– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 15 Chwefror 2017.
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor—John Griffiths.
Cynnig NDM6239 John Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl gyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ddeddfwriaeth bwysig sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer atal cam-drin a gwella cymorth i oroeswyr. Ond nid yw pasio deddfwriaeth yn ddigon—mae’n rhaid iddo gael ei roi ar waith yn effeithiol. Felly, penderfynodd ein pwyllgor wneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i edrych ar ba mor dda yr oedd hyn yn digwydd mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon. Yn ystod ein hymchwiliad, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a chynhaliwyd ymweliadau i glywed yn uniongyrchol gan oroeswyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb am gyfrannu, ond yn arbennig, rydym eisiau dweud ‘diolch’ wrth y goroeswyr a’n hysbrydolodd gyda’u nerth a’u dewrder yn rhannu eu straeon. Er eu mwyn hwy, ac er mwyn yr holl oroeswyr, rhaid i ni gael hyn yn iawn. Ni allwn droi’r cloc yn ôl i atal trais ar ôl iddo ddigwydd. Ni ddylai neb amau ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i fynd benben â’r mater hwn. Rydym yn croesawu’r ffaith fod pob un o’r argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Fodd bynnag, mae’r ymateb i’n hargymhellion yn eithaf gwan ar adegau ac weithiau’n brin o fanylion. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb heddiw yn darparu sicrwydd fod y materion a nodwn yn ein hadroddiad yn cael sylw gyda’r lefel o frys sy’n angenrheidiol.
Ddirprwy Lywydd, mae’r pwyllgor yn rhannu pryderon rhanddeiliaid ynglŷn â chyflymder a chysondeb gweithredu. Aeth pum mlynedd heibio ers cyhoeddi’r Papur Gwyn, a bron i ddwy flynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, ond mae llawer o elfennau allweddol yn dal i fod heb eu rhoi ar waith ac nid ydynt yn mynd i fod ar waith yn fuan iawn. Gyda phob dydd sy’n pasio rydym mewn perygl o golli momentwm a chyfleoedd i newid bywydau. Mae gwasanaethau’n cael eu torri, mae sefydliadau’n ansicr ynglŷn â’u dyfodol. Rydym yn colli amser pan allem fod yn rhoi mesurau ataliol ar waith.
Trof yn awr at rai o’n hargymhellion. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi dyddiadau, yn y cynllun cyflawni sydd ar y ffordd, ar gyfer amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys canllawiau statudol. Yn llinell gyntaf yr ymateb, dywedodd y Llywodraeth nad oedd unrhyw ganllawiau statudol yn dal heb eu cyflwyno. Fodd bynnag, mewn mannau eraill, mae’r ymateb yn nodi y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ganllawiau comisiynu statudol ym mis Gorffennaf eleni. Felly, mae’n ymddangos bod yna ganllawiau statudol sy’n dal heb eu cyflwyno. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r sefyllfa honno: beth sy’n parhau i fod heb ei wneud a phryd y byddant yn cael eu cyhoeddi? Mae’r canllawiau statudol hyn yn bwysig. Dyma yw cerrig sylfaen y ddeddfwriaeth.
Yn argymhelliad 3, roeddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o gyhoeddi canllawiau statudol ar gomisiynu gwasanaethau. Dywedodd y cynghorydd cenedlaethol wrthym fod y canllawiau comisiynu yn allweddol i ddibenion y Ddeddf, ond ni fydd ymgynghori’n digwydd ar y canllawiau drafft tan fis Gorffennaf. Yn eu hymateb, mae’r Llywodraeth yn cyfeirio at y pecyn cymorth a lansiwyd gan Sefydliad Banc Lloyds a Chymorth i Fenywod Cymru ym mis Awst 2016, ond cafodd hwn ei gynhyrchu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac nid yw’n statudol. Mewn sector lle y mae comisiynu mor hanfodol i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol, mae’n rhwystredig nad yw’r canllawiau hyn yn barod eto.
Mae cysylltiad agos iawn rhwng comisiynu gwasanaethau a chyllid. Yn argymhelliad 5, roeddem yn galw am amserlen i’r bwrdd cynghori gwblhau ei waith ar fodel ariannu cynaliadwy ar gyfer y sector arbenigol. Dywedwyd wrthym fod hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn. Mae’r ymateb yn nodi yr adroddir ar gynnydd i Ysgrifennydd y Cabinet yn y grŵp ymgynghorol ym mis Gorffennaf, ond buasai’r pwyllgor yn awyddus i weld yr amserlen y galwyd amdani fel ein bod yn gwybod pryd y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn galw am ariannu digonol i ymdopi ag unrhyw alw cynyddol am wasanaethau. Roeddem yn croesawu’r cynnydd yn elfen refeniw y grant gwasanaethau cam-drin domestig, ond byddem yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag a fydd y cynnydd o £400,000 yn ateb y cynnydd tebygol yn y galw, o ystyried bod y cyllid yn sefydlog ar gyfer 2017-18.
Yn argymhelliad 8, roeddem yn galw am eglurder, fel mater o frys, ynghylch statws cyfreithiol y cynllun cyflawni sydd i ddod, pan gaiff ei gyhoeddi a sut yr ymgynghorir arno. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ond nid yw’n darparu llawer o wybodaeth yn ei gylch. Dywedir wrthym y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y bwrdd cynghori i ddatblygu’r cynllun yn ystyried y statws cyfreithiol. Dywedir wrthym hefyd y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn penderfynu ar y dyddiad cyhoeddi pan fyddant yn cyfarfod gyntaf ym mis Chwefror 2017—y mis hwn. Os nad yw’n gallu egluro’r statws cyfreithiol ac amlinellu pryd y bydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro pryd y bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.
Hoffwn symud ymlaen yn awr at ein canfyddiadau’n ymwneud ag addysg. Mae hwn wedi profi’n bwnc dadleuol. Nododd y Papur Gwyn y dylai addysg perthynas iach fod yn orfodol ym mhob ysgol, ond ni chafodd hyn ei gynnwys yn y Bil. Mae’r mater yn parhau i achosi pryder i randdeiliaid fel Barnardos, Cymorth i Fenywod Cymru, Heddlu Gwent a’r cynghorydd cenedlaethol, a oedd eisiau mwy o ymrwymiad ynglŷn â hyn. Rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydymdeimlo â’r safbwyntiau hyn, gan iddo ddweud wrthym ei fod yn cytuno bod ymyrraeth ac addysg gynnar yn allweddol i feithrin perthnasoedd iach, a’i fod yn awyddus i sicrhau cysondeb. Mae’r pwyllgor yn dal i deimlo’n gryf fod yn rhaid cael gofynion i ysgolion addysgu plant am berthnasoedd iach, neu ni fydd modd atal yr agweddau cymdeithasol gwreiddiedig a niweidiol ynglŷn â cham-drin a thrais rhywiol. Ceir cyfle gyda datblygiad y cwricwlwm newydd i gael hyn yn iawn. Mae’n hen bryd i hyn ddigwydd a byddai’n gam pwysig ymlaen. Byddai’n dda cael sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r mater hollbwysig hwn.
Mae argymhelliad 11 yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi rheoliadau penodol sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Ddeddf. Mae’n parhau i fod yn aneglur a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau adrodd erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017-18. Unwaith eto, bydd yn dda cael eglurder ar hyn heddiw.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am symud ymlaen at rôl y cynghorydd cenedlaethol. Mae hon yn rôl hollbwysig, ond clywsom fod ei heffeithiolrwydd yn cael ei llesteirio o bosibl gan adnoddau cyfyngedig. Swydd ran-amser yw hi gydag un aelod rhan-amser o staff i gynorthwyo. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu capasiti swydd y cynghorydd ac ystyried dyrannu adnoddau pellach. Mae eu hymateb yn datgan ei fod wedi cael ei drafod a’i ystyried, a’u bod wedi cytuno i’w gadw dan arolwg. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â natur y trafodaethau hyn a pha fath o adolygiad sy’n cael ei wneud. Rydym yn gwybod bod cyllidebau’n dynn, ond mae’n bosibl y gallai cynnydd bach mewn adnoddau effeithio’n sylweddol ar y modd y darperir gwasanaethau.
Mae ein hargymhelliad terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfeirio at y cynghorydd cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a’i chynllun gwaith blynyddol yn y cynllun cyflawni ac unrhyw strategaethau cenedlaethol neu leol yn y dyfodol. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y grŵp gorchwyl a gorffen yn gyfrifol am ddatblygu fframwaith cenedlaethol, ac y byddant yn rhoi gwybod iddynt am yr argymhelliad hwn. Carem ofyn i Lywodraeth Cymru gyflawni rôl fwy rhagweithiol yn hyn, ac i ddarparu cyfeiriad i’r grŵp gorchwyl a gorffen.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud yn glir fy mod yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae’r pwyllgor yn pryderu ei bod yn ymddangos bod diffyg brys ar ran Llywodraeth Cymru i roi’r camau angenrheidiol ar waith, fel yr amlinellwyd yn y Ddeddf ei hun. O ystyried pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon, mae’n rhaid cael gweithredu amserol ac effeithiol yn awr i gyd-fynd â’r ymrwymiad.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am osod allan pryderon y pwyllgor yn glir iawn. Byddwch wedi sylwi bod nifer fawr o bryderon wedi’u codi gan y pwyllgor. Rwyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb, a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i hynny: rwy’n mynd i edrych ar y cynllun cyflawni a rôl addysg.
Yn argymhelliad 8, fe alwodd ein pwyllgor am eglurder ynglŷn â statws cyfreithiol y cynllun cyflawni, ac am ddyddiadau ar gyfer cyhoeddi’r cynllun cyflawni. Mae hyn am ein bod yn benderfynol bod yn rhaid i’r cynllun cyflawni fod yn un y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, neu bydd ei werth, heb y grym hwnnw, yn lleihau yn sylweddol. Heb ddyddiad cyhoeddi, mae perig o greu anghysondeb wrth i strategaethau lleol gael eu datblygu ac wrth i wasanaethau lleol gael eu comisiynu. Wrth ymateb i’r pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, ond wedyn yn gwrth-ddweud ei hun mewn ffordd. Mae’n dweud y bydd statws cyfreithiol ac amserlen y cyhoeddi yn cael eu hystyried gan y grŵp tasg a gorffen a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf y mis yma. Nid yw hynny’n swnio fel mater sy’n cael sylw brys imi. Unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru lawer iawn yn rhy araf wrth gyflawni. Nid oes dim sôn am ein pryderon am amserlen, anghysonderau, nac a fydd modd gweithredu’r cynllun ar ôl i’r gwasanaethau gael eu comisiynu.
Rwyf hefyd yn bryderus am ddatblygiad addysg perthnasau iach yn ein hysgolion ni. Dyma fesur ataliol allweddol hanfodol er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc ni’n tyfu i fyny i fod yn hyderus am sut i ddelio â sefyllfaoedd o gamdriniaeth, ac i adnabod camdriniaeth yn y man cyntaf. Roedd y Papur Gwyn gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth yn cynnwys addysg fandadol ar berthnasoedd iach, ac mae yna dystiolaeth gadarn iawn dros wneud hyn fel rhan o’r cwricwlwm. Rwy’n derbyn efallai y bydd yn rhan o’r cwricwlwm i’r dyfodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi sôn, ond beth am rŵan, a beth am fis Medi nesaf? Rydym ni’n gwybod bod myfyrwyr ifanc iawn yn profi anghydraddoldeb ‘gender’ a stereoteipio yn yr ysgol, sy’n gallu amharu ar ansawdd eu haddysg a’u perthynas â’u cyd-fyfyrwyr. Mae cydnabod perthnasau sydd ddim yn iach yn hanfodol. Mae yna gryn ddadlau wedi bod yn y fan hon am hyn i gyd, ac yn y diwedd, gwnaeth y Llywodraeth gynnwys dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol, sef bod angen iddyn nhw adrodd ar sut y byddan nhw’n trin y broblem yn y byd addysg.
Ond, fe glywodd ein pwyllgor ni nad oedd yna unrhyw amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddyletswydd yma. Felly, fe wnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r rheoliadau yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar hybu pwrpas y Ddeddf. Ein hargymhelliad ni oedd bod yr awdurdodau lleol yn dechrau cyflwyno eu hadroddiadau a bod y Llywodraeth yn gofyn iddyn nhw wneud hynny ar gychwyn y flwyddyn academaidd 2017-18, sef Medi nesaf. Yn anffodus, mae’r ymateb yn hollol annigonol. Yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ddweud ydy efallai bod yna gyfle i gasglu data am yr hyn sy’n digwydd o ran perthnasoedd iach yn ein hysgolion, sydd yn bell o’r hyn yr oedd y pwyllgor yn ei argymell. Hynny yw, mewn rhai ysgolion penodol, efallai bod modd edrych ar beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y gwaith y mae Cymorth i Ferched a grwpiau eraill yn ei wneud yn yr ysgolion, ond cyfyng iawn fydd hynny—tameidiog, yn hytrach na’r cysondeb yr ydym ni ei angen.
Mae yna bwynt ehangach yn fan hyn. Mae adroddiad ein pwyllgor ni yn nodi problemau mawr efo cyflawni a chyflymder y cyflawni. Yn wir, arafwch ydy’r ansoddair sydd yn dod i’r meddwl yn fan hyn ynglŷn â’r cyflawni, ac eto mae angen symud ar frys cyn i bobl ddechrau gweld mai Deddf ydy hon mewn gwirionedd sydd heb rym y tu ôl iddi ar gyfer gweithredu er mwyn gweld y gwahaniaeth yr ydym ni angen ei weld.
Rwyf finnau hefyd yn falch o siarad yn y ddadl hon mewn perthynas â’r hyn y credaf ei fod wedi bod yn waith craffu manwl iawn ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Wrth gwrs, roeddwn yn bresennol y tymor diwethaf, ar yr un pwyllgor, pan oedd y Bil ar ei daith, a’r peth allweddol a welsom ers cymryd tystiolaeth, ac yn wir yn ystod y broses o graffu ar y Bil, oedd diffyg unffurfiaeth ar draws Cymru o ran y modd y caiff y Ddeddf ei rhoi ar waith bellach. Roedd asiantaethau casglu data yn cwyno am ddyblygu gwaith. Roedd asiantaethau a grwpiau trydydd sector yn sôn am ddata’n cael ei gasglu a bod pawb yn gyndyn i rannu’r data hwnnw, ac nid yw data o unrhyw ddefnydd oni bai ei fod yn cael ei rannu ac yna, wyddoch chi, yn rhyw fath o gael ei ddefnyddio i gyflawni’r canlyniadau yr ydym i gyd yn eu ceisio.
Cyhoeddwyd y canllaw arferion da—y canllaw—a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a baratowyd gan Cymorth i Fenywod Cymru, ym mis Hydref 2015 a chaiff ei ddisgrifio ar wefan Llywodraeth Cymru fel
‘adnodd hwylus i helpu i ymgorffori’r materion a’r ymagweddau hyn mewn arferion addysgu a rheoli presennol.’
Er nad yw’n ffurfio rhan o’r canllawiau statudol a wnaed o dan y Ddeddf, nododd Cymorth i Fenywod Cymru:
rydym eto i weld cynllun clir yn amlinellu sut a phryd y bydd ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn gweithredu’r canllawiau hyn, ac ni cheir llawer o dystiolaeth gyfredol fod hyn yn cael ei roi ar waith yn gyson ar draws ysgolion Cymru a lleoliadau addysgol eraill.
Yn ogystal â hynny, mynegwyd pryder arall fod y cynghorydd cenedlaethol wedi datgan mewn gwirionedd nad yw’n gwybod sut y mae’r canllaw’n cael ei ddefnyddio, sut y caiff ei ddosbarthu, neu hyd yn oed ei fonitro. Ac nid yw’n gwybod faint o ysgolion sy’n ei ddefnyddio hyd yn oed. Felly, wyddoch chi, mae rhywfaint o amwysedd ynglŷn â hynny. Nododd hefyd ei bod yn ansicr pa adnoddau a ystyriwyd yn lleol, yn rhanbarthol, neu’n genedlaethol i gynorthwyo a galluogi’r ysgolion i fwrw ymlaen â’r newid diwylliannol hwn. Dyma’r dyfyniadau; nid wyf yn dweud, wyddoch chi—.
Ymhellach, er fy mod yn deall mai’r dyddiad terfynol yw Mai 2018 roeddwn yn siomedig i nodi, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar, mai un awdurdod lleol yn unig hyd yn hyn sydd wedi cyhoeddi diweddariad o’u strategaeth, gyda’r nod o roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn unol â’r Ddeddf mewn gwirionedd.
Mewn perthynas â chasglu data, dywedodd y cynghorydd cenedlaethol ei bod yn ofni, heb gyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch y disgwyliad ar gyfer gweithredu a mecanweithiau ar gyfer casglu a monitro data, fod perygl gwirioneddol y bydd yr ymrwymiadau a wnaed gan y cyn-Weinidog yn methu cyflawni newid yn ein lleoliadau addysgol. Ar hyn, mae’r adroddiad yn nodi bod llawer o randdeiliaid yn pryderu mai rhan-amser yw swydd y cynghorydd cenedlaethol, a chynghorai rhanddeiliaid y buasai’r rôl yn fwy effeithiol pe bai’n swydd amser llawn a bod tîm o staff yn gweithio ar y cyd i sicrhau eu bod yn casglu data i lywio’r strategaeth ar sail barhaus, yn hytrach na dibynnu ar grwpiau ffocws.
Nawr, er fy mod yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i adolygu capasiti swydd y cynghorydd cenedlaethol, rwy’n siomedig na wnaethant sôn am gasglu data yn eu hymateb i’r adroddiad hwn, gan ei fod yn ffactor pwysig tu hwnt. Felly, hoffwn alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i geisio ymgymryd â monitro a chasglu data’n rheolaidd ac yn effeithiol, fel rhan o ymrwymiad yn y dyfodol i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau adrodd erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017-18. Nid yw unrhyw Ddeddf ond cystal â’r modd y caiff ei dehongli a’i rhoi ar waith. Ac rwy’n meddwl bod yna lawer mwy sydd angen ei wneud yn hynny o beth.
Hefyd, carem ofyn iddynt ystyried ymhellach y galwadau yn adroddiad y pwyllgor i ystyried dyrannu adnoddau ychwanegol ar gyfer ymchwil ac i gefnogi datblygiad strategaethau lleol. Carwn ofyn iddynt hefyd—o, sori. Yn olaf, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pa sancsiynau sydd ar gael i Weinidogion Cymru os na chaiff gofynion y Ddeddf eu cyflawni gan awdurdodau cyhoeddus. Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod yr argymhelliad hwn wedi cael ei dderbyn, roeddwn yn gobeithio y byddai hyn yn arwain at rywfaint o eglurder ar y mater hwn i’n hawdurdodau lleol, ein byrddau iechyd, ond nid yw ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro beth sy’n creu rheswm da dros beidio â dilyn y rheswm. A buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hyn ymhellach. Diolch i’r pwyllgor am y gwaith, a diolch i’r holl dystion am gyflwyno tystiolaeth. Diolch.
Rwyf finnau hefyd yn croesawu’r adroddiad, ac rwy’n croesawu’r ymateb gan Lywodraeth Cymru. Mae’n sicr yn dangos eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Rwy’n mynd i ganolbwyntio’n unig ar argymhelliad 6, ac mae’n ymwneud â chyllid i gynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg a elwir fel arall yn MARAC.
Yn aml mae cynghorwyr annibynnol ar drais domestig yn cynnig rhaff achub i ddioddefwyr a’u plant drwy helpu i sicrhau diogelwch y rhai sy’n wynebu risg uchel o niwed neu gael eu lladd gan bartneriaid, cyn-bartneriaid, neu aelodau o’r teulu. Ac mae’r gefnogaeth y maent yn ei chynnig yn amhrisiadwy, fel y byddwch i gyd yn cytuno, rwy’n siŵr. Mae Refuge, a llawer o sefydliadau eraill, wedi dweud ei fod wedi’i ddangos bod gwaith gyda hwy yn lleihau’r risg sy’n wynebu dioddefwyr cam-drin domestig yn sylweddol. Rydym i gyd yn gwybod y bydd menyw, ar gyfartaledd, wedi dioddef 35 o ymosodiadau cyn iddi alw’r heddlu am y tro cyntaf. Ac fe atgoffaf y Cynulliad, ym mis Ionawr eleni, fod o leiaf 11 o ferched o’r DU wedi cael eu lladd gan ddynion, neu mai dyn yw’r sawl a ddrwgdybir yn bennaf, yn ôl Counting Dead Women. Un ar ddeg o fenywod mewn mis yn unig—dyna un ym mhob 2.8 diwrnod, neu un mewn llai na thri diwrnod. Ac mae hynny, rwy’n meddwl, yn ein hatgoffa pam—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Mewn eiliad—pam y mae’n rhaid i gymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig fod yn flaenoriaeth.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Roeddech ar yr un pwyllgor pan oedd y Bil yn cael ei gyflwyno, ac yn awr mae gennym Ddeddf. Pam nad yw’r neges honno’n cael ei chyfleu, a sut y gall Llywodraeth Cymru, a ninnau fel Aelodau’r Cynulliad, weithio’n well i sicrhau y gallwn ddod â’r niferoedd hynny i lawr?
Mae hwnnw wedi bod yn uchelgais oes i mi, Janet, ac rwy’n meddwl y gall pawb ym mhob man ymuno yn hynny. A dyna beth rydym yn ei wneud. Ond, beth bynnag, i fynd yn ôl at yr adroddiad, yng Nghymru, mae canran y cynghorwyr annibynnol ar drais domestig sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr sy’n wynebu risg uchel o gam-drin yn 73 y cant, ac er bod hyn yn cymharu’n dda â nifer o ardaloedd yn Lloegr, fel Canolbarth Lloegr, sydd â chanran wael iawn o 40 y cant, mae’n amlwg fod lle i wella. Fel y mae ymateb y Llywodraeth i’r argymhelliad yn nodi, rwy’n deall bod cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn aml yn cael eu hariannu ar y cyd gan nifer o asiantaethau a sefydliadau, a bod y cyllid hwnnw mewn gwirionedd yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall a rhwng rhanbarthau gwahanol hefyd. Yn 2014, gwn fod Heddlu Dyfed-Powys wedi gorfod gwneud gwelliannau sylweddol yn y maes penodol hwn, yn dilyn argymhelliad gan Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, a’u bod wedi gwneud hynny.
Felly, fy nghwestiwn yn hyn oll yw: gan fod cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn chwarae rhan hollbwysig yn achub bywydau, ac ond yn ymyrryd ar lefel risg ganolig i risg uchel, pa sgyrsiau a thrafodaethau, Ysgrifennydd y Cabinet, a gawsoch gyda’r Swyddfa Gartref, o ran cynnal eu cyllid a’u hymrwymiad i achub y bywydau hynny, a hefyd gyda’r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, sy’n gosod eu cynlluniau, ac i wneud yn siŵr, o fewn eu cynlluniau, fod yna ymrwymiad clir i gynnal capasiti cynghorwyr annibynnol ar drais domestig a chynadleddau amlasiantaeth asesu risg yn eu priod ardaloedd?
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno’r ddadl heddiw. Roedd hon yn Ddeddf lawn bwriadau da. Fodd bynnag, mae’r gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol wedi amlygu problemau difrifol gyda’i gweithredu, fel y clywsom y prynhawn yma. Un o’r problemau yw mai cynghorau lleol, i raddau helaeth, sy’n gorfod gweithredu’r Ddeddf, ond daw’n dynn ar sodlau Deddfau eraill y mae’n rhaid iddynt eu gweithredu hefyd, megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Un broblem fawr a gododd yn ystod y broses graffu ôl-ddeddfwriaethol oedd bod cynghorau’n aml yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i staff i ddyrannu’r tasgau ychwanegol hyn iddynt, ac maent hefyd yn cael trafferth i ddod o hyd i adnoddau ariannol digonol. Felly, mae’n achosi problemau.
Yn ystod y broses graffu, clywsom gan rai swyddogion cyngor galluog iawn a oedd yn bendant yn angerddol ynglŷn â lleihau trais yn erbyn menywod, ond dywedodd y rhain wrthym fod eu cynghorau’n cael trafferth o ran amser, lefelau staffio, ac arian, felly bydd gweithredu’r Ddeddf hon yn effeithiol yn parhau i fod yn dasg enfawr. Rwy’n croesawu awydd y pwyllgor i gyflwyno addysg perthynas iach mewn ysgolion, ond unwaith eto, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn ag amser a chost ar gwricwla sydd eisoes dan bwysau o ran amser. Hefyd, dylem gofio’r pwynt a wnaed yn y Siambr yn ddiweddar, sef y gall trais domestig effeithio ar ddynion fel dioddefwyr yn ogystal â menywod, er bod hynny’n digwydd mewn niferoedd llai, ac rwy’n meddwl y gallai’r agwedd hon hefyd ffurfio rhan ddefnyddiol o wersi perthynas iach yn yr ysgol.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd pobl eraill ac efallai fy mod am wyro ychydig oddi wrth yr hyn y mae rhai o’r bobl eraill wedi’i ddweud. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 4 wedi’i dderbyn, argymhelliad sy’n ymwneud â chysoni pecynnau hyfforddi, am ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn gorlwytho gweision cyhoeddus â gormod o wahanol gyfarwyddiadau. Ac felly mae’n bwysig iawn i’r asesiadau anghenion a’r fframweithiau canlyniadau gael eu hymgorffori gyda’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn ogystal â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, rwy’n credu y bydd hynny’n sicrhau ymarferwyr fod yr elfen hyfforddiant yn mynd i gael ei chyflwyno’n gydlynol, a bod canllawiau’n mynd i fod ar gael hefyd ar ddatblygu strategaethau lleol ar y cyd, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn eu gwneud mewn camau hawdd eu cyflawni. Ond y peth pwysicaf sy’n rhaid inni ei gymryd o hyn yw ei bod yn hollbwysig fod unrhyw un sydd wedi gorfod ymdrin â phobl sy’n dioddef trais domestig, trais rhywiol, i gyd yn gweithredu fel un a’u bod oll yn deall eu swyddogaeth benodol naill ai i’w atal neu’n sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Rwyf am i weddill fy nghyfraniad ganolbwyntio ar yr argymhellion 9 a 10 mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Rwy’n deall pam mai’n rhannol yn unig y derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 9 ar addysg orfodol, gan fy mod yn deall yn iawn nad oes pwynt gwneud rhywbeth yn orfodol os nad oes gennych y gallu i’w fonitro. Nodaf y cytundeb i beidio â rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ysgolion i gael gwybodaeth ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn gofyn iddynt ei wneud. Felly, rwy’n meddwl fy mod yn cael fy nghalonogi gan argymhelliad 10, sef sicrhau bod yr ysgolion arloesi yn ymgorffori’r canllawiau arferion gorau yn y ffordd yr ydym yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd a bod Estyn yn mynd i arolygu ysgolion ar sail beth bynnag sydd yn y cwricwlwm newydd hwn. Mae hynny’n gwbl hanfodol i mi. Felly, nid wyf yn credu mai gwrthod argymhelliad 9 yw hyn ond yn hytrach, ei ohirio yn unol â chyflymder y teithio.
Mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod, mae’n gwbl hanfodol fod ysgolion yn deall y risgiau posibl y gallai eu merched fod yn eu hwynebu, gan ei bod yn debygol mai’r ysgolion yn unig, neu’r gwasanaethau ieuenctid efallai, gwasanaethau ôl-ysgol, sy’n mynd i allu nodi pan fydd ferch mewn perygl, oherwydd, yn anffodus, mae hwn yn arfer sy’n cael ei gyflawni’n bennaf gan aelodau o deuluoedd y merched. Felly, mae’n rhaid bod yna bobl eraill sydd ar gael i ddiogelu’r plentyn.
Mae’r data yn anodd ei ganfod, ond rwy’n meddwl ein bod yn gwybod bod mwy na 2,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gydag organau cenhedlu wedi’u tynnu’n gyfan gwbl neu’n rhannol, yn ôl Dr Mwenya Chimba, sy’n cyd-gadeirio fforwm anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru, ac mae tua 1,200 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd. Serch hynny, os credwch nad yw hon yn broblem arbennig yn eich etholaeth, fe’ch cyfeiriaf at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd mae yna 30 miliwn o ferched mewn perygl cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed ar draws y byd, felly mae gennym i gyd ein rhan i’w chwarae yn cael gwared ar yr arfer erchyll hwn.
Ond i fynd yn ôl at ferched ac ysgolion a’r rôl sydd gan ysgolion i’w chwarae yn y wlad hon, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ysgolion ddarllen yr arwyddion pan fydd merch yn debygol o fod mewn perygl fel y gallant roi’r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau y bydd y llys yn diogelu’r plentyn cyn iddi fynd yn rhy hwyr, gan nad oes modd gwrthdroi anffurfiad organau cenhedlu benywod—mae’n ddigwyddiad sy’n para am oes ac yn creithio’n ddwfn.
Yn ffodus, mae’r llysoedd yn barod i weithredu ar hyn, a bellach ceir camau llawer mwy effeithiol i atal merched rhag mynd dramor. Ond yn anffodus, mae hyn wedi arwain at adfywiad newydd yn y lefelau o anffurfio organau cenhedlu benywod sy’n digwydd yn y wlad hon. Cawsom wared arno o Stryd Harley, ond arswydais wrth glywed gan Aelod Cynulliad Llundain, Jenette Arnold, a oedd yma ar Ddiwrnod Brwydro yn erbyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ar 6 Chwefror, fod hyn yn digwydd ym maestrefi Llundain gan ddefnyddio bydwragedd wedi ymddeol neu rai sy’n dal i weithio fel bydwragedd. Dyma bobl sydd wedi cael eu hyfforddi yn y GIG. Felly, mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn deall y llw Hipocratig a bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy’n rhaid i ni i gyd frwydro yn ei erbyn.
Mae gwir angen i ni sicrhau bod merched yn cael lle i allu datgelu’r posibilrwydd o’r risg honno, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid inni gael hyfforddiant ysgol gyfan ar hyn i sicrhau nad ydym ond yn targedu un grwp ethnig neu’r llall. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn ddigwyddiad ysgol gyfan ac rwyf am sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori’n llawn yn Donaldson gan mai dyna’r unig ffordd y gallwn frwydro yn erbyn yr arfer hwn ymhlith merched—yn ogystal, yn amlwg, â gwaith pwysig y mae angen inni ei wneud yn y cymunedau yr effeithir arnynt.
Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths, am gadeirio ein pwyllgor yn fedrus. Mae fy amser byr yno wedi bod yn ddiddorol. Roedd ein hymchwiliad byr yn yr hydref y llynedd yn waith pwysig i adolygu cynnydd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol a blaengar. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ran yn gyrru’r gwaith yn ei flaen a’i benderfyniad i wneud iddo lwyddo.
Fel y dywed adroddiad ein pwyllgor, mae’r Ddeddf hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel deddfwriaeth arloesol. Mae modd gweld gwerth pwyllgorau craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ein hymchwiliad byr ond pwysig. Er mwyn ei chynorthwyo i weithredu’n well a helpu Llywodraeth Cymru i wella ei hymwneud â’r strategaethau cenedlaethol a lleol, y cynlluniau cyflawni a’r ddarpariaeth addysgol, gallwn weithredu fel ffrind beirniadol sy’n gallu cynnig cyngor ac argymhellion. Mae’n dyst i’r gwaith hwn na chafodd yr un o’r 15 o argymhellion eu gwrthod. Cafodd 12 o’r argymhellion eu derbyn yn llawn, a derbyniwyd tri o’r argymhellion yn rhannol. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol ers dros ddegawd, rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 1 wedi cael ei dderbyn.
Clywsom dystiolaeth gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam, ymhlith eraill, a fynegodd eu hawydd am ragor o gyfathrebu ystyrlon a chyfeiriad clir gan Lywodraeth Cymru. Caf fy nghalonogi wrth weld Llywodraeth Cymru’n datgan y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017. Bydd hyn yn sicrhau bod adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei chyflawni yn ôl y gofyn.
Pan fyddwn yn pasio deddfau yn y lle hwn, rydym yn eu pasio er mwyn gwneud gwahaniaeth buddiol i fywydau pobl Cymru. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n hanfodol fod synergedd rhwng llywodraeth leol ac asiantaethau perthnasol a Llywodraeth Cymru, heb golli dim yn yr ymwneud rhyngddynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y credwch y gallwn helpu’r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau gwell canlyniadau?
Roedd argymhelliad 10 ein pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol, fel y crybwyllwyd gan eraill heddiw, yn defnyddio’r canllaw arferion da a ddatblygwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru ac yn rhoi trefniadau monitro ar waith ar effeithiolrwydd y canllaw hwn. Fel aelodau o’r pwyllgor, cawsom dystiolaeth helaeth a chydsyniol i raddau helaeth ynglŷn â phwysigrwydd, unwaith eto, addysgu plant a phobl ifanc, fel y dywedodd Jenny Rathbone a Joyce Watson, am berthynas iach. Ein cred oedd bod addysg orfodol yn allweddol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn ac yn datgan y bydd yn mynd i’r afael â’r mater wrth symud ymlaen drwy gyfrwng adolygiad thematig Estyn o’r ddarpariaeth bresennol ar berthynas iach sy’n digwydd yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17, a bydd hyn yn cwmpasu detholiad o ysgolion.
Roeddwn yn ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau a ddaeth i’r Senedd, fel y mae eraill wedi dweud, i roi tystiolaeth ar y mater hollbwysig hwn. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein bwriadau da, yn drawsbleidiol, yn cael eu hymgorffori’n rhan o realiti bywyd Cymru. Cyflwynodd Heddlu Gwent, yr heddlu yn fy etholaeth, dystiolaeth ysgrifenedig a oedd yn datgan mai nifer cyfyngedig iawn o staff sydd wedi cael unrhyw hyfforddiant drwy’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol, ac er fy mod yn sicr y bydd hyn yn cael sylw mewn modd amserol, mae’n taro nodyn o rybudd go iawn i bawb ohonom nad yw pasio deddfau yn golygu bod y gwaith ar ben. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod effaith drawsnewidiol deddfwriaeth yn cael ei theimlo yn ein cymunedau yng Nghymru ac ar draws ein hysgolion, ein sefydliadau addysg bellach a’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Nid y llyfr statud yw diwedd y daith o greu cyfraith effeithiol. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, am gyflwyno’r adroddiad hwn, ac i’r pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar ei gyflawni? Fel y dywedodd Rhianon Passmore, rwy’n meddwl y dylem atgoffa ein hunain ar y cychwyn, mae’n debyg, fod y Ddeddf hon yn ddeddfwriaeth arloesol sy’n symud i dir newydd lle nad oes unrhyw ddeddfwrfa arall yn y DU wedi bod. Felly roedd hi bob amser yn debygol y byddai profiadau cynnar yn amlygu lle y gellid gwneud gwelliannau, ac mae’r adroddiad hwn, rwy’n meddwl, yn cynnig argymhellion i alluogi’r Llywodraeth i wneud hynny.
Er bod eraill hefyd wedi cyffwrdd ar yr argymhellion addysg, dyna’r maes yr wyf am ganolbwyntio arno. Hoffwn siarad yn benodol hefyd am gam-drin a gyflawnir drwy ymddygiad gorthrechol, sy’n aml yn cael llai o sylw na cham-drin corfforol, er nad yw’n llai niweidiol. Mae’n digwydd yn ddieithriad dros gyfnod estynedig o amser ac yn cynnwys patrwm ymddygiad parhaus lle y bydd un partner yn gyfyngol ac yn creu ymdeimlad bron yn barhaol o ofn. Dywedir wrth y sawl sy’n dioddef beth y caiff ei wneud, pwy y caiff eu gweld, faint y caiff ei wario, beth y dylai ei fwyta a sut y dylai wisgo. Yn wir, bydd y sawl sy’n cam-drin yn rheoli pob agwedd ar fywyd y dioddefwr, gan ladd eu hyder, gwneud iddynt deimlo’n ddiwerth a gwneud iddynt gredu na allent weithredu heb i’r sawl sy’n cam-drin reoli eu bywyd.
Weithiau, efallai na fydd yr effaith ar ddioddefwyr yn amlwg ar unwaith, yn enwedig gan nad oes unrhyw greithiau corfforol, ond heb os, dros gyfnod o amser, bydd yr effaith ar ddioddefwyr mor ddinistriol ag unrhyw fath arall ar gam-drin.
Felly, mae’n bwysig fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ar y cyfle cyntaf ynglŷn â materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol ac ymddygiad gorthrechol. Felly, rwy’n falch fod adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnwys nifer o argymhellion yn ymwneud ag addysg a bod gwefan Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar rôl ein system addysg yn addysgu pobl ifanc am berthynas iach, rhywbeth y cyfeiriodd nifer o’r Aelodau ato heddiw.
Felly, rwy’n sylwi’n arbennig ar ymateb Llywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad 9 yn yr adroddiad yn rhannol, argymhelliad sy’n galw am ymrwymiad i gynnwys addysgu am berthynas iach yn y cwricwlwm newydd. Efallai fod y derbyniad yn rhannol oherwydd bod cynllun y cwricwlwm yn dal i gael ei ddatblygu, i fod ar gael o 2018 ymlaen. Ond o’m rhan i, buaswn yn cefnogi’n gryf yr argymhelliad hwn. Yn wir, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno gwobrau’n ddiweddar i bobl ifanc o ysgolion Merthyr Tudful a sefydliadau ieuenctid a oedd yn gweithio ar brosiectau’n ymwneud â pherthynas iach. Heddiw, fe ddysgais, o ymweliad gan ysgol Pen y Dre ym Merthyr—daethant i’r Cynulliad y bore yma—eu bod yn mynd i barhau i gyflwyno hyn. Ni ddylid tanbrisio’r rôl hanfodol y mae addysg o’r fath i godi ymwybyddiaeth yn ei chwarae yn atal cam-drin yn y dyfodol.
Mae’n ymddangos unwaith eto mai’n rhannol yn unig y derbyniwyd argymhelliad 11 ar gyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn gweithredu’r Ddeddf, yng nghyd-destun yr adolygiad o’r cwricwlwm. Buaswn yn gobeithio, fodd bynnag, y bydd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynnwys addysg perthynas iach yn y cwricwlwm newydd yn creu cydnabyddiaeth yn ei sgil o’r angen i fonitro darpariaeth ac effeithiolrwydd addysg o’r fath.
A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 13, sy’n ymestyn addysg perthynas iach ein pobl ifanc i’r rhai sy’n astudio mewn addysg uwch ac addysg bellach? I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy’n meddwl y dylem fod yn haeddiannol falch o’r ddeddfwriaeth arloesol hon sydd gennym yma yng Nghymru a chydnabod pwysigrwydd addysgu ein pobl ifanc am bob math o gam-drin, gan gynnwys rhai nad ydynt bob amser yn cael eu hadnabod fel ffurfiau ar gam-drin. Gallai mynd i’r afael â hyn gyda phobl ifanc ar oedran cynnar fod yn ateb hirdymor i ymdrin â phatrymau ymddygiad sy’n arwain at gam-drin treisgar a gorthrechol ym mherthynas pobl â’i gilydd.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am roi’r cyfle i mi siarad yn y ddadl hon ar bwnc sydd mor bwysig i mi.
Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor hwn, ond hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am edrych ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n Ddeddf bwysig, gan fy mod o’r farn, fel y mae cymaint o bobl wedi dweud, ei bod yn ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd ac roeddwn yn ei chroesawu’n fawr iawn, fel y gwnaeth y Cynulliad cyfan, ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud cyfiawnder go iawn â hi o ran ei gweithrediad yma yng Nghymru, oherwydd mae’n amlwg mai’r allwedd yn awr yw sut yr ydym yn ei gweithredu.
Hefyd, hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am wneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol hwn yn weddol gynnar fel y gallwn weld yn awr ble y mae’r gwendidau a ble y mae angen i ni wneud newidiadau. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am wneud hynny, oherwydd gwn fod pobl wedi mynegi peth pryder ynghylch cyflymder a chysondeb gweithredu. Credaf fod yna rai gwelliannau ymarferol sydd angen eu gwneud o hyd.
Rwyf fi, fel llawer o bobl eraill, yn awyddus i sôn yn arbennig am argymhelliad 9 o adroddiad y pwyllgor ynglŷn ag addysgu am berthynas iach yn ein hysgolion. Dyna oedd yr un maes na chafodd ei gwblhau mewn gwirionedd yn y Ddeddf a gadawyd i’r adolygiad ac i adolygiad Donaldson ystyried hyn a gweld sut y byddai’n cael ei roi ar waith. Rwy’n meddwl bod rhywfaint o ddryswch ym meddyliau pobl ynglŷn â beth yn union sy’n digwydd o ran sut y caiff hyn ei ddatblygu mewn ysgolion. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe bai’r Gweinidog yn gallu egluro hyn wrth ymateb.
Cytunaf yn llwyr â’r rhan fwyaf o’r bobl eraill sydd wedi siarad ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau tuag at berthynas iach yn gynnar yn addysg plentyn, am ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi gwybodaeth a chyngor cadarnhaol yn y maes hwn i bobl ifanc. Oherwydd os na wnawn hynny, ymhle y maent yn mynd i weld modelau rôl? Pwy sy’n mynd i lywio eu barn? Rwy’n credu ein bod yn gwybod faint o wybodaeth sydd ar gael am ddim ar y rhyngrwyd ac ar gyfryngau cymdeithasol sy’n wybodaeth negyddol a gall arwain at agweddau negyddol a ffurfio agweddau afiach. Yn benodol, rwy’n meddwl bod syniadau am berthynas a chydsyniad yn rhywbeth sy’n wirioneddol bwysig—fod hynny’n cael ei drafod yn yr ysgol. A gorau po gyntaf y ceisiwn ddarparu hyn ar berthynas iach. Rwy’n gwybod ei fod yn digwydd, ond mae’n digwydd mewn ffordd ddarniog iawn, ac nid wyf yn deall a yw’n orfodol iddo ddigwydd mewn gwirionedd ai peidio, ac rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylai fod yn orfodol—ei bod yn gwbl hanfodol fod gennym hyn yn elfen orfodol yng nghwricwlwm yr ysgol.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’n cael ei gynnwys ar hyn o bryd yng nghyfnod allweddol 2 fel rhan o addysg bersonol a chymdeithasol, sy’n cynnwys gwersi am berthynas iach a thrais domestig, ond nid oes yn rhaid i ysgolion gyflwyno’r rhaglen gyfan, er yr ystyrir bod gwneud hynny’n arfer da. Yna, ymdrinnir ag addysg rhyw a pherthynas yn fwy manwl mewn gwersi gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3, ac mae llawer o arbenigwyr yn dweud bod hyn yn rhy hwyr mewn gwirionedd ac yn canolbwyntio gormod ar agweddau biolegol. Oherwydd rydym yn awyddus i edrych ar agweddau cyffredinol—yr agweddau sydd gan ddynion ifanc tuag at fenywod ifanc, a cheisio annog perthynas iach. Gwn fod adolygiad Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus’, wedi argymell bod iechyd a llesiant yn un o’r chwe maes dysgu, ac mae hyn yn cynnwys addysg rhyw a chydberthynas. Ac unwaith eto, rwy’n meddwl bod addysg rhyw a chydberthynas yn allweddol i atal trais yn erbyn menywod. Rwy’n meddwl ein bod wedi siarad llawer amdano’n digwydd mor gynnar â phosibl; mae’n rhaid i ni fynd i mewn er mwyn i ni gael gwared ar y stereoteipiau sy’n codi, ac rydym yn gwybod beth fydd yn digwydd gyda rhai agweddau mewn ysgolion. Hefyd, pan fyddwn yn cael addysg rhyw a chydberthynas o ansawdd da sy’n addas i’r oedran mewn ysgolion ledled Cymru, hoffwn wneud y pwynt fod yn rhaid iddo fod yn gynhwysol o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol.
Gwn fod plant eu hunain yn galw am help i lywio’r dyfroedd tymhestlog hyn. Cefais gyfarfod gyda fforwm ieuenctid yng Nghaerdydd, ac ar frig eu rhestr, roedd perthynas iach. Dyna roeddent am ei gael mewn ysgolion. Ac rwyf wedi gwneud peth gwaith yn ddiweddar gyda’r ymgyrchydd dros hawliau merched, Nikki Giant, y soniais amdani yn y Siambr o’r blaen o ran y gwaith a wnaeth ar arolwg merched yn eu harddegau mewn perthynas â delwedd y corff, bwlio rhywiol ac aflonyddu. Yn ei maniffesto dros hawliau merched, mae’n dweud bod un o bob tair merch a menyw ifanc yn debygol o fod yn ddioddefwr trais a cham-drin domestig ac mae’n galw am recriwtio, hyfforddi a phenodi eiriolwyr perthynas iach ifanc mewn ysgolion ledled Cymru, yn unol â’r Ddeddf. Felly, i gloi, rwy’n meddwl bod y Ddeddf yn gam mawr ymlaen, ac rwy’n meddwl ein bod i gyd yn falch iawn ohoni, ond rwy’n meddwl mai’r peth allweddol a fydd yn mynd â hi ymhellach ac yn dechrau helpu i ffurfio agweddau pobl ifanc ar oedran cynnar yw sicrhau ein bod yn cael yr addysg honno yn yr ysgolion a’n bod yn ei gwneud yn orfodol.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Hoffwn ddiolch i John Griffiths a’r pwyllgor, a’r ystod eang o randdeiliaid a goroeswyr a roddodd dystiolaeth ac a chwaraeodd ran hanfodol yn y broses o lunio’r adroddiad. Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd i’r Cynulliad hwn, gan eu bod wedi bod yn gefnogol iawn i gyflwyno’r Ddeddf hon ac yn wir, mae yna lawer o’r Aelodau yn y Cynulliad hwn wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o’i datblygu.
Lywydd, rwy’n derbyn pob un o’r 16 o argymhellion, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Mae’r adroddiad yn cydnabod yr heriau a wynebir wrth weithredu’r ddeddfwriaeth newydd hon, ond hefyd y cynnydd a wnaed hyd yma. A gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad llawer o’r Aelodau sy’n gywir i godi’r materion ynglŷn â pha mor gyflym y caiff ei chyflwyno. Rwyf finnau hefyd yn rhwystredig gyda’r broses honno, ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol i fy nhîm ac wedi edrych ar y modd y caiff ei gweithredu a sut y ceisiwn gyflawni’r strategaethau a’r canllawiau hyn, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Siambr cyn gynted ag y bydd gennyf fwy o fanylion i’w rhannu gyda chi.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu pwynt mewn amser, 18 mis wedi i’r Ddeddf ddod i rym, a bydd yn helpu i lywio ei gweithrediad pellach a chyflwyno’r fframwaith cyflawni. Ers i’r Ddeddf gael ei phasio, rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol cyntaf, wedi cyhoeddi’r fframwaith hyfforddi cenedlaethol ac wedi treialu ‘gofyn a gweithredu’. Rwyf wedi gwrando ar sylwadau’r Aelodau mewn perthynas â’r cyngor gan y cynghorydd cenedlaethol o ran ei llwyth gwaith, ac rwyf wedi cyflwyno secondai yn yr adran i helpu gyda’r cynghorydd cenedlaethol a hefyd i ailstrwythuro’r adran.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion a cholegau, wedi ymgynghori gyda goroeswyr, wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Ydych chi’n gwrando ac ydw i’n cael fy nghlywed?’, a hefyd wedi cyhoeddi strategaeth genedlaethol o dan y Ddeddf i adnewyddu grŵp cynghori’r gweinidog. Bwriadaf i grŵp cynghori’r Gweinidog fod yn elfen gefnogol iawn yn y wybodaeth sydd ei hangen arnaf. Mae arbenigwyr yn un peth, ac maent yn wych ac mae angen arbenigwyr arnom, ond rwyf hefyd angen profiad: pobl sydd wedi cael profiad o’r system y maent yn mynd drwyddi. Mae goroeswyr trais domestig yn hanfodol i sicrhau fy mod yn gwneud y penderfyniadau cywir a’n bod yn gallu gweithredu’r Ddeddf. Rwyf wedi dweud wrth fy nhîm fy mod yn disgwyl i hynny gael ei adlewyrchu yn y panel ymgynghorol.
O ran rhai o’r cwestiynau a ofynnodd yr Aelodau i mi heddiw: ar y strategaethau lleol, bydd y canllawiau’n cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gynorthwyo gyda’u strategaethau lleol ym mis Gorffennaf eleni. O ran canllawiau comisiynu, bydd y canllawiau comisiynu y bwriadwn eu cyhoeddi o dan y Ddeddf yn ceisio sicrhau nad oes gwahaniaeth ble y mae dioddefwr yn byw, fod gwasanaethau cadarn ac arbenigol yn barod yno i helpu, ac rydym yn bwriadu ymgynghori ar ganllawiau comisiynu statudol erbyn mis Gorffennaf 2017 hefyd. Rwy’n gobeithio y bydd hynny o ddefnydd i’r Cadeirydd wrth iddo gloi’r ddadl.
Cafwyd llawer o sylwadau mewn perthynas â materion penodol. Rwy’n meddwl bod Gareth wedi cyfeirio at y ddarpariaeth a’r wybodaeth a ddaeth i law’r pwyllgor ynglŷn â’r ffaith nad oedd staff ar waith weithiau, na chyllid nac unrhyw ddulliau i wneud hynny. Ni fyddaf yn derbyn y broses honno. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod hyn yn digwydd a byddaf yn gadarn iawn gyda sefydliadau sy’n dweud wrthych fod hynny’n wir, heb ddweud wrthyf fi. Byddaf yn sicrhau bod fy nghynghorydd yn mynd ar drywydd y gwaith hwnnw.
Mae’r gwaith gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a Llywodraeth y DU yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n agos iawn arno. Joyce Watson, unwaith eto, un sy’n hyrwyddo’r achos hwn—. Rwy’n falch fod y comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid ledled Cymru gyfan wedi gwneud mynd i’r afael â’r mater hwn yn un o’u blaenoriaethau allweddol yn eu cynllun gwaith. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n ddiolchgar amdano. Rydym yn aml yn cael cwerylon gwleidyddol rhwng gwahanol bleidiau a gwahanol Lywodraethau.
A gaf fi ddweud fy mod yn llwyr gefnogi Liz Truss wrth iddi gynnal adolygiad brys o’r ffordd y mae cyflawnwyr cam-drin domestig yn croesholi eu dioddefwyr yn uniongyrchol yn y llysoedd teulu? Rwyf wedi ysgrifennu at Liz Truss i ddweud hynny wrthi ac rwy’n gobeithio ac yn dymuno’n dda iddi yn y broses honno hefyd.
Dywedais yn gynharach y bydd y grŵp cynghori yn rhoi cyngor i mi ar y canllawiau comisiynu a chyllid cynaliadwy. Mae’r rhain yn rhannau hanfodol o’r broses. Am ormod o lawer o flynyddoedd, mae nid yn unig y gwasanaethau trais domestig, ond mudiadau trydydd sector yn aml hefyd wedi bod yn pryderu am y ffordd y caiff cyllid ei roi yn flynyddol. Mae’n rhaid i ni ddod i delerau â pha wasanaethau sy’n ofynnol, pwy sy’n eu darparu’n dda a sut rydym yn mynd i’w hariannu? Rwyf wedi gofyn am gyngor pellach ar ddwy elfen y grŵp gorchwyl—. Pan fyddaf wedi dod i gasgliad ar hynny byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor eto yn rhoi gwybod iddynt am hynny.
Mae un o’r negeseuon cryf a ddaeth o’r adroddiad pwyllgor hwn ac yn wir, o’r ddadl heddiw, yn ymwneud ag addysg ac ymyrraeth gynnar ac atal. Mae ein holl ethos sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mynd i’r afael ag ymyrraeth yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth hon yn frwd iawn yn ei gylch. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda’r Ysgrifennydd addysg a chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet ac rydym yn edrych yn ofalus iawn ar beth yw’r anghenion addysg. Rwyf bob amser wedi dweud fy mod yn meddwl ei bod hi’n iawn y dylem gael gweithgarwch ar berthynas iach yn seiliedig ar y cwricwlwm. Rwy’n ceisio sicrhau bod fy nghyd-Aelodau yn gallu gwneud hynny, ond buaswn yn argymell gofal os ydym yn disgwyl i’r system addysg ddarparu popeth. A dweud y gwir, mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom yn ein bywyd teuluol gartref, wrth fagu plant ac mewn ysgolion—gall pob un ohonom chwarae rhan, ond dim ond rhan. Rwy’n gobeithio y bydd ein sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn parhau i fod yn ffrwythlon.
A gaf fi gyfeirio at bwynt Dawn Bowden? Roedd hi’n iawn i roi sylw i’r modd y mae pobl yn cael eu heffeithio gan drais domestig neu holl bwynt hyn. Ceir dwy elfen i hyn: ymdrin â’r sawl sy’n dioddef trais domestig, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, boed yn aelod o’r teulu neu fel arall—. Ond dylem gofio hefyd am y sawl sy’n ei gyflawni, ac mae honno’n rhan bwysig iawn o hyn. Mae dod o hyd i gyllid i sicrhau cydbwysedd rhwng perthynas dioddefwyr a chanolbwyntio ar gyflawnwyr, lle y bydd y sawl sy’n cyflawni yn symud o un dioddefwr i’r llall, ac rydym yn gwybod bod—. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn torri’r cylch hwnnw, a dyna pam y mae’n rhaid i ni feddwl beth yw anghenion y dioddefwyr, ond hefyd beth yw anghenion y sawl sy’n cyflawni’r trais, oherwydd mae’n rhaid i ni dorri’r cylch hwnnw. Gwyddom fod rhai cyflawnwyr wedi dioddef cam-drin domestig neu drafferthion teuluol yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn ogystal, a dyna pam y mae’r ffocws ar y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—mae trais domestig yn un o’r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—rhaid i ni fynd o dan groen hynny, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu torri’r cylch yn y tymor hwy. Mae gwytnwch unigolion yn wahanol; mae pawb yn wahanol. Gallai rhai pobl ymdopi â hynny, ond ni all eraill, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i mewn i’r gofod hwnnw ac yn eu cefnogi yn yr ymchwil honno.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod rhai o’r cyflawnwyr mwyaf peryglus yn bobl sosiopathig narsisaidd, ac rwy’n credu mai’r perygl yw ein bod i gyd yn eu hadnabod, yn ôl pob tebyg. Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom ein bod yn gallu eu hadnabod, a lle y down ar eu traws, dylem wneud rhywbeth am hynny. Mae nodweddion penodol y bobl hyn yn rhywbeth a allai beri syndod i rai pobl ac efallai na fydd yn syndod i eraill: ymdrech ysig am bŵer—ni fydd pobl sosiopathig narsisaidd yn poeni am unrhyw beth heblaw hwy eu hunain; rheolaeth bŵer ddinistriol dros bobl ydyw; patrymau ymddygiad sy’n chwilio am gariad ac edmygedd; yn bendant, nid yw’n gariad anghenus—nid yw’n ymwneud â chariad emosiynol hyd yn oed—mae’n ymwneud â phŵer, yr adnoddau i reoli a dominyddu. Ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch yn gallu adnabod hynny mewn pobl. Nid oes unrhyw ymddiheuriadau, nac euogrwydd nac edifeirwch mewn unrhyw amgylchiadau. Maent yn credu eu bod yn rhodd i’r byd sy’n ei wneud yn gyfoethocach ac yn fwy lliwgar, ac felly maent yn fwy ystumgar. Mae hyd yn oed gweithredoedd creulon yn gyfiawn.
Wel, os ydych yn briod â pherson narsisaidd sy’n llwyddiannus yn y byd arian neu’n llwyddiant proffesiynol, nid yw bob amser yn golygu y byddant yn cam-drin yn gorfforol, ond mae’n digwydd weithiau. Yr hyn y mae’n ei olygu yw y gallai ddifetha eu henw da a dinistrio’r hyn y maent wedi ei gyflawni. Unwaith eto, mae’n debygol na fydd angen iddo ychwaith. Maent yn llwyddo i gyflawni’r hyn y maent eisiau ei gyflawni yn eithaf llwyddiannus drwy eiriau a gweithredoedd. Felly, oherwydd eu bod yn gwybod pwy ydych a’r person yr ydych yn ymdrechu i fod a sut i wthio eich botymau—mewn geiriau eraill, maent yn gwybod beth sy’n bwysig i chi, yr hyn yr ydych yn ei hoffi amdanoch eich hun, felly maent yn eich dinistrio. Dyna’r union bethau y maent yn pigo arnynt. Gyd-Aelodau, mae’n ddyletswydd arnom i adnabod hyn ble bynnag yr ydym, a’n bod yn gwneud yn siŵr nad yw’n digwydd yn ein cymuned.
Yn olaf, pwynt yr adroddiad yw rhoi ffocws i feddyliau pobl—yn sicr fe roddodd ffocws i feddyliau’r Llywodraeth. Rwy’n croesawu’r adroddiad, hyd yn oed lle y ceir elfennau ohono y gellid eu beirniadu. Ond rwy’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw ailffocysu ein cydgyfrifoldeb ar sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ar y ddeddfwriaeth arloesol hon. Diolch yn fawr i chi.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i ymateb i’r ddadl—John Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, gan fy mod yn meddwl bod nifer y cyfranwyr yn dyst i’r teimlad cryf yn y Cynulliad hwn fod angen i ni fynd ati i bob pwrpas i atal cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod, a chynyddu ac adnewyddu ein hymdrechion i wneud yn siŵr fod y ddeddfwriaeth hon yn effeithiol?
Cafwyd cryn nifer o themâu cyffredin, ac rwy’n credu mai’r gryfaf yw’r un yn ymwneud ag addysg a pherthynas iach, ac yn ddealladwy felly os ydym yn sôn am atal, yn amlwg; mae angen i ni wneud yn siŵr fod ein pobl ifanc yn y blynyddoedd cynharaf a thrwy’r ysgol a thu hwnt yn cael y negeseuon cywir ac yn datblygu’r agweddau cywir. Felly, ar y pwyntiau a wnaed ynglŷn â dull gorfodol o weithredu, ar ba ffurf bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y caiff ei ddatblygu, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus y bydd ein hysgolion yn rhoi addysg perthynas iach i’n disgyblion yn gyson ac yn effeithiol. Yn amlwg, mae Donaldson yn hollol allweddol o ran yr ysgolion, ac mae gennym fesurau yn y ddeddfwriaeth hefyd ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch. Cafodd hyn ei gydnabod yn y cyfraniadau heddiw. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau’n iawn o ran addysg, felly roeddwn yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod hynny ac yn wir, yn cyfeirio at drafodaethau gyda chyd-Aelodau i sicrhau bod gennym y dull cyson y mae gofyn i ni ei gael yn ein system haddysg. Yn amlwg, bydd y pwyllgor, a phob Aelod yma, rwy’n siŵr, a rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n ofalus ac yn fanwl iawn mewn perthynas â hynny.
Mae yna themâu cyffredinol hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chyflymder y gweithredu, effeithiolrwydd y gweithredu, a chafwyd sawl enghraifft o argymhellion gan y pwyllgor a’r ymatebion gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y mae angen edrych ar hynny eto a’i ddatblygu mor amserol ac effeithiol ag y bo modd. Unwaith eto, rwy’n falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pryderon hynny yn adroddiad y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, ac unwaith eto, yn ymrwymo i ailffocysu egni Llywodraeth Cymru a gweithio i sicrhau bod y pryderon hynny’n cael eu deall yn briodol a bod camau’n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch. Unwaith eto, rwy’n siŵr y bydd pawb yma, y pwyllgor a’r rhanddeiliaid y tu allan, yn dilyn y datblygiadau’n agos iawn o ran hynny.
Rwy’n meddwl bod rhai o’r pwyntiau mwy penodol a grybwyllwyd yn ddiddorol iawn i ni, Ddirprwy Lywydd. Mae yna agweddau’n ymwneud â hyfforddiant, tanlinellu hyfforddiant, a gafodd eu cyfleu’n gryf iawn yn y dystiolaeth a gawsom, fel y dylai gofynion y ddeddfwriaeth hon gyd-fynd yn rhesymegol ac yn amlwg mewn gwirionedd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er mwyn sicrhau y gall yr awdurdodau lleol ac eraill y mae gofyn iddynt weithredu’r ddeddfwriaeth hon wneud hynny mewn ffordd gosteffeithiol drwy gysoni eu hymdrechion hyfforddi o gwmpas y gwahanol ddeddfau hyn. Oherwydd maent yn ategu ei gilydd, maent yn galw am lawer o bethau sy’n gyffredin rhyngddynt, ac felly mae honno, rwy’n meddwl, yn ymagwedd go synhwyrol.
Rwy’n meddwl bod Dawn Bowden yn llygad ei lle, a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr hyn a ddywedodd am gam-drin gorthrechol ac agweddau cyfyngol, a pha mor arwyddocaol yw hynny yn y darlun cyffredinol o gam-drin. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth ddod yn ôl at addysg perthynas iach, ei bod yn cadw’r agwedd benodol honno ar gam-drin mewn cof, a’i bod yn sicrhau bod yr agweddau iach sy’n cael eu datblygu drwy addysg yn osgoi’r peryglon posibl hynny. Mae’n ddarlun eang pan edrychwn ar y cam-drin sy’n digwydd; nid yw bob amser yr hyn y buasai pobl yn ei feddwl yn syth ac yn fwyaf amlwg, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod addysg perthynas iach yn cynnwys pob agwedd ar gam-drin.
Mae’r canllaw arferion da yn amlwg yn ddefnyddiol iawn o ran ysgolion, ac mae angen inni sicrhau, fel y dywedodd Rhianon Passmore, fod yna ddull cyson o weithredu ar hynny. Hefyd, rwy’n meddwl y dylem gydnabod cryfder yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn ag anffurfio organau cenhedlu benywod, y gwaith sy’n digwydd mewn ysgolion arloesi, a Donaldson, ac unwaith eto, sut y mae Estyn yn arolygu. Rhaid i hynny fod yn flaenllaw yn y datblygiadau sy’n digwydd. Siaradodd Joyce Watson, fel y gwnaeth yn effeithiol yn y pwyllgor, am y cynghorwyr annibynnol ar drais yn erbyn menywod a’r grwpiau amlasiantaeth, a phwysigrwydd uno â Llywodraeth y DU a’r comisiynwyr heddlu a throseddu, ac unwaith eto, roeddwn yn croesawu’r cyfraniad hwnnw’n fawr, gan ei fod yn bwysig iawn i’r ddadl hon.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders, unwaith eto, at y cynghorydd cenedlaethol a rhai o’r problemau capasiti yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cydnabod. Ac roedd yn dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am ei farn fod angen i ni edrych ar y materion hyn eto, ac yn wir, mae wedi gweithredu a bydd yn ystyried materion ymhellach.
Ddirprwy Lywydd, gallaf eich gweld yn nodi bod amser yn brin iawn—yn fyr iawn wir—felly fe orffennaf drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet am ei fod wedi gwrando o ddifrif ar y ddadl ac wedi ymateb i bryderon y pwyllgor. Wrth inni symud ymlaen, gwn y byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet i wneud yn siŵr fod ffocws ac ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hynod bwysig hon, a gafodd ei chydnabod yn yr holl gyfraniadau heddiw ac yn ein hadroddiad pwyllgor a chan y rhanddeiliaid dan sylw, bellach yn destun ffocws a gweithredu o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gweithredu effeithiol ac amserol hwnnw’n cael ei yrru yn ei flaen. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.36.