– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.
Rydym yn awr yn symud ymlaen at eitem 5, sef dadl ar adroddiad blynyddol 2015-16 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Rwy’n falch o agor y ddadl hon ar yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Sarah Rochira a'i thîm am y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod y comisiynydd wedi parhau â'i record drawiadol o weithgarwch. Mae ehangder a dyfnder ei gwaith yn cyffwrdd â chymaint o agweddau ar fywydau pobl hŷn: eu hawliau, eu hiechyd, eu tai a'u diogelwch. Mae hi wedi bod yn unigolyn dylanwadol, gan sicrhau bod llais pobl hŷn yn cael ei glywed bob amser, a bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. Ac, yn bwysig, nid yw’r comisiynydd erioed wedi anghofio pwysigrwydd dilysrwydd wrth siarad ar ran pobl hŷn. Eleni, mae hi a'i thîm wedi cyfarfod â 218 o grwpiau a mwy na 5,600 o bobl hŷn ar draws y wlad, gan siarad â nhw yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i bobl hŷn heddiw.
Gan gymryd y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd yn enw Paul Davies, rydym yn cydnabod yr effaith y gall unigrwydd ac unigedd ei chael ar iechyd a lles. Dyma pam yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thraws-Lywodraeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei ddwyn ymlaen drwy ein strategaeth ar gyfer pobl hŷn a’r rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Fel y cyfryw, rydym yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Rydym hefyd yn cefnogi’r ail welliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig. Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd camau i gryfhau hawliau i bobl hŷn drwy’r datganiad hawliau i bobl hŷn a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Yn ei hadroddiad, mae'r comisiynydd wedi bod yn glir am ei huchelgais i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn drwy ddeddfwriaeth bellach. Mae’r Prif Weinidog a minnau eisoes wedi cael trafodaethau â'r comisiynydd pobl hŷn ynghylch deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, ac mae’r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer pobl hŷn ddiwedd mis Medi yn cadarnhau ein cefnogaeth i’r egwyddor o gael Bil.
Gan droi at y gwelliant olaf a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, unwaith eto, rydym yn ei gefnogi. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol mewn iechyd a lles pobl hŷn, a dyma pam yr ydym wedi darparu cyllid ychwanegol yn y grant cynnal refeniw i gydnabod y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol. Sicrhawyd hefyd bod rhagor o arian ar gael drwy'r gronfa gofal canolraddol. Bydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 hefyd yn cyflwyno'r setliad cyllid llywodraeth leol gorau ers blynyddoedd.
Hoffwn ganolbwyntio ar rai o'r themâu allweddol sy'n sail i adroddiad y comisiynydd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig gosod y ddadl o fewn cyd-destun tirwedd newidiol gofal cymdeithasol yng Nghymru. O'u cymryd gyda'i gilydd, mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a Deddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu. Mae gan bobl erbyn hyn lais cryf a mwy o ddylanwad o ran y gofal a'r cymorth a gânt i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac i fodloni eu canlyniadau lles yn y ffordd orau. Mae'r comisiynydd wedi bod yn ymwneud â datblygu’r ddwy Ddeddf, ac rwy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad cadarnhaol y mae wedi ei wneud ac y mae’n parhau i’w wneud.
Mae dementia yn un o'r heriau gofal iechyd mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas, ac mae'n un o themâu allweddol adroddiad y comisiynydd. Dim ond yn ddiweddar, amlygodd y penawdau newyddion bod clefyd Alzheimer a dementias eraill wedi eu cofnodi mewn bron i un o bob wyth o farwolaethau a gofnodwyd yn 2015. Mae'r ffigurau hyn yn cael eu priodoli i’n poblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal â dulliau gwell o ganfod y cyflyrrau hyn a gwell diagnosis.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad, 'Dementia: mwy na dim ond colli cof'. Daeth hi i nifer o gasgliadau allweddol yn dilyn ei hadolygiad, gan gynnwys diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, diffyg hyblygrwydd a chydweithrediad o fewn gwasanaethau dementia, ac amrywiad sylweddol mewn profiadau pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin â heriau dementia a mynd i'r afael â'r materion y mae'r comisiynydd wedi’u codi. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn nodi ein hymrwymiad i gymryd camau pellach i wneud Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu strategol dementia cenedlaethol newydd. Bydd y cynllun hwn, wrth gwrs, yn ystyried canfyddiadau’r comisiynydd, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y trydydd sector, fel y Gymdeithas Alzheimer, Cynghrair Henoed Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy nag £8 miliwn o arian ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru. Felly, mae gennym sylfaen gadarn i adeiladu arni. Byddwn yn defnyddio'r cynllun i gryfhau gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer ac eraill i gynnal momentwm ymgyrchoedd y Cyfeillion Dementia a Chymunedau Cefnogi Pobl â Dementia. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar wella cyfraddau diagnosis, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol, ac ymwreiddio diwylliant sy'n rhoi urddas a diogelwch cleifion yn gyntaf. Bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn hon, gyda'r fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2017.
Fel Llywodraeth, rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu, ac nid yw gwahaniaethu ar sail oedran yn eithriad. Ond er bod rhywiaeth, hiliaeth a homoffobia, er enghraifft, yn cael eu cydnabod a'u deall yn gyffredinol, mae'r comisiynydd yn gwneud y pwynt fod rhagfarn ar sail oedran yn cael ei hesgeuluso yn aml ac anaml iawn y siaredir amdani. Hwn oedd y grym y tu ôl i’w hymgyrch Dywedwch Na wrth Oedraniaeth, a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd. Nod yr ymgyrch oedd herio'r stereoteipiau sy'n gysylltiedig â thyfu’n hŷn a phobl hŷn, gan amlinellu'r cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n cymdeithas, gan gynnwys dros £1 biliwn i’r economi bob blwyddyn. Defnyddiodd y comisiynydd ei chyrhaeddiad trawiadol i ledaenu'r neges ar draws Cymru drwy ffilm, cyfryngau cymdeithasol a chyrsiau hyfforddi. Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r comisiynydd yn tynnu sylw at wahaniaethu ar sail oedran a gwahaniaethu yn y gweithle, ac mae hyn yn parhau i fod yn broblem sylweddol i lawer o bobl hŷn. Mae hyn yn aml yn seiliedig ar syniadau rhagdybiedig o iechyd gwael, cynhyrchiant is ac amharodrwydd i addasu i newid. Mae'r rhagfarnau hyn, nad oes dim dilysrwydd iddynt, yn rhan o'r rheswm pam fod ceiswyr gwaith hŷn yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yn y tymor hir o’u cymharu â cheiswyr gwaith iau, a pham y mae mwy nag un o bob tri pherson yng Nghymru rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth yn ddi-waith.
Rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth hon yn cydnabod y gwerth y mae pobl hŷn yn ei roi i'r farchnad lafur. Ni ddylai cyfleoedd dysgu a hyfforddi fod ar gyfer pobl ifanc yn unig. Rydym wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed. Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi'r sgiliau a'r profiad y mae pobl hŷn yn eu rhoi i'r gweithlu. Os yw pobl hŷn yn dymuno aros mewn gwaith neu’n awyddus i ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd i wneud cais am swyddi newydd, byddwn yn eu cefnogi yn y penderfyniad hwnnw.
Trof yn awr at y thema olaf yr hoffwn i dynnu sylw ati o adroddiad y comisiynydd—diogelu ac amddiffyn pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae gwaith y comisiynydd wedi canolbwyntio ar sicrhau ymagwedd systemig i nodi'r bobl hŷn sydd mewn perygl a sicrhau cefnogaeth lawn gan y system cyfiawnder troseddol er mwyn helpu pobl i adennill eu diogelwch a'u lles. Pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl hŷn, byddwn yn sicrhau bod gan y rhai sy'n gofalu am bobl hŷn y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel.
Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd y gofal y mae pobl yn ei dderbyn, boed yn eu cartrefi eu hunain, neu yn yr ysbyty, neu mewn cartref gofal, ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Mae camau'n cael eu cymryd i ymateb i argymhellion adolygiad Flynn, ac mae hyn yn cynnwys penodi uwch arweinydd gwella ansawdd sy'n gweithio gyda darparwyr cartrefi gofal a rheoleiddwyr ledled Cymru i leihau wlserau pwysau y gellir eu hosgoi.
Mae'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi rhoi amddiffyn oedolion ar sail statudol gadarn. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno diffiniad o 'oedolyn mewn perygl', ac mae dyletswydd newydd ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed. Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelu allweddol ar gyfer oedolion mewn perygl, gan gynnwys dyletswyddau newydd i adrodd i’r awdurdod lleol am unrhyw un yr amheuir ei fod yn oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu eu hesgeuluso, ac i’r awdurdod lleol wneud ymholiadau neu achosi i ymholiadau gael eu gwneud i benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu'r bobl hynny sy'n agored i niwed. Mae’r ddyletswydd hon i ymholi yn cael ei hategu gan bŵer i wneud cais i'r llysoedd am orchymyn cymorth ac amddiffyn oedolion. Bydd y gorchymyn yn galluogi swyddog awdurdodedig sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i fynd i mewn yn ddiogel i'r safle er mwyn siarad gydag oedolyn yn breifat, i benderfynu pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.
Un o'r materion y mae’r comisiynydd yn rhoi sylw iddo yn ei hadroddiad yw'r effaith ddinistriol y gall sgamiau, twyll neu ddichell droseddol ei chael ar fywydau pobl hŷn, ac mae’r troseddau hyn, wedi'u targedu yn fwriadol at rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael effaith andwyol ar les meddyliol a chorfforol. Mae ymchwil wedi dangos bod cost uniongyrchol hefyd i awdurdodau lleol, gan fod dioddefwyr yn colli eu hyder a'u hannibyniaeth, yn dioddef iselder, ac angen ymyrraeth gan y wladwriaeth i ddarparu diogelwch fel llety gwarchod a chefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol. Er bod arfer da yn bodoli ledled Cymru i fynd i'r afael â sgamiau yn eu holl ffurfiau, mae Llywodraeth Cymru, y comisiynydd ac eraill yn cydnabod bod angen cydlynu ymdrechion yn well a sicrhau bod ymagwedd gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. O ganlyniad, lansiodd y comisiynydd ac Age Cymru Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn ffurfiol ym mis Mawrth eleni, ac mae hyn yn gweithio i wneud Cymru yn lle anghyfeillgar i droseddwyr sy'n aml yn targedu pobl hŷn a bregus yn fwriadol. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi datblygu siarter gwrth-sgamwyr gyntaf y DU.
Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn ddiogel ac yn gallu byw heb ofn. Mae'r fframwaith yn mynd i'r afael â throseddau casineb, sy'n pennu nod Llywodraeth Cymru i herio gelyniaeth a rhagfarn, yn cynnwys oedran fel nodwedd warchodedig. Mae'r mater hwn yn cael ei archwilio ar lefel strategol gan y bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb, a sefydlwyd i sicrhau dull partneriaeth ar draws meysydd datganoledig a heb eu datganoli, gan gynnwys pedwar heddlu Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl hŷn a'r materion y maent yn eu hwynebu yn glir: heb os nac oni bai, mae’r penderfyniad arloesol a gymerwyd yn 2008 i benodi comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom yma yn amau dycnwch, ymroddiad a phenderfyniad y comisiynydd a'i thîm wrth gyflawni eu pwrpas fel llais annibynnol i bobl hŷn, gan helpu i gadw'r rhai sy'n agored i niwed yn ddiogel a gweithio i sicrhau eu bod yn cael y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Edrychaf ymlaen at y ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Yr wyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.
Mae tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n haeddu pob cyfle i gael eu grymuso i gael eu hawliau wedi eu cryfhau a'u hanghenion wedi eu cyflawni, a hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy dalu teyrnged i’n Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Miss Sarah Rochira, am ymgyrchu’n ddiflino i gyflawni hynny. Nid dim ond y fi sy’n cydnabod y proffesiynoldeb y mae Miss Rochira wedi ei ddangos wrth gyflawni’r swyddogaeth—mae hi'n sicr yn bencampwr go iawn ar gyfer ein henoed yma yng Nghymru. Mae ei gwaith ar sgamiau a thwyll, cartrefi gofal, heneiddio'n dda yng Nghymru, cam-drin domestig a rhagfarn ar sail oedran yn dangos yr ystod eang o faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn, yr ydym yn eu cydnabod heddiw. Mae'r comisiynydd yn agor yr adroddiad hwn drwy gyfeirio at bobl hŷn yng Nghymru fel 'ased anhygoel' ac 'arwyr bob dydd'. Gyda chyfraniad o £1 biliwn bob blwyddyn i'n heconomi drwy ofal plant, gwirfoddoli, gofal a gwaith cymunedol, mae'n deg dweud bod hwn yn ddisgrifiad gwych. Eto i gyd, yn rhy aml, nid oes neb yn sylwi neu’n cydnabod gwerth yr 'arwyr pob dydd' hyn. Mae'n gwbl annerbyniol bod gormod o bobl hŷn, yn enwedig y rhai a allai fod yn fwy agored i niwed, yn gweld eu hawliau yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn, a phan maent wir angen y gefnogaeth fwyaf.
Flwyddyn yn ôl i’r wythnos nesaf, ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, galwodd y comisiynydd am ddeddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ein pobl hŷn yma yng Nghymru. Mae ein gwelliannau heddiw yn ceisio cryfhau galwadau’r comisiynydd drwy gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Rydym yn dymuno gweld un darn o ddeddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl hŷn yn glir o fewn cyfraith Cymru. Rydym am weld dyletswydd sylw dyledus ar bob corff cyhoeddus; i roi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau pobl hŷn ledled Cymru; ac i gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, hyrwyddo heneiddio yn dda ac ymgorffori lles pobl hŷn o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r ffaith bod tîm gwaith achos y comisiynydd wedi darparu cymorth a chefnogaeth i 413 o bobl hŷn ledled Cymru y llynedd yn dangos bod angen gwneud cynnydd o hyd, yn enwedig ym meysydd gofal a gofal preswyl sydd, ar y cyd, yn ffurfio cryn dipyn o waith achos o'r fath. Nododd y comisiynydd y prif themâu a ddaeth i’r amlwg yn ei gwaith achos megis cael gafael ar gyllid gofal iechyd parhaus, effaith cau cartrefi gofal, a chost gyffredinol y gofal. Mae'r rhain yn themâu yr wyf innau, hefyd, wedi sylwi arnynt mewn llawer o fy ngwaith achos fy hun, ac maent yn rhan o'r rhesymau pam y mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld cap ar gostau gofal, gwaith cydgysylltiedig lawer gwell rhwng y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a darpariaeth lawer gwell o welyau, er mwyn atal yr oedi ofnadwy hwnnw wrth drosglwyddo gofal yr ydym i gyd yn gwybod amdano yn ein hetholaethau, ac i sicrhau dewis, addasrwydd a'r lleoliad iawn ar gyfer y rhai sydd angen gofal.
Rydym wedi defnyddio ein gwelliannau i dynnu sylw at y mater o unigedd ymysg pobl hŷn. Mae hwn yn bryder y mae’r comisiynydd wedi canolbwyntio arno o’r blaen, ac rydym am sicrhau nad yw’r Siambr hon yn anghofio'r effaith y gall unigrwydd ei gael ar les corfforol a meddyliol person, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Gall unigrwydd gael effaith ar farwolaeth yn debyg o ran maint i ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod pobl ag arwyddion cynnar o glefyd Alzheimer yn 7.5 gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig iawn. Felly, gadewch i ni ddefnyddio'r adroddiad hwn i ymrwymo i wneud Cymru y genedl gyntaf sy’n ystyriol o ddementia yn y Deyrnas Unedig. Ddirprwy Lywydd, rydym yn ffodus o gael comisiynydd mor ymroddedig ac ymrwymedig yn gweithio ar ran pobl hŷn ledled Cymru, ac rwy’n dweud hyn: hoffwn weld y swyddogaeth honno, lle mae pobl yn gwneud gwaith da iawn—rwy’n gwybod ei bod yn gysylltiedig ag amser, ond hoffwn i weld rhai pobl yn aros yn y swydd ac yn parhau â'r gwaith da y maent yn ei wneud. Dyna un swyddogaeth yr wyf yn arbennig yn credu y dylai barhau, a’r person hwnnw.
Gadewch inni sicrhau ein bod yn gweithio ar y cyd i greu Cymru sy’n ystyriol o oedran, gan sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau, y gefnogaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu, a'u bod yn cael eu grymuso i barhau i fyw bywydau sy’n rhoi boddhad a phleser, gan gyfoethogi ein gwead cymdeithasol fel mai dim ond y rhai sydd â’u profiadau bywyd eu hunain sy’n gallu ei wneud. Diolch.
Diolch. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan lywodraeth leol i iechyd a llesiant pobl hŷn, ac yn gresynu fod heriau ariannol parhaus, o ganlyniad i galedi ariannol, yn rhwystro'r gwasanaethau hyn rhag cael eu darparu.
Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Er bod y ddadl yma am wasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl hŷn, mae o ddiddordeb i ni i gyd, wrth gwrs, ac am y math o wlad yr ŷm ni am ei chreu yng Nghymru. Pa fath o wlad yr hoffem ni dyfu’n hen ynddi? Wel, dyna ydy’r cwestiwn y mae angen i ni i gyd fod yn ei ystyried.
Mae’r adroddiad yn tanlinellu gwerth cael comisiynydd pobl hŷn, ac mae’r gwaith achos yn dangos bod gwasanaethau yn aml yn rhy gymhleth ac yn anodd cael mynediad atyn nhw. Mae ansawdd y gofal yn arbennig yn fater sy’n cael ei danlinellu dro ar ôl tro.
Rŷm ni’n cefnogi’r syniad o hawl i wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu hargymell gan y comisiynydd, ac yn hapus i weld yr hawliau hynny yn cael eu cryfhau ym mha bynnag ffordd posib. Ond mae yna un eliffant mawr yn yr ystafell, a’r eliffant hwnnw ydy llymder y toriadau, yn enwedig ar gyfer llywodraeth leol. Er bod llywodraeth leol yn cael ei tharo yn llai caled yng Nghymru eleni, diolch i gytundeb cyllidebol Plaid a Llafur, mae’r setliad cyffredinol, a’r sefyllfa yn gyffredinol, yn creu llawer iawn o heriau. Yn anochel, mae hawliau pobl hŷn i gael gwasanaethau fel trafnidiaeth gyhoeddus dda, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus, a’r amrediad o wasanaethau sy’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl hŷn, o dan fygythiad. Mae llymder parhaol, hirdymor yn milwrio yn erbyn hyrwyddo hawliau pobl hŷn, a bydd deddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn y lle hwn ddim mor effeithiol heb y pwerau cyllidol sydd eu hangen i sicrhau bod modd ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn briodol. Yn anffodus, mae’n ymddangos y bydd yr heriau’n parhau. Mae sut y byddwn ni’n ymateb iddyn nhw yn mynd i benderfynu a fydd henaint yn brofiad da—y math o brofiad y byddem ni i gyd yn fan hyn yn hoffi ei gael. Neu a fyddwn ni, drwy lymder a thrwy’r sefyllfa, yn creu tlodi pensiynwyr i lawer—y math o beth a welwyd ddegawdau yn ôl.
Mi fuaswn i’n hoffi amlinellu tri pheth o ran agwedd a fyddai’n gallu helpu. I ddechrau, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn llawer mwy gonest efo eu pleidleiswyr craidd am yr angen economaidd i gael gweithlu mwy yn talu lefelau o dreth sydd angen er mwyn cynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o ansawdd. Yn ail, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganfod ffyrdd lle gall gwasanaethau cyhoeddus a’r adrannau o fewn yr un un gwasanaethau weithio efo’i gilydd yn fwy effeithiol. Mae hyn yn golygu dealltwriaeth llawer gwell am hyn, ac am y ffaith bod methu cynnal un gwasanaeth yn golygu costau ychwanegol i wasanaethau eraill, a bod obsesiwn efo gwaelodlin yn creu problemau i’r blynyddoedd a ddaw. Yn y pen draw, mae’n rhatach darparu gwasanaethau cyhoeddus da na gadael i bobl fynd yn sâl yn hirdymor, gadael i bobl fynd yn ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus neu fynd yn ddefnyddwyr cyson ohonyn nhw.
Mae hyn yn arwain at y trydydd pwynt, sydd hefyd yn ymwneud efo agwedd. Rhaid inni roi’r gorau i’r agwedd yma fod y rhai sy’n defnyddio y gwasanaethau cyhoeddus rywsut yn fwrn ar arian y trethdalwyr. Nid ydyn nhw. Mae pobl dros 65 yn gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol enfawr i Gymru: gwerth £259 miliwn o ofal plant am ddim i wyron ac wyresau; £496 miliwn drwy wirfoddoli. Dim ond dwy enghraifft ydy hynny. Meddyliwch sut y buasai hi ar y gwasanaethau cyhoeddus heb y rhain a llawer mwy. Felly, yr agwedd i’w mabwysiadu yw hyn: os ydyn ni’n gwario arian ar gadw pobl yn iach, yn actif ac yn byw’n annibynnol, yna mi fyddwn ni’n cael gwerth, budd, allan o’r buddsoddiad hwnnw. Ac, yn ei dro, mi fydd hynny’n galluogi mwy ohonom ni i heneiddio’n dda. Dyna enw ar brosiect blaengar yng Ngwynedd, sydd efo’r union fwriad hynny yn graidd iddo, sef galluogi pobl y sir i heneiddio’n dda. Buaswn i’n hoffi diolch i’r comisiynydd a’i thîm am eu gwaith, ac am yr adroddiad yma heddiw. Diolch.
Croesawaf y ddadl hon heddiw, a diolch am y cyfle i siarad. Hoffwn ailadrodd pa mor falch ydwyf mai Cymru oedd cartref comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd. Credaf fod hynny yn gyflawniad mawr ac rwy’n meddwl ei fod yn flaengar iawn o Lywodraeth Cymru i sefydlu’r swyddogaeth hon. Rwy'n credu bod yr hyn y mae’r comisiynydd wedi ei wneud yn dangos ei fod y penderfyniad cywir.
Rwy'n meddwl bod y datblygiadau pwysig y mae’r comisiynydd pobl hŷn cyfredol wedi’u hachosi mewn gwirionedd oherwydd ei bod, fel y dywedodd y Gweinidog pan wnaeth hi ei chyflwyniad, wedi ei gwreiddio'n ddwfn mewn gwrando ar yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud. Mae hi yn sicr wedi bod i fy etholaeth i siarad mewn cyfarfodydd ar ddau achlysur, a phan ddisgrifiodd hi ble yr oedd hi wedi bod yng Nghymru—hynny yw, mae hi'n mynd ar hyd a lled, ac yn ôl ac ymlaen ar draws Cymru drwy'r amser, felly rwy’n credu bod ganddi wir wybodaeth am yr hyn y mae pobl hŷn yn ei deimlo.
Rwy’n cytuno â dull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl hŷn, yn yr un modd ag yr ydym wedi ei ddatblygu ar gyfer plant, ac rwy’n falch iawn y bu trafodaethau â'r Gweinidog ac â'r Prif Weinidog ynglŷn â chynnwys hawliau pobl hŷn mewn cyfraith, oherwydd rwy’n teimlo, os yw hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn gadarn yn y gyfraith, bydd yn gwneud i gyrff cyhoeddus feddwl yn llawer mwy gofalus wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl hŷn, ac mae cyfres o feincnodau i fesur y bywydau y mae pobl hŷn yn eu byw.
Rwyf eisiau siarad yn fyr am gyfranogiad pobl hŷn mewn bywyd bob dydd a’r cyfraniadau sydd ganddynt i'w wneud. Mae un o egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, a fabwysiadwyd ym 1991, yn cwmpasu cyfranogiad gan bobl hŷn yn y gymdeithas ac yn dweud:
Dylai pobl hŷn barhau i gael eu hintegreiddio yn y gymdeithas, cymryd rhan weithgar wrth ffurfio a gweithredu polisïau sy'n effeithio ar eu lles yn uniongyrchol a rhannu eu gwybodaeth a'u medrau â'r cenedlaethau iau.
Mae eisoes wedi ei grybwyll yma yn y Siambr heddiw am ofal plant, gan na ellir gosod pris ar gyfraniad pobl hŷn i ofal plant ar gyfer eu hwyrion, rwy’n meddwl, oherwydd rydym yn gwybod ei fod mor enfawr. Rydym yn gwybod, yng Nghymru, bod llawer iawn o ofal plant anffurfiol, ac mae hynny i'w ganmol yn fawr. Rwy'n meddwl bod profiadau gwych eraill y mae pobl hŷn yn gallu eu rhannu â phlant mewn ysgolion pan fyddant yn mynd i mewn i ysgolion ac yn ceisio helpu plant i ddysgu darllen. Mae nifer o enghreifftiau o hynny'n digwydd yn fy etholaeth i.
Rwy’n meddwl bod agwedd cymdeithas yn newid yn araf. Bu, yn y gorffennol, lawer o dorbwyntiau mympwyol sy'n golygu na all pobl hŷn barhau i weithio, ond rydym ni yn gwybod erbyn hyn bod llawer o bobl hŷn yn gweithio heibio 65 oed—gan fy nghynnwys i. Rwy'n credu ein bod hefyd yn gwybod bod polisi'r Llywodraeth yn newid. Rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed yr alwad yn ddiweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder yn San Steffan i ganiatáu i ynadon barhau i weithio heibio’r oedran ymddeol presennol o 70. Rwy'n credu bod yr alwad hon wedi cael ei gwneud oherwydd y prinder ynadon, ond mae ymestyn amser ynadon i 75 yn hollol synhwyrol oherwydd y cyfraniad sydd ganddynt i’w wneud. Yn bersonol, byddwn yn ymestyn hyd yn oed ymhellach. Gwn, dan y Llywodraeth glymblaid, mai’r bwriad oedd codi gwasanaeth rheithgor i fyny at 75 hefyd.
Felly, rwy’n meddwl bod llawer o feysydd lle’r ydym yn gweld symudiad tuag at beidio â chael y torbwyntiau mympwyol hyn lle mae pobl yn cael eu gorfodi i ymddeol neu eu gorfodi i roi terfyn ar rywbeth y gallent fod yn gwneud cyfraniad mawr iddo. Wrth gwrs, gall pobl hŷn wneud ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i gyrff llywodraethu ysgolion. Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae gennym lawer o bobl hŷn sydd ar gyrff llywodraethu ysgolion, gan gyfrannu fel y maent ar nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru ac ar fyrddau iechyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn annog pobl hŷn i wneud cais am y swyddi hyn. Rwy'n gwybod ein bod yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau ein bod yn ceisio cael pobl o gefndiroedd lleiafrifol ac ethnig i wneud cais a phobl iau hefyd, ond mae'r mwyafrif o'r bobl hyn fel arfer yn yr oedrannau hyd at 65 ac rwy’n meddwl y dylem wneud ymdrech i gael pobl hŷn i wneud cais hefyd.
Rwyf am orffen drwy siarad yn fyr iawn am rai o'r gwirfoddolwyr hŷn yn fy etholaeth sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf oherwydd eu hegni. Pan oeddem yn cael ein bygwth â chau swyddfa bost, pwy oedd ar y strydoedd yn ymgyrchu? Y bobl hŷn. A llwyddwyd i gadw swyddfa bost yn yr Eglwys Newydd drwy’r holl ymdrech hon. Rwy'n credu fy mod wedi sôn yn y Siambr hon eisoes am yr hen fam-gu 92-mlwydd oed sydd wedi arwain yr ymgyrch am doiledau cyhoeddus yn yr Eglwys Newydd. Yr ychydig Sadyrnau diwethaf, mae hi wedi bod gyda mi ar stryd fawr yr Eglwys Newydd yn y cael y llofnodion a does neb wedi gwrthod. Rwy’n meddwl, pan fydd hi’n gofyn iddynt, nad oes neb yn meiddio dweud na. Felly, mae hynny'n digwydd hefyd. Ac wrth gwrs, darllenais yn y wasg heddiw am berson 89 mlwydd oed, dyn, yn chwilio am waith. Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod y cyfraniad aruthrol y mae pobl hŷn yn ei wneud.
A gaf fi hefyd ddiolch i’r comisiynydd pobl hŷn am ei gwaith? Byddai’n llawer gwell gennyf, fel y gwyddoch i gyd, ei chael yn uniongyrchol atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach na Llywodraeth Cymru, ond mae ei hadroddiad yn wirioneddol, wirioneddol werthfawr a diolchaf iddi am hynny, yn ogystal â'r bobl eraill y cyfeirir atynt ynddo. Yr wyf hefyd yn diolch iddi am—a soniodd Julie am hyn—y cyswllt gweladwy ac uniongyrchol iawn sydd gan Sarah Rochira â phobl hŷn ac, yn arbennig, am wneud i ni edrych yn fanwl iawn ar yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth 'ganlyniadau'.
Yn allweddol i hyn y mae llais cryf, fel y cyfeirir ato yn ein hail welliant, a phobl hŷn yn cael eu grymuso i sicrhau'r hyn sydd ei angen arnynt, fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad ei hun. Ac rwy’n credu bod hyn yn waith eithaf dyrys i'r comisiynydd, oherwydd nid yw pobl hŷn, wrth gwrs, yn grŵp unffurf: mae pobl hŷn sy’n ymladd, ddywedwn ni, wahaniaethu cudd yn y gweithle yn wynebu heriau gwahanol iawn i'r rhai sy’n cynllunio eu gofal cartref eu hunain, ac mae angen math gwahanol o eiriolaeth ar gyfer pobl sy'n unigolion oedrannus, bregus sy'n cael eu hunain yn y drws cylchdroi rhwng yr ysbyty a'r cartref gofal, neu efallai hyd yn oed rhywun sydd â dementia neu nam ar y synhwyrau yn gorfod ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus. Rwy’n meddwl os ydym i gofleidio'r dull sy'n seiliedig ar hawliau i lunio polisïau, a allai fedru ymdrin â llawer o'r materion hyn—dull sy'n cael ei annog mewn gwirionedd gan y comisiynydd—yna dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni hefyd gydnabod bod bob hawl yn arwain at gyfrifoldeb. A byddai Bil hawliau pobl hŷn yn helpu i egluro pwy allai ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.
I gymaint o bobl ag y bo modd ac am gyhyd ag y bo modd, unigolyn hŷn eu hunain ddylai fod â’r cyfrifoldeb hwnnw dros benderfynu ar sut y maent yn byw—neu unrhyw un, ni waeth beth yw eu hoedran. Mae mwy nag un ffordd o ddiwallu anghenion, ac os nad yw person hŷn wrth wraidd y penderfyniadau perthnasol hynny, yna'r tebygolrwydd yw na fydd yr anghenion hynny’n cael eu diwallu, gystal ag y gallent, pa yn a ydynt yn ofalwyr neu’n bobl sy'n derbyn gofal, neu unrhyw un, mewn gwirionedd. Er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu cydraddoldeb ar gyfer gofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran asesu, rydym eto i weld y dystiolaeth bod asesiad yn arwain at ddiwallu angen yn y ffordd orau bosibl. Rwy’n gobeithio y bydd y comisiynydd yn gallu ein tywys ni at dystiolaeth i'n helpu i weld sut y mae’r Ddeddf honno yn gweithio'n ymarferol dros gyfnod o amser. Tybiaf y bydd yr un dystiolaeth hefyd yn ein helpu ni, a phobl hŷn, i ganfod ffordd gyd-gynhyrchiol fwy unigol, i gydbwyso hawliau ac i gyfrifoldeb am ofal gael ei ddiogelu mewn rhywfaint o ddeddfwriaeth newydd, fel na fydd neb yn cael ei adael â gwasanaethau nad ydynt yn gweddu iddo, nad oes unrhyw un yn cael ei adael yn y purdan lle nad oes neb yn cymryd cyfrifoldeb, ac fel yr ymdrinnir â hawliau a chyfrifoldebau sy'n cystadlu gan y rhai y maent yn effeithio arnynt.
Mae hynny'n fy arwain at waith y comisiynydd ar ddeall integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ddiamau, canlyniadau ansoddol yw’r hyn sydd o bwys i berson hŷn sydd angen gwasanaethau. Yn anochel, fodd bynnag, rwy’n credu y bydd llawer iawn o bwyslais ar logisteg integreiddio a sut i ddarparu ar gyfer gwahaniaeth lleol. Efallai fod Cymru, wrth gwrs, yn fach ond nid yw ei daearyddiaeth a’i demograffeg yn caniatáu ar gyfer ymateb sengl, canolog. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld sut y gall y comisiynydd helpu Llywodraeth Cymru a rheolwyr presennol y gwasanaethau yn y cyfnod hwn i gadw'r pwyslais ar ganlyniadau, a sut y bydd ymgysylltu parhaus â phobl hŷn am eu profiadau, i ddyfynnu'r adroddiad, yn edrych mewn gwirionedd.
Mae gennyf rai pryderon gwirioneddol ynghylch pa un a fydd gofal cymdeithasol yn gallu gweiddi yn ddigon uchel yn y broses hon. Nid yw un ar hugain y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn oed yn gwybod a oes ganddynt ddigon o ofal cymdeithasol eisoes. Ac fel enghraifft wrthgyferbyniol, mewn gwirionedd, mae Salford, yn Lloegr, yn mynd trwy eu proses integreiddio yn awr, ac mae eu gweithwyr cymdeithasol eisoes wedi eu trosglwyddo o’r awdurdod lleol i'r GIG. Felly, maent eisoes yn cystadlu ag ystod o flaenoriaethau GIG ar gyfer statws a chyllid. Pa siawns fydd gan faterion fel ynysu cymdeithasol, cefnogaeth a seibiant i ofalwyr, telerau ac amodau gweithwyr gofal, ymwybyddiaeth o ddementia a darpariaeth gofal cartref i godi i'r wyneb yn yr agenda integreiddio hon? Yn bwysicach fyth, sut fydd y ffordd ansoddol o fesur llwyddiant—y maen prawf 'Sut ydw i'n teimlo?'—sy’n cael ei hyrwyddo, yn gwbl briodol, gan y comisiynydd, yn dal ei dir mewn byd o broses a gwerthuso seiliedig ar rifau? Gwelaf o'r adroddiad bod byrddau iechyd yn gwneud rhywfaint o waith ar hynny yn awr, ac rwy’n gobeithio y gall yr adroddiad nesaf gan y comisiynydd roi sylwadau ar lwyddiant hyn. Yn sicr rwy’n disgwyl i adolygiad seneddol Llywodraeth Cymru o iechyd a gofal cymdeithasol roi pwysau llawn i unrhyw dystiolaeth a ddarperir gan y comisiynydd i osgoi bod yn ddiffygiol o ran bodloni ei nod hanfodol.
Yn olaf, rwy’n edrych ymlaen at y gwaith dilynol ar yr adolygiad o gartrefi gofal a gafodd ei grybwyll yn yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y bydd tystiolaeth ar gael erbyn hynny y bydd y newidiadau i'r arolygiaethau i’w gweld yn glir ac y bydd newyddion da, yn enwedig o ran y defnydd o feddyginiaeth. Rwy'n sicr yn gobeithio y bydd yr estyniad hyfforddiant dementia yn rhoi gwell profiad i bobl hŷn mewn cartrefi gofal sydd â dementia, ond hefyd ar gyfer y rhai sy'n gofalu amdanynt. Byddai hefyd, rwy’n meddwl, yn eithaf diddorol clywed a yw'r rhai sydd â dementia nad ydynt yn byw mewn cartref yn cael gwell profiad yn gyffredinol mewn cymunedau oherwydd y twf mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia. Diolch.
Yn gyntaf, a gaf i ymuno ag eraill i ddiolch i gomisiynydd pobl hŷn Cymru a'i staff am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr i ni? Mae'r adroddiad yn gywir yn nodi bod pobl hŷn, i lawer ohonom, ein harwyr bob dydd, ond weithiau gwneir iddynt deimlo eu bod yn cael eu heithrio o gymdeithas ac yn ddioddefwyr rhagdybiaethau ffug o gwmpas llesgedd, dirywiad a dibyniaeth. Yr hyn na ellir ei wadu yw’r realiti bod llawer gormod o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae'r comisiynydd wedi amcangyfrif bod dros 100,000, gyda thua 20 y cant o bobl hŷn yn byw dan y ffin tlodi.
Gwnaeth adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2011 nodi gostyngiad mewn tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ond roedd y gostyngiad hwn hanner cyfradd y gostyngiad yn yr Alban. Er bod tlodi yn annerbyniol beth bynnag yw eich oedran, ar gyfer pobl hŷn, mae'n cyfyngu ar eu gallu i wneud cymaint o bethau, ac mae hyn yn aml yn achosi iddynt ddod yn ynysig ac yn unig.
Mae'r adroddiad manwl gan y comisiynydd yn cwmpasu sawl maes, gormod o lawer i ymdrin â nhw yn yr amser sydd ar gael. Felly, hoffwn ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y gweithlu gofal cymdeithasol. Bydd recriwtio a chadw gweithlu ymroddgar ac wedi'i hyfforddi'n dda yn hanfodol i’r ymdrechion i ddarparu gofal o’r safon uchaf posibl ar gyfer ein pobl hŷn. Er bod y gweithlu hwn yn amlwg yn darparu gofal ar draws ystod gyfan o anghenion, mae rhan fawr o'i waith yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal pobl hŷn mewn lleoliadau gofal preswyl a gofal cartref.
Byddaf yn siarad am ofal preswyl yn y man, ond yn gyntaf rwyf am ganmol y datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddoe, yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y gweithlu gofal cartref. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cwmpasu amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref, gan gynnwys contractau dim oriau, cymwysterau a chofrestru'r gweithlu, talu am amser teithio a chraidd, a llwybrau gyrfa. Croesawaf yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer mwy o dryloywder dros y defnydd o gontractau dim oriau.
Rwy'n falch bod y datganiad hwn yn nodi bwriad clir i ymestyn y gyfundrefn cofrestru gweithlu i weithwyr gofal cartref erbyn 2020 hefyd. Hyd yn oed ar gam cynnar, rwy’n meddwl yng Nghymru ein bod yn gweld y manteision o benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefn gofrestru ar draws y gweithlu addysg, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd buddion tebyg yn deillio o gofrestru staff gofal cartref.
O ran gofal preswyl, rwy'n falch o nodi bod y comisiynydd wedi derbyn y sicrwydd priodol y bydd Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cynnal camau gweithredu a nodwyd yn adroddiad y comisiynydd, 'Lle i’w Alw’n Gartref?', a bod y cynnydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd. Wrth ymweld â chartrefi gofal preswyl yn fy etholaeth i, dwi'n cael fy nharo gan faint o ofal gwych ac arferion da sy’n cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, rwy’n meddwl weithiau tybed a ydym yn gwneud digon i hyrwyddo’r arferion da hynny, ac felly rwy’n croesawu ymrwymiad y comisiynydd i gynnal seminarau pellach yn 2016-17, lle gall darparwyr cartrefi gofal ddod ynghyd a rhannu arferion da.
Yn gynharach, soniais am yr unigrwydd a’r unigedd a deimlir gan lawer o bobl hŷn, ac wrth ddod i'r diwedd, felly, rwy’n diolch i'r Ceidwadwyr am eu gwelliannau adeiladol wrth gydnabod yr angen i fynd i'r afael â hyn, ac am eu cefnogaeth i ystyried Bil hawliau pobl hŷn. Rwyf hefyd yn croesawu ac yn cefnogi'r gwelliant gan Blaid Cymru sy’n cydnabod swyddogaeth allweddol ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r heriau y maent yn eu hwynebu ar ôl blynyddoedd o bolisïau llymder aflwyddiannus Llywodraeth San Steffan.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Rebecca.
Diolch. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddadl ddefnyddiol ac adeiladol iawn y prynhawn yma, ac wrth gloi, hoffwn nodi ein hymrwymiad parhaus a’n cymorth i bobl hŷn. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei atgyfnerthu yn y camau penodol yr ydym wedi’u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen'.
Rydym wedi trafod rhai o'r camau gweithredu hyn yn ystod y ddadl heddiw, ac maent yn cynnwys datblygu strategaeth genedlaethol a thraws-lywodraeth i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, yn ogystal â'n hymrwymiad i wneud Cymru yn wlad sy’n ystyriol o ddementia. Rydym hefyd wedi trafod y gwaith sydd wedi ei ddatblygu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac fe gafodd y fframwaith canlyniadau ar gyfer honno ei ddatblygu drwy weithio gyda'r comisiynydd pobl hŷn, sydd hefyd wedi gweithio gyda ni ar yr agenda integreiddio.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu trwy'r gronfa gofal canolraddol, ac mae hynny i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac i ddarparu gofal cam-i-lawr neu ddychwelyd adref yn gyflymach i bobl. Rwy'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i barhau i ariannu hwn fel un o'n hymrwymiadau allweddol yn ein rhaglen lywodraethu.
Rydym hefyd wedi bod yn weithgar wrth ddatblygu gwaith i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn adolygiad y comisiynydd cartrefi gofal. Mae'r grŵp llywio cartrefi gofal, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2014, yn cyfarfod bob deufis i ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol o ran y sector cartrefi gofal yng Nghymru.
Un o'r materion a nodwyd gan y comisiynydd oedd mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a chytunwyd ar wasanaeth newydd gwell, a fydd yn berthnasol i bob cartref nyrsio a chartref gofal preswyl yng Nghymru, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol.
Mae'r gwasanaeth newydd, gwell hwn yn ceisio mynd i'r afael ag amrywiadau yn y ffordd y mae pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gallu cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ofal iechyd ataliol, megis ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, iechyd y geg, atal cwympiadau a chymorth iechyd meddwl.
Mae gwaith hefyd wedi ei wneud drwy'r grŵp llywio cartrefi gofal i ddatblygu canllawiau arfer da, ac mae hyn yn cynnwys pecyn croeso, sy'n darparu fframwaith ar gyfer cartrefi gofal o ran yr wybodaeth y dylent fod yn sicrhau sydd ar gael i bobl a'u teuluoedd er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r hyn y dylent fod yn gallu ei ddisgwyl gan y cartref gofal. Datblygwyd canllaw arfer da hefyd i wella'r profiad bwyta i bobl ac fe gafodd y ddau fater hyn eu hamlygu yn adolygiad y comisiynydd.
Felly, hoffwn gloi drwy ddiolch unwaith eto i'r comisiynydd a'i thîm am bopeth y maent wedi ei gyflawni yn 2015-16, a gwn fod y cyflymder wedi parhau byth ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin, gyda rhaglen yr un mor heriol o weithio ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Er y gall deddfwriaeth arfaethedig fod yn ymyrraeth allweddol wrth gryfhau hawliau pobl hŷn ledled Cymru, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio'r gwahaniaeth y gallwn ni i gyd ei wneud yn awr, fel Llywodraeth, fel gwleidyddion, ac fel unigolion. Mae angen i ni herio achosion o ragfarn ar sail oedran lle bynnag y maent yn bodoli, bod yn effro i achosion o gam-drin, a gwella ein dealltwriaeth ein hunain o effaith byw gyda dementia.
Felly, fel y mae’r comisiynydd yn ei gasglu yn ei hadroddiad, ni ddylid byth anghofio ein bod yn ffodus i fod yn genedl o bobl hŷn a’u bod, trwy'r hyn y maent wedi ei wneud a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud i ni, yn grŵp a ddylai gael ei edmygu, ei barchu a’i weld fel ased cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.
Unwaith eto, y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn.
Y cynnig yw cytuno ar welliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar welliant 3 tan y cyfnod pleidleisio