– Senedd Cymru ar 5 Hydref 2022.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd nesaf—y ddadl honno ar ddigwyddiadau mawr. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8086 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030 Llywodraeth Cymru.
2. Yn credu bod digwyddiadau mawr yn helpu i roi hwb i swyddi a'r economi drwy arddangos Cymru i'r byd.
3. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n dangos diffyg uchelgais wrth ddod â'r cyfleoedd hyn i Gymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth gan ganolbwyntio ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Wrth i dîm pêl-droed Cymru anelu am Qatar yn ddiweddarach eleni, ac yn dilyn cyhoeddi strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, mae'n gwbl briodol ein bod yn ystyried arwyddocâd economaidd digwyddiadau mawr, gartref ac oddi cartref.
Wrth ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer digwyddiadau mawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cael amser a chyfle i ddysgu gwersi o'r strategaeth flaenorol a gosod cyfeiriad newydd ar gyfer sut yr ymdrinnir â digwyddiadau mawr er mwyn sicrhau ein bod yn cael y budd economaidd mwyaf posibl o'r digwyddiadau hyn. Ac er ein bod yn gwybod bod y sector digwyddiadau yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n heconomi, efallai ein bod weithiau'n anghofio arwyddocâd diwylliannol ac ieithyddol y digwyddiadau hyn yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae digwyddiadau fel Gŵyl y Gelli, Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a'r Sioe Frenhinol i gyd yn enghreifftiau o ddigwyddiadau sy'n rhan annatod o'n diwylliant a'n hiaith.
Felly, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfeddwl ei strategaeth digwyddiadau mawr a sicrhau bod llawer mwy ar arwyddocâd diwylliannol digwyddiadau mawr. Rydym hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi llawer mwy o ffocws ar ddyhead, creadigrwydd ac arloesedd wrth ddenu digwyddiadau mawr i Gymru, fel y nodir yn ein cynnig.
Wrth gwrs, yn sail i strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru mae'r angen am gysoni ac integreiddio o fewn y sector digwyddiadau, yn enwedig mewn perthynas â gweithlu a chynllunio. Mae angen inni ddatblygu gweithlu cydweithredol, arloesol sy'n canolbwyntio ar amcanion a rennir, ac er mwyn gwneud hynny'n effeithiol, rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn tyfu sgiliau, gwybodaeth a gallu o fewn y diwydiant. Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall y Gweinidog fachu ar y cyfle i ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y sector a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w ddatblygu hyd yn oed ymhellach.
Nawr, rwy'n falch o weld bod strategaeth Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i wneud y gorau o wasgariad daearyddol a thymhorol digwyddiadau ledled Cymru. Mae'n hanfodol fod pob rhan o Gymru yn cael cyfle i elwa yn sgil digwyddiad mawr mewn un rhan o'r wlad, ac mae angen inni weld llawer mwy o fuddsoddi yn y seilwaith y tu allan i'r brifddinas er mwyn i hynny ddigwydd.
Mae cynnal digwyddiad mawr yn bwysig, nid yn unig oherwydd yr arian sy'n cael ei wario yn ystod y digwyddiad, ond hefyd am ei fod yn hoelio sylw'r byd ar Gymru ac yn rhoi cyfle inni farchnata Cymru gyfan i ymwelwyr. Ac felly mae angen defnyddio'r ffenest honno i hyrwyddo popeth sydd gan Gymru i'w gynnig, ac nid lleoliad y digwyddiad yn unig. Er enghraifft, roedd y digwyddiad WWE diweddar yng Nghaerdydd yn gyfle inni roi Cymru ar y map yn rhyngwladol, er mwyn annog ymwelwyr a ddaeth i Gaerdydd ar gyfer yr ymweliad i grwydro y tu allan i ganol y ddinas a gweld rhannau eraill o Gymru hefyd.
Wrth gwrs, rhaid i strategaeth gref ar gyfer digwyddiadau mawr ddod ag arbenigedd ynghyd, gan gynnwys partneriaid llywodraeth leol, y diwydiant trafnidiaeth a hyd yn oed y sector preifat. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gywir i ddweud:
'Mae deall y rhan y mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, waeth beth fo'u maint na'u haen, yn creu ymrwymiad ac arbedion gweithredol.'
Ac felly rwy'n falch o glywed y Llywodraeth yn derbyn mai'r sector preifat sydd ar flaen y gad o ran darparu digwyddiadau ac sy'n gallu gwireddu nodau cyflawni'r strategaeth hon yn fwyaf uniongyrchol. Yn wir, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog roi'r diweddaraf i ni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei pherthynas â'r sector preifat yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn gwbl lwyddiannus.
Nawr, bydd olrhain yr adnoddau a ddyrennir iddi a sicrhau bod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn allweddol i weithredu strategaeth Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Nawr, rwy'n ymwybodol wrth gwrs nad oes gan y Gweinidog goeden arian hud i gefnogi'r sector. Serch hynny, lle dyrennir cyllid, rhaid i drethdalwyr fod yn argyhoeddedig fod yr adnoddau hynny'n cael eu defnyddio i sicrhau buddion economaidd gwirioneddol i'n gwlad. Mae angen tryloywder ynglŷn â buddsoddiadau Llywodraeth Cymru, ac mae angen i Weinidogion fod yn ddigon dewr i dderbyn pan nad yw pethau'n gweithio a newid cyfeiriad.
Mae fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, wedi bod yn gofyn cwestiynau ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr WWE cyn eu digwyddiad yng Nghaerdydd ym mis Medi, ac er ei fod wedi cael ymateb fod y pecyn cyllido yn destun monitro llym ar ôl y digwyddiad, ni cheir gwybodaeth ynglŷn â sut ffurf yn union a fydd ar y monitro ar ôl y digwyddiad. Nid yw'n afresymol i fod eisiau deall faint yn union o arian a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y digwyddiad hwn a'r meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu faint i'w fuddsoddi. Dylai'r trethdalwr wybod a yw'r meini prawf a osodwyd wedi'u cyrraedd, ac efallai y gall y Gweinidog ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i gadarnhau a yw'r monitro ar ôl y digwyddiad bellach wedi digwydd a pha ganlyniadau a gafwyd.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu o'i strategaethau blaenorol a hefyd gan wledydd eraill ar draws y DU a thu hwnt. Mae'r Alban wedi defnyddio dull portffolio o gynnal digwyddiadau a gwyliau, sy'n caniatáu ar gyfer nodi a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliant mawr a bach sefydlog, cyson neu un-tro, ac mae angen inni weld mwy o'r dull arloesol hwnnw o weithredu yma yng Nghymru. Mae angen dull portffolio tebyg arnom i helpu i wasgaru'r manteision ar draws y flwyddyn a'r wlad, yn ogystal ag annog a meithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth.
Mae angen inni fynd ati'n rhagweithiol i ymchwilio a nodi digwyddiadau y gall Cymru eu datblygu, eu denu neu wneud cais amdanynt, a phan ddaw cyfleoedd i'n rhan, fel yn achos cynnal y gystadleuaeth Eurovision yn y DU, mae angen inni wneud popeth posibl i hyrwyddo cynnal digwyddiadau fel hyn yma yng Nghymru. Nawr, rwy'n deall bod problemau gyda chael Caerdydd i gynnal y digwyddiad, ond y realiti yw nad oes llawer o dystiolaeth fod Llywodraeth Cymru wedi edrych y tu allan i'r brifddinas i gynnal y digwyddiad hwnnw. Fe ellid ac fe ddylid bod wedi gwneud mwy, a dylid bod wedi archwilio pob lleoliad yng Nghymru i ddod â'r cyfle unwaith mewn oes hwn i Gymru, ac eto ychydig iawn o dystiolaeth a welwyd o ymdrech i ddod â'r digwyddiad mawr hwn i ran arall o Gymru. Yn wir, mae angen inni weld ymagwedd lawer mwy parod i gynnal digwyddiadau mawr.
Lywydd, rwyf am sôn yn fyr am Qatar 2022 a'r llwyfan y mae'n ei gynnig inni arddangos Cymru i'r byd. Rwy'n deall y bydd Prif Weinidog y DU, Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon i gyd yn mynychu pob un o gemau grŵp Cymru yn erbyn UDA, Iran a Lloegr, ac mae'n gwbl hanfodol fod trethdalwyr Cymru yn gweld gwerth am arian o'r teithiau hyn. Yn wir, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd pendant y bydd canlyniadau amlwg yn sgil y teithiau hyn. Nawr, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru
'yn datblygu ymgyrch farchnata... [a fydd] yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth'.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard yn gywir, mae angen inni wybod sut olwg fydd ar lwyddiant yr ymgyrch hon. Gyda £2.5 miliwn yn mynd tuag at ymgyrch Lleisiau Cymru, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n dangos ei gwariant yn agored a beth y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni.
Yn olaf, efallai mai gwlad fach yw Cymru, Lywydd, ond mae'n un wych er hynny, a rhaid inni fanteisio ar bob cyfle a ddaw i gynnal digwyddiadau mawr a sicrhau canlyniadau yn sgil digwyddiadau gartref, neu oddi cartref yn achos cwpan pêl-droed y byd. Dyma faes lle credaf ein bod i gyd yn nhîm Cymru. Felly, wrth gloi, a gaf fi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad yr Aelodau i'r ddadl hon ar sut y gallwn weithio i godi ein proffil yn rhyngwladol a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y gall digwyddiadau mawr eu dwyn yma i Gymru? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar Luke Fletcher nawr i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y caiff diwylliant a threftadaeth Cymru a'r Gymraeg eu hymwreiddio'n bellach yn y strategaeth, gan gynnwys digwyddiadau mawr cynhenid fel yr Eisteddfod Genedlaethol, a'n bod yn arddel ddefnyddio 'Cymru' yn hytrach na 'Wales' yn rhyngwladol.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian. Mae gennym gyfle unigryw eleni i ddysgu o gyfranogiad Cymru yng nghwpan y byd ac i adeiladu ar bresenoldeb cynyddol Cymru ar y llwyfan byd-eang, yn ogystal â hogi ein gallu i elwa'n effeithiol ar fanteision economaidd digwyddiadau mawr fel hyn i Gymru.
Mae gennym hefyd ddigwyddiadau cynhenid Gymreig anhygoel, fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfod ryngwladol Llangollen, nad ydym wedi llwyr wireddu ei photensial yn fy marn i i hyrwyddo diwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru ymhellach. Rhaid inni fynd ymhellach a rhaid inni ddarparu buddsoddiad er mwyn i ddigwyddiadau fel yr Eisteddfod barhau i esblygu.
Mae gan Gymru ei diwylliant ei hun, ei hiaith ei hun—un o'r ieithoedd Celtaidd hynaf sydd wedi goroesi—a'i hanes ei hun. Mae'n bwynt gwerthu pwerus, ac yn un na allwn ei danbrisio. Dyna ein mantais, ein bachyn, sy'n unigryw i'r gornel hon o'r byd—stori gwlad ein tadau, y cafwyd blas ohoni drwy gyfrwng cwpan y byd, a dylai ddigwydd gyda phob digwyddiad byd-eang lle mae Cymru'n bresennol. Drwy osod ein hunaniaeth fel gwlad yn y canol y llwyddwn i hyrwyddo Cymru, ac fe all ac fe fydd rhoi mwy o ffocws ar hyn i hyrwyddo brand Cymru yn dod â math o dwristiaeth dreftadaeth gynaliadwy i Gymru, fel y mae wedi'i wneud mewn llefydd eraill fel yr Alban ac Iwerddon. Dyna yw craidd ein gwelliant heddiw: rhoi Cymru wrth galon y strategaeth hon.
Ond wrth gwrs, i ddilyn hyn rhaid mynd i'r afael â'r problemau systemig sy'n bodoli yma yng Nghymru heddiw—ein seilwaith, er enghraifft, sy'n cyfyngu ar ein gallu i gynnal digwyddiadau mawr ac yn cyfyngu ar y dyhead, y creadigrwydd a'r arloesedd yng Nghymru sy'n dod gyda chynnal a thyfu digwyddiadau mawr. Ym mis Gorffennaf eleni, nododd Traws Link Cymru, grŵp ymgyrchu rheilffyrdd gorllewin Cymru, sut nad oedd y seilwaith trafnidiaeth presennol o amgylch Tregaron yn ddigon i ymdopi â'r Eisteddfod. Nododd cadeirydd y grŵp, yr Athro Mike Walker, yr eironi fod yr Eisteddfod Genedlaethol mor agos at y llwybr rheilffordd segur. Bydd buddsoddi mewn seilwaith yn datgloi Cymru, bydd yn helpu i ddarparu mathau newydd o gyflogaeth yn y rhanbarthau hyn, ac yn helpu i gadw pobl ifanc yn yr ardal gan gryfhau'r iaith, y diwylliant a threftadaeth ar yr un pryd. Heb welliannau i'r seilwaith, byddai'n anodd inni gyflawni unrhyw strategaeth, ni waeth beth fo'i huchelgais.
I gloi, Lywydd, bydd ein diwylliant a'n treftadaeth yn allweddol i'r strategaeth hon—balchder yn ein diwylliant, buddsoddi i'w hyrwyddo, a mynediad atynt. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn cytuno.
A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw siarad, unwaith eto, yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar ddigwyddiadau mawr, dadl a gyflwynwyd, unwaith eto, gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar? Mae'r ddadl heddiw mor bwysig oherwydd, fel y gwyddom, mae digwyddiadau mawr, yn gyffredinol, yn gwneud cymaint i gefnogi ein heconomi yma yng Nghymru, a'n cymunedau lleol wrth gwrs. Dyna pam yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy amlinellu'n glir y manteision a geir o fuddsoddi mewn digwyddiadau mawr.
Yn gyntaf oll, maent yn rhoi hwb i economïau lleol yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a mwy o wariant; maent yn ymestyn y tymor twristiaid ac ymwelwyr drwy ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau ym misoedd y gaeaf; gallant fod yn llwyfan i ddarparu cyhoeddusrwydd cadarnhaol i ardal ar gyfryngau lleol a chenedlaethol; cynyddu proffil yr ardal yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy gael digwyddiadau mor arwyddocaol; gallant annog cyfleoedd twf economaidd drwy ddatblygu'r gadwyn gyflenwi leol; rhoi cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan drwy wirfoddoli i helpu i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd gwaith; ac wrth gwrs, darparu adloniant lleol i'r gymuned a chyfleoedd hamdden ychwanegol i drigolion ar draws yr ardal.
Ar ben y manteision mesuradwy hyn, ceir y ffactor teimlad braf wrth gwrs. Mae cael ardal fywiog a deinamig yn creu manteision anfesuradwy i gymunedau a busnesau, ac i'n hiechyd a'n lles wrth gwrs. Aelodau, fel finnau, rwy'n siŵr eich bod wrth eich bodd yn darllen adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach, 'Welcoming Communities: Developing tourism in Wales' a gyhoeddwyd ym mis Awst. Amlygodd yr adroddiad eto pa mor bwysig yw twristiaeth ac ymwelwyr i ni yma yng Nghymru, gan ddangos bod 17.6 y cant o'n cynnyrch domestig gros yn gysylltiedig â thwristiaeth, a chaiff dros 12 y cant o'n trigolion eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae'r cysylltiad rhwng twristiaeth, ymwelwyr a digwyddiadau yn arwyddocaol i'n heconomi sy'n ffynnu.
Wrth edrych ar rai o'r digwyddiadau mawr blaenorol a gynhaliwyd yn fy rhanbarth i, yng ngogledd Cymru, mae'n amlwg pam eu bod wedi llwyddo cystal i hybu economi Cymru. Un enghraifft o hynny, wrth gwrs, oedd Rali Cymru GB, a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn y gorffennol. Cyfrifwyd bod hwnnw wedi cael effaith flynyddol o tua £10 miliwn ar yr economi yng ngogledd Cymru—dyna £10 miliwn o arian newydd a swyddi newydd.
Ond wrth gwrs, mae angen llu o'r mathau hyn o ddigwyddiadau, ac mae angen pobl fedrus i drefnu a chydweithio. Digwyddiad a ddenwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd pencampwriaethau rali'r byd, a dros y blynyddoedd, mae'r cyngor hwnnw wedi meithrin arbenigedd ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi denu—ac fe restraf rai o'r pethau hyn—pencampwriaeth rhedeg mynydd a phellteroedd eithafol y Gymanwlad; pencampwriaeth y byd rhedeg llwybr; pencampwriaeth y byd pysgota'r glannau; pencampwriaeth y byd rhedeg mynydd, ras y meistri; cyflwyniad tîm Tour of Britain y byd beicio; a chyngherddau blynyddol gan fawrion fel Syr Tom Jones, Syr Elton John, Lionel Richie, Bryan Adams a band merched mwyaf y byd, yn ôl yr hyn rwy'n ei glywed, Little Mix. Cynhaliwyd Proms in the Park y BBC yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf hefyd. Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy helpu i ddenu her Red Bull Unleashed a her syrffio proffesiynol y DU yn Surf Snowdonia; cawsant y pentref ar gyfer pencampwriaethau rali'r byd a rownd gyn-derfynol pencampwriaethau rali'r byd. Hyn i gyd, yn ogystal â phethau fel Strafagansa Llandudno, y mae'r Aelod dros Aberconwy bob amser yn awyddus iawn i'w gefnogi, a gŵyl fwyd Conwy, y mae pob un o'r Aelodau bob amser yn awyddus i'w chefnogi.
Ond mae llawer o'r digwyddiadau hyn, digwyddiadau mawr sy'n digwydd yn ystod yr hyn sy'n draddodiadol yn dymor tawel i ymwelwyr â'r rhanbarth, wedi cynnal gwestai, wedi cynnal bwytai, wedi cynnal tafarndai a siopau lleol, gan gynyddu eu masnach ar adegau o'r flwyddyn sydd fel arfer yn dawelach, a chynhyrchu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi. Yn fy mhrofiad i, ni fyddai'r digwyddiadau hyn wedi digwydd heb weledigaeth uchelgeisiol a bwriadol gan awdurdod lleol; ond hefyd, i fod yn deg, heb waith partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, a'r ddau bartner, boed yn sector preifat neu sector cyhoeddus, yn barod i fuddsoddi i ddenu'r digwyddiadau yma i'r rhanbarth. Unwaith eto, Weinidog, i fod yn deg, dangoswyd bod yr uchelgais hwn gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiant ar brydiau mewn blynyddoedd a fu, ac ni ddylid ei ddiystyru na chefnu arno.
Dyna pam rwy'n awyddus i gefnogi'r cynnig heddiw, i weld ein bod yn dysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda yn y gorffennol, yn arbennig y gwaith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r sector preifat, i wneud yn siŵr nad ydym yn colli golwg ar weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr hyn sy'n gweithio'n dda yma yng Nghymru, ac fel nad ydym hefyd yn colli'r sgiliau pwysig, y profiad a'r angerdd sy'n bodoli eisoes, ac y gellir adeiladu arnynt yn ein cymunedau, i wneud y gorau o ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, a diolch i'r Ceidwadwyr am gynnig y ddadl hon heddiw. Bydd fy ffocws, gobeithio, o ddiddordeb i'r Siambr. Rwy'n mynd i ddechrau gyda dyfyniad gan grŵp theatr sy'n trefnu theatr yn seiliedig ar ein hanes a'n diwylliant—yr elfen dreftadaeth yr oedd fy nghyd-Aelod Luke yn sôn amdani. Maent yn galw eu hunain yn Contemporancient Theatre, 'Heb Hanes, Heb Hunaniaeth'—heb hanes, heb ein hunaniaeth, ni wyddom o ble y daethom.
Nawr, mae yna berthnasedd i hynny, Weinidog, a deuaf ato yn y man, oherwydd cyfarfûm yr wythnos diwethaf â'r dramodydd, yr actor a'r cyfarwyddwr, Vic Mills, a'r bardd, y nofelydd a'r academydd, yr Athro Kevin Mills, sy'n arwain y cwmni theatr hwn. Oherwydd y flwyddyn nesaf maent yn creu theatr yng nghwm Garw, yn fy etholaeth i, a fydd yn dathlu trichanmlwyddiant geni Dr Richard Price, y deuaf ato'n fwy manwl yn y man. Oherwydd pe baem eisiau eicon clasurol o Gymru, eicon sy'n fwy adnabyddus, mewn gwirionedd, y tu hwnt i'n gwlad ni, gan gynnwys mewn llefydd fel America, lle rydym eisiau adeiladu cysylltiadau'n fyd-eang ac yn rhyngwladol, mae Richard Price yn ticio'r bocsys i gyd, ac fe egluraf pam yn y munud. Ond maent hwy, ynghyd â Huw Williams, sy'n uwch ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn llwyfanu nid yn unig y ddrama a fydd yn teithio y flwyddyn nesaf drwy ysgolion, drwy ganolfannau cymunedol ac yn y blaen, ond hefyd gobeithio yn dod i'r Senedd i siarad am yr hyn y maent yn ei wneud ac i Senedd y DU hefyd.
Mae Richard Price yn ddyn arwyddocaol. Nawr, y rheswm rwy'n sôn amdano yw bod y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol sydd gennym yma yn cyfeirio at ffocysau gwirioneddol ddiddorol. Felly, yr elw economaidd ar fuddsoddiad a phroffil rhyngwladol digwyddiadau—rwy'n cytuno'n llwyr; mae'n sôn am gyrhaeddiad rhyngwladol a thargedau digwyddiadau, felly dylem eu mesur yn ôl faint o broffil rhyngwladol y maent yn ei gynhyrchu, gan gefnogi a lleoli Cymru yn ei thro fel cyrchfan i ysbrydoli ymweliadau yn y dyfodol; mae'n sôn am sylw rhyngwladol ar y cyfryngau, a gynhyrchir yn benodol gan ddigwyddiadau mewn marchnadoedd o ddiddordeb; ymwybyddiaeth brand o Gymru; a digwyddiadau a gynhelir yn y tymor llai prysur ar dwristiaeth ac yn y blaen. Mae Dr Richard Price, athronydd ac ati yn ticio'r holl flychau hynny, Weinidog.
Felly, y pwynt rwy'n mynd i ddod ato ar ddiwedd fy ngeiriau byr yma heddiw yw i geisio gofyn am gyfarfod gyda chi, oherwydd rydym yn ceisio gwneud digwyddiadau lleol yma y flwyddyn nesaf, yng nghwm Garw, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd gyda llaw, sydd wedi rhoi arian tuag at hyn—ond mae angen inni edrych ar beth y gallwn ei wneud gydag eiconau fel hyn o Gymru i ddatblygu'r cyrhaeddiad rhyngwladol hwnnw hefyd. Felly, ceir pennod yn eich strategaeth sy'n ymdrin â dilysrwydd, digwyddiadau sy'n dda i Gymru, sy'n adlewyrchu a dathlu'r pethau sy'n ddilys Gymreig ym mhob agwedd, ac mae'n sôn am sicrhau y bydd diwylliant ac iaith Cymru yn cael eu cynrychioli mewn digwyddiadau yng Nghymru, gan helpu i adrodd straeon Cymru i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae'n sôn am gyflwyno mwy o ymdeimlad o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau, drwy, er enghraifft, y dirwedd, arfordir, hanes, diwylliant ac yn y blaen—dathlu eiconau Cymreig i ddatblygu cynigion cryf ar gyfer digwyddiadau.
Felly, gadewch i mi droi at y Dr Richard Price. Soniais amdano yn y Siambr o'r blaen, ond nid yw'n adnabyddus iawn yma yng Nghymru. Mae'n debyg ei fod yn fwy adnabyddus yn ystod ei oes, ac fe gâi sylw'n fynych mewn gwirionedd mewn cartwnau ac erthyglau yn ei erbyn yn The Times a phapurau newydd eraill y dydd am ei fod yn ddraenen yn ystlys y sefydliad. Rwy'n ddyledus i'r Athro Kevin Mills am ddarn rhagorol a ysgrifennodd ar Dr Richard Price o Langeinwr, a aned ar fferm Tynton i deulu mawr, cyn gwneud ei ffordd i Lundain—fe gerddodd i Lundain, yn ôl y sôn. Roedd yn feddyliwr rhydd radicalaidd ac yn bregethwr; roedd yn feddyliwr gwleidyddol; yn fathemategydd. Mae wedi cael ei alw'n feddyliwr mwyaf dylanwadol Cymru. Yn ei eiriau ef, o'r erthygl hon gan yr Athro Mills, meddai Dr Price,
'Nid oes gair yn yr holl ieithoedd sy'n mynegi cymaint o'r hyn sy'n bwysig ac yn rhagorol... Ni all dim fod mor bwysig i ni â rhyddid. Dyna yw sylfaen pob anrhydedd, a phrif fraint a gogoniant ein natur.'
Dyna pam ei fod yn ddraenen yn ystlys y sefydliad; dyna pam ei fod yn cefnogi'r chwyldro Ffrengig; dyna pam ei fod yn cael ei ystyried yn un o sylfaenwyr y chwyldro Americanaidd a chyfansoddiad America; dyna pam ei fod nid yn unig yn feddyliwr gwleidyddol blaenllaw, ond hefyd yn feddyliwr mathemategol, ac yn gyfrannwr pwysig i ddamcaniaeth tebygolrwydd, theorem Bayes, sy'n sail i'r modd y caiff premiymau yswiriant eu hysgrifennu hyd heddiw, ac mae ei gyrhaeddiad yn America yn enfawr.
Lywydd, wrth gloi fy sylwadau, rwyf am ddweud yn syml fod Dr Richard Price yn un o eiconau Cymru a'i diwylliant a'i threftadaeth y byddai'n dda inni eu dathlu, nid yn unig yma yng Nghymru, ond i estyn allan at ein cefndryd yn America hefyd, oherwydd eu bod yn ei adnabod yn dda iawn, ac mae angen inni ddod â hwy yma i weld lleoliad ei eni ac i weld y digwyddiadau y gallwn eu cynnal yn ei enw.
Rydym i gyd yn gwybod am y manteision y gall cynnal digwyddiadau mawr yma yng Nghymru eu cynnig. Mae digwyddiadau mawr yn creu cyfleoedd i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau, ledled Cymru, i rannu yn y manteision economaidd a gynhyrchir a rhoi cyfle i arddangos Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
Mae gan Gymru leoliadau o safon fyd-eang eisoes, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Gwesty'r Celtic Manor, Venue Cymru a'r Arena Abertawe newydd, ond yn anffodus mae hanes Llywodraeth Cymru o ddod â digwyddiadau mawr i Gymru yn dameidiog a dweud y lleiaf. Y rheswm am hyn yw bod dull Llywodraeth Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru wedi ei nodweddu, ysywaeth, gan ddiffyg uchelgais. Trwy fethu bachu potensial economaidd llawn cynnal digwyddiadau mawr, mae pobl Cymru wedi cael cam dro ar ôl tro. Fe wnaeth un o'r digwyddiadau mawr mwyaf llwyddiannus, Cwpan Ryder, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor yn 2010, chwistrellu dros £80 miliwn i economi de Cymru. Denwyd nifer fawr o wylwyr i'r lleoliad, ac fe wyliwyd y digwyddiad gan filiynau o bobl ar y teledu yma a thramor, gan godi proffil Cymru yn y pen draw. Yn 2014, gwnaeth yr un lleoliad gynnal uwchgynhadledd NATO, digwyddiad y dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones, fod gwerth y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn ei sgil i Gymru yn llythrennol anfesuradwy.
Yn anffodus, eithriadau yw digwyddiadau mawr o'r fath a gynhelir yng Nghymru. Yn ei gyfraniad, cyfeiriodd fy nghyd-Aelod Paul Davies at fethiant i gynnig am, a chynnal y gystadleuaeth Eurovision yma yng Nghaerdydd. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi galw dro ar ôl tro ar i Gymru wneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026 neu hyd yn oed 2030. Y tro diwethaf i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal yng Nghymru oedd ym 1958. Bydd dod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru unwaith eto yn gwella ein henw da am lwyfannu digwyddiadau rhyngwladol. Ym mis Gorffennaf 2016, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb i gynnal y gemau. Daeth i'r casgliad fod cais yn dechnegol bosibl pe bai modd goresgyn yr heriau logistaidd. Mae'r heriau hyn yn cynnwys y gemau a'r digwyddiadau'n cael eu cynnal dros ardal ddaearyddol ehangach. Ond byddai hyn yn fantais, oni fyddai, gan sicrhau budd economaidd ar draws Cymru ac nid i un rhanbarth bach yn unig.
Efallai y bydd strategaeth uchelgeisiol ar gyfer digwyddiadau mawr hyd yn oed yn rhoi cymhelliant i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddatrys problem trafnidiaeth gronig Cymru o'r diwedd. Mae cyngherddau diweddar yng Nghaerdydd gan Tom Jones, y Stereophonics ac Ed Sheeran yn amlwg wedi dangos diffygion ein systemau trafnidiaeth. Roeddem i gyd yn dystion i'r anhrefn lwyr pan lwyfannodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, roedd modurwyr yn methu symud o'u meysydd parcio oherwydd y tagfeydd ynghanol y ddinas, a gadawyd llawer o bobl yn gaeth ar blatfformau trenau am oriau bwy'i gilydd am nad oedd ein rhwydwaith rheilffyrdd fregus yn gallu ymdopi â'r galw. Daeth Caerdydd a'r cyffiniau i stop. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fo pobl yn cael eu hannog i beidio â mynd ar y trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Nod y strategaeth flaenorol ar gyfer digwyddiadau mawr, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd
'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau.'
Mae'r strategaeth honno wedi methu'n llwyr. Ond Weinidog, un digwyddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi yw gŵyl y Dyn Gwyrdd. Rhwng 2010 a 2019, cafodd Green Man a'i gwmnïau cysylltiedig gymorth ariannol gwerth £921,000 gan eich Llywodraeth. Daw hyn ar ben y £4.25 miliwn a wariwyd gennych ar brynu fferm Gilestone. Mewn cyferbyniad, er cymhariaeth i'r holl Aelodau yma heddiw a thu hwnt, dim ond £14,950 a dderbyniodd Glastonbury, gŵyl y mae pawb ohonom wedi clywed amdani, yn 2019 i 2020, a £14,500 yn y flwyddyn flaenorol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
I mi a phobl sy'n hoff o ddigwyddiadau, mae'n drist iawn fod rhai digwyddiadau'n cael ffafriaeth dros eraill gan Lywodraeth Cymru, a'r unig ffordd y gallwn ragori yw os ydym yn rhoi cyfle cyfartal i Gymru pan ddaw'n fater o gynnal digwyddiadau mawr. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwch weld yn awr mai ychydig iawn o hyder sydd gennym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, y bydd eich strategaeth newydd yn cyflawni ei nodau mewn gwirionedd. Y cyfan sy'n ddiffygiol yw uchelgais a'r ewyllys i lwyddo. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn cyngor William Shakespeare: dylai uchelgais gael ei wneud o ddeunydd cadarnach. Diolch.
Mae fy nghyd-Aelodau wedi tynnu sylw at rai o'r diffygion. Rwy'n mynd i siarad am rai o'r pethau cadarnhaol, rwy'n meddwl, ar draws Cymru. Wyddoch chi, rwy'n falch iawn mewn gwirionedd o'r digwyddiadau mawr sydd wedi dod i fy etholaeth? Rwy'n edrych ar ŵyl lenyddol y Gelli sy'n dod â £70 miliwn i mewn i'r economi leol. Rwy'n adnabod llawer o bobl ar y meinciau hyn ac eraill sy'n mwynhau Sioe Frenhinol Cymru, y sioe amaethyddol, sy'n amlygu manteision economaidd amaethyddiaeth i Gymru. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad, Huw, os ydych chi'n codi eich llaw i wneud hynny.
Ie, diolch am ildio, James. Sori, mae'n bwnc yr arferwn ddarlithio arno flynyddoedd yn ôl. Yn amlwg, nid y digwyddiadau enfawr sy'n ennill yr arian mawr i Gymru ccc neu'r DU ccc, ond y digwyddiadau rheolaidd, blynyddol, y rhai yr oeddech chi'n sôn amdanynt. Y rheini yw'r sylfaen, nid yn unig i'n cymunedau lleol, ond i ysgogi enillion economaidd dro ar ôl tro mewn gwirionedd. Nid y digwyddiadau un-tro, ond y digwyddiadau rheolaidd, blynyddol.
Mae hynny'n wir iawn, Huw. Rwy'n gwybod bod 13.2 y cant o bobl yn fy etholaeth i'n cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth. Mae llawer o'r dwristiaeth honno yn y Gelli Gandryll, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt a rhannau eraill o fy etholaeth yn dibynnu ar dwristiaeth reolaidd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i hyrwyddo twf economaidd, felly rwy'n derbyn y pwynt hwnnw.
Ond mae gennym wyliau cerddorol ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae gennym hefyd gymalau o'r Tour of Britain yn dod drwodd gyda'r beicio. Gwn yn ddiweddar i fudiad y ffermwyr ifanc wneud eu taith clybiau ffermwyr ifanc sir Frycheiniog, y cymerais ran ynddi. Rwy'n ei gyfrif yn ddigwyddiad mawr oherwydd roeddwn i yno. [Chwerthin.]
Ond un o'r pethau rwy'n dwli fwyaf arno yw golff—nid chi, Tom Giffard—a dartiau. Ac roeddwn yn falch iawn ein bod wedi cael Dartiau'r Uwch Gynghrair yng Nghaerdydd y llynedd, gan dynnu sylw pobl Cymru a'r byd at y ffaith bod Cymru'n lle sy'n dwli ar ei dartiau. Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn hoff iawn o'i dartiau, ac rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn y Siambr hon yn mwynhau dartiau hefyd.
Rwy'n credu eich bod yn gor-ddweud pethau braidd.
Mae cael y digwyddiad rheolaidd hwnnw'n dod yn ôl ac ymlaen i Gymru yn wych. Hoffwn weld mwy o ddigwyddiadau dartiau mawr yng Nghymru, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny. Ond mae'n debyg mai golff yw fy nghariad mwyaf mewn bywyd, byddwn yn meddwl—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am ddweud hynny wrth fy nghariad. [Chwerthin.] Rwy’n treulio llawer o fy amser ar y cwrs golff, ac nid yw’n hapus iawn am hynny ychwaith. Ond fel y dywedodd Natasha Asghar, fe wnaeth Cwpan Ryder 2010 roi Cymru ar fap y byd o ran golff, a bellach, mae Cymru’n cael ei hystyried yn un o’r cyrchfannau golff gorau yn y byd. Mae pethau wedi deillio o Gwpan Ryder 2010. Rydym wedi gweld y gystadleuaeth agored i ddynion hŷn yn dod i Gymru, gyda'r golffwyr gorau o bob cwr o'r byd yn dod yma, a gwelsom Bernhard Langer yn ennill yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, gyda'r golffwyr gorau i gyd yn dod i Gymru.
Ond rhywbeth yr hoffwn ei weld, ac efallai y gallai’r Gweinidog roi sylw i hyn yn ei araith i gloi, yw Cwpan Solheim, sef y gystadleuaeth i fenywod sy'n cyfateb i Gwpan Ryder. Mae wedi bod yma unwaith o'r blaen, a gwn eu bod yn chwilio am leoliad, felly hoffwn wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio denu Cwpan Solheim yn ôl i Gymru, i hyrwyddo golff menywod, a'r gwerth y mae hynny'n ei gyfrannu at wella chwaraeon menywod ledled y byd. Hoffwn wybod hefyd pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Royal and Ancient i ddod â'r Bencampwriaeth Agored i Gymru. Mae wedi bod yn yr Alban, mae wedi bod yn Lloegr, mae wedi bod yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rwy'n credu ei bod yn hen bryd i Gymru gynnal y twrnament golff agored i ddynion.
Ni allaf anghofio'r Prif Weinidog yn sôn am ei gariad at griced yn ddiweddar. Cawsom gystadleuaeth The Hundred yn dod i Gaerdydd, ac fe euthum i’w gwylio, ac rwy’n siŵr yr hoffem weld mwy o ddigwyddiadau criced mawr yn dod i Gymru a mwy o gemau prawf, felly efallai y gall y Gweinidog wneud sylwadau ar hynny. Mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn bwysig tu hwnt i Gymru. Maent yn amlygu cymaint o genedl chwaraeon ydym ni. Nid rygbi yw popeth, nid pêl-droed yw popeth, ond fel y dywedodd Huw, mae'n ymwneud â’r digwyddiadau llai sy'n golygu cymaint i bobl Cymru ac economi Cymru.
Y Gweinidog i gyfrannu i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan ei bod yn rhoi cyfle imi dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau i Gymru, a'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein gweledigaeth fel y’i hamlinellir yn y strategaeth digwyddiadau cenedlaethol newydd. Ein huchelgais yw bod Cymru’n cynnal digwyddiadau ardderchog sy’n cefnogi llesiant ein pobl, ein lle a’r blaned. Ni ddylai synnu unrhyw un na fyddaf yn cefnogi’r cynnig, na'r gwelliant yn wir.
Cyn manylu rhagor, credaf iddi fod yn gyfres ryfedd o areithiau gan y Ceidwadwyr, gan iddynt ddweud ar y naill law fod gennym yr holl ddigwyddiadau gwych hyn yn dod i Gymru, ac mae pob un o’r digwyddiadau a grybwyllwyd, bron â bod, wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, ac yna maent yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Ac ar yr un pryd, mae gennym her fawr realiti ein hadnoddau ariannol, sy'n golygu bod rhaid ichi ddewis. Rhaid ichi flaenoriaethu. Ni allwch wneud popeth. A'r hyn y ceisiwn ei wneud yw sicrhau'r elw mwyaf posibl ar bob un o'r digwyddiadau a gefnogwn.
Ar Eurovision, dylwn egluro na fyddai unrhyw gyfleuster arall yng Nghymru, ar wahân i’r stadiwm yng Nghaerdydd, wedi bod yn ddigon mawr, ac wrth gwrs, mae ganddi hanes cryf iawn o gynnal digwyddiadau mawr. Ond oherwydd cymhlethdod llwyfannu’r digwyddiad, y gofynion yn sgil gwneud hynny, yn ogystal â'r ffaith bod nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yn Stadiwm Principality, yr her oedd y byddai’n rhaid canslo’r digwyddiadau hynny, gan gynnwys pencampwriaethau rygbi cadair olwyn Ewrop, er enghraifft; artist rhyngwladol mawr a oedd wedi'u cytundebu i ymddangos; a digwyddiadau eraill. Ochr yn ochr â'r cyngor a'r stadiwm, fe wnaethom archwilio amrywiaeth o opsiynau, i weld a allem gynnwys y digwyddiad ochr yn ochr â'r amserlen bresennol, ond nid oedd yn bosibl. Felly, fe wnaethom bopeth y gallem ei wneud, yn ymarferol, i geisio denu cystadleuaeth Eurovision, a byddwn wedi bod yn falch iawn o fod wedi mynychu fy hun, fel cefnogwr Eurovision brwd, er bod hynny'n dân ar groen fy ngwraig.
Ond wrth gwrs mae gennym ddiwydiant digwyddiadau ffyniannus, fel y dangosodd nifer o areithiau'r Ceidwadwyr. Rydym bob amser yn agored i drafodaethau ynghylch dod â digwyddiadau mawr i Gymru, ac yn wir, cynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau lleol. Gŵyr pob un ohonom fod ystod lawn o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon a busnes yn rhan hanfodol o’n heconomi ehangach. Mae Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn cefnogi digwyddiadau ledled Cymru drwy Digwyddiadau Cymru sy’n helpu i ysgogi effaith economaidd gadarnhaol. Rydym hefyd yn arddangos lleoliadau o safon fyd-eang, yn rhoi sylw i’n dinasoedd, ein trefi, ein cymunedau, ac fel y dywedwyd, yn tynnu sylw at ein tirweddau bendigedig mewn gwahanol rannau o’r wlad.
Y ffaith ein bod yn cydnabod rôl hanfodol digwyddiadau yng Nghymru, i’r bobl ac i’r economi yw'r rheswm pam y gwyddom fod y sector wedi’i daro’n galed gan y pandemig. Dyna pam fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector gyda £24 miliwn i gefnogi mwy na 200 o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes a chyflenwyr technegol drwy'r gronfa adferiad diwylliannol. A byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r diwydiant gan ein bod yn dal i wynebu nifer o heriau yn ogystal â chyfleoedd. Mae’r heriau hynny’n cynnwys yr argyfwng costau byw, realiti newydd Brexit sy'n dal heb ei gwblhau, prinder staff a gwirfoddolwyr, ac mae’r rheini’n real ac yn parhau. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru i oroesi gan edrych hefyd tua'r dyfodol. Dyna pam ein bod yn datblygu digwyddiadau a chyflenwyr Cymreig. Dyna pam ein bod yn dal i ddenu digwyddiadau rhyngwladol, er mwyn gwella ein henw da fel cyrchfan digwyddiadau blaenllaw. Dyna pam y mae ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r sector yn parhau, drwy'r strategaeth newydd, a hyd yn oed yn fwy felly, drwy'r ffaith bod y strategaeth newydd wedi'i chreu mewn partneriaeth â'r sector. Bydd cadeirydd profiadol o'r diwydiant yn bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r strategaeth hefyd.
Mae’r strategaeth yn ailbwysleisio ein henw da yng Nghymru fel cenedl ddigwyddiadau ar lwyfan y byd. Mae gennym uchelgeisiau clir i sicrhau ein bod yn cyflawni dull Cymru gyfan, i wneud y gorau o’n hasedau amrywiol i gefnogi gwasgariad daearyddol a thymhorol—rwy’n falch fod hynny wedi cael sylw mewn nifer o areithiau—digwyddiadau cynhenid a rhyngwladol, o'r byd chwaraeon, busnes, diwylliant a ledled Cymru gyfan, sy’n helpu i ddathlu ein diwylliant Cymreig unigryw. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn yr ymyriad.
Mae'n ddrwg gennyf am dorri ar eich traws. Hoffwn ddweud, Weinidog, onid ydych yn credu bod angen inni fanteisio cymaint ag y gallwn, yn enwedig ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, drwy fuddsoddi hefyd mewn cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad? Oherwydd os ydym yn ysgogi'r holl ddiddordeb hwn mewn chwaraeon—er enghraifft, pêl-droed, neu beth bynnag—mae'n drueni mawr nad yw rhai pobl ledled Cymru yn gallu cymryd rhan yn y gamp honno yn eu hardaloedd lleol gan fod y cyfleusterau mor wael.
Dyna pam ein bod yn buddsoddi £24 miliwn o gyfalaf mewn cyfleusterau llawr gwlad. Dyna pam ei bod yn gymaint o drueni fod yr adolygiad o wariant wedi torri ein cyllideb gyfalaf. Hoffem wneud mwy, wrth gwrs, ond golyga hynny fod angen yr adnoddau arnom i wneud mwy, yn hytrach na bod Llywodraeth y DU yn mynd â'n hadnoddau oddi wrthym. Roedd diddordeb gennyf yn y modd y tynnodd Huw Irranca-Davies sylw at Dr Richard Price. Rwyf i fod i gael cyfarfod gyda Huw Irranca-Davies ar nifer o bynciau, felly fe ychwanegaf un arall at y rhestr. [Chwerthin.]
Mae gennym lawer o brofiad o gynnal digwyddiadau mawr yn llwyddiannus wrth gwrs, o WOMEX i NATO, prawf y Lludw, Cwpan Ryder a rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, i enwi ond ychydig, a chwaraeodd Llywodraeth Cymru rôl allweddol yn denu a chynnal pob un ohonynt. Ni fyddech wedi meddwl hynny o hanner areithiau’r Ceidwadwyr. Ond yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, fe wnaethom helpu i ddenu'r digwyddiad WWE Clash at the Castle. Roedd hwnnw’n ddigwyddiad mawr—strafagansa adloniant chwaraeon rhyngwladol o'r Unol Daleithiau yn y DU am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Ac mewn gwirionedd, rhan o'r rheswm y daethant i Gymru oedd oherwydd, er gwaethaf yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud ynglŷn â'n gallu i ddenu digwyddiadau mawr, roedd ganddynt hyder yn ein gallu i wneud hynny, ac roeddent wedi sylwi ar Gymru ar lwyfan y byd oherwydd yr hyn yr oeddem eisoes wedi'i wneud yn y gorffennol.
Ac wrth gwrs, rhoddodd y digwyddiad hwnnw gyfle inni ddefnyddio llwyfannau hyrwyddo WWE i ddod â mwy o amlygrwydd i Gymru. Felly, cafodd lleoliadau twristiaeth, personoliaethau, bwyd a diod a’r iaith oll sylw cyn y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad hefyd, a chawsant eu darlledu’n fyw ledled y byd yn ystod y digwyddiad ei hun. Ac nid y stadiwm a Chaerdydd yn unig a gafodd sylw, gan fod gorllewin Cymru, gogledd Cymru, canolbarth Cymru a de Cymru y tu hwnt i'r brifddinas hefyd wedi cael sylw. A chredaf fod hynny'n rhan o'r hyn y gallasom ei wneud drwy weithio gyda hwy. Mae'n rhan o'r rheswm pam y gwnaethom gefnogi'r digwyddiad, oherwydd y sylw enfawr a gafodd Cymru o ganlyniad iddo, ac nid yn unig i'r 62,000 o bobl a ddaeth i Gymru o 42 o wledydd ar gyfer y digwyddiad ei hun. Mae'n werth nodi, ar noson y digwyddiad, mai dyma'r eitem fwyaf poblogaidd yn y byd ar Twitter. A byddaf yn hapus i gyhoeddi mwy o wybodaeth am y gwaith monitro ar ôl y digwyddiad, gan gynnwys yr asesiad o’r effaith economaidd, nad yw wedi’i gwblhau eto. Ac yn wir, ar ôl Qatar, wrth gwrs y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a'r cyhoedd am effaith ein gweithgarwch i hyrwyddo Cymru o amgylch cwpan pêl-droed y byd i ddynion. Byddaf hefyd yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau cyn dechrau'r bencampwriaeth.
Digwyddiad arall a gefnogir gennym, nad yw’n ddigwyddiad mor fawr â chwpan y byd neu WWE, yw Pencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a'r Rowndiau Terfynol Sbrintiau Traeth, y gwn fod pawb yn edrych ymlaen atynt. Mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Gwyddwn y byddai diddordeb o'r ochr hon, gan fod hon yn enghraifft arall o'n huchelgais a'n harloesedd ledled y wlad. Mae'r digwyddiad wedi dod yn un o'r digwyddiadau rhwyfo cyntaf o'i fath yn y byd i gyflawni safon Sefydliad Rhyngwladol er Safoni 20121. Efallai nad yw hynny'n golygu llawer i bobl yma, ond yn y sector digwyddiadau, mae'n ardystiad cynaliadwyedd gwerthfawr. Mae'n cydnabod ymrwymiad y digwyddiad i leihau ei effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ym mhob agwedd ar gynllunio a chyflawni digwyddiadau. Mae'r trefnwyr wedi ceisio hybu a hyrwyddo'r economi leol bob amser, gan fod yn sensitif i warchodfeydd natur a daeareg bwysig yr ardal. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen wrth siarad am yr hyn y gallwn ei wneud ac yr ydym wedi’i wneud o fewn y sector digwyddiadau yma yng Nghymru, ond credaf y gallwn fod yn falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym yma yng Nghymru, gydag uchelgais gwirioneddol yn y strategaeth newydd, ac edrychaf ymlaen at adrodd ar lwyddiant rhagor o ddigwyddiadau mawr, digwyddiadau lleol, ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi’r rheini, nid yn unig yn y Siambr, ond yn eu cymunedau lleol a ledled y wlad yn y dyfodol.
Tom Giffard nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau ac i’r Gweinidog am eu cyfraniad i’r ddadl heddiw? Dywedodd Llyr Gruffydd wrthyf yn yr ystafell de yn gynharach y byddai’r ddadl hon yn ddigwyddiad mawr ynddo’i hun, ac rwy'n credu ei fod wedi’i brofi’n hollol gywir. [Chwerthin.]
I grynhoi rhai o’r cyfraniadau, cyfeiriodd Paul Davies yn ei sylwadau agoriadol at gyflawniad godidog tîm Cymru, ac rwyf am ailadrodd fy nymuniadau da iddynt cyn eu hymgyrch yng nghwpan y byd yn Qatar. Ac ar gwpan y byd, rhaid imi ddweud fy mod yn dal yn siomedig nad yw ymgyrchoedd llawr gwlad wedi gallu bod yn rhan o'r gronfa cefnogi partneriaid cwpan y byd pan gafodd ei chyhoeddi yr wythnos diwethaf. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi gallu cynnwys pobl ledled Cymru. Mae hefyd yn siomedig clywed na fydd parthau cefnogwyr swyddogol yn cael eu cynnal i nodi'r digwyddiad, a byddwn yn annog y Llywodraeth i weithio gyda chynghorau ledled Cymru i sicrhau bod hynny yn digwydd.
Aeth Paul ymlaen hefyd i sôn am y strategaeth digwyddiadau mawr a sut y gallwn sicrhau’r budd economaidd mwyaf yn sgil y digwyddiadau hyn. Fel y crybwyllwyd, mae llawer o ddigwyddiadau diwylliannol mawr yn cael eu cynnal bob blwyddyn, a gallwn fanteisio ar y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal—nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn Abertawe, yng ngogledd Cymru, yn y canolbarth, yn y gorllewin hefyd. Hoffwn adleisio'i alwad y dylid ailystyried y strategaeth gyda ffocws ychwanegol ar sut y gallwn sicrhau ei bod yn cynnwys mwy o ddyhead ac arloesedd. A thrwy’r arloesedd a’r dyhead hwnnw, soniodd fy nghyd-Aelod Natasha Asghar am y digwyddiadau diweddar a ddaeth â Chaerdydd i stop, yn anffodus, yn ystod cyngherddau Ed Sheeran a’r Stereophonics, a achosodd hafoc llwyr gyda’n rhwydweithiau trafnidiaeth, gyda rhai pobl, fel y dywedodd, yn methu symud am oriau, ac wedi colli'r cyngerdd yn y pen draw, neu wedi cyrraedd adref yn hwyr iawn.
Mae angen dull gweithredu cydgysylltiedig ym mhob un o’r strategaethau digwyddiadau mawr i sicrhau’r refeniw mwyaf posibl er mwyn i’r ddinas gyfan, y dref gyfan, neu’r ardal gyfan allu elwa o'r digwyddiad mawr hwnnw pan ddaw i Gymru. Mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio ar ddiddordebau pobl pan fyddant yn teithio i'n dinasoedd a'n trefi ac yn gwerthu rhannau eraill o'n gwlad pan fyddant yma. Roedd hynny'n berthnasol iawn pan gynhaliwyd digwyddiad diweddar WWE Clash at the Castle yng Nghaerdydd fis diwethaf. Yma, cawsom gyfle i ennyn diddordeb pobl yn ein rhyfeddodau diwylliannol ac nid eu canoli yng Nghaerdydd yn unig.
Hefyd, soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies am y ffaith ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn cuddio y tu ôl i’r ffigurau a ddaeth â’r digwyddiad yma yn y lle cyntaf. Clywais y Gweinidog yn ei ymateb yn sôn am sicrhau’r enillion mwyaf o'r digwyddiadau a gefnogwn, sy’n swnio fel uchelgais gwerth chweil, ond nid ydych wedi dweud wrthym faint y gwnaethoch ei wario arno yn y lle cyntaf, Weinidog. Sut y byddem yn gwybod eich bod wedi sicrhau'r elw mwyaf posibl ar ddigwyddiad o'r fath? Mae gwario arian trethdalwyr ar ddod â brand byd-eang o’r fath i Gymru yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae’n wirioneddol bryderus gweld Llywodraeth Cymru yn bod yn aneglur mewn perthynas â rhyddhau’r ffigurau hynny, fe y gallwn ni fel Aelodau’r Senedd graffu ar y buddsoddiad hwnnw a sicrhau bod y trethdalwyr yn cael gwerth am arian.
Mae hynny hefyd wedi bod yn wir yn etholaeth James Evans gyda sgandal fferm Gilestone, lle mae Gweinidogion unwaith eto wedi gwrthod bod yn onest â phobl Cymru am yr hyn sydd wedi digwydd. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus i ildio i’r Dirprwy Weinidog, os hoffai ymyrryd. Na? Na, nid oeddwn yn credu hynny. Caiff y cyhoedd yng Nghymru a'r gwaith o graffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth eu diystyru'n llwyr gan wneud inni feddwl tybed beth sy'n digwydd mewn gwirionedd wrth ddenu’r digwyddiadau mawr hyn i Gymru pan ddylem fod yn gweithio gyda’n gilydd i’w gwneud yn llwyddiant yn y lle cyntaf. Rhoddodd Sam Rowlands restr wych o'r holl ddigwyddiadau a ddaeth i'w ardal pan oedd yn arwain cyngor Conwy—
A wnewch chi ildio?
Yn sicr.
Rwy'n mwynhau llawer o'r hyn a ddywedwch—
Byddwn yn disgwyl hynny. [Chwerthin.]
Ond nodaf fod peth o'r feirniadaeth ynghylch y cymorth a roddir i ddigwyddiadau—. Pan ddaeth y gemau Olympaidd i Lundain—roeddwn yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Tessa Jowell ar y pryd—cafodd hynny ei watwar yn gyffredinol gan yr Aelodau Ceidwadol fel gwastraff arian, gwastraff buddsoddiad, gwastraff amser; ni fyddem byth yn ei gael. Yna pan gawsom ni ef, roedd pawb yn dathlu ac yn dweud pa mor wych oedd hyn i Brydain. Felly, hoffwn ofyn am rywfaint o chwarae teg, pan fydd Gweinidog yn penderfynu cefnogi digwyddiad a dod ag ef yma i Gymru, fel arfer, maent yn gwneud hynny gyda phob bwriad da, nid oherwydd bod rhyw gynllwyn mawr ar waith.
Ni ddywedais fod cynllwyn mawr ar waith, ond yr hyn a oedd yn bwysig iawn yn fy marn i oedd bod Llywodraeth Cymru yn agored pan fydd yn gwario arian trethdalwyr er mwyn inni allu penderfynu a gafodd yr arian ei wario’n dda. Ni chredaf fod hwnnw'n gysyniad newydd.
Siaradodd Luke Fletcher yn rhagorol, yn fy marn i, gan ddweud mai'r diwylliant, y dreftadaeth a’r iaith yw'r atyniadau cryfaf, ac mae sicrhau sylw priodol i'n hunaniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n fwy na pharod i ildio i’r Prif Weinidog os hoffai wneud ymyriad, hefyd. [Chwerthin.] Soniodd Huw Irranca-Davies am bwysigrwydd digwyddiadau rheolaidd, blynyddol, ac roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn clywed yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud am Dr Richard Price yn ogystal. Credaf y bydd James Evans mewn trwbl pan fydd yn cyrraedd adref ar ôl sôn am y cariad mwyaf yn ei fywyd, ond dywedodd lawer iawn am y digwyddiadau lleol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Yn olaf, gwnaeth Laura Anne Jones bwynt rhagorol am waddol ehangach digwyddiadau mawr; sut yr ydym yn gadael ôl troed sydd o fudd gwirioneddol i bobl Cymru.
Ac yn olaf, soniodd Paul Davies am yr angen am agwedd gadarnhaol gan Lywodraeth Cymru tuag at ddigwyddiadau mawr, ac mae’r diffyg uchelgais hwnnw wedi bod yn amlwg hefyd wrth i Lywodraeth Cymru fethu cydgysylltu cynllun hyd yn oed i ddod â chystadleuaeth Eurovision i Gymru. Mae gennym arenâu sy’n gallu cynnal digwyddiadau rhyngwladol ledled Cymru, ac mae’r diffyg uchelgais hwnnw wedi bod yn amlwg i bawb. Rhaid gofyn a wnaeth yr anhrefn yn ein system drafnidiaeth a thagfa ar draws dinas gyfan chwarae rhan yn y penderfyniad i beidio â dod â’r digwyddiad yma i Gymru, a gefnogwyd yn ein dadl. Rydym am ddod â’r digwyddiadau hyn i Gymru a dod â chyfleoedd pellach gyda hwy i ddatblygu ein gwlad fel un sy’n gallu denu’r digwyddiadau, y dalent a’r diwylliant gorau oll o bob cwr o’r byd.
I gloi, Lywydd, rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau uno y tu ôl i’n cynnig sydd ger ein bron heddiw, a chredaf yn gryf y gall y cynnig hwn ddangos i Gymru a gweddill y byd ein bod yn hynod optimistaidd am yr hyn y gall ein gwlad ei gyflawni. Diolch.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dŷn ni'n gorhirio'r cynnig yma tan y bleidlais.
Dwi nawr yn mynd i atal y cyfarfod dros dro er mwyn inni baratoi ar gyfer y pleidleisio.