– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf, felly, bydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch. Mae rhai newidiadau i fusnes yr wythnos yma. Byddaf i'n gwneud datganiad ynghylch ffliw adar yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac mae'r datganiad ar yr ymateb i gynllun ariannol a rhagolwg economaidd Llywodraeth y DU a'r drafodaeth ar yr Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur Protocol Gogledd Iwerddon wedi'i gohirio tan 22 Tachwedd. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol ar y newyddion bod ugeiniau o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu mewn gwesty moethus yng nghefn gwlad Conwy yng ngogledd Cymru? Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi achosi cryn bryder ymysg y gymuned, oherwydd ni oes unrhyw gyfathrebu wedi bod o gwbl cyn i'r trefniant yma gael ei wneud gyda naill ai cynrychiolwyr lleol nac, yn wir, rwy'n deall, gyda Llywodraeth Cymru neu'r awdurdod lleol. Nawr, yn amlwg, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod llety'n addas i geiswyr lloches nes bod eu ceisiadau am loches yn cael eu penderfynu, ac mae gan Lywodraeth y DU her sylweddol ar ei dwylo, ond mae nifer o bobl wedi cael eu trefniadau wedi'u canslo, mae digwyddiadau priodas yn cael eu canslo, mae gwesteion wedi cael eu harosiadau yn y gwesty wedi'u canslo hefyd. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni straen enfawr eisoes ar lawer o'n gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal, ac mae pobl eisiau gwybod beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau nad oes gennyn nhw feichiau ychwanegol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn, sy'n ymddangos fel pe bai wedi'i osod ar bob un ohonom ni oddi uchod.
A gaf i ofyn am ddatganiad brys ar hynny, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda Llywodraeth y DU ac, yn wir, yr awdurdod lleol dan sylw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i wneud yn siŵr fod anghenion yr unigolion hyn yn cael eu diwallu ac y gallan nhw gael eu cartrefu'n briodol, nid mewn gwesty moethus ar adeg pan fo gennym ni lawer o broblemau tai eisoes yn y gogledd, ond mewn llety priodol sy'n addas at y diben?
Mae'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, na'r awdurdod lleol, byddwn i'n dweud, weithio gyda Llywodraeth y DU pan ydyn nhw'n cael eu hanwybyddu'n llwyr. Fel y dywedwch chi, ni chawsom wybod am hyn ymlaen llaw, ac rwyf i eisiau bod yn wirioneddol glir, Llywydd, mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am bolisi mewnfudo a'i gyflawni. Mae ganddyn nhw system nawr sydd wedi torri, rwy'n credu, ac mae gwir angen iddyn nhw drwsio hyn cyn gynted â phosibl, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yw canlyniadau dynol y system honno sydd wedi torri, a dydw i ddim yn credu ei bod yn gwneud lles i unrhyw un.
Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn neu wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref fel mater o frys heddiw i wneud y pwyntiau hyn yn gryf iawn, iawn. Ac nid yw hyn atoch chi o gwbl, ond rwy'n credu y byddwn i eisiau apelio at bawb, fel yr ydych chi wedi codi'r mater hwn, mai'r peth gorau mewn gwirionedd yw osgoi defnyddio iaith ymfflamychol pan fyddwn ni'n ymdrin â'r mater hwn. Yn sicr, rwyf i wedi gweld geiriau na fyddwn i wedi bod eisiau eu gweld ynglŷn â hyn, ac mae gan eiriau ganlyniadau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn trin y mater hwn â sensitifrwydd a gofal.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfyngu gwerthiant tân gwyllt, os gwelwch yn dda. Rydym ni newydd gael noson tân gwyllt, ac fel pob blwyddyn arall, mae anifeiliaid di-ri wedi cael eu dychryn yn enbyd gan y synau a'r fflachiadau o dân gwyllt nid yn unig ar un noson, ond y tair, pedair neu bum noson o gwmpas noson tân gwyllt hefyd. Roedd Classic FM wedi rhoi cerddoriaeth gysurlon yn benodol i gysuro anifeiliaid anwes gofidus pobl oedd yn ofidus, ac mae hynny'n beth hyfryd, ond siawns na ddylai fod wedi gorfod digwydd mewn gwirionedd.
Mae pryderon ynghylch diogelwch plant o ran tân gwyllt hefyd, ac mae gwahaniaeth aruthrol rhwng yr arddangosfeydd proffesiynol gwych sy'n cael eu cynnal yn ein cymunedau a phobl yn eu cynnau yn eu gerddi eu hunain. A fyddai Llywodraeth Cymru'n gallu dysgu o brofiad yr Alban a'u Bil tân gwyllt a pyrotechneg, ac a yw hwn yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud mwy? Byddwn i'n croesawu datganiad yn nodi hyn, os gwelwch yn dda.
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod pan oedd gen i bortffolio'r amgylchedd, roeddwn i'n cwrdd yn rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a hefyd yr Alban, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater â gedwir yn ôl, a byddai angen i Lywodraeth y DU wahardd gwerthu tân gwyllt. Ond rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yr ydych chi'n ei wneud yw nad un noson yn unig mohono; mae hyn wedi parhau, a hyd yn oed neithiwr roeddwn i'n gallu clywed tân gwyllt. Felly, rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth y byddem ni eisiau ei ystyried, i ystyried yr arfer gorau i weld a oes unrhyw beth y gallem ni ei wneud. Nid ydw i'n gwybod a yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn parhau i gael y trafodaethau hynny gyda'r swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU nawr bod gennym ni Lywodraeth newydd ar waith, ond rwy'n credu ei fod yn sicr yn rhywbeth yr ydym ni i gyd, fel Aelodau o'r Senedd, yn cael bag post eithaf sylweddol amdano.
Gwnes i gwrdd yn ddiweddar ag etholwyr Caerffili Ellie ac Owain James. Yn 34 oed, mae Owain wedi cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd nad oes modd ei wella, ac os nad oes camau'n cael eu cymryd, mae'r cwpl wedi cael gwybod y bydd ganddo fisoedd yn unig i fyw. Cafodd wybod am un driniaeth a allai ei helpu i ymestyn ei fywyd, ond nid yw wedi'i chymeradwyo eto gan NICE na'r grŵp strategaeth meddyginiaethau Cymru gyfan, ac er ei fod yn addawol iawn, mae'n dal i fod yng nghamau olaf treialon clinigol gyda'r asiantaeth rheoleiddio cynhyrchion meddygol a gofal iechyd. Yr unig ddewis sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd, felly, yw iddyn nhw dalu'n breifat—rhywbeth a fyddai'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd iddyn nhw.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o achos Ethan Hamer, 15 oed o Gaerffili, sydd wedi cael diagnosis o fath ymosodol iawn o ganser sy'n gofyn am fath tebyg o driniaeth, ac mae'r math hwnnw o driniaeth yn y camau defnyddio cynnar. Mae gan Owain ac Ethan safleoedd ariannu torfol wedi eu sefydlu yn eu henwau, ac rwy'n bwriadu eu rhannu ar fy nghyfryngau cymdeithasol. Rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y mater, ond yn y cyfamser, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y gallu i gael gafael ar feddyginiaethau newydd sydd heb gael eu cymeradwyo i'w defnyddio eto ar gyfer ei ddefnyddio gyda GIG Cymru?
Diolch, ac yn sicr mae'n ddrwg iawn gen i glywed am y materion iechyd y mae Owain ac Ethan yn eu profi. Yr hyn yr ydym ni fel Llywodraeth yn ei ddisgwyl yw bod pobl yn gallu cael gafael ar therapïau a argymhellir fel rhan o'r drefn arferol drwy'r GIG, ac mae'n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod triniaethau sydd ar gael fel mater o drefn ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd. Yn amlwg gwnaethoch chi gyfeirio at therapïau newydd sy'n gorfod mynd trwy, yn hollol gywir, NICE a threialon meddyginiaethau ac asiantaeth rheoleiddio gofal iechyd, ac maen nhw fel arfer yn cael eu datblygu trwy dreialon clinigol cyn hynny. Yn amlwg, byddem ni'n disgwyl i gleifion cymwys yng Nghymru allu cael gafael ar dreialon clinigol agored hefyd, cyn trwyddedu unrhyw therapi newydd, os, yn wir, dyna oedd y penderfyniad clinigol a gafodd ei wneud. Rydych chi wir wedi gwneud y peth cywir yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb maes o law.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Un ar weithwyr gofal, oherwydd cyhoeddiad y Llywodraeth yn ôl yn y gwanwyn i sicrhau bod arian ar gael i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal yma yng Nghymru—menter i'w chroesawu, os caf i ychwanegu. Mae gwahanol ddarparwyr gofal wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth fy hun, ond rwy'n deall ei fod yn debyg ar draws gweddill Cymru, bod yr arian hwn wedi'i drosglwyddo i awdurdodau lleol ac roedd elfen o ddisgresiwn yr awdurdod lleol ynghylch faint o'r gyllideb £40 miliwn a mwy oedd ar gael i'r darparwyr gofal i gyrraedd y nod hwnnw o dalu'r cyflog byw gwirioneddol. Yn ystod argyfwng COVID, pan oedd gan Lywodraeth Cymru fenter debyg i wobrwyo gweithwyr gofal trwy roi cynnydd o £1,500 iddyn nhw yn eu cyflogau, cafodd yr arian hwnnw ei dalu'n uniongyrchol i'r darparwyr gofal er mwyn gallu trosglwyddo'r arian i'r gweithwyr yn eu cyflogaeth. Fy nealltwriaeth i yw bod llawer o ddarparwyr gofal yn ei chael hi'n anodd bodloni'r rhwymedigaeth hon nawr, oherwydd bod awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau dewisol dros ddyrannu'r arian hwn. Rwyf i wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, ond a gawn ni ddatganiad i drafod gweithredu'r polisi hwn yn gyffredinol? Ac a yw hi'n ymwybodol o'r pryderon hyn sydd wedi'u codi gyda mi, gan fy mod i'n deall fod Fforwm Gofal Cymru wedi codi pryderon tebyg gyda hi'n uniongyrchol, a pha gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i unioni'r pryderon hyn?
Ac mae fy ail gais am ddatganiad o ran y cyhoeddiad cladin a wnaeth y Gweinidog, y gallaf weld ei bod yn ei lle heddiw, o ran y rhwymedigaethau a'r cytundeb gwirfoddol y cyrhaeddodd hi â datblygwyr yma yng Nghymru ddechrau mis Hydref. Fy nealltwriaeth i yw bod y datblygwyr hynny i ddod ymlaen at Lywodraeth Cymru o fewn mis o lofnodi'r cytundeb ynghylch sut maen nhw'n bwriadu unioni'r camweddau cladin ar adeiladau yng Nghymru, a dylai'r cynlluniau hynny, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, fod wedi cyrraedd Llywodraeth Cymru ddiwedd yr wythnos ddiwethaf neu ddechrau'r wythnos hon. A gaf i arwydd a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno datganiad, fel y gallwn ddeall pa mor hyderus yw'r Gweinidog bod y datblygwyr yn byw hyd at yr ymrwymiadau y maen nhw wedi'u gwneud yn y cytundeb gwirfoddol hwnnw, a sut bydd y Llywodraeth yn dwyn y datblygwyr i gyfrif er mwyn sicrhau bod y camau unioni'n cael eu rhoi ar waith ar frys?
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch y cynllun talu ychwanegol i'n gweithwyr gofal, fy nealltwriaeth i yw bod awdurdodau lleol wedi nodi bod 96 y cant o'r taliadau wedi'u talu'n barod. O ran y 4 y cant, rwy'n credu eich bod chi wir wedi gwneud y peth cywir yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, a bydd hi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y 4 y cant hwnnw.
Ac ar eich ail gwestiwn, nid ydw i'n ymwybodol os yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi derbyn yr holl gynlluniau, ond rwy'n gwybod y bydd hi'n ystyried y rheini, ac os yw hi'n teimlo bod angen rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, byddaf i'n gofyn iddi hi wneud datganiad ysgrifenedig.
Rwy'n gofyn heddiw am ddatganiad busnes ar oed cyfrifoldeb troseddol, sydd yn ddim ond 10 oed yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Yn 2021, newidiodd yr Alban eu polisi i gynyddu oedran cyfrifoldeb troseddol i 12 oed, gan gydnabod bregusrwydd rhai pobl ifanc mewn cymdeithas a'r angen i wella cyfleoedd adsefydlu. Er y feirniadaeth gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae Llywodraeth y DU yn dweud nad oes ganddi gynllun i wneud unrhyw newidiadau. Yn aml, mae plant yn y system cyfiawnder ieuenctid wedi dioddef lefelau uchel o drawma, trais a cholled, ac nid yw'r system bresennol yn ystyried dim o hyn, a dyna pam y mae grwpiau hawliau plant yn parhau i feirniadu oed cyfrifoldeb troseddol Cymru a Lloegr am ei diffyg ystyriaeth foesegol i aeddfedrwydd a datblygiad niwrolegol pobl ifanc. Pam ydyn ni, fel cymdeithas, yn gweld plant yn rhy ifanc i fod yn gyfrifol am eu gofal eu hunain, ac eto, pan fo'n dod at droseddu, mae plant yn cael eu hystyried yr un fath ag oedolion? Mae cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru wedi canolbwyntio ar y cysyniad o Blant yn Gyntaf. Mae Plant yn gyntaf yn ystyried y plentyn yn gyntaf, troseddwyr yn ail, ac yn ystyried bod plant, mewn gwirionedd, yn blant ac felly mae angen eu gweld nhw felly os a phryd y maen nhw'n ymwneud â'r system gyfiawnder. Sut, felly, gallwn ni hyrwyddo'r dull blaengar hwn o ymdrin â rhai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n cael eu dal yn y system gyfiawnder ieuenctid os yw cyfraith y DU yn nodi bod gan blant mor ifanc â 10 yr un cyfrifoldeb ac aeddfedrwydd ag oedolion?
Diolch. Wel, mae Llywodraeth y DU, yn amlwg, â chyfrifoldeb dros gyfiawnder, ac mae hynny'n cynnwys cyfiawnder ieuenctid. Pe bai cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru, yn amlwg byddem ni mewn sefyllfa i ystyried y cwestiwn hwn yn fanwl iawn ac, yn bwysicach byth, mewn sefyllfa i ymdrin â'r pwyntiau dilys iawn yr ydych chi wedi'u codi. O dan y drefn bresennol, fel y dywedais i, mae'n fater i Lywodraeth y DU, ond rwy'n falch eich bod chi'n sefyll ochr yn ochr â ni wrth alw am agwedd fwy blaengar ac ar sail tystiolaeth tuag at y mater hwn.
Gwn i fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch oedran cyfrifoldeb troseddol yma yng Nghymru. Mae hynny'n rhan o'r gwaith cydweithio parhaus ar argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Thomas. Mae gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol hefyd y glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid yma yng Nghymru, y gwnaeth hi eu cyhoeddi yn ôl ym mis Gorffennaf 2019, ac mae hynny'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, gan fynd â'r dull Plant yn Gyntaf hwnnw o weithredu ymlaen.
A gaf i ofyn am ddatganiad, Gweinidog, gan y Gweinidog iechyd, ynghylch y cyflog byw gwirioneddol? Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chymorth ariannol i ddarparwyr gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau y bydd pob gweithiwr cymorth yn cael y cyflog byw gwirioneddol, mae cwynion wedi bod nad yw darparwyr yn cael y cyllid oedd i fod i'w cyrraedd drwy awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae cryn ddryswch ynglŷn â sut y dylai'r arian gael ei drosglwyddo. Mae rhai awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gwrthod darparu cyllid os nad yw gwasanaeth wedi'i gomisiynu wedi'i leoli yn eu tiriogaeth, ac mae eraill yn cymryd agwedd hollol wahanol ac yn gwrthod cyllid os nad ydyn nhw'n comisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol gyda'r darparwr lleol.
Mae un darparwr gofal o Gymru yn disgwyl mynd i gostau ychwanegol o fwy na £250,000 y flwyddyn am weithredu'r cynnydd mewn cyflog byw gwirioneddol, ond eto, saith mis ar ôl i gyflogau gynyddu, dim ond £23,000 ychwanegol y mae wedi cael cynnig yn flynyddol er mwyn talu ei gostau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef eu bod nhw'n gwybod hynny—ac rwy'n dyfynnu—byddai gweithredu'n heriol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y flwyddyn gyntaf, a'u bod yn ymwybodol efallai bod dulliau gwahanol wedi digwydd ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Nid yw darparwyr wedi cael sicrwydd gan honiad annelwig Llywodraeth Cymru y bydd gwerthuso deinamig annibynnol a'u prosesau monitro eu hunain ar effeithiolrwydd y broses o gyflwyno yn gallu nodi gwelliannau a datblygu prosesau gwell ar gyfer y dyfodol. Ac yn y cyfnod economaidd heriol hwn, mae darparwyr yn gynyddol rhwystredig nad yw Llywodraeth Cymru'n darparu mwy o arweinyddiaeth i ddatrys y broblem frys hon, sy'n achosi caledi ariannol sylweddol i gyflogwyr gofal cymdeithasol Cymru. Felly, os gwelwch yn dda, Gweinidog, a all y Gweinidog iechyd wneud datganiad i roi manylion penodol i ddarparwyr gofal cymdeithasol ynghylch y broses o fonitro gwerthuso deinamig—pwy sy'n rheoli hyn, beth yw'r amserlenni ar gyfer adrodd, a phryd y mae modd disgwyl gwelliannau'r broses wedi'u cynllunio? Hefyd, pan fo darparwyr wedi gorfod ariannu'r cynnydd mewn cyflog byw gwirioneddol ar ran Llywodraeth Cymru, a fydd Llywodraeth Cymru yn eu had-dalu am y llog ar yr arian hyn? Diolch.
Nid wyf i'n siŵr, Llywydd, a oedd yr Aelod yn ei sedd pan ofynnodd arweinydd yr wrthblaid yr un cwestiwn i mi, ond, fel y dywedais i, mae'r awdurdodau lleol wedi dweud iddyn nhw wneud 96 y cant o'r taliadau ym mis Mehefin.
Trefnydd, a gaf i ofyn am yr wybodaeth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am gynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac ar ddau fater yn benodol? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion diweddar y bydd darn wyth milltir o Flaenau'r Cymoedd, yr A465, yn wynebu cyfres o achosion o fod ar gau yn ystod y 18 mis nesaf. Bydd y ffordd rhwng cylchfan Brynmawr a chylchfan Hardwick ar gau o bryd i'w gilydd drwy'r cyfnod hwnnw, gyda dargyfeiriad 25 milltir o hyd gan fynd â theithiau a oedd yn 10 munud hyd at 40 munud i'w chwblhau. Yn amlwg, bydd hyn yn amharu'n aruthrol ar drigolion a busnesau, ac mae nifer o etholwyr eisoes wedi bod mewn cysylltiad i leisio eu pryderon difrifol am yr effaith y bydd hyn yn ei gael arnyn nhw a'u cymunedau. Trefnydd, nid dyma fydd y tro cyntaf i waith ffordd amharu ar bethau, ac mae etholwyr yn mynd yn fwy rhwystredig fyth. Felly, a wnaiff y Llywodraeth esbonio pa waith sy'n cael ei wneud a pham, a sut y bydd unrhyw darfu parhaus yn cael ei liniaru?
Y pwynt arall yr hoffwn i ei godi yw cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw busnesau wedi cael iawndal teg am golledion a gafodd eu hachosi gan waith ffordd sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Yn gynharach eleni, cysylltodd busnesau lleol â mi gyda'u pryderon nad oedd iawndal wedi'i dderbyn er gwaethaf addewidion gan y Llywodraeth bod cymorth ariannol ar gael. Ac felly byddwn i'n gwerthfawrogi pe bai'r Llywodraeth yn gallu amlinellu faint sydd wedi ei dalu hyd yn hyn a faint sy'n ddyledus.
Diolch. Mae'n amlwg eich bod chi'n cyfeirio at ffordd benodol iawn yn eich etholaeth. Rwy'n credu y byddai'n well, oherwydd eich bod chi'n amlwg yn gofyn am iawndal ariannol hefyd, pe baech chi'n ysgrifennu'n uniongyrchol at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Trefnydd, byddwch chi a'r Aelodau eraill yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o ganlyniadau arolwg undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, a oedd yn cyfleu darlun pryderus dros ben o ran y pwysau ar gyllidebau ysgolion. Clywsom wythnos diwethaf fod y syniad o ddysgu disgyblion ar lein am ddiwrnod yr wythnos wedi'i grybwyll ym Mhowys, ac, o ran yr arolwg, fod athrawon yn ystyried diswyddiadau, ynghyd â thorri cyllid i ymyriadau sydd wedi'u targedu at ein disgyblion mwyaf bregus. Hoffwn ofyn felly am ddatganiad gan y Gweinidog addysg ynglŷn â sefyllfa ariannol ysgolion, ac ymateb y Llywodraeth i'r pryderon dybryd sydd wedi eu codi gan brifathrawon.
O ran y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch ysgolion yn addysgu ar-lein, rwy'n gwybod fod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn dweud na fyddem ni'n dymuno gweld ysgolion yn gwneud hynny. Yn sicr, ni fyddem ni eisiau gweld ysgolion yn cau oni bai bod y penderfyniad yn seiliedig ar resymau brys neu iechyd neu ddiogelwch er enghraifft. Ac nid ydw i'n credu y byddai cau ysgol am ddiwrnod yn arwain at arbedion sylweddol i ysgolion, a byddai ond yn trosglwyddo'r problemau i rieni a gofalwyr. Ac rydym ni'n gwybod, on'd ydyn ni, sut mae cau ysgolion yn effeithio ar allu teuluoedd i weithio, ac, yn amlwg wedyn, yn rhoi pwysau ar wasanaethau eraill. Felly, fel y dywedais i, yn sicr mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol ac wedi cyfarfod ag NAHT ac undebau llafur eraill y bore 'ma hefyd. O ran cyllidebau, yn amlwg, mae pwysau yn mynd i fod ar ein cyllidebau i gyd, ond nid ydw i'n credu bod y Gweinidog mewn sefyllfa ar hyn o bryd, gan ein bod ni'n aros am gyhoeddiad Llywodraeth y DU o ran cyllidebau, ac, yn amlwg, rydym ni hefyd yn ystyried yn fanwl iawn ein cyllideb wrth symud ymlaen.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ynghylch cefnogaeth i gyn-filwyr gwasanaethau arfog yn y system gofal iechyd? Cysylltodd preswylydd lleol â mi o'r Rhyl dros y penwythnos y bu bron i'w gŵr, yn drist iawn, gyflawni hunanladdiad, ac, heb fod yn rhy graffig, bu bron yn llwyddiannus, yn anffodus. Mae wedi cael triniaeth ers hynny, ond yr hyn y nododd fy etholwr oedd y diffyg cydnabyddiaeth, yn y system frysbennu, bod ei gŵr fod yn gyn-filwr. Nawr, rwy'n credu bod cynnydd yn cael ei wneud ar hyn, ond a wnaiff Llywodraeth Cymru efallai ehangu ar pam nad yw hyn wedi'i gyflawni a'r cynlluniau sydd ar y gweill i ddod â chydnabyddiaeth i gyn-filwyr yn y system frysbennu, fel bod modd eu trin yn ddigonol ar gyfer problemau iechyd meddwl, ac, yn wir, problemau corfforol hefyd? Diolch.
Felly, efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i, mewn ateb cynharach i Darren Millar, yn dweud ein bod ni'n sicr yn cydnabod bod dynion a menywod sy'n gyn-filwyr a'u teuluoedd angen mynediad at wasanaethau mewn ffordd wahanol, weithiau, i eraill, ac mae hynny'n sicr wedi bod ar gynnydd, wrth symud ymlaen. Soniais i'n gynharach hefyd y bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn arwain dadl y prynhawn yma, ac mae'n gwestiwn y gallech chi ei godi yn y ddadl honno hefyd.
Yn olaf, Tom Giffard.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Elusen annibynnol yw Age Cymru Gorllewin Morgannwg sy'n cefnogi pobl hŷn ar draws Gorllewin De Cymru, ac, am yr 20 mlynedd diwethaf, nhw sydd wedi rhedeg canolfan gymunedol Afan Nedd ac wedi cynnal clwb cinio ar gyfer dros 120 o bobl. Eto i gyd, yn ystod yr wythnos diwethaf, fe'u gorfodwyd nhw i gau eu drysau. Ac er bod yr elusen wedi gweld codiadau yn eu biliau cyfleustodau, maen nhw wedi gweld hefyd, bod penderfyniad gan y bwrdd iechyd lleol wedi cael effaith sylweddol ar eu hincwm. Yn flaenorol, fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe linell amser caffael trydydd sector fel bod sefydliadau gwirfoddol yn gallu gwneud cais ar gyfer darparu gwasanaethau lleol. Fe wnaeth Age Cymru Gorllewin Morgannwg fuddsoddi amser ac arian er mwyn bod yn gymwys yn hyn o beth, ac roedd y bwrdd iechyd i ddyfarnu cytundebau yn ystod y mis hwn. Serch hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi tynnu'r cynlluniau hyn yn ôl ac ni fydden nhw'n caffael eto tan 2024. Y penderfyniad hwnnw, yn rhannol, sydd wedi arwain at gau ei drysau, ac mae hynny'n golygu y bydd llawer o drigolion yn methu nawr â chael gafael ar y cymorth yr oedden nhw wedi dibynnu arno ynghynt, tra bod elusennau fel Age Cymru Gorllewin Morgannwg yn cael eu hunain mewn trafferthion ariannol. Felly a gaf i ofyn am ddatganiad brys ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i fyrddau iechyd weithio gyda darparwyr lleol ac am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i'r elusennau yr effeithiwyd arnyn nhw?
Mae'n wir ddrwg gen i glywed am y sefyllfa yr oeddech chi'n ei disgrifio, ond mater i'r bwrdd iechyd yw hwnnw, ac nid wyf i o'r farn y byddai datganiad llafar yn y fan hon yn briodol.
Diolch i'r Trefnydd.