1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Ionawr 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, byddwch yn falch o glywed nad wyf i'n mynd i’ch holi am yr Undeb Ewropeaidd heddiw, gan nad wyf eisiau ymddangos fel fy mod wedi fy nheipgastio. A, beth bynnag, cefais y cyfle i wneud hynny ddoe, a byddaf yn gwneud hynny’n ddiweddarach heddiw.
Hoffwn ofyn am y gwasanaeth iechyd, yn enwedig o ran meddygon teulu. Bydd yn gwybod bod niferoedd meddygon teulu yn ddigyfnewid ar y cyfan, ac eto ceir galw cynyddol am eu gwasanaethau. Ac, yn wir, yn 2014—y ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi gallu dod o hyd iddynt—gennym ni yng Nghymru oedd y nifer lleiaf yn y DU o feddygon teulu ar gyfer pob 1,000 o bobl. Mae oddeutu 17 y cant o feddygon teulu wedi gofyn am arweiniad neu gyngor ar gyfer straen sy'n gysylltiedig â gwaith yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 84 cant yn poeni y gallent fethu rhywbeth difrifol mewn claf oherwydd pwysau llwyth gwaith, ac mae 56 y cant yn bwriadu gadael maes meddygon teulu neu leihau eu horiau yn y pum mlynedd nesaf. A yw'n derbyn bod argyfwng cynyddol mewn ysbryd ymhlith meddygon teulu yng Nghymru?
Nac ydw, rydym ni wedi bod yn ariannu meddygon teulu, ac, yn wir, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, ar lefel yr ydym ni’n credu sy'n iawn ac yn briodol. Er enghraifft, os edrychwch chi ar ofal cymdeithasol, rydym ni’n ariannu gofal cymdeithasol ar gyfradd sydd 6 y cant y pen yn uwch nag y mae Lloegr yn ei wneud, a dyna pam nad ydym ni wedi cael yr 'argyfwng dyngarol', i ddefnyddio geiriau’r Groes Goch, y mae Lloegr wedi ei gael yn ei GIG. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i recriwtio meddygon teulu ychwanegol. Mae gennym ni fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag erioed o'r blaen, a dyna pam, wrth gwrs, y mae gennym ni’r ymgyrch recriwtio a lansiwyd y llynedd.
Rwy'n falch nad yw’n fy holi am Ewrop, oherwydd ymddangosodd yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd ddoe gyda mi ac arweinydd Plaid Cymru, fel aelod o'r gynulleidfa. Diolchaf iddo am y ffaith ei fod yn gefnogwr mor frwd fel na all ddioddef bod ar wahân i’r ddau ohonom ni, hyd yn oed am ddiwrnod. [Chwerthin.]
Gallwch chi gael gormod o beth da weithiau, ond, yn achos y Prif Weinidog, rwy'n hapus i ddweud nad yw hynny'n wir. [Chwerthin.]
Ond nid yw’n unrhyw ateb i'r cwestiwn a ofynnais funud yn ôl i ddweud bod pethau'n waeth yn Lloegr nag y maen nhw yng Nghymru. Mae'n wir fod gennym ymosodiad o’r ddwy ochr yn y fan yma o alw cynyddol ar feddygon teulu, ac oherwydd nad yw niferoedd meddygon teulu yn cadw i fyny â’r galw cynyddol hwnnw. Mae cyllid y GIG ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru, yn rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru, wedi gostwng ers 2004, o 10 y cant o'r cyfanswm i 7.5 y cant. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai mwy o wario ar feddygon teulu arbed £90 miliwn y flwyddyn i’r GIG erbyn 2020 pe byddem yn ail-flaenoriaethu meddygon teulu o fewn cyllideb GIG Llywodraeth Cymru. Felly, a yw hynny’n rhywbeth y mae'r Prif Weinidog yn fodlon ei ystyried?
Wel, mae ein cronfa gofal sylfaenol o £43 miliwn yn cefnogi hynny, gyda'r pwyslais ar ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau. Mae hynny'n golygu darparu gwasanaethau, a datblygu gwasanaethau nyrsys a fferyllwyr, ffisiotherapyddion, a gweithwyr cymdeithasol, i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu. Nid yw'n fater syml o gynyddu nifer y meddygon teulu; mae'n fater o sicrhau bod digon o weithwyr proffesiynol ar gael mewn lleoliad penodol—rydym ni’n ei weld, er enghraifft, ym Mhrestatyn—fel y gall pobl gael eu cyfeirio at y gweithiwr proffesiynol priodol, yn hytrach na phentyrru’r holl bwysau ar feddygon teulu, pan allai pobl fynd i rywle arall.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn gwybod, mewn rhai ardaloedd o Gymru, bod pwysau cleifion, o ran niferoedd, ar sesiynau meddygfa meddygon yn ormodol erbyn hyn. A all ef roi unrhyw syniad i ni beth yn ei farn ef yw uchafswm y cleifion y gall meddyg teulu ymdrin â nhw yn rhesymol mewn diwrnod gwaith? Yn enwedig o ran ymweliadau cartref i gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthyf, mewn rhai achosion, bod pobl yn gorfod aros hyd at 20 awr i gael ymweliad, sy’n amlwg yn annerbyniol. Mae rhai meddygon yn ymdrin â 120 o gleifion yn ystod pob sesiwn yn hytrach na 50 neu 60. Faint yn union y mae e'n ei feddwl sy’n rhesymol i feddygon eu gweld mewn sesiwn a sut y mae'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fodloni ei tharged chwe awr, sy'n cael ei fethu ym mhob un rhan o’r wlad ar hyn o bryd?
Mae'n dibynnu ar y cleifion sy'n dod drwy'r feddygfa ar y diwrnod penodol hwnnw. I rai pobl, gellir eu gweld mewn pum munud; i bobl eraill, mae'n cymryd mwy o amser. Mae'n dibynnu ar natur y claf. Bydd gan feddygon teulu syniad da o'r cymunedau y maen nhw’n gweithio ynddynt a’r cleifion y maen nhw’n eu gweld yn ystod y diwrnod hwnnw. Ond y pwynt yw, y peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud yw sianelu mwy a mwy o bobl tuag at feddygon teulu. Rydym ni’n dweud wrth bobl, 'Dewiswch yn ddoeth. Ewch i weld fferyllydd yn gyntaf. Os nad, yna ewch i weld nyrs gymunedol neu nyrs practis meddyg teulu. Wedyn, a dim ond wedyn, y mae’r meddyg teulu yn rhywun i fynd i’w weld.'
Ceir problemau o ran cysondeb gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru. Mae cymaint â hynny’n wir. Mae rhai’n cynnig gwasanaethau ehangach nag eraill, maen nhw’n cynnig oriau hwy nag eraill, a dyna pam mae hi mor bwysig gweithio gyda'r coleg brenhinol ac eraill i wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld mwy o gysondeb o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, nid wyf i’n mynd i ofyn i chi am erthygl 50 na’r Papur Gwyn a lansiwyd gennym ar y cyd ddoe gan fod datganiadau ar y ddau fater hynny yn dod yn nes ymlaen. Yn hytrach, hoffwn ofyn i chi am faterion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt. A ydych chi’n derbyn bod llawer o gymudwyr rheilffordd ar reilffyrdd y Cymoedd yn arbennig yn wynebu sefyllfa cael a chael pan ddaw i gyrraedd y gwaith yn brydlon?
Mae hi'n dweud 'gwasanaethau yr ydym ni’n gyfrifol amdanynt', ond nid ydym yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd. Byddwn yn gyfrifol o'r flwyddyn nesaf ac rydym ni’n croesawu hynny. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod masnachfraint Cymru a'r gororau yn gwasanaethu pobl yn briodol gyda cherbydau o ansawdd priodol—nid oes ganddyn nhw hynny ar hyn o bryd—trenau amlach a phrisiau rhesymol i’w talu. Y rheini, ymhlith pethau eraill, fydd ein hegwyddorion arweiniol wrth i ni geisio gosod y fasnachfraint o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Felly, nid yw’n ddim i'w wneud â'r Llywodraeth, felly? Brif Weinidog, mae'n sefyllfa cael a chael i lawer o weithwyr, ac rwy’n gwybod hynny gan fy mod i’n wynebu oedi rheolaidd, fel y mae pawb arall sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Nid ydym byth yn gwybod pryd y bydd trenau’n cael eu hoedi neu eu canslo. Yn wir, bu oedi i’m trên i yn dod i'r gwaith y bore yma. Mae'n digwydd yn feunyddiol. Mae pobl yn teimlo fel pe na byddent yn cael gwerth am arian ac, yn bwysicach, na ellir dibynnu ar y trenau hynny. Ers blynyddoedd, mae Arriva wedi ceisio gwneud i’r gwasanaeth weithio trwy wthio'r trenau presennol i'r eithaf ac mae’r trenau hynny, fel y gwyddoch, yn hen dros ben. Mae'n ymddangos i'r rhai ohonom ni sy'n defnyddio'r gwasanaeth fel bod y gwasanaeth ar fin torri. Os bydd yn torri, Brif Weinidog, bydd yn rhaid i chi wneud rhywbeth. A yw'n dderbyniol i chi mai’r sefyllfa gorlenwi yn y de yw'r un sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y tu allan i Lundain?
Rwy'n falch bod y twf yn cynyddu, ond nid yw arweinydd Plaid Cymru yn sôn am y metro. Holl bwynt y metro yw gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaethau amlach a cherbydau gwell, nad oes gennym ni stoc 40 mlwydd oed wedi’i ailwampio yn rhedeg ar reilffyrdd y Cymoedd heb unrhyw aerdymheru, ac nad oes gennym ni sefyllfa lle mae gweithredwyr y trac a gweithredwyr y stoc yn rhoi'r bai ar ei gilydd am oediadau. Felly, ydym, pan fyddwn ni’n cael rheolaeth dros hyn o'r flwyddyn nesaf ymlaen, rydym ni eisiau gweld system metro, un sy'n cael ei hymestyn yn y dyfodol ac un sy'n cynnig gwasanaeth llawer gwell na’r hyn sydd wedi bod ar gael hyd yn hyn. Bydd hi wedi gweld y sylwadau gan Ysgrifennydd yr economi o ran ei farn ar yr elw y mae Arriva wedi ei wneud, er gwaethaf y gwasanaethau israddol, fel y mae’n ei nodi’n gywir, sydd wedi eu cynnig hyd yn hyn.
Brif Weinidog, ni allwn fforddio i aros am y metro; gallai fod yn flynyddoedd cyn i ni weld y metro ar waith. Roedd fy rhagflaenydd fel arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn feirniad cryf o'r contract masnachfraint rheilffyrdd presennol ar gyfer Cymru. Dywedodd fod y ffordd y mae wedi ei lunio—ie, gan asiantaeth Llywodraeth y DU—wedi arwain at ddegawd o orlenwi, ac mae’r dyfarniad hwnnw’n dal i sefyll heddiw.
Ddydd Gwener diwethaf, dywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y byddai angen trenau newydd a disgrifiwyd contract 2003 fel camgymeriad mawr ganddo. Nid yw cymudwyr yn barod i dderbyn cytundeb masnachfraint gwael arall. Eich Llywodraeth chi fydd yn gyfrifol am y fasnachfraint nesaf ac rydym ni eisoes yn gwybod bod y cynllunio ar gyfer hynny ar y gweill, ond, hyd yn hyn, nid ydych chi wedi ei gwneud yn eglur i'r Cynulliad hwn eto pa gerbydau fydd yn cael eu darparu, ac rwy'n sôn am nifer yma, yn ogystal ag ansawdd. Nid ydym wedi cael gwybod pa un a fydd trenau neu gerbydau newydd, os ydynt wedi cael eu harchebu eto, os ydyn nhw’n mynd i fod yn drenau newydd neu os ydyn nhw’n mynd i fod yn ail law neu’n drydedd law hyd yn oed. A wnewch chi ddweud wrthym ni heddiw pa drenau sy’n mynd i fod ar gael ar gyfer y fasnachfraint nesaf ac a wnewch chi roi sicrwydd pendant na fydd camgymeriadau’r contract blaenorol yn cael eu hailadrodd?
Nid oes gennym unrhyw fwriad o ailadrodd y camgymeriadau a wnaed gan Lywodraeth y DU o ran y contract diwethaf. Mae hi’n cyfeirio’n briodol at yr hyn a ddywedodd y cyn-Aelod dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones. Fe oedd yn gyfrifol am drafnidiaeth am bedair blynedd, ond prin oedd yr hyn y gallai ei wneud oherwydd y ffaith nad oedd wedi ei ddatganoli. Roeddwn i’n rhannu ei rwystredigaeth. Trenau gwell, trenau amlach a cherbydau mwy modern.
Un o'r problemau sydd gennym ni nawr, a dweud y gwir, yw ei bod hi bron yn amhosibl caffael trenau diesel—maen nhw’n cael eu hystyried yn dechnoleg hynafol. Felly, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gweld trydaneiddio. Mae'n rhaid i ni weld yr ymrwymiad, er enghraifft, gan Lywodraeth y DU y bydd yn trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe i gadw'r addewid a wnaeth ac y mae’n cefnu arno erbyn hyn. Mae'n rhaid i ni weld trydaneiddio prif reilffordd y gogledd hefyd. Mae hynny'n hynod bwysig.
O ran sut y bydd y trenau yn edrych yn y dyfodol, byddant yn drenau hybrid—diesel-trydanol—o leiaf. Ond, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y trydaneiddio yn cael ei gyflawni. [Torri ar draws.] Ni fyddant yn cael eu harchebu—. Mae'r fasnachfraint yn rhan o'r trafodaethau. Yr holl bwynt yw eich bod chi’n cael trafodaethau i gytuno’r fasnachfraint, ac, yn rhan o'r trafodaethau masnachfraint, rydym chi’n nodi pa stoc y mae’n rhaid i’r gweithredwr ei ddefnyddio. Mae hynny’n rhan o'r trafodaethau masnachfraint.
Mae'n gofyn cwestiwn—cwestiwn teg: 'A fydd y gwasanaeth yn well?' Yr ateb rwy’n ei roi yw 'bydd'. Rwyf wedi dweud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n fy nwyn i gyfrif ar hynny dros y blynyddoedd nesaf.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Pan fyddwch chi’n drydydd ar y rhestr arweinwyr i ofyn cwestiynau, rydych chi’n tybio fel rheol y bydd pwnc y dydd wedi cael ei ofyn gan un o'r ddau arall, felly rwyf innau hefyd yn rhoi'r rhybudd iechyd y byddaf yn gadael fy nghwestiynau Ewropeaidd tan yn ddiweddarach yn y prynhawn. Hoffwn ofyn i chi, Brif Weinidog, yn benodol am adroddiad arolygu Estyn a gyhoeddwyd heddiw. Dywedasoch, nid yn afresymol, pan ddaethoch yn Brif Weinidog gyntaf yn 2009, eich bod chi’n mynd i wneud addysg yn flaenoriaeth. Ychydig cyn y Nadolig, cawsom ganlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr a oedd yn dangos na fu unrhyw gynnydd o gwbl o ran safleoedd Cymru pan ddaw i ystadegau rhyngwladol. Heddiw, mae adroddiad arolygu Estyn yn dangos ditiad damniol o fethiant arweinyddiaeth ac, yn arbennig, rhagoriaeth mewn addysgu, yn enwedig yn y sector uwchradd, lle, os byddwch chi’n dewis ysgol uwchradd yng Nghymru, mae gennych chi lai na 50 y cant o siawns o fynd i ysgol sydd ag arfer addysgu rhagorol neu dda. A ydych chi’n credu bod hynny'n dderbyniol ar ôl bron i saith mlynedd o fod yn Brif Weinidog?
Ceir dau beth i'w cadw mewn cof yma. Yn gyntaf, nid yw cyflogau ac amodau athrawon wedi eu datganoli eto—byddant yn cael eu datganoli y flwyddyn nesaf. Mae hynny’n rhoi cyfle i roi pecyn hyfforddiant priodol gyda chyflogau a chydag amodau a fydd yn denu athrawon da i Gymru ac yn gwella hyfforddiant athrawon yng Nghymru. Mae angen y pecyn hwnnw arnom ni. Mae'r Alban wedi ei wneud—nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni allu ei wneud.
Yn ail, mae'r adroddiad yn gwneud y pwynt—sy’n gywir, oherwydd fe’i gwelsom yn PISA, a dweud y gwir—nad oes digon yn cael ei wneud i ymestyn y rhai ar frig y gynghrair academaidd. Dyna’n union y dangosodd PISA. Y rheswm pam roedd y ffigurau PISA yn siomedig yw nad ydym ni’n gwneud yn dda ar y brig, fwy neu lai. Mae gwledydd eraill yn gwneud yn well ar y brig. Os edrychwch chi ar y bandiau canol, rydym yn debyg iawn a dweud y gwir, ond y brig yw’r broblem. Felly, mae’r adroddiad hwnnw wedi dweud wrth athrawon, 'Edrychwch, mae angen i chi wneud mwy i sicrhau bod y cyflawnwyr uchaf yn academaidd yn cael eu gwthio mwy i wneud hyd yn oed yn well'. Rwy'n falch bod yr adroddiad wedi dangos hynny i wneud yn siŵr bod athrawon a gwleidyddion yn deall mai dyna’r hyn y mae angen ei wneud.
Clywais yn eich ateb, Brif Weinidog, eich bod yn siarad am gyflogau ac amodau yn yr Alban. A dweud y gwir, cwympodd canlyniadau’r Alban yn y safleoedd PISA, ac nid yw honno'n unrhyw esiampl i’w dilyn, byddwn yn awgrymu i chi, Brif Weinidog. Rydych chi wedi cael menter ar ôl menter yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, ac, yn wir, ers i Lafur fod yn rhedeg addysg, ers 1999. Rydym wedi cael mentrau llwyth gwaith athrawon; rydym ni wedi cael y consortia rhanbarthol sydd wedi cael eu beirniadu’n arbennig heddiw gan Estyn, gan ddangos fod perfformiad gwael yno o ran gweithio ar y cyd. Mae ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon wedi dweud bod rhwystrau sylweddol i wella perfformiad athrawon mewn ysgolion a mynediad at arfer gorau. A ydych chi'n cydnabod y rhwystrau sylweddol hyn, Brif Weinidog? Yn benodol, rwy’n mynd yn ôl at y pwynt eto: rydym ni wedi cael menter ar ôl menter o dan eich arweinyddiaeth chi, ac eto rydym ni’n dal i gael adroddiadau Estyn saith mlynedd i mewn i'ch cyfnod fel Prif Weinidog, ac rydych chi wedi gwneud addysg yn flaenoriaeth. Rydych chi’n methu, Brif Weinidog.
Wyddoch chi, mae cael pregeth gan rywun a safodd yn yr etholiad ar sail torri 12 y cant ar wariant ar addysg—12 y cant—yn anghredadwy. Mae cael pregeth gan rywun y mae ei blaid yn methu ag adeiladu ysgolion yn Lloegr—yn methu ag adeiladu ysgolion yn Lloegr—tra ein bod ni’n adeiladu ysgolion yng Nghymru; cael pregeth gan rywun a oedd eisiau dod ag ysgolion gramadeg yn ôl—gan daflu’r rhan fwyaf o blant ar y domen; na, na, nid wyf yn mynd i dderbyn pregeth ganddo fe.
Wrth gwrs bod problemau yn y system addysg. Rydym ni’n gweld gwelliant ac rydym ni’n ei weld. Pam? Mae canlyniadau TGAU yn gwella. Mae canlyniadau Safon Uwch yn gwella. Rydym ni’n gweld mwy o ysgolion sy'n dod allan o gategori o fod yn tanberfformio. Rydym yn gweld y cymorth y mae athrawon ei angen. Mae Estyn wedi tynnu sylw at yr arfer da hefyd. Nid yw’n ddrwg i gyd. Nid yw'n 'dditiad damniol'—nonsens llwyr yw hynny. Mae wedi dangos bod gwendidau penodol y mae angen canolbwyntio arnynt, ac rydym ni’n canolbwyntio arnyn nhw, ond rydym ni’n gwybod bod ein hysgolion yn mynd i'r cyfeiriad iawn, gyda chyllid priodol, ac nad ydynt yn cael eu hamddifadu o gyllid gan ei blaid ef fel mewn mannau eraill ym Mhrydain.
Wel, rydych chi bob amser yn gwybod pan fyddwch chi’n taro nerf gyda'r Prif Weinidog: mae’n crybwyll ystadegau nad ydynt yn sefyll i fyny i unrhyw graffu o gwbl. Rydym yn siarad am y presennol ac adroddiad Estyn a gyflwynwyd heddiw, sydd yn dditiad damniol o'ch stiwardiaeth chi yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar un awdurdod addysg lleol—Caerdydd—mae bron i 50 y cant o benaethiaid wedi gadael eu swyddi yn y tair blynedd diwethaf—50 y cant. Mae bron i 50 y cant wedi gadael. Menter ar ôl menter yr wyf i wedi amlygu eich bod wedi eu cyflwyno, ac rydych chi’n methu â chodi safonau yma yng Nghymru. Un cyfle mae plant yn ei gael i fynd i'r ysgol, Brif Weinidog. Dywedasoch mai addysg yw'r flaenoriaeth; rydych chi wedi methu â chyflawni. Mae'n hen bryd i chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn ac, yn hytrach nag ailadrodd dadleuon ddoe, dechrau mapio gweledigaeth ar gyfer yfory a’r llwyddiant yr ydym ni i gyd eisiau ei weld yn ein system addysg yma yng Nghymru.
Mae, rwy’n credu, swydd ar gael fel ysgrifennydd y wasg Donald Trump i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig trwy ei gyflwyniad o ffeithiau amgen. Mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau TGAU wedi gwella dros y tair blynedd diwethaf; mae'n ffaith ddiymwad bod canlyniadau Safon Uwch yn gwella; mae'n ffaith ddiymwad bod ei blaid ef eisiau torri 12 y cant ar wariant ar addysg. Roedden nhw’n ymffrostio yn ei gylch. Cynhyrchwyd maniffesto cryno ganddyn nhw a oedd yn cynnwys y ffigur hwnnw yn y maniffesto cryno—neu ai 'ffaith amgen' yw honno? Y gwir yw, pe byddai ei blaid ef wedi dod yn agos at addysg yng Nghymru, bydden nhw wedi dinistrio’r system addysg trwy doriadau, ni fyddent wedi adeiladu ysgolion, byddai plant wedi parhau i gael eu haddysgu mewn ysgolion a oedd yn syrthio’n ddarnau. Nid ydym ni erioed wedi gwneud hynny. Mae addysg yn symud i'r cyfeiriad iawn, gyda gwelliannau ym mhob maes, a dyna'n union lle y byddwn ni’n mynd ag addysg yn y dyfodol, nid yn ôl i'r dyddiau pan roedd addysg yn cael ei thanariannu gan y Blaid Geidwadol yn Llundain—plaid nad oes ots ganddi o gwbl am addysg i bawb ac nad oes ots ganddi am y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru. Dyna beth yr ydym ni’n sefyll drosto. Ni fyddant byth yn deall beth y mae’n ei olygu i gael addysg dda a chyfleoedd da, oherwydd nid ydyn nhw erioed wedi gorfod ymladd amdano eu hunain.