– Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 10 ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig y cynnig—Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-16, a elwir 'Tuag at Gymru Decach’.
Mae'r adolygiad yn rhoi sylw i’r amrywiaeth eang o waith y mae’r comisiwn wedi ymgymryd ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn cyflwyno rhagolwg o'i flaenoriaethau. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) swyddogaeth unigryw fel rheolydd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a'r dyletswyddau penodol i Gymru. Mae'r adolygiad blynyddol yn rhoi llawer o enghreifftiau o arfer da sydd wedi deillio o’r dyletswyddau hynny ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y maen nhw’n eu cael yng Nghymru.
Mae wedi bod yn flwyddyn bwysig arall i’r comisiwn. Mae cyhoeddi 'A yw Cymru’n Decach?' yn arbennig wedi cael effaith bwysig ar y ffordd yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb ers i'r comisiwn gyhoeddi ei adolygiad 'Pa mor deg yw Cymru?' bum mlynedd yn ôl. Mae'n amlinellu lle y mae angen gwelliannau ac yn nodi saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae'r comisiwn hefyd wedi cyhoeddi’r heriau hyn i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru ac mae gennym ni oll swyddogaeth wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, a dylem ni barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Roedd y comisiwn yn dymuno i’r adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?' sbarduno newid, ac mae gennym ni’r un dyhead ar gyfer ein hamcanion cydraddoldeb newydd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2016. Datblygwyd ein hamcanion ar ôl ymgysylltu helaeth â phobl ledled Cymru, ac maen nhw wedi’u cysylltu'n gryf â'r heriau a nodwyd yn adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?'. Mae awdurdodau cyhoeddus yn pennu amcanion cydraddoldeb yn seiliedig ar yr heriau allweddol hyn, ac mae'r adroddiad felly yn ysbrydoli ymagwedd ar y cyd o fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl yma yng Nghymru.
Gwn fod yr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu’r EHRC yn gryf o blaid cydweithio, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn eu hawydd i weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru i lunio'r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r EHRC wedi croesawu penodiad y comisiynydd ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn helpu i wneud Cymru'n genedl fwy cyfartal a chydlynol.
Rydym ni’n cydnabod ymrwymiad y comisiwn i annog, hysbysu a monitro'r sector cyhoeddus, y ceir enghreifftiau o hynny yn eu hadolygiad blynyddol, ac mae’r comisiwn wedi cynhyrchu adroddiad yn ddiweddar sy'n annog cyflogwyr yng Nghymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i Fwslimiaid a phobl o bob crefydd, drwy ddatblygu mannau yn y gwaith sy’n croesawu pob ffydd. Mae'n bwysig ein bod ni yng Nghymru ar flaen y gad er mwyn gweithredu mesurau ymarferol yn y gweithle i ddenu, cefnogi a chadw pobl dalentog o bob ffydd.
Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn nigwyddiad lansio y cyhoeddiad ‘Creating a faith-friendly workplace for Muslims’ a'r ffilm fer i gyd-fynd â hynny, sef ‘Fairness Not Favours’. Roedd hon yn enghraifft wych o'r wybodaeth a’r digwyddiadau poblogaidd a drefnwyd gan y comisiwn yn ystod y flwyddyn 2015-16.
Mae cyfnewidfa cydraddoldeb a hawliau dynol y comisiwn wedi parhau i fynd o nerth i nerth. Mae'r gyfnewidfa yn dod â chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i rannu gwybodaeth, arferion da a syniadau newydd. Mae'r digwyddiadau rhanbarthol wedi darparu fforwm gwerthfawr i aelodau drafod amrywiaeth o bynciau.
Mae darlith flynyddol uchel ei pharch yr EHRC ar hawliau dynol yn ddigwyddiad pwysig arall yn y calendr ar gyfer ymarferwyr cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru, ac fe gyflwynodd y Parchedig Aled Edwards y ddarlith eleni, gan ganolbwyntio ar brofiadau ceiswyr lloches, mewnfudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn parhau i fod yn bwnc amserol a heriol, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru.
Byddwn ni’n gweithio'n agos â'r EHRC ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am y cyngor a'r dystiolaeth y mae'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Mae'r berthynas hon yn ein cynorthwyo i ddatblygu polisi, ac, fel yr ydym wedi gweld yn glir iawn yn ein hamcanion cydraddoldeb newydd, gwnaeth y concordat rhwng yr EHRC a Llywodraeth Cymru yn 2014 ddarparu sail ar gyfer y berthynas, ac rydym wedi parhau i adeiladu ar hyn. Mae'n bwysig bod EHRC yn parhau i fod yn bresenoldeb cryf a phendant yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyfnod ansicr ar droed o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yma yn y DU. Rydym yn cadw llygad barcud ar gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil o hawliau, ac mae’r Ddeddf hawliau dynol yn ein hamddiffyn ni i gyd, ni waeth beth yw ein cefndir economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’n fawr ddarn cynhwysol o ddeddfwriaeth, un sy'n caniatáu i bobl Cymru i herio anghydraddoldeb ac anghyfiawnder.
Rydym yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gyfyngu posibl ar ein hawliau dynol, a byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i sicrhau na chaiff yr hawliau a fwynheir ar hyn o bryd gan yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru eu gwanhau gan gynigion Llywodraeth y DU. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad ac ymgynghori'n llawn ar unrhyw gynigion sy'n effeithio ar unrhyw hawliau dynol.
I grynhoi, mae adolygiad blynyddol yr EHRC yn rhoi trosolwg gwerthfawr o waith eang ac amrywiol y comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf, yr wyf i'n ddiolchgar iawn amdano. Rwy’n sicr y caiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodir yn ystod y ddadl hon, ac mae hyn yn dangos bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn berthnasol i bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, ac, o ganlyniad, yn elfen hanfodol wrth ddatblygu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, ac rwy’n ymddiheuro mai fi sydd yn codi bob tro ar gyfer Plaid Cymru heddiw; rwy’n siŵr bod pobl wedi cael digon o glywed fy llais i. Ond rwyf yn hapus i groesawu cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru drwy dynnu sylw at y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal y momentwm tuag at Gymru decach a fwy cynhwysol, a hefyd drwy dynnu sylw, wrth gwrs, at beth sydd yn dal angen ei wneud er mwyn sicrhau hawliau holl ddinasyddion Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi cynnig dau welliant i’r ddadl heddiw, un sydd yn nodi y bydd clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru yn cael ei sefydlu yn sgil trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb bresennol—y clinig cyntaf o’i fath yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gall pawb yn y Cynulliad yma werthfawrogi arwyddocâd ac effaith bositif y gall hynny ei gael ar y gymuned drawsrywiol yma yng Nghymru. Rydw i wedi cwrdd â nifer o bobl yn y gymuned honno sydd wedi gorfod trafaelio i Loegr am driniaeth hyd yn hyn, ac maen nhw yn gweld gwerth yr hyn sydd yn cael ei wneud yn sgil y datganiad yma.
Mae ein hail welliant yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth i weithredu ar un mater yn benodol a godwyd yn yr adroddiad, sef i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau yn y gwaith ac i fod yn hyderus i sefyll drostynt. Mae’n warthus bod mwy na thri chwarter o fenywod beichiog a mamau newydd yng Nghymru yn profi triniaeth negyddol, ac, o bosibl, gwahaniaethol yn y gwaith. Mae gofyn felly i’r Llywodraeth gydweithredu gydag undebau llafur a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well, a chymryd camau pendant i sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu hamlygu, nid yn unig i’r mamau eu hunain ond i’r cyflogwyr hefyd, sydd efallai yn diystyru eu barn heb yn wybod iddyn nhw ar nifer o adegau.
Mi fyddwn ni’n cefnogi y gwelliannau yn enw Paul Davies, yn unol â’r gwelliant penodol ynglŷn â chydweithredu ar draws sectorau a sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gan fod hyn yn rhywbeth pwysig i ni hefyd. Ond fel pob adroddiad blynyddol gan y comisiwn, mae rhai o’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn frawychus. Mae 23 y cant o bobl yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, ac mae hyn yn codi i 42 y cant o holl blant rhwng 0 a 4 oed, ac mae 27 y cant o bobl anabl a 38 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi o hyd.
Mae’n peri gofid i fi bod hyn yn digwydd blwyddyn ar ôl blwyddyn a phrin bod y ffigurau’n newid. Ac felly mae e’n llai o gwestiwn i’r Gweinidog ond cwestiwn i’r comisiwn ei hun—roeddwn yn edrych ar y wefan yn gynharach ac mae gan y comisiwn bwerau gorfodaeth. Maen nhw’n gallu bod yn sialens i nifer o bolisïau sydd yn dod allan o Lywodraethau gwahanol, ac felly byddwn i eisiau gweld, er enghraifft, fel mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud, defnyddio’r pwerau hynny yn fwy amlwg i weithredu dros yr hyn sydd yn digwydd, oherwydd nid wyf yn hapus i fod yma blwyddyn ar ôl blwyddyn i drafod y ffaith bod pobl yn parhau i fod mewn tlodi. Beth mae’r comisiwn yn defnyddio o ran ei sgiliau o ran y pwerau i allu newid hyn?
Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd inni edrych ar yr economi, oherwydd, wrth gwrs, dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, ond mae angen inni gael pwerau economaidd ystyrlon wedi’u trosglwyddo o San Steffan i Gymru er mwyn inni allu gweddnewid yr hyn sydd yn digwydd o fewn ein heconomi, yn enwedig yn sgil y ffaith bod pobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Os nad nawr yw’r amser i gael mwy o bwerau dros ein heconomi ein hunain, yna pryd?
Byddwn i’n hoffi clywed mwy gan y Gweinidog yn hynny o beth, yn enwedig o ran y Ddeddf hawliau dynol a’r bwriad gan y Llywodraeth yn San Steffan i danseilio hynny gan gael gwared ar hynny. Mae hi wedi’i gwreiddio mewn nifer fawr o ddeddfwriaeth ryngwladol. Sut, felly, mae’r Gweinidog yn bwriadu herio Llywodraeth Prydain i ddweud nad yw Cymru’n hapus i hynny ddigwydd a sut y bydd e’n cyfathrebu hynny’n glir iddyn nhw? Diolch yn fawr.
Rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 3—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.
Wrth ystyried adolygiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, 'Tuag at Gymru Decach', mae ein gwelliant 3 yn nodi bod dadansoddiad y comisiwn wedi amlygu saith her allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac y bydd angen ymdrech sylweddol gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chan unigolion, i leihau’r heriau hyn. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid cydgynhyrchu mewn partneriaeth gyfartal yr atebion i'r hyn y mae'r comisiwn yn ei ddisgrifio fel y pethau sylweddol sy’n achosi anghydraddoldebau a chamarfer hawliau dynol sydd wedi’u hymwreiddio, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwr yn eu bywydau eu hunain. Fel y mae adroddiad y comisiwn yn datgan, mae'r saith her allweddol hyn yn berthnasol i: addysg; cyflogaeth; amodau byw mewn cymunedau cydlynol; mynediad at gyfiawnder a chyfranogiad democrataidd; gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth; cam-drin, esgeulustod a chamdriniaeth dan ofal a chadwad; a chael gwared ar drais, cam-drin ac aflonyddu yn y gymuned.
Fel y mae’r prosiect troseddau casineb Cymru gyfan yn nodi,
Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth sicrhau bod mecanweithiau adrodd trydydd parti hawdd eu defnyddio ar waith ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw’n dymuno adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu, ac y dylid gwneud mwy i sicrhau yr ymdrinnir â chyflawnwyr troseddau casineb yn effeithiol ac y dylai dulliau adferol fod ar gael i bawb yng Nghymru.
Byddwn ni’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er y byddem ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyrff cyflogwyr a’r sector gwirfoddol. Roedd sefydlu clinig hunaniaeth rywedd ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru yn 2016.
Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cydnabyddiaeth gan y comisiwn o’r angen i rymuso ac ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae cynllun gwaith Cymru 2016-17 y comisiwn yn cynnwys hyrwyddo tystiolaeth i rymuso’r sector gwirfoddol a chymunedol a'r cyhoedd i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a dylanwadu ar benderfyniadau a’r gwaith o lunio polisïau ar draws y sector cyhoeddus ac ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a'r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru i sicrhau bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn annog gwelliannau mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus ac o ran cyflenwi gwasanaethau.
Fel y nododd y comisiwn Williams:
Bydd angen i arweinwyr ar bob lefel fod yn agored i wahanol ffyrdd o weithio, gan gynnwys cydweithredu neu gyd-gynhyrchu.
Fel y noda Archwilydd Cyffredinol Cymru:
ceir cydnabyddiaeth llawer cliriach erbyn hyn nad yw dulliau blaenorol wedi gweithio yn ôl y bwriad, a bod angen newid mawr.
Mae’n rhaid i ni felly symud oddi wrth system lle y mae anghenion pobl yn cael eu hasesu ac yr eir i’r afael â nhw, a dilyn system sy'n amddiffyn gallu unigolyn i wneud dewisiadau.
Ar ôl i Gyngor Conwy gael gwared ar wasanaethau hanfodol ar gyfer y gymuned fyddar a ddarparwyd drwy’r sector gwirfoddol, ysgrifennais atyn nhw gan nodi mai egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oedd bod yn rhaid i unigolion a'u teuluoedd allu cymryd rhan yn llawn yn y broses o bennu a bodloni eu hanghenion gofal a chymorth a nodir, gan ddilyn proses sy'n hygyrch ar eu cyfer nhw. Eu hateb? Wel, gwnaethon nhw ateb drwy ddweud bod eu hymateb i’r Ddeddf wedi arwain yn lle hynny atyn nhw’n sefydlu gwasanaeth anabledd integredig mewnol. Dywedodd y gymuned fyddar wrthyf eu bod yn cael eu hamddifadu o’u hannibyniaeth, eu hawliau dynol a’u hawliau i gydraddoldeb.
I gefnogi Bil awtistiaeth (Cymru), ysgrifennodd rhiant plentyn awtistig yn ei arddegau y penwythnos diwethaf: Nid wyf yn credu bod y gwasanaethau cymdeithasol na’r Ddeddf llesiant yn ddigon pellgyrhaeddol i gefnogi’r bobl hynod ddawnus ac arbennig hyn.'
Ar ôl imi ysgrifennu at Gyngor Wrecsam, i gefnogi rhiant mab â chanddo syndrom Down, a dynnodd sylw at y pwyslais yn y Ddeddf ar gynnwys pobl yn y penderfyniadau am sut y pennir ac y darperir eu gofal a'u cymorth, atebodd y cyngor nad y Ddeddf yw’r ddeddfwriaeth y mae'n rhaid cynnal y broses dendro oddi tani.
Mae Rhan 2 o god ymarfer y Ddeddf yn cydnabod y dylai’r gwaith o gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl fod yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd—yn gyson, meddai, â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, sy'n pwysleisio swyddogaeth hollbwysig cyflogaeth wrth hyrwyddo annibyniaeth, hyder, iechyd a lles pobl, gan gynnig dihangfa rhag tlodi a galluogi pobl i gyfranogi yn y gymdeithas. Fodd bynnag, pan ysgrifennais i’n ddiweddar at Gyngor Sir y Fflint, ar ôl i gynnig gwaith amodol i unigolyn hemoffilig gael ei dynnu'n ôl yn dilyn ei archwiliad meddygol, yr ateb a gefais ganddynt oedd nad oeddent yn gallu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y camau a gymerwyd ganddyn nhw wedi torri unrhyw elfen o'r ddeddfwriaeth.
Gan nodi’r gwirioneddau hyn a rhai eraill, megis y ffaith mai Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig i beidio â chynnal lefelau cyllid ar gyfer Cronfa'r Teulu, sy’n cefnogi teuluoedd incwm isel a chanddynt blant anabl, mae'n amlwg bod angen i ni gael ffordd newydd o wneud pethau yng Nghymru.
Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Mae'r comisiwn yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o agos gyda Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol, a chredaf fod hynny'n amhrisiadwy. Mae'n bwysig bod y comisiwn yn gallu dwyn y Llywodraeth, awdurdodau cyhoeddus a chyflogwyr i gyfrif am eu gweithredoedd yng Nghymru, ac rwy'n siŵr na fydd neb yma yn anghytuno â hynny.
Fel y mae'r adroddiad yn dangos yn glir, bu cynnydd o ran yr agenda rhyw, ond mae llawer mwy i'w wneud. Yn arbennig, nid yw rhyw yn nodwedd warchodedig ac mae hyn, yn fy marn i, yn ddiffyg difrifol. Dim ond heddiw, derbyniais e-bost a oedd yn defnyddio termau a oedd yn cam-drin ar sail rhyw i ddisgrifio etholwr arall. Mewn unrhyw faes arall o fywyd cyhoeddus, byddwn i’n gallu gwneud rhywbeth am hynny. Yn yr achos hwn, y cyfan y gallaf ei wneud mewn gwirionedd yw dweud wrth y person sy'n cam-drin fod hynny, i mi, yn gwbl annerbyniol.
Mae gennym ni erbyn hyn Ddeddf nodedig yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a pholisïau gweithle y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i gefnogi aelodau staff sy'n dioddef cam-drin domestig, sy’n cwmpasu dros 400,000 o weithwyr yng Nghymru. Ond y gwir amdani yw bod un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig ac, ar gyfartaledd, caiff dwy fenyw, bob wythnos yn y DU, eu llofruddio o ganlyniad i gam-drin domestig.
Mae’r Diwrnod Rhuban Gwyn, a gynhelir ar 25 Tachwedd, yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth a bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma yn y Senedd ar 22 Tachwedd. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cyfrannu at hynny.
Ceir hefyd broffil yr aelwydydd digartref statudol yng Nghymru, a newidiodd yn sylweddol rhwng 2010 a 2015, gan fod cynnydd o 19 y cant yn nifer y bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Dylai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 helpu i atal sefyllfaoedd digartrefedd presennol pan fo cyd-denant yn gadael y denantiaeth, a thrwy hynny roi terfyn ar y denantiaeth i bawb arall. Bydd y dull newydd hwnnw o gontractau ar y cyd, rwy’n gobeithio, yn helpu’r rhai sy’n dioddef o gam-drin domestig gan ei fod yn golygu y gellir targedu’r troseddwr, a’i droi ef neu hi allan yn hytrach na'r dioddefwr, ar yr amod ei bod yn ddiogel i wneud hynny, a fydd yn darparu rhywfaint o ddilyniant ym mywydau'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw.
Rydym yn gwybod bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau ychydig bach, o 9.6 y cant i 9.4 y cant. Ar y gyfradd hon, ni fyddaf yn fyw erbyn yr adeg y caiff y bwlch ei gau, yn ôl yr amcanestyniadau presennol. Yn sicr, credaf nad yw hynny’n dderbyniol. Mae’r adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi heriau allweddol i ni i gyd, ac nid wyf am fynd drwyddyn nhw, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio yw y bydd ganddyn nhw’r adnoddau a'r gallu i fynd â nhw rhagddynt.
Ond y peth olaf yr wyf am sôn amdano yw’r Ddeddf hawliau dynol y mae Llywodraeth bresennol San Steffan yn ceisio ei thanseilio a’i disodli â bil o hawliau. Yn fy marn i, rhoddir gormod o bwyslais ar beth yw hawliau dynol ar gyfer eraill—y byddwch yn atal eraill rhag arfer eu hawliau dynol yn yr hinsawdd bresennol. Rwy'n credu ei bod hi’n werth cofio pan fyddwch yn atal eraill rhag arfer eu hawliau dynol, byddwch chi hefyd yn atal eich hun rhag arfer eich hawliau dynol, ac nid yw hwnnw’n llwybr yr ydym eisiau ei ddilyn.
Rwy'n ddiolchgar i'r comisiwn—i gomisiynydd Cymru, June Milligan, yn arbennig, ar ôl cymryd yr awenau gan Ann Beynon, a hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith yn y swydd honno—am yr adroddiad hwn, 'Tuag at Gymru Decach’. Credaf ei bod yn bwysig deall y daw’r adroddiad hwn gan bwyllgor Cymru, sy'n cael ei gadeirio gan gomisiynydd Cymru fel swyddog arweiniol y EHRC, sy'n ei gefnogi, a cheir nifer o bobl rhan amser ar y pwyllgor hwnnw. Ond y mae rhan fwyaf o waith yr EHRC yn digwydd ar sail Prydain gyfan mewn meysydd sy'n canolbwyntio ar—mewn gwirionedd, yn deillio o'r comisiwn blaenorol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal, a oedd yn canolbwyntio yn flaenorol ar gydraddoldeb rhywiol. Ymgorfforwyd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a’r Comisiwn Hawliau Anabledd yn rhan o’r EHRC newydd hwn. Ceir pwyllgor anabledd gan fod pwyllgor Cymru a'r Alban, ond nod yr EHRC oedd canolbwyntio ar gydraddoldeb fel egwyddor, yn hytrach na chael comisiynau a chyrff sy'n cystadlu i gynrychioli gwahanol grwpiau.
Rwy'n credu y byddai'n ddoeth i'r Cynulliad asesu sut y mae’r comisiwn yn gweithio yng nghyd-destun datganoli. Mae gennym y pwyllgor Cymru arbennig hwnnw. Mae yna hefyd ddyletswydd ar y comisiwn i adrodd ar yr hyn y mae'n ei wneud yng Nghymru yn ei adroddiad blynyddol; dim ond paragraff bach iawn ar hynny y gallaf ddod o hyd iddo, sydd ond yn cysylltu wedyn â thudalen yn nodi aelodau pwyllgor Cymru ar eu prif wefan.
Pan ydym ni’n ystyried y saith her allweddol sy'n cael eu nodi ar gyfer Cymru, yr hyn yr wyf yn credu a fyddai’n werthfawr yw pe baem yn gallu cymharu sut yr ydym yn ymdrin â chydraddoldeb o ran y gwahanol safbwyntiau hyn yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban ac o'i gymharu â rhanbarthau Lloegr, a pha un a nodwyd y saith maes hynny am eu bod yn faterion cydraddoldeb sy’n arbennig o bwysig, neu am fod gennym faterion a heriau arbennig yng Nghymru na chânt eu rhannu mewn mannau eraill yn y DU.
Ar ei wefan, mae'r comisiwn yn dweud mai corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr ydyw, ond nid wyf yn credu y byddai llawer o bobl yn dadlau bod Prydain Fawr yn genedl; gallaf weld pam y byddai gan Gymru neu'r DU gorff cydraddoldeb cenedlaethol. Ond rwy'n credu ei bod hi’n bwysig deall sut y mae pwyllgor Cymru yn gweithio. Mae'n cynghori Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyrff cyhoeddus ledled Cymru, ac yn sicr caiff rywfaint o weithgarwch defnyddiol ei nodi yn yr adroddiad hwn. Ond y mae hefyd yno i sicrhau bod yr EHRC ar sail Prydain Fawr yn ystyried cyd-destun Cymru ac anghenion penodol yng Nghymru. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i archwilio i ba raddau y mae'n gwneud hynny, a chredaf y byddai data cymharol yn ddefnyddiol iawn i adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Er enghraifft, pan ydym ni’n ystyried ei amcanion arbennig ar gyfer Cymru, mae’n bwriadu cau'r bylchau cyrhaeddiad drwy godi safonau ar gyfer plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, plant ag anghenion addysgol arbennig, plant sy'n derbyn gofal a phlant Sipsiwn a Theithwyr. Wrth iddo siarad am brydau ysgol am ddim, a yw honno’n broblem benodol yng Nghymru—a yw'r bwlch cyrhaeddiad yn uwch yng nghyd-destun Cymru? Oherwydd rwy’n gwybod yng nghyd-destun y DU gyfan, credaf fod y bwlch prydau ysgol am ddim wedi lleihau rhywfaint, ond mae hynny wedi’i yrru’n arbennig gan welliannau sydyn iawn yn Llundain. A oes gwersi y gallwn eu dysgu yno?
Wrth annog recriwtio, datblygu a gwobrwyo teg mewn cyflogaeth, mae pwyllgor Cymru yn dweud ei fod am gynyddu cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl ifanc, pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl Fwslimaidd. Mae'n mynd ymlaen wedyn i ddweud ei fod am gau'r bylchau cyflog, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc, pobl o leiafrifoedd ethnig a menywod. Felly, rydym yn gweld bod pobl ifanc a phobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu nodi fel meysydd o bryder arbennig yn y ddau faes hynny, ond mae ei bwyslais ar gau bylchau cyflog ar gyfer menywod; nid yw'n rhannu'r pwyslais hwnnw ar gyfer cyfraddau cyflogaeth, ac, ynglŷn â chyfraddau cyflogaeth, ei bryderon arbennig yw pobl anabl a phobl Fwslimaidd. Onid ydym ni hefyd yn poeni i ba raddau y gallai pobl anabl fod yn cael cyflog is yn y gweithlu, a’r graddau y gallai hynny fod yn broblem benodol yng Nghymru?
Yn yr un modd, pan fo’n cyfeirio at bobl Fwslimaidd, gwelwn fod grwpiau penodol sydd â nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf cydraddoldeb yn cael eu nodi, ond ni chaiff y cyd-destun ehangach ei gydnabod o reidrwydd. Er enghraifft, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion Mwslimaidd ychydig bach yn is nag ydyw ymhlith dynion eraill, ond ceir bwlch mawr iawn, iawn ymhlith menywod Mwslimaidd. A yw hynny’n bryder arbennig gan y comisiwn ac yn faes lle y mae’n dymuno gweld y Llywodraeth a chyrff y sector cyhoeddus yn gweithredu? Rwy’n credu efallai y gallwn ystyried hyn mewn cyd-destun ehangach, a deall hefyd ein bod yn pryderu am hyrwyddo cydraddoldeb a chyfle cyfartal yn fwy cyffredinol, yn hytrach na dim ond mewn cysylltiad â grwpiau penodol sydd, digwydd bod, yn cael eu nodi yn y Ddeddf cydraddoldeb. Er enghraifft, yng Nghymru, mae gennym nifer o gymunedau lle yr ydym yn gweld cyflawniad is neu lle y ceir anawsterau penodol gyda chyflogaeth neu gyflogau, yn aml mewn ardaloedd sy’n cynnwys pobl wyn dosbarth gweithiol, ac rwy'n credu bod angen i ni ei gwneud hi’n glir ein bod ni yr un mor bryderus ynglŷn â gwella cyfleoedd a chanlyniadau yn y maes hwnnw, ag yr ydym ni gyda meysydd eraill a allai o bosibl fod wedi’u nodi yn yr adroddiad hwn. Ond, ar y cyfan, rwy’n croesawu'r adroddiad ac yn diolch i’r rhai hynny a gymerodd ran am eu gwaith.
Rwy'n falch iawn i gael siarad yn y ddadl hon, rwy’n credu sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, ynglŷn â’r adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Tuag at Gymru Decach’. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Ann Beynon, sydd wedi bod yn gadeirydd yn ystod cyfnod pwysig iawn, a hoffwn gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb a hawliau dynol, a chroesawu June Milligan fel y comisiynydd newydd. Ond hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged yn y ddadl hon i Kate Bennett, sy’n mynd i ymddeol yn fuan fel cyfarwyddwr ddiwedd y mis hwn. Mae Kate yn etholwraig imi yng Ngogledd Caerdydd, ac mae hi wedi bod yn y swydd ers 2007, ac rwy’n credu ei bod wedi helpu’n aruthrol i adeiladu perthynas agos â Llywodraeth Cymru a chyda phob un ohonom fel Aelodau Cynulliad, ac mae wedi bod yn hawdd mynd ati ac yn rhagweithiol iawn. Felly, hoffwn dalu teyrnged i Kate hefyd.
Rwy’n credu bod gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cael effaith sylweddol yng Nghymru ac ar waith Llywodraeth Cymru, ac, fel y dywedais, mae perthynas waith agos a da iawn wedi’i datblygu. Rwy'n credu bod cyhoeddi adroddiadau megis 'A yw Cymru’n Decach?' yn rhoi ciplun o ba mor bell yr ydym wedi dod yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ran cydraddoldeb, sy'n ddeunyddiau da iawn i'r Llywodraeth eu defnyddio fel dull o fesur ei gweithgareddau. Ac, hoffwn ddweud, rwy’n credu nad ydym erioed wedi bod angen lleisiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gymaint ag yr ydym eu hangen ar hyn o bryd. Gyda dyfodiad Brexit, o wybod beth yw’r teimladau sydd wedi’u hysgogi ymhlith llawer o bobl mewn cymunedau lleol, mae angen pobl arnom i siarad dros eu hawliau dynol, ac, wrth gwrs, fel y mae siaradwyr blaenorol eisoes wedi dweud yn angerddol iawn, y bygythiadau i'r Ddeddf hawliau dynol. Felly, mae hwn yn gyfnod pan fo angen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol arnom yn fwy nag erioed o'r blaen.
Yn eu hadroddiad, maen nhw’n tynnu sylw at rai meysydd gwella a rhai meysydd lle mae gennym le i wella o hyd, ac rwy’n croesawu’r ffaith eu bod yn adrodd bod llai o elyniaeth tuag at bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ond rwy'n pryderu eu bod yn dweud, yn gyffredinol, fod pobl ifanc mewn sefyllfa lai ffafriol o ran cyflogaeth, tâl a thai nag oeddent bum mlynedd yn ôl. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru—ac awdurdodau cyhoeddus eraill—yn cymryd sylw o hynny a’n bod ni’n defnyddio hynny i lywio'r broses o lunio polisïau. Un o'r heriau y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei hamlygu yw gwella cynrychiolaeth ddemocrataidd, ac rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol, oherwydd yn fy marn i, fel llunwyr polisi, os nad ydym ni’n adlewyrchu'r cymunedau sy’n bodoli, bydd y deddfau yr ydym ni’n eu creu yam fod yn llai effeithiol. Rwy'n falch o ddweud yn yr etholiadau llywodraeth leol sydd ar y gweill yng Ngogledd Caerdydd, yn fy etholaeth i, fod gennym ddau unigolyn 18 oed yn sefyll yn yr etholiad, felly rwy'n falch iawn o hynny. Hefyd, roedd hanner yr ymgeiswyr yn ddynion a hanner yn fenywod, sydd, eto, yn fy marn i yn gam mawr ymlaen, fel ag y mae, wrth gwrs, yn y Siambr hon, o ran y Llywodraeth, mae hanner y cynrychiolwyr sydd gennym yn ddynion a hanner yn fenywod, sy’n llwyddiant mawr, yn y bôn, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod mewn gwirionedd yn dibynnu ar fentergarwch y pleidiau gwleidyddol lleol i sicrhau bod cynrychiolaeth dda yn bodoli ac weithiau mae angen, mewn amgylchiadau anodd, sicrhau ein bod yn siarad dros gydraddoldeb ac yn ceisio sicrhau bod cyrff yn gynrychiadol. Felly, rwyf o’r farn bod cynnydd yn digwydd o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd.
Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at faterion sy'n arbennig o berthnasol i fenywod ifanc a merched, ac roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Ferch y Cenhedloedd Unedig (the United Nations International Day of the Girl Child), yn y Senedd ym mis Hydref. Yr hyn a amlygwyd gan y digwyddiad hwn yw bod merched yng Nghymru yn dal i wynebu problemau o ran anghydraddoldeb a rhywiaeth. Roedd y merched ifanc a oedd yn siarad yn gwbl ysbrydoledig o ran eu hagweddau hynod gadarnhaol, ond hefyd o ran datgelu faint o anghydraddoldeb, yn eu barn nhw, y maen nhw’n ei wynebu yn eu bywydau bob dydd. Roedden nhw’n dweud, yn yr ysgol, eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n cael chwarae pêl-droed yn yr ysgol, bod yr athrawon o’r farn nad oedden nhw cystal â bechgyn mewn mathemateg—yr holl bethau yr ydym yn gwybod sy’n dueddol o ddigwydd ac y mae’n rhaid inni weithio'n galed iawn yn eu herbyn i geisio sicrhau bod y gymdeithas yn fwy cyfartal. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod hynny’n gryf iawn o ran y dewis o bynciau yn yr ysgol—y pynciau STEM, y mae mwy o fechgyn na merched yn dewis y pynciau hynny—ac felly mae'n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i gyfleu’r neges honno. Oherwydd mae'n bwysig iawn yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu ar sail rhyw yn gynnar iawn.
Rwy'n credu'n gryf mewn cydraddoldeb, ond mae un math o anghydraddoldeb ac un grŵp o bobl nad wyf wedi clywed neb yn ei grybwyll yn y Senedd eto, ac, mewn cysylltiad â cham-drin domestig, dynion yw’r grŵp hwnnw. Rwy’n cytuno ag Erin Pizzey, sylfaenydd y lloches i fenywod gyntaf yn y DU, ac mae hi'n dweud nad yw cam-drin domestig yn benodol i ryw, ei fod yn berthnasol i’r ddau ryw, oherwydd gall dynion a menywod gam-drin a bod yn dreisgar.
Rwy’n tueddu i deimlo y caiff cam-drin dynion ei oddef yng Nghymru; yn wir, rwy’n credu ei fod wedi ymwreiddio yn y drefn. Caiff cam-drin dynion yn emosiynol ei ganiatáu. O ystyried Heddlu De Cymru, er enghraifft, mae'n gwbl amhosibl eu cael nhw i dderbyn cwyn gan ddyn sy'n cael ei gam-drin yn emosiynol. Mae gennyf i achos arall yn fy ngofal yn awr; rwyf am weld sut yr ydym yn dod ymlaen yr wythnos nesaf. Yn y ddinas hon, mae'n gywilyddus nad oes unman o gwbl i mi, fel dyn—dim unman—i fynd iddo i gael cymorth heb feirniadaeth mewn cysylltiad â cham-drin domestig. Rwy'n edrych o gwmpas y Siambr hon ac, fel yr wyf i'n siarad, rwy'n gweld pobl yn gwenu, ac mae hynny wirioneddol yn fy mhoeni. Mae hefyd yn dweud llawer am y rhagfarn a geir yn y Siambr hon.
Nawr, mae 13.2 y cant o ddynion yn dioddef cam-drin domestig; mae 23 y cant, lleiafrif mawr iawn—mae’n lleiafrif ond mae’n lleiafrif mawr iawn—mae 23 y cant o bob dioddefwr yn ddynion; lladdwyd 19 o ddynion gan eu partneriaid neu gynbartneriaid ddwy flynedd yn ôl, yn ôl y ffigurau; a’r hyn sy’n agoriad llygad mewn gwirionedd yw bod 29 y cant o ddynion yn annhebygol o siarad am eu profiadau—yn syml, ni fyddan nhw’n siarad am eu profiadau. Mae deuddeg y cant o fenywod yn yr un sefyllfa. Felly, yr hyn yr wyf yn ei wneud yma heddiw, wrth dynnu sylw at ffeithiau hynny, mewn gwirionedd, yw galw am wir gydraddoldeb i bawb, ni waeth beth yw eu ffydd, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu dosbarth, eu lliw. Yr hyn y mae gwir angen inni ei gofleidio, fel y dywedais, yw’r gair syml iawn, iawn hwnnw sef cydraddoldeb, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu yn gwbl angerddol ynddo. Diolch.
Rhianon Passmore. [Anghlywadwy.] Galwaf ar y Gweinidog i ymateb—Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl gadarnhaol hon ar y cyfan. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ei waith parhaus i wella bywydau pobl yma yng Nghymru. Gwn eu bod yn y Siambr heddiw—i fyny'r grisiau yn oriel y Siambr—yn gwrando.
Gan droi at y gwelliannau, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf mewn hyrwyddo hawliau menywod beichiog a mamau newydd yn y gwaith, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau nad yw merched yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle ar sail beichiogrwydd neu famolaeth—pwynt dilys iawn a godwyd gan yr Aelod yn gynharach. Y mis diwethaf, gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â'r EHRC i drafod canfyddiadau'r adroddiad o ran gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ac ystyried gweithredoedd posibl.
Rydym ni’n cefnogi gwelliant 2. Fodd bynnag, dylem ni fod yn glir fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn datblygu dewisiadau eleni i wella darpariaethau hunaniaeth rywedd yma yng Nghymru. Yn dilyn cynnydd yn nifer y ceisiadau ar gyfer asesiadau yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaethom gomisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n comisiynu gwasanaethau hunaniaeth rywedd ar ran byrddau iechyd, i ddatblygu llwybr gofal hunaniaeth rywedd i ni yma yng Nghymru.
Lywydd, mae'r pwyllgor wedi cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd i glywed barn defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol, a bydd yn darparu dewisiadau ar gyfer adlinio gwasanaethau i gefnogi'r llwybr newydd o ran rhyw. Bydd y £0.5 miliwn y flwyddyn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft yn cynorthwyo'r pwyllgor gyda'r gwaith hwn.
Rydym ni’n cefnogi gwelliant 3. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chydnabod bod rhaid i ni ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â'r saith her allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?'. Fel y soniais yn fy araith agoriadol, mae ein hamcanion cydraddoldeb newydd wedi’u datblygu gan gysylltu’n gryf â'r heriau hyn, ac mae llawer o'r rhain wedi’u codi gan yr Aelodau yn y Siambr heddiw.
Rydym ni’n cefnogi gwelliant 4. Mae'r trydydd sector yn gwneud gwaith hanfodol bwysig gyda chymunedau a chyda Llywodraeth Cymru, sy’n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle i gefnogi a chysylltu â gwaith y trydydd sector a'r cymunedau y mae'n eu cefnogi. Mae'r gwaith a wneir gan y trydydd sector yn hanfodol, ac i sicrhau bod y sector hwn yn ffynnu, mae’n rhaid inni gael seilwaith cryf i’w gefnogi. Ar gyfer 2016-17, dyrannodd Llywodraeth Cymru £6 miliwn i gefnogi seilwaith y trydydd sector, sy'n cynnwys cyllid craidd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Rwy’n ymwybodol iawn bod comisiynydd a chomisiwn yr EHRC wedi bod yn gwrando ar yr hyn a oedd gan nifer o’r Aelodau i’w ddweud. Byddaf yn rhoi sylw i rai o’r pwyntiau y mae’r Aelodau wedi'u codi y prynhawn yma—pob un yn ddilys iawn, neu'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddilys iawn, o ran eu sylwadau. Mark Reckless—rwy’n credu bod swyddogaeth comisiwn Cymru a'u comisiynwyr yn amhrisiadwy. Mae'n hanfodol ein bod ni’n cynnal llais dros Gymru, yn ystyried anghydraddoldeb o safbwynt Cymru, ac yn ceisio barn am sut yr ydym ni’n rheoli hynny. Rwy’n talu teyrnged i'r sefydliad sy'n gweithredu yma. Rwyf hefyd yn cydnabod profiad gwerthfawr yr undeb o ran effeithiau'r sylfaen wybodaeth a leolir yn Lloegr, ond yn cydnabod hefyd bod y gwaith a wneir yma dros Gymru yng nghyd-destun Cymru yn werthfawr iawn, a dylem gynnal hynny, beth bynnag sy’n digwydd, wrth inni symud ymlaen.
Cododd Joyce Watson a Julie Morgan bwyntiau yn ymwneud â llawer iawn o faterion, ond un o'r rhai a ddaeth i fy meddwl i yn arbennig, ac rwy’n rhannu barn llawer o bobl—mae'n anodd iawn, ond ni ddylem ni golli'r cyfle i siarad am y pethau hyn, yn enwedig ynglŷn â throseddau casineb. Cawsom ddadl yr wythnos o’r blaen am droseddau casineb lle y mynegwyd llawer o safbwyntiau, rhai ohonyn nhw nad wyf yn cytuno â nhw, ond rwy’n derbyn bod gan bobl y safbwyntiau hynny, a dylem ni eu herio yn y modd priodol, ac fe wnaethom bryd hynny. Ond o ran troseddau casineb yn arbennig—nid wyf wedi fy argyhoeddi pam na ddylem ni eto—. Rwy’n credu y dylem ni gynnwys troseddau casineb ar sail rhyw. Nodweddion yr wyf yn credu y dylid eu cyfrif yn yr achosion o droseddau casineb oherwydd, ac rwy’n dyfynnu, Lywydd—nid yw’n ddefnydd da iawn o iaith, ond rwy'n gyfarwydd â chyfnewidiadau e-byst a gafwyd rhwng Aelodau. Pam y dylai fod yn briodol galw menyw yn 'butain', ond ddim yn dderbyniol nac yn briodol galw rhywun yn 'homo'. Pam na chânt eu cymharu, a’u hystyried fel bod yr un fath, fel troseddau casineb? Rwy’n credu y dylem ni wneud rhagor o waith ar hyn, yn y tymor hir.
Byddaf yn ymateb i bwynt y Cynghorydd McEvoy ynghylch trais domestig. A gaf i ddweud bod y Siambr hon, y Llywodraeth hon, yn cymryd materion yn ymwneud â thrais yn y cartref o ddifrif—yn ddifrifol iawn—boed hynny’n erbyn dynion neu fenywod? Mae'r ffaith bod dwy fenyw yn marw bob wythnos yn effaith sylweddol na ddylem ni fyth anghofio. Rwy’n gobeithio bod yr Aelod, â’i argyhoeddiadau, o ran ei argyhoeddiadau personol a’i angerdd dros fynd i'r afael â thrais domestig—. Rwy'n credu bod llawer o bethau y dylem ni hefyd eu trafod o ran gwasanaethau trais domestig pan ei bod hi’n gwbl amhriodol ymosod ar fenywod. Mae'n gwbl amhriodol ymosod ar unigolyn arall, ac rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn myfyrio ar hynny wrth gyfrannu yn y Siambr hon yn y dyfodol.
Efallai y byddwch hefyd yn ymwybodol, Lywydd, fod Kate Bennett, cyfarwyddwr cenedlaethol Cymru yn yr EHRC yn ymddeol o'i swydd ar ôl mwy na 20 mlynedd—cyflawniad gwych. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Kate am ei hymrwymiad a’i gwasanaeth hir i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru. Penodwyd June Milligan yn gomisiynydd yr EHRC ar gyfer Cymru eleni, a hoffwn hefyd ei chroesawu hi i’w swydd newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y dyfodol, ac rwy’n talu teyrnged hefyd i Ann Beynon, a wnaeth waith arbennig wrth ein harwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.
Yn olaf, mae'r comisiwn yn cynnal derbyniad yn Nhŷ Hywel yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, Lywydd. Rwy’n achub ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau'r Cynulliad i gwrdd â phwyllgor EHRC Cymru. Rwy’n annog holl Aelodau'r Cynulliad, yn enwedig y rhai a ymunodd â ni ym mis Mai eleni, i ddod draw i ddysgu am y gwaith gwych y mae'r EHRC yn ei wneud yng Nghymru, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, ar ôl y sesiwn hon heddiw. Ac rwy’n diolch i'r Aelodau am eu cyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd y comisiwn wedi gwrando'n ofalus ar y cyfraniadau ac y bydd yn gweithredu yn unol â hynny, mewn modd proffesiynol a phriodol, yn ôl ei arfer.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 1.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 2.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 3.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 4.
Cynnig NDM6127 fel y’i diwygiwyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2015-16, ‘Tuag at Gymru Decach’.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Undebau Llafur a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well.
3. Yn nodi'r clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru sydd i gael ei sefydlu yn sgil trafodaethau Plaid Cymru mewn perthynas â chyllideb 2017-18.
4. Yn nodi'r saith brif her y mae angen mynd i'r afael â hwy yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, fel y nodwyd gan y Comisiwn, ac y bydd angen ymdrechion sylweddol ar ran sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, ac ar ran unigolion i leihau'r heriau hyn.
5. Yn croesawu cydnabyddiaeth y Comisiwn bod angen ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a chymunedol a'i rymuso.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd? A oes unrhyw wrthwynebiad? Ac felly, fe dderbynnir y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.