– Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2016.
We now move on to the Plaid Cymru debate on public sector pay, and I call on Neil McEvoy to move the motion.
Cynnig NDM6171 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.
2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a
(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ac yn gofyn am gefnogaeth i’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Ar adeg o galedi, pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri at yr asgwrn, canolfannau ieuenctid a chanolfannau chwarae yn cael eu cau, a chanolfannau hamdden yn cael eu preifateiddio yng Nghaerdydd, nid yw’n syndod fod y cyhoedd wedi’u cythruddo gan y cyflogau sy’n cael eu hennill gan elît newydd Llafur yn y sector cyhoeddus—gyda llawer o bobl yn cael cyflogau o dros £100,000 y flwyddyn. Mae Plaid Cymru yn defnyddio’r ddadl hon heddiw er mwyn ceisio mynd i’r afael â chyflogau gormodol uwch reolwyr a sicrhau cyflogau teg yn y sector cyhoeddus.
Dylai awdurdodau lleol fod yn feincnod ar gyfer cyflogau teg a chyson, ond mae’r anghysondeb o fewn llywodraeth leol mewn perthynas â chymarebau cyflog yn parhau i fod yn frawychus ac yn anghyfiawn. [Torri ar draws.] Nid ar hyn o bryd. Mae Plaid Cymru eisoes yn arwain drwy esiampl. Mae canolrif cyfartalog cyflogau prif weithredwyr sy’n rhedeg cynghorau Plaid Cymru bron £20,000 yn is na’r rhai sy’n rhedeg cynghorau Llafur, ac mae’r ffigur hwnnw’n cynnwys y cyflog uchaf i brif weithredwr yng Nghymru, a osodwyd gan gyngor Llafur cyn i Blaid Cymru ddod i rym.
Rydym hefyd wedi rhoi camau ar waith i ddarparu proses graffu well ar gyflogau uwch reolwyr drwy sicrhau bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ystod y pedwerydd Cynulliad wedi gwella tryloywder o ran sut y pennir cyflogau uwch swyddogion drwy sefydlu paneli taliadau annibynnol. Sicrhaodd Rhodri Glyn Thomas AC fod rhaid craffu a phleidleisio ar bob dyfarniad cyflog i uwch swyddogion cynghorau, a bod yn rhaid i banel taliadau annibynnol wneud argymhellion. Roedd y cam hwn yn cael gwared ar yr honiad a’r broblem ganfyddedig fod pethau’n cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig.
Mae ein cynnig heddiw yn galw am gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol drwy fframwaith cenedlaethol. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai’n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddogion canlyniadau. Talwyd oddeutu £150,000 i swyddogion canlyniadau am eu gwasanaethau yn ystod etholiadau Llywodraeth Cymru yn 2012, a pham talu hynny?
Mae mater cyflogau uwch reolwyr o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd, a’r ffaith yw na ellir cyfiawnhau cyflogau rhifau ffôn yn y sector cyhoeddus mewn gwirionedd. Mae prif weithredwr cyngor Abertawe, a benodwyd gan y Blaid Lafur, yn ennill £2,000 yn unig yn llai na Phrif Weinidog y DU. Mae prif weithredwr Llafur Cyngor Sir Caerfyrddin yn ennill—. Mewn gwirionedd, mae’n ennill £15,000 yn fwy na Theresa May, ac rwy’n ystyried hynny’n syfrdanol—mwy na Phrif Weinidog y DU.
Nid yw’n ymwneud â phrif weithredwyr cynghorau’n unig, er hynny—mae cyfanswm cyflogau uwch reolwyr yn filiynau o bunnoedd, a phan oedd Plaid Cymru yn arwain cyngor Caerdydd, cawsom wared ar lu o gyflogau dros £100,000 y flwyddyn, a chawsom ein canmol mewn gwirionedd gan Gynghrair y Trethdalwyr, sy’n dipyn o orchest. Pan ddychwelodd Llafur i rym, aethant ati i ailgyflwyno cyflogau bras o fwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Na. Mae mwy na hanner prif weithredwyr byrddau iechyd Cymru yn ennill o leiaf £200,000 y flwyddyn. Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym yn ymchwilio i gymdeithasau tai, a hynny’n briodol, oherwydd mae’r tenantiaid ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed, a’r bobl dlotaf yng Nghymru weithiau, ac eto mae prif weithredwyr y sefydliadau hyn yn ennill cyflogau chwe ffigur. Tai Wales & West, er enghraifft: mae’r prif weithredwr yn ennill £130,000 y flwyddyn. Pan oedd Nick Bennett yn brif weithredwr y grŵp ymbarél ar gyfer cymdeithasau tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, aeth ati i gynyddu’r bil cyflogau 15 y cant mewn un flwyddyn yn unig, ond 2 y cant yn unig o godiad a fu yng nghyflog sylfaenol y staff. Bellach mae’n Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac yn ennill mwy na’r Prif Weinidog—gradd 5 y raddfa gyflog ar gyfer cyflogau barnwrol, enghraifft arall o gyflog chwe ffigur meri-go-rownd, dros £140,000 y flwyddyn. Ailadroddaf hynny—dros £140,000 y flwyddyn.
Gadewch i ni sôn am brif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones. Ei gyflog y llynedd, gan gynnwys dau fonws a phensiwn, oedd £768,000—tri chwarter miliwn o bunnoedd. Nawr, esgusodwch yr eironi, ond cwmni di-elw, fel y maent yn ein hatgoffa o hyd.
Nawr, a yw’r bobl hyn yn werth yr arian? Byddwn yn dadlau nad ydynt, ond nid yw hynny’n rhan o’r cynnig heddiw. Ond rwy’n credu y byddai’n wych—.
Ar bwynt o drefn, Gadeirydd. Rwy’n newydd i’r lle hwn, felly nid wyf yn gwybod beth yw’r rheolau, ond a yw’n briodol i Weinidog yn Llywodraeth Cymru heclo ar ei eistedd Aelod o’r meinciau cefn sy’n ceisio cael eu clywed? A allech ddyfarnu ar hynny?
Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno ymyrryd yn gwneud hynny ar ei draed, ond rydym yn gwahodd trafodaeth fywiog yma hefyd. Rwy’n gobeithio na fydd neb yma yn mynd dros ben llestri yn y dyfodol.
Rwy’n barod i ildio i’r Gweinidog, a oedd â thair swydd ar un adeg—
Nid ydych yn ildio i mi; rwyf wedi rhoi fy nghyflog cyngor yn ôl.
[Yn parhau.]—tra oedd yn Aelod o’r Cynulliad. A hoffech siarad, Weinidog? Mae gennych ddigon i’w ddweud wrth weiddi. Na? O’r gorau, iawn.
Parhewch, os gwelwch yn dda.
Byddai’n wirioneddol wych gweld cyflogau’r uwch—[Torri ar draws.]
A gawn ni beidio â chael rhagor o ymyriadau ar eich eistedd? Diolch.
Rwy’n meddwl, gyd-Aelodau, fod y ffordd y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddwyn weithiau’n gywilyddus—[Torri ar draws.]
Nid ar eich eistedd.
[Yn parhau.]—ac yn diraddio’r sefydliad hwn. [Torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelod barhau â’i gyfraniad? Diolch.
Fe wnaf barhau, gan fy mod yn credu y byddai’n wych pe bai’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf yn y sector cyhoeddus—pe bai eu cyflogau wedi’u cysylltu. Yn y ffordd honno, byddai Nick Bennett ac eraill sy’n rhoi codiadau cyflog i’w hunain yn gweld cyflogau’r bobl ar y cyflogau isaf yn y sefydliad yn cynyddu hefyd. Pe bai toriad cyflog ar y gwaelod, byddai toriad cyflog ar y brig hefyd.
Nawr, byddwn yn annog y Cynulliad hwn a’r Llywodraeth i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac ystyried cyflwyno Deddf cyflogau teg yn y dyfodol. Diolch yn fawr. Diolch.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, Gadeirydd.
Diolch. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 2, 3, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 6—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers 2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
Diolch i chi, Ddirprwy—. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Cadeirydd’] Gadeirydd. [Chwerthin.] Hoffwn gynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies AC. Mae’r gwelliannau hynny’n datgan yn glir iawn,
‘Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le:
‘Yn cydnabod cynigion y Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau.’
Gwelliant 3:
‘Dileu Pwynt 3 a rhoi yn ei le:
‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.’
Nawr, rydym yn croesawu’r ddadl hon gan Blaid Cymru, ond gyda pheth dryswch, mewn gwirionedd, gan y bydd llawer yn cofio Deddf democratiaeth leol (Cymru) yn 2003 y mae gwelliant 2 yn cyfeirio ati. Yng Nghyfnod 2, y Ceidwadwyr Cymreig, gyda’r grŵp cyntaf o welliannau, a oedd yn galw am gydsyniad Gweinidogion Cymru i gael ei roi cyn i awdurdod lleol dalu cyflog i unrhyw swyddog a oedd yn uwch nag argymhelliad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cafodd hyn ei wrthwynebu yn eithaf clir gan Blaid Cymru, yn ogystal â’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yna, yng Nghyfnod 3, cyflwynasom welliant yn galw ar y panel i argymell uchafswm i’w dalu i unrhyw uwch swyddog gan awdurdod lleol. Unwaith eto, gwrthwynebwyd hyn gan Blaid Cymru, y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, felly mae’n ddiddorol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, iawn.
Wel, roedd yna gydbwyllgor negodi’n arfer bodoli a oedd yn gosod y cyfyngiad. Cafodd ei ddiddymu gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. A ydych yn gresynu hynny?
Ydw, ond rwyf fi yma yn y Senedd, ac rwy’n sôn am yr hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru—y ffordd rydych wedi methu yn hyn o beth.
Yn 2015, talwyd £306,000 i brif weithredwr cyngor sir Gwynedd, ac roedd fy nghyd-Aelod, Neil McEvoy, yn y fan honno yn tynnu sylw at y gwahanrediad rhwng prif weithredwyr lleol a’r Prif Weinidog. Eto talwyd £306,000 yma, ac i gyfarwyddwr yr amgylchedd ym Mlaenau Gwent—swm sy’n dod â dŵr i’r llygaid—o £295,000. Ydych, yn bendant, roeddech yn iawn i gymharu hynny â chyflog Prif Weinidog gweithgar y DU. Nid oes cydberthynas o gwbl. Roeddech yn berffaith gywir yn gynharach i wneud y pwynt ynglŷn â sut y mae rhai prif weithredwyr, yn ogystal â hyn, gan gynnwys fy un i yng Nghonwy mewn gwirionedd, yn derbyn cyflog o dros £20,000 am fod yn swyddog canlyniadau etholiadol. Mae angen i’r Gweinidog fynd i’r afael â hynny, rwy’n credu.
Rhaid gweithredu gweithdrefnau rheoli perfformiad a gwerthuso prif weithredwyr yn well a’u monitro’n briodol. Dangosodd tystiolaeth a gymerwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cyn eu hadroddiad i gyflogau uwch reolwyr y tymor diwethaf y galwadau gan yr holl randdeiliaid—llawer ohonynt—ynglŷn â hyn, ochr yn ochr â’r gydnabyddiaeth fod angen i awdurdodau lleol wneud yn llawer gwell o ran rheoli perfformiad. Pa mor aml rydym wedi gweld yr hyn rwy’n ei alw’n broses drws tro lle y bydd pennaeth gwasanaeth mewn gwirionedd yn gadael sefydliad gyda swm diswyddo gwych dros ben ac yna’n mynd i mewn i’r un awdurdod lleol eto yn gwisgo mantell wahanol mewn swyddogaeth arall? Mae’n gwbl anghywir.
Yn 2014-15, gwariodd cynghorau Cymru dros £100 miliwn ar daliadau diswyddo i staff. Roedd hynny 46 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Argymhellodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn San Steffan yn ddiweddar y dylai fod polisïau a gweithdrefnau ar waith i reoli sefyllfaoedd drws tro lle y mae unigolion yn dod o, neu’n mynd i’r sector rheoledig, ac y dylai’r rhain fod yn berthnasol i bob unigolyn ar unrhyw lefel o unrhyw sefydliad. Dylai rheoleiddwyr fod yn dryloyw ynghylch sefyllfaoedd ôl-gyflogaeth a chyfyngiadau ar aelodau sy’n gadael byrddau ac uwch swyddogion yn y sector cyhoeddus. Y rheswm rwy’n gwenu yw ein bod yn gweld cymaint o ffrindgarwch Llafur yng Nghymru gyda llawer o’r swyddi sy’n mynd i lawer o bobl yn ein cyrff cyhoeddus, ac mae’n anghywir.
Yn sgil symud tuag at ddiwygio llywodraeth leol, a’r potensial i uno’n wirfoddol ar y bwrdd unwaith eto, mae’n berthnasol nodi bod cymdeithas y prif weithredwyr ac uwch reolwyr wedi tynnu sylw at awdurdodau lleol yn Lloegr sydd wedi dechrau rhannu prif weithredwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, nawr, gyda diwygio lleol ar y bwrdd, lle y mae’n ymddangos bod bwriad i chi gadw pob un o’r 22 o awdurdodau lleol, a yw’n mynd i fod yn 22 o brif weithredwyr a 22 o benaethiaid gwasanaeth ar gyflogau sy’n tynnu dŵr i’r llygaid? Pe gallech fynd i’r afael â hynny, rwy’n credu y bydd llawer o bobl y tu allan i’r Senedd yn ddiolchgar iawn mewn gwirionedd. Diolch.
A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at siarad yn y ddadl hon? Fel swyddog undeb llafur hirsefydlog a oedd yn ymdrin â’r materion hyn dros nifer o flynyddoedd yn y sector cyhoeddus, rwy’n croesawu’r ddadl sy’n cael ei chyflwyno yn fawr iawn. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn drueni fod yr Aelod wedi gorfod iselhau ei hun i’r mathau o sylwadau a wnaeth—y math gwael o wawd gwleidyddol. Oherwydd rydym i gyd yn gwybod nad problem i gynghorau Llafur yn unig yw hon, mae’n broblem gyffredinol, gan gynnwys Gwynedd a Cheredigion dan reolaeth Plaid Cymru ac ardaloedd eraill sydd â phrif weithredwyr sy’n ennill mwy na £100,000. Mae gan yr Aelod ei hun ddwy swydd lle y mae’n cael mwy na £100,000 y flwyddyn. [Torri ar draws.] Felly, nid wyf yn meddwl bod hynny o gymorth o gwbl. [Torri ar draws.] Nid wyf yn meddwl bod hynny o gymorth, Gadeirydd, oherwydd ni allaf ddychmygu y byddai neb yn anghytuno bod y bwlch cyflog rhwng—[Torri ar draws.]
Na, nid wyf yn cymryd ymyriad. Ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw un yn anghytuno—
Eisteddwch. Eisteddwch, os gwelwch yn dda.
[Yn parhau.]—fod y bwlch rhwng y swyddogion a gaiff y cyflogau uchaf a’r gweithwyr a gaiff y cyflogau isaf mewn awdurdodau lleol ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn destun gofid, a dyna’r mater y dylem fod yn rhoi sylw iddo yma heddiw. Yn anffodus, nid yw’r cynnig ond yn canolbwyntio ar un agwedd ar y gwahaniaeth cyflog hwnnw, sef y berthynas â chyflog uwch swyddogion a phrif weithredwyr.
Yn sicr mae yna broblem allweddol wrth edrych ar unrhyw gymhariaeth, ond yn sicr mae mynd i’r afael â chyflogau isel ymhlith rhai o’r gweithwyr hynny, menywod rhan-amser yn bennaf yn amlach na pheidio, yr un mor berthnasol yma—
Gadeirydd, gwnaed datganiad amdanaf a oedd yn ffeithiol anghywir. Gofynnaf i’r Aelod gael ei alw i drefn, os gwelwch yn dda.
Bydd cyfle i’r Aelod roi sylw i hyn wrth iddo grynhoi ar ddiwedd y ddadl.
Diolch, Gadeirydd. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn cofio’r mater a gododd yng nghyngor Caerffili ym mis Rhagfyr 2012, pan ddaeth yn amlwg fod prif swyddogion wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddrafftio adroddiad a gyflwynwyd gerbron pwyllgor y cyngor yn argymell codiadau cyflog o fwy nag 20 y cant ar gyfer y prif weithredwr a phrif swyddogion eraill. Pe baech yn siarad â’r cannoedd o aelodau undeb llafur yng Nghaerffili a gynhaliodd streic hanner diwrnod, wrth gwrs eu bod yn ddig ynglŷn â maint y taliadau a argymhellwyd. Ond yr hyn a’u cynddeiriogodd mewn gwirionedd oedd bod hyn yn dilyn rhewi cyflogau holl staff arall yr awdurdod lleol am dair blynedd. Roedd hi’n dda bod ymgyrch yr undebau llafur yno wedi arwain at setliad cynnar yn yr anghydfod hwnnw. Roeddent yn gallu negodi cytundeb, a arweiniodd at gael gwared ar ran sylweddol o’r taliadau cyflog hynny, ond nid oedd hyn ond yn bosibl drwy barodrwydd y grŵp Llafur yng nghyngor Caerffili i ymgysylltu’n adeiladol â’r undebau llafur, proses a hwyluswyd gan gadeirydd pwyllgor craffu polisi ac adnoddau Caerffili ar y pryd, sydd erbyn hyn yn eistedd yn y Siambr hon fel yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili. Dyna realiti’r hyn a ddigwyddodd, ac nid y fersiwn lurguniedig a roddwyd gan Blaid Cymru Caerffili mewn datganiadau i’r cyfryngau heddiw.
A gaf fi wneud ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Sylwaf nad oedd Neil McEvoy eisiau gwneud, a gallaf roi datganiad wedi’i gywiro i chi. Mae’n cymryd cyflog cynghorydd o £13,000, yr un cyflog ag a ddychwelwyd gennyf fi. Felly, gallai ddechrau arbed £13,000 heddiw pe bai’n barod i’w ddychwelyd. Yr hyn a oedd gennyf hefyd mewn perthynas â’ch datganiad yw bod dirprwy arweinydd Plaid Cymru yng Nghaerffili yn gwybod am y penderfyniad pan gafodd ei wneud. Roedd yn y cyfarfod, ac eto dewisodd beidio â’i ddwyn i sylw cyhoeddus am dri mis, ac ni ddywedodd ddim hyd nes y cafwyd adroddiad am y mater yn y wasg, sef pan gefais i wybod. Felly, ers hynny, mae Plaid Cymru Caerffili wedi elwa’n warthus ar—
Mae hyn braidd yn hir i fod yn ymyriad, Mr David.
[Yn parhau.]—ond nid ydynt wedi cydnabod eu rôl yn y broses.
Wel, diolch i chi, Hefin, am yr ymyriad, ac ydw, rwy’n deall yn iawn fod dirprwy arweinydd Plaid Caerffili yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw o bwyllgor cyflogau’r cyngor ar y pryd mewn gwirionedd—dyna y’i gelwid rwy’n meddwl—ac mae iddo wrthod cydnabod hynny o hyd neu hyd yn oed i ymddiheuro am hynny yn eithaf gwarthus, a dweud y gwir.
Felly, iawn, gadewch i ni edrych ar y fframwaith cenedlaethol a fydd yn darparu cyfundrefn gyflogau uwch reolwyr sy’n cynnwys perfformiad y sefydliad fel dangosydd allweddol. Ond ni fydd rheoli cyflogau prif swyddogion ynddo’i hun yn cau’r bwlch. Dylem ddisgwyl i’r holl awdurdodau lleol a chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dalu’r cyflog byw sylfaenol fan lleiaf i’w staff. Mae’r ddau welliant gan Jane Hutt yn cwmpasu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ehangach ac yn galw am broses o ddatblygu fframwaith cenedlaethol gyda phartneriaid cymdeithasol ar y cyd. Byddai un o’r partneriaid cymdeithasol allweddol hynny, yr undebau llafur sy’n cynrychioli mwyafrif y staff ym meysydd eraill y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, rwy’n sicr, yn croesawu unrhyw graffu sy’n ymestyn i feysydd eraill heblaw llywodraeth leol, megis addysg uwch ac addysg bellach, er enghraifft, lle rydym wedi gweld lefelau cyflog wedi cynyddu’n sylweddol i is-gangellorion ac ar yr un pryd, gwelsom gynnydd aruthrol yn nifer y staff ar gontractau dim oriau, yn ogystal â’r defnydd cynyddol o weithwyr asiantaeth.
A wnewch chi ddod â’ch cyfraniad i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Mae ail ran y cynnig yn sôn am ddiddymu taliadau ychwanegol i swyddogion am fod yn swyddogion canlyniadau, ac rwy’n meddwl ei bod yn sicr yn wir fod hwn yn faes sydd angen ei ystyried, o ystyried nifer yr etholiadau sy’n rhaid ymdopi â hwy yn awr yn ystod y tymor seneddol. Yn y cyd-destun hwnnw, mae angen adolygu tâl i swyddogion canlyniadau ac wrth ddatblygu fframwaith ar gyfer pennu hynny, mae’n bosibl y gallem ganfod maes dilys i’w ystyried, a byddai hwnnw’n faes y byddwn yn ei gefnogi. Diolch, Gadeirydd.
Roeddwn eisiau ystyried rhai o’r sylwadau a wnaed. Rhaid i mi ddweud, yr unig reswm dros ei wneud oedd er mwyn bod yn boblogaidd. Dyna wleidyddiaeth Trump yn fy marn i. Wyddoch chi, pan edrychwch ar beth sy’n digwydd go iawn, yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yw bod yna wahaniaethau cyflog, ac mae yna gydnabyddiaeth fod angen gwahaniaethau cyflog, fod gwahaniaethau cyflog yn bodoli, a’n bod yn tueddu i gadw at y pethau hynny. Mewn gwirionedd, nid oes gennyf broblem o gwbl ynglŷn ag ysbryd y cynnig. Mae’n galw am dryloywder a thegwch wrth bennu cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer uwch swyddogion, ac mae’n edrych yn benodol ar y bwlch rhwng y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf, ac er bod Plaid Cymru yn rhyw fath o geisio cymryd y clod am Ddeddf democratiaeth leol (Cymru), nid yw syniad da yn eiddo i neb; mae’n eiddo i bawb. Ac nid oes dim o’i le ar hynny.
Rwyf wedi crybwyll mater cyflogau uwch swyddogion yng Nghaerffili. Mewn gwirionedd, o ystyried rhai o sylwadau Neil McEvoy, cynghorwyr Llafur a sicrhaodd gyflog unigol wedi’i leihau ar gyfer y prif swyddog gweithredol yng Nghaerffili. Mae’r cyflog hwnnw’n parhau i fod wedi’i rewi dros gyfnod y weinyddiaeth ac ni fydd mater cyflogau uwch swyddogion yn cael ei ailystyried yn ystod y weinyddiaeth, ac mae wedi’i adlewyrchu mewn cyhoeddiad—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, gwnaf.
Pan oedd y ddeddfwriaeth ar gyflogau’n mynd drwodd, a ydych yn derbyn bod aelod o Blaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi cyflwyno gwelliant i osod uchafswm ar gyflogau a thâl uwch swyddogion? A ydych yn derbyn bod y Blaid Lafur wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw?
Gyda phob parch i arweinydd Plaid Cymru, buaswn yn derbyn beth bynnag y mae hi’n ei ddweud am yr hyn a ddigwyddodd yn y pedwerydd Cynulliad, wrth gwrs, gan nid oeddwn yn Aelod ar y pryd.
Nid felly’n hollol oedd hi.
Mae gen i ymyriad o ochr y Ceidwadwyr sy’n dweud nad felly’n hollol oedd hi. Felly, nid fy lle i yw ymyrryd mewn anghydfod rhwng y ddwy ohonoch.
Mae’r rhai sy’n cael y cyflogau isaf yng nghyngor Caerffili yn cael y cyflog byw mewn gwirionedd, a’r awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i’w gyflwyno, a oedd yn lleihau’r lluosydd ymhellach rhwng y rhai a gâi’r cyflogau isaf a’r rhai a gâi’r cyflogau uchaf. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, gan adeiladu ar waith adolygiad Hutton o gyflog teg yn y sector cyhoeddus, yn argymell y defnydd o luosrifau fel ffordd o fesur y berthynas rhwng cyfraddau cyflog yn y gweithlu. Yr hyn a ddywedodd Will Hutton—nad yw’n newyddiadurwr asgell dde ar unrhyw ystyr—oedd bod cymariaethau â thâl y Prif Weinidog yn ddiwerth am nad ydynt yn rhoi syniad ynglŷn â’r math o luosrifau y dylech fod yn eu defnyddio. Argymhellodd Hutton na ddylai unrhyw reolwyr yn y sector cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith cymaint â’r person sy’n ennill y cyflog isaf yn y sefydliad. Yn y sector preifat, mae’n 88:1. Rwy’n credu bod 20:1 yn rhy uchel, os gofynnwch i mi, ac mae’n arwyddocaol mai ychydig iawn o awdurdodau lleol yng Nghymru, os o gwbl, sydd â lluosydd 20:1 mewn gwirionedd. Yng Nghaerffili mae’r lluosrif rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf yn 9.4:1, gan ei roi tuag at ben isaf y raddfa ar gyfer gwahaniaethau cymharol mewn tâl yng ngweithlu’r sector cyhoeddus yn y DU.
Nawr, gallech fynd at system lle rydym yn dweud, yn unochrog yng Nghymru—fel yr argymhellodd Neil McEvoy yn flaenorol yn y Siambr hon—ein bod yn mynd o dan £100,000 i’r holl brif weithredwyr yng Nghymru. Nawr, y perygl yw eich bod yn pysgota yn yr un pwll am dalent â phrif weithredwyr mewn mannau eraill. Mae perygl eich bod chi ar unwaith, wrth weithredu’n unochrog, yn dechrau colli’r dalent honno. Mae’n rhaid i ni gael trafodaeth ddifrifol ac aeddfed am y risg a pheidio â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth adain dde boblogaidd sy’n magu gwraidd yn y byd hwn heddiw ac y mae’r Aelod wedi cymryd rhan ynddi.
Mae’r diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Ddeddf democratiaeth leol wedi sicrhau y bydd mwy o dryloywder wrth asesu cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac mae hyn yn cydbwyso budd y cyhoedd a bydd yn gwneud hynny yn y dyfodol. Mae’n archwilio’r mater yn ddifrifol, yn hytrach na bod yn rhywbeth y gallwch ei roi’n syth ar Twitter. Argymhellion adroddiad Hutton—bydd angen i ni ddenu’r staff gorau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Felly, ar y nodyn hwnnw, rwy’n annog, mewn gwirionedd—gadewch i ni roi’r nonsens hwn y tu cefn i ni. Neil McEvoy, rhowch eich £13,000 yn ôl. Rwyf wedi gwneud hynny. Rwy’n cefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Mae cyflogau isel yn broblem ddifrifol i weithwyr yn y sector cyhoeddus ar ben isaf y raddfa yng Nghymru. Nid oes gan gynghorau lleol sefydliadau llafur uniongyrchol bellach, defnyddir gweithwyr asiantaeth yn aml, ac mae hyn yn tueddu i gael effaith negyddol ar gyflogau. Felly, rhaid i ni edrych ar hyn, ac un ffordd y gellid mynd i’r afael yn rhannol â thâl isel yw drwy geisio rhoi brêc ar gyflogau rhy uchel. Felly, os oes gan unrhyw blaid unrhyw awgrymiadau rhesymol i atal codiadau cyflog bras yn y sector cyhoeddus, yna rydym ni yn UKIP yn fwy na pharod i edrych arnynt.
Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnaeth Rhodri Glyn hynny.
Iawn, da iawn, Rhodri Glyn. Ond efallai na fydd yn ddigon, Leanne.
Mae byrddau taliadau annibynnol bob amser yn swnio’n syniad da, ond rhaid i rywun benodi aelodau annibynnol i’r bwrdd yn y lle cyntaf. Weithiau, mae’r rhain yn tueddu i fod yn un set o swyddogion cyhoeddus yn argymell codiad cyflog bras i set arall o swyddogion cyhoeddus. Felly, mae angen monitro’r broses o benodi aelodau i’r byrddau hyn yn ofalus.
Byddai gosod terfynau uchaf ar gyflog yn arf arall y gellid ei ddefnyddio. Rydym hefyd yn cefnogi’r syniad o rolau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer prif weithredwyr cynghorau. Os ydynt yn mynd i fod ar eu graddfeydd cyflog uchel, yna dylai fod cyfarwyddiadau clir ynglŷn â’u dyletswyddau. Mae’n anodd dadlau y dylai Prif Weithredwyr cynghorau gael arian ychwanegol am fod yn swyddogion canlyniadau mewn etholiadau, a buasai rhywun yn meddwl bod hynny’n rhan o’u dyletswyddau statudol.
Ond os ydym yn mynd i gael trefn ar gyflogau’r sector cyhoeddus yma yng Nghymru, yna mae angen i ni gael ein tŷ ein hunain mewn trefn yn gyntaf. Mae’r codiad cyflog a gafodd ACau eleni, ac a argymhellwyd gan fwrdd taliadau annibynnol, wedi ysgogi cryn ddadlau. Byddwn yn cynnig yn y dyfodol y dylai pob codiad cyflog i Aelodau Cynulliad gael ei gysylltu â chwyddiant. [Torri ar draws.] Mae hynny’n digwydd? [Torri ar draws.] Mae’n digwydd yn awr? Wel, nid oedd yn ymddangos—nid dyna a adroddwyd ar y pryd. [Torri ar draws.] Mae’n digwydd? [Torri ar draws.] Iawn, rydym yn gwneud cynnydd da. Gwelaf eich bod wedi gwneud rhywbeth ynglŷn â chyflogau yn y Cynulliad diwethaf, felly—.
Nid wyf yn meddwl y gallwn ddefnyddio cyfrifoldebau ychwanegol fel esgus yn y dyfodol i godi cyflogau Aelodau Cynulliad yn uwch na lefelau chwyddiant. Felly, rwy’n gobeithio na fydd y ddadl honno’n digwydd.
Nawr, rydym wedi edrych ar agweddau eraill ar gyflogau yn y sector cyhoeddus. Crybwyllodd Neil benaethiaid cymdeithasau tai. Crybwyllodd Dawn broblem pobl yn y byd academaidd. Nawr, mae Colin Riordan, y prif ddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael £269,000 y flwyddyn. A yw’n werth hyd yn oed hanner hynny? A beth rydym yn mynd i’w wneud ynglŷn â’i gyflog ef? Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Roedd y nodyn a ysgrifennais i mi fy hun fel canllaw ar gyfer ymateb i’r ddadl hon yn dweud fy mod yn edrych ymlaen at ddadl ar bwnc difrifol lle roedd llawer y gallwn gytuno yn ei gylch. Rwy’n difaru’n fawr y ffaith ein bod wedi methu â chael dadl ddifrifol o’r fath y prynhawn yma.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, fe wnaf.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n rhannu eich pryder am natur y ddadl hon, Ysgrifennydd y Cabinet. Bûm yn cadeirio ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar yr union bwnc hwn, gyda rhai argymhellion synhwyrol iawn y gellid eu datblygu ar sail drawsbleidiol i fynd i’r afael â’r hyn sy’n destun pryder real iawn i aelodau o’r cyhoedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda’n gilydd ar hyn, yn unedig fel Cynulliad, i roi sylw i broblem go iawn tâl gormodol yn y sector cyhoeddus.
A gaf fi ddiolch i Darren Millar am hynny? Rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn dilyn ymlaen o’r ysbryd y mae newydd ei sefydlu, gan fod hwn yn fater difrifol ac mae’n haeddu dadl ddifrifol. Yn anffodus, fe ddechreuodd ar nodyn ymrannol a dinistriol a bu’n anodd iawn ei hadfer wedyn.
A gaf fi ddweud hefyd, Gadeirydd, fy mod yn anghymeradwyo’n llwyr—ac rwy’n ei gofnodi yma—rwy’n anghymeradwyo’n llwyr pan fo Aelodau’r Cynulliad hwn yn ymosod ar unigolion yn ôl eu henwau, unigolion—pa un a ydynt yn y sector preifat, yn benodiadau cyhoeddus, neu yn y sector cyhoeddus—na all fod yma i ateb drostynt eu hunain i’r ymosodiad personol a wneir arnynt? Nid dyna’r ffordd rydym wedi cynnal ein dadleuon yn y Cynulliad hwn ac rwy’n anghymeradwyo’n llwyr pan fydd pobl yn ymroi i’r math hwnnw o ymddygiad.
Gadewch i mi droi at sylwedd y cynnig. Mae yna broblem ynglŷn â chyflogau uwch swyddogion, wrth gwrs bod. Dyna pam, yng Nghymru, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi polisi taliadau eu hawdurdod a gosod y gymhareb rhwng y cyflogai ar y cyflog uchaf a chyfartaledd canolrifol enillion yn yr awdurdod lleol hwnnw. Mewn llywodraeth leol, mae’r datganiadau polisi cyflogau yn dangos bod y gymhareb yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, rhwng 4:1 a 9:1. Mae’n ddigon posibl y bydd yr Aelodau yma’n meddwl bod y gymhareb yn rhy lydan ac nad yw’n adlewyrchu, er enghraifft, cymhareb Llywodraeth Cymru ei hun, lle y mae’r gymhareb rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog canolrifol yn 5.54:1.
Mae’n fwy na phroblem sy’n ymwneud â chyflogau uchel. Fel y dywedodd Dawn Bowden, mae’n broblem sy’n ymwneud â chyflogau isel yn ogystal. Sut y mae mynd i’r afael â phobl nad ydynt yn ennill digon a gwneud yn siŵr fod ein polisïau cyflogau yn eu gwobrwyo hwy’n briodol, hefyd? Mae’r GIG yng Nghymru yn gyflogwr cyflog byw. Mewn llywodraeth leol, mae’r darlun yn llai unffurf. Gwnaed rhywfaint o gynnydd mewn awdurdodau o bob lliw gwleidyddol. Rwy’n meddwl bod mwy i’w wneud ac rwy’n sicr yn credu y dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru gael y dyhead hwnnw a dangos sut y maent am roi camau ar waith i gyflawni hynny.
Ar bwynt 2 y cynnig, o ran y ddadl ar dryloywder, mae yna bersbectif a rennir rhwng nifer o bobl yma yn y Siambr a hanes y mae’r rhan fwyaf o’n pleidiau yma wedi chwarae eu rhan ynddo. Cafwyd Deddf Lleoliaeth 2011, a chyfeiriwyd ati y prynhawn yma. Cafwyd adroddiad pwysig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pan fu’n ystyried y mater yn 2014. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr adroddiad hwnnw a datblygodd a chyhoeddodd fframwaith tryloywder cyflog y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ei ddilyn.
Drwy Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sefydlwyd y panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol. Tan hynny roedd yn gorff a oedd wedi’i gyfyngu i ddelio ag aelodau o awdurdodau lleol, ond gwnaeth Deddf 2013 hi’n ofynnol iddo ymgymryd â’r dasg o ystyried newidiadau i gyflogau prif weithredwyr ac i wneud argymhellion i gynghorau ynglŷn â’r newidiadau hynny. Yna, y llynedd, yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, cytunasom yma i ehangu’r rôl honno i ymdrin â newidiadau i gyflogau’r holl brif swyddogion mewn llywodraeth leol. Roedd yn agenda, Gadeirydd, y bu’r pleidiau ar draws y Siambr yn gweithio gyda’i gilydd arni. A phan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar fater pwysig, rydym yn dangos ein bod yn gallu gwneud rhywfaint o gynnydd, ac mae’r safbwynt ar dryloywder yn wahanol iawn heddiw i’r hyn ydoedd bedair blynedd yn ôl hyd yn oed.
Mae yna ran olaf i’r cynnig, Ddirprwy Lywydd, 3(b) ar ffioedd swyddogion canlyniadau, ac rwy’n hapus iawn ein bod yn gallu derbyn y rhan honno, oherwydd dyna yw polisi’r Llywodraeth eisoes, ac rwy’n bwriadu defnyddio’r Bil llywodraeth leol sydd ar y gweill, os gallwn gael un, i ddatblygu’r pwyntiau a wnaed yn y rhan honno o’r cynnig ymhellach.
Yn olaf, o ran 3(a), rwy’n deall y meddylfryd sy’n sail i’r rhan honno o’r cynnig—ond rwy’n meddwl ei fod yn gynamserol yn ei fanylder a’r hyn y mae’n ei bennu. Cyflwynodd cydweithwyr yn yr undebau llafur bapur ar y mater hwn yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos diwethaf. Fe gytunasom ar amserlen yno ar gyfer datblygu’r drafodaeth honno ymhellach. Mae gwelliant y Llywodraeth yn adlewyrchu ein bwriad i ymdrin â’r mater mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn y ffordd honno, fe wnawn rywfaint o gynnydd, ac yn y ffordd honno, efallai y gallwn achub rhywbeth o’r cynnig hwn ac o’r ddadl a gawsom yma y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Galwaf ar Neil McEvoy i ymateb i’r ddadl. Neil.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, yng Nghaerffili, ni chefnogodd cynghorydd Plaid Cymru y cytundeb cyflog, cynghorwyr Llafur a wnaeth hynny. O ran fy sefyllfa fy hun, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghymuned a buddsoddi’r lwfans cynghorydd ar ôl yr etholiadau, os caf fy ail-ethol, yn fy nghymuned. Ni allaf aros. [Torri ar draws.]
Rwy’n meddwl bod yna anferth o—. Rwy’n credu mai’r hyn sydd gennym yma yw diffyg cydnabyddiaeth o realiti, a’r pryder enfawr ymhlith y cyhoedd. Rhoddaf rai enghreifftiau i chi. Cadeiryddion byrddau iechyd: Caerdydd a’r Fro, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur; Aneurin Bevan, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur; Abertawe Bro Morgannwg, cadeirydd y bwrdd, aelod o’r Blaid Lafur. Gadewch i ni symud ymlaen at y comisiynwyr. Lles cenedlaethau’r dyfodol, aelod o’r Blaid Lafur; comisiynydd plant, aelod o’r Blaid Lafur; yr ombwdsmon, roedd mewn busnes â Gweinidog Llafur. [Torri ar draws.] Dyma’r gwir, ac nid ydych yn hoffi ei glywed. Yr hyn sydd gennym yma—[Torri ar draws.] Yr hyn sydd gennym yma yw pryder cyhoeddus enfawr. [Torri ar draws.] Nid oes unrhyw beth yma nad yw’n ffaith. Nid ydych yn ei hoffi; chi yw’r Llywodraeth, dylech fynd i’r afael â hyn. [Torri ar draws.] O ran—[Torri ar draws.] O ran nifer y swyddi—[Torri ar draws.]
A gaf fi wrando ar yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud wrth ymateb i’r ddadl, os gwelwch yn dda? A gawn ni wrando’n dawel, am ei bod yn anodd iawn pan fo pawb yn gweiddi? Neil.
Yr hyn sydd gennym yma yw sawl agwedd ar wladwriaeth un blaid, sydd wedi cael ei rhedeg gan y Blaid Lafur ers 1999. A wyddoch chi beth, y newyddion yw: mae eich amser yn dod i ben. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn.
Pwynt o drefn.
Na, na. Arhoswch—
Pwynt o drefn.
Na, gadewch i mi wneud y rhan hon yn gyntaf, ac yna dof yn ôl at eich pwynt o drefn. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu, iawn. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Pwynt o drefn, Neil McEvoy.
Diolch. Roedd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ferthyr yn ffeithiol anghywir, a gofynnaf iddi ei dynnu’n ôl.
Diolch yn fawr iawn.
A ydych eisiau i mi ymateb, Ddirprwy Lywydd?
Hoffwn ofyn i chi i feddwl am yr hyn a ddywedwyd a buaswn yn gofyn i chi: a ydych eisiau ymateb?
Rwy’n hapus i dderbyn y gallwn fod wedi cael y ffigurau’n anghywir, Gadeirydd, ac os gwneuthum, rwy’n ymddiheuro, ond nid wyf yn ymddiheuro am fy sylw am yr Aelod yn cymryd dau gyflog.
Fel y Gweinidogion, ie?
Iawn, diolch. [Torri ar draws.] Diolch. Wel, natur dadl seneddol yw bod ffeithiau a dadleuon bob amser yn cael eu herio, ac felly dylai hynny ddigwydd. [Torri ar draws.] Arhoswch funud. Mae’r Aelodau’n gyfrifol am gywirdeb y datganiadau a wnânt, ac ar yr amod nad ydynt yn groes i’r drefn—ac nid wyf yn credu ei fod yn groes i’r drefn, ar wahân i’r anghywirdeb ffeithiol a nodwyd gan yr Aelod—nid fy lle i, y Llywydd, nac unrhyw un sy’n eistedd yn y gadair hon, yw barnu’r ffeithiau a gyflwynwyd. Ac rwy’n hapus i gymryd y ffaith rydych wedi’i thynnu’n ôl, y ffaith y gallai’r ffigurau fod yn anghywir, ac felly dyna ddiwedd y drafodaeth honno. Iawn. Diolch yn fawr iawn.