– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 19 Medi 2017.
Diolch i’r Prif Weinidog. Datganiad nawr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar Brexit a thegwch o ran symudiad pobl. Mark Drakeford.
Wel, Lywydd, bythefnos yn ôl, fe gyhoeddom ni ‘Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl’, y diweddaraf mewn cyfres o ddogfennau polisi sy’n edrych yn fanwl ar oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Yn ein dogfen rydym yn edrych ar rôl mudo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar fudo o Ewrop. Rydym ni’n dadansoddi’r modelau posibl y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu mabwysiadu ar gyfer system fudo yn y dyfodol ac yn ystyried effaith bosibl rhain ar Gymru.
Rydym yn cynnig ffordd hyblyg, ond dan reolaeth o edrych ar fudo, lle gallai pobl o Ewrop symud i’r Deyrnas Unedig ar yr amod eu bod nhw eisoes wedi cael cynnig swydd, neu fod modd iddyn nhw ddod o hyd i swydd yn gyflym. Ar yr un pryd, rydym yn dadlau dros gymryd camau cryfach i orfodi deddfwriaeth i herio camfanteisio ar weithwyr.
Llywydd, we’ve published this document to provide clear, evidence-informed articulation of Wales’s interests, for our people and our economy. With only 18 months to go until the UK’s exit date from the European Union, the UK Government is yet to set out its proposals for how future migration from Europe to the UK will be managed. Our document is timed to ensure that Welsh views and interests are known and understood in that discussion. And, Llywydd, these views are significant.
Welsh employers are worried about whether they will be able to recruit and retain workers from the European Union. The sustainability of their businesses often depends on those workers from the EU, just as does the job security of the Welsh workers in those same businesses. And, Llywydd, they are right to be worried, when we see the recent increase in the number of EU citizens who are leaving the United Kingdom. The latest migration statistics, published in August, show that net migration decreased by 81,000 people compared to the previous year, and that two thirds of this was due to a decrease in EU net migration. This was driven by an increase in people leaving the United Kingdom, particularly from countries that joined the EU in 2004. Now, the UK Government could have provided a unilateral guarantee of rights for such EU citizens in the UK. It has, lamentably, failed to do so. No wonder EU citizens are leaving the United Kingdom when the UK Government has failed to take the actions needed to make them feel valued and welcome.
Here in Wales we celebrate the contribution that EU citizens bring to the Welsh economy and society, and the fact that many EU citizens have chosen to build their lives here in Wales. And, Llywydd, because that immigration directly affects many of our devolved responsibilities, the staffing of our health service and our universities and the success of our economy is why we have published our paper. The analysis and evidence in our document clearly shows the importance of EU citizens to the Welsh workforce. Here in Wales 7 per cent of NHS doctors, 5 per cent of tourism industry workers, 27 per cent of workers in food and drink manufacturing and 7 per cent of our university staff are all from the European Union. That is why our priority is for a UK immigration system that supports our ambition for full and unfettered participation in the single market—a market of 500 million people, free of tariff and non-tariff barriers, which is of such vital importance to businesses and jobs across Wales. Achieving that ambition will only be possible if our future migration system is flexible enough to allow people to move, for the purposes of employment, between the UK and the EU. That, above all, is the reason why we believe that our future special relationship with Europe should include a differentiated and preferential approach to immigration for European Economic Area and Swiss nationals, while preserving the common travel area with the Republic of Ireland and the rest of the British isles. And we welcome the commitments from the UK Government and the European Union that the common travel area should be preserved.
Llywydd, let me absolutely clear: we do not believe that a system based on arbitrary net migration targets is in Wales’s interests, nor is it in the interests of the rest of the UK. Such an approach leads to the absurdity of counting students within the net migration target, based on what we now know is a grossly overstated estimate for the number of students overstaying their visas. We have consistently said that we do not agree with this policy, and our fair movement of people document sets out both the evidence and the analysis that lead us to oppose a restrictive numbers-and-sectors approach to immigration from the EU and the rest of the EEA. But if the UK Government does choose such a path, the Welsh Government will press, as we’ve set out in our document, for a full and fair Welsh migration quota where we could determine our priorities for migration to Wales. Our evidence shows that the sectors in Wales that depend on migrant workers are different from those in the rest of the UK. There is a strong risk that our migration needs would not be addressed when pitted, for example, against demand in the south-east of England.
Now, Llywydd, of course we realise that many people in Wales at the time of the referendum were concerned about some aspects of immigration and what this might mean for their communities, for their employment prospects and for wages and working conditions. We believe that connecting migration more closely to employment will help to alleviate those concerns and create a climate in which the facts can get a hearing, because, Llywydd, those facts and the evidence we set out clearly demonstrate that the overall effect of migration here in Wales is a positive one. The Institute for Fiscal Studies, for example, reports that migration creates a net benefit to public finances. The Department for Work and Pensions’s own data shows that in Wales 4 per cent of working-age EU migrants claim working-age benefits, compared to 17 per cent of UK-born nationals.
And, Llywydd, it is also a fact that eight years into the flawed and failing policies of austerity far too many Welsh citizens have had the collective protections of the state withdrawn from them through cuts to legal aid, attacks on trade unions and draconian policing of an ever-reducing benefit system. Little wonder that those whose daily circumstances are so precarious add exploitation in the workplace to their fears about the future. Our paper addresses this issue head on, while also challenging the dangerous perception that somehow immigration is responsible. Exploitation is caused by unscrupulous employment practices, not by immigration, but migrant workers are particularly vulnerable to the instruments of exploitation—tied accommodation, tied transport, false self-employment and so on—which then gives rise to the risk of exploitation of others. The evidence we set out demonstrates that, since 2010, the UK Government simply hasn’t done enough to enforce the laws that are meant to protect workers from exploitation. They have the responsibility to ensure that all workers are aware of their rights, and have access to support from trade unions, so that those workers are better able to identify exploitation and take action when it happens to them, without fear of repercussions.
And there is more that we as a Welsh Government can do to build further on our ethical procurement policies, on making the Welsh Government itself and the Welsh NHS living wage employers and in the passing of our Trade Union (Wales) Act 2017. We will continue to find ways, working with trade union partners and others, to identify and tackle worker exploitation and create greater compliance amongst employers in Wales.
Thus, Llywydd, we are proposing a fair and realistic system for migration between the European Union and the United Kingdom. This is not only right for Wales, but, we believe, right for the UK. And crucially, this is a constructive basis for the UK’s negotiation with the EU-27. We hope, of course, that the UK Government will give serious consideration to our proposals, and I look forward to hearing the views of Assembly Members this afternoon.
Byddaf yn osgoi ymgais i ddechrau dadl ar economeg; arhosaf am y ddadl nesaf ar yr economi er mwyn ildio i'r demtasiwn honno. Ond fel y dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, bydd gennym ni system fewnfudo sy'n gweddu i'r DU, nid yn cau'r drws yn glep—ond yn croesawu'r doniau sydd eu hangen arnom ni, o'r UE ac o’r holl fyd. Wrth gwrs, byddwn yn sicrhau bod busnes yn cael y sgiliau sydd eu hangen arno, ond ni fydd busnes yn gallu defnyddio mewnfudo yn esgus i beidio â buddsoddi ym mhobl ifanc y wlad hon.
Ac maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno eu cynigion cychwynnol am system fewnfudo newydd yn yr hydref eleni.
O ystyried, fel y cyfeiriais ato yn gynharach fod cadarnhad gan Swyddfa Cymru fod llawer iawn o ymgysylltiad â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion yn Llywodraeth y DU wedi digwydd—ac rwy’n pwysleisio Llywodraeth y DU ac nid Swyddfa Cymru yn unig—dros yr haf, o ran yr hyn, ac eithrio'r papur hwn, sydd wedi cael ei drafod, pa ddatblygiadau, os o gwbl, sydd wedi deillio hyd yn hyn o hynny?
Fel chwithau, rydym o blaid gweithredu i sicrhau talu'r isafswm cyflog a gorfodi deddfwriaeth i fynd i'r afael â chamfanteisio ar gyflogeion, ni waeth o ble y maen nhw’n dod. Mae llawer o hynny, yn amlwg, heb ei ddatganoli ond mae llawer a allai fod o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ac nid yn lleiaf gasglu tystiolaeth yn y dirgel. Pa swyddogaeth, neu swyddogaeth ehangach, beth bynnag fyddo canlyniad y model mewnfudo a fabwysiedir yn y dyfodol, yr ydych chi'n teimlo y gallai Llywodraeth Cymru ei chyflawni wrth symud hynny ymlaen?
Mae'r datganiad hwn, yn amlwg, yn ymwneud â mudo, ac nid â mater hollol wahanol ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, fel y gwn y deallwch chi ac y credwch yn gryf ynddo. A wnewch chi ddatganiad clir, er mwyn i’r cyhoedd gael gwybod, fod hynny’n wir a bod pawb ohonom yn cefnogi gweld Cymru yn dod yn genedl noddfa—mater gwahanol i'r materion mudo sy'n cael eu trafod heddiw?
Rydych yn dweud bod eich cynnig chi yn cysylltu mudo â gwaith ac yn cefnogi eich uchelgais o fynediad llawn a dilyffeithair i'r farchnad sengl. Serch hynny, fel y dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr, byddai hynny, i bob diben a phob pwrpas, yn golygu peidio ag ymadael â’r UE o gwbl. A dyna pam y gwnaeth y ddwy ochr yn yr ymgyrch refferendwm hi'n glir y byddai pleidlais i ymadael â’r UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl. Dywedodd hi:
Yn lle hynny, rydym yn ceisio’r mynediad gorau posibl iddi trwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol.
Sut, felly, yr ydych chi'n ymateb i'r datganiadau yr wythnos diwethaf gan faer Llafur Manceinion Fwy, Andy Burnham, fod y Blaid Lafur mewn perygl o golli cyswllt â phleidleiswyr Brexit gogledd Lloegr pe bai’r blaid yn methu â chymryd camau i dorri i lawr ar ryddid symudiad, ac yn peryglu adlach ffyrnig gan bleidleiswyr ‘gadael’ gogledd Lloegr a allai deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu? Er mai cefnogi 'aros' a wnaeth ef yn y refferendwm, dywedodd ei fod yn gofidio am gynigion Llafur i aros yn y farchnad sengl, gan ddweud y byddai hyn bron yn sicr yn ein hatal rhag rheoli polisi mewnfudo. Dywedodd y byddai hynny’n achosi ymraniad mawr iawn os yw'n edrych yn debyg bod yna adlach o du’r sefydliad, byddai’n golygu gwrthod canlyniad y refferendwm bron ac yn rhybuddio yn erbyn Brexit Llundain-ganolog. Felly, a ydych chi'n credu, fel y gwnaf innau, y dylai Cymru sefyll gyda thrigolion gogledd Lloegr neu gyda thrigolion Llundain? Er fy mod yn hoff iawn o’r naill a’r llall ohonyn nhw, mae’n amlwg.
Rydych yn dweud y gallasai Llywodraeth y DU fod wedi rhoi yn unochrog warant o hawliau i ddinasyddion o’r fath o’r UE yn y DU, a’i bod yn anffodus wedi pallu â gwneud hynny. Mewn gwirionedd, dim ond dydd Iau diwethaf, er enghraifft, dywedodd Gweinidog cyllid y DU, Philip Hammond, fod Prydain yn agos iawn at ddod i gytundeb â'r UE ar sut i amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE wedi iddi adael y bloc. Efallai y bydd trafodaethau yn digwydd bob pedair wythnos, ond mae trafodaethau a deialog yn digwydd yn barhaus, ac yn ffodus mae'r safbwyntiau a gymerir gan y ddwy ochr yn symud tuag at gytundeb ar ddatrysiad i setliad yr ysgariad fel y’i gelwir.
Rydym ni o’r un farn â chi o ran cydnabod yr angen am ddiogelu'r ardal deithio cyffredin â Gweriniaeth Iwerddon a gweddill ynysoedd Prydain, ac rydym yn croesawu ymrwymiadau Llywodraeth y DU a'r UE i gadw'r ardal deithio gyffredin. Rydych yn sôn eich bod wedi pwyso am gwota mudo llawn a theg i Gymru, fel y gallech bennu eich blaenoriaethau ar gyfer mudo i Gymru. Onid yw hyn yn gwbl anymarferol heb osod rheolaethau ffin ar Glawdd Offa, fel petai? Ac yn olaf, gan nodi wrth gwrs bod Schengen yng nghyd-destun Iwerddon yn golygu bod yna—. Mae dewis Iwerddon a'r DU i eithrio o Schengen yn golygu bod yna ffin allanol o Iwerddon, os mai dyna'r hyn y gallech fod yn ei ddweud, ond yn fewnol yn y DU, byddai cwotâu yn amhosibl eu gorfodi.
Ac yn olaf, rhaid cofio bod gan Gymru'r gyfradd gyflogaeth isaf ym Mhrydain. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 18,000 mewn anweithgarwch economaidd i 460,000, sy'n golygu bod 525,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn ddi-waith ar hyn o bryd. Mae llawer ohonyn nhw yn dymuno gweithio ond yn wynebu rhwystrau diwylliannol a chorfforol. Felly, ar ôl 18 mlynedd, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol i fynd i'r afael â'r lefelau uchel hynny o anweithgarwch economaidd a helpu'r bobl hynny i gael gwared ar y rhwystrau i weithio er mwyn i'r sgiliau a'r cryfderau sydd ganddynt helpu hefyd i gyfrannu at lenwi’r bwlch sgiliau?
Wel, Llywydd, gadewch mi ddechrau trwy geisio dod o hyd i feysydd cyffredin gyda'r Aelod. Rwy'n falch iawn o’i roi ar gofnod, fel y gwnaeth ef, nad papur am geiswyr lloches a ffoaduriaid yw hwn, a chefnogaeth gref Llywodraeth Cymru i bolisïau lloches a ffoaduriaid sy'n croesawu pobl i Gymru sydd wedi wynebu profiadau mor ofnadwy mewn mannau eraill yn y byd ac sy'n dod yma am noddfa. Gadewch imi ddweud hefyd ein bod yn falch o'n hymddygiad yng Nghymru yn dilyn datganoli. Rydym wedi gweld gostyngiad cyflymach o ran anweithgarwch economaidd yng Nghymru nag a welwyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac wrth gwrs nid oes dim o gwbl yn ein dogfen ni sy'n awgrymu na fyddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin sgiliau pobl sy'n byw yng Nghymru eisoes, i greu cyfleoedd newydd i bobl sydd wedi bod y tu allan i'r gweithle ac sy'n dymuno dychwelyd iddo. Ond nid ydym yn cyd-fynd am eiliad â'r bobl hynny sydd, fel y crybwyllodd Mark Isherwood i ddechrau, yn awgrymu rywsut bod mewnfudo a phresenoldeb pobl o'r Undeb Ewropeaidd yn ein plith oherwydd bod cyflogwyr wedi defnyddio hynny yn esgus i beidio â buddsoddi mewn pobl ifanc.
Mae'r cyflogwyr yr ydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod yr haf hwn wedi mynd allan o'u ffordd i egluro i mi y camau y maent yn eu cymryd, gan weithio gyda'u colegau addysg bellach lleol ac ati, i geisio paratoi pobl sy'n byw yn eu cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd am swyddi sydd ar gael. Ond hyd yn oed pan fyddan nhw wedi gwneud hynny hyd eithaf eu gallu, mae'n rhaid iddyn nhw allu denu pobl o'r tu hwnt i'w ffiniau eu hunain er mwyn sicrhau cyflogaeth barhaus y bobl sydd o'r ardaloedd lleol hynny. Llywydd, rhoddodd y Prif Weinidog enghraifft dda iawn pan gyflwynodd y papur hwn ychydig wythnosau yn ôl, o westy yng nghefn gwlad Cymru sy'n cyflogi 100 o bobl: mae 80 o'r bobl hynny yn dod o'r gymuned leol eisoes, ac mae 20 o bobl yn dod o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd y sawl sy'n rhedeg y gwesty hwnnw'n hollol glir fod swyddi'r 80 o bobl hynny yn dibynnu ar ei allu i i ddenu 20 o bobl i ddod i gefnogi'r busnes. A heb yr 20 hynny, ni fyddai gan yr 80 o bobl sy'n byw yma eisoes swyddi chwaith. Dyna pam mae ein cynigion yn gynigion sy'n iawn i Gymru, a'r Llywodraeth hon a'n cyfrifoldebau ni sy’n ganolbwynt, nid yr hyn a allai fod yn iawn mewn ardaloedd eraill, ond yr hyn sy'n iawn i Gymru. Ac rydym o'r farn fod y papur hwn, sydd ym mhrif ffrwd bragmataidd cynigion, yn ein barn ni, yn rhoi glasbrint i wneud yn union fel hynny.
A oes yna fwy y gallwn ni ei wneud fel Llywodraeth i sicrhau'r hawliau a ddylai fod yno i amddiffyn pobl sy'n dod i'r gweithle trwy gyfrwng swyddi lefel mynediad ac yn y blaen? Wel, dywedais yn fy natganiad fod mwy y gallwn ei wneud ac yr ydym yn bwriadu ei wneud, gan adeiladu ar ein llwyddiant, gyda chod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, gyda’r cod dwy haen ar ein model partneriaeth gymdeithasol, a gallaf ddweud wrth yr Aelod bod ein gweithredoedd yn yr ardal hon yn cael eu harsylwi'n ofalus a’u herio lle bo angen yng nghyngor partneriaeth y gweithlu ac mewn mannau eraill lle mae pobl sy'n gweithio gyda ni ar yr agenda hon yn dod i gynghori Llywodraeth Cymru.
Yn olaf, o ran mater y cwota mudo, gadewch imi ddweud eto, Llywydd, nad hwn yw ein polisi dewisol. Nodir hynny yn bendant yn y ddogfen. Nid dyna'r hyn y credwn y byddai'n gweithio orau i Gymru na'r Deyrnas Unedig. Ond os yw Llywodraeth y DU yn benderfynol o roi rheolaethau mudo o flaen anghenion economi'r DU ac yn penderfynu gwneud hynny trwy gwotâu mudo net, yna rydym yn argyhoeddedig y bydd system o fod â chwota i Gymru er ein lles gorau ni. Dyma'r polisi a argymhellir gan Gorfforaeth Dinas Llundain ar gyfer Llundain a chan y grŵp senedd hollbleidiol ar integreiddio cymdeithasol yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall weithio os bydd yn rhaid inni ei roi ar waith. Nid dyma'r dull y byddem yn ei ddewis ar gyfer Cymru na'r DU.
Diolchaf i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddiad y ddogfen tegwch o ran symudiad pobl, sydd, wrth gwrs, yn ymhelaethu ar y Papur Gwyn ar y cyd a gyhoeddwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar. Rwyf fi, fel yntau, yn ofer o bosibl, yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddwn yn gallu cynnal dadl onest a difrifol ar fewnfudo sy'n ystyried y ffeithiau a'r gwir effaith y mae mewnfudo wedi ei chael ar ein cymdeithas a'n heconomi. Ac afraid dweud bod Plaid Cymru yn ailadrodd eto ei gwerthfawrogiad o'r rhai sy'n dod o bob cwr o'r byd i gyfrannu at gymunedau Cymru a busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae croeso iddyn nhw yma ac maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi yma.
Byddai'r model a awgrymir yn y cyhoeddiad hwn yn caniatáu i Gymru a'r Deyrnas Unedig barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl Ewropeaidd, sy'n ystyriaeth hollbwysig gan Blaid Cymru, wrth gysylltu gwaith gyda symudiad pobl ar gyfer gwladolion yr UE a’r Swisdir. Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, mai dull pragmataidd yw hwn, ac wrth inni weld y negodwyr Prydeinig yn ymddatod wrth y bwrdd trafod ym Mrwsel, dyn a ŵyr fod angen pragmatiaeth arnom ni ar y pwynt hollbwysig hwn. Dim ond 18 mis i fynd tan ddiwrnod y gwahanu a'r fath annibendod y mae Llywodraeth Prydain ynddo.
O ran manylion y cyhoeddiad hwn heddiw, hoffwn ofyn dau gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, awgrymodd y Prif Weinidog, rwy’n credu, yn ystod amser cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, fod copi o'r ddogfen hon wedi ei hanfon at Lywodraeth Prydain, ond roeddent yn amharod i gwrdd â Llywodraeth Cymru i'w thrafod hi. Tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar hynny—a yw hwn yn fater o drefnu dyddiad neu o gael pobl Cymru i ystyried eu safle yn y teulu aruchel hwn o genhedloedd a sut y meiddiwn ni awgrymu ffordd ymlaen ar gyfer y DU gyfan ar fater polisi na ddylem ni feiddio ei drafod.
Ond yn ail—a phwynt yr anghytundeb rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth—yw cwestiwn y gyfundrefn cwota neu drwydded waith sydd yn rhanbarthol neu’n wladol ledled y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu y gwelwn ni, fel y crybwyllodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun yn ei ddatganiad, y duedd sy'n digwydd yn awr, oherwydd yr arwydd a roddir gan Lywodraeth y DU i weddill y byd, ein bod yn ei chael hi'n anodd denu nifer y bobl sydd ei angen arnom i’n heconomi. A soniodd yn ei ateb blaenorol i gwestiwn blaenorol am waith Corfforaeth Dinas Llundain wrth fodelu’r ffordd y gallai trwydded gwaith yn Llundain weithredu wedi’r gwahanu. Da y gallwn ddychmygu, credaf i, gyda'r profiad sydd gennym yng ngwleidyddiaeth Cymru, sefyllfa pan gyrhaeddwn ddiwrnod y gwahanu a bydd Llywodraeth Prydain, yn daer am gadw Dinas Llundain yn ganolfan ariannol fyd-eang a’i phen uwch y dŵr ac fel yr unig fan yn naearyddiaeth y DU sy'n darparu digon o incwm i’w chynnal ei hun, yn caniatáu i Lundain gael statws arbennig yn y DU, ond neb arall. Unwaith eto, dof yn ôl at hyn. Does gen i ddim bwriad i wawdio Aelodau unoliaethol y Siambr hon, ond unoliaethwyr ydych chi ac mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i chi ei ystyried efallai dros y cyfnod sydd i ddod: os yw hwn yn deulu gwirioneddol gyfartal ac yn deulu o genhedloedd, yn sicr ni fydd yn dderbyniol i Lundain, yr unig ranbarth o'r DU sydd eisoes yn cael mantais economaidd a gwleidyddol enfawr dros bawb arall—. Mae holl adeiladwaith economaidd y Deyrnas Unedig gyfan yn seiliedig ar yr un gornel honno. Os caniateir iddyn nhw gael eu trwyddedau gwaith eu hunain, ac nid y gweddill ohonom ni, bydd hynny'n niweidiol iawn i wlad fel Cymru sydd eisoes yn agosáu at gyflogaeth lawn ac ni fydd ganddi’r gallu, wedyn, i wynebu’r diffygion yn ei sectorau cyhoeddus na phreifat, tra gall Llundain fynd o nerth i nerth yn barhaus. Byddai hynny'n annerbyniol. Rwy'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn modelu ar hyn o bryd, nac yn cyhoeddi ar hyn o bryd, yr effaith ar economi Cymru pe byddai triniaeth ffafriol i ddinas Llundain o ran trwyddedau gwaith rhanbarthol ac nid i Gymru. Ac mewn gwirionedd, hyd yn oed pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai gan ddinasyddion yr AEE yr hawl i ddod i'r DU i weithio, rwy'n dal i gredu na allai hynny fod yn ddigon i gynnal anghenion economi Cymru o ran y prinder sgiliau sydd eisoes yn cael eu gwaethygu gan y broses wahanu sydd ond megis dechrau.
Felly, byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gymryd amser, efallai, i roi mwy o ystyriaeth i gyhoeddi rhagor o wybodaeth a modelu ar nid yn unig sut y gallai system drwyddedau gwaith ymhlith cenhedloedd a rhanbarthau'r DU weithredu—. Oherwydd nid ydym yn awgrymu na allai weithredu; rydym yn gwybod ei fod yn gweithredu. Mae gan bob gwladwriaeth ffederal y gallwch chi feddwl amdani—. Gyda rhai eithriadau, ond mae gan lawer o wladwriaethau ffederal y gallwch chi feddwl amdanyn nhw eisoes gwotâu gwahanol a systemau trwyddedau gwaith. Felly, fe all weithredu—mae yn gweithredu—ond nid yn unig hynny, gadewch inni beidio â cholli golwg ar y cyfle y mae'n rhaid inni ddadlau drosto nawr, yn ystod y 18 mis nesaf, cyn iddi fod yn rhy hwyr a chyn, unwaith yn rhagor, i’r wladwriaeth Brydeinig fynd â Chymru i ddistryw.
Roedd Steffan Lewis yn hollol gywir i ddechrau trwy ddweud bod y cynigion yn y ddogfen hon yn ymhelaethu ar y sefyllfa sylfaenol y gwnaethom ni ei nodi yn y ddogfen a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng ein dwy blaid. Roeddwn i’n dymuno gwneud yn siŵr fy mod wedi cydnabod hynny.
Cododd Steffan Lewis ddau gwestiwn penodol. Anfonwyd copïau o'n dogfen at Lywodraeth y DU a'u rhannu â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban hefyd. Weithiau mae'n rhaid i chi ofyn mwy nag unwaith i wneud yn siŵr eich bod yn cael trafod cynnwys y dogfennau hyn gyda phobl yr ydych chi'n credu y byddai o ddiddordeb iddyn nhw. Nid wyf wedi rhoi'r gorau i ymdrechu i sicrhau trafodaeth o'r fath, gyda'r Ysgrifennydd Cartref a chyda Gweinidogion eraill yn y Swyddfa Gartref, ond hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ac os ydym yn llwyddo i gael cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Adael yr Undeb Ewropeaidd, yna byddwn yn sicr yn disgwyl gweld y ddogfen hon ar yr agenda yno fel y gellid ei rhannu a'i thrafod yn iawn gyda chydrannau'r DU.
Ar yr ail gwestiwn, nid wyf i o’r farn ein bod mor bell oddi wrth ei gilydd. Mae’n fater o'r hyn yr ydych chi'n ystyried y dylid rhoi blaenoriaeth iddo, a blaenoriaeth glir y Llywodraeth hon o hyd yw cael un system fudo sy'n gweithio i bob rhan o'r DU, ac rydym yn credu ein bod yn amlinellu un a allai gyflawni hynny yn y fan hon. Os nad hynny fydd hoff ddewis y Deyrnas Unedig, yna rydym i raddau helaeth iawn yn yr un sefyllfa ag y gwnaeth Steffan Lewis ei hamlinellu. Wrth gwrs, ni fyddem yn dymuno bod mewn sefyllfa lle rhoddir anghenion Dinas Llundain o flaen anghenion yr economïau mewn rhannau eraill o'r DU. Nid ydym chwaith yn dymuno gweld dull sectoraidd o weithredu cwotâu yn golygu y byddai anghenion economaidd rhannau eraill o'r economi nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn natur economi Cymru yn cael triniaeth ffafriol yn y modd y byddai cwotâu yn cael eu gwasgaru. Os ydym yn y sefyllfa honno, rydym yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru gael cwota ar gyfer Cymru y gallem ni ei wasgaru.
Gwaith sy’n mynd rhagddo yw'r ddogfen hon. Mae mwy eto i'w wneud i ymhelaethu ar ymarferoldeb rhannau ohoni, a byddwn yn parhau i roi ystyriaeth i'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma a hefyd i bethau eraill y mae angen inni eu gwneud i helpu i lunio'r dyfodol.
Wel, mae hon yn ddogfen ddefnyddiol ac yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl hon. Ond, o'r ffordd y mae'r Ysgrifennydd cyllid ac eraill yn siarad am fewnfudo a'i bwysigrwydd i'r economi, tybed sut y gwnaethom ni lwyddo i oroesi cyn y flwyddyn 2004, pan gafodd cyfyngiadau ar symudiadau o wledydd dwyrain Ewrop eu llacio’n sylweddol neu eu diddymu. Y ffaith yw, sy'n anghyfleus i'w dadl nhw, wrth gwrs, am sawl degawd hyd at y mileniwm, roedd mudo net cyfartalog i'r Deyrnas Unedig tua 50,000 y flwyddyn. Ers 2004, mae'r cyfartaledd wedi bod yn 225,000 y flwyddyn ar gyfer mudo net. Nawr, mae hynny'n gynnydd blynyddol enfawr yn ychwanegol at yr hyn yr ydym wedi'i brofi trwy weddill ein hoes. Credaf na all neb ddadlau’n gredadwy nad yw mewnfudo ar y fath raddfa a chyflymder yn sicr o roi pwysau a straen ar wasanaethau cyhoeddus, ar ddefnydd tir, ar drafnidiaeth, ar swyddi. Ar hyn o bryd, rydym mewn cyfnod economaidd cymharol ddiniwed, ond, pan fydd y rhod yn troi, fel y dichon y bydd, efallai y bydd pethau'n troi eto. Gyda chwymp yn y cyfraddau cyfnewid yn ystod y misoedd diwethaf, effeithiwyd yn gadarnhaol ar y ffigurau mudo net hyn yn barod, a oedd, ychydig fisoedd yn ôl, hyd draean o filiwn neu fwy—erbyn hyn i lawr i 0.25 miliwn, ond maen nhw’n dal i fod ar 0.25 miliwn. Pan gafwyd astudiaeth gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb dair blynedd yn ôl yn unig, dyna'r ffigwr a ddewison nhw ar gyfer y dyfodol hirdymor ar gyfer mudo net i Brydain. Camsyniad yw dweud, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, neu, nid mewn datganiad, mewn ymateb i rywun yn gynharach, rwy'n credu, fod mewnfudwyr yn gwneud cyfraniad net ardderchog i ffyniant economaidd ym Mhrydain. Dim ond golwg tymor byr y gall hynny fod. Gan fod ymfudwyr yn tueddu i fod yn bobl ifanc, maen nhw'n dueddol o fod yn y cyfnod pan maent yn ennill eu bywoliaeth ac nid ydynt yn gwneud cymaint o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd, fel ag y gwnânt wrth fynd yn hŷn, ac yn sicr, wrth gwrs, pan fyddant yn derbyn eu pensiwn. Os ystyriwch lif arian dros oes mewnfudwr, gwyddom o astudiaethau eraill a wnaed, a chyfeiriais at un yn gynharach yn fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog gan y Swyddfa ar gyfer Cyfrifoldeb y Gyllideb, fod 225,000 o fewnfudwyr net y flwyddyn, mae hynny’n ychwanegu 0.4 y cant i’r GDP ond hefyd yn ychwanegu 0.4 y cant i'n poblogaeth, ac felly does dim cyfraniad net o gwbl o ran GDP y pen.
Felly, nid wyf yn honni bod mewnfudwyr yn gost i'r wlad dros y tymor hir. Ond rwyf yn dweud hefyd nad ydyn nhw o fantais fesuradwy mewn gwirionedd. Felly, o ran lles cenedlaethol nid oes dadl y naill ffordd na'r llall. Ond mae anwybyddu graddfa a chyflymder mewnfudo presennol, rwy'n credu, yn peryglu ansefydlogrwydd mewn gwleidyddiaeth. Rydym wedi ei weld mewn rhannau eraill o Ewrop mewn ffordd annifyr, a dyna'r prif reswm pam yr wyf yn credu bod angen inni gael system briodol o reolaeth dros fewnfudo. Y paradocs yw, wrth gwrs, fod hyn yn ei le gennym ar gyfer gweddill y byd nad yw'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, os mai'r ddadl yw, gan fy mod yn tybio o'r hyn yr oedd Steffan Lewis yn ei ddweud funud yn ôl, mai peth da yw mewnfudo, a dylem gael mwy ohono, ac na ddylem roi cyfyngiadau arno o’r UE, pam na wnawn ni ond agor y llifddorau i weddill y byd? Bydd yr un dadleuon sy'n berthnasol i Ewrop yn berthnasol i weddill y byd hefyd. Mae yn Ewrop 450 miliwn o bobl, gan dynnu’r Deyrnas Unedig allan ohono. Mae gennym filiynau o bobl ar draws y byd a allai ddod i gyfrannu at economi Prydain pe byddem yn ymestyn yr un system o ddim rheolaeth sydd gennym ni o fewn yr UE i weddill y byd. Ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd. Naill ai rydych chi o blaid rheoli neu nid ydych o blaid rheoli. Os ydym o blaid rheolaeth o ran gweddill y byd, pam na ddylem ymestyn hynny i'r Undeb Ewropeaidd mewn modd synhwyrol? Nid wyf yn gwrthwynebu'n llwyr, mewn egwyddor, i gael systemau cwota rhanbarthol a chenedlaethol os oes modd eu gweithredu. Y cymhlethdod, wrth gwrs, yw bod y system o reoli mewnfudo sydd gennym yn y wlad hon yn anniben iawn. Nid oes gennym syniad pwy sy'n dod i mewn i'r wlad neu, hyd yn oed yn fwy felly, pwy sy'n ei gadael, ac ni allwn reoli symudiadau o fewn y Deyrnas Unedig. Felly—[Torri ar draws.] Wel, wrth gwrs, mae’n wir; nid oes gennym unrhyw fodd o wybod ble mae pobl. Yn y cyfrifiad diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl, nodwyd dros 0.5 miliwn yn fwy o bobl nag yr oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei ddisgwyl, ac nid yw'r cyfrifiad ynddo’i hun yn dal dŵr. Felly, hyd nes y cawn ni systemau gweinyddol sy'n gallu ymdopi â'r cymhlethdodau y byddai hynny’n eu cyflwyno, mae angen i mi gael fy argyhoeddi.
Ond rwy'n credu bod hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf ei bod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei ystyried. Os yw'n dweud na ellir rhoi hyn ar waith ac yn egluro pam, yna byddaf yn gwrthwynebu hynny. Ond, os gellir ei weithredu, a heb danseilio hanfodion yr hyn y mae angen inni ei gyflawni trwy reoli ein ffiniau, yr ystyriaf i’n hanfodol i genedligrwydd, cenedl annibynnol, sef bod yn alluog i reoli a phenderfynu pwy sy'n dod i mewn i’ch gwlad chi ac ar ba delerau. Fel arall, byddwch yn agor y llifddorau i weddill y byd hefyd, drwy gael—[Torri ar draws.] Wel—
Dewch, dewch. Mae'r mwgwd yn llithro eto.
Nac ydyw, nid oes gan hynny ddim byd i'w wneud â mwgwd yn llithro o gwbl, Llywydd. Os ydym o blaid rheoli mewnfudo o weddill y byd, pam nad ydym ni o blaid hynny ar gyfer Ewrop? Pa reswm sydd gennym i wahaniaethu yn erbyn gweddill y byd? Nid y fi sy'n hiliol. Mae'r polisi mewnfudo presennol sydd gennym yn un hiliol, oherwydd rydym yn rhoi cyfyngiadau ar y rhai sydd â wynebau o wahanol liw nad ydym yn eu rhoi ar y rhai lle mae’r mwyafrif llethol yn wyn.
Wel, gadewch imi ddechrau gyda'r pwynt olaf, oherwydd nodais yn benodol yn fy natganiad y rhesymau pam rydym yn credu y dylai ein perthynas arbennig yn y dyfodol ag Ewrop gynnwys dull gwahaniaethol a ffafriol o ymdrin â mewnfudo i wladolion yr AEE a Swistir. Gwnawn hynny oherwydd y 40 mlynedd o hanes sydd gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bosibl—mae'n bosibl yn ddeallusol ac o ran polisi—i wahaniaethu rhwng polisi yr hoffech ei gael mewn cysylltiad â'r gwledydd hynny a'r polisi a fyddai gennych gyda gweddill y byd, ac rydym yn gwneud hynny yn ein papur.
Gadewch imi ddweud, Llywydd, nad yw ein papur yn anwybyddu am funud y pwysau na'r straen a grewyd, ym marn rhai cymunedau gan raddfa a chyflymder mewnfudo Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Rydym yn ceisio nodi ffeithiau'r mater. Rydym yn ceisio esbonio pam, yn ein barn ni, mae pobl o weddill y byd yn gwneud cyfraniad net sylweddol i fywyd yma yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny'n economaidd, a chredwn fod yn rhaid i'r Aelod weithio'n hynod o anodd i geisio dod o hyd i ddadl oedd yn ceisio tanseilio'r cynnig hwnnw. Byddwn i gyd yn hŷn ryw ddiwrnod, Llywydd, a heb fod yn gwneud yr un cyfraniad economaidd ag a wnawn ni nawr. Ond, yma ac yn awr, mae pobl o'r Undeb Ewropeaidd sydd yma heddiw yn sicr yn gwneud cyfraniad net i'n cyfoeth cenedlaethol, ac maen nhw’n gwneud llawer mwy na hynny. Ac nid y cyfraniad economaidd yn unig y maen nhw’n ei wneud; ond y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud ym mhob math o ffyrdd eraill. Ond nid ydym yn anwybyddu'r pryderon y mae pobl wedi eu hwynebu, hyd yn oed pan oeddech yn nodi'r ffeithiau, a dyna pam rydym ni'n rhoi pwyslais mor gryf yn ein papur ar sicrhau bod y camau diogelu a ddylai fod yno i bobl sy'n byw bywydau bregus yn economaidd a bod ganddyn nhw amheuon fod rhyddid symudiad wedi troi mor rhwydd yn rhyddid i gamfanteisio—. Rydym ni o’r farn bod angen cryfhau a gwneud yn fwy effeithiol y mesurau i ddiogelu'r bobl sydd eu hangen ac yn eu haeddu.
Rwy’n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ar y diwedd ynghylch gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb o ddifrif i'r papur hwn. Rwy’n credu os gwnân nhw ac os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhoi anghenion economi’r Deyrnas Unedig ar frig eu rhestr pan ddaw yn fater o drafodaethau wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, y byddan nhw’n dod o hyd i lawer yma a fyddai’n eu galluogi i sicrhau'r canlyniad hwnnw.
Ac, yn olaf, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n croesawu’r datganiad hwn. Rwy'n credu mai da o beth yw ei fod yn dathlu'r cyfraniad a wneir gan weithwyr Ewropeaidd yma yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn ddatganiad cadarnhaol ac fel y mae llawer un wedi dweud, yn gyfraniad ymarferol, gwirioneddol i'r ddadl sy'n mynd rhagddi.
Yn bersonol, rwy'n credu bod y ddadl hyd yn hyn yn San Steffan yn edrych fel bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi’r nod o dynnu mewnfudo i lawr y tu hwnt i anghenion economaidd y wlad, a chredaf fod hyn i gyd yn ymwneud ag amser trychinebus Theresa May yn y Swyddfa Gartref, pan fethodd hi’n llwyr â gostwng mewnfudo yn y modd yr addawodd ei wneud, ac mae hynny wedi parhau hyd heddiw. Rwy’n credu y byddai'n anffodus inni orfod dilyn unrhyw fathau o gwotâu, ond rwy’n deall pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r posibilrwydd o gwotâu rhanbarthol pe byddem yn cyrraedd y sefyllfa lle byddai’n angenrheidiol.
Rwy'n credu bod y dogfennau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynhyrchu yn ddogfennau gwerthfawr iawn i'r ddadl. Credaf fod gwybodaeth ddiddorol iawn yma y mae’n bwysig iawn i ni ddysgu ohoni. Roeddwn i o’r farn mai un o'r pwyntiau pwysig iawn yn y ddogfen hon yw'r ffigurau sy'n dangos nad yw mwyafrif helaeth dinasyddion yr UE yn bobl ifanc, sengl, ond mai rhan o uned deuluol ydyn nhw. Rwy'n credu ei fod yn dweud yno bod mwy na 20,000 o blant yn byw mewn cartrefi yng Nghymru lle mae un rhiant o leiaf yn ddinesydd yr UE. Efallai y buaswn i’n datgan diddordeb yma, oherwydd y mae tri o'm hwyrion i yn y sefyllfa honno. Ond rwy'n amau, wyddoch chi, ein bod ni yn trafod y ddadl am Brexit a symudiad teg pobl mewn termau economaidd yn bennaf ac, yn amlwg, rwy'n credu ei bod yn rhaid inni edrych ar yr effaith gymdeithasol enfawr y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd lle mae un o’u haelodau o'r UE ac yn ansicr o'r dyfodol. Holi wyf i a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth o ran hynny. Nid yw’n syndod i mi, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad, fod llawer o ddinasyddion yr UE yn gadael y wlad erbyn hyn, am nad ydyn nhw yn teimlo bod croeso iddyn nhw.
Un o'r pethau yr oeddwn i am ofyn iddo oedd ynglŷn â’r broses o gynhyrchu'r dogfennau hyn, oherwydd gwn mai un o'r grwpiau sydd wedi teimlo i’r byw am yr holl faterion hyn yw pobl ifanc, a gwn, yn yr Eisteddfod, rwy'n credu, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ymrwymiad y byddai’n ymgynghori â phobl ifanc ynghylch y dogfennau hyn a sut y byddai rhan iddyn nhw i’w chwarae, ac mae’n amlwg fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â phobl ifanc. Felly, rwy’n gofyn a allech chi ddweud wrthym ni a oedd pobl ifanc wedi bod â rhan yng nghynhyrchu'r ddogfen hon. Hynny yw, ni chawsant gyfle i bleidleisio, y rhai 16 ac 17 oed. Gobeithio y gallwn ni wneud rhywbeth am hynny yn y dyfodol, ond, yn amlwg, dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn yn y ddogfen, sef nad yw'r mewnfudo hwnnw'n gyfrifol am dynnu cyflogau i lawr; cyflogwyr diegwyddor sydd yn manteisio ar bobl sy’n agored i niwed. Ac felly rwy'n cefnogi'r ymrwymiad yn y datganiad.
Mae'r broses o gynhyrchu'r dogfennau, y gyfres o ddogfennau, yn un yr ydym yn gwneud ein gorau ynddi i gynnwys barn a safbwyntiau ystod eang o bobl sydd â diddordeb arbennig yn y maes hwn. Mae'r ddogfen hon yn cael ei dylanwadu'n arbennig gan farn cyflogwyr, undebau llafur a sector y prifysgolion. Cafodd hyn ei drafod yn y grŵp cynghori Ewropeaidd yr wyf i'n ei gadeirio. Gwn fod y pwyllgor monitro rhaglenni y mae Julie Morgan yn ei gadeirio hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiad y gyfres o ddogfennau yr ydym yn eu cynhyrchu, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad yn yr Eisteddfod mewn digwyddiad dan gadeiryddiaeth Llyr Huws Gruffydd gerbron cynulleidfa o bobl ifanc a sefydliadau pobl ifanc am Brexit, ac mae Carl Sargeant, fy nghyd - Aelod, wedi ymrwymo i ariannu cyfres o ddigwyddiadau, gyda chymorth Plant yng Nghymru, lle gall barn a safbwyntiau pobl ifanc gael eu bwydo yn fwy uniongyrchol i broses ystyriaeth Llywodraeth Cymru o Brexit yn ei chyfanrwydd.
Rwy’n gorffen drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Julie Morgan: nid yw’n ddigon da i'r Llywodraeth, fel y dywedodd Mark Isherwood wrthym ni, ddweud nawr nad ydym yn bell iawn oddi wrth gael cytundeb ar statws pobl o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Roedd y refferendwm ymhell dros flwyddyn yn ôl. Byddai hi wedi bod yn bosibl—. Dywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, lawer o fisoedd yn ôl wrthyf i mai hwn oedd un o'r pethau rhwyddaf i gytuno â'r Undeb Ewropeaidd arno, a dyma ni, fisoedd lawer yn ddiweddarach, heb gytundeb ar y maes byth. Mae hynny'n golygu bod pobl sy'n byw mewn teuluoedd, yn ceisio cael siâp ar eu bywydau, yn ceisio dod o hyd i ddyfodol iddyn nhw eu hunain, wedi byw gyda'r ansicrwydd hwnnw, ac nid oes syndod bod pobl sydd â sgiliau y mae galw mawr arnynt ac sy’n rhydd iawn i symud yn penderfynu y byddai'n well ganddyn nhw fynd i rywle arall lle maen nhw’n fwy diogel eu safle ac y maen nhw’n gwybod fod y croeso yn iawn yno ar eu cyfer nhw. Gallai ac fe ddylai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud yn siŵr nad oeddem ni yn y sefyllfa honno yn y fan hon yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro Jonathan Portes, arbenigwr mwyaf blaenllaw y maes hwn yn y Deyrnas Unedig gyfan, ar y diwrnod y cyhoeddwyd ein hadroddiad:
Roedd papur Llywodraeth Cymru ar fewnfudo yn bopeth nad oedd papur y Swyddfa Gartref : cadarnhaol, adeiladol, seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam yr ydym yn gobeithio y bydd yn cael effaith ar y ddadl yma yng Nghymru, a hefyd yn ehangach yn y Deyrnas Unedig.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.