8. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei Ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU

– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:23, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Huw Irranca-Davies, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6119 Huw Irranca-Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2016.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:23, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i holl aelodau ein pwyllgor o bob plaid, i’n tîm clercio rhagorol a’r tîm cymorth o’n cwmpas a hefyd i’r rhai sydd wedi cyfrannu gyda thystiolaeth arbenigol i’n hadroddiad?

Yn aml, ystyrir bod materion cyfansoddiadol yn faterion sych nad ydynt yn effeithio fawr ddim ar y person cyffredin ar y stryd. Ond os yw’r penderfyniad i adael yr UE wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dangos bod materion cyfansoddiadol yn bwysig a’u bod yn ymgysylltu. Felly, ni ddylem synnu bod Bil Cymru wedi bod yn ffynhonnell llawer o drafodaeth, nid yn unig rhwng gwleidyddion, ond hefyd pan fydd pobl yn defnyddio ein cyfreithiau ar sail ddyddiol. Bydd Bil Cymru yn pennu’r deddfau y gallwn eu llunio i wella ffyniant ac ansawdd bywyd pob dinesydd yng Nghymru. Ein rôl fel deddfwyr wrth graffu ar y Bil yw sicrhau bod gan y Cynulliad y fframwaith gorau posibl ar gyfer llunio’r deddfau hynny. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod y cyfansoddiad yn hygyrch i bawb.

Nid bogailsyllu cyfansoddiadol yw hyn fel y byddai rhai eisiau i chi gredu; mae’n ymwneud â sicrhau bod gan y Cynulliad yr holl offerynnau angenrheidiol i wneud cyfreithiau sy’n cyflawni dros bobl Cymru. A dyna pam, er mai dyma’r pedwerydd Bil Cymru yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, fod yn rhaid i ni godi llais os yw’r Bil hwn yn gwneud y gwaith o ddeddfu’n fwy cymhleth ac os nad yw’n cyflawni’r hyn a addawyd.

Rydym yn croesawu elfennau o’r Bil hwn. Mewn egwyddor, rydym yn cytuno â’r symud i fodel cadw pwerau. Rydym hefyd yn croesawu cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â chyfraith breifat a throseddol, gan roi mwy o ryddid i ddeddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol. Rydym yn croesawu’r gallu i ddileu ac addasu rhai o swyddogaethau Gweinidogion y DU heb gydsyniad, gyda chyrff megis yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Comisiwn Etholiadol wedi’u torri allan o’r gofynion cydsynio. Rydym hefyd yn croesawu’r rhestr o holl brif awdurdodau cyhoeddus Cymru yn y Bil, gan ddileu unrhyw amheuaeth fod y cyrff hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Fodd bynnag, ein hasesiad cyffredinol o’r Bil yw ei fod yn ddarn cymhleth ac anhygyrch o gyfraith gyfansoddiadol. Ni fydd yn darparu’r setliad parhaol cadarn y mae pobl Cymru wedi ei ddisgwyl. Mae hynny’n siomedig ac mae’n anffodus. Yn sicr nid yw’r Bil yn cynnig y setliad blaengar ac uchelgeisiol y mae llawer yng Nghymru wedi gobeithio amdano ac yn credu bod ei angen. Nid yw ychwaith yn gweddu i ddeddfwrfa fodern a phartner cyfartal yn y teulu o genhedloedd sy’n creu’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Bil hwn yn well na’r Bil drafft, ac rydym yn croesawu’r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, yr hyn sy’n bwysicach yw na fydd y Bil hwn yn gwella’r setliad datganoli yn gyffredinol, fel y mae. Mae’r ffordd gymhleth y mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn cael ei fynegi, gan gynnwys nifer a chyrhaeddiad y cymalau cadw a’r cyfyngiadau, yn llawer rhy gyfyngol. Mae’n dangos diffyg cysylltiad ac mae’n hen ffasiwn.

Yn ogystal, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei rwystro rhag ysgwyddo cyfrifoldebau y byddai disgwyl i ddeddfwrfa aeddfed ymwneud â hwy. Oni bai bod y Bil yn cael ei ddiwygio’n sylweddol yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae’n amlwg y bydd y Cynulliad yn colli pŵer i ddeddfu mewn rhai meysydd. Yn ein barn ni, nid yw’n adlewyrchu na’n parchu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru fel y’i mynegwyd yn 2011.

Cyn trafod casgliadau ein gwaith yn fanwl, hoffwn ddefnyddio rhai enghreifftiau i egluro effaith ymarferol y Bil a sut y mae’n methu grymuso’r Cynulliad Cenedlaethol yn llawn fel deddfwrfa fodern. Felly, er enghraifft, mynegodd y pwyllgor iechyd a’r Prif Weinidog bryderon ynglŷn â chadw gwerthu a chyflenwi alcohol yn ôl, a allai effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Clywsom fynegi pryderon hefyd ynglŷn â cholli cymhwysedd mewn perthynas ag amddiffyn plant a’r polisi mabwysiadu—

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, fe ildiaf.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. A yw Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn credu y byddai unrhyw un o’r cymalau cadw a restrir yn effeithio ar allu’r Llywodraeth hon a’r Cynulliad hwn i ddileu’r amddiffyniad o gosb resymol, sy’n un o’r amcanion sydd wedi bod yn y rhaglen lywodraethu?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Julie Morgan am yr ymyriad, ac yn wir, dyna un o’r meysydd pryder a nodwyd gan arbenigwyr sy’n awdurdod ar y cyfansoddiad a deddfwriaeth a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor. Felly, mae’n un o’r meysydd sy’n peri pryder i ni, yn anffodus.

Mae’r rhain yn tynnu sylw at rai enghreifftiau syml. Byddai’n cymryd gormod o amser i egluro sut y mae cymhlethdod y profion a’r cymalau cadw yn gweithio gyda’i gilydd ac yn effeithio ar allu’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cyfreithiau. Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi enghraifft o’r anawsterau a wynebid mewn perthynas â Bil damcaniaethol, enghraifft a ranasom â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi yr wythnos diwethaf. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Bil i ddarllen honno.

Er bod angen ailwampio’r Bil yn llwyr, mewn gwirionedd, byddai’n rhy gymhleth ceisio ailysgrifennu Bil o’r math hwn drwy wneud gwelliannau. Mae’n bwynt cyffredinol o egwyddor a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’. Felly, yn wyneb yr heriau a amlinellais, fel pwyllgor, a chan weithio’n adeiladol gyda rhanddeiliaid, roeddem yn cydnabod mai ein rôl ni o reidrwydd yw awgrymu gwelliannau a fyddai’n gwneud y Bil yn fwy ymarferol nag y mae ar hyn o bryd, lleihau’r fiwrocratiaeth y mae’n ei chyflwyno ac o leiaf—fan lleiaf—dod â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol yn ôl i’r hyn a geir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar y pwynt olaf hwn, hoffwn nodi y dylid edrych ar y dyfarniad ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) fel safbwynt y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd y DU mewn perthynas â Deddf 2006. Mae hwn yn bwynt cyfansoddiadol pwysig.

Felly, ein dull o weithredu oedd nodi a chefnogi gwelliannau a awgrymwyd yn flaenorol gan y Llywydd neu Lywodraeth Cymru a oedd yn cyflawni’r amcanion rwyf newydd gyfeirio atynt. Yn benodol, fe gefnogom welliannau a fyddai: mewn perthynas â chymal 2, yn ei gwneud yn llawer mwy eglur ym mha amgylchiadau y byddai Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig; mewn perthynas â chymal 3, yn cael gwared ar brofion angenrheidrwydd er mwyn sicrhau bod lefel gyfredol—cyfredol—cymhwysedd y Cynulliad yn cael ei chynnal; ac mewn perthynas â chymal 18, yn ceisio sicrhau bod swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig wedi’u halinio â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Awgrymasom ein gwelliannau eu hunain hefyd, yn fwyaf amlwg, gwelliant sy’n caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol gydgrynhoi, heb addasu, yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru yn ein hieithoedd swyddogol. Mae dull o’r fath yn dryloyw a bydd yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn hygyrch. Mewn democratiaeth iach, mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddinasyddion fod yn glir ynglŷn â pha sefydliad seneddol sy’n gyfrifol am ddeddfu mewn maes polisi penodol. Ond mae cymhlethdod a diffyg eglurder y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn bwrw amheuaeth ar gadernid hirdymor y setliad. Ffactor arall sy’n effeithio ar y cadernid hwn yw’r methiant i ddarparu ar gyfer awdurdodaeth benodol neu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Fel y clywsom mewn digwyddiad i randdeiliad, bydd pwysau ymarferol—pwysau ymarferol—yn anochel i’r rhai sy’n ymarfer y gyfraith neu’n rhoi cyngor ar y gyfraith yng Nghymru. Felly, bydd yr achos dros awdurdodaeth o’r fath yn parhau i godi. Mae’n anffodus, felly, fod y Bil hwn yn debygol o barhau yn hytrach na datrys ansicrwydd cyfansoddiadol.

Mae setliad cadarn ac ymarferol yn hanfodol i gywirdeb cyfansoddiadol y DU yn ogystal ag i Gymru. Am y rheswm hwnnw rydym yn credu y bydd yn rhaid i wleidyddion yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at setliad datganoli Cymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:27, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

I fod yn llwyddiant, mae diwygio cyfansoddiadol yn mynnu ymgysylltiad llawn ac agored gan bawb: mae hyn yn adeiladu consensws ar draws y pleidiau gwleidyddol a’r gymdeithas ehangach a fydd yn sail i setliad cadarn, ond yn anffodus, nodweddir y Bil hwn gan broses wedi’i gyrru gan Whitehall dan reolaeth dynn Llywodraeth y DU, sydd wedi colli’r cyfle i sicrhau cefnogaeth a chonsensws ehangach. Credwn fod angen mabwysiadu dull newydd o ystyried Biliau cyfansoddiadol. Dylai hwn fod yn ddull cytûn o gydweithredu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’n pwyllgorau a dau Dŷ’r Senedd a’u pwyllgorau. Rydym yn argymell datblygu’r ffyrdd newydd hyn o weithio fel mater o frys. Dylent fod ar waith cyn y bydd deddfwriaeth gyfansoddiadol fawr yn cael ei chyflwyno—er enghraifft, mewn ymateb i’r penderfyniad i adael yr UE—ac rydym yn barod i gyfrannu at y gwaith hwn.

Felly, wrth ddod â’r sylwadau agoriadol hyn i ben, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau eraill i’r ddadl hon, ac i weld beth oedd yr Aelodau eraill yn ei feddwl o’r adroddiad rydym wedi’i gyflwyno. Diolch.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:33, 19 Hydref 2016

Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r pwyllgor am y gwaith manwl a chynhwysfawr y maen nhw wedi’i wneud ar Fil Cymru, ac yn arbennig i’r Cadeirydd am amlinellu mor glir, rydw i’n meddwl, y pryderon sydd gyda’r Bil, a beth sydd ymhlyg yn y Bil wrth fynd ymlaen, pe bai’r Bil heb gael ei wella yn y ffordd mae’r pwyllgor wedi ei hargymell.

Rydym ni wedi cael addewid, wrth gwrs, taw dyma fydd y Bil a fydd yn rhoi setliad cyfansoddiadol tymor hir i Gymru. Yn anffodus, am y rhesymau y mae Huw Irranca-Davies wedi’u hamlinellu, mae’r Bil yn brin iawn o gyflawni yr amcan hwnnw, a byddwn ni yn sicr yn wynebu pumed Bil datganoli ymhen fawr o dro.

Rwy’n credu bod y Bil yn estyn, ar un llaw, y cyfle—y cysyniad—o symud ymlaen gyda datganoli yn y syniad yma o bwerau a gedwir yn ôl, tra, ar yr un llaw, yn tagu gweithredoedd y Llywodraeth a gweithredoedd y Senedd yn y ffordd mae wedi cadw pwerau yn ôl ac wedi creu darlun cymysg, mwdlyd, lleidiog o’r hyn sydd yn gorwedd ym mha le.

Mae yna bethau positif yn y Bil. Mae’r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei gydnabod fel sefydliad a fydd yn parhau yn hynod o bwysig ar gyfer ffordd aeddfed o drafod cyfansoddiad Prydain. Mae modd adeiladu ar hynny yn y ffordd mae’r Cadeirydd newydd ddechrau ei amlinellu, rydw i’n meddwl. Rydw i â diddordeb gweld bod yna ryw fath o brotocol seneddol yn cael ei sefydlu rhwng y lle hwn a’r Senedd yn San Steffan, lle rydym ni’n gallu gwneud y cyd-drafod roedd y Cadeirydd yn ei amlinellu. Gan ein bod ni nawr wedi ein sefydlu—unwaith y bydd y Bil yn troi’n Ddeddf—yn sefydliad parhaol, bydd modd adeiladu ar hynny.

Mae pethau positif eraill yn y Bil ynglŷn â newid ein prosesau mewnol ni. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i ddatblygu prosesau cyllidol newydd, lle mae modd mynd â Deddf cyllid drwy’r Senedd hon a lle rydym ni’n gallu wir edrych ar y ffordd mae treth yn cael ei chodi yng Nghymru a rhoi hwnnw yn y cyd-destun o wariant. Mae hynny yn ei hunan yn aeddfedu’r lle hwn fel Senedd, ond yn aeddfedu Llywodraeth Cymru hefyd.

Ond—ac mae’n ‘ond’ sylweddol iawn—am y tro cyntaf, rŷm ni’n gweld Deddf datganoli sydd yn crafu yn ôl bwerau i San Steffan ac yn ôl i Lundain, ac mae hynny’n drist iawn. Yn gyntaf oll, pwerau sydd wedi cael eu cydnabod gan y Goruchaf Lys, yn enwedig, fel sydd wedi cael ei grybwyll, ym maes sector cyflogaeth amaeth—mae’r rheini’n cael eu tynnu’n ôl. Ond, yn fwy na hynny, mae yna ymgais wedi bod, yn amlwg, wrth baratoi’r Bil yma, drwy fynd drwy wahanol adrannau yn San Steffan, i bob adran geisio rhoi eu bysedd bach ar y Bil a gadael eu hôl ar y Bil yma. Er bod yna welliant wedi bod ers y Bil drafft cyntaf gael ei gyhoeddi, mae ôl-bysedd gwahanol adrannau—rai ohonynt nad ydynt erioed wedi deall datganoli—yn dal ar y Bil yma.

Mae yna sawl darn o ddeddfwriaeth yn y gorffennol—mae’r Prif Weinidog wedi eu hamlinellu nhw gerbron y Cynulliad o’r blaen—mae sawl enghraifft o ddeddfwriaeth sydd eisoes wedi eu pasio gan y Cynulliad hwn na fydd yn bosib, neu a fydd o leiaf yn cael eu herio yn y Goruchaf Lys nawr, o dan y Bil arfaethedig.

Nid oes dwywaith amdano, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, bod y refferendwm yn ddatganiad clir iawn. Ac rŷm ni wedi clywed yn ystod y misoedd diwethaf yma pa mor bwysig yw hi eich bod yn gwrando ar refferenda ac yn dilyn beth mae pobl yn ei ddweud wrthych chi. Roedd y refferendwm nôl yn 2011 yn glir: roedd dros 60 y cant o bobl yn dweud yn glir ein bod ni eisiau adeiladu ar hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud fel corff seneddol, ac rydym ni’n moyn i chi gael y pwerau deddfu llawn, a’n moyn i chi weithredu hynny. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Bil yn tramgwyddo’r egwyddor yma ac yn gosod cynsail peryglus, felly, i’r berthynas rhwng gwahanol senedd-dai yn y Deyrnas Gyfunol, yn enwedig gyda’r her ychwanegol nawr sydd gyda ni o ddelio â Brexit—pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei datganoli fan hyn, pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei datganoli i San Steffan, pa gyllid fydd yn dod fan hyn, pa gyllid fydd yn cael ei ddal yn ôl gan San Steffan. Mae’r Bil yma yn dempled anffodus iawn ar gyfer symud ymlaen ar y materion yna.

There was a very famous quote by an Irish nationalist, Charles Stewart Parnell, who said very clearly that no man—or woman, these days, but no man; Victorian—

‘No man has the right to say to his country “Thus far shalt thou go and no further”.’

Westminster doesn’t have the right to say to the people of Wales that you can go no further. It is for the people of Wales to express their self-determination in whichever way is appropriate for them. The job of Westminster, as our unitary Parliament for the United Kingdom, is to prepare the legislative way for the expression of the people of Wales. That has not been achieved in this Bill.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:38, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cadeirydd newydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar arwain y pwyllgor a’r ysgrifenyddiaeth i gynhyrchu’r hyn rwyf yn ei ystyried yn adroddiad rhagorol? Roedd yn rhaid ei wneud yn gyflym iawn yn ystod dyddiau cynharaf y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddogfen bwerus, ac rwy’n arbennig yn ddiolchgar i’r holl swyddogion a’n helpodd ni i ddrafftio’r adroddiad. Mae’n arwydd rhagorol, rwy’n credu, o ansawdd staff y Comisiwn, os caf ddweud, Lywydd.

A gaf fi ddechrau drwy ddweud fod y Bil mewn gwirionedd yn hael mewn sawl ffordd? Mae’r datganiad am barhauster, rwy’n credu, yn mynd â ni mor bell ag y gallwn fynd yn ein cyfansoddiad lled-ffederal tuag at sefydlu cyfraith sylfaenol a bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau sylfaenol.

Rwy’n credu bod cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad, gan gynnwys etholfraint a systemau etholiadol, yn bwysig iawn hefyd. Rydym wedi clywed sawl cyfeiriad y prynhawn yma at y bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn llywodraeth leol a’r posibilrwydd o ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Wel, yn fuan bydd gennym bŵer i benderfynu ar y materion hyn. Hefyd, roedd cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â chyfraith breifat a chyfraith trosedd yn newid i’w groesawu’n fawr o’r Bil drafft. Fodd bynnag, fel y mae’r pwyllgor yn ei nodi, gellid gwella’r Bil hwn mewn rhai ffyrdd allweddol i wireddu’r dyhead am setliad llawnach a mwy cadarn. Rwy’n cofio, pan oeddwn yn Gadeirydd ar y pwyllgor ac roedd gennym yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd ger ein bron, cafodd ei ganmol gennym am y weledigaeth honno o setliad llawn a chadarn—uchelgais anodd. Ond mewn rhai agweddau, fel rydym wedi clywed, nid ydym wedi cyrraedd y safon honno eto.

Rwy’n credu y dylai rhyw brawf arall ddisodli’r profion angenrheidrwydd sy’n parhau mewn meysydd a gedwir yn ôl, er enghraifft un sy’n rhoi pwerau ategol i ni newid cyfraith Cymru a Lloegr. Mater technegol yw hwn ar sawl ystyr, ond mae’n bwysig iawn caniatáu i’n cymhwysedd i ddeddfu weithio’n effeithiol. Heb y cwmpas a’r hyblygrwydd hwnnw, gallwch fod yn brin o egni i ddefnyddio’r hyn sy’n ymddangos yn bwerau eithaf eang dros dai, addysg neu iechyd, dyweder. Rwy’n ofni y gallem orfod mynd yn ôl i’r Goruchaf Lys yn y pen draw, neu ddadlau â Llywodraeth y DU am y lle i gael cyfraith wirioneddol effeithiol. Mae’r rhestr o gymalau cadw yn parhau i fod yn llawer rhy hir ac mae’n cynnwys, fel y clywsom, trwyddedu gwirodydd meddwol neu fangreoedd sy’n eu gwerthu. Fel y mae K.O. Morgan, yr hanesydd gwych, yn nodi, roedd gan Gymru reolaeth dros ei thafarndai cyn iddi gael rheolaeth dros ei heglwys, neu o leiaf cyn datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd, ac yn awr rydym yn mynd i weld setliad na fydd yn rhoi’r pŵer hwnnw i ni. Wrth fynd heibio, Lywydd, rwy’n cofio cymryd rhan yn y gyfres ddiwethaf o refferenda ar agor ar y Sul. Cafwyd pleidlais yng Nghaerdydd ym 1989, ac rwy’n credu mai dyna pryd y penderfynodd Ceredigion ganiatáu tafarndai i agor ar y Sul, er gwaethaf ymbil undeb y myfyrwyr yn Aberystwyth, a oedd yn elwa’n arbennig ar ddydd Sul ac yn hapus iawn gyda’r trefniadau mwy cyfyngedig. Ond, hynny yw, rwy’n credu ei bod yn hurt i ni beidio â chael pwerau dros drwyddedu. Hefyd, dylai trosglwyddo pwerau gweithredol ddilyn yr un drefn â Deddf yr Alban. Mae’n dal i fod yn ddirgelwch i mi pam nad yw hyn yn digwydd yn llawn hyd yn oed yn awr.

Ond a gaf fi dynnu nodi rhywbeth fel aelod o’r pwyllgor a chyn-gadeirydd? Y rhwystr gwirioneddol i setliad terfynol yw diffyg consensws gwleidyddol ar gwestiwn awdurdodaeth Gymreig. Rydym yn y sefyllfa ryfeddaf a mwyaf afreolaidd o ran model San Steffan, lle mae gennym ddeddfwrfa nad oes ganddi awdurdodaeth. Mae’n peri i rywun feddwl tybed beth rydym i fod i’w wneud yma os nad pasio deddfau er lles y bobl. Neu, o’i roi mewn ffordd arall: rydym mewn un awdurdodaeth sydd â dwy ddeddfwrfa. Mae hon yn ffordd ryfedd iawn o fwrw ymlaen, ac mae’n gwneud model cadw pwerau go iawn yn anodd iawn i’w ddarparu. Gellir gweld yr amharodrwydd i fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn yn fwyaf clir, rwy’n credu, mewn perthynas â phwerau plismona, lle mae plismona cymunedol ym mron pob un o’r systemau canoledig hyn, yn cael ei roi i’r sefydliadau datganoledig, ac yna caiff swyddogaethau plismona uwch eu cadw gan y wladwriaeth. Dyma sy’n digwydd yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban, ac mae ar fin digwydd ym mhrif ddinasoedd Lloegr. Felly, byddwn yn cael ein goddiweddyd yn ein setliad ein hunain hyd yn oed.

A gaf fi gloi drwy ddweud fy mod yn credu bod modd gweithio ar y Bil hwn? Rwyf hefyd yn credu y bydd yn rhaid cael rhywbeth yn ei le yn ôl pob tebyg. Ni fydd yn ‘bedwerydd Bil a dyna fo’, fel y dywedodd un aelod uchel iawn o’r farnwriaeth. Yn ôl pob tebyg, bydd rhaid i ni gael pumed Bil Llywodraeth Cymru. Ond er mwyn i’r Bil hwn weithio, bydd angen y cydweithio mwyaf effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganiatáu i’r ddeddfwrfa hon arfer y pwerau y mae pobl Cymru eisiau i ni eu cael. Diolch.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:44, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn yn gyntaf ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar Fil Cymru ac am yr adroddiad cynhwysfawr a gynhyrchodd y pwyllgor. Mewn egwyddor, mae’r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, fel nododd y pwyllgor, mae’r Bil yn un cymhleth ac anhygyrch. Mae’r newid i fodel cadw pwerau felly yn cael ei danseilio gan y cymhlethdod hwnnw a chan nifer y cymalau cadw sydd wedi’u cynnwys yn y Bil. Mae’r pwerau a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU mor niferus nes peri i rywun feddwl tybed pa feysydd o gymhwysedd deddfwriaethol sy’n cael eu gadael i Gynulliad Cymru ar ôl ystyried yr holl gymalau cadw. Mae’r ffordd y mae’r cymalau cadw wedi’u drafftio yn eu gwneud yn agored i fod yn destun anghytundeb rhwng y Cynulliad a Llywodraeth y DU o ran yr hyn sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Ni fydd yr oedi anochel tra bydd materion o’r fath yn cael eu datrys yn gymorth i sicrhau llywodraethu da ac effeithiol yng Nghymru. Mae’r ffaith nad yw’r cymalau cadw yn gwneud synnwyr mewn rhai achosion yn dangos diffyg sylw a diffyg meddwl ymlaen llaw ar ran Llywodraeth y DU. Mae’r ffaith fod cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei dynnu’n ôl mewn rhai achosion yn destun pryder mawr. Cytunaf yn llwyr â’r pwyllgor nad yw’r Bil hwn yn darparu setliad cyfansoddiadol parhaol ar gyfer Cymru. Efallai pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori’n iawn â’r Cynulliad hwn ar Fil Cymru, yn hytrach na gosod setliad datganoli newydd ar Gymru oddi fry fel petai, ni fyddem yn awr yn cyfarch y Bil hwn â marc cwestiwn mawr.

Fodd bynnag, mae’r ffaith fod pŵer deddfwriaethol yn dychwelyd o Frwsel i’r DU yn rhoi cyfle euraidd i Gymru gael trafodaeth aeddfed â Llywodraeth y DU ynglŷn â rhannu cymhwysedd deddfwriaethol yn briodol rhwng deddfwrfa’r DU a’r Cynulliad. Cyflwynwyd rhecsyn i’r pwyllgor, ac aeth yr argymhellion ati’n lew i wnïo rhywbeth ystyrlon ohono. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU i fynd ati o ddifrif i ystyried argymhellion y pwyllgor. Serch hynny, yn fy marn i, mae angen ailfeddwl o’r bôn i’r brig ac ailysgrifennu’r Bil.

Rwy’n cydymdeimlo â’r Llywydd, sydd â’r dasg anodd o’n llywio drwy’r cawdel hwn o statud pan ddaw i rym. Diolch.

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 5:46, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn gydnabod y gwaith a wnaeth fy nghyd-Aelodau yn y pwyllgor. Fe ymdrechom yn galed iawn, ond hoffwn dynnu sylw at Huw Irranca-Davies a’i longyfarch ar gadeiryddiaeth y pwyllgor hwn a’r gwaith y mae wedi’i wneud—proffesiynol iawn, ac mae wedi creu argraff fawr arnaf. Diolch i chi, Huw.

Fel y sonioch, dyma’r pedwerydd Bil mewn 20 mlynedd, ac rwy’n credu mai’r cwestiwn y mae pawb ohonom yn ei ofyn yw: ai hwn fydd yr olaf? Yn sicr, mae Simon Thomas a David Melding wedi nodi y bydd pumed Bil. Wel, mewn gwirionedd, rwy’n credu bod hynny’n wir; mae’n rhywbeth y gallwn i gyd ei weld. Nawr, mae fy rhesymeg sy’n sail i hynny yn rhywbeth nad yw wedi cael ei grybwyll o bosibl, ond wrth gwrs, rydym i gyd yn cydnabod yr hyn a ddigwyddodd ar 23 Mehefin a’r ffaith fod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n siŵr eich bod i gyd yn cwyno am fy mod yn cyfeirio at y mater hwnnw eto, ond y gwir amdani yw nad yw’r Bil hwn yn cydnabod hynny mewn gwirionedd. Nid yw’n cael ei gydnabod ynddo o gwbl ein bod yn mynd i gael rhai o’r meysydd a ddatganolwyd i Gymru yn dod yn ôl i ni, gobeithio, boed yn bysgodfeydd, ffermio neu gynhyrchu bwyd. Un o’r pethau y mae angen i ni ei wneud, yn sicr, yw hyn: fel deddfwrfa, mae angen i ni edrych ar y meysydd hynny a phenderfynu sut rydym am fwrw ymlaen gyda hwy, pa feysydd rydym am eu newid a pha ddeddfwriaeth yr UE rydym yn dymuno cael gwared arni, drwy’r Ddeddf ddiddymu fawr, a defnyddio’r cyfle hwn i newid er gwell er mwyn pob un ohonom.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod y penderfyniad a wnaed ar y trydydd ar hugain, a dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais iddo ynglŷn â’r polisi pysgodfeydd, fod angen i Gymru ddatblygu ei pholisi pysgodfeydd ei hun pan fydd y DU yn gadael yr UE er mwyn diogelu ffyniant diwydiant pysgota Cymru a’n cymunedau arfordirol yn y dyfodol. Nawr, rydym yn gadael yr UE, ac mae hwn yn gyfle euraidd i ni ddatblygu ein polisïau a’n deddfau ein hunain ac i fynd ar drywydd buddiannau Cymru a ffyniant Cymru. Felly, mewn gwirionedd, o’r hyn a welaf fi, ac rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod hyn, bydd angen diwygio’r Bil o fewn ychydig fisoedd, mewn gwirionedd, er mwyn i ni ddechrau, ar ôl rhoi proses erthygl 50 ar waith.

Mae un maes arall sy’n peri rhywfaint o broblem i mi, yn bersonol, a hoffwn ddyfynnu geiriau’r Arglwydd Hain o Hansard, a ddywedodd, wrth sôn am y Bil:

Yn y cyfamser, fy ngwrthwynebiad mawr arall yw bod Cymal 17 o’r Bil hwn yn dileu adrannau o Ddeddf Cymru 2014—ddwy flynedd yn ôl yn unig—sy’n cadw’r gofyniad sydd wedi bodoli ers 1997 fod angen cynnal refferendwm i weithredu’r pwerau i amrywio treth incwm o dan y Ddeddf honno.

Ac yna aiff rhagddo i ddweud nad oedd ail gwestiwn o gwbl yn y refferendwm yn gofyn a oedd pobl eisiau datganoli treth incwm ai peidio. Aiff ymhellach i ddweud y byddai datganoli pwerau treth incwm i Gymru yn galw am refferendwm arall fel y cafodd yr Alban ar dreth incwm.

Cytunaf yn llwyr â Peter Hain yn ei asesiad o hynny. Diolch.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:50, 19 Hydref 2016

‘Nid wyf yn gweld y setliad yma mewn unrhyw ffordd yn fwy parhaol na’r lleill.... Tan i ni gyrraedd y pwynt o gael rhyw fath o awdurdodaeth arbennig ar gyfer Cymru, nid wyf yn credu y bydd y broses o ddatganoli wedi dod i ben. Ond, eto rwy’n teimlo bod y modd y mae’r materion sy’n cael eu cadw’n ôl yn cael eu delio â nhw yn y Bil yma eto yn rhywbeth sydd yn sefyllfa dros dro, nid yn sefyllfa barhaol mewn unrhyw ffordd.’

Nid fy ngeiriau i, ond geiriau’r cyfreithiwr cyfansoddiadol disgleiriaf yng Nghymru. A sut ydw i’n gwybod mai fo ydy’r disgleiriaf yng Nghymru? Wel, mae o’n athro cyfraith er anrhydedd ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, a gallwch chi ddim mynd yn uwch na hynny.

Mae’r Athro Thomas Glyn Watkin a’r rhai eraill a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor ar y Bil yma wedi dangos yn gwbl glir yr holl ddiffygion sydd wedi cael eu hailadrodd yn y Bil yma, oherwydd roedd hi’n amlwg o’r dechrau, pan gynigiwyd y Bil drafft gwreiddiol, pa lwybr roeddem ni’n ei ddilyn, sef llwybr o symud o bwerau wedi eu gosod i bwerau wedi eu cadw nôl. Ond, i mi, nid dyna oedd y cwestiwn; y cwestiwn bob tro oedd: sawl eithriad sydd yna? A’r peth allweddol i mi yw cymharu’r eithriadau sydd yn neddfwriaeth ddatganoli’r Alban a deddfwriaeth ddatganoli Gogledd Iwerddon a gweld beth yw’r rheswm, a holi—ac rwy’n dal i ofyn hyn: beth yw’r rheswm cyfansoddiadol pam fod Cymru yn gorfod cael ei thrin yn wahanol? Fe ofynnais i’r cwestiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol cynt, a gofyn iddo fo os oedd o wedi darllen y cymal priodol yn Neddf Gogledd Iwerddon sydd yn cynnwys eithriadau, achos nid oes yna ddim—fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn—ond ychydig iawn o eithriadau, ac mae’r eithriadau yng Ngogledd Iwerddon i bwerau cadwedig yn rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth a senedd Gogledd Iwerddon er mwyn iddyn nhw allu delio â’r weriniaeth ar yr un telerau. Hynny yw, nid eithriadau i rwystro pobl rhag gwneud pethau, ond eithriadau i’w galluogi nhw i wneud rhywbeth.

Felly, mae’n amlwg i mi nad yw’r model rydym wedi bod yn ei ddilyn i ddatblygu datganoli—. Rwy’n llongyfarch y Cadeirydd newydd ar ei waith, a fy nghyd-aelodau o’r pwyllgor, pan roeddwn i arno fo, ac rwy’n falch ei fod wedi gwneud y pwynt yma, ac mae hwn yn bwynt allweddol: mae’n rhaid inni ddod i sefyllfa lle rydym yn gallu cyd-ddeddfu gyda San Steffan. Ac, os caf i ddweud, fe wnaethom ni hynny yr wythnos o’r blaen, pan, o dan arweiniad y Cadeirydd, fe aethom ni i gwrdd â chyfeillion sy’n aelodau o Bwyllgor Cyfansoddiadol yr ail Dŷ yn San Steffan. Nid wyf erioed wedi teimlo’n falchach o fod yn Aelod o’r Cynulliad yma—ac rwy’n digwydd bod, hefyd, oherwydd y gorffennol, yn Aelod o’r ail Dŷ yn San Steffan—oherwydd roedd ein perfformiad ni yn y pwyllgor yna gystal ag unrhyw wleidyddion, gystal ag unrhyw ddeddfwyr yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw fan yn Ewrop—lle rydw i wedi bod, beth bynnag. Ac eto, dyma ni’n cael ein cyfyngu rhag gwneud y gwaith deddfu ein hunain.

Nawr, rwyf wedi manteisio ar waith y pwyllgor yma ac wedi gosod nifer o welliannau drafft fydd yn cael eu trafod yn y Cyfnod Pwyllgor yn yr ail Dŷ yr wythnos ar ôl nesaf, ac mi fydd fy nghyfaill y farwnes goch o Drelái yna efo fi. Nid wyf i’n gwybod beth yw ei theimlad hi, ond nid wyf i’n obeithiol iawn y bydd y Llywodraeth yn gwrando. Nid wyf i’n obeithiol iawn, o’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda’r Llywodraeth, bod ganddynt wirioneddol ddiddordeb mewn ymateb i’r hyn rydym ni’n ei wneud, sydd yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â’r rhagfarnu yn erbyn y tŷ hwn yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid inni geisio ffyrdd cwbl wahanol o ddelio â chwestiynau cyfansoddiadol, ac mae’n rhaid i hynny olygu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn fy marn i, yn gallu cyd-ddeddfu bob amser ar ei chyfansoddiad ei hun gyda San Steffan ac unrhyw le arall.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl hon a chydnabod hefyd y newid a fu yn UKIP? Rwy’n dweud hynny mewn termau sy’n hollol niwtral wrth blaid nad oedd, ar un adeg, o blaid datganoli. Heddiw, clywsom UKIP yn dweud nad yw’r Bil yn ddigonol ac yn dweud o ddifrif fod angen i’r sefydliad hwn gael mwy o eglurder a mwy o bwerau. Ac rwy’n cydnabod hynny.

Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, fod yn rhaid cymharu’r Bil hwn â’r Bil gwreiddiol. Gwnaeth y Bil gwreiddiol lanast llwyr o ganlyniad refferendwm 2011. Dywedir y dylid parchu refferenda, ac rwy’n cytuno â hynny, ond i rai yn Whitehall, ymddengys eu bod yn cael eu parchu pan fydd hynny’n gyfleus iddynt hwy.

Byddai’r Bil hwnnw yn wreiddiol wedi golygu y byddem wedi colli’r pŵer i ddeddfu yn ôl ewyllys pobl Cymru a fynegwyd yn gryf iawn yn 2011. Mae’r Bil hwn yn well; byddai’n anodd iddo fod yn waeth, ond mae, er hynny, yn well. Mae yna rai rhannau o’r Bil y byddai’r Aelodau, rwy’n siŵr, yn cytuno â hwy. Rydym yn cael rheolaeth sylweddol ar ein cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cynulliad, o ran y niferoedd, o ran dull o ethol ac wrth gwrs, o ran ein gallu i lywodraethu ein hunain fel sefydliad, yn hytrach na chael eraill i ddweud wrthym sut y dylem lywodraethu ein hunain. Mae’n cynnwys cryn dipyn o ddatganoli cyfraith trosedd; mae’n gwneud cynnydd mewn perthynas â dŵr—peth cynnydd—ynni a meysydd eraill y bydd yr Aelodau’n gyfarwydd iawn â hwy. Ond wrth gwrs, mae yna feysydd eraill nad ydynt yn cael eu trin yn briodol, sy’n golygu ei bod yn gwbl anochel y bydd yn rhaid mynd i’r afael â Bil arall yn y dyfodol. Ac mae’n drueni, oherwydd yn hytrach na gweithredu fel iâr or-ffyslyd â’i chywion, gallai Llywodraeth y DU ddangos gweledigaeth mewn gwirionedd drwy gyflwyno setliad a fyddai’n fwy parhaol ac yn fwy cadarn. Nid dyna’r ffordd y maent yn gweithredu yn San Steffan, yn anffodus.

Dau beth yn benodol sydd wedi achosi pryder i’r Aelodau yw’r awdurdodaeth a phlismona. Nid yw’n gydlynol i gael un awdurdodaeth gyda dwy ddeddfwrfa ynddi. Dyma’r unig le yn y byd sydd â system fel hon ac nid yw’n un gadarn. Pam rwy’n dweud hynny? Oherwydd gyda datganoli cyfraith trosedd sylweddol, bydd yn golygu y bydd yn berffaith bosibl i rywun gael eu harestio yng Nghaerdydd yn y dyfodol am drosedd nad yw’n drosedd yng Nghymru. Bydd yn berffaith bosibl i rywun dreulio amser yn y carchar yn Lloegr am drosedd nad yw’n drosedd yn Lloegr. Eisoes, dywedwyd wrthyf—yr Arglwydd Brif Ustus a ddywedodd hyn wrthyf—fod cyfreithwyr wedi dod i lysoedd yng Nghymru a dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn credu bod un awdurdodaeth yn golygu un gyfres o ddeddfau. Mae’r dryswch hwn yn sicr o barhau yn y dyfodol. Oherwydd y methiant i ddatganoli’r heddlu, rydym hefyd mewn sefyllfa lle bydd y rhan fwyaf o’r gyfraith sy’n rheoli trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli—yn wir, bydd y rhan fwyaf o gyfraith trosedd wedi’i datganoli—ond ni fydd yr asiantaethau sy’n gyfrifol am erlyn a gorfodi’r gyfraith honno wedi’u datganoli. Nawr, nid yw hynny’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, fel y gwêl yr Aelodau yn y dyfodol.

Ar fater trwyddedu, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod o’r farn fod trwyddedu’n fater iechyd. Nid oedd Llywodraeth y DU yn derbyn hynny; dywedasant ei fod yn fater trefn gyhoeddus. Eto i gyd, bellach, bydd y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus yn cael ei datganoli, ond ni fydd trwyddedu’n cael ei ddatganoli. Felly, mae’r rhesymeg sy’n sail i’r methiant i ddatganoli trwyddedu yn diflannu. Dyna’r broblem: nid oes rhesymeg yn y Bil hwn o gwbl. Pam y dylai’r Alban gael rheolaeth ar doll teithwyr awyr, ac nid Cymru? Gwn yr ateb i’r cwestiwn hwnnw: maent yn gresynu eu bod wedi rhoi rheolaeth dros doll teithwyr awyr i’r Alban yn y lle cyntaf. Nid ydynt am sicrhau ein bod ni’n cael yr un hawliau dros eu crogi. Pam y mae porthladdoedd yn cael eu datganoli, ac eithrio porthladd cytundeb Aberdaugleddau? Y rheswm, mewn gwirionedd, yw oherwydd y llif o nwy naturiol hylifedig i’r porthladd. Rwyf wedi cael gwybod hynny gan Lywodraeth y DU: ‘Wel, mae’n rheoli 25 y cant o’r nwyon naturiol hylifedig’. Fel pe baem am roi stop arno. Pam y ceir pŵer ymyrryd mewn perthynas â dŵr, sy’n negyddu unrhyw beth y gallai’r Cynulliad fod eisiau ei wneud yn y dyfodol? Byddai’r pŵer ymyrryd hwnnw’n golygu na allem gael rheolaeth dros ein hadnoddau dŵr; byddai’n golygu y gellid gorfodi Tryweryn arall arnom. Nid yw hynny’n iawn o ran yr angen i gael perthynas aeddfed rhwng Llywodraethau. Unwaith eto, mae’n ymwneud â’r ffaith fod ganddynt obsesiwn â’r syniad y byddwn, mewn rhyw ffordd, yn cau’r tapiau os oes gennym reolaeth dros ddŵr. Rwyf wedi cael profiad o hyn. Pan oeddwn yn Weinidog yr amgylchedd, roeddem eisiau rhoi’r ffin wleidyddol yn ei lle ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Y ddadl a daflwyd yn ôl atom oedd, ‘Ie, ond efallai y byddwch yn gwneud rhywbeth i afon Hafren yn y Drenewydd a fydd yn achosi llifogydd yng Nghaerloyw.’ Nawr, pam y cawn ein gweld fel rhyw fath o bŵer gelyniaethus, nid wyf yn gwybod, ond dyna’r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gweld pethau weithiau. Mae’n drueni, oherwydd, fel rwy’n dweud, mae cyfle yma i wneud pethau’n iawn.

Mae’n anochel, rwy’n credu, y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys yn y pen draw, ac mae hynny, unwaith eto, yn tanseilio’r ddadl fod hwn yn setliad parhaol yn seiliedig ar gytundeb Dydd Gŵyl Dewi, nad yw’n gytundeb ac ni fu’n gytundeb erioed. Unwaith eto, rydym mewn sefyllfa lle nad oes rhesymeg yn sail i’r cwestiwn pam fod rhai meysydd yn cael eu cadw’n ôl a meysydd eraill yn cael eu datganoli.

Ar fater cosb resymol, nid wyf yn credu y bydd yn amharu ar ein gallu i fynd i’r afael â hynny, gan ei bod yn eithaf amlwg i mi y bydd trosedd ymosod cyffredin wedi’i datganoli’n gyfan gwbl ac felly bydd yr amddiffyniadau’n dilyn hynny. Byddwn yn gallu gosod ein llwybr ein hunain mewn perthynas â’r drosedd honno.

Mae’n gywir dweud bod yna rai meysydd lle mae datganoli’n mynd am yn ôl—meysydd fel cyflogaeth, er enghraifft, a meysydd lle bydd angen cydsyniad Gweinidog y Goron o hyd mewn meysydd nad ydynt mor bwysig â hynny mewn gwirionedd, ac mae’n anodd dirnad pam eu bod i’w gweld mor bwysig i Whitehall.

Ar rai o’r materion eraill a grybwyllwyd gan yr Aelodau, mae’r materion a nododd Nathan Gill yn rhai pwysig. Pysgodfeydd môr—eto, oherwydd y penderfyniad i adael yr UE, mae angen mynd i’r afael â nifer o bethau. Yn gyntaf oll, gyda physgodfeydd môr, mae gennym reolaeth dros y terfyn 12 milltir, ond nid y tu hwnt i hynny. Mae’r rheolaeth honno gan bawb arall: mae’r rheolaeth honno gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ond nid Cymru. Nawr, yn nyddiau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, nid oedd o bwys mewn gwirionedd. Mae’n bwysig yn awr, oherwydd mae’n amharu ar ein gallu i gael polisi pysgodfeydd priodol sy’n galluogi fflyd bysgota Cymru i gael mynediad cynaliadwy i ddyfroedd Cymru. Ni fydd hynny’n bosibl fel y mae pethau. Bydd Llywodraeth y DU o’r farn fod y pwerau a fydd yn dychwelyd o Frwsel yn mynd i San Steffan yn y pen draw. Nid yw hynny’n wir. Os cânt eu datganoli, byddant yn osgoi San Steffan ac yn dod yn syth yma, a’r pryder sydd gan rai ohonom yw y gwneir ymgais i atal hynny rhag digwydd, rywsut, gyda ffermio a physgodfeydd. Fel arall, wrth gwrs, byddent yn cael eu datganoli’n awtomatig.

Ar y refferendwm, yr hyn rwyf wedi’i ddadlau bob amser yw hyn: mewn rhai ffyrdd, mae’r ddadl wedi symud ymlaen. Mae gan yr Alban bwerau cyllidol llawer cryfach na’r hyn sydd gennym ni, ac mae hynny wedi digwydd heb refferendwm. O ganlyniad i hynny, nid wyf yn gweld yr angen am refferendwm yng Nghymru bellach, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban a’r pwerau sydd wedi’u datganoli yno.

Mae’n rhaid i ni ddeall nad ydym eto mewn sefyllfa yn y DU lle mae Llywodraeth y DU, a dweud y gwir yn blaen, yn ddigon aeddfed i drin y Llywodraethau eraill yn y DU gyda pharch. Yn y Bil hwn, mae llawer o bethau y gellir eu cefnogi; mae yna bethau eraill a fydd yn achosi pryder mawr i’r Aelodau. Byddwn yn cynnig gwelliannau fel Llywodraeth i adlewyrchu pryder yr Aelodau mewn ymgais wirioneddol i wella’r Bil, er mwyn ei wneud yn gliriach i ni ddeall yn iawn beth yw’r ffiniau rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn nad yw wedi’i datganoli, gan barchu canlyniad refferendwm 2011. Rydym yn aros i weld beth fydd safbwynt Llywodraeth y DU ar hynny. Mae ein cefnogaeth i’r Bil yn parhau i fod yn amodol ar yr hyn y byddwn yn ei weld yn dod drwy’r gwahanol gamau yn Nhŷ’r Arglwyddi. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried barn, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond pobl eraill, mewn pleidiau eraill o amgylch y Siambr hon, ac yn gweithio o ddifrif i sicrhau bod hwn yn Fil sy’n diwallu anghenion cyfansoddiadol Cymru, sy’n cydnabod y farn a fynegwyd gan bobl Cymru yn 2011 ac yn fwy na dim arall, sy’n golygu na fydd yn rhaid i ni ddod yn ôl eto mewn ychydig flynyddoedd i ddadlau yr un pwyntiau drosodd a throsodd. Mae hynny wedi’i golli hyd yn hyn ac rwy’n gobeithio na fydd yn cael ei golli yn y dyfodol. Mae’r neges wedi mynd yn glir o’r Cynulliad hwn heddiw, o bob ochr i’r Cynulliad: mae gwaith i’w wneud o hyd i gynhyrchu Bil sy’n dderbyniol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:04, 19 Hydref 2016

Rwy’n galw ar Huw Irranca-Davies i ymateb i’r ddadl.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Rwyf wedi fy synnu gan y ffaith fod cymaint o gonsensws. Efallai fod gwahaniaethau o ran pwyslais a naws, ond y consensws, fel y’i mynegwyd gan y Prif Weinidog yn awr, yw y byddwn, yn gyntaf, yn ôl yma eto, ac yn ein hadroddiad, rydym wedi dweud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Ond hefyd, nodaf fod y Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn anochel y byddwn yn ôl yn y Goruchaf Lys. ‘Does bosibl mai dyna yw diben setliad deddfwriaethol a chyfansoddiadol da a chlir.

Ar un manylyn, Lywydd, o ran y mater a nododd Julie Morgan, gall fod yn rhywbeth unwaith eto rydym am geisio eglurhad yn ei gylch oherwydd, yn sicr, roedd y dystiolaeth a gawsom gan bobl fel Emyr Lewis yn—wel, fe’i dyfynnaf:

‘rwy’n credu ei bod hi’n eithaf eglur ar hyn o bryd bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i gael gwared ar yr amddiffyniad mewn achos o ymosod ar blentyn o gystwyo rhesymol… Pe bai’r Bil yma’n dod yn Ddeddf, rwy’n credu y byddai hynny’n diflannu, oherwydd y newidiadau mewn perthynas â chyfraith droseddol.’

Ond y ffaith syml yw na ddylem orfod ceisio osgoi hyn a cheisio egluro, yn y dryswch hwn, beth sy’n digwydd. Dyna beth y mae’r Bil hwn yn ei wneud i ni.

Ond rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae Simon Thomas, gyda’r cyfraniad yma, wedi cyffwrdd ar y parch rhwng dau sefydliad aeddfed. Efallai ein bod yn sefydliad ifanc, ond rydym yn alluog, rydym yn hyderus, mae gennym gorff o gyfreithiau, ac mae gennym gorff o ddeddfwyr. Wrth ddatblygu cyfraith gyfansoddiadol—mae’n bwynt a wnaethom yn glir iawn—mae angen i ni weithredu gyda mwy o gydbwysedd wrth ei datblygu, a mwy o gydbwysedd yn y canlyniadau rhwng y ddwy Lywodraeth, a’r Cynulliad a’r Senedd, ac yn y blaen. Fel y gwnaeth eraill, amlygodd y perygl o golli pwerau sydd gennym eisoes, mater rydym wedi tynnu sylw ato. Soniodd am ddyfyniad Charles Parnell. Os oes gennyf amser, efallai y ffeiriaf ddyfyniad gan rywun arall gydag ef yn y man.

A gaf fi dalu fy nheyrnged fawr i gyn-gadeirydd y pwyllgor hwn, David Melding, ac am ei gyfraniad i hyn hefyd? Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael pwyllgor ymrwymedig iawn. Mae pob un o aelodau’r pwyllgor wedi cyfrannu, ond yn sicr mae profiad rhai Aelodau hŷn sydd wedi cadeirio’r pwyllgor hwn, neu sydd â phrofiad hir o faterion cyfansoddiadol, wedi bod o fantais fawr i’r pwyllgor. Ategaf ei sylwadau, a’i sylwadau am ein tîm cymorth a’r clercod yn ogystal, a hefyd ei sylwadau ar elfennau da’r Bil. Rwy’n gwbl argyhoeddedig, os gellir addasu’r Bil wrth iddo fynd ar ei daith, mae’n werth tynnu sylw at elfennau da’r Bil hwn. Ond mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau’r bobl yn ‘y lle arall’, fel roeddem yn arfer ei alw yn San Steffan—yn Nhŷ’r Arglwyddi—ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod y camau olaf i wneud y gwelliannau angenrheidiol hynny. Ond fe ellir ei wella. Mae’n werth ei wella yn yr wythnosau i ddod sy’n weddill.

Diolch hefyd i Michelle Brown a oedd yma am y rhan fwyaf o’r Bil hwn, ac mae hi wedi cyffwrdd ar yr angen am gydweithredu i ddatblygu setliad cyfansoddiadol. Mae’n thema allweddol yn ein gwaith. Dywedodd Nathan fod pumed Bil yn realiti yn eithaf buan. Mae hynny’n hollol gywir, ac mae yna gonsensws ynglŷn â hynny ymhlith yr holl gyfranwyr heddiw. Nid hwn yw’r setliad parhaol a chadarn. Nid yw’n agos at fod, ond efallai y gallwn symud ychydig gamau ymlaen os gallwn roi’r gwelliannau hyn ar waith.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fydd yn parhau ei ymwneud â hyn ar ben arall yr M4 neu reilffordd y Great Western, ‘Os ydym am gael model cadw pwerau, gadewch i ni gael model cadw pwerau priodol’. Nid wyf am ddweud pwy, ond rwy’n siŵr fod un o aelodau fy mhwyllgor, pan aethom i bwyllgor cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi, wedi dweud ‘Gadewch i ni gael model cadw pwerau yn hytrach na model gwrthdroi pwerau’.

Cafwyd consensws cryf heddiw. Gadewch i mi, wrth gloi, ddweud yn fyr iawn fod un o’r enghreifftiau diddorol yn ymwneud â thraffig ffyrdd. Mae’n enghraifft sy’n pwysleisio cymaint o bethau sy’n annigonol yn y Bil. Mae’n ymddangos y gallai’r Cynulliad basio deddfwriaeth sy’n pennu terfyn cyflymder ar ffordd, ond ni fyddai’n gallu pennu trosedd traffig ffyrdd y byddai torri’r terfyn cyflymder hwnnw’n ei thramgwyddo. Mae hynny’n hurt. Felly, wrth gloi, a gaf fi rannu meddyliau un tyst gyda chi, Dr Diana Stirbu, a wnaeth sylwadau huawdl a oedd yn taro tant yn y pwyllgor? Meddai, dylai setliad cyfansoddiadol fod yn uchelgeisiol hefyd. Ac rwy’n credu mai’r hyn rydym yn methu â’i weld yw uchelgais a dyhead clir ar gyfer statws cyfansoddiadol Cymru a sut y bydd Cymru’n cael ei hail-leoli’n gyfansoddiadol o fewn y DU.

Mae hyn yn adleisio sylwadau a wnaeth Prif Weinidog Cymru ac eraill yn flaenorol. A dywedodd,

‘rwy’n credu bod cyfansoddiadau yn cyfleu negeseuon ynglŷn â pha fath o wleidyddiaeth rydych yn ei harfer mewn gwlad, pa fath o gymdeithas yr hoffech fyw ynddi, pa fath o ddyheadau sydd gennych ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. A’r holl negeseuon hyn, symbolaidd neu beidio, ar lefel ddatganiadol neu ar lefel dechnegol iawn—credaf y dylai’r cyfansoddiad fynd ymhellach na mynegiant technegol a chyfreithiol o realiti gwleidyddol yn unig.’

Rwyf fi a holl aelodau’r pwyllgor yn wirioneddol ddymuno’r gorau i’r Bil hwn. Rydym yn gobeithio y caiff ei wella fel y bydd angen, ond byddwn yn ôl yma’n gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae angen i ni weithio ar y cyd i gyflawni’r setliad clir, ymarferol a pharhaol hwnnw sydd ei angen, nid yn unig ar Gymru, ond ar y DU hefyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:09, 19 Hydref 2016

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 19 Hydref 2016

Yr eitem nesaf yw’r cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.