Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:29, 15 Chwefror 2023

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz. 

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Bob blwyddyn ers pum mlynedd, mae dros 10,000 o wartheg wedi cael eu difa, a dros 50,000 wedi marw oherwydd TB Gwartheg yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys gwartheg cyflo a laddwyd oherwydd prawf TB positif. Fe wnaeth ffermwr sôn wrthyf am yr adeg y gwyliodd eu buwch a oedd bron â dod â llo yn cael ei lladd ar y fferm gan ddefnyddio dryll 12 bôr i saethu rhwng llygaid yr anifail truan. Ar ôl marw, cafodd y fuwch gyflo sbasmau afreolus, gan beri i giât drom gael ei dinistrio, tra oedd y llo'n gwingo tu mewn i groth ei fam farw wrth iddo fygu i farwolaeth. Mae'n rhywbeth tebyg i wylio rhywun wedi'i wenwyno'n marw, meddent. Roedd yn erchyll i'w weld, ac roedd clirio'r holl waed a'r giât racs wedyn yr un mor boenus. Dyna sut y disgrifiwyd y peth gan y ffermwr—dim tosturi tuag at y fuwch, y llo, a dim at y ffermwr yn sicr. 'Gwell fy mod i'n cael mwy o ofid na fy muwch', ychwanegodd, 'rwy'n gallu cerdded oddi yno, yn wahanol iddi hi; dyna'r peth lleiaf y gallaf ei wneud.' Mae'r baich meddyliol trwm hwn yn cael ei roi ar ein ffermwyr, yn enwedig pan fo'n digwydd fwy nag unwaith. Dywedodd y ffermwr wrthyf sut y cafodd tair buwch gyflo eu saethu, un ar ôl y llall. 'Fe fu bron â fy lladd; ni wnaf byth anghofio beth a welais'—dyna sut y gwnaethant ei ddisgrifio. Mae trosglwyddiad TB yn y groth yn brin, felly pam y caniateir i'r digwyddiadau trawmatig hyn ddigwydd? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddangos tosturi a newid ei pholisi i ganiatáu i wartheg cyflo sydd wedi cael prawf TB positif ynysu a geni lloi iach cyn cael eu lladd mewn modd trugarog?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:30, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, fe wnaethoch amlinellu sefyllfa ofidus iawn, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed eich bod chi a'r ffermwr yn teimlo nad oedd tosturi. Mae hwn yn waith a wnaethom, bedair blynedd yn ôl mae'n debyg, lle gofynnais i'r prif swyddog milfeddygol ar y pryd a'i thîm weithio gyda ffermwyr i weld sut y gallem osgoi sefyllfaoedd fel yr un a  ddisgrifiwch. Ar y pryd, barnwyd mai'r ffordd orau oedd parhau i ladd ar y fferm. O ran a allem edrych arno eto, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fel y gwyddoch, rydym yn edrych ar y rhaglen i ddileu TB, a byddwn yn sicr yn hapus iawn i gael cyngor gan ffermwyr i weld a oes ffordd y gallwn osgoi'r sefyllfaoedd gofidus hynny.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:31, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid wyf yn credu mai'r hyn a ddisgrifiais fyddai'r ffordd orau ymlaen, felly rwy'n eich annog yn gryf i gael golwg ar hyn eto. Rwy'n gwybod bod prif swyddog milfeddygol newydd yn dechrau ym mis Mawrth, ac rwy'n eich annog i weithio gydag ef i wneud yn siŵr fod yr arfer annynol hwn yn cael ei ddwyn i ben ac y gall y gwartheg hyn loia gydag ychydig o urddas.

Yn Sioe Sir Benfro y llynedd, fe helpoch chi i lansio'r hyn a oedd yn cael ei alw ar y pryd yn gynllun peilot TB sir Benfro, lle'r oedd ffermwyr lleol yn mynd i gymryd perchnogaeth, gan ddefnyddio data a dulliau a oedd ar gael eisoes, i ffurfio dull newydd o fynd i'r afael â TB, gan ddiddymu'r clefyd gweddilliol o'r fuches. Ers hynny, mae gwirfoddolwyr wedi cyfrannu cannoedd o oriau o waith caled at y prosiect, ac maent yn ysu i weld gwelliannau. Fe wnaeth y prif swyddog milfeddygol dros dro gyfeirio at y cynllun peilot hwn yn y pwyllgor hyd yn oed, gan bwysleisio sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn ystwyth gyda chyllid i gefnogi prosiectau TB lleol fel cynllun peilot sir Benfro. Mae'r prosiect hwn a'i gynnydd bellach wedi cael ei rwystro gan y Llywodraeth a'i phroses gaffael, gydag oedi o chwe mis fan lleiaf. Ni allaf fynegi wrthych y siom a deimlwyd gan y rhai a oedd ynghlwm wrtho.

Rydych wedi siarad am yr angen i ffermwyr gymryd perchnogaeth ar TB buchol, ac rwy'n cytuno. Ond pan ddaw'n fater o grŵp ymroddedig o ffermwyr a milfeddygon yn cydweithio i gymryd rheolaeth ar y sefyllfa, i wneud y peth iawn, nid yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn yr un cae. Nid ydym yn yr Undeb Ewropeaidd mwyach, felly ni ddylem orfod cadw at reolau caffael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r cyllid ar gyfer y prosiect hwn eisoes yn bodoli o fewn y cyllid TB. Dywedwch wrthyf beth sydd wedi mynd o'i le yma i olygu bod y fath oedi gyda'r prosiect hwn yr oeddech chi yno yn ei lansiad. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw beth wedi mynd o'i le. Fel y dywed yr Aelod, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau mewnol sylweddol ar hyn o bryd i gytuno ar baramedrau'r prosiect i ganiatáu ar gyfer ymarfer caffael llawn. Chi fyddai'r cyntaf i gwyno pe na bawn yn dilyn y rheolau priodol. Rwy'n ymroddedig iawn i brosiect TB sir Benfro. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn rhan ohono; fel y dywedwch, mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan ohono, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith hwnnw. Os ydym yn mynd i ymladd y lefelau heintio dwfn mewn rhannau o sir Benfro, rwy'n sicr yn meddwl bod angen gwneud hyn. Ond nid mater o rwystro yw hyn—nid dyna'r gair cywir o gwbl. Fe gawsoch chi a fi gyfarfod i drafod beth y gallem ei wneud am y peth, ond mae'n rhaid imi ddilyn proses gaffael lawn.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n drueni na chafodd y rheolau caffael llawn hynny eu dilyn pan brynwyd Fferm Gilestone. Mae'n ymddangos fel pe bai'n un rheol i un a rheol arall i'r llall.

Enghraifft arall sy'n dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn yr un cae â ffermwyr yw nad oedd un fferm o Gymru wedi cymryd rhan yn nhreial brechlyn CattleBCG yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â dileu TB, byddent wedi gweithio gyda'r diwydiant i nodi ffermydd i gymryd rhan. A nawr, gyda chyfnod 2 y treial ar y gweill, nid oes unrhyw fferm o Gymru'n cymryd rhan o hyd. Yr hyn rwy'n ceisio cyrraedd ato, Weinidog, yw ble mae'r gobaith i ffermwyr yng Nghymru? Mae'r afiechyd yma wedi rhwygo drwy ffermio yng Nghymru ers yn ddigon hir, ac mae ein ffermwyr wedi colli gobaith fod y Llywodraeth yma o ddifrif ynglŷn â'i ddatrys.

Rwy'n hapus iawn i ddatgan diddordeb yma, Lywydd, oherwydd yr wythnos nesaf, byddaf allan yn helpu fy nhad i gynnal profion TB. Fel teulu byddwn yn mynd drwy'r pryder a'r straen o obeithio, gweddïo am brawf TB clir. Nid polisi i mi yn unig yw hwn, Weinidog, mae hyn yn gymaint mwy. Felly, rwy'n eich gwahodd i ymuno â fy nhad a minnau, i ddod allan i weld beth sy'n digwydd ar y fferm yn ystod ein profion TB. Oherwydd yr hyn y mae'r diwydiant ei eisiau yw gobaith—nid gweld eu hanifeiliaid yn cael eu lladd o flaen eu llygaid, nid cael eu dal yn ôl gan fiwrocratiaeth pan fyddant eisiau bwrw ymlaen i wneud y peth iawn, ac yn sicr nid cael clywed eu bod ar fai am ledaeniad TB buchol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, rhowch rywfaint o obaith i'r diwydiant. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:35, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn hollol siŵr sut rydych chi'n disgwyl i mi wneud i fferm fod yn rhan o brosiect peilot. Credwch fi pan ddywedaf fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi ceisio'n galed iawn—[Torri ar draws.] Fe geisiodd yr asiantaeth yn galed iawn i gael ffermydd i fod yn rhan o gyfnod cyntaf y prosiect peilot, ac yn anffodus nid ydym wedi cael unrhyw un i gymryd rhan yn yr ail ran. Ond mae dweud nad ydym wedi ceisio yn hurt. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cael rhai o'r ffermydd i fod yn rhan o'r prosiect peilot.

Rwyf wedi mynychu ffermydd pan fo profion TB yn cael eu cynnal—wrth gwrs fy mod. Rwy'n gweld hynny'n rhan bendant o fy rôl. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu mynychu eich fferm yr wythnos nesaf, ond wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i wneud. Rwy'n deall y gofid wrth aros am brofion yn llwyr—gallaf ddychmygu'r pryder—ac wrth gwrs, tra byddwch yn aros am y canlyniadau. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i ddileu TB. Ond mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid yw ond beio Llywodraeth Cymru yn dderbyniol. Ni fyddwn i byth ond yn beio ffermwyr. 

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Rydyn ni bellach ar ddechrau, neu, mewn rhai achosion, yng nghanol, y tymor wyna. Yn naturiol, felly, rydyn ni'n troi ein golygon at sicrhau diogelwch ein stoc rhag ymosodiadau. Mae data diweddaraf NFU Mutual yn dangos bod cŵn allan o reolaeth yn bygwth defaid yng Nghymru, gyda'r data yn dangos bod anifeiliaid gwerth tua £440,000 wedi cael eu niweidio yn ddifrifol neu eu lladd yng Nghymru yn 2022. Roedd hyn yn gynnydd o dros 15 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Mae'r adolygiad hefyd yn dangos bod 64 y cant o berchnogion cŵn yn gadael eu cŵn yn rhydd yng nghefn gwlad, a ffermwyr yn dweud bod y perchnogion yma yn canolbwyntio ar eu ffonau symudol yn hytrach nag ar eu cŵn. Mae'r Alban wedi cyflwyno dirwyon llawer iawn mwy llym yno, gyda dirwyon o hyd at £40,000. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gyflwyno camau ataliol llymach yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau nad ydym ni'n gweld mwy o anifeiliaid yn dioddef yng Nghymru eleni? 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n fater rydym o ddifrif yn ei gylch. Byddem yn annog ceidwaid da byw yn gryf i barhau i roi gwybod i'r heddlu am bob digwyddiad. Rwy'n credu y dylwn ddweud hynny ar y cychwyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr wybodaeth honno'n cael ei chofnodi. Ond wrth gwrs, rydym am weld cwymp a gostyngiad llwyr yn nifer yr ymosodiadau hynny. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am ffonau symudol, nad oeddwn wedi meddwl amdano. Fel y gwyddoch, mae'r comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt newydd ryddhau fideos newydd fel rhan o ymgyrch, wrth inni nesáu at y tymor wyna, i rybuddio pobl i ofalu am eu hanifeiliaid, gan sicrhau nad yw eu cŵn yn rhedeg ar ôl defaid. Rwy'n gwybod mai lleiafrif o bobl ydynt, ond wrth gwrs, fel sy'n digwydd bob amser, maent yn ei ddifetha i'r mwyafrif ohonom. Fe ofynnaf iddo a yw wedi ystyried yr agwedd honno ar y defnydd o ffonau symudol yn ogystal, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n tynnu sylw pobl, ac nid ydynt yn edrych i weld beth mae eu cŵn yn ei wneud.

Rwy'n credu bod y gost, yn ariannol ac yn emosiynol, i'r rhai sy'n dod o hyd i dda byw sydd wedi'u hanafu neu wedi marw yn gwbl annerbyniol, ac mae llawer o oblygiadau lles anifeiliaid yn deillio o hynny hefyd. Mae'n debyg y byddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn cynnig y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir). Mae hwnnw'n argymell diddymu a disodli Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953. Fel y gwelwch, mae'n hen ddarn o ddeddfwriaeth sy'n amlwg angen ei diweddaru iddi fod yn addas i'r diben. O fewn y Bil hwnnw, bydd set newydd o ddarpariaethau i fynd i'r afael ag ymosodiadau gan gŵn ac aflonyddu gan gŵn. Yn anffodus, mae taith y Bil wedi'i oedi. Cefais gyfarfod gyda Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld pa mor gyflym y gellir cyflwyno'r Ddeddf honno, oherwydd rwy'n credu y bydd yn ein helpu, wrth edrych ar yr hyn y gall y llysoedd ei wneud, ac edrych ar gynyddu'r dirwyon efallai.  

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Os gallaf newid i'r sector arall yn eich portffolio, o amaethyddiaeth i ddyframaethu a physgodfeydd, mae'r data diweddaraf ar y diwydiant pysgota yng Nghymru yn dangos i ni fod pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir wedi gweld gostyngiad enfawr o 82 y cant yn eu gwerth rhwng 2019 a 2021. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld glaniadau fflydoedd pysgota Cymru yn gostwng 75 y cant yn eu pwysau a 41 y cant yn eu gwerth. Mae eu proffidioldeb hefyd wedi gostwng yn sylweddol. Rydym yn gweld dirywiad un o'n sectorau hynafol—rhan o'n bywyd arfordirol a'n diwylliant a'n hunaniaeth yn diflannu o flaen ein llygaid. Nid yw'r darlun yn wahanol yn y sector prosesu. Erbyn 2021, dim ond 28 o swyddi cyfwerth ag amser llawn oedd gyda ni yn y sector prosesu yma yng Nghymru. Yn yr Alban ar y llaw arall, maent yn cyflogi 7,789 yn y sector prosesu. Weinidog, a yw hon yn sefyllfa dderbyniol, ac a wnewch chi edrych eto ar gynyddu'n sylweddol y buddsoddiad a'r cymorth i bysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:40, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r sector pysgodfeydd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r dirywiad a gofnodwyd. Rwy'n cydnabod eu bod wedi bod o dan bwysau digynsail yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, pandemig COVID, gorchwyddiant prisiau tanwydd yn fwy diweddar a achosir gan y rhyfel yn Wcráin, a'r argyfwng costau byw wrth gwrs. Rwy'n credu bod llawer o'r pwysau i'w deimlo ar draws ein holl sectorau cynhyrchu sylfaenol.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro'r effaith ar farchnadoedd a chostau yn drylwyr, ac maent yn gweithio gydag Seafish i ddeall y tueddiadau'n well ac i nodi meysydd lle gellid lliniaru ac ymyrryd o bosibl i atal y dirywiad anffodus. Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi lansio cynllun môr a physgodfeydd Cymru. Daeth y cyfnod ymgeisio am y cynllun mesurau marchnata i ben yr wythnos diwethaf, a bydd swyddogion yn gwerthuso'r prosiectau yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac mae gennym ail gyfnod ymgeisio—mewn gwirionedd, rwy'n credu y gallai hwnnw fod wedi newydd gau y mis hwn—y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun effeithlonrwydd ynni a lliniaru newid hinsawdd, y gofynnwyd imi ei gyflwyno'n gynharach. 

Ar yr ochr gadarnhaol, mae gennym bafiliwn Cymreig unwaith eto yn y Seafood Expo Global yn Barcelona ym mis Ebrill, lle gallwn hyrwyddo ein bwyd môr Cymreig. Mae bob amser wedi bod yn daith fasnach lwyddiannus iawn inni, felly roeddwn yn awyddus i'w chefnogi eto eleni i geisio gwneud yr hyn a allwn ar ran ein busnesau pysgota a dyframaethu.