– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 14 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Julie Morgan i gynnig y cynnig—Julie.
Cynnig NDM6311 Julie Morgan, Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns, Mark Isherwood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i gynnig y cynnig pwysig hwn a gefnogir gan Hefin David, Dai Lloyd, Angela Burns a Mark Isherwood.
Rydym wedi dechrau ar daith yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i nodi a thrin pawb sydd â’r feirws a gludir yn y gwaed, hepatitis C. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgadarnhau ei hymrwymiad i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn 2030, y dyddiad a bennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ac rydym yn llongyfarch meddygon a nyrsys y GIG am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud ar drin a gwella nifer digynsail o bobl sydd â hepatitis C. Rydym hefyd yn galw am ganllawiau gweithredol newydd i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru i helpu staff meddygol y GIG yn y dasg anodd hon. Gwnaed cynnydd gwych eisoes ar alluogi mynediad teg a thryloyw at feddyginiaethau newydd mewn ffordd fforddiadwy a chyfrifol. Mae’r triniaethau newydd wedi’u cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac maent yn gosteffeithiol. Bydd pob claf yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at gyffuriau newydd gwrthfeirysol hynod o effeithiol, ac yn wir, cafwyd cyfradd wella o 95 y cant, sydd mor galonogol. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan y grŵp feirysau a gludir yn y gwaed, a hoffwn dalu teyrnged iddynt hwy ac i Dr Brendan Healy, sef y meddyg ymgynghorol arweiniol. Dywedodd: ‘Rwy’n falch iawn o allu cynrychioli tîm mor anhygoel. Mae’r gwaith a’r ymdrech y maent wedi’i wneud yn aruthrol’. Mae fy nghysylltiad â’r grŵp hwn, rwy’n meddwl, o ddifrif yn dangos y GIG ar ei orau.
Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy’n effeithio ar yr afu. Mae 80 y cant o’r bobl a heintir yn datblygu hepatitis C cronig, sy’n gallu achosi sirosis angheuol a chanser yr iau os na chaiff ei drin. Yr amcangyfrif yw bod 240,000 o bobl wedi’u heintio’n gronig â hepatitis C yn y DU, ac mae oddeutu 12,000 o’r rhain yng Nghymru. Ond nid yw’r union ffigur yn hysbys oherwydd bod cymaint o bobl â’r haint heb wybod ei fod arnynt. Ac rydym yn gwybod ei fod yn effeithio’n arbennig ar bobl o gymunedau difreintiedig; daw bron hanner yr achosion o’r un rhan o bump tlotaf o’r gymdeithas.
Caiff hepatitis C ei drosglwyddo drwy gysylltiad â gwaed a heintiwyd. Ac mae’n wir fod y rhan fwyaf yn cael eu heintio ar ôl chwistrellu cyffuriau. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn dangos bod 50 y cant o’r bobl sy’n chwistrellu cyffuriau yng Nghymru wedi’u heintio gan hepatitis C. Ond mae’r feirws hefyd yn effeithio ar y rhai a allai fod wedi cael gofal meddygol dramor, a phobl sydd wedi cael trallwysiad gwaed yn y DU cyn 1991, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys hemoffiligion, fel y gwn o fy ngwaith fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig.
Mewn nifer o ffyrdd mae hepatitis C yn glefyd cudd oherwydd gall pobl fyw heb symptomau am ddegawdau ar ôl cael eu heintio. Rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod am achos Anita Roddick, a sefydlodd The Body Shop, gan na ddarganfu fod ganddi hepatitis C hyd nes 2004. Fe’i cafodd drwy drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch yn 1971. Felly, roedd yn byw gyda’r clefyd hwn ers 30 mlynedd heb yn wybod iddi, a bu farw o gymhlethdod yn sgil clefyd yr afu yn 2007.
Rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn yng Nghymru, diolch i arweiniad a chyllid Llywodraeth Cymru. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer clefyd yr afu 2015 yn nodi cynllun i ddileu hepatitis C, ochr yn ochr â thrin mathau eraill o glefyd yr afu. Daeth llwyddiant mawr ym mis Medi 2015, pan gytunodd y Gweinidog cyllid, Jane Hutt, ar gyllid o £13.8 miliwn am gyffuriau newydd di-interfferon sofosbuvir, Harvoni a AbbVie. Defnyddiwyd yr arian i drin 466 o’r cleifion mwyaf sâl â hepatitis C, a gwellodd 432 ohonynt, gan gynnwys aelodau o’r gymuned hemoffilia yng Nghymru. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar fywydau’r bobl hyn, ac mewn gwirionedd cafodd yr hemoffiligion eu trin â’r cyffuriau newydd cyn eu cymheiriaid yn Lloegr, ac mae rhai o’r rheini’n dal i aros am help.
Un enghraifft o glaf yng Nghymru yw David Thomas, sy’n un o etholwyr Ysgrifennydd y Cabinet ac mae’n aelod o’r grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed halogedig. Daliodd hepatitis C drwy waed halogedig pan oedd yn ei arddegau yn y 1980au a bu’n byw gydag ef am 30 mlynedd, ond roedd yn un o’r rhai cyntaf i gael triniaeth gyda’r cyffuriau newydd, sydd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr, ac wedi cael gwared ar gwmwl enfawr, fel y dywedodd.
Felly, yn amlwg, un o’r heriau yn awr yw argyhoeddi pobl a allai fod wedi cael triniaeth aflwyddiannus yn y gorffennol i ddod i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C gan ddefnyddio’r cyffuriau interfferon. Croesawaf y ffaith fod gan fyrddau iechyd £25 miliwn y flwyddyn bellach sy’n caniatáu i 900 o bobl y flwyddyn gael eu profi dros gyfnod o bum mlynedd. Rhaid i ni sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ariannu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â hyn. Cafodd mwy na 700 o bobl eu trin yn 2016-17, ond rwy’n deall mai’r broblem yn awr yw dod o hyd i’r bobl y mae angen cynnal profion arnynt ar y pwynt hwn. Nid oes unrhyw restrau aros i gael triniaeth ar hyn o bryd. Mae’r arian a’r cyffuriau yno, ond mae angen dod o hyd i’r 50 y cant o bobl sydd â hepatitis C heb yn wybod iddynt.
Yr her fawr arall a wynebwn wrth geisio cael gwared ar hepatitis C yw cyrraedd pobl nad ydynt yn ymwybodol o’r feirws am nad ydynt yn ymweld â’u meddygfa yn rheolaidd. Fel y dywedais, nid yw 50 y cant o’r bobl sydd â’r feirws wedi cael diagnosis eto yn ôl Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Grwpiau eraill a allai fod mewn perygl yw pobl sy’n defnyddio’r gampfa ac sy’n cymryd cyffuriau i wella’u perfformiad; defnyddwyr cyffuriau sydd â hepatitis C; carcharorion sy’n cael eu profi yn ystod eu carchariad ond nad ydynt yn cael y canlyniadau mewn pryd cyn eu rhyddhau; ceiswyr lloches, mewnfudwyr a phobl ddigartref. Mae pawb sy’n gweithio i ddileu hepatitis C yn dweud mai un o’r problemau mwyaf yw’r stigma sydd ynghlwm ag ef, ac rwy’n falch iawn fod ymgyrch yn mynd i gael ei lansio yng Nghymru yma yn y Cynulliad ar 11 Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Un ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg ymwybyddiaeth a’r stigma ynglŷn â hepatitis C yw drwy ddefnyddio mentoriaid cymheiriaid, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae angen rhaglen i addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ynglŷn â hepatitis C, nid aelodau’r cyhoedd yn unig, gan ei bod yn bwysig iawn fod meddygon teulu yn sylwi ar yr arwyddion ac yn argymell profion ac yn atgyfeirio pobl i gael triniaeth. Mae angen i fwy o weithwyr iechyd proffesiynol gael hyfforddiant. Mae angen targedau wedi’u cytuno’n genedlaethol a hyfforddiant mewn profion smotiau gwaed sych i fferyllfeydd. Gallai fferyllfeydd cymunedol chwarae rhan bwysig, yn ogystal â phrosiectau allgymorth cyffuriau a chanolfannau cyfnewid nodwyddau. Mae pob un o’r bobl sy’n ymwneud â thrin y feirws hwn a gludir yn y gwaed yn cytuno mai mynd i’r afael â’r mater yn y gymuned lle maent yn byw yw’r allwedd. Ceir llawer o enghreifftiau o sut i wneud hyn: er enghraifft, maent yn cynnal profion ar geiswyr lloches a phobl yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd; yn Tesco yn Fforestfach yn Abertawe, ceir ystafell gymunedol ar gyfer cynnal profion drws nesaf i gampfa, felly cynhelir profion ar ddefnyddwyr y gampfa; ac mae ffurflen ar gyfer gwella rheolaeth cleifion a chasglu data’n awtomatig yn cael ei datblygu yng Nghaerdydd ac mewn canolfannau eraill.
Mae’r cynnig hefyd yn galw am ystyried canllawiau gweithredol newydd er mwyn cynorthwyo staff y GIG sy’n gweithio i ddileu hepatitis C. Mae angen inni symleiddio’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â hyn. Mae angen inni ddefnyddio dulliau atgyfeirio electronig i gyflymu’r holl broses o gael pobl wedi’u trin. Hefyd, byddai’r staff meddygol yn hoffi gweld cynllun strategol penodol ar gyfer dileu hepatitis C, gyda’r holl elfennau wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys cost profion labordy ychwanegol a chynnal profion yn y gymuned.
Hoffwn orffen, mewn gwirionedd, drwy ganmol y gweithwyr iechyd proffesiynol, y swyddogion iechyd y cyhoedd a’r mudiadau trydydd sector sydd wedi ymrwymo i’r fath raddau i drechu’r clefyd hwn a gludir yn y gwaed. Cafwyd symud cadarnhaol aruthrol yng Nghymru i gyrraedd y cam lle y gallwn ei ddileu. Rhyfeddodau gwyddoniaeth fodern, ynghyd ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Ond mae angen cynnal profion ar fwy o bobl ac rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn falch o weld pobl enwog proffil uchel yn dweud bod ganddynt hepatitis C i helpu i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r clefyd. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi dechrau ar y broses hon o ddileu hepatitis C, ac rwy’n gobeithio mai pen y daith fydd Cymru heb achosion o hepatitis C.
Clywsom fod 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yn byw gyda hepatitis C yng Nghymru ar hyn o bryd, ac oddeutu eu hanner heb gael diagnosis. Mae’n un o dri phrif achos clefyd yr afu a’r unig un o’r pum clefyd sy’n lladd fwyaf o bobl yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau ar gynnydd. Felly, mae’n her iechyd cyhoeddus sylweddol. Fel y dywedais yn y ddadl ym mis Ionawr ar waed halogedig, yn y 1970au a’r 1980au roedd cyfran fawr o’r cynhyrchion gwaed a ddarparwyd i gleifion gan y GIG wedi’i halogi â HIV neu hepatitis C. Cafodd oddeutu 4,670 o gleifion â hemoffilia eu heintio ac ers hynny mae dros 2,000 wedi marw o effeithiau’r feirysau hyn yn y DU, gan gynnwys 70 yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ôl y dystiolaeth, mae hepatitis C yn effeithio’n bennaf ar bobl o grwpiau penodol, megis defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu, pobl ddigartref, dynion hoyw a deurywiol, a phoblogaethau mudol o fannau sydd â nifer fawr o achosion.
Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Hepatitis C, ‘Hepatitis C in Wales: Perspectives, challenges & solutions ‘, yn gorffen gyda nifer o argymhellion allweddol ar gyfer gweithredu, fel a ganlyn: cynnwys ymrwymiad i ddileu hepatitis C fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd... ym Mil Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd.
Cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd gyda’r nod o fynd i’r afael â stigma ynghylch hepatitis C ac annog unigolion i gael profion.
Parhau’r ymrwymiad yn hirdymor i brotocol triniaeth hepatitis C llwyddiannus ar gyfer Cymru gyfan, sy’n sicrhau mynediad cyfartal at driniaethau newydd hynod o effeithiol ar gyfer nifer cynyddol o bobl.
Cynyddu nifer y gwasanaethau triniaeth yn y gymuned... i sicrhau mynediad at driniaeth ar gyfer grwpiau sy’n draddodiadol yn ei chael yn anodd cael mynediad at wasanaethau.
Gweithredu dull optio allan llawn ar gyfer profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, fel y nodir yn Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Cyffuriau 2016-2018.
A
Defnyddio cyfleoedd, megis diwrnodau addysg orfodol i feddygon teulu er mwyn darparu hyfforddiant ar feirysau a gludir yn y gwaed i weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol allweddol.
Mae cymeradwyo triniaethau cyffuriau newydd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru NICE yn golygu bod dileu hepatitis C fel problem ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru bellach yn nod cwbl gyraeddadwy. I achub ar y cyfle newydd hwn, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i’r 50 y cant o bobl nad ydynt wedi cael diagnosis ar hyn o bryd drwy ehangu mynediad at brofion ac ymchwilio ymhellach pa grwpiau y gellir eu sgrinio’n gosteffeithiol. Trwy gynyddu cyfraddau diagnosis, byddwn yn gallu trin a gwella mwy o bobl. Gyda thriniaethau newydd effeithiol a hygyrch ar gael bellach i bawb sydd eu hangen, mae’n haws nag erioed i drin a gwella cleifion, sy’n cynnig cyfle gwych i ddileu hepatitis C yng Nghymru.
Y camau allweddol y mae’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn credu y byddant yn helpu i ysgogi cynnydd yn hyn o beth, gan adlewyrchu’r hyn a ddywedais yn gynharach, yw cynyddu lefel y profion a gynhelir mewn gofal sylfaenol, gofal cyn geni a fferyllfeydd er mwyn dod o hyd i’r rhai sydd heb gael diagnosis; gweithredu strategaeth i ailymgysylltu â chleifion sydd wedi cael canlyniad positif i brawf hepatitis C ond sydd wedi ymddieithrio o’r llwybr gofal; lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i ddod o hyd i gleifion sydd heb gael diagnosis, yn enwedig y rhai a allai fod wedi dal y feirws amser maith yn ôl ac nad ydynt yn ymwybodol eu bod wedi wynebu risg erioed; sicrhau bod triniaeth ar gael i gleifion hepatitis C mewn lleoliadau cymunedol, megis gwasanaethau cyffuriau a meddygfeydd meddygon teulu, er mwyn ehangu mynediad i gleifion yr ystyrir yn draddodiadol eu bod yn anodd eu cyrraedd; darparu hyfforddiant a gwybodaeth am hepatitis C i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig meddygon teulu; ac ehangu defnydd o gynlluniau cyfeillio a sicrhau y darperir addysg gan gymheiriaid mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau i gleifion rhag cael triniaeth ac i ledaenu negeseuon allweddol i grwpiau sy’n wynebu risg.
Gan gefnogi’r galw am strategaeth i ddileu hepatitis C, mae cwmni ymchwil biofferyllol byd-eang, AbbVie, wedi cysylltu ag Aelodau yn galw am sicrhau bod y strategaeth yn nodi’r camau ar gyfer dileu’r clefyd, gan gynnwys niferoedd profion blynyddol, sgrinio, diagnosis a thriniaeth. Dylai’r strategaeth gael ei goruchwylio gan weinidog a chael ei gyrru gan is-grŵp hepatitis C bwrdd gweithredu cynllun yr afu ar gyfer Cymru, gyda mandad i sicrhau bod targedau uchelgeisiol yn cael eu cyrraedd ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol. Ac maent yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a’r GIG barhau â’u dull agored o ymgysylltu â’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â darparu gofal a thriniaeth i bobl sy’n byw gyda hepatitis C, fel y gellir sefydlu modelau gofal hyblyg ac arloesol, yn cynnwys cymorth gan gymheiriaid mewn lleoliadau cymunedol. Fel y maent yn ei ddweud, bydd modelau gofal sy’n newid yn galw am ymagwedd newydd tuag at addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu. Ac fel y mae cynnig heddiw yn datgan felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu’r clefyd, sef 2030, ac i ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo GIG Cymru i weithio tuag at hyn. Diolch.
Mi wnaf gadw fy nghyfraniad heddiw yn fyr. Eisiau datgan fy nghefnogaeth ydw i, yn syml iawn, i’r cynnig pwysig iawn yma. Mae’r nod yn syml iawn, iawn yn fan hyn, onid yw, ac mae hefyd yn hynod, hynod gyffrous rwy’n meddwl. Y nod ydy dileu hepatitis C yng Nghymru yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i waredu erbyn 2030, ond mi allem ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae cymal 1 y cynnig sydd o’n blaenau ni heddiw yn dangos bod llawer o’r isadeiledd iechyd gennym ni yn barod, yn benodol, ac yn arbennig felly, y bobl sydd gennym ni o fewn ein cyfundrefn iechyd, ac rwy’n falch iawn o allu diolch iddyn nhw heddiw am y camau bras sydd wedi cael eu cymryd yn barod o ran hyn.
Mi fyddwn i hefyd yn hoffi diolch i Julie Morgan am y gwaith mae hi yn ei wneud yn y maes yma. Mae wedi bod yn bleser cydweithio nid yn unig ar hepatitis C a’r gwaredu y gobeithiwn y gwelwn ni yn y blynyddoedd i ddod, ond hefyd ar y testun o waed wedi ei heintio. Ond mae wedi fy nharo i, fel mae o wedi taro yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, mai’r broblem sydd gennym ni bron iawn ydy diffyg cleifion ar hyn o bryd, ac mae hynny, onid yw, yn deyrnged i’r staff sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae o’n swnio’n od iawn, ond mae gennym ni fwy o gapasiti nag sydd gennym ni o gleifion i fynd drwy y system, ac mae’n deg dweud nad ydym ni yn sôn am hynny’n aml iawn pan rydym yn sôn am yr NHS, ond mae’n wir yn yr achos hwn. A’r gwir ydy mai canfod y rheini sydd ddim wedi cael y diagnosis, sydd ddim yn gwybod eu bod nhw mewn grŵp risg, sydd ddim yn dangos symptomau, ydy’r her o’n blaenau ni er mwyn i ni allu symud ymlaen tuag at waredu.
Ni wnaf ailadrodd rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod ynglŷn â sut i wneud hynny drwy dynhau pethau o fewn gofal sylfaenol, drwy chwilio am grwpiau a allai fod o risg uchel—mwy o brofion mewn carchardai ar ddefnyddwyr cyffuriau, profion yn y system ‘antenatal’, ac yn y blaen. Mae’r gwaith da a’r sylfeini wedi cael eu gosod yn barod, ac rwy’n ddiolchgar i’r Llywodraeth am y gwthio sydd wedi cael ei wneud yn y fan hyn yn barod. Ond rwyf yn falch bod y cynnig yma gennym ni heddiw, ac rwy’n falch iawn o gael cefnogi’r cynnig heddiw er mwyn rhoi gwthiad pellach tuag at gyrraedd y nod yma, sydd yn uchelgais gwirioneddol gyraeddadwy yma yng Nghymru, a rhywbeth rwy’n gwybod y byddwn ni fel cenedl yn falch iawn ohono fo pan rydym ni yn cyrraedd y nod.
Hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy ddweud mor falch yr wyf o weld Julie Morgan yn ôl yn y Siambr, ac mae’n fraint gweithio gyda hi ar y materion hyn, yn enwedig y gwaed halogedig, ac i gefnogi ei harweiniad yma ar y mater hwn mewn perthynas â hepatitis C—braint go iawn.
Cefnogaf y cynnig oherwydd y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd yng Nghymru, ac rwy’n cytuno â’r hyn y mae Rhun wedi’i ddweud ac mae Mark Isherwood wedi dweud bod gennym fwy o waith i’w wneud. Hoffwn roi rhai enghreifftiau o fwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy’n gwasanaethu fy etholaeth ac ardal Gwent, yn arbennig eu cydnabyddiaeth y gall gymryd degawdau i nodi pa bobl sy’n dioddef o’r clefyd hwn a rhoi triniaeth iddynt. Mae gwasanaeth hepatoleg bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn gweithio gyda phartneriaid mewn amrywiaeth o leoliadau i gynyddu lefelau diagnosis o haint hepatitis ac i gyflwyno cyffuriau hepatitis C newydd fesul cam. Mae tîm gofal iechyd mewn carchardai bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gweithredu polisi optio allan ar gyfer cynnal profion feirysau a gludir yn y gwaed yn ystod apwyntiadau derbyn carcharorion i Garchar Prescoed ym Mrynbuga. Yn 2016, clywais ganddynt—rwyf wedi ymchwilio i hyn wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon—am gynnydd sylweddol yn nifer y carcharorion a gafodd brofion a chanran y carcharorion newydd a gafodd profion, ac mae cynnydd cyson wedi bod yng Ngharchar Prescoed.
Cyflawnwyd camau gweithredu wedi’u targedu yn ardal Aneurin Bevan hefyd i gynyddu mynediad at wasanaethau cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed i bobl sy’n chwistrellu cyffuriau—y bobl sy’n wynebu risg a grybwyllwyd eisoes gan Aelodau eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda byrddau cynllunio’r ardaloedd ar gynnig i ddatblygu cynllun gweithredu pum mlynedd wedi’i gostio i gynyddu’r buddsoddiad mewn cynlluniau cyfnewid nodwyddau i sicrhau darpariaeth 100 y cant, sy’n golygu bod nodwyddau glân yn cael eu defnyddio ar gyfer pob achos o chwistrellu.
Datblygiad polisi allweddol yng Ngwent yw’r cynllun peilot ‘dewis a dethol’ ar gyfer fferyllfeydd, sy’n darparu deunydd defnyddio cyffuriau a thaflenni ar leihau niwed, ynghyd â mwy o ryngweithio â chleientiaid i hyrwyddo negeseuon i leihau niwed a chyfeirio at brofion feirysau a gludir yn y gwaed. Comisiynodd bwrdd cynllunio ardal Gwent wasanaeth cyffuriau ac alcohol integredig Gwent i oedolion, gwasanaeth a ddaeth yn weithredol ym mis Mai 2015. Mae’n cynnwys cyflwyno gwasanaethau cyfnewid nodwyddau arbenigol, gyda chyllideb fach bwrpasol ar gyfer darparu deunyddiau cyfnewid nodwyddau. Ac mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan hefyd wedi sôn wrthyf am wasanaeth camddefnyddio sylweddau arbenigol Gwent ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth, ac mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfnewid nodwyddau a phrofion feirysau a gludir yn y gwaed.
Ond fel roedd Aelodau eraill hefyd yn cydnabod, un o’r prif grwpiau risg ar gyfer haint hepatitis C yw pobl sy’n hanu o dde Asia. Mae tîm iechyd cyhoeddus Aneurin Bevan wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr crefyddol ynglŷn â hyrwyddo profion feirysau a gludir yn y gwaed mewn mosgiau yng Nghasnewydd. Yn ogystal, bydd y rhaglen ‘Byw’n Dda, Byw’n Hirach’ hefyd yn codi ymwybyddiaeth o hepatitis C drwy ei rhaglen o archwiliadau iechyd yng Nghasnewydd.
Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau o’r hyn y mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn ei wneud i helpu gydag unigolion anos eu cyrraedd sydd mewn perygl o fod â hepatitis C, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet fod yn ymwybodol o’r arferion hyn. Gall Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arfer da hwn, a phan ddaw at bwynt olaf y cynnig, gallai ystyried canllawiau gweithredol newydd i gynorthwyo’r GIG yng Nghymru i ddileu hepatitis C. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud, ac unwaith eto, mae’n fraint cael hyrwyddo’r achos a gafodd ei arwain gan Julie Morgan yn y Siambr hon. Rydym wedi dod yn bell, ac mae dileu hepatitis C o fewn ein cyrraedd.
Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn ac ymdrechion i ddileu hepatitis C erbyn 2030. Fel y mae eraill wedi nodi, mae hepatitis C yn glefyd sy’n effeithio ar oddeutu 2 y cant o boblogaeth y byd ac mae’n gyfrifol am gannoedd o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Felly, nid yw’n syndod fod Sefydliad Iechyd y Byd yn awyddus i gael gwared ar y clefyd.
Addawodd Llywodraeth y DU ei chefnogaeth i nodau dileu Sefydliad Iechyd y Byd y llynedd a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn yr esiampl hon. Mae’r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn trin pobl sydd â hepatitis C yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd bron i 900 o gleifion eu trin y llynedd mewn ymgais i glirio’r ôl-groniad o gleifion sy’n aros am driniaeth. Fodd bynnag, gyda hyd at 7,000 o bobl yng Nghymru wedi’u heintio’n ddiarwybod iddynt gan firws hepatitis C, rhaid gwneud llawer iawn mwy i ganfod a thrin pobl sy’n byw gyda’r clefyd.
Mae gwir angen cynllun gweithredu strategol ar Gymru i leihau achosion o hepatitis C er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn blaenoriaethu gwaith ar ddileu’r clefyd yng nghynllun cyflawni Cymru ar gyfer clefyd yr afu. Dylai’r cynllun gweithredu strategol, fan lleiaf un, weithredu ac adeiladu ar yr argymhellion yn adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C ar gyfer 2016 ar hepatitis C yng Nghymru. Wrth baratoi’r adroddiad hwnnw, canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod pobl sy’n dioddef o hepatitis C yng Nghymru yn cynnwys nifer anghymesur o bobl o’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, a daw tri chwarter y bobl sydd â’r feirws o’r ddau gwintel economaidd-gymdeithasol isaf. Canfuwyd hefyd fod eu hanfantais wedi’i waethygu gan stigma hepatitis C. Canfu Ymddiriedolaeth Hepatitis C fod gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud wrth y rhai a gafodd ddiagnosis yn y 1980au i beidio â dweud wrth unrhyw un arall am eu diagnosis, a soniodd sawl un am y blynyddoedd o euogrwydd wedi’i fewnoli a’r cywilydd a ddeilliodd o hynny. Diolch byth, mae ein GIG wedi symud ymlaen o’r cyfnod cywilyddus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r stigma’n parhau. Mae gennym lawer gormod o bobl â hepatitis C sy’n sôn am yr ymdeimlad o euogrwydd a chywilydd a deimlant neu’r ffordd y maent, rywsut, yn teimlo’n fudr. Yn anffodus, mae hyn yn aml yn arwain at wneud i’r unigolion hynny ymddieithrio o ofal yn gyfan gwbl, er eu bod yn ymwybodol o’u diagnosis—penderfyniad sy’n cynyddu’r risg o sirosis neu ganser yr afu yn fawr.
Er mwyn mynd i’r afael â stigma gorchfygol o’r fath a’r niwed anhygoel y mae’n ei wneud, mae adroddiad Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn argymell y dylid cymryd camau i normaleiddio’r clefyd drwy gynnal ymgyrchoedd cadarnhaol ar y cyfryngau i dynnu sylw at y trawstoriad o bobl sy’n byw gyda’r feirws. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda’i gymheiriaid yng ngweddill y DU ac Ymddiriedolaeth Hepatitis C i gyflwyno ymgyrch o’r fath. Fodd bynnag, os ydym am gael gwared ar y stigma yn gyfan gwbl, mae’n rhaid inni sicrhau bod y bobl sy’n byw gyda’r feirws yn cael profiadau cadarnhaol wrth ymdrin â phob gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae pobl sydd â hepatitis C wedi sôn am y modd y trefnir bob amser iddynt gael triniaeth ddeintyddol olaf y dydd er mwyn rhoi amser, mae’n debyg, i bractisau deintyddol gyflawni arferion rheoli heintiau ychwanegol. Mae arferion o’r fath wedi peri i bobl deimlo eu bod yn creu perygl i bobl eraill ac mewn rhyw ffordd yn wahanol i weddill y boblogaeth. Mae’n rhaid rhoi diwedd ar hyn. Dylai mesurau rheoli heintiau ychwanegol fod yn ddiangen—dylai fod gan bractisau deintyddol ddigon o fesurau rheoli heintiau ar waith gyda phob claf i atal trosglwyddo pob feirws a gludir yn y gwaed.
Mae’n rhaid i ni addysgu nid yn unig y cyhoedd, ond ein gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd, ynglŷn â hepatitis C. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu argymhellion Ymddiriedolaeth Hepatitis C ac anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig. Gyda’n gilydd, gallwn ddileu’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr, Llywydd.
A gaf fi ddiolch i Julie Morgan hefyd, yn arbennig, am gyflwyno’r ddadl hon, gan fy mod yn gwybod faint o waith rydych wedi’i wneud ar y mater hwn, Julie, ac rwy’n llwyr gefnogi’r sylwadau a’r cynigion a nodir yn y cynnig? Rwy’n credu y gallwn i gyd fod yn falch o’r record o ddiagnosis a thriniaeth hepatitis C yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus i gyflawni’r gwaith o ddileu’r clefyd erbyn 2030.
Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar drydydd pwynt y cynnig, ac yn benodol, hoffwn edrych ar faterion sgrinio gweithwyr gofal iechyd, yn enwedig llawfeddygon. I gefnogi hyn, hoffwn gyfeirio at achos etholwr i mi a gafodd ddiagnosis o fath prin o hepatitis C yn 2012. Roedd hi wedi bod yn dioddef symptomau ers sawl blwyddyn, ond profion ar gyfer hepatitis A a B yn unig a gafodd. Pan gafodd ei phrofi yn y pen draw ar gyfer hepatitis C, a chael diagnosis ohono, roedd ar fin cael sirosis yr afu. Ond roedd ei thriniaeth—er gwaethaf y sgil-effeithiau gwanychol, a’r stigma a ddioddefodd a’r rhagofalon y bu’n rhaid iddi eu harfer o fewn y teulu o ran y defnydd o frwsys dannedd ac offer arall yn y tŷ—yn effeithiol yn gyflym iawn. Ymatebodd i’r driniaeth o fewn mater o wythnosau, ar ôl cael gwybod y dylai ddisgwyl y byddai’n cymryd sawl mis, ac mae’n llawn o ganmoliaeth i’r driniaeth a gafodd ar y pwynt hwnnw. Ond yr hyn a oedd wedi aros yn ddirgelwch oedd sut y daliodd y salwch yn y lle cyntaf. Tuag at ddiwedd ei thriniaeth yn unig y nododd y nyrs arbenigol a oedd yn ei thrin ei bod hi hefyd yn trin llawfeddyg a oedd wedi rhoi llawdriniaeth i fy etholwr yn 1997.
Felly, ar ôl nodi ffynhonnell ei haint, ysgrifennodd GIG Cymru at oddeutu 5,000 o gleifion a gafodd driniaeth gan y llawfeddyg hwn, yn cynnig profion hepatitis C iddynt. Ymatebodd oddeutu 3,000 o’r cleifion hynny, ac o’r profion a ddilynodd, nodwyd bod pedwar claf arall wedi dal y feirws, bron yn sicr gan yr un llawfeddyg.
Llywydd, ers 2007, mae’n ofynnol i bob aelod o staff y GIG sy’n cyflawni triniaethau a allai arwain at gysylltiad gael eu sgrinio, ond nid oes gofyniad i sgrinio staff presennol sydd wedi bod yn ymarfer ers cyn 2007. Nawr, yn amlwg, lle y gwelir bod hep C ar unrhyw lawfeddyg sy’n gweithio, caiff ef neu hi ei wahardd rhag cyflawni eu dyletswyddau presennol. Ond nid oes unrhyw broses awtomatig o edrych yn ôl ar ymarfer y llawfeddyg yr effeithir arnynt i nodi a chysylltu â chleifion a allai fod wedi wynebu risg. Ni fydd edrych yn ôl o’r fath ond yn digwydd pan gaiff ei gymeradwyo gan banel ymgynghori’r DU, fel a ddigwyddodd yn achos fy etholwr. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae canllawiau panel ymgynghori’r DU ar gyfer gweithwyr gofal iechyd cyn 2007 yn gosod disgwyliad clir y bydd llawfeddygon yn mynd am brawf eu hunain os ydynt yn credu y gallent fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd trosglwyddadwy.
Nawr, cyfeiriwyd at hepatitis C gan rai fel y lladdwr cudd. Nawr, mae’n ddadleuol pa un a yw hwnnw’n ddisgrifiad priodol, ond cafodd y label hwnnw oherwydd, yn aml, ni fydd y rhai sydd â’r clefyd yn gwybod ei fod arnynt, fel y clywsom eisoes, ac fel y clywsom hefyd, mae gennym 12,000 i 14,000 amcangyfrifedig o bobl yng Nghymru sy’n cario’r feirws, gyda’r mwyafrif ohonynt yn dal i fod heb gael diagnosis. Yn aml ni fydd yn achosi unrhyw symptomau a dim salwch, a gall hepatitis C lechu’n segur yng nghorff yr unigolyn am ddegawdau. Yn y cyd-destun hwn, mae’n eithaf tebygol na fydd llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn gallu nodi mewn gwirionedd eu bod yn cludo’r feirws hepatitis C.
Nawr, yn ddiweddar, ysgrifennais at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ynglŷn ag amgylchiadau penodol fy etholwr, gan gynnwys materion yn ymwneud â chyfyngu ar drefniadau iawndal ar gyfer dioddefwyr hep C, lle nad oes iawndal ar gael i gleifion a heintiwyd gan eu llawfeddygon, yn wahanol i’r rhai a heintiwyd gan waed halogedig. Nawr, dychwelaf at hynny rywbryd eto, oherwydd heddiw rwyf am ganolbwyntio ar yr agwedd sy’n ymwneud â dileu’r clefyd.
Felly, o ystyried y gydnabyddiaeth eang mai un o’r heriau mwyaf i ddileu’r clefyd erbyn 2030 yw i ba raddau y mae’n mynd heb ei ganfod, byddwn yn hoffi meddwl, gan adeiladu ar thema Mark Isherwood o ymestyn y ddarpariaeth sgrinio, pe gallai cyfundrefn sgrinio gweithwyr gofal iechyd ar sail fwy cynhwysfawr, gan gynnwys y rhai a oedd yn ymarfer cyn 2007, helpu i nodi achosion cudd ymysg ymarferwyr, ac felly eu cyn-gleifion o bosibl, byddwn yn awgrymu bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddifrifol iddo wrth ddatblygu ei strategaeth ar gyfer cyrraedd y targed uchelgeisiol ond cyraeddadwy iawn o ddileu’r feirws erbyn 2030.
Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Julie am gyflwyno’r cynnig hwn ac am y ddadl heddiw, a gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl fesurau sydd ar gael a allai helpu i ddileu hepatitis C yng Nghymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n hynod o falch o ymateb i’r ddadl heddiw gan yr Aelodau, a diolch i bobl am y modd ystyriol y maent wedi ymdrin â’r mater hwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y mater hwn i bobl ledled Cymru, wrth gwrs, ac rwy’n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru, gyda’r GIG, wedi gwneud camau mawr ymlaen yn trin a rheoli hepatitis feirysol, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod gan amryw o’r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy’n falch o gael y cyfle i siarad ychydig yn fwy am hynny heddiw. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i fynd i’r afael â baich feirysau a gludir yn y gwaed ers mwy na degawd. Ariannwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed gennym hyd at 2014, a gosodasom y sylfeini ar gyfer y gwasanaethau hepatoleg hyd yn oed yn fwy llwyddiannus sydd gennym yn awr.
Pan ryddhawyd y cyllid hwnnw, gwnaed hynny ar y ddealltwriaeth y byddai byrddau iechyd yn buddsoddi yn y gwasanaethau hyn ac yn datblygu adnoddau i atal a thrin hepatitis feirysol, ac rwy’n falch iawn fod gan Gymru rwydwaith hepatoleg clinigol cadarn ac effeithiol o dan arweiniad y Dr Brendan Healy, fel y dywedodd Julie Morgan yn ei chyflwyniad. Mae’r rhwydwaith yn cydlynu triniaeth y rhai y nodwyd eu bod â hepatitis B ac C. Rwyf am oedi yn y fan honno am ennyd i gydnabod, nid yn unig gwaith Dr Healy ond y rhwydwaith cyfan mewn gwirionedd, gan fod hyn yn rhywbeth nad oes gan gydweithwyr yn Lloegr mohono—nid oes ganddynt yr un ymagwedd unedig tuag at driniaeth, y ffordd y defnyddiwn driniaethau gwerth gorau, o ran cyllid a chanlyniad i’r dinesydd, ac mae rhai o’r cydweithwyr yn Lloegr yn edrych ar hyn gyda rhywfaint o, ni fyddwn yn dweud cenfigen yn unig, ond maent yn credu ei bod yn safon ac yn ymagwedd i anelu ati sy’n cael ei harloesi a’i harwain yn llwyddiannus gan ein clinigwyr yng Nghymru, ac mae’n bendant o fudd i gleifion yn hynny o beth. Mewn sawl ffordd mae’n fodel ar gyfer gwasanaethau ar draws y wlad—mae angen iddynt gydweithio a chydweithredu ar draws y wlad gyfan i gael dull unedig sy’n canolbwyntio mewn gwirionedd ar wella.
Cychwynnwyd y rhaglen hepatitis C i’w chyflwyno ar draws Cymru gyfan yn 2014, a rhan o hyn yw gwneud y defnydd gorau o’r don newydd o feddyginiaeth wrthfeirysol fwy effeithiol, yn enwedig meddyginiaeth ddi-interfferon, fel y dywedodd Julie Morgan. Dechreuodd hynny drwy fod yn ddrud iawn i’w drin ar y cychwyn, ond mewn gwirionedd, ceir arbedion sy’n llawer mwy hirdymor, yn ariannol, ond hefyd—i grybwyll fy etholwr Mr Thomas, sydd â theulu ifanc—gwelliant sylweddol o ran lles cyffredinol y bobl sy’n cael y driniaeth, ac nid yn unig yn yr ystyr feddygol, gyda chyfraddau gwella eithaf trawiadol i bobl yn sgil cyflwyno’r driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Rydym wedi trin mwy na 1,000 o gleifion yn y 18 mis diwethaf, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn awr wedi trin yr holl gleifion y gŵyr y gwasanaethau yng Nghymru amdanynt ac sy’n dal i gael gofal. Mae hwnnw’n gam hynod ymlaen a wnaed gan ein gwasanaeth. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, fod yna unigolion sy’n wynebu risg o ddal hepatitis B ac C nad ydynt yn defnyddio lleoliadau gofal iechyd traddodiadol, ac mae nifer o brosiectau eisoes yn cael eu datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn—a chafodd hyn eto ei gydnabod yn sylwadau pobl yn gynt yn y ddadl ar sut y cyrhaeddwn y bobl sy’n anodd eu cyrraedd ac nad ydynt bob amser yn defnyddio gwasanaethau gofal, naill ai’n unigol neu hyd yn oed yn gyson. Bydd y prosiectau hynny’n edrych ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth o haint hepatitis C, er mwyn darparu mynediad at brofion diagnostig symlach mewn lleoliadau cymunedol i’r rhai sy’n wynebu risg—ac unwaith eto, mae pwynt yma ynglŷn â datblygu ac nid sefyll yn llonydd yn ein gwasanaeth—a hefyd i sicrhau bod unigolion sydd wedi’u heintio yn gallu cael mynediad at driniaeth.
Mae’r prosiectau hyn, ynghyd â’r rhaglen hepatitis C a gyflwynir ar draws Cymru yn cael eu harwain a’u cyfeirio gan is-grŵp hepatitis feirysol Cymru y cyfeiriodd Julie Morgan ato, unwaith eto. Maent yn is-grŵp o’r grŵp gweithredu ar glefyd yr afu—un o’n teitlau byr a bachog unwaith eto yn y byd iechyd. Ond pwysigrwydd y grŵp hwn—ac mae’n wirioneddol bwysig—yw ei fod wedi’i ffurfio o glinigwyr, nyrsys arbenigol, cynrychiolwyr cleifion, y trydydd sector, fferyllwyr, staff labordy, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, staff diogelu iechyd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Unwaith eto, dyna un o nodweddion ein dull o weithredu yma yng Nghymru—mynd ati o ddifrif i fanteisio ar y ffaith y dylem, fel gwlad fach, allu dwyn ynghyd y grŵp cywir o bobl yn yr un ystafell i wneud dewisiadau gwirioneddol genedlaethol a disgwyl wedyn i hynny gael ei ddatblygu a’i ddarparu ar sail genedlaethol. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi arwain ar y gwaith hwn ar draws pob sector ac sydd wedi cyfrannu at lwyddiant gwirioneddol y rhaglen hyd yn hyn.
Ar 28 Mai y llynedd, mabwysiadodd Cynulliad Iechyd y Byd, y corff sy’n gwneud penderfyniadau yn Sefydliad Iechyd y Byd, strategaeth sector iechyd fyd-eang ar gyfer hepatitis feirysol. Cyflwynodd y strategaeth honno y targedau byd-eang cyntaf erioed ar gyfer rheoli hepatitis B ac C feirysol, gan gynnwys y nod o gael gwared ar hepatitis feirysol erbyn 2030. Bydd cyflawni’r targedau hyn yn golygu bod diagnosis a thriniaeth hepatitis feirysol yn cael eu blaenoriaethu yn y gwasanaethau iechyd cyhoeddus.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau eto heddiw wrth yr Aelodau fod Cymru wedi cytuno ac wedi ymrwymo i darged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis B ac C. I adlewyrchu hyn, mae is-grŵp hepatitis feirysol Cymru wedi diwygio ei gylch gwaith ei hun i adlewyrchu’r arweiniad a’r canllawiau a fydd yn ofynnol ganddo er mwyn sicrhau bod y targedau dileu yn cael eu cyrraedd. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd aruthrol yn erbyn y targedau hyn, ac mae’r is-grŵp yn datblygu fframwaith drafft o’r camau gweithredu y bydd eu hangen dros y blynyddoedd nesaf i gyflawni ein nod. Bydd swyddogion yn y Llywodraeth yn derbyn y fframwaith drafft y mis hwn. Rwy’n disgwyl iddynt gynnwys ystyriaeth o sut i ganfod a chynnal profion ar grwpiau anodd eu cyrraedd; profion a thriniaeth mewn lleoliadau cymunedol; a sicrwydd y bydd pawb sydd â’r haint yn cael cyfle i gael profion a thriniaeth. Bydd y fframwaith yn darparu’r sylfaen i ganllawiau ar y camau nesaf, a fydd yn cael eu dosbarthu i’r GIG yn ystod yr haf.
Mae gennym yr hyn sydd ei angen yma yng Nghymru i atal hepatitis B ac C, ac mae gan Gymru, ymhlith gwledydd eraill y DU, agenda ataliol gref. Mae gennym raglenni brechu effeithiol ac wedi’u targedu ar gyfer hepatitis A a B, ac mae’r nifer sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd yn 95 y cant. O fis Medi eleni, bydd brechlyn hepatitis B yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen arferol ar gyfer babanod, a chaiff ei gynnig i fabanod yn ddau, tri a phedwar mis oed. Mae pob menyw feichiog yn cael cynnig profion hepatitis B fel rhan o’r drefn sgrinio cyn-geni, ac mae pob baban a enir i famau sy’n cael canlyniad positif ar gyfer hepatitis B yn cael eu trin yn unol â chanllawiau clinigol. Rydym yn gallu atal feirws hepatitis B rhag cael ei drosglwyddo o fam i blentyn yn effeithiol drwy roi brechiad feirws hep B amserol adeg yr enedigaeth.
Fel y crybwyllodd Hefin David, mae gennym raglen gyfnewid nodwyddau eisoes sydd wedi’i sefydlu’n dda mewn fferyllfeydd cymunedol, gan sicrhau mynediad at gyfarpar chwistrellu di-haint a thriniaeth effeithiol ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau er mwyn atal a rheoli epidemigau o hepatitis B ac C feirysol. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion parhaus o drosglwyddo hepatitis C ar hyn o bryd yn digwydd ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, ac felly rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o ganfod unigolion â hepatitis C yn y cymunedau hyn a darparu triniaeth.
I’r rhai sydd eisoes wedi’u heintio, mae meddyginiaethau drwy’r geg a oddefir yn dda a gweithdrefnau triniaethau newydd i bobl â haint feirws hepatitis C cronig yn gweld cyfraddau gwella o dros 90 y cant, fel y crybwyllodd Julie Morgan yn ei sylwadau. Ac mae’r driniaeth effeithiol honno ar gael hefyd i bobl â haint feirws hepatitis B cronig hefyd, er bod angen i driniaeth o’r fath bara drwy gydol oes y rhan fwyaf o bobl. Mae llethu’r feirws yn cyfyngu ar y niwed i’r afu, ac yn aml, niwed i’r afu sy’n peri i bobl golli eu bywydau. Mae’r triniaethau hyn yn lleihau’r perygl o gymhlethdodau hirdymor yn sgil hepatitis B ac C, yn cynnwys sirosis a chanser yr afu. O ganlyniad, caiff y gost i’r GIG ei lleihau, gan fod y cyflyrau hyn yn ddrud iawn i’w rheoli. Mae hefyd yn lleihau’r galw am drawsblannu’r afu—sydd unwaith eto yn llawdriniaeth gostus a chymhleth ac yn adnodd y mae galw mawr amdano. Mae’r data diweddaraf yn awgrymu ein bod o leiaf yn gweld tuedd ar i lawr yn nifer y trawsblaniadau afu a marwolaethau. Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym wasanaethau ardderchog ar y cyfan, gydag arbenigedd profedig i arwain a chefnogi hyn, ac y gall y rhai sy’n wynebu risg fod yn hyderus y manteisir ar bob cyfle i ddarparu ar gyfer eu gofal. Byddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd drwy’r is-grŵp hepatitis feirysol, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwaith hwn.
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i’r ddadl.
Mae’n bleser i godi ac i gloi’r ddadl yma, sydd wedi bod yn ddadl arbennig. A allaf i longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan? Ac wrth gwrs, beth sydd o’n blaenau ni ydy hanes llwyddiant ysgubol yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Nôl yn y dyddiau pan oeddwn i’n fyfyriwr meddygol ifanc, llachar—cwpwl o flynyddoedd yn ôl—roeddem ni’n sôn am hepatitis A, hepatitis B ac wedyn hepatitis ‘non-A’ a ‘non-B’. Ers hynny, rydym ni wedi darganfod sawl firws arall: hepatitis A, B, C, D, E—gwahanol is-grwpiau o’r rheini i gyd.
A hefyd, nid yn unig rydym ni wedi darganfod mwy o fathau, ond rydym ni wedi gallu eu trin nhw hefyd. ’Slawer dydd, roeddem ni’n darganfod llid ar yr afu—hepatitis—ond nid oeddem ni’n gallu gwneud unrhyw beth amdano fe; nid oedd yna driniaeth. Mae’r tirlun wedi newid yn syfrdanol, ac weithiau yng nghanol yr holl gwyno sy’n mynd ymlaen ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd ac ati, rydym ni’n anghofio’r pictiwr mawr: mae yna waith bendigedig yn mynd ymlaen yn y cefndir. Mae’r gallu gyda ni rŵan i gael gwared â hepatitis C a hepatitis B. Mae’r dechnoleg gyda ni, ac mae’r cyffuriau gyda ni.
Rydw i’n falch bod fy nghyd-Aelodau am gefnogi’r cynnig sydd gerbron, sydd yn naturiol yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau eu hymrwymiad—ac rydw i’n clywed geiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac rydw i’n diolch iddo fe o waelod calon amdanyn nhw—a hefyd yr ystyriaethau eraill sydd gerbron. Felly, i ddechrau, rydw i’n diolch i Julie Morgan am ei hamlinelliad gwych o’r clefyd yma ar y dechrau, a hefyd yn ei llongyfarch hi ar ei gwaith fel cadeirydd y grŵp haemoffilia. Wrth gwrs, mae nifer o’r ffactorau yn fan hyn yn trawstorri’r ddau bwnc, megis. Ac rydw i hefyd yn llongyfarch Mark Isherwood ar ei gyfraniad yntau, a Rhun hefyd.
Ac wrth gofio am gyfraniad Hefin David, ie, mae hi yn gallu cymryd sawl blwyddyn i’r clefyd yma ddod i’r amlwg, achos mae o yn glefyd annelwig—mae e’n anodd iawn. Rydych chi’n gallu cwestiynu a chwestiynu pobl, ac nid yw pobl yn cofio os ydyn nhw wedi cael rhyw amser pan oedden nhw gyda blinder mawr, affwysol. Nid ydym ni’n cofio. Mae pethau’n mynd nôl yng nghymylau amser, mae pethau’n mynd yn angof. Ac wedyn, mae hi yn anodd gwneud y diagnosis, yn aml, os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y bobl hynny, fel sydd wedi cael ei olrhain gan nifer ohonoch chi: carcharorion, y sawl sy’n brechu cyffuriau ac ati. A dyna pam mae’r rhaglenni yna sydd yn darparu nodwyddau glân mor allweddol i gael gwared ar y clefyd yma—ac fe wnaeth hynny gael ei olrhain hefyd gan Hefin David.
A gaf i ddiolch hefyd i Caroline Jones ac i Dawn Bowden am eu cyfraniadau, a hefyd wrth gwrs, fel rydw i wedi cyfarch eisoes, i’r Ysgrifennydd Cabinet am olrhain y drefn arbennig sydd gyda ni yma yng Nghymru? Mae Cymru ar y blaen, rŵan. Rydym ni, yn eithaf aml, yn cymharu ein hunain yn anffafriol yn y wlad yma gyda gwledydd eraill, ond mae Cymru ar y blaen pan mae’n dod i faterion fel hepatitis C. Achos mae’n aros yn her, er ein bod ni’n gallu cael gwared ohono fe. Achos, fel rydym wedi clywed eisoes, rydym yn trin y bobl yna yr ydym wedi eu hadnabod eisoes. Y pwynt yw, nid ydym yn adnabod 50 y cant o’r bobl. Hynny yw, mae yna waith i’w wneud i adnabod a darganfod y bobl sydd â’r clefyd yma.
Mae’n rhaid inni fynd i’r afael efo’r stigma ac mae’n rhaid inni gael gafael—. Hynny yw, mae pobl ofn, weithiau, dod i weld meddyg achos mae gyda nhw fywydau sydd yn anodd, yn ddi-drefn, a hefyd maen nhw’n credu bod pobl yn mynd i’w beirniadu nhw am beth maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol. Felly, mae yna her yn y fan yna i ni fynd i’r afael efo’r systemau yna i gyd.
Ond, yn y bôn, pan fydd rhywun yn gallu cyplysu blinder affwysol efo’r posibilrwydd eu bod nhw wedi cael eu heintio gan waed halogedig, mae’n rhaid inni feddwl am y posibilrwydd bod llid ar yr afu math C gyda nhw. Dyna yw’r her i ni fel meddygon a nyrsys: i fod yn ymwybodol o hynny. Ond, hefyd mae yna her, unwaith ein bod ni’n darganfod pobl, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n parhau efo’r driniaeth. Pan mae gyda chi fywyd anodd, sy’n llawn heriau, yn llawn anhrefn, mae’n anodd cadw i fyny efo’r driniaeth hefyd.
Mae yna sawl her, ond, gan groesawu’r cyfraniadau i gyd yr ydym wedi eu clywed y prynhawn yma, a hefyd croesawu ymateb y Llywodraeth, mae’r wlad yma ar y blaen pan mae’n dod i faterion yn ymwneud â hepatitis C. Mae’r dechnoleg gyda ni, mae’r triniaethau gyda ni, ac awn amdani. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.