– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 27 Medi 2022.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg—cefnogi'r gweithlu addysg. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir nad oes modd cefnogi lles disgyblion a darparu addysg o ansawdd uchel os nad yw’r gweithlu yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i les y gweithlu fod yn ystyriaeth flaenllaw ym mhob peth rŷn ni'n ei wneud. Rhaid i leihau llwyth gwaith fod yn flaenoriaeth. Mae'r grŵp rheoli llwyth gwaith a lleihau biwrocratiaeth, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o'r gymuned addysg, wedi nodi ac ystyried materion sylweddol sy'n effeithio ar lwyth gwaith. Bydd y grŵp yn cwblhau ei argymhellion cyn bo hir, ond rwy’n disgwyl cynigion a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, fel cael gwared â’r term 'ffug arolwg', egluro’r disgwyliadau ynghylch cynllunio gwersi a sicrhau ansawdd, yn arbennig mewn ysgolion cynradd, a symleiddio’r holl gyfathrebu a chanllawiau yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn sefydlu proses newydd o fewn yr adran addysg, lle bydd yn rhaid i bob polisi a diwygiad ystyried yr effaith ar lwyth gwaith y gweithlu addysg.
Mae ansawdd system addysg yn dibynnu ar ansawdd ei hathrawon. Rwy'n hynod o falch o’n gweithlu ymroddedig, ac rwy'n gwybod eu bod nhw’n croesawu’r camau rydyn ni’n eu cymryd tuag at system o ddysgu proffesiynol drwy gydol gyrfa. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn cyhoeddi'r hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Bydd yn creu pecyn o ddysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg cyfan, fel y gall unrhyw un, ble bynnag maen nhw wedi'u lleoli yng Nghymru, elwa ohono. Bydd hwn yn hawl byw, yn cael ei fireinio wrth iddo ddatblygu. Bydd yn ei gwneud yn haws i ymarferwyr gael gafael ar raglenni dysgu proffesiynol ac yn gosod ein disgwyliadau clir ynglŷn â'r hyn y dylai pob gweithiwr proffesiynol yng Nghymru fod â hawl iddo. Os nad yw'r hawl hwnnw yn ei le ar hyn o bryd, byddwn ni’n gweithio'n gyflym gyda phartneriaid i wella’r hyn sy’n cael ei gynnig.
Rhaid i'n cynnig cenedlaethol fod yn gyson ac o'r ansawdd gorau. Gallaf gyhoeddi felly y byddwn yn cyflwyno proses ddilysu newydd er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgu proffesiynol cenedlaethol yn cael ei sicrhau o ran ansawdd a'i gydnabod. Mae'n bleser gennyf hefyd roi gwybod i chi fod gwefan draws-ranbarthol newydd wedi mynd yn fyw heddiw. Bydd y wefan yn darparu mynediad teg i wybodaeth ynghylch darpariaeth dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru, ynghyd â mynediad agored i gynnig dysgu proffesiynol Cwricwlwm i Gymru ar draws pob rhanbarth. Bydd y safle'n parhau i ddatblygu fel ei fod yn rhoi mynediad cyffredinol i gyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol pellach. Mae'r broses ddilysu newydd a'r wefan draws-ranbarthol newydd yn gamau pwysig tuag at sicrhau bod gennym ni gynnig cyson, wedi'i ddilysu, ag enw da sydd ar gael i bawb.
Gan gydnabod y baich ychwanegol ar staff addysg, yn enwedig yn dilyn y pandemig, ac i gefnogi'r hawl i ddysgu proffesiynol, rwy'n ymgynghori ar ymestyn y ddarpariaeth o ddiwrnod hyfforddiant ychwanegol mewn swydd ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb i'r ymgynghoriad.
Er mwyn cryfhau dysgu a chefnogaeth broffesiynol rydym wedi gwneud gwelliannau i sefydlu statudol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn. O'r tymor hwn, rydym yn darparu cyllid ar gyfer mentoriaid hyfforddedig i gefnogi pob athro sydd newydd gymhwyso trwy gydol eu cyfnod sefydlu. Mae rhaglen genedlaethol o ddysgu proffesiynol hefyd wedi'i datblygu, ni waeth pa un a yw athrawon newydd gymhwyso yn gweithio ar gontract neu ar sail gyflenwi.
O ran gweithredu'r cwricwlwm, roeddem yn darparu hyblygrwydd i ysgolion uwchradd i ddechrau naill ai yn 2022 neu 2023. Mae fy swyddogion yn parhau i rannu cynlluniau cynnar gydag undebau athrawon, gan fynd i'r afael â'u pryderon pan fo modd, ac mewn rhai achosion, addasu cynlluniau mewn ymateb i ystyriaethau ehangach ynglŷn â llwyth gwaith. Bydd ymchwil ar brofiadau cynnar gwireddu'r cwricwlwm yn dechrau'r tymor hwn, gan ein galluogi i ddeall yr hyn sy'n gweithio'n dda a pha wersi y gallwn ni eu dysgu ar gyfer y dyfodol i'n helpu i gefnogi ymarferwyr orau.
Yn yr un modd, rwyf wedi parhau i wrando ar bryderon a godwyd am y pwysau sy'n wynebu'r gweithlu i fodloni'r llinell amser ar gyfer symud plant i'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd. Y gwanwyn diwethaf, cyhoeddais flwyddyn ychwanegol i symud y grŵp cyntaf o blant. Gydag ymrwymiad cryf ledled Cymru i sicrhau canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn parhau i gefnogi'r sector gyda £21 miliwn bob blwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf i hybu cefnogaeth capasiti a gweithredu. Mae'n galonogol dysgu bod teuluoedd yn sôn yn gadarnhaol am eu profiadau hyd yn hyn.
Roedd datganoli cyflogau, telerau ac amodau athrawon yn cyflwyno cyfle i Gymru greu llwybr newydd i gefnogi ein gweithlu, a dyna beth yr ydym ni wedi'i wneud. Rydym ni wedi mabwysiadu dull partneriaeth gymdeithasol, gan weithio gyda'r proffesiwn addysgu i helpu darparu lwfansau a chyflogau uwch i athrawon newydd a phrofiadol o'u cymharu, er enghraifft, â Lloegr. Byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid ar adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon, gan ddarparu cyfleoedd pellach i ddatblygu system genedlaethol fwy penodol, a fydd nid yn unig yn gwella a mireinio'r system, ond yn ei gwneud yn decach ac yn fwy tryloyw.
Am gyfnod rhy hir nid yw athrawon cyflenwi wedi teimlo eu bod nhw'n cael digon o gefnogaeth. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn cymryd camau i fynd i'r afael â hynny. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn dechrau ar ddiwygiadau sylweddol a fydd yn edrych ar y system gyfan, ac yn sicrhau bod staff cyflenwi yn cael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae cynorthwywyr addysgu hefyd yn rhan annatod o'n gweithlu addysg, a dyna pam yr wyf eisoes wedi nodi nifer o gamau y byddwn yn eu cymryd i'w cefnogi, gan gynnwys mynd i'r afael â'u problemau penodol yn y gweithlu a dysgu proffesiynol.
Fel y dywedais, mae cefnogaeth llesiant yn hanfodol, Dirprwy Lywydd. Yn y gwanwyn, cyhoeddais fwy o gyllid i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y gweithlu addysg, gyda chyllid o £1.2 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, yn codi i £3 miliwn erbyn 2024-25. Rydym yn parhau i ariannu'r elusen Cymorth Addysg, sy'n darparu cefnogaeth bwrpasol, wedi'i deilwra ar gyfer iechyd meddwl a llesiant i'r gweithlu addysg. Mae cefnogaeth llesiant ehangach hefyd yn cael ei chwmpasu, gan weithio gyda rhanddeiliaid, cyflogwyr ac undebau.
Dirprwy Lywydd, rydym ni, y Llywodraeth, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r gweithlu addysg. Rydym wedi gwneud cynnydd cadarn dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n benderfynol o gadw'r momentwm hwn fel ein bod yn parhau i gefnogi ein gweithlu i'w helpu i godi safonau a dyheadau yn ein hystafelloedd dosbarth.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwy'n credu bod llawer ohono i'w groesawu. Ond rwy'n credu y byddai'n esgeulus ohonof i beidio â dweud, ar ddechrau eich datganiad, eich bod yn sôn bod yn rhaid i lesiant y gweithlu gael lle amlwg ym mhopeth a wnawn, ac eto, ers 2011, rydym ni wedi gweld 7,000 yn fwy o ddisgyblion yn dod i'r ystafell ddosbarth a 4,000 yn llai o athrawon i'w dysgu. A bod prinder athrawon hyd yn oed yn fwy amlwg yn y sector addysg Gymraeg. Ac er nad yw hynny'n sen o gwbl ar ymroddiad a gwaith caled y proffesiwn yr ydym ni wedi'i weld dros yr amser hwnnw, trwy fethu â recriwtio digon o athrawon yng Nghymru yn gyson, Llywodraeth Cymru sy'n parhau i siomi'r gweithlu hwnnw. Heb os nac oni bai y ffordd o adael i'r gweithlu deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u hysgogi yw recriwtio mwy o athrawon, lleihau'r baich o ran eu llwyth gwaith, a fyddai'n sicrhau bod athrawon yn aros yn y proffesiwn ac y gallwn ni ddenu'r gorau o bob cornel o'r wlad. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu beth mae eich adran yn ei wneud i helpu gyda pheth o'r pwysau hynny?
Ffordd arall y gallwn ni gael athrawon a chynorthwywyr addysgu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yw trwy eu cyflog. Felly, Gweinidog, allwch chi roi diweddariad ar yr adolygiadau hyn, yn enwedig yr un ynghylch tâl ac amodau cynorthwywyr addysgu? Fel cyn-gynorthwyydd dysgu fy hun, a gyda nifer o ffrindiau'n dal yn y proffesiwn, rwy'n gwybod o lygad y ffynnon fod nifer o gynorthwywyr addysgu yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'w dyletswyddau contract er lles eu disgyblion a'u hysgol, a byddai'n ddefnyddiol iddynt gael yr eglurder y maent yn ei haeddu o'r adolygiad hwnnw.
Mae'r newid tuag at system sy'n cael ei gyrru gan ddysgu proffesiynol gydol gyrfa yn un i'w groesawu, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr hawl genedlaethol newydd ar gyfer dysgu proffesiynol. Allech chi gadarnhau, pan ydych chi'n dweud y byddwch yn gweithio'n gyflym gyda phartneriaid i wella'r cynnig, na fydd pobl broffesiynol o dan anfantais yn dibynnu ar yr ysgol neu'r awdurdod lleol y byddant yn addysgu ynddo, ac y bydd hwn yn gynnig cyson o ddatblygiad proffesiynol ledled Cymru? Hefyd, sut fyddwn ni'n gwybod bod hyn yn cael effaith ar y proffesiwn? Sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur? A sut fydd athrawon, cynorthwywyr addysgu a disgyblion yn cael budd o hynny? Pa ganllawiau clir fyddwch chi'n eu nodi ar gyfer y grwpiau hynny, er mwyn sicrhau nad oes gennym ni loteri cod post o fynediad at y datblygiad proffesiynol hwnnw?
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod wedi cydnabod y baich ychwanegol ar staff addysgol, ac mae'n rhaid i iechyd meddwl a llesiant y gweithlu fod ar flaen ein meddyliau pan ystyriwn y gefnogaeth honno i'r proffesiynau. Felly, yn sgil yr ymgynghoriad ar ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i athrawon am y tair blynedd nesaf, a wnewch chi gadarnhau pryd y dylai'r proffesiwn ddisgwyl cyhoeddiad terfynol ar hynny? Ac o ystyried y beichiau ychwanegol a roddir ar staff addysgol y sonioch chi amdanyn nhw, a yw un diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol wir yn mynd i fod yn help sylweddol i alluogi athrawon a staff i ddal i fyny o ran y datblygiad proffesiynol angenrheidiol yr ydych chi'n sôn amdano?
O ran athrawon newydd gymhwyso, mae'r rhaglen genedlaethol unwaith eto i'w chroesawu. Ond tybed a oedd y Gweinidog wedi ystyried rhaglen gyfeillio bosib gyda staff mwy profiadol, i helpu eu cefnogi, eu helpu gyda'u datblygiad proffesiynol a chreu llwybrau clir ar gyfer eu gyrfa.
I grybwyll athrawon cyflenwi, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth nad yw athrawon cyflenwi yn cael eu cefnogi ddigon, ac rwy'n gwybod y byddai'r proffesiwn yn croesawu gweithredu cyflym ar hynny. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi syniad o sut olwg fydd ar y diwygiadau hynny, gan fod y diwydiant yn chwilio am rywfaint o sicrwydd i helpu i gadw pobl o fewn y proffesiwn? Yn olaf, o ran staff asiantaeth, maen nhw'n aml yn rhai o'r aelodau staff yr effeithir fwyaf arnyn nhw yng nghyswllt amodau gwaith.
Rwy'n credu bod angen i ni sefydlu llwybr clir ar gyfer cynorthwywyr addysgu i ddysgu a gwella datblygiad proffesiynol, fel y gallwn ni gael mwy o gynorthwywyr addysgu i ddod yn athrawon, oherwydd, yn aml, y cynorthwywyr addysgu hynny sy'n gwneud llawer o waith athro neu athrawes yn y lle cyntaf, heb fawr o wobr am hynny. Felly, rhywfaint o weithredu ar sicrhau ein bod yn denu pobl o bob cefndir i'r proffesiwn, er mwyn sicrhau nad athrawon yn unig, ond bod y disgyblion a'r sector yn gyffredinol yn cael budd o rai o'r newidiadau hynny. Felly, yn olaf, beth ydych chi'n ei wneud i symleiddio'r llwybr ar gyfer cynorthwywyr addysgu i ddod yn athrawon yn eu rhinwedd eu hunain? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau amrywiol yna. Bydd yn ymwybodol o'r cynnydd yn nifer yr athrawon sy'n ymgeisio i fod yn rhan o'r rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i hybu addysgu fel proffesiwn deniadol. Rydym ni'n treulio cryn dipyn o amser efallai yn y Siambr yn trafod yr heriau, ond, yn fy mhrofiad i, ac rwy'n siŵr yn ei brofiad o, bydd athrawon mewn ystafelloedd dosbarth yn dweud wrthych am y profiad gwych sydd ganddyn nhw fel athrawon, a'r llawenydd—. Bydd wedi cael profiad personol o hynny, o ystyried ei yrfa flaenorol. Ac rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod pobl hefyd yn cydnabod y cyfleoedd gwych y mae addysgu yn eu cynnig i lywio bywydau pobl ifanc a gwella eu cyfleoedd bywyd, sef yr ysgogiad allweddol, yn fy mhrofiad i, i bobl sy'n ymgymryd ag addysgu fel proffesiwn. Mae gennym ni hefyd becyn o gymhellion, y bydd yn ymwybodol ohonyn nhw, y mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn dwyn ffrwyth o ran recriwtio, yn enwedig i feysydd lle mae wedi bod yn heriol recriwtio i rai meysydd pwnc.
O ran y sylw am reoli llwyth gwaith, bu gennym ni broses ers tro sydd wedi ennyn diddordeb athrawon, undebau athrawon, y Llywodraeth a phartneriaid eraill a rhanddeiliaid yn y system addysg i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i ddileu'r elfennau hynny o lwyth gwaith a allai fod wedi cronni dros amser ac i edrych arnyn nhw mewn golau newydd gan ddweud, 'Ydyn nhw'n hollol angenrheidiol? Ydyn nhw'n ychwanegu'r gwerth sy'n cyfiawnhau maint yr ymrwymiad a'r oriau y bydd yn rhaid i athrawon a staff addysgu eu gweithio yn fras i ymateb i'r rheiny?' Felly, mae'r gwaith hwnnw—wyddoch chi, mae'n waith heriol. Nid yw'r pethau hyn wedi'u cynllunio ar hap, maen nhw wedi'u cynllunio'n gyffredinol am resymau da, ond efallai o bryd i'w gilydd mae angen i ni edrych o'r newydd ar hynny, bwrw golwg eto arnyn nhw. Felly, bu'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ers tro, ac rwy'n disgwyl cael cyngor yn fuan iawn am rai pethau penodol yr ydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw gyda'r proffesiwn i leihau llwyth gwaith. Felly, byddaf yn gallu cyflwyno datganiad, gobeithio, yn y dyfodol agos a fydd yn rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn mewn cysylltiad â hynny.
Gofynnodd sawl peth mewn perthynas â chynorthwywyr addysgu, ac fe hoffwn i adleisio ei werthfawrogiad o'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Mae ganddo brofiad personol o hynny, fel y dywed. Mae gennym ni lwybr ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon, ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Bydd yr hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd yn ymestyn i gynorthwywyr addysgu. Fel y bydd yn gwybod o'r datganiad a wnes i yn gynharach eleni, buom yn gwneud gwaith o ran safoni swyddogaethau a'r canllawiau mewn cysylltiad â defnyddio cynorthwywyr addysgu, cyngor i gyrff llywodraethu ac ati. Rwy'n argymell ei fod yn bwrw golwg dros y datganiad hwnnw, a fydd yn egluro iddo'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi ein cynorthwywyr addysgu.
O ran yr hawl genedlaethol broffesiynol, bydd wedi fy nghlywed yn dweud yn y datganiad mai holl ddiben honno yw ei bod yn hawl genedlaethol. Mae'r cliw yn yr enw. Felly, mae'r wefan sy'n cael ei lansio heddiw yn rhoi mynediad i athrawon mewn unrhyw ran o Gymru i'r cynnig dysgu proffesiynol o gonsortia mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, nid yw bellach wedi'i gyfyngu i'r consortiwm penodol lle mae'r athro neu'r athrawes unigol yn digwydd bod yn dysgu. Felly, mae'r wybodaeth honno bellach ar gael yn genedlaethol oherwydd y rheswm yr oedd yn holi yn ei gylch yn ei gwestiwn, a byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y dysgu proffesiynol, y cynnig. Rydym ni wrthi'n gyson yn gwerthuso mewn cysylltiad â dysgu proffesiynol gan fod cymaint yn digwydd yn y system ar hyn o bryd. Ond, gallaf ei sicrhau y bydd hynny'n rhan o'n gwaith yn hynny o beth.
Gofynnodd am eglurder ynglŷn â phryd y cai penderfyniad ei gyhoeddi ynghylch y diwrnod hyfforddiant mewn swydd. Mae ychwanegu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol yn gofyn am reoliadau, ac mae hynny'n gofyn am ymgynghori. Rydym ni wedi lleihau'r cyfnod ymgynghori sy'n gyson â'r hyn yr ydym ni'n teimlo yw'r amser priodol i roi cyfle i bobl ymateb. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Hydref, felly rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad yn eithaf buan ar ôl hynny, fel y bydd gan ysgolion yr eglurder y gwn i ein bod i gyd eisiau ei weld. Ond, mae'n rhan anhepgor o'r broses, fel y gwn i y bydd yn deall.
Gofynnodd am gyfeillio. Mae mentora, fel y byddwch wedi clywed o fy natganiad, yn rhan allweddol o'n cynnig ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo.
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Da oedd clywed yn glir ar ddechrau eich datganiad fod lles y gweithlu yn ystyriaeth flaenllaw ym mhopeth, a dwi'n ategu'r sylwadau hynny o ran y pwysigrwydd.
Fel amryw o Aelodau eraill, mynychais ddigwyddiad dros ginio yma y Senedd ar gyfer lansiad y canllaw byr, 'Mynd i’r afael â thlodi plant gyda'n gilydd', gan Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, a chlywed tystiolaeth hynod o bwerus ynglŷn ag effaith yr argyfwng costau byw, nid yn unig ar blant a phobl ifanc, ond hefyd y gweithlu. Mae’r straen ychwanegol ar athrawon o ran cefnogi dysgwyr a’u teuluoedd yn rhywbeth sy’n bwysig i ni ei hystyried, a hoffwn ofyn heddiw pa gamau pellach sydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r gweithlu addysg o ran hyn. Ategwyd effaith hyn ar staff gan arolwg yr undeb athrawon, a ganfu bod 58 y cant o athrawon wedi dweud eu bod wedi rhoi bwyd neu ddillad i’w disgyblion, bod chwech ymhob 10 wedi cael cymorth asiantaethau allanol i deuluoedd, a bod 35 y cant wedi cefnogi teulu disgybl i gael mynediad at fanc bwyd.
Clywsom gan y dysgwyr yn y digwyddiad heddiw hefyd yn glir sut y maent yn ystyried cost trafnidiaeth ysgol yn rhwystr i bobl fod yn cyrraedd yr ysgol. Gydag ysgolion yn cael eu mesur ar bresenoldeb, a phwysau ar athrawon i gyrraedd targedau o ran presenoldeb, yn sicr, mae hyn yn her. Rydych chi'n gwybod eu bod nhw'n cael eu mesur o ran presenoldeb hefyd efo disgyblion, ac mae hynny yn rhywbeth mae prifathrawon yn gweithio'n galed arno fo, oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod pwysigrwydd cael plant yn yr ysgol. Ond mae hynny'n her ychwanegol, pan fo'n rhaid argyhoeddi teuluoedd o bwysigrwydd hynny a'u cefnogi nhw i allu fforddio cyrraedd yr ysgol.
Ond rhaid hefyd cofio bod y gweithlu nid yn unig yn cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ond eu bod hefyd yn wynebu eu heriau eu hunain, gyda phris tanwydd, er enghraifft, wedi cynyddu, gan olygu bod teithio i'r gwaith yn ddrutach, heb sôn am gynnydd mewn costau eraill mae pawb ohonom yn eu hwynebu. Yn bellach, a chithau wedi sôn am bwysigrwydd cynorthwywyr addysgu, rhaid hefyd cydnabod eu bod nhw’n benodol yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Mae llu o brifathrawon wedi rhannu gyda mi eu bod wedi sefydlu banciau bwyd mewn ysgolion, nid yn unig i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd ond hefyd staff. Pa waith, felly, sy’n cael ei wneud gan y Llywodraeth i ddeall effaith yr argyfwng costau byw ar y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd?
Fel y crybwyllais wythnos diwethaf yn ystod y sesiwn gwestiynu, mae'r Alban wedi dechrau lleoli cynghorwyr arbenigol mewn ysgolion er mwyn darparu cymorth a sicrhau bod pawb yn gwybod sut mae derbyn y gefnogaeth ariannol sydd ar gael iddynt, boed hwy’n ddisgyblion neu'n staff neu'n rhan o'r gymuned ehangach. Ar y funud, mae'r bwrdwn hwn i'w weld yn disgyn ar athrawon a phrifathrawon. Felly, ydych chi wedi cael cyfle i ystyried yn bellach manteision ceisio efelychu cynllun fel yr Alban yma yng Nghymru? Oherwydd, fel rydych chi wedi sôn yn eich datganiad, mae yna fwrdwn ar athrawon rhwng y cwricwlwm newydd, anghenion dysgu ychwanegol ac ati. Mae'r argyfwng costau byw yn amlwg yn elfen arall o hynny, a byddwn i yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pellach hynny. Roeddwn i hefyd yn yr achlysur yn gynharach heddiw, ac yn gwrando ar dystiolaeth gan athro, sydd, fel mae'n digwydd, yn fy etholaeth i, yn sôn am ei phrofiad hi o fod mewn dosbarth ac yn darparu'r gefnogaeth ehangach hynny, a'r galw sydd arni i wneud hynny oherwydd y sefyllfa mae amryw o deuluoedd yn ei hwynebu. Mae hynny, yn sicr, yn rhywbeth sy'n digwydd mewn mannau eraill hefyd, yn amlwg.
O ran ein gwaith ni fel Llywodraeth, yr hyn rŷn ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n darparu cefnogaeth er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o hynny'n digwydd, efallai drwy gefnogaeth i deuluoedd sydd angen y fwyaf o gefnogaeth, er enghraifft, â chostau byw, o ran gwisg ysgol, o ran digwyddiadau yn yr ysgol, ond hefyd, fel bydd hi'n gwybod, y gwaith rŷn ni'n ei wneud ar y cyd gyda Phlaid Cymru o ran ymestyn prydau bwyd. Felly, mae amryw o bethau i wneud gyda'r nod o leihau'r pwysau ar y teuluoedd hynny sy'n ei chael hi anoddaf. Ond, mewn sefyllfa fel rŷn ni'n gweld ar hyn o bryd, â'r pwysau cymdeithasol ehangach ar deuluoedd, mae'r sefyllfa, fel oedd yn cael ei disgrifio i ni heddiw, yn un drist iawn. Ac, felly, yr hyn rŷn ni'n ei wneud yw sicrhau ein bod ni'n darparu'r gefnogaeth gallwn ni i'r teuluoedd sydd angen hynny fwyaf.
O ran targedau presenoldeb, does dim targedau statudol ar hyn o bryd, am y rheswm mae hi'n sôn amdano, o ran pwysau ar ysgolion. Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cefnogi ein hathrawon i sicrhau bod disgyblion yn dod nôl. Rydyn ni'n gwybod dros y cyfnod COVID bod hynny wedi bod yn heriol i amryw o ysgolion. Rydym wedi darparu cyllid penodol i sicrhau ein bod ni'n cefnogi ysgolion sydd angen y gefnogaeth honno i ailgydio cysylltiad â theuluoedd lle mae'r plant yn aros gartref. Felly, rŷn ni'n ceisio gwneud ein gorau i gefnogi athrawon i sicrhau bod hynny'n digwydd, yn hytrach, ar hyn o bryd, na gosod targedau statudol. Ond, wrth gwrs, mae'n iawn bod ysgolion yn edrych ar hynny. Mae'n nod o'r system ysgol bod ein plant ni yn yr ystafell ddosbarth, felly mae hynny'n waith teilwng mae'n hathrawon ni yn ei wneud.
Y pwynt olaf wnaeth hi sôn amdano oedd y cynorthwywyr. Rwyf wedi ateb rhywfaint o hynny, efallai, yn y cwestiwn gan Tom Giffard. Roeddwn i mewn cyfarfod ddoe, a chyfarfod bore yma hefyd, gyda'r pwyllgor partneriaeth gymdeithasol ynglŷn ag ysgolion, oedd yn cwrdd y bore yma, yn trafod pwysau ar staff ysgol hefyd yn sgil yr argyfwng costau byw. Felly, i'r teuluoedd, ond hefyd i'r athrawon a'r cynorthwywyr, mae pwysau penodol. Roedd hyn hefyd yn thema mewn cyfarfod roeddwn i ynddo fe ddoe, yr oedd yr Education Policy Institute wedi trefnu, i glywed beth oedd yn digwydd mewn rhannau eraill ym Mhrydain, ac mae'n ddarlun sydd yn digwydd mewn mannau eraill hefyd. Felly, mae'n flaenoriaeth i ni sicrhau ein bod ni'n gwella telerau staff cynorthwyol. Mae gyda ni rhywfaint o bwerau; mae eraill o'r pwerau gydag awdurdodau lleol. Mae lot o waith gyda ni i'w wneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwella sefyllfa cynorthwywyr. Rŷn ni wedi dechrau ar y gwaith yna; mae'n mynd yn iawn, ond mae lot mwy i'w wneud.
Ac yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, a'ch ymrwymiad personol i gefnogi'r gweithlu addysg yn llawn.
Rydym yn disgwyl cymaint gan athrawon a staff ysgolion; mae eu swyddi'n ymestyn i fod yn gymaint mwy nag addysgwyr ac rydym yn gwybod eu bod yn mynd uwchlaw a thu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw. Mae hyn yn aml yn ymestyn y tu allan i'w diwrnod gwaith, ac felly mae llawer yn parhau i gefnogi myfyrwyr a theuluoedd yn eu hamser eu hunain. Maen nhw'n helpu gyda digwyddiadau cymunedol a gofynnir iddyn nhw gefnogi'r heddlu; yn aml ar flaen y gad, gallant fod yn gocyn hitio ar gyfer llawer o benderfyniadau amhoblogaidd y tu allan i'w rheolaeth eu hunain, a gallant wir deimlo miniogrwydd barn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r gwaith y maen nhw'n ei ddarparu yn amhrisiadwy i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru ac fe ddylen nhw mewn gwirionedd gael y gefnogaeth orau bosibl. Rhai o'r rhai hynny sy'n darparu cefnogaeth hanfodol yw'r cynorthwywyr addysgu a'r cynorthwywyr cymorth dysgu, y bu i chi eu crybwyll yn gynharach. Rwy'n gwybod bod adolygiad cyfredol ar y gweill i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gymell mwy o bobl i ymuno ac aros yn y proffesiynau hyn, a byddwn yn annog y Gweinidog i wneud popeth o fewn ei allu i ddarparu'r cymorth hwnnw. Mae'r swyddogaethau hyn yn hanfodol ac mae angen ymroddiad a llawer iawn o amynedd ac ymrwymiad i'w cyflawni.
Maen nhw eto'n mynd uwchlaw a thu hwnt i'w cyfrifoldebau. Hoffwn ofyn pa waith sy'n cael ei wneud i gefnogi'r athrawon hynny a'r cynorthwywyr addysgu efallai yn nes ymlaen yn eu gyrfaoedd, neu'r rhai sy'n agosáu at ymddeol, a sut yr ydym yn bwriadu cefnogi'r rheini, efallai os ydyn nhw eisiau aros yn y gweithlu ychydig yn fwy hyblyg nag y maen nhw wedi'i wneud, a hefyd i ddefnyddio eu sgiliau a'u profiad anhygoel y gallan nhw eu trosglwyddo i eraill sy'n newydd i'r gwaith, oherwydd maen nhw'n bwysig iawn, iawn.
Yn olaf, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benderfynol iawn o flaenoriaethu taliadau bonws bancwyr yn hytrach nag ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus yn iawn. Beth yn fwy gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddangos i'n gweithlu addysg ein bod yn gwerthfawrogi eu sgiliau, eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb?
Rydym ni yn gwerthfawrogi eu sgiliau, eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb. Mae cyfraniad athrawon i lesiant ein pobl ifanc a llesiant ein cenedl yn aruthrol. Mae'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud i lunio bywydau ifanc a sicrhau bod pob un person ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, y cyfle gorau i gyflawni ei botensial, yn rhyfeddol. Manteisiaf ar unrhyw gyfle i dalu teyrnged iddyn nhw am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud.
O ran y gefnogaeth yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer cynorthwywyr addysgu, bu nifer o ffrydiau gwaith ar y gweill ers y datganiad a wnes i yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae rhai o'r ffrydiau gwaith hynny wedi'u harwain gan gynorthwywyr addysgu eu hunain. Er enghraifft, mewn cysylltiad â'r gwaith sydd ar y gweill i edrych ar safoni cwmpas swyddi, sy'n amrywiol iawn mewn gwahanol awdurdodau ar draws Cymru, mae cam cychwynnol hynny, sydd eisoes ar y gweill, yn cael ei arwain gan gynorthwywyr addysgu sy'n edrych ar fanylebau swyddi. Y cam nesaf wedyn fydd gweithio gyda phartneriaid llywodraeth leol.
Mae'r cyngor yr ydym wedi bod yn ei ddarparu mewn cysylltiad â defnyddio cynorthwywyr addysgu i wneud yn siŵr bod cysondeb yn y dull gweithredu hefyd yn cael ei arwain gan gynorthwywyr addysgu. Mae gan y cynnig dysgu proffesiynol y soniais amdano'n gynharach, sy'n cael ei lansio'r wythnos hon, elfen benodol ar gyfer cynorthwywyr addysgu a fydd yn eu galluogi i wybod beth yw eu hawl, lle gallant ddod o hyd iddo, ac i roi ymdeimlad o beth yw'r adnoddau wedi'u dilysu sydd ar gael iddyn nhw. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at gyrff llywodraethu yng Nghymru yn argymell penodi llywodraethwr sy'n gyfrifol am gynorthwywyr addysgu yn benodol, i sicrhau y clywir llais cynorthwywyr addysgu ar y corff llywodraethu pan wneir penderfyniadau yn yr ysgol.
Felly, ym mhob un o'r meysydd hynny, mae cynnydd sylweddol eisoes i'w weld. Fel y soniais yn fy ateb i Heledd Fychan, mae mwy i'w wneud yn amlwg, ond roeddwn i'n awyddus i wneud yn siŵr bod y ffordd yr awn ati yn un lle mae cynorthwywyr addysgu wrth galon y gwaith hwnnw, mewn partneriaeth â ni.
Gwnaeth yr Aelod rai sylwadau penodol ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud mewn cysylltiad â'r rhai yn tynnu at ddiwedd eu gyrfa neu a allai fod yn dymuno gweithio'n hyblyg. Roeddwn i'n falch o weld—fe'i cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, neu efallai'r wythnos gynt, ar hyn o bryd—ymchwil gymharol sy'n edrych ar ddal gafael ar bobl mewn gwahanol genhedloedd yn y DU, ac rwy'n ei argymell os oes ganddi ddiddordeb. Mewn dau faes penodol, fel mae'n digwydd, cyfnod diwedd gyrfa ac addysgu rhan amser, mewn gwirionedd mae Cymru'n gwneud yn dda iawn, iawn o ran cadw pobl, ymarferwyr yn y rhan honno o'u gyrfa. Felly, rwy'n falch o hynny. Mae'n amlwg bod mwy y gallwn ni ei wneud, ond mae'n dangos, gydag ymdrech a chyda phwyslais, y gallwn ni sicrhau y caiff athrawon y cyfleoedd hynny i wneud yn siŵr eu bod yn gallu addysgu mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw ac nad ydym ni'n colli, fel roedd hi'n dweud, yr arbenigedd, y mewnwelediad a'r profiad y gall athrawon eu cynnig.
Diolch i'r Gweinidog.