6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol

– Senedd Cymru ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:27, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl Plaid Cymru ar lywodraeth leol. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig y cynnig. Sian.

Cynnig NDM6121 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.

2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn ‘wan ac anghyson’, ac wedi’u nodweddu gan ‘ddiffyg uchelgais’, fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio’r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:27, 19 Hydref 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn ganolog i genedl y Cymry. Dyma’r glud sydd yn clymu ein cymdeithas ynghyd. Mae Plaid Cymru wastad wedi sefyll dros wasanaethau cyhoeddus, dros y bobl sy’n eu cyflwyno, a dros y cymunedau a’r aelwydydd sy’n eu derbyn. Mae’r sector cyhoeddus yn bartner hanfodol i’r sector preifat i wneud Cymru yn genedl fwy ffyniannus, teg a chynaliadwy. Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn sylfaen i lwyddiant y sector preifat, o addysg a sgiliau i ddarparu cludiant cyhoeddus, seilwaith a chyfleon am waith yn sgil polisïau caffael cadarn. Mae llwyddiant neu fethiant gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn allweddol o ran pennu cynnydd y genedl Gymreig, ond mae dyfodol y gwasanaethau hynny mewn perygl sylweddol a difrifol. Ni fedrwn orbwysleisio difrifoldeb her llymder ar adeg pan fo demograffeg yn newid.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol ac eraill wedi rhagweld y bydd y galw am wasanaethau iechyd yn parhau i gymryd cyfran gynyddol o gyllidebau Cymru yn y dyfodol, a fydd yn gosod straen enfawr ar y cyllid sydd ar gael i lywodraeth leol yn benodol. Mae her benodol hefyd yn wynebu Cymru o ran sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar lefelau priodol i leihau cymhlethdod ac i sicrhau gwell democratiaeth, craffu a chydweithrediad. Mae ein cynnig ni heddiw yn canolbwyntio ar yr elfennau hollbwysig pan yn edrych ar ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau y bydd yn gwasanaethu ein cymunedau ni yn effeithiol i’r dyfodol.

Rwyf am edrych yn gyntaf ar ostwng yr oedran pleidleisio i 16. Yr ieuengaf y gallwn ddenu diddordeb pobl ifanc a phlant mewn gwleidyddiaeth, y gorau. Gall cynnig y cyfle i bobl ifanc bleidleisio yn 16 oed ennyn diddordeb pobl ifanc yn yr ysgol a thu hwnt. Os nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses etholiadol, mae perig i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol ganolbwyntio eu neges ar anghenion pobl hŷn. Ac, fel rydym ni wedi ei weld nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf, gwasanaethau ieuenctid sydd yn aml yn cael eu torri yn gyntaf.

O edrych ar ddiwygio trefniadau etholiadol, mae’n amlwg bod pobl wedi colli hyder mewn gwleidyddiaeth. Yn etholiadau lleol 2012, dim ond 39 y cant wnaeth fynd allan i bleidleisio. Ac, yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, dim ond 45 y cant, ac roedd hynny yn uchel—y gyfradd uchaf ers 1999, sydd yn broblem ynddi ei hun.

Mae yna lawer o resymau dros hyn, yn amlwg, ond un ohonyn nhw yn sicr ydy’r ffaith bod nifer o bobl yn dewis peidio â phleidleisio mewn rhai ardaloedd, oherwydd mae’r un rhai sydd yn ennill bob tro. Faint o weithiau ydym ni wedi clywed hynny? Ac yn enwedig yn y wardiau cyngor sydd ddim yn cael eu herio gan unrhyw blaid arall—99 yn etholiadau lleol 2012, sef dros 8 y cant o gyfanswm y seddau.

Rhai enghreifftiau: yn Sgeti, yn Abertawe, mi enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol yr holl seddi, er iddyn nhw ond ennill 37.4 y cant o’r bleidlais. Enillodd y Blaid Lafur 29 y cant, a’r Ceidwadwyr 20 y cant, ond methu ag ennill unrhyw sedd. Ac, yn y system bresennol, gall pleidiau sydd yn gorffen yn drydydd fynd yn eu blaen i ennill y rhan fwyaf o’r seddi. Yng Nghaerdydd, yn 2008, fe ddaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf yn ôl nifer o seddi, ond yn drydydd yn ôl nifer y pleidleisiau.

Mae system etholiadol newydd yn angenrheidiol er mwyn codi hyder pobl yn ôl mewn gwleidyddiaeth. A’n polisi hir sefydlog ni ym Mhlaid Cymru ydy cyflwyno system STV—pleidlais sengl drosglwyddadwy—er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol. Pan gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002, dywedwyd mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran y system etholiadol lleol, ac roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith system etholiadol arall.

Ac, yn fy marn i, cyflwyniad STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol, ac mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau y boblogaeth. Mae’r Llywodraeth yma wedi cael y cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol, ond nid ydy hynny wedi digwydd.

Ond mae hi yn bwysig nodi nad pwynt pleidiol ydy hwn, oherwydd mae’r holl bleidiau gwleidyddol wedi elwa yn anghymesur o’r system ‘first past the post’. Y cwestiwn ydy: a ydym ni am dderbyn annhegwch y broses? Ac, fel cenedl, os ydym ni wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna ddylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, bod pob pleidlais yn gyfartal. Nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae felly angen gwneud newid cadarnhaol er budd democratiaeth ein cenedl.

Gair am yr elfen ranbarthol yn ein cynnig ni: fel unrhyw genedl, mae ar Gymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynus ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni ydy esblygu graddol, gan ddefnyddio’r strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel rhanbarthau a chymuned. Ac mi fydd eraill o dîm y Blaid yn ehangu ar hyn ac ar agweddau eraill o’r cynnig.

O ran y gwelliannau, mi fyddwn ni yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau’r Ceidwadwyr, yn amlwg, oherwydd maen nhw’n dileu ein pwyntiau ni. Nid ydym ni’n anghytuno efo’ch gwelliant cyntaf chi, ac, yn wir, dyma un o’r prif ffactorau sydd angen ei gysidro wrth edrych ar y ffordd y bydd llywodraeth leol yn cael ei chyllido yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw cymunedau gwledig dan anfantais anghymesur.

Efo’r ail welliant, ynglŷn â thryloywder, er bod tryloywder, wrth gwrs, yn hynod bwysig er mwyn craffu ar wariant arian y trethdalwyr, nid ydy tryloywder yn ei hun yn mynd i reoli cyflogau, nac yn mynd i greu fframwaith genedlaethol.

Ac, o ran gwelliannau Llafur, buaswn i’n hoffi mwy o eglurhad am beth yn union y mae’r Llywodraeth yn ei feddwl, yn ymarferol, efo’r geiriau sydd ym mhwynt (a), sef

‘cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol’.

Rŵan, nid wyf yn gwybod yn union beth mae hynny’n ei feddwl. A ydych chi’n cytuno efo’r angen i gyflwyno newid yn y system etholiadol neu beidio? Efallai cawn ni fwy o eglurder ar hynny. Mi fydd aelodau eraill y tîm yn ehangu ar agweddau eraill y cynnig. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:35, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) archwilio’r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy’n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru; a

(b) gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:35, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a diolch i Sian Gwenllian am ei haraith agoriadol ar y ddadl ynglŷn â llywodraeth leol—dadl sy’n agos iawn at ein calonnau yma ar feinciau’r Ceidwadwyr Cymreig, gan ei bod yn glir o’r argymhellion ynghylch awdurdodau cyfunol rhanbarthol, a gyflwynwyd, wrth gwrs, gan faniffesto Plaid Cymru, ac yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwygio llywodraeth leol yn gynharach y mis hwn, fod hwn yn un o’r meysydd dirgel hynny lle mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi taro bargen. Ac mae’n rhaid i mi ddweud ein bod yn siomedig na fu’r prosesau hyn yn fwy agored, ac yn wir, yn fwy tryloyw, yn enwedig o ystyried y galwadau a fu am gyflwyno’r dull newydd o ddiwygio llywodraeth leol ar draws y Siambr ar sail fwy trawsbleidiol—fodd bynnag. Ac mae’n hanfodol cofio, yn y Siambr hon, ac yn y swyddfeydd cefn i fyny’r grisiau ar y pumed llawr, ein bod i gyd, beth bynnag yw ein lliwiau gwleidyddol, yn atebol i bobl Cymru—i’r etholwyr. Ar eu cyfer hwy rydym yn ceisio diogelu a gwella gwasanaethau, ac arnynt hwy y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ceisio gweithio gyda’i gilydd yn awr i gyflawni amcanion maniffesto gwleidyddol Plaid Cymru. Ond nid strwythurau cymhleth llywodraeth leol sy’n bwysig i’n teuluoedd gweithgar, ond y sicrwydd o wybod y bydd gwasanaethau’n cael eu gwella ac y byddant yn cael eu darparu mewn modd effeithlon a chosteffeithiol.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai yn lleol y mae darparu gwasanaethau cyhoeddus orau fel y gall trethdalwyr ddwyn cynrychiolwyr lleol i gyfrif am yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned. Yn wir, mae Paul Williams, comisiwn Williams, ei hun wedi tynnu sylw at nifer o bryderon ynglŷn â chronni sofraniaeth gan gynghorau i ffurfio consortia rhanbarthol ac mae’n ei ddisgrifio fel rhywbeth ‘anodd iawn’. Nawr, i gyfiawnhau’r costau ychwanegol hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, sut rydych yn rhagweld bod awdurdodau cyfunol rhanbarthol yn ymwneud yn ddemocrataidd â’r etholwyr ac yn atebol iddynt? Ar ôl gwario dros £130,000 ar gomisiwn Williams, a £434,000 pellach ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru y llynedd, roedd cost cynlluniau diwygio llywodraeth leol ac adolygiadau etholiadol yng Nghymru i’r trethdalwr ymhell dros £0.5 miliwn, ac nid ydym yn nes at weld unrhyw newidiadau ystyrlon. Yn lle hynny, mae gennym ffolineb—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Mike.

[Yn parhau.]—adroddiadau drud yn cael eu bwrw heibio, Biliau llywodraeth leol drafft, yn llenwi biniau papur gwastraff y Llywodraeth Lafur ddiweddaraf. Dyn a ŵyr faint yw’r costau llawn sy’n gysylltiedig â’r broses honno, y cyflwynasom gwestiynau i’w hateb yn ei chylch wrth gwrs. Unwaith eto, mae Paul Williams wedi sôn am ei siom, ers cyhoeddi’r adroddiad bron i dair blynedd yn ôl yn galw am ddiwygio mawr ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus, nid oes dim—dim—wedi digwydd. Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn petruso rhag ei ddweud. Rydym bob amser wedi bod yn gryf ac rydym bob amser wedi bod yn glir. Byddem yn cynnal refferenda i sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i unrhyw gamau mawr i uno llywodraeth leol. Byddem yn sicrhau ein bod yn gwbl agored ac yn atebol ar bob lefel o lywodraeth, a byddem yn cyhoeddi’r holl wariant awdurdodau lleol, fel cyngor Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig, y nododd Swyddfa Archwilio Cymru fod ganddo drefniadau llywodraethu ariannol effeithiol, ac rwy’n gobeithio gweld mwy o gynghorau dan arweiniad y Ceidwadwyr ar ôl mis Mai nesaf.

Mae’n gwbl amlwg nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno mynd yn groes i’w gynghorwyr Llafur ei hun mor gynnar yn ei rôl bortffolio newydd. A phwy allai ei feio, o ystyried diwedd ei ragflaenydd, a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod diwygio o’r fath yn digwydd? Ond mae angen i ni edrych ar ffyrdd newydd callach a mwy agored o weithio. Nid ellir gwadu hynny. Yn sicr, mae angen i ni edrych ar y ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu i sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid cyfwerth sy’n deg, a phan fyddwn unwaith eto yn gweld Powys yn cael ei tharo gan y toriadau mwyaf yn y setliad dros dro i lywodraeth leol, mae’n amlwg nad ydych yn prisio nac yn gwerthfawrogi awdurdodau gwledig. Ac mae’n siomedig fod yr aelod o’r Cabinet dros y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, â sedd wrth fwrdd y Cabinet mewn gwirionedd ac wedi siomi ei phobl ei hun.

Ynghyd â chanoli gwariant gwasanaethau cymdeithasol, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno strategaeth glir ar sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu gwella, nid eu hisraddio, o ganlyniad i’w toriadau cyson i awdurdodau lleol, ac adleisir y pryderon hynny yn nau bwynt cyntaf y cynnig hwn. Gallent a dylent edrych tuag at Sir Fynwy, wrth gwrs, am enghreifftiau o arfer da, tryloywder, effeithlonrwydd ac atebolrwydd democrataidd. Yno, mae’r tair ardal gwasanaethau cymdeithasol bellach wedi cyd-leoli gofal cymdeithasol a staff therapi galwedigaethol o dan reolaeth un rheolwr gofal integredig, gan ddarparu mynediad haws at uwch ymarferwyr therapi galwedigaethol am gyngor ar achosion cymhleth—

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ac i fod yn wirioneddol atebol am ddarparu’r gwasanaethau hyn. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich cymeradwyo am y gwaith rydych wedi ei wneud ar y gwasanaethau cymdeithasol, i’r gyllideb yno, ac i feysydd parcio yng nghanol trefi, oherwydd roedd hynny o ddifrif yn effeithio ar fy etholaeth. [Torri ar draws.] Diolch i chi am fy nghyfraniad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:41, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy’r trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio’r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol presennol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Neil McEvoy.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad mwy am

‘(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol’.

Roeddwn am fynd i’r afael â’r gwelliant Llafur yn gyflym

‘(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau... cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol’ ac yn y blaen ac yn y blaen. ‘Parhau i archwilio’r achos’, sy’n golygu gwneud dim yn y bôn: nid yw’n ddigon da. Os edrychwch ar lywodraeth leol yng Nghymru, rwy’n credu bod y cyflogau ar y pen uchaf allan o reolaeth, mewn gwirionedd, ac mae nifer y cyflogau chwe ffigur, nifer y bobl sy’n ennill dros £100,000 y flwyddyn, yn frawychus. Gellid arbed miliynau ar filiynau bob un flwyddyn a gellid rhoi’r arian hwnnw tuag at wasanaethau rheng flaen. Os edrychwch ar Abertawe, mae’r cyflog uchaf, heb gyfraniadau pensiwn, yn £140,000 y flwyddyn—mae Castell-nedd Port Talbot yn £125,000 y flwyddyn, mae Caerdydd yn £170,000, Wrecsam yn £125,000. Os edrychwch ar yr ombwdsmon llywodraeth leol, mae’n £140,000 y flwyddyn. Os edrychwn ar un—dim ond un—gymdeithas dai yn y ddinas hon, Cymdeithas Tai Wales & West Cyf, mae’r prif weithredwr yn ennill £133,000 y flwyddyn.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:43, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ildio? A wnaiff yr Aelod ildio?

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, fe ildiaf.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Er darbodaeth, gallai’r Aelod wneud cyfraniad hael drwy roi yn ôl y lwfans cynghorydd o £12,000 y mae’n ei hawlio drwy fod yn AC a chynghorydd. Byddai hynny’n ddechrau da, rwy’n credu.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lee. Diolch am hynny. Ond os adiwch y cyfan rwy’n ei ennill ar hyn o bryd, mae ymhell o dan yr £100,000 rydym yn sôn amdano. A’r hyn rwy’n mynd i’r afael ag ef yma mewn gwirionedd, ac wedi bod yn ymdrin ag ef dros y pump neu chwe blynedd diwethaf yw cyflogau dros £100,000 y flwyddyn. Nawr, mae’r Prif Weinidog yn ennill £140,000 y flwyddyn. A ddylai unrhyw un ennill mwy na hynny mewn gwirionedd? Nid wyf yn credu y dylent. O ran ffigurau pellach, gadewch i ni fynd yn ôl at gymdeithas dai Wales & West: un person yn ennill £133,000 y flwyddyn, ac ym mhob un gymdeithas dai bron yn y ddinas a’r rhanbarth bydd y prif weithredwr yn ennill mwy na £100,000. Cartrefi RCT—rwy’n credu ei fod tua £160,000 y flwyddyn; efallai fy mod yn anghywir, mae’n bosibl ei fod yn £170,000, sy’n gwneud i’r £12,000 yna ymddangos yn fach iawn o bosibl.

O ran yr hyn sydd angen ei wneud, mae angen i ni ddeddfu ac o ran ein hanes, yr hyn a wnaethom fel cyngor pan oeddem yn rhedeg Caerdydd oedd mynd ati’n raddol i ddiddymu cyflogau dros £100,000 y flwyddyn, gan nad oeddem yn teimlo bod angen i ni dalu arian o’r fath. Yr eironi yw, pan gymerodd Llafur yr awenau eto a chyflwyno cyflogau enfawr unwaith eto—cyflogau enfawr ymhell dros £100,000 y flwyddyn—gwaethygodd gwasanaethau oherwydd toriadau yn y rheng flaen. Rwy’n talu teyrnged fach i’r cyngor dros y ffordd, oherwydd fe wnaethant gyflwyno cyflog byw. Ond ychydig iawn y tu allan i’r cyngor sy’n gwybod, pan gyflwynwyd y cyflog byw, eu bod wedyn wedi torri’r oriau roedd y rhai ar y cyflogau isaf yn y cyngor hwnnw’n ei weithio. Felly, yr hyn ydoedd mewn gwirionedd oedd gimic cysylltiadau cyhoeddus go wael.

Os edrychwn ar y darlun ehangach o ran trethdalwyr Cymru, yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn fy marn i yw rhoi’r caead ar y pot mêl i bobl sy’n ennill llawer gormod: mwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Fe gymeraf y pwyntiau rwy’n cael fy heclo yn eu cylch o ran fy sefyllfa bersonol. Rwy’n aelod o Gyngor Caerdydd ac rwyf hefyd yn aelod yn y fan hon ac ydw, rwy’n ennill cyflog rhagorol drwy hynny. Ond yr hyn y byddwn yn nodi yw, er mwyn cyrraedd y Cynulliad hwn—[Torri ar draws.]—i gyrraedd y Cynulliad hwn, fe euthum am 12 mis heb gyflog proffesiynol amser llawn mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn mynd heb gyflog am 12 mis, mae yna oblygiadau. Beth—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:46, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Bydd yr Aelod yn dirwyn i ben, gobeithio, mewn 30 eiliad. Diolch.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

I rai o fy nghyd-Aelodau ar y chwith—yn gorfforol, ond yn sicr nid yn wleidyddol—efallai y cewch syndod yn y flwyddyn newydd o ran yr hyn y byddaf yn ei wneud; byddaf yn cyhoeddi bryd hynny.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu fy mod yn ôl pob tebyg ar y chwith, yn gorfforol ac yn wleidyddol. A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? A gaf fi yn gyntaf oll ddychwelyd at y cynnig y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno? Hoffwn gytuno â’r datganiad fod llywodraeth leol yn cyfrannu tuag at yr economi leol, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol.

Gan gymryd pob un yn ei dro, mae llywodraeth leol yn gyflogwr mawr iawn ac yn brynwr mawr ar draws Cymru. Mae’n chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol, sy’n rheswm nad yw’n ymwneud â darparu gwasanaeth dros wrthwynebu creu cynghorau anferth.

Yn ail, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol i iechyd—iechyd yr amgylchedd, sy’n sicrhau diogelwch bwyd, casglu sbwriel a thrin fermin, gwasanaethau cymdeithasol sy’n darparu gofal cymdeithasol i oedolion a chadw pobl allan o’r system iechyd. Mae cyfleusterau hamdden yn cadw pobl yn heini ac yn gorfforol egnïol. Mae gwasanaethau tai yn rhoi llety addas i bobl. Mae pob un o’r rhain mewn gwirionedd yn cadw pobl allan o’r ysbyty. Gwn fod yna Aelodau sy’n gweld iechyd yn gyfystyr ag ysbytai, ond mae llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn diogelu iechyd pobl yn y wlad hon.

Mae darparu addysg drwy’r system ysgolion yn helpu i wneud Cymru yn wlad gyfoethog. Drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn adeiladu a gwella adeiladau ysgol, ac yn darparu Dechrau’n Deg, mae ansawdd yr adeiladau y mae plant yn mynd iddynt yn cynyddu’n barhaus.

A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi’r gyfres y cytunwyd arni yn genedlaethol o raddfeydd cyflog? Rwyf bob amser wedi cefnogi’r gyfres o raddfeydd cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Rwy’n mynd yn ôl at y dyddiau pan oedd gennym gydbwyllgor negodi ar gyfer prif swyddogion, lle y câi cyflog y prif swyddog ei bennu o fewn band, yn dibynnu ar faint y cyngor a’i fath. Ni welwn unrhyw reswm dros roi diwedd arno. Rhoddodd y Blaid Geidwadol ddiwedd arno. Digwyddodd o dan deyrnasiad Margaret Thatcher, a’r hyn a ddigwyddodd oedd eu bod yn meddwl y byddent yn cael pobl well i mewn o’r tu allan. Roedd gennych yr holl ddynion busnes gwych hyn yn mynd i ruthro i mewn i redeg llywodraeth leol. Nid yw wedi gweithio. Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yng nghyflogau prif weithredwyr ac aelodau eraill o staff uwch yng Nghymru. A oes unrhyw un yn credu mewn gwirionedd—neu efallai’n gallu pwyntio at bobl a recriwtiwyd oherwydd ein bod wedi cynyddu’r cyflogau hyn, pobl na fyddent wedi cael eu recriwtio’n flaenorol ar raddfeydd yr hen gydbwyllgorau negodi? Mewn gwirionedd mae’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl a oedd yn gweithio mewn llywodraeth leol ac wedi cael dyrchafiad o’i mewn.

Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi darganfod o’r diwedd nad oes maint cywir ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol—hyd yn oed yr un maes swyddogaethol. Nid y maint cywir ar gyfer rheoli datblygu yw’r maint cywir ar gyfer y cynllun strwythurol, y bydd angen iddo gwmpasu ardal lawer mwy o faint.

Yn olaf, rwy’n mynd i ddisgrifio sut y gellid trefnu gwasanaethau yn ninas-ranbarth Abertawe. Yn gyntaf, ac yn fwyaf syml, mae yna wasanaeth tân ac achub y gellir ei adlinio’n hawdd â ffin y dinas-ranbarth cyfan gan mai trosglwyddo allan o Bowys a Cheredigion yn unig sydd angen iddynt ei wneud.

Yn ail, os oes is-ranbarth economaidd yn mynd i fod, yna’r hyn sydd ei angen yw cael cynllun datblygu sy’n cyfateb i’r hen gynllun datblygu sirol ar gyfer yr ardal gyfan. Byddai hyn yn sicrhau bod modd alinio tai, datblygu economaidd a chynllunio dros y rhanbarth cyfan, ac nid dros ardal awdurdod lleol yn unig.

Mae datblygiad campws y bae yng Nghastell-nedd Port Talbot, ond mae bron yn sicr o effeithio mwy ar Abertawe nag ar Gastell-nedd Port Talbot, ac mae’n enghraifft o’r dull ar sail ardal o weithredu. Mae cryn dipyn o’r rhain lle mae pethau’n digwydd bod mewn un ardal awdurdod lleol—. Mae canolfan siopa Trostre yn effeithio ar orllewin Abertawe. Nid yw yn Abertawe, ond mae’r cyfan yn rhan o’r is-ranbarth. Felly, mae gwir angen i ni ddechrau rhoi pethau at ei gilydd.

Y trydydd polisi ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe sydd angen ei gydlynu yw’r strategaeth drafnidiaeth. Mae angen yr hyn sy’n cyfateb i system metro dinas-ranbarth Caerdydd ar gyfer bae Abertawe. Mae angen i hon sicrhau bod yna rwydwaith rheilffyrdd a bysiau cydgysylltiedig sy’n gallu symud pobl o’r ardaloedd preswyl i’r prif safleoedd cyflogaeth, manwerthu a hamdden. Hefyd, mae angen i’r rhwydwaith ffyrdd gynnwys ffordd ddeuol fan lleiaf ar gyfer symud pobl rhwng canolfannau poblogaeth mawr.

O fewn y ddinas-ranbarth, gellir rhannu’n ddau yn syml—gorllewin Morgannwg a Dyfed—sy’n cyfateb i hen siroedd Dyfed, heb Geredigion, a gorllewin Morgannwg. Gellir sefydlu cydfyrddau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sef dau brif wasanaeth y cyngor sir yn flaenorol, a gellir gwneud yr un peth ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gellid adlinio byrddau iechyd ar gyfer yr ardaloedd mwy o faint hyn i gynnwys y cydfyrddau. Byddai hynny’n alinio gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd, yn union fel roeddent o dan yr hen fyrddau iechyd fel bwrdd iechyd gorllewin Morgannwg, a oedd yn bodoli i fod yn gyfrifol am iechyd yn ei ddyddiau fel cyngor sir. Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i’r bwrdd iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro weithio’n agosach gyda gorllewin Morgannwg.

Dylai’r awdurdodau lleol cyfredol barhau i ddarparu gwasanaethau lleol. Mae awdurdodau lleol yn darparu amrediad eang iawn o wasanaethau, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu darparu orau ar y lefel leol. Pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ar ran yr ardal lle maent yn byw yw sail democratiaeth leol. Mae’n ymwneud â chytuno ar ddinas-ranbarthau fel yr ôl-troed sylfaenol a chael gwasanaethau a drefnir yn effeithiol o fewn y rhanbarth hwnnw wedyn.

A gaf fi ddweud un peth i gloi am y bleidlais sengl drosglwyddadwy? Y ffordd orau o ddisgrifio’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yw ‘dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill’.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:52, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o ddilyn fy nghyd-Aelod o’r Pwyllgor Cyllid, ac rwy’n cytuno â llawer o’r hyn y mae Mike Hedges wedi’i ddweud, ar wahân efallai i’w sylwadau terfynol ar y bleidlais sengl drosglwyddadwy.

Rwy’n credu bod hon yn ddadl bwysig, gan ein bod yn ceisio denu gwybodaeth bellach yn y ddadl o ddatganiad pwysig a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet rai wythnosau’n ôl ar ddyfodol llywodraeth leol. Yn amlwg, mae Plaid Cymru yn croesawu dull y Llywodraeth newydd hon o fynd ati ar y cyfan. Ond a gaf fi ddweud wrth y Ceidwadwyr eu bod yn gwastraffu eu hamser os ydynt yn meddwl bod yna ryw fath o fargen? Maent yn hoff iawn o fargeinion ystafelloedd cefn, efallai am nad ydynt erioed wedi mynd i mewn i ystafell gefn a chytuno ar un geiniog tuag at eu blaenoriaethau eu hunain un waith mewn 17 mlynedd yn y Cynulliad. Nid oes bargen ystafell gefn—dim byd o gwbl. Fe gyflwynwyd ateb amgen cynhwysfawr gennym yn lle argymhellion Williams, ac rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth hon, am ei rhesymau ei hun yn ddiau, wedi dod i gasgliad tebyg—nid yn union yr un fath, ond casgliad tebyg. A phwrpas y ddadl heddiw yw denu ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny, yn enwedig o ran sut y gallai’r gwahanol awdurdodau rhanbarthol weithio: ai awdurdodau wedi’u cyfuno ydynt, neu a oes ganddynt ryw fath o agenda gydweithredol? Mae’r Gweinidog wedi dweud yn glir iawn y gallai fod cydweithredu gorfodol. Wel, i mi, mae hynny’n ein symud ar hyd y llwybr tuag at awdurdodau cyfunol, felly mae angen i ni ddeall ychydig mwy o’r manylion sydd ynghlwm wrth hynny.

Ond yn amlwg, beth bynnag y mae awdurdodau lleol yn mynd i’w wneud yng Nghymru, mae angen iddynt gael eu hariannu’n ddigonol i gyflawni eu hamcanion. Rwy’n meddwl bod pob un ohonom a oedd â diddordeb mewn llywodraeth leol neu a ddechreuodd ein bywydau gwleidyddol proffesiynol mewn llywodraeth leol yn hynod o bryderus, mewn gwirionedd, nad yw llywodraeth leol dros gyfnod datganoli wedi cryfhau. Yn wir, mae wedi gwanhau, a chredaf fod hwnnw’n wendid cyffredinol y dylem i gyd bryderu yn ei gylch.

Ni ddechreuodd y gwanhau mewn llywodraeth leol gyda datganoli; mae’n dyddio’n ôl i’r 1980au a phenderfyniad pendant y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd i dorri’n ôl ar lywodraeth leol, i gael gwared ar y pwerau a gwneud llywodraeth leol yn llai effeithiol—yn llai o her, yn wir, i’r Llywodraeth Geidwadol ganolog. Ond mae wedi gweithio, ar ôl datganoli, fel trefn sy’n dal llywodraeth leol yn ôl, ac yn arbennig yn ariannol, trefn nad yw’n caniatáu i lywodraeth leol wneud buddsoddiadau allweddol a bod yn ysgogiadau economaidd yn eu hardal fel y mae’r cynnig yn sôn. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf o galedi yn arbennig, rydym wedi gweld pwysau eithafol ar lywodraeth leol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru fel yr oedd, a’r Llywodraeth bresennol, wedi gwneud popeth a all, rwy’n credu, i amddiffyn llywodraeth leol i ryw raddau, ac mae’r setliad llywodraeth leol eleni a’r gyllideb eleni, yn dilyn y cytundeb gyda Phlaid Cymru, yn un o’r rhai mwy priodol a llwyddiannus i lywodraeth leol. Yn sicr, mae llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru yn ddiolchgar am setliad llawer gwell nag a welsom yn y gorffennol agos. Ond mae’r gostyngiadau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi disgyn yn anghymesur ar nifer o wasanaethau sydd o ddifrif yn cynnal lles ein poblogaethau lleol—mae llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol a gwasanaethau trafnidiaeth, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, wedi gweld toriadau enfawr o rhwng 20 y cant a 50 y cant, yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Mae pob awdurdod lleol yn sicr wedi ymateb i doriadau drwy fasnachu a threfnu contractau allanol, weithiau heb lawer o gefnogaeth, mae’n rhaid dweud, gan y poblogaethau lleol. Rydym yn deall pam y mae pob plaid mewn llywodraeth leol wedi cael ei gorfodi weithiau i archwilio ac edrych i weld sut y gallai hynny ddigwydd.

Ond rwy’n gobeithio, gyda’r eglurder ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, a’r syniadau a gyflwynir yng nghynigion newydd Ysgrifennydd y Cabinet a’r gyllideb eleni, y gallwn ddefnyddio’r cyfnod hwn o dawelwch cymharol i geisio ailsefydlu’r hyn yw llywodraeth leol yn y bôn—ei phriodoldeb a’r lefel orau o ddarparu gwasanaethau, a chryfhau cynghorau tref a chymuned weithiau, rwy’n meddwl, sydd â rhai pwerau cyffredinol gwych y gellid eu defnyddio’n greadigol iawn ar ran eu poblogaethau lleol.

Yn ogystal â’r adolygiad o’r fformiwla y mae’r cynnig yn sôn amdano, rwy’n credu bod gennyf ddiddordeb mewn gwybod, yn benodol, wrth i ni symud ymlaen gyda’n pwerau ein hunain ar gyfer ein gweithdrefnau cyllidebol ein hunain yma—y Bil cyllid, yn y pen draw, a’r holl bwerau amrywio trethi yma—pa un a ellir adlewyrchu hynny yn yr hyn rydym yn ei roi i lywodraeth leol. Rydym wedi grymuso byrddau iechyd i gael cynlluniau ariannol a chyllidebol tair blynedd mewn deddfwriaeth a basiwyd gennym yn y Cynulliad diwethaf. A allwn yn awr rymuso llywodraeth leol hefyd i symud at gynlluniau ariannol tair blynedd? A allwn roi pwerau ehangach i lywodraeth leol wneud pethau sydd mewn gwirionedd yn haws i’w gwneud yn Lloegr nag yng Nghymru bellach, sy’n rhyfedd—er enghraifft, sefydlu eich cwmni ynni lleol eich hun? Cafodd cwmni Robin Hood Energy, a sefydlwyd gan ddinas Nottingham a chynghorau yn yr ardal honno, ei rymuso mewn gwirionedd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae angen i ni edrych ar sut y gallai datganoli yng Nghymru ddarparu’r math hwnnw o ddatganoli yn ein hawdurdodau lleol hefyd. Byddai gennyf ddiddorddeb mawr mewn edrych ar arbrofion o gwmpas Bethesda, rwy’n credu, gydag Ynni Ogwen ac yn y blaen—lle y gellir chwyddo’r ddarpariaeth ynni leol gyda chymorth llywodraeth leol.

Felly, bwriad y ddadl hon yn sicr yw taflu goleuni ar y sefyllfa bresennol ac i ddenu ychydig mwy o fanylion ynglŷn â’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei argymell, ond gadewch i ni fod yn glir: rhaid i ddatganoli yng Nghymru weithio law yn llaw â llywodraeth leol er mwyn cael y gefnogaeth ehangach i’n Cynulliad yn ogystal.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:57, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r cynnig yn cyfeirio at gomisiwn Williams yn disgrifio gwasanaethau cyhoeddus fel rhai a nodweddir gan ‘ddiffyg uchelgais’. Wrth gwrs, nododd adroddiad comisiwn Williams hefyd mai’r unig ffordd ymarferol i ateb anghenion a dyheadau pobl yw symud pwyslais gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal. Mae’r angen i wneud y newid hwn, meddent, yn cael ei rannu ar draws y byd datblygedig a democrataidd.

Fel y mae Cydgynhyrchu Cymru wedi dweud, nid atodiad bach cyfleus yn unig yw hyn, ond ffordd newydd o weithredu i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion eu hunain.

Mae’r adroddiad yn dweud bod angen i arweinwyr ar bob lefel fod yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, gan gynnwys cydweithio neu gydgynhyrchu a bod angen ailddiffinio diben sylfaenol a natur gwasanaethau cyhoeddus. Nodweddion allweddol yr ailddiffiniad hwnnw yw: cydweledigaeth gliriach ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin rhwng llywodraethau ar bob lefel, dinasyddion, a chymunedau; llawer mwy o ffocws ar gydgynhyrchu gyda dinasyddion a chymunedau i nodi a gweithredu dulliau o fynd ar drywydd y canlyniadau hynny; ac o ganlyniad, pwyslais llawer cryfach ar alluogi, grymuso ac atal wrth fynd ati i gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’n dweud y bydd modelau darparu newydd sy’n canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a rheoli galw drwy gydgynhyrchu ac ymgysylltu â dinasyddion yn hanfodol.

Mae rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru a ariennir gan y Loteri Fawr, ac a lansiwyd yn ffurfiol ym mis Mai, yn dangos y ffordd gyda dwsinau, os nad cannoedd, o sefydliadau—cyhoeddus a thrydydd sector—wedi ymuno’n rhan o’r chwyldro. Mae’n galonogol fod Swyddfa Archwilio Cymru ar y blaen yn y gwaith o werthuso cydgynhyrchu a mentrau newid ymddygiad. Mae eu hadroddiad, adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dweud:

‘ceir cydnabyddiaeth lawer cliriach bellach nad yw dulliau gweithredu blaenorol wedi gweithio fel y bwriadwyd a bod angen newid radical. Gallai ffocws y naratif ar wneud diwygiadau lle mae’n bwysig gwneud hynny – sef yn rheng flaen y broses o ddarparu gwasanaethau – helpu i symud ymlaen o duedd i ystyried bod llunio strategaethau a chynlluniau yn ateb i broblemau ymarferol. Mae’r dull gweithredu hefyd yn gliriach wrth nodi’n benodol fod cydgynhyrchu yn ddull o ail-lunio ac ailgynllunio gwasanaethau yn y rheng flaen.’

Mae’r archwilydd cyffredinol yn dweud

‘Mae cydgynhyrchu a newid ymddygiad yn cynnig cyfleoedd i wella gwasanaethau cyhoeddus ond yn aml maent yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus fabwysiadu dulliau gweithredu hollol wahanol’.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei gweledigaeth newydd ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus fel rhan o’i hymateb i adroddiad ac argymhellion comisiwn Williams gydag argymhelliad neu bwyslais cryfach ar gydgynhyrchu, cyfrifoldeb personol a chanolbwyntio ar atal. Yn wir, mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru’n dweud:

‘Mae’n rhaid datblygu ein gwasanaethau cyhoeddus i adlewyrchu perthynas newydd rhwng y bobl sy’n darparu gwasanaethau a’r rheini sy’n elwa arnynt. Yn arbennig, mae angen i wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu’n fwyfwy gyda phobl yn hytrach nag i bobl… cynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau, gan gydnabod cryfderau pobl ac addasu gwasanaethau’n briodol.’

Ond wrth gwrs, mae darparu, a’r neges, wedi bod yn llawer mwy amwys. Dangosodd arolwg yr archwilydd cyffredinol fod gwahaniaeth barn ynglŷn â phwysigrwydd cydgynhyrchu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dywedodd fod ymatebwyr llywodraeth leol yn llawer llai tebygol o gynnwys hyn yn eu tri uchaf, a chyfeiriodd at felin drafod y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a amlinellodd sut y gellid cyfuno cydgynhyrchu â dulliau system gyfan a diwastraff o ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, roedd yn dyfynnu Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn dweud eu bod yn defnyddio dull o’r fath fel rhan o’r broses o drawsnewid eu dull o gefnogi pobl hŷn ac oedolion ag anabledd dysgu.

Ac fel y dywedodd aelod o awdurdod cabinet llywodraeth leol a ddyfynnwyd yn yr adroddiad:

‘Mae’r angen i gydgynhyrchu a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn sylweddol ond ni ddeellir hyn yn dda yn y sector cyhoeddus ac mae’r buddsoddiad sydd ei angen mewn pobl, sgiliau a newid diwylliant yn ofyniad sylfaenol hirdymor.’

Felly, roeddent yn dweud:

‘Safon aur cydgynhyrchu yw bod pobl yn ymgysylltu’n fwriadus â gwasanaethau cyhoeddus ac yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan ohonynt.’

Fodd bynnag, yn anffodus, mae ymateb Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gyda rhai eithriadau nodedig, gan gynnwys, yn amlwg, Mark Drakeford—mae ymateb cyffredinol Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddion y Cabinet wedi bod yn anghyson, yn amwys, yn aml yn hierarchaidd, yn aml yn ddryslyd ac weithiau hyd yn oed yn ddiystyriol, ac eto roedd y llythyr a anfonwyd gan Cydgynhyrchu Cymru at y Prif Weinidog ar ddiwedd 2014, a gefnogwyd gan dros 130 o lythyrau, yn agor drwy ofyn i Lywodraeth Cymru gytuno ar yr hyn y mae cydgynhyrchu yn ei olygu mewn gwirionedd, gan gydnabod nad yw hyn yn ymateb i galedi, ond yn rhan o fudiad byd-eang sy’n ddegawdau oed bellach ac wedi gwneud gwelliannau sylweddol ar draws ein planed. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:02, 19 Hydref 2016

Rwyf am siarad yn fyr am sut y mae llywodraeth leol effeithiol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd drwy eu gwaith nhw ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, i helpu i gadw pobl allan o ysbytai neu, os oes angen iddyn nhw dderbyn triniaeth ysbyty, i’w caniatáu iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn brydlon.

Yn anffodus, mae gofal cymdeithasol wedi cael ei ystyried yn draddodiadol, rywsut, i fod yn gefnder tlawd i’r gwasanaeth iechyd, ac mae hynny wedi arwain at danfuddsoddi mawr yn hanesyddol. Mae cyflogau’r gweithlu yn rhy isel, ac mae cytundebau dim oriau yn dal yn cael eu defnyddio, a hynny’n aml iawn yn cael ei yrru gan dangyllido. Ac mae’r berthynas, rwy’n meddwl, rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn cael ei chamddeall, braidd, hefyd. Mae’r ffaith bod y Ceidwadwyr yn San Steffan wedi llwyddo i dwyllo pobl mewn difrif drwy ddweud eu bod nhw’n torri cyllidebau llywodraeth leol er mwyn talu am amddiffyn cyllid yr NHS yn dangos cyn lleied y ddealltwriaeth sydd yna o’r berthynas gwbl symbiotig yma rhwng y gwasanaethau mewn gwirionedd, ac mae yna farn eang iawn mai effaith y toriadau yna i lywodraeth leol oedd yr argyfwng yn yr adrannau gofal brys yn Lloegr yn ôl yn 2012. Yma yng Nghymru, mi wnaeth y Gweinidog iechyd blaenorol roi bai mewn difrif am bwysau ar adrannau brys ar y diffyg ym maes gwasanaethau cymdeithasol a oedd ar gael i helpu pobl allu cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn brydlon. Mae’n amlwg bod hynny’n broblem, a dyna pam mae’r gair ‘integreiddio’ yma wedi bod yn un mor bwysig. Os integreiddiwn ni ein gwasanaethau o ddifrif a chofio ar bob lefel bod angen i ofal cymdeithasol a gofal iechyd gael eu cynllunio ar y cyd, wel mae yna fwy o siawns y cawn ni un gwasanaeth llyfn, gyda phobl yn camu i fyny i’r ysbyty ac yn camu yn ôl i lawr i ofal cymdeithasol yn ddirwystr a heb ffiniau gweinyddol na chyllidol yn atal hynny. Rydym i gyd yn gytûn ar hynny, mae’n ymddangos, ond eto, er gwaethaf yr enghreifftiau lleol o gydweithio da sydd yna, heb os, nid yw’r geiriau’n dal ddim i’w gweld yn cael eu troi’n weithredoedd gwirioneddol drawsnewidiol.

Mae yna ffyrdd ehangach lle y gall llywodraeth leol effeithiol gyfrannu tuag at greu cenedl fwy iach, a gwnaf sôn am rai ohonyn nhw. Mi oeddem ni, fel rhan o’r cytundeb ar y gyllideb, yn falch iawn o allu sicrhau nad oedd toriad ‘cash’ yng nghyllidebau rhaglen Cefnogi Pobl. Dyma i chi raglen sy’n arbed arian, wrth gwrs. Mae digartrefedd wastad yn costio mwy i’r pwrs cyhoeddus i ddelio ag o na fyddai’n costio i’w hatal, felly mae gwneud yn siŵr bod gan lywodraeth leol rôl gref i’w chwarae mewn taclo digartrefedd yn rhywbeth sydd nid yn unig yn rhywbeth rydym yn dymuno ei weld yn digwydd a rhywbeth sy’n foesol gywir, ond mae’n gost-effeithiol hefyd, o siarad yn gwbl blaen. Mae rôl llywodraeth leol ym maes tai yn ehangach—taclo safonau tai isel, taclo gorlenwi o fewn tai—hefyd yn bwysig o ran cadw pobl yn iach, ac felly arbed arian i’r NHS. Mae buddsoddi mewn addasiadau i dai hefyd, wrth gwrs, yn ffordd bwysig o ganiatáu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Edrychwch ar faterion amgylcheddol, trafnidiaeth leol, a’r system gynllunio hefyd, byddwn i’n dweud. Pan mae’r rhain yn effeithiol, maen nhw’n gallu bod yn hwb enfawr o ran pethau fel teithio llesol, ac annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau. Dyma’r math o bethau sydd yn dda i iechyd pobl.

Felly, mae gwasanaethau cyhoeddus yn gyd-ddibynnol. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Mae’n anochel bod methiant mewn un rhan o’r system yn mynd i roi straen ar rannau eraill o’r system. Pam y mae methiant yn digwydd? Mae cyflwyno toriadau heb ystyried goblygiadau yn un ffordd fawr mae hyn yn digwydd. Mae torri mewn un maes yn aml iawn yn arwain at yr angen i wario mwy yn y pen draw—ac rwy’n cyfeirio nôl eto at y trafferthion yna mewn gofal brys yn Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl. Ond mae llywodraethiant sâl yn broblem arall, ac fe wnaeth comisiwn Williams dynnu sylw at sawl enghraifft o lywodraethiant sâl. Petasai’r comisiwn wedi edrych ar y gwasanaeth iechyd, rwy’n siŵr y bydden nhw wedi canfod problemau yn y fan yna hefyd, ac mae nifer y byrddau sy’n wynebu amrywiol lefelau o ymyrraeth ar hyn o bryd yn brawf o hynny.

Felly, i gloi, mae’n glir bod sgrwtini o wasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwella. Mae hynny’n gyfrifoldeb ar ein hysgwyddau ni i gyd, wrth gwrs, bob un ohonom ni, ond mae o’n ymwneud hefyd ag ymrymuso pobl allan yna—pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae yna gamau y gallwn ni eu cymryd, fel pleidleisio yn ifancach, cyflwyno pleidleisio yn 16 oed, newid y gyfundrefn bleidleisio, i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau ni yn cael gwir ddylanwad arnyn nhw.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:08, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sian am gynnig y ddadl heddiw. Rydym ni yn UKIP yn llwyr gefnogi rhai o gynigion Plaid Cymru. Ydym, rydym yn cytuno â’r rhan gyntaf, y gall llywodraeth leol dda wneud—ac rwy’n aralleirio yma—cyfraniad cymdeithasol gwerthfawr. Nid oes dim y gallwn anghytuno ag ef yn hynny o beth. O ran pwynt 2, ar ddiffyg uchelgais llywodraeth leol, fel y tystiwyd gan gomisiwn Williams, wel, ydym, rydym yn gresynu at hynny hefyd. Pwynt 3 yw lle rydym yn gwyro mewn mannau oddi wrth gynigion Plaid Cymru. Fel hwythau, rydym yn cefnogi diwygio etholiadol. A bod yn fanwl gywir, rydym ninnau hefyd eisiau rhyw fath o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol ac yn ein maniffesto, roeddem yn cefnogi cyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yng Nghymru. Yn sicr rydym am symud oddi wrth drefn y cyntaf i’r felin, sy’n tueddu i sicrhau mwyafrifoedd Llafur mawr ar lai na 50 y cant o’r bleidlais. Felly, nid yw’n syndod go iawn, felly, ein bod am weld diwedd ar y system anghynrychioliadol hon a bod Llafur eisiau ei chadw. Felly, rydym gyda Phlaid Cymru ar hynny, pa un a ydynt yn hoffi hynny ai peidio.

Rydym hefyd yn hoffi’r raddfa gyflog genedlaethol a gynigiwyd gan Blaid Cymru. Mae gennym rai penaethiaid cynghorau lleol yn cael cyflogau afresymol o uchel yng Nghymru. Yn Sir Benfro, mae’r prif weithredwr yn cael £200,000; mae hynny’n fwy na’r Prif Weinidog—hollol hurt. Yn ddiweddar, cawsom sgandal gyflogau ym mwrdeistref bwdr Llafur yng Nghaerffili, ac mae llawer o fwrdeistrefi sirol pwdr Llafur eraill yng Nghymru. Felly, mae rhyw fath o raddfa gyflog genedlaethol—

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:09, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ymyrryd yno, os gwelwch yn dda?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs.

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu y dylai Gareth Bennett fod yn ofalus iawn o’r hyn y mae’n ei ddweud, gan nad oedd y rhan fwyaf o gynghorwyr yn gwybod dim am y sefyllfa gyda’r cyflogau yng Nghaerffili. Nifer o aelodau’r cabinet a dirprwy arweinydd Plaid Cymru a oedd yn rhan o’r pwyllgor oedd hynny, a phan ddaeth y mwyafrif o’r aelodau i wybod, fe ymddiheurodd yr arweinyddiaeth Lafur a gwrthdroi’r rhan fwyaf o’r penderfyniad hwnnw. Felly, rwy’n meddwl y dylai fod yn ofalus iawn ynglŷn â’r honiadau y mae’n eu gwneud yn y Siambr hon ac rwy’n gofyn iddo dynnu ei eiriau’n ôl.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:10, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Hefin, ac o ystyried y wybodaeth rydych wedi’i rhoi, efallai fy mod wedi camgymryd ac rwy’n tynnu fy sylwadau yn ôl.

Nid yw hyn yn tynnu dim mewn gwirionedd oddi wrth sylwedd yr angen am raddfa gyflog genedlaethol, yn debyg i raddfa gyflog y gwasanaeth sifil efallai. Byddai hwnnw i’w groesawu’n fawr.

Ond down yn awr at y mater nad yw prin wedi cael sylw heddiw—fe gyffyrddodd Rhun â’r mater—sef pleidlais i rai 16 oed. Wel, rydym yn gwrthwynebu hynny’n llwyr am y rhesymau canlynol. Y cyntaf yw’r dystiolaeth feddygol syml. Yn gyntaf, rydym yn sôn yma am y glasoed ac nid am oedolion, ac mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y ddau grŵp. Mae rhieni wedi hen arfer sylwi ar newidiadau ymddygiadol sy’n effeithio ar lawer o blant pan fyddant yn cyrraedd blynyddoedd yr arddegau. Maent hefyd wedi sylwi nad pobl ifanc, yn aml, yw’r creaduriaid mwyaf rhesymegol. Mae gwyddonwyr yn awr yn canfod tystiolaeth gadarn o wahaniaethau meddygol gwirioneddol rhwng ymennydd oedolion ac ymennydd rhai yn eu harddegau. Dyfynnaf o ‘The Brain Teen: Still under Construction’, llyfryn a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Meddwl yn Maryland, UDA, y sefydliad ymchwil mwyaf yn y byd sy’n ymdrin ag iechyd meddwl:

Mae’r ymchwil wedi datgelu rhai pethau annisgwyl, yn eu plith darganfyddiad newidiadau trawiadol sy’n digwydd yn ystod blynyddoedd yr arddegau. Mae’r canfyddiadau hyn wedi newid rhagdybiaethau ynglŷn â pha bryd y mae’r ymennydd yn aeddfedu. Mewn ffyrdd allweddol, nid yw’r ymennydd yn edrych fel un oedolyn tan yr 20au cynnar.

Gallai dealltwriaeth o sut y mae ymennydd person yn ei arddegau’n newid helpu i egluro anghysondeb dyrys glaslencyndod: mae pobl ifanc yr oedran hwn yn agos at uchafbwynt gydol oes o iechyd corfforol, cryfder, a gallu meddyliol, ac eto, i rai, gall fod yn oedran peryglus. Mae cyfraddau marwolaethau yn neidio rhwng glaslencyndod cynnar a glaslencyndod hwyr. Mae cyfraddau marwolaeth drwy anaf rhwng 15 a 19 oed tua chwe gwaith yn uwch na’r gyfradd rhwng 10 a 14 oed. Mae cyfraddau troseddau ar eu huchaf ymhlith dynion ifanc a chyfraddau cam-drin alcohol yn uchel o gymharu ag oedrannau eraill. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn dod drwy’r oedran trosiannol hwn yn dda, mae’n bwysig deall y ffactorau risg ar gyfer ymddygiad a all gael canlyniadau difrifol. Mae genynnau, profiad plentyndod, ac amgylchedd person ifanc sy’n cyrraedd glaslencyndod oll yn ffactorau sy’n ffurfio ymddygiad. Gan ychwanegu at y darlun cymhleth hwn, mae ymchwil yn datgelu bellach sut y mae’r holl ffactorau hyn yn gweithredu yng nghyd-destun ymennydd sy’n newid, gyda’i effaith ei hun ar ymddygiad.

Po fwyaf a ddysgwn, y gorau y gallwn ddeall galluoedd a gwendidau pobl yn eu harddegau, ac arwyddocâd y cam hwn i iechyd meddwl gydol oes.

Diwedd y dyfyniad.

Rydym yn cydnabod bod rhai pobl ifanc yn eu harddegau’n berffaith abl i feddwl yn rhesymegol ac mae ganddynt ddealltwriaeth wleidyddol weddol soffistigedig. Fodd bynnag, nid yw hynny’n wir yn achos llawer ohonynt. Mewn sawl ffordd, cydnabu Cynulliad Cymru fregusrwydd y grŵp oedran hwn pan newidiodd y gyfraith yng Nghymru i wahardd rhai 16 a 17 mlwydd oed rhag gallu prynu sigaréts yn gyfreithlon. Os na ellir ymddiried mewn pobl ifanc yr oedran hwn i arfer crebwyll ynghylch prynu pecyn o sigaréts, yna pam ar y ddaear rydym yn cynnig ein bod yn rhoi cyfrifoldeb iddynt ethol gwleidyddion? Mae’n hurt. Mae yna ddadl fod y grŵp oedran hwn yn talu treth, ac felly y dylid rhoi hawl iddynt bleidleisio. Ond y gwir amdani yw bod y grŵp hwn, gydag ehangu prifysgolion, yn cael ei faldodi am gyfnod hwy yn ystod glaslencyndod mewn gwirionedd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u sefydliadoli yn y system addysg hyd nes eu bod yn 21 oed neu wedi hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:13, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A ydych yn dod i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:14, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Y realiti yw mai 30 y cant yn unig o’r grŵp 16 i 24 oed sy’n talu treth incwm. Os ydych am ymestyn y ddadl am dreth, fe allech ymestyn y bleidlais i gynnwys rhai 10 oed sy’n mynd i’r siop a thalu TAW ar becyn o Smarties.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

A ydych yn dod i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Ydw. Rydym yn cefnogi gwelliannau’r Ceidwadwyr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A allaf ddechrau trwy ddiolch i Sian Gwenllian am gyflwyno’r ddadl hon gerbron y Cynulliad y prynhawn yma? Dywedais i ar 4 Hydref fy mod yn edrych ymlaen at set fanwl o drafodaethau ar ddyfodol llywodraeth leol yn ystod diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd y trafodaethau hyn yn cynnwys awdurdodau lleol yn unigol ac ar y cyd, ynghyd â’u partneriaid pwysig. Mae’n rhaid i’r trafodaethau hyn hefyd gynnwys y pleidiau gwleidyddol, ac, yn arbennig, y pleidiau gwleidyddol yma yn y Cynulliad.

Rwy’n ddiolchgar i holl lefarwyr y pleidiau yma am eu parodrwydd i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ers yr etholiad ym mis Mai ac rwyf yn dal yn awyddus i barhau’r trafodaethau hynny wrth i’r broses symud yn ei blaen.

Ddirprwy Lywydd, mae’r Llywodraeth wedi gosod gwelliant i’r cynnig gan Blaid Cymru. Mae’r gwahaniaethau a gyflwynwyd yn gymharol fach, ond maent yn egluro sefyllfa’r Llywodraeth.

Dirprwy Lywydd, in respect of point 1 of the motion, we are very happy indeed to sign up to the sentiments expressed in it. Mike Hedges, who I always listen to very carefully on the subject of local government, very well set out the wide agenda of vitally important services that local government provides and the important part it plays in the lives of every citizen in Wales: educating our children, looking after the elderly, disposing of our waste, lighting our streets and much, much more.

As far as the second leg of the motion is concerned, of course, we share the wish for ambitious local authorities—local authorities that are ambitious for their local populations and that are able, in a way that is reliable and general, to provide services of high quality. I think that matters have moved on since the Williams commission and that local authorities in Wales, often with significant assistance from outside, have taken very seriously the need for improvement. I’ve often said that I’ve been fortunate to become responsible for local government at a point when no local authority has its education services in special measures, no social services departments are in special measures, and no local authority requires external support for its corporate centre. I very regularly emphasise to local authority leaders the responsibilities they carry for ensuring the continuation of this position, and they, quite understandably, in return point out the improvements that they have been able to make in conditions of very considerable difficulty as a result of budgetary constraint.

Dirprwy Lywydd, I turn to the third part of the motion. Because of the way in which votes are to be sequenced this afternoon, the Government side will oppose the amendment moved by Janet Finch-Saunders, not so much for reasons of substance—although, as I said this afternoon, rurality is a significant factor in the way that the current formula works—but more for reasons of procedure. I noticed what Janet had to say about Monmouthshire and, of course, I was very glad to see Councillor Peter Fox, the Conservative leader of Monmouthshire County Council, saying that, despite having called strongly for the retention of Monmouthshire as a separate council, he strongly believed that a move to deeper regional and collaborative ways of working would allow efficiencies of scale and provide a sustainable future for many service areas. He said that in welcoming the statement, and I’m glad to be able to put his views on record here this afternoon.

The Government amendment to part 3 of the motion is set out in order for us to be able to clarify some—

Nick Ramsay a gododd—

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:19, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—o’r pwyntiau. Iawn, wrth gwrs.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Gan eich bod wedi crybwyll fy nghydweithiwr yn Sir Fynwy, Peter Fox, Weinidog, rwy’n credu y byddwch yn cofio hefyd ei fod yn un o’r bobl gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, neu un o’r swyddogion etholedig cyntaf, i alw am y model awdurdodau cyfunol a roddwyd ar waith mewn ardaloedd megis Manceinion Fwyaf. Rwy’n credu ei fod wedi galw amdano cyn i Blaid Cymru sôn am y math hwnnw o fodel hyd yn oed.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, ddirprwy Lywydd, rwy’n awyddus i ddysgu gan bob awdurdod lleol yng Nghymru, o bob lliw gwleidyddol. Mwynheais fy ymweliad â Threfynwy. Rwy’n ddiolchgar am wahoddiad i ddychwelyd yno, ac rwy’n bwriadu manteisio arno dros y misoedd nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd cyfle i drafod y safbwyntiau hynny gyda’r arweinydd yno.

Bwriad gwelliant y Llywodraeth yw egluro ein safbwynt ar nifer o bwyntiau pwysig. Rydym yn gadael ail elfen y cynnig gwreiddiol fel y mae. Rydym yn diwygio’r elfen gyntaf i ehangu’r cyfeiriad at ddiwygio etholiadol i ddiwygio trefniadau etholiadol yn gyffredinol. Yn wahanol i Gareth Bennett, rydym ni, ar yr ochr hon, yn cefnogi gostwng oed pleidleisio i 16 oed. Gwrandewais gyda diddordeb ar ei ddadl: ei bod yn annoeth darparu’r bleidlais i bobl sy’n dueddol o ymladd, a bod anhawster i gynnal dadl resymegol yn rheswm arall dros gyfyngu’r etholfraint. Efallai ei fod wedi bod yn darllen taflen a ddarparwyd gan ei blaid ei hun. Yn sicr, rwy’n ei atgoffa o gyngor Hayek, yr economegydd enwog o Awstria, a hoff awdur Mrs Thatcher, a oedd yn dadlau y dylid codi’r oedran pleidleisio i 45 oed ar sail llawer o’r dadleuon a gyflwynodd Mr Bennett y prynhawn yma. I ni, rydym yn cefnogi’r oed pleidleisio yn 16 oed. Dywedais hynny wrth Weinidog y Llywodraeth dros y Cyfansoddiad, Chris Skidmore, pan oedd yma yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf. Dywedais wrtho fy mod eisiau symud i system lle mae cofrestru etholiadol yn dod yn broses lawer mwy awtomatig, ac y gallai hynny fod yn gymwys i fyfyrwyr ysgol yn arbennig, fel y gallem sicrhau bod rhai 16 a 17 oed ar y gofrestr i bleidleisio. Rwyf am edrych ar ffyrdd y gellir gwneud pleidleisio’n haws i bobl: pleidleisio electronig, cynnal etholiadau ar wahanol ddyddiau o’r wythnos. Mae’n rhaid i ni wneud pleidleisio mor hygyrch â phosibl, gwneud i’r broses gydweddu’n well â’r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau heddiw, ac mae ein gwelliant yno i dynnu sylw at yr ystod ehangach o bosibiliadau sydd ynghlwm wrth ddiwygio etholiadol.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:22, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A ydych hefyd yn cefnogi pleidleisio a chofrestru etholiadol ar yr un diwrnod, fel sydd ganddynt yn America?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, Mike, rwyf o blaid defnyddio’r pwerau y gallwn eu cael drwy Fil Cymru i fod mor radical ag y gallwn i ganiatáu cymaint o gyfle â phosibl i gynifer ag y gallwn o’n cyd-ddinasyddion ddefnyddio’u hetholfraint ddemocrataidd. Os mai dyna un o’r ffyrdd y gellid datblygu hynny, byddwn yn awyddus iawn i edrych arno.

Mae’r drydedd elfen yng ngwelliant y Llywodraeth, ddirprwy Lywydd, yn cydnabod y ddadl am gyflogau uwch-reolwyr a phrif swyddogion, a’r achos y gellir ei wneud dros drefniadau wedi’u penderfynu’n genedlaethol. Mae hyn un cam yn fyr o ymrwymiad i symud i’r cyfeiriad hwnnw yn awr, oherwydd credaf nad yw’r trafodaethau angenrheidiol gydag aelodau etholedig awdurdodau lleol, a’r trefniadau cynrychioliadol ar gyfer staff uwch, wedi’u cwblhau eto. Rwy’n meddwl ein bod wedi dangos parodrwydd i symud i’r cyfeiriad hwnnw yma yng Nghymru. Mae gennym y panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol, sy’n cyflwyno cyd-destun cenedlaethol a her newydd i unrhyw newidiadau yng nghyflogau uwch-reolwyr a phrif swyddogion, ac mae’n faes rwy’n barod i’w gadw dan arolwg yn briodol ac yn weithredol.

Yn olaf, mae ein gwelliant yn newid rhan olaf y cynnig gwreiddiol gan Blaid Cymru, sy’n cyfeirio at awdurdodau cyfunol rhanbarthol. Cyflwynais welliant i hynny gan fy mod yn credu y gellir darllen yr ymadrodd hwnnw fel ymrwymiad i gyfres benodol iawn o drefniadau cyfreithiol sy’n rheoli cydweithio rhanbarthol. Yn fy natganiad ar 4 Hydref gwneuthum ymrwymiad i drafod y trefniadau llywodraethu manwl ar gyfer gweithio rhanbarthol gydag awdurdodau lleol, undebau llafur a phartneriaid eraill, ac rwyf am gael meddwl agored ynglŷn â’r awgrymiadau a fydd yn cael eu cynnig yn ystod y trafodaethau hynny, ac mae gwelliant y Llywodraeth, yn fwriadol, yn llai pendant na’r cynnig gwreiddiol yn hynny o beth.

Ddirprwy Lywydd, mwynheais yn arbennig y cyfraniadau gan Simon Thomas a Mark Isherwood. Mae llawer mwy i’r ddadl am ddyfodol llywodraeth leol na threfniadau etholiadol yn syml. Roeddent yn tynnu sylw at hynny. Rwy’n gobeithio y bydd yn amlwg o hyn oll ein bod wedi bwrw i’r ddadl y prynhawn yma mewn ffordd adeiladol a chysylltiedig iawn. Bydd yn ychwanegiad gwerthfawr a chynnar i’r trafodaethau a fydd yn parhau dros weddill y flwyddyn hon, ac mae ein gwelliant wedi ei gynllunio i ganiatáu i ehangder y drafodaeth honno barhau. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:24, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Sian Gwenllian i ymateb i’r ddadl.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, a diolch am y drafodaeth. Rwyf i yn cytuno â’r siaradwr cyntaf, Janet Finch-Saunders, fod angen inni fod yn atebol i bobl Cymru. I mi, mae gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ffordd hollol glir o fod yn atebol i bobl Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad ni i hynny.

Nid oes yna ddêl efo Llafur. Beth sydd wedi digwydd ydy bod Llafur wedi gweld doethineb ein cynigion ni ar ranbartholi. Ond, lle rydym yn gwahaniaethu ydy ein bod ni’n teimlo nad ydy rhanbartholi yn unig ddim yn mynd at wraidd y broblem. Nid yw’n ddigon radical. Nid yw’n cael gwared ar y muriau artiffisial rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac nid oes yna bwyslais, fel sydd gennym ni, ar integreiddio.

Soniodd fy nghyfaill Neil McEvoy am yr angen am fframwaith i edrych ar reoli cyflogau uwch swyddogion. Yn glir, mae’r bwlch yn rhy fawr rhwng y rhai sydd ar frig y sefydliadau a’r rheini sydd ar y rheng flaen—y gofalwyr cartref, y cynorthwywyr dysgu, y cogyddion yn yr ysgolion, ac yn y blaen—ac mae’n rhaid inni unioni y cam yna.

Roedd Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd gwasanaethau o ansawdd a’r angen i reoli cyflogau hefyd. Roedd ganddo syniadau diddorol ar gyfer ardal Abertawe. Rwy’n siŵr y bydd y rheini yn cael sylw wrth symud ymlaen.

Roedd Simon yn egluro mai pwrpas y drafodaeth heddiw ydy ceisio cael ychydig bach mwy o fanylion am gynlluniau Llafur. Nid wyf yn siŵr a ydym wedi llwyddo i wneud hynny yn union. Roedd hefyd yn lleisio pryder am wanhau llywodraeth leol dros nifer fawr o flynyddoedd. Rwy’n rhannu’r pryder yna efo fo, yn enwedig o safbwynt cyllid a’r toriadau enfawr sydd yn dal yn wynebu llywodraeth leol. Yn sicr, mi fyddai grymuso cynghorau efo mwy o bwerau a chyllidebau tair blynedd yn gwneud llawer i unioni’r sefyllfa.

Soniodd Mark Isherwood am gomisiwn Williams. Y broblem rydym ni’n ei gweld ydy arafwch yr ymateb i argymhellion Williams. Gwelsom gadeirydd y comisiwn ei hun yr wythnos diwethaf, Paul Williams, yn lleisio rhwystredigaeth ynglŷn â hynny yr wythnos diwethaf.

Soniodd Rhun ap Iorwerth am yr agwedd o ddod â gofal cymdeithasol—sef y cefnder tlawd sydd wedi gweld tanfuddsoddi—ac iechyd a’r berthynas yna’n agosach at ei gilydd. Yn sicr, mae yna gamddealltwriaeth ynglŷn â’r berthynas yna. Er bod yna enghreifftiau lleol o gydweithredu gwych, ac mi fedraf i enwi Ysbyty Alltwen ger Porthmadog fel enghraifft dda iawn o sut mae gwasanaethau yn integreiddio ar lawr gwlad, nid ydy hynny’n digwydd ym mhob man, ac mae angen symud tuag at hynny.

Rwy’n sylwi bod UKIP yn cytuno â ni ar STV. Rwy’n sylwi hefyd eich bod wedi tynnu sylwadau yn ôl ar ôl cael eich cywiro gan Aelod Caerffili. Rwy’n nodi hefyd eich barn chi nad ydy ymennydd pobl ifanc yn ddigon aeddfed i bleidleisio. Rwy’n gweld hynny’n ddiddorol iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc 16 oed yr wyf i’n eu hadnabod yn aeddfed, cyfrifol, synhwyrol a rhesymegol. Mae’n biti nad ydym yn gallu dweud hynny am bawb sydd yn y Siambr yma. [Chwerthin.]

Sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet yn olaf, rwy’n falch o gael y rheini. Rwy’n falch bod y trafodaethau yn parhau a bod yna’n dal cyfle, yn sicr, i fod yn dylanwadu wrth inni symud ymlaen. Rwy’n rhannu’r awydd am awdurdodau lleol uchelgeisiol. Rwyf hefyd yn nodi bod natur wledig rhai awdurdodau lleol yn cael sylw gennych chi a bod yna angen gwahanol yn codi yn sgil hynny a bod angen felly i’r fformiwla gydnabod y gwahaniaethau hynny.

Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi hefyd yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac yn nodi eich sylwadau chi ynglŷn â chofrestru awtomatig yn yr ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hynny’n gam da ymlaen. Yn sicr, mae galluogi pobl i bleidleisio yn electronig ac i ddefnyddio dulliau llawer iawn mwy modern er mwyn caniatáu i bobl fwrw pleidlais yn rhywbeth yn sicr y dylem ni symud tuag ato. Ond, rwyf yn nodi nad ydych chi’n mynd i bleidleisio o blaid STV, ac mae hynny’n biti y prynhawn yma achos rwy’n meddwl y byddai hynny wirioneddol yn creu llywodraeth leol rymus ac y byddai pobl yn teimlo ei bod yn berthnasol iddyn nhw a bod eu pleidleisiau nhw wir yn cyfrif.

Rwy’n falch, felly, fod y syniadau awdurdodau cyfunol—bod yna fwy o drafodaethau’n gallu digwydd ynghylch hynny, a’i fod yn dal i fod ar y bwrdd. Felly, edrychwn ymlaen at fwy o drafodaethau i’r dyfodol ar hynny. Diolch yn fawr i bawb.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:30, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Gohiriwn y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.