1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Rhagfyr 2016.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae Llafur wedi arwain Llywodraeth Cymru ers 17 mlynedd. A ydych chi’n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr heddiw?
Wel, bu rhai gwelliannau mewn rhai meysydd yn y canlyniadau PISA, ond siom mewn eraill. Ac, o'n safbwynt ni, rydym ni eisiau gweld y daith yn parhau, oherwydd, os ydych chi’n credu bod profion PISA yn bwysig—ac rwyf i’n credu eu bod nhw’n bwysig—yna mae’n rhaid i chi gydnabod bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei hun wedi dweud ein bod ni’n gwneud y pethau iawn, a’n bod ni ar y trywydd iawn. Felly, mae'n fater o sicrhau ein bod ni’n parhau â'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Nawr, nid fy ngeiriau i yw’r rheini—geiriau’r OECD yw’r rheini. Ni all neb fod yn hunanfodlon ac ni all neb dderbyn y sefyllfa fel ag y mae hi. Rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau ond dim digon. Mae'n fater nawr o gadw ati, fel y mae’r OECD wedi ein cynghori i’w wneud.
Wel, mae hynny'n swnio'n eithaf hunanfodlon i mi, Brif Weinidog. Ac rwy’n credu ei fod yn dweud cryn dipyn na wnewch chi gymryd cyfrifoldeb am y canlyniadau yr ydym ni wedi eu gweld heddiw. Nawr, mae’r Llywodraeth Lafur wedi darogan gwelliant. Rydym ni wedi clywed hyn i gyd o'r blaen. Y llynedd, dywedodd eich Gweinidog addysg fod llawer iawn wedi digwydd ers canlyniadau siomedig profion 2012. Dywedodd hefyd, rwyf yn rhagweld, ac rwyf yn gobeithio am welliant amlwg.
Felly, mae Llafur wedi addo gwelliant, ac nid ydych chi wedi cyflawni eto. Brif Weinidog, rydych chi eich hun wedi cyfaddef eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl pan ddaw i addysg. A'r canlyniad, heddiw, yw bod sgorau Cymru ar gyfer darllen yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl, mae sgorau Cymru ar gyfer mathemateg yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl, ac mae sgorau Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn waeth nag oedden nhw ddegawd yn ôl. Mae disgyblion, rhieni, athrawon yn haeddu'r gwelliant y dywedasoch fyddai'n digwydd. Brif Weinidog, pryd fyddwn ni’n gweld gwelliant? Ac, os gallwch chi ateb y cwestiwn hwnnw, a allwch chi hefyd ddweud wrthym, sut y gallwn ni eich credu chi?
Edrychwch ar y canlyniadau TGAU a byddwch yn gweld bod y canlyniadau hynny wedi gwella'n helaeth ers 2010, gwelliant o bron i 10 y cant o ran y rhai sy'n cael y graddau iawn ar lefel TGAU. Maen nhw’n galonogol. Rydym ni wedi gweld gwelliant mewn perfformiad mathemateg, ond siom o ran darllen a gwyddoniaeth. Felly, rydym ni yn gweld y bwlch yn cau. Rydym ni’n ffyddiog y bydd y bwlch yn parhau i gau yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gweld y canlyniadau fel TGAU a Safon A, sy'n rhoi’r dystiolaeth i ni fod y system addysg yn symud i'r cyfeiriad iawn. Ond, fel y dywedais, nid oes rhaid i arweinydd yr wrthblaid gredu yr hyn yr wyf i’n ei ddweud, ond os yw’n derbyn, fel y dywedais, bod y profion PISA yn bwysig—ac mae hi, wrth gwrs—yna mae'n rhaid iddi dderbyn yr hyn y mae'r OECD, sy’n llunio’r profion hynny, yn ei ddweud wrthym ein bod ni’n symud i'r cyfeiriad cywir ac y dylem ni aros ar y trywydd iawn. Yr hyn y maen nhw'n gwbl glir ynglŷn ag ef yw na ddylem ni gael diwygio gwyllt neu ddiwygio eang yn sydyn nawr, ond yn hytrach bod y cyfeiriad yn gywir. Os oes ganddi ddewisiadau eraill yr hoffai eu cynnig, mater iddi hi yw hynny, ond rydym ni’n gwrando ar yr OECD. Rydym ni’n gweld bod llawer o le i wella, rydym ni’n derbyn hynny, ond rydym ni yn gwrando ar yr hyn y mae'r OECD yn ei ddweud o ran eu bod nhw’n dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd iawn.
Brif Weinidog, chi yw’r Llywodraeth. Chi yw'r rhai sydd wedi addo gwelliant. Y rheswm yr wyf i’n gofyn i chi am y gwelliannau hynny yw bod gennych chi hanes o newid y meini prawf yn hyn o beth. Chi yw'r rhai sydd wedi dewis cymryd rhan lawn yn PISA a’i ddefnyddio fel meincnod credadwy. Ym mis Hydref 2014, gwaredwyd y targed o gyrraedd yr 20 uchaf yn y byd erbyn 2016. Cyflwynodd Llafur darged newydd ar yr adeg honno, i gyrraedd y cyfartaledd o 500 o bwyntiau ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth erbyn 2021. A allwch chi ddweud wrthym nawr: a ydych chi’n dal wedi ymrwymo i hynny, neu a ydych chi’n mynd i newid y meini prawf eto?
Rwy'n hyderus, pan fydd y canlyniadau PISA nesaf yn dod, y byddwn yn gweld mwy o welliant. Y rheswm pam rwy’n dweud hynny yw oherwydd fy mod i’n sôn am y canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld dechrau’r gwelliant hwnnw mewn mathemateg. Rydym ni’n gweld y bwlch yn cau mewn meysydd fel darllen a gwyddoniaeth. Ond nid yw'n ddigon da—nid yw’n ddigon da. Mae gwaith i'w wneud o hyd.
Rydym ni’n gwybod, mewn gwledydd eraill lle gwnaed gwelliannau, bod y gwelliannau hynny’n cymryd blynyddoedd. Ni ellir gwneud gwelliannau mewn tair blynedd. Ydym, wrth gwrs rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb. Ni yw’r Llywodraeth a ymunodd â PISA yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid i ni dderbyn bod PISA yn ffordd y bydd system addysg Cymru yn cael ei mesur. Mae mwy o waith i'w wneud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn amlinellu hynny’n fanylach pan fydd hi’n gwneud ei datganiad. Rydym ni’n gweld gwelliannau mewn rhai meysydd, ond, na, nid yw pethau fel y dylent fod, ac ni fyddwn byth yn fodlon. Byddwn bob amser eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru, a dyna'n union yr hyn yr ydym ni’n dymuno ei weld a byddwn yn gweld hynny.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, os gallaf fwrw ymlaen â'r pwyntiau ar PISA eto, roedd yn nodedig yn eich ymatebion i arweinydd Plaid Cymru nad oedd gan yr un aelod o'r meinciau cefn y tu ôl i chi awydd gwrando arnoch chi. Roedd pob un ohonynt yn edrych ar eu cyfrifiaduron, a hynny'n briodol. Mae angen i’r Blaid Lafur fod â chywilydd yn sgil canlyniadau heddiw, ar ôl 17 mlynedd o arwain addysg yma yng Nghymru. Mae’n ddyfarniad damniol—dyfarniad damniol—ar eich methiannau, Brif Weinidog, ac ar allu'r Blaid Lafur i arwain addysg yma yng Nghymru.
Pan ddechreuasoch yn eich swydd fel Prif Weinidog bron i saith mlynedd yn ôl—rwy’n credu mai’r dydd Sadwrn hwn fydd yr union ddyddiad—nodwyd gennych yn briodol mai addysg oedd un o gonglfeini eich safbwynt polisi fel Prif Weinidog, ac rydych chi’n cyfeirio’n briodol at y dreftadaeth falch sydd gennych chi o fod yn fab i ddau o athrawon. Nawr, nodwyd gennych hefyd mai addysg oedd yr allwedd i ddatgloi llwyddiant i economi Cymru. Pam ar y ddaear nad yw’r allwedd hwnnw wedi cael ei droi er budd disgyblion yng Nghymru pan edrychwch chi ar y canlyniadau PISA heddiw?
Wel, rwyf eisoes wedi rhoi atebion manwl i arweinydd Plaid Cymru ac wedi derbyn nad oes lle i fod yn hunanfodlon a bod llawer o le i wella. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn i yn yr ysgol yn y 1980au, roedd yr ysgolion yn ofnadwy. Roedd yr adeiladau yn ofnadwy. Nid oedd gennym ni lyfrgell—roedd yn cwympo’n ddarnau. Roedd yr adeiladau—os oedd y ffenestri wedi torri, roedden nhw’n aros wedi torri. Roedd safon yr addysgu yn dda, ac roeddem ni’n ffodus o gael athrawon da. Ond dyna’r gwir amdani i’r rhai ohonom a aeth i ysgol gyfun a’r rhai ohonom ni sy'n cofio fel yr oedd pethau o dan y Torïaid.
Nawr, gadewch i ni archwilio polisi addysg ei blaid ef, os yn wir— [Torri ar draws.]
Iawn, gadewch i ni dawelu a gadael i'r Prif Weinidog barhau.
Gadewch i ni edrych ar bolisi addysg ei blaid ef, os oes un, mewn gwirionedd. Dwylo i fyny unrhyw un sy'n gwybod beth yw polisi addysg y Torïaid, y tu hwnt i dorri cyllid ar gyfer ysgolion. Fe wnaethant sefyll ar sail torri 20 y cant ar gyllid addysg. Maen nhw'n dal i ddweud y dylai cyllid ysgolion gael ei dorri. Nawr, rydym ni’n derbyn bod gwaith i'w wneud pan ddaw i wella addysg. Yr hyn na fyddwn ni byth yn ei dderbyn yw y dylai ysgolion gael llai o arian, sef yr union beth y mae e’n ei argymell.
Er mwyn popeth, Brif Weinidog, dangoswch rywfaint o ostyngeiddrwydd—er mwyn popeth. Cyfeirio yn ôl at y 1980au, cyfeirio at bolisïau—rydych chi mewn Llywodraeth. Chi yw’r Prif Weinidog. Mae'r Blaid Lafur wedi bod mewn Llywodraeth ers 1999. Rydych chi wedi anwybyddu cenhedlaeth. A ydych yn barod i anwybyddu cenhedlaeth arall? Eich Ysgrifenyddion addysg eich hun sydd wedi dod i'r Siambr hon dro ar ôl tro—. Dywedodd Huw Lewis, yn ôl yn 2013,
Rwy'n disgwyl gweld effaith ein diwygiadau yn cael eu hadlewyrchu yn y gyfres nesaf o ganlyniadau.
Dyma’r gyfres o ganlyniadau yr ydym ni’n edrych arni heddiw. Beth sydd wedi digwydd o ran darllen? Beth sydd wedi digwydd o ran gwyddoniaeth? Ac rydym ni’n dal i fod y tu ôl i'r ffigurau mewn mathemateg o 2006. Felly, pam na allwn ni ddisgwyl yn afresymol i chi ddangos rhywfaint o arweiniad? Mae gennych chi fandad newydd. Rwy’n eich llongyfarch chi ar y mandad hwnnw. Ond yr hyn na allwn ddygymod â mwy ohono yw mwy o'r un peth fel ein bod ni’n anwybyddu cenhedlaeth arall. Rhowch rywfaint o weledigaeth i ni, Brif Weinidog. Mae’r allweddi gennych chi, agorwch y drws.
Atseinio llestr gwag, mae’n rhaid i mi ddweud. Ond mae'n gofyn y cwestiwn am weledigaeth. Gadewch i mi ddweud wrtho, gadewch i mi ailadrodd wrtho yr hyn a ddywedais wrth arweinydd Plaid Cymru, sef hyn: mae’r OECD wedi dweud mai’r peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw newid polisi addysg yn gyfan gwbl. Dyna’n union y maen nhw wedi ei ddweud. Maen nhw wedi dweud ein bod ni ar y trywydd iawn. Yr hyn y mae e'n ei argymell yw taflu popeth i fyny i'r awyr a chael amhariad llwyr, y gellid ei gyfiawnhau pe byddai’r OECD wedi dweud wrthym ein bod ni ar y trywydd anghywir—efallai y byddai ef yn iawn—ond nid dyna beth maen nhw’n ei ddweud. Yr hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud yw, 'Rydych chi’n symud i'r cyfeiriad iawn, cadwch ati.' A dyna’n union yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. Rydym ni’n gweld y gwelliannau hynny. Rydym ni wedi eu gweld mewn mathemateg, rydym ni’n eu gweld mewn TGAU a Safon Uwch, a byddwn yn parhau i’w weld yn y blynyddoedd i ddod.
Wel, gyda pharch, does dim ond rhaid i chi edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban o ran y canlyniadau heddiw pan fyddwch chi’n edrych ar rai o'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond rwy’n eich dwyn i gyfrif am y weledigaeth y mae’n amlwg nad oes gennych ar gyfer addysg yn y dyfodol. Rwyf wedi dyfynnu Huw Lewis, sef Ysgrifennydd blaenorol y Cabinet. Rhywun y mae colled ar ei ôl o'r Siambr hon yw’r annwyl Leighton Andrews o'r Rhondda—ac rwy’n llongyfarch yr Aelod dros y Rhondda y collodd ei sedd iddi—ond, yn y pen draw, rhoddodd gynnig arni o leiaf. A dywedodd wrthym yn 2010 mai gonestrwydd, arweinyddiaeth a dull newydd o atebolrwydd oedd eu hangen. Roedd ef eisiau, erbyn y cam hwn yn y cylch—nid dwy flynedd yn ôl, ond yn 2010—i Lywodraeth Cymru fod wedi rhoi Cymru yn yr 20 uchaf. Nawr, cafwyd gwared ar hynny, fel y clywsom o’r holi cynharach, ac roeddech chi eisiau cyrraedd y marc 500. Nawr, dywedasoch eich bod yn hyderus eich bod chi’n mynd i gyrraedd y marc 500 marc y tro nesaf, ond nid ydym wedi clywed dim gennych chi heddiw i roi ffydd i ni na fyddwn yn yr un sefyllfa ymhen tair blynedd.
Pam ar y ddaear na allwch chi roi ymrwymiadau pendant a sicr yma heddiw o ran ein sefyllfa mewn tair blynedd pan fydd PISA yn cynnal ei gyfres nesaf o brofion, fel y gallwn ni farcio’r cerdyn sgorio bryd hynny o leiaf, Brif Weinidog, a pheidio â chael yr un hen esgusodion gan Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Prif Weinidog yn sefyll yma yn beio pawb arall ac nid yn edrych yn ofalus yn y drych a meddwl pam mae popeth wedi mynd o chwith?
Fel y dywedais wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ni all ddweud ar y naill law bod y profion PISA yn gadarn—ac rwy’n cytuno ag ef am hynny—ond ar y llaw arall dweud y dylid anwybyddu’r cyngor yr ydym ni wedi ei gael gan yr OECD, sef yr hyn y mae'n ei ddweud. [Torri ar draws.] Mae'n dweud yn union hynny. Mae'r OECD wedi dweud ein bod ni ar y trywydd iawn ac y dylem ni barhau ar y trywydd yr ydym ni arno. Ni all anwybyddu hynny ac esgus nad yw hynny wedi cael ei ddweud, oherwydd mae hynny wedi ei ddweud.
Rwyf wedi gwrando'n ofalus arno fe a'i blaid dros y blynyddoedd o ran eu polisïau. Nid wyf yn gwybod dim o ran beth yw eu polisi addysg, y tu hwnt i dorri cyllid ysgolion a lled-glosio at ysgolion gramadeg, sef yr union beth y mae’r OECD wedi dweud na ddylai ddigwydd. Felly, ydy, mae’n ddarllen anghyfforddus. Nid wyf yn ei wadu. Mae'n arwydd na allwn ni fyth fod yn hunanfodlon. Rwy’n cytuno ei fod yn arwydd bod gwaith i'w wneud o hyd. Er bod rhai arwyddion o welliant, nid yw'n ddigon da. Mae mwy i'w wneud o hyd. Yr hyn na fyddwn ni’n ei wneud, fodd bynnag, yw cynhyrfu a thaflu popeth i fyny yn yr awyr pan ein bod yn gwybod bod y cyngor yr ydym ni wedi ei gael yn dweud y dylem ni gadw ar y trywydd yr ydym ni’n di ddilyn. Dyna’r hyn y mae’r OECD wedi ei ddweud.
Nawr, os yw’n barod i anghytuno â'r OECD a thaflu eu cyngor yn y bin, pan mai nhw yw’r union bobl sy'n trefnu’r profion hyn, yna mater iddo ef yw hynny. Ond nid yw'n rhywbeth y byddwn ni’n ei wneud fel Llywodraeth. Byddwn yn parhau i weld gwelliannau o ran TGAU, gwelliannau o ran Safon Uwch a symudiad tuag at well ffigurau ar gyfer PISA y tro nesaf.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr Iawn, Lywydd. Ers dydd Mawrth diwethaf, rwyf wedi cael y fantais o ddarllen achos argraffedig y Llywodraeth yn yr achos Goruchaf Lys, sy'n cael ei glywed heddiw. Ac ar wahân i'r hyn y mae'n ei ddweud ar y cychwyn y dylai canlyniad y refferendwm i adael yr UE gael ei barchu, mae’n llwyr anwybyddu'r ffaith fod pobl Prydain, trwy fwyafrif, wedi rhoi mandad i’r Llywodraeth ddechrau erthygl 50. Mae’r mandad hwnnw gan bobl Prydain yn cynnwys 26 o'r 29 sedd a enillodd y Blaid Lafur yn yr etholiad ym mis Mai ar gyfer y Cynulliad hwn. Er bod y geiriau coeth ar ddechrau'r achos hwn yn dweud y dylid parchu canlyniad y refferendwm, mae gweddill achos y Llywodraeth yn rhwystr yn ffordd parchu’r canlyniad hwnnw.
Wel, nid fi yw ustus y Goruchaf Lys ac nid yw ef, diolch i'r nef, yn gyfreithiwr. Felly, bydd yn rhaid i ni aros i weld a yw ei gyflwyniadau’n gywir ynteu rhai Llywodraeth Cymru sy’n gywir.
Wel, mae’r Prif Weinidog wedi cael y wybodaeth anghywir, oherwydd rwyf i yn aelod o'r Bar, fel y mae yntau. Ond nid dyna'r tro cyntaf y mae'r Prif Weinidog wedi dangos ei anwybodaeth yn y Siambr hon. [Torri ar draws.] Ond yn y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Senedd yn San Steffan—[Torri ar draws.] Mae'r Senedd yn San Steffan—
Gadewch i'r Aelod gael ei glywed, os gwelwch yn dda. Hoffwn glywed y cwestiwn.
Yn y 10 mlynedd diwethaf, mae'r Senedd yn San Steffan wedi pasio dwy Ddeddf bwysig iawn i gyfyngu pwerau’r Llywodraeth o ran yr uchelfraint yn ymwneud â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd—Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008, a Deddf yr Undeb Ewropeaidd 2011, sy'n darparu, o dan amgylchiadau penodol, na ddylai Llywodraeth wneud unrhyw benderfyniadau heb benderfyniad neu Ddeddf Tŷ'r Cyffredin, neu Ddeddf Seneddol, neu refferendwm. Nid yw’n cyfeirio at erthygl 50 yn yr un o'r Deddfau hynny. Felly, ni fwriadwyd i bwerau uchelfraint y Goron gael eu cyfyngu gan y Senedd yn y cyswllt hwn, ac mae ymgais Llywodraeth Cymru i rwystro’r dymuniad a fynegwyd gan bobl Prydain mewn refferendwm, pan bleidleisiodd 17.5 miliwn i adael yr UE, yn gwbl warthus.
Cyn i'r Prif Weinidog ateb, a gaf i ddweud wrth holl Ysgrifenyddion y Cabinet, yn enwedig yr un yr wyf yn edrych arno, nad oes angen unrhyw gefnogaeth ar y Prif Weinidog gan fainc y Cabinet—neu nid wyf yn credu bod angen unrhyw gefnogaeth arno. Brif Weinidog.
Wel, oni bai bod yr Aelod wedi ei gofrestru fel bargyfreithiwr sy'n ymarfer, nid yw’n gyfreithiwr. Nid wyf i, ac nid yw yntau ychwaith. Nid wyf wedi bod yn y llys ers 2000—Ionawr 2000. Ond dyna ni. Ond mae'n gwneud achos y dylai ei wneud i'r Goruchaf Lys, nid i mi—a dylem ni aros i weld beth fydd y Goruchaf Lys yn ei wneud. Ond sylwais fod cyn-arweinydd ei blaid—yr hwn a gamsillafodd enw etholaeth ddoe, wrth gwrs, yn enwog, ar y teledu—wedi bygwth arwain gorymdaith o 100,000 o bobl i'r Goruchaf Lys ddoe. Ni ddigwyddodd hynny, yn gwbl briodol, gan nad yw ond yn gywir y dylai barnwyr gael gwneud eu penderfyniadau eu hunain heb i bwysau gwirion gael ei roi arnyn nhw gan y cyfryngau a chan wleidyddion.
Hwn yw’r achos cyfansoddiadol pwysicaf, fel y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddweud wrthyf, ers Siarl I, ond heb yr un canlyniad i neb dan sylw, gobeithio. Ceir materion pwysig yma—nid yn unig o uchelfraint, ond o ran yr hyn y mae'n ei olygu i ddeddfwrfeydd Cymru a'r Alban, ac i Ogledd Iwerddon, yn enwedig o ran y materion yn ymwneud â’r ffin yno. Ac mae'r rhain yn faterion y mae'n rhaid eu datrys fel mater o gyfraith. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n mynd i atal canlyniad y refferendwm rhag digwydd—mae’n amlwg y bydd hynny’n digwydd, ond mae'n rhaid iddo gael ei wneud, does bosib, mewn ffordd gyfreithlon.
Oes, rwy’n cytuno’n llwyr. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn yr achos Goruchaf Lys hwn er mwyn ceisio rhwystro dymuniadau pobl Prydain fel y’u mynegwyd yn rhydd mewn refferendwm. Fel arall, ni fyddai unrhyw bwynt ymyrryd yn yr achos yn y lle cyntaf. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud sawl gwaith y bydd Llafur yn parchu canlyniad y refferendwm, ac felly ni fydd, neu di ddylai ASau Llafur, gael eu chwipio i bleidleisio yn erbyn dechrau erthygl 50. Wel, os na fydd ASau Llafur yn pleidleisio yn erbyn erthygl 50, beth ar y ddaear yw pwynt yr achos yn y lle cyntaf?
Wel, nid fi yw arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan. Dyma’r egwyddor—rydym ni wedi cymryd y farn bod materion yn ymwneud ag erthygl 50 a fyddai'n effeithio ar bwerau’r lle hwn. Ac o ganlyniad, mae'n hynod bwysig, felly, bod sefyllfa pobl Cymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei harchwilio fel ein bod yn gwybod, yn gyfansoddiadol, beth ddylai’r broses fod. Ni fyddem yn derbyn sefyllfa lle byddai'r uchelfraint yn cael ei defnyddio i leihau pwerau'r Cynulliad hwn, a dyna pam mae’n bwysig bod y Goruchaf Lys yn archwilio’r materion hyn er mwyn sicrhau bod yr hyn a wneir yn cael ei wneud, ond yn cael ei wneud yn gyfreithlon, does bosib. Nid oedd Brexit yn bleidlais yn ymwneud ag anwybyddu llysoedd na’r gyfraith. Dywedwyd wrthym ei fod yn ymwneud â grymuso Senedd y DU, ac eithrio pan ei fod yn anghyfleus. Nawr, gadewch i’r Goruchaf Lys wneud ei waith, gadewch iddo archwilio'r materion hyn yn fanwl, ac yna byddwn yn cael yr ateb sydd ei angen arnom cyn i’r broses symud ymlaen, fel, yn anochel, y bydd.