– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 5 Hydref 2022.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Ail Gartrefi'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad.
Fel y gŵyr pob un ohonom, mae’r materion hyn yn ddadleuol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Er nad yw pob ardal o’r wlad yn cael ei heffeithio, mae gan lawer o’n hardaloedd arfordirol a gwledig niferoedd uchel o ail gartrefi. Ynghyd â'r ffaith bod eiddo a arferai fod yn eiddo preswyl yn newid i fod yn llety gwyliau tymor byr a phrinder cartrefi fforddiadwy yn gyffredinol, mae llawer o gymunedau’n teimlo bod eu cynaliadwyedd dan fygythiad.
Nid yw ail gartrefi, wrth gwrs, yn ffenomen newydd yng Nghymru, ond wrth i brisiau tai a chostau byw gynyddu, ynghyd â bod mwy o bobl wedi dod ar wyliau i Gymru yn ystod y pandemig, mae pobl sydd wedi eu magu neu wedi byw mewn cymunedau yr effeithir arnynt yn aml yn methu prynu neu rentu cartrefi yn yr ardaloedd hynny. Mae rhai ardaloedd wedi gweld cymaint o ostyngiad yn nifer y trigolion parhaol fel nad yw gwasanaethau cyhoeddus bellach yn hyfyw, gan gynnwys cau ysgolion. Mae natur dymhorol yr economi ymwelwyr hefyd wedi troi rhai cymunedau'n drefi marw dros y gaeaf, gyda llawer o amwynderau'n cau yn ystod y misoedd tawelach hynny. Wrth gwrs, mae rhannau eraill o’r DU wedi cael problemau tebyg oherwydd niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig Cernyw ac ardal y Llynnoedd. Yng Nghymru, rhaid inni hefyd ystyried yr effaith ar y Gymraeg, yn enwedig gan fod llawer o’r cymunedau yr effeithir arnynt wedi’u lleoli yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.
Gan fod ail gartrefi'n effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru, gwnaethom benderfynu mai ar hyn y byddai ein hymchwiliad cyntaf fel pwyllgor yn canolbwyntio. Un o brif amcanion ein gwaith oedd archwilio’r argymhellion a wnaed gan Dr Simon Brooks yn ei adroddiad, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r cynigion hynny. Gwnaethom 15 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rydym yn falch fod 14 wedi’u derbyn yn llawn ac un wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.
Gwyddom fod mynd i’r afael â mater ail gartrefi'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bod llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo. Yn ystod ein hymchwiliad, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cynllun peilot graddol yn cael ei gynnal yn Nwyfor, Gwynedd, er mwyn profi nifer o ymyriadau. Rydym yn croesawu’r cynllun peilot hwnnw, ac yn credu y bydd gwerthusiad cywir o’r mesurau sy’n cael eu treialu yno yn allweddol er mwyn deall a ddylid cyflwyno’r mesurau hyn mewn rhannau eraill o’n gwlad. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd bob chwe mis ar y cynllun peilot a’i effeithiolrwydd. Rydym hefyd yn croesawu cadarnhad y Gweinidog y bydd y cynllun peilot yn destun gwerthusiad annibynnol cadarn.
Credwn ei bod yn bwysig gallu gwahaniaethu rhwng llety gwyliau ac ail gartrefi at ddefnydd personol. Rydym felly’n croesawu diffiniadau dosbarthiadau defnydd newydd Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn credu bod y rhain yn rhoi cyfle am fwy o gysondeb. Ynghyd â chynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer llety gwyliau, gall hyn sicrhau bod gwahaniaeth clir rhwng mathau gwahanol o eiddo.
Clywsom lawer o dystiolaeth am fanteision economaidd twristiaeth i Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol lle mae llawer o bobl yn dibynnu ar y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch am eu bywoliaeth. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r buddion economaidd yn cael eu gorbwyso gan effeithiau negyddol ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae’r economi ymwelwyr yn hanfodol i Gymru. Mae'n bwysig felly fod ymyriadau sydd â'r nod o ddiogelu cymunedau'n cael eu targedu'n gywir i atal canlyniadau anfwriadol.
Argymhellwyd y dylai'r gwerthusiad o'r ymyriadau yn Nwyfor gynnwys asesu'r effaith ar dwristiaeth. Mewn ymateb, mae’r Gweinidog wedi dweud, lle bo’n ymarferol, y bydd y gwerthusiad annibynnol yn cynnwys yr effaith honno, ac y bydd rhagor o waith archwiliol yn cael ei wneud i bennu sut y gwneir hyn. Hoffwn ailbwysleisio pwysigrwydd asesu’r effaith ar yr economi ymwelwyr i sicrhau bod y nifer o swyddi sy’n ddibynnol arni yn cael eu diogelu.
Roedd llawer o’r dystiolaeth a gawsom yn ystyried ail gartrefi o fewn trafodaeth ehangach am argaeledd tai fforddiadwy. Mae honno’n broblem ledled Cymru, ond mae gan ardaloedd arfordirol a gwledig broblem ychwanegol ail gartrefi i ymgodymu â hi. Mae’n amlwg fod diffyg tai fforddiadwy yn broblem sy’n gwneud i rai pobl, yn enwedig pobl ifanc, symud o’r cymunedau lle cawsant eu magu, a byw ymhellach oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth. Gyda llai o bobl o oedran gweithio'n byw yn yr ardaloedd hyn, rydym yn pryderu bod gweithlu sy’n lleihau yn effeithio ar allu cyflogwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i lenwi rolau hanfodol. Mae angen pobl ar gymunedau i oroesi. Os bydd niferoedd uchel o gartrefi mewn trefi a phentrefi yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn, mae'n anochel y bydd diffyg cwsmeriaid yn gorfodi busnesau i gau yn ystod y cyfnodau tawelach gan adael gweddill y trigolion heb yr amwynderau hynny.
Credwn fod cynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn allweddol i atal diflaniad cymunedau cynaliadwy, byw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu ledled Cymru, ond nid adeiladu cartrefi newydd yw’r unig ateb. Ceir dros 22,000 eiddo gwag ar draws ein gwlad. Bydd dod â’r rheini'n ôl i ddefnydd yn gwneud cyfraniad sylweddol, felly hoffem weld mwy o gynnydd. Cyflwynodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd adroddiad ar y mater penodol hwn ym mis Hydref 2019, ac mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion hynny erbyn mis Rhagfyr eleni.
Roedd effaith ail gartrefi ar y Gymraeg yn un o ystyriaethau allweddol eraill ein gwaith. Rydym yn bryderus ynghylch y dystiolaeth fod niferoedd uchel o ail gartrefi, yn enwedig yng nghadarnleoedd y Gymraeg, yn cael effaith andwyol ar nifer y siaradwyr Cymraeg a hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny. O'r herwydd, rydym yn croesawu sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru, a’i nod o wneud argymhellion i gryfhau polisi mewn perthynas â chynaliadwyedd ieithyddol cymunedau. Rydym yn falch y bydd y comisiwn yn dadansoddi canlyniadau cyfrifiad 2021 a data arall, ac y bydd y gwaith yn cynnwys dadansoddi'r gydberthynas rhwng nifer ail gartrefi mewn cymunedau a nifer y siaradwyr Cymraeg.
Lywydd, mae hwn yn fater pwysig iawn i ni, ac yn enwedig i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac arfordirol. Byddwn yn dychwelyd at y mater pwysig hwn yn ystod tymor y chweched Senedd hon i weld sut y mae ymyriadau wedi datblygu. Diolch yn fawr.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy natganiad o fuddiant mewn perthynas â pherchnogaeth eiddo.
Nawr, o'r cychwyn, gwn fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi dechrau drwy fod yn awyddus i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy yn ein cymunedau, ac mae'n deg dweud bod y grŵp hwn yn cefnogi'r ymdrech honno. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn bryderus iawn, ac nid wyf ar fy mhen fy hun; mae pobl yn fy nghymuned i a chymunedau eraill ledled Cymru wedi bod yn gohebu â mi, ac maent bellach wedi dweud bod y tueddiad yn mynd i'r cyfeiriad anghywir, gan fod pethau'n teimlo bellach fel, 'Gadewch inni fynd ar ôl pobl sydd ag ail gartrefi; gadewch inni fynd ar ôl pobl sydd â llety gwyliau.'
Wrth ddarllen yr adroddiad hwn, dylai'r larymau fod yn canu i bob un ohonom sy’n dibynnu ar dwristiaeth, pan fo argymhelliad 4 yn dweud,
'Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu rhagor o waith ymchwil ar yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar gynaliadwyedd cymunedau.'
Yn ddiddorol, awgrymodd Grŵp Perchnogion Cartrefi Cymru fod perchnogion ail gartrefi'n cyfrannu £235 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae Cyngor Tref y Bermo'n feirniadol o adroddiad Dr Brooks, gan ddweud,
'nad oes dim data yn yr adroddiad ar effaith economaidd llety gwyliau.'
Tynnodd Cymdeithas Llety Tymor Byr y DU sylw at gyfraniad economaidd llety gwyliau tymor byr, a chyfeiriodd at astudiaeth gan Oxford Economics ar ran Airbnb, a oedd yn amcangyfrif bod gwesteion sy’n defnyddio’r platfform wedi cyfrannu cyfanswm o £107 miliwn i economi Cymru yn 2019.
Ond gadewch imi ddweud yma fod gwahaniaeth mawr rhwng ail gartrefi, eiddo Airbnb a llety gwyliau dilys. Fel y dywed adroddiad y pwyllgor,
'Sylweddolwn nad oes digon o ddata ar y manteision a ddaw yn sgil twristiaeth o gymharu â’r data sydd am yr effaith andwyol ar y cymunedau yr effeithir arnynt'.
Mae twristiaeth yn un—. Ni ddylai fod rhaid imi ddweud hyn wrthych, ond mae twristiaeth yn un o esgyrn cefn economaidd pwysicaf Cymru. Mewn rhai etholaethau, dyma'r unig ddiwydiant. Ymddengys bod Plaid Cymru a chithau wedi lansio ymosodiad polisi a deddfwriaethol mawr ar y sector mewn ymdrech i geisio cyfiawnhau pam nad ydym wedi gweld y tai'n cael eu hadeiladu dros y 23 mlynedd diwethaf.
Rydych wedi derbyn argymhelliad 1, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y mae’n diffinio ail gartrefi, ac wedi cyfeirio at gyflwyno tri dosbarth cynllunio newydd: C3, prif breswylfa; C5, cartref eilaidd; a C6, llety gwyliau tymor byr. Fodd bynnag, ceir bwlch a allai danseilio hyn. Gallai unrhyw un sy'n byw ym Manceinion ar hyn o bryd ddatgan yn gyfreithlon mai ei dŷ yn Aberconwy yw ei brif gartref, ac mai ei dŷ ym Manceinion yw ei ail gartref. Felly, bingo—ni fydd hyn yn effeithio arno o gwbl. Felly golyga hynny bod ffyrdd o osgoi hyn.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi derbyn argymhellion 2 a 14 y byddwn bellach yn cael diweddariadau bob chwe mis, Weinidog. Credaf mai’r hyn y mae trigolion yn Nwyfor a chymunedau eraill mewn argyfwng am ei weld yw nifer dda o gartrefi fforddiadwy ar gael i’w prynu a’u rhentu. A yw'r cynllun peilot hwn yn cyflawni hynny? Nac ydy.
Mae’r pwyllgor yn llygad ei le gydag argymhelliad 9, ac rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith, y dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl, gan sicrhau bod y tir yr ydych yn berchen arno, tir cyhoeddus—. Ac mae gennych lawer o dir o fewn y byrddau iechyd, yr awdurdodau lleol—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—beth bynnag, gallwch ymateb. Pam nad ydynt yn cael eu cynnig fel mannau addas i'w datblygu, nid oes gennyf unrhyw syniad.
Gwynedd—gadewch inni ystyried Gwynedd. Pam nad ydym yn sicrhau bod tir ar gyrion cymunedau sydd mewn argyfwng fel Nefyn yn cael ei ddyrannu yn y CDLl ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy? Pam nad ydym yn caniatáu i’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cymdeithasau tai da, gweithredol, fel y bydd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, yn gwybod—? Cartrefi Conwy yn Aberconwy: darparwyr tai gwych, ac maent am allu adeiladu tai newydd i bobl. O ganlyniad, nid yn unig y byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl leol, ond byddai gennym fecanwaith cryf ar waith sy’n golygu y gallem ddal ein gafael ar ein cenedlaethau iau, gan fod diffyg tai yn un o'r rhesymau pam fod pobl yn symud o'r ardal.
Darllenais, gyda pheth anobaith, eich ymateb i argymhelliad 10. Wrth gwrs, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda, nid yn erbyn, landlordiaid sector preifat ac asiantaethau gosod tai, ond yn hytrach na chyfeirio at gynllun lesio Cymru fel arwydd o gydweithredu, mae arnom angen bellach, Weinidog—. Mae'r Llywodraeth hon wedi creu problem i ni o ran yr hyn sy’n digwydd gydag ail gartrefi, a’r bygythiad o ardoll treth gyngor o 300 y cant.
Yn y mis diwethaf yn unig, rwyf wedi cael gwybod bod 51 gorchymyn troi allan adran 1 wedi'u cyflwyno yn fy etholaeth i. Nawr, mae hon yn etholaeth lle mae gwariant eisoes ar lety dros dro, felly mae 51 o deuluoedd yn mynd i gael eu dadleoli yn awr. Felly, mae gwir angen inni benderfynu beth sy'n cyfrif fel ail gartref, cydnabod y gwerth a ddaw yn eu sgil, a chofio nad oes a wnelo hyn â phobl sy'n dod i mewn o Loegr yn unig—gwn am bobl sydd ag eiddo ym Mhenfro ac eiddo arall draw yma. Pan ddônt i fy etholaeth i, maent yn defnyddio ein siopau trin gwallt, maent yn defnyddio ein garddwyr—
Mae angen ichi gwblhau eich sylwadau yn awr. Rwyf wedi bod yn hael iawn.
Iawn, diolch. Mae’n fater mawr iawn. Mae pob un ohonom wedi dweud, Weinidog, fod angen dull amlweddog o weithredu. Fodd bynnag, mae targedu perchnogion ail gartrefi yn gam yn ôl. Bydd yr eiddo'n mynd yn ôl ar y farchnad gydag Airbnb, pobl sy'n gallu eu fforddio'n haws, a byddant yn Airbnb yn y pen draw. Diolch.
Dwi innau’n datgan buddiant, yr hyn sydd ar y record gyhoeddus, hefyd.
Gyfeillion, dwi’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r ymgynghoriad, a diolch i’r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod yr ymgynghoriad yma.
Mae o’n un amserol iawn, ac mae o’n dangos consensws trawsbleidiol. Mae yna gydnabyddiaeth yma fod ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn byw yng nghanol argyfwng tai, a bod ail dai yn cyfrannu yn sylweddol at hynny. Mae yna gydnabyddiaeth hefyd yma o’r angen i gymryd camau i fynd i’r afael â hyn, ac o ba gamau y dylid eu cymryd.
A dwi’n gweld yr argyfwng hynny yn ddyddiol yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, o Aberdyfi i Abersoch i Feddgelert ac yna i Landderfel. Mae pobl da wedi bod yn ymgyrchu a thynnu sylw at y mater yma ers hanner canrif, a rŵan, o’r diwedd, mae’r mater yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol ac mae’r Llywodraeth, drwy gydweithio efo ni ym Mhlaid Cymru, yn cyflwyno datrysiadau.
Y gwir trist, wrth gwrs, ydy bod nifer o’n cymunedau wedi colli rhan fawr o’u cymeriad, ac yn gymunedau dienaid a gwag, efo gwasanaethau cyhoeddus yn crebachu a phobl yn ymadael. Ond, mae yna obaith: edrychwch ar bentref bach Rhyd ger Llanfrothen, a oedd unwaith yn bentref a oedd yn llawn tai haf ond sydd bellach wedi adfywio. Rhaid i ni beidio, felly, â rhoi'r gorau i obaith.
Dwi’n meddwl bod profiad y pwyllgor yn hyn o beth yn eithaf unigryw i'r Senedd yma, oherwydd mi ddaru ni gychwyn ar y gwaith cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi'r gwahanol ymgynghoriadau ac yna'r newidiadau a oedd yn yr arfaeth. Mae’r gweithredu yma gan y Llywodraeth fel rhan o’r cytundeb cydweithredu efo ni ym Mhlaid Cymru i’w groesawu'n fawr. Roedd o'n ddiddorol dilyn trywydd y cynigion yna gan y Llywodraeth wrth i ni wneud yr ymgynghoriad.
Ystyriwch y camau sydd bellach ar waith: cynyddu treth trafodion tir; addasu cynllunio er mwyn cyflwyno newid defnydd ar gyfer y tai yma, a fydd yn golygu y gall awdurdodau lleol reoli faint o ail dai sydd yn ein cymunedau; system drwyddedu ar gyfer lletyau gwyliau tymor byr—hyn oll a mwy yn bethau yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn galw amdanynt ac yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd. Bellach maen nhw'n cael eu gweithredu. Diolch byth am hynny.
Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor yn sôn am y gwaith sydd yn mynd ymlaen yn Nwyfor ac yn ardal Gwynedd. Ond, hoffwn wybod gan y Gweinidog pa gynlluniau sydd ar gael i sicrhau bod y cynlluniau yma yn parhau i’r hirdymor yn wyneb yr heriau economaidd sydd yn wynebu awdurdodau lleol, a pha gamau sydd yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod ardaloedd eraill, megis Ceredigion, Penfro, Môn ac Abertawe, yn medru gweithredu'r camau yma.
Mae’r drafodaeth hon heddiw yn amserol yng nghyd-destun adroddiad Sefydliad Bevan a gafodd ei ryddhau'r wythnos diwethaf yn edrych ar effaith Airbnb ar ein cymunedau. Fe wyddoch chi fy mod i wedi bod yn codi’r mater yma ers tro ac yn dadlau mai dyma sydd yn tanseilio'r sector tai hunanddarpar. Mae’r dystiolaeth gan Sefydliad Bevan yn dyst i hynny, ac yn frawychus. Ar ddiwedd y gwanwyn eleni, roedd 22,000 o dai yng Nghymru wedi eu cofrestru ar y platfform hwnnw, efo bron i 60 y cant o'r tai a oedd ar blatfform Airbnb yn addas i bobl fyw ynddyn nhw.
Fel canran o’r stoc dai preifat, maen nhw’n llawer iawn fwy, efo tai Airbnb yn gyfwerth i draean o stoc dai preifat Gwynedd, a phumed o stoc dai preifat Ynys Môn a Cheredigion. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar y sector rhentu yn yr ardaloedd yma, efo gwerth rhent yn cael ei wthio i fyny, a llai o dai i'w rhentu ar y farchnad. Yn wir, mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n cymryd chwe wythnos yn unig i berchennog wneud yr un faint o bres ar dŷ pedair llofft trwy Airbnb ag y gallai wneud trwy osod y tŷ allan i’w rhentu yn lleol ar raddfa lwfans tai lleol. Mae’r system wedi ei osod i fyny, felly, i sicrhau bod y gwerth ariannol mwyaf yn cael ei echdynnu ar draul rhoi to parhaol uwch ben pobl.
Mae hyn hefyd yn ein hatgoffa ni o'r hyn mae fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth wedi'i godi yma sawl gwaith, sef achos stad Bodorgan, sydd yn mynd drwy'r broses o droi pobl allan o'u tai efo'r bwriad o droi'r tai hynny'n dai gwyliau, gan ychwanegu at yr argyfwng digartrefedd. Ac mae Rhun, wrth gwrs, fel rydyn ni'n gwybod, wedi gwneud pob dim o fewn ei allu i helpu'r bobl hynny, ond mae'n dangos fod yna angen am weithredu.
Mae argymhelliad 11 a 12, felly, o’r adroddiad, yn bwysig, sef effaith hyn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Felly, er mai'r Gweinidog amgylchedd sydd yn ymateb, gan fod cymunedau Cymraeg eu hiaith yn dod o dan gylch gorchwyl y Gweinidog addysg, tybed a fedrai'r Gweinidog amgylchedd gadarnhau os bydd y comisiwn ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn edrych ar yr heriau sydd yn wynebu rhentwyr tai yn ogystal â phrynwyr tai yn y cymunedau hynny. Diolch yn fawr iawn.
Mae yna brinder enbyd o eiddo i'w brynu a'i rentu. Dylai fod gan bawb hawl i un. Dylai pawb gael hawl i gartref, ac eto mae 25,000 eiddo yng Nghymru yn wag. Roedd realiti effaith ail gartrefi'n glir i mi wrth ymweld â phentref yng ngogledd orllewin Cymru, a gweld nifer y tai gwag gyda dwy a thair ystafell wely a fyddai wedi gwneud cartrefi cyntaf da iawn. Dywedwyd wrthyf fod rhai yn gartrefi gwyliau, ond roedd rhai—wel, cryn dipyn ohonynt—wedi'u gadael mewn cyflwr gwael. Roedd un yn fyngalo hynod ddefnyddiol, sy'n brin yn y gymuned, ac roedd y gymuned wedi ceisio ei brynu gan breswylydd nad oedd yn byw yn y pentref, ond dywedodd ei fod yn ei gadw fel buddsoddiad ar gyfer ymddeol, er ei fod wedi cyrraedd oed ymddeol.
Cyn hynny, roeddwn yn ymwybodol o'r term 'bancio tir', ond yr hyn a welais oedd 'bancio eiddo' ar raddfa fawr. Mae'r ffaith bod cymaint o eiddo gwag yn cael ei wastraffu pan fo cymaint o bobl angen to uwch eu pen, lle i'w alw'n gartref, yn wirioneddol frawychus. Mae hawl i gartref, addysg a gofal iechyd gweddus yn sylfaenol i lesiant ac mae pob person ei angen ac yn ei haeddu. Mae'r atebion, fodd bynnag, yn gymhleth ac yn amrywio yn dibynnu ar ardaloedd, ond nid oes un ateb sy'n addas i bob sefyllfa. Ac mae'r diffiniad o ail gartref yn bwysig. Mae gwahaniaeth rhwng rhywun yn gosod eiddo fel llety gwyliau, a rhywun sydd ag ail gartref ac yn ymweld yn achlysurol yn unig. Mae'n rhaid cydbwyso hyn â'r manteision a ddaw yn sgil twristiaeth, fel y gwelsom.
Ond rhaid canolbwyntio hefyd ar yr argyfwng costau byw a'r argyfwng tai a fydd yn effeithio fwyaf ar y rhai agored i niwed. Dywedodd Sefydliad Bevan nad yw'r lwfans tai lleol ond yn gymwys ar gyfer 4 y cant o eiddo yng Nghymru. Cafodd ei rewi yn 2016 ac eto yn 2020. Mae'n gywilyddus fod Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny, a'i bod am dorri cyllid gwasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau ymhellach. Mae rhai landlordiaid yn newid i ddarparu llety Airbnb, oherwydd, yn ôl adroddiad Sefydliad Bevan, mewn rhai ardaloedd, gallant ennill mwy mewn 10 wythnos nag y byddent yn ei gael o rent amser llawn drwy'r lwfans tai lleol. Ac mae hwnnw'n fater pwysig sy'n ein hwynebu—y syniad fod cartrefi'n ased i'r cyfoethog wneud elw ohonynt yn hytrach na rhywbeth y dylai pawb fod â hawl iddynt. Mae yna lawer o gamau y mae angen eu cymryd i wrthdroi'r difrod a wnaed ers Thatcher.
Rhan o hyn yn unig yw mynd i'r afael â nifer yr ail gartrefi. Bydd angen rheoli rhenti, mwy o dai cymdeithasol, ac adeiladu tai cyngor hefyd—i ddychwelyd at hynny eto—er mwyn diogelu tenantiaid, a chynyddu'r cyflenwad tai ar yr un pryd. Mae cyllid sector cyhoeddus Llywodraeth y DU dros y 12 mlynedd diwethaf yn gwneud hyn yn llawer anos. Mae swyddogion yn cael eu gorweithio a'u llethu, sy'n golygu bod cynllunio'n cymryd mwy o amser. Mae hyn yn ymwneud eto â chyllido gwasanaethau cyhoeddus, i sicrhau bod y rhai sy'n gweithio mewn cynghorau sy'n gorfod ymdrin â cheisiadau cynllunio yn gallu bwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ein hwynebu, ac rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud ei gorau glas i fynd i'r afael â hwy. Diolch.
Yn gyntaf, a gaf fi gofnodi fy niolch i John Griffiths am ei gadeiryddiaeth wrth gynhyrchu adroddiad y pwyllgor ar ail gartrefi heddiw, a hefyd i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor, a'r Gweinidog, y clercod a thîm cefnogi'r pwyllgor sydd wedi dod draw a rhoi tystiolaeth a'n cefnogi fel pwyllgor drwy'r broses hon? Wrth gwrs, mae ail gartrefi wedi bod yn fater dadleuol ers amser maith yng Nghymru, ers nifer o flynyddoedd, a dyna pam y credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod wedi mynd i'r afael â hyn yn gynnar iawn ar ôl inni ffurfio fel pwyllgor. Fel y gwyddom, mae llawer o waith gorau'r Senedd yn dod o bwyllgorau ac o ganlyniad i hyn, roedd yn galonogol iawn gweld eich bod wedi derbyn 14 o'r 15 argymhelliad, Weinidog, ac wedi derbyn un mewn egwyddor hefyd. Felly, diolch am eich rhan chi yn y broses hon hefyd.
Yn fy nghyfraniad i heddiw, hoffwn gydnabod ei bod yn sicr yn her o ystyried cyfran yr ail gartrefi mewn rhai cymunedau yng Nghymru. Roedd hyn yn glir yn y gwaith a wnaethom fel pwyllgor. Ond roedd hefyd yn glir nad yw'r her wedi'i rhannu'n gyfartal ledled Cymru o bell ffordd. Yr enghraifft a'm trawodd yn ystod ein gwaith fel pwyllgor oedd bod oddeutu 50 y cant o'r eiddo yn Abersoch naill ai'n ail gartrefi neu'n dai gwyliau, ond ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Nghaernarfon, dim ond tua 0.5 y cant o'r eiddo yno a oedd yn disgyn i'r categori hwnnw. Felly, mae'r gwahaniaethau ar draws cymunedau'n enfawr mewn mannau nad ydynt mor bell â hynny oddi wrth ei gilydd.
Yn ystod gwaith ein pwyllgor, gwelsom fod gan rai o'n hardaloedd arfordirol a gwledig rai o'r niferoedd uchaf o ail gartrefi, ac o'u cyfuno ag eiddo a arferai fod yn eiddo preswyl a oedd wedi newid yn llety gwyliau tymor byr a rhai o'r cwestiynau ynghylch fforddiadwyedd cartrefi mewn cymunedau, roedd y cymunedau hynny'n sicr yn teimlo bygythiad i'w cynaliadwyedd. Roedd data mis Awst y llynedd yn dangos mai Gwynedd oedd â'r nifer uchaf o ail gartrefi—tua 9.5 y cant o'r eiddo yno. Roedd Ynys Môn ar 8.1 y cant a Cheredigion ar 5.2 y cant, gan ddangos yn bendant fod y cymunedau gwledig ac arfordirol hynny'n gorfod wynebu'r her yn fwy nag unrhyw ardaloedd eraill ledled y wlad.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr ohebiaeth gan drigolion a phartïon sydd â diddordeb yn y mater yn eu cymunedau. Rwy'n siŵr mai dyma'n rhannol a'n harweiniodd i wneud argymhelliad 7 yn ein hadroddiad, sy'n dweud
'Dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y bydd strategaethau lleol a chenedlaethol yn sicrhau cyflenwad digonol o dai sydd o’r math priodol i fodloni gofynion lleol ac yn fforddiadwy yng nghyd-destun enillion lleol.'
Rwy'n credu ei fod yn argymhelliad pwysig iawn fod y ddealltwriaeth honno o wahaniaethau ledled Cymru yn cael ei hadlewyrchu yn y strategaeth ac mewn polisi. Yn ogystal â hyn, canfuom fod problem ail gartrefi wedi gwaethygu yn dilyn pandemig COVID-19 wrth gwrs. Rydym yn sicr eisiau croesawu pobl i Gymru a rhoi croeso cynnes iddynt. Fodd bynnag, mae argymhelliad 13 yn dweud
'Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil ar effaith... pandemig Covid-19 ar dueddiadau o ran tai, i asesu maint y symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.'
Roeddwn yn falch iawn o weld yr argymhelliad hwnnw yn ein hadroddiad. Un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno efallai yw'r ddealltwriaeth o'r mater mewn perthynas â nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yn ein cymunedau gwledig hefyd, a chyd-destun ail gartrefi o fewn hynny. Gwyddom fod y data a ddefnyddiem pan gyhoeddwyd yr adroddiad yn dangos bod ychydig o dan 20,000 o'r bron i 1.4 miliwn o eiddo yng Nghymru yn cael eu dosbarthu fel ail gartrefi. Mae hynny'n 1.4 y cant o holl eiddo Cymru. Mae 1.4 y cant o holl eiddo Cymru yn ail gartrefi. Er i mi egluro hyn ar ddechrau fy nghyfraniad, y ffaith ei bod yn broblem fawr mewn rhai cymunedau, nid yw cyd-destun y ffigur hwnnw mor arwyddocaol, efallai, ag y byddai rhai eisiau i ni ei gredu.
Mae effaith neges mor negyddol i'n diwydiant twristiaeth eisoes wedi cael sylw yma heddiw, ac fe'n hatgoffwyd wrth gymryd tystiolaeth mai'r sector twristiaeth yng Nghymru sydd i gyfrif am 17.6 y cant o gynnyrch domestig gros, ac sy'n cyflogi dros 12 y cant o drigolion y wlad. Dyna pam y croesawais argymhelliad 4, mewn gwirionedd, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu rhagor o waith ymchwil ar yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar gynaliadwyedd cymunedau, oherwydd mae'r sector hwn mor bwysig i'n cymunedau mewn perthynas â swyddi a chyfleoedd i'r dyfodol.
Lywydd, rwy'n gwybod bod amser yn brin, felly rwy'n mynd i garlamu drwy'r pwynt olaf hwn, ynglŷn ag argymhelliad 8 yn hyn i gyd, sy'n nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i’r Senedd ar sut y mae’n bwriadu cyflawni ei tharged ar gyfer adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn nhymor y Senedd hon, ynghyd ag argymhelliad 10 yn ein hadroddiad, sy'n galw am ymdrechion pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae’n bwriadu gweithio gyda'r sector preifat i ddatblygu mwy o eiddo, yn enwedig yn y cymunedau lle maent yn ei chael hi'n anodd gyda nifer yr ail gartrefi a'r tai gwyliau.
Diolch am roi ychydig mwy o amser i mi, Lywydd. Hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor ac i bawb a gyfrannodd at yr hyn rwy'n ei ystyried yn adroddiad defnyddiol iawn i weld sut y gwnawn ymdrin â rhai o'r heriau mewn perthynas ag ail gartrefi. Diolch.
Diolch yn fawr am gael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw.
Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, nid ffenomen newydd yw ail gartrefi. Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwyso am gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r mater hwn ers degawdau. Mae problem ail gartrefi wedi mynd o ddrwg i waeth i lawer o'n cymunedau ledled Cymru, boed hynny yn ein cadarnleoedd Cymraeg gwledig neu'n wir yn ein canolfannau trefol. Mae'r argyfwng tai presennol sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru, wedi'i ysgogi'n rhannol gan ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, yn cael ei nodweddu gan anallu'r rhai sy'n byw yn y gymuned neu sydd wedi eu magu mewn cymuned i brynu neu rentu cartrefi yn yr ardaloedd dan sylw. Mae'r argyfwng yn golygu bod llawer o wasanaethau cyhoeddus heb fod yn hyfyw mwyach. Mae ysgolion yn cau, siopau'n cau, cyfleusterau cymunedol yn cau. Mae cymunedau'n erydu, ac yn diflannu yn y pen draw.
Gadewch inni fod yn glir: nid mater gwledig yn unig yw hwn. Mae effeithiau ail gartrefi ar ein cadarnleoedd gwledig yn drychinebus, i'r economi wledig, i'n diwylliant, i'n hiaith, i bobl. Afraid dweud hynny. Ond mae'r argyfwng tai yr un mor amlwg mewn ardaloedd trefol, fel yr un rwy'n ei chynrychioli. Mae boneddigeiddio yn dinistrio gwead y cymunedau hyn. Heddiw, yn rhinwedd fy swydd fel llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau, hoffwn neilltuo peth amser i ganolbwyntio hefyd ar yr wythfed argymhelliad, fel y clywsom gan Sam yn gynharach, yn adroddiad y pwyllgor, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo. Mae argymhelliad 8 yn dweud
'Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i’r Senedd ar sut y mae’n bwriadu cyflawni ei tharged o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd o fewn cyfnod y Senedd hon. Hoffem pe bai’r diweddariad yn cynnwys dadansoddiad o ble y mae’n bwriadu i’r cartrefi newydd hyn gael eu hadeiladu, yn unol â’r galw, ac yn unol ag anghenion cymunedau.'
Nawr, mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, mewn egwyddor o leiaf, ond mae cwestiynau'n parhau ynghylch y targed tai. O ystyried maint yr angen am dai yng Nghymru, mae nifer wedi cwestiynu a yw'r targed hwn yn ddigonol. Rwy'n croesawu uchelgais y Llywodraeth i sicrhau 20,000 o gartrefi, wrth gwrs fy mod, ond a yw'r targed yn ddigon uchelgeisiol? Weinidog, sut y gwyddoch eich bod mewn gwirionedd yn diwallu angen y wlad am dai yn llawn? Rydym ynghanol un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf ers cyn cof. Ynghyd ag effeithiau Brexit, mae yna storm berffaith yn wynebu ein cadwyni cyflenwi a'n gweithlu adeiladu. Yn sgil costau cynyddol deunyddiau adeiladu, y costau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ac effeithiau Brexit ar y gweithlu, sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyrraedd eu targedau adeiladu?
Gan symud ymlaen, dros yr haf, roeddwn yn ffodus i ymweld â Fienna i astudio eu polisi ar dai cymdeithasol a fforddiadwy. Roedd yn agoriad llygad a dweud y lleiaf. Mae Fienna wedi bod yn arwain y byd gyda'i darpariaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy ers dros ganrif. Heddiw, mae 60 y cant o drigolion Fienna—
A gaf fi dorri ar draws? Gallaf weld bod Mark Isherwood eisiau gwneud ymyriad. Nid wyf yn gwybod a ydych yn barod i dderbyn un.
Ydw, yn sicr.
Iawn. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud mewn ffordd gwrtais iawn. Mark Isherwood.
Diolch. Diolch yn fawr iawn yn wir. Rwy'n credu bod tua 18 neu 19 o flynyddoedd ers i mi dynnu sylw Llywodraeth Cymru ar y pryd at y ffaith y byddai yna argyfwng tai fforddiadwy mewn cymunedau yng Nghymru pe na bai'r toriadau i dai cymdeithasol ar y pryd yn cael eu gwrthdroi. Ond a ydych yn rhannu fy mhryder fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer chwarter 2 yn 2022 yn dangos, unwaith eto, fod nifer y cartrefi newydd a gwblhawyd yng Nghymru wedi mynd i'r cyfeiriad anghywir, a dyma'r unig wlad neu ranbarth yn y DU unwaith eto lle maent wedi lleihau mewn gwirionedd?
Mae hwnnw'n sicr yn bwynt da iawn gan Mark, ac efallai y gall y Gweinidog roi sylw i'r pwynt hwnnw pan fydd yn ymateb.
Fel y dywedais, roeddwn yn Fienna ac mae dros 60 y cant o'r dinasyddion hynny'n byw mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Ond yn Fienna, roedd hi'n amlwg fod yr ymdrechion adeiladu'n ymwneud â mwy na thai yn unig; roeddent yn ymwneud ag adeiladu cymunedau—cymunedau go iawn, lle'r oedd anghenion pobl yn cael eu diwallu, lle'r oedd cyfleusterau cymunedol, mannau gwyrdd, canolfannau meddygol, cysylltiadau trafnidiaeth, gofal plant a mwy wedi'u hintegreiddio'n ddi-dor mewn ardaloedd preswyl. Os gallai Fienna gyflawni hyn dros 100 mlynedd yn ôl, pam na allwn ni ei wneud heddiw? Rwy'n tybio mai fy nghwestiwn yma mewn perthynas â thargedau tai yw: sut rydych chi'n sicrhau nad ydym ond yn adeiladu tai a'n bod yn adeiladu cymunedau sy'n gweithio mewn gwirionedd, gyda'r holl gyfleusterau sydd eu hangen ar gymunedau? Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu at y ddadl—Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yn enwedig y Cadeirydd, am eu hymchwiliad manwl ac ystyriol i fater cymhleth ail gartrefi. Ar ran fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, ymatebais i adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, ac rydym wedi derbyn pob un ohonynt. Rydym ni, ac mewn llawer o achosion, roeddem ni'n gweithredu'r rheini'n ymarferol drwy ein gweithgaredd trawslywodraethol a'n cydweithio agos gyda Phlaid Cymru ar y mater hwn.
Fel y gwyddoch, mae ymateb i'r heriau a gaiff eu creu gan nifer fawr o ail gartrefi a thai gwyliau tymor byr yn galw am ymateb holistig ac integredig. Nodwyd hyn yn fy natganiad ar ein dull gweithredu trawslywodraethol sydd â thair elfen iddi, ac mae hefyd yn nodwedd allweddol o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Rydym wedi ymrwymo i fesurau radical, effeithiol a chytbwys i'w gweithredu ar unwaith er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau'n uniongyrchol ac yn rhoi cefnogaeth bellach i bobl allu byw'n fforddiadwy yn eu cymunedau. Heb os, mae'r her hon wedi'i gwneud yn llawer mwy cymhleth oherwydd yr argyfwng costau byw a'r cythrwfl yn y farchnad, ac yn arbennig y cythrwfl yn y farchnad dai a achoswyd gan—nid wyf yn gwybod beth y maent yn ei alw erbyn hyn—rwy'n credu mai 'cyllideb fach' yw'r term y maent wedi'i dderbyn, cyllideb fach y Llywodraeth, a thynnu cymaint o gynhyrchion morgais yn ôl oddi wrth brynwyr tro cyntaf yn enwedig. Ni allaf ddeall sut y gall y Ceidwadwyr sefyll yno a'n beirniadu ni am yr hyn a wnawn, o ystyried y gofid a'r llanastr llwyr y maent wedi'i greu yn y farchnad dai.
Beth bynnag, rydym wedi gweithio'n gyflym ac yn frwdfrydig i roi nifer o gamau arwyddocaol ar waith dros y flwyddyn. Lywydd, fe wnaf nodi'n gyflym yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar y gweill heddiw, gan eu bod yn helaeth ac ychydig iawn o amser sydd gennyf, ac fe wnaf amlinellu wedyn sut rydym am barhau i symud ymlaen. Yr wythnos diwethaf, fel yr addawyd yn natganiad y Prif Weinidog ac Adam Price ar 4 Gorffennaf, fe wnaethom osod rheoliadau sy'n rhoi llawer mwy o reolaeth i awdurdodau cynllunio lleol dros niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn eu cymunedau yn y dyfodol lle mae tystiolaeth leol yn dangos bod yna broblem. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol roi llawer mwy o ystyriaeth i amgylchiadau lleol.
Rydym wedi bod yn gweithio a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol yng Ngwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri fel rhan o gynllun peilot Dwyfor. Rydym yn eu cynorthwyo i adeiladu sylfaen dystiolaeth gyffredin y gellir ei defnyddio i lywio pob ymyrraeth polisi lleol. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi costau gweithredu, wrth inni ddysgu gwersi a gwneud asesiad o gost ac effaith. Bydd y dysgu hwn o fudd cenedlaethol. Er hynny, rwyf am ddweud yma, mewn ymateb uniongyrchol i Mabon, fod y rheolau, wrth gwrs, yn berthnasol i bawb yn awr, ond rydym yn gweithio'n fwyaf arbennig gyda'r ardaloedd peilot i ddeall eu harwyddocâd o ran adnoddau. Felly, nid yw hynny'n golygu na all llefydd eraill barhau i'w wneud, ond rydym yn edrych yn arbennig ar gasglu data ar beth yw'r goblygiadau i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adnoddau—os caf wneud y pwynt hwnnw'n gwbl glir.
Wrth gwrs, roeddem eisoes wedi cyflwyno ystod o fesurau, gan gynnwys newidiadau i'r terfyn uchaf ar gyfer premiymau treth gyngor dewisol, ac ail gartrefi a thai sy'n wag yn hirdymor. Bydd y newidiadau yn dod i rym o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen ac mae modd i awdurdodau lleol ymgynghori yn awr a gweithredu ar eu penderfyniadau—gwn fod Gwynedd eisoes yn gwneud hyn—er mwyn gwneud dewisiadau cytbwys am bremiwm priodol i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau i'r meini prawf gosod er mwyn i lety hunanddarpar gael ei ddosbarthu fel llety annomestig ac yn agored i ardrethi annomestig, yn hytrach na llety domestig ac yn agored i'r dreth gyngor. Mae'r mesurau hyn, sy'n cyd-fynd â'r newidiadau a wneir i'r fframwaith cynllunio, yn ein harfogi ni ac awdurdodau lleol i allu rheoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn fwy effeithiol yn y dyfodol.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae twristiaeth deg yn ei wneud, ond ni allwn barhau i weld cymunedau'n cael eu gwagio. Mae'r pecyn cytbwys a chadarn hwn o ymyriadau yn un sydd heb ei debyg yng nghyd-destun y DU ac mae'n dangos ein bod wedi bod, ac yn ystyried y sefyllfa'n ddifrifol iawn. Yn ehangach, rydym yn gweithio ar nifer o gamau ategol, gan weithio gydag awdurdodau lleol ar opsiynau a hyblygrwydd lleol posibl ar gyfer treth trafodiadau tir i ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Byddai hyn yn ein helpu i ymateb ymhellach i ddosbarthiad anwastad ail gartrefi ar draws Cymru ac ardaloedd o fewn awdurdodau hefyd yn wir.
Rydym yn parhau i archwilio opsiynau i ddod â rhagor o dai gwag yn ôl i ddefnydd amser llawn. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant i awdurdodau lleol mewn perthynas â'u defnydd o'u pwerau prynu gorfodol ac mae gennym nifer o gynlluniau i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, gan gynnwys system o grantiau a'r cynllun lesio, ac yn y blaen, a hoffwn gyfeirio llawer o'r Aelodau sydd wedi codi hynny heddiw at fy natganiadau blaenorol ar y pwnc, lle rydym wedi amlinellu nifer fawr o ymyriadau sydd gennym ar waith.
Hefyd, cadarnhaodd y Prif Weinidog ac Adam Price eu hymrwymiad fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, a byddwn yn cyflwyno ymgynghoriad ar ein cynigion yn y misoedd nesaf. Bydd y cynllun yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael trwydded i weithredu llety i ymwelwyr, gan gynnwys llety gwyliau tymor byr, a bydd yn helpu i godi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth a gwella data i gefnogi penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol. Ac os caf roi sylw uniongyrchol i gyfraniad Janet ac yn fwy helaeth gan Sam, yn amlwg, rydym eisiau i bobl ddod ar wyliau i Gymru. Yn amlwg, rydym eisiau iddynt gael ail gartrefi a manteisio ar lety gwyliau yma, ond yr hyn yr ydym ei eisiau yw cymuned gynaliadwy. Os siaradwch chi â phobl sy'n dod yma sydd ag ail gartref neu lety gwyliau, nid ydynt eisiau dod i fan lle nad oes neb yn byw a lle nad oes unrhyw siopau a thafarndai; maent eisiau dod i gymuned sy'n ffynnu a phrofi hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â'u gyrru allan; mae'n ymwneud â'u gwasgaru a gwneud yn siŵr fod gennym gymunedau cynaliadwy ym mhob ardal. Felly, rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Nid yw'n ymwneud â pheidio â bod yn groesawgar; mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod y profiad y mae pobl yn ei gael pan fyddant yn dod i Gymru yn un da a hynny oherwydd bod gennym gymuned gynaliadwy, ffyniannus sy'n defnyddio'r Gymraeg a'r holl fanteision diwylliannol sy'n dod yn sgil hynny. Felly, nid yw'r agenda hon yn erbyn neb; mae'n agenda sydd o blaid ein cymunedau effeithiol ac o blaid ein diwylliannau.
Felly, os caf roi sylw uniongyrchol i'r ymgynghoriad ar y cynllun tai cymunedau Cymraeg drafft, fel y dywedodd Mabon, mae hwn yn llwyr ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, ond yn amlwg, rydym yn cydweithio'n agos iawn ar hyn gan eu bod yn gorgyffwrdd yn sylweddol. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol, aeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ati i amlinellu ffocws ei gynllun tai cymunedau Cymraeg. Rydym ar fin rhyddhau manylion y cynllun hwnnw. Yn gyffredinol, er hynny, nod y cynllun yw cefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi, gan ddwyn ynghyd agweddau sy'n ymwneud â thai, datblygu cymunedol, yr economi a chynlluniau iaith. Yn yr Eisteddfod hefyd, lansiodd y Gweinidog gomisiwn ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith. Byddant yn gwneud astudiaeth fanwl o gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg, gan gynnwys effeithiau'r dwysedd uchel o ail gartrefi, ac yn darparu adroddiad ymhen dwy flynedd. A Mabon, bydd hynny wrth gwrs yn cynnwys y sector rhentu preifat ac unrhyw fath arall o ddeiliadaeth; y syniad yw cael cymuned gwbl gymysg a chwbl gynaliadwy sy'n gallu parhau i ddefnyddio'r Gymraeg fel y mynnant.
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach, yn unol ag argymhelliad y pwyllgor ar y datblygiadau yn ardal y cynllun peilot. Rydym eisoes wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin i ddiwygio'r meini prawf a'r canllawiau ar gyfer ein cynllun cymorth prynu, er enghraifft. Rwyf wedi cefnogi hyn drwy sicrhau bod £8.5 miliwn ar gael dros dair blynedd i helpu pobl i gael troed ar yr ysgol dai. Mae hyn eisoes yn dwyn ffrwyth, ac edrychaf ymlaen at weld nifer o dai ychwanegol yn cael eu cwblhau'n fuan. Rydym hefyd wedi sefydlu grwpiau gweithredol a strategol ar gyfer y cynllun peilot ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i weld sut y gall morgeisi awdurdodau lleol, er enghraifft, fod o fudd yn y cyfnod anodd hwn. Mae hwn, unwaith eto, yn ymrwymiad sy'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun peilot yn gyfle da i arbrofi ar gyfer hyn ac ymyriadau eraill a'r defnydd o bwerau newydd a phwerau sy'n bodoli eisoes.
Felly, Lywydd, rydym yn rhoi camau beiddgar a chyflym ar waith ar unwaith ar draws ystod o feysydd i fynd i'r afael â'r materion cymhleth hyn mewn ffordd bendant, fel y dywedasom y byddem yn ei wneud. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad. Mae'r gwaith yn adeiladu ar ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ac mae i'w groesawu'n fawr iawn, felly, diolch yn fawr. Roeddwn i a chyd-Aelodau'n falch iawn o dderbyn argymhellion y pwyllgor, sy'n rhai ymestynnol, a hynny'n briodol, a byddant yn helpu i ychwanegu ymhellach at ein dealltwriaeth a'n hymrwymiad i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mewn ardaloedd lle mae gennym wasgariad anghytbwys o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Wrth gwrs, edrychwn ymlaen at roi diweddariad i'r Senedd, wrth inni barhau i wneud cynnydd ar yr agenda hon ac wrth inni gyflawni ein hymrwymiad i ymateb yn ymarferol i'r argymhellion.
Yn gryno iawn, Lywydd, ar y cyflenwad tai, nad oes gennyf amser i'w drafod yma, byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd ar dai a gwblhawyd yn nes ymlaen yn ystod tymor yr hydref, pan fydd gennym y data ar gyfer hynny. Wrth gwrs, mae gwaith i'w wneud o hyd, ond rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod gennym ni ac awdurdodau lleol yng Nghymru arfau cywir i reoli'r defnydd cymysg o eiddo yn ein cymunedau yn well a bod gennym gymunedau cynaliadwy Cymraeg eu hiaith sy'n ffynnu ledled Cymru. Diolch yn fawr.
John Griffiths, y Cadeirydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw? Rwy'n credu bod pawb yn deall bod hwn yn faes pwysig iawn, ond cymhleth, a bod llawer yn digwydd, ond mae llawer i'w wneud.
Fe fyddwn yn dweud wrth Janet Finch-Saunders, sef y cyntaf i gyfrannu yn dilyn fy araith i agor y ddadl, Lywydd, ein bod yn cydnabod, yn amlwg, y tensiynau ynghylch twristiaeth, pwysigrwydd twristiaeth i'r ardaloedd hyn, a soniwyd am hynny gan eraill yn y ddadl hefyd. Yn amlwg, mae angen cydbwysedd, ond mae ein hargymhelliad y dylid cynnal gwerthusiad priodol o'r effaith ar dwristiaeth yn bwysig iawn yn fy marn i. Ond rhaid inni gydnabod—rwy'n credu eich bod wedi dweud, Janet, fod perchnogion ail gartrefi'n defnyddio gwasanaethau lleol, yn defnyddio busnesau lleol. Ond fe wyddom mai am benwythnos efallai, neu wythnos neu bythefnos y bydd rhai perchnogion ail gartrefi'n defnyddio'r eiddo mewn blwyddyn gyfan, ac fe glywsom gan y Gweinidog y gall hynny arwain at wagio cymunedau. Efallai eu bod yn drefi marw yn y gaeaf am nad yw'r busnesau a'r gwasanaethau'n gallu gweithredu yn ystod y misoedd hynny am nad oes digon o bobl o gwmpas i'w defnyddio, ac os yw'r gwagio hwnnw'n digwydd, ni fyddant yn gymunedau byw, cynaliadwy, sydd mor bwysig, fel y clywsom.
Rwy'n credu bod Mabon ap Gwynfor wedi dangos ei ymrwymiad yn glir i'r materion hyn, ac yn amlwg, maent yn bwysig iawn i Mabon yn ei ardal leol ei hun, ac rwy'n canmol Mabon ar yr ymrwymiad hwnnw a'i waith ar y pwyllgor mewn perthynas â'r mater hwn. Yn amlwg, mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn bwysig iawn i roi ffocws ychwanegol. Ac rwy'n credu ein bod bellach mewn sefyllfa, onid ydym, lle mae gennym, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ystod gyfan o gamau gweithredu'n digwydd, camau pwysig iawn i fynd at graidd y materion hyn ac yn arwain at newid, a'r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.
Mae'n hollol iawn fod gennym y cynllun peilot yn Nwyfor fel ein bod yn gwerthuso, monitro a gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn symud ymlaen ar gyfer Cymru gyfan, fod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn iawn sy'n dweud wrthym beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio a pha ganlyniadau anfwriadol a allai fod. Felly, rwy'n credu bod dull o'r fath sy'n seiliedig ar dystiolaeth, drwy'r cynllun peilot a'r gwaith arall yr ydym wedi'i argymell ac y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, yn gwbl hanfodol.
Mae'r gwrthgyferbyniad llwyr y cyfeiriodd yr Aelodau ato rhwng eiddo Airbnb a'r rhai sydd efallai'n meddwl am y lwfans tai lleol a'r refeniw a fyddai'n deillio o hynny'n hynod o llwm, onid yw? Mae'n dangos, drwy waith Sefydliad Bevan ac eraill, yr hyn sydd angen mynd i'r afael ag ef o ran atyniad cymharol mathau penodol o ddefnydd o eiddo a'r hyn a fydd yn sicrhau cymunedau cartrefol, cynaliadwy. Ac fe wnaeth Carolyn Thomas y pwyntiau hynny hefyd. Ac fe soniodd Carolyn hefyd am yr hawl i dai, ac mae'n hawl sylfaenol, onid yw? A chawsom ddigwyddiad pwysig iawn yn y Pierhead yr wythnos o'r blaen lle'r oedd sefydliadau tai, cymdeithasau tai ac eraill, yn sôn am bwysigrwydd yr hawl i dai a'r hyn a allai ddigwydd yng Nghymru pe bai gennym ddeddfwriaeth ar waith a fyddai'n gwireddu'r hawl honno ledled ein gwlad. Ac mae honno'n ymgyrch a fydd yn parhau ac yn datblygu.
A gaf fi ganmol Sam Rowlands hefyd am ei waith ar y pwyllgor a'r dull cytbwys y mae wedi'i fabwysiadu drwyddi draw, ac rwy'n credu ei fod wedi dangos hynny eto heddiw, wrth iddo geisio sicrhau'r cydbwysedd rhwng pwysigrwydd twristiaeth, er enghraifft, a mynd i'r afael â'r materion dadleuol hyn mewn rhannau arbennig o Gymru, yn enwedig, fel yr amlygodd Sam unwaith eto, ardaloedd fel Gwynedd, Ynys Môn a Cheredigion, a phwysigrwydd edrych ar ardaloedd eraill o Gymru a'r gwersi y mae'n rhaid inni eu dysgu?
Peredur, diolch am siarad am Fienna. Mae'n enghraifft dda iawn o sut rydych yn mabwysiadu dull cymuned gyfan o fynd ati ar y materion hyn ac adeiladu cymunedau, gan edrych ar fannau gwyrdd, gwasanaethau ac anghenion cymunedol. Ac ar hynny, rwy'n credu y gallwn fod yn falch o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ar sawl achlysur gwahanol, sy'n cydnabod yr angen am ddull o'r fath a'r gwahanol fesurau a roddir ar waith i sefydlu'r dull hwnnw o weithredu.
Lywydd, hoffwn ddirwyn i ben drwy gydnabod y gwaith sydd wedi digwydd a'r gwaith sydd ar y gweill. Mae'n wirioneddol arwyddocaol. Nid camau symbolaidd yw'r rhain—mae'n waith sy'n mynd at wraidd yr heriau sy'n ein hwynebu yn yr ardaloedd penodol hynny yng Nghymru, ac ar draws ein gwlad hefyd. Ac roeddwn yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi nodi'r camau hyn ger ein bron yma heddiw—y ffaith bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn a'r ymrwymiad cryf gan y Gweinidog i gymunedau cynaliadwy, pwysigrwydd y Gymraeg, pwysigrwydd gwaith y comisiwn sy'n cael ei sefydlu a'r cyfle da i arbrofi sydd gennym yn sgil y cynllun peilot, fel y disgrifiodd y Gweinidog. Rwy'n credu ein bod yn ymrafael â materion anodd iawn, ond rydym wedi rhoi camau ar waith i gyflawni, gwerthuso a monitro a fydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen ar sail y dystiolaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi cael ei dderbyn.