– Senedd Cymru ar 17 Mai 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig: diogelwch plant ar-lein. Galwaf ar Darren Millar i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6305 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.
2. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a’u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi’u cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy’n anelu at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl bwysig hon y prynhawn yma, a chynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies ar y papur trefn heddiw, gan gydnabod y llu o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, nodi pwysigrwydd rhoi camau ar waith i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel ar-lein, a galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a sefydliadau eraill, fel y gallwn gael pethau’n iawn o ran rhoi blaenoriaeth i hyn yn y dyfodol.
Nawr, cyn i mi gychwyn ar fy araith, hoffwn ddweud y byddwn yn cefnogi’r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru heddiw. Credwn eu bod yn cydweddu â’n cynnig, ac maent yn cydnabod yr angen am ymagwedd gydgysylltiedig yma, gan bob Llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn wir, o amgylch y byd, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau real iawn.
Dangosodd yr ymosodiadau seiber a ddigwyddodd dros y penwythnos mewn termau eglur iawn, rwy’n meddwl, pa mor ddibynnol rydym wedi dod, fel cymdeithas, ar y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl ein bod, yn aml iawn, yn orddibynnol ar y pethau hyn. Ac wrth gwrs, rydym yn dod â’r pethau hyn i’r amlwg yn arbennig pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ac fel y gwelsom, gallant fynd o’u lle i raddau helaeth iawn. Ond fel llunwyr polisi a deddfwyr yma yn y Senedd heddiw, mae llawer ohonom yn ddigon hen i gofio adeg heb gyfrifiaduron personol, heb ffonau clyfar; efallai y bydd rhai’n gallu cofio’r llechi—ac nid wyf yn siarad am y rhai a ddygwyd gan Foses o gopa mynydd Sinai—ond am lechi sialc yn yr ystafell ddosbarth i’w defnyddio fel cymhorthion dysgu. Os ydych yn siarad am y pethau hyn wrth berson ifanc yn awr, maent yn methu dirnad absenoldeb technoleg ers talwm. Oherwydd y realiti yw eu bod wedi arfer i’r fath raddau, ac mor gyfarwydd â’r dechnoleg sydd ym mhobman o’n cwmpas—yn yr ysgol ac yn y cartref—fel eu bod yn gwbl syfrdan pan fyddaf yn sôn amdanaf yn ifanc yn cael ZX Spectrum gan fy nhad a fy mam yn anrheg Nadolig ac roedd yn fendigedig, ac arferai gymryd hanner awr i lwytho rhaglen, gyda thâp casét bach. Felly, mae gennym genhedlaeth newydd sy’n fwy cyfarwydd â thechnoleg, yn aml iawn, na’r rhai sy’n eu dysgu yn ein hysgolion a’u rhieni gartref. Yn wir, rydym yn aml iawn yn fwy anllythrennog na hwy ym maes technoleg.
Nawr, wrth gwrs, mae’r ffaith fod gennym i gyd y dechnoleg hon yn cynnig cyfleoedd enfawr ar gyfer y dyfodol—cyfleoedd mewn addysg, mewn cyflogaeth, mewn rhwydweithio cymdeithasol—a’r cyfan ar y raddfa fyd-eang enfawr hon. Ond er cymaint o fendith yw technoleg, mae hefyd yn gallu bod yn felltith. Rydym wedi gweld nad yw cael y cyfoeth hwn o wybodaeth, yn enwedig dros y rhyngrwyd, yn dod heb risg, a gall wneud pobl—pobl fregus a phlant—yn agored i niwed go iawn. Mae pornograffi, gamblo, rhannu gwybodaeth a chynnwys rhywiol personol yn amhriodol, twyll, seiberfwlio, meithrin perthynas amhriodol ar-lein, blacmel, camfanteisio a radicaleiddio i gyd yn bethau y mae’r rhyngrwyd wedi’u dwyn i mewn i gartrefi pobl ac ar liniau pobl. Ac maent yn fygythiadau go iawn. Maent yn fygythiadau i iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl ifanc yma yng Nghymru heddiw. Dyna pam y mae’n rhaid inni sicrhau bod diogelwch ar-lein yn brif flaenoriaeth i ni yn awr ac mewn perthynas â’r ffordd rydym yn symud ymlaen.
I fod yn deg i Lywodraeth Cymru, rwy’n credu ei bod eisoes yn gwneud gwaith da iawn ar hyn. Maent eisoes wedi rhoi rhai mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr yn ysgolion Cymru a chodi safonau e-ddiogelwch yn y lleoedd dysgu hynny. Rwy’n gwybod, er enghraifft, fod South West Grid for Learning wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2014 ar y materion e-ddiogelwch hyn. Rwyf hefyd yn gwybod bod oddeutu 78 y cant o ysgolion Cymru hyd yn hyn wedi defnyddio’r offeryn hunanadolygu 360° Safe Cymru, sy’n gwerthuso pa mor ddiogel yw eu harferion ar-lein mewn gwirionedd. Wrth gwrs, maent hefyd yn darparu cyfleoedd drwy ymgyrchoedd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel er mwyn codi proffil a rhoi mwy o bwyslais ar y materion hyn.
Rwy’n falch iawn hefyd o weld Llywodraeth Cymru yn cefnogi Operation Net Safe, sef rhaglen ar y cyd â’r heddlu a Sefydliad Lucy Faithfull sy’n anelu at atal creu, gwylio a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein. Rwy’n falch iawn o weld adroddiad diweddar Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd—a dylwn fod wedi datgan y ffaith fy mod mewn gwirionedd yn hyrwyddwr gwarchod y rhyngrwyd ar ran y gymdeithas honno ar ddechrau fy araith—ond roeddwn yn falch iawn o weld bod llai na 0.1 y cant o’r delweddau cam-drin plant yn rhywiol byd-eang ar weinyddion wedi’u lleoli yn y DU bellach. Y rheswm am hynny yw ymagwedd dim goddefgarwch Llywodraeth y DU a phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig ar y mater penodol hwn. Mae’n wych ein bod yn gwneud cynnydd yn hynny o beth, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy. Yr unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy gael ymagwedd fwy traws-sector yn y Llywodraeth ac oddi allan i’r Llywodraeth, ond gydag arweiniad y Llywodraeth i ddod ag unigolion at ei gilydd. Mae angen i’r sector addysg gydweithio gyda rhieni, gyda diwydiant, gydag arbenigwyr yn y gymdeithas sifil ac wrth gwrs, gyda phlant eu hunain, er mwyn addysgu ein pobl ifanc ynglŷn â’r ffordd orau o amddiffyn eu hunain, fel y gallwn ddatblygu’r offer sydd eu hangen ar bawb ohonom i ymateb i ryngrwyd sy’n esblygu’n barhaus a’r bygythiadau a’r niwed sy’n gallu bod yn gysylltiedig â hynny.
Yn amlwg, y man cychwyn amlwg i addysgu a grymuso plant a phobl ifanc ar ddiogelwch y rhyngrwyd yw drwy wreiddio rhai mesurau ac egwyddorion allweddol yn ein system addysg lle caiff llythrennedd digidol ei ddysgu, ac mae gennym gyfle gwych gyda’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei lunio yng Nghymru i ymgorffori’r pethau hyn yn fwy parhaol, os mynnwch, yn y cwricwlwm newydd hwnnw. Ond yn fy marn i, mae’n galw am strategaeth fwy cynhwysfawr yn ogystal wrth symud ymlaen er mwyn cael y maen i’r wal—strategaeth a all fod yn destun adolygu cyson. Gwyddom fod NSPCC Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i ddiogelu plant ar-lein, gan gynnwys cyhoeddi cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr wedi’i ategu gan grŵp ymgynghorol sy’n gallu sicrhau bod Cymru ar flaen y gad mewn gwirionedd o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein yn y DU a ledled y byd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb eto i’r argymhelliad penodol hwnnw gan yr NSPCC, ac rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb i’r ddadl heddiw yn gallu dweud wrthym a yw hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w fabwysiadu, er mwyn inni allu ymgorffori’r cynllun hwn yn ein hysgolion, yn ein sector cyhoeddus ac ar draws y Llywodraeth, fel y gallwn gael dull gweithredu safonol o’r fath.
Rhaid i mi ddweud, er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, rwy’n poeni bod 22 y cant o ysgolion yng Nghymru nad ydynt wedi gwerthuso diogelwch eu harferion ar-lein eto gan ddefnyddio’r teclyn hunanarfarnu. Credaf fod rôl gan arolygiaeth Estyn, er enghraifft, i’w chwarae o ran sicrhau bod hynny’n un o’r pethau sy’n cael llawer o sylw ar radar ysgolion er mwyn diogelu’r plant hynny. Mae gennym rai polisïau diogelu plant da iawn ar draws Cymru, ceir llawer o waith papur ynglŷn â diogelu plant, ond yn aml iawn, yr un peth sydd ar goll o’r holl ddarnau papur yw mater diogelwch y rhyngrwyd.
Cafwyd peth gwaith da iawn hefyd, fel y dywedais yn gynharach, dros y ffin yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn arwain ar hyn yn fyd-eang, mewn gwirionedd, mewn perthynas â diogelwch y rhyngrwyd. Fe wnaethant fabwysiadu ymagwedd ar draws y sectorau o’r cychwyn cyntaf. Yn 2013, gweithiodd y Prif Weinidog ar y pryd gyda’r diwydiant rhyngrwyd i gael darparwyr gwasanaethau i gynnig hidlwyr rhyngrwyd i rieni fel y gallent ddewis beth y gall a beth na all eu plant eu gweld ar-lein. Yn 2014, lluniodd pwyllgor dethol y Tŷ Cyffredin ar ddiwylliant a’r cyfryngau adroddiad ar ddiogelwch ar-lein a nodai rai o’r heriau a gwnaeth argymhellion clir y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithredu arnynt. Wrth gwrs, mae diogelwch ar y rhyngrwyd wedi bod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm yn Lloegr bellach ers 2014, a gwnaed peth gwaith allweddol, yn enwedig i atal bygythiad bwlio a seiberfwlio sydd wedi bod yn digwydd ar-lein ac wedi bod mor gostus, ac yn ddinistriol o gostus i rai pobl ifanc sydd, yn anffodus, o ganlyniad i fwlio o’r fath, wedi cyflawni hunanladdiad.
Yn 2015, gwelsom ei bod yn ofynnol i ysgolion yn Lloegr bellach hidlo’r holl gynnwys ar-lein amhriodol ac addysgu disgyblion ynglŷn â bod yn ddiogel. Gwn fod hidlo’n digwydd yn ein hysgolion ni, yn ogystal, a rhaid bod hynny’n beth da. Ond wrth gwrs, nid ar eu cyfrifiaduron yn yr ysgol yn unig y mae disgyblion yn cael mynediad at gynnwys amhriodol ar y rhyngrwyd. Maent hefyd yn mynd â ffonau symudol i’r ysgol. Maent yn mynd â’u llechi eu hunain i’r ysgol, ac wrth gwrs, mae risgiau’n gysylltiedig â hynny. Felly, mae gennym lawer mwy sydd angen i ni ei wneud er mwyn unioni’r sefyllfa hon, a chredaf fod angen i Gymru arwain, fel gwlad, mae angen i ni fod ar y droed flaen, ac mae angen i ni weithio gyda’r gweinyddiaethau eraill ar draws y DU os ydym yn mynd i ymdrin â’r broblem hon.
Un peth ymarferol cyn i mi drosglwyddo’r awennau i’r siaradwr nesaf yn y ddadl: ceir polisïau rhyngrwyd sy’n ystyriol o deuluoedd a fabwysiadwyd gan rai busnesau ym Mhrydain, ond nid yw pob un o’r busnesau hynny wedi achub ar y cyfle i gael rhyngrwyd sy’n ystyriol o deuluoedd ar eu safleoedd. Ceir llawer o grwpiau gwestai, bwytai a rhannau o’r sector cyhoeddus nad oes ganddynt hidlwyr sy’n ystyriol o deuluoedd ar waith ar eu gweinyddion rhyngrwyd, ac mae’n hanfodol, rwy’n credu, ein bod yn cael y pethau hyn ar waith os ydym am gael mesurau diogelwch priodol ar gyfer ein plant yn y dyfodol.
Felly, rwy’n annog pobl i dderbyn y cynnig yn yr ysbryd y caiff ei gynnig heddiw, mewn ffordd amhleidiol, ac i weithio gyda ni er mwyn siapio’r dyfodol fel y gallwn gadw ein pobl ifanc yn ddiogel. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn i allu cyfrannu i’r ddadl yma’r prynhawn yma. Fel rhywun sy’n dad i blant sy’n dod i oed lle mae ganddyn nhw nawr bresenoldeb ar-lein ac ar wefannau cymdeithasol, rwy’n gallu uniaethu gyda rhai o’r sylwadau agoriadol a wnaethpwyd i’r ddadl yma. Wrth gwrs, rwyf i o genhedlaeth nad oedd wedi tyfu i fyny â gwefannau cymdeithasol yn bodoli. Mae’n anodd i rywun fel fi uniaethu, rwy’n meddwl, gyda fy mhlant i, sydd nid yn unig yn cael y profiad o ddarganfod, dysgu am, a deall y cyfryngau cymdeithasol yma, ond hefyd yn gorfod gwneud hynny ar yr un pryd â wynebu holl bwysau a heriau tyfu i fyny. Felly, wrth gwrs, nid oes rhyfedd bod hynny’n arwain at ryw gymysgwch o brofiadau emosiynol, sydd yn arwain at ganlyniadau, yn aml iawn, llai na hapus.
Rydym yn gwybod, yn ôl y gwaith mae’r NSPCC wedi amlygu, fod rhyw 20 y cant o blant rhwng wyth ac 11 oed â phroffil ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hynny’n codi i ryw 70 y cant i bobl ifanc 12 i 15 oed. Mae chwarter o blant wedi cael profiad sydd wedi peri gofid iddyn nhw ar safle rhyngweithio cymdeithasol a thraean wedi dioddef bwlio ar-lein. Felly, dyna flas, mewn gwirionedd, o ba mor ddifrifol yw’r sefyllfa, a hynny, wrth gwrs, sy’n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau mae Childline yn eu rhyddhau yn gyson, sydd yn dangos y galw cynyddol sydd yna am eu gwasanaethau nhw.
O dan y cwricwlwm cenedlaethol newydd—ac rydym wedi clywed cyfeiriad at hynny yn barod—mi fydd cymhwysedd digidol yn un o’r tri chyfrifoldeb traws-gwricwlwm. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl addas ac yn gwbl angenrheidiol. Mae’n rhywbeth y byddem ni i gyd yn ei groesawu. Mae’n hanfodol bod y fframwaith hwnnw yn grymuso plant a phobl ifanc i allu gwneud defnydd diogel o’r rhyngrwyd fel rhan sylfaenol o’u haddysg nhw. Dim ond heddiw roeddwn yn darllen adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd a oedd yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn y pedwerydd safle allan o 42 o wledydd o gwmpas y byd am y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chyfrifiadurol. Mae dros dri chwarter o ferched rhwng 11 a 15 oed, a bron 85 y cant o fechgyn, yn defnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn am ddwy awr neu fwy ar nosweithiau ysgol ar gyfer rhesymau heblaw chwarae gemau.
Nawr, nid oes angen arbenigwr i ddweud wrthym ni—er eu bod nhw wrth gwrs yn ategu’r neges—fod hynny’n cyflwyno perygl iechyd difrifol, o safbwynt iechyd meddwl a’n sicr oherwydd y peryglon seiber fwlio, ond hefyd y peryglon iechyd corfforol a’r risg cynyddol o ordewdra a chlefyd y siwgr math 2 yn y tymor hir, ac yn y blaen. Ac mi wnaeth arolwg o Chwefror y llynedd ar gyfer Safer Internet Day amlygu bod chwarter o bobl ifanc yn eu harddegau wedi dioddef casineb ar-lein yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, ar gyfryngau cymdeithasol roedd pobl ifanc fwyaf tebygol o ddod ar draws y fath gamdriniaeth, ac mewn rhai achosion, mi fyddai’r achosion hynny’n cael eu cyfri fel trosedd casineb, sydd eto yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa.
Dros yr wythnos diwethaf, fel y clywsom ni gynnau, mae seiberdroseddu wedi bod ar frig y newyddion gyda’r ymosodiad seiber ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ac yn yr Alban, wrth gwrs, sydd wedi cael cryn effaith ar wasanaethau yn fanna. Ond mae’n rhaid, wrth gwrs, inni gymryd yr un mor o ddifri troseddu yn erbyn unigolion ar-lein, er bod hynny’n fwy cudd yn aml iawn nag ymosodiad fel y gwelsom ni ar y gwasanaeth iechyd yn ddiweddar.
Dim ond y flwyddyn ddiwethaf dechreuodd yr ONS gyhoeddi ffigurau arbrofol ar seiberdroseddu, ac roedd y ffigurau yn llawer iawn uwch nag yr oedd unrhyw un wedi ei ddisgwyl, gyda 5.8 miliwn o droseddau yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at Orffennaf y llynedd. Mae hynny yn ddigon i bron iawn ddyblu’r gyfradd o droseddu yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Mi gynyddodd troseddau ‘harass-o’, gan gynnwys troseddau newydd fel cyfathrebu maleisus ar-lein, camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen, 90 y cant. Mi gynyddodd o 82,000 o achosion i 156,000. Felly, mae ‘scale’ y broblem nawr yn dod yn fwyfwy amlwg, ac felly mae ‘scale’ yr ymateb sydd ei angen yn wyneb hynny angen ei gynyddu hefyd.
Roedd merched yn derbyn bron i ddwywaith yn fwy o fygythiadau i’w lladd neu i ymosod arnyn nhw’n rhywiol na dynion. Yn ôl un astudiaeth—66 o achosion yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dim ond 10 y cant o’r merched a oedd wedi dioddef o gam-drin neu ‘harass-o’ ar-lein wnaeth adrodd hynny i’r heddlu. Felly, mae yna her ddifrifol yn ein hwynebu ni yn fanna hefyd.
Mae’r ffaith bod cymaint o gamdriniaeth yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynnu bod pobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol er mwyn eu pweru nhw i warchod eu hunain a’u buddiannau, a hefyd yn tanlinellu, fel y mae gwelliannau Plaid Cymru yn eu hamlinellu, yr angen i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol weithio gyda chwmnïau perthnasol ac eraill i fynd i’r afael â hyn, ac, wrth gwrs, gorau po gynted.
Rydw i’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae diogelu plant a phobl ifanc ar-lein yn parhau i fod yn her wirioneddol i gymdeithas heddiw, ac mae gyda ni gyd ddyletswydd i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn yn well rhag y peryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd. Fel dywedodd Darren Millar, mae’r rhyngrwyd yn offeryn anhygoel i addysgu ein plant i ehangu eu gorwelion dysgu a rhoi mynediad iddynt at adnoddau y gallai cenedlaethau blaenorol ond breuddwydio amdanynt. Wrth gwrs, nid yn unig mae’n arf gwych academaidd a all gefnogi dysgu ein plant, mae’r rhyngrwyd yn cynnig mynediad i’r adloniant diweddaraf drwy wasgu rhai botymau, ac mae’n annog plant i ddatblygu perthynas â’i gilydd drwy gyfryngau cymdeithasol. Ac er bod pob un o’r offerynnau hyn yn helpu i feithrin ac addysgu ein plant a’n pobl ifanc, mae’r rhyngrwyd hefyd yn gallu bod yn lle peryglus iawn.
Mae’r rhyngrwyd wedi dangos ei fod yn gallu helpu cryfhau perthnasoedd; gall hefyd roi plant mewn perygl o seiber fwlio, ecsbloetio a cham-drin, hyd yn oed, yn emosiynol a rhywiol. Nid oes angen i chi edrych yn rhy bell i ddod o hyd i straeon torcalonnus o blant ar draws y byd sydd wedi cymryd eu bywydau oherwydd y bygythiadau a’r bwlio maen nhw wedi’i ddioddef ar-lein. Dim ond yn ddiweddar, yn fy etholaeth i, fe fu farw merch 14 mlwydd oed yn ei chartref ar ôl brwydr gudd yn erbyn ‘cyber bullies’, mater roedd hi wedi cadw oddi wrth ei theulu. Yn anffodus, mae’r ferch ifanc yma yn un o llu o bobl eraill sydd, yn amlach na pheidio, yn dioddef yn dawel dan law bwlis sydd wedi defnyddio’r rhyngrwyd fel llwyfan i ledaenu casineb ac i gam-drin. Mae arnom ni ddyled enfawr i’r dioddefwyr hyn ac i’w teuluoedd, felly maen rhaid i ni wneud mwy i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel ar gyfer ein plant. Rydw i’n credu bod hyn yn dechrau drwy greu deialog llawer mwy agored ar draws ein cymdeithas am sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel ac yn fwy cyfrifol. Mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod y deialog hwn yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth, cartrefi ac mewn cymunedau ledled Cymru. Rydw i’n annog yr Ysgrifennydd Cabinet—ac fe wnawn ni bopeth ar yr ochr hyn i’w chefnogi hi—i ystyried sefydlu ymgyrch gyhoeddus eang yng Nghymru, sy’n annog pobl i drafod y manteision a pheryglon o ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau drwy weithredu galwad yr NSPCC am gynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr, sydd yn cael ei gefnogi gan grŵp cynghori digidol, i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein. Byddai trafodaeth gyhoeddus ehangach am ddiogelwch ar-lein, ynghyd â chynllun gweithredu diogelwch ar-lein dan arweiniad y Llywodraeth, gobeithio yn anfon neges gref bod diogelwch plant ar-lein yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a bod hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried o ddifri.
Wrth gwrs, mae gan ysgolion ran bwysig iawn i’w chwarae o ran amddiffyn plant a phobl ifanc, ac mae’n bwysig bod athrawon a chynorthwywyr addysgu’n cael hyfforddiant lawn a chyfredol ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, fel y gallant adnabod yn well y rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar-lein.
Felly, wrth ymateb i’r ddadl heddiw, efallai y gallai’r Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y lefel ac amlder yr hyfforddiant mae athrawon yn ei dderbyn mewn perthynas â dysgu plant a phobl ifanc am ddiogelwch ar-lein. Yn naturiol, dylai ysgolion ledled Cymru edrych i fabwysiadu polisïau ar gyfer atal a mynd i’r afael â seiber fwlio a hyrwyddo diogelwch ar-lein sy’n addas i’w cymunedau a’u diwylliant lleol. Rydw i’n derbyn bod rhywfaint o waith da iawn yn cael ei wneud ar draws Cymru. Fel dywedodd Darren Millar, mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ers 2014 i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein ymhlith ysgolion Cymru, ac rwy’n nodi eu bod wedi lansio offeryn hunan-adolygu i helpu ysgolion yng Nghymru asesu a gwella eu polisïau a’u harferion diogelwch. Ond ar ôl dweud hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, dim ond 78 y cant o ysgolion yng Nghymru sydd wedi cofrestru ac sydd yn defnyddio’r offeryn penodol hwn, sy’n golygu bod 22 y cant o ysgolion yn gwerthuso eu mesurau yn wahanol.
Nawr, tra bod rhaid i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth lunio polisïau sy’n adlewyrchu orau eu hanghenion a’u heriau eu hunain, yn sicr mae peth sgôp ar gyfer safonau sylfaenol ac fel y dylai ysgolion fod yn mesur eu heffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â diogelwch ar-lein. Mae Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu wedi galw ar Estyn i sefydlu safonau a disgwyliadau clir a chyson ar gyfer diogelwch ar-lein, ac i gefnogi ac arwain ysgolion ac asiantaethau eraill wrth gyrraedd y safonau hynny. Felly, efallai wrth ymateb i’r ddadl hon, gall Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa mor bell mae Estyn wedi mynd i ddatblygu’r safonau hynny.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae’r rhyngrwyd yn newid y ffordd yr ydym ni’n cyfathrebu, ac er fy mod i’n derbyn y gall y rhyngrwyd fod yn adnodd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol gwych, gall hefyd fod yn lle peryglus iawn i bobl sy’n agored i niwed, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol ein bod ni’n siarad yn agored am fanteision a risgiau defnyddio’r rhyngrwyd, ac annog plant i fod yn ddinasyddion digidol cadarnhaol, sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn hyderus ac yn ddiogel. Felly, rydw i’n annog Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r NSPCC, Stop It Now! Cymru ac Ymddiriedolaeth y Goroeswyr. Mae’r sefydliadau hyn yn ymroddedig i roi terfyn ar gam-drin ar-lein a chamfanteisio ar blant drwy ddull ataliol ac ymyrraeth gynnar. Rhaid gweld cam-drin plant yn rhywiol am yr hyn ydyw, a rhaid inni beidio â chilio rhag ei realiti. Rhaid codi llais ynglŷn â hyn. Mae cam-drin rhywiol yn ffynnu ar gyfrinachedd, ac er ein bod wedi treulio blynyddoedd yn addysgu plant am berygl dieithriaid, a sut i fod yn ddiogel pan fyddant allan yn yr awyr agored, mae anhysbysrwydd y rhyngrwyd yn galw am fesurau gwahanol i ddiogelu plant. Gan ein bod i gyd yn gyfrifol am gadw llygad ar y peryglon yn ein cymunedau, rhaid i gadw plant yn ddiogel ar-lein fod yn ymdrech gyfunol.
Mae plant ymhlith y grwpiau sy’n gwneud fwyaf o ddefnydd o gynnwys ar-lein. Yn ôl ystadegau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae 95 y cant o blant Cymru rhwng 7 a 15 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y cartref. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod plant a phobl ifanc yn treulio cyfartaledd o 15 awr yr wythnos ar-lein, sy’n fwy na’r amser y maent yn ei dreulio’n gwylio teledu. Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau ar-lein y mae plant yn eu defnyddio’n newid yn gyson, a gall fod yn anodd i rieni ac athrawon gadw rheolaeth ar hynny. Yn fwy penodol, yn aml ni fydd rhieni a gofalwyr yn gwybod am y gwahanol reolau a risgiau a ddaw gyda phob safle. Mae ymgyrch Net Aware yr NSPCC yn mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol, drwy roi adnoddau i rieni i gael gwybodaeth am y safleoedd y mae eu plant yn eu defnyddio, gan roi arweiniad iddynt ynglŷn â’r safleoedd hyn a’r risgiau cysylltiedig. Mae hon yn enghraifft wych o’r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau i ddiogelu ac amddiffyn plant.
O nifer y plant sy’n cysylltu â Childline, mae’n destun pryder mai edrych ar ddelweddau rhywiol penodol a welodd y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i’r llall, cynnydd o 60 y cant rhwng 2014-15. Nododd pobl ifanc fod pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein wedi defnyddio nifer o wahanol fforymau i gysylltu â hwy. Fodd bynnag, mae tactegau ystrywgar a ddefnyddir gan droseddwyr yn golygu nad yw llawer o blant sy’n ddioddefwyr yn ymwybodol eu bod yn cael eu hudo neu eu hecsbloetio, ac yn aml nid yw oedolion yn gallu adnabod yr arwyddion. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos ar hyn o bryd gyda bwrdd Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ar sut i ymdrin â materion diogelwch ar-lein anodd, megis anfon negeseuon testun rhywiol. Ond mae angen gwneud rhagor o waith gyda darparwyr rhyngrwyd, a hoffwn weld Llywodraeth y DU yn arwain yn fwy cadarn ar hyn.
Mae heddluoedd ledled Cymru’n gweithio gydag ysgolion i addysgu disgyblion ar faterion megis meithrin perthynas amhriodol, camfanteisio rhywiol, rhannu delweddau a chadw’n ddiogel ar-lein. Rhoddodd Heddlu Gwent, er enghraifft, 1,874 o wersi i bron 50,000 o ddisgyblion yn 2014-15. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi Operation NetSafe, ymgyrch ar gyfer Cymru gyfan a arweinir gan Heddlu De Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Lucy Faithfull, sy’n ceisio atal edrych ar a rhannu delweddau anweddus o blant ar-lein. Mae’r gwaith hwn yn bwysig, a rhaid rhannu arferion da bob amser.
Mae perthnasoedd iach yn hanfodol i helpu plant i ddeall terfynau, a sut i ymddwyn ar-lein, ac rwy’n falch fod y panel arbenigol yn darparu cyngor a chefnogaeth ar faterion sy’n ymwneud â hyn yn y cwricwlwm. Yn ogystal, mae’r newyddion heddiw gan yr Ysgrifennydd addysg i’w groesawu’n fawr. Bydd cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn adeiladu ar y rhaglen helaeth sydd eisoes ar y gweill mewn ysgolion i gynorthwyo pobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein. Yn olaf, mae’r grŵp trawsbleidiol yn cynnal digwyddiad diogelwch ar-lein yn y Pierhead ym mis Hydref, ac rwy’n gobeithio y bydd llawer o’r Aelodau’n bresennol i ddangos cefnogaeth a phenderfyniad i wneud popeth a allwn i fynd i’r afael â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein.
Diolch am y cyfle i siarad ar y cynnig y prynhawn yma, cynnig y credaf ei fod yn haeddu cefnogaeth drawsbleidiol. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn amddiffyn plant rhag peryglon y rhyngrwyd. Rydym i gyd yn ymwybodol o sut y mae’r rhyngrwyd wedi dod â manteision enfawr i’n cymdeithas. Boed ym meysydd busnes, masnach, addysg, neu’n syml yn y ffordd y down o hyd i wybodaeth, mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Mae rhai o’r farn na ellir neu na ddylid gwneud dim i reoleiddio’r rhyngrwyd. Ond y ffaith amdani yw bod yna ochr dywyll i’r rhyngrwyd hefyd.
Mae angen diogelu ein plant rhag effaith niweidiol pornograffi ar-lein, sydd wedi cael ei grybwyll gan lawer o’n cyd-Aelodau yn awr, a delweddau anghyfreithlon. Dylai ein hysgolion, Gweinidog, gael rhyw fath o bolisi e-ddiogelwch cynhwysfawr ar gyfer ein plant a hefyd ar gyfer y plant sy’n defnyddio’r rhyngrwyd heb oruchwyliaeth rhieni yn y cartref. Yn gynharach, crybwyllodd fy nghyd-Aelod fod ein plant yn defnyddio’r rhyngrwyd am fwy na 15 awr neu fwy na 44 awr yr wythnos, sy’n gwbl annerbyniol. Dylid eu haddysgu a’u rheoleiddio’n briodol. Mae’r rhyngrwyd yn farchnad ac fel pob marchnad arall, mae’n rhaid ei rheoleiddio.
Mae cynnydd wedi’i wneud eisoes ar wella diogelwch y rhyngrwyd. Yn 2013, cyhoeddodd y Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr gytundeb gyda’r pedwar darparwr gwasanaethau rhyngrwyd mawr i gynnig hidlwyr rhyngrwyd i rieni. Galluogai hidlydd i rieni ddewis yr hyn y gall a’r hyn na all eu plant ei weld ar-lein. Flwyddyn yn ddiweddarach, nododd pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin ar ddiwylliant a’r cyfryngau a edrychai ar ddiogelwch ar-lein, rai o’r heriau allweddol yr oedd angen i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â hwy. Argymhellodd y dylid gosod proses ddilysu oedran gadarn ar waith ar gyfer safleoedd cyfreithlon i oedolion. Yn ogystal, argymhellodd y pwyllgor y dylid cyflwyno mesurau a allai ei gwneud yn haws i hidlwyr weithredu ac i beiriannau chwilio beidio â dychwelyd y deunydd pan fyddent yn gweithredu mewn modd chwilio diogel. Croesawodd Llywodraeth y DU yr argymhellion a gwnaeth ddiogelwch y rhyngrwyd yn rhan orfodol o’r cwricwlwm newydd. Gall ysgolion yn Lloegr addysgu e-ddiogelwch mewn addysg bersonol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd ac mae’n ofynnol yn gyfreithlon iddynt gael mesurau ar waith i atal bwlio a seiberfwlio.
Ceir meysydd penodol eraill, Dirprwy Lywydd, lle mae’r rhyngrwyd mewn gwirionedd yn rhoi cymaint o fantais. Ond i’n plant ifanc iawn, ceir agweddau hunanladdol, casineb hiliol, anorecsia, gamblo a phethau eraill sydd wedi cael eu crybwyll eisoes. Ar draws Lloegr, mae gofyn bellach i ysgolion hidlo cynnwys ar-lein amhriodol ac addysgu disgyblion ynglŷn â chadw’n ddiogel. Mae gofyn iddynt hefyd sefydlu a chryfhau mesurau i amddiffyn plant rhag niwed ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio, pornograffi a’r risg o radicaleiddio, sydd fwy neu lai yn glefyd byd-eang y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. Bydd gweithwyr proffesiynol fel nyrsys, meddygon ac athrawon sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ar-lein newydd er mwyn eu harfogi â’r offer sydd eu hangen arnynt i drin risgiau ar-lein a chefnogi pobl ifanc yn y byd digidol cyfoes. Ond mae mwy i’w wneud, Dirprwy Lywydd.
Mae’r Prif Weinidog wedi addo y bydd ei Llywodraeth yn cyflwyno hawliau a diogelwch digidol newydd os caiff ei hailethol y mis nesaf. Rhoddwyd mesurau ar waith i ddiogelu myfyrwyr mewn ysgolion yng Nghymru ac i godi safonau e-ddiogelwch. Fodd bynnag, mae angen i Gymru ymgorffori pob mesur yn y system addysg. Galwodd NSPCC Cymru ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau newydd i helpu i ddiogelu plant ar-lein. Roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cynhwysfawr. Byddai grŵp ymgynghorol digidol yn ei gefnogi i sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran cadw plant yn ddiogel ar-lein. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i weithredu ar argymhelliad NSPCC Cymru.
Dirprwy Lywydd, mae diogelu ein plant rhag perygl y rhyngrwyd yn achos a ddylai uno’r Siambr hon yn hytrach na’i rhannu. Gall pawb ohonom gytuno y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddiogelwch ar-lein i gadw ein plant yn ddiogel. Rwy’n cefnogi’r cynnig; rwy’n gobeithio y bydd pawb yn gwneud yr un peth. Diolch.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi, mae yna nifer fawr o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd y dyddiau hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu hamlinellu yn y gwahanol gyfraniadau heddiw, gan gynnwys seiberfwlio, caethiwed i gamblo, meithrin perthynas rywiol amhriodol, annog hunan-niweidio a hefyd, fel y crybwyllodd Llyr, y problemau iechyd cyffredinol a allai ddatblygu o ganlyniad i bobl ifanc yn treulio gormod o amser ar y rhyngrwyd. Felly, rhaid ystyried yr holl bethau hyn, ac fel y mae’r cyfranwyr wedi cytuno yn gyffredinol heddiw, mae angen i ni gael ymagwedd gydgysylltiedig. Mae’n debyg y bydd angen ymateb cynhwysfawr ac amserol, fel y mae’r NSPCC wedi gofyn amdano. Rwy’n ymwybodol fod ysgolion ac awdurdodau lleol wedi rhoi mesurau ar waith mewn rhai ardaloedd, ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i ni ar hynny.
Wrth gwrs, y broblem gyda’r mater hwn yw ei fod yn datblygu’n gyflym, ac mae bygythiadau newydd yn dod i’r amlwg hyd yn oed wrth i wleidyddion fel ni eu trafod. Felly, mae’n anodd cadw rheolaeth ar y cyfan. Ac fel y dywedodd Darren yn ei ddatganiad agoriadol, mae’r plant eu hunain yn aml yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar-lein nag oedolion, fel pobl mewn ysgolion a rhieni.
Mae’r ffocws, bron yn anochel gan Lywodraeth, yn debygol o fod ar gyfraniad yr ysgolion. Er bod hyn i’w groesawu, y broblem yw nad yw bob amser yn mynd i fod yn llwyddiannus oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn tueddu i wrando bob amser ar yr hyn a ddywedir wrthynt yn yr ysgol. Felly, ni fydd rhai o’r problemau hyn yn dod i’r amlwg drwy drafod yn yr ysgol ac wrth gwrs, gall rhieni fethu sylwi arnynt. Ond yr hyn roeddwn yn mynd i ganolbwyntio rhywfaint arno oedd rôl rhieni yn y maes hwn. Yn aml, os oes problemau’n codi o’r defnydd o’r rhyngrwyd, mae’n debygol mai rhieni fydd yn sylwi arnynt yn gyntaf, yn hytrach nag ysgolion. Felly, mae’n hanfodol fod gennym rieni sy’n cael eu hannog i dreulio amser gwerthfawr gyda’u plant, megis rhannu amser bwyd, am fod angen iddynt ddeall beth yw ymddygiad normal eu plant cyn eu bod yn gallu sylwi ar unrhyw newidiadau yn eu hymddygiad. Ac yn aml iawn, os oes problemau’n digwydd ar-lein, byddant yn dod yn amlwg i rieni o’r modd y maent yn rhyngweithio â’u plant, ond wrth gwrs, mae angen iddynt gael y berthynas agos honno gyda’u plant i ddechrau.
Felly, er bod yn rhaid i ni edrych ar y math hwn o ymateb cynhwysfawr y mae pawb ohonom wedi bod yn ei drafod heddiw, mae angen i ni ganolbwyntio hefyd ar rôl rhieni, ac efallai fod yna rôl ym mha ymateb bynnag a ddyfeisiwn, neu ba ymateb bynnag y bydd y Llywodraeth yn ei awgrymu ar gyfer addysgu’r rhieni ynglŷn â’r angen am yr amser gwerthfawr gyda’u plant. Diolch.
Ychydig fisoedd yn ôl—ac rwy’n meddwl efallai fy mod wedi sôn am hyn fwy nag unwaith yn barod, felly ymddiheuriadau—euthum gyda chyd-Aelodau i weld y peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn CERN yn Genefa. Mae’r cyfleuster yn enfawr, ond yn llai na brycheuyn yn hanes y bydysawd. Mae’r gwaith, wrth gwrs, y mae miloedd o’n pobl ddisgleiriaf o bob cwr o’r byd wedi ymrwymo iddo yn waith drud y mae gwledydd yn awyddus i gymryd rhan ynddo, ac mae wedi goresgyn rhyfeloedd a galwadau ar byrsiau cenedlaethol ar adegau o ddirwasgiad. Dyna gartref datblygiad y we fyd-eang hefyd wrth gwrs, ac mae’r fersiwn gyntaf ohoni’n dal i fod yno. Gallwch ei gweld; mae fel y warws yn y ffilm Indiana Jones lle mae’r dynion blaenllaw hynny’n cuddio yn arch y cyfamod, a’r rhyngrwyd gynnar oedd honno. Mae’n gwbl ddealladwy pan fyddwn yn ystyried y risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ein bod yn digalonni’n llwyr wrth ystyried anferthedd y dasg. Nid yn unig ei fod yn fater o gydnabod y bydd angen ymateb byd-eang llawn yn ôl pob tebyg, fel y dywedodd Darren, ond y gydnabyddiaeth y bydd rhywun, ar bob cam y gallwn ei gymryd ar unrhyw lefel, o’r personol i’r rhyngwladol, bydd yna rywun sy’n gallu symud yn gyflymach na ni neu sy’n fwy cyfrwys na ni.
Wel, nid wyf yn credu bod hwnnw’n esgus digon da. Os yw’r byd yn gallu cydweithio i ddod o hyd i foson Higgs, gall gydweithio i ddiogelu ei blant rhag peryglon ar-lein. Ac mae erthygl 4 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn mynnu hynny, gyda’r ddyletswydd ar bartïon i gyflawni’r holl fesurau deddfwriaethol a gweinyddol a mesurau eraill sy’n briodol ar gyfer gweithredu’r hawliau a gydnabyddir yn y Confensiwn presennol. Ceir corff cynyddol o ymchwil byd-eang ar sut y gallai gwladwriaethau gyflawni hyn—llawer gormod i’w drafod heddiw—ond ar ran pob un ohonom fel mae’n digwydd, rwy’n credu bod cadarnhad y Llywodraeth Geidwadol o’r Confensiwn ar Seiberdrosedd yn 2011 yn ddatganiad o fwriad i weithredu. Ni ddylai’r ffaith mai un wladwriaeth ydym pan fo UNICEF yn nodi nad yw llawer o awdurdodaethau cyfreithiol yn gweithredu’n ddigonol o gwbl ein hatal rhag anelu at sicrhau mai Prydain yw’r wlad fwyaf diogel yn y byd i blant a phobl ifanc fod ar-lein. Mae Papur Gwyrdd i ddod yn y DU yn yr haf. Mae’n faes y credaf ei fod yn mynnu ein sylw, a chraffu ar ran pawb ohonom yn sicr. Jayne Bryant, rwy’n cytuno â chi fod hyn yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn edrych arno ac yn rhywbeth y gallai Llywodraeth y DU barhau i allu gwneud mwy yn ei gylch. Rwy’n gobeithio, mewn gwirionedd, y cawn amser i drafod ei egwyddorion yma yn y Cynulliad. Er bod y ddeddfwriaeth yn dod o le arall, mae hyn yn bendant yn rhywbeth i bob un ohonom.
Ond mae’n rhaid i mi ddweud, o ran deddfwriaeth, fy mod yn ystyried hwn yn fater eithaf anodd mewn gwirionedd gan fy mod yn teimlo ychydig yn sâl wrth feddwl am y wladwriaeth yn dod i mewn i fy nghartref. Ond roeddwn yn ymchwilio hyn ar-lein neithiwr, yn edrych ar rai o’r hysbysebion sydd wedi cael eu rhoi allan yno gan wahanol elusennau’n rhybuddio pobl ifanc rhag meithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin ar-lein, ac i fod yn onest, gwnaeth hynny i mi deimlo’n llawer iawn salach. Cefais fy hun yn cytuno gyda Claire Perry, yr AS y cyhoeddwyd ei hadroddiad seneddol ar ddiogelu plant ar-lein yn weddol ddiweddar, adroddiad sy’n argymell gwaharddiad diofyn ar gynnwys i oedolion, hidlwyr optio i mewn yn hytrach nag optio allan, ac ar gyfer cartrefi, y dull rheoli symlaf un clic ar gyfer rhieni. Rwy’n meddwl y gallwch gael rhywfaint o reolaeth dros fynediad at gynnwys yn eich cartref, ond y tu allan i’r cartref mae’n ymddangos ein bod yn dibynnu’n helaeth iawn ar addysgu plant a phobl ifanc, ac oedolion yn wir, ar sut i adnabod perygl, sut i’w osgoi a sut i roi gwybod amdano. Bûm mewn dosbarth, dosbarth o blant iau, yn Nyffryn Cellwen yn fy rhanbarth i weld sut olwg sydd arno yn yr ysgol honno ac roedd yn wych—yn gwbl briodol i’w hoedran. Ond mae Gareth Bennett yn iawn. I rai pobl ifanc yn eu harddegau a allai fod mewn gwirionedd yn deall yn iawn beth yw peryglon negeseuon testun a bwlio ac apiau trefnu oed, a pheryglon llai amlwg gemau ar-lein hyd yn oed, ar y pryd mae’r cyfan yn mynd yn angof yn wyneb gair o ganmoliaeth neu her.
Rwy’n credu y gallai fod angen i ni wynebu’r hyn sy’n dod yn natur gaethiwus cyfryngau cymdeithasol hefyd. Mae’r syniad fod pob rhiant yn eistedd wrth y bwrdd i drafod pethau gyda’u plant yn diflannu pan edrychwn ar deuluoedd yn awr, hyd yn oed os ydynt i gyd yn yr un ystafell, pob un ar eu dyfeisiau unigol, pob un a’i bethau unigol yn eu clustiau a phob un yn ei fyd ei hun. Fel pob dibyniaeth, mae’n tueddu i’ch gelyniaethu, i’ch pellhau oddi wrth y bobl sy’n gallu cynnig persbectif a diogelwch. Felly, rwy’n cymeradwyo’r holl operâu sebon a dramâu sy’n cyflwyno straeon am y peryglon i godi ymwybyddiaeth, ond am bob un sy’n gor-rannu sy’n postio llun, wyddoch chi, o ben-blwyddi plant neu ddiwrnodau chwaraeon neu gyngherddau ysgol, mae’n bosibl eu bod yn gwneud y plant hynny’n agored i risgiau, yn syml drwy gysylltiad â’r deunydd diniwed hwnnw. Wrth gwrs, daw hynny ochr yn ochr â’r math o bethau yr ydym wedi bod yn siarad amdanynt: mynediad at syniadau eithafol heb eu cymedroli, gamblo, cynnwys rhywiol anarferol, os mynnwch, ac wrth gwrs, malais y seibergyfaill newydd dengar sy’n gwneud i chi deimlo mor hynod o arbennig.
Mae’r gofod rhwng y sgrin a’r ymennydd ifanc yn fach, mae’n agos atoch ac mae’n gyfrinachol, ac nid wyf yn credu ei fod yn un y gall ymwybyddiaeth rhieni ei gyrraedd o reidrwydd. Felly, rwy’n sicr yn cefnogi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn awr. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru, yn y maes lle mae ganddi gymhwysedd, i drin ei phwerau fel dyletswyddau ac edrych efallai ar ei phwyslais ei hun ar ryngweithio digidol o bosibl fel llwybr i gyrraedd y bobl ifanc sydd yn y gofod cyfrinachol hwnnw. Diolch.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Darren Miller a’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma ac am y cyfraniadau meddylgar iawn a gawsom o bob rhan o’r Siambr? Rwy’n ofni, Dirprwy Lywydd, fod yn rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ddigon hen yn wir i gofio beth oedd ZX Spectrum, er bod rhaid i mi gyfaddef fy mod yn fwy o berson Commodore 64 fy hun. A gaf fi sicrhau’r Siambr fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i gadw ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel ar-lein? Nid oes unrhyw beth—unrhyw beth—yn bwysicach na diogelwch ein pobl ifanc ac mae gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein yn hanfodol yn ein byd heddiw. Dywedaf hynny fel Ysgrifennydd y Cabinet a dywedaf hynny fel mam i dair o ferched—dwy yn eu harddegau y mae colli cysylltiad Wi-Fi gartref yn drasiedi genedlaethol a dim llai.
Nawr, mae diogelwch ar-lein wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i ni. Er bod llawer o fanteision i’w cael o gofleidio technoleg ddigidol, mae yna hefyd amrywiaeth o risgiau posibl a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau yma y prynhawn yma. Mae Paul Davies yn iawn i’n hatgoffa am y bobl ifanc sydd wedi dewis rhoi diwedd ar eu bywydau o ganlyniad i seiberfwlio. Os ydym yn onest, rydym i gyd yn gwybod mai trolio gan ein gwrthwynebwyr yw un o agweddau lleiaf boddhaol y swydd hon, ac os yw’n ein diflasu ni, dychmygwch yr hyn y mae’n rhaid bod seiberfwlio di-baid yn ei wneud i’r meddwl ifanc roedd Suzy Davies yn siarad amdano.
Pan oeddwn yn blentyn, o leiaf pan oeddech yn mynd adref gallech ddianc rhagddo, ond mae bellach yn ddi-baid a 24 awr y dydd. Ac yna, wrth gwrs, mae’r mynediad at ddeunydd rhywiol penodol a’r effaith a gaiff hynny ar sut y mae bechgyn a merched yn gweld eu delwedd o’r corff a’r ffordd y gwelant sut beth yw perthynas rywiol iach mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, nid y rhai sy’n dioddef hyn yn unig sy’n wynebu canlyniadau. Weithiau, nid oes gan y rhai sy’n cyflawni rhai o’r problemau hyn fawr o syniad beth y gallai ei olygu iddynt hwy. Rwy’n ymwybodol o ddyn ifanc a gafodd ei ddal yn anfon negeseuon rhywiol. Pan ofynnodd yr heddlu iddo pam y gwnaethai hyn, dywedodd, ‘Wel, mae pawb yn ei wneud’. Nid oedd yn sylweddoli y bydd y rhybudd sydd bellach ar ei record yn ei atal am byth yn ôl pob tebyg rhag teithio i Awstralia neu’r Unol Daleithiau—oherwydd rhywbeth a wnaeth heb ddeall y canlyniadau, rhywbeth a wnaeth pan oedd yn fachgen 14 oed.
Felly, ein cyfrifoldeb fel cymdeithas yw arfogi ein pobl ifanc â’r sgiliau i allu meddwl yn feirniadol a gwneud eu ffordd drwy’r byd digidol mewn modd diogel a chyfrifol. Gwneir cryn dipyn o waith yng Nghymru i helpu pobl ifanc i gadw’n ddiogel ar-lein ac rwy’n falch fod hynny wedi cael ei gydnabod yma yn y Siambr y prynhawn yma. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, daeth y fframwaith cymhwysedd digidol yn weithredol. Dyma elfen gyntaf y cwricwlwm newydd i gael ei chyflwyno ledled Cymru. Mae elfen dinasyddiaeth y fframwaith cymhwysedd digidol yn canolbwyntio ar ddatblygu a chymhwyso sgiliau a strategaethau meddwl yn feirniadol. Bydd yn cynorthwyo ein pobl ifanc i ddod yn ddefnyddwyr cyfrifol ac annibynnol, sy’n gwbl hanfodol yn awr ac yn fwy felly, yn anochel, yn y dyfodol. Mae’n cynnwys elfennau penodol sy’n canolbwyntio ar ymddygiad ar-lein, seiberfwlio, ac iechyd a lles.
Er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol, mae Llywodraeth Cymru, fel y clywsom ar sawl achlysur y prynhawn yma, wedi bod yn gweithio gydag ymddiriedolaeth elusennol South West Grid for Learning ers 2014. Mae’r prosiect diogelwch ar-lein wedi cael nifer o lwyddiannau hyd yn hyn, yn cynnwys datblygu 360° Safe Cymru, offeryn hunanasesu diogelwch ar-lein dwyieithog, sydd, fel y clywsom, yn caniatáu i ysgolion feincnodi eu polisïau a’u darpariaeth diogelwch ar-lein cyfredol yn erbyn safonau cenedlaethol. Mae’r offeryn hefyd yn rhoi arweiniad a chymorth, gydag awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella ac ymestyn diogelwch ar-lein. Mae dros 85 y cant o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cofrestru ac rwy’n gweithio gyda’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o’r manteision y gall yr offeryn eu cynnig a’n disgwyliad y dylent fod yn ei ddefnyddio.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu a chyhoeddi’r adnodd diogelwch ar-lein ar gyfer Cymru. Casgliad o adnoddau ymarferol a chynlluniau gwersi yw hwn i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno diogelwch ar-lein yn ein hystafelloedd dosbarth. Lluniwyd yr adnoddau hyn i rymuso dysgwyr i feddwl yn feirniadol, i ymddwyn yn ddiogel, ac i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddant yn ar-lein. Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, cyhoeddasom dri modiwl hyfforddiant diogelu ar Hwb. Gwelwyd y modiwlau hyn dros 7,000 o weithiau eisoes ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi dau fodiwl pellach yn canolbwyntio’n benodol ar ddiogelwch ar-lein.
Darparwyd sesiynau hyfforddiant diogelwch ar-lein ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i wella sgiliau athrawon a llywodraethwyr i’w paratoi i ymdrin â materion y gallai pobl ifanc eu hwynebu ar-lein. Eleni, mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn drwy gynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi ychwanegol a bydd y rhain yn canolbwyntio ar faterion penodol fel y defnydd diogel o gyfryngau cymdeithasol a seiberfwlio. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod nifer o ysgolion wedi gweithredu eu sesiynau hyfforddi eu hunain ar ôl ysgol ar gyfer rhieni, gan wahodd rhieni i’r ysgol er mwyn iddynt gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gallant gynorthwyo eu plant yn well.
Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gynharach eleni, lansiais y parth diogelwch ar-lein newydd ar Hwb. Fe’i datblygwyd i gefnogi rhanddeiliaid addysg, gan gynnwys pobl ifanc, yn y maes hollbwysig hwn. Mae’r parth penodedig yn cynnwys newyddion, digwyddiadau, ac ystod o adnoddau ar faterion diogelwch ar-lein, ac mae’r adnoddau hyn yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd gydag amrywiaeth o bartneriaid trydydd sector. Mae’r parth hefyd yn cyfeirio rhai sy’n ymdrin ag effeithiau seiberfwlio tuag at wasanaethau cymorth priodol, ac rwy’n falch o weld, ers ei lansio, fod dros 40,000 o ymweliadau wedi bod â’r tudalennau. Wrth gwrs, mae angen i ni wneud rhagor, ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cydweithio i weld beth arall y gallwn ei wneud i helpu ysgolion ac athrawon i gryfhau materion yn ymwneud â lles ac iechyd meddwl, ac rydym yn gobeithio gwneud cyhoeddiad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflwyno rhaglen eang o weithgareddau diogelwch ar-lein. Yn ogystal, rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod yn wir yn comisiynu cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol. Bydd hwn yn darparu trosolwg strategol o sut y byddwn yn parhau i wella cymorth diogelwch ar-lein yng Nghymru, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei darparu wrth i’r gwaith ddatblygu.
A gaf fi unwaith eto ddiolch i bawb am eu cyfraniad i’r ddadl y prynhawn yma? Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliannau a’r cynnig fel y’i diwygiwyd. Diolch.
Diolch. A galwaf ar Darren Millar i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl eithriadol o dda, ac yn ddadl oleuedig iawn. Siaradodd llawer o’r Aelodau am eu profiadau personol o dechnoleg, ac yn wir maent wedi rhoi i ni rai o’r ffeithiau llwm iawn am gam-drin ar-lein, ecsbloetio ar-lein, a rhai o’r problemau y mae hynny wedi’u hachosi yn wir, gan gynnwys i unigolion mewn amgylchiadau tebyg i etholwr Paul, yn anffodus, a gyflawnodd hunanladdiad. Dylwn fod wedi talu teyrnged, mewn gwirionedd, i waith Jayne Bryant fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, gan ei bod wedi gwneud gwaith rhagorol yn tynnu sylw at hyn fel problem, ynghyd â’r NSPCC ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i’w gael yn fwy amlwg ar ein hagenda. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol, ac rwy’n falch eich bod wedi gallu cyfrannu at y ddadl heddiw.
Rwy’n meddwl hefyd—gwnaeth pwynt Gareth Bennett am rieni a rôl rhieni argraff fawr arnaf mewn gwirionedd, oherwydd ceir llawer o anwybodaeth ymysg rhieni, a dweud y gwir, am y cam-drin posib sy’n digwydd yn yr ystafell wely i fyny’r grisiau lle mae eu plentyn yn ymlochesu tra’u bod hwy i lawr y grisiau’n gwylio’r teledu, ac nid yw llawer o rieni yn ymwybodol o’r ffaith y gallant roi hidlwyr ar waith, y gallant roi apiau ar ffonau symudol pobl ac yn y blaen er mwyn diogelu eu teuluoedd yn well. Wyddoch chi, rwy’n dad—roedd yn dda clywed Kirsty fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at ei phlant hefyd—rwyf eisiau’r mesurau diogelwch gorau posibl ar waith ar gyfer fy mhlant, a gwnaeth yr adnoddau sydd ar gael os edrychwch amdanynt argraff fawr arnaf mewn gwirionedd. Felly, rwy’n meddwl bod y ffaith fod llawer o ysgolion yn ymgysylltu’n gwbl briodol gyda rhieni er mwyn eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd hynny’n beth da, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny yn eich ymateb i’r ddadl, Gweinidog.
Fel y dywedodd Suzy Davies yn gwbl briodol, mae hwn yn fater rhyngwladol, nid rhywbeth y mae angen i Gymru’n unig fynd i’r afael ag ef, neu rywbeth y mae angen i’r DU yn unig fynd i’r afael ag ef, ac rwy’n falch fod y DU ar flaen y gad mewn gwirionedd, ac yn gwneud pethau sy’n arwain y byd ar fynd i’r afael â pheryglon y rhyngrwyd. Roeddwn yn falch iawn hefyd o’ch clywed yn sôn am arch y cyfamod ar ôl i mi grybwyll llechi cerrig Moses ar ben mynydd Sinai, llechi cerrig a roddwyd yn arch y cyfamod wedi hynny, felly dyna gyswllt da yn y fan honno. Ond yn bennaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wrth fy modd gyda’ch ymateb i’r ddadl, am fy mod yn credu ei fod yn dangos ein bod wedi cael consensws ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn—ac nid yn unig hynny, ond eich bod yn barod i weithredu. Felly, roeddwn yn falch iawn o’ch clywed yn sôn am y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein cenedlaethol y gobeithiwch ei ddatblygu yn awr. Byddwn yn awyddus i weithio gyda chi ar hwnnw a chefnogi ei weithrediad ym mha ffordd bynnag y gallwn. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio hefyd nad yw’n ymwneud yn unig â’r ysgolion, nid yw’n ymwneud yn unig â gweithio gyda rhieni, mae angen i ni weithio gyda’r gymdeithas ehangach hefyd, gyda busnesau a sefydliadau eraill, yn y bôn, lle bynnag y mae Wi-Fi am ddim ar gael.
Un pwynt olaf yn y fan hon: roeddwn yn pryderu’n fawr—. Yn ddiweddar, trefnais gontract ffôn symudol gyda Vodafone—rwy’n mynd i’w henwi—ac roedd yn fargen wych. Fodd bynnag, un o’r problemau gyda’r contract oedd ei fod yn dod gyda hidlydd diogelwch rhyngrwyd awtomatig, a oedd yn wych, ond ar ôl mis, cefais wybod ganddynt fod yn rhaid i mi dalu rhagor er mwyn i’r hidlydd barhau. Dylai’r rhain fod yn bethau sy’n awtomatig. A dweud y gwir, dylem fod yn talu mwy am gael gwared ar yr hidlwyr, yn hytrach na gorfod talu am eu rhoi ar waith mewn gwirionedd. Felly, gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd, ar sail gorfforaethol yn y Cynulliad, i herio’r mathau hyn o bethau a’r mathau hyn o agweddau gan ddarparwyr teleffoni, gan fusnesau, nad ydynt yn talu’r sylw dyledus sydd angen ei wneud i beryglon diogelwch y rhyngrwyd, a gobeithio, gallwn wneud Cymru’n lle mwy diogel i dyfu i fyny ynddo. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu, iawn. Felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.