– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Eitem 8: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef Bil gofal preswyl i blant. Galwaf ar Jane Dodds i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7723 Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas yn fwy digonol;
b) gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd;
c) dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a niwroamrywiaeth.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant ar yr eitem hon, gan fy mod yn dal i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.
'Roeddent yn dweud y byddwn i'n dal yno hyd nes y byddwn yn 18 oed ond am ei fod mor ddrud... bu'n rhaid iddynt fy symud yn ôl i lawr... fe wnaethant aros hyd nes y cefais fy nghanlyniadau TGAU, roeddwn yn meddwl bod hynny'n deg, ond nid oeddwn yn hoffi'r ffaith bod penderfyniad am fy nyfodol yn seiliedig ar arian o ystyried mai hwy a'm gosododd yno yn y lle cyntaf.'
Dyma ddyfyniad gan ferch ifanc, a oedd eisoes, erbyn ei bod yn 16 oed, wedi cael ei symud i 10 lle gwahanol roedd disgwyl iddi eu galw'n gartref. Mae hynny nid yn unig yn mynd at wraidd y cynnig yma heddiw, mae hefyd yn codi amheuaeth ynghylch y ffordd rydym yn darparu gofal i blant a phobl ifanc. Ac rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn oherwydd bod amser yn brin.
Mae'r rhyngweithio rhwng y cymhellion i rai darparwyr ddarparu gofal, a'r heriau cyllidebol ac o ran capasiti a wynebir gan awdurdodau lleol, yn golygu bod gormod o blant yn mynd heb y gofal y maent ei angen ac yn ei haeddu. Mae plant a phobl ifanc mewn gofal wedi dweud, yn gwbl glir, eu bod yn gallu teimlo fel nwyddau, ac yn faich ar eraill.
Cyfeiriwn at y system ofal, ond mae profiad staff, plant a phobl ifanc yn awgrymu rhywbeth heblaw gofal; yn hytrach, gall ddisgrifio system gymhleth, fiwrocrataidd sydd wedi datblygu dros flynyddoedd, ac sy'n cael ei dargyfeirio gan ei rhannau cyfansoddol yn hytrach na chan anghenion, lleisiau a gobeithion plant a phobl ifanc.
Rwyf wedi argymell deddfwriaeth yma oherwydd, fel y cydnabuwyd yn yr Alban, nid yw ychwanegu at y clytwaith cymhleth o systemau a phrosesau ond yn diddymu mwy o'r pŵer sydd gan blant a phobl ifanc dros eu bywydau eu hunain. Hefyd, câi deddfwriaeth ei hystyried yn yr Alban fel cyfle i fynd yn ôl at y pethau sylfaenol: fod yn rhaid inni gydnabod statws plant fel bodau dynol gyda set benodol o hawliau, nid dim ond derbynwyr gofal goddefol.
Yn yr Alban, roedd hynny'n cynnwys dileu'r ddarpariaeth ar gyfer gwneud elw o'r sector. Yn yr Alban, rhaid i bob darparwr fod wedi'i gofrestru gyda rheoleiddwyr, a chraffir arnynt i nodi presenoldeb unrhyw elw er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at y gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar y bobl ifanc, nid at gyfranddalwyr preifat. Byddai fy nghynnig yma yn dileu gallu darparwyr preifat i elwa o ofal plant sy'n agored i niwed, gan sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei hailfuddsoddi mewn gofal a staff ac nid yn ôl i bocedi cyfranddalwyr.
Nid barn ar ddarparwyr preifat yw hwn; yn fy mhrofiad i rwy'n gwybod bod llawer ohonynt yno i sefydlu gofal a chymorth penodol a phwrpasol. Ond rhaid inni gydnabod y ffordd y mae cymhellion elw i rai yn cael effaith negyddol ar y gallu i ganolbwyntio ar ofal yn unig a pheidio â gwrthsefyll system gymhleth, fiwrocrataidd.
Nid wyf yn gwneud hyn am resymau moesol yn unig, ond oherwydd nad yw'r pwysau enfawr ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i leoliadau, ynghyd â phwysau cynyddol ar gyllidebau, yn gadael llawer o le i ganolbwyntio'n fanwl ar ansawdd y gofal, ac ar leisiau ac anghenion plant a phobl ifanc. Mae diffyg dull Cymru gyfan o gomisiynu gofal wedi golygu bod awdurdodau'n cystadlu â'i gilydd, gan symud arferion comisiynu o blaid darparwyr preifat.
Un cafeat sydd gennyf mewn perthynas â'r cynnig hwn, ac felly hefyd y comisiynydd plant a sefydliadau eraill, yw'r angen i sicrhau nad yw newid yn niweidiol i blant a phobl ifanc. Rhaid i hawliau'r plentyn fod wrth wraidd unrhyw ddiwygio; dim newid mawr sydyn a dim tarfu diangen.
Wrth baratoi ar gyfer y cynnig heddiw, clywais gan sefydliad cynrychioliadol, a ddywedodd, 'Mae angen inni bwysleisio wrth drafod gwerth, y dylai ddechrau gyda gwerth y plentyn a'r person ifanc unigol, ac nid mewn perthynas â sefydlogrwydd ariannol neu gapasiti'r system yn syml. Mae'r naratif hwn yn ymwneud â'r gofal fel cynnyrch'.
Felly, mae angen i unrhyw gamau i gael gwared ar elw fel sbardun i ddarparu gofal gael eu gwneud yn ofalus dros amser a rhaid iddynt gadw anghenion a dymuniadau pob plentyn a pherson ifanc unigol yn ganolog wrth inni symud ymlaen. Ond rhaid iddo fod yn ailwampio sylfaenol.
Wrth orffen, rwy'n gobeithio y gall ein Senedd anfon neges at blant a phobl ifanc mewn gofal yng Nghymru, ble bynnag yr ydym, ein bod yn eu clywed a'n bod yn gwrando. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am godi hyn heddiw ac am godi materion mor bwysig sydd angen eu codi a siarad amdanynt yn y Senedd. Dylai sicrhau gofal o safon uchel i'n plant mwyaf agored i niwed fod yn rhywbeth y gallem i gyd ei gefnogi yn y Siambr hon.
Pan edrychwch ar yr ystadegau ar effaith byw mewn gofal ar blant ac oedolion ifanc, rydych yn deall pam y mae hyn mor bwysig. Mae 24 y cant o boblogaeth y carchardai sy'n oedolion wedi bod mewn gofal, mae 11 y cant o bobl ifanc ddigartref wedi gadael gofal, mae 70 y cant o weithwyr rhyw wedi bod mewn gofal. Rydych tua saith gwaith yn fwy tebygol o farw rhwng 18 a 21 oed os ydych wedi bod mewn gofal, o gymharu â phobl ifanc eraill o oedran tebyg.
Mae arnom ddyletswydd i'r bobl ifanc hyn i'w helpu i dorri'r cylch a sicrhau bod yr amser y maent yn ei brofi mewn gofal yn gadarnhaol, yn ddiogel, mewn amgylchedd meithringar, fel yr amlinellodd yr Aelod. Felly, mae arnom angen cydgysylltu gwasanaethau'n well er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu rhoi ynghanol y broses o wneud penderfyniadau, eu bod yn agos at eu cartrefi a'u bod yn y lleoliad cywir ar gyfer eu hanghenion unigol fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Ni ddylem adael i sefydliadau, seilos a ffyrdd mympwyol o weinyddu ffiniau niweidio cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru. Gwn fod Cyngor Sir Fynwy, er enghraifft, yn gwneud gwaith da gyda'u cymdogion yn Nhorfaen i sicrhau bod gofal preswyl yn cael ei ddarparu yn agos at eu cartrefi. Dylid annog y math hwn o weithio mewn partneriaeth fel arfer gorau.
Mae'r math hwnnw o ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn bwysig, oherwydd nid oes unrhyw brofiad o ofal yr un fath ag un arall. Er enghraifft, bydd 40 y cant o blant sy'n cael eu gosod mewn gofal yno am lai na chwe mis, ond mae tua hanner y plant mewn gofal yn treulio dau neu fwy o gyfnodau mewn gofal. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fod gennym y math iawn o ddarpariaeth wrth law i allu rheoli'r math hwn o angen unigol.
Mae dros 7,000 o bobl ifanc yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae arnom angen mwy o ddarpariaeth, nid llai, a dyna pam rwyf mor ddryslyd ynglŷn â'r cynnig hwn yn y Bil i ddileu'r ddarpariaeth er elw. Dyma yw 80 y cant o'r ddarpariaeth gofal preswyl yng Nghymru. Os yw darparwr o'r fath yn darparu amgylchedd meithringar sy'n gofalu am bobl ifanc yn ôl y safonau rydym wedi'u gosod ar eu cyfer, a bod y rheolyddion priodol yn cadarnhau hynny, pam y dylem adael i'w trefniadau llywodraethu fod yn rhwystr i hynny? Ymddengys ein bod yn cosbi diwydiant oherwydd methiant y rheoliadau a'r rheolyddion i weithio'n effeithiol.
Pe bai darparwyr preifat yn cael eu dileu, sut y gellir cael gwasanaethau yn lle'r rhain a ninnau'n brin o leoliadau o'r fath ledled Cymru? A fydd trafodaethau gyda phartneriaethau, busnesau a phobl ifanc i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif a phriodol? A fydd mesurau diogelu i sicrhau nad yw pobl ifanc sy'n agored i niwed yn syrthio drwy'r rhwyd? Sut y byddwch yn gwarantu na fydd darparwyr preifat yn tynnu allan o'u cartrefi a'u buddsoddiadau'n gynnar, gan waethygu ymhellach y prinder lleoliadau ac ymestyn argyfwng a achoswyd gennych chi eich hun? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau sy'n rhaid eu hateb cyn rhoi camau mawr ar waith.
Mae'n drueni ei bod yn ymddangos bod y Bil hwn yn gadael i ideoleg ein rhwystro rhag gwneud yr hyn sydd orau i bobl ifanc, ac mae'n amharchus iawn tuag at broffesiynoldeb y bobl weithgar yn y sector sy'n gwneud gwaith anodd a heriol. Mae dogfen friffio'r Aelod ei hun yn tynnu sylw at y diffyg fframwaith cenedlaethol i gefnogi proses gwerthuso ansawdd. Dylem ganolbwyntio ar hynny, gan sicrhau dull gweithredu cyson.
Rwyf am ddirwyn i ben yn awr. Gallaf eich gweld yn syllu arnaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw o'r blaen am fwy o ffocws ar atal yn hytrach nag ymyrraeth, Ddirprwy Lywydd. Felly, er eich bod wedi crybwyll nifer o faterion pwysig yma heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r rhain, Jane Dodds, yn anffodus ni fyddwn yn gallu derbyn a chefnogi'r cynnig oherwydd 2(c) a gynhwysir gennych yn y cynnig, rhywbeth nad ydym yn cytuno ag ef. Diolch.
I atgoffa'r Aelodau, mae'n dair munud mewn sesiwn 30 munud, nid pump. Rwy'n deall yr anawsterau, ond mae'n rhaid inni gadw mor agos â phosibl at yr amseriadau. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jane Dodds am ddod â hyn ymlaen. Rwy'n estyn fy nghefnogaeth iddi efo'r bwriad yma.
Mae'n bwnc sydd wedi bod yn cael ei drafod ers rhai blynyddoedd bellach, a'r Llywodraeth wedi derbyn yr angen i ymrwymo i weithredu, gyda'r nod o ddiweddu creu elw yn sgil darparu gwasanaethau gofal plant. Mae yna ddwy elfen i'w rhoi o dan y chwyddwydr: plant sy'n byw mewn lleoliadau gofal preswyl, a phlant yn derbyn gofal maeth. Mae'r elfen elw yn berthnasol i'r ddwy elfen yna. Ar hyn o bryd, mae darparwyr gofal preswyl mawr a gwasanaethau maethu annibynnol yn darparu canran uchel o'r ddarpariaeth. Mae nifer o'r darparwyr yma yn rhan o fframwaith, sydd yn rhoi rhywfaint o gysur o ran ansawdd y ddarpariaeth, ond nid pob un sydd yn rhan o'r fframwaith hyd yn oed, ac mae hynny yn destun pryder mawr.
Mae hi'n fater o gonsýrn pan fo plant yn cael eu lleoli yn bell o gartref oherwydd nad oes yna ddigon o leoliadau ar gael yn lleol. Ar y llaw arall, mae lleoliadau preifat ar gael yn lleol efo plant ynddyn nhw sydd yn bell iawn o'u cartrefi nhw. Yn ôl ystadegau'r comisiynydd plant, mae 535 o blant yn derbyn gofal preswyl yng Nghymru, gyda 340 ohonyn nhw y tu allan i ffin eu hawdurdod lleol. Yn sicr, mi ddylai fod ffocws llawer iawn cliriach ar gadw plant yn agosach at adref er mwyn cefnogi'r cysylltiadau pwysig efo teulu a chymuned. Mi fyddai tynnu'r elfen o greu elw o ofal plant yn cefnogi hynny, ac mi fyddai'n cael gwared ar yr angen i lenwi cartrefi gofal er mwyn iddyn nhw fod yn broffidiol.
Mae yna fanteision eraill hefyd, wrth gwrs, i'r ddeddfwriaeth sydd o dan sylw, yn cynnwys cynnig gwell tâl a llwybrau gyrfa i'r gweithwyr, a fyddai, yn ei dro, yn arwain at well gofal ar gyfer pobl ifanc. Mae yna un peth yn hollol glir yn fy meddwl i: mae angen gwell trefn gomisiynu, gwell cynllunio a gwasanaethau sydd ddim yn cael eu gyrru gan elw a chystadleuaeth. Ar hyn o bryd, mae rhai o'r plant mwyaf bregus yn cael eu gadael lawr gan system sydd ddim yn ffit i bwrpas.
Hoffwn longyfarch Jane y prynhawn yma am gael ei dewis i gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddwn i mewn sefyllfa debyg, felly rwy'n deall yn iawn y gwaith caled sy'n mynd i mewn iddo y tu ôl i'r llenni. Felly, da iawn yn hynny o beth.
Rwy'n cefnogi llawer o'r hyn rydych yn ceisio'i gyflawni mewn gwirionedd, oherwydd mae unrhyw gamau i wella rheoleiddio, monitro a chomisiynu gofal plant i'w croesawu—mae hynny'n ffaith. Ond mae hefyd yn ffaith drist ein bod wedi gweld cynnydd o 26 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf. Er bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal plant rhag mynd i mewn i'r system ofal yn y lle cyntaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod y rhai sydd angen mynd i ofal preswyl yn cael eu lleoli yn y sir y maent yn ei hystyried yn gartref, neu o leiaf y wlad y maent yn ei hystyried yn gartref. Mae'n drasiedi fod dros 365 o blant wedi'u gosod mewn lleoliadau y tu allan i Gymru y llynedd. Fodd bynnag, dyma'r realiti enbyd.
Caiff gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal eu tangyllido'n druenus, a bydd y prinder arian yn llawer gwaeth wrth inni gefnu ar y pandemig. Mae CLlLC wedi datgan bod awdurdodau lleol yn pryderu am y galwadau ar wasanaethau wrth inni gefnu ar y cyfyngiadau symud. Ceir ôl-groniad o achosion llys hefyd, sy'n effeithio ar wasanaethau i blant sy'n derbyn gofal. Hyd yn oed pe byddwn yn cytuno â'ch prif bwynt y dylid tynnu darparwyr sy'n gwneud elw allan o'r sector, ni allai Cymru fforddio gwneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno â Jane. Mae'r sector preifat yn darparu bron i wyth o bob 10, neu 80 y cant, o leoedd gofal preswyl i blant; heb y sector preifat, byddai gennym gannoedd o blant na fyddent yn derbyn unrhyw ofal o gwbl.
Mae ein system iechyd a gofal gyfan yn dibynnu ar bartneriaeth gyhoeddus a phreifat dda. Felly, heb endidau sy'n gwneud elw, ni fyddai gennym feddygon teulu, dim fferyllfeydd na brechlynnau na chartrefi gofal. Heb elw, nid oes gennym fuddsoddiad mewn gwasanaethau. Cyn belled â bod gennym ofal o ansawdd uchel, am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu, nid oes ots a yw'n cael ei ddarparu gan gwmni preifat neu awdurdod lleol. Felly, ni allaf gefnogi'r cynnig deddfwriaethol fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jane am ei chynnig deddfwriaethol, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Credaf y gallwn ymfalchïo fel Senedd ein bod gymaint o ddifrif ynghylch ein cyfrifoldebau i blant sy'n derbyn gofal gan ein hadrannau gwasanaethau cymdeithasol ac mor dosturiol ein hagwedd tuag atynt, a chredaf fod y cyfraniadau heddiw wedi dangos hynny. Mae'r Bil y mae Jane Dodds yn ei gynnig yn ymwneud â rheoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl a gofal maethu i blant, ac mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol, a gwasanaethau i rai ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei diddordeb yng ngofal y plant sydd fwyaf o angen ein cymorth.
Mae'r Llywodraeth yn ymatal rhag pleidleisio ar y cynnig hwn, yn unol â'r confensiwn, ond rwy'n falch o ddweud, fodd bynnag, fod gennym fframwaith deddfwriaethol cryf eisoes ar waith a fydd yn helpu i wneud yr hyn y mae Jane Dodds yn ceisio'i gyflawni. Mae'r fframwaith hwnnw'n cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a'u rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau cysylltiedig. Yn gynwysedig gyda'r ddeddfwriaeth hon mae dyletswyddau sy'n gysylltiedig â pherthynas gofal cymdeithasol ag iechyd, tai, addysg a meysydd eraill. Rydym eisoes wedi deddfu i reoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal. Rydym yn gosod gofynion clir ynghylch pwy sy'n cael darparu gwasanaethau o'r fath, sut y cânt eu rhedeg a pha mor aml y mae gofyn cael adroddiadau.
O ran comisiynu, mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ganfod a darparu lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. I'r perwyl hwn, mae pob un o'n hawdurdodau lleol yn aelodau o Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru. Mae'r swyddogaeth ganolog hon, a ddatblygwyd gan awdurdodau lleol, yn symleiddio'r broses gomisiynu yng nghyd-destun ansawdd a gwella canlyniadau i blant, ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y comisiynwyr a'r darparwyr sy'n ei defnyddio.
Er mwyn cryfhau'r trefniadau hyn ymhellach, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cyhoeddi ein cod ymarfer ar gyfer adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad. Mae hon yn ddyletswydd newydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd o fewn ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol i gynhyrchu asesiadau digonolrwydd mewn perthynas â gofal a chymorth. Mae'r adroddiadau hyn wedi'u cynllunio i hyrwyddo gwasanaethau sefydlog a chadarn ar gyfer gofal cymdeithasol i blant ac oedolion ar draws pob rhanbarth yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau a reoleiddir megis darpariaeth cartrefi gofal. Bydd yr adroddiadau hefyd yn mynd i'r afael â materion fel tueddiadau cyflenwad a galw, cynaliadwyedd, arferion comisiynu, ac yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am wasanaethau.
Er mwyn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu, y mis hwn, rydym yn cyhoeddi cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth i'w weithredu o fis Medi eleni ymlaen. Ategir y cod gan ganllawiau i egluro'r gwasanaethau a ddarperir i bobl awtistig a'u rhieni a'u gofalwyr. Rhoddir dyletswyddau pwysig i awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn pedwar maes allweddol: asesu a diagnosis, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddiant ymwybyddiaeth, a chynllunio, monitro a chynnwys rhanddeiliaid.
Ond gadewch i mi eich sicrhau, er bod gennym lawer o ddeddfwriaeth eisoes ar waith, wrth fwrw ymlaen ag ymrwymiadau ein Llywodraeth y tymor hwn, byddwn yn archwilio'r holl opsiynau deddfwriaethol sydd ar gael i ni. Byddwn yn cryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol lle bo angen, megis ein gwaith i wella cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws y sector cyhoeddus.
Nawr, ar bwynt olaf Jane Dodds yn y cynnig, a ffocws ei haraith a llawer o ffocws y ddadl yma heddiw, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o faniffesto'r Llywodraeth a'i rhaglen lywodraethu lle mae'n ymrwymo'n glir iawn i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod y tymor hwn. Mae dileu gwneud elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon. Credwn y dylai gofal cyhoeddus olygu bod plant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu ddarparwyr nid-er-elw eraill, lle mae gwerthoedd cymdeithasol a lles gorau plant a chanlyniadau i blant yn brif gymhellion.
Gwyddom gan blant a phobl ifanc eu hunain eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio gan sefydliadau preifat mawr sy'n gallu gwneud elw o'u profiad bywyd o fod mewn gofal, ac nid wyf yn beirniadu'r sefydliadau hynny, nid wyf ond wedi gwrando ar blant—wedi gwrando ar blant ac wedi gwrando ar yr hyn a ddywedant. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai Aelodau yn y Siambr hefyd yn gwrando ar yr hyn a ddywedant, oherwydd maent yn gwneud achos pwerus iawn dros eu teimladau am y mater hwn. Mae'r comisiynydd plant a Voices from Care hefyd wedi ymgyrchu ar y mater, a gallant hwy a'r plant y maent yn eu cynrychioli fod yn falch ein bod yn gweithredu. A nodaf yr hyn a ddywedodd Laura: y byddem yn gwneud hyn yn ofalus, byddem yn ei wneud dros oes senedd, sef pum mlynedd, byddem yn ei wneud mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol, gyda'r sector nid-er-elw, byddem yn tynnu'r sector preifat i mewn i drafod ein cynlluniau. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ei wneud yn ofalus iawn.
Mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn cynnwys darpariaethau sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo'r defnydd o fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr, ac rydym eisiau gweld mwy o'r math hwn o ddarpariaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom ymgynghori ar ein Papur Gwyn 'Ailgydbwyso gofal a chymorth'. Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi darparu trosolwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yr wythnos diwethaf. Rydym wedi ymrwymo i wella'r broses o gomisiynu gofal drwy ddatblygu fframwaith cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a gwerth cymdeithasol. Gwyddom fod gennym waith sylweddol i'w wneud gydag ystod eang o randdeiliaid a buddiannau eraill, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r rhai sydd eisiau ein helpu i gyflawni ein cynlluniau radical ac uchelgeisiol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwy'n benderfynol o gyflawni ein huchelgais i gael gwared ar elw o'r sector gofal, gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Hoffwn gloi gydag ychydig eiriau am agwedd y Llywodraeth hon at blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf eisiau sicrhau'r Siambr fod y Llywodraeth hon yn gweithio ar eu rhan. Rydym yn glir yn ein cydnabyddiaeth o blant a phobl ifanc fel dinasyddion a deiliaid hawliau. Rydym eisiau gwella profiad plentyndod a bywyd fel oedolion ifanc yma a'u galluogi i fyw'r mathau o fywydau y maent eisiau eu byw ac y gallant eu byw. Felly, diolch, Jane, am ddod â hyn gerbron y Senedd. Diolch.
Nid oes unrhyw Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno siarad. Galwaf ar Jane Dodds i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Lywydd eto. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi siarad ar y pwnc yma.
Diolch yn fawr iawn i chi i gyd—y rhai ohonoch a siaradodd am y mater hwn. Diolch i Laura Anne, i Gareth ac i Siân hefyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. A hoffwn ddiolch hefyd i'r sefydliadau y siaradais â hwy ac a gyfrannodd tuag at fy ystyriaethau yma. Diolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog am eich ymateb.
Credaf fod gwir angen imi wneud un peth yn glir—dau beth, mewn gwirionedd; rwy'n deud celwydd. Y cyntaf yw: nid fi sy'n dweud hyn. Plant a phobl ifanc sy'n gofyn am hyn. Yr ail yw fy mod yn credu y gall fod rhywfaint o ddryswch, ac efallai fod hynny'n ymwneud â'r ffordd rydym wedi cyflwyno hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â chael gwared ar y sefydliadau preifat. Mae hyn yn ymwneud â dweud bod angen i'r elw a wnânt fynd yn ôl i ofalu am y plant a'r bobl ifanc y credaf eu bod yn malio'n angerddol amdanynt. Nid ydym eisiau i'r arian hwnnw fynd i gyfranddalwyr. Mae'n syml iawn. Nid ydych yn gwneud elw o blant sy'n agored i niwed.
Rwyf wedi cael gyrfa ym maes amddiffyn plant—dros 27 mlynedd—ac rwy'n cydnabod ehangder a chymhlethdod y mater rydym wedi'i drafod yma y prynhawn yma. Mae'n fater cymhleth ac mae amser yn hanfodol, am mai bywydau plant a phobl ifanc yw'r rhain. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi bod yn galw am hyn ers 2017, ac yn ei hadroddiad blynyddol yn 2020, dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dangos unrhyw arweiniad arwyddocaol ar y mater hyd yma. Ond rwy'n falch o glywed ei fod bellach yn cael sylw. Dyma'r amser i weithredu'n gyflym.
Roedd yr adolygiad annibynnol o ofal—yn ôl i'r Alban—yn glir na ddylai plant orfod aros tan ddiwedd adolygiad llywodraeth traddodiadol cyn gweld newid. A byddwn yn annog y Llywodraeth yn gryf i fabwysiadu'r egwyddor honno. Sylwaf y bydd gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol yr haf a'r hydref, ond mae'n rhaid inni weld gweithredu a newidiadau tymor byr yn awr, boed yn gomisiynu, ariannu neu gefnogi awdurdodau lleol i ddechrau'r broses o gynyddu darpariaeth sector cyhoeddus a'r trydydd sector hyd at bwynt lle gellid cyflwyno deddfwriaeth sy'n cyfeirio elw tuag at ofal ac nid i bocedi cyfranddalwyr.
Rwyf hefyd yn cydnabod pryderon gan Aelodau am y ddarpariaeth bresennol yn y sector preifat, a'r pryderon ynglŷn ag unrhyw newid sylweddol. Cytunaf yn llwyr nad yw'n fater syml o ddileu'r ddarpariaeth honno. Mae'n rhaid ei wneud yn ofalus ac yn sensitif wrth inni symud tuag at system sy'n rhoi pob ceiniog tuag at ofal ac anghenion plant a phobl ifanc.
Hoffwn gloi gyda hyn: mae llawer o bobl ifanc yn byw mewn sefyllfaoedd cymhleth ac mae ganddynt hanesion cymhleth. A hoffwn orffen gyda geiriau Phoebe sy'n 13 oed, 'Rwyf am aros nes daw'r haul allan, gobeithio, a rhoi bywyd braf i mi.' Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Oes, gallaf weld bod.
Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.