– Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
Eitem 7 y prynhawn yma yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg. Galwaf ar Altaf Hussain i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8205 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o hyfforddiant sefydlu.
2. Yn nodi ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.
3. Yn siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cynllun gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a
b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu golwg.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cynnig y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw gwneud plentyndod yn gyfartal yn rhywbeth rydym wedi rhagori arno. Mae Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi bod
'rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti roi mesurau effeithiol a phriodol ar waith, gan gynnwys drwy gymorth gan gymheiriaid, i alluogi pobl ag anableddau i gael a chynnal annibyniaeth lawn, gallu corfforol, meddyliol, cymdeithasol a galwedigaethol llawn, a chynhwysiant a chyfranogiad llawn ym mhob agwedd ar fywyd. I'r perwyl hwnnw, mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti drefnu, cryfhau ac ymestyn gwasanaethau a rhaglenni sefydlu ac adsefydlu cynhwysfawr, yn enwedig ym meysydd iechyd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn y fath fodd fel bod y gwasanaethau a'r rhaglenni hyn:
'a) Yn dechrau ar y cam cynharaf posibl, ac yn seiliedig ar asesiad amlddisgyblaethol o anghenion a chryfderau unigol;
'b) Yn cefnogi cyfranogiad a chynhwysiant yn y gymuned a phob agwedd ar gymdeithas, yn wirfoddol, ac ar gael i bobl ag anableddau mor agos â phosibl at eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.
'2. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu datblygiad hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol a staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau sefydlu ac adsefydlu.
'3. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu argaeledd dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol, a'r wybodaeth a'r defnydd ohonynt, a gynlluniwyd ar gyfer pobl ag anableddau, fel y maent yn ymwneud â sefydlu ac adsefydlu'.
Er gwaethaf y ddyletswydd amlwg hon i ddarparu cymorth sefydlu, nid yw rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig unrhyw gymorth o gwbl. Yn ôl Cŵn Tywys Cymru, mae'r ddarpariaeth o hyfforddiant sefylu yn wael iawn mewn rhannau helaeth o Gymru. Credant fod yna oddeutu 2,000 o blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a fyddai’n elwa o hyfforddiant o’r fath.
Ond am beth y soniwn yma? Beth yw hyfforddiant sefydlu? Yn y bôn, mae’n ffordd o ddysgu'r sgiliau y mae pob un ohonom yn eu datblygu’n gynnar i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg. Mae plentyn neu unigolyn ifanc sy’n gallu gweld fel arfer yn datblygu ystod o sgiliau annibyniaeth wrth iddynt dyfu i fyny gyda’u teulu. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys gallu symud o gwmpas heb frifo'u hunain a gallu cyrraedd lle maent yn dymuno bod yn ddiogel. Mae sgiliau annibyniaeth yn cynnwys sgiliau ymarferol a chymdeithasol fel ymolchi, gwisgo, bwyta, yfed, siopa, coginio a gwneud ffrindiau. Mae plant a phobl ifanc sy'n gallu gweld yn dysgu'r sgiliau hyn o fewn eu teuluoedd, yn bennaf drwy wylio aelodau eraill o'r teulu. Ni all plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wylio a dysgu yn yr un ffordd â phlentyn sy'n gallu gweld. O ganlyniad, efallai na fydd llawer o sgiliau sylfaenol allweddol yn cael eu dysgu heb gymorth a chefnogaeth ychwanegol. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu ffyrdd amgen o ddysgu, gan ddefnyddio synhwyrau eraill y plentyn neu'r unigolyn ifanc, sef eu synhwyrau cyffwrdd, clywed, blasu, arogli a chydbwysedd. Mae'r dull hwn yn datblygu sgiliau symud cynnar plentyn ac yn ddefnyddiol i blant ag ystod o olwg, neu blant heb olwg o gwbl. Mae sefydlu yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth plant o'u cyrff eu hunain, yn ogystal ag ymwybyddiaeth y plentyn o'r gofod o'u cwmpas pan fyddant yn llonydd neu'n symud a'r defnydd o'u synhwyrau. Mae arbenigwyr sefydlu'n gweithio'n agos gyda rhieni, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal ag ar sail un i un gyda'r plentyn. Maent yn gymwys i addysgu strategaethau a sgiliau ymarferol i sicrhau cymaint â phosibl o annibyniaeth, ac maent yn gweithio mewn lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol, yn ogystal ag yn y cartref ac allan yn y gymuned. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu cymaint â phosibl o annibyniaeth bersonol i blentyn neu unigolyn ifanc a chanddynt anghenion gweledol, yn ogystal â helpu i'w paratoi ar gyfer camu ymlaen fel oedolyn ifanc annibynnol i goleg, prifysgol, prentisiaethau neu waith.
Fis Hydref diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod ag Amy, menyw ifanc sydd wedi elwa o gymorth sefydlu gan Cŵn Tywys Cymru. Dywedodd Amy wrthyf fod y cymorth a gafodd wedi rhoi hyder iddi fynd i’r brifysgol, a'i bod hyd yn oed yn cynllunio taith i America, breuddwyd gydol oes na fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth sefydlu. Mae sefydlu'n galluogi’r bobl ifanc hyn i wneud y pethau y mae pob un ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, pethau y mae pob un ohonom yn eu gwneud heb feddwl ddwywaith, pethau y dylai pawb allu eu gwneud, boed yn fynd allan i chwarae gyda ffrindiau neu fynd i deithio yn eich arddegau hwyr.
Heb gymorth sefydlu i blant a phobl ifanc Cymru, sut y gallwn gael unrhyw obaith o greu Cymru gyfartal? Os nad oes gennym gyfle cyfartal, nid oes gennym gydraddoldeb. Yn anffodus i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru, mae ble rydych yn byw yn cael effaith enfawr ar eich cyfleoedd. Mae loteri cod post ar gyfer gwasanaethau sefydlu. Mae’r ddarpariaeth yn brin ar draws gogledd Cymru, lle mae un arbenigwr yn gwasanaethu ardal fawr iawn. Yng Ngheredigion, Conwy, Merthyr Tudful a sir Benfro, nid oes gwasanaeth o gwbl. Dim ond 11.4 o arbenigwyr sefydlu cyfwerth ag amser llawn sydd ar gael ledled Cymru, sy’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i ddarparu o leiaf un arbenigwr fesul 100 o blant â nam ar eu golwg. Fel y mae ein cynnig yn galw amdano, mae angen inni roi cynllun gweithlu ar waith ar fyrder, ymrwymiad strategol i sicrhau ateb hirdymor. Wrth inni betruso ac oedi, mae plant dall a rhannol ddall yn colli cymorth arbenigol hanfodol i'w galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Gall gweinidogion ddod o hyd i ychydig filiynau o bunnoedd i lawr cefn soffa Trysorlys Cymru i achub maes awyr sy’n methu, ac eto, nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i gefnogi miloedd o bobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig gwelliant i'n cynnig i drosglwyddo'r baich i lywodraeth leol. Ers blynyddoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cael gwybod bod darpariaeth sefydlu arbenigol wedi bod yn ddiffygiol, ac eto, ni chymerwyd unrhyw gamau, ni roddwyd unrhyw gynlluniau ar waith. Ni allwn adael cynllunio cenedlaethol i awdurdodau lleol. Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cynghorau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau, yn ogystal â sicrhau bod gan Gymru’r gweithlu sydd ei angen i ddarparu cymorth sefydlu i’n pobl ifanc. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i sefyll dros bobl ifanc â nam ar eu golwg drwy gefnogi ein cynnig heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth.
Gyda’r cynllun cywir ar gyfer y gweithlu ar waith a digon o arbenigwyr sefydlu wedi’u cyflogi i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg, gallwn wneud plentyndod yn gyfartal. Drwy gael gwared ar rwystrau—nad ydym ni, sydd heb nam ar ein golwg yn eu gweld, yn eironig ddigon—gallwn sicrhau bod pob plentyn â nam ar eu golwg yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal ac yn cael ffynnu. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
3. Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.
Yn ffurfiol.
Wedi'i gynnig yn ffurfiol. Felly, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu’r ddadl hon heddiw, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, a hynny oherwydd ei bod yn amlwg fod llawer o’n pobl ifanc a’n plant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn cael cam yn yr ystyr nad ydynt yn cael eu cefnogi i fyw mor annibynnol a rhydd ag y mae ganddynt hawl i fyw, fel y nodir yn erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Rydym ni yng Nghymru yn falch ein bod yn arwain y ffordd o ran hawliau plant. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac mae erthygl 23 yn dweud bod
'gan blentyn ag anabledd hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas, ac i fod mor annibynnol ag y bo modd, ac i chwarae rhan weithredol yn y gymuned.'
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gamau blaengar i sicrhau hawliau pobl anabl. Nod datganedig eu tasglu hawliau anabledd yw cael gwared ar yr anghydraddoldebau a wynebir gan bobl anabl, ac mae plant a phobl ifanc yn un o feysydd blaenoriaeth y rhaglen waith honno.
Byddech yn meddwl, felly, y byddai canfyddiadau erthygl yn y British Journal of Visual Impairment a ysgrifennwyd gan Guide Dogs UK, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Bangor fod darparu hyfforddiant sefydlu'n allweddol i rymuso a chefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg i gyflawni eu potensial yn cyd-fynd yn llwyr â gweledigaeth y Llywodraeth. Mae’n siomedig clywed felly gan Cŵn Tywys Cymru y gallai fod 2,000 o blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a fyddai’n elwa o ddarpariaeth well o hyfforddiant sefydlu nad yw’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Canfu'r ymchwil y mae'r erthygl yn seiliedig arni fod 37 y cant o'r rhieni a holwyd yn dweud nad oedd eu plentyn wedi cael hyfforddiant symudedd o gwbl yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd, yn 2019, awgrymodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fod cymaint â thraean o blant â nam ar eu golwg yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg arian yng nghyllidebau cynghorau i dalu am y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt. Roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn ystyried yr argyfyngau chwyddiant a chyllidebol sy’n wynebu ein hawdurdodau lleol ar hyn o bryd.
Felly, credwn ei bod yn amlwg fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy o waith ochr yn ochr â’n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei ddarparu i’r plant a’r bobl ifanc sydd ei angen er mwyn caffael y sgiliau byw’n annibynnol a nodir yn y cynnig, y byddai pob Aelod, rwy’n siŵr, yn eu cefnogi fel rhai hanfodol bwysig, ac fel yr amlinellwyd gan Altaf Hussain.
Hoffwn dynnu sylw’n gryno hefyd at rai pwyntiau eraill a wnaed gan yr RNIB mewn perthynas â’r mater y gallai’r Ceidwadwyr, efallai, bwyso ar gyd-aelodau eu plaid yn San Steffan i gymryd camau yn eu cylch os ydynt o ddifrif yn poeni am fuddiannau pobl ddall a rhannol ddall. Oherwydd, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw hwn, dywedodd un o bob pump o bobl ddall a rhannol ddall eu bod wedi cael rhywfaint o drafferth neu gryn drafferth cael deupen llinyn ynghyd, sefyllfa sydd ond wedi gwaethygu bellach yng ngoleuni’r pwysau economaidd presennol. Mae pobl sydd â nam ar eu golwg ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn byw ar aelwyd sydd â chyfanswm incwm o £1,500 y mis neu lai, ac o’r gwanwyn hwn ymlaen, byddant yn gwario mwy nag 16 y cant o gyfanswm eu hincwm ar ynni. Mae llawer yn lleihau'r defnydd o oleuadau a thechnolegau cynorthwyol, sy'n hanfodol, wrth gwrs, i'w diogelwch ac yn cefnogi byw'n annibynnol o ddydd i ddydd. Ni fydd rhai pobl ddall a rhannol ddall yn gymwys bellach eleni ar gyfer y gostyngiad Cartrefi Cynnes ychwaith.
Yn eu harolwg costau byw diweddar, canfu’r RNIB fod mwy na thraean o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn aml yn mynd heb brydau bwyd. Dywedodd un, 'Rwy'n mynd heb bryd bwyd heddiw. Rwy'n cael dysgl fach o rawnfwyd, yna'n mynd heb ginio ac yn cael rhywbeth rhad gyda'r nos fel ffa pob ar dost. Dyma'r unig ffordd rwy'n goroesi. Rwyf hefyd yn cael llai o gawodydd nawr, sy'n gwneud imi deimlo'n fudr ac yn anghyfforddus.' Mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn fwy dibynnol ar fudd-daliadau gan mai dim ond un o bob pedwar o bobl o oedran gweithio sydd wedi'u cofrestru'n ddall a rhannol ddall sydd mewn gwaith. Felly, wrth gefnogi eich cynnig heddiw, ac wrth alw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a sicrhau eu bod yn ariannu ac yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu'r cymorth hwnnw sydd ei angen ar gyfer sefydlu a gwasanaethau eraill, mae Plaid Cymru yn gofyn i'r Ceidwadwyr alw hefyd ar eu Llywodraeth yn San Steffan i gefnogi pobl anabl yn briodol drwy’r system fudd-daliadau. Oherwydd, Lywydd, ni ddylai unrhyw un yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, yn enwedig pobl ag anableddau, orfod mynd heb bryd bwyd neu deimlo na allant fforddio cadw’n lân. Diolch.
Roeddwn am ddechrau drwy ddweud, er fy mod yn cydnabod bod darparu ar gyfer cymhlethdod yr anableddau sy’n bodoli yng Nghymru yn heriol, fy mod yn dal i synnu, serch hynny, o ystyried yr holl wybodaeth sydd gennym am effaith gadarnhaol helpu pobl ag anableddau i gael annibyniaeth ac i fyw bywydau llewyrchus a boddhaus, a sut y gall hynny arwain at gyfraniadau cadarnhaol i'r gymdeithas ehangach, fod pobl yn dal i orfod brwydro am y cymorth y mae ganddynt hawl llawn iddo, ac yn gorfod gweithio mor galed i wneud i'r rheini mewn grym fod o ddifrif ynghylch eu hanghenion.
Yn wir, rwy'n synnu bod gennym ni, yng Nghymru, loteri cod post o ran gwasanaethau sefydlu. Yn syml, nid yw’n iawn nad yw rhai awdurdodau lleol yn darparu’r cymorth hwn, ac mae’n gwbl annheg i’r rheini a’u teuluoedd sydd wedi gorfod dod o hyd i’r gwasanaethau hyn ar eu pennau eu hunain ar un o’r adegau mwyaf anodd, dirdynnol ac ansicr yn eu bywydau. Nid yw'n iawn ychwaith fod y rheini sy’n ddigon ffodus i fod ag awdurdod lleol sy'n eu cefnogi yn gorfod mynd drwy'r felin i'r fath raddau cyn iddynt gael y gwasanaethau hynny.
Er bod cytundeb ynghylch pryd y mae angen mynediad at sefydlu, mae profiad y rheini sydd angen y gwasanaeth yn dal yn wael iawn. Maent yn gweld nad oes fawr ddim dealltwriaeth o'r hyn y mae sefydlu'n ei olygu, pam fod ei angen, ac am ba hyd y mae angen y cymorth. Mae'r broses o dderbyn hyfforddiant sefydlu wedi bod yn destun cryn bryder, ac yn parhau i fod.
Gwyddom ei bod yn well dechrau sefydlu cyn gynted â phosibl pan geir diagnosis o nam ar y golwg, a’i fod yn arbennig o bwysig i blant yn y blynyddoedd cynnar, gan ei fod yn helpu plant nid yn unig i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u cyrff eu hunain a’u cyflwr, ond hefyd ymwybyddiaeth o’r gofod o'u cwmpas, wrth i'w synhwyrau eraill barhau i ddatblygu. Felly, mewn sawl ffordd, mae’n hollbwysig yn nhermau amser i’r gwasanaethau hyn fod ar gael, ac i bobl eu cael cyn gynted â phosibl. Mae gorfod treulio sawl mis neu flynyddoedd hyd yn oed yn aros am gymorth sefydlu nid yn unig yn gwneud pethau'n anos i unigolion, ond mae’n wrthgynhyrchiol, oherwydd yn aml, mae'n golygu bod angen y gwasanaethau hyn am lawer hirach.
Yn rhyfeddol, mae ymchwil yn dangos mai po hynaf yw unigolyn, y lleiaf tebygol ydynt o gael cymorth sefydlu. Felly, nid yw’n dderbyniol, mewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol, nad yw pobl ifanc â nam ar eu golwg yn cael hyfforddiant symudedd ac annibyniaeth ar adeg allweddol yn eu haddysg. Mae'r gwahaniaeth y gall cymorth sefydlu ei wneud yn sylweddol. Gall ddatgloi cymaint o botensial i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg. Bydd yn eu galluogi i ymgysylltu’n llawn â’u haddysg ac yn eu helpu i baratoi ar gyfer y byd o’u cwmpas, megis symud i goleg neu brifysgol, gwneud cais am brentisiaethau neu waith, a byw fel oedolyn ifanc annibynnol.
Yn ogystal, gwyddom fod buddsoddiad yn arwain at elw cymdeithasol sylweddol, ac am bob £1 a werir ar wasanaethau sefydlu, fod £7.13 yn cael ei greu mewn gwerth cymdeithasol. Er bod rhywfaint o'r gwerth yn ymwneud â rhieni, mae'r rhan fwyaf o'r gwerth yn seiliedig ar y plant a'r bobl ifanc eu hunain. Yn wir, mae gwasanaeth sefydlu'n creu £5.72 am bob £1 a werir, yn sgil canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau'n unig.
Yn olaf, hoffwn gloi drwy dynnu sylw at fanteision sefydlu a deimlir gan bobl. Mae’r cynnydd mewn hyder a’r gallu i gyflawni tasgau drostynt eu hunain yn newid bywydau, ac mae hyn yn ei dro yn gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl a chorfforol, sy'n rhywbeth y mae ei angen arnynt yn daer. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn annog pawb yma i gefnogi’r cynnig hwn yn llawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae angen iddynt helpu i gael gwared ar y straen a'r gofid i'r rhai yr effeithir arnynt drwy leihau biwrocratiaeth a'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Ac mae angen iddynt hefyd roi arweiniad mawr ei angen ar hyn, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu'r gwasanaethau y mae dyletswydd arnynt i'w darparu. Diolch.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. A minnau'n dod o gefndir adsefydlu ym maes ffisiotherapi yn y GIG, mae’n braf gweld y gwaith sy’n mynd rhagddo i wella sgiliau symud o gwmpas, byw’n annibynnol a symudedd plant, er mwyn gwella bywydau pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg. Credaf y dylid dathlu hynny.
Rwyf hefyd yn falch o weld cefnogaeth Cŵn Tywys Cymru i'r syniad y tu ôl i'r cynnig hwn, gan fy mod o'r farn fod rôl cŵn tywys yn cefnogi pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn rhyfeddol, a bod angen dathlu hynny hefyd. Mae'n eithaf anhygoel, a dweud y gwir, pa mor amryddawn yw cŵn yn eu hyfforddiant i ddod yn gŵn tywys, a'r ffordd y maent yn gallu addasu i'w hamgylchedd, sy'n rhywbeth i'w ddathlu ynddo'i hun, gan ei fod yn cefnogi llawer o'r bobl sydd fwyaf o'u hangen. Mae'r rhan fwyaf o'r cŵn sy'n cael eu hyfforddi i fod yn gŵn tywys yn Labradoriaid ac yn adargwn, a gallant fod y bridiau cŵn mwyaf cariadus, gofalgar—barus, ond teyrngar—y dowch ar eu traws, ac maent yn gwasanaethu pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg mor dda yn eu dyletswyddau.
Rwyf fi a’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu’n gryf fod pawb yng Nghymru yn haeddu byw eu bywydau gyda chymaint o annibyniaeth â phosibl, gan gynnwys pobl ag anableddau megis dallineb a nam ar eu golwg. Fel y soniais, cŵn tywys yw'r ffordd orau yn aml i bobl â nam ar eu golwg fynd allan i fyw eu bywydau bob dydd. Mae hyfforddiant sefydlu'n galluogi pobl ifanc i fod yn bobl ifanc drwy allu dod o hyd i ffrindiau newydd a gwneud pethau normal gyda hwy, fel mynd allan i fwyta, siopa a chwarae, i nodi rhai pethau'n unig. Yn yr un modd, mae hefyd yn galluogi pobl ifanc i barhau â'u hannibyniaeth drwy addysg bellach a chyflogaeth.
Mae'n bwysig nodi hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parchu ac yn edmygu rhieni'r bobl ifanc hyn, sef yr hyfforddwyr sefydlu cyntaf, ac maent yn gwneud gwaith gwych. Fodd bynnag, mae angen i ymarferwyr proffesiynol ddarparu hyfforddiant cymwysedig sy’n cefnogi’r bobl ifanc, a'r rhieni hefyd yn wir, ac mae’r gost o hyd at £600,000 am ddarparu o leiaf 20 o arbenigwyr sefydlu'n bris gwerth ei dalu yn fy marn i, i sicrhau bod y Senedd hon yn credu mewn rhoi annibyniaeth a’r bywyd rhwyddaf posibl i bobl ifanc Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio y prynhawn yma. Diolch.
Bûm yn ffodus iawn ers cael fy ethol fy mod wedi gallu gweithio'n eithaf agos gydag Andrea Gordon. Nawr, mae hi'n gweithio i Cŵn Tywys Cymru, a thrwyddi hi, gallais gyfarfod â nifer o unigolion sydd â nam ar eu golwg ac mae wedi gwneud imi ddeall llawer mwy am eu hanghenion a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei gael mewn bywyd. Mae rhai o'r pethau nad ydym hyd yn oed yn meddwl amdanynt yn gallu bod yn rhwystrau enfawr i bobl a phlant sydd â nam ar eu golwg, ac mae'n hanfodol ein bod ni fel Aelodau o bob plaid yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud pob agwedd ar ein cymdeithas yn hygyrch i'r rhai sydd â nam ar eu golwg, a rhai sydd ag anableddau hefyd.
I mi, hyfforddiant sefydlu yw'r allwedd i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc am weddill eu bywydau. Mae'n mynd yn bell i'w helpu i fyw yn annibynnol, ac mae hefyd yn helpu i'w paratoi, fel y soniodd fy nghyd-Aelodau, ar gyfer coleg, gwaith, prentisiaethau, prifysgol yn y pen draw, a bywyd wedyn hefyd. Byddai hyfforddiant sefydlu'n dysgu sgiliau hanfodol y byddai plant eraill wedi'u dysgu'n draddodiadol drwy allu gweld i'r rhai sydd ag anghenion gweledol. Mae RNIB Cymru yn amcangyfrif bod yna 265 o blant sydd â nam ar eu golwg ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, a byddai pob un ohonynt yn elwa'n fawr o hyfforddiant sefydlu.
Nawr, fel y soniais, mae hyfforddiant sefydlu, sy'n rhan hanfodol o ddatblygiad addysgol plant, yn rhoi sgiliau gwrando, sgiliau cymdeithasol, hyfforddiant toiled, sgiliau gwisgo, adnabod arian, a hyd yn oed sgiliau siopa i bobl ifanc. Gall hefyd ddysgu pobl sut i deithio'n annibynnol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, asesu risg, a pharatoi eu prydau eu hunain hefyd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno yn y pen draw fod y rhain yn sgiliau hanfodol y dylai pob person a phlentyn eu cael yn yr oes sydd ohoni.
Ni allwch roi pris ar ryddid ac annibyniaeth person. Fel y soniodd fy nghyd-Aelodau Gareth Davies ac Altaf Hussain, byddai cyflogi o leiaf 20 o arbenigwyr i gynnig hyfforddiant i'r oddeutu 2,000 o blant â nam ar eu golwg yng Nghymru yn costio tua £600,000 ar y mwyaf. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â rhai o'r symiau enfawr y mae'r Llywodraeth wedi'u gwario ar brosiectau gwamal—ac nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud—fel fferm Gilestone, a Maes Awyr Caerdydd, diferyn bach yn y môr ydyw mewn gwirionedd.
Mae'n hollbwysig fod y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynllun ar gyfer y gweithlu ac yn ymgysylltu â chynghorau ledled Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt o leiaf un arbenigwr i bob 100 o blant sydd â nam ar eu golwg. Rydym angen sicrhau cydraddoldeb a thegwch, oherwydd nid oes dim yn fwy torcalonnus i mi ei glywed na bod plentyn yn cael ei amddifadu o wasanaethau hanfodol oherwydd system loteri cod post. Heb os, mae rhai elusennau anhygoel i'w cael, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wrth symud ymlaen, ond nawr mae'n bryd i'r Llywodraeth gamu ymlaen a gweithredu. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau miloedd o blant â nam ar eu golwg ym mhob rhan o Gymru, felly gobeithio'n fawr y bydd pawb ohonoch yn cefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i’r ddadl, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r Blaid Geidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar gymorth sefydlu i blant sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru. Rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â'r teimlad yn y cynnig fod mwy y dylid ei wneud ar gyfer y grŵp hwn o blant. Nodaf ymchwil Cŵn Tywys Cymru sy'n datgan y gallai 2,000 o blant â nam ar eu golwg elwa o gael mynediad at hyfforddiant sefydlu yma yng Nghymru, ac mae llawer ohonoch wedi nodi hynny yn eich cyfraniadau. Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall yr angen am wasanaethau sefydlu ac adsefydlu yn eu cyfanrwydd hefyd.
Mae darparu ar gyfer gofal cymdeithasol ac anghenion cysylltiedig eu poblogaethau lleol yn gyfrifoldeb lleol pwysig. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i asesu, cynllunio a diwallu anghenion gofal a chymorth eu poblogaeth, gan gynnwys mewn perthynas â nam ar y synhwyrau.
Drwy weithredu'r Ddeddf, rydym wedi nodi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys mewn perthynas â gofal cymdeithasol a materion cysylltiedig. Mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau pan fyddant yn cyflawni eu swyddogaethau. Mae'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith statudol o dan y Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswyddau awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal cofrestr o bobl â nam ar eu golwg, a darparu gwasanaethau sefydlu iddynt. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol i bawb—plant yn ogystal ag oedolion.
Er mwyn helpu i ddeall y sefyllfa mewn perthynas ag oedolion, ariannodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Deillion Cymru i gwmpasu ac ystyried y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen yn y sector hwn, ac fe wnaethant ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru i ystyried gwelliannau i wasanaethau. Roedd yr adroddiad terfynol yn pwysleisio'r angen am gynlluniau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o ddarparu hyfforddiant i swyddogion adsefydlu newydd yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi swyddogion presennol drwy becynnau hyfforddiant datblygu proffesiynol.
Yn dilyn hyn, ym mis Mai 2022, cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â Fforwm Golwg Cymru i drafod rhai o'r materion sy'n ymwneud â darparu cymorth adsefydlu a sefydlu ledled Cymru. Ers y cyfarfod hwn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Cŵn Tywys Cymru i geisio deall mwy am rai o'r heriau sy'n bodoli o ran mynediad at y math hwn o gymorth i blant a'u teuluoedd yma yng Nghymru, gan glymu'r gwaith hwn wrth y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â gwasanaethau oedolion.
O'r gwaith hwn, rydym yn cydnabod, mewn rhai achosion, y gall mynediad at hyfforddiant sefydlu fod yn hanfodol i alluogi plentyn i ddatblygu sgiliau symudedd personol, symud o gwmpas a byw'n annibynnol. Mae swyddogion sefydlu'n gweithio gyda'r plentyn, ond maent hefyd yn gweithio gyda'r teulu estynedig i'w cefnogi a dysgu sgiliau iddynt er mwyn eu galluogi i gynorthwyo'r plentyn yn effeithiol i ddysgu sgiliau bywyd allweddol, drwy wrando a chyffwrdd.
Rydym yn gwybod bod y ddarpariaeth o arbenigwyr sefydlu yn amrywio ledled Cymru, gyda rhai o ardaloedd awdurdodau lleol yn cael gwell mynediad at y gwasanaeth hwn nag eraill. Deallwn hefyd, fel nifer o rai eraill yng Nghymru, fod y gwasanaethau hyn wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig. Yn wir, deallaf fod Cŵn Tywys Cymru wedi bod yn rhoi ychydig o gymorth i ardaloedd heb lawer o fynediad, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y maent wedi gallu ei chynnig hyd yma.
Felly, gan ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a thrafodaethau pellach ar lefel swyddogol, roedd llythyr a anfonwyd gan y Dirprwy Weinidog at Fforwm Golwg Cymru fis Tachwedd diwethaf yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i hwyluso ymgysylltiad pellach â chynrychiolwyr y fforwm i nodi ffyrdd o ddatblygu gwelliannau ym maes sefydlu. Credwn ei bod yn bwysig, i adlewyrchu ysbryd y ddadl hon, fod y gwaith hwnnw'n cynnwys ystyriaeth i anghenion hyfforddiant plant a phobl ifanc, a sut orau i ddiwallu'r rhain. Ond nid wyf yn credu ei bod hi'n ddoeth gwahanu cynlluniau'r gweithlu oddi wrth asesiad o angen, na mynd â'r swyddogaeth o ddatblygu'r cynlluniau hyn oddi wrth y rhai sydd â chyfrifoldeb a phrofiad ymarferol ar lawr gwlad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwelliannau i'r cynnig a gyflwynwyd.
Wrth gloi, rwyf wedi siarad yn bennaf am rôl gofal cymdeithasol, sefydlu ac adsefydlu, ond mae gan wasanaethau iechyd rôl bwysig i'w chwarae hefyd. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfeirio pobl sydd â nam ar y synhwyrau at ofal cymdeithasol ar y cyfle cyntaf i'w galluogi i gael mynediad at wasanaethau a chymorth pan fydd eu hangen arnynt. Ond mae hefyd yn hanfodol eu bod yn chwarae rhan mewn triniaeth a gofal ar gyfer colled o'r fath.
Mae gwasanaethau gofal iechyd y golwg a'r clyw GIG Cymru yn cael eu darparu'n wahanol i weddill y DU. Mae gennym bwyslais llawer cryfach ar sicrhau bod mwy o driniaeth a gofal ar gael o fewn y gymuned, ac mae ein gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae hyn yn rhoi pwyslais newydd ar yr hyn a fyddai'n gweithio orau i gleifion ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r holl adnoddau sydd ar gael ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae Cymru'n parhau i fod yn arweinydd ar ddarparu gwasanaethau optometreg ac awdioleg, ac mae gwledydd datganoledig eraill y DU yn dilyn ein hesiampl. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn efelychu'r gwaith rydym wedi arloesi ynddo, ac mae Lloegr nawr yn gofyn am gyngor Llywodraeth Cymru. Maent yn arbennig o awyddus i ddysgu am ddatblygiadau mewn ardaloedd clwstwr sylfaenol.
Dechreuais drwy gydnabod ein bod yn ymwybodol iawn o'r heriau yn y maes hwn, ac rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gyda'r nod o hyrwyddo gwasanaethau sefydlu cynhwysfawr i gefnogi plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.
James Evans i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn heddiw, ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod wedi clywed cyfraniadau gan bobl ar draws y Siambr, gan Aelodau ym Mhlaid Cymru a chan Aelodau yn fy ngrŵp fy hun, ynglŷn â sut y gallwn godi'r pwnc hynod bwysig hwn yma. Ac mae'n hanfodol bwysig i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Agorwyd y ddadl gan Altaf Hussain, a siaradodd am erthygl 26 ac a'n hatgoffodd o'n rhwymedigaethau i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Weithiau, rydym yn anghofio'r hyn sydd arnom i'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas, ac mae'n bwysig ein bod i gyd yn cydnabod y dyletswyddau sydd gennym. A dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn, fel dywedodd Altaf, ein bod yn cynnig hyfforddiant sefydlu ledled Cymru, gan fod angen inni wneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i ddatblygu a sicrhau bod ganddynt gyfleoedd i fyw bywyd annibynnol. Ac fe godwyd hynny gan lawer o bobl yma, ac nid ar gyfer hyn yn unig, ond i bobl anabl ym mhob cwr o Gymru, y dylem wneud cymaint ag y gallwn i wella eu bywydau. Fel y dywedodd Altaf Hussain, mae yna sawl rhan o Gymru lle nad yw'r hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu hyd yn oed, ac mae hynny'n fethiant ar ein rhan i'r plant bregus hynny ledled Cymru. Ac fe siaradodd Altaf hefyd am gynlluniau'r gweithlu ac nad yw'r rheini eu lle, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym y rheini, fel y gallwn nodi anghenion y gwasanaeth a lle mae angen inni roi pobl ar waith i wneud yn siŵr y gallwn gyflwyno'r hyfforddiant hwn ledled Cymru.
Sioned Williams, roeddwn yn ddiolchgar iawn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi ein cynnig heno, ac mae'n dda iawn y gallwn weithio yn y ffordd drawsbleidiol hon ar draws y Senedd, fel y gallwn godi'r materion pwysig hyn a thynnu sylw atynt a chydweithio er budd plant ledled Cymru. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am y traean o blant sy'n dioddef oherwydd cyllidebau awdurdodau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol inni dynnu sylw at hynny, oherwydd nid ydym eisiau gweld plant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn dioddef; nid yw'n iawn yng nghymdeithas yr unfed ganrif ar hugain. Ac fe wnaethoch chi sôn hefyd am Lywodraeth Geidwadol y DU a phethau y gallent hwy eu gwneud, ac rwyf am gofnodi ein bod ni ar y meinciau hyn wedi gofyn i Lywodraeth y DU godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Mae hynny'n rhywbeth a wnaethom ar ein meinciau, a byddwn yn dwyn ein Llywodraeth ein hunain i gyfrif lle credwn eu bod yn methu. Dyna pam mai'r Blaid Geidwadol Gymreig ydym ni, nid Plaid Geidwadol Lloegr, ac fe wnawn gymaint ag y gallwn i ddwyn ein Llywodraeth i gyfrif lle credwn nad ydynt yn gwneud pethau'n iawn.
Siaradodd Joel James yn angerddol iawn am roi pŵer i bobl wrando ar eu hanghenion, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ein bod yn gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaethau pan fyddwn yn cynllunio'r systemau hyn hefyd, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn yr hyn a wnawn. Oherwydd os nad ydym yn cynnwys pobl ifanc yn yr hyn a wnawn, nid wyf yn meddwl y cawn ni byth system sy'n gweithio iddynt. Rydym yn rhy aml yn cynllunio system heb wrando ar y bobl sy'n ei defnyddio, ac nid wyf yn meddwl ei fod byth yn addas i'w bwrpas. Joel, roeddech chi hefyd yn sôn am elfennau economaidd pam mae hyfforddiant sefydlu'n bwysig iawn. Am bob £1 a werir, daw £5.72 yn ôl i'r economi yn y ffordd y maent yn cyfrannu at gymdeithas mewn gwirionedd, ac rwy'n credu nad ydym yn meddwl am hynny ddigon wrth edrych ar ganlyniadau iechyd ledled Cymru. Mae hwn yn fater pwysig iawn yma, ond ledled Cymru yn ogystal. Pe baem yn buddsoddi ychydig mwy o arian ymlaen llaw mewn gwasanaethau fel hyn i helpu pobl anabl, gallem wella'r canlyniadau economaidd ledled Cymru a galluogi'r bobl hynny i fyw'r bywydau llawn y dylent fod â hawl i'w byw.
Gareth Davies, fe sonioch chi am Labradoriaid. Nid yw'n frîd ci rwy'n arbennig o hoff ohono; rwy'n hoff iawn o darfgwn, ond rwy'n cydnabod y gwaith pwysig mae'r cŵn hynny'n ei wneud i helpu pobl â nam ar eu golwg. Ac rwyf am gofnodi fy niolch i'r bobl sy'n magu cŵn tywys ac yn dod â hwy drwy'r system ac yn eu hyfforddi. Rwy'n meddwl bod y bobl hynny'n cael eu hanghofio weithiau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr holl bobl sy'n gwneud hynny, sy'n helpu'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi cynnal digwyddiad yn y Senedd heb fod mor bell yn ôl ar hyn. Unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y consensws trawsbleidiol hwnnw dros hyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Fe wnaethoch sôn am rôl cŵn tywys yno, ac mewn gwirionedd, aeth fy meddwl â mi'n ôl i'r digwyddiad y sonioch chi amdano a gynhaliwyd gan Mark Isherwood yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl. Cefais fy nharo gan y ffaith na allwch roi pris ar annibyniaeth. Mae annibyniaeth yn un o'r geiriau rydym yn ei daflu o gwmpas weithiau yn y dadleuon hyn ac rydym yn anghofio beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd, yr annibyniaeth i allu mynd ar drywydd ein breuddwydion, ein diddordebau a'r pethau rydym am eu gwneud. Felly, mae'r gwaith sy'n digwydd ar hyfforddi'r cŵn tywys hyn yn bwysig iawn, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno.
Mae hynny'n wir iawn. Mewn gwirionedd, roedd gan un unigolyn yn y digwyddiad hwnnw y siaradodd fy nghyd-Aelod Sam Kurtz ag ef—rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi gwneud—nam ar eu golwg. Rhoddais amser i siarad â hwy fy hun, ac fe ddywedodd mewn gwirionedd eu bod wedi cael hyfforddiant sefydlu, ac yn ei ystyried yn ddefnyddiol iawn, ond roedd y ci a oedd gyda hwy'n achubiaeth iddynt hefyd. Felly, rydych chi'n hollol iawn.
Cododd Natasha Asghar y pwynt hwn hefyd, na allwch roi pris ar annibyniaeth rhywun. Mae'n debyg fod y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon yn cymryd yn ein hannibyniaeth yn ganiataol, ac rwy'n meddwl weithiau nad ydym yn sylweddoli bod yna rai pobl sy'n dioddef gartref ac sy'n byw bywydau ynysig iawn oherwydd nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i'w helpu i fyw'r bywyd annibynnol hwnnw. Fel y dywedodd Natasha Asghar, nid wyf yn credu y gallwn roi pris ar annibyniaeth yr unigolyn hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod llawer o bobl yn ei gymryd yn ganiataol. Mae'n bwysig iawn fod materion fel hynny'n cael eu codi yn y Siambr er mwyn i bawb ohonom ddeall a chydnabod y bobl hynny.
Yna fe wnaethom symud ymlaen at y Gweinidog. Roeddwn yn cytuno â rhai o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog. Fe gewch eich synnu'n fawr o glywed hynny, rwy'n siŵr, Weinidog. Ond rwy'n siomedig fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig hwn. Nid wyf yn credu bod ein cynnig yn or-wleidyddol. Fe wnaethom gyflwyno'r cynnig—ac fe wnaeth Cŵn Tywys Cymru ein helpu ni'n anffurfiol gyda'r cynnig hwn—oherwydd mai dyma mae sefydliadau'n dweud wrthym eu bod am ei weld. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fydd sefydliadau'n dod atom, mai ni yw'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd yma ac rydym yn cynrychioli'r sefydliadau hynny yn y Siambr hon i gael y materion hynny wedi'u codi. Pan wnaeth y Llywodraeth ei ddiwygio a rhoi'r baich ar awdurdodau lleol yn y bôn, sydd, yn fy marn i, wedi methu weithiau yn eu dyletswyddau yma—fel y dywedodd Altaf o'r blaen, ceir rhannau enfawr o Gymru lle nad oes gwasanaeth o gwbl—rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i gamu ymlaen i wneud yn siŵr fod gennym y gwasanaeth hwnnw'n iawn ledled Cymru a'r gweithlu ar waith ledled Cymru fel nad yw pobl sydd â nam ar eu golwg a'r plant ifanc sydd angen hyfforddiant sefydlu yn cael eu gadael gartref ac nad ydynt yn cael eu hanghofio, oherwydd mae'n bwysig iawn i'w datblygiad yn y dyfodol, eu haddysg a'u bywyd yn y dyfodol eu bod yn cael cyfle i fyw'r bywyd llawn hwnnw y mae pawb ohonom yma yn y Siambr yn ei fyw.
Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom gytuno nad yw'n ddigon da fod angen cymorth ar 2,000 o blant yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg. Mae'r cymorth y maent yn ei gael yn wael, ac rwy'n credu ei bod yn hen bryd inni wneud ein gwaith yn y Senedd hon a sicrhau ein bod yn cynrychioli barn pobl anabl ledled Cymru, ac yn enwedig y plant agored i niwed sydd ag angen dybryd am y cymorth hanfodol hwn. Diolch, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, mi symudaf i'r cyfnod pleidleisio. Mae mwy na thri Aelod yn dymuno i fi wneud, felly gwnawn ni gymryd seibiant i ganu'r gloch.