9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22

– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Ac—. O. Esgusodwch fi, Gweinidog, ydych chi'n siarad dros y Llywodraeth? A, iawn. Roedden ni o dan yr argraff y byddai'r Gweinidog addysg yn siarad.

Photo of David Rees David Rees Labour

Eitem 9, dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8094 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021-22.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:57, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y ddadl bwysig hon gyda'r Aelodau ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant ar gyfer 2021-22. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn rhoi sylw annibynnol blynyddol ar anghenion plant a'u hawliau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cynnal pwyslais cyfunol arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd ac i ystyried sut y gallwn ni barhau i wneud gwelliannau i fywydau plant a phobl ifanc Cymru.

Hoffwn ddechrau drwy groesawu ein Comisiynydd Plant newydd i Gymru, sef Rocío Cifuentes, a ddechreuodd ei chyfnod yn y swydd ym mis Ebrill eleni. Rwyf i wedi cwrdd â'r comisiynydd newydd ar sawl achlysur ers ei phenodi, ac rwy'n croesawu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i gynnal hawliau plant ers dechrau ar y rôl bwysig hon. Mae hi wedi defnyddio'r cyfnod cychwynnol hwn i gwrdd â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad ei hymarfer ymgysylltu ar raddfa fawr, Gobeithion i Gymru, a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn ac i ddylanwadu ar ei chynllun gwaith tair blynedd.

Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd, yr Athro Sally Holland, am yr holl waith y mae hi wedi ei wneud dros blant a phobl ifanc. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ei blwyddyn olaf yn y swydd, fel y cyn-gomisiynydd.

Mae'r comisiynydd yn tynnu sylw yn gywir yn ei chyflwyniad at effaith pandemig COVID-19, a nawr yr argyfwng costau byw, ar blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, a hoffwn roi sicrwydd i Aelodau y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Rhaid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi plant fod yn flaenoriaeth glir a pharhaus i'r Llywodraeth hon o hyd, ac mi fydd, gan fod hyn yn sail i gymaint o gyfleoedd bywyd, canlyniadau a rhagolygon ein pobl ifanc yn y dyfodol.

Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn glir mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant—pwerau dros y system dreth a lles— ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y comisiynydd yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU. Mae angen i bob lefel o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os ydyn ni'n mynd i gefnogi plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod yr argyfwng digynsail hwn.

Mae'r adroddiad blynyddol yn gyfle i'r comisiynydd dynnu sylw at waith y sefydliad, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at waith parhaus y comisiynydd wrth gefnogi cyrff cyhoeddus i ddilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant. Mae rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd ein gwasanaethau cyhoeddus mor bwysig, ac rwy'n croesawu ymrwymiad swyddfa'r comisiynydd i ddarparu'r gefnogaeth hon. Mae'r swyddfa wedi datblygu 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru', sef canllaw ymarferol i helpu sefydliadau i roi hawliau plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau cynllunio a darpariaeth gwasanaethau. Mae'r pum ffordd o weithio, gwreiddio hawliau plant, cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu, grymuso plant, hwyluso cyfranogiad ystyrlon a strwythurau atebolrwydd clir yn darparu fframwaith clir a chefnogol.

Rydym ni, fel sefydliad, dan arweiniad fy nghydweithiwr Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi defnyddio'r egwyddorion hyn wrth ddatblygu ein cynllun hawliau plant ein hunain, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, ond hoffwn hefyd ddiolch i'r comisiynydd a'i staff am yr holl waith a wnaethant i eirioli dros blant a phobl ifanc wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Enghraifft o hyn oedd datblygiad rhaglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd am y tro cyntaf haf diwethaf. Gan gydweithio gyda'r Urdd a Chwaraeon Cymru, llwyddodd y comisiynydd i ddod â nifer o bartneriaid allweddol ynghyd ar gyfer cyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar y ffordd orau i gefnogi adferiad ein plant a'n pobl ifanc a rhoi cyfle i'r partneriaid hynny glywed gan blant a phobl ifanc eu hunain am yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw. Fe wnaeth hyn, wedyn, gyfrannu at ddatblygiad ein rhaglen Haf o Hwyl, a oedd yn darparu gweithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer datblygiad a lles plant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe wnaethom ddarparu dros 67,000 o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy'r Gaeaf Llesiant dilynol. Ac yn ystod yr Haf o Hwyl eleni hefyd fe wnaethom ni ddarparu bwyd yn ogystal â gweithgareddau rhad ac am ddim.

Gan droi at yr argymhellion yn yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi cyflwyno 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae'r rhain yn dod o dan bedair thema: safon byw digonol; amgylchedd teuluol a gofal amgen; amddiffyniad rhag ecsbloetio a thrais; ac addysg, dinasyddiaeth a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r argymhellion hyn yn ymdrin â materion pwysig ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, eiriolaeth iechyd, plant a phobl ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal, amddiffyn plant a chyfiawnder, addysg, iechyd meddwl, trafnidiaeth a theithio i ddysgwyr. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad. Rwy'n derbyn hefyd nad yw cynnydd mewn rhai meysydd wedi bod fel y byddem wedi'i hoffi oherwydd pwysau'r pandemig ar adnoddau. Ond, ni fyddaf yn trafod manylion ymateb Llywodraeth Cymru heddiw. Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd.

Mae heddiw yn gyfle i'r Aelodau fynegi eu barn ar adroddiad y comisiynydd a rhoi sylwadau ar y meysydd mae'r comisiynydd wedi eu codi. Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau a byddwn yn ystyried y safbwyntiau hyn wrth i ni baratoi ein hymateb swyddogol. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy’n edrych ymlaen at y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd plant a'n cynnydd o ran cefnogi hawliau plant yng Nghymru. Mae rôl annibynnol y comisiynydd yn hollbwysig er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda'i swyddfa er budd holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch.

Photo of Joel James Joel James Conservative 4:04, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, ond rhaid i mi gyfaddef fy mod i wedi fy synnu braidd gan y diffyg sylwedd yn yr adroddiad hwn. Mae'n drwm iawn ar ystadegau swyddfa'r comisiynydd ac yn cynnwys rhai manylion amherthnasol, fel trafodaethau ynghylch podlediadau sy'n dod â hud a chwerthin i'r swyddfa. Byddwn i, a llawer yma rydw i’n credu, wedi gobeithio y byddai'r adroddiad blynyddol hwn, yn enwedig gan mai hwn oedd yr olaf o gyfnod y comisiynydd blaenorol, wedi rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r gwaith sydd i'w wneud o hyd a rhai argymhellion wirioneddol heriol i Lywodraeth Cymru. Er bod yr argymhellion a gynigir yn sicr yn deilwng, rwy'n credu bod y comisiynydd wedi colli cyfle yma i fod wedi gwthio llawer caletach ac i adrodd pa dystiolaeth maen nhw wedi’i darparu a pha heriau maen nhw wedi’u gosod i Lywodraeth Cymru.

Er enghraifft, yn y rhan 'sut rydyn ni'n dylanwadu' yn yr adran mynd i’r afael â thlodi plant, mae'r comisiynydd yn dweud eu bod wedi ysgrifennu llythyrau at wahanol Ysgrifenyddion Gwladol yn gofyn am gyfarfodydd, ond heb gael unrhyw lythyrau cydnabyddiaeth bod eu llythyrau wedi cael eu derbyn. Mae hyn yn ein harwain i ofyn pam nad yw swyddfa'r comisiynydd erioed wedi mynd ar ôl y cyfarfodydd hyn ymhellach, erioed wedi olrhain cydnabyddiaeth y llythyrau hyn, ac erioed wedi taro ar ddrysau'r Llywodraeth i gael eu clywed.

Mae'r comisiynydd hefyd yn disgrifio eu bod yn arsylwyr y grŵp pwyslais ar incwm, nad oes ganddo, yn ddiddorol, bwyslais na ffrwd waith penodol sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi plant, ac nid oes strategaeth na chynllun gweithredu cyfredol ar fynd i'r afael â thlodi plant, er gwaethaf galwadau dros ar ôl tro am bwyslais penodol ar y maes pwysig hwn. Rwy'n credu bod hyn yn ddiffyg cynnydd eithaf pryderus, o ystyried mai Cymru sydd â'r lefelau uchaf o dlodi plant o bob cenedl yn y DU, ac un o bob tri o blant bellach yn byw mewn tlodi, ac mae’n dangos yn benodol fod swyddfa'r comisiynydd plant naill ai'n gwbl ddi-rym i roi effaith sylweddol yn y maes hwn, neu nad yw'n herio Llywodraeth Cymru a'r DU o ddifrif yn hyn o beth. Yn syml, mae swyddfa'r comisiynydd wedi cwblhau'r ymarfer ticio blychau o ymddangos fel pe bai'n helpu i ddelio â thlodi plant drwy anfon llythyrau a gofyn am gyfarfodydd, ond yn y pen draw wedyn dydyn nhw heb fynd ar drywydd nac olrhain hyn ymhellach. Felly, rwy’n gofyn i'r Gweinidog: wrth symud ymlaen, pa ddisgwyliadau sydd gennych chi y bydd y comisiynydd plant newydd wir yn mynd i'r afael â'r broblem hon? Nid yw ysgrifennu llythyrau heb hyd yn oed gael ymateb yn mynd i fod yn ddigon da.

Gweithwyr o Gymru sydd â'r cyflogau isaf yn y DU ym mhob un diwydiant, sy'n golygu nad oes gan gartrefi o reidrwydd yr un cydnerthedd ariannol â'u cymheiriaid yn y DU. Mae'r taliadau budd-dal mae gan rai pobl yr hawl iddyn nhw werth mwy na'r cyflog y gallan nhw ei dderbyn o weithio'n llawn amser, hyd yn oed os ydyn nhw'n cael eu talu'n uwch na'r cyflog byw cenedlaethol. Ac yn y pen draw, dyma un o achosion sylfaenol tlodi plant ar raddfa eang. Gyda hyn mewn golwg, mae'n rhaid i gomisiynydd plant Cymru wthio llawer yn galetach a chael gwell dealltwriaeth o'r achosion pennaf o dlodi plant yng Nghymru.

Gan droi at lysgenhadon cymunedol, sy'n cael eu crybwyll yn yr adroddiad, mae'r cynllun yn amlwg yn un sydd â photensial mawr o ran ymgysylltu ehangach, yn enwedig gyda grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd fel arfer. Ond heblaw am un digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gyda gofalwyr ifanc yn y gogledd, y pellaf i'r gogledd mae’r comisiynydd wedi llwyddo i ymweld yw Merthyr Tudful, a meddwl ydw i tybed pam. Siawns nad oes grwpiau cymunedol ymhellach i'r gogledd a fyddai wedi croesawu rhywfaint o ymgysylltu â'r comisiynydd plant a'i swyddfa. Nid oes sôn naill ai yn ‘Gyda’n Gilydd!' na'r rhaglen llysgenhadon ysgolion am ddosbarthiad daearyddol y cyfranogwyr, ac felly hoffwn bwysleisio i'r Gweinidog fod angen peth ymrwymiad gan y comisiynydd bod ei swyddfa yn mynd ati i ymgysylltu â phob rhan o Gymru yn weithredol ac nid mynd i ardaloedd sy'n hawdd eu cyrraedd o'r brif swyddfa yn unig. Mae'r pwynt hwn hefyd yn seinio’n glir gyda lefel yr ymchwiliadau a'r gefnogaeth sydd wedi'i gynnig hefyd. O'r 604 o achosion eleni, cofnodwyd fod traean ohonynt yn dod o Gaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol gwybod beth oedd y dosbarthiad llawn ledled Cymru, oherwydd byddai'n helpu i nodi ardaloedd lle mae angen mwy o amlygrwydd i’r comisiynydd.

O ran sylwadau'r comisiynydd mewn perthynas â'r rhai oedd wedi gadael gofal, mae'r comisiynydd wedi nodi bod angen i bob person sy'n gadael gofal fod â chynghorydd personol penodedig, a dywedodd er bod cyllid ar gael, nad yw'r newid statudol i wreiddio'r ddarpariaeth hon wedi dod i rym, ac na fydd y newid deddfwriaethol i wneud i hyn ddigwydd, wedi’i amserlennu’n wreiddiol ar gyfer 2022-23, yn digwydd tan 2024 ar y cynharaf bellach. O ystyried bod Llywodraeth Cymru'n gwario £20 miliwn ar dreialu incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, pam nad yw'r Llywodraeth hon yn gallu sicrhau bod gan bob person sy'n gadael gofal fynediad at gynghorydd personol? Hoffwn herio Llywodraeth Cymru ymhellach a gofyn p’un a yw'r rhai sy'n optio mewn i’r treial incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i gael cynghorydd personol penodol ai peidio, oherwydd mae'n mynd i fod yn ddull cefnogi a fydd yn hanfodol i rai, yn enwedig gan eu bod nhw’n cael £20,000 y flwyddyn i'w wario.

Yn olaf, rwyf i am godi pwynt ar y lefelau uchel o waharddiadau tymor penodol ar gyfer plant tair i saith mlwydd oed yn y cyfnod sylfaen. Rwy'n gwerthfawrogi bod y data rhwng 2017-18, ond mae'n ymddangos i mi fod bron i 80,000 diwrnod o ddysgu yn cael eu colli i waharddiadau yng Nghymru, ac mae hyn yn ymddangos yn rhy uchel, yn enwedig o ystyried ei bod yn debygol bod rhai o'r un plant yn cael eu gwahardd dro ar ôl tro. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn herio'r Llywodraeth a'r comisiynydd ar y pwynt hwn. Mae'r ffaith i hyn fod yn syndod i'r comisiynydd, a'u bod yn adrodd amdano bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dangos yn glir nad yw swyddfa'r comisiynydd yn cadw llygad digon agos ar y mathau hyn o ystadegau.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:09, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Joel, mae angen i chi orffen nawr, os gwelwch chi'n dda.

Photo of Joel James Joel James Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wrth gloi, rwy'n ymwybodol gyda phopeth rydw i newydd ei ddweud, hoffwn er gwaethaf popeth ddiolch i'r comisiynydd plant blaenorol a'i swyddfa am y gwaith maen nhw wedi'i wneud. Rwy'n gwybod fy mod i wedi tynnu sylw at sawl methiant heb sôn am lawer o bethau cadarnhaol, ond nid wyf erioed wedi amau awydd y comisiynydd i gael y gorau i blant Cymru. Diolch.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:10, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i adleisio'r geiriau sydd eisoes wedi’u mynegi o ran diolch i Sally Holland am ei chyfnod o dros saith mlynedd? Rwy'n credu bod ei darlith ymadael, hefyd, yn rhywbeth i nifer ohonom ni gnoi cil drosto, gan fyfyrio ar yr heriau yr oedd hi'n credu oedd yn dal i wynebu cymaint o blant a phobl ifanc. Hoffwn hefyd groesawu'r comisiynydd plant newydd, sydd wedi dangos yn barod yn ei rôl y bydd hi'n dilyn yn ôl troed Sally ac yn blaenoriaethu lleisiau plant a phobl ifanc Cymru.

Rwy'n credu ei fod yn dangos yn yr adroddiad hwn beth yw gwerth cael rôl allweddol y comisiynydd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gynrychiolaeth honno, ond eu bod nhw’n cael cynnig y cyfleoedd hynny fel bod eu lleisiau uniongyrchol eu hunain yn cael eu clywed. Rwy’n meddwl mai un o'r pethau rydw i wedi myfyrio arno, wrth ddarllen yr adroddiad, oedd y ffaith bod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan—miloedd ar filoedd o'r lleisiau yna wedi’u clywed ac wedi cael gwrandawiad—a hefyd yr hyfforddiant o ran hawliau plant, o godi ymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth barhaus, achos mae'n her barhaus, i sicrhau ein bod ni'n parchu ac yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc. Rydym ni wedi gweld gwerth hynny yn ein gwaith ein hunain drwy bwyllgorau'r Senedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n glir o'r adroddiad y rôl werthfawr mae swyddfa'r comisiynydd plant yn ei chwarae wrth ddarparu tystiolaeth a'n herio ni fel gwleidyddion ar rai o'n penderfyniadau hefyd. Hir y parhaed hynny, oherwydd mae'n bwysig bod hynny'n dylanwadu ar bolisi.

Rwy'n credu mai'r un peth i fyfyrio arno o ran rhai o'r heriau a sut rydyn ni'n ymateb—fe wnes i eich clywed chi, Gweinidog, yn amlwg, yn cyfeirio at ddulliau dylanwadu’r DU a rhai o bethau nad ydyn nhw o fewn ein rheolaeth, na allwn ni newid, ond os ydyn ni'n canolbwyntio'n benodol ar yr argymhellion yn yr adroddiad ynghylch tlodi plant, yn amlwg, rhywbeth a gafodd ei hyrwyddo hefyd dros dymor saith mlynedd Sally Holland fel comisiynydd—. Bydd llawer ohonom ni’n cofio'r targed hwnnw o ddileu tlodi plant erbyn 2020, a chael gwared ar hwnnw wedyn yn 2016. Byddwn yn adleisio galwadau'r comisiynydd plant i sicrhau bod y cynllun hwnnw ar waith. Rydw i’n meddwl bod peidio â chael y cynllun penodol yna gyda thargedau, fel ein bod ni'n gallu mesur cynnydd, yn rhywbeth sy'n ddiffygiol ar hyn o bryd, ac mae'n eithaf syfrdanol nad oes cynllun gweithredu penodol ar fynd i'r afael â thlodi plant. Mae gennym ni nifer o fesurau—pethau yr ydym ni’n hynod falch ohonynt ym Mhlaid Cymru yr ydym ni wedi gallu eu sicrhau, wrth gwrs, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng y ddwy blaid; pethau, fel y pwysleisiwyd yn yr adroddiad, megis ymestyn prydau ysgol am ddim ac ehangu gofal plant. Ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i hynny, ac rwy’n credu, gyda phopeth sydd yn dod o ran y toriadau pellach rydyn ni am eu gweld gydag awdurdodau lleol a phopeth, mae yna risg gwirioneddol fod y sefyllfa am waethygu os nad oes gennym ni gynllun i fynd i'r afael â hyn a hefyd os nad ydyn ni'n monitro effaith ein holl bolisïau, a monitro lle gallwn ni wneud gwahaniaeth, o ystyried ein bod ni’n gwybod y bydd y pwysau'n cynyddu.

Y maes arall yr hoffwn i ganolbwyntio arno yw'r adran ar addysg yn y cartref a'r argymhellion penodol yno, sy’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi cynllun gwerthuso ar gyfer gweithredu canllawiau statudol newydd ochr yn ochr â'r canllawiau hynny. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon sydd wedi eu codi gyda nifer ohonom o ran addysg yn y cartref. Er bod Plaid Cymru wedi cytuno gyda bwriad y cynigion, sef sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael addysg addas, rydym ni’n dal i gredu nad yw'r canllawiau hynny, neu’r canllawiau drafft ar hyn o bryd, yn gwahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref ac yn teimlo eu bod nhw’n mynd i gael eu monitro neu eu drwgdybio, mewn cyferbyniad â'r plant hynny nad ydyn nhw’n derbyn unrhyw fath o addysg ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod rhai pethau sy’n cael eu codi yma fel pryderon yr hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn mynd i'r afael â nhw.

Ond rwy'n credu mai'r un peth sy'n glir iawn yma yw bod effeithiau COVID, fel sy’n cael ei egluro yn yr adroddiad, wedi bod yn helaeth ar ein plant a'n pobl ifanc a byddant yn parhau i fod felly. Bydd yr argyfwng costau byw hefyd yn effeithio'n anghymesur ar ein plant a'n pobl ifanc. Felly, y pwynt yr hoffwn i ei bwysleisio, wrth gloi, Gweinidog, yw: a allwn ni sicrhau bod cynllun gweithredu tlodi plant, fel sy'n cael ei hyrwyddo gan y comisiynydd plant a'r adroddiad hwn, ar waith, fel ein bod ni’n gallu gwneud y newidiadau hynny mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen mor daer? Diolch.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 4:15, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Mae adroddiadau blynyddol bob amser yn ôl-weithredol, ond mae'r adroddiad blynyddol hwn hyd yn oed yn fwy ôl-weithredol nag arfer, oherwydd, wrth gwrs, eleni, mae'r comisiynydd presennol yn adrodd ar waith ei rhagflaenydd. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddiolch i Sally Holland, unwaith eto, am bopeth a wnaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gydol ei chyfnod, a llongyfarchiadau, unwaith eto, i Rocio Cifuentes ar ei phenodiad. Gobeithio eich bod chi wedi ymgartrefu yn dda, comisiynydd.

Nôl ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrandawiad cyn penodi gyda Ms Cifuentes. Fe wnaethom ei hannog hi a'i swyddfa i fyfyrio ar ambell beth wrth iddyn nhw gynllunio a chyflawni eu gwaith, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau eu bod nhw’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan, a sut maen nhw'n gwerthuso effaith eu gwaith fel ei bod hi'n glir sut mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Fe ddown ni’n ôl at y themâu hynny pan fyddwn ni’n craffu ar y comisiynydd ar ei hadroddiad blynyddol ar 17 Tachwedd.

Y tu allan i graffu ar yr adroddiad blynyddol, rydym ni’n manteisio ar arbenigedd y comisiynydd i lywio ein gwaith craffu. Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig yng ngherdyn adroddiad y comisiynydd yn ei hadroddiad blynyddol. Mae'r cerdyn adroddiad yn nodi barn y comisiynydd am gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn materion polisi allweddol. Mae'r materion polisi canlynol yn atseinio'n arbennig o gryf gyda'n gwaith ni.

Y cyntaf yw mynd i'r afael â thlodi plant. Rwy'n cytuno, rydym ni ar fin profi argyfwng costau byw ac, fel pwyllgor, rydym ni wedi cytuno i ganolbwyntio ar effaith negyddol anfantais ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc. Ychydig dros flwyddyn sydd wedi bod ers i'n pwyllgor gael ei ffurfio, ond mae eisoes yn boenus o glir faint o'r heriau mae ein plant yn eu hwynebu sy’n deillio o dlodi. Fel mae’r comisiynydd yn ei gynghori, byddwn yn rhoi sylw manwl i strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru, sydd i fod i gael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Yr ail yw pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Fel y comisiynydd, cawsom ein hannog gan yr ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu i:

'Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.'

Yn anffodus, rydym ni hefyd yn cytuno â'r comisiynydd bod cynnydd ar y gwaith pwysig hwn wedi bod yn rhy araf. Mae angen tryloywder ynglŷn â beth mae'r ymrwymiad hwn yn ei olygu yn ymarferol. Yn ddiweddar rydym ni wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhieni biolegol, rhanddeiliaid ac academyddion sut maen nhw'n credu y dylai diwygiadau radical edrych. Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal? Ein gobaith yw y bydd yr ymchwiliad hwn yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, sydd i’w groesawu, i archwilio a gweithredu'r diwygiad radical mae plant a phobl ifanc ei angen.

Ac yn olaf, iechyd meddwl ysgol gyfan: rydym ni wedi clywed pryderon am iechyd meddwl ein dysgwyr dro ar ôl tro drwy gydol ein gwaith, fel effaith o aflonyddu rhywiol ymysg dysgwyr, fel achos o absenoldeb disgyblion, a thu hwnt i addysg statudol i addysg uwch. Rydym ni’n cytuno â'r comisiynydd bod ysgolion yn lleoliad delfrydol i gefnogi plant gyda'u hiechyd meddwl, ac yn croesawu cynnydd Llywodraeth Cymru y mae'r comisiynydd wedi ei gydnabod yn ei hadroddiad. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau bod y Llywodraeth yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw i ddarparu'r cymorth iechyd meddwl mae ein plant yn ei haeddu.

Mae llawer mwy o feysydd polisi hanfodol bwysig yn yr adroddiad hwn, a dim digon o amser i'w trafod i gyd. Ond rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd, y rhai sydd yn y Llywodraeth a'r tu allan iddi, i ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio canfyddiadau'r comisiynydd i lywio eu gwaith. P'un a yw plant yn rhan benodol o bortffolio cylch gwaith neu weinidogaethol eich pwyllgor ai peidio, mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ystyried eu hawliau ym mhob penderfyniad mae'n ei wneud. Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un ohonom ni.

Ac i’r comisiynydd ei hun, rwy’n edrych ymlaen at drafod ei hadroddiad yn fanylach ar 17 Tachwedd, ac adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhwng ei chomisiynwyr rhagflaenol a'n pwyllgorau rhagflaenol wrth fynd ar drywydd ein pwrpas cyffredin: gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru. Diolch.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 4:19, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd ymuno â nifer o bobl eraill i ddiolch i'r cyn-gomisiynydd plant, Dr Sally Holland, am ei harweinyddiaeth fel y comisiynydd wrth hybu a diogelu hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar blant a theuluoedd a phlant dan ein gofal, rydw i eisiau defnyddio fy amser byr i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

Ers 2003, mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal wedi bron â dyblu, ac yn y degawd diwethaf, mae wedi codi mwy na chwarter. Rwy'n poeni'n benodol am ddarpariaeth gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc mewn gofal preswyl. Rydym ni’n gwybod, o ganlyniad i'r dull cenedlaethol o ymdrin ag eiriolaeth statudol, sydd ar waith ers Gorffennaf 2017, fod plant a phobl ifanc sy’n cael eu gosod yng ngofal preswyl yr awdurdodau lleol yn gallu cael eiriolaeth annibynnol. Ond mae'r ddarpariaeth honno yn cyfrif am lai a llai o gyfanswm cyfran y llety.

Ym mis Mawrth 2019, dim ond 23 allan o gyfanswm o 178 o gartrefi plant oedd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Yn ôl tystiolaeth Tros Gynnal Plant, dim ond 22 o'r tua 155 o gartrefi annibynnol oedd yn darparu eiriolaeth annibynnol mewn gwirionedd. Mae hyn yn bryder gwirioneddol i mi ac, rwy'n siŵr, i lawer o rai eraill, Gweinidog. Dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref preswyl, beth bynnag fo'i statws o ran cofrestru, ddarparu gwasanaeth eiriolaeth ymweld annibynnol, fel amddiffyniad ychwanegol, gan sicrhau bod gan bob plentyn neu berson ifanc eiriolwr personol y gallant gyfathrebu'n agored ag ef, a hynny heb boeni.

Mae llawer ohonom ni, naill ai'n broffesiynol neu mewn capasiti arall, wedi cwrdd â phobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd â phrofiad o ofal. Mae'r trawma a'r profiadau maen nhw'n mynd drwyddyn nhw, o ran dod i ofal, yna o ran eu lleoliadau, yn golygu eu bod nhw wir yn teimlo'n ddi-lais. Mae gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn hanfodol i sicrhau bod ganddyn nhw’r llais hwnnw. Felly, byddai'n ddiddorol clywed mwy ar y mater hwn mewn ymateb i'r ddadl, wrth ymestyn y gofyniad hwn i'r sector annibynnol, a chryfhau'r model cenedlaethol presennol ar gyfer lleoliadau awdurdodau lleol.

Y mater arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw'r defnydd o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Mae adroddiad y comisiynydd yn tynnu sylw at bryderon gyda'r defnydd eang o leoliadau nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod y rhain yn aml yn codi o argyfyngau a lleoliadau yn chwalu, ac ar ôl bod yn weithiwr cymdeithasol am flynyddoedd lawer, rwy'n ymwybodol o’r sefyllfa. Ond mae pryder gwirioneddol gydag ansawdd a safonau'r llety. Gall hyn amrywio o leoliadau 'Pan fydda i’n Barod', hyd at hosteli a llety gwely a brecwast, ac mae'r olaf o’r rhain yn gwbl amhriodol. Er bod rhai lleoliadau cefnogol ardderchog, mae rhai pobl ifanc yn fregus iawn os ydyn nhw’n byw mewn llety gwael gyda chefnogaeth gyfyngedig.

Rwy'n deall bod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith o ran tynnu elw o'r sector, ac ar wella ystod ac argaeledd lleoliadau, yn enwedig i'r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth. Rwy'n cefnogi hyn, ac rwy'n falch iawn bod hyn yn rhan o'r rhaglen lywodraethu. Mae'r comisiynydd, yn ei hadroddiad, yn gwneud argymhellion clir iawn am gwmpas y gwaith sydd angen ei wneud, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ymateb, Gweinidog, i'r argymhelliad hwnnw yn y ddadl hon.

Yn olaf, fel mae eraill wedi’i wneud, a gaf ddymuno'r gorau i'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, am ei chyfnod yn y swydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i'n plant er mwyn creu dyfodol mwy disglair. Mae pandemig COVID—ei effaith uniongyrchol ar fywydau plant a phobl ifanc, a'r penderfyniadau ynghylch sut y gwnaeth Cymru ymateb i'r pandemig—yn amlygu pa mor bwysig yw hyrwyddwr annibynnol i blant a phobl ifanc. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:24, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw trwy ddiolch i'r comisiynydd plant newydd a'i thîm am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Hoffwn hefyd ymuno â chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr i gynnig fy niolch i'r Athro Sally Holland am bopeth a gyflawnodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Roedd Sally yn hyrwyddwr cadarn dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cefais gyfle i ymuno â hi ar ymweliad â Cynon Valley Organic Adventures yn fy etholaeth i y llynedd. Roedd hyn ar gyfer eu cinio mawr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, ac roedd yn gyfle gwych i Sally siarad â rhai o'r bobl ifanc y bu Janis a'i thîm yn gweithio gyda nhw. Diolch i Sally am gymryd yr amser i ymweld. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes y bydd hi'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol ynddo.

Gan droi at yr adroddiad blynyddol, rwyf eisiau canolbwyntio ar ambell faes allweddol—yn gyntaf, yr adrannau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant. Gwyddom i gyd, wrth gwrs, mai dyma un o'r materion mwyaf sylfaenol sy'n wynebu ein cymdeithas. Mae'r data a ddyfynnir yn yr adroddiad ar faint yr her yn ddigon sobreiddiol. Fodd bynnag, mae ffigyrau diweddaraf Canolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn awgrymu bod nifer y plant mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu hyd yn oed y tu hwnt i hyn. Rydym hefyd yn gwybod bod hyn yn debygol o fod wedi gwaethygu ymhellach gan y pwysau costau byw digynsail. Yng nghyd-destun y ffeithiau hyn, rwyf wir wedi fy syfrdanu a fy mrawychu gan y diffyg ymgysylltu â'r comisiynydd plant o Lywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn nodi sawl achlysur lle gwrthododd aelodau Cabinet y DU gyfarfod â'r comisiynydd plant, neu hyd yn oed ateb gohebiaeth. Gan fod un o'r rhai hynny a fethodd ag ymateb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ar y pryd, yn Ddirprwy Brif Weinidog ar hyn o bryd, nid yw'n argoeli'n dda i weinyddiaeth Truss yn yr her allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant.

Rwy'n nodi, mewn cyferbyniad, weithredoedd Llywodraeth Cymru, y mae'r comisiynydd plant wedi eu croesawu. Mae polisïau fel cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol, darparu brecwast ysgol am ddim, cynnig gofal plant estynedig, Dechrau'n Deg a grant datblygu disgyblion gwell i helpu gyda chost y diwrnod ysgol i gyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fy ymgysylltiad â'r prosiect yn fy etholaeth i, rwyf hefyd eisiau sôn am y clybiau bwyd a hwyl sy'n darparu buddion o'r fath i'r teuluoedd hynny sy'n gymwys i gymryd rhan. Mae'r gweithredoedd hyn a mwy yn dangos ymrwymiad Gweinidogion Cymru i ddileu tlodi plant. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo â sylwadau'r comisiynydd ynghylch y cynllun gweithredu tlodi plant. Os caiff ei dderbyn, gallai hynny arwain at ddarn o waith gwirioneddol gryf sy'n sicrhau pwyslais manwl di-baid gan bob un ohonom ni ar roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru.

Rydw i hefyd yn cydymdeimlo ag argymhelliad y comisiynydd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yma yn y Senedd. Roedd hwn i nodi lansiad y canllaw byr 'Taclo Tlodi Plant gyda'n Gilydd' i ysgolion. Roedd cryn dipyn o blant a phobl ifanc o ysgolion Cymru yn bresennol, a'r peth mawr yr oedden nhw'n gofyn amdano oedd y dylen nhw allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i newid arferion ac annog mwy o ddefnydd o fysiau a threnau. Rwy'n gwerthfawrogi bod arian yn dynn, ond gallai bodloni'r argymhelliad hwn, hyd yn oed o ran y cynllun treialu y gofynnwyd amdano, fynd ymhell i annog arferion gydol oes rhagorol o ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn olaf, yr adran ynghylch iechyd meddwl ysgol gyfan a chymorth lles. Fel cyn-athrawes, fel mam i ferch yn ei harddegau, ac o sach bost fy etholaeth, rwy'n gwybod bod y gwaith hwn yn gwbl angenrheidiol. Mae'r comisiynydd yn canmol yn briodol yr ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud—mae hynny o ran y dull gweithredu ei hun a darparu cyllid fel y gall gael ei weithredu'n iawn. Pan fydd ein plant a'n pobl ifanc o dan y fath bwysau, dylem ni gynnig dim llai iddyn nhw. Edrychaf ymlaen at gyflwyno hyn yn gyflym ac yn effeithiol ledled Cymru ar frys. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 4:28, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am y datganiad? Ac a gaf i ddiolch hefyd i'r comisiynydd presennol am ei gwaith hyd yma, yn ogystal â'i rhagflaenydd, yr Athro Sally Holland?

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac yn arbennig, plant a phobl ifanc, sydd wedi gorfod profi amharu sylweddol ar eu bywydau a'u datblygiad. Felly, mae'n bwysig i ni yn y Senedd ofyn i ni'n hunain yn barhaus sut rydym ni'n gweithio i greu dyfodol gwell i bobl ifanc, a rhoi'r arfau maen nhw eu hangen iddyn nhw. Rwy'n mawr obeithio bod pob corff cyhoeddus a haen o lywodraeth o bob cwr o'r DU yn ymgysylltu'n llawn, ac yn parhau i ymgysylltu, â'r gwaith hwn. Mae rôl a gwaith adrodd y comisiynydd plant yn sylfaenol i daflu goleuni ar feysydd sydd angen eu gwella, ac rwy'n canmol y comisiynydd ar ei hadroddiad. Yn bersonol, roeddwn i'n credu ei fod yn glir, yn gryno ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Dirprwy Lywydd, mae'r materion sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc wedi parhau am lawer rhy hir, ac mewn llawer o achosion mae'r materion sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad yn waeth mewn ardaloedd gwledig, fel yn fy etholaeth i yn Nhrefynwy. Meddyliwch am gludiant: bydd pobl ifanc yn aml yn profi rhwystrau rhag manteisio ar gyfleoedd addysg, hamdden neu gyflogaeth oherwydd argaeledd a chost trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes darpariaeth fel y byddech chi'n ei chael yng Nghasnewydd neu Gaerdydd, er enghraifft. Nawr, Gweinidog, a ydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu'n llawn yn eich strategaeth drafnidiaeth, 'Llwybr Newydd', yn ogystal â'ch Bil bws sydd ar ddod? 

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am sawl peth yn ymwneud â hygyrchedd gwasanaethau ac eiriolaeth ar gyfer amrywiaeth o bobl ifanc. Eto, mae'r rhain yn bethau nad ydynt o reidrwydd yn hawdd eu cael mewn ardaloedd gwledig mawr, sy'n gallu effeithio ar sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â nhw ac yn derbyn cefnogaeth. Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau'n gwbl hygyrch? Ac ydy gwasanaethau'n cael eu hyrwyddo'n ddigonol fel bod pobl ifanc yn gwybod beth sydd ar gael iddyn nhw a sut i i’w gael?

Yn olaf, a gaf i hefyd roi fy nghefnogaeth lawn y tu ôl i argymhelliad y comisiynydd ar gyfer strategaeth benodol ar sut i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y cyd-destun presennol yr ydym ni’n canfod ein hunain ynddo? Ac ar y pwynt hwn, mae'n rhaid i mi fynegi fy siom unwaith eto bod swyddfa'r comisiynydd yn ei chael hi'n anodd cael y lefel o ymgysylltu â Llywodraeth y DU a oedd yn haeddiannol, ac ar sawl lefel. Nid yw hyn yn ddigon da ac mae'n rhaid iddo newid. Nawr, efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ddulliau dylanwadu y mae'n dadlau sydd eu hangen arni, ond yn sicr mae ganddi lawer yn barod, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r pwerau a’r mentrau sydd gennym ni yn well. A gaf i ofyn, Gweinidog, a fydd y Llywodraeth yn ystyried pa mor dda mae ei pholisïau presennol yn gweithio i leddfu achosion a chanlyniadau tlodi plant, a ph’un a ellir hyrwyddo dysgu o'r fath i helpu i lywio'r strategaeth newydd sydd i fod i ddigwydd yn ddiweddarach eleni? Diolch.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 4:31, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am yr adroddiad hwn, a chroesawu'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, i'w rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith mae Rocio'n ei gyflawni drwy ymgysylltu â phobl ifanc, gan wneud Cymru'r lle gorau i dyfu i fyny fel person ifanc. Mae'n wych gweld sut mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymgysylltu â grwpiau dan arweiniad ieuenctid yn fy nghymuned fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r adroddiad yn sôn am ymgysylltu â chlwb ieuenctid cynhwysol Pen-y-bont ar Ogwr ac YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydw i wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y clybiau i ddatblygu adnoddau a deunyddiau sy'n berthnasol i'w hanghenion, ac anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am Brosiect Pleidlais a welodd pobl ifanc 16 mlwydd oed yn pleidleisio am y tro cyntaf yn ein hetholiadau llywodraeth leol diweddar. Roedd modd i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Cynffig yn fy etholaeth i gymryd rhan mewn cynllun treialu a oedd yn caniatáu iddyn nhw bleidleisio yn yr ysgol dros dridiau. Roedd hi’n wych eu gweld nhw’n cynrychioli lleisiau pleidleiswyr ifanc yn The Guardian, lle roedden nhw'n siarad am ba mor bwysig oedd hi iddyn nhw allu pleidleisio ac am ffyrdd o wneud pleidleisio'n fwy hygyrch.

Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am y gwaith mae'r comisiynydd yn ei wneud o ran yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Rwyf wedi cwrdd â'r comisiynydd blaenorol ynglŷn â'r mater hwn, a disgyblion yng Nghorneli sy'n ymgyrchu dros wella mynediad i drafnidiaeth ysgol. Mae'r newid mewn meini prawf tair milltir i ddwy filltir ar gyfer mynediad at bàs bws wedi effeithio'n fawr ar y bobl ifanc yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a'r nifer sy’n chwarae offerynnau cerdd. Y gaeaf hwn, bydd plant mor ifanc ag 11 mlwydd oed yn cerdded i'r ysgol yn y glaw ac yna'n eistedd mewn dillad gwlyb socian drwy'r dydd. Fel y dywed yr adroddiad, mae hwn yn fater sy'n cael effaith ar ddisgyblion ledled Cymru, ac rwy'n cytuno gyda'r adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru nodi amserlenni yn glir a gyda brys i sicrhau newid cadarnhaol erbyn diwedd tymor y Senedd, a rhaid i farn pobl ifanc gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwnnw.

Mae'r adroddiad yn archwilio'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac rwyf i wedi siarad â'r comisiynydd am fy mhrofiadau fy hun o anorecsia ar ôl rhannu yma yn y Siambr. Felly mae'n wych clywed am TERMS, prosiect monitro o bell wedi'i alluogi gan dechnoleg mewn ysgolion gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion sydd wedi'i gyd-gynllunio gyda disgyblion Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r prosiect nawr yn cael ei dreialu. Daeth y prosiect hwn yn dilyn gofyn yn uniongyrchol i ddisgyblion pa faes o iechyd meddwl yr oedden nhw am ei archwilio. Cafodd anhwylderau bwyta ei godi fel y maes allweddol yr oedden nhw am gael mwy o ymchwil mewn cysylltiad ag ef.

Ac yna, yn olaf, hoffwn dynnu sylw at gydnabod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—yr offer sy'n sail i bob polisi a deddfwriaeth sy'n effeithio ar bobl ifanc. Ers cael fy ethol, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chynghorau ysgol a chyngor ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Pippa King o Biometrics in schools a Jen Persson o Defend Digital Me, ar y defnydd cynyddol o ddata biometreg sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio mewn ysgolion. Yn 2021, cefais wybod am ysgolion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno technoleg i gasglu a defnyddio olion bysedd plant ar gyfer prydau bwyd amser cinio. Mae technolegau oedd yn cael eu defnyddio unwaith gan asiantaethau cudd-wybodaeth y wladwriaeth bellach yn cael eu defnyddio ar ein plant ar gyfer trafodiadau ariannol. Fe wnaeth llythyrau caniatâd a anfonwyd at rieni fframio'r defnydd o gasglu data olion bysedd fel rhywbeth mwy diogel i blant, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau, gan egluro mai mater i'r plentyn bob amser yw gwneud y penderfyniad ar roi eu data ai peidio. Ond wrth siarad â phobl ifanc yn fy nghymuned i, dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw'n meddwl mai mater i'w rhieni yw hynny.

Yn y bôn, pan fydd gan rywun gyfrinair, mae'n rhywbeth y gallwch chi ei newid neu ei ailosod; mae ôl bys yn rhywbeth yr ydych chi—mae'n rhan ohonoch chi. Pan fydd y data hwnnw'n cael ei beryglu, mae'n cael ei beryglu am oes. Ac nid yw'r technolegau hyn ychwaith yn ddiogel rhag gollyngiadau ac ecsbloetio data, yn union fel y gwelsom mewn ysgolion ledled Cymru gydag apiau ieuenctid—yr ap o’r Unol Daleithiau, Seesaw—pan gafodd ei system ei hacio ac anfonwyd delweddau o natur rywiol i blant. Mae Erthygl 16 o'r CCUHP yn dweud bod gan bob person ifanc yr hawl i breifatrwydd, ac eto, yr hyn rydyn ni'n ei weld yw bod technolegau ymwthiol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion a heb y wybodaeth i bobl ifanc ddeall pwy sy'n casglu eu data personol a sut mae'n cael ei ddefnyddio nawr ac yn y dyfodol. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle felly i drafod y pryderon hyn a godwyd gyda mi gan bobl ifanc, gyda'r comisiynydd, ac effaith bosibl technolegau digidol sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru. Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:36, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf i am ddiolch hefyd i'r comisiynydd plant sy'n gadael a chroesawu'r un newydd. Ddoe, wrth gwrs, roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Tlodi. Wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddathlu hynny drwy ddychwelyd i lymder a'r polisi trychinebus hwnnw a wnaeth drosglwyddo ein gwlad i ddegawd goll o dwf isel, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol ac anghydraddoldeb cynyddol. Fodd bynnag, o dan lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, roedd tlodi plant yn gostwng. Ac rwy'n canolbwyntio'n arbennig ar dlodi plant, oherwydd plant yn dod allan o dlodi fydd yn eu gweld nhw'n cael bywydau gwell, gwell cyfleoedd, gwell siawns, a gwell mynediad at y pethau hynny fydd yn gwella eu hamgylchiadau, fel gwres, fel bwyd ac fel dillad da. Felly, rwyf i yn credu, pan fyddwn ni'n siarad am benderfyniadau anodd a pholisïau ariannol, fod angen i ni feddwl sut mae'r penderfyniadau anodd hynny yn edrych ar gyfer rhai aelwydydd—fel ailddefnyddio cewynnau budr, dyfrio llaeth fformiwla, a babi'n cysgu mewn drôr a phlentyn saith oed mewn cot teithio oherwydd nad ydych chi'n gallu fforddio gwely. Dyna'r hyn rydych chi'n ei alw'n benderfyniadau anodd mae teuluoedd yn eu gwneud nawr ym Mhrydain heddiw. Maen nhw'n deillio o adroddiad gan yr elusen Little Village, sy'n rhedeg dros 200 o fanciau babanod ledled y DU. Banciau bwyd, banciau cynnes a banciau babanod—mae'r Torïaid yn gwneud llawer iawn o fancio mewn argyfwng. Ac mae hynny'n cael ei roi yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni'n ei drafod heddiw.

Mae llawer iawn yma sydd wedi symud ymlaen a llawer y gallwn ni ei ddathlu, llongyfarch a chanmol, ond yr her i'r comisiynydd newydd wrth symud ymlaen, fel mae’r adroddiad yn ei nodi, yw helpu i fynd i’r afael â thlodi, ac ymateb i’r tlodi hwnnw rwyf i newydd ei amlinellu, ac rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau, fel yr Haf o Hwyl estynedig, sydd yn yr adroddiad hwnnw, prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd—sy’n wirioneddol hanfodol nawr yn ystod yr amser hwn—a'r cynnig gofal plant estynedig, fel y gall rhieni fynd allan i weithio ac ennill rhywfaint o arian a hefyd cael rhywfaint o urddas. Ac mae'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal a gafodd ei grybwyll yn gynharach yn gam cadarnhaol. Maen nhw'n cael eu priodoli i’r gred bod pawb yn elwa pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn plant a'u teuluoedd, nid pan fyddwn ni'n dwyn dechrau teg a chyfleoedd oddi ar bobl ifanc.

Rydw i eisiau canolbwyntio ar blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar y siarter rhianta corfforaethol, ac mae wedi cael ei argymell gan y comisiynydd bod angen i ni symud i ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod pob Aelod etholedig yn deall—nid yma, ond ar bob lefel, awdurdod lleol hefyd—mai nhw yw rhiant corfforaethol y plentyn sy'n derbyn gofal, ac nad yw'n wir y gallant ddadlwytho eu hymrwymiadau oherwydd bod y plentyn hwnnw allan o'r sir neu, mewn rhai achosion, achosion hynod o brin, allan o'r wlad. Yr hyn rwy'n credu mae angen i ni ganolbwyntio arno yw pwy sy'n bwydo—. Beth yw'r strwythur a'r mecanwaith ar gyfer bwydo anghenion penodol y person ifanc hwnnw sydd mewn gofal preswyl yn ôl? Beth sy'n digwydd i'r adroddiadau hynny, os oes unrhyw rai—ac ni welais i unrhyw rai pan oeddwn i'n gynghorydd, ond efallai fod pethau wedi symud ymlaen—a phwy sy'n eirioli ar ran y plentyn hwnnw, oherwydd mae eiriolaeth ar ran y plentyn hwnnw yn hynod bwysig? Ac, wrth gwrs, yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw proffidioldeb cynyddol sy’n gysylltiedig yn fwy diweddar â chwmnïau sy'n gwneud arian allan o gyni'r plant hynny, sydd yn warthus i mi, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac, yn enwedig yn sir Benfro, mae gennym ni dipyn o leoliadau derbyn gofal. Nid wyf yn awgrymu bod y bobl benodol hynny yn elwa'n anghymesur, ond rydym ni’n gwybod bod adroddiadau wedi bod lle mae pobl yn elwa'n anghymesur wrth redeg nifer o fannau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Felly, mae hwnnw’n faes, rwy’n credu, sydd angen pwyslais penodol. Rydyn ni'n sôn am les y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:41, 18 Hydref 2022

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, bawb. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus i gadw hawliau plant mor uchel ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, diolch i aelodau o bob rhan o'r Siambr am eich cydnabyddiaeth o waith yr Athro Sally Holland a'r rôl a'r dylanwad pwysig a gafodd ar hawliau plant yn ystod ei chyfnod yn y swydd. A, diolch hefyd am eich croeso i'r comisiynydd plant newydd, Rocio Cifuentes, ac am gydnabod ei thîm hi hefyd, a'r gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda'r cyn-gomisiynydd plant. Mae'r geiriau o'r un newydd yn yr adroddiad wir yn dangos annibyniaeth a chryfder y swydd hon. Swydd, mewn gwirionedd, y mae'n rhaid i mi ddweud, amser maith yn ôl, mai fi oedd y Gweinidog a benododd y comisiynydd plant cyntaf mewn gwirionedd, ac fe ddaeth hynny allan o gydnabyddiaeth bod angen Comisiynydd Plant annibynnol i Gymru, a dyna sydd gennym ni.

Felly, diolch i chi am eich holl sylwadau, sy'n ddefnyddiol iawn o ran myfyrio ar yr argymhellion—argymhellion eang ar draws Llywodraeth Cymru gyfan. Ni allaf ateb y pwyntiau i gyd o ran yr holl argymhellion, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai a godwyd amlaf.

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, Jayne Bryant, am fyfyrio ar eich disgwyliadau, eich myfyrdodau o'r hyn rydych chi wedi'i obeithio y gallai'r comisiynydd plant newydd ei gyflawni yn ei chyfnod yn y swydd wrth i ni symud i gyfnod heriol iawn, ond hefyd y ffaith y byddwch chi hefyd yn ymgysylltu â'r comisiynydd plant, fel y gwnaethoch chi gyda'r un blaenorol, o ran ei hadroddiad blynyddol? Wrth gwrs, mae’r comisiynydd plant yn rhywun sy'n cael dylanwad ar bob un ohonom ni, o ran Gweinidogion ond hefyd ar bwyllgorau hefyd.

Jane Dodds, mae mor dda, gyda'ch profiad penodol, ond hefyd am eich bod yn gadeirydd grŵp trawsbleidiol plant a theuluoedd ac yn dod â'r ddealltwriaeth a'r profiad agos hynny i'r rôl honno. Fel y dywedais i, rydych chi wedi nodi nifer o faterion pwysig yn y ddadl, yn enwedig hefyd canolbwyntio ar y materion sy’n codi mae'n rhaid i ni eu hwynebu, ac, yn wir, mae'r comisiynydd plant yn myfyrio arnynt, gyda'r argyfwng costau byw. Rydyn ni eisiau ailddatgan fel Llywodraeth ein bod ni'n deall yr effeithiau dwys y mae'n eu cael ac y bydd yn parhau i'w cael ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n hollbwysig ein bod ni’n eu cefnogi nhw a'u hawliau, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi plant a phobl ifanc Cymru. Mae hynny'n golygu ein bod ni’n cymryd cyfrifoldeb yn ogystal â'i gwneud yn glir ein bod ni hefyd yn galw ar y rhai sydd â'r pwerau a'r dulliau dylanwadu i gymryd cyfrifoldeb hefyd.

Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn cydnabod bod y comisiynydd plant newydd mewn gwirionedd yn ymgymryd â'r ymgysylltiad ar raddfa fawr hon, y gobeithion ar gyfer Cymru, fel y dywedais i, ac, mewn gwirionedd, dros y tri mis diwethaf, mae wedi ymgysylltu â dros 11,000 o blant a phobl ifanc, ac wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ran estyn allan at bobl ifanc a'r rhai sydd yn aml wedi cael eu tan-wasanaethu—pobl ifanc, pobl ifanc anabl, ond hefyd sicrhau bod fersiynau gwahaniaethol, dolenni gwe, a ffyrdd y gall pobl ifanc a phlant ymgysylltu, fel y gall hynny lywio eu gwaith.

Nawr, wrth edrych ar rai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi gan Aelodau, o ran yr amser sydd gen i, cymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal—yn hanfodol bwysig—yw cyfrifoldeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd yma gyda ni heddiw. Ac i ddweud, wrth gwrs, rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal i dyfu’n oedolion ac i gael annibyniaeth, ac rydym ni’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i wella canlyniadau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ac mae hyn yn hanfodol bwysig o ran yr ymateb a ddaw gan Lywodraeth Cymru o ran yr argymhellion, ond gan edrych yn arbennig ar y materion hanfodol hynny, er enghraifft yr ymrwymiad i roi'r hawl statudol i'r rheiny sy'n gadael gofal i gael cynghorydd personol hyd at pan fyddan nhw’n 25 mlwydd oed. Mae'r rhain yn ymrwymiadau ac, yn amlwg, argymhellion a fydd yn cael ymateb clir iawn gan Lywodraeth Cymru a gan y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, yn yr un modd, mae hynny'n berthnasol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn yr argymhellion yno, ac mae cryfhau rôl cyrff cyhoeddus fel rhieni corfforaethol, fel sydd wedi ei godi, yn ymrwymiad allweddol ar gyfer yr ail dymor hwn, a bod gwaith hefyd yn cael ei ddatblygu.

Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig edrych ar y gwaith arloesol yr ydym ni’n ei wneud. Cafodd y cynllun treialu incwm sylfaenol ei grybwyll ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Hwnnw yw’r polisi gofod cywir, sy'n mynd i gynnig cymorth ariannol rheolaidd, diamod i bobl ifanc, ond gyda chefnogaeth annibynnol, o ran eu cyfranogiad. Ac a gaf i ddweud ein bod ni’n gweithio'n agos iawn gyda thimau gadael gofal o bob cwr o Gymru i ddeall eu rôl yn well yn y broses o adael gofal? Ond mae'n dda iawn adrodd i'r Aelodau bod y nifer sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hyd yma wedi bod yn dda, a byddwn ni’n gweithio gyda derbynwyr yr incwm sylfaenol a rhanddeiliaid eraill i fonitro cynnydd y cynllun treialu.

Iechyd meddwl a chymorth lles ysgol gyfan—yn hanfodol bwysig—gyda'r argymhelliad, a'r pwynt am yr argymhelliad yw ei fod mewn gwirionedd yn ychwanegu pwysau at y gwaith sydd eisoes yn cael ei ddatblygu, a hefyd yn edrych ar addysg yn y cartref o ran symud ymlaen â gwaith yn y maes hwn ac wrth gwrs, disgwyl rhoi cynigion ar waith. A bydd ymateb i hyn i gyd, wrth gwrs, yn adroddiad y Llywodraeth.

Yn olaf, rwyf am ddod at fy maes cyfrifoldeb i, sy'n ymestyn ar draws Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, sef mynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n argymhelliad mor bwysig gyda ni heddiw, gyda'r holl drafod a dadlau a chyfraniadau sydd wedi'u gwneud. Ac er mwyn tawelu meddyliau'r Aelodau bod yr ymgynghoriad ar ddatblygu strategaeth tlodi plant newydd Llywodraeth Cymru ar y gweill, sy’n ystyried yr argyfwng costau byw dyfnach a'i effaith ar y rhai sydd â'r angen mwyaf. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod—ac rwy'n diolch i Peter am gydnabod—nad yw'r diffyg ymateb gan Lywodraeth y DU yn dda, nac ydy, o ran y sylwadau sydd wedi eu gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau? Ond rwy'n credu yr hoffwn i ddweud fy mod i eisoes hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol—yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau newydd—yr wythnos diwethaf a gofyn am union yr un pethau â'r comisiynydd plant. Fe wnes i ofyn am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, ond hefyd gofyn am roi diwedd ar y cyfyngiad dau blentyn, a chynyddu’r credyd cynhwysol o £25. Dyma lle gallwn ni uno i gefnogi a chroesawu'r ffaith bod y neges gref honno yn dod drwodd gan y comisiynydd plant annibynnol ac yn dod drwodd o'r Senedd hon heddiw a Llywodraeth Cymru.

Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eich cyfraniadau i'r ddadl heddiw, a bydd ein hymateb yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar 30 Tachwedd. Bydd holl sylwadau'r Aelodau yn cyfrannu at yr ymateb hwnnw.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:49, 18 Hydref 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:49, 18 Hydref 2022

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond, gan nad oes rhagor o bleidleisiau y prynhawn yma, byddwn yn awr yn dod â busnes heddiw i ben. 

Daeth y cyfarfod i ben am 16:49.