2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch am y trychinebau yn Llundain yn gynharach yn yr wythnos? Yn amlwg, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â dinasyddion Llundain a Manceinion, ac, yn y pen draw, trwy fwrw ymlaen â’n ffordd arferol o fyw, rydym ni’n trechu’r terfysgwyr hyn—y llabystaid hyn—sy'n achosi trychinebau mor ofnadwy o'r fath yn rhai o'n cymunedau. Ac, er efallai ein bod ni’n byw yng Nghymru, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chymunedau yn Llundain ac yn unrhyw le arall lle mae pobl yn teimlo dan fygythiad.
Hoffwn ofyn i chi, gyda hynny mewn golwg, gyda'r etholiad cyffredinol ddydd Iau erbyn hyn, yn amlwg bydd pobl yn pleidleisio ar sail ymrwymiadau a wneir gan y pleidiau, a dywedasoch chi, ddoe, yn eich swyddogaeth fel Prif Weinidog, y byddai Llafur, pe baent yn ennill ddydd Iau, yn cael gwared ar fformiwla Barnett. Ac eto heddiw, rydym ni wedi cael Llafur yr Alban dweud yn gadarn nad oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar fformiwla Barnett. Pwy sy'n iawn, Kezia Dugdale neu Carwyn Jones?
Wel, rwyf wedi siarad gyda Kezia Dugdale. Yr hyn yr ydym ni’n ei wybod yw y bydd y Torïaid yn cymryd arian oddi wrth Gymru a'r Alban, ac mae hynny'n rhywbeth sy’n eithaf eglur o ran eu maniffesto. Dyma’r sefyllfa yn eithaf syml: o ethol Llywodraeth Lafur, byddai Barnett yn parhau i fod ar waith yn y byrdymor. Yna, byddai fformiwla ariannu hirdymor yn cael ei roi ar waith yn ôl anghenion gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU, gan sicrhau, wrth gwrs, nad oes unrhyw ran o'r DU o dan anfantais annheg. Mae hynny'n golygu y byddai Barnett yn dod i ben bryd hynny. Tybed lle mae'r ymrwymiad gan y Ceidwadwyr i sicrhau cyllid teg i Gymru.
Wel, fel y gwyddoch yn iawn, rhoddodd y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan y terfyn ariannu isaf ar waith, a gymeradwywyd yn wresog gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol dim ond ym mis Rhagfyr y llynedd. Tair blynedd ar ddeg—ni wnaethoch chi ddim. Ond nid dyna'n union y mae Ceidwadwyr yr Alban yn ei ddweud, a chynigiais y cyfle i chi egluro eich sefyllfa gan eich bod chi’n gadarn iawn neithiwr gan ddweud y byddai fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. A dweud y gwir, yr hyn y mae plaid Lafur yr Alban yn ei ddweud yw na fydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu, a dyma eu geiriau:
I beidio â diddymu fformiwla Barnett.
Y cwbl sy’n cael ei gynnig yn unig yn y Senedd nesaf—dyma eu geiriau—yw ymgynghoriad hirdymor i ystyried y cyllid y mae’r DU yn ei ddyrannu o gwmpas y gwariant cyhoeddus a ddaw o San Steffan i sicrhau ei fod yn adlewyrchu gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig. Eu geiriau nhw yw’r rheina. Nid yw hynny'n cael gwared ar fformiwla Barnett o gwbl. A ydych chi’n camarwain pobl Cymru gyda'ch sylwadau ddoe, Prif Weinidog?
Dyna'n union y mae’n ei olygu. Os oes fformiwla newydd ar waith, dyna ddiwedd Barnett, ar yr adeg honno. Wrth gwrs, yn y byrdymor byddai Barnett yn parhau oherwydd nid oes unrhyw beth arall ar gael ar y pryd, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn derbyn cyllid teg. Do, daethom i gytundeb ar gyllid, ac mae hynny oherwydd i Lywodraeth y DU wrthod yn benderfynol i edrych ar gyllid cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Roedd yn sefyllfa gyfaddawd. Nid ydym erioed wedi newid ein safbwynt, fel Llywodraeth, fod fformiwla Barnett wedi cyrraedd diwedd ei oes, a nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer fformiwla newydd a fyddai'n adlewyrchu anghenion priodol gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU fel y maen nhw nawr, nid fel yr oedden nhw ym 1979.
Prif Weinidog, roeddech chi’n eglur iawn neithiwr o’r safbwynt eich bod chi’n dweud eich bod chi’n diddymu fformiwla Barnett, a dyna’i diwedd hi. Nid oedd unrhyw amwysedd ynghylch hynny. Roeddech chi’n dweud hynny neithiwr ar y teledu a thrwy'r newyddion. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud, yn eithaf eglur, na fydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. Sut ar y ddaear all unrhyw un gymryd unrhyw un o’r addewidion yr ydych chi’n eu gwneud o ddifrif, pan rydych chi wedi cael eich dal allan yn ystod wythnos olaf yr ymgyrch hon? Yn y pen draw—[Torri ar draws.] Mae'r Blaid Lafur—[Torri ar draws.] Mae'r Blaid Lafur—
Gadewch i Andrew R.T. Davies barhau ei gwestiwn.
Efallai y gwnaiff y Blaid Lafur watwar, ond, yn y pen draw, mae ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystyriaeth hanfodol i’r etholwyr ddydd Iau. Rydym ni wedi cyflwyno terfyn ariannu isaf, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, sy'n sicrhau na fydd cyllid yng Nghymru yn mynd o dan £115 ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Dywedasoch chi, ddoe, mai polisi'r Blaid Lafur oedd cael gwared ar fformiwla Barnett. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud nad yw hynny'n wir, ac mai’r cwbl a fydd yn cael ei gyflwyno yw ymgynghoriad. A oes ffaith bod holl bolisïau Llafur wedi eu hadeiladu ar dywod, Prif Weinidog?
Onid yw'n drueni na wnaiff e gefnogi sefyllfa lle mae Cymru’n cael y cyllid y mae'n ei haeddu? Onid yw'n drueni? Mae'n dangos y ffordd maen nhw’n meddwl a dweud y gwir. Onid yw'n drueni nad oedd e yno i wneud y pwyntiau hyn mewn dadl mor dda ar y teledu? Wyddoch chi, rwy’n siŵr ei bod yn bosibl gweld darllediad byw o Gran Canaria i sicrhau bod ei farn wedi cael ei mynegi fel rhywun sy'n honni i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Fel y dywedodd yn gywir, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amharod i gymryd rhan yn y drydedd ddadl—tynnodd yn ôl gan fy mod i ynddi. Dyna’r hyn a glywsom. Nid oedd yn barod i ddod i ddadlau—ac arweinwyr eraill hefyd—a chyflwyno achos y Ceidwadwyr. Mae ganddo dipyn o wyneb i ddod gerbron y Siambr hon a dweud rywsut bod pethau'n draed moch ar y meinciau hyn pan, ar dri gwahanol achlysur, na allai’r Torïaid hyd yn oed anfon yr un person mewn tair gwahanol ddadl, mor brin o hyder yr oedden nhw yn eu hachos eu hunain. Rydym ni wedi gweld yn ystod y dyddiau diwethaf draed moch ar ôl traed moch ar ôl traed moch yn y blaid Geidwadol. Rwy'n ei wahodd i ddarllen maniffesto Llafur y DU, lle mae'n gwbl eglur, lle mae'n dweud y bydd fformiwla ariannu newydd sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU—ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud; ymrwymiad y mae ei blaid wedi rhedeg oddi wrtho.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Iau, bydd pobl yn mynd i bleidleisio mewn etholiad pwysig iawn. Nodwyd sut yr ydych chi wedi dileu arweinydd eich plaid yn y DU o’ch ymgyrch, a sut yr ydych chi wedi cyhoeddi maniffesto ar wahân. Ceir dau faniffesto Llafur—tri, os ydych chi’n cyfrif maniffesto yr Alban y cyfeiriwyd ato'n gynharach.
Er mwyn bod yn agored, yn dryloyw, ac yn onest cyn i bobl fwrw eu pleidlais ddydd Iau, a wnewch chi ddweud wrthym: a yw Aelodau Seneddol Llafur a etholir yng Nghymru ddydd Iau nesaf wedi eu rhwymo gan yr ymrwymiadau yn eich maniffesto chi neu gan yr ymrwymiadau ym maniffesto eich arweinydd Llafur yn y DU?
Gan faniffesto Llafur Cymru, gan nad oes deuoliaeth rhwng y ddau faniffesto. Efallai fod arweinydd Plaid Cymru wedi sylwi bod datganoli wedi digwydd ym 1999, ac, ar y sail honno, nid yw'n bosibl i bleidiau gwleidyddol sydd â phresenoldeb yng ngwahanol wledydd y DU lunio maniffesto sy’n union yr un fath. Rydym ni’n adlewyrchu realiti datganoli, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud yn ein maniffesto. Nid oes unrhyw anghysondeb o ran maniffesto Llafur Cymru a maniffesto Llafur y DU, ac eithrio meysydd sydd wedi'u datganoli, pan fydd y penderfyniadau ynghylch y polisïau hynny yn cael eu gwneud yma.
Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw wahaniaethau. Prif Weinidog, mae gwahaniaethau yn y ddau faniffesto, ond byddaf yn dod yn ôl at hynny maes o law. Disgrifiwyd arweinydd eich plaid yn amrywiol fel 'y dyn a dorrodd y Blaid Lafur'—dyna ddywedodd Chris Bryant—'gwallgofddyn ar frig y Blaid Lafur'—Owen Smith ddywedodd hynny—'chwith eithafol' ac 'allan o gysylltiad â’r etholaeth'—dyna ddywedodd Stephen Kinnock. A hoffech chi gysylltu eich hun ag unrhyw un o'r datganiadau hynny am eich arweinydd, neu a hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymbellhau eich hun oddi wrth safbwyntiau’r ymgeiswyr Llafur Cymru hynny?
Wel, gadewch i mi ei gwneud yn eglur iawn: byddai Jeremy Corbyn yn gwneud Prif Weinidog ardderchog. Byddai'n cynnig gobaith i Brydain yn hytrach na'r olyniaeth ddiddiwedd o doriadau Torïaidd yr ydym ni wedi eu gweld gan y meinciau gyferbyn. Byddem yn gweld Llywodraeth a fyddai'n symud Prydain ymlaen, yn darparu setliad priodol, datganoledig i Gymru, yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi ei chyflwyno, tra, ar yr un pryd, rydym ni’n gweld Plaid Cymru yn ystyried creu clymblaid gyda'r Torïaid yng Nghonwy.
Maen nhw bob amser yn tynnu’r un yna allan, onid ydynt, pan nad oes ganddyn nhw ddim ar ôl? Prif Weinidog, mae'n rhaid eich bod chi mewn anobaith i chwarae ar—
Iawn. Mae angen i ni glywed yr hyn sy'n cael ei ofyn a'r atebion. Felly, gadewch i ni gyd dawelu ac edrych ymlaen at yr wythnos nesaf.
Hoffwn ddod yn ôl at y pwynt hwn am y gwahaniaethau yn y maniffestos rhyngoch chi a'ch arweinydd Llafur yn y DU. Gwahardd contractau dim oriau, diddymu ffioedd dysgu, y rheilffyrdd mewn dwylo cyhoeddus: dyna’r hyn sydd ym maniffesto’r DU. Mae Llafur mewn grym yma ac nid oes yr un o'r polisïau hyn wedi cael eu rhoi ar waith. A allwn ni gael ymrwymiad gennych chi nawr y byddwch chi’n rhoi eich cefnogaeth ddigamsyniol i'r polisïau hynny nawr ei fod yn bolisi swyddogol eich plaid, neu a ydych chi’n derbyn eich bod chi ar fin camarwain yr etholwyr ddydd Iau?
Does dim byd yn fwy camarweiniol na phlaid sy'n dweud, ‘Rydym ni eisiau mwy o arian gan San Steffan’, ond ar yr un pryd yn dweud, ‘Rydym ni eisiau annibyniaeth o San Steffan’. Mae hynny'n anghysondeb sylfaenol. Ond mae hi’n gofyn tri chwestiwn. Yn gyntaf oll, os caiff yr arian ei wneud ar gael i ni edrych eto ar gyllid i fyfyrwyr, yna byddwn yn gwneud hynny—wrth gwrs y byddwn ni. Nid yw contractau dim oriau wedi eu datganoli ar y cyfan. Nid ydym yn cefnogi contractau dim oriau. Maen nhw’n gwneud sioe o hynny. Rydym ni, fel plaid, eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gweld cymdeithas sy'n deg, sy’n gyfiawn, a lle mae pobl yn cael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y dyfodol. Dim ond Llywodraeth Lafur yn y DU all wneud hynny. Ni all Plaid Cymru gyflawni dim.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y byddaf yn cario’r Prif Weinidog gyda mi wrth ddweud bod y 10 munud diwethaf wedi profi, yn anad dim arall, bod yr amser i sgorio pwyntiau diffrwyth wedi hen fynd heibio yn yr ymgyrch etholiad cyffredinol hon i gael unrhyw effaith gadarnhaol y naill ffordd neu’r llall, ac felly y dylem ni ganolbwyntio mwy ar adeiladu dyfodol economaidd llwyddiannus i Gymru ar y cyd, gan gefnogi pleidiau eraill lle mae hynny'n angenrheidiol. Ac, i'r perwyl hwnnw, hoffwn gyfeirio yn ôl at y cwestiwn a ofynnodd Adam Price cyn cwestiynau arweinwyr y pleidiau, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i'w gwestiwn atodol ynghylch sut y mae'n rhaid i’r Llywodraeth gynnal diwydrwydd dyledus priodol ar y cynnig presennol, ond mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar gyllid cychwynnol y prosiect hwn yn cynnwys catalog o gyfleoedd i ddiwydrwydd dyladwy gael ei gynnal yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddechrau gyda'r galw cais cynllunio i mewn yn 2012, a gymeradwywyd gan Carl Sargeant ar sail ei fanteision economaidd-gymdeithasol. Yn 2014, roedd gennym ni’r cyllid cychwynnol o £16 miliwn ar gyfer datblygu’r prosiect, ac yna cawsom ymchwiliad cyhoeddus i dadgofrestriad y tir comin. Yna, ym mis Ebrill 2016, gwrthododd Edwina Hart y cais gwarant cyntaf. Ym mis Gorffennaf 2016, gwrthododd Ken Skates yr ail gynnig gwarant, a arweiniodd wedyn at drafodaethau dwys gyda swyddogion ar amrywiaeth o faterion pwysig, ac yna, eleni, ym mis Ionawr, cawsom ni’r taflenni tymor wedi’u hariannu'n llawn a ddarparwyd gan y cwmni ac fe’n hysbyswyd y byddai diwydrwydd dyladwy yn para tair i bedair wythnos. Ymestynnwyd hynny wedyn i chwe wythnos ac yna fe’i hymestynnwyd ymhellach, ac mae'r Prif Weinidog heddiw wedi rhoi i ni, rwy’n gobeithio, dyddiad terfyn ar gyfer ystyried y cynnig hwn. Felly, rydym ni wedi cael diwydrwydd dyladwy diddiwedd, a gwn fod yr archwilydd cyffredinol wedi gwneud nifer o feirniadaethau pwysig o'r broses. Nid wyf eisiau trafod hynny nawr, gan fy mod i eisiau gweld y prosiect hwn yn llwyddo ac rwy’n gobeithio, yn y pen draw, bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’w gymeradwyo. Ond onid yw'n credu bod y broses drofaus hon yn llawer rhy hir, er bod hwn yn brosiect enfawr ar gyfer y dyfodol? Mae ei botensial trawsnewidiol mor fawr y dylem ni fod wedi bwrw ymlaen â hyn yn llawer mwy diwyd nag yr ydym ni wedi ei wneud.
Pan ddaw i gais cynllunio neu ddadgofrestru tir comin, ni fyddai diwydrwydd dyladwy yn digwydd ar yr adeg honno gan nad ydynt yn—. Maen nhw’n geisiadau cynllunio ac maen nhw'n geisiadau nad ydynt yn ymwneud â chadernid neu beidio busnes penodol. Mae hynny’n dod yn nes ymlaen. Nid wyf yn ymddiheuro am y broses diwydrwydd dyladwy. Mae'n gadarn. Mae wedi cymryd mwy o amser nag y byddem wedi dymuno. Mae hynny oherwydd y bu’n rhaid cael gafael ar wybodaeth ar adegau penodol, a darparwyd y wybodaeth honno. Rwyf wedi rhoi dyddiad i’r Aelodau yr ydym eisiau gwneud y penderfyniad hwnnw yn ei erbyn ac rwyf wedi dweud wrth yr Aelodau yr hoffwn weld y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Ond mae'n rhaid iddo fynd yn ei flaen ar sail sy'n gynaliadwy a lle mae’r risg i bwrs y wlad yn dderbyniol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gweld hefyd ar wefan y BBC heddiw bod y Llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau gyda'r nod o gael pencampwriaeth golff Agored Prydain i ddod i Gymru, a'r Tour de France hefyd, a cheir posibilrwydd hefyd, os nad yw stadiwm Brwsel yn barod mewn pryd, y gallai Ewro 2020 gael ei gynnal yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi diddordeb y Llywodraeth yn hynny. Mae Ken Skates wedi dweud yn ddigon teg bod gan Gymru botensial mawr i gynnal digwyddiadau mawr newydd nad ydynt wedi bod i Gymru eto. Mae Cylchffordd Cymru eisoes wedi ennill y contract ar gyfer y Moto Grand Prix, ac mae hwnnw’n gyfle arall eto i ni yng Nghymru i ddangos yr hyn y gallwn ei wneud fel cynhaliwr prosiectau chwaraeon mawr y byd. Ac felly mae hyn yn cyd-fynd ag amcan cyffredinol y Llywodraeth o sicrhau bod Cymru yn lleoliad chwaraeon rhyngwladol o bwys, ac mae hynny'n rheswm arall i ni weld llwyddiant y prosiect hwn.
Ni allaf ond ailadrodd yr hyn yr wyf eisoes wedi ei ddweud wrtho, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod potensial y gylchffordd, ac rwyf wedi dweud ei fod yn rhywbeth y byddem ni eisiau ei gefnogi, ond mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar fodel sy'n gadarn, a model sy'n gweithio'n dda i fuddsoddwyr preifat a chyhoeddus.
Ac mae hefyd yn bwysig nodi nad oes cais am unrhyw arian cyhoeddus i’w fuddsoddi yn y prosiect hwn ymlaen llaw, ac mai’r cwbl y gofynnir amdano yw sicrwydd, sy’n sicrwydd masnachol y byddai'r Llywodraeth yn talu i’w ariannu, a fyddai’n cael ei ddefnyddio dim ond pan fydd yr holl waith adeiladu ar y safle wedi ei gwblhau, felly bydd asedau ffisegol y gellir sicrhau’r benthyciad yn eu herbyn. Ac, yn flynyddol, dywedir mai’r risg fwyaf i Lywodraeth Cymru yw £8.5 miliwn i £9 miliwn y flwyddyn, llawer iawn o flynyddoedd i’r dyfodol am gyfnod cyfyngedig o amser. Felly, mae'r risg yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o'r asedau, ond mae'r sicrwydd yn mynd i fod yn berthnasol i lai na hanner gwerth yr asedau hynny. Felly, ar yr olwg gyntaf, mae hwn yn edrych fel cytundeb da iawn, ac, er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhaid i ni fynd drwy'r broses diwydrwydd dyladwy, mae, rwy’n meddwl, yn hanfodol bwysig i ffyniant economaidd, nid yn unig de-ddwyrain Cymru, ond de Cymru gyfan, fod y prosiect hwn yn cael ei gymeradwyo.
Mae hyn oll yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. Nid oes unrhyw wahaniaeth yn fy nhyb i rhwng cais i ddarparu arian ymlaen llaw a chais i roi sicrwydd. Mae'r ymrwymiad yr un fath. Yn wir, gyda sicrwydd, mae angen mwy o gadernid o ran sicrhau bod y sicrwydd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio. Rwy'n credu na ellir fyth fod yn sicr—os caf i ddefnyddio hynny—ond mae'n bwysig bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw berygl i bwrs y wlad cyn lleied â phosibl, a dyna beth rydym ni’n ei ystyried yn rhan o'r broses hon. Ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'n brosiect sydd â photensial, ac rwy'n credu bod hyn wedi helpu'r gylchffordd ei hun—mae proses brofi gadarn o'u model yn dda iddyn nhw. Gallant feddwl wedyn yn ofalus am yr hyn y maent yn credu fydd yn gynaliadwy yn y tymor hwy, ac ar y sail honno rydym ni’n edrych ymlaen nawr, pan fydd yr holl wybodaeth wedi ei derbyn—yr wythnos rydym ni’n tybio—i allu gwneud penderfyniad yn ystod y pythefnos neu dair wythnos nesaf.