2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 3 Hydref 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae digartrefedd yn aflwydd ar unrhyw gymdeithas wâr. A ydych chi wedi sylwi bod nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn cynyddu ar hyn o bryd?
Yn ôl y cyfrif diwethaf, 141 yw nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Cynhaliwyd y cyfrif hwnnw ym mis Tachwedd 2016. Mae'n anodd, wrth gwrs, cyfrif y nifer yn rheolaidd gan ei fod yn amrywio i fyny ac i lawr, ond mae hi'n iawn i nodi'r ffaith fod cysgu ar y stryd yn broblem, a dyna pam— bydd yr Ysgrifennydd yn gwneud ei ddatganiad ar y gyllideb yn ddiweddarach—byddwn yn ceisio darparu'r holl adnoddau y gallwn er mwyn lliniaru'r broblem.
Mae digartrefedd ar gynnydd, Prif Weinidog, ac mae hynny o gyfrifau pobl sy’n cysgu ar y stryd, ceisiadau am gymorth digartrefedd, pobl mewn llety dros dro, achosion o droi pobl allan—y cwbl. Yma yng Nghaerdydd, mae'r Wallich yn amcangyfrif y bu cynnydd o 18 y cant i’r nifer sy’n cysgu ar y stryd o'i gymharu â'r un chwarter yn 2016. Nid yw'n unrhyw syndod, i ni o leiaf, bod hyn yn digwydd. Rhagwelodd pawb y byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i doriadau lles, a ddechreuodd, i’ch atgoffa, o dan Lywodraeth Blair pan benodwyd Arglwydd Freud i’w swydd weinidogol gyntaf. Ond roedd hefyd yn hawdd rhagweld y byddai system wleidyddol ddiffygiol San Steffan yn anwybyddu'r rhybuddion hyn ac yn bwrw ymlaen â'u toriadau beth bynnag. Pam nad oedd eich Llywodraeth a'ch plaid chi yn fwy rhagweithiol wrth geisio'r pwerau i beidio â gorfod gweithredu'r toriadau hyn?
Wel, mae'n un peth meddu ar y pwerau, peth arall yw meddu ar yr arian. Un peth yw dweud, 'Rydym ni’n mynd i wneud rhywbeth'; os nad yw'r arian yno i'w wneud, yna mae'n dod yn fwy anodd. Beth ydym ni wedi ei wneud? Wel, rydym ni newydd gyhoeddi £2.6 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ifanc, ac yn hollbwysig rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae ymdrin â phobl sydd eisoes ar y stryd yn bwysig, ond does bosib nad yw’n wir hefyd bod ataliaeth yn flaenoriaeth i ni. Mae'r ddeddfwriaeth wedi golygu mwy o gymorth i fwy o bobl a chymorth yn gynharach, gan gynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd, ac mae'r ystadegau digartrefedd diweddaraf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon yn dangos cyfradd sefydlog o lwyddiant ar adeg o alw cynyddol—ataliwyd digartrefedd 63 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd. Ni fyddai hynny wedi digwydd mewn unrhyw le arall, ac mae hynny o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth.
Prif Weinidog, ni allwch chi gondemnio San Steffan am ddiffyg tosturi gan barhau i dderbyn bod y pwerau i atal digartrefedd yn dal i fod yn San Steffan. Rydych chi'n iawn—rydych chi wedi diwygio'r system ddigartrefedd yn ddiweddar i fabwysiadu dull mwy ataliol, ond yn amlwg ceir nifer fawr o bobl sydd wedi syrthio drwy'r tyllau llydan iawn yn eich rhwyd ddiogelwch. Nawr, os ydych chi'n derbyn ein bod ni’n wynebu argyfwng digartrefedd—a byddwn i'n synnu o’ch clywed yn gwadu ein bod ni’n wynebu argyfwng—a wnewch chi ymrwymo i ddiddymu prawf Pereira i gael gwared ar fwriaded digartrefedd, gan roi terfyn ar angen blaenoriaeth, fel bod gan bawb hawl i gartref?
Mae'r ddeddfwriaeth wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â hynny. Mae ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau. Nid wyf yn credu ei bod hi’n gwneud synnwyr datganoli lles gan ein bod ni’n gwybod bod Cymru'n dderbynnydd net o'r pot cyffredinol. Rwy’n cytuno â hi bod gweithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd wedi bod yn ddidostur, ac wedi arwain at fwy o bobl i fod yn ddigartref. Roeddwn i yn Brighton yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n hynod amlwg pa mor wael oedd y broblem yn Brighton. Mae gennym ni broblem yng Nghymru, rydym ni’n gwybod hynny. Roedd yn llawer gwaeth yno. Rwy'n credu bod rhan o hynny oherwydd, yn Lloegr, nad ydynt wedi deddfu deddfwriaeth a fyddai'n helpu i atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Yr ateb i hyn, wrth gwrs, yw cael system les sy'n gweithio i bobl, system les sy'n drugarog, a system les a weinyddir gan Lywodraeth Lafur yn Llundain.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg araith yn ddiweddar a dynnodd sylw at y ffaith bod ysgolion uwchradd yng Nghymru nad oeddent wedi bod yn cyflwyno yr un disgybl ar gyfer arholiad gwyddoniaeth TGAU tan yn ddiweddar—dim un disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Hefyd, bu tuedd i lawer o ysgolion gyflwyno disgyblion ar gyfer y cyrsiau BTEC haws, pan, yn 2016, roedd cyfradd basio o 99 y cant. Mae Estyn, mewn adroddiad diweddar, wedi amlygu'r anawsterau y mae rhai pynciau gwyddoniaeth yn eu hwynebu yn y ffordd y maent yn cael eu haddysgu mewn ysgolion yng Nghymru. Onid ydych chi'n meddwl ei bod hi’n hanfodol, os ydym ni’n mynd i fod yn uchelgeisiol ynghylch darparu economi cyflog uchel, economi fedrus, bod gennym ni fwy o ddisgyblion yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth? A pha hyder allwch chi ei roi, yn yr arholiadau PISA yn 2018, y byddwn ni’n gweld gwelliant gwirioneddol yn y pynciau gwyddoniaeth? Rydym ni wedi mynd yn ôl 20 safle, o 505 i 485, rhwng 2006 a 2016. Mae'n rhaid iddo fod yn faes gwella allweddol. Ac eto, o dan eich arweinyddiaeth chi, mae gennym ni ysgolion nad ydynt wedi bod yn cyflwyno disgyblion ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth o gwbl.
Yn gyntaf oll, rydym ni wedi bod yn pwysleisio ers cryn amser yng Nghymru yr angen i greu cydraddoldeb parch rhwng yr academaidd a'r galwedigaethol. Felly, ni ddylem wneud cymariaethau negyddol rhwng cymwysterau BTEC a TGAU. Mae un yn gymhwyster galwedigaethol; mae'r llall yn fwy o gymhwyster academaidd. Bydd ysgolion yn cyflwyno ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad priodol yn unol â’r hyn y maen nhw'n teimlo sydd ei angen arnynt, o ran eu sgiliau yn y dyfodol.
Mae'n gofyn am PISA. Wel, rydym ni wedi gweld canlyniadau TGAU yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn—mae hynny'n arwydd da o ran PISA. Rydym ni wedi gweld gwelliannau mewn pynciau safon Uwch—mae hynny'n arwydd da y bydd PISA yn gwella yn y dyfodol. Mae gennym ni arholiadau newydd, wrth gwrs—rydym ni wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno heb fawr o anhawster. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad i ohirio cyflwyniad y cwricwlwm—dyna'r penderfyniad cywir, a gwyddom fod athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan—ysgolion na fyddent yn cael eu hadeiladu pe byddai ef yn fy swydd i.
Prif Weinidog, roedd hwnna'n ateb truenus. Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi—[Torri ar draws.] Yn ystod eich arweinyddiaeth chi, rydym ni wedi bod ag ysgolion uwchradd yng Nghymru—. Ac nid fy sylwadau i yw’r rhain, oherwydd ni allwn ni gael y data—rydym ni wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru i gael y data y seiliodd Ysgrifennydd y Cabinet ei haraith arnynt. Dyma’r araith—. Mae'r araith yn y fan yma; ei sylwadau hi ydyn nhw, nid fy sylwadau i, sy'n dweud mor gywilyddus y mae pethau wedi bod, o dan eich Llywodraeth chi, y bu gennym ni ysgolion uwchradd nad ydynt wedi cyflwyno yr un—dim un—myfyriwr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth—nid Safon Uwch, TGAU. Sut ar y ddaear allwch chi amddiffyn hynny a chithau wedi bod yn Brif Weinidog ers saith mlynedd? Sylwadau eich Ysgrifennydd y Cabinet yw’r rhain, nid fy rhai i, felly sut gallwn ni fod â ffydd y byddwn ni’n gweld y gwelliannau sydd eu hangen arnom ni mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg pan ein bod ni wedi cael agwedd mor laissez-faire gan eich Llywodraeth?
Roedd hwnna'n ymateb a oedd yn deilwng o Ysgrifennydd Gwladol Cymru—ac nid canmoliaeth yw hynny, gyda llaw. Y gwir amdani yw bod y system wedi cael ei newid. Rydym ni newydd gyflwyno, wrth gwrs, y cymwysterau TGAU newydd; mae hynny wedi digwydd. Felly, ymhell o fod yn eistedd yn ôl a gwneud dim, rydym ni’n annog ysgolion i gyflwyno disgyblion ar gyfer TGAU a chymwysterau eraill, ac ar yr adeg iawn—ac ar yr adeg iawn—fel nad ydynt yn eu cyflwyno yn gynnar er mwyn eu cael nhw trwy bwnc penodol a bod y graddau’n gostwng o ganlyniad. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth. [Torri ar draws.] Wel, mae'n anarferol i David Melding fod fel hyn, ond, yn amlwg, mae rhywbeth wedi codi ei wrychyn y bore yma, neu y prynhawn yma.
Rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud: rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran newid y maes llafur; rydym ni’n hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran canlyniadau—rydym ni’n gweld canlyniadau'n gwella, ar lefel TGAU a Safon Uwch. Rydym ni’n gweld arian yn mynd i mewn i addysg mewn ffordd sydd wedi cael ei hatal i ysgolion gan ei blaid ef yn Lloegr. Rydym ni’n gweld ysgolion yn cael eu hadeiladu ledled Cymru na fyddai ei blaid ef wedi eu hadeiladu pe bydden nhw mewn grym yma. Ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau sicrhau bod cymaint o'n disgyblion yn cael cymaint o gyfleoedd â phosibl i sefyll arholiadau i gael y cymwysterau sydd eu hangen arnynt—dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud o ran y system yr ydym ni wedi ei chyflwyno erbyn hyn.
Prif Weinidog, mae'n debyg bod David Melding yn cael ei gythruddo gan eich perfformiad y prynhawn yma, oherwydd mae’n agwedd laissez-faire iawn, mae’n rhaid i mi ei ddweud. Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi—[Torri ar draws.] Ni allwch amddiffyn system nad yw wedi bod yn cyflwyno myfyrwyr TGAU ar gyfer y pynciau gwyddoniaeth, ac yna sefyll yn y fan yna a cheisio ei hamddiffyn. Rwyf eisiau bod â ffydd, Prif Weinidog, y byddwn ni’n gweld gwelliant. Rwyf i eisiau gweld gwelliant yn system addysg Cymru. Rydym ni i gyd eisiau gweld hynny. Ond cawsom ni’r canlyniadau gwaethaf ers 10 mlynedd yn yr arholiadau TGAU diwethaf. Mae gennym ni’r arholiadau PISA yn dod nawr yn 2018. Gofynnais i chi yn y cwestiwn cyntaf: ble yr ydym ni'n mynd i fod? Rhowch awgrym i ni o ble yr ydym ni’n mynd i fod—rhowch rywbeth i ni ddod allan o’r cwestiynau hyn i'r Prif Weinidog lle gallwn farcio eich gwaith cartref o ran ble bydd gwyddoniaeth yn 2018.
Mae’r nifer sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer gwyddoniaeth wedi cynyddu. Newidiwyd y system gennym yn rhannol i annog ysgolion i gyflwyno mwy o fyfyrwyr, a'u cyflwyno nhw ar yr adeg sy'n briodol iddyn nhw. Gwnaed hynny. Mae'n sôn am y canlyniadau TGAU gwaethaf ers 10 mlynedd—nid wyf yn cydnabod hynny, os cymharwch chi debyg gyda thebyg. Os yw'n credu bod pethau'n wych yn Lloegr, awgrymaf fod angen iddo edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr gyda'r system yno. Ac mae'n gwneud y gymhariaeth honno o bryd i’w gilydd. Edrychwch, byddwn yn sicrhau bod y system addysg yn cael ei hariannu'n briodol yn ôl y setliad y byddwn yn ei gael ganddo fe a'i Lywodraeth. Os yw eisiau gweld—[Torri ar draws.] Os yw eisiau gweld mwy o arian yn mynd i mewn i addysg, a gaf i awgrymu ei fod yn lobïo—oherwydd mae’n fwy effeithiol na'i gydweithiwr seneddol—ei gydweithwyr yn Llundain i gael mwy o arian i mewn i addysg ledled y DU ac i Gymru’n arbennig? Gallem wneud llawer mwy gyda setliad tecach. £1 biliwn i ddenu Gogledd Iwerddon—dim gair, dim gair, gan y blaid gyferbyn; dim gair. Gadewch i ni weld Cymru'n cael yr un chwarae teg a gadewch i ni weld pa un a all y Ceidwadwyr Cymreig sefyll yn erbyn eu cydweithwyr yn San Steffan.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Y prynhawn yma— [Torri ar draws.] Roeddwn i'n gwybod bod y Siambr yn gylch, Llywydd; nid oeddwn i’n sylweddoli ei fod yn troi hefyd. Y prynhawn yma, byddwn yn clywed y gyllideb amlinellol gan yr Ysgrifennydd cyllid, ond mae'n amlwg bod ei ryddid wedi ei gyfyngu gan natur y ffordd yr ariennir Llywodraeth Cymru. Daw naw deg dau y cant o'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy grant bloc. Felly, mae llwyddiant economi Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i wario yn dibynnu, yn hollbwysig, ar gyflwr economi'r DU, sydd, yn ei thro, yn dibynnu, yn hollbwysig, ar bolisïau economaidd y Llywodraeth yn San Steffan. A yw'n credu y byddai canlyniadau i Gymru y math o gynlluniau gwario a amlinellodd Jeremy Corbyn yr wythnos diwethaf yn Brighton, yn yr hirdymor, o fudd i economi Cymru? Maen nhw wedi dod i gyfanswm o tua £312 biliwn. Mae'n rhaid mai dyna un o’r areithiau drutaf yn hanes dynoliaeth. Mae hynny’n £4.15 biliwn y funud, £69.3 miliwn yr eiliad. Byddai rhaglen araith o'r fath yn gwneud economi’r DU yn fethdalwr mewn gwirionedd, ac ni all hynny fod yn ddim llai na thrychinebus i Gymru.
Nid yw erioed wedi bod yn rhatach i fenthyg. Ym 1945, daeth Llywodraeth i rym yn y DU, yn llywyddu gwlad wedi ei dinistrio ac economi wedi ei dinistrio, gyda llawer llai o arian ar gael iddi. Ac eto llwyddodd i greu'r gwasanaeth iechyd gwladol, llwyddodd i roi diwydiant yn ôl ar ei draed. Llwyddodd i sicrhau bod safon byw pobl yn dechrau codi. Aeth i’r afael â gwlad a oedd wedi cael ei dinistrio oherwydd effeithiau rhyfel. Os gallan nhw wneud hynny, yna gall Llywodraeth Lafur ei wneud nawr. Rydym ni wedi cael saith mlynedd o gyni ac nid oes dim wedi newid er gwell. Mae wedi gwaethygu a gwaethygu a gwaethygu. Saith mlynedd wedi eu gwastraffu: mae'n amser am newid.
Nid wyf eisiau dadlau hanes economaidd â'r Prif Weinidog, ond, yn syth ar ôl y rhyfel, roedd gennym ni, wrth gwrs, y rhaglen cymorth Marshall ac roedd gostyngiad sylweddol iawn mewn gwirionedd i gyfran y ddyled i CMC yn ystod Llywodraeth Attlee rhwng 1945 a 1951. Pan ddaeth Tony Blair i rym ym 1997, £359 biliwn oedd y ddyled genedlaethol ac, yn ei dymor cyntaf yn y swydd, fe'i gostyngodd ymhellach. Gostyngwyd hynny i £317 biliwn yn 2001. Yna, fe wnaeth Gordon Brown droi’r tapiau gwario ymlaen, ac rydym ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd gyda'r argyfwng ariannol yn 2008. Mae’r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'r ddyled genedlaethol bron yn £2 triliwn erbyn hyn ac rydym ni’n gwario, bob blwyddyn, £56 biliwn ar log y ddyled yn unig. Pe byddai rhan Cymru o’r llog dyled hwnnw, a fyddai’n ugeinfed rhan—mae hynny tua £2 biliwn y flwyddyn—ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, beth bynnag, byddai Cymru'n llawer gwell ei byd nag y mae ar hyn o bryd.
Mae’n rhaid i bob Llywodraeth fenthyg. Wel, prin iawn yw’r llywodraethau nad oes rhaid iddynt fenthyg—y rhai â chyfoeth olew fel rheol. Y gwir amdani yw eich bod yn benthyg i fuddsoddi. Yr hyn yr ydym ni’n ei weld ar hyn o bryd yw Llywodraeth sy'n taro economi Prydain oddi ar y ddaear. Rydym ni’n gwybod, cyn belled ag y mae chwistrelliadau ariannol yn y cwestiwn, nad yw hynny'n digwydd. Nid yw'r economi yn cael ei hysgogi. Nawr, nid yw ef eisiau i mi roi darlith iddo ar hanes economaidd—rwyf am wneud hynny, a hanes economaidd diweddar y bydd yn ei gofio. Oherwydd roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu mai Gordon Brown oedd yn gyfrifol am argyfwng ariannol y byd yn 2008. Y gwir yw i’r argyfwng gael ei achosi gan fanciau anghyfrifol yn gwerthu cynhyrchion ariannol i bobl yr oeddent yn gwybod yn iawn na fyddent yn gallu eu had-dalu. Yna, fe wnaethant fwndelu'r dyledion hynny a'u gwerthu nhw i fanciau eraill, gan heintio'r system gyfan. Dyna beth ddigwyddodd. Rydym ni’n dal i fyw gyda chanlyniadau hynny. Mae'n eithaf eglur i mi, felly, na ellir dilyn yr hen ffyrdd o wneud pethau yn y dyfodol. Mae arnom angen chwistrelliad Keynesaidd o arian parod i'r economi er mwyn sicrhau ein bod ni'n creu mwy o gyflogaeth, ein bod ni’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, ac yn ysgogi'r economi yn y modd hwnnw. Oherwydd mae’n gwbl eglur, dros y saith mlynedd diwethaf, nad yw'r hyn a wnaed yn gweithio.
Byddech chi’n meddwl, o'r hyn y mae’r Prif Weinidog newydd ei ddweud, na fu Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2008 ac nad Gordon Brown oedd Canghellor y Trysorlys, yn gyfrifol am reoleiddio banciau, ond rydym ni’n gwybod ei fod yn credu mewn rheoliad ysgafn o fanciau, felly roedd yn gyfrannwr at yr argyfwng ariannol, a wnaeth ei foddi yn y pen draw. Roedd Jim Callaghan yn gwybod sut beth oedd ymdopi ag argyfwng ariannol. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cofio'n dda iawn iddo ymddangos ym 1976 mewn cynhadledd Plaid Lafur dra gwahanol gan ddweud:
Roeddem ni’n arfer meddwl y gallech chi wario eich ffordd allan o ddirwasgiad a chynyddu cyflogaeth trwy...gynyddu gwariant gan y llywodraeth. Gallaf ddweud wrthych yn gwbl ddidwyll nad yw’r dewis hwnnw’n bodoli mwyach, ac i'r graddau yr oedd yn bodoli erioed, fe lwyddodd ar bob achlysur...trwy chwistrellu dos mwy o chwyddiant i'r economi, ac yna lefel uwch o ddiweithdra fel y cam nesaf.
Mae’n ymddangos bod Jeremy Corbyn wedi anghofio’r wers honno, os gwnaeth ei dysgu hi erioed. Nid ei ffordd ef fel rhyw fath o Siôn Corn hen ffasiwn, yn estyn i mewn i fag diwaelod o anrhegion i'w taflu allan i blant hawdd eu twyllo yw’r ffordd ymlaen i unrhyw blaid wleidyddol synhwyrol neu realistig sydd ag unrhyw fwriad o ddal swyddi uchaf y wlad.
Rydym ni wedi cael datgeliad y prynhawn yma o strategaeth UKIP ar gyfer ymdrin ag apelio at bleidleiswyr ifanc. 'Rydych chi i gyd yn blant hawdd eich twyllo' yw'r ffordd y maen nhw’n mynd i gael eu disgrifio yn y dyfodol, felly ni allaf weld llawer ohonyn nhw’n pleidleisio dros UKIP yn y dyfodol.
Yn y 1970au, roedd heriau penodol gyda ‘stagflation’, fel y dylai gofio, oherwydd y cynnydd mawr i bris olew o ganlyniad i argyfwng olew 1973. Gwyrodd hynny’r cylch economaidd arferol ac, o ganlyniad, gwelsom ddiweithdra cynyddol a chwyddiant cynyddol ar yr un pryd, a oedd yn golygu bod y ffordd draddodiadol o chwistrellu arian i'r economi i ymdrin â diweithdra uchel— [Torri ar draws.] Gallaf roi darlith ar hanes economaidd i arweinydd yr wrthblaid, os yw'n dymuno, gan ei fod yn gwybod llai na dim am y peth—[Torri ar draws.] Ac felly mae amgylchiadau'r 1970au yn wahanol iawn, iawn. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho am 1976—. Dyma ystadegyn iddo: 1976 oedd yr adeg mewn hanes pan oedd Prydain fwyaf cyfartal—pan roedd Prydain fwyaf cyfartal. Ers hynny, mae'r Torïaid wedi ei gwneud yn fwy a mwy a mwy anghyfartal, a dyna’r hyn y bydd Llywodraeth Lafur yn ei newid.