– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 5 Ebrill 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11 21, a galwaf ar Lee Waters i gynnig y cynnig. Lee.
Cynnig NDM6260 Lee Waters, Jeremy Miles, Hefin David, Vikki Howells, David Melding
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn ‘bedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy’n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy’n dod i’r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy’n addasu’n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda’r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru’r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu’r farchnad yn gynnar fel rhan o’i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o fod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles, a fy nghyfaill David Melding—yn wirioneddol falch. Yn union fel y buom yn pwysleisio fis diwethaf fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i hybu’r hyn a elwir yn economi sylfaenol, mae’n rhaid i ni hefyd edrych ar y tueddiadau allanol sy’n debygol o newid ein bywydau a’n heconomïau.
Rydym yng nghamau cynnar pedwerydd chwyldro diwydiannol, a nodweddir gan ein gallu i gyfuno technolegau digidol â systemau ffisegol a biolegol. Yn union fel y daeth y chwyldro diwydiannol cyntaf yn sgil ein gallu i harneisio pŵer stêm, yr ail yn sgil ein gallu i gynhyrchu pŵer trydanol, gan ysgogi masgynhyrchu, ac fel yr ysgogwyd y trydydd chwyldro diwydiannol yn sgil datblygu electroneg a chyfrifiaduron, bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn gweld peiriannau, data ac algorithmau yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar ein bywydau.
Mae ein harian yn gynyddol rithwir; mae ein cartrefi yn fwyfwy clyfar. Mae technoleg bellach yn rheoli ein tegellau, ein boeleri, ein gallu i barcio hyd yn oed. Mae’r gofal iechyd a gawn ar fin cael ei drawsnewid yn ddirfawr wrth i’r gallu i adnabod eich genom personol ddod yn fwyfwy fforddiadwy. Er ein bod wedi dod i arfer â pheiriannau yn ein ffatrïoedd lle roedd gweithwyr ar un adeg, bydd yr awtomatiaeth hon yn mynd rhagddi ar frys.
Mae technoleg wedi sleifio i mewn i’n bywydau’n llechwraidd, i’r graddau ei bod bellach bron yn amhosibl dychmygu byd hebddi. Mae cyflymder y newid yn aruthrol. Mae pethau y cefais fy magu gyda hwy—disgiau hyblyg, casetiau, tapiau fideo—bellach yn ddiystyr. Ac yn fwy felly, mae’r pethau a gymerodd eu lle—DVDs a chrynoddisgiau—eisoes yn ddarfodedig hefyd o fewn cenhedlaeth. Mae Spotify a Netflix yn awr yn bethau greddfol i genedlaethau iau, ac mae’r ddau’n cael eu cynnal gan ddata mawr nad yw ond yn ffenomen sy’n perthyn i uwch-dechnoleg; mae ym mhobman ac mae’n siapio popeth.
Mae ein rhagdybiaethau ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl yn cael eu herio’n gyson. Yr wythnos hon, clywsom am allu Elon Musk i ailddefnyddio roced. Fel y dywedodd:
Mae fel y gwahaniaeth rhwng cael awyrennau rydych yn cael gwared arnynt ar ôl pob taith awyr, a’u hailddefnyddio sawl gwaith.
Os yw goblygiadau teithiau gofod yr un fath â goblygiadau teithiau awyr yn ein bywydau bob dydd, maent yn enfawr. Pa mor fuan y bydd ceir diyrrwr, trydan di-wifr, argraffu 3D, a hyd yn oed teithiau gofod mor gyffredin â Netflix ac e-bost?
Mae llawer yn digwydd y tu ôl i’r llenni nad ydym yn ymwybodol ohono hyd yma. Nid mewn un diwydiant yn unig y mae newid yn digwydd, fel mewn chwyldroadau diwydiannol blaenorol, mae’n digwydd ar draws nifer o sectorau ar yr un pryd, ac mae hyn yn creu heriau newydd. Mae methodoleg Banc Lloegr yn awgrymu y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o gael eu hawtomeiddio yng Nghymru o fewn 20 mlynedd—20 mlynedd. Gall cyfrifiaduron ac algorithmau gasglu data o ffynonellau llawer ehangach i wneud penderfyniadau cytbwys ar unrhyw beth o ffurflenni treth i driniaethau canser. Byddwn yn argymell gwrando ar iPlayer, nad oedd yn bodoli ei hun 10 mlynedd yn ôl, ar raglen Radio 4, ‘The Public Philosopher’, a gynhaliodd drafodaeth a oedd yn agoriad llygad ar yr union fater hwn. Yr hyn a oedd yn amlwg iawn oedd anghrediniaeth lwyr y mwyafrif helaeth o’r gynulleidfa y gallai unrhyw robot wneud eu swydd yn well na hwy, a’r sioc glywadwy wrth iddynt sylweddoli’r posibilrwydd y gallent. Un enghraifft nodedig oedd y meddyg teulu a oedd wedi gwrando wrth i hanner y gynulleidfa ddatgelu y byddai’n well ganddynt dderbyn diagnosis gan robot na chan fod dynol, ac mae un o bob pedair swydd yng Nghymru mewn perygl o’r fath.
Gadewch i ni fod yn glir: mae’r effaith hon yn amrywio rhwng y rhywiau. Yn ddiweddar, rhybuddiodd Banc y Byd, am bob tair swydd a gaiff eu colli gan ddynion, bydd un yn cael ei hennill. I fenywod, mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth. Byddant yn colli pum swydd o ganlyniad i awtomatiaeth am bob swydd a gaiff ei hennill. Mae llywodraethau, busnesau, a sefydliadau byd-eang yn cael trafferth dal i fyny gyda chyflymder y newid, ac nid yw hynny’n syndod—mae hyn yn gythryblus. Ein rôl ni fel llunwyr polisi yw paratoi ar ei gyfer, ac ar hyn o bryd nid ydym yn gwneud hynny’n dda o gwbl. I’r perwyl hwn, byddaf yn cynnal cyfarfod o gwmpas y bwrdd ym mis Mehefin gyda rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i drafod sut y gallwn ymbaratoi ar gyfer yr her gyffredin hon, ac rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi cytuno i ymuno â ni. Ond yn ogystal â pharatoi ar gyfer yr heriau, mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfleoedd hefyd.
Mewn cyfarfod diweddar a gynhaliais ar y cyd â’r sefydliad gweithgynhyrchwyr EEF yn fy etholaeth gyda busnesau, dywedodd un gwneuthurwr wrthyf fod awtomatiaeth yn ei gwmni wedi rhoi hwb i gynhyrchiant a hefyd wedi galluogi ei gwmni i gyflogi mwy o staff. Felly, nid oes angen edrych ar awtomatiaeth fel bygythiad i swyddi bob amser, ond fel offeryn twf. Ac mae gan ddatblygiadau technolegol y potensial i greu sectorau newydd a fydd yn sbarduno swyddi newydd. Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous. Yn ddiweddar, mynychodd Julie James, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddata, drafodaeth o amgylch y bwrdd a gynhaliais ar botensial amaethyddiaeth fanwl yng Nghymru. Nawr, nid ymwneud ag amaethyddiaeth syml y mae ffermio manwl, ac ni fydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn parchu ffiniau adrannol. Mae diwydiant newydd sbon yn cael ei yrru gan ein gallu i gasglu a dadansoddi data ar gyflymder a oedd yn annirnadwy o’r blaen. Ond mae gan Gymru gyfnod byr o amser i fanteisio ar y cenedlaethau o wybodaeth a ddatblygwyd gennym ym maes ffermio, a chymhwyso’r technolegau hyn sy’n dod i’r amlwg i dyfu diwydiant sydd â photensial byd-eang. Ac er mwyn deall ble y mae’r cyfleoedd hyn—lle y gall ein harbenigedd pwnc, ein pwynt gwerthu unigryw, gynnig mantais glir, gystadleuol i ni—mae angen adolygiad strategol brys ar unwaith.
Rhagwelir yn eang mai roboteg ac awtomatiaeth, seiberddiogelwch, data mawr, codeiddio arian, y marchnadoedd ariannol a genomeg yw’r diwydiannau allweddol sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ac ar hynny y dylem ganolbwyntio. Ers gormod o amser, rydym wedi canolbwyntio ar ddulliau confensiynol, gan bryderu gormod ynglŷn ag osgoi troi’r drol. Ni allaf ddeall yn fy myw sut y gallwn gael naw sector blaenoriaeth, oherwydd pan fo popeth yn flaenoriaeth, nid oes dim yn flaenoriaeth. Ac rwy’n canmol y ffocws a roddwyd ar gynllun prentisiaeth Cymru, ac mae’n rhaid i ni wneud yr un peth i’n strategaeth economaidd gyfan, gan alluogi’r ffyrdd mwyaf effeithlon o dargedu adnoddau prin. Ac mae’n rhaid cael canllawiau clir ynglŷn â’r hyn y mae’r dirwedd ddiwydiannol newydd hon yn galw amdano o ran dull gweithredu, a bydd hyn yn galw am law fedrus i lywio llwybr anodd drwy ddarparu cyllid a chymorth amyneddgar sy’n canolbwyntio ar amcan penodol, gan osod amcan hirdymor y byddwn yn darparu cefnogaeth hirdymor ar ei gyfer, ond wedi’i gyfuno â dull arbrofol ar gyfer cyrraedd yr amcan hwnnw. A gadewch i ni fod yn glir, Dirprwy Lywydd: byddwn yn methu ar y ffordd, ac mae hynny’n iawn. Mae’n rhaid i ni fod yn agored ynglŷn â’r peth er mwyn dysgu oddi wrtho. Os meddyliwn am nifer o’r dyfeisiadau y siaradais amdanynt ar gychwyn fy araith—yr iPhone, teithiau gofod, technoleg ceir diyrrwr—gellir olrhain tarddiad pob un o’r rhain yn ôl i gyllid hirdymor ac amyneddgar y Llywodraeth.
Yn ôl pob golwg, y glasbrint hwn, y llwybr anodd hwn, yw’r hyn y mae strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yn anelu i’w wneud. Ond â siarad yn onest, yr hyn sy’n gwneud y strategaeth hon yn rhyfeddol yw ei diffyg uchelgais, ac mae angen ei hadolygu ar frys. Nid wyf eisiau edrych yn ôl mewn 20 mlynedd a meddwl, ‘Mae’n drueni na fyddem wedi gwneud rhagor’. Nid wyf yn credu bod neb ohonom eisiau gwneud hynny. Felly, gadewch i ni ei gwneud yn her heddiw—a her yw hon; nid beirniadaeth—ein bod yn dyblu ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r rhwystrau a chroesawu’r cyfleoedd, a’n bod yn ei wneud yn gyflym. Diolch.
Rydw i’n falch i gefnogi’r cynnig sydd wedi cael ei roi gerbron y prynhawn yma. Fel y soniwyd, mae olwynion y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn barod yn troi. Mae gan ddatblygiadau technolegol megis deallusrwydd artiffisial a cherbydau ymreolaethol y potensial i ddadleoli swyddi traddodiadol, gydag arwyddocâd sylweddol i swyddi mewn sectorau pwysig i ni yng Nghymru, fel gweithgynhyrchu a phrosesu, fel yr ydym newydd ei glywed.
Rydw i’n cyfaddef bod nifer y swyddi a all gael eu dadleoli gan awtomatiaeth yn peri gofid ar yr arwyneb. Fel mae’r cynnig yn sôn, mae 700,000 o swyddi yng Nghymru o dan fygythiad awtomatiaeth, ac mae pobl sy’n ennill llai na £30,000 y flwyddyn yn fwy tebygol o golli eu swyddi na rhai ar gyflogau uchel. Fel y trafodom yn y Siambr hon yn ddiweddar, mae 40 y cant o bobl Cymru wedi’u cyflogi yn yr economi sylfaenol—mewn swyddi gweithgynhyrchu a phrosesu ar gyfer deunyddiau sylfaenol—ac y mae’r mwyafrif o’r swyddi hyn o dan fygythiad awtomatiaeth.
Wrth inni wynebu’r chwyldro diwydiannol nesaf, mae dau opsiwn gennym: i frwydro yn ei erbyn fel y gwnaeth y Ludiaid i’w peiriannau cotwm yn y ddeunawfed ganrif, neu gallwn arloesi er mwyn goroesi, a gwneud Cymru’n economi sy’n buddio o’r datblygiadau yma. Ond mae yna dri pheth sydd yn angenrheidiol i wneud hyn. Yn bennaf oll, mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n edrych i amddiffyn gweithwyr, a sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfle gorau i wneud y gorau o’r datblygiadau yma. Mae’n rhaid sicrhau bod y system addysg yn datblygu’r gweithlu gyda’r sgiliau angenrheidiol i weithio gyda pheiriannau newydd. Mae’n rhaid hefyd sicrhau bod cyfleoedd addysgu gydol oes ar gael i gefnogi’r rhai sydd yn y swyddi sydd o dan fygythiad awtomatiaeth yn awr.
Oherwydd y niferoedd o bobl sydd gennym wedi’u cyflogi yn y sectorau yma, mae gennym botensial i symud gyda’r datblygiadau a hwyluso arbenigedd ynddynt. Ond i wneud hyn mae angen buddsoddiad a chymorth ar gwmnïau er mwyn datblygu’r seilwaith a’r sgiliau angenrheidiol. Fel y mae Fforwm Economaidd y Byd yn barod wedi ei ddweud, mae’n rhaid i lywodraethau gydweithio â busnesau er mwyn datblygu’r un arloesedd yn y sector preifat drwy ddatblygu sgiliau’r gweithlu a rhwydweithiau rhannu arfer da o ran arloesi. Ar hyn o bryd, gall busnesau gymryd mantais o gronfeydd megis SMART Cymru a SMART Innovation, sy’n cynnig grantiau i ddatblygu arloesedd, ond mae’r cronfeydd hyn wedi’u hariannu yn rhannol gan y gronfa datblygu rhanbarthol Ewropeaidd hyd at 2020. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid inni edrych ar barhad y cronfeydd angenrheidiol yma sy’n sicrhau bod cwmnïau yn gallu symud gyda’r amseroedd.
Yn olaf, rhaid sicrhau bod ein busnesau yn ymwybodol o’r datblygiadau yma, a sicrhau bod y cyfarpar ganddynt sy’n symud gyda’r amseroedd, yn hytrach na chael eu gadael ar ôl. Fel y mae ymchwil sefydliad gweithgynhyrchwyr yr EEF wedi sôn, dim ond 42 y cant o gwmnïau gweithgynhyrchu sydd yn ymwybodol o’r newidiadau posib a all ddod o awtomatiaeth, a dim ond 11 y cant yn credu bod y Deyrnas Unedig yn barod amdano. Rhaid i ni yng Nghymru, felly, ddangos y ffordd drwy fuddsoddi mewn datblygu sgiliau’r gweithlu, buddsoddi mewn arloesedd a sicrhau bod ein busnesau wedi’u paratoi am y newidiadau yma.
Felly, wrth inni edrych tuag at orwel y pedwerydd chwyldro diwydiannol, mae’n werth peidio â chwympo i mewn i’r trap o besimistiaeth ac ofni dyfodol dystopiaidd. Drwy gynllunio a gweithio gyda’r datblygiadau, yn hytrach nag yn eu herbyn, a thrwy weithio gyda gweithwyr a busnes, gall Cymru fod ar flaen y newidiadau hyn a dangos y ffordd i weddill y byd. Diolch yn fawr.
Mae dadl heddiw yn nodi newid yn y ffocws o’r un ar yr economi sylfaenol ychydig wythnosau’n ôl, ond mae’n faes y mae’n rhaid i ni ei gael yr un mor gywir os ydym am saernïo economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar raddfa’r her y gallai awtomatiaeth ei chynrychioli, y cyfleoedd sydd gennym i ymateb i’r her hon, a’r sgiliau fydd eu hangen ar ein gweithlu i wneud hynny. Fel y mae’r cynnig yn ein hatgoffa, amcangyfrifir bod 700,000 o swyddi yng Nghymru mewn perygl o gael eu hawtomeiddio, ffigur sy’n ymddangos hyd yn oed yn fwy syfrdanol o’i osod yn erbyn y ffaith fod nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru ychydig dros 1.4 miliwn ym mis Rhagfyr 2016. Mae hyn yn golygu y gallai awtomatiaeth fygwth 1 o bob 2 swydd yng Nghymru.
Mae awtomatiaeth yn bendant yn taflu cysgod hir. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â sectorau fel gweithgynhyrchu; mae 11.6 y cant o weithlu Cymru yn gweithio yn y sector hwn, nifer uwch nag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae nifer anghymesur o bobl y Cymoedd gogleddol yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae’n amlwg fod awtomatiaeth yn mowldio siâp unrhyw strategaeth ddiwydiannol yn y dyfodol. Mae erthygl gan academyddion o Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Boston yn dweud efallai ein bod eisoes yn rhy hwyr. Gan nodi’r cynnydd bedair gwaith drosodd o robotiaid yng ngorllewin Ewrop a’r Unol Daleithiau dros gyfnod o 15 mlynedd, mae’r erthygl yn dweud bod awtomatiaeth eisoes wedi effeithio ar swyddi a chyflogau.
Eto i gyd yn ail, fel y mae’r cynnig yn cydnabod, yma yng Nghymru, mae gennym yr arbenigedd, y sgiliau a’r adnoddau i’n galluogi i arwain yn y diwydiannau hyn sy’n dod i’r amlwg. Mae’r Athro Klaus Schwab, sefydlydd Fforwm Economaidd y Byd, wedi awgrymu y bydd y modd y byddwn yn rheoli adnoddau naturiol yn fynegiant allweddol o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mewn dadl flaenorol, archwiliasom botensial yr economi las a ddarperir gan y dyfroedd o’n cwmpas, a siaradais am y cyfleoedd i economi Cymru sy’n gynhenid yn y sector ynni adnewyddadwy morol. Mae tystiolaeth y môr-lynnoedd llanw yn arbennig o argyhoeddiadol: chwe morlyn, a sawl un ohonynt o gwmpas arfordir Cymru, yn cynrychioli buddsoddiad o £40 biliwn, yn creu 6,500 o swyddi hirdymor, yn cynhyrchu bron i £3 biliwn o werth ychwanegol gros yn flynyddol; busnesau yng Nghymru, ac yn y Cymoedd gogleddol yn arbennig, yn elwa o gadwyn gyflenwi well.
Rwyf eisoes wedi sôn am bwysigrwydd gweithgynhyrchu fel cyflogwr yn y Cymoedd. Nid yw’n ormod o naid i weld bod hwn yn faes lle y gellid gwella cynhyrchiant, a gwaith, drwy ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Yn union fel y mae’n rhaid i’n dull gweithredu fod yn gyflym ac yn fwy ystwyth, efallai y bydd angen i gwmnïau llwyddiannus yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol fod yn llai o faint ac yn fwy hyblyg. Nid yn unig y gallai cwmnïau weithredu’n agosach at eu sylfaen gwsmeriaid, er enghraifft, yma yng Nghymru, ond gallai gweithgynhyrchu ddod yn fwy cynaliadwy mewn gwledydd lle y mae cyflogau’n uchel.
Mae wedi’i ddweud na fydd llafur rhad yn rhad. Yn hytrach na llai o weithwyr, bydd cwmnïau angen yr hyn a ddisgrifiwyd fel gwahanol weithwyr, gyda sgiliau gwahanol. Dyma’r trydydd pwynt y carwn roi sylw iddo. Rwy’n falch fod addysg a sgiliau yn ganolog i’r strategaeth ‘Arloesi Cymru’ ddiwethaf. Rwy’n gobeithio y byddent yn cadw eu lle mewn unrhyw fersiwn newydd ar y ddogfen; yn benodol, y byddai dysgu oedolion ac uwchsgilio yn cael eu hystyried. Rydym yn gwybod bod y rhain yn allweddol i sicrhau nad yw awtomatiaeth yn arwain at golli swyddi.
Cefais drafodaeth ddefnyddiol gyda Colegau Cymru ddydd Llun am sgiliau a phrentisiaethau. Gallai fod yn gyfle gwych i gryfhau ein sector addysg bellach. Soniai’r strategaeth ‘Arloesi Cymru’ am integreiddio arloesi ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Rhaid i ni roi sgiliau ar gyfer y dyfodol i’n plant a’n pobl ifanc.
Hoffwn yn fyr gynnig fy llongyfarchiadau i Optimus Primate. Dyma dîm o fyfyrwyr blwyddyn 9 o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn fy etholaeth, a enillodd Her Peirianwyr Yfory EEP Robotics yn ddiweddar. Maent wedi adeiladu, rhaglennu a rheoli robotiaid Lego. Hefyd, maent wedi datblygu eu hateb eu hunain i broblem wyddonol a osodwyd gan NASA a Lego Education. Dyma weithwyr y dyfodol, gweithwyr y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac mae’n galonogol gweld eu bod yn datblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt, ac yn gwneud hynny yn awr.
I gloi, hoffwn nodi mai’r hyn a nodweddai’r chwyldro diwydiannol cyntaf oedd y newidiadau economaidd-gymdeithasol sylweddol a chynnydd syfrdanol mewn tlodi. Rhaid inni sicrhau bod y gweithlu yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, fel disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun, yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn llwyddo yn pedwerydd chwyldro diwydiannol.
David Melding.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am ganiatáu i mi gael fy ngalw. A gaf fi longyfarch Lee Waters am gynnig y cynnig hwn? Rwy’n credu ei fod yn gynnig craff iawn, a’r math o beth yn union sydd angen i ni drafod mwy arno, mewn gwirionedd, gan ddisgwyl a gadael i syniadau ffynnu.
Rwy’n meddwl yn ôl pob tebyg y bydd y cyfnod rhwng 1945 a 1980 yn cael ei ystyried gan haneswyr fel oes fawr y gweithiwr coler las, gydag enillion anhygoel o ran incwm a gwerth a chydraddoldeb. Dechreuodd llawer o hynny chwalu yn y 1970au. Roedd yn gyfnod eithriadol dros ben, ond ers hynny gwelsom gyfres o rymoedd yn effeithio ar y bobl yn yr hyn y byddem fel arfer yn eu galw efallai yn rhannau mwy traddodiadol o’r economi.
Mae’r ffactorau hyn yn hysbys i bawb, ond gadewch i mi ailadrodd yr hyn a glywoch: y chwyldro digidol, dirywiad y diwydiannau traddodiadol drwy gystadleuaeth mewn mannau eraill, y newid i economi fyd-eang lai anghyfartal. Ond cyflawnwyd hyn i raddau helaeth ar draul y sectorau traddodiadol yn yr economïau aeddfed. Mae’r gostyngiad mewn tlodi byd-eang yn gwbl syfrdanol os edrychwch ar y ffigurau diweddaraf a gweld y datblygiadau a wnaed yn Asia, yn Affrica ac yn Ne America yn arbennig.
Ond fe bwysodd yn galed iawn ar ein sefyllfa economaidd. Yn ychwanegol at hynny, mae’n amlwg fod gennym y chwyldro hwn mewn awtomatiaeth. Rwy’n credu bod y tueddiadau hyn yn egluro ffenomena fel Brexit i ryw raddau a buddugoliaeth yr Arlywydd Trump hyd yn oed, am eu bod wedi cyd-redeg â cholli ffydd yn gyffredinol yn y dosbarthiadau sy’n rheoli, ar ôl yr argyfwng ariannol, a dyna pam y mae’n rhaid i ni ennill ein statws breintiedig ein hunain a’i gyfiawnhau drwy gynnig atebion a rhagweld pethau ac efallai awgrymu newidiadau allweddol mewn polisi cyhoeddus ein hunain.
Ar hyn o bryd, mae’n bendant yn wir fod ein gweithlu’n rhanedig, a siarad yn fras, rhwng y rhai medrus a hyblyg sydd efallai’n croesawu’r heriau, nid yn unig o gael 10 swydd mewn bywyd gwaith o bosibl, ond tair gyrfa wahanol o fewn bywyd gwaith, a’r hanner arall sy’n edrych yn ôl yn hiraethus ar sefydlogrwydd cyflogaeth draddodiadol. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r bobl hynny a’u paratoi ar gyfer y newid.
Rwy’n credu bod hyn yn egluro pam y mae rhai pobl wedi galw am incwm cyffredinol, er enghraifft, fel ymateb i’r byd mwy rhanedig hwn a hefyd am ymateb i awtomatiaeth. Os na allwch gael swydd, o leiaf gallwch gael urddas incwm gwaith. Ond rwy’n credu bod angen i ni fod yn ofalus tu hwnt ynglŷn â symud o weld gwaith fel grym trefniadol canolog ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl. Byddai’n llawer gwell gennyf weld ailasesiad radical o’r hyn sy’n wythnos waith resymol na dweud na fydd llawer o bobl yn gallu gweithio 37.5 awr neu fwy ac na fyddant yn economaidd weithgar.
Felly, rwy’n credu bod newidiadau mawr yn mynd i fod yn hynny o beth. Caf fy atgoffa—credaf mai Syr Henry Mackworth o’r Gnoll yng Nghastell-nedd a gafodd y syniad o wythnos waith strwythuredig am y tro cyntaf. Byddai’r rhan fwyaf o weithwyr diwydiannol tan hynny wedi bod yn gweithio mewn galwedigaeth wledig o ryw fath am y rhan fwyaf o’r amser ac wedi symud yn gynyddol tuag at hynny wedyn. Roedd hwnnw’n newid enfawr. Roedd iddo fanteision ac anfanteision, yn sicr—ond y math hwnnw o ddychymyg ydoedd.
Mae sgiliau ac arloesi yn amlwg yn allweddol er mwyn creu hyder, entrepreneuriaeth a’r gallu i addasu. Mae angen i ni fod yn llawer gwell am edrych ar y rhai sy’n teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl, oherwydd fe allant wella’u sgiliau a phan fyddant yn cael hyder, byddant hefyd yn magu awydd i wneud hynny. Mae gwir angen inni ganolbwyntio ar hynny.
Yn olaf, yn ogystal â’r datblygiadau arloesol mawr a fydd yn dod—a gallem fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y bylchau hynny a’u llenwi—mae angen i ni hefyd gydnabod gwerth gwaith yn y gymuned, gwirfoddoli a gwaith dinasyddion. Rwy’n credu bod angen ailedrych yn drwyadl ar yr hyn yr ydym ei eisiau gan ddinasyddion. Yn union fel y disgwyliwn i ddinasyddion weithio ar reithgorau, efallai y dylem ddisgwyl iddynt wneud rhywfaint o wasanaeth gwleidyddol cyfatebol a’n helpu gyda’n hymholiadau yma neu edrych ar faterion arbennig o anodd polisi cyhoeddus a’u talu am wneud hynny. Hynny yw, pam ddim?
Mae angen inni edrych ar yr hyn y gall pobl ei wneud, yr hyn y gall dinasyddion ei wneud, a meddwl o ddifrif ac ennill ein statws yn y gymdeithas Gymreig ar hyn o bryd, a chynnig rhai o’r atebion. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw. Mae’r trafodaethau hyn yn gyfle gwerthfawr i edrych ar y darlun ehangach, a hefyd, o bryd i’w gilydd, i sganio’r gorwelion pell, a gobeithiaf wneud hynny yn y sylwadau hyn.
Yn ddiau, mae dyfodiad technoleg yn cynnig cyfleoedd i’n heconomi. Mae bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn seiliedig ar gynorthwyo fy rhanbarth i ddod yn arfordir y rhyngrwyd a buddsoddi o ddifrif yn ein gallu digidol. Roedd y fforwm economaidd a gynhaliais yn ddiweddar yng Nghastell-nedd yn edrych ymlaen at rai o’r cyfleoedd economaidd a’r cyfleodd gwaith hyn, a’r modd—fel y clywsom y prynhawn yma—y gallwn baratoi ein hunain ar gyfer y cyfleoedd hynny. Ond roedd hefyd yn cydnabod rhai o’r heriau sydd o’n blaenau.
Un o’r heriau—fel y clywsom gan lawer o’r siaradwyr—yw’r posibilrwydd y gall awtomatiaeth ddileu swyddi ym mhob rhan o’n heconomi. Ac nid yw pob person sy’n gwneud y mathau o swyddi y byddwn yn eu colli yn mynd i allu manteisio ar y swyddi newydd sy’n cael eu creu, a dyna realiti sy’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. A siarad yn gyffredinol, mae technoleg yn rhatach na llafur i fusnes. Efallai y bydd peth o’r elw ychwanegol y mae’n ei greu i fusnes yn cael ei drosglwyddo mewn costau is i’r defnyddiwr, ond bydd llawer ohono, yn amlwg, yn mynd i berchennog y busnes.
Yr her ar gyfer ein cymdeithas yw sut i ddal ein gafael ar beth o’r gwerth sydd dros ben o dechnoleg a’i harneisio er lles y cyhoedd, nid yn unig fel elw ariannol. Pam y mae angen i ni wneud hyn? Wel, oherwydd gyda phob swydd a gollir i awtomatiaeth, gallem golli cyflog sy’n cynnal aelwyd ac sy’n cael ei wario yn yr economi leol ac sydd, wrth gwrs, yn creu refeniw treth. Yn ddiweddar, argymhellodd Bill Gates dreth robot—ardoll ar dechnoleg i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw’n syndod fod rhai pobl wedi ymosod ar hyn fel rhywbeth sy’n anymarferol, ond nid yw’n anodd gweld hyd yn oed pe bai’n gweithio, na fyddai ond yn ffurfio rhan fechan o’r gwerth y gallem weld ei golli yn yr economi ehangach o gyflogau a gollir, eto, yn lle’i fod yn cael ei wario mewn siopau lleol, heb sôn am y costau trwm posibl i unigolion. Felly, efallai y bydd angen i ni feddwl yn fwy beiddgar, ac rwy’n meddwl bod David Melding wedi cydnabod rhai o’r pwyntiau hyn eisoes yn ei gyfraniad a diolch iddo am dynnu sylw at rôl Henry Mackworth o Gastell-nedd.
Ond efallai y bydd angen inni edrych eto ar sut y caiff gwaith ei ddosbarthu mewn economi yn y dyfodol. Mae cyfnodau blaenorol o awtomatiaeth wedi arwain at ostyngiad i wythnos waith pum diwrnod. A ddaw amser pan fydd wythnos waith tri neu bedwar diwrnod yn arferol, neu gyfnodau hwy’n cael eu treulio mewn addysg statudol, gan ohirio dechrau bywyd gwaith? Dylem ystyried hyn i gyd. Ond i lawer, wrth gwrs, mae ymddeoliad cynnar anwirfoddol neu waith sy’n rhan-amser yn groes i ddymuniad y gweithiwr eisoes yn golygu hyn, a bydd eu profiad yn dweud wrthych ei fod yn golygu mwy neu lai yr un treuliau am lai o gyflog. Mae angen i’r rhan fwyaf o bobl weithio er mwyn cael y pethau sylfaenol. Felly, yr her sylfaenol yw sut rydym yn harneisio technoleg i leihau cost hanfodion bob dydd am dai, ynni, trafnidiaeth a bwyd, sy’n ffurfio cyfran fawr o wariant misol y rhan fwyaf o bobl. Sut y defnyddiwn dechnoleg i’n helpu i ailddefnyddio a chynnal ein hasedau, fel y clywsom mewn dadl gynharach, yn hytrach na thaflu neu hyd yn oed ailgylchu, fel bod bywyd gweddus yn gynaliadwy gyda llai o waith?
Mae gan lywodraethau rôl bwysig yn cymell datblygiadau yn y sectorau hyn a llunio polisi arloesedd sy’n diffinio gweithgareddau gwerth uchel, nid yn unig o ran twf economaidd, ond hefyd o ran byw yn fwy fforddiadwy. Mae eraill—sy’n llai optimistaidd ynglŷn â model cynaliadwy—wedi galw, unwaith eto, fel y soniodd David Melding, am incwm sylfaenol cyffredinol, a delir i bawb, waeth beth yw’r gwaith, i helpu gyda chostau cynhaliaeth. Ar hyn o bryd, gallaf weld llawer mwy o rwystrau na chyfleoedd, ond mae’n iawn inni archwilio a threialu rhai o’r opsiynau hyn. Yn fy marn i, dylai unrhyw system gymorth newydd adlewyrchu’r egwyddor o gyfraniad, ac eto ni all disgwyl cyfraniad yn unig drwy waith fod yn gymwys bellach yn yr amgylchedd hwnnw. Felly, efallai fod yr amser wedi dod i ddyfeisio dull o achredu unigolion am y gofal di-dâl; y gweithgaredd dinesig; y gwirfoddoli; y gwaith elusennol y mae cymaint o bobl yn ei wneud ac y mae ein cymdeithas yn dibynnu arno’n sylfaenol. Rydym yn methu rhoi gwerth ar y math hwn o waith yn ein heconomi, fel yr ydym yn methu rhoi gwerth ar yr hyn y gallem ei alw’n economi gysylltiadau personol—y gorchwylion lle y mae gofal, empathi, a’r cysylltiad dynol yn hollbwysig; gorchwylion ym maes iechyd, lles, gofal cymdeithasol ac yn y blaen; meysydd lle y ceir galw parhaus ac sy’n mynd i’r afael â rhai o’r nodweddion mwyaf parhaol yn ein byd modern—strwythurau teuluol sy’n newid, salwch meddwl, byw’n hwy, annibyniaeth ac anweithgarwch corfforol. Felly, mewn byd rhesymegol byddent yn cynnig twf mewn cyflogaeth, ac mewn byd tosturiol, twf mewn cyflogaeth weddus, gyda thâl priodol. Efallai mai’r brif etifeddiaeth y dylem obeithio amdani gan awtomatiaeth fydd ailddarganfod amser i gysylltu ac ysgogiad cymunedol, lle y mae technoleg yn cael gwared ar waith sy’n torri cefnau, lle y mae wedi lleihau costau byw, a lle y mae’n hyrwyddo ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy a chefnogol i bawb. Efallai fod honno’n weledigaeth y gall pawb ohonom ei chofleidio.
Mae yna demtasiwn, wrth gwrs, wrth fynd i’r afael â’r cynnig hwn i ystyried ei gymhwysedd—maddeuwch y gair hwn—Ludaidd. Fodd bynnag, dylwn ddatgan yn y lle cyntaf fy mod yn credu bod gwerth enfawr i’r ddadl hon o ran ceisio mynd i’r afael â’r mater pwysig hwn mewn ffordd adeiladol a meddylgar.
Mae’n wir dweud bod y defnydd cynyddol o roboteg, boed ar ffurf tiliau awtomataidd neu fecaneiddio llinellau cydosod, yn her go iawn i’r rhai sy’n ymwneud â diogelu a hyd yn oed cynyddu swyddi ar draws y sector diwydiannol, y sector manwerthu, a’r sector cyhoeddus yn wir, yn eu cyfanrwydd. Mae’r sector bancio yn croesawu technoleg seiber yn llwyr, ar draul staff cownter a phersonél gwasanaethau cwsmeriaid i raddau helaeth, a cheir llu o enghreifftiau eraill ar draws sylfaen economaidd eang lle y mae awtomatiaeth yn dechrau effeithio ar swyddi a wneir yn draddodiadol gan bobl.
Felly, a ydym i ymateb fel Ludiaid, neu a oes ateb arall? Rwy’n meddwl bod y cynigion a nodir yn y ddadl hon yn rhoi dewis arall cadarnhaol yn hytrach na dyfodol llwm o ran cyfleoedd gwaith. Yn y bôn, yr hyn yw’r pedwerydd chwyldro diwydiannol yw ystod o dechnolegau newydd sy’n effeithio ar bob disgyblaeth, economi a diwydiant, ac ar eu gwaethaf, maent yn herio syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Yr effaith sy’n deillio o hyn yw ein bod yn byw mewn cyfnod o addewid mawr, ond perygl mawr hefyd. Gyda rhwydweithiau digidol helaeth, mae gan y byd botensial i gysylltu biliynau’n fwy o bobl, a gallai hynny wella effeithlonrwydd cwmnïau’n ddramatig a rheoli asedau hyd yn oed mewn ffyrdd a all helpu i adfywio’r amgylchedd naturiol yr ydym yn byw ynddo. Mae ganddo botensial hefyd i ddadwneud llawer o ddifrod chwyldroadau diwydiannol blaenorol.
Dyma effeithiau cadarnhaol posibl y chwyldro diwydiannol newydd, ond mae yna lawer o senarios hefyd lle y caiff effaith ddifrifol o negyddol ar economïau byd-eang a’r bobl sy’n gweithio ynddynt. Ymhlith y rhain y mae gallu sefydliadau i addasu i’r newidiadau hyn, ac wrth gwrs, yr effaith ar y boblogaeth sy’n gweithio, yn enwedig yn y sectorau lled-fedrus a heb sgiliau, lle y mae technolegau robotig yn debygol o gael yr effaith fwyaf. Mae’n bosibl y gallai hyn waethygu anghydraddoldeb ymysg yr holl boblogaeth a chwalu strwythur cymdeithas hyd yn oed.
Felly, sut rydym ni yng Nghymru yn paratoi ein hunain ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol? Fel y nodwyd yn y cynnig, amcangyfrifir y gallai cymaint â 700,000 o swyddi fod mewn perygl o ganlyniad i robotiaid yn cyflawni’r rolau hyn. Mae’n wir fod y peiriannau hyn bellach yn rhan o fywyd bob dydd, ac mae’n anochel y bydd diwydiannau, dros amser, yn ceisio’u defnyddio lle bynnag y bo modd cyfyngu ar lafur dynol costus. Mae’n eithriadol o bwysig fod Cymru’n paratoi ar gyfer y newidiadau hyn a bod ganddi strategaeth economaidd gref i fynd i’r afael â hwy. Mae’n rhaid i ni nodi felly ble y mae gan Gymru fantais gystadleuol a sut y gallwn fanteisio ar y sgiliau sydd gennym yng Nghymru eisoes.
Mae Cymru’n wlad amrywiol iawn, a gallwn bwyso ar hyn i gynorthwyo gyda’r newidiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Er enghraifft, ceir sector twristiaeth cryf yng Nghymru—yn ddi-os, bydd angen mwy o ffocws a sylw yn y maes hwn. Mae’r sector lletygarwch yn un lle y mae’n anodd disodli’r elfen ddynol.
Rwy’n llwyr gymeradwyo pwyntiau 3, 4 a 5 yn y cynnig hwn, a hoffwn ailadrodd yr alwad am strategaethau economaidd hyblyg i ymdrin ag wyneb newidiol datblygiadau technolegol. Nid oes amheuaeth y bydd ein prifysgolion a’n canolfannau arloesi yn chwarae rôl allweddol yn helpu’r sector diwydiannol i ymdopi â’r gofynion newydd hyn. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei hymdrechion yn y sector hwn. Mae’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y strategaeth ‘Arloesi Cymru’ er mwyn gwerthuso’r aflonyddwch sy’n ein hwynebu. Yn y pen draw, mae gan Gymru botensial i gynyddu goruchafiaeth ar y farchnad yn sgil datblygu strategaeth economaidd newydd.
I grynhoi, bydd Cymru, fel gwledydd eraill, yn wynebu galw cynyddol i gadw ei phobl mewn gwaith ystyrlon, ond mae gennym sgiliau, talent ac ethos gweithgar ein poblogaeth sy’n gweithio i’n cynorthwyo. Rydym hefyd yn endid bach hylaw yn economaidd, ac felly’n un a ddylai allu ymateb i’r gofynion newydd hyn mewn modd hyblyg ac amserol, ac un a ddylai’n hawdd allu manteisio hefyd ar y chwyldro technolegol newydd hwn. Cafodd Cymru ei gadael ar ôl gan y trydydd chwyldro diwydiannol. Ni allwn fforddio cael ein gadael ar ôl gan y pedwerydd.
Rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan ein cyd-Aelodau Cynulliad. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod pa mor ddramatig yw’r newid i’n bywydau. Yn wir, ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi ymweld ag archfarchnad y bore yma ac wedi talu am fy nwyddau wrth y cownter hunanwasanaeth, ac ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi cael trên i Gaerdydd, a bod fy nhaith wedi’i rheoli gan signalwr yn eistedd wrth derfynell gyfrifiadurol yn y ddinas yr oeddwn yn mynd iddi. Yn yr un modd, pe bawn yn dweud fy mod wedi bancio ar-lein drwy wasgu botwm ar ôl cyrraedd fy swyddfa yn y gweithle. Eto i gyd, prin fod y tair gweithred syml hon yn gredadwy pan gafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei greu yn 1999, ac mae hynny’n dangos yr heriau a’r cyfleoedd i economi Cymru.
Heddiw, daw bywyd yn haws i’r defnyddiwr, ond beth am yr unigolyn a arferai gael ei gyflogi yn yr archfarchnad, y signalwr a’i deulu, a’r staff banc a arferai weithio mewn banciau ar hyd y stryd fawr? Yn rhy aml, gallwn ddarllen ystadegau heb amgyffred yr ystyr, a nodaf yn y cynnig hwn o dan bwynt bwled 2, a dyfynnaf,
‘risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.’
Mae colli un swydd yn gallu dinistrio unigolyn a rhoi teulu mewn perygl, ac mae’n cyrydu cymuned a chymdeithas. Nid wyf erioed wedi dyfynnu cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, ond cefais fy nharo gan adroddiad ‘Newsnight’ y cymerodd ran ynddo’n ddiweddar ar ôl ymweld â Glynebwy, a chan deimlad yr adroddiad. Dywedodd, ‘Felly, ar ôl treulio peth amser yng Nglynebwy, rwy’n llawer cliriach fy meddwl pam y pleidleisiodd pobl dros Brexit mewn niferoedd mawr, yn enwedig pleidleiswyr hŷn, oherwydd faint o arian a wariwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ar yr adeilad sgleiniog hwn neu’r prosiect hwnnw? Roedd hynny i gyd yn pylu’n ddim o gymharu â’r teimlad, y dyheu am ddychwelyd at sicrwydd y gorffennol, pan oedd y gwaith dur ar agor, pan oedd gan bawb swyddi, pan oedd gan bobl arian yn eu pocedi. A phan gafodd bobl gyfle i ysgwyd y cawell a dweud, "Rydym eisiau hynny’n ôl", roedd yn ymwneud nid yn gymaint â’u bod hwy wedi cael eu gadael ar ôl, ond â’u teimladau ynglŷn â’r hyn roeddent wedi’i adael ar ôl.’ Ac mae hwnnw’n gysyniad diddorol.
Nawr, bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn herio’r holl bethau rydym yn sicr yn eu cylch a bydd angen dyfeisgarwch ac ymyrraeth y Llywodraeth, a gennym ni fel Llywodraeth Lafur Cymru oherwydd gwyddom y bydd pleidiau eraill yn y Siambr hon yn caniatáu i’r farchnad ddilyn ei chwrs, heb ystyried y gost ddynol. Gwelodd pawb ohonom yng Nghymru y llynedd y gwahaniaeth y gall Llywodraeth Lafur Cymru weithredol ei wneud. Ni weithredodd Llywodraeth Dorïaidd y DU i atal dympio dur Tsieineaidd â chymhorthdal y wladwriaeth pan allent fod wedi gwneud, a chafodd diwydiant dur Cymru ei roi mewn perygl. Mae angen i ni fachu ar y cyfle a chyrraedd lefelau cyfatebol neu ragori ar fuddsoddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran twf y diwydiant yn y dyfodol.
Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig fod angen i ni edrych eto ar strategaeth ‘Arloesi Cymru’, a herio ein hunain yn barhaus i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Cymru yn barod i fanteisio ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau, yn enwedig i Lee Waters am gyflwyno’r ddadl hon, i Dai Lloyd, Vikki Howells, Jeremy Miles a David Rowlands, a hefyd David Melding a Rhianon Passmore a gynigiodd gyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, rwy’n meddwl, i’r heriau a’r risgiau sy’n ein hwynebu. Roedd cyfeiriad David Melding at rym trefniadol canolog llafur yn fy atgoffa o astudiaethau o waith Max Weber ar y foeseg waith Brotestanaidd, ond mae’r pwynt penodol a gâi ei wneud ynglŷn â natur wythnos waith argymelledig efallai’n cynnig testun arall ar gyfer dadl Aelod unigol, yn dilyn ymlaen o’r hyn sydd wedi bod yn thema glir a chryf yn ddiweddar, sef natur gwaith yn yr unfed ganrif ar hugain—yr economi las, yr economi sylfaenol, a heddiw, y pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Mae’r ddadl hon hefyd yn gorgyffwrdd â llawer o’r sgyrsiau a gefais dros yr ychydig fisoedd diwethaf mewn perthynas â’n hymagwedd bresennol at ddatblygu economaidd a sut y mae’n rhaid i hynny newid yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r cynnig yn cyfeirio at amcangyfrif Banc Lloegr o’r 700,000 o swyddi, dros y ddau ddegawd nesaf, a allai fod mewn perygl o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, nid yw’r ffigurau a ddyfynnir yn arwydd o swyddi a gollir, ond o gyflogaeth yr effeithir arni. O ran gweithgynhyrchu, gwyddom y gall llawer o swyddi cydosod gael eu disodli gan awtomatiaeth a chan robotiaid. Er hynny bydd swyddi newydd yn cael eu creu mewn swyddogaethau megis caffael, megis rhaglennu, dadansoddi data a chynnal a chadw, ymhlith eraill. Ond yr allwedd i ni fel gwneuthurwyr polisi yw sicrhau bod digon o gyfleoedd yn dod i’r amlwg yn yr economi newydd i gymryd lle’r rhai a allai gael eu colli yn yr hen economi ac i sicrhau bod pobl ar draws Cymru ym mhob cymuned yn meddu ar y sgiliau i fanteisio arnynt.
Ond wrth gwrs, mae’r effaith yn mynd yn llawer ehangach na gweithgynhyrchu. Caiff yr effaith ei gweld mewn llawer o sectorau, yn enwedig y sector gwasanaeth ac er enghraifft, y newyddion diweddar am gau nifer o ganghennau o fanciau yn sgil y nifer cynyddol o gwsmeriaid sydd bellach yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd. Mae cyflymder datblygiadau technolegol cyfredol yn gwneud asesiad o’r effaith ar swyddi yng Nghymru yn anodd.
Ac mae yna ffactorau eraill i’w hystyried hefyd, megis yr effaith y bydd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, gydag awtomatiaeth, roboteg a digideiddio, yn ei chael ar gynhyrchiant a sut y bydd hynny’n wedyn yn effeithio ar gyflogaeth. Nawr, siaradodd Lee Waters am y cynnydd posibl mewn cynhyrchiant a allai arwain at wneud y cwmnïau hyn yn fwy cystadleuol, ac ennill mwy o fusnes a chyfran gynyddol o’r farchnad o’r herwydd. Mae cystadleurwydd cynyddol a llai o gostau yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth yn hirdymor, er y gall swyddi gael eu colli yn y tymor byr, ond mae’n dibynnu’n llwyr ar ein penderfyniad i dderbyn a manteisio’n llawn ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy’n datblygu, ac i arfogi pobl â’r sgiliau i wneud hynny, fel yr amlinellodd Vikki Howells a Rhianon Passmore.
Nawr, rwyf wedi bod yn cael adroddiadau ar effaith diwydiant 4.0 gan Diwydiant Cymru, sefydliad trosfwaol ar gyfer y diwydiannau awyrofod, modurol a thechnoleg yng Nghymru. Comisiynodd Diwydiant Cymru adroddiad annibynnol ar effaith a chyfleoedd posibl sector gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf a sut y mae angen i gymuned diwydiant gweithgynhyrchu Cymru baratoi. Mae wedi cynhyrchu adroddiad gweithgynhyrchu’r genhedlaeth nesaf 2016, sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn gyda ffocws ar Gymru, ac mae’r risgiau a’r cyfleoedd yn real tu hwnt.
Rydym yn mynd i’r afael â’r rhain gyda chymorth arbenigedd a ddarperir gan Diwydiant Cymru, a chyrff academaidd a diwydiant i sefydlu gweledigaeth weithgynhyrchu ar gyfer Cymru. Mae’r manteision economaidd sy’n deillio o dechnoleg ddigidol yn cael eu cydnabod yn gynyddol gan y diwydiant gydag adroddiad diweddar gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yn datgan bod 94 y cant o fusnesau’n cytuno bod technolegau digidol yn ysgogiad allweddol i gynnydd mewn cynhyrchiant, twf economaidd a chreu swyddi. Mae swyddi’n canoli fwyfwy ar dechnoleg ddigidol, a bydd manteisio ar hyn yn sicrhau Cymru ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae technolegau saernïo digidol eisoes yn rhyngweithio â’r byd biolegol. Cyd-Aelodau, nid yw’n mynd i fod yn hir cyn y cawn losin jeli a gynhyrchir gan argraffydd 3D, ac nid yw’n afresymol credu y gallem, yn ystod ein hoes, weld argraffiad 3D o organau’r corff. Felly, mae’r angen am fusnesau hynod gymwys ac arloesol yng Nghymru yn uwch nag erioed o’r blaen. Mae ein strategaeth arloesi ‘Arloesi Cymru’ yn helpu Cymru i archwilio cyfleoedd busnes sy’n torri tir newydd o safbwynt datblygu cynnyrch, arallgyfeirio a llwybrau newydd i’r farchnad, ac mae’n helpu i sicrhau bod arloesi yn alluogwr mawr i Gymru. Ond o ystyried natur arloesedd, fel yr amlinellwyd gan lawer o’r Aelodau heddiw, yn anochel, mae angen i’r strategaeth esblygu’n gyflym ac mae wedi ei chynllunio i fod mor hyblyg â phosibl, wrth inni symud ymlaen.
Byddwn yn cytuno â David Rowlands a Dai Lloyd, a ddywedodd fod yn rhaid i’r arloeswyr oresgyn y Ludiaid yn y bôn a bod yn rhaid i’r rhai sy’n edrych at y dyfodol, oresgyn y rhai sy’n glynu at y gorffennol. Ond byddwn hefyd yn dweud bod angen cysuro’r rhai sy’n amheus ynglŷn â thechnolegau digidol newydd ac sy’n datblygu eu bod yno i ni fanteisio arnynt a’u defnyddio, yn hytrach na’u hofni.
Nawr, mae pwynt olaf y cynnig yn cyfeirio at ddatblygu’r strategaeth economaidd, ac yn ein heconomi rydym yn dal i wynebu heriau mawr. Gyda chynhyrchiant is na gweddill y DU ac anweithgarwch economaidd ar lefel uwch, rydym yn wynebu cwestiynau strwythurol pwysig ynglŷn â sut i gael gwaith i fwy o bobl, yn ogystal â’r sgiliau i gamu ymlaen i swyddi sy’n talu’n well, a fydd, wrth gwrs, yn hanfodol i osgoi colledion swyddi net yn ystod diwydiant 4.0. Un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu yw mynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol yn ein heconomi a sicrhau bod manteision twf wedi’u gwasgaru’n decach ar draws Cymru. Un arall yw diogelu ein heconomi a’n gweithlu ar gyfer y dyfodol; bydd angen y ddau i leihau anghydraddoldebau lles a chyfoeth ledled Cymru, gan wella’r ddau yn gyffredinol. Rwy’n credu y bydd cyflawni’r amcanion hyn yn galw am benderfyniadau anodd gan y Llywodraeth, ac ymdrech ar y cyd a fydd yn herio, mewn sawl ffordd, y modd y mae pobl yn arfer gwneud a gweld pethau. Ond fel y dywedais ddoe, mae gan Lywodraethau ddyletswydd i herio confensiwn lle y mae confensiwn yn creu risg o danseilio cyfoeth a lles pobl, ac rwy’n credu bod Jeremy Miles wedi amlinellu yn ei gyfraniad sut y mae angen i ni ddechrau ystyried gwahanol ffyrdd o weithio, gwahanol arferion gweithio, nid yn unig er mwyn sicrhau manteision economaidd, ond hefyd i sicrhau gwelliannau o ran ein lles.
Rwy’n awyddus, fel rhan o’r strategaeth economaidd sy’n dod i’r amlwg, i edrych ar nifer llai o sectorau cenedlaethol economaidd sylfaenol megis iechyd, gofal ac ynni, y gall Llywodraeth Cymru roi arweiniad wrth eu cefnogi. Ac oddi tanynt, hoffwn edrych ar ein heconomïau rhanbarthol drwy rymuso pob un i ddatblygu sectorau arbenigol a hunaniaeth economaidd fwy penodol, ond ar y ddwy lefel, bydd angen cael prawf amlwg fod ein hymyriadau a’n buddsoddiad yn canolbwyntio ar feysydd gweithgaredd yn yr economi sydd wedi cael, neu a allai gael eu diogelu at y dyfodol. Rydym yn wynebu heriau economaidd mawr, a byddant yn dwysáu pan fyddwn yn gadael yr UE gyda mwy o ansefydlogrwydd byd-eang, toriadau lles a chaledi Llywodraeth y DU ac wrth gwrs, prif bwnc y ddadl heddiw, y pedwerydd chwyldro. Wrth ddatrys heriau yn y dyfodol ac addasu i fyd sy’n newid yn gyson, mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu pontydd rhwng pobl fel y gallwn ddatblygu gwybodaeth ac atebion ar gyfer y dyfodol. Felly, oes, mae yna heriau, ond gadewch i ni fod yn berffaith sicr ein bod am fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y pedwerydd chwyldro. Felly, rwy’n croesawu cyfraniadau pob Aelod i’r drafodaeth heddiw yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Hefin David i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando ar yr ystod enfawr o heriau y mae’r Aelodau wedi’u cyflwyno yn y ddadl heddiw, ond rwy’n falch o ddweud eu bod wedi eu cyflwyno gyda theimlad o optimistiaeth, ac ymateb Dai Lloyd a grisialodd hyn orau, pan gydnabu nid yn unig y gellir goresgyn yr heriau hyn, ond gallant fod o fudd mewn gwirionedd i’n system lywodraethol yng Nghymru. Yn wir, os na allwn ddarparu gweledigaeth optimistaidd o’r dyfodol, yna ni ddylem fod yn eistedd yn y Siambr hon yn y lle cyntaf.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais ag optimydd arall rwy’n ei adnabod, sef yr Athro Tom Crick, athro gwyddoniaeth gyfrifiadurol a pholisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd—a dylwn ddatgan buddiant fel darlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dywedodd wrthyf, ac yn wir fe ddywedodd ar Radio Wales y bore yma, fod angen inni gael swyddi gwerth uchel i bobl yn hytrach na’u bod yn gorfod symud i rywle arall. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen ymrwymiad cydlynol, hirdymor gan Lywodraeth Cymru i’r Gymru ddigidol, o sgiliau i seilwaith a’r ecosystem ddigidol ehangach. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfle pwysig i Gymru yma: beth fydd ein pwynt gwerthu unigryw yng Nghymru fel y gallwn gystadlu yn y diwydiannau digidol gwerth uchel hyn, a’u harwain yn y pen draw? Mae Tom, yr Athro Crick, yn llais i’w groesawu, ac fe gafodd ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn gwrando ar baneli o arbenigwyr o’r byd academaidd a diwydiant i ddatblygu ei strategaeth ddiwydiannol, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd honno.
Dylai’r pwynt gwerthu unigryw a grybwyllodd yr Athro Crick fod yn allweddol i’r strategaeth arloesi ar ei newydd wedd, ac yn wir, dylem feddwl hyd yn oed beth a olygwn wrth ‘strategol’ a ‘strategaeth’. A yw’n mynd i fod yn rhywbeth a argraffwn a’i roi ar silff a’i roi ar y wefan, neu a yw’n rhywbeth sy’n mynd i newid ac adnewyddu’n gyson? Dyma a wnaeth Lee Waters wrth iddo gyflwyno ei her, fel y mae bob amser yn ei wneud, i Lywodraeth Cymru a dweud bod angen i ni newid strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yng nghyd-destun y trawsnewid yr ydym yn byw drwyddo. Rwy’n falch o weld bod yr her honno yn cael ei chroesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydym yn symud tuag at y dyfodol yn dwyllodrus o gyflym. Nid ydym yn cydnabod newid trawsnewidiol yn ein bywydau bob dydd, ond wedyn fe edrychwn yn ôl, a gweld bod y byd wedi newid wrth i ni wneud pethau eraill. Rwy’n meddwl am y cyfnod pan oeddwn yn dysgu. Byddwn yn gofyn i fy myfyrwyr faint ohonynt a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia, ‘Codwch eich dwylo. Pwy sy’n berchen ar ffôn symudol Nokia?’ Nid oedd yr un ohonynt. Mewn gwirionedd, cododd un ei law, ac fe wnaethom chwerthin am ben yr unigolyn hwnnw. [Chwerthin.] Ond wedyn, rydych yn dweud, ‘Iawn. Wel, faint ohonoch a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia yn y gorffennol?’ A chododd pawb eu dwylo; roeddent wedi bod yn berchen ar ffôn symudol Nokia. A allem fod, cyn bo hir, yn edrych yn ôl ac yn chwerthin am ben ein hunain am ein bod wedi bod yn berchen ar ffonau clyfar ac na allem roi ein ffonau clyfar i lawr? Beth fydd y dyfodol yn lle hynny?
Wel, y gamp yw canfod beth fydd hynny. Nid wyf yn arbennig o dda am ddarogan y dyfodol yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg, felly mae’n dda fod Dai Lloyd, Rhianon Passmore a Vikki Howells wedi nodi’r potensial sydd gennym yng Nghymru. Soniodd Vikki Howells am ein hadnoddau naturiol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni. Roedd hi’n cydnabod yr angen am gadwyni cyflenwi byr, hyblyg yn ein Cymoedd gogleddol—rwy’n hoff o’r cysyniad hwnnw; fe’i defnyddiaf—a’r angen i dyfu a datblygu sgiliau priodol sy’n cyfateb i’r anghenion a’r newidiadau sydd o’n blaenau, ac unwaith eto, adleisiwyd hynny gan Aelodau eraill yn y Siambr.
Gadewch i ni beidio ag anghofio nad yw’n ymwneud yn unig â’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, nid yw’n ymwneud yn unig ag ailddyfeisio fel dyfeisio. Mae llawer ohono’n ymwneud â gweithio gyda, ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd datblygiadau technolegol mewn prosesau gweithgynhyrchu, fel y dywedodd David Rowlands, yn golygu bod peiriannau’n gallu gweithgynhyrchu ac ailweithgynhyrchu, gan ddileu’r angen am adnewyddu ac ailosod drud.
Ond gall y buddion hynny arwain, fel y mae eraill wedi dweud, at newidiadau megis llai o staff desg dalu yn ein harchfarchnadoedd lleol, a changhennau banc yn cau am fod pobl yn bancio ar-lein. Rydym yn falch iawn o Admiral Insurance yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, ond a allai gael ei daro’n galed gan ddeallusrwydd artiffisial? Mynegais fy mhryderon ynglŷn â chau canghennau banc mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr anawsterau hynny. Fodd bynnag, rydych yn teimlo weithiau—nid oherwydd y Llywodraeth, ond rydych yn teimlo’n analluog i rwystro’r newidiadau hyn pan ddigwyddant, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn lle hynny yw eu rheoli, a rheoli ein ffordd drwyddynt, a manteisio arnynt yn optimistaidd. Roedd cyfraniad Jeremy Miles yn cynnwys hynny. Soniodd am holl natur byd gwaith, sut rydym yn gweithio a beth yw ystyr gwaith inni hyd yn oed. Er ei fod braidd yn ddrygionus ac wedi gadael, roedd David Melding yn cytuno â—[Aelodau’r Cynulliad: ‘O’.]
Na, na, na. Peidiwch byth â dweud unrhyw beth nad ydych yn gwybod beth yw’r ateb.
Rwy’n ymddiheuro.
Ie. Hoffwn dynnu hynny’n ôl, diolch i chi.
Rwy’n tynnu hynny’n ôl, Dirprwy Lywydd. Ond rwy’n cydnabod cyfraniad David Melding. Mae’r ffaith fod Jeremy Miles wedi gwneud y pwynt y gallem fod yn newid ein hwythnos waith—wel, roedd David Melding yn cydnabod hynny hefyd. Pan wnaeth Jeremy Miles y pwynt, roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad democrataidd-gymdeithasol adain chwith eithaf da, ac yna gwnaeth David Melding bwynt tebyg hefyd, ac nid wyf yn meddwl bod David Rowlands yn bell iawn. Felly, efallai fod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn newid natur ein gwleidyddiaeth hefyd. A allwn fod—[Torri ar draws.] A allwn fod mor optimistaidd â hynny y bydd y fath beth yn digwydd?
Rwy’n credu bod addysg yn greiddiol i hyn, a hoffwn ddychwelyd at y ddadl a gyflwynwyd gan yr Athro Tom Crick ar Radio Wales y bore yma. Mae’n croesawu’r gwaith o ddatblygu fframwaith cymhwysedd digidol, o ganlyniad i beth o’r gwaith y mae wedi’i wneud gyda Llywodraeth Cymru. Felly, er y bydd angen addysg a bydd angen inni edrych ar y pethau y gall y Cynulliad eu darparu yn uniongyrchol, rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar y tymor hir hefyd. Beth yn fwy na hynny y gallwn ei wneud? Gadewch i ni ddychwelyd at eiriad y cynnig, sy’n dweud bod angen i strategaeth ‘Arloesi Cymru’ a strategaeth economaidd Ysgrifennydd y Cabinet gael eu hadnewyddu a’u hystyried, a dylid meddwl am y modd y gellid dominyddu’r farchnad a’r natur unigryw y gallwn ei chael yng Nghymru. Roeddwn yn falch dros ben o weld ein bod wedi cael cefnogaeth unfrydol i hynny yn y Siambr hon, rwy’n credu, ac rwy’n argymell y cynnig i’r Senedd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.