8. 7. Datganiad: Banc Datblygu Cymru

– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:23, 18 Gorffennaf 2017

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar fanc datblygu Cymru. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein bod yn cyflawni un o’r addewidion allweddol a gafwyd yn ein rhaglen Lywodraethu drwy greu Banc Datblygu Cymru. Rwy'n arbennig o falch y bydd y banc datblygu yn mynd i'r afael â methiant y farchnad cyllid busnes yn gyffredinol drwy ganolbwyntio ar gefnogaeth i fusnesau micro, busnesau sy’n dechrau a busnesau arloesol ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd modd i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i fod yn iachach, i dyfu a chryfhau. Bydd y banc datblygu yn ased cenedlaethol strategol sy'n unigryw yn y DU ac yn un sy'n rhoi mantais gystadleuol i fusnesau yng Nghymru dros weddill y wlad. Bydd yn helpu i ddarparu'r twf cyllid a’r cymorth busnes sydd ei angen i ddenu, datblygu a chadw microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, heddiw ac i’r dyfodol. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyllid Cymru ac yn dysgu oddi wrth y banciau datblygu gorau yn y byd.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:23, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gan y banc datblygu gynllun pum mlynedd uchelgeisiol i gynhyrchu dros £1 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer cefnogi economi Cymru. Bydd yn helpu busnesau i gefnogi dros 5,500 o swyddi y flwyddyn. Bydd y banc datblygu yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn sylweddol hyd at £80 miliwn y flwyddyn o fewn pum mlynedd, o'i gymharu â £56 miliwn yn 2016-17. Bydd yn cynyddu’r effaith ar economi Cymru gan dros £170 miliwn y flwyddyn erbyn 2021-22, â chymryd trosoledd sector preifat i ystyriaeth. Mewn blynyddoedd diweddar, mae'r ddarpariaeth cyllid a anelir at ficrofusnesau wedi treblu o £6 miliwn i £18 miliwn. Mae hyn wedi caniatáu i fusnesau sydd â llai na 10 o weithwyr fenthyca yn gyflym ac yn effeithlon gyn lleied â £1,000 hyd at £50,000. Bydd y banc datblygu yn parhau i roi blaenoriaeth i’r rhan bwysig hon o’r farchnad yng Nghymru, sydd hefyd yn guriad calon ein heconomi wledig, a byddaf yn dweud rhagor am hyn maes o law.

Mae'r banc newydd yn datblygu diwylliant o welliant parhaus. Gan weithio gyda Busnes Cymru, bydd yn gwella ei wasanaethau ar-lein i gwsmeriaid, gan helpu mwy o gwmnïau i elwa’n fwy effeithlon. Bydd y banc nid yn unig yn ei gwneud yn haws i gael gafael ar y cynhyrchion ariannol presennol, ond bydd hefyd yn nodi anghenion busnes i’r dyfodol ac yn creu cynhyrchion newydd sy’n addas. I helpu â hyn, mae banc datblygu Cymru eisoes yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Prifysgol Caerdydd a sefydliadau academaidd eraill i ddeall yn well y materion ariannol sy’n wynebu busnesau bach a chanolig, ac i ddatblygu datrysiadau newydd sy’n briodol.

Rwyf yn sicr fy marn na ddylai'r banc newydd golli golwg ar ei brif swyddogaeth sef darparu arian â rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid llenwi bwlch ochr yn ochr â chyllidwyr y sector preifat, i ganiatáu taro bargeinion na fydden nhw’n gallu digwydd fel arall, a darparu ystod lawn o gymorth rheoli yn ogystal â chyllid syml. Wrth gymeradwyo’r cynlluniau uchelgeisiol hyn heddiw ar gyfer y banc datblygu, rwy’n falch o weld y bydd gan y banc bresenoldeb ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig ledled Cymru lle mae methiant y farchnad yn y sector bancio ar ei amlycaf. Gan gydnabod ei swyddogaeth o ran Cymru benbaladr, mae'r banc wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau lansio dros y wlad yn ystod mis Hydref.

Mae'r banc datblygu yn elfen bwysig o strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru fwy ffyniannus a diogel , fel y nodir yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Bydd yn wahanol i Gyllid Cymru, nid yn unig o ran y raddfa uwch o gyllid fydd ar gael i fusnesau yng Nghymru, ond hefyd o ran cymorth busnes gwell wrth gydweithio â Busnes Cymru. Mae'r sefydliad eisoes yn rheoli gweithrediadau sylweddol ar ran adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru, yn fwyaf nodedig Help i Brynu, sydd yng nghylch gwaith fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Aelod Cynulliad, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Rwyf hefyd o’r farn bod posibilrwydd, er hynny, i’r banc datblygu ymestyn ei ddarpariaeth o wasanaethau ariannol eto yn y dyfodol, i gefnogi adrannau eraill Llywodraeth Cymru i ddatblygu datrysiadau arloesol a chosteffeithiol.

Mae'r broses o drosglwyddo Cyllid Cymru i'r banc datblygu ar y gweill eisoes ar sawl cyfrif, gan gynnwys cyflwyno nifer o gronfeydd newydd a chynyddu’n sylweddol gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig, yn awr ac i’r dyfodol, er enghraifft, cronfa olyniaeth rheoli, cyllid i egino technoleg newydd a chronfa cyfalaf gweithio i gefnogi busnesau sy'n tyfu’n gyflym. Hefyd, mae gwaith yn cael ei wneud ar sefydlu uned wybodaeth newydd; gan greu cronfa gydfuddsoddi angel gyda chymorth cysylltiedig; datblygu brand newydd ar gyfer y banc datblygu; a gwella rhyngweithio gyda chwsmeriaid ar-lein, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael cyngor a chyllid ar-lein.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sefydlu pencadlys banc datblygu Cymru yn y gogledd erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd gan y banc bresenoldeb rhanbarthol i gefnogi patrwm rhanbarthol yr adran. Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes i nodi safleoedd addas yn Wrecsam a’r cyffiniau, lle mae'r banc yn anelu i gynyddu ei staff i 50 yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Heddiw, hyfrydwch i mi yw cadarnhau fy mod wedi cymeradwyo sefydlu’r gronfa buddsoddi hyblyg Cymru newydd gwerth £100 miliwn. Caiff y gronfa ei rheoli gan y banc datblygu, ac fel yr awgryma’r enw bydd yn gwbl hyblyg. Bydd yn darparu cyfuniad o ddewisiadau dyled, mesanîn a chyllid ecwiti yn amrywio o £25,000 hyd at £5 miliwn. Bydd yn cynnig benthyciadau â thelerau o hyd at 10 mlynedd, i gydnabod sefyllfaoedd lle mae busnesau bach yn gofyn am gyfalaf tymor estynedig. Fel y crybwyllais yn gynharach, bydd microfusnesau hefyd yn gallu elwa ar y gronfa hon. Mae'r pecyn £100 miliwn o gymorth hyblyg yn ychwanegol at y cyhoeddiad a wneuthum y llynedd i greu cronfa busnes Cymru gwerth £136 miliwn. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi ein bod am roi £35 miliwn arall i mewn i'r gronfa, gan ei chynyddu i £171 miliwn.

Y llynedd, cyhoeddodd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, £230 miliwn ar gyfer ail gam y cynllun Cymorth i Brynu. O'i gymryd ochr yn ochr â buddsoddiad uniongyrchol y banc a throsoledd sector preifat, mae’r arian hwn yn sail i uchelgais y banc o gynhyrchu mwy na £1 biliwn o gymorth buddsoddi yn economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd banc datblygu Cymru yn gynyddol ariannu ei hunan. Mae'r model busnes yn cymryd na fydd angen unrhyw gymorth grant o bwrs y wlad arno mwyach o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar gyfer costau gweithredol. I grynhoi, mae banc datblygu Cymru yn sefydliad sy’n gonglfaen buddsoddi a chymorth busnes. O ystyried maint ac ehangder cynyddol ei arbenigedd, mae mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd y byddwn yn eu hwynebu’n anochel, a dod â mwy o ffyniant a diogelwch i Gymru.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:31, 18 Gorffennaf 2017

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd gweithredol. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siomedig nad ydym wedi gweld y manylion eto a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol graffu ar gynllun busnes y banc datblygu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i’r Aelodau allu sicrhau bod busnesau yn cael cefnogaeth lawn yn sgil y cynigion a bod methiannau Cyllid Cymru yn cael sylw llawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech nodi pryd yr ydych yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun busnes hir ddisgwyliedig ar gyfer y banc datblygu.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig i chi ym mis Mai, fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud y byddai'r cynllun busnes terfynol yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru 'yn fuan iawn'. A yw hynny wedi digwydd erbyn hyn, ac, os nad ydyw, pam mae’r broses wedi bod yn destun y fath oedi?

Roeddech hefyd yn datgan eich bwriad i’r banc datblygu gynyddu benthyca uniongyrchol i fusnesau, o’i gymharu â'r hyn y mae Cyllid Cymru yn ei fenthyca ar hyn o bryd. Nawr, yr wythnos diwethaf, yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, roeddech chi’n dweud y bydd y banc datblygu yn cael y dasg o gynyddu lefelau buddsoddiad o tua £50 miliwn...hyd at £80 miliwn o fewn pum mlynedd.

A wnewch chi roi rhywfaint o eglurhad o ran tarddle’r arian ychwanegol hwn?

Hefyd, nid oedd Cyllid Cymru wedi gallu benthyca arian gan y byddai'n rhaid i unrhyw fenthyciadau ymddangos ar fantolen Llywodraeth Cymru. Nawr, fe wyddom ni, o brofiad diweddar Cylchdaith Cymru, fod yr un peth yn wir am warantau. Gan hynny, felly, o ystyried y ffaith nad oes cynllun busnes yn bodoli a fyddai wedi datrys y cwestiwn hwn yn ddiamau, byddwn yn gwerthfawrogi eglurhad o ran a fydd y banc datblygu yn gallu darparu gwarantau neu fenthyca arian ei hunan.

Gan droi at swyddogaeth fasnachol y banc, a wnewch chi gadarnhau eich bod yn disgwyl i'r banc i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru gyda chyfraddau benthyca o rhwng 4 a 12 y cant, ac amlinellu pam yr ydych yn credu mai’r gymhareb arfaethedig o ariannu rhwng cyhoeddus a phreifat i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru yw’r gymhareb orau bosibl i hybu twf busnes, rheoli risg, a sicrhau gwerth i’r trethdalwr? A ydych hefyd yn hyderus y bydd y model hybrid arfaethedig ar gyfer y banc yn ddigonol wrth fynd i'r afael â methiant y farchnad busnesau bach a chanolig a sicrhau cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o gyfalaf newydd i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a mynd i'r afael â llenwi’r bwlch cyllido?

Gan droi at ddyfodol y banc, a wnewch chi amlinellu hefyd sut y mae gwaith parhaus Llywodraeth Cymru â'r strategaeth ddiwydiannol wedi dylanwadu ar greu cynllun diweddaraf y banc, a pha gamau yr ydych chi wedi eu cymryd hyd yn hyn i sicrhau y bydd y banc yn meddu ar yr arbenigedd masnachol sy’n angenrheidiol ar gyfer ei ddatblygiad cymwys i’r dyfodol?

Yn olaf, gan droi at leoliad y banc—clywais yr hyn a ddywedasoch chi heddiw—faint o aelodau o dîm gweithredol y banc yr ydych yn disgwyl iddynt weithio’n llawn amser yn y brif swyddfa yn y gogledd? Beth yw eich asesiad o nifer staff llawn amser cyllid Cymru a fydd yn cael ei adleoli i’r gogledd? A ydych yn hyderus fod cylch gwaith y banc yn cynnwys ymrwymiad gwirioneddol i adleoli swyddogaethau gweinyddol y tu allan i Gaerdydd a dod â chyllid yn agos at ranbarthau eraill o Gymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:35, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dechrau â'r pwynt olaf un, sef pwysigrwydd sicrhau bod banc datblygu Cymru yn fanc i Gymru gyfan? O ran y pencadlys, bydd nifer y staff a fydd yn cael ei leoli yn y pencadlys yn 50 o fewn y ddwy flynedd nesaf. Rydym ni’n rhagweld y byddwn yn dechrau gyda 20, a fydd yn cynnwys rhai uwch reolwyr, ond mae strategaeth leoli yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Cyllid Cymru. Bydd hynny ar gael ym mis Awst a bydd yn rhoi manylion am yr union swyddogaethau a fydd yn cael eu cynnig yn y pencadlys o'r cychwyn cyntaf a'r cynigion ar gyfer cynyddu nifer y staff.

Mae wedi bod yn amlwg iawn fod Cyllid Cymru yn disgwyl, yn ystod y broses esblygu i fod yn fanc datblygu, y bydd staff presennol yn y gogledd ond hefyd bydd yn gwneud yn siŵr fod unrhyw adnoddau ar gyfer staff ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r pencadlys newydd wrth iddo ddatblygu cronfeydd newydd a chyfleoedd newydd. Ond rwy’n awyddus i sicrhau, a gwn fod Cyllid Cymru yn awyddus i wneud hynny gyda’u cynllun busnes—a byddaf yn trafod yr achos busnes mewn eiliad—gwn eu bod yn awyddus iawn i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad hawdd, mynediad corfforol, i gyngor a chefnogaeth banc datblygu. Ac mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda Busnes Cymru yn edrych ar sut y gallen nhw sicrhau eu bod yn elwa o fuddiannau cyffredin ac, o bosibl, sut y gallen nhw gydleoli gwasanaethau. Ein barn ni yw mai dim ond un pwynt cyswllt sydd ei angen arnoch i gael y cyngor a'r cymorth angenrheidiol, pa un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio dechrau busnes neu’n ddyn busnes eisoes ac yn ceisio tyfu’ch busnes. Felly, mae'n gwneud synnwyr i allu dod â gweithgareddau Busnes Cymru a'r banc datblygu at ei gilydd ac, yn yr un modd, i sicrhau bod swyddogaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyd-fynd yn dda â Busnes Cymru a'r banc datblygu.

O ran yr achos busnes, yn ôl yr hyn a addawyd, rwyf wedi gofyn i Gyllid Cymru rannu ei achos busnes mewn cyhoeddiad briffio a fydd ar gael y mis hwn. Cefais fy sicrhau o hynny. Felly, bydd hynny ar gael i'r Aelodau yn fuan iawn.

O ran y model hybrid a godwyd gan yr Aelod, wrth gwrs, datblygwyd y model yn dilyn dau adroddiad gan bwyllgorau, yr olaf yn 2015, pan nododd y Pwyllgor Menter a Busnes, dan gadeiryddiaeth fedrus eich cydweithiwr Nick Ramsay, fod Cyllid Cymru yn sylfaen gadarn ar gyfer ei datblygu yn fanc datblygu ac na ddylid colli arbenigedd. Felly, mae'r model hwn yn un cadarn.

O ran y gymhareb o ddenu buddsoddiad preifat, rydym yn credu bod hynny’n gyraeddadwy—mae’r gymhareb 1.15:1 yn gyraeddadwy a bydd yn cyfrannu at y targed o £1 biliwn dros bum mlynedd. O ran yr adnodd ychwanegol a fydd ar gael, rwyf eisoes wedi cyhoeddi heddiw y bydd adnodd ychwanegol ar ffurf dwy gronfa, a hefyd y banc datblygu, yng nghwrs ei bum mlynedd gyntaf, yn ailgylchu llawer o'r buddsoddiad. Bydd hynny’n ei dro yn sicrhau, drwy'r ffioedd rheoli, y bydd yn gweithredu heb gost i bwrs y wlad.

Gwnaeth Russell George bwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod y sgiliau digonol o fewn y banc datblygu o'r cychwyn cyntaf. Nawr, rwyf o’r farn y dylem ni i gyd gydnabod bod Cyllid Cymru wedi newid yn eithaf sylweddol ac, o ran ehangu sylfaen y sgiliau sydd ynddo—mae ganddo enw da eisoes, enw da iawn am lwyddo, wrth ddenu staff o'r radd flaenaf i ymuno â'i luoedd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi ennill a denu nifer o unigolion profiadol iawn, gan gynnwys rhai i swyddi cadeirydd, prif weithredwr, a chyfarwyddwyr anweithredol. Ac rwy’n credu, er ein bod ni, efallai, yn eithaf pell o ganolbwynt arbenigedd ariannol Llundain, byddwn yn gallu manteisio ar dai benthyca Llundain, ac rwyf i yn credu y bydd y banc datblygu yn gallu sefydlu cysylltiadau cryf y gellid eu defnyddio i gefnogi busnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

Rwy'n credu mai datblygiad allweddol arall i Cyllid Cymru yw’r arian y mae wedi ei weithredu ar gyfer cwsmeriaid dros y ffin. Mae wedi galluogi Cyllid Cymru i ennill ei enw da a hefyd i ennill sgiliau ychwanegol. Felly, mae gennyf hyder yng Nghyllid Cymru, wrth iddo ddod yn fanc datblygu Cymru, y bydd ganddo’r profiad a'r sgiliau, a’r bri hefyd, i ddenu'r goreuon yn y sector a hefyd i fagu’r sgiliau hynny oddi mewn iddo.

O ran gwarantau, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—ac mae hwn yn bwynt arwyddocaol iawn y mae’r Aelod yn ei godi—fod ein dewisiadau ar gyfer dyfodol banc datblygu Cymru yn aros yn agored a diben yr uned wybodaeth yw asesu tueddiadau cyfredol a newydd i edrych ar unrhyw rwystrau sy'n bodoli sy'n rhwystro mentrau micro, bach, a chanolig eu maint rhag tyfu a dyfeisio ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hynny.  Ac felly, dros y blynyddoedd nesaf, tebyg y gallai dyfodol y banc datblygu esblygu yn unol â hynny.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:41, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n holi tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ein helpu ni drwy esbonio hanes y datblygu polisi yma, oherwydd cawsom fynediad at ddau adolygiad cyllid—roedd y ddau dros gyfnod o chwe mis—ac nid ydych wedi dilyn llawer o'u hargymhellion allweddol, ac yn wir, fe wnaethoch yn groes i hynny. Rydych chi, er enghraifft, wedi caniatáu i Gyllid Cymru weithredu cronfeydd buddsoddi yn Lloegr ar hyn o bryd. Roedd hynny yn gwbl groes i argymhelliad y tîm adolygu, ac fe ddywedon nhw’n benodol nad oedden nhw’n teimlo mai Cyllid Cymru oedd y strwythur cywir i fynd â'r banc datblygu yn ei flaen hefyd.

Roedden nhw’n trafod maes penodol, sef cyfalaf menter, lawer gwaith. Wrth ei natur, y mae'n golygu risg uchel iawn. Byddai rhai yn dweud ei fod, yn y rhan fwyaf o achosion, bron â bod, yn cael ei yrru gan drachwant. Nid yw'n sefyll ochr yn ochr â diwylliant, fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda banc datblygu sy'n eiddo cyhoeddus, sydd o reidrwydd wedi ei rwymo yn y rheolau ac yn tueddu i fod rhywfaint yn llai parod i dderbyn risg. Disgrifiwyd hyn i mi heddiw gan rywun sydd wedi gweithio yn y Ddinas fel cael siop trwsio beiciau modur mewn ward mamolaeth. A’r awgrym o ran mynediad at adolygiad cyllid oedd, mewn gwirionedd, fod yr elfen honno—mae gennym broblem sylweddol yng Nghymru o ran mynediad at gyfalaf menter—yn cael ei chyfeirio yn allanol i bob pwrpas, ac felly’n gweithio gyda chronfeydd cyfalaf menter presennol a rhai newydd. Byddai'n ddiddorol gweld, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydym yn mynd ar hyd y llwybr hwnnw. Crybwyllodd—rwy’n credu bod Russell George wedi holi am fenthyca. Yn eich datganiad, roeddech yn cyfeirio at ddysgu o'r enghreifftiau rhyngwladol—Banc Datblygu Busnes Canada, Finnvera yn y Ffindir—mae gan y banciau datblygu hynny y gallu i fenthyca ar eu liwt eu hunain, felly a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch a fydd gan y banc datblygu y gallu i wneud hynny?

Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yn union ar ddiwedd ei sylwadau nawr o ran bod yn agored i strwythurau’r dyfodol, oherwydd mae rhai awgrymiadau diddorol i’w cael. Os mai sefydliad sydd yn ei ariannu ei hunan yr ydym yn ei drafod, pam na chrëwn ni mewn gwirionedd, i bob pwrpas, sefydliad annibynnol cyhoeddus ei ddibenion, a fyddai naill ai drwy—rwy’n ymatal rhag awgrymu gwarant, Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, neu, fel y mae Gerry Holtham wedi ei awgrymu waddoli’r sefydliad o bosibl, sydd wedyn yn gallu bod yn rhydd i fynd ymlaen a gweithio gyda mwy o ymdeimlad o ystwythder o bosibl nag a fyddai'n wir ar hyn o bryd?

Yn olaf, rwyf ychydig yn bryderus am y pencadlys, Ysgrifennydd y Cabinet—. Roeddwn wrth fy modd â thudalen flaen Y Leader heddiw, ac mae'n ardderchog gweld sefydliadau cenedlaethol newydd yn cael eu creu ar hyd a lled Cymru, ond mae'n rhaid i’r peth fod yn ddilys. Wyddoch chi, oni wnaeth RBS dwyllo wrth ddweud bod eu pencadlys yng Nghaeredin, ond, mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn gwneud y penderfyniadau allweddol yn Llundain? A wnaiff ddweud mwy am nifer yr uwch gyfarwyddwyr a fydd yn cael eu lleoli yn y pencadlys, os nad yw am fod yn bencadlys mewn enw’n unig?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:45, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Eto, rwy’n cytuno'n llwyr, ni all fod yn blac pres yn unig ar adeilad yn Wrecsam, mae'n rhaid i’r lle fod yn hollol weithredol, gydag uwch reolwyr, ac mae’r pwynt hwn wedi cael ei wneud dro ar ôl tro i Gyllid Cymru a bydd yn cael ei adlewyrchu ym mis Awst, pan fydd y strategaeth leoli yn cael ei chyhoeddi. Rwyf wedi fy sicrhau y bydd uwch reolwyr yno ac y bydd cyfarfodydd bwrdd hefyd yn cael eu cynnal yn y pencadlys. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i bob rhan o Gymru gael rwydd hynt i gefnogaeth a chyfleusterau’r banc datblygu, a bydd y pencadlys yn elfen allweddol o hynny. Ond, hefyd, fel y dywedais eisoes, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried ffyrdd eraill o alluogi cwsmeriaid i gael cefnogaeth banc datblygu, a gallai hynny fod trwy gydleoli gydag unedau cymorth Llywodraeth Cymru neu Fusnes Cymru.

O ran cronfeydd cyfalaf menter, mae hwn yn faes gwaith diddorol iawn, ond gallaf ddweud wrth yr Aelod—a dyfyniad diddorol oedd hwnnw gan ei gydweithiwr yn y Ddinas—pan oeddem ni’n chwilio am geisiadau cystadleuol gan wasanaethau rheoli cronfeydd cafwyd rhai achosion lle nad oedd unrhyw gynigwyr eraill heblaw am Gyllid Cymru. Yn awr, mae achos busnes banc datblygu Cymru yn nodi y cytunir ar wasanaethau rheoli a chefnogi buddsoddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru fesul achos, yn dibynnu ar ofynion y prosiect unigol. Felly, mae'r gwaith yn parhau. Byddwn yn gallu ei adolygu.

Ac o ran cwestiwn benthyca, rydym wedi edrych yn fanwl ar lawer o ymholiadau ac ar lawer o ystyriaethau—wedi ystyried a allai gwarantau benthyciadau sydd yn cael eu cynnig drwy gronfa dwf yr Alban a gwarantau allforio gael eu llacio, sy’n hanfodol ar gyfer Cymru ôl Brexit. Rydym wedi ystyried a oes modd i’r banc datblygu feithrin bancio cronfa wrth gefn ffracsiynol, er mwyn bod yn sefydliad sy’n cymryd adnau. Ond, fel y dywedais, mae’r dewisiadau yn agored ar gyfer y banc a byddan nhw’n seiliedig ar werthusiadau rheolaidd, llythyrau blynyddol cylch gwaith, ac, yn hollbwysig, bydd gwaith yr uned wybodaeth, sydd, fel y dywedais yn gynharach, yn craffu ar beth yn union yw’r rhwystrau hynny sy’n wynebu mentrau micro, bach a chanolig eu maint a sut y gallwn fynd i'r afael â nhw.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:47, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru am eu llwyddiant yn denu CAF a chlwstwr technoleg y byd fel ei gilydd i Gasnewydd? Nid newyddion da i Gasnewydd yn unig yw hyn, ond i’r de-ddwyrain hefyd. Yn anffodus, wrth gwrs, mae’n rhaid bod yna 'ond' yn rhywle, ac, yn yr achos hwn, dyma ydyw: er ei bod yn ganmoladwy denu diwydiant newydd i Gymru, mae hefyd lawn gyn bwysiced fod pob busnes a sefydlwyd eisoes yng Nghymru yn cael gafael ar gyllid fel a phryd a lle bo angen. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Siambr ynglŷn â sut mae'n credu y bydd banc datblygu Cymru yn rhoi gwasanaeth fel hyn yn well na Chyllid Cymru sy’n dod i ben? Ac, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi pryderon sawl gwaith o ran mynediad at gyllid, yn enwedig o ran busnesau bach a chanolig yn y sector ymchwil a datblygu. A wnaiff addo i ni y bydd y prosesau i ymgeisio am gyllid o'r fath yn syml ac yn dryloyw, yn enwedig o ystyried y pwyslais a nodir yn fynych gan Lywodraeth Cymru ar greu sector arloesol cadarn yng Nghymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:49, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am iddo ein llongyfarch ar y gwaith a wnaed i sicrhau buddsoddiad sylweddol gan CAF yn etholaeth fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths? Mae'n mynd i fod yn ychwanegiad pwysig i sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru. Am y tro cyntaf, byddwn yn adeiladu trenau. Mae'n brosiect cyffrous iawn, ac mae hefyd yn un sydd â photensial i ehangu’n fawr iawn. Hefyd, mae hwn yn ddatblygiad cyntaf o’i fath yn y byd, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn rhywbeth, eto, y gall y de-ddwyrain fod yn falch ohono a hynny’n haeddiannol. Mae’n seiliedig ar economi’r dyfodol, yn elfen o'r economi a fydd ar flaen y gad yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol—eto, cyflawniad cyffrous a thestun balchder.

O ran cymorth i gwmnïau sy’n cychwyn, bydd yn hanfodol fod Busnes Cymru a’r banc datblygu yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth priodol a chywir ar gael ar bob cam o'r daith i’r rheini sy’n cychwyn busnes neu’r bobl busnes sydd eisoes yn gweithredu menter ficro, fach neu ganolig ei maint. Am y rheswm hwn, bydd yn rhaid cael trefniant cyson ac rwyf wedi gofyn i uwch swyddogion o Fusnes Cymru a Chyllid Cymru fel ei gilydd i gynnal darn cyflym o waith yn edrych ar sut y gallwn gysoni gwaith a swyddogaethau'r ddau yn y ffordd orau.

Yn ogystal â hynny, fel yr amlinellais— yn dilyn datganiad llafar heddiw byddaf yn anfon llythyr at yr Aelodau yn rhoi manylion pob un o'r cronfeydd—mae adnodd ychwanegol bellach ar gael i ficrofusnesau. Mae wedi treblu yn ei werth dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd a oedd, cyn i Gyllid Cymru weithredu'r swyddogaethau i gefnogi microfusnesau, yn anodd eu cael gan fanciau masnachol. Rwyf hefyd o’r farn y bydd y banc datblygu, gyda strategaeth ddigidol, yn sicrhau y bydd y gwasanaethau porth y mae’n eu gweithredu o ran Busnes Cymru yn glir, yn dryloyw ac yn syml yn eu swyddogaeth. Mae Busnes Cymru eisoes yn llwyfan cryf iawn, wedi ei hen sefydlu, y bydd banc datblygu Cymru yn gallu ei ddefnyddio.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:51, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar sefydlu banc datblygu i Gymru, ac nid yw’n syndod o gwbl i gydweithwyr yma fy mod yn croesawu’n wresog leoliad y banc yn y gogledd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y fan acw, mae ffanffer ar dudalen flaen y 'Wrexham Leader' heddiw, ond cafodd le amlwg yn y 'Flintshire Leader' hefyd. Yn fy marn i mae hyn yn dangos yr arwyddocâd sydd iddo dros ffiniau’r siroedd ac i'r rhanbarth yn gyffredinol. Er fy mod i, yn amlwg, yn cydnabod yr angen am y banc hwn i gefnogi busnesau, fel y dylai, ar hyd a lled y wlad, rwyf ond yn dymuno canolbwyntio yn fyr ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich datganiad am nod y banc i feithrin 50 o swyddi. Ar hynny, er fy mod yn cydnabod bod yn rhaid i’r bobl sy’n cael eu recriwtio i’r swyddi hyn feddu ar y sgiliau cywir er mwyn i’r banc fod yn llwyddiannus, byddwn i'n awyddus i weld sut y gallai hynny mewn gwirionedd gynnig cyfleoedd i bobl yn y rhanbarth ei hun, gan fy mod yn awyddus i weld bod y swyddi a ddaw gyda datganoli, yn enwedig y sefydliadau yn sgil datganoli wrth i ni symud ymlaen, yn cynnig cyfle gwirioneddol ledled Cymru. Felly, os nad yw'r sgiliau eisoes yno yn y rhanbarth, a fydd unrhyw gyfle yn y dyfodol i edrych ar sut y gellid cynnig prentisiaethau hefyd?

Fy mhwynt olaf yw hyn. Yn eich tystiolaeth i sesiwn ddiweddar o Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, rwy’n credu i chi sôn am gyfleoedd posibl i gydleoli Busnes Cymru â Chyllid Cymru yn y banc datblygu. Tybed a wnewch chi ymhelaethu ar hyn—sut, yn wir, y gallai fod nid yn unig yn gydleoli ond yn gydweithio, a fyddai’n helpu pobl i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael o ran cymorth ariannol, ond hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth wirioneddol o'r cyfle sydd yno i gael cyngor ac arweiniad. Daeth yn gwbl amlwg i mi, yn enwedig mewn ymweliad diweddar yn eich cwmni i fragdy’r Hafod yn fy etholaeth i, nad yw pobl ar lawr gwlad yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael ar eu cyfer. Rwyf o’r farn y gallai cydweithio yn well o bosibl ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw o sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa yn effeithiol ar y gwasanaethau.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:53, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le ynglŷn â’r ffaith fod llawer o fusnesau bach naill ai heb fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ac sydd wedi bod ar gael ers rhai blynyddoedd neu, fel arall, eu bod yn gweld cymaint o gynigion am gymorth fel eu bod yn anodd iddynt weld y darlun mawr. Y nod wrth ddod â Busnes Cymru a'r banc datblygu yn nes at ei gilydd yw sicrhau bod eglurder cyfeiriad yn bodoli ar gyfer unrhyw bobl busnes er mwyn cael arian a chymorth o unrhyw fath ac y byddai'r ddau yn gallu bod yn fynegbyst i’w gilydd ac, yn wir, i wasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector yn unol â hynny. Fy marn i yw y dylem ni, os oes modd, ddatganoli a datganolbwyntio buddsoddiad ac, am y rheswm hwnnw, rwy’n awyddus i weld presenoldeb cryf gan y banc datblygu nid yn unig yn y gogledd ond ledled Cymru. Yn wir, mae gan gymunedau gwledig yn aml gnewyllyn mawr o ficrofusnesau sy'n ei chael hi’n anodd cael gafael ar gyllid gan fanciau’r stryd fawr. Felly, os unrhyw beth, bydd banc datblygu Cymru yn fwy perthnasol i rai cymunedau gwledig na rhai o'n cymunedau trefol, ac am y rheswm hwnnw, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol i’r banc datblygu fod yn hygyrch i bobl busnes yn ein hardaloedd mwy gwledig.

Ac o ran y sylfaen sgiliau sydd yn bodoli yn y gogledd yn barod, rwy'n hyderus fod ar sail sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol cryf a chynyddol yn ardal Wrecsam, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o’r gogledd—. Fod yna hefyd sector digidol cryf iawn sydd yn ffynnu. Roeddwn yn etholaeth Janet Finch-Saunders yn ddiweddar yn ymweld ag uned fusnes fechan a oedd yn canolbwyntio ar dechnoleg ariannol, ac a oedd yn gweithio o adeilad eglwys. Lle diddorol oedd hwn—nifer o fusnesau bach yn tyfu'n gyflym, bob un ohonynt ag angen mynediad at y math hwn o gymorth. Ac, felly, mewn mannau fel Aberconwy, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y banc datblygu yn boblogaidd iawn. Ond mae'r sylfaen sgiliau yno’n barod. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w sicrhau yw, wrth i’r swyddi ychwanegol hynny gael eu datblygu ar gyfer y pencadlys, fod y bobl iawn ar gael. Mae llawer o bobl sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd yn teithio dros y ffin i gael gwaith yn y sector gwasanaethau ariannol, a gallai presenoldeb pencadlys banc datblygu yng Nghymru gynnig cyfle iddyn nhw aros yng Nghymru. Ond, yn yr un modd, bydd yn bwysig i addysg bellach ac addysg uwch weithio gyda'r swyddogion partneriaeth sgiliau rhanbarthol i nodi'r holl gyfleoedd sydd ar gael o fewn y banc datblygu drwy’r rhanbarth.

Ac o ran y dull rhanbarthol, rwy'n arbennig o falch y bydd y banc datblygu a swyddogaethau presennol Busnes Cymru yn caniatáu i bob rhanbarth ddatblygu dull eithaf nodweddiadol o ran y ffordd y mae'r gwasanaethau yn ymateb i gwsmeriaid.