11. Dadl Fer: Ariannu dyfodol Cymru: Buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd

– Senedd Cymru am 6:11 pm ar 26 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Os gall Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny'n dawel, fe ofynnaf i Tom Giffard gyflwyno ei ddadl fer. Tom Giffard.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative

Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 6:11, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi rhoi pedwar munud o fy amser, i Peter Fox, Mike Hedges, James Evans a Laura Jones ar gyfer y ddadl hon. 

Yn gyntaf oll, rwyf am gofnodi fy niolch i bawb yn y British Heart Foundation, yn enwedig Gemma Roberts, am dynnu sylw at yr ymgyrch bwysig hon ac am eu gwaith yn fy helpu i ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw. 

Mae ymchwil, datblygu ac arloesi yn gwbl hanfodol i unrhyw economi ffyniannus. Mae gan ymchwil allu i gefnogi ein hadferiad economaidd o bandemig COVID-19. Mae yna gyfleoedd enfawr i ddod ag arian a thalent i mewn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, mae Cymru'n methu manteisio ar y cyfleoedd hyn, ac rydym yn methu manteisio arnynt am nad yw ein prifysgolion yn cael digon o gyllid. Ni ddylid tanbrisio'r rôl y mae ymchwil yn ei chwarae yn ein heconomi. Mae'r rhai sy'n derbyn arian ymchwil yn prynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn gwneud eu gwaith ymchwil. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gweithgarwch yn eu cadwyni cyflenwi ac ar draws economi Cymru gyfan. Mae ymchwil yn hybu allbwn a chynhyrchiant mewn economi gyda thechnolegau, meddyginiaethau a phrosesau newydd. Ac wrth i ddulliau a thechnolegau newydd gael eu darganfod, mae gwybodaeth yn gorlifo i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae hyn yn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ac yn y pen draw, gallai helpu i sbarduno adferiad economaidd newydd. Ond os yw Cymru'n mynd i elwa ar fanteision ymchwil, mae angen i'n prifysgolion sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill ceisiadau cystadleuol am gyllid, ac i wneud hyn, mae angen seilwaith ar ein prifysgolion, a dyletswydd Llywodraeth Cymru yw ariannu'r seilwaith hwnnw.   

Nid yw Cymru'n cyflawni ei photensial mewn ymchwil feddygol. Mae gennym brifysgolion o'r radd flaenaf, ond ni chânt eu hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o dair gwlad ddatganoledig y DU, a phob un o naw rhanbarth Lloegr, Cymru sydd â'r gwariant isaf yn gyfrannol ar ymchwil a datblygu. Ni sy'n perfformio salaf o 12 gwlad a rhanbarth y DU. Dim ond 2 y cant o'r gwariant ymchwil a datblygu yn y DU sydd yng Nghymru. Rydym yn ffurfio bron i 5 y cant o'r boblogaeth, felly oni ddylem gael 5 y cant o'r gwariant ymchwil? Dim ond 3 y cant o gyllid cystadleuol y mae Cymru'n ei ennill, ond unwaith eto, rydym yn ffurfio 5 y cant o boblogaeth y DU, felly dylem fod yn ennill o leiaf 5 y cant o gyllid cystadleuol. Ond oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad ym mhrifysgolion Cymru, nid ydym yn denu cyfran ein poblogaeth o gyllid. Mae buddsoddiad isel yn atal llwyddiant economaidd a chyfraniad ymchwil i'n hadferiad economaidd.  

Ond nid problem newydd yw hon. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru ei hun adolygiad o'r amgylchedd ymchwil. Adolygiad Reid oedd hwnnw, a chanfu fod lefelau isel o gyllid seilwaith ym mhrifysgolion Cymru wedi bod yn ffynhonnell, ac rwy'n dyfynnu,

'gwendid strwythurol dros ddau ddegawd'.

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 6:15, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Bellach, mae pedair blynedd ers cyhoeddi'r adolygiad hwnnw ac ni fu cynnydd o hyd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w godi i'r un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig. Sut y gall ein prifysgolion gystadlu pan ydym yn parhau i fuddsoddi llai ynddynt na'r Alban neu Loegr?

Rydym i gyd yn cystadlu am yr un ffrydiau ariannu, ond mae Cymru dan anfantais sylweddol—anfantais a achosir gan ddadfuddsoddi mewn termau real yn ein prifysgolion. Yn hanesyddol, mae ymchwil yng Nghymru wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ond hyd yn oed gydag arian o'r UE roedd Cymru'n dal i fod dan anfantais o'i chymharu â gwledydd eraill y DU oherwydd lefelau isel o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith. 

Yn adolygiad Reid 2018, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, tynnodd sylw at y ffaith y dylai ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru gymryd lle ffrydiau ariannu'r UE ar y pryd. Byddai hyn yn cefnogi llwyddiant wrth gystadlu am gyllid ledled y DU ac yn denu lefelau uchel o fuddsoddiad busnes. Ond nid yw'r argymhelliad hwn wedi'i weithredu o hyd.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n gweinyddu arian seilwaith i brifysgolion ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd eu cyllideb ar gyfer 2022-23 yn £81.7 miliwn. Pro rata, pe bai prifysgolion Cymru'n cael eu cefnogi i gystadlu â Lloegr, byddai'r cyllid yng Nghymru oddeutu £100 miliwn. Mae hynny'n ddiffyg o £18 miliwn o gyllid ar gyfer seilwaith hanfodol. Mae'r diffyg hwnnw'n golygu nad oes gan brifysgolion Cymru y seilwaith hanfodol sydd ei angen arnynt, ac ni allant gystadlu â phrifysgolion eraill ar draws y DU am arian. Mae hynny'n lleihau nifer y grantiau sy'n dod i mewn i Gymru yn ddramatig, ac yn cyfyngu ar y manteision posibl i economi Cymru o ymchwil a datblygu. 

Mae ymchwil feddygol yn enghraifft wych o hynny. Mae ymchwil feddygol nid yn unig yn achub bywydau yn y dyfodol ond mae'n tanio ein heconomi nawr, ac mae pobl Cymru'n cytuno: yn ddiweddar adroddodd British Heart Foundation Cymru fod cymaint ag 82% o bobl yng Nghymru yn credu ei bod hi'n bwysig i Gymru fod yn gwneud ymchwil feddygol. Yn ogystal â darparu llu o fanteision i gleifion, mae ymchwil feddygol, gan gynnwys ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau, yn gwbl hanfodol i'n heconomi. Mae modelu a gafodd ei gomisiynu gan y BHF yn awgrymu bod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn chwarae rôl hanfodol yn economi Cymru ac mae ganddi botensial hefyd i sbarduno twf economaidd.

Roedd ymchwil gan Sefydliad Fraser of Allander ym Mhrifysgol Strathclyde yn amcangyfrif mai cyllid elusennol yw 35 y cant o'r holl gyllid ymchwil feddygol trydydd sector a sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda chyllid ymchwil gweithredol o £21 miliwn yn 2018. Yn ôl y sefydliad, yn 2019, roedd cyllid ymchwil feddygol gan elusennau yng Nghymru yn cefnogi gwerth £86 miliwn o allbwn a £55 miliwn o werth ychwanegol gros. 

Hefyd, canfu'r sefydliad, a gafodd ei gomisiynu gan British Heart Foundation, ei bod yn debygol fod gan bob £1 filiwn a werir ar ymchwil feddygol gan elusennau fanteision sylweddol fwy i'r economi na'r buddsoddiad cyfartalog yng Nghymru, sy'n golygu bod buddsoddi mewn ymchwil yn werth ardderchog am arian. Mae pob £1 filiwn a werir ar gyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau'n cefnogi £2.3 miliwn mewn allbwn a £1.47 miliwn mewn gwerth ychwaegol gros. Mae'r ffigyrau hynny'n golygu bod lluosyddion cyllid ymchwil feddygol yng Nghymru gan elusennau yn debygol o fod yn debyg i rai sectorau gyda'r lluosyddion gwerth ychwanegol gros uchaf yng Nghymru, gan wneud buddsoddi mewn denu ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau i Gymru yn werth ardderchog am arian. 

Gall cynnydd mewn ymchwil a ariennir gan y Llywodraeth a'r trydydd sector gynyddu cyllid y sector preifat hefyd. Mae cynyddu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r trydydd sector 1 y cant yn creu bron yr un cynnydd yng ngwariant y sector preifat o fewn blwyddyn. O'i roi mewn ffordd arall, bydd unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i mewn yn debygol o ddenu arian cyfatebol gan y diwydiant o fewn blwyddyn. 

Dywedodd y British Heart Foundation hefyd fod ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yn cefnogi creu swyddi mewn sectorau medrus fel addysg, ymchwil a datblygu, iechyd a gwaith cymdeithasol a pheirianneg. Mae'r cyflogau hyn, yn amlwg, yn cael eu gwario wedyn yn ein cymunedau lleol, busnesau lleol ac economïau lleol. Ar hyn o bryd, mae ymchwil feddygol sy'n cael ei hariannu gan elusennau yn cefnogi 975 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru, hyd yn oed gyda Chymru'n tangyflawni o ran denu cyllid ymchwil. Dychmygwch y manteision pe bai Llywodraeth Cymru'n buddsoddi ac yn sicrhau bod Cymru'n cyrraedd ei photensial o ran denu'r cyllid hwnnw i Gymru. 

Mae'r Sefydliad Ffiseg hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid ymchwil cysylltiedig ag ansawdd Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos nad yw cyllid cysylltiedig ag ansawdd yng Nghymru wedi cadw gyfuwch â chwyddiant ers 2008, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi llwyddo i gynnal neu gynyddu cyllid cysylltiedig ag ansawdd dros yr un cyfnod o amser. Nodaf fod y methiant i gadw gyfuwch â chwyddiant yn rhagflaenu Brexit a dadleuon ynghylch dileu cronfeydd strwythurol. Ânt rhagddynt i ddweud hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi diddymu cyllid pwrpasol ar gyfer arloesi ac ymgysylltu yn 2014-15 ac fe gafodd y cyllid ei adfer yn 2018-19 ar £7.5 miliwn, ac erbyn hyn mae'n £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae hynny'n is na'r £25 miliwn a gafodd ei argymell yn adolygiad Reid a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Daw eu pryderon yn rhannol o ganfyddiadau arolwg economeg Cyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain o arloeswyr ffiseg. Canfu fod arloeswyr ffiseg Cymru yn cydweithio'n fwy rheolaidd â phrifysgolion nag arloeswyr yn y DU gyfan. Gyda 54 y cant o arloeswyr Cymru'n dweud bod gwell cyfleoedd i gydweithio yn sbardun allweddol i'w cynlluniau i gynyddu buddsoddiad, gallai'r partneriaethau hyn fod yn ganolog i wireddu nodau ymchwil a datblygu ac arloesi.

Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ennill o leiaf cyfran poblogaeth Cymru o gyllid cystadleuol allanol—hynny yw, 5 y cant o gyllid cystadleuol allanol y DU. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu ei buddsoddiad ei hun. Mae gwir angen i brifysgolion Cymru weld cynnydd mawr yn y cyllid ar gyfer seilwaith a ddarparir gan Lywodraeth Cymru. Heb yr un cymorth â gweddill y DU, ni fydd prifysgolion Cymru ac ymchwilwyr Cymru yn gallu cystadlu'n deg am gyllid ar gyfer y DU gyfan. Byddem yn colli manteision ymchwil feddygol, a'r cyfle hefyd i adfer yr economi a thwf economaidd. Mae yna anghydraddoldeb o ran cyllido ymchwil yn y DU, ac rwy'n credu mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â hynny. 

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 6:21, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i chi, Tom Giffard, am gyflwyno'r ddadl hon a rhoi ychydig o amser i mi? Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno â'r syniad fod ymchwil, datblygu ac arloesi yn sbardun pwysig i dwf economaidd a ffyniant, ac wrth gwrs mae prifysgolion yn allweddol i hyn. Nawr, mae yna newyddion da. Nodwyd bod Cymru'n chwaraewr cyson o gryf o fewn ymchwil ac arloesi rhyngwladol a rhanbarthol, ac mae ystadegau diweddar yn dangos bod gan Gymru gyfran uwch o gyhoeddiadau academaidd ymhlith y cyhoeddiadau byd-eang a ddyfynnir amlaf o'u cymharu ag unrhyw ran arall o'r DU. Ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod yn ei gyfraniad, mae mwy y gallwn ei wneud i gynorthwyo prifysgolion i hybu eu galluoedd.

Yn un peth, rwy'n credu ein bod angen mwy o ffocws. Felly, pa feysydd penodol rydym yn eu harwain, a pha feysydd yr hoffem dyfu ynddynt? Mae'r sylw hwn wedi cael ei wneud am strategaeth arloesedd Llywodraeth Cymru. Mae negeseuon cyffredinol y strategaeth, er yn ganmoladwy, yn eithaf eang. Drwy fod â mwy ffocws ac yn fwy penodol, gallwn ei gwneud yn haws i brifysgolion, a Chymru yn wir, ddatblygu a chynyddu maint y syniadau newydd sydd eu hangen arnom. A gwelsom enghreifftiau o ba mor dda y gall hyn weithio. Er enghraifft, mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi buddsoddi i ddatblygu'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan flaenoriaethu buddsoddi mewn ymchwil a datblygu a chefnogi busnesau arloesol, ac mae pawb ohonom wedi gweld prifysgolion dangos diddordeb yn y buddsoddiad hwn, gyda'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy na buddsoddi mewn ymchwil ac arloesedd yn unig, mae angen inni hefyd greu synergeddau rhwng y byd academaidd a busnesau i sicrhau bod eu hanghenion a'u blaenoriaethau'n cyd-fynd â'i gilydd. Diolch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:23, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Tom Giffard am roi munud i mi yn y ddadl hon. Mae rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus yn y byd yn defnyddio eu prifysgolion fel sbardun economaidd—Caergrawnt, Bryste a swydd Warwick, ymhlith eraill yn Lloegr, ac mae Califfornia, Denmarc a'r Almaen, sy'n llwyddiannus yn economaidd, yn elwa o'u prifysgolion, megis Stanford, Heidelberg ac Aarhus. Mae gennym brifysgolion rhagorol yng Nghymru. Mae angen inni eu defnyddio'n fwy effeithiol. Mae datblygu parciau gwyddoniaeth gan brifysgolion a datblygu ysgolion entrepreneuriaeth prifysgolion wedi helpu i ddatblygu economïau ledled y byd.

Un maes twf pwysig yn economi'r byd yw gwyddorau bywyd. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth. Mae i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae'n rhaid iddo chwarae rhan bwysicach mewn gwirionedd. Gall prifysgolion chwarae rhan allweddol yn datblygu diwydiant gwyddorau bywyd Cymru ymhellach. Ac yn wahanol i rannau eraill o'r DU, nid yw'r buddsoddiad mewn gweithgarwch wedi'i ganoli mewn un ardal neu ranbarth cyfoethog yn unig. Mae twf y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn rhychwantu hyd a lled y wlad, o gynaeafu colagen sglefrod môr yn y gorllewin i sefydliad blaengar ar gyfer prostheteg babandod yn y gogledd. Os gall hyn weithio, mae angen inni wneud iddo weithio.

Photo of James Evans James Evans Conservative 6:24, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Tom Giffard am roi munud o'i amser i mi ddau funud cyn i'r ddadl hon ddechrau. [Chwerthin.] Mae cyllid ymchwil yn hanfodol i ddatrys rhai o'r problemau mawr sydd gennym yn y byd, ac wrth i gyd-Aelodau yn y Siambr eistedd drwy'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn ddiweddar, roedd yn amlwg o gasglu tystiolaeth fod yna ffocws gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac eraill efallai na fyddai sefydlu'r comisiwn newydd yn canolbwyntio digon o'i amser a'i adnoddau ar ymchwil. Felly, hoffwn ofyn cwestiwn uniongyrchol i'r Gweinidog y gallai fod eisiau ei ateb. Hoffwn wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion CCAUC a Llywodraeth Cymru ynglŷn â sefydlu'r comisiwn newydd, a pha ffocws a chyllid y maent yn mynd i'w roi i ymchwil feddygol, oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn hanfodol os ydym yn mynd i ddatrys rhai o'r problemau sydd gennym yn y byd heddiw. 

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 6:25, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am ganiatáu munud i mi yn ystod y ddadl fer hon heddiw. Mae angen canolbwyntio'n gadarn ar fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru i ysgogi economi Cymru, a gwella ymchwil a datblygu. Mae'r ymgyrch newydd a'r adroddiad ar ariannu dyfodol Cymru gan British Heart Foundation Cymru yn tynnu sylw at sut y bydd ariannu ein prifysgolion disglair yn briodol yn gwella ymchwil feddygol ac yn sbarduno twf economaidd, dwy fuddugoliaeth fawr a rhesymau dros fuddsoddi. Fel y dywedodd Tom Giffard yn gynharach, mae gan Gymru oddeutu 5 y cant o boblogaeth y DU, ond dim ond 2 y cant o wariant ymchwil a datblygu y DU. Gwelsom bwysigrwydd ymchwil a datblygu ac arloesi yn ystod y pandemig. Mae angen inni fuddsoddi mewn ymchwil a all ein datblygu'n sylweddol yn feddygol ac mewn sawl ffordd arall, a byddwn yn gobeithio, fel James, y bydd y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn ceisio mynd i'r afael â hyn wrth symud ymlaen.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein prifysgolion er mwyn iddynt allu bod yn fwy cystadleuol, fel y gallant fod mewn sefyllfa well i ennill y ceisiadau allanol a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol. Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil cysylltiedig ag ansawdd yn llawer rhy isel ar adeg pan ddylent fod yn buddsoddi yn nyfodol Cymru. Rydym i gyd yn gwybod bod cyllid cysylltiedig ag ansawdd gan Lywodraeth Cymru yn talu am bethau nad yw grantiau'n talu amdanynt—seilwaith staff a biliau cyfleustodau, ac rwy'n siŵr fod hynny'n bryder arbennig iddynt ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae ymchwil a datblygu'n effeithio ar dwf yn uniongyrchol. Felly, diolch i chi, Tom, am adael inni dynnu sylw at hyn heddiw. 

Photo of David Rees David Rees Labour 6:27, 26 Hydref 2022

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl.  

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae prifysgolion yn elfen hanfodol o'n economi ni, gan gynhyrchu dros £5 miliwn o allbwn bob blwyddyn. Maen nhw'n sefydliadau angori ac yn chwarae rhan hollbwysig yn eu hardal leol drwy gynnig cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi, a phoblogaethau amrywiol o fyfyrwyr a staff. Mae eu cyfraniad hefyd yn cael ei deimlo ar draws Cymru a thu hwnt drwy eu gwaith blaengar ar ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo yn ei buddsoddiad a'i chefnogaeth i'n prifysgolion. Rŷm ni wedi cynyddu cyllidebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru tua 82 y cant, gan eu galluogi nhw i ailgyflwyno cyllid arloesi ac ymgysylltu a chynyddu lefel y cyllid a roddir i ymchwil ar sail ei ansawdd. Mae cyfanswm cyllid ymchwil ac arloesi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach bron yn £103 miliwn. Mae canlyniadau fframwaith rhagoriaeth ymchwil 2021 yn dangos yr effaith ardderchog y mae prifysgolion Cymru yn eu cael. Barnwyd bod 83 y cant o'r gwaith ymchwil a gafodd ei gyflwyno yn arwain y byd, neu yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r sylfaen ymchwil hon yn ysgogi lledaenu gwybodaeth, arloesi technolegol a mewnfuddsoddiad.  

Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, mae ymchwil mewn prifysgolion yn cael ei ariannu drwy gymysgedd o arian gan fusnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Mi ddof yn ôl at fater cyllid Ewropeaidd yn y man. Yn y cyfnod heriol ariannol sydd ohoni, mae'n hanfodol i sector ymchwil ac arloesi Cymru gydweithio ar flaenoriaethau cyffredin, a chanolbwyntio ar daclo'r heriau mwyaf rŷm ni'n eu wynebu fel cenedl. Rydym ni wedi buddsoddi £2 filiwn eleni yn rhwydwaith arloesi Cymru, a gafodd ei sefydlu er mwyn hwyluso cydweithio a phartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt, gydag amrywiaeth eang o gyrff sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector.

Wrth gwrs, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn bartner allweddol wrth fuddsoddi mewn prifysgolion, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw er mwyn gweld sut y gallwn ni ddatblygu'n strategol y ffordd y caiff cyllid ymchwil ei ddyrannu er mwyn ennill grantiau o ffynonellau eraill. Rwy'n croesawu agwedd ymarferol a hyblyg y sector a'i barodrwydd i gydweithio er mwyn bod yn fwy cystadleuol o ran y Deyrnas Unedig. Drwy gydweithio, fe fyddwn ni'n sicrhau'r gwerth mwyaf o gyllid ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi ymchwil ac arloesi. Yn y dyfodol, y bydd cyllid prifysgolion yn dod o dan y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil. Mewn ateb i James Evans, bydd disgwyl i'r comisiwn chwarae rhan allweddol yn y system ymchwil, gan weithio'n agos gyda chynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig. Bydd yn parhau gyda gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gynyddu'r swm o gyllid ymchwil y Deyrnas Unedig sydd yn dod i Gymru.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:30, 26 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, nid drwy ymchwil ac arloesi'n unig y mae prifysgolion yn cael effaith economaidd. Maent yn sefydliadau angori ac yn gyflogwyr sylweddol. Yn 2019-20, roedd un ym mhob 20 swydd yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithgarwch prifysgol. Câi dros 21,700 o swyddi eu darparu gan brifysgolion Cymru, gyda 19,600 yn rhagor o swyddi wedi'u creu mewn diwydiannau eraill drwy effaith ganlyniadol addysg uwch. Rwy'n falch fod prifysgolion yng Nghymru yn talu'r cyflog byw, a byddwn yn annog mwy o gaffael lleol a rhanbarthol. Bydd twf eleni yn nifer yr israddedigion yn cael effaith economaidd ar unwaith mewn cymunedau lleol, a diolch i'n diwygiadau blaengar i gyllid myfyrwyr, mae nifer yr ôl-raddedigion yn parhau i gynyddu, gan drosi'n ymchwilwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod, gan greu ei effaith economaidd ei hun.

Mae lefelau sgiliau'n cydberthyn yn glir i dwf economaidd, ac rydym yn buddsoddi yn ein prifysgolion i ddarparu addysg ran-amser, mwy o weithgaredd ôl-raddedig, prentisiaethau gradd, a'r cyfan ochr yn ochr â'u cynnig craidd. Rydym wedi buddsoddi mewn cynllun peilot microgymwysterau, ehangu llefydd meddygol drwy ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, a pharhau i fuddsoddi mewn pynciau cost uwch, fel cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydym yn sicrhau bod Cymru'n cael ei gweld fel cyrchfan sy'n denu myfyrwyr ac ymchwilwyr rhyngwladol i astudio, a bod ein partneriaethau rhyngwladol hefyd yn gallu parhau a thyfu. Mae ein mentrau Taith a Global Wales yn enghreifftiau da o'n gwaith yn y maes hwn.

Dywedais y byddwn yn dychwelyd at fater arian Ewropeaidd. Rwy'n siŵr fod pawb yma'n pryderu am golli'r arian ymchwil a datblygu Ewropeaidd. Drwy wrthod rhoi arian yn lle'r cronfeydd hyn, mae Llywodraeth y DU yn gadael bwlch cyllid, gan danseilio cystadleurwydd yn ystod cyfnod o newid aruthrol. Rwy'n gwbl glir fod rhaid inni weld lefelau ariannu sy'n cyfateb fan lleiaf i'r rhai roeddem yn eu cael yn hanesyddol yn dychwelyd i Gymru. Er mwyn sicrhau mwy o fuddsoddi a dychwelyd i lefelau cyllid hanesyddol fan lleiaf, mae angen cefnogaeth uniongyrchol a chydweithrediad Llywodraeth y DU a'i hadrannau a'i hasiantaethau, yn enwedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU, i weithio mewn partneriaeth ar benderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru. Rhaid i Lywodraeth y DU wella'r berthynas gyda'r UE er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn y DU yn Horizon Europe, fel y cytunwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae cysylltiad â'r rhaglen o fantais i'r pedair gwlad, ac fe wneuthum y pwynt hwn yn gadarn dros y deuddydd diwethaf yn fy ymweliadau â Brwsel. Ein barn gadarn ni yw mai deialog a thrafod yw'r unig lwybr i ganlyniad cadarnhaol a fyddai'n atal niwed o sylwedd i economi Cymru. Fel y dywedodd adroddiad diweddar gan grŵp Russell,

'Bydd methiant i sicrhau cysylltiad â Horizon, Euratom a Copernicus yn cyfyngu'n sylweddol ar atyniad y DU fel cyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad.'

Os na all Llywodraeth y DU gyflawni'r hyn y cytunwyd arno yn y cytundeb masnach a chydweithredu, rhaid i ni adeiladu perthynas agos, hirdymor gyda Horizon Europe fel trydedd wlad. Mae hyn yn hollbwysig i'n heconomi. Efallai y gall yr Aelod siarad â'i gymheiriaid yn San Steffan ynghylch rhai o'r materion hyn.

Maes arall lle roedd cyllid Ewropeaidd yn bwysig yw arloesi, sydd mor hanfodol i'n datblygiad economaidd. O dan drefniadau Llywodraeth y DU, mae cyllideb Cymru'n colli dros £1.1 biliwn o gyllid newydd yn lle cyllid yr UE. Rydym yn gwybod bod cynlluniau fel arbenigedd SMART wedi bod yn effeithiol iawn wrth gefnogi cydweithio effeithiol rhwng ymchwil a diwydiant. Mae'r rhain yn cydnabod yr ymdrech ar y cyd rhwng partïon, gan arwain at wobrau a rennir, yn enwedig cynhyrchiant eiddo deallusol, y manteisiwyd arno i greu effaith economaidd a chymdeithasol i'r holl bartneriaid.

Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon o'r farn fod prifysgolion yn rhan greiddiol o seilwaith economaidd ac addysgol Cymru, ac rydym wedi buddsoddi'n unol â hynny, gan gefnogi ymchwil ac arloesi, datblygu sgiliau a lledaenu gwybodaeth. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddarparu'r cyflog byw go iawn, wedi annog arloesedd a chaffael a gwell ymgysylltiad â'r gymuned drwy weithgarwch cenhadaeth ddinesig. Mae buddsoddi yn ein prifysgolion yn fuddsoddiad mewn pobl, mewn ymchwilwyr, mewn staff cymorth, mewn technegwyr, mewn darlithwyr. Mae'n fuddsoddiad yn ein heconomi, mewn un ymhob 20 swydd drwy Gymru; mae'n fuddsoddiad yn ein myfyrwyr a'u dyfodol, yn y sgiliau ar gyfer Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ailddatgan mai rhan o fy ngweledigaeth ar gyfer addysg uwch yw sefydliadau neilltuol yn gweithio mewn partneriaeth. Drwy gydweithio, gallant wneud y gorau o'r buddsoddiad sylweddol a gânt, a thrwy gydweithio, byddant yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i dwf economaidd.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:35, 26 Hydref 2022

Diolch i'r Gweinidog. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i orffwys yn ystod ein toriad.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.