1. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2022.
4. Beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran categori iaith y ddwy ysgol arloesol newydd dan ei her ysgolion cynaliadwy? OQ58540
Mae her yr ysgolion cynaliadwy yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd drwy arloesi a chydweithio. Gan y rhagwelir y bydd prosiectau arfaethedig o fewn rhaglen buddsoddi ysgolion a nodwyd gan awdurdodau lleol, rydym yn disgwyl i amcanion allweddol rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu gael eu hystyried hefyd, y mae hybu'r iaith Gymraeg wrth gwrs yn un ohonyn nhw.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, fe fyddwn ni yn gofyn ichi ymrwymo i sicrhau bod y ddwy ysgol hon yn rhai Cymraeg neu yn rai fydd yn dod yn ysgolion Cymraeg. Yn amlwg, mae'n allweddol bwysig. Roedden ni'n trafod wythnos diwethaf yr adroddiad 'Cymraeg 2050' a'r angen am fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg os ydyn ni am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Ond, ar yr un pryd, a ninnau mewn argyfwng hinsawdd, byddech hefyd yn disgwyl bod pob ysgol newydd, nid dim ond y ddwy newydd hon, gyda chynaliadwyedd yn ganolog iddynt. Byddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod cynlluniau ar gyfer safle newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog wedi ei gyflwyno gan gyngor Rhondda Cynon Taf. Heb os, mae dirfawr angen adeilad newydd ar yr ysgol hon, ac mae'r cynlluniau i'w croesawu. Ond rhaid imi fynegi pryder bod y cynlluniau â cheir yn ganolog iddi, gan nodi y bydd ardal gollwng benodol ar y safle, 30 o lefydd parcio ar gyfer staff a 40 o lefydd parcio ychwanegol wedi'u neilltuo ar gyfer rhieni yn ystod amserau gollwng a chasglu. Cyferbynnwch hyn â 24 o lefydd parcio beiciau a 12 lle ar gyfer parcio sgwter. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod pob ysgol newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran yr iaith a chynaliadwyedd?
Dwi'n gobeithio'n fawr iawn bod un o'r ysgolion, o leiaf, sy'n ennill y gystadleuaeth hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n dibynnu ar ba gynigion a ddaw i law, wrth gwrs, ond dyna beth fyddai fy ngobaith i, yn sicr, am resymau amlwg.
O ran yr her roedd yr Aelod yn cynnig am ysgolion yn y dyfodol, fel y bydd hi eisoes yn gwybod, mae gofyniad ar unrhyw ysgol newydd sy'n cael ei gynnig i'w hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru—mae gofyniad eu bod nhw'n sero net o ran carbon yn y dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys hefyd safonau uchel o ran active travel a mynediad at yr ysgol. Felly, mae'r canllawiau hynny eisoes yn eu lle; maen nhw'n gyhoeddus, ac mae cyfle i'r Aelod gael golwg arnyn nhw, ac, os oes ganddi unrhyw awgrymiadau pellach, byddwn i'n hapus i'w clywed nhw.
Weinidog, nod yr her ysgolion cynaliadwy yw uwchraddio’r seilwaith ysgolion presennol i'w wneud yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ond rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r tân ofnadwy a fu yn ysgol gynradd Maenorbŷr yn fy etholaeth i ddydd Llun, a achosodd ddifrod enfawr i adeilad yr ysgol. Diolch byth, ni chafodd neb ei anafu. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd arweinyddiaeth wych y pennaeth, Mrs Sharon Davies, a’i staff, a wnaeth yn siŵr fod yr holl staff a'r disgyblion yn ddiogel, ac rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddynt am eu gwaith yn hyn o beth. Ond a wnewch chi nodi pa gymorth sydd ar gael i Gyngor Sir Penfro i sicrhau y ceir cyn lleied â phosibl o darfu ar ddysgu disgyblion? A pha gymorth sydd ar gael iddynt wrth iddynt atgyweirio ac ailadeiladu’r ysgol? Diolch.
Gwelais y digwyddiad ym Maenorbŷr, ac rwy'n talu teyrnged i waith arweinwyr a staff yr ysgol yn diogelu'r bobl ifanc a sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r hyn y gallwn ei wneud i’w cefnogi lle ceir enghreifftiau penodol yn codi sy'n ychwanegol at y trefniadau cyfalaf sydd eisoes ar gael i awdurdodau. Ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn rhan o’r trafodaethau sydd eisoes yn mynd rhagddynt.