– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad yma—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a welir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, rwy'n nodi sylwadau diweddar y Gweinidog iechyd ynghylch ei hanallu yn ôl y gyfraith i ddiswyddo aelodau gweithredol bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae hi'n ymddangos bod goblygiad yn hynny y byddai'r Gweinidog wedi eu diswyddo nhw pe byddai'r pwerau ganddi hi i wneud felly. Felly, a gaf i ofyn, Trefnydd, a wnewch chi gadarnhau y bydd y Senedd yn ystyried unrhyw fusnes yn fuan o ran rhoi'r pŵer i Weinidogion ddiswyddo aelodau gweithredol ar y cyd â chadeiryddion y byrddau iechyd?
Yn amlwg, mae hon yn sefyllfa sy'n datblygu, ac mae'r Gweinidog yn cael cyfarfodydd, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni maes o law.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad o eglurhad o ran y Bil aer glân. Mae datganiad busnes yr wythnos diwethaf yn cyfeirio at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynglŷn â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Nawr, mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyfeirio at hwnnw trwy'r amser fel 'Bil aer glân', felly roeddwn i mewn dryswch i ryw raddau. Fe addawodd y Prif Weinidog Fil aer glân yn benodol pan ddaeth ef yn arweinydd y Blaid Lafur. Fe gafodd hynny ei gynnwys ym maniffesto'r blaid lywodraethol. Yn wir, fe'i cyhoeddwyd yn y datganiad deddfwriaethol y soniwyd amdano unwaith eto ym mis Mawrth. Felly, a gaf i ofyn pam y cafodd yr enw ei newid nawr? A oes Bil aer glân yn bodoli o hyd? A yw aer glân yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, oherwydd, Trefnydd, a fyddech chi'n gallu egluro pam mae'r Bil wedi cael ei ailenwi ar y cam diweddar hwn?
Yn ail, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad hefyd, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog trafnidiaeth, ynglŷn â chynnal a chadw trenau yn fflyd Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n deall y bu'n rhaid tynnu cyfran sylweddol o ddosbarth 175 Trafnidiaeth Cymru oddi ar y gwasanaeth wythnos diwethaf ar ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd bod nifer ohonyn nhw wedi mynd ar dân o fewn un mis. Fe arweiniodd hynny at gwtogi neu ganslo dros 100 o wasanaethau, gan gynnwys pob gwasanaeth i Dreherbert a'r gwasanaethau hynny i'r gorllewin o Gaerfyrddin. Nawr, fel rwy'n deall, mae gofyn glanhau injan gaeedig mewn trenau yn rheolaidd i atal tanau. Rheolwyd hynny gan y timau cynnal a chadw yn nepo Treganna, ond mae'n debyg i'r contract cynnal a chadw gael ei drosglwyddo i ddarparwr newydd yn ddiweddar. Mae mân atgyweiriadau yn nepo Treganna wedi dod i ben erbyn hyn. A ellid rhoi sicrwydd i ni mewn datganiad y bydd y dosbarth 175 yn parhau i gael eu cynnal mewn modd priodol ar gyfer osgoi sefyllfa arall fel gyda'r tanau hyn?
Diolch i chi. O ran eich ail gwestiwn chi, bwriedir tynnu'r trenau dosbarth 175 yn ôl o gylchrediad yma yn ddiweddarach eleni, 2023, pan fydd digon o drenau newydd sbon 197 ar gael yn eu lle, ac ar hyn o bryd dim ond chwech o'r trenau newydd sbon sy'n cael eu rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru. Felly, dyna oedd y cynllun, beth bynnag. Fel rydych chi'n dweud, maen nhw wedi tynnu nifer o'u trenau dosbarth 175 pellter hir o'r gwasanaeth, dim ond am gyfnod byr ar hyn o bryd, i gynnal archwiliadau diogelwch yn dilyn rhai pryderon, ac mae rhai achosion wedi bod yn ddiweddar gyda'r trenau hynny. Roedd yna dân mewn cilfach injan trên dosbarth 175—rwy'n credu mai wythnos diwethaf yr oedd hynny—a hwnnw oedd y trydydd tro i ddigwyddiad o'r fath mewn cyfnod byr iawn, ac fe wn i fod Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro am yr amhariad a achoswyd i deithwyr gan hynny. Ond rwy'n credu mai hwnnw oedd y penderfyniad cywir. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod yr arolygiadau diogelwch angenrheidiol hynny—. Mae'n rhaid i chi ystyried y cydbwysedd, onid oes, o ran risgiau diogelwch?
O ran eich cwestiwn cyntaf chi, y rheswm am y newid yn y teitl yw oherwydd bod y Bil wedi'i ymestyn.
A gaf i ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â diogelwch adeiladau? Fe gododd fy nghydweithiwr i, Andrew Davies, y mater hwn heddiw ynglŷn â'r sefyllfa frawychus yn Grenfell, gyda channoedd o drigolion yng Nghymru yn byw mewn ofn parhaus y gallen nhw gael eu dal mewn digwyddiad erchyll o'r fath. Fe wnaethom ni roi cwestiwn i mewn, gan ofyn faint o danau mewn fflatiau a fu ers Grenfell, ers 2017, ac fe fu yna 367. Felly, fe allwch chi ddychmygu pa mor ofnus yw pobl.
Ddydd Mercher diwethaf, cymerodd tua 100 o unigolion ran yng nghyfarfod argyfwng diogelwch adeiladau Cymru a gynhaliwyd yma, ac roedd hi'n siomedig—ac fe ddywedaf i hyn ar goedd—er bod Rhys ab Owen a Jane Dodds yn bresennol, nid oedd yr un cynrychiolydd o'r Llywodraeth yno nac unrhyw un o'i Haelodau etholedig. Fel dywedodd ambell un o'r preswylwyr wrthym ni, 'Roedd absenoldeb unrhyw gynrychiolaeth oddi wrth Lafur neithiwr yn dystiolaeth o ddiffyg cydymdeimlad a pharodrwydd i helpu lesddalwyr.'
Llywydd, ceir nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw, ond rwyf wedi eu crynhoi nhw i swm bychan: triniaeth lai ffafriol i lesddeiliaid preifat nag i denantiaid tai cymdeithasol a thai cymdeithasau tai, a chyflafan ariannol, gyda lesddeiliaid yn gorfod ariannu mesurau fel gwyliadwriaeth effro. Ac i'r rhai nad ydyn nhw'n gwybod, gwyliadwriaeth effro yw pan fydd, mewn rhai o'r blociau hyn, y trigolion yn talu am gael rhywun yn bresennol yn yr adeilad 24 awr y dydd, fel pe byddai gwreichionen neu unrhyw beth o'r fath, fe fyddai rhywun yno'n gwylio i sicrhau na fyddai tân gwirioneddol yn cynnau. Cafwyd pryderon ynglŷn â diffyg cymorth iechyd meddwl, methiant o ran cyfathrebu gyda thrigolion a effeithiwyd, arolygon diogelwch adeiladau a gafodd eu trefnu gan Lywodraeth Cymru, ac eto, roedd un wraig yn arbennig wedi bod yn aros 18 mis am £75,000. Felly, mae yna sawl agwedd i'r argyfwng dychrynllyd hwn ac rwy'n teimlo y dylai'r Gweinidog, drwoch chi, Trefnydd, wneud datganiad yn y Siambr hon. Diolch.
Wel, fel gwyddoch chi, mae darn sylweddol o waith yn parhau ynghylch diogelwch adeiladau, ac ni chafodd datganiad ei amserlennu ar hyn o bryd, ond fe fyddaf i'n sicrhau y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, yn ôl pob tebyg yn ystod y tymor rhwng y Pasg a'r haf.
Mi fuaswn i'n licio cael datganiad, os cawn ni, ynglŷn â'r gwaith ymarferol a fydd yn cael ei wneud gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac yntau, rŵan, dan fesurau arbennig. Yn benodol, dwi eisiau gweld symud ymlaen ar y gwaith o ddarparu gwell gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi a'r ardal. Mae yna greisis mewn gofal iechyd sylfaenol yng Nghaergybi, byth ers i ddwy feddygfa ddod o dan reolaeth uniongyrchol Betsi Cadwaladr yn 2019. Rydyn ni wedi ennill y ddadl hirdymor i gael canolfan iechyd newydd yng Nghaergybi, ond, wrth gwrs, mae hynny'n mynd i gymryd ychydig o amser i'w ddelifro.
Ond beth mae'r ddwy feddygfa dan reolaeth Betsi Cadwaladr wedi bod yn bwriadu ei wneud rŵan ydy dod â'u gwasanaethau nhw at ei gilydd ar un safle. Y gobaith oedd y byddai'r un safle hwnnw wedi gallu cael ei ddatblygu erbyn diwedd y flwyddyn ddiwethaf, fel bod yna fwy o hyblygrwydd mewn staffio, a chyfle i ddarparu gwell gofal. Gwnaeth o ddim digwydd achos bod Betsi Cadwaladr ddim wedi rhoi y sign-off iddo fo. Rydyn ni angen sicrwydd y bydd hynny'n gallu digwydd ar fyrder er mwyn pobl Caergybi, sydd wedi dioddef yn llawer rhy hir o ran eu lefel o ofal iechyd, ac mi fyddai datganiad gan y Llywodraeth yn fodd i ddangos bod pethau, gobeithio, yn mynd i allu symud ymlaen ychydig yn gyflymach.
Nid wyf i'n ymwybodol o'r achos penodol yr ydych chi'n sôn amdano yng Nghaergybi. Fe fyddwn i'n credu, mae'n debyg, mai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai i chi yn gyntaf naill ai gysylltu neu siarad â'u cyfarwyddwr gofal sylfaenol newydd, Rachel Page, i weld pa waith sy'n cael ei wneud, yn hytrach na chael datganiad gan y Llywodraeth.
Prynhawn da, Gweinidog. Nid yn aml y clywch chi fi'n dweud fy mod i'n gefnogol i Michael Gove, ond mae arnaf i ofn, ar y mater penodol hwn, y gallaf i weld, yn Lloegr, fod Michael Gove wedi symud yr agenda ymlaen i'r bobl hynny sydd yn gaeth mewn adeiladau anniogel. Gyda Janet, a chyda Rhys, roeddwn innau'n bresennol yn y cyfarfod ddydd Mercher diwethaf. Fe glywsom ni straeon dirdynnol iawn. Straeon pobl wirioneddol yw'r rhain. Fe glywsom ni am dad i blentyn 18 mis oed sydd ag ofn dychrynllyd o aros, o fyw yn ei gartref ef ei hun. Fe glywsom ni oddi wrth bobl hŷn eu bod nhw wedi gwneud buddsoddiad oes yn y fflatiau hyn. I un bensiynwraig, mae £500 o'i phensiwn hi o £800 yn mynd i dalu staff gwasanaeth nos gwyliadwriaeth effro. Straeon pobl go iawn yw'r rhain, ac wrth nesáu at chwe blynedd ers Grenfell, mae hi'n teimlo fel pe bai Llywodraeth Cymru yn llusgo ar ei hôl hi o ran helpu'r bobl hyn yn ariannol, ond o ran eu hiechyd meddwl nhw hefyd. Felly, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r amserlen a fydd gennym ni mewn gwirionedd o ran rhoi camau adfer ar waith a fydd yn helpu'r bobl hyn sy'n gaeth mewn adeiladau yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi. Fe glywsoch chi fy ateb i Janet Finch-Saunders, mae'n debyg—y byddaf i'n sicrhau bod datganiad yn cael ei roi yn y tymor rhwng y Pasg a'r haf. Ar ben hynny, rydych chi wedi clywed atebion y Prif Weinidog i arweinydd yr wrthblaid, ac iddo ef gyfeirio hefyd, rwy'n credu, at y ffaith y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y grŵp rhanddeiliaid strategol diogelwch adeiladau. Felly, rwy'n credu mai da o beth fyddai caniatáu i'r gwaith hwn fynd rhagddo, a chyflwyno datganiad wedyn.
'Wnes i ddim cyfeirio at hyn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders mewn gwirionedd, ond yn sicr nid oes unrhyw ddiffyg empathi na chydymdeimlad ar ran Llywodraeth Cymru gyda'r bobl hyn. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle, ac rwy'n siŵr bod llawer o'r straeon yn rhai teimladwy iawn. Mae hawl gan bawb i lonyddwch yn eu cartrefi eu hunain, ac, yn amlwg, fe geir llawer o drigolion sy'n ofidus ac yn bryderus iawn.
Rwy'n galw am ddatganiad unigol gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â chodi'r ymwybyddiaeth am ketoacidosis diabetig, neu DKA, sef cymhlethdod o ddiabetes math 1. Ddoe, fe gwrddais i â Dee Pinnington, i drafod ei hymgyrch i godi ymwybyddiaeth, yn dilyn marwolaeth ei mab, Alastair, neu Ali, Thomas, yn 2018 o DKA, a oedd yn gymhlethdod o'i ddiabetes math 1. Roedd Ali yn ganwr a cherddor o'r Fflint, roedd ganddo ddau o blant ifanc, a bu farw o DKA yn 35 oed. Cafodd ei ddiagnosis yn 21 oed. Mae DKA yn broblem sy'n peryglu bywyd sy'n effeithio ar bobl â diabetes, a achosir gan lefelau uwch o gemegyn o'r enw cetonau yn y gwaed. Mae hynny'n achosi syched eithriadol, troethi mynych, blinder a chyfogi. Er bod modd atal marwolaethau oherwydd DKA, mae angen gweld pobl sydd â DKA ar unwaith i roi triniaeth iddyn nhw. Mae Dee Pinnington wedi cynhyrchu taflen ddwyieithog gyda'r bwrdd iechyd i godi ymwybyddiaeth o DKA, sydd ym mhob ysbyty yn y gogledd erbyn hyn, ond roedd hi'n dweud wrthyf i ei bod hi'n ceisio cyhoeddi'r neges yn ehangach. Felly, rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â'r modd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo gyda hyn. Diolch i chi.
Diolch i chi. Mae hi'n amlwg eich bod chi'n disgrifio sefyllfa ofidus iawn. Yn bersonol, ni chlywais i erioed o'r blaen am DKA, felly rwyf i o'r farn mai rhywbeth da iawn yw bod taflenni ar gael ym mhob ysbyty erbyn hyn, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyflwr hwn. Fe fyddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn Llywodraeth Cymru i helpu gyda'r ymgyrch hon efallai, a gwneud yn siŵr bod y taflenni hynny ar gael yn ehangach eto efallai ledled Cymru.
Trefnydd, fe hoffwn i ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, am faterion ynglŷn â thai, ac rwy'n falch eich bod chi eisoes wedi nodi eich parodrwydd i roi un. Ond yn gyntaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad llafar ynglŷn ag effaith y lwfans tai lleol yng Nghymru? Yn ddiweddar fe wnaeth Sefydliad Bevan ganfod bwlch sylweddol rhwng y lwfans tai lleol a'r rhent, a bod hynny'n arwain at dlodi a digartrefedd. Ac yng Nghymru, nid yw 70 y cant o'r tenantiaid rhent preifat sy'n cael cymorth gyda chostau eu tai drwy lwfans tai lleol yn cael digon i dalu am eu rhent; 70 y cant, dyna'r gyfran uchaf ym Mhrydain. Felly, a gawn ni edrych i mewn i hynny, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd?
Yn ail, gan ailadrodd y pwyntiau a godwyd gan fy nghydweithwyr Janet Finch-Saunders a Jane Dodds, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â diogelwch tân mewn blociau uchel o fflatiau yma, ac effeithiolrwydd cronfa diogelwch adeiladau Cymru? Fe gefais fy nharo, fel Jane Dodds, gan rai o'r sylwadau yn y cyfarfod hwnnw, yn enwedig o ran teuluoedd ifanc, fel fy un i, sy'n poeni am fagu eu plant yn eu cartrefi nhw, a phobl wedi ymddeol hefyd, sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol pan ddylen nhw wir fod yn mwynhau eu hymddeoliad. Roedd gwir ymdeimlad o rwystredigaeth yno ac, ar adegau, mynegwyd dicter yn y cyfarfod hwnnw, ac, yn gam neu'n gymwys, Trefnydd, maen nhw'n teimlo wir eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu. Felly, fe fyddai dadl arall yn y Senedd ynglŷn ag effeithiolrwydd cronfa diogelwch adeiladau Cymru, yn fy marn i, yn mynd ffordd bell iddyn nhw allu teimlo eu bod nhw'n cael eu clywed a theimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi nhw. Diolch yn fawr.
Wel, nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arall gennyf i'w ychwanegu at eich ail gwestiwn na ddywedais i eisoes wrth Janet Finch-Saunders a Jane Dodds. O ran eich cais cyntaf chi, rwy'n ymwybodol o adroddiad Sefydliad Bevan, ac rwy'n credu bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystyried hwnnw ar hyn o bryd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch y ddarpariaeth o gartrefi gofal sydd yn sir Ddinbych? Fel soniais i sawl tro yn Siambr y Senedd erbyn hyn, rwyf i'n ymgymryd â rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal yn fy etholaeth i, a'r thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg ar hyn o bryd yw'r ffaith bod cartrefi gofal sy'n rhedeg ar, dyweder, er enghraifft, gapasiti o 40/50, ddim ond yn rhedeg ar hanner y gyfradd honno ar adegau mewn gwirionedd, ac mae hynny gan amlaf oherwydd diffyg recriwtio a chadw staff mewn cartrefi gofal, ac mae honno'n mynd yn broblem wirioneddol, yn amlwg gyda llif cleifion a rhyddhau cleifion o ysbytai. Rhan o'r mater y mae darparwyr cartrefi gofal yn ei godi yw ffi wirioneddol cartrefi gofal yn sir Ddinbych. Ac rwy'n gwybod fy mod i wedi sôn am hyn o'r blaen, ac rwy'n gwybod bod arweinydd y cyngor ychydig yn ddig gyda mi pan ydw i'n sôn am hyn, ond fe fyddwn i'n esgeulus pe byddwn i'n peidio â sôn am hyn, oherwydd, er bod cynnydd bychan yn y ffi y mae cartrefi gofal yn ei chodi am y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â siroedd eraill—rwy'n ymddiheuro, siroedd cyfagos—dyma'r ddarpariaeth â'r ffioedd cartref gofal isaf ond un, dim ond sir y Fflint sydd â rhai is. O ystyried dwysedd y boblogaeth yn y Rhyl a Phrestatyn, ynghyd â niferoedd pobl oedrannus, ac, yn wir, y cartrefi gofal sy'n mynd gyda hynny, mae hi'n mynd yn broblem ac nid yw'n hynny'n adlewyrchu demograffeg sir Ddinbych. Felly, a gawn ni datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu rhai o'r cyfleoedd o ran hyfforddiant a'r hyn y gallwn ni ei wneud fel arall yn sir Ddinbych ac yn fwy eang i ddenu pobl i yrfaoedd mewn cartrefi gofal, a rhoi sicrwydd i bobl ei bod hi'n yrfa werthfawr, ac fe allai fod yn llwyddiannus iawn, gyda'r hyfforddiant a'r ddarpariaeth gywir ar waith? Diolch i chi.
Diolch i chi. Rwyf i'n sicr o'r farn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r achos hwn yn gryf iawn bob amser, rwy'n credu, sef y gall honno fod yn yrfa sy'n rhoi llawer iawn o foddhad—gweithio yn y sector cartrefi gofal a gofal cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol bod Fforwm Gofal Cymru—diawch, rwy'n meddwl bod hynny tua 12, 13, 14 mlynedd yn ôl erbyn hyn—roedd yn rhaglen roedden nhw wedi ei dechrau i wneud yn siŵr bod datblygiad proffesiynol ar gael i bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, ac yn sicr fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi hynny. Mae recriwtio yn broblem wirioneddol. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod hynny. Roeddwn i'n mynd heibio i gartref gofal mawr iawn, ddim yn bell o fan hyn, ryw noson, ac roedd baner fawr y tu allan yn dweud, 'Rydym ni'n recriwtio.' Nid problem i Gymru yn unig mohoni chwaith, ac yn sicr fe welsom ni—. Rydym yn gofyn llawer iawn, onid ydym ni, oddi wrth y staff yn ein cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol, ac yn anffodus rydym ni wedi gweld llawer yn ymadael â'r proffesiwn a materion yn ymwneud â recriwtio hefyd. Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi dod â'r cyflog byw gwirioneddol yn ei flaen, a weithredwyd gennym ni ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, yn gynharach eleni, i gyflawni ein hymrwymiad ni i'w gyflwyno i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, ac fe wnaethom ni sicrhau bod £43 miliwn ar gael yn y flwyddyn ariannol hon.
Trefnydd, fe hoffwn i ddatganiad gennych chi, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig, ynglŷn â'r ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid a welsom ni yn ein cymunedau. Fe welais i ar Facebook yn fy mro fy hun yr wythnos hon fod dwy ddafad wedi trengi oherwydd bod perchnogion diegwyddor wedi gollwng eu cŵn oddi ar y tennyn mewn caeau lle roedd y defaid yn cario ŵyn. Felly, a gawn ni, os gwelwch chi'n dda, ddatganiad gennych chi am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn i wneud yn siŵr nad yw ein ffermwyr ni'n colli anifeiliaid oherwydd ymosodiadau gan gŵn yn ystod y cyfnod prysur iawn hwn iddyn nhw?
Diolch i chi. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei gymryd o ddifrif, ac yn anffodus, yn arbennig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, adeg wyna, fe welwn ni nifer o'r achosion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Un peth yr wyf i'n ei annog bob amser yw perchnogaeth gyfrifol o gŵn gan bobl. Rydych chi siŵr o fod yn ymwybodol ein bod ni'n ariannu—cronfeydd Llywodraeth Cymru—y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, ac mae hwnnw'n ddarn o waith y gwnaethom ofyn iddo ef ei ystyried yn benodol hefyd. Fe gefais i drafodaethau gyda DEFRA hefyd, oherwydd rwy'n credu bod y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn faes lle gallem ni wella ar y ddeddfwriaeth. Nid wyf i'n siŵr fod y ddeddfwriaeth sydd gennym ni i gyd addas i'r diben. Mae cyfran ohoni'n hynafol dros ben. A ddoe yn unig, roeddwn i mewn grŵp rhyng-weinidogol gyda fy nghyd-weinidogion o bob rhan o'r DU ac fe godiais i'r oedi gyda'r Bil anifeiliaid a gedwir, oherwydd rydym ni wedi gwneud llawer o ymdrech ynglŷn â hynny—ac yn anffodus, fel dywedais i, mae wedi mynd ar stop—i'w hannog nhw i ailgychwyn, oherwydd rwyf i o'r farn y bydd o gymorth mawr gyda'r mater hwn.
Diolch i'r Trefnydd.