3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

– Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:26, 14 Chwefror 2023

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar yr adolygiad ffyrdd a'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiad terfynol y panel annibynnol adolygu ffyrdd. Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn ag arwyddocâd rhyngwladol, ac fe hoffwn i ddiolch i Dr Lynn Sloman a'i chyd-banelwyr. Mae eu hadroddiad yn un manwl, awdurdodol a grymus, ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei hegwyddorion craidd a'r ymagwedd newydd y mae'n eu nodi.

Pan gyhoeddwyd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni ymrwymo i ddechrau ar lwybr newydd. Mae cyhoeddi'r adolygiad hwn o'r ffyrdd, ynghyd â'r cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol a'n datganiad polisi ffyrdd newydd, yn gam mawr ymlaen ar y daith honno. Gadewch i mi fod yn eglur iawn o'r cychwyn: fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni'n adeiladu ffyrdd newydd wrth i mi siarad, ond rydyn ni'n codi'r bar o ran ystyried ai ffyrdd newydd yw'r ymateb cywir i broblemau trafnidiaeth. Rydyn ni'n buddsoddi mewn dewisiadau amgen gwirioneddol hefyd. Mae cynllun cyflenwi trafnidiaeth cenedlaethol heddiw yn nod rhaglen bum mlynedd o fuddsoddiad mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a beicio. Mae gan economïau llwyddiannus cyfoes systemau trafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus cyfoes. Mae ein un ni wedi crebachu oherwydd preifateiddio, ac mae'n rhaid i hynny newid. Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Nid yn unig ein bod ni'n cael ein hamddifadu o'n cyfran ni o fuddsoddiad rheilffyrdd Cyflymder Uchel, ond mae Llywodraeth y DU yn gwthio llawer o wasanaethau bws dros ddibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Hyd yn oed pe byddem ni wedi dymuno parhau â'r holl gynlluniau ffyrdd a oedd ar y gweill, nid oes gennym ni'r arian i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf ni 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf mewn termau real o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU. Felly, pan fydd y Ceidwadwyr yn ein beirniadu ni, fe ddylen nhw gofio'r sefyllfa ariannol wirioneddol o'u gwneuthuriad nhw: yn syml, ni ellir fforddio'r rhaglen ffyrdd. Gyda llai o adnoddau mae hi'n bwysicach fyth i flaenoriaethu, ac mae'r adolygiad ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny.

Mae cynlluniau ffyrdd yn cymryd blynyddoedd lawer rhwng y cynllun dechreuol ar y dudalen i'r rhaw gyntaf yn y ddaear. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cael eu llunio cyn i ni ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a chyn i ni bennu ymrwymiadau polisi yn strategaeth trafnidiaeth Cymru, y rhaglen lywodraethu a Cymru Sero Net. Roedd yr adolygiad ffyrdd yn ystyried pob un o'r 55 cynllun a ddatblygir ac yn rhoi prawf arnyn nhw yn ôl ein polisïau presennol. Mae'r panel yn nodi eu barn fanwl ar bob un yn eu hadroddiad, ynghyd â chyfres o ddibenion ac amodau ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:30, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r adroddiad yn mynegi bod angen i ni wneud mwy i ofalu am y ffyrdd sydd gennym ni eisoes, a rhoi mwy o sylw i gefnogi cludo nwyddau. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ar adolygiad o'n dull ni o gynnal a chadw ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd. Mae angen ffyrdd arnom ni, ond mae angen i ni gofio nad ar gyfer ceir yn unig y mae ffyrdd. Dywedodd y panel fod angen i ni roi mwy o flaenoriaeth i fysiau a rhwydweithiau teithio llesol mewn cynlluniau ar gyfer ffyrdd.

Mae'r adroddiad yn mynegi hefyd, lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd, y dylem ni ystyried yn gyntaf leihau cyflymder mewn mannau lle ceir gwrthdrawiadau. A phan fyddwn ni'n bwrw ymlaen â chynllun newydd, fe ddylem ni ddewis yr un sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Daw tua thraean o'r carbon a gynhyrchir o gynllun ffordd o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu, goleuo a'i chynnal drwy ei hoes gyfan: dur, concrit, asffalt, dŵr—mae gan bopeth sy'n mynd i gynllun ffordd ôl troed carbon sylweddol ei hun. Ac mae angen i ni leihau'r carbon hwn a gaiff ei ymgorffori, drwy arloesedd, ond drwy wneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym ni hefyd.

Y ddadl ganolog a gyflwynwyd gan y panel adolygu ffyrdd yw na allwn ni adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd. Wrth edrych ar hyn ar ei ben ei hun, yn aml mae achos dros ffordd osgoi neu lôn ychwanegol, ond, yn gronnus, gwaethygu'r broblem a wna hynny. Yn y byrdymor, mae creu lle newydd ar gyfer ffordd yn aml yn cyflymu taith mewn car ac yn gwneud hynny'n fwy deniadol na dewis arall ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn annog mwy o bobl i yrru. Ond gydag amser, mae hyn yn creu mwy o deithiau, gyda phobl yn teithio pellteroedd hirach. Mae hyn yn ei dro yn creu traffig a thagfeydd ychwanegol. Mae'n arwain hefyd at ddatblygiadau manwerthu a phreswyl yn ymddangos yn agos at y cyffyrdd newydd, fel yr ydym wedi'u gweld ledled Cymru. Ac mae'r rhain yn fannau sydd, fel arfer, yn brin o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus neu ddewisiadau o ran teithio llesol, ac felly nid oes gan bobl fawr o ddewis ond eu cyrraedd mewn car, ac mae hyn yn creu mwy o draffig eto, hyd yn oed.

Wrth i bobl yrru mwy, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n golygu bod llai o wasanaethau yn hyfyw, gan adael pobl â llai fyth o ddewisiadau amgen. Mae hyn yn anfanteisiol yn anghymesur i fenywod a phobl ar incwm isel, yr ydym ni'n gwybod o'r data sy'n fwyaf dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i redeg car ar gyfer gallu gweithio, fe all y costau fod yn uchel iawn. Mae astudiaethau wedi dangos bod yr aelwydydd tlotaf yn gallu gwario hyd at chwarter eu hincwm ar gostau trafnidiaeth, gan eu rhoi mewn tlodi trafnidiaeth. Nid yn unig y mae ein dull gweithredu wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisi hinsawdd a'n polisi cynllunio, mae hefyd wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisïau cyfiawnder cymdeithasol, ac mae'n rhaid i hynny newid.

Llywydd, nid yw ein hymagwedd ni am y 70 mlynedd diwethaf yn gweithio. Fel mae'r adolygiad yn nodi, mae'r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn arwain at draffig ychwanegol, sydd, ymhen amser, yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd. Rownd a rownd yr awn ni, gan allyrru mwy a mwy o garbon wrth wneud hynny. Mae hon yn duedd a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae academyddion yn ei galw yn 'ysgogi galw'. Ac mae adroddiad y panel yn dweud yn eglur iawn na ddylai cynlluniau sy'n creu mwy o le i geir ar ffyrdd gael eu cefnogi. Yn hytrach, maen nhw'n argymell y dylid rhoi mwy o sylw i gynlluniau sy'n canolbwyntio ar reoli galw, gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol. Fe fydd hyn, medden nhw, yn helpu i leihau traffig nad yw'n hanfodol a sicrhau bod lle digonol ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd hanfodol, gan gynnwys cludwyr nwyddau.

Rydym ni wedi derbyn achos yr adroddiad dros newid. Ni fyddwn ni'n cyrraedd sero net oni bai ein bod ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Lle gallwn ni greu dewis arall sy'n rhwyddach na gyrru, gadewch i ni wneud hynny. Mae hwn yn ddull a fydd yn dod â llawer o fanteision, ac fe fydd yn helpu'r rhai sydd heb ddewis heblaw am gar i barhau â'u gweithgarwch. Dyna'r ffordd orau i fynd i'r afael â thagfeydd a chostau i fusnesau yn y byrdymor. Ac yn y tymor hirach, mae economegwyr wedi ein rhybuddio y bydd canlyniadau tymereddau cynyddol yn achosi gostyngiad mewn cyfraddau blynyddol o gynnyrch domestig gros o rhwng 5 y cant a 7 y cant, gan beri niwed mawr i swyddi a buddsoddiad. Felly, nid oes unrhyw wrthdaro rhwng yr amgylchedd a'r economi yn yr hirdymor. Bydd ein polisïau ni o gymorth gyda'r ddau. Mae angen y ddau arnom ni.

Mae'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn rhestru'r cynlluniau ffyrdd y byddwn ni'n parhau â'u datblygiad dros y pum mlynedd nesaf. Lle mae'r panel adolygu ffyrdd wedi argymell na ddylai cynllun fynd yn ei flaen, ni fyddwn ni'n bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw fel y cynlluniwyd. Ond lle mae cytundeb ynglŷn â phroblem drafnidiaeth, fe fyddwn ni'n gweithio gyda noddwyr y cynllun i nodi ateb sy'n bodloni'r profion newydd ar gyfer buddsoddiad.

Mae ein polisi ffyrdd newydd yn ei gwneud yn eglur y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd a ffyrdd sy'n bodoli eisoes, ond, i fod yn gymwys i dderbyn cyllid yn y dyfodol, fe ddylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid creu mwy o gapasiti, peidio â chynyddu allyriadau drwy gynyddu cyflymder cerbydau, a pheidio â dinistrio safleoedd sy'n werthfawr yn ecolegol.

Ar gyfer y ffyrdd hynny sydd wedi eu cynllunio i gysylltu â safleoedd o ddatblygiad economaidd, mae'r adroddiad wedi gwneud cyfres o awgrymiadau, ac rwyf i wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd cyngor Torfaen, a'r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd cyngor Ynys Môn, weithio gyda ni er mwyn dod o hyd i ddull ymarferol o ganiatáu i safleoedd twf gael eu hyrwyddo sy'n unol â'n polisïau cynllunio a thrafnidiaeth.

Llywydd, gadewch i ni gofio'r hyn a ddywedodd Julie James ac y dywedais i wrth ddechrau yn ein swyddi: yn y degawd hwn, mae'n rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau mewn allyriadau nag a wnaethom ni yn y tri degawd diwethaf i gyd gyda'i gilydd. Mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a lwyddom yn ystod y 30 diwethaf i gyd. Dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud bod angen i ni ei wneud. Fe wyddom ni beth sy'n dod. Ein gorchwyl ni yw paratoi Cymru ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn. Nid oes dim yn hawdd yn hyn, ond nid yw'r dewis arall yn hawdd chwaith. Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni'n gweithredu yn bendant nawr, byddwn ni'n wynebu trychineb hinsawdd. Rwy'n dweud hyn gyda phob diffuantrwydd wrth yr holl Aelodau: os ydym ni am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, a deddfu i ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel gwnaethom ni, a'i gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r panel adolygu ffyrdd am ein helpu ni i nodi ffordd o wneud hynny. Diolch.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:37, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, roedd gennych chi gyfle gwirioneddol yma i gael Cymru yn symud unwaith eto drwy roi seilwaith i gymunedau ledled Cymru yr oedden nhw nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu. Mae trigolion ym mhob cwr o Gymru wedi bod ar bigau'r drain ers bron i ddwy flynedd tra bod y gwaharddiad er gwaeth hwn ar adeiladu ffyrdd wedi bod ar waith. Ond nawr mae'r disgwyl ar ben o'r diwedd, fe aeth ychydig o dan 60 cynllun o dan y microsgop yn rhan o'ch adolygiad chi, ac yn awr rydyn ni'n darganfod mai dim ond llond llaw sydd wedi eu harbed o'r tân ac yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd. Dirprwy Weinidog, o ystyried bod pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod yn aros cyhyd am weithredu, pryd yn union ydych chi'n disgwyl i'r peiriannau cloddio ddechrau gweithio?

Er y bydd newyddion am rai o'r prosiectau sy'n cael eu chwifio drwodd yn cael eu croesawu yn fawr gan gymudwyr, ymwelwyr a thrigolion yn yr ardaloedd hynny, mae'r diflastod, yr anhrefn a'r ansicrwydd i bawb arall mewn anwybodaeth a fydd yn parhau, yn anffodus. Dirprwy Weinidog, beth ydych chi am ei ddweud wrth y bobl hyn a fydd yn dal i ddioddef o ganlyniad uniongyrchol i'ch penderfyniad? Beth ydych chi am ei ddweud, Dirprwy Weinidog, wrth y busnesau hyn i gyd sy'n ei chael hi'n anodd dal ati ac a fydd nawr yn dal i straffaglu oherwydd y penderfyniad hwn?

Fe wn eich bod yn cael pleser mawr o weld bai ar Lywodraeth y DU am eich holl ddiffygion chi. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylwn i eich atgoffa chi fod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £155 miliwn yn ôl i San Steffan am na wnaethoch chi ei wario yng Nghymru ar bobl Cymru. Ac nid oes unrhyw angen i mi eich atgoffa chi bod llawer o feysydd trafnidiaeth yr ydym yn siarad amdanyn nhw, mewn gwirionedd, wedi eu datganoli. I chi, Dirprwy Weinidog, gallai ffyrdd fod yn ddarnau dychrynllyd o goncrit fel hyn, ond i ni, busnesau, cymudwyr a thrigolion, maen nhw'n angenrheidiol. Mae angen ffyrdd digonol arnom ni i redeg rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o'r safon uchaf, i helpu busnesau i ffynnu, a rhedeg injan yr economi yn briodol—dim ond rhai o'r ychydig resymau pam rwy'n siarad mor angerddol am hyn.

Rwy'n deall y gallai rhai prosiectau gael y golau gwyrdd yn y pen draw os gwneir peth mireinio a gwelliannau a'u bod yn pasio eich profion gorchestol sydd ar waith erbyn hyn. Felly, o ystyried bod £24 miliwn eisoes wedi cael ei wario ar brosiectau ffyrdd ar ffurf ymchwil a datblygu cyn i'r gwaharddiad hwn ddigwydd, pwy fydd yn talu'r bil nawr am y gwaith o ailgynllunio? Mae cyfarwyddwr Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil wedi cysylltu â ni gan ddweud bod angen peth eglurder ar unwaith o ran yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen.

Mae gen i bryderon hefyd am ddau gynghorydd, Anthony Hunt o'r Blaid Lafur a Llinos Medi o Blaid Cymru, sydd â'r dasg o adolygu prosiectau safleoedd datblygu economaidd wrth symud ymlaen. Oni allai panel o bobl annibynnol gael eu hymgynnull i archwilio hyn, yn lle dau gynghorydd sydd ag aliniad gwleidyddol?

Un o argymhellion yr adolygiad oedd darparu gwell cyfleusterau parcio a mannau gorffwys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, rhywbeth rwy'n ei groesawu ac wedi bod yn galw amdano ers tro, ochr yn ochr â'r Gymdeithas Cludo ar Ffyrdd, i gyflawni hyn. A gaf i gadarnhad pendant gennych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd hyn yn wir yn digwydd, a phryd yn union yr ydych chi'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud? Pan wnaethoch chi gyhoeddi'r gwaharddiad ar adeilad ffyrdd, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n eich dyfynnu chi nawr, fe ddywedoch chi,

'mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.'

Nawr, os yw hynny'n wir, Dirprwy Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi wedi torri gwariant o fewn teithio llesol ar gyfer 2023-24 o'r £223 miliwn a grybwyllwyd i £184 miliwn? Beth yn union yw'r 'dewisiadau amgen go iawn' honedig hyn yr ydych chi'n buddsoddi ynddyn nhw yn ôl y sôn, Dirprwy Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi am roi'r gorau i wario arian ar bethau sy'n annog pobl i yrru. Digon teg. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Dirprwy Weinidog, pam nad yw eich Llywodraeth chi wedi gwario'r un geiniog ar hysbysebu teithio llesol ers 2018. Yn rhyfedd iawn, ni wnaeth eich Llywodraeth wario unrhyw beth chwaith ar hysbysebu trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod 2021-22.

Ac yn awr, gadewch i ni droi at y cynllun trafnidiaeth. Roeddech chi'n dweud y byddai hwnnw'n blaenoriaethu newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Cywir? Eto i gyd, ar ôl darllen y fersiwn lawn o 162 tudalen a'r fersiwn fer o 16 tudalen, nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth o dlodi trafnidiaeth nac unrhyw arwydd o sut mae eich gwaith gyda gweithredwyr trafnidiaeth am leihau prisiau teithio wrth symud ymlaen. Felly, beth ydych chi a'ch cydweithwyr yn ei wneud i leddfu'r baich ariannol sydd ar y rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd, Dirprwy Weinidog? Dros y ffin yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno cap o £2 ar brisiau bws. Dirprwy Weinidog, pam nad oes gennym ni gynllun tebyg yma yng Nghymru i'n cymudwyr ni? Ac a fyddwch chi'n ystyried hyn o ddifrif, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y byddai'n annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau?

Un arall o amcanion y cynllun yw erbyn 2025 y bydd ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw fod o fewn cyrraedd seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fo angen. Sut fydd hyn yn gweithio, Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n amau eich bod chi'n fethiant llwyr gyda dim ond 39 dyfais gwefru cyhoeddus fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru? Nid yw hynny'n ddigonol. Gyda Chymru â'r gyfradd leiaf o ddyfeisiau gwefru cyflym neu gyflymach, a ydych chi'n hyderus eich bod chi am gyrraedd y nod hwn?

Un o flaenoriaethau'r cynllun yw cael mwy o bobl i weithio o gartref. Mae'n rhaid i mi gyfaddef y gwnaeth hynny i mi chwerthin, oherwydd i mi roedd hi'n debyg eich bod chi, yn ei hanfod, yn dweud fod y rhwydwaith drafnidiaeth yng Nghymru mor wael y byddai'n well gennych chi gadw pobl yn eu cartrefi, yn lle cynnig datrysiadau gwirioneddol. Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg i mi nad yw hyn i gyd heddiw, yn gymysg oll â'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol sy'n cael ei gyflwyno a'r tâl tagfeydd y sibrydir amdano wrth symud ymlaen, yn gwneud dim ond tynnu sylw pellach at agenda gwrth-gar, gwrth-dwf, gwrth-swydd Llafur. I mi, mae'n ymddangos bod strategaeth drafnidiaeth Llafur mewn anhrefn llwyr.

Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol nad yw eich Llywodraeth chi'n gwybod beth mae hi'n ei wneud o ran yr economi. Mae hi'n hen bryd nawr i chi godi eich dwylo a chyfaddef, gerbron pawb ohonom ni, ei bod hi'n amlwg nad ydych chi'n gwybod beth yr ydych chi'n ei wneud o ran trafnidiaeth chwaith. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:42, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n gwybod sut i ddarllen cyllideb, ac rwy'n ofni ei bod hi wedi camddeall yn llwyr wrth ddarllen ein un ni. Ni chafwyd toriad o £220 miliwn i £180 miliwn ar deithio llesol. Wn i ddim o ble y cafodd hi'r ffigyrau hyn; mae hynna'n ffantasi llwyr, ac, o ran rhoi £155 miliwn yn ôl i'r Trysorlys, rwy'n credu bod honno'n weithred ffantasïol hefyd.

Rwy'n gwerthfawrogi y gallem ni fod wedi rhoi Natasha Asghar dan anfantais gyda'r cyhoeddiad heddiw, oherwydd rwyf i wedi bod yn darllen darnau cynyddol frawychol ganddi hi ynglŷn â sut yr oeddwn i am esgor ar ddiwedd y ddynoliaeth fel rydyn ni'n ei hadnabod, ac yn amlwg rydyn ni wedi cynnig cyfres synhwyrol o argymhellion ar sail gwaith arbenigwyr annibynnol, a gytunwyd yn gyffredin ganddyn nhw, a gytunwyd yn gyffredin yn y Llywodraeth, ac a dderbyniwyd yn dda gan lywodraeth leol, sy'n golygu ein bod ni'n ymdrin â'r heriau sydd o'n blaenau.

Fel y dywedais i wrthi hi a'i chydweithwyr, gyda'r parch mwyaf, os ydyn ni am ymrwymo i nodau sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Gadewch i mi ddyfynnu hyn ar eu cyfer nhw:

'po hwyaf y byddwn ni'n methu â gweithredu, y gwaethaf y bydd hi a'r uchaf fydd y pris pan fyddwn ni'n cael ein gorfodi yn y pen draw, trwy drychineb, i wneud rhywbeth.... Mae hi'n un funud i hanner nos ar y cloc dydd y farn hwn, ac mae angen i ni weithredu nawr. Os nad ydyn ni'n cymryd newid hinsawdd o ddifrif heddiw, fe fydd hi'n rhy hwyr i'n plant ni wneud felly yfory.'

Cafodd hynny ei ddweud gan Brif Weinidog Ceidwadol lai na blwyddyn yn ôl. Felly, mae'r geiriau hyn ar sero net yno, yn sicr ymysg ei phlaid hi yn Llundain—yn llai felly yn y fan hon. Ond nid yw hi o unrhyw les dweud geiriau oni bai eich bod chi'n barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol.

Y cyfan a glywais ganddi hi yw cyfres o sloganau y mae hi'n awyddus i'w hybu ar gyfer cynhyrfu pobl. Ni chlywais i'r un awgrym adeiladol o ran sut, os ydym ni'n derbyn bod angen i ni gyflawni nod sero net, y byddwn ni'n gwneud hynny gyda thrafnidiaeth. Dyna wnaethom ni yma; rydyn ni wedi cymryd y cwestiwn arholiad hwn: 'Sut mae sicrhau sero net yn ein rhaglen ffyrdd? Gadewch i ni fynd oddi yma ac archwilio hynny.' Dyna sydd wedi digwydd, a dyna beth y gwnaethom ni ei gynnig: ffordd ymlaen sy'n gredadwy, ymarferol, bragmataidd sy'n dal ati i adeiladu ffyrdd, ond yn adeiladu ffyrdd nad ydyn nhw'n parhau i ychwanegu at ein problemau ni. A dyna'r gwahaniaeth, mae arna' i ofn, rhwng gwrthblaid a Llywodraeth: nid ydyn ni'n gallu siarad ar sloganau; mae'n rhaid i ni roi ystyriaeth i brosiectau ymarferol ar gyfer symud ymlaen, a dyna a wnaethom ni. Rwy'n siŵr, pan gaiff hi'r cyfle i ddarllen yr adroddiad yn fwy manwl, fe wnaiff hi sylweddoli ein bod ni wedi nodi ffordd bragmataidd ymlaen. Ac os oes ganddi hi awgrymiadau eraill i ni o ran dulliau ar gyfer lleihau allyriadau, fe fydda' i'n glustiau i gyd.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:45, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes. Mae'r wyddoniaeth yn eglur: os na wnawn ni gymryd camau beiddgar i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd gennym ddyfodol. Felly, mae'n rhaid gweld yr adolygiad ffyrdd a'r holl benderfyniadau anodd y mae hynny'n eu golygu yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r egwyddor yn un yr wyf i'n ei chroesawu—sut na allem ni? Ond, mae'r polisi ymhell o fod yn berffaith, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i newid eu bywydau, ond mae llawer o'r ardaloedd lle mae prosiectau adeiladu ffyrdd wedi cael eu gohirio yn cael eu tanwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eisoes. Mae pryderon gennyf i, Gweinidog, am yr effaith a gaiff hyn ar fywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae llawer o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat i fynd o gwmpas, yn union fel mae llawer o bobl yng nghymunedau'r Cymoedd yn dibynnu ar fysiau. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, newid yr orddibyniaeth honno ar geir, ond ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Dyma'r cyfnod pontio sy'n peri'r pryder mwyaf i mi, oherwydd fe fydd yna lawer o bobl yn dibynnu ar ffyrdd i gyrraedd eu gwaith, i allu cael gafael ar wasanaethau hanfodol, i ymweld â ffrindiau a theulu, ac fe allai ataliad ffyrdd newydd heb, efallai, fuddsoddiad mwy penodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus olygu teithiau hirach, cynnydd mewn costau teithio a rhwystro hygyrchedd gwasanaethau pwysig. Felly, yr elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn o beth sy'n fy mhoeni i. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod yn eglur ynghylch pa gamau eraill y bydd hi'n eu cymryd ar gyfer yr ymateb cwbl hanfodol i lygredd aer.

Fe wn i fod lleihau allyriadau o drafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r ateb. Ni all hwnnw fod yr unig ateb, wrth gwrs. Mae angen i ni ystyried anghenion pob cymuned, a chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau a gwella ansawdd aer. Felly, o ran y camau eraill y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i lygredd aer, siawns nad oes angen i hyn i gyd fod yn fuddsoddiad mewn dulliau teithio amgen, fel trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n siŵr mai dyma'r amser pwysicaf i hyrwyddo a rhoi sicrwydd o ran cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n dymuno ategu'r sylwadau a wnaethpwyd yn barod yn y Siambr yn gynharach heddiw ynglŷn â sicrwydd o gyllid i wasanaethau bws.

Nawr, fe wn i fod teithio llesol, Gweinidog, yn rhywbeth sy'n agos at eich calon, ac rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethoch chi am roi blaenoriaeth i ffyrdd ar gyfer llwybrau teithio llesol at fysiau. Fe fyddwn i'n croesawu mwy o wybodaeth am hynny, oherwydd fe fyddai buddsoddi yn y dulliau amgen hyn yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd ac yn helpu i leihau allyriadau. Siawns na ddylem ni fod yn buddsoddi hefyd mewn seilwaith cerbydau trydan fel gall pobl newid i fathau glanach, mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'r tanariannu yn y maes hwnnw'n alaethus. Mae croeso i ni ddweud ein bod ni'n awyddus i fod â gwell gwasanaethau bws a newid dulliau teithio. Nid dim ond croeso sydd i hynny, mae'n rhywbeth hanfodol. Ond, fel gyda'r pethau hyn i gyd, fe fyddan nhw'n dal i fod yn ddibynnol ar ffyrdd. Eto i gyd, y pontio sy'n fy mhoeni i.

Yn ail, a fyddech chi'n cytuno, Gweinidog, bod angen i ni hyrwyddo parthau allyriadau isel yn ein dinasoedd i helpu i leihau allyriadau yn ein hardaloedd mwyaf poblog a gwella ansawdd aer i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y mannau hynny? Rwy'n credu bod rhywbeth arbennig i'w ddweud am fonitro llygredd aer yn well, yn enwedig y tu allan i ysgolion. Unwaith eto, mae angen ymgymryd â'r ymyriadau hyn ar y cyd, wrth gwrs, â'r cynllun.

Yn olaf, a ydych chi'n cytuno bod angen i ni addysgu a grymuso pobl gyda gwybodaeth am bwysigrwydd lleihau allyriadau a'r effaith y mae llygredd aer yn ei gael ar ein hiechyd ni? Oherwydd os ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i annog pobl i wneud dewisiadau cynaliadwy fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—lle mae honno ar gael, wrth gwrs, a'i gwneud yn fwy hygyrch—beicio, lleihau'r defnydd o ynni, fe fyddai hynny'n helpu i newid, efallai, y syniad nad yw pobl yn teimlo mai rhywbeth sy'n cael ei wneud er eu mwyn nhw yw hyn, a'i fod yn benderfyniad y maen nhw'n rhan ohono hefyd, ac yn cael eu dysgu am eu cyfranogiad drwy'r system addysg.

Felly, mae'r polisi adolygu ffyrdd, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Mae hwnnw'n gyfeiriad y mae'n rhaid i ni fynd iddo, neu fe gawn ein llyncu gan fwrllwch, ond mae'n rhaid tywys pobl i'r cyfeiriad hwnnw. Mae angen llwybr trwodd iddyn nhw gyrraedd yno. Nid yw'r polisi yn berffaith, ond mae angen dull cynhwysfawr, integredig arnom ni o fynd i'r afael â llygredd aer, i leihau allyriadau. Fe ddylai gynnwys yr holl ddarnau amrywiol hyn yn dod at ei gilydd ochr yn ochr ag amaethyddiaeth gynaliadwy ac addysg.

Rwy'n credu hefyd fod y pwynt amlwg yn hyn o beth yn ymwneud â deddfwriaeth. Mae angen y Bil aer glân arnom ni'n fuan. Fe fyddai croeso mawr i ddiweddariad ynglŷn â hynny hefyd. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni greu dyfodol glanach, gwyrddach, mwy cynaliadwy i Gymru. Rwy'n credu ein bod ni eisiau yma—. Mae'n rhaid i ni fod ar y ffordd i'r un gyrchfan, ond mae angen i ni ei gwneud hi'n haws ac nid yn anos i bobl gyrraedd yno. Felly, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu hynny.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:50, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich croeso cyffredinol i'r ymagwedd, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am yr angen i ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl bontio. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl ganolog i'r ymagwedd y mae angen i ni i gyd ei gymryd. Rwy'n cael fy nharo gyda'r gyfatebiaeth â'n hanes ni gydag ailgylchu. Pan ydych chi'n meddwl am y peth, 20 mlynedd yn ôl, ychydig iawn o bobl yng Nghymru oedd yn ailgylchu. Nawr mae gennym ni'r drydedd gyfradd orau yn y byd. A pham hynny? Oherwydd mae hynny'n beth rhwydd. Rydym ni wedi cymryd y boen i ffwrdd ac mae wedi mynd yn beth arferol erbyn hyn. Mae gan bobl eu deinamig eu hunain, ac rydyn ni i gyd yn gwybod hyn o'n bywydau ein hunain ac mae hi'n mynd yn obsesiwn mawr am ailgylchu ac ymestyn am y mymryn lleiaf o gardfwrdd sydd wedi syrthio i lawr cefn y gadair. Ond, pan edrychwch chi ar y gwahaniaeth rhwng trafnidiaeth a gwastraff, ers 1990, mae'r allyriadau oherwydd gwastraff wedi lleihau 64 y cant. Yn yr un cyfnod, mae trafnidiaeth wedi lleihau ei allyriadau 6 y cant, hyd yn oed gyda'r enillion cyflym mewn technoleg cerbydau a welsom ni yn yr amser hwnnw. Ac rydych chi'n meddwl am y gwersi y gallwn ni eu defnyddio o hynny: fe ddaethom ni'n arloeswyr ailgylchu drwy fuddsoddiad parhaus dros ddegawd, arweinyddiaeth ganolog gan Lywodraeth Cymru, ac ymdrechion penderfynol gan awdurdodau lleol yn gweithio law yn llaw. Nawr, fe wnaethon ni hynny gyda gwastraff. Mae angen i ni wneud hynny gyda thrafnidiaeth. Mae angen i ni wneud y peth cyfiawn i'w wneud yn beth hawsaf un ei wneud, ac mae hynny'n bosibl, ond mae angen newid dull gweithredu, a dyna'r arwydd sy'n cael ei roi heddiw.

Ac yn sicr, o ran ansawdd aer, mae gennym ni Fil ansawdd aer y bydd Julie James, fy nghydweithiwr, yn gwneud datganiad yn ei gylch yn fuan iawn. Mae gennym ni becyn o ddiwygiadau. O ddiwygio bysiau, mae gennym Fil a gaiff ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a fydd yn rhoi system gydlynol ar waith, mewn cyferbyniad â gorllewin gwyllt y system breifateiddio yr ydym ni'n ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Mae gennym ni £1.6 biliwn o fuddsoddiad yn mynd i'r rheilffyrdd a'r metros ledled Cymru nawr. Mae cerbydau newydd yn dod i'r gwasanaeth yr wythnos hon a phob mis am y 18 mis nesaf, ac rydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn teithio llesol ddeg gwaith. Mae mwy i'w wneud eto, ac mae swyddogaeth i barthau allyriadau isel, ac mae hynny'n rhan o'r Bil Aer Glân, ac rydym ni'n gwybod mai cyngor Caerdydd sy'n arwain y ffordd wrth edrych ar gyflwyno codi tâl tagfeydd.

Felly, rwy'n credu bod y fframwaith gennym ni ar gyfer ymagwedd polisi a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yr her sydd gennym ni yn y byrdymor yw'r cyllid sydd ei angen arnom ni ar gyfer bysiau, ac rydyn ni i gyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa y mae'r diwydiant bysus yn ei hwynebu erbyn hyn. Y gwir amdani yw—. Roeddwn i'n gwrando gyda diddordeb ar yr hyn a ddywedodd Adam Price yn y Siambr yn gynharach, ond, ar y cyd, mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi gwneud dewisiadau ariannol. Rydyn ni wedi blaenoriaethu rhai materion. Rydyn ni wedi blaenoriaethu prydau ysgol am ddim. Rydyn ni wedi blaenoriaethu mesurau costau byw. Rydyn ni wedi blaenoriaethu, yn ein Llywodraeth, godiad cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus. Dyna'r pethau priodol i'w gwneud. Ond allwch chi ddim gwario'r un arian ddwywaith, ac yn syml, nid yw'r arian ar gael yn y gyllideb. Mae Adam Price yn anghytuno, ond fe hoffwn i weld ei gyfrifiadau ef. Fe welodd ef gyllideb Llywodraeth Cymru, fel gwnes innau. Yn syml, nid yw'r arian yno yn y byrdymor i wneud yn iawn am y diffyg hwnnw, nad oedd erioed wedi ei fwriadu i'w gynnal dros amser; cronfa argyfwng oedd honno. Nid oedd hi fyth wedi ei bwriadu i fod yn ddatrysiad parhaol. Wedi dweud hynny, mae angen i ni ddiogelu'r rhwydwaith orau ag y gallwn ni. Rydym ni wedi gallu rhoi estyniad o dri mis, ac rydyn ni'n gweithio yn agos gyda'r diwydiant a'r awdurdodau lleol i geisio gwneud yr hyn a allwn ni, ond, yn amlwg, ni fydd hynny'n ddigon i gadw'r gwasanaethau fel maen nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny'n drueni mawr. Ystyr cyhoeddiad heddiw yw ein bod ni'n newid y cyfeiriad ar gyfer buddsoddiadau tymor canol a hirdymor, ar gyfer symud yr arian oddi wrth gynlluniau adeiladu ffyrdd i'w roi i drafnidiaeth gyhoeddus.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:54, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae 'na ddadl hirfaith i'w chynnal ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yng Nghymru, ond dydw i ddim yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny, ac rwy'n siŵr nad ydych chithau yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny.

Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd ar gyfer tir a ddynodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer datblygu tai? Ac, yn yr 1960au, fe adeiladwyd ffordd osgoi ogleddol Llandeilo. A yw'r Gweinidog yn bwriadu adeiladu ail ffordd i osgoi Llandeilo? Ac, mewn gwirionedd, faint o drefi a dinasoedd eraill sydd â dwy ffordd osgoi?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am fod yn gryno ac i'r pwynt—rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Felly, ar y pwynt cyntaf am ffyrdd newydd ar gyfer tir a nodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai, pan gewch chi gyfle i edrych ar yr adolygiad ffyrdd, fe geir sylwadau ynddo ar yr union bwnc hwn, ac rydyn ni wedi cael trafodaeth yn y Llywodraeth ynglŷn â'r ffordd orau o weithredu hyn, ac yn rhannol, dyma yw'r adolygiad a grybwyllwyd eisoes yr ydym ni wedi gofyn i Anthony Hunt a Llinos Medi ein cynorthwyo ni ag ef, sef cyplysu ein polisïau cynllunio, trafnidiaeth a hinsawdd mewn ffordd ymarferol â'r cynlluniau datblygu sydd eisoes ar waith. Er enghraifft, y bwriad yw i'r prosiect yn y Faenor ger Cwmbrân yn Llanfrechfa, ar bwys yr ysbyty sydd heb lwybr bysiau, fod yn stad o dai. Nawr, nid ydym ni'n dymuno stad draddodiadol o dai, ar fin tref, yn llawn o geir, felly mae'r panel adolygu yn argymell prosiect enghreifftiol lle byddwn ni'n cynnwys pherchnogaeth ceir isel o'r dechrau, a dyna yr ydym ni'n dymuno gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddylunio. Yn yr un modd, yn Wrecsam, mae'r awdurdod lleol yn siomedig iawn fod y panel adolygu ffyrdd—a ninnau'n derbyn—wedi penderfynu peidio ag adeiladu gwelliannau i gyffordd wrth ymyl stad dai fawr a gynlluniwyd ar gyrion canol tref Wrecsam, wrth ymyl cyffyrdd ffordd ddeuol. Nawr, rydyn ni o'r farn y byddai hynny'n gwneud dim ond annog mwy o draffig ac y byddai'n achosi mwy o dagfeydd. Rydyn ni wedi dweud yn eglur iawn wrth Wrecsam ein bod ni'n dymuno gweithio gyda nhw i weld y datblygiad hwnnw'n digwydd, ond yn digwydd mewn ffordd sy'n esiampl o adeiladu gyda golwg ar berchnogaeth isel o geir heb i ni gyfrannu at yr un problemau dro ar ôl tro. Rydyn ni'n awyddus i gael ffyrdd mynediad i safleoedd datblygu. Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w weld yw defnyddio safleoedd datblygu fel esgus i gael ffordd osgoi neu lwybr answyddogol i osgoi traffig. Felly, mae'r panel adolygu yn egluro mai ffordd i mewn a ffordd allan yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, heb ddefnyddio datblygiadau ar ymylon tref i ysgogi mwy fyth o ffyrdd y tu allan i dref sy'n cynhyrchu traffig ychwanegol.

O ran Llandeilo, mae'r Aelod yn gwybod, ac fe sonnir am hyn yn y cynllun, fod yr ymrwymiad a wnaethon ni yn y cytundeb cyllideb rai blynyddoedd yn ôl, i ymchwilio i'r dewisiadau am ffordd osgoi i Landeilo, yn parhau. Rydym ni'n parhau i wneud hynny. Rydym ni'n mynd trwy'r broses WelTAG. Mae cynnig gennym ni am estyniad i ran o'r ffordd yn Ffairfach, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi beth fyddai orau gennym ni o ran y camau nesaf yn ystod y misoedd nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:57, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddatganiad heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig, pan oedd y datganiad yn cael ei ddarllen, nad oedd copi o'r adolygiad ffyrdd ar gael i ni. Felly, o ran gallu gwneud cyfraniad ystyrlon heddiw mewn ymateb i'ch datganiad, fe wnaeth hynny hi'n anodd iawn i lawer o Aelodau yn y Siambr hon. Mae hon yn ddogfen o 327 tudalen erbyn hyn, ac roeddech chi'n dweud wrthym ni yn eich datganiad, 

'Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn.'

Roedd hi'n amhosibl i ni wneud hynny pan oeddech chi'n codi i wneud y datganiad. Ond, er hynny, wrth edrych ar y datganiad—neu'r adroddiad, fe ddylwn i ddweud—ers i chi fod yn siarad, mae hi'n amlwg i mi y bydd y gogledd ar ei golled yn aruthrol o ganlyniad i'r adolygiad hwn. O'r 16 prosiect a oedd yn yr arfaeth yno, yr argymhellion yw i 15 o'r rhain naill ai gael eu hatal neu eu diddymu yn gyfan gwbl, a gadewch i ni edrych ar rai o'u plith. Rydych chi wedi crybwyll ffordd osgoi Wrecsam eisoes wrth gyffyrdd 3 i 6 ar yr A55. Mae cynllun ffordd Lôn Fawr Rhuthun/Corwen A494 am gael ei ddiddymu gennych chi; mae'r gwaith ar gylchfan A5/A483 Halton i'w ddiddymu; mae cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 i'w diddymu; cyffyrdd  32 i 33 yr A55, y gwaith hwnnw i'w ddiddymu; diddymu'r gwaith i wella coridor sir y Fflint; ac yna, yr ergyd fwyaf un, trydedd bont dros y Fenai i'w diystyru yn llwyr, er gwaethaf y problemau a welsom ni ar draws yr ynys, hyd yn oed yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd fy etholwyr i yn y gogledd yn hynod bryderus nid yn unig oherwydd hyn, ond oherwydd yr adroddiadau a glywsom ni'n gynharach o ran metro'r gogledd o ran maint y buddsoddiad a fwriadwyd ar ei gyfer yno, o gymharu â'r hyn sy'n digwydd i lawr yn y de.

Photo of David Rees David Rees Labour 2:58, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda, Sam.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative

(Cyfieithwyd)

Fe fyddaf i'n siŵr o wneud. Pa sicrwydd y gallwch chi eu rhoi i fy nhrigolion yn y gogledd y byddan nhw'n cael cyfran deg o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus, nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg iawn?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi am y cwestiwn, ac a gaf i'n gyntaf oll ymddiheuro na chafodd y datganiad ei roi i chi mewn da bryd? Yn sicr, dyna oedd y bwriad. Rwy'n credu i ni ddechrau ychydig yn gynt, o ganlyniad i hynny, roedd yna oedi wrth iddo gael ei roi i chi cyn i mi godi, ond pechod trwy esgeulustod yn hytrach nag un bwriadus oedd hwnnw, ac fe wnes i gyfarfod â Natasha Asghar fore heddiw mewn gwirionedd a'i briffio hi a siarad gyda hi am yr hyn a oedd yr adroddiad yn ei ddweud yn llawn, o gwrteisi. Felly, yn sicr ni fwriadwyd unrhyw amarch, ac rwy'n ymddiheuro yn ddiffuant am hynny. Mae yna gyfle o hyd, wrth gwrs, i bori ynddo. Ni fyddwn i'n disgwyl i neb fod yn mynd trwy'r adroddiad i gyd heddiw. Fe gefais i fis i bori ynddo, ac ni fyddwn i'n disgwyl i'r Aelodau ddarllen y cyfan ar unwaith. Rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd pellach yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau eto i siarad yn fanwl am yr adroddiad, ac fe fyddwn i'n croesawu hynny'n fawr.

O ran sylwedd y cyhuddiad hwn, rwy'n sylweddoli ei fod ef yn mwynhau gyrru'r hollt rhwng gogledd a de pryd bynnag y caiff gyfle i wneud felly, ond rwy'n credu ei fod ar gyfeiliorn ar yr un yma, oherwydd yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yw cymhwyso'r penderfyniadau a wnaethpwyd ar yr M4 eisoes—prosiect £2 biliwn yn y de-ddwyrain—ac ymagwedd Comisiwn Burns yn y de-ddwyrain i weddill Cymru. Felly, nid achos yw hwn o un rhan o Gymru yn cael ei thrin yn wahanol; mae hyn yn ymwneud, drwy broses ar gamau, â phob rhan o Gymru yn destun i'r un sail resymegol.

Rydyn ni wedi sefydlu comisiwn Burns hefyd, fel gwŷr yr Aelod, sy'n cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd. Fe gyhoeddwyd ei adroddiad interim, ac fe fydd yn ymgysylltu ag Aelodau am syniadau ac yn cyhoeddi ei gynigion yn yr haf. Mae'r syniad y tu cefn i hynny'n union fel comisiwn Burns yn y de-ddwyrain: fe fydd yn cynnig llif prosiectau o gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau eraill a fydd yn gallu cael eu datblygu, gan weithio ar y cyd â'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, i gyflwyno cyllid i Lywodraeth y DU ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus eraill. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o drin y gogledd yn wahanol neu anghofio amdano; fe wnaethom ni hyn mewn gwahanol gyfnodau, a dyna i gyd.

O ran y cynlluniau y soniodd ef amdanyn nhw, yn sicr, ni chafodd y drydedd bont dros y Fenai ei diystyru. Edrychodd y panel adolygu ffyrdd arni a phenderfynodd nad oedd ei manteision yn ei chyfiawnhau. Maen nhw wedi edrych ar y cynllun hwnnw fel cynllun ar ei ben ei hun; rydyn ni'n dymuno cael ystyriaeth lawn i'r mater yn rhan o waith comisiwn Burns ynglŷn â choridor trafnidiaeth y gogledd. Rydym ni wedi gofyn i Burns edrych ar bont dros y Fenai yn y cyd-destun hwnnw ac adrodd ar hynny'n rhan o'i waith ym mis Gorffennaf. Felly, ni chafodd hyn ei ddiystyru, ond mae'r panel adolygu ffyrdd wedi canfod nad yw pont arall yn gwrthsefyll y profion ar ei phen ei hun. Ond mae mwy o waith i'w wneud ar hynny eto.

O ran enghraifft coridor sir y Fflint, mae honno'n ffordd osgoi glasurol o'r 1990au gwerth £350 miliwn yn torri drwy goetir hynafol. Rwy'n clywed Aelodau ar eich meinciau chi'n sôn yn aml am argyfyngau natur a bioamrywiaeth, ac mae hwn yn gynllun a fyddai'n gweithio yn gwbl groes i'r agenda honno. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir i'r cynllun hwnnw fod wedi cael ei atal lle'r ydoedd. Mae Mark Isherwood wedi bod yn eiriolwr ardderchog dros ganslo'r cynllun hwnnw. Felly, mae gennych chi raniad yn eich rhengoedd eich hun yn hyn o beth, yn fy marn i, fel sydd gennym ninnau, yn wir. Mae hwn yn rhannu barn, y cynllun hwn. Ond rydyn ni wedi dweud wrth yr awdurdod lleol ein bod ni'n cydnabod, yn Aston Hill yn arbennig felly, fod problem trafnidiaeth a allai fod yn deilwng o ddatrysiad sy'n seiliedig ar ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gynnig rhywbeth i helpu'r tagfeydd yn Aston Hill. Felly, nid ydym ni'n cymryd pob sefyllfa yn yr un modd; rydyn ni'n dilyn dull wedi'i thargedu i leihau allyriadau carbon, sy'n atal cynyddu'r galw ac yn arafu cyflymderau lle gallwn ni er mwyn ymdrin â phroblemau trafnidiaeth yn ogystal ag ymdrin â'r argyfwng hinsawdd. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:02, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae hyn wedi mynd â ni yn ein holau 15 mlynedd dda, gan ddadwneud gwaith da fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, pan oedd ef yn Weinidog trafnidiaeth, a dadwneud gwaith da eich rhagflaenwyr chi gydag egluro'r achos dros drydedd bont dros y Fenai a pha lwybrau y dylid eu dilyn a pham hynny. A gaf i wneud sylw hefyd ynglŷn â sut y gwnaethpwyd y cyhoeddiad hwn? Rwyf i wedi cael cyfle, mewn byr amser, i ddarllen trwy'r adolygiad a'r hyn yr oedd yn ei ddweud am y bont arall dros y Fenai. Rwyf i newydd glywed cyfeiriad nawr at adolygiad pellach gan olwg ehangach Burns ar deithio yn y gogledd; nid oes unrhyw sôn am hynny yn yr adolygiad ffyrdd, hyd y gwelaf i. Mae gennym ni benderfyniad yma sy'n datgan yn eglur iawn,

'Ni ddylid bwrw ymlaen â Thrydedd Bont y Fenai ar yr A55.'

Mae hynny mor eglur ag y gallai fod. Mae hynny'n egluro pam mae'r drydedd bont, fel cynlluniwyd hi, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth, ond mae'r penderfyniad ei hun i beidio â bwrw ymlaen â'r bont, fe fyddwn i'n dadlau, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth ei hun. Edrychwch chi ar yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud ymhlith y pum amcan a nodwyd am yr angen am bont: i wella cydnerthedd rhwydwaith a lleihau'r ddibyniaeth ar y defnydd o bont grog Menai. Ni welaf unrhyw gyfeiriad o gwbl at y ffaith bod pont grog y Fenai wedi bod ar gau am dri mis. Fe fyddwn i wrth fy modd yn gwybod pryd gafodd hwn ei lofnodi. Roedd yna sôn am—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:04, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rhun, mae angen i chi ofyn—

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae hyn o bwys mawr i'm hetholwyr i.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall hynny, ond mae gennym ni lawer o bobl sy'n dymuno siarad hefyd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae sôn am ymweliad â'r safle; fe hoffwn i wybod pryd ddigwyddodd yr ymweliad â'r safle ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth bryd hynny i'r anrhefn oherwydd cau pont Menai. Mae'n dweud bod hynny ar gyfer gwella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr, ond mae rhan arall o'r adolygiad yn dweud mai un cyfle i gynyddu newid dulliau teithio yw deuoli'r rheilffordd ar bont Britannia. A yw hynny'n gywir? Wel, yr unig le y gallech chi roi cerddwyr a seiclwyr ar hyn o bryd yw ar yr ail reilffordd honno dros bont Britannia. Felly, rydych chi'n symud cerddwyr a beicwyr, o bosibl, oddi ar bont Menai. Mae cymaint o anghysondebau yn hyn. Mae hyn yn anghyson â'ch polisi chi eich hun. Mae'r adroddiad yn sôn am gynnydd yn nifrifoldeb ac amlder digwyddiadau tywydd; mater o gydnerthedd yw hwn. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n cytuno â'r egwyddorion sydd wrth gefn yr adolygiad hwn o ffyrdd. Rwy'n cytuno a'r egwyddor fod angen i ni newid dulliau teithio, ac rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai penderfyniadau i fwrw ymlaen ar ffyrdd yn y dyfodol fod ar sail rhesymau amgylcheddol. Ond mae yna ddolen goll yma. Fe ddylai fod lefel sylfaenol o gydnerthedd fod yn ymhlyg yn ein rhwydwaith ni o ffyrdd a dyna'r wyf i wedi bod yn dadlau yn hir ac yn galed amdano o ran yr angen am drydedd bont. Fe welsom ni yn ystod y tri mis diwethaf—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:05, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rhun, mae'n rhaid i mi ofyn i chi orffen.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

—beth mae'r diffyg cydnerthedd hwnnw'n ei olygu. Mae'r penderfyniad wedi fy siomi i'n fawr, yn y ffordd y cafodd ei wneud, a'r anghysondebau yn y ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi dod i'r penderfyniad hwn heddiw.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Efallai y gallaf i egluro. Rwy'n sylweddoli bod llawer o ddogfennau i'r Aelodau bori drwyddyn nhw mewn byr o amser. Fe wnes i roi sesiwn friffio i Blaid Cymru fore heddiw i geisio caniatáu i chi ddeall cefndir y penderfyniadau hyn. Nid adroddiad gan Lywodraeth Cymru yw'r adolygiad ffyrdd; adroddiad annibynnol yw hwn. Rydych chi'n dyfynnu yn y fan yna, gan ein cyhuddo ni o fynd yn groes i'n polisïau ein hunain; adroddiad annibynnol yw hwn. Y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a gyhoeddwyd gennym ni ochr yn ochr ag ef yw ymateb polisi'r Llywodraeth. Y cynlluniau a gynhwysir yn y cynlluniau cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ar sail yr argymhellion yn yr adolygiad annibynnol, yw ein hymateb ni; dyna mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi. Ochr yn ochr â hynny fe geir y datganiad polisi ffyrdd, sy'n bolisi newydd i Lywodraeth Cymru erbyn hyn, a'r profion a gymhwysir ar gyfer cynlluniau ariannu yn y dyfodol ac yn y broses WelTAG. Mae'r panel yn mynegi barn eglur ynglŷn â'r bont dros y Fenai, sy'n seiliedig ar y profion a gymhwyswyd yn gyson ar draws y 55 cynllun arall. Fe welwch chi, yng nghefn yr adroddiad, yn yr atodiad, bennod sy'n rhoi golwg fanwl ar hynny.

Mae ef yn dweud ar ei eistedd, 'Mae hyn yn gwbl anghyson.' Dadansoddiad y panel yw hyn. Mae ganddo hawl i fod yn anghyson. Nid ein dadansoddiad ni mohono; ond eu dadansoddiad nhw. Rydyn ni wedi gofyn i banel annibynnol ystyried hyn. Rydyn ni wedi dweud—ac rwyf i newydd ddweud wrtho ef yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud—'Fe fyddwn yn gofyn i gomisiwn Burns ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach y gogledd.' Rwy'n clywed yr hyn a ddywed ef am gadernid; mae'n rhaid i ni gydbwyso cadernid byrdymor â chadernid mwy hirdymor o ran materion newid hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae hwn yn gynllun gwerth £400 miliwn nad oes gennym ni mo'r cyllid ar ei gyfer. Felly, ni waeth beth yw'r argymhelliad yn yr adolygiad, pwynt braidd yn academaidd yw hwn ar hyn o bryd o ystyried cyflwr ein cyllidebau ni oddi wrth Lywodraeth y DU. Fe wn i fod yna ornest fawr yn digwydd yn sir Fôn, ac mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg y prynhawn yma yn ein galw ni'n bob math o enwau. Nid oes unrhyw arian oddi wrth Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda thrydedd bont dros y Fenai. Fe fyddwn ni'n edrych ar waith comisiwn Burns yn y gogledd i edrych ar becyn cymorth cyfan, ac a yw'r achos a wnaeth Rhun ap Iorwerth nawr o ran cydnerthedd yn gallu gwrthsefyll manylu arno neu a yw'r gwaith a wnaeth yr adolygiad ffyrdd yn gydnerth ynddo'i hun. Fe fyddwn ni'n dod yn ôl at y cwestiwn hwn eto.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:08, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf i atgoffa'r Aelodau fod gennyf i 12 Aelod eto sy'n dymuno siarad? Rwy'n deall yr angerdd a'r teimlad y mae'r Aelodau yn dymuno ei fynegi ar ran eu hetholwyr, ond a gawn ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n cadw at yr amseriadau i ganiatáu y bydd pob un o'r 12 Aelod yn cael cyfrannu heddiw, os gwelwch chi'n dda? Jack Sargeant.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd hi'n syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, fy mod i'n amlwg yn siomedig iawn gyda chyhoeddiad heddiw. Mae hi'n amlwg o'r cyhoeddiadau a'r datganiad a wnaethoch chi heddiw nad yw'r llwybr coch yn sir y Fflint am fynd yn ei flaen. Yn y pen draw, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â lleihau llygredd aer. Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod gan aelodau eraill yn y Siambr angerdd tebyg, ond mae hwn yn destun angerdd mawr i mi. Mae hi'n bryd i chi gyflawni nawr. Mae angen gweithredu ar unwaith ar fy etholwyr i; nid oes angen mwy o adolygiadau arnyn nhw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n diweddaru'r Siambr heddiw ac yn amlinellu sut olwg sydd yna ar weithredu ar unwaith, a hefyd pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fuddsoddi'r holl arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy i leddfu'r broblem ddifrifol iawn hon o ran iechyd y cyhoedd.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:09, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Rwy'n parchu safbwynt Jack Sargeant, ac roeddwn i'n falch o gwrdd ag ef a Mark Tami i drafod y materion. Rwy'n deall cryfder y teimladau sydd yn yr ardal leol ynglŷn â mynd i'r afael â'r pryderon o ran ansawdd aer, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu edrych ar Aston Hill fel achos ar wahân. Fe fyddwn ni'n ystyried datblygu datrysiadau gyda'r awdurdod lleol a fydd yn dod â rhai manteision byrdymor i'r ardal honno. O ran bod yn ddisyfyd, rwyf i am dynnu sylw at y ffaith na fyddai llwybr coch sir y Fflint wedi digwydd ar unwaith. Fe fyddai'r amser adeiladu ar gyfer hwnnw—hyd yn oed pe byddai'r arian i'w gael, ac nid ydyw—wedi bod yn faith iawn. Felly, nid wyf i o'r farn fod hynny'n deg.

Fe wn i fod hon wedi bod yn ddadl hirfaith, ond yr hyn sy'n eglur iawn o'r cynlluniau hyn—. Pan fyddwch chi'n edrych ar gasgliadau'r adolygiad ffyrdd a phob un o awgrymiadau'r panel, mae'r rhain yn nodi'r broses fanwl o ran sut y gwnaethpwyd y penderfyniadau hyn. Ym mhob achos, ar gam cyntaf yr arfarniad dewisiadau, roedd nifer o gynlluniau eraill y gellid bod wedi eu datblygu a fyddai wedi mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal, ar gam 1. Pan aeth hi'n gam 2, cafodd pob dewis heblaw am y dewisiadau o wneud ffyrdd, fel arfer, eu dileu a'r peirianwyr yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r dewis o wneud ffordd. Felly, rwy'n credu bod dulliau eraill o fynd i'r afael â llawer o'r problemau hyn heb fynd mor bell ag adeiladu ffordd osgoi fawr, ddrud, niweidiol i'r hinsawdd, a niweidiol i fioamrywiaeth. Rwy'n credu bod angen i ni wahanu materion ansawdd aer yr ydym ni'n gobeithio gwneud rhywbeth yn eu cylch a'r achos dros ffordd sy'n creu mwy o draffig. Fe fyddaf i'n parhau i weithio gydag ef i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion ei etholwyr ef, ond mewn ffordd sy'n gyson â'r argyfwng hinsawdd.

Rwyf i am ddweud wrth Aelodau unwaith eto fy mod i wedi clywed llawer o bobl yn dweud yn aml iawn, 'Rydyn ni'n cytuno ag egwyddorion yr adolygiad ffyrdd, ond yn achos fy etholaeth i, fe geir amgylchiadau eithriadol.' Rwy'n deall hynny, ac mae hynny'n berthnasol yn fy etholaeth innau hefyd. Rwy'n deall y pwysau yr ydym ni i gyd yn ei wynebu oherwydd cyfres o ddisgwyliadau a chyfres o ymddygiadau a phenderfyniadau buddsoddi dros 70 mlynedd o ran y ffordd i ymdrin â phroblemau trafnidiaeth. Ond pe byddech chi'n darllen yr adroddiad a phe byddech chi'n tynnu drwodd ein hymrwymiadau ein hunain ar sero net a sut mae hynny'n berthnasol i drafnidiaeth, yr arafaf o'r sectorau i gyd i ymateb, fe ddylai pob un ohonom ni gydnabod yr angen mawr i ni wneud rhywbeth gwahanol.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 3:11, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, mae seilwaith ffyrdd a chludiant digonol yn allweddol i economi fywiog, ond eto mae'n ymddangos eich bod chi eisiau rhwystro cynnydd Cymru bob tro. Beth arall rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl gan Lywodraeth sosialaidd aflwyddiannus sy'n benderfynol o wahardd pethau ac arafu cynnydd? Fe allen ni fod wedi gweld ffordd liniaru'r M4 erbyn hyn, ond eto fe wnaed y penderfyniad chwerthinllyd hwn i gael gwared ar ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf gwario £157 miliwn arno, er gwaethaf y buddsoddiad mewnol enfawr a fyddai wedi dod yn ei sgil. Mae'n dangos y bydd y Llywodraeth hon yn gwario miliynau o bunnoedd ar unrhyw beth ar wahân i wella seilwaith ein ffyrdd. Mae'r Llywodraeth hon eisiau gwahardd gyrru yn ôl pob golwg neu ei gwneud hi'n amhosib gyrru, sydd, i rywun sy'n byw mewn ardal wledig, fel llawer o bobl yng Nghymru, ychydig yn wallgof, heb lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol mewn lle neu osod mwy o draciau. Ni allaf weld hyn yn unrhyw un o'ch cynlluniau. Ar rai o'ch llwyddiannau hyd yma, Dirprwy Weinidog, ni fu cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar seiclo at ddibenion teithio llesol, ac ni wariwyd unrhyw arian ar hysbysebu teithio llesol ers 2018 gan y Lywodraeth hon yng Nghymru. Mae Cymru ar ei hôl hi yn sylweddol wrth symud tuag at gerbydau trydan, fel yr amlinellodd fy nghydweithiwr Natasha Asghar. Ac ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau gwariant ar deithio llesol yn 2023-24. Dirprwy Weinidog, mae gen i un cwestiwn i chi: gyda gwasanaeth rheilffordd annigonol, maes awyr sy'n methu a ffyrdd dadfeiliol, sut ydych chi'n disgwyl i bobl fynd o un lle i'r llall, heb sôn am gael yr economi hwn i symud eto?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:13, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, o ystyried y cwynion sydd wedi eu gwneud yn y Siambr hon am y defnydd o iaith ynghylch iechyd meddwl yn ddiweddar, byddwn yn cwestiynu a yw defnyddio'r term 'gwallgof' yn briodol. Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Aelodau eraill, ac rwy'n meddwl y dylen nhw gymhwyso hynny iddyn nhw eu hunain. Efallai y byddwn i'n gofyn i chi ystyried hynny wrth archwilio'r cofnod.

Fel erioed, rwy'n mwynhau ymarferion Laura Anne Jones ar gyfer etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, gan wasgu botymau llawr gwlad, a pharhau â'r rhyfeloedd diwylliant pryd bynnag mae'n cael cyfle i wneud hynny. Yn syml, mae ei chynsail cychwynnol yn ffug. Nid oes unrhyw un yn anghytuno bod seilwaith ffyrdd digonol yn allweddol i'r economi fodern. Os byddech chi wedi mynd i'r drafferth i wrando ar fy araith cyn ysgrifennu eich araith eich hun, byddech chi wedi sylwi ein bod ni wedi dweud y byddwn ni'n parhau i adeiladu ffyrdd, bod adeiladu ffyrdd yn rhan allweddol o'n dull trafnidiaeth, ond mae angen i ni ailasesu'r math o ffyrdd rydyn ni'n eu hadeiladu, y dibenion maen nhw wedi'u hadeiladu ar eu cyfer a'r ffordd maen nhw'n cael eu hadeiladu. Bydd capasiti sero-net eich Llywodraeth eich hun—[Torri ar draws.]—yn siŵr o gefnogi hynny.

Rydyn ni'n cael y trosiadau arferol o'r meinciau ar eu heistedd ein bod ni'n wrth-ffyrdd, yn wrth-fuddsoddiad mewnol. Sloganau gwag yw'r rhain heb unrhyw sail mewn polisi, dadansoddiad deallusol neu drylwyredd—[Torri ar draws.] Pe byddech chi wedi mynd i drafferth i ddarllen yr adroddiad yn lle pwyso botymau ar gyfer eich ymgyrchwyr eich hun—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:14, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A allwn ni ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog roi ei ateb, os gwelwch yn dda?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

—byddai gennym ddadl gyfoethocach. Mae'r mater bod gwariant ar deithio llesol yn is na lle byddem wedi hoffi ei weld yn fater o gapasiti mewn awdurdodau lleol. Mae hynny'n fater yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef gydag awdurdodau lleol, nad ydynt, yn syml, yn gallu gwario'r gyllideb rydyn ni'n ei darparu ar eu cyfer. Dyna pam mae'r arian lle mae e. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd wneud yn well na hyn, oherwydd nid yw'n mynd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu. Dim ond mân-siarad hurt yw hwn. 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:15, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf sicrhau'r Dirprwy Weinidog y byddwn ni'n adolygu'r trawsgrifiad?

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ein bod ni yma i gynrychioli ein cymunedau a'n hetholaethau, ond hefyd i dynnu'r darlun ehangach, ac mae hynny'n anodd. Rydw i a thri arall yn y Siambr hon yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Brycheiniog a Maesyfed yw'r etholaeth fwyaf tenau ei phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr. Felly, rydyn ni'n gwybod am gymunedau gwledig, ond rwy'n sefyll yma yn dweud fy mod i'n cefnogi'r adolygiad hwn, ac rydw i yma i ddweud bod angen i ni gymryd cam dewr ymlaen ar gyfer y mater mwyaf dybryd sydd o'n blaenau, sef yr argyfwng hinsawdd. Byddaf yn amddiffyn hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cael fy meirniadu'n fawr, ond mae angen i ni fod yn dweud: gadewch i ni gael mwy o wasanaethau bws, gadewch i ni edrych ar sut rydym ni'n datblygu ein cyfle i fod yn wlad gyffrous, fywiog sy'n dangos nad oes angen i ni ddibynnu ar ffyrdd, ein bod ni'n cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, a gadewch i ni fynd ymlaen ar sail hyn. 

Rwy'n cefnogi'r datganiad hwn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog: beth allwch chi ei gynnig i gymunedau gwledig? Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n clywed yn union beth y gall yr adolygiad ffyrdd hwn ei gynnig i gymunedau gwledig, gan gynnwys, gobeithio, edrych ar well trafnidiaeth bws a, byddwn i'n gobeithio, trafnidiaeth bws am ddim i'n rhai dan 25 mlwydd oed. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:16, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, ac mae'n safbwynt cyson mae Jane Dodds wedi ei chymryd ar y materion hyn, ac rwy'n ei werthfawrogi. Ar bwynt ardaloedd gwledig, yr wyf yn gwybod sy'n rhywbeth mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei godi hefyd, rwy'n derbyn yn llwyr, mewn ardaloedd gwledig, bod angen agwedd wahanol i ardaloedd trefol. Mae'n hollol bosib gwneud hynny. Os edrychwch chi ar gefn gwlad y Swistir neu gefn gwlad Sweden neu gefn gwlad yr Almaen, gydag ardaloedd gwledig llawer dyfnach na'n rhai ni, maen nhw'n llwyddo i gael, mewn sawl rhan, gwasanaeth bws i bob pentref bob awr. Nid yw'n ddigyfnewid na allwn ddarparu trafnidiaeth amgen mewn ardaloedd gwledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau rydyn ni wedi'u gwneud. Wrth gwrs eich bod chi'n fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar geir mewn ardaloedd gwledig nag ydych chi mewn ardaloedd trefol, ond mae yna bethau eraill y gallwn ni gydweithio arnyn nhw. Fe wnes i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos ddiwethaf ar ardaloedd gwledig, rwyf i wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae'n ddiddorol nawr sut mae'r meinciau Ceidwadol wedi mynd yn dawel ac maen nhw'n edrych ar eu ffonau tra fy mod i'n ateb eu cwestiynau nhw mewn gwirionedd, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu llinellau ymgyrchu rhad. Y gwir yw bod ateb i ardaloedd gwledig os ydym ni am ddod o hyd iddo, ac os ydym ni am fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'n rhaid i ni ei daclo yn y Gymru drefol ac yng nghefn gwlad Cymru, ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar atebion yn hytrach na dweud yn gyson nad oes dim y gellir ei wneud mewn ardaloedd gwledig. 

Nawr, ar bwynt penodol Jane Dodds am ei hetholaeth, un o'r pryderon, rwy'n gwybod, yw cyflymder mewn ardaloedd gwledig, a'n darn nesaf o waith yw adolygu terfynau cyflymder ar draws y wlad. Un o'r prif bwyntiau yn yr adolygiad ffyrdd yw, lle mae mannau lle ceir damweiniau neu bryderon diogelwch, y dylem ni fod yn edrych i leihau'r terfynau cyflymder yn yr ardaloedd hynny yn gyntaf, a gwneud ymyriadau ar raddfa fach yn hytrach nag ailadeiladu coridorau cyfan i'w gwneud yn addas i yrru yn gyflymach. Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw densiwn, mewn gwirionedd, rhwng system drafnidiaeth wledig hyfyw, ddiogel a'r nodau hinsawdd—mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n mynd ati. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:18, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ond wrth gwrs, yn y byd go iawn, Llywodraeth Cymru sy'n tynnu gwasanaethau yn bellach oddi wrth bobl. Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wnaeth ariannu ysbyty newydd heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl ar gyfer fy etholwyr, ac rwyf i wedi dod yn ôl yma am y chwe, saith mlynedd diwethaf, ac wedi cael sicrwydd gan bob Gweinidog sydd wedi dal y portffolio hwnnw y byddai cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu darparu, a dydyn nhw heb gael eu darparu. Dydyn nhw heb gael eu darparu hyd heddiw. Ac felly, yr hyn rydw i eisiau ei weld gan Lywodraeth Cymru yw meddwl mwy cydgysylltiedig—bod, os ydyn ni'n mynd i dynnu gwasanaethau oddi wrth bobl o ran pellter, yna'r hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw darparu opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i bobl gyrraedd y gwasanaethau hynny, a dydy hynny heb ddigwydd.

Y peth hawsaf yn y byd yw gwneud araith dduwiol neu ddweud 'na'. Yr hyn sy'n anoddach yw dylunio'r strwythurau a'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi dewis go iawn i bobl, a'r rhan fwyaf trawiadol o'ch datganiad i mi, Dirprwy Weinidog, oedd pan wnaethoch chi ddweud bod gan y rhan fwyaf o economïau llwyddiannus systemau trafnidiaeth gyhoeddus fodern, llwyddiannus. Nawr, rydych chi'n gwybod, ac rwyf i'n gwybod, bod dadreoleiddio'r bysiau, na ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, gan Lywodraeth Thatcher wedi dileu gwasanaethau bws ledled Cymru—gwledig a threfol—a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw adfer y rheini. Felly, yr hyn rydyn ni ei angen ochr yn ochr â'r datganiad hwn yw datganiad arall ar y dewisiadau amgen sydd ar gael i bobl, i rai o'r bobl fwyaf tlawd a bregus yn y wlad, oherwydd nid yw addo mwy o bwyllgorau a mwy o gomisiynau flwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn yn ddigon da bellach. Mae pobl eisiau gweld cynlluniau go iawn ar gyfer opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus go iawn, a phan fydd hynny'n cael ei wneud, ni fydd angen i chi wneud areithiau fel hyn; ni fydd angen i chi gael mwy o ddatganiadau—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:20, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Alun, wnewch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda? 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

—oherwydd byddai pobl yn gwneud y dewisiadau eu hunain. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hynny, a dywedais i yn gynharach bod angen i ni wneud y peth iawn i wneud y peth hawsaf i'w wneud. Rydyn ni angen trafnidiaeth gyhoeddus ar garreg y drws i bobl gyrraedd a mynd. Ac un o ddibenion ailgyfeirio ein llif prosiectau ffyrdd yw rhyddhau cyllid yn y blynyddoedd i ddod er mwyn caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Rydyn ni'n dioddef ar hyn o bryd o benderfyniadau'r gorffennol ac o, fel y gwnaethoch chi ddweud yn gywir, system drafnidiaeth gyhoeddus dameidiog a phreifat, ac, wrth gwrs, effaith COVID, sydd wedi achosi niwed go iawn. Mae e'n hollol iawn am y diffyg meddwl cydgysylltiedig am osod gwasanaethau mewn safleoedd y tu allan i'r dref, ac mae angen i ni atal hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir iawn.

Mae Julie James a minnau wedi bod yn gweithio ar ddatganiad polisi newydd 'canol tref yn gyntaf', a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, sydd yn cynnwys, wrth ei wraidd, yr angen i'r sector cyhoeddus, yn benodol, ymuno a meddwl lle mae'n gosod ei gwasanaethau fel ei fod yn cryfhau canol trefi, ac nad yw'n eu llusgo allan i ganolfannau y tu allan i drefi lle nad oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n iawn; mae'r enghraifft honno'n graith ar gofnod meddwl cydgysylltiedig yn y sector cyhoeddus. O ran y sector breifat, mae Julie James eisoes wedi cyhoeddi polisi cynllunio newydd, 'Cymru'r Dyfodol', sydd yn gwneud y mathau hynny o ddatblygiadau yn anghyson â pholisi.

O ran dewisiadau eraill, rydyn ni wedi darparu a threialu'r bws 'fflecsi' sy'n ymateb i'r galw ym Mlaenau Gwent, ac mae'r canlyniadau mewn lleoliadau gwahanol wedi bod yn galonogol iawn. Mae wedi bod yn wahanol yn y gwahanol lefydd rydyn ni wedi ei dreialu. Mae gennym ni ddata da rydyn ni nawr yn ei werthuso. Yr her wedyn fydd lledaenu a datblygu, ond, fel erioed, pan fydd y cyllidebau fel y maen nhw o ganlyniad i gyni, sy'n ddewis gwleidyddol gan y Llywodraeth yn Llundain, nid oes gennym ni'r adnoddau i wneud yr holl bethau rydyn ni am eu gwneud. A'r enghraifft benodol y mae'n dyfynnu o'r gwasanaeth bws ym Mlaenau Gwent, rydyn ni, fel mae'n gwybod, wedi ymdrechu'n galed iawn i roi bws sy'n derbyn cymhorthdal cyhoeddus yno, ond mae wedi cael ei herio gan weithredwr masnachol, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod ni'n ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau i wneud yn siŵr bod cydlyniad i'r system drafnidiaeth, ac nad yw'n cael ei adael i natur ar hap y farchnad. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:22, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddweud mai'r un peth y byddwn i'n ei ddweud amdanoch chi, Gweinidog, Lee, yw bod eich calon yn hyn, ac mae wedi bod ers cryn amser, a does neb yn gwadu bod angen mwy o deithio llesol. Ond rwy'n meddwl mai'r pwynt mae Alun Davies, fy nghyd-Aelod, wedi ei wneud yw'r ffaith eich bod chi'n sicrhau bod eich seilwaith yn ei le, yna gallwch chi benderfynu peidio gwneud yr hyn rydyn ni wastad wedi ei wneud a pharhau i adeiladu ffyrdd. Ond rydw i am gwyno eto am fy nwy gylchfan ar yr A55, achos mae rhan o'r rheswm yn ymwneud â'r amgylchedd a newid hinsawdd, a hefyd am lygredd aer. Mewn gwirionedd, byddwn yn gofyn i chi nawr heddiw i adolygu'r opsiynau ar y ddwy gylchfan honno.

Rwyf i hefyd wedi cael gwybod y gallai porthladd rhydd Caergybi fod dan fygythiad os nad yw'r cylchfannau hynny'n cael eu dileu, oherwydd nid oes cylchfannau o Hull i Gaergybi yn y ffordd honno, ac mae'r cylchfannau hynny'n achosi tagfeydd nawr i fy nhrigolion, lle, pan aethoch chi i ymgynghori, £9 miliwn—a phrofwyd y dylid cael gwared ar cylchfannau hynny. Cawsant eu dileu cyn yr adolygiad ffyrdd hwn hyd yn oed. Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud yw eich bod chi wedi gweld y diddordeb brwd. Mae gennym ni i gyd broblemau o ran ein hetholaethau ein hunain. Fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd ac amgylchedd, rydyn ni wedi bod yn cymryd tystiolaeth helaeth ar ein system drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw'n dda i'w ddarllen i unrhyw un nac i Lywodraeth Cymru. Mae angen i chi gael y seilwaith hwnnw yn ei le. Nid yw pobl yn mynd i fynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau nad ydyn nhw'n bodoli, neu'n mynd ar drenau sy'n annibynadwy, weithiau'n fudr iawn ac yn aml yn cael eu canslo. Byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog: a allwn ni gael dadl lawn ar hyn? 

Dirprwy Lywydd, rydych chi wedi bod yn dda iawn, iawn yn gadael i bob un ohonom gael dweud ein dweud heddiw. Roeddwn i'n gyffrous am yr adolygiad ffyrdd yma a'r cynllun, a heddiw, mae fy swigen wedi ei byrstio, oherwydd dydyn ni ddim wedi gallu craffu go iawn arno. Felly, mae angen i chi wynebu'r heriau. Gadewch i ni gael dadl dda yr wythnos nesaf arno, dadl sy'n cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth. Diolch. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:24, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n ddrwg iawn gen i fyrstio eich swigen, Janet. Mae'n anodd dal i fyny, rhaid i mi ddweud, oherwydd pan wnaethon ni'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r newidiadau cylchfan, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i eich bod chi o blaid y penderfyniad. Rydych chi nawr yn erbyn y penderfyniad. Felly, mae'n eithaf dryslyd. Y pwynt am y cylchfannau hynny, fel y penderfyniadau eraill a wnaed yn yr adolygiad ffyrdd, yw, pan adeiladwyd cynlluniau am resymau diogelwch ar y ffyrdd, yr achosion oedd yn cael eu gwneud gan ein hadrannau a'n peirianwyr ein hunain oedd mai'r ffordd i ymdrin â hynny oedd drwy roi cyffyrdd aml-lefel —felly, trosffyrdd, i bob pwrpas. Nawr, fel y soniais yn yr araith yn gynharach, mae traean o'r holl allyriadau o gynlluniau trafnidiaeth yn dod o'r carbon sydd wedi'i ymgorffori yn y cynllun. Felly, mae cyffyrdd aml-lefel yn ddrud, maen nhw'n defnyddio llawer iawn o garbon, a'r achos diogelwch rydych chi'n ei wneud—pe byddech chi'n darllen yr adroddiad eto y gwnaeth yr adolygiad ffyrdd ei gyhoeddi o'r cyffyrdd hynny—nid oedd yr achos diogelwch wedi'i wneud. Roedden nhw i bob pwrpas yn ymwneud â chynyddu llif y traffig a chyflymder traffig. Nawr, nid yw hynny'n gyson â diogelwch.

Wyddwn i ddim am eich honiad chi y byddai'n peryglu datblygiad economaidd, a hoffwn glywed rhywfaint o dystiolaeth y tu ôl i hynny, os yw hynny, yn wir. Ond gadewch i mi fynd yn ôl i'r pwynt cynharach: fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi am roi'r seilwaith yn ei le yn gyntaf ac yna edrych ar y gwasanaethau. Wyddoch chi, sefyllfa'r iâr a'r ŵy yw hon. Rydyn ni wedi bod yn ceisio'r dull hwn o, 'Gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda ffordd osgoi; gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda lôn ychwanegol' am 70 mlynedd, a'r hyn mae wedi'i wneud, fel mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir, yw cynhyrchu teithio ychwanegol, ac wedyn, mae ffyrdd yn llenwi ac mae mwy o dagfeydd ac yna mae gennych chi fwy o fuddsoddiad. Felly, nid oes byth unrhyw arian i ariannu'r dewisiadau amgen. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i ni dorri'r cylch hwn i'n rhoi ni mewn modd addas i'r diben gyda'r targedau hinsawdd rydych chi a minnau wedi dweud yn gyhoeddus ein bod ni'n eu cefnogi, oherwydd dydy cefnogi'r targed yn dda i ddim os nad ydych chi'n cefnogi'r camau sydd eu hangen.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:26, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â'r penderfyniad i atal ffordd osgoi Llanbedr ei wneud yn hydref 2021. Hwn oedd y penderfyniad anghywir ac fe ddaeth fel pilsen chwerw iawn ar ôl degawdau o addewidion. Felly, er ein bod ni'n derbyn bod yn rhaid gwneud popeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yn unig y dylai'r weithred hon ganiatáu pontio cyfiawn, ond dylai hefyd fod yn gymesur â'r effaith debygol ar y cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Yn achos Llanbedr, dydyn ni ddim yn edrych ar ffordd fydd yn ychwanegu mwy o gerbydau at y rhwydwaith ffyrdd, ond yn hytrach, rydyn ni'n edrych ar gynllun i wella diogelwch y trigolion lleol ac i gryfhau'r economi leol.

Mewn gwirionedd, siaradodd y Dirprwy Weinidog, yn ei gyflwyniad, am y bobl fwyaf bregus sy'n dioddef oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Soniodd am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu teithio llesol. Ac eto, yn y flwyddyn a hanner ers gwneud cyhoeddiad Llanbedr, nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad i unrhyw un o'r pethau hyn yn Llanbedr na hyd yn oed arfordir Meirionnydd. Yn wir, yr wythnos ddiwethaf, bwriad y Llywodraeth oedd cwtogi'r cynllun argyfwng bysiau, gan wneud llwybrau ar hyd arfordir Meirionnydd yn anhyfyw i'r rhan fwyaf o ddarparwyr bysiau. Ac, mewn rhan arall o fy etholaeth, rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth T19 hanfodol yn cael ei dorri hefyd heb unrhyw gymorth gan y Llywodraeth. Felly, mae'n ymddangos fod llawer o eiriau cynnes ond dim gweithredu o gwbl cyn belled ag y mae profiad Meirionnydd yn y cwestiwn. Felly, a all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthyf i heddiw pa fuddsoddiad mae'r Llywodraeth yn ei roi i mewn i Lanbedr ac arfordir Meirionnydd, fel bod gan y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fynediad hawdd at bopeth maen nhw ei angen i fyw bywyd o urddas ac yn rhydd o'r peryglon marwol maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd? Hefyd, roedd adroddiad Llanbedr yn argymell adeiladu fersiwn ddiwygiedig o'r cynnig gwreiddiol, gyda therfyn cyflymder arafach. Byddai hyn yn cael ei groesawu gan y gymuned, ond nid ydym wedi cael unrhyw symudiad ar hyn hyd yma. Felly, a fydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i'r dewis arall hwn yma heddiw a chael cyfarfod gyda mi a'r rhanddeiliaid i symud y cynllun hwn yn ei flaen? Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:28, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, rwyf i eisoes wedi cytuno i'w gyfarfod ef a dirprwyaeth o Lanbedr i drafod y mater. Rwyf i wedi fy rhyfeddu gan ei honiadau o ddiffyg gweithredu, pan ydyn ni wedi bod yn ceisio dro ar ôl tro i wneud cynnydd gyda'r awdurdod lleol, nad yw wedi cymryd rhan mewn ffordd sydd wedi dod â chynnydd gyda ni. Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd—maen nhw'n sicr wedi troi i fyny i gyfarfodydd—ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw barodrwydd i gymryd rhan o ddifrif mewn atebion. Yn hytrach, maen nhw wedi mynd y tu allan i'r setliad datganoli—cyngor sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru yw hon—i apelio ar San Steffan, nad oes ganddynt bwerau dros drafnidiaeth, i ariannu, dros bennau eu Llywodraeth etholedig ddatganoledig yng Nghymru sydd â phwerau dros drafnidiaeth, cynllun o dan y gronfa ffyniant bro, ar yr un pryd ag y mae Plaid Cymru yma, yn ein gwthio i gyrraedd sero-net erbyn 2035. Wyddoch chi, rwy'n credu bod y gwrthddweud hwn yn syfrdanol. Rydym ni'n parhau i fod yn barod i gydweithio gyda'r awdurdod lleol. Hoffwn drin Llanbedr fel cynllun gwledig enghreifftiol, er mwyn ceisio dod o hyd i atebion amgen i ddelio gyda'r problemau. Rwyf wedi dweud hynny wrth arweinydd y cyngor, rwyf wedi dweud hynny wrth yr aelod cabinet ar sawl achlysur, ac rwy'n parhau i fod yn barod i weithio gyda nhw, ond mae'n cymryd y ddwy ochr i wneud hynny.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:29, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy ymrwymiad hirsefydlog i Borth Gogledd Cynon, gan weithio ochr yn ochr â thrigolion Llwydcoed a Phen-y-waun a'r cynghorwyr lleol yno. Pwrpas y cynllun porth yw lliniaru gwasgariad gorfodol traffig o ddeuoli rhannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, oherwydd cael gwared yn barhaol ar brif fynediad a man ymadael Hirwaun. A allwch chi roi ar y cofnod heddiw y ffaith eich bod chi'n deall nad cynllun wedi'i gynllunio i gynyddu capasiti ffyrdd yw hwn, ond yn hytrach i liniaru effeithiau cael gwared ar y prif lwybr hwn i mewn ac allan o gwm Cynon? Mae'n galonogol clywed y bydd awdurdodau lleol yn gallu dechrau ailgyflwyno eu cynlluniau o ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ymhen ychydig wythnosau. Felly, allwch chi addo y bydd eich swyddogion yn gweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i archwilio sut y gallai'r cynllun yma gael ei ddiwygio er mwyn bodloni profion adeiladu ffyrdd y dyfodol?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:30, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n deall safbwynt Vikki Howells ar y ffordd hon, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu drosti'n gyson. Fe wnaeth yr adolygiad ffyrdd ei archwilio, ac maen nhw'n nodi'n fanwl yn eu hadroddiad y rhesymau pam nad ydyn nhw'n credu ei fod yn cydymffurfio â'r profion y mae wedi'u gosod, ac rydym ni wedi cytuno â nhw, i ddatblygu fel cynllun ffordd. Wedi dweud hynny, rydym ni wedi dweud yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ac yn y sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda hi a gydag Andrew Morgan, arweinydd y cyngor, ein bod ni'n barod i edrych ar y cynllun hwn i weld a allwn ni wneud iddo gydymffurfio â'n polisïau, i weld a all ddiwallu'r profion. Ac mae hynny'n berthnasol i bob cynllun yng Nghymru: lle mae problem trafnidiaeth go iawn mewn cymuned, rydym ni am fynd i'r afael â'r broblem honno. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi mai adeiladu cynllun ffordd traddodiadol yw'r ffordd orau o'i wneud; rydyn ni'n meddwl bod ffyrdd eraill. Gadewch i ni geisio dod o hyd i gytundeb a ffordd gonsensws ymlaen, fel y gallwn ni helpu ei hetholwyr.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:31, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae tri chynllun y cyfeirir atynt yn fy etholaeth yn yr adroddiad adolygu ffyrdd, ac mae pob un ohonyn nhw, yn anffodus, yn debygol, i'w weld o'r ddogfen, yn mynd i gael eu dileu. Nawr, mae'r rhain yn gynlluniau yr wyf i wedi gohebu â chi a'ch rhagflaenwyr amdanynt dros nifer o flynyddoedd a phob tro rwyf wedi gohebu â chi, hyd nes i'r adolygiad ffyrdd ddechrau, roedd popeth yn cael golau gwyrdd ac roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen, ac roedd dyddiadau'n cael eu trefnu ac roedd pawb yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith.

Cyfeiriaf yn arbennig at gyffordd Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, prosiect sydd wedi ei addo ers ymhell dros ddegawd, gyda chi a'ch rhagflaenwyr yn rhoi atebion i mi i gwestiynau ysgrifenedig yn dweud y byddai'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Mae'n gyffordd beryglus, sydd angen sylw, a bydd y gymuned leol yn edrych atoch chi i ddarganfod pam ar y ddaear nad yw'n mynd i gael sylw, o ystyried y cyhoeddiad heddiw. Ffordd Corwen a chyffordd Lôn Fawr ar yr A494 yn Rhuthun—prosiect arall sydd wedi ei addo ers amser maith iawn, porth i Ruthun, cyffordd sydd angen ei wella, Gweinidog, os caf i ddweud, er mwyn cynnal teithio llesol ar lwybr cylchol o amgylch Rhuthun fel tref. Ac eto rydych chi'n cael gwared ar ddarn o waith a fydd yn galluogi cyflawni hynny, ac eto rydych chi'n dweud eich bod o blaid teithio llesol. Ac rwy'n credu eich bod chi o blaid teithio llesol, ond dydw i ddim yn gweld sut mae'r penderfyniad hwnnw'n gyson â'ch uchelgais i'w gyflawni. A thrydydd cynllun—cynllun tagfeydd canol tref Abergele—eto, wedi'i ddileu. Ac mae hon yn dref sy'n wynebu tagfeydd yn ddyddiol, nid yn unig ym misoedd yr haf, pan fydd yn aciwt iawn oherwydd yr ymwelwyr rydyn ni'n eu derbyn, ond bob un diwrnod o'r wythnos.

Felly, byddwn i'n eich herio chi, Gweinidog: dewch gyda mi i fy etholaeth. Fe wnaf i roi taith o amgylch y lleoliadau hyn i chi, a gallwch weld drosoch chi eich hun y problemau mae eich penderfyniad yn mynd i arwain ato yn sgil dileu y cynlluniau penodol hyn. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried fy ngwahoddiad, oherwydd rwyf i am i chi weld o lygad y ffynnon, drosoch chi eich hun, pam nad yw cael gwared ar y cynlluniau hyn yn gwneud unrhyw synnwyr.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:33, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar—efallai ddim yn llawn eto—y rhesymau a nodir ar gyfer y tri chynllun yn yr adolygiad ffyrdd. Er enghraifft, ar welliant cyffordd ffordd Maes Gamedd ar yr A494, dywed y panel adolygu:

'Ni ddylai’r cynllun fynd rhagddo ar ei ffurf bresennol. Dylid parhau i fonitro diogelwch y gyffordd. Dylid datblygu opsiynau eraill i arafu a gwella’r llain welededd yn y gyffordd bresennol os yw’r cofnod gwrthdrawiadau’n awgrymu y dylid cymryd camau.'

Yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, rydyn ni wedi dweud y byddwn ni'n ystyried

'opsiynau amgen ar raddfa fach i wella diogelwch, wedi'u

halinio â phrofion a nodir ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Ffyrdd.'

Rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall ohonom ni'n gwadu bod problem, ac nid ydym yn dweud nad ydym am weithio ar ddatrysiad, ond mae angen i ni wneud yr ateb yn gymesur, mewn termau carbon, i'r hyn sy'n briodol ar y gyffordd honno. Ac rwy'n credu mai dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud. Felly, rwy'n credu y gall eich etholwyr fod yn dawel eu meddyliau ein bod ni wedi ymrwymo i weithio i ddod o hyd i ateb diogel, ond un sy'n bodloni'r profion yr ydym ni bellach wedi'u nodi mewn polisi.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:34, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n llwyr gefnogi cais Janet Finch-Saunders am ddadl lawn. Mae angen i ni allu treulio'r holl gynnwys yma—ac rwy'n derbyn eich bod chi wedi ymddiheuro, Dirprwy Weinidog, am beidio â chyhoeddi o flaen llaw—oherwydd mae'n bwysig i'n hetholwyr ein bod ni'n gallu ymgysylltu'n llawn ar faterion fel hyn, ac nid yw cael golwg yn ystod dadl yn caniatáu hynny. 

Byddwch yn ymwybodol bod llawer o gynlluniau datblygu lleol yn cynnwys targedau cenedlaethol ar gyfer chwarela agregau ar gyfer ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys chwarel Craig-yr-Hesg ychydig y tu allan i Bontypridd, y rhoddwyd caniatâd iddi fwrw ymlaen ag estyniad i'w hoes a'r ardal sy'n cael ei chloddio gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf gwrthwynebiadau lleol cryf. Wrth adolygu'r buddsoddiad mewn ffyrdd, pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i sut y bydd hyn yn effeithio ar yr angen am agregau? Dywedwyd wrth gymunedau fel Glyncoch yn y gorffennol bod yr angen economaidd am yr agregau yn drech nag ystyriaethau amgylcheddol neu iechyd, sydd yn groes i'r dull yr ydych chi'n ei amlinellu heddiw o ran yr adolygiad ffyrdd. Felly, rwy'n credu ein bod ni angen rhywfaint o eglurhad. Os oes adolygiad o ran yr angen am ffyrdd newydd a'r buddsoddiad mewn ffyrdd newydd, sut fydd hynny wedyn yn effeithio ar yr angen am agregau?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:36, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn gyfarwydd â manylion yr enghraifft y mae hi'n ei dyfynnu, ond byddwn i'n dweud yn gyffredinol y canfyddiad allweddol—. Un o'r profion rydyn ni wedi'u gosod ar gyfer cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol yw lleihau faint o garbon wedi'i wreiddio a'i ymgorffori sy'n gysylltiedig â hynny. Mae hynny'n awgrymu y byddem ni'n defnyddio deunyddiau llai carbon-ddwys, felly byddai angen llai o ddeunyddiau yn gyffredinol. Mae'n ddigon posib y bydd sgil-ganlyniadau i hynny. Ond, yn hytrach na rhoi ymateb byrfyfyr, efallai y gallaf i fynd yn ôl ati unwaith y caf gyfle i'w ystyried yn llawnach.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, rwy'n ofni braidd bod y drol yn cael ei rhoi o flaen y ceffyl heddiw, ac wedi rholio drosto. Mae'n rhaid i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus amgen fodoli os yw pobl am fynd allan o'u ceir, a dyna beth gafodd strategaeth trafnidiaeth Cymru ei chynllunio i'w gyflawni, ond mae'n anodd dod o hyd i unrhyw ddewisiadau amgen newydd yn y cyhoeddiad heddiw. Ydy'r £56 miliwn a glustnodwyd ar gyfer gwella cyffordd yr A483 yn aros yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth ar gyfer gwelliannau o amgylch Wrecsam? A fyddwch chi'n cytuno i ddechrau ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer cefnffyrdd y gogledd i'r gogledd? O ystyried yr angen am bolisi clir a chyson yn ogystal â'r diwedd i lwybrau ffyrdd newydd, a fydd teithiau awyr a fferi newydd i borthladdoedd Cymru bellach yn cael eu hatal? Ac yn olaf, o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, faint o refeniw ychwanegol ydych chi'n bwriadu ei roi mewn gwasanaethau bws fel y prif ddewis amgen i geir?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:37, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

O ran gwasgariad daearyddol, o'r 17 cynllun sy'n mynd ymlaen yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar drafnidiaeth, mae pump yn y gogledd, mae pump yn y canolbarth, felly nid wyf yn credu bod yr achos bod gogwydd daearyddol yn gwrthsefyll craffu. Ac nid wyf i'n derbyn y syniad na ddylen ni gael dull cenedlaethol o gludo ac adeiladu ffyrdd. Felly, dydw i ddim yn cytuno gyda'r Aelod ar hynny. Rydyn ni wedi gosod dadansoddiad manwl, seiliedig ar dystiolaeth, yn seiliedig ar y targedau carbon yr oeddem ni i gyd eu cefnogi, gan ddatblygu strategaeth trafnidiaeth Cymru y gwnaeth ef a minnau ei datblygu gyda'n gilydd ac y gwnaethom ni ei gymeradwyo. Bwriad y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yw gweithredu'r egwyddorion yn hwnnw. Rwy'n gwerthfawrogi, ar lefel etholaeth, fod gan yr Aelod rai pryderon am gynllun, yr oeddwn i'n falch o'i gyfarfod yr wythnos diwethaf i'w drafod. Fel y dywedais bryd hynny, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â'r problemau ansawdd aer lleol mewn ffordd sy'n gyson â'r profion. Ond dangoswyd dro ar ôl tro bod adeiladu capasiti ychwanegol ar y ffyrdd, yn cynhyrchu traffig pellach, sy'n cael yr effaith gyffredinol o waethygu ansawdd aer a niweidio'r hinsawdd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y rhain yn gyfnewidiadau anodd ar adegau, ac mae gan bob un ohonom ystyriaethau etholaethol lleol, ac nid ef yw'r unig un â hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod i wireddu'r polisïau rydyn ni wedi'u nodi.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:39, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rwy'n siomedig nad yw nifer o gynlluniau yr wyf i wedi bod yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd lawer yn mynd yn eu blaen, ond roeddwn i'n falch o weld bod cynllun ffordd Caersws yn mynd yn ei flaen, ac mewn gwirionedd mae'n debyg i herio hynny efallai na ddylai fod wedi bod yn y cynllun adolygu ffyrdd yn y lle cyntaf, gan ei fod yn fwy o fater diogelwch, yn hytrach nag adeiladu ffordd newydd. Ond rwy'n credu eich bod yn gwthio ar ddrws agored pan fo'r adroddiad yn sôn am fwy o deithio llesol yn cael ei gynnwys yn y cynllun hwnnw; bydd hynny'n cael cefnogaeth gymunedol. Ond, yn enwedig, rwy'n sylwi, Gweinidog, nid oes sôn am ffordd osgoi Pant a Llanymynech—mae hwn yn gynllun sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Swydd Amwythig—yn mynd yn ei blaen, ac a gafodd gefnogaeth ar ochr Llywodraeth Cymru ac ochr Llywodraeth y DU am nifer o flynyddoedd, sy'n cael ei hariannu yn bennaf gan Lywodraeth y DU, a byddai'r cynllun ffordd yn Lloegr i raddau helaeth hefyd, ond rwy'n credu eich bod chi wedi cadarnhau i mi 18 mis yn ôl bod hwn yn rhan o'r cynllun adolygu ffyrdd. Felly, os nad yw'n cael ei gynnwys, efallai y gallech chi fy niweddaru ar hynny, ac, os nad heddiw, efallai y gallech chi ysgrifennu diweddariad o ran yr elfen honno a'r prosiect penodol hwnnw. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:40, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Eto, rwy'n gwerthfawrogi nad ydych chi wedi cael llawer o amser i edrych arno, ond rwy'n credu y byddwch chi'n gweld yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth bod sôn am y cynllun, y bydd yn destun y prawf, fel y mae unrhyw gynllun arall. Ac fel rydych chi'n ei ddweud, yn Lloegr y mae yn bennaf, ond mae disgwyl i ni dalu cyfran anghymesur o'r costau ein hunain, gan ystyried cyn lleied sydd yng Nghymru. Ond byddai hynny'n cael ei drin yr un fath ag unrhyw gynllun arall. 

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Roeddech chi wedi cyfeirio, Gweinidog, at ffordd osgoi ddwyreiniol Llandeilo, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad sydd yn y cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth i'r cynllun hwnnw. Ond a ydych chi jest yn gallu egluro, o ran y cyhoeddiad rŷch chi ar fin ei wneud, meddai chi, a fydd hynny'n cael ei wneud ar sail WelTAG cam 2, sef y fframwaith oedd yn sail i'r ymgynghoriad? Ac a fydd e'n symud ymlaen wedyn i WelTAG cam 3 yn unol â'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno o ran y rhanddeiliad? Ac oes yna unrhyw beth yn eich ymateb chi i'r adolygiad, o ran eich polisi chi, rŷch chi'n meddwl, gall fod mewn unrhyw ffordd yn rhwystr i chi ddelifro ar yr ymrwymiad wnaethoch chi saith mlynedd yn ôl nawr i adeiladu ffordd osgoi yn Llandeilo?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:41, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n gwybod bod Adam Price wedi ymrwymo i wireddu'r cynllun hwn. Mae'r geiriau yn y cynllun trafnidiaeth yn glir. Yr un geiriau ag y gwnaethom ni gytuno arnynt ar y cyd rhwng ein pleidiau yng nghytundeb y gyllideb. Fel y dywedais i yn gynharach, byddwn ni'n symud ymlaen i gam nesaf y broses honno. O ran statws polisi, mae gennym ni nawr ddatganiad polisi ffyrdd sy'n bolisi Cymru, felly bydd hynny'n berthnasol i bob cynllun, ac yn amlwg bydd yn ystyriaeth berthnasol pe bai unrhyw anghydfod cynllunio. Felly, mae'r polisi yn berthnasol i bawb, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chi a'ch etholwyr ar gyfer eich cynllun penodol, yr ydym ni'n gweithio drwyddo ac y byddwn ni'n ei anrhydeddu.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gomisiynu'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n mynd i'n helpu i gysoni ein rhwymedigaethau sero-net gyda'n strategaeth drafnidiaeth, ac mae'n amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod ein polisïau cynllunio hefyd yn cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero-net. Er enghraifft, yn union fel mae angen i ni atal datblygiadau tai anghynaladwy, fel yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn Wrecsam—a'r un sydd yn fy etholaeth i, datblygiad tai Llysfaen, lle mae Redrow wedi gwneud yn arian mawr arno, ac nid wyf eto wedi gweld unrhyw fesurau i wella teithio llesol neu, yn wir, llwybrau bysiau i ymuno â'r datblygiad tai mawr iawn hwnnw gydag unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, Ac felly mae hynny'n rhywbeth y dylen ni i gyd boeni amdano wrth iddo ddechrau cyrraedd ei gyflawniad—.

Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn, yr adolygiad ffyrdd hwn, oherwydd mae'n rhoi cyfeiriad clir iawn i ni. Dyfeisiwyd ffyrdd ymhell cyn yr injan hylosgi. Yn wir, y Rhufeiniaid a adeiladodd yr A5, felly mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd a siawns nad oes rhaid i ni ganolbwyntio ar y rhai nad oes ganddynt gar, o ran sut y gallwn ni eu galluogi i deithio. Ac rwy'n credu mai'r mater rydw i eisiau siarad amdano, a gofyn i chi amdano heddiw, mewn gwirionedd yw sut y gallwn ni gael llwybrau cludo bws mwy cyflym gyda lonydd bws pwrpasol fel cyfrwng i gael etholwyr Blaenau Gwent neu Gwm Cynon i mewn i Gaerdydd heb orfod defnyddio ceir?  Oherwydd, ar hyn o bryd, y prif reswm sy'n cael ei roi gan bobl sy'n dod â'u ceir i ganol y ddinas, dim ond i eistedd am wyth awr tra'u bod nhw'n gweithio, yw nad ydyn nhw'n gallu dibynnu— 

Photo of David Rees David Rees Labour 3:44, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—ar y bysiau, oherwydd eu bod nhw'n sownd yn y tagfeydd sy'n cael eu creu gan geir, sy'n gylch cwbl gythreulig, a meddwl oeddwn i tybed sut allwn ni wneud cynnydd o ddifrif a chyflym ar hynny er mwyn symud ymlaen yn gyflym arno.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:45, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Un o fy rhwystredigaethau mawr yw pa mor hir y mae popeth yn cymryd mewn trafnidiaeth. Un o'r tensiynau sydd gennym ni yw bod gennym ni wyddoniaeth hinsawdd sy'n dweud wrthym ni fod angen i ni weithredu ar frys, ac mae gennym ni systemau sy'n cymryd am byth. Pe baem ond yn gallu croesawu rhywfaint o'r arloesedd a welon ni yn ystod y pandemig, pan wnaethon ni weld lonydd beiciau dros dro yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym iawn, chwarae teg i lywodraeth leol, ond mae'n ymddangos ein bod ni wedi mynd yn ôl i'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn flaenorol. Mae hynny'n her wirioneddol i ni, rwy'n credu.

O ran eich pwynt penodol ar drafnidiaeth bysiau cyflym, rwy'n cytuno'n llwyr fod hynny'n rhan hanfodol o'r gymysgedd mae angen i ni ei weld. Rwyf i wedi dyfarnu arian yn y flwyddyn ariannol bresennol, £1 miliwn, i'r consortia weithio gyda'i gilydd ar ôl troed rhanbarthol i nodi mannau cul a choridorau bysiau rhanbarthol posibl er mwyn i ni wedyn greu llwybr o gynlluniau. Rwyf i hefyd wedi gwahodd cwmnïau bysiau i nodi meysydd y maen nhw'n credu y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w dibynadwyedd a'u hamseroedd teithio. Mae angen cyflymu hynny. Pwrpas y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yr ydym ni'n mynd i fod yn eu datblygu, a'r gwaith ar flaen y gad y mae comisiwn Burns wedi'i wneud yn y de-ddwyrain, yw dechrau mapio rhai o'r coridorau bysiau rhanbarthol hyn ac yna i weithio'n systematig gyda'n gilydd i wneud iddyn nhw ddigwydd. Ond rwy'n rhannu'ch diffyg amynedd gyda'r amser y mae'n ei gymryd.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:46, 14 Chwefror 2023

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Cyn i ni symud ymlaen—

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Rydw i wedi cael cais gan ddau Aelod i godi pwynt o drefn. Alun Davies. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y datganiad, wrth ateb cwestiwn cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at Blaid Cymru yn llunio'r gyllideb. Cyfeiriwyd at hyn hefyd wrth ateb cwestiwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Erbyn hyn, gan fod llunio'r gyllideb yn rhan sylfaenol o rôl weithredol y Llywodraeth, mae'n codi cwestiynau sylweddol am ein gallu ni i graffu ar aelodau Plaid Cymru sy'n llunio'r Llywodraeth ac yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, nid oes modd dwyn Aelodau dynodedig i gyfrif. Mae angen i ni gael dadl yn y lle hwn ynghylch sut mae Aelodau dynodedig yn gweithredu o fewn y Llywodraeth, a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud ochr yn ochr ag Aelodau dynodedig, fel y gallwn ni gael atebolrwydd a chraffu priodol yn y Siambr hon.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:47, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi'r pwynt hwnnw, sy'n fater pwysig. Nid ydw i'n credu ei fod yn bwynt o drefn, ond mae'n bwynt pwysig sydd angen ystyriaeth arall, a fydd  yn cael ei wneud, yn amlwg.

Yr ail berson yw Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i herio'r Dirprwy Weinidog oherwydd dywedodd ddau beth ffeithiol anghywir, yn fy marn i, yma heddiw. Ar un, fe ddywedoch chi fod—. Wnes i ond codi gyda chi ynghylch y ddwy gylchfan yn fy etholaeth, a gwnaethoch chi'r pwynt fy mod i'n dweud un peth nawr, ond fy mod i wedi dweud rhywbeth arall yn wahanol, fy mod i'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n aros. Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi o hyn: ar 16 Chwefror 2022, dywedais i

'Ni fydd yn syndod, Ddirprwy Weinidog, fy mod yn codi i herio eich penderfyniad i roi'r gorau i'r cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar.... Mae'r cynlluniau hyn wedi bod ar y gweill ers 2017, ac wedi bod yn destun llawer o asesiadau costus'  gan gostio tua £9 miliwn i'r trethdalwr. Ac, mewn gwirionedd, dyna'r sefyllfa sydd gennym ni i heddiw. Felly, hoffwn i ymddiheuriad neu wrthdyniad. 

Gwnaethoch chi ddweud hefyd nad oedd dim ar y pryd a oedd yn dangos bod unrhyw broblemau diogelwch, a dywedais i wrthych chi bryd hynny hefyd:

'Nawr, mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad yw cyffyrdd yn cydymffurfio â'r safonau dylunio presennol; oedi traffig o ganlyniad i ddiffyg cadernid y rhwydwaith; diffyg llwybrau gwyro addas'.

Ond, y peth yw, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn pan ydyn ni'n siarad yn y Siambr hon nad ydyn ni'n bwriadu camarwain. Nid ydw i'n credu eich bod chi wedi mynd ati i gamarwain, ond hoffwn i chi gywiro'r cofnod. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:48, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Gan fod y Dirprwy Weinidog eisoes wedi gofyn i mi adolygu'r trawsgrifiad, rwy'n siŵr y bydd ef hefyd yn adolygu'r trawsgrifiad ac yna'n dod yn ôl i gywiro unrhyw wallau sydd wedi'u gwneud o'i fewn. Iawn? Diolch.