– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mehefin 2016.
Yr ail eitem ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud dau newid i fusnes yr wythnos hon: mae busnes heddiw bellach hefyd yn cynnwys datganiadau llafar ar yr ymchwiliad lleol cyhoeddus ynglŷn â’r M4 yng Nghasnewydd, a darlledu yng Nghymru. Ac mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Mike Hedges.
Na.
Jeremy Miles.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru i'w groesawu fel buddsoddiad allweddol mewn seilwaith modern hanfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf lefelau uchel iawn y ddarpariaeth, mae manteision band eang cyflym iawn yn ddeuaidd, os mynnwch chi —naill ai y mae gennych neu ddim. Felly, a wnaiff y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyflwyno datganiad yn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn helpu’r rhai na fydd yn elwa ar Cyflymu Cymru a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd gan bob eiddo yng Nghymru fand eang cyflym a dibynadwy?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, oherwydd mae’n rhoi cyfle i mi i gadarnhau bod gwaith ar y gweill i benderfynu pa mor gyflym y gallwn gael band eang cyflym iawn i gymaint â phosibl o'r ychydig y cant olaf o gartrefi a busnesau nad oes ganddynt fand eang cyflym iawn a phenderfynu beth fyddai’r ffordd orau o wneud hynny. Wrth gwrs, bydd yr atebion yn y pen draw yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y lleoliad ac amgylchiadau'r eiddo dan sylw. Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod am yr amgylchiadau hynny, wrth inni fonitro cynnydd. Ond hyd nes y byddwn yn gwybod ymhle y mae’r ychydig y cant terfynol o eiddo, nid oes modd dweud beth fydd yr atebion penodol, ond wrth gwrs, y bwriad yw gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni hyn.
Weinidog Busnes, diolch ichi am eich datganiad. Wrth gwrs, mae wedi bod yn wythnos drist i bob un ohonom fel gwleidyddion etholedig lle gwelsom un ohonom yn cael ei saethu ar y stryd wrth wneud ei gwaith bob dydd i helpu pobl. Yn awr, mae holl Aelodau’r Cynulliad wedi cael gwybod sut y gallwn wella ein diogelwch ein hunain a sut y gallwn ystyried hynny, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer un yn trafod â'u heddlu lleol. Ond tybed a yw’r Llywodraeth yn ystyried hefyd sut mae ymdrin â'r ffrwd o gasineb a gwenwyn sy'n cronni ar gymaint o gyfryngau cymdeithasol. Mae'r bygythiad o drais, ymosodiadau rhywiol a niwed ar Twitter a Facebook yn dod yn ddigwyddiadau dyddiol i’r rhai hynny sydd yn llygad y cyhoedd, ac mae menywod yn benodol yn wynebu gwreig-gasineb cas iawn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oni ddylid trin y bygythiadau hyn yn union yr un ffordd a phe baent yn cael eu gwneud wyneb yn wyneb? Felly, pan fydd y Llywodraeth yn cwrdd nesaf —fel y gwn ei bod yn gwneud yn rheolaidd —â phedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu a phedwar prif gwnstabl yr heddlu, os gwelwch yn dda a gaiff y mater hwn ei drafod? Ac a gawn ni, felly, ddatganiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y Llywodraeth yn amlinellu sut y bydd yr heddluoedd yng Nghymru’n cydweithio i ddiwreiddio casineb o’n plith?
Ar fater perthnasol, gwelaf fod gennym dri datganiad i ddod gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, sydd fel petai’n dymuno’i gadw ei hun yn brysur, ond nid ydym eto wedi cael un gan yr Ysgrifennydd addysg. Pryd, felly, y gallwn ddisgwyl y wybodaeth ddiweddaraf ganddi am hynt y cwricwlwm newydd yn yr ysgolion arloesi, ac, yn enwedig, yn y cyd-destun hwn, wybodaeth ynglŷn â sut y mae'r elfen grefyddol, foesegol ac athronyddol newydd yn cael ei datblygu? Dyna lle mae mynd i'r afael â chasineb a rhagfarn o'r fath—yn yr ystafell ddosbarth.
Yn olaf, ar nodyn hapusach, rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn gweiddi 'Olé' wrth i Gymru ddilyn eu llwybr rhyfeddol drwy'r pencampwriaethau Ewropeaidd neithiwr. A all y Gweinidog gadarnhau unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i ddefnyddio'r Senedd i ddweud 'diolch yn fawr' yn briodol i Chris Coleman a'i dîm ar ôl iddynt wneud cystal dros ein cenedl, gyda llawer mwy i ddod, rwyf yn siŵr? Rwyf hefyd am roi ar gofnod ein diolch am ymddygiad canmoladwy’r cefnogwyr sy’n diddanu'r cyhoedd yn Ffrainc. Mae’r Senedd yn ystod y pythefnos diwethaf wedi bod yn llawn tristwch, coffadwriaeth, ac undod; gwyddom y gall hefyd fod yn lle ac yn fforwm ar gyfer dathlu a llawenydd cenedlaethol. Rwyf yn gobeithio y cawn y cyfle hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas. Credaf yr hoffem hefyd, rwyf yn siŵr, ddiolch am ymateb cyflym yr heddlu, sydd wedi cysylltu â phob un ohonom rwyf yn siŵr, ond hefyd am ymateb cyflym y Llywydd a'i swyddogion o ran y cyfleoedd gyda'r heddlu i gael sesiynau i holl Aelodau'r Cynulliad ac i sicrhau ein bod yn ddiogel a’n bod yn gallu parhau i gynrychioli ein hetholwyr yn y ffordd yr ydym yn credu sydd fwyaf priodol. Yn wir, mae llawer ohonom wedi cynnal cymorthfeydd dros y penwythnos, ac wedi cael nid yn unig gefnogaeth a gwyliadwriaeth gan yr heddlu, ond hefyd gefnogaeth gref iawn gan ein hetholwyr yr ydym yn barod ac ar gael i’w cyfarfod, ond mae’n rhaid inni ddysgu’r gwersi trasig hynny o ran yr hyn a ddigwyddodd mor ddramatig, mor ddifrifol ac mor greulon ddydd Iau diwethaf i Jo Cox.
Felly, ynglŷn â’ch pwyntiau am y ffrwd o gasineb a gwenwyn, credaf ein bod mewn gwirionedd wedi ymateb iddynt yr wythnos diwethaf, oni wnaethom, o ran ein munud o dawelwch a’n hymateb i'r saethu yn Orlando hefyd? Ymatebais bryd hynny hefyd o ran y ffaith bod angen monitro, adlewyrchu a chryfhau mewn sawl ffordd ein polisïau o ran mynd i'r afael â throseddau casineb, wrth gwrs.
Rydych yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol, a chredaf fod rhai ohonom yn y Siambr hon eisoes wedi profi effaith hynny dros yr wythnos ddiwethaf, a chredaf fod angen edrych ar hyn yn ofalus iawn fel Cynulliad, a hefyd yn y Llywodraeth. Gwn mai dyna lle y bydd y Gweinidog dros gymunedau a phlant yn bwrw ymlaen â hyn o ran cwrdd â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu. A bydd yn gwneud datganiad heddiw ynglŷn â hynt darn pwysig iawn o ddeddfwriaeth o ran y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dyma ddimensiwn cyfan y mae angen inni ganolbwyntio arno, yn enwedig o ran y ffyrdd y gallai effeithio'n negyddol ar fenywod.
Mae eich pwyntiau ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn atebol ac ar gael fel Gweinidogion i'r Cynulliad hwn yn bwysig iawn. Wrth gwrs, byddwch wedi gweld y datganiad ysgrifenedig ynglŷn â diwygio’r cwricwlwm gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac wrth gwrs roedd hi’n hapus iawn i gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig hwnnw mor gyflym a phrydlon â phosibl yn ei swydd newydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld cyfleoedd, a gwn y bydd y Llywydd yn chwilio am y cyfleoedd hynny hefyd, i glodfori’r buddugoliaethau mawr hyd yma, a’r fuddugoliaeth derfynol, yr ydym i gyd yn edrych ymlaen ati, i Gymru, wrth inni ddymuno’n dda i’n tîm ddydd Sadwrn ym Mharis. Credaf hefyd, o ran pêl-droed, fod pob lleoliad Cadw ar agor am ddim y dydd Sul hwn; mae'n ddydd Sul dathlu o ganlyniad i’n llwyddiant hyd yma. Wrth gwrs, yn ogystal â thristwch a gwylnosau, rydym wedi gallu clodfori ein llwyddiant ym myd y campau ar lawer achlysur yma yn y Senedd, ac rwyf yn siŵr y byddwn yn parhau i wneud hynny gan ganolbwyntio ar bêl-droed yn benodol.
Weinidog, byddwch chi’n ymwybodol fod adroddiad diweddar gan y BBC wedi canfod bod 3,000 o blant ar eu pen eu hunain wedi cyrraedd y DU y llynedd yn ceisio lloches, ac roeddent yn aml yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Canfu'r adroddiad fod o leiaf 891 o’r plant hynny ar eu pen eu hunain a oedd yn ceisio lloches wedi diflannu ar ôl cyrraedd y DU yn ystod y tair blynedd diwethaf—421 o'r rheini yn dal ar goll, ac ofnir bod llawer o'r rhai hynny sydd ar goll wedi cael eu masnachu gan droseddwyr i weithio mewn puteindai, i gynorthwyo mewn ffatrïoedd canabis, ac i weithio mewn cartrefi preifat. Mae ymgyrchwyr dros ffoaduriaid yn dweud nad yw anghenion plant sy’n cael eu masnachu, neu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu masnachu, yn aml yn cael eu diwallu ar ôl cyrraedd y DU, ac nad oes gan awdurdodau yr adnoddau i’w hamddiffyn a’u diogelu’n ddigonol. Roedd penodi’r cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth yma yng Nghymru yn benodiad allweddol a ddangosodd ein hymrwymiad i ddarparu ar gyfer y plant hyn. Yr hyn yr wyf yn awr yn ei geisio yw sicrwydd bod awdurdodau lleol Cymru ac asiantaethau eraill sydd yn amlwg â chyfrifoldeb dros blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yma yng Nghymru yn cymryd camau angenrheidiol i gyflawni’r rhwymedigaethau hynny ac i amddiffyn y plant hyn sy’n hynod agored i niwed rhag mynd i ddwylo troseddwyr a gangiau.
Mae Joyce Watson wedi codi cwestiwn pwysig iawn, a chwestiwn sydd, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Gwn fod awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn, ac wrth gwrs, mae cydlynu a chefnogaeth gan y cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru hefyd, o ran cyfrifoldeb gweinidogol. Ond rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod y gefnogaeth i’r plant hynny sydd ar eu pen eu hunain a’r croeso sydd iddynt, a'r ffyrdd yr ydym yn brwydro yn erbyn masnachu pobl, yn bwysig ac yn derbyn sylw.
A gaf i uniaethu â’r safbwyntiau a godwyd gan yr Aelod rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru? Mae bron â bod yn annirnadwy, ac ystyried y niferoedd hyn, fod mwy na 400 o’r plant a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi mynd ar goll ac na ellir dod o hyd iddynt. Mae’n ddyletswydd ar yr holl awdurdodau i ystyried y protocolau sydd ar waith ganddynt ac i wneud yn siŵr fod rwyd ddiogelwch ar gael a’r atebolrwydd hwnnw pan fydd plant ifanc, ac, yn wir, unrhyw un, yn cael eu rhoi mewn gofal, ac na chânt eu colli yn y system. Mae angen atebion, yn amlwg, i rai o'r straeon erchyll y mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy—ac fe nododd yr Aelod hynny—nid yn unig gan y Llywodraeth hon, ond gan Lywodraethau yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig sydd â dyletswydd a chyfrifoldeb. Rwyf yn crefu ar y Gweinidog i ofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn i gyflwyno datganiad er mwyn rhoi sicrwydd y gallwn weithredu’r mesurau diogelu yma yng Nghymru, a'i fod ef neu hi yn hyderus bod y mesurau diogelu hynny mor gadarn ag y mae angen iddynt fod.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad—mae stori heddiw, yn amlwg, ynglŷn â chostau teithio’r Prif Weinidog i’r pencampwriaethau Ewropeaidd. Cytunaf yn llwyr— cytunaf yn llwyr—ei bod yn iawn bod Gweinidogion y Llywodraeth yn teithio i ddigwyddiadau i gynrychioli’r Llywodraeth a hefyd i gynrychioli’r wlad, p’un a ydynt yn ddigwyddiadau chwaraeon neu’n ddigwyddiadau rhyngwladol o unrhyw arwyddocâd. Ond credaf fod cwestiwn ynglŷn â sut y caiff y gwasanaethau hynny eu caffael, gwerth am arian y gwasanaethau hynny, a'r protocol y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddefnyddio i brynu’r gwasanaethau teithio hynny. A byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru wneud datganiad yn amlinellu p’un a oes protocol yn ei le o ran prynu gwasanaethau teithio ar gyfer unrhyw swyddogaeth a wneir gan Weinidogion y Llywodraeth, yr ymarfer gwerth am arian sy'n cael ei gynnal, ac yn anad dim, lle bo modd, p’un a yw’r gwasanaethau hynny’n cael eu cyrchu drwy weithredwyr yma yng Nghymru, neu ai meysydd awyr neu borthladdoedd Cymru sy’n cael eu defnyddio. Fel y deallaf, yn yr achos hwn, mae'r awyren yn dod o Gymru, gan weithredwr yn Hwlffordd, ond nid dyna'r cwestiwn yr wyf yn ei ofyn: gofyn ydw i sut y gallwn fod yn sicr mai dyma’r gwerth gorau am arian a bod protocol yn ei le, oherwydd nid ydym yn sôn am symiau di-nod o arian—yn yr achos hwn, credaf ein bod yn sôn am bron i £10,000.
Credaf fod croeso mawr i’ch ymateb cyntaf i gwestiwn pwysig iawn Joyce Watson i mi am y datganiad busnes hwn, ymateb dyngar iawn. Ac, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar sut y gallwn ni, fel Llywodraeth, ystyried ymateb i'r adroddiad hwnnw gan y BBC ac edrych ar y ffyrdd y gallwn ni fonitro'r cymorth y gallwn ei roi i’r plant hynny sydd ar eu pennau eu hunain yma yng Nghymru. Mor siomedig oedd eich ail gwestiwn, byddwn i’n dweud, am y datganiad hwn—hynny yw, onid yw pobl Cymru am i'r Prif Weinidog fod yno? Maent am iddo fod yno. Roeddent eisiau iddo, ac roeddent yn disgwyl iddo, fynd i’r gêm. Ac, wrth gwrs, er mwyn galluogi iddo wneud hynny, a galluogi iddo deithio i Glasgow yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw—rydym wedi clywed heddiw am bwysigrwydd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig mewn atebion i gwestiynau i'r Prif Weinidog. Wyddoch chi, mae'n rhaid i chi ymddiried yn eich Llywodraeth—ac mae pobl Cymru yn sicr yn gwneud hynny—ein bod yn defnyddio'r gwasanaethau priodol er mwyn galluogi i’n Prif Weinidog ac i Gymru gael eu cynrychioli, boed yn Lille ddydd Iau ac yn Glasgow yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw mewn cyfarfod o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.
Y Gweinidog Busnes, yn gyntaf oll a allaf gytuno â Simon Thomas a chefnogi ei alwad ynglŷn â rhoi sylw i gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol? Mae'n ymddangos i mi fod rhai pobl yn credu yn anghywir fod yr anhysbysrwydd y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei gynnig iddynt, neu’r ffaith eu bod yn eistedd yn y tŷ ar eu pennau eu hunain, yn rhoi caniatâd iddynt aflonyddu, bygwth a dychryn unigolion drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwnnw yn glir iawn fel Llywodraeth.
Fy mhrif bwynt yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith y prynhawn yma yn rhoi datganiad ynglŷn â’r M4 o amgylch Casnewydd. Mae gennym broblemau ar yr M4 ymhellach i'r gorllewin a chafwyd achos lle y gwnaeth ei ragflaenydd dreialu cau cyffordd 41 ar sail rhan amser, ac yna gwrando ar y lleisiau cryf ym Mhort Talbot a chanslo’r treial cau rhan-amser hwnnw. Ond nid ydym wedi cael ateb terfynol o ran hynny ac mae ansicrwydd o hyd. Mae Port Talbot yn dref lle nad oes angen ansicrwydd. Rydym gennym eisoes ansicrwydd o ran dyfodol y gwaith dur; mae angen eglurder arnom ynglŷn â’r rhan honno o'r M4 ym Mhort Talbot. A gawn ni ddatganiad am sefyllfa’r M4 ym Mhort Talbot, ac yn enwedig y gyffordd honno?
Diolch i chi, David Rees, am ategu’r sylwadau ynglŷn â chyfryngau cymdeithasol a'r cam-drin ac aflonyddu, ac, yn wir, y ffyrdd y gall hynny danseilio a bygwth cymaint o bobl, gan gynnwys menywod yn enwedig, fel y dywedwyd yn gynharach gan Simon Thomas.
Ynglŷn â’ch ail bwynt am gyffordd 41, rydym wedi trafod y newidiadau a’r datblygiadau hynny yn rheolaidd yn y Siambr hon—ac mae’r dewisiadau, wrth gwrs, wedi’u hystyried, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a'r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud.
A gaf i ofyn am ddatganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddarpariaeth ôl-addysg i bobl rhwng 19 a 25 oed sydd ag awtistiaeth yn benodol? Nid wyf yn arbennig o awyddus i fanylu ar waith achos etholwyr yma, ond rwyf yn teimlo bod yn rhaid i mi wneud yn gryno am ei bod wedi cyrraedd y pwynt lle'r oedd y famgu yn fy swyddfa ar ddydd Gwener, yn beichio crio am ei bod yn ceisio cadw ei hŵyr yn ysgol arbennig Maes-y-Coed am flwyddyn arall, un flwyddyn, hyd nes bydd cytundeb rhwng bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a'r adran addysg ynglŷn â dyfodol hirdymor ei hŵyr.
Mae ei hŵyr wedi ei effeithio’n fawr iawn, iawn—yn ddifrifol—gan awtistiaeth, a'r gwir amdani yw nad yw'r cyngor ar hyn o bryd yn cymeradwyo amgylchiadau eithriadol i ganiatáu i’w hŵyr aros yn yr ysgol honno: rhywle y mae ei hŵyr yn ddiogel. Felly, hoffwn ddatganiad am y ddarpariaeth ôl-addysg honno, darpariaeth 19-25, ond hefyd hoffwn ddeall pa ganllawiau yr ydych chi fel Llywodraeth yn eu rhoi ynglŷn â’r amgylchiadau eithriadol hynny. A bod yn onest, rydym wedi cael wythnos anodd iawn, iawn, gyda marwolaeth AS, a wnaeth llawer o waith ar gyfer awtistiaeth mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn yr wyf wedi ei ddarllen, ac nid wyf am gael pobl yn dod i mewn i’m swyddfa yn beichio crio am fod eu hŵyr am gael ei daflu allan ar y strydoedd heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Felly, er fy mod i'n siŵr y byddwch yn dweud y caf ddatganiad gan y Gweinidog maes o law, mae hwn yn fater brys. Felly, hoffwn ddatganiad brys ar hyn, os wnewch chi hynny, ysgrifennydd busnes, neu Weinidog busnes.
Hoffwn hefyd ategu pryderon David Rees ynglŷn â chyffordd 41. Rwy’n credu y bu cwestiwn yr wythnos diwethaf ac nid oedd amser i ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ond mae angen i ni wybod, o ran y mesurau lliniaru—. Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn dweud na fyddant yn cael gwared ar y mesurau lliniaru hynny o gwmpas Port Talbot hyd oni fydd penderfyniad terfynol ar gyffordd 41. Felly, byddwn yn annog yr Ysgrifennydd newydd dros yr economi i ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad yn yr ardal honno, neu i gwrdd â nhw, er mwyn i ni allu dod i benderfyniad terfynol.
Diolch i chi, Bethan Jenkins. Rydych chi wedi codi achos pwysig yn eich etholaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn bwrw ymlaen â hynny, gan godi’r achos gyda'r awdurdodau lleol. Y cyfnod ôl-19, wrth gwrs, y cam nesaf, yw’r cyfnod trosiannol sydd mor bwysig o ran yr amrywiaeth o wasanaethau y mae angen i ni eu darparu ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth. Felly, mae hyn yn berthnasol iawn, yn wir, i'r trafodaethau a’r ymgynghoriadau sydd ar y gweill yn ogystal. A rhoddir sylw i’r mater.
Diolch hefyd am ychwanegu eich llais wrth godi cwestiynau am gyffordd 41. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn i ddod a chyfarfod â’r Aelodau i drafod y dewisiadau.
Mae ymroddiad y Llywodraeth hon yng Nghymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol tuag at metro de Cymru yn glodwiw, ac mae'n dangos gwir feiddgarwch o ran gweledigaeth ar gyfer datblygiad economaidd ac ar gyfer gwir gysylltedd. Ond, a allaf ofyn i'r rheolwr busnes am ddatganiad neu ddadl ynglŷn â phwysigrwydd cynigion metro’r de i bob rhan o dde Cymru, gan gynnwys y cymoedd mwy gorllewinol, canol Morgannwg, fel y Garw a'r Llynfi a'r Ogwr, ond hefyd ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr? Byddai hyn yn ein galluogi i archwilio sut y gall y cymunedau hyn wirioneddol elwa ar y cynigion cyffrous i wireddu'r potensial economaidd ac o ran teithio i'r gwaith yn y cymunedau hyn yn ogystal ag yn y cymoedd canolog a dwyreiniol, ac i sicrhau, dros amser a thros gyfnodau olynol y cynnig hwn, y gallwn sicrhau bod bysiau cyflym a rheilffyrdd ysgafn, tocynnau fforddiadwy i bawb ac amserlenni cydamseru yn cyrraedd pob rhan o’r de, nid dim ond y prif wythiennau. Ac yn olaf, a fyddai'r rheolwr busnes yn cytuno â mi y gallai’r broses o gyflwyno hwn a chynigion trafnidiaeth mawr eraill yng Nghymru gael ei niweidio’n ddifrifol os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Diolch i chi, Huw Irranca-Davies. Gwn y gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r metro, sy’n cwmpasu’r de-ddwyrain a thuag at y gorllewin ac, wrth gwrs, sy’n rhan amlwg iawn hefyd o ddatblygiadau’r dinas-ranbarthau a’r cynigion nid yn unig o’r de-ddwyrain, ond hefyd o Abertawe a bae Abertawe. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad cliriach i'r Aelodau ar hyn. Atebwyd eich ail bwynt yn glir iawn gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma. Ni allai’r metro barhau heb gyllid Ewropeaidd y mae’r Comisiwn wedi dweud sydd ar gyfer trafnidiaeth integredig, a dyna sy'n berthnasol a dyna maent am wario'r arian arno a'r hyn rydym am iddynt wario'r arian arno drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
A allaf alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ynglŷn â throi rheolyddion calon i ffwrdd tuag at ddiwedd bywyd? Tynnwyd hyn i’m sylw gan achos trist Patricia Hastings o Landrillo-yn-Rhos a fu farw o ganlyniad i ddementia fasgwlaidd yn gynharach eleni. Yn anffodus, roedd aelodau o’i theulu yn gorfod ei gweld yn wynebu diffyg urddas o gael rheoliadur calon a berodd iddi ddioddef yn hirach ar ddiwedd ei hoes gan ei fod yn gweithredu pan oedd y broses naturiol o farwolaeth yn digwydd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ymwybodol bod canllaw wedi ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Cardiofasgwlar Prydeinig ar y cyd â'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol. Cyhoeddwyd hwn ym mis Mawrth 2015, ac eto nid yw wedi ei ystyried yn llawn gan Lywodraeth Cymru i’w weithredu yma yng Nghymru. Mae hyn 12 mis yn ddiweddarach. Gallai hyn fod wedi rhoi rhywfaint o urddas i Patricia Hastings ar ddiwedd ei bywyd ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn wynebu sefyllfaoedd tebyg iddi a phrofiad trist iawn ei theulu. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai modd i mi ofyn am ddatganiad ar hynny.
Yn ail, a allaf hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros Gymunedau a Phlant ar ddiwrnod coffa brwydr y Somme, a gynhelir wrth gwrs ar 1 Gorffennaf eleni? Collodd degau o filoedd o filwyr Cymreig eu bywydau yng nghanol erchyllterau ofnadwy’r rhyfela a welwyd yn y frwydr benodol honno. Bu farw dros filiwn o bobl i gyd, a chredaf fod angen i ni wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—pa un a oes unrhyw weithgareddau sy'n cael eu noddi— a sut yr ydym ni fel Aelodau’r Cynulliad yn ein hetholaethau yn gallu helpu i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny fel teyrnged addas i goffáu’r arwyr hyn a fu farw yn y digwyddiadau erchyll hynny. Diolch.
Diolch i chi, Darren Millar. Rydych yn codi mater moesegol sensitif iawn yn ogystal ag enghraifft glinigol o'r achos, ac rwy'n siŵr eich bod wedi codi’r pwynt, nid yn unig gyda'r bwrdd iechyd ond gydag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, ond mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymateb iddo o ran y canllawiau diweddaraf. Ynglŷn â’ch ail gwestiwn, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal wrth gwrs. Bydd gwasanaeth yn eglwys gadeiriol Llandaf, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma yng Nghymru i anrhydeddu ac i gofio—teyrngedau addas i'r rhai a gollodd eu bywydau ym mrwydr y Somme.
Mae gennyf ddau bwynt yr oeddwn am eu codi. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yma yn y Senedd yn ymwneud â gwaith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru ac i nodi’r milfed rhoddwr cyfatebol gan y gofrestrfa yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli o fewn ymddiriedolaeth Felindre yn fy etholaeth. Dyma gyflawniad gwbl aruthrol, ac mae'r rhoddwyr cyfatebol ledled y byd i gyd, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw ffordd y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad yn tynnu sylw at gyflawniadau’r rhoddwyr hyn, nad ydynt yn hysbys iawn o gwbl. Dyna’r pwynt cyntaf yr oeddwn eisiau ei wneud.
Yna, o ran yr ail bwynt, rydym wedi dymuno’n dda i dîm Cymru y prynhawn yma, a hoffwn ychwanegu fy llongyfarchiadau innau a dymuno’n dda i bob aelod o'r tîm. Ond, a allaf dynnu sylw arbennig at lwyddiannau'r sgoriwr uchaf yn y bencampwriaeth hyd yn hyn? Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngogledd Caerdydd, aeth i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac mae ei deulu yn dal i fyw yn yr Eglwys Newydd. Gareth Bale ydyw, wrth gwrs. Felly, hoffwn hefyd ofyn beth all y Cynulliad ei wneud i gydnabod cyflawniad pawb yn y tîm.
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd. O ran eich pwynt cyntaf, roedd hi'n bwysig iawn eich bod wedi cael y cyfle i dynnu sylw at waith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn y Senedd yn codi ymwybyddiaeth ac yr oedd, fel yr ydych yn dweud, yn dathlu casglu’r milfed rhoddwr cyfatebol. Hoffwn longyfarch Gwasanaeth Gwaed Cymru ochr yn ochr â Julie. Ond hefyd dylid llongyfarch y gwirfoddolwyr—y bobl sy'n gwirfoddoli i roi mêr esgyrn. Mae'n ymwneud â sut y gallwn ni recriwtio rhagor o bobl. Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod hyn yn fater lle y mae angen recriwtio ar lefel fwy lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol. Mae angen i ni estyn allan at gymunedau, ac rwy'n siŵr mai dyna oedd y neges a ddaeth i’r amlwg yn eich digwyddiad. Felly, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd gyfrannu wrth helpu i ledaenu’r neges ym mhobman.
Byddem yn gobeithio ac yn disgwyl i Julie Morgan o Ogledd Caerdydd achub ar y cyfle i ganmol ei hetholwr, Gareth Bale, ac i gydnabod ei gyflawniadau enfawr ef ac, wrth gwrs, y tîm cyfan. Ef yw’r sgoriwr uchaf ac yn sicr ef yw seren y gêm a'r twrnamaint. Mae cael ei weld eto yn rhoi cyffro i chi ac i ni i gyd, yn ogystal â'i deulu. Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, a dyna beth yw esiampl dda. Felly, rwy'n siŵr y byddwn yn dathlu ac yn ei longyfarch yn bersonol maes o law.
Diolch i’r Gweinidog.