– Senedd Cymru am 6:34 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Byddwn ni'n symud ymlaen i'r ddadl fer nesaf. Fe wnaf i alw ar Cefin Campbell nawr i gyflwyno'r ddadl fer mae e wedi'i osod ar y pwnc mae e wedi'i ddewis. Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon, a dwi'n ddiolchgar iawn i Carolyn Thomas, Luke Fletcher a Mabon ap Gwynfor am dderbyn y gwahoddiad i gyfrannu i'r ddadl.
Fe wnaeth y pandemig ni yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o bwysigrwydd cymunedau cryf a gwydn. Roedd ein cymunedau ni ar flaen y gad yn yr ymateb i'r pandemig, gyda chymdogion a mudiadau cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r llai ffodus a bregus yn eu cymunedau. Yn dilyn degawd o doriadau llym gan y Torïaid, maen nhw nawr yn wynebu argyfwng costau byw, ac mae dyletswydd arnon ni i gefnogi'r cymunedau hynny i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.
Wrth galon cymunedau llewyrchus mae busnesau lleol ffyniannus, tafarndai, siopau, caffis, swyddfeydd post ac yn y blaen. Yn anffodus, yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae tudalennau papurau newydd ledled y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli yn llawn straeon am y canolfannau cymunedol hyn—hanfodol hyn, os caf i ddweud—yn cau, a gyda hyn, daw risg wirioneddol i gynaliadwyedd ein cymunedau, ac wrth gwrs, i'r iaith Gymraeg a'n diwylliant ni.
Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld cymunedau, yn ystod y pandemig a chyn hynny hefyd, yn dod at ei gilydd i warchod neu brynu'r asedau cymunedol pwysig hyn. O dafarn y Cwmdu yn Sir Gaerfyrddin, i Dafarn Sinc yn Sir Benfro; o'r Farmers Arms ym Mannau Brycheiniog i Dafarn y Plu yn Llanystumdwy, mae tafarndai—a llawer mwy na'r rhai dwi wedi'u henwi—sy’n eiddo i’r gymuned yn chwarae rôl fwyfwy pwysig. Yn Nhre’r-ddôl, er enghraifft, mae Cletwr yn gaffi a siop gymunedol sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol, yn darparu nwyddau hanfodol ac yn hwyluso amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol Cymreig. Yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, mae prosiect Siop Havards wrthi'n codi £450,000 i brynu yr hen siop ironmongers cyn y Nadolig. Ac os yn llwyddiannus, hon fyddai’r siop nwyddau gymunedol gyntaf ym Mhrydain gyfan, ac mae eu cynllun busnes nhw yn cynnwys rôl greiddiol i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg.
Felly, mae mentrau cymdeithasol a busnesau sy'n eiddo i'r gymuned i'w gweld ym mhob lliw a llun, ac maent yn chwarae rhan hanfodol mewn datblygu cymunedol, mewn adfywio cymdeithasol a newid economaidd. Maent yn ganolog i'r economi sylfaenol, ac yn cadw cyfalaf—dynol, cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal ag economaidd—i gylchredeg mewn cymunedau lleol. Yn allweddol, maent yn dangos bod llwyddiant masnachol yn gallu mynd, ac yn mynd law yn llaw â theimlad o bwrpas cymdeithasol ac ethos cymunedol.
Amlygodd erthygl ddiweddar gan Grace Blakeley yn y Tribune sut mae mentrau cymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog yn esiampl flaenllaw o ddewisiadau amgen llawr gwlad yn lle'r model o gyfalafiaeth ôl-ddiwydiannol. Cyn COVID-19, roedd 15 o fentrau cymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog yn cyflogi bron i 200 o bobl rhyngddynt. Yn eu plith mae CellB, sinema a chanolfan gelfyddydol, ac Antur Stiniog, canolfan beicio mynydd. Fel y mae Blakeley yn dweud, ym Mlaenau Ffestiniog,
'fe wnaeth màs critigol o bobl roi'r gorau i gredu ei bod hi'n amhosibl newid y byd o'u cwmpas. A chyn gynted ag y gwnaethant roi'r gorau i'r gred gyfyngol honno, fe ddigwyddodd y newid.'
Mae’r rhan fwyaf, os nad pob un, o’r busnesau cymunedol, mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol hyn yn blaenoriaethu cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd fel elfennau craidd o’u modelau busnes. Yn Nhyddewi, er enghraifft, Câr-y-Môr yw’r fferm gefnfor adfywiol gyntaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru. Mae'n gymdeithas er budd cymunedol, gyda dwy nod allweddol: gwella'r amgylchedd arfordirol a chreu swyddi cynaliadwy. Ac mae'r bwyd môr y mae'n ei gynhyrchu yn gynaliadwy ac yn flasus dros ben, a dwi'n siarad o brofiad ar ôl bod yno gyda Mabon dros yr haf.
Mae Ynni Sir Gâr yn un o nifer o brojectau ynni cymunedol sy’n gweithio i leihau costau ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a chynhyrchu ynni glân, adnewyddol. Felly, mae gan fentrau cymdeithasol a chymunedol hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth gyrraedd targedau amgylcheddol allweddol.
Mae llwyddiant yr holl fentrau hyn yn deillio o'r wybodaeth a'r ysfa sy'n bodoli o fewn ein cymunedau. Mae angen i gefnogaeth ar gyfer deor a meithrin hyn fod yn hirdymor ac yn strwythurol. Felly, hoffwn alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried heno sut y gallai ehangu a dyfnhau ei chefnogaeth i fusnesau, mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol sy'n eiddo i'r gymuned.
Gall Llywodraeth Cymru dynnu sylw yn gwbl briodol at y cymorth y mae'n ei roi i Cwmpas. Ond ceir nifer o sefydliadau llai eraill, sydd eu hunain yn fentrau cymdeithasol, ac sydd hefyd yn darparu cefnogaeth ac arweiniad hollbwysig i gymunedau sy'n ceisio sefydlu busnesau sy'n eiddo i'r gymuned. Maent yn cynnig cyfranddaliadau cymunedol neu'n rheoli'r broses o drosglwyddo asedau. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, PLANED yn sir Benfro, sy'n darparu portffolio eang o gefnogaeth gymunedol ac sydd wedi gweithio gyda chymunedau i gynhyrchu mwy nag £1 filiwn o gyllid i gefnogi prynu a chadw asedau cymunedol. Fodd bynnag, mae wedi gwneud hyn heb gyllid craidd, sy'n golygu ansicrwydd i weithwyr a chyfyngiad ar ddyfnder y gefnogaeth y gall ei chynnig. Mae dibyniaeth ar gyllid grant tymor byr yn cyfyngu ar y gallu i gynllunio a chyflawni prosiectau dros y tymor hwy. Fy nghwestiwn cyntaf i Lywodraeth Cymru heno yw a oes cyllid craidd ar gael i sefydliadau fel hyn, ac os oes, pa fathau o arian craidd sydd ar gael. Mae'r cwestiwn hwn yn bwysicach fyth wrth i gefnogaeth ariannol allweddol sydd ar gael drwy gyllid strwythurol Ewropeaidd ddechrau dirwyn i ben.
Fel rwyf i wedi ei amlygu, mae busnesau a mentrau cymdeithasol sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned wedi bod ar flaen y gad o ran arloesi cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru. Mae’n syndod, felly, eu bod nhw ddim wedi cael eu blaenoriaethu, o bosibl, yn y strategaeth arloesedd i Gymru gan y Llywodraeth, a byddwn i'n gofyn i’r drafft terfynol roi llawer mwy o bwyslais ar hyn.
I gloi, felly, fel mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd wedi amlygu, ar hyn o bryd, nid oes proses yng Nghymru i warantu bod asedau cymunedol yn cael eu cadw yn nwylo cymunedau, er gwaethaf hawliau cyfreithiol sy’n bodoli yn y maes hwn ar gyfer cymunedau yn yr Alban a Lloegr. Byddwn i felly yn hoffi adleisio'r galwadau cyson sydd wedi bod am ddeddfwriaeth ar gyfer hawl cymunedau i brynu asedau, er mwyn adlewyrchu'r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban. Byddai hyn i gyd yn rhoi cymorth y mae mawr ei angen ar gymunedau wrth iddyn nhw geisio dilyn yr esiampl ysbrydoledig a ddangosir gan y mentrau cydweithredol niferus a deinamig sydd gyda ni ar draws Cymru sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd a chynlluniau adfywio sydd wedi eu seilio ar angen lleol ac wedi eu gwreiddio yn eu cymuned. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Cefin am gyflwyno'r ddadl fer yma. Pwynt pwysig mae Cefin wedi ei wneud yn barod: mae busnesau sydd ddim yn cael eu lleoli yn y gymuned yn golygu bod y cyfoeth sydd yn cael ei greu yn gwaedu allan o'r gymuned honno. Mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ceisio ailstrwythuro system yr economi fel bod cyfoeth yn cael ei ddal yn y gymuned, ei rannu a'i ddemocrateiddio. Gall mentrau cymdeithasol helpu hefyd i ailstrwythuro a thrawsnewid economi Cymru yn sylweddol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod mentrau cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn gyflogwyr gwaith teg, a bod 76 y cant o fentrau cymdeithasol Cymru yn talu'r cyflog byw. Gall mentrau cymdeithasol fod mewn sawl ffurf, fel rydym ni wedi clywed, gan gynnwys mentrau cydweithredol, sefydliadau cydfuddiannol, cwmnïau budd cymunedol, busnesau sy'n eiddo i'r gymuned ac elusennau masnachu a mwy. Y gwahaniaeth allweddol gyda busnesau confensiynol yw'r graddau y mae'r cymhelliant elw yn dominyddu. Mae'n wir bod mentrau cymdeithasol yn anelu at wneud elw, ond maen nhw'n sefydliadau sy'n cael eu harwain gan werthoedd, sy'n golygu eu bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sydd yn wynebu Cymru heddiw.
Diolch yn sydyn i Cefin am ddod â'r drafodaeth yma ger ein bron unwaith eto. Mae'n dda gweld hwn yn cael ei gyflwyno ar lawr y Senedd a chydnabyddiaeth o waith y pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Roeddwn i eisiau cymryd y cyfle, os yn bosib, i dalu teyrnged i dad ysbrydol mentrau cymunedol Cymru, y diweddar Carl Clowes, a fu farw yn gynharach eleni. Carl Clowes, wrth gwrs, wnaeth sefydlu Antur Aelhaearn yn Llanaelhaearn nôl yn 1974, ac yntau wedi adnabod y gwendid cymunedol yna yn dilyn cau nifer o weithfeydd lleol a'r angen i dynnu'r gymuned ynghyd a chreu mentrau lle roedd gan y gymuned berchnogaeth, gan ddod â balchder yn ôl i'r gymuned honno. Aeth Carl ymlaen wedyn i sefydlu gymaint o bethau eraill, fel Nant Gwrtheyrn, hefyd. Felly, dwi eisiau cydnabod hynny.
Ac i orffen, mae yna fentrau cydweithredol eraill bellach ar y gweill yn Nwyfor Meirionnydd. Rwyf eisiau tynnu sylw at Fenter Gwesty'r Tŵr ym Mhwllheli sydd ar gychwyn, Menter yn Aberdyfi, ac yn olaf Menter y Glan ym Mhennal. Os oes unrhyw un eisiau prynu cyfranddaliad ym Menter y Glan, Pennal, maen nhw'n chwilio i gasglu £250,000. Maen nhw wedi cael £220,000, efo cefnogaeth pobl fel Matthew Rhys, felly dwi'n eich annog chi i fynd a chefnogi Menter y Glan ym Mhennal hefyd. Diolch.
Diolch i Cefin am roi munud o'i amser i mi. Mae cyfleusterau cymunedol yn lleoedd lle ceir cyfeillgarwch, caredigrwydd a modd o adeiladu hyder na ellir ei fesur gan gynnyrch domestig gros. Neuaddau cymunedol, tafarnau a chaeau chwarae ydynt. Maent yn fannau y dylid eu gwarchod ar gyfer pobl a natur. Mae clwb rygbi'r Rhyl yn batrwm o gyfleuster o'r fath ar lawr gwlad, ac mae nid yn unig yn darparu lle i gannoedd o bobl ifanc hyfforddi, cânt eu bwydo ar yr un pryd. Caiff ei ddefnyddio gan 26 grŵp cymunedol, ac mae'n cyflogi 20 o bobl, gan ddarparu bwyd, diod ac adloniant i'r gymuned ehangach. Mae gan Landegla siop gymunedol, caffi a thecawê dielw ar lwybr troed Clawdd Offa sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ar ran y gymuned. Roedd Canolfan Hamdden Treffynnon, gan gynnwys y pwll nofio, dan fygythiad o gau oherwydd mesurau cyni Llywodraeth y DU, ond daeth grŵp o bobl leol at ei gilydd i'w rhedeg fel elusen, ac rwy'n gobeithio na fydd cyni 2.0 a chostau cynyddol yn ddiwedd ar y lle. Mae mentrau cymdeithasol cymunedol yn fan lle caiff cyfoeth ei rannu, yn hytrach na'i storio mewn banciau, a lle dylid mesur llwyddiant mewn hapusrwydd a llesiant. Diolch.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.
Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i Cefin Campbell am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae cefnogi busnesau cymdeithasol ar draws Cymru i ddatblygu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru.
Ein gweledigaeth yw economi lesiant sy'n gyrru ffyniant ac sy'n gadarn yn amgylcheddol ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae wedi'i gwreiddio yn ein cynllun gweithredu economaidd presennol, 'Ffyniant i Bawb', gyda'i ddibenion blaengar i leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth a lles ledled Cymru gyfan.
Heb os, mae ein lles economaidd ynghlwm wrth ein lles amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol. Mae mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ffurfio sector deinamig, amrywiol, sydd wedi dangos twf sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae 2,309 o fusnesau cymdeithasol wedi'u nodi yng Nghymru, ac maent yn cyflogi tua 59,000 o bobl. Yn ogystal â helpu i gyflawni amcanion polisi cymdeithasol ac economaidd, mae'r sector yn arf pwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nodau drwy'r rhaglen lywodraethu. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu o werthoedd ac egwyddorion mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol sydd wedi ein helpu drwy'r pandemig i adeiladu yfory sy'n wyrddach, yn decach ac yn fwy llewyrchus.
Mae mentrau cymdeithasol yn rhan bwysig o'n heconomi sylfaenol. Maent yn aml yn eiddo i'r gymuned, yn darparu cyflogaeth leol, ac yn aml yn rhoi gwella eu hardal leol wrth galon yr hyn y maent yn ei wneud. Mae dull yr economi sylfaenol yn cynnig cyfle i wyrdroi dirywiad amodau cyflogaeth, i gyfyngu ar yr arian a gollir o gymunedau, ac i fynd i'r afael â chost amgylcheddol cadwyni cyflenwi estynedig.
Rhoddir sylw penodol i gynorthwyo mentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau sy'n eiddo i'r gweithwyr a busnesau bach a chanolig sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau i gymryd rhan mewn caffael cyhoeddus, gan helpu i gynnal a chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol a fydd yn arwain at gymunedau iachach. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ein rhaglen lywodraethu yng Nghymru i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr erbyn 2026. Er mwyn cyflawni hynny, rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gymorth i sicrhau bod cwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn aros mewn dwylo Cymreig. Ar hyn o bryd ceir 44 o fusnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yma yng Nghymru, ac mae hyn cyn y nifer a broffiliwyd i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr i 60 yn ystod tymor y Senedd hon. Ar gyfartaledd, dau i dri chytundeb i brynu allan gan y gweithwyr sy'n digwydd yma yng Nghymru bob blwyddyn, ond mae maint y sector sy'n eiddo i'r gweithwyr wedi tyfu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda photensial ar gyfer llawer mwy. Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn sicrhau nifer o fanteision i weithwyr ac i fusnesau, gyda thystiolaeth yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Maent hefyd wedi'u gwreiddio yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau lleol, gan sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy mewn cymunedau ar draws Cymru.
Nawr, fel mae Cefin eisoes wedi cydnabod, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cwmpas, ac rydym yn darparu cyllid er mwyn hybu manteision a datblygu perchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru ymhellach er mwyn sicrhau bod busnesau sydd wedi'u lleoli yma yn ymwybodol o'r cyfleoedd a'r buddion y mae'n eu cynnig. Un busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr y gallech fod yn ymwybodol ohono, Cefin, yw Tregroes Waffles. A ydych chi'n gyfarwydd â hwy? Popty bach teuluol wedi'i leoli yn nyffryn Teifi yn ne-orllewin Cymru yw Tregroes Waffles. Dechreuodd yn 1983 pan ddaeth Kees Huysmans i Gymru i sefydlu stondin farchnad yn gwerthu ei fersiwn o 'stroop' traddodiadol o'r Iseldiroedd. Gan recriwtio'n lleol, mae'r busnes yn cyflogi 15 o bobl ac yn parhau i fod wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gymuned. Dechreuodd y perchennog archwilio'r cysyniad o berchnogaeth gan y gweithwyr tua phum mlynedd cyn i'r newid ddechrau, wedi'i ysbrydoli gan fodel partneriaeth John Lewis. Yn 2016, gwerthodd Kees 10 y cant o'i gyfranddaliadau i'r ymddiriedolaeth, gan ddefnyddio elw'r cwmni i dalu amdanynt. Fel rhan o'r cytundeb, bydd y perchennog yn gwerthu 10 y cant arall i'r ymddiriedolaeth bob blwyddyn, ar yr amod fod y cwmni'n gallu talu amdanynt. Mae'r model perchnogaeth gan y gweithwyr wedi galluogi Tregroes Waffles i gynnal ac adeiladu ar ei lwyddiant yn yr ardal. Mae manteision busnes sy'n eiddo i'r gweithwyr yn enfawr ac yn cynnwys olyniaeth fusnes lefn, gan gadw'r cwmni wedi'i wreiddio'n lleol, grymuso'r gweithlu, cefnogaeth ac ymgysylltiad a'r gallu i reoli newid diwylliant parhaus. Fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau'n ystyried perchnogaeth gan y gweithwyr fel opsiwn pan fydd yr amser yn iawn, a bod gennym seilwaith yma yng Nghymru i gefnogi'r newid hwnnw.
Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli amryw o gronfeydd sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu buddsoddiad i fusnesau micro ac i fusnesau canolig eu maint ar draws cylch bywyd busnes. Mae cronfa rheoli olyniaeth Cymru, sy'n werth £25 miliwn, yn darparu cyllid y mae rheolwyr a thimau rheoli uchelgeisiol eu hangen i brynu busnesau bach a chanolig Cymreig sefydledig pan fydd eu perchnogion presennol yn ymddeol neu'n gwerthu. Mae cymorth penodedig ar gael hefyd drwy Busnes Cymdeithasol Cymru ar gyfer mentrau cymdeithasol sy'n dymuno dechrau a thyfu, ac i'r busnesau sydd eisiau newid i berchnogaeth gan y gweithwyr, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyllid o hyd at £1.7 miliwn ar gyfer parhau'r gwasanaeth hwnnw o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw ar bwnc y gwelwn fod iddo effaith gadarnhaol enfawr ar economi Cymru ac ar gyflawniad ein rhaglen lywodraethu. Diolch yn fawr.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.