2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
7. Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i wahardd rasio milgwn? OQ59110
Anfonais fy ymateb i'r adroddiad a gyflwynwyd ar y mater hwn ddoe at y Pwyllgor Deisebau a gadeirir gan yr Aelod, ac fel y nodwyd yn yr ymateb, bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i Bwyllgor Deisebau'r Senedd ar yr adroddiad a alwai am waharddiad graddol ar rasio milgwn. Y rheswm y gwnaethom alw am waharddiad graddol ar rasio milgwn yw oherwydd bod y mwyafrif o'r Aelodau'n teimlo bod y dystiolaeth a glywsom yn llethol o blaid gwaharddiad graddol. Rwy'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid iddynt ymgynghori ar unrhyw waharddiad, ac fe fydd ymgynghoriad yn cynnwys y safbwynt ar wahardd rasio milgwn. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Weinidog, ynglŷn â beth yw'r camau nesaf i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.
Diolch, ac roeddwn yn falch iawn o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion heblaw am un, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl a gynhelir yn y Siambr hon ar 6 Mawrth, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf. Ac yna cawn olwg ar beth arall sydd angen inni ei wneud i gael golwg a gwneud yn siŵr fod ein milgwn yn cael eu diogelu gymaint â phosibl. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley, sef yr unig stadiwm milgwn yma yng Nghymru, fel y gwyddoch, i drafod y materion lles a gafodd eu dwyn i fy sylw. Rwy'n awyddus iawn i weld yr archwiliadau'n parhau yn y stadiwm. Ond y cam uniongyrchol nesaf fydd y ddadl ar 6 Mawrth.
Diolch am eich ymateb i gwestiwn fy nghyd-Aelod Jack Sargeant. Fel y gwyddoch, ymhen rhai wythnosau, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar rasio milgwn, ac yn benodol ei brif argymhelliad y dylid gwahardd y gamp yng Nghymru. Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwnnw, fi oedd yr unig lais yn y pwyllgor sy'n credu y gellid gwneud mwy i orfodi a thynhau'r rheoliadau presennol yn gyntaf er mwyn gwella lles milgwn. Wrth gasglu tystiolaeth fy hun, cyfarfûm â Bwrdd Milgwn Prydain, GBGB, y rheoleiddiwr rasio milgwn trwyddedig ym Mhrydain, i drafod 'A Good Life for Every Greyhound', eu strategaeth les a aseswyd yn annibynnol y mae'n rhaid i bob trac GBGB gydymffurfio â hi. Rwy'n ymwybodol nad yw'n ymddangos bod gan draciau GBGB yr un lefel o broblemau'n ymwneud â lles anifeiliaid ag a welir yn unig drac Cymru, nad oes ganddo achrediad GBGB, a hoffwn i'r Llywodraeth hon wneud ymchwiliad mwy trylwyr i weld a allai rheoliadau GBGB ddatrys problemau lles anifeiliaid cyn deddfu am waharddiad. Gyda hyn mewn golwg—ac rwy'n ymwybodol nad wyf wedi gweld eich ymateb i argymhellion y pwyllgor eto—pa waith ymchwiliol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ddeall lles anifeiliaid yn briodol ar drac Valley ac ar draciau cofrestredig GBGB? Ac o gofio bod adroddiad y Pwyllgor Deisebau hefyd wedi galw am adolygu campau eraill yng Nghymru sy'n ymwneud ag anifeiliaid, rwy'n chwilfrydig i wybod pa resymeg fydd yn cael ei defnyddio i benderfynu pa gampau sy'n cael eu gwahardd a pha rai na chânt eu gwahardd, pe bai'r Llywodraeth hon yn cefnogi argymhellion adroddiad y Pwyllgor Deisebau. Diolch.
Felly, i ateb eich pwynt olaf—ac rwy'n derbyn nad ydych wedi gweld fy ymateb hyd yma—argymhelliad 5, sef y dylem hefyd edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu, yw'r argymhelliad a wrthodais, oherwydd, yn amlwg, ffocws ar rasio milgwn yw hwn. Yr hyn y mae ein cynllun lles anifeiliaid, a gyflwynais yn ôl yn 2021—mae'n gynllun pum mlynedd—yn ei wneud yw cynnwys fframwaith ar gyfer gwireddu pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid y rhaglen lywodraethu, ac mae hwnnw'n amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod eang o waith polisi lles anifeiliaid parhaus.
O ran eich cwestiynau ynghylch traciau GBGB, fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r un trac sydd yng Nghymru yn drac GBGB. Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â GBGB i weld beth arall y gellid ei wneud, ac mae fy swyddogion yn edrych ar hynny. Nid wyf yn credu eu bod wedi ymweld ag unrhyw un o draciau eraill GBGB, ond yn sicr maent wedi cael trafodaethau gyda phrif weithredwr GBGB, rwy'n meddwl, i weld beth y gallwn ei ddysgu.
Mae rasio milgwn yn rhy aml yn hynod beryglus i'r milgwn, ac mae yna ystadegyn fod 2,000 o filgwn wedi cael eu hewthaneiddio yn y DU rhwng 2018 a 2020 yn syml o ganlyniad i gael eu rasio. Credaf yn gryf na ddylai unrhyw anifail ddioddef yn enw chwaraeon, ac mae hynny'n wir am bob camp sy'n defnyddio unrhyw fath o anifail ar gyfer adloniant pobl, felly rwy'n falch o'ch clywed yn dweud bod hynny dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn. Mae 35,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon, felly nid yw'r ychydig leisiau yma'n lleiafrif; rydym yn cynrychioli sector enfawr o'r gymdeithas sy'n meddwl yr un fath. Felly, Weinidog, pan fyddwch yn ymgynghori, a hynny ledled Cymru, a fyddwch yn bwydo'r ymgynghoriad hwnnw yn ôl cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a chyn rhoi camau ar waith?
Diolch. Wel, fel y dywedais, rydym eisoes wedi ymrwymo i ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid. Y cam nesaf nawr yw cael y ddeiseb. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau ac wrth Aelodau yn y Siambr yw y byddai’n rhaid i unrhyw beth y penderfynwn ei wneud fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, felly gadewch inni gael y ddadl ar 6 Mawrth, ac yna gallwn benderfynu ar y camau nesaf.
Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, Natasha Asghar.