Mae'r gyllideb hon hefyd yn rheoleiddio trosglwyddiadau cymeradwy o fewn a rhwng portffolios gweinidogion.
Er ei fod yn gyfyngedig o ran cwmpas, mae'r gyllideb atodol, serch hynny, yn rhan bwysig o'r gyllideb a'r system graffu. Mae cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn yn adeiladu ar y cynlluniau a nodir yn y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, gan ganolbwyntio mwy ar y pwysau a'r cyfleoedd sy'n codi yn ystod y flwyddyn.
Ers cyhoeddi'r gyllideb derfynol, mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn golygu bod ein cyllideb yn werth £600 miliwn yn llai dros y cyfnod hwn o dair blynedd. Rwy'n monitro'r sefyllfa'n agos gyda'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet, a'r effaith y mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn ei chael ar gyflawni ein cynlluniau gwariant.
Byddaf yn cyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon. Caiff unrhyw ddyraniadau pellach o gronfeydd wrth gefn eleni eu rheoleiddio yn yr ail gyllideb atodol a chynhwysir unrhyw newidiadau canlyniadol pellach i Gymru sy'n codi o ganlyniad i newidiadau i wariant adrannol Llywodraeth y DU. Felly, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am graffu ar y gyllideb atodol hon, a gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Cynhaliodd y pwyllgor waith craffu ar y gyllideb atodol gyntaf ar 30 Mehefin, a diolch i’r Gweinidog am fod yn bresennol.
Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gerbron y Senedd ddoe ac mae'n gwneud 12 o argymhellion. Yn gyntaf oll, mae'r pwyllgor yn pryderu'n fawr am yr effaith y bydd pwysau chwyddiant yn ei chael ar fforddiadwyedd cynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru. O gofio y bydd y pwysau eithriadol hwn yn parhau ac y gallai waethygu, gofynnwn i'r Gweinidog ddarparu asesiad o effaith hyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Gofynnwn hefyd i'r Gweinidog ystyried cyflwyno'r ail gyllideb atodol y flwyddyn ariannol hon fel y gellir darparu cyllid i feysydd blaenoriaeth cyn gynted â phosibl, os oes angen gweithredu ar frys.
Gan droi at ardaloedd penodol, cyn imi sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel yn Wcráin, a gaf i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel a'r ymdrechion anhygoel a wnaed gan awdurdodau lleol, unigolion a gwasanaethau ledled Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin yn cael lloches a lle diogel i aros? Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig nad yw'r cyllid a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Felly, rydym yn annog y Gweinidog i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl, fel bod cyllid ar gyfer y gwasanaethau allweddol hynny'n parhau i gael ei ddarparu. Wrth i'r cymorth a ddarperir gyrraedd gwahanol feysydd o fewn y gyllideb, teimlai'r pwyllgor hefyd ei bod yn dod yn fwyfwy anodd deall faint o arian oedd yn cael ei wario mewn meysydd penodol. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r Gweinidog ddarparu dadansoddiad o'r cyllid sydd wedi'i neilltuo i gefnogi ffoaduriaid Wcrainaidd mewn cyllidebau yn y dyfodol.
Ar y mater hwn, cafodd y pwyllgor ei ddychryn gan y diffyg ymgynghori ystyrlon rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfraniadau a wnaed o gyllidebau datganoledig tuag at yr £1 biliwn a ddarparwyd mewn cymorth milwrol i Wcráin. Cytunwn â'r Gweinidog na ddylid gwario cyllidebau datganoledig ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Mae hon yn egwyddor sylfaenol, ac mae'r camau hyn yn gynsail beryglus. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog godi'r pryderon hyn gyda chydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU i sicrhau y diogelir cyllidebau datganoledig rhag cael eu defnyddio i ariannu meysydd nad ydynt wedi'u datganoli.
Dirprwy Lywydd, hoffwn droi'n gyflym yn awr at feysydd polisi eraill. Mae'r pwyllgor yn croesawu graddau'r cyllid a roddwyd i'r GIG i gefnogi ei adferiad ar ôl y pandemig, ac yn arbennig i ymdrin ag amseroedd aros a'r rhestr hir o ofal cynlluniedig sydd wedi ymffurfio. Fodd bynnag, mae ar y pwyllgor eisiau mwy o eglurder ynghylch sut y caiff yr arian ei wario. Rydym hefyd yn bryderus o glywed nad oedd nifer o fyrddau iechyd yn gallu defnyddio'r arian ychwanegol a ddyrannwyd. Er bod y pwyllgor yn derbyn yr effaith sylweddol amrywiolyn omicron ar gynllunio'r gwasanaeth iechyd, mae'n destun pryder na wariwyd cyfran fawr o'r dyraniadau hyn. Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu'n fawr am y straen cynyddol ar staff y GIG sydd, yn ôl adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, wedi blino, yn gwneud gormod ac o dan bwysau. Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ymdrech i ddatblygu cynllun gweithlu tymor hirach fel y gellir lliniaru'r pwysau hyn ac osgoi sefyllfa lle gallai staff ddiffygio.
O ran prydau ysgol am ddim, rwy'n falch bod y Gweinidog yn cyflwyno'r polisi hwn fel ei fod ar gael i ddisgyblion o fis Medi ymlaen. Wedi dweud hynny, mae'r pwyllgor yn ymwybodol y bydd ysgolion unigol mewn sefyllfaoedd gwahanol iawn o ran a oes ganddynt y seilwaith i weithredu'r fenter hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, gofynnwn i'r Gweinidog egluro'r cyllid penodol a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi'r polisi hwn. Fel Cadeirydd, mae arnaf eisiau gweithio gyda phwyllgorau eraill ar faterion lle mae diddordeb cyffredin, a dyna pam, ar y materion penodol hyn, yr wyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fel y gellir parhau i graffu yn y meysydd allweddol hyn.
Yn olaf, mae’r pwyllgor yn nodi â phryder y cynlluniau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil, ac yn nodi ymhellach y byddai cyfran Barnett o’r swyddi hynny yn gyfystyr â thua 6,000 o swyddi’n cael eu colli yma yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn pryderu y gallai toriadau o’r fath gael effaith anghymesur ar Gymru. O ganlyniad, hoffem gael rhagor o wybodaeth am fwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y maes hwn, yn ogystal â sicrwydd nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir ar y lefel Brydeinig yn cael effaith andwyol ar weithlu sector cyhoeddus Cymru.
Dirprwy Lywydd, rwy’n falch o fod wedi cael siarad yn y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae’r pwyllgor yn croesawu llawer o’r nodau canmoladwy a fynegir drwy’r gyllideb hon, ond mae’n awyddus i sicrhau bod sefyllfa ariannol Cymru yn gadarn ac yn wydn yn wyneb pwysau economaidd cynyddol. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac rwy'n croesawu cyfraniad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth ynghylch awdurdodau lleol a'r gwaith a wnaethant. Rwy'n cyfrannu at y ddadl hon fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, ac o'r dechrau'n deg hoffwn gadarnhau y byddwn yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron, yn ôl arferiad y grŵp ar gyllidebau atodol. Yn ystod y pandemig, gwelsom gyfres o gyllidebau atodol eithriadol lle dyrannwyd cannoedd o filiynau yn ogystal â'r gyllideb derfynol, i gydnabod yr ymateb enfawr yr oedd ei angen i fynd i'r afael â COVID-19.
Mae'r gyllideb atodol hon yn llawer agosach at yr hyn yr ydym ni'n disgwyl ei weld—mae'r rhan fwyaf o'r dyraniadau'n ymwneud â newidiadau technegol—ond, yn anffodus, mae'r gyllideb hon wedi'i phennu, unwaith eto, yn erbyn cefndir o amseroedd mwy eithriadol fyth. Rwy'n deall yn iawn bod y gyllideb wedi'i chynhyrchu ar ddechrau ymosodiad Rwsia ar Wcráin a'r argyfwng costau byw, ac felly nid yw'n ystyried y pwysau hyn yn llawn. Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, mae bron yn sicr y bydd angen mwy o gymorth i helpu i leddfu'r baich ar bobl, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddarparu, yn enwedig i'r bobl hynny nad ydynt yn gymwys i gael budd-daliadau ond sydd angen cymorth ariannol ar hyn o bryd. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda chydweithwyr o bob rhan o'r DU ynglŷn â'r posibilrwydd o gefnogaeth yn y dyfodol? A pha gynllunio ydych chi wedi'i wneud o ran y math o gymorth sy'n benodol i Gymru y gallai fod ei angen yn ystod cyfnodau'r hydref a'r gaeaf? At hynny, mae'r gyllideb yn dyrannu £20 miliwn o gronfeydd wrth gefn fel cymorth ariannol brys i lywodraeth leol i helpu gyda'r cynllun ailsefydlu ar gyfer ffoaduriaid Wcrainaidd, fel y clywsom ni. Er fy mod, wrth gwrs, yn croesawu hyn, rwy'n nodi gyda pheth siom bod Llywodraeth Cymru wedi oedi ei chynllun uwch-noddwyr y mis diwethaf. Gweinidog, pa mor effeithiol, yn eich barn chi, y mae'r cyllid hwn wedi bod o ran sefydlu rhwydwaith cymorth digonol?
Mae mater hefyd ynghylch sut yr ydym yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae pwysau chwyddiant yn rhoi llawer iawn o straen ar ariannu gwasanaethau, tra bydd angen talu costau pethau fel codiadau cyflog posibl yn y sector cyhoeddus. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i ddadansoddi iechyd ariannol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â pha adnoddau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol fel na fydd defnyddwyr gwasanaethau, llywodraeth leol na gwasanaethau eu hunain yn ysgwyddo costau ychwanegol?
O ran GIG Cymru yn benodol, pa waith ydych chi'n ei wneud i ddeall yn well y rhwystrau y mae sefydliadau'r GIG yn eu hwynebu wrth wario'r arian ychwanegol a ddarperir iddyn nhw mewn gwirionedd? Fel y gwyddoch chi, nododd Archwilio Cymru fod cyrff y GIG wedi dychwelyd £12.8 miliwn o'r £200 miliwn a ddyrannwyd yn 2021-22. Siawns, o ystyried y straen enfawr sydd ar y GIG, fod angen inni sicrhau y gwerir yr holl arian a ddarperir ar y rheng flaen i fynd i'r afael ag amseroedd aros a rhestrau cynyddol o bobl sy'n aros am driniaeth. Diolch.
Dechreuaf gan gyfeirio at y gor-ddyrannu yn erbyn y gyllideb gyfalaf gyffredinol. Yn amlwg, oherwydd pwysau chwyddiant, mae hynny'n dod o dan bwysau sylweddol, a adlewyrchir yn ôl pob tebyg yn y ffaith bod y gor-ddyraniad yn y gyllideb atodol sydd ger ein bron yn £68 miliwn, neu ychydig dros £68 miliwn—i lawr £7.5 miliwn o'r gyllideb derfynol. Byddwn yn gofyn, efallai, i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni am ble rydych chi'n debygol o fod yn dadfuddsoddi, neu o leiaf pa broses a ddefnyddiwyd gennych i flaenoriaethu neu ddadflaenoriaethu'r gwariant penodol hwnnw.
Hoffwn ailadrodd rhai o'r sylwadau ynghylch cymorth i bobl o Wcráin. Rwy'n croesawu'n fawr y dyraniad o £20 miliwn ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth ariannol brys i lywodraeth leol i gefnogi'r ymateb i'r argyfwng yn Wcráin. Gallwn i gyd fod yn falch iawn o ymateb Cymru a'r ffaith bod gwariant Llywodraeth Cymru yn mynd y tu hwnt i'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Mae'n destun pryder mawr, yn hynny o beth, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi ysbeilio cyllidebau datganoledig i dalu am wariant milwrol nad yw wedi'i ddatganoli, a meddwl ydw i tybed pa effaith a gaiff hynny—colli'r £30 miliwn hwnnw—ar y gyllideb ar gyfer eleni, yn enwedig o ran buddsoddi mewn iechyd, addysg a meysydd allweddol eraill. Onid yw hyn yn gosod cynsail beryglus, gan y gallai ddigwydd yn amlach? Yr hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw tynnu sylw at ba mor fregus a pha mor wan yw'r setliad datganoli mewn gwirionedd, pan all Llywodraeth y DU dynnu arian oddi wrthym sy'n arian sy'n ddyledus inni mewn gwirionedd.
Gallwn ailadrodd sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y siom nad yw'r cyllid a gafodd Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yn ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae'r hurtyn o Brif Weinidog sydd gennym ni yn San Steffan, sydd yn ei swydd ond nid mewn grym, yn dweud wrthym y bydd y DU yn cynorthwyo am amser hir yn Wcráin. Wel, mae'n amlwg nad yw hynny'n wir o ran cefnogi ffoaduriaid o Wcráin, a gofynnaf ichi ein sicrhau, p'un a yw Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ai peidio, y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i barhau â'i chefnogaeth i'r rheini o Wcráin sydd ei hangen.
Gofynnwyd y cwestiwn am iechyd. Rydym yn ymwybodol—. O gofio nad oedd byrddau iechyd yn gallu gwario eu dyraniadau cyllid ychwanegol y llynedd, a allwch chi roi sicrwydd inni y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd i helpu i fynd i'r afael ag amseroedd aros a'r ôl-groniad gofal a gynlluniwyd eleni yn cael ei ddefnyddio'n llawn?
Yn olaf, yn wyneb yr argyfwng costau byw, wrth gwrs, mae galw cynyddol ar i gyflogau'r sector cyhoeddus gadw i fyny â chwyddiant. Nawr, polisi Llywodraeth y DU yw claddu ei phen yn y tywod, a allai arwain at haf o anfodlonrwydd. Rwy'n gobeithio, yn amlwg, fod Llywodraeth Cymru'n mabwysiadu ymagwedd wahanol, ac efallai y gallech chi ddweud ychydig wrthym ni ynghylch pa bosibilrwydd sydd yn eich cyllideb eleni i wneud unrhyw gynnydd posibl yng nghyflogau'r sector cyhoeddus, oherwydd mae'n gwbl annerbyniol bod ein gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn cael eu gwasgu ar hyn o bryd, tra bod Llywodraeth di-glem y DU yn cymryd arnynt eu bod mewn grym.
Mae'r gyllideb atodol gyntaf fel arfer wedi bod yn achlysur bach, gan wneud mân newidiadau, ac mae hyn yn gwneud hynny. Ond daw'r gyllideb atodol ar adeg o chwyddiant uchel, sydd ar hyn o bryd yn 9.1 y cant—yr uchaf ers 40 mlynedd—ac efallai'n uwch yn awr na phan ysgrifennais i hyn. Mae hwn yn brofiad unigryw i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Bydd chwyddiant yn effeithio ar gyllidebau cyfalaf a refeniw. Mae chwyddiant oherwydd nwyddau wedi'i waethygu gan ddirywiad yng ngwerth y bunt. Mae'r rheini'n ddau fater nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drostynt o gwbl.
O ran gwariant cyfalaf, amcangyfrifwyd bod cost adeiladu yn codi rhwng 20 a 30 y cant o flwyddyn i flwyddyn, a gyda phrinder llafur a deunyddiau adeiladu, adroddwyd y bydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi a chost cynhyrchu uchel parhaus yn parhau i fod yn her i ddiwydiant adeiladu Prydain eleni, sy'n arwain at gynnydd mewn costau deunyddiau—brics, plastrfwrdd, sment, concrit ac ati. Yr hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei olygu yw naill ai y bydd angen benthyca ar adeg pan fo cyfraddau llog yn codi, neu bydd y rhaglen gyfalaf yn llithro. Pa raglenni sy'n cael eu rheoli fel bod gwariant yn symud i'r flwyddyn ariannol nesaf? Un o'r triciau bach braf y gall pobl ym myd cyllid ei wneud bob amser yw arafu pethau a'u symud i'r flwyddyn ariannol nesaf. Rydym ar gam cynnar iawn yn y flwyddyn ariannol a gallai pethau wella, ond nid wyf yn credu bod hynny'n debygol iawn.
O ran gwariant refeniw, lle mai cyflog gweithwyr y sector cyhoeddus yw'r prif gost, yna yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gwahanol gyrff adolygu cyflogau ac mewn trafodaethau uniongyrchol â'r undebau llafur mae dwy risg. Gallai gweithwyr y sector cyhoeddus gael toriadau cyflog sylweddol mewn termau real, gyda'r perygl y bydd lefelau cyflog yn y sector cyhoeddus yn disgyn y tu ôl i'r sector preifat, gan arwain at ymadawiad nifer fawr o staff medrus sydd â sgiliau gwerthfawr y gellir eu marchnata. Fel arall, gallai codiadau cyflog ddod i gyd-fynd â'r gyfradd chwyddiant, ond mae hynny'n achosi problemau cyllidebol i'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru ac, yn y pen draw, i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad mwyaf tebygol fydd rhywle yn y canol, gan arwain at y gwaethaf o'r ddau fyd.
Er ein bod wedi cael dwy gyllideb atodol yn draddodiadol, a gaf i ailadrodd fy ngalwad yn y Pwyllgor Cyllid am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref? Bydd hynny ddau fis neu dri mis yn gynharach nag a gawn ni fel arfer, ond credaf fod angen ail gyllideb atodol, oherwydd y sefyllfa ariannol yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Yna bydd gennych eich ail gyllideb atodol arferol fel trydedd gyllideb atodol ar yr adeg arferol.
Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am y sefyllfa ariannu yn ystod y flwyddyn a'i heffaith ar wariant. Gellir gwneud hyn naill ai drwy adroddiadau i'r Pwyllgor Cyllid neu ddatganiadau rheolaidd i'r Senedd. Fel un sydd o hyd yn gweld ochr orau pethau, efallai y bydd arian canlyniadol i Gymru o gynyddu gwariant yn Lloegr. Mae'r un problemau'n wynebu'r sector cyhoeddus yn Lloegr, sy'n dechrau o sefyllfa waeth nag yr ydym ni yng Nghymru, oherwydd dau beth—mantais fformiwla Barnett a rheolaeth dda ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru adrodd ar unrhyw incwm canlyniadol yn seiliedig ar wariant San Steffan. Rwy'n croesawu'n fawr y darn o ddeddfwriaeth IFRS 16, sy'n golygu bod prydlesi'n cael eu cynnwys mewn cyfrifon. Arferai prydlesi fod yn dric a ddefnyddiwyd gan gyfrifwyr er mwyn cadw gwariant cyfalaf oddi ar y gyllideb. Nid wyf yn credu ei fod yn syniad da iawn, ac rwy'n falch iawn o weld na ellir gwneud hynny mwyach, ac mae'r Llywodraeth wedi dweud na fydd hyn yn arwain at unrhyw newidiadau sylweddol yn yr hyn y mae'n rhaid inni ei wario, ond mae'n golygu y bydd yr holl wariant ar y llyfrau, heb fod elfennau ohono wedi ei guddio oddi ar y llyfrau.
Swyddi'r gwasanaeth sifil—os nad oedd ond cyn waethed ag y soniodd Peredur. Wrth gwrs, mae gennym ni ganran uwch o'n poblogaeth yng Nghymru a gyflogir yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gweision sifil a delir gan San Steffan, felly, os yw'r gostyngiad i'r graddau y maent yn sôn amdani, yna bydd gennym ni fwy na'n cyfran Barnett o golli swyddi, a fydd yn dinistrio etholaethau fel fy un i, lle cyflogir nifer sylweddol iawn o weision sifil.
Yn olaf, mae'r gyllideb atodol hon wedi'i gosod mewn cyfnod economaidd cythryblus ac, yn awr, gwleidyddol. Felly, a gaf i ailadrodd fy ngalwadau am ail gyllideb atodol yn nhymor yr hydref, sef bod y Senedd, naill ai'n uniongyrchol drwy ddatganiadau'r Llywodraeth i'r Cyfarfod Llawn neu'n anuniongyrchol drwy'r Pwyllgor Cyllid, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i'r sefyllfa ariannol, a bod y Senedd yn cael ei diweddaru, unwaith eto naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar y rhaglen gyfalaf ac unrhyw lithriad yn y rhaglen gyfalaf? Nid ceisio cystwyo'r Llywodraeth na beirniadu'r Llywodraeth yw hyn; mae fel ein bod i gyd yn ymwybodol o ble yn union mae'r problemau.
Er bod y rhan fwyaf o'r newidiadau a nodwyd yn y gyllideb atodol yn dechnegol eu natur, fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwariant diwygiedig mewn ymateb, yn bennaf, i'r rhyfel yn Wcráin. Mae'r gyllideb atodol hefyd yn nodi £20 miliwn ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhyfel. Mae'n ddatganiad beiddgar gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi dymuniadau'r Cymry ac yn mynegi dymuniad y genedl Gymreig ein bod yn sefyll mewn undod gyda'n gilydd â phobl Wcráin.
Erbyn 9 Gorffennaf, roedd bron i 600 o bobl wedi cyrraedd y DU o dan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ac, ar 30 Mehefin, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid, yr wyf yn Aelod ohono, y bydd y gyllideb yn werth £600 miliwn yn llai dros y cyfnod gwariant tair blynedd hwn nag yr oeddem yn ei ddeall ar adeg ei gytuno. Felly, gyda chwyddiant yn cyrraedd man lle na fu ers 40 mlynedd, a Banc Lloegr ar hyn o bryd yn disgwyl iddo gynyddu i fwy nag 11 y cant, bydd y pwysau presennol hyn yn sicr yn effeithio ar gost darparu gwasanaethau.
Yna, Dirprwy Lywydd, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth hon yn y DU a'i Thrysorlys yn ceisio cefnogi'r gwledydd datganoledig a'r fan yma yn llawer mwy systemig yn hyn o beth. Ac wrth i chwyddiant godi mor affwysol, mae angen iddynt wneud mwy wrth i bobl ddioddef a sicrhau cynnydd blynyddol mewn cyllidebau i helpu'r Llywodraeth hon i gyflawni ei hagenda ddemocrataidd. Felly, heddiw, Gweinidog, rydym yn dioddef, fel y gwyddoch chi, y cyfnod ariannol mwyaf eithriadol a digynsail. Mae'n niweidio ein heconomi, mae'n niweidio ein hetholwyr, yn gorfodi pobl i wresogi neu fwyta, ac mae'n niweidio bywydau, yn niweidio lles ac iechyd meddwl y DU. Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu gyd a hyn mewn golwg nawr er mwyn gwneud i ddatganoli weithio.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Fel y mae nifer o gyd-Aelodau wedi sylwi y prynhawn yma, mae'r gyllideb atodol hon yn mynd â ni'n ôl at y math o gyllidebau atodol yr arferem ni eu hadnabod cyn y pandemig, yn yr ystyr bod symudiadau bach iawn, dyraniadau bach, a'i fod yn dechnegol ei natur yn bennaf. Felly, nid yw llawer o'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma a llawer o'r hyn y byddaf i'n ymateb iddo yn ymwneud yn benodol â'r gyllideb atodol, ond credaf ei bod yn gyfle pwysig i gofnodi rhai o'r materion pwysig a thyngedfennol hyn. Mae nifer o gyd-Aelodau wedi cyfeirio at chwyddiant ac wedi gofyn sut mae hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ac amlinellodd Rhianon Passmore sut mae ein cyllideb bellach yn werth mwy na £600 miliwn yn llai nag a ragwelwyd gennym ni wrth lunio ein cynlluniau gwariant yn 2021. Rydym yn asesu'n gyson y tueddiadau macroeconomaidd ehangach a'u heffaith ar Gymru, ond, o gofio mai dim ond yn ddiweddar yr ydym ni wedi cytuno ar y cynlluniau gwariant aml-flwyddyn hyd at 2025, nid ydym yn cynnig adolygiad sylfaenol o'r cynlluniau hyn ar hyn o bryd, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wneud yw deall effaith chwyddiant ar y cynlluniau hynny'n well, a chredaf fod Mike Hedges yn llygad ei le yn yr ystyr y bydd yn anochel, Credaf y bydd yn arwain at rai penderfyniadau anodd ynghylch sut yr ydym yn proffilio rhai o'n buddsoddiadau cyfalaf, yn enwedig, ond gwn y bydd fy nghyd-Aelodau'n ystyried hynny wrth inni ddechrau ar ein cyfnod cyllideb nesaf, ac rydym yn gwneud llawer o waith ar hynny yn ystod yr haf.
Roedd rhai cwestiynau am gyflogau'r sector cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae'n fater hynod o bwysig. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod cyflogau'r sector cyhoeddus yn codi tua 1.5 y cant dros gyfnod o dri mis, 8 y cant yn y sector preifat, a dyna'r bwlch mwyaf yr ydym ni wedi'i weld o ran twf cyflog rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac, yn anochel, mae hynny'n mynd i gael effaith, meddyliwch, ar ddarparu gwasanaethau pan fydd pobl yn edrych i'r sector preifat am gyflogaeth wahanol bosibl. Felly, mae arnom angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy i'r gofod hwn ac ymrwymo i ddarparu codiad cyflog teilwng i bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus i gydnabod y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ac i gydnabod gwerth gwasanaethau cyhoeddus.
Mae sawl cyd-Aelod wedi cyfeirio at y cyllid sydd o fewn y gyllideb atodol ar gyfer Wcráin ac, fel y gofynnodd y pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i bwyso ar Lywodraeth y DU am eglurder ar flynyddoedd 2 a 3. Ar hyn o bryd, dim ond yr eglurder hwnnw sydd gennym ni o ran y flwyddyn gyntaf o gyllid i bobl sy'n dod o Wcráin, a dim byd o gwbl ynghylch blynyddoedd dau a thri. A fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd yn ganiataol, oherwydd bod pobl yn gymwys i gael cymorth drwy fudd-daliadau, eu bod yn gymwys i weithio, na fydd angen cymorth pellach arnynt, ac na fydd angen cymorth pellach ar lywodraeth leol i gefnogi'r unigolion hynny. Ond byddaf yn sicr yn parhau i ddwyn sylw Trysorlys y DU at y pwyntiau hyn—pwyntiau yr wyf eisoes wedi'u gwneud o ran Wcráin gyda'r CST mewn cyfarfod pedrochrog y Gweinidogion cyllid yn ddiweddar. Ac roeddwn hefyd yn pwyso ar y pwynt bod angen i'r cynllun teuluol gael tegwch â'r cynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd mae gwahaniaeth rhwng y ddau gynllun hynny a'r cyllid a'r gefnogaeth y mae'r aelwydydd sy'n darparu'n garedig eu cartrefi i deulu neu ddieithriaid eu derbyn. Felly, mae hwnnw'n faes arall sy'n peri pryder.
Cytunaf yn llwyr â'r cyd-Aelodau hynny sydd wedi amlinellu na ddylid gwario cyllidebau datganoledig ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Wrth gwrs, mae arnom ni eisiau cefnogi Wcráin, ond mater i Lywodraeth y DU yw gweithredu yn y meysydd hyn nad ydynt wedi'u datganoli. Ac rwyf yn poeni ei fod yn gosod cynsail, oherwydd mae'r sefyllfa'n mynd ymlaen yn hirach nag a ragwelwyd efallai, felly efallai mai Llywodraeth y DU a ddaw atom ni eto ar gyfer y cyllid pellach hwn. Rwy'n gallu gweld bod fy amser ar ben. Gallwn i siarad drwy'r dydd am y gyllideb atodol a'r craffu, ond nid wyf yn credu y gwnaf, a fe wnaf arbed fy nghyd-Aelodau rhag hynny. Ond ymatebaf i bob un o'r 12 o argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.