– Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
Symudwn ymlaen at eitem 8 ar y rhaglen, sef y ddadl am flaenoriaethau’r Llywodraeth a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Carwyn Jones.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Wel, rydym yn dychwelyd at y mater hwn gan fod y Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i ni, ac felly mae'n gyfle arall i Aelodau edrych o’r newydd ar flaenoriaethau’r Llywodraeth hon a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae heddiw yn gyfle i ni i drafod blaenoriaethau a rhaglen Llywodraeth Cymru. Am y tro cyntaf, rydym yn cyfuno’r ddadl ar y rhaglen ddeddfwriaethol â thrafodaeth ehangach am amcanion polisi, ac mae hyn yn arwydd o ba mor bell yr ydym wedi dod ers ennill pwerau deddfwriaethol, bod deddfwriaeth bellach yn rhan greiddiol o'r modd yr ydym yn cyflawni ein blaenoriaethau.
Nawr, fel y dywedais, Lywydd, pan gyhoeddais y rhaglen lywodraethu, mae ein blaenoriaethau ar gyfer y weinyddiaeth hon yn glir. Rydym yn awyddus i gael economi gryfach, decach, gwasanaethau cyhoeddus wedi’u gwella a’u diwygio a Chymru unedig, sy'n gysylltiedig ac yn gynaliadwy. Rydym wedi dewis y pedwar maes lle y credwn y gall y Llywodraeth gael yr effaith fwyaf ac y gall chwarae'r rhan gryfaf wrth weithio tuag at y nodau cenedlaethol. Y meysydd blaenoriaeth hyn—ffyniannus a diogel, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac yn dysgu, ac unedig a chysylltiedig—yw'r meysydd ymbarél a fydd yn caniatáu i’r Llywodraeth a'i phartneriaid weithio ar draws ffiniau traddodiadol a sicrhau gwelliannau ar gyfer pobl yng Nghymru. A bydd popeth a wnawn fel Llywodraeth yn cael ei arwain gan y blaenoriaethau hynny.
Wrth i ni edrych tuag at Gymru ffyniannus a diogel, byddwn yn gweithio'n galed i gefnogi’r nod o greu swyddi ledled Cymru, arfogi pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, ond hefyd eu helpu i fyw eu bywydau yn ddiogel. Rydym wedi nodi ein prif gynlluniau ar gyfer cefnogi busnesau drwy doriadau treth ac ymrwymiad i ddiwydiant amaethyddol ffyniannus. Byddwn yn cefnogi pobl i gael swyddi drwy 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed a byddwn yn cael gwared ar y rhwystrau i weithio, drwy’r pecyn mwyaf hael o ofal plant i rieni sy'n gweithio mewn unrhyw ran o’r DU—cymorth na fydd yn cael ei gyfyngu i amser tymor.
Lywydd, rwyf hefyd wedi cyhoeddi y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r hawl i brynu. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i warchod y stoc tai cymdeithasol, stoc y byddwn yn ei chynyddu yn rhan o'n hymrwymiad i gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Byddwn hefyd yn gweithio tuag at ffyniant cynaliadwy hirdymor sydd hefyd yn cynnig dyfodol diogel i ni, ac mae hynny'n golygu symud tuag at ein nod o leihau 80 y cant ar allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
Lywydd, rydym yn falch o'n hanes o gynyddu buddsoddiad yn y GIG a byddwn yn parhau i weithio tuag at Gymru iach ac egnïol. Rydym yn gwybod na all y GIG gyflawni ein blaenoriaethau ar ei ben eu hunain ac yma, yn fwy na dim ac unrhyw le arall, rydym yn deall pwysigrwydd buddsoddi yn gynnar i atal problemau yn nes ymlaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod triniaethau ar gael, oes, ond ni fyddwn byth yn colli golwg ar ein nod tymor hir i leihau'r angen am driniaethau, gan alluogi pobl i fyw bywydau iach a llawn. Mae hynny, wrth gwrs, yn gydbwysedd anodd ei daro: gwario i drin heddiw wrth fuddsoddi i atal yn y dyfodol. Ond rwy'n hyderus bod ein blaenoriaethau yn adlewyrchu hynny.
Byddwn, ar sail hynny, yn cyflwyno Bil iechyd y cyhoedd i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru. Byddwn yn blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, gan gynnwys cynllun presgripsiwn cymdeithasol peilot a mwy o fynediad at therapïau siarad. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig ochr yn ochr â thrawsnewid ein hystâd ysbyty, integreiddio gwasanaethau ac adeiladu model sy'n cyfateb yn well ag anghenion a gwasanaethau lleol.
Lywydd, byddwn yn gweithio tuag at Gymru uchelgeisiol sy’n dysgu, ac sy'n gallu cefnogi ein nod o ffyniant a diogelwch. Rydym yn dymuno gwella cyrhaeddiad yn gyffredinol, ond rydym hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw llwyddiant neb yn cael ei bennu ymlaen llaw gan ble y maent yn byw, faint y mae eu rhieni yn ei ennill, neu a oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn golygu cefnogi ein pobl ifanc i gychwyn eu taith yn gynnar gyda'n rhaglen arloesol Dechrau'n Deg. Mae hefyd yn golygu buddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol i godi safonau ysgolion i bawb. Mae'n golygu ymestyn y grant amddifadedd disgyblion i ddarparu cefnogaeth ychwanegol wedi’i dargedu i ysgolion, a bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn sefydlu system lle mae dysgwyr yn ganolog i bopeth, lle mae anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar, lle’r eir i'r afael â nhw yn gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.
Lywydd, wrth gwrs, nid yw uchelgais na dysgu yn gorffen pan fyddwn yn gadael yr ysgol. Rydym wedi ymrwymo i wella llwybrau academaidd a galwedigaethol, gan gynnwys i mewn a thrwy addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion Syr Ian Diamond mewn egwyddor a bydd y rhain yn helpu i lunio pecyn cymorth i fyfyrwyr y byddwn yn ei gyflawni.
Yn olaf, ond nid lleiaf, unedig a chysylltiedig: mae’r flaenoriaeth hon yn cofnodi ein huchelgais i dyfu gyda'n gilydd fel gwlad, ac i’n rhwymo ni at ein gilydd fel cymdeithas lle mae pawb yn cael ei barchu a'i werthfawrogi—Cymru sydd â'r hyder i gymryd ei lle yn y byd. Mae'r DU yn tynnu allan o'r UE yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i wneud yn well nag y disgwylir i ni ac edrych y tu hwnt i'n ffiniau. Rydym yn gweithio tuag at Gymru lle mae cymunedau yn ffynnu, yn cael eu cysylltu gan lwybrau trafnidiaeth ardderchog, a chyda pob eiddo yng Nghymru yn elwa o fand eang dibynadwy, cyflym.
Lywydd, yn gynharach heddiw gwnaethom amlinellu ein cynlluniau ar gyfer dyfodol llywodraeth leol, a fydd yn parhau i’w gweld wrth galon eu cymunedau, ond yn gweithio gyda'i gilydd yn rhanbarthol mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. A byddwn yn parhau i hyrwyddo diwylliant a hunaniaeth Cymru drwy weithio tuag at gael 1 filiwn o bobl sy'n siarad Cymraeg erbyn 2050.
Lywydd, rydym eisiau cael cymdeithas deg a byddwn yn deddfu i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016 sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig. Bydd eleni hefyd yn ein gweld yn cyflwyno dau Fil treth, gan baratoi'r ffordd i ni godi ein trethi ein hunain am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd. Lywydd, mae hon yn gyfres uchelgeisiol o flaenoriaethau ar gyfer Cymru, cyfres o flaenoriaethau sydd eisoes wedi llywio ein rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn hon ac a fydd yn ein tywys wrth i ni gyflawni ein rhaglen lywodraethu.
Ar y pwynt hwn, hoffwn droi at y gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno—heb eu cynnig eto, wrth gwrs—gwelliant 1 yn enw Paul Davies: ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw. Rydym yn gwybod bod hon yn rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a bod pobl Cymru yn ei chefnogi. O ran gwelliant 2, unwaith eto, nid ydym yn credu bod y rhaglen ar gyfer yr wrthblaid yn fwy uchelgeisiol—rwy'n siŵr bod hynny'n syndod mawr i feinciau Plaid Cymru. Ond, wrth gwrs, mae cyffredinedd â Phlaid Cymru mewn nifer o feysydd ac, wrth inni symud ymlaen, rydym yn edrych i wella’r cyffredinedd hwnnw. O ran gwelliant 3, mater i'r Cynulliad hwn yw mesur sut y mae'r Llywodraeth yn perfformio, a dyna beth y mae wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf. Mater i’r Cynulliad yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif o ran ei chynnydd. Byddwn, felly, yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw.
O ran gwelliant 4, bwriedir i'r rhaglen lywodraethu gyflawni. Wrth gwrs, y peth amlwg nad oed modd ei drafod yw’r hyn sy'n digwydd gyda Brexit, ond y gwir amdani yw nad oes neb, ar y cam hwn, yn gallu rhagfynegi gydag unrhyw gywirdeb mawr beth fydd yn digwydd, ond byddwn yn gwybod mwy cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu ar y cyfeiriad y mae’n dymuno mynd iddo. Ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw.
O ran gwelliant 5, ni fyddwn yn derbyn y gwelliant hwnnw, oherwydd bydd y manylion yn ymddangos, wrth gwrs, yn ystod y rhaglen lywodraethu, ond rydym wedi tynnu sylw yn glir i’r cyfeiriad yr ydym yn dymuno mynd iddo.
Byddwn yn derbyn gwelliant 6. Mae'n hollol bwysig, wrth gwrs, bod digon o amser ar gyfer craffu, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn fodlon ei gefnogi. Lywydd, mae hon yn rhaglen uchelgeisiol ar gyfer pobl Cymru, rhaglen y maent wedi pleidleisio drosti ym mis Mai a byddant yn disgwyl i ni ei chyflawni, ac rwy’n ei chynnig gyda balchder, felly, o flaen y Cynulliad.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'n bleser sefyll ac ymateb i Brif Weinidog Cymru wrth gynnig y ddadl. Cynigiaf yn ffurfiol welliant 1 yn enw Paul Davies ar bapur y drefn heddiw. Dim ond chwe diwrnod yn ôl yr oeddem ni ein hunain yn cynnig y cynnig ynglŷn â’r rhaglen lywodraethu, ac yn amlwg rydym wedi treulio cryn dipyn o amser yn edrych ar hynny. Ni allai'r Llywodraeth ond rhoi un o blith y meinciau cefn i gefnogi eu rhaglen lywodraethu yn ystod y ddadl honno, felly rwy'n gobeithio y byddant yn gwneud eu gwaith yn well y prynhawn yma, a bod yn onest gyda chi.
Mae rhai cwestiynau perthnasol rwy’n meddwl y mae angen eu cyflwyno i'r Prif Weinidog yn ystod y ddadl hon, a allai wedyn ddechrau meithrin rhywfaint o hyder efallai. Cafodd rhai o'r cwestiynau hynny eu harchwilio yn helaeth yn ein dadl yr wythnos diwethaf, yn syth ar ôl dadl TB buchol a gynigiwyd gan feincwyr cefn yn y Siambr hon. Mae'n werth nodi, yn y rhaglen lywodraethu, nad oes unrhyw arwydd o sut yn union y bydd y Llywodraeth yn datblygu ei strategaeth ar TB buchol. Rwy’n sylweddoli y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rhaglen lywodraethu ar gyfer aelodau'r cyhoedd, Aelodau’r sefydliad hwn, elusennau â buddiant breintiedig ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae Llywodraeth yn darparu gwasanaethau i allu meincnodi ei chynnydd, neu ddiffyg cynnydd, yn ôl y digwydd.
Nid wyf yn anghytuno â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, mae’n amlwg bod pobl Cymru wedi cymeradwyo ei blaid i fod y blaid fwyaf a ddychwelwyd yma ar ôl etholiad mis Mai, a dyna pam ei bod yn bwysig bod y rhaglen lywodraethu yn ddogfen sy’n ein galluogi i fesur yr ymrwymiadau yr ydych wedi'u gwneud ac, yn arbennig, i ddeall sut yr ydych yn mynd i gyflawni'r ymrwymiadau hynny. Mae fy nghydweithiwr, David Melding wedi sôn am nifer y tai sydd wedi’i nodi gennych yn y rhaglen lywodraethu, a sut yn union y bydd yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflwyno, o gofio’r 20,000 o dai fforddiadwy yr ydych wedi’u crybwyll yn hyn. Beth y mae hynny’n ei wneud, felly, er mwyn sicrhau’r 12,000 neu 12,500 o unedau y mae angen eu hadeiladu ar sail flynyddol er mwyn creu rhaglen adeiladu tai gynaliadwy i ateb galw ac angen pobl Cymru? Unwaith eto, os ydych yn edrych yn y rhaglen lywodraethu, nid oes unrhyw ffordd o ddeall sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ddatblygu’r mater polisi penodol hwnnw. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, yn ei ymateb i ni heddiw, yn rhoi rhywfaint o hyder i ni, oherwydd dyna beth mae ein gwelliant yn sôn amdano: mae'n sôn am roi hyder i ni i ddeall yn union sut y bydd y rhaglen lywodraethu yn cael ei datblygu.
Nid ydym, fel y dywedais, yn anghytuno â hawl y blaid fwyaf i ffurfio’r Llywodraeth; nid ydym yn anghytuno â hawl y blaid i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu, ond rwyf eto i ganfod un sefydliad trydydd parti sydd wedi gwneud sylwadau mewn ffordd ffafriol ar y rhaglen lywodraethu hon yn y sector penodol y byddwch yn gweithio ynddo mewn gwirionedd. Dim ond heddiw, er enghraifft, roedd Nick Ramsay o Sir Fynwy yn gwneud y pwynt yn y datganiad busnes am y ganolfan gofal critigol yng Nghwmbrân. Gallaf gofio’n iawn pan soniwyd am y prosiect penodol hwn am y tro cyntaf pan ddes i i'r Cynulliad, yn ôl yn 2007, ond mae wedi bod yn yr arfaeth ers llawer hwy na hynny, ac mae amheuaeth am sut yn union y bydd y rhan benodol honno o'r seilwaith iechyd yn cael ei chyflwyno ar gyfer y de-ddwyrain. Esgusodwch y gair mwys, ond mae'n rhan gritigol o'r seilwaith iechyd ar gyfer y de-ddwyrain. Felly, unwaith eto, o ystyried ei bod mor amserol ac y dylai eistedd o fewn y rhaglen lywodraethu o ran sut y caiff hynny ei gyflawni ar gyfer y de-ddwyrain, efallai y bydd y Prif Weinidog yn defnyddio ei amser wrth ymateb i'r ddadl heddiw i roi rhywfaint o sicrwydd i ni mewn gwirionedd y bydd y prosiect yn dwyn ffrwyth ac mewn gwirionedd, erbyn 2021, y gallai’r prosiect fod naill ai ar fin cael ei orffen, neu wedi’i orffen. A allwch roi dyddiad inni? Pum mlynedd?
Mae'n bwysig cofio, ar y targedau addysg sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen lywodraethu, bod myfyrwyr sy'n mynd i mewn i flwyddyn 7 heddiw, neu y tymor hwn, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, yn sefyll eu Lefel O, TGAU, pa bynnag enw yr ydych yn dymuno rhoi arnynt, yn 2021. Felly, bydd eu haddysg uwchradd gyfan yn cael ei llywodraethu gan y Llywodraeth sy'n eistedd ar y meinciau hyn, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni’n gallu bod yn hyderus y bydd dyheadau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—ac, yn wir, y Llywodraeth i gyd—i wneud y gwelliannau hynny mewn addysg yn cael eu darparu mewn gwirionedd yn y pumed Cynulliad, gan fod rhai Aelodau wedi bod yma o'r blaen yn y pedwerydd a'r trydydd Cynulliad. Ac nid yw’n fater bod unrhyw un ar feinciau'r gwrthbleidiau eisiau dymuno’n wael i chi ar addysg, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym yn dymuno'n dda i chi ar addysg, ond rydym yn awyddus i’r pethau hynny gael eu darparu, gan mai un cyfle y mae plant yn ei gael, a’u cyfleoedd hwy mewn bywyd sy'n cael eu tynnu oddi arnynt os na fyddwn yn cyflawni, neu, dylwn ddweud, os nad yw eich Llywodraeth chi yn cyflawni ar addysg.
Felly, y cyfan y mae’r gwelliant yn ceisio’i wneud yw rhoi'r hyder i bobl Cymru ac i ni fel gwleidyddion a fydd yn craffu arnoch chi. Nid yw'n cymryd ymaith y cyfreithlondeb sydd gennych i gyflwyno’r rhaglen lywodraethu. Ond mae cyflwyno dogfen 15-tudalen am werth pum mlynedd o waith yn gyhuddiad eithaf damniol o ddiffyg syniadau. Dim ond yr wythnos diwethaf, Brif Weinidog, roeddech yn cadeirio eich pwyllgor eich hunain—pwyllgor ymgynghorol allanol ar gyfer eich cynghori ar faterion Ewrop—ac rwy’n tynnu sylw at dudalen 14 eich dogfen eich hun, lle mae'n dweud, 'Byddwn yn gweithio i sicrhau bod aelodaeth ein cyrff democrataidd yn adlewyrchu’r gymdeithas gyfan yn well a gwella cynrychiolaeth gyfartal ar gyrff etholedig a byrddau yn y sector cyhoeddus.‘ Nid oedd unrhyw ymgeisydd du neu o leiafrifoedd ethnig ar y pwyllgor hwnnw. Nid oedd ond 28 y cant o’r gynrychiolaeth yn fenywod, ac nid oedd fawr ddim cynrychiolwyr daearyddol o’r gogledd a rhannau eraill o Gymru yn eistedd ar y pwyllgor hwnnw. Felly, ar y pwynt sylfaenol iawn hwnnw—ar y pwynt sylfaenol iawn hwnnw—y gallech fod wedi ei roi ar waith, ni allech gyflawni hynny. Sut ydych chi'n mynd i fod yn gallu cyflawni rhai o'r materion mwy dyrys sydd wedi bodoli ym maes iechyd, wedi bodoli mewn addysg ac wedi bodoli yn yr economi? Dyna pam y mae angen cael yr hyder y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn wahanol i raglenni llywodraethu blaenorol, ac y bydd yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Galwaf ar Leanne Wood i gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth.
Yn y cyfnod allweddol hwn, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth Lafur yn cyflwyno rhaglen arloesol a blaengar sy'n dangos hyder i bobl yng Nghymru. Mae arna’ i ofn nad yw’r rhaglen lywodraethu a gynhyrchwyd y mis diwethaf yn bodloni’r meini prawf. Cyn amlinellu agenda gadarnhaol Plaid Cymru, hoffwn wneud un pwynt am raglen Llywodraeth Llafur.
Roeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno â'r Prif Weinidog y dylai ei raglen lywodraethu gael ei hoedi i ystyried goblygiadau pleidlais y refferendwm. Roedd yn syndod ac yn siom, felly, i weld nad oedd y rhaglen a gafodd ei hoedi, pan gafodd ei chyhoeddi, yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y DU’n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac nid oes yn rhaid i ni fod yn gallu rhagweld beth fydd yn digwydd i gael cynllun. Mae hon yn rhaglen ysgafn—mae'n fyr o ran hyd ac mae'n disgyn yn fyr o ran ein disgwyliadau. Mae angen syniadau mawr, dewr ar Gymru yn awr, nid minimaliaeth. Mewn rhaglenni Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, rydym wedi cael ein llethu gan ystadegau a dangosyddion. Mae’r dangosyddion hynny wedi diflannu yn hytrach na chael eu gwneud yn fwy craff, ac yn hynny o beth, mae Plaid Cymru yn ystyried bod y Llywodraeth yn mynd yn ei hôl.
Rydym yn teimlo bod gan Blaid Cymru, fel y blaid dros Gymru, ddyletswydd i geisio gwella'r sefyllfa hon a sicrhau ein blaenoriaethau ein hunain yn lle hynny. Fel y nodwyd gan welliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, mae Plaid Cymru wedi cynhyrchu'r rhaglen gyntaf erioed o wrthwynebiad. Felly, yn hytrach na chwyno o'r cyrion, byddwn yn ceisio defnyddio'r sefyllfa hon i gael cymaint o'n cynigion polisi ar waith ag y gallwn.
Uwchben ein rhaglen bolisi lawn, mae gennym dri nod allweddol. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn Cymru rhag unrhyw ganlyniadau negyddol yn sgil Brexit. Mae’n rhaid i hynny fod yn ganolog i waith y Llywodraeth. Yn ail, mae'n rhaid i ni barhau â'r agenda o adeiladu cenedl. Bydd Cymru fwy hyderus, Cymru wedi’i grymuso a Chymru mwy unigryw yn parhau i fod yn flaenllaw yn yr holl bolisïau y bydd Plaid Cymru yn eu cyflwyno yn y sefyllfa Llywodraeth leiafrifol hon. Yn drydydd, rydym yn argymell ymagwedd Cymru-gyfan at wariant y Llywodraeth. Mae’n rhaid i fuddsoddiad a chyfleoedd gael eu lledaenu mor gyfartal â phosibl ledled y wlad. Un Gymru yw hon, ac mae gormod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u gadael ar ôl. P'un a yw anghydbwysedd o fewn Cymru yn fater o ffaith neu’n fater o ganfyddiad, mae’n rhaid rhoi sylw iddo.
Mae’n rhaid i lywodraethau Cymru, waeth beth yw eu lliw gwleidyddol, fod yn fwy ymroddedig nag erioed, i sicrhau nad yw gwasanaethau'n cael eu canoli i ffwrdd o ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae'n rhaid i addewidion tebyg i'r system dull metro ar gyfer y gogledd a'r cynigion rheilffordd trydan ar gyfer y Cymoedd gael eu gwireddu ar ôl eu cyhoeddi.
Lywydd, mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn debygol o fod angen cefnogaeth Plaid Cymru i basio. Ymddengys bod pob un o'r mesurau yn gyson â pholisïau Plaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y ddeddfwriaeth trethu a'r Bil undebau llafur, sydd ill dau yn feysydd y mae Plaid Cymru eisiau gweld cynnydd arnynt. Er ein bod yn croesawu cynnydd ar y ddeddfwriaeth, rydym yn parhau i fod yn siomedig â rhaglen y Llywodraeth, nad yw, ar ei ffurf bresennol, yn cyflawni'r uchelgais sydd ei hangen ar y wlad hon.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu atebion arloesol i'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'r heriau a wynebwn yn niferus ac amrywiol, yn enwedig y rhai a achosir gan y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf hefyd yn falch bod y Llywodraeth yn agored i syniadau newydd ac y byddant yn hapus i wrando ar bobl o bob un o'n cymunedau. Mae'r rhaglen lywodraethu yn cyfeirio'n berthnasol at bwysigrwydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, ac mae cwpl o bwyntiau yr hoffwn i weld rhywfaint mwy o fanylion arnynt yn hynny o beth.
Mae un yn ymwneud â’n targedau carbon, oherwydd yr unig darged sy'n gwbl gadarn ac yn y ddeddfwriaeth yw'r gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050, nad wyf yn credu sy’n sefyllfa gynaliadwy. Bydd hyd yn oed Aelod ieuengaf y Cynulliad, sef Steffan Lewis rwy’n meddwl, yn ystyried ei opsiynau ymddeol erbyn 2050, tra bydd y rhan fwyaf ohonom wedi hen fynd, dan y dywarchen ac yn sicr ddim mewn sefyllfa i fod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ar y pwynt hwnnw, ar y mater gwirioneddol bwysig hwn. Felly, rwyf wir eisiau pwyso ar y Llywodraeth i bennu rhai targedau interim, ac mae'n ymddangos yn briodol y dylid eu pennu ar gyfer 2021, oherwydd dyna raddau llawn ein mandad. Felly, mae angen i ni allu mesur pa mor dda yr ydym yn ei wneud ar hyn.
Fy nealltwriaeth i, o'r targedau a osodwyd yn 2010, yw bod y 3 y cant o leihad mewn allyriadau blynyddol ers 2011 flwyddyn ar ôl blwyddyn yn cael ei fodloni mewn meysydd datganoledig, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys faint o drydan sy'n cael ei ddefnyddio ar draws Cymru gan ein cartrefi a’n busnesau. Byddai'n dda gwybod ein bod ni mewn gwirioneddol yn bodloni’r targed penodol hwnnw, ond pa mor hyderus ydym ni ein bod yn mynd i fodloni’r ail darged oedd yn nogfen 2010, sef gostyngiad o 40 y cant mewn nwyon tŷ gwydr ym mhob sector erbyn 2020 o lefelau 1990? Fy nealltwriaeth i yw ein bod yn disgyn yn fyr iawn o'r targed hwnnw a bod ein hallyriadau wedi codi mewn gwirionedd rhwng 2011 a 2013—ac mae hyn yn bennaf, fel y deallaf, oherwydd newid o nwy i lo mewn cynhyrchu trydan oherwydd newidiadau ym mhrisiau tanwydd y byd. Y cyfan y mae hynny’n ei wneud yw tanlinellu pa mor bwysig yw hi i ni achub ar y cyfleoedd i fanteisio ar ein hadnoddau ynni adnewyddadwy helaeth, i’n diogelu ni yn erbyn y newidiadau bydol hynny mewn prisiau.
Rwy’n meddwl bod pethau hynny yn bethau yr hoffwn i weld llawer mwy o fanylion yn eu cylch, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Credaf fod Brexit yn amlwg yn creu heriau enfawr i ni yn y ffordd yr ydym yn mynd i ddatblygu dyfodol ffyniannus i amaethyddiaeth yng Nghymru. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Senedd yn gynharach heddiw, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gwbl bod y taliadau fferm yr ydym yn elwa arnynt ar hyn o bryd yn mynd i gael eu trosglwyddo o'r Trysorlys ar ôl 2020. Gan fod busnesau fferm yn dibynnu ar y taliadau fferm sylfaenol hynny ar gyfer 80 y cant o'u hincwm, ar gyfartaledd, gallai'r dyfodol yn wir fod yn hynod llwm ar gyfer ein sector amaethyddol.
Nawr, mae'r Brexiteers digyfaddawd, dan arweiniad cyn arweinydd UKIP, yn dweud nad oes angen i ni boeni am hynny, oherwydd gallwn ni fewnforio bwyd o dramor. Fy marn i yw bod honno’n agwedd gwbl drahaus, ac mae ansicrwydd y byd yr ydym yn byw ynddo a chyflymder newid yn yr hinsawdd yn golygu y gall ffynonellau o fwyd yr ydym ar hyn o bryd yn eu mewnforio sychu i fyny, yn llythrennol.
Mae ffigurau diweddaraf DEFRA yn dangos bod y DU yn mewnforio tua 40 y cant o'r bwyd yr ydym yn ei ddefnyddio. Nid wyf yn credu bod honno’n sefyllfa gynaliadwy. Mae naw deg pump y cant o'n ffrwythau yn dod o dramor a hanner ein llysiau yn cael eu mewnforio. Gallem, yn lle hynny, fod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd carbon isel er mwyn hyrwyddo diogelwch bwyd gwell yng Nghymru, a helpu llawer o'n cynhyrchwyr cig ungnwd i arallgyfeirio, gan nad oes gennym sicrwydd y gall y cig eidion a’r cig oen rhagorol a allforir heddiw barhau os byddwn yn gweld tariffau wedi’u gosod o ganlyniad i Brexit llym.
Mae datblygiadau technolegol mewn hydroponeg yn ei gwneud yn gwbl bosibl i fod yn tyfu ffrwythau a llysiau ym mhob rhan o Gymru, gan ddefnyddio hanner y dŵr sy'n ofynnol gan arddwriaeth draddodiadol a haneru'r amser tyfu. Felly, byddwn yn wir yn hoffi gweld mwy o bwyslais ar hynny yn y rhaglen lywodraethu, oherwydd credaf ei fod yn beth arbennig o bwysig, nid yn unig ar gyfer allyriadau carbon ond hefyd o safbwynt iechyd y cyhoedd. Hoffwn i weld sgwrs genedlaethol ar fwyd, oherwydd yn sicr iawn mae’n agenda ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn agenda economaidd ac iechyd.
Wrth ymateb i’r rhaglen lywodraethol a’r rhaglen ddeddfwriaethol, rydw i’n meddwl bod rhaid ategu pa mor anhapus neu anfodlon rwy’n teimlo ar hyn o bryd, gydag ymateb y Llywodraeth i’r sefyllfa sydd wedi deillio o’r penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n meddwl ei bod yn her go iawn, nid yn unig i’r Blaid Lafur ond i’r Senedd gyfan, ac mae’n her go iawn i’r broses ddatganoli. Achos oni bai ein bod ni’n rheoli’r broses yma mewn ffordd sy’n ymddangos yn ddiogel i’r cyhoedd, sy’n dangos bod buddiannau Cymru yn cael eu gosod yn gyntaf, o flaen buddiannau unrhyw blaid sy’n cael ei chynrychioli yn y Senedd hon, rwy’n credu bod pobl yn mynd i golli ffydd yn yr hyn rŷm ni’n gallu ei gyflawni fel Senedd ac fel Llywodraeth.
Mae’r ffaith bod y Llywodraeth, fel dywedodd Leanne Wood, ar ôl oedi dros yr haf er mwyn cyhoeddi rhaglen lywodraethol er mwyn delio â’r ffaith ein bod yn tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, wedyn yn cynhyrchu dogfen mor dila ac mor denau yn siomedig. Mae’n amlwg bod y Llywodraeth am osgoi unrhyw ymgais, fel yn yr un flaenorol, mae’n rhaid bod yn onest, i osod targedau pendant iawn a allai gael eu defnyddio’n wleidyddol yn eu herbyn nhw. Mae’n bosib eu bod nhw’n gwneud hynny oherwydd eu bod nhw’n teimlo’n ansicr, yn deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rydw i’n meddwl ei bod hi’n siomedig, serch hynny, nad yw effaith hynny yn llwyr wedi’i hadlewyrchu yn y ddogfen. Mae yna nifer o bethau, fel y dywedodd Leanne Wood, y byddwn i’n dymuno gweld y Llywodraeth yn ymateb yn llawer mwy positif iddyn nhw wrth fynd ymlaen.
I just want to ask a couple of key questions as well around the few facts and figures that are in this programme for government and what they actually mean. There’s a commitment to an investment of £100 million to drive up school standards, but it’s not clear whether this is an extra £100 million, or includes the already increasing pupil deprivation grant, and whether the cost of reducing infant class sizes, which is also a commitment, has been taken into account.
We are still to see more detail on the Government’s own proposals for a national infrastructure commission for Wales. Plaid Cymru launched our proposals yesterday. And I think the people of Wales—. If we’re not going to have a Welsh Development Agency for the twenty-first century—that doesn’t seem to find favour with this Government, but I think the people of Wales, nevertheless, do expect new and innovative ways of supporting business in order to meet the challenges of Brexit and the challenges that we face.
I think it’s a very thin programme for government on the environment. I would agree with what Jenny Rathbone has said, and I think losing sight of that 2020 target, even though we were going to miss it anyway, does mean that we’ve lost sight of aligning Government together with the environment Act and the future generations Act to really bear down on our greenhouse gas emissions, and really work to enhance biodiversity and local ecosystem services as well. There’s an opportunity, of course, with the decision to withdraw from the European Union, to align our agriculture and agri-environment schemes together, to get rid of some false distinctions that inevitably emerge when you’re dealing with a 28-country model, and to have something that’s more tailored for Wales. But in order to have that, we must be absolutely sure that we get two things from the Westminster Government. The first is that any environmental and fisheries legislation is transferred in the great repeal Act, which doesn’t seem to be repealing anything at the moment—but it is transferred to Wales, where appropriate, and we don’t see any land grabs from the Westminster Government on that. The second element, which I think we debated earlier today, is that we don’t see any fiscal grabs on the money that Wales has deserved and Wales should have as a result of the return of the contribution of the UK Government to the European Union. Because, as we know, our farming sector, which is the sector that protects our environment, and spends in our local economies, is responsible for something like nearly 10 per cent of the CAP expenditure of the United Kingdom. A Barnettised equivalent of that would be around 5 per cent, and we’d lose out enormously.
Having said that we support the legislative programme, I think there are two or three things that are missing here. Plaid Cymru’s very interested in using the new powers we get in the Wales Act to do a lot more as regards reducing waste: a ban on styrofoam, for example, which the French are doing; a ban on plastic forks; a tax on coffee cups. You name it, we can look at it now—we have innovative policies. I’m particularly interested that we should be at least piloting in this next Assembly a deposit-return scheme for Wales, and I really want us to get to a position where, instead of all the complaints, if you like, that we have sometimes with domestic waste, we turn to those who give us the waste in our system—those who sell us food and the products that we really need. It should not be the case in the long term, should it, that you can buy from a shop in Wales any item that is wrapped in something that cannot be recycled in Wales? That simply shouldn’t happen—with one or two rather extreme exceptions possibly. So, I think we really need to close that circle.
The other two Acts, if I can briefly mention them, that we’d be interested in bringing forward: one is an autism Act, and we’ll obviously support the additional learning needs Bill as it goes forward, but we’re looking at a wider autism Act over the period of this Assembly as well. And the final one, which of course has to be in a cross-party and parliamentary way, but is very much on the agenda for Plaid Cymru, is a Bill to deal with reasonable chastisement, as it’s termed—I prefer to say the equal treatment of children before the law, and we certainly will be holding the Government to account to ensure that the Assembly gets to vote on such a proposal in the next four years.
Mae'r rhaglen lywodraethu hon yn agor drwy fynd i'r afael ag anghenion Cymru ffyniannus a diogel. Her ganolog y pum mlynedd nesaf ar gyfer y Llywodraeth hon yw'r dasg o greu polisi economaidd newydd sy'n gweithio i Gymru yn y byd newydd yr ydym yn canfod ein hunain ynddo. Rydym yn ceisio llywio ein ffordd ar hyn o bryd trwy ddyfroedd dieithr. Nid ydym yn gwybod eto, unrhyw un ohonom, beth fydd Brexit yn ei olygu i fasnach, i fewnfudo, i swyddi. Ac yn amlwg bydd set o drafodaethau cymhleth iawn yn dylanwadu ar y math o berthynas sydd gennym ni â'r UE, ac, afraid dweud, mae sicrhau’r canlyniad cywir i Gymru yn hanfodol.
Ond mae mwy yn y fantol hyd yn oed na'r union setliad y mae Cymru yn ei gyflawni o ganlyniad i'r trafodaethau hynny. Yr her sylfaenol i ni yn awr yw gwneud i globaleiddio weithio ar gyfer y cymunedau sydd wedi’u siomi cymaint gan effeithiau’r union beth hynny. Ac ni all yr ateb i hynny fod i gau ein drysau a gobeithio y bydd yr heriau a wynebwn, marchnadoedd byd-eang, effeithiau technoleg a symudiad pobl o gwmpas y byd rywsut yn pasio heibio i ni, oherwydd ni fyddant yn gwneud hynny. Felly, rwy'n falch o weld, yn y rhaglen lywodraethu ac yn natganiadau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r Prif Weinidog, ymrwymiad clir i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru, ac i agor marchnadoedd allforio i gwmnïau o Gymru. Mae angen hefyd adeiladu gwydnwch ein heconomi domestig, er mwyn rhoi ar waith, i'r graddau y gall unrhyw Lywodraeth, yr amodau sy'n galluogi i’n cwmnïau bach ddod yn gwmnïau cadarn, canolig eu maint, i'w helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol ac i gefnogi eu marchnad lafur leol.
Felly, unwaith eto, rwy’n croesawu'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ar gyfer y cynllun cyflymu busnes a banc datblygu Cymru. Rwy’n croesawu'r ymrwymiad i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi manteision cymunedol. Ond byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth hefyd i beidio â cholli golwg ar y twf mewn hunangyflogaeth a microfusnesau, a fydd yn nodwedd gynyddol o'n heconomi, hyd yn oed tu hwnt i'r hyn ydyw heddiw, ac i weithredu’r ymyriadau polisi sydd eu hangen arnom i gefnogi hynny hefyd.
Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’i chlywed gan y Llywodraeth, gan y Gweinidog sgiliau ac eraill, bod yn rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi'i gyflawni wrth gael swyddi i bobl, gan ganolbwyntio yn awr ar gefnogi pobl i ddatblygu o fewn y gweithle. Man cychwyn yw cael swydd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr y gall y rheiny sydd mewn cyflogaeth ddatblygu, meithrin mwy o sgiliau ac ennill mwy. Ac rwy’n falch o weld bod polisïau yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â’r rhai yn ein cymunedau sydd bellaf oddi wrth y gweithle i mewn i waith. Rydym wedi cael llawer o lwyddiant gyda’n polisïau cymorth cyflogaeth, ond mae'n iawn ein bod ni’n dal i herio ein hunain i sicrhau bod y cymorth a ddarparwn yn diwallu anghenion newidiol ein heconomi a’n gweithlu.
Mae angen i ni feddwl yn eang am sut beth yw swydd dda. Mae swydd dda yn un sy'n cefnogi pobl i fyw a gweithio yn eu cymuned, os mai dyna beth y maent ei eisiau, i ofalu am eu teuluoedd ac i fod yn aelodau sy’n chwarae rhan lawn mewn cymuned wydn. Mae'r rhain hefyd yn agweddau hanfodol ar gymdeithas dda. Felly, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi prosiectau a gyflwynir ar lefel gymunedol, prosiectau i hyrwyddo datblygu sgiliau, creu swyddi, entrepreneuriaeth, ynni cymunedol, cludiant gwledig a mynediad at fand eang. A gadewch i ni beidio ag anghofio y gall ein partneriaid yn y sector gwirfoddol fod yn gynghreiriaid ar gyfer creu'r math o gymunedau yr ydym yn dymuno eu cael, sef cymunedau gwydn, wedi’u hadfywio. Felly, bydd hynny’n golygu her ac ymrwymiad ar y ddwy ochr.
Un o'r heriau mawr sy'n ein hwynebu heddiw yw sut i ailgynllunio'r gefnogaeth a roddwn i gymunedau difreintiedig pan na fyddwn mwyach yn cael mynediad at gronfeydd strwythurol. Mae'n ddyddiau cynnar iawn ar y ar hyn o bryd, wrth gwrs, ond bydd angen system o gymorth arnom ni sy'n hyblyg, nid yn anhyblyg, sy’n rhan o strategaeth ar gyfer Cymru gyfan gyda blaenoriaethau clir ond wedi’u teilwra’n ddeallus i anghenion lleol hefyd.
Felly, yn olaf, croesawaf gydnabyddiaeth y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu y bydd ein huchelgeisiau yn cael eu ffurfio gan yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n rhestru cyni parhaus, ymadawiad y DU o'r UE, globaleiddio, arloesi technolegol, newid yn yr hinsawdd a phoblogaeth sy'n heneiddio—i gyd yn wir, a byddwn yn ychwanegu at yr her honno, yr her o gynnwys y cyhoedd yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud. Mae honno’n her fawr, ond rydym yn genedl fach a dyna sut y dylem fod yn mynd o gwmpas ein holl waith. Felly, rwy'n falch bod mentrau megis tasglu’r Cymoedd wedi rhoi’r nod o ymgysylltu â chymunedau yn rhan greiddiol o’u gwaith mewn ffordd sylfaenol iawn. Gobeithiaf mai hwn fydd yr egwyddor ar gyfer sut yr ydym yn cyflwyno'r rhaglen lywodraethu hon yn gyffredinol.
I mi, mae’r rhan bwysicaf o'r ddogfen hon mewn gwirionedd ar y dudalen olaf, a’r paragraff 'Bwrw ati i Gyflawni’. Nawr, rwy’n gwybod bod Aelodau eraill, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wedi beirniadu hyd y ddogfen hon, ond, i fod yn onest, byddai'n well gen i weld ychydig o dargedau yn cael eu bodloni na llawer o dargedau yn cael eu colli. Felly, mae cyflwyno yn allweddol yma— [Torri ar draws.] Bendith. [Chwerthin.]
Rydym yn gwybod yn awr bod yr uned gyflenwi wedi mynd i ddifancoll, neu, o leiaf, wedi trawsffurfio i ffurf aneglur newydd nad ydym yn ymwybodol ohono eto. Nid wyf yn poeni’n arbennig am hynny—cafodd ei feirniadu ddigon gennym—ond wrth gwrs, mae angen i ni weld mecanweithiau newydd ar waith i sicrhau bod darpariaeth yn digwydd. Ac, wrth gwrs, mae angen canolbwynt di-baid ar ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. Byddech chi wedi gobeithio y byddai hynny wedi bod yno beth bynnag ac y byddai’n amlwg, ond yna nid yw pethau bob amser mor amlwg ag y byddai pobl yn ei feddwl. Ond rwy'n credu, yn sicr, bod y canolbwyntio ar ysgogi gwelliant yn allweddol.
Rwy'n meddwl mai’r pryder sydd gennym yn y fan hon yw ein bod yn amlwg wedi bod yn aros am amser hir i’r cyflawni ddechrau mewn nifer o feysydd. Nid ydym wedi bod yn dal ein hanadl, yn sicr nid ar yr ochr hon i'r Siambr. Gadewch imi fod yn glir, ceir cynigion yn hwn, Brif Weinidog, sydd â photensial gwirioneddol: banc datblygu, ar ba bynnag ffurf y byddwch yn penderfynu—yn sicr mae gan fanc datblygu lawer o botensial, hyd yn oed yn fwy pwysig gyda chanlyniadau'r refferendwm y mae Aelodau eraill wedi’u crybwyll, a'r angen i gefnogi seilwaith a'r economi; gwelliant mewn caffael yn y sector cyhoeddus —wel, nid yw hynny'n rhywbeth y byddech yn dadlau ag ef: rydym ni i gyd wedi cynnal dadleuon dros yr ychydig fisoedd diwethaf lle rydym wedi siarad am yr angen i wella caffael ar draws Cymru; ac, wrth gwrs, datblygiad y metro, ac, ydi, mae datblygiad metro’r gogledd yn sicr yn uchelgais. Ond rwy'n credu bod angen i ni ar hyn o bryd ganolbwyntio ein hadnoddau a’n meddyliau ar gael metro de Cymru i gychwyn yn dda a pheidio â chaniatáu i gymryd cam yn ôl.
Felly, mae nifer o elfennau a fydd yn denu cefnogaeth drawsbleidiol, ond y cwestiwn yw: a all y cyhoedd fod yn hyderus, dros y pum mlynedd nesaf, y byddant mewn gwirionedd yn gweld y pethau hyn yn cael eu cyflawni a, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud adroddiad ar hyn i gyd ar ddiwedd y pumed Cynulliad, y bydd uchelgeisiau’r ddogfen hon, os gall rhywun eu galw yn hynny, wedi eu gwireddu? Nid wyf yn credu bod pendantrwydd ar gyfer hynny ar hyn o bryd.
Os caf i droi at ran arall o'r ddadl hon, y rhaglen ddeddfwriaethol, wedi’i chyfuno â’r rhaglen lywodraethu am y tro cyntaf—rydych wedi arbed UKIP rhag gwrthod cymryd rhan mewn o leiaf un drafodaeth. [Chwerthin.] Gwnaethoch nodi yn eich datganiad ar 27 Medi bod y mater o drethiant yn allweddol, ac rydych yn iawn i wneud hynny. Yn benodol, soniasoch yn eich datganiad am y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi ac mae hyn yn wir yn dir newydd iawn ar gyfer y sefydliad hwn. Mae'r rhain yn feysydd y mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn benodol arnynt ar hyn o bryd, a bydd pwyllgorau eraill yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn amlwg yn waith ar y gweill, ond mae'n amlwg i bob un ohonom ei bod yn hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn. Mae hyn yn dir newydd: y tro cyntaf y mae Cymru wedi codi ei threthi ei hun mewn 800 mlynedd—credaf mai dyna’r ffigur a grybwyllwyd gan y Prif Weinidog. Nid yw’r cyhoedd ond yn dechrau dod yn ymwybodol o'r datblygiad hwn ac mae'n rhywbeth y byddant yn awyddus i gael hyder ynddo wrth i'r broses fynd yn ei blaen.
Nid oedd y rhaglen lywodraethu yn dweud llawer am y ffordd y gellir defnyddio trethi newydd i ysgogi'r economi. Rwy'n siŵr mai dyna’r syniad y tu ôl iddynt. Soniodd Simon Thomas am hyn yn ei sylwadau cynharach. Felly, mae'n un peth i ddatganoli trethi, ond mae angen i ni gael ychydig mwy o gig ar yr esgyrn o ran sut y mae trethi yn mynd i gael eu defnyddio i ysgogi'r economi. Rwy’n credu bod ychydig bach yn y rhaglen am y defnydd o, o leiaf yr wyf yn tybio ei fod, ardrethi busnes a chael trefn drethu decach ar gyfer cwmnïau, ond nid yw'n glir. Felly, rydym yn edrych ymlaen at fwy o eglurder ar hynny.
Mae hon yn ddadl sy'n ymuno â'r rhaglen lywodraethu a’r datganiad deddfwriaethol, Brif Weinidog. Mae’n rhaid i mi ddweud, er bod honno’n nod aruchel, nid yw'n ymddangos i mi bod y ddau yn gweithio yn gyfan gwbl efo’i gilydd ar hyn o bryd. Rydym yn aml yn sôn am yr angen i gysylltu canlyniadau â'r egni yr ydym yn ei roi i mewn ar y dechrau, ac rwy'n credu bod rhai bylchau o hyd o ran sut y bydd rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn cyd-fynd â'r hyn y mae rhaglen y llywodraeth yn ei ddatgan a'r canlyniadau hynny yr ydych wedi’u datgan. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn waith ar y gweill, Brif Weinidog. I gloi, ceir rhai syniadau da, dim digon cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, ond gadewch i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd yno yn digwydd a'n bod yn gweld y gwelliannau i'r economi a’r gwasanaethau cyhoeddus erbyn diwedd 20 mlynedd—sef ymhen dwy flynedd—o ddatganoli y byddem i gyd yn dymuno eu gweld.
Brif Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi bod yn eithaf clir bod gweithrediad effeithiol y Deddfau a basiwyd yn y Cynulliad diwethaf, yn ogystal â datblygu deddfwriaeth newydd yn nhymor y Cynulliad hwn ymysg y blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac, yn wir, blaenoriaethau deddfwriaethol. Rwy’n meddwl, ym marn llawer o bobl, mai un o prif ddarnau o ddeddfwriaeth y Cynulliad diwethaf oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae llawer iawn o ddisgwyliad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno—ac yn gwbl haeddiannol, rwy’n credu—oherwydd ein bod ni i gyd yn cytuno, neu bron bob un ohonom yn cytuno, y gallai ac y dylai fod yn drawsffurfiol o ran meddwl am ddatblygu cynaliadwy a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r egwyddorion hynny ac yn trawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yng Nghymru.
Felly, mae llawer iawn o ddiddordeb yn y Ddeddf a sut y bydd y Ddeddf yn cael ei datblygu. Rwy’n meddwl, yn amlwg, y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod ychydig yn amyneddgar i weld sut y mae hynny'n mynd rhagddo, ond nid yn rhy amyneddgar, efallai. Mae rhywfaint o'r diddordeb ymhlith cyrff allanol ar hyn o bryd ynghylch gofynion y Ddeddf o safbwynt Llywodraeth Cymru a phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion o dan y ddeddfwriaeth, o ran cyhoeddi'r amcanion lles a’r datganiad yn esbonio sut y maent yn cysylltu â'r nodau, ac, yn wir, sut y mae'r rhaglen lywodraethu, y gyllideb, y pedair strategaeth i ddatblygu’r rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd gennych yn ddiweddar, Brif Weinidog, ynghyd â'r amcanion a datganiadau lles hynny, sut y bydd pob un o'r rheiny yn cysylltu â'i gilydd, fel y bydd pawb yng Nghymru a thu hwnt yn gallu bod yn gwbl glir ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth ohoni, a hynny mewn modd amserol. Felly, byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch hynny, Brif Weinidog.
Y ddeddfwriaeth arall yr hoffwn i sôn amdani yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oedd unwaith eto, rwy’n meddwl, â phroffil haeddiannol o uchel o ran y Deddfau a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad. Mae'n bwysig iawn ar gyfer iechyd, ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer trafnidiaeth integredig, yr economi ac, yn wir, ansawdd bywyd yn gyffredinol. Felly, mae sut y bydd awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â'u dyletswyddau o ran y mapiau llwybrau presennol a’r mapiau llwybrau integredig, hybu teithio llesol, gwelliant parhaus, a sut y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i greu'r seilwaith a’r llwybrau beicio llawer gwell a fydd yn wir yn gyrru newid moddol mewn ymddygiad pobl, rwy’n meddwl, yn gwbl hanfodol. Felly, pe gallech ddweud ychydig, Brif Weinidog, wrth ymateb, am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu'n effeithiol, rwy'n credu, unwaith eto, y byddai llawer iawn o ddiddordeb y tu hwnt i’r Siambr hon yn hynny.
Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am y ffordd y mae'r ddadl wedi symud ymlaen heddiw? Roedd llawer o gwestiynau, wrth gwrs, a bydd llawer ohonynt yn cael eu hateb yn ystod tymor y Llywodraeth hon yn y swydd.
A gaf i ddechrau gyda Brexit? Realiti'r sefyllfa yw nad oes neb yn gwybod sut y bydd y model yn edrych; mae'n anodd cynllunio heb wybod beth y gallai'r meini prawf fod. I mi, mae'n gwbl hanfodol nad oes unrhyw dariffau sy'n ymwneud â thelerau masnach rhwng y DU a'r UE. Os oes tariffau, yna bydd y sefyllfa yn anodd iawn; does dim dianc rhag hynny, ac nid yw er lles Cymru i hynny ddigwydd. Heb dariffau, rwy’n credu y gallwn barhau i gynnal ein sefyllfa a dweud bod Cymru yn lle i fuddsoddi ynddi oherwydd ei bod yn darparu porth i'r farchnad Ewropeaidd. Y realiti yw nad yw’r Alban mewn sefyllfa ddim gwahanol—nid yw wedi mynd ddim pellach nag yr ydym ni—ond mae teilyngdod, fodd bynnag, rwy’n credu, i ni, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gibraltar ac Ynys Manaw—am ei bod yn colli ei hundeb tollau â'r UE—chwilio am dir cyffredin a defnyddio'r tir cyffredin hwnnw i ddatblygu safbwynt i’w chymryd gyda Llywodraeth y DU, wrth i Lywodraeth y DU edrych ar Brexit. Ni welaf unrhyw anhawster o wneud hynny mewn egwyddor.
Gallaf ddweud fy mod yn croesawu rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud heddiw, sef darparu mwy o eglurder o ran cyllid Ewropeaidd. Cyhoeddodd y Canghellor ddoe bod prosiectau a ariennir gan Ewrop a lofnodwyd ar ôl datganiad yr hydref, ond cyn i'r DU adael yr UE, yn parhau i gael eu hariannu—cam ymhellach nag oedd yn wir o'r blaen. Ac rydym wedi cael cadarnhad heddiw nad oes unrhyw gwestiwn bod Llywodraeth y DU yn cael unrhyw reolaeth dros gyllid Ewropeaidd yng Nghymru, yn unol â'r setliad datganoli, ac rwy’n dyfynnu:
‘Mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu ar yr amodau a ddefnyddir i asesu prosiectau o fewn eich cymhwysedd datganoledig.’
Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi symud oddi wrth unrhyw awgrym y dylai reoli cyllid Ewropeaidd yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cymryd sylw o hynny, oherwydd gwn fod ei safbwynt wedi bod yn wahanol iawn i'r un yr wyf i newydd ei hamlinellu gan y Trysorlys. Rwy'n edrych ymlaen at yr hyn a ddywed yn y 24 awr nesaf ar hynny.
Mae'n sôn am TB buchol. Bydd hynny'n fater y byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag ef. Rydym yn gwybod bod hynny'n flaenoriaeth i ffermwyr yng Nghymru, a gwyddom fod nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu profi wedi cynyddu. O ganlyniad, mae mwy o TB yn cael ei ganfod, ond nid yw’r clefyd yn sicr, mor gyffredin ag yr oedd unwaith.
O ran tai fforddiadwy, byddwn yn mynd ati mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd i gyflawni o ran tai fforddiadwy. Bydd rhai ohonynt yn dai cymdeithasol—mae hynny'n wir—ond fe fydd yna bobl sydd eisiau prynu tai ac mae amryw o wahanol fodelau y gellir eu defnyddio ar gyfer hynny. Gwyddom, mewn rhai rhannau o Gymru wledig, nad yw'r ffaith bod pob tŷ ar y farchnad agored o fudd i bobl leol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo.
Mae'r SCCC wedi ei godi. Bydd y Gweinidog yn edrych i fynd i'r afael â hynny yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, gan wneud penderfyniad o leiaf erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
O ran targedau addysg, rydym yn gweld—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar i chi am roi eglurder y bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud datganiad a gobeithio yn rhoi eglurder ar ganolfan gofal critigol erbyn diwedd y flwyddyn hon. Ond, ai eich gobaith chi fyddai y bydd y gwaith adeiladu, o leiaf, wedi dechrau ar y ganolfan gofal critigol erbyn 2021, diwedd eich mandad, neu a allwch chi weld problemau gwirioneddol wrth symud ymlaen ar y mater penodol hwnnw?
Mae'r achos busnes yn dal i gael ei asesu, ond rydym yn deall bod angen moderneiddio ac uwchraddio cyfleusterau yng Ngwent, yn ardal Aneurin Bevan. Mae hynny'n rhywbeth y mae’r Gweinidog yn gwbl ymwybodol ohono, ond mae angen gwneud yn siŵr bod y prosiect, wrth gwrs, yn gadarn o safbwynt ariannol, y gall symud ymlaen, a sicrhau bod yr amgylchiadau yn bodoli lle y gall hynny ddigwydd. Dyna'r amcan.
O ran addysg, rydym yn gweld mwy a mwy o welliannau mewn TGAU. Soniodd am Lefel O; dwi'n synnu ei fod yn gallu eu cofio nhw—rwyf innau’n eu cofio, rwy’n gwybod hynny. Rydym yn hapus â'r ffordd y mae canlyniadau TGAU yn gwella ledled Cymru; rydym yn disgwyl i hynny barhau. Mae'n sôn am fanylion; os ydych chi’n dymuno gweld manylion, edrychwch ar ein maniffesto. Yn hwnnw fe welwch yr awgrymiadau yr ydym wedi’u rhoi gerbron pobl Cymru, a byddwn yn cadw atynt.
O ran yr hyn a ddywedwyd gan ddau siaradwr Plaid Cymru—mae amser yn brin gallaf weld, Lywydd. Wel, rydym yn gwybod ei fod yn hynod o bwysig: mae hi a minnau ar union yr un dudalen ac nid ydym yn dymuno gweld pwerau yn cael eu dwyn ymaith o'r lle hwn a’u cymryd i San Steffan. Nid ydym yn gweld hynny yn awr gyda chyllid Ewropeaidd a chroesawaf hynny, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinydd yr wrthblaid ar gynigion deddfwriaethol. Rydym yn gwbl ymwybodol, o ystyried rhifyddeg y lle hwn, bod yn rhaid i unrhyw gynigion gael cefnogaeth ar draws y Siambr, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar hynny.
O ran rhai o'r materion a gododd Simon Thomas, mae dau fater yno i fynd i'r afael â nhw yn gyflym iawn. O ran comisiwn seilwaith cenedlaethol, bydd yn gwybod fy mod yn gwrthwynebu cwangos. Mae'n arbennig o anodd, rwy’n meddwl, i wario degau o filiynau ar gwangos pan ellid defnyddio’r arian hwnnw yn well mewn mannau eraill. Mae angen archwilio hynny’n ofalus iawn, iawn. Hefyd, wrth gwrs, gwelais y cynigion heddiw a gyflwynwyd—fe’u darllenais gyda diddordeb—gan Adam Price, ond byddai'n golygu ymrwymiad refeniw o £700 miliwn y flwyddyn o gyllideb refeniw'r Cynulliad, sy'n swm nid ansylweddol pe byddai’r cynigion hynny yn cael eu dwyn ymlaen.
Ar wastraff, mae hyn yn broblem go iawn. Gellir ymdrin â sgil-gynhyrchion gwastraff gan eu bod yng Nghymru, ond o ran pecynnu, wrth gwrs, sut ydych chi'n monitro hynny? Gallwch ei wneud mewn siopau. Mae'n fwy anodd o lawer pan fod pobl yn prynu pethau o dramor. Felly, rwy’n cytuno ag ef bod lleihau gwastraff fel y mae’n cyrraedd Cymru yn fater eithriadol o bwysig, ond mae delio ag ef wedi bod yn fwy anodd. Wrth gwrs, unwaith y mae yma’n barod, rydym yn mynd i’r afael ag ef, ac rydym wedi gweld ein ffigyrau ailgylchu yn gwella. Clywais yr hyn a ddywedodd am y Ddeddf awtistiaeth a symud ymlaen o ran cosb resymol.
Os gallaf droi at yr hyn a ddywedodd fy nghydweithiwr, Jenny Rathbone. Mae lleihau allyriadau yn bwysig i ni. Rwyf eisoes wedi crybwyll y targed erbyn 2050. Rwyf yn gobeithio bod yma. Ddim yn y swydd hon—fe glywsoch chi hynny yma gyntaf—ond yn sicr yn fyw yn 2050. Felly, mae'n debyg, ar y pwynt hwnnw, y gofynnir fy marn arno, yn ddiau, os ydw i'n gallu rhoi barn o'r fath. O ran bwyd, ni fydd Prydain byth yn hunangynhaliol o ran bwyd. Dysgodd y rhyfel hynny i ni. Mae pum deg pedwar y cant o'r bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael ei gynhyrchu yn y DU. Oherwydd ein topograffi a lle rydym yn byw ar y byd, nid yw'n bosibl cynhyrchu llawer o lysiau a ffrwythau heb ddefnyddio rhai dulliau eithaf dwys o ran ynni. Mae'n wir bod Gwlad yr Iâ yn cynhyrchu tomatos—mae ganddi ynni geothermol. Pe byddem ni’n mynd i lawr yr un llwybr, byddai llawer o ynni yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r ffrwythau a’r llysiau hynny. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar sut y mae hynny’n cyd-fynd â’r angen i leihau allyriadau yn fyd-eang.
Yn gyflym iawn, iawn, oherwydd gallaf weld bod yr amser yn rhedeg allan. Clywais yr hyn a oedd gan Nick Ramsay i'w ddweud. Mae’n rhaid i mi ddweud wrth gwrs bod heriau wrth roi deddfwriaeth trethiant cadarn ar waith a honno hefyd yn ddeddfwriaeth deg. Rydym yn barod am y dasg honno. Mae'n drueni mawr nad yw’r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli. Nid wyf yn dal i ddeall pam y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ei gweld yn dda i amddiffyn buddiannau meysydd awyr y tu allan i Gymru ac nid maes awyr yn ei etholaeth ei hun, dyna eironi mawr. Nid oes dim rheswm wedi ei roi ynghylch pam na ddylai’r doll teithwyr awyr gael ei datganoli, heblaw am y ffaith ei bod wedi cael ei rhoi i'r Alban, a oedd yn gamgymeriad ac felly ni ddylai Cymru ei chael. Dyna lefel y ddadl a gawsom yn y cyswllt hwnnw.
Yn olaf, fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths. Mae'n hollol wir; rydym yn symud ymlaen yr hydref hwn gan ddatblygu nodau ymhellach o ran rhoi mwy o gig ar yr esgyrn—rydym yn deall hynny. Mae'r Ddeddf teithio llesol yn hanfodol bwysig. Fel un a oedd ar ffordd genedlaethol 4 ddydd Sul, ar fy meic fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i wneud yn siŵr bod beicio yn cael ei weld fwyfwy fel dull o deithio yn ogystal ag fel ffurf o hamdden iach. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i’n hawdurdodau lleol, wrth fynd i'r afael â'r Ddeddf teithio llesol, sicrhau bod mwy o lwybrau beicio a llwybrau beicio mwy diogel ar gael fel y gall pobl deithio i'r gwaith. Rydym yn gwybod bod llawer iawn o feicwyr achlysurol nad ydynt am gymysgu â cheir ar y ffyrdd, ac mae angen iddynt gael y cyfleusterau i’w gwahanu oddi wrth geir er mwyn iddynt gael teithio i’r gwaith yn ddiogel.
Rwyf dros saith munud, Lywydd. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r rhan fwyaf o'r materion a godwyd. Wrth gwrs, rwy’n llwyr ddeall, gyda'r rhaglen wedi ei rhoi gerbron y Cynulliad, ei fod yn fater i ni fel Llywodraeth i’w chyflawni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. [Torri ar draws.]
Oh, I didn’t hear. It was heard, was it? Yes. It was heard by others, not by me. So, consider it heard.
Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Rŷm ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rwyf yn symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.