– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 10 Hydref 2017.
Dyma ni’n cyrraedd yr eitem nesaf, felly: y datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar integreiddio a gweithio mewn partneriaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydw i’n galw ar y Gweinidog iechyd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch. Aeth dros flwyddyn heibio erbyn hyn ers gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd bellach yn gweddnewid y ffordd y caiff gwasanaethau gofal a chymorth eu darparu ledled Cymru. Bûm yn falch o allu gweld gyda’m llygaid fy hun sut mae'r ddeddfwriaeth hon yn arwain at well canlyniadau i’r bobl â'r angen mwyaf yn ein cymdeithas. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy, er gwaethaf y cyni parhaus mae Llywodraeth y DU yn ei orfodi arnom.
Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd ynghylch darparu gwasanaethau gofal mewn modd integredig a chydweithredol, sydd wrth wraidd y Ddeddf, ac yn ofyniad statudol ohoni. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol fel yr hyn sy’n symbylu’r agenda integreiddio. Sefydlwyd saith bwrdd ledled Cymru i gyfateb i ardaloedd y byrddau iechyd. Maent yn dwyn ynghyd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector, darparwyr preifat a dinasyddion.
Rwyf wedi cwrdd â chadeiryddion y byrddau hyn, y tro diwethaf ym mis Gorffennaf, i drafod eu cynnydd wrth ddarparu gwasanaethau integredig effeithiol ac effeithlon. Rwyf yn falch bod y byrddau hyn bellach wedi ymsefydlu'n gadarn, ac rwy'n talu teyrnged i'w haelodau am eu harweinyddiaeth a'u gwaith caled hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio’n agos â nhw i gefnogi eu gweithrediad parhaus. Rydym ni wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru dros y 12 mis diwethaf i gefnogi byrddau rhanbarthol ac ystyried gwahanol agweddau ar eu swyddogaethau. Bydd y gefnogaeth hon yn parhau ac yn seiliedig ar ba gymorth y mae'r partneriaid yn ei ddweud wrthym sydd ei angen arnynt.
Un o gyflawniadau nodedig y byrddau oedd cyhoeddi ym mis Ebrill asesiadau poblogaeth fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf. Rwy'n gwybod bod yr asesiadau hyn wedi cynnwys proses sylweddol o ymgysylltu a dadansoddi. Mae'r adroddiadau gwerthfawr hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth glir ar lefel ranbarthol o’r ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Mae partneriaid bellach yn gweithio tuag at gynhyrchu cynlluniau ardal ar y cyd mewn ymateb i'r asesiadau hynny. Mae’n rhaid i'r cynlluniau hyn gael eu llunio erbyn mis Ebrill 2018, a dyna fydd yn gosod yr agenda ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol. Rwyf wedi cyfarwyddo byrddau i ddefnyddio'r broses hon i ystyried yn strategol sut y byddan nhw’n cryfhau eu trefniadau integredig ymhellach.
Ochr yn ochr â fframwaith cyfreithiol Deddf 2014, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth ariannol sylweddol i annog mwy o waith integredig a chydweithredol trwy'r gronfa gofal integredig a gafodd ei hail-frandio yn ddiweddar. Mae £60 miliwn arall ar gael ledled Cymru eleni, ac mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gadw'r gronfa bwysig hon. Ers ei sefydlu yn 2014, defnyddiwyd y Gronfa Gofal Canolraddol i ddatblygu ystod eang o fodelau arloesol o weithio integredig. Credir bod y rhain wedi helpu i atal derbyn pobl i'r ysbyty yn ddiangen a galluogi pobl hŷn i barhau i fod yn annibynnol. Mae cwmpas y Gronfa Gofal Canolraddol wedi ehangu'n raddol fel bod ei amcanion bellach yn cwmpasu meysydd blaenoriaethu byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer integreiddio. Er bod y gronfa yn parhau i gefnogi gwasanaethau gofal canolraddol, mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau integredig i bobl ag anawsterau dysgu a phlant ag anghenion cymhleth, ac erbyn hyn caiff gofalwyr eu cynnwys yng nghwmpas y gronfa. Bydd yr amcanion hyn yn weithredol am dair blynedd, a bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i ranbarthau ac yn eu galluogi i gynllunio'n strategol mewn ymateb i'w hasesiadau poblogaeth.
Comisiynwyd ymgynghorydd annibynnol i helpu byrddau partneriaeth rhanbarthol i nodi ymarfer da yn ymwneud â mentrau a ddatblygwyd trwy'r Gronfa Gofal Canolraddol. Mae'r canfyddiadau wedi cynorthwyo i sicrhau bod amcanion y gronfa a threfniadau adrodd gwell bellach yn canolbwyntio ar gyflawni deilliannau lles. Dros yr haf, ymwelais â nifer o brosiectau amrywiol a chyffrous sy’n bodoli oherwydd y Gronfa Gofal Canolraddol, ac fe welais y pwyslais cadarnhaol yn glir.
Rwyf wedi penderfynu comisiynu adolygiad cynhwysfawr o'r Gronfa Gofal Canolraddol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd diben y gwaith hwn yn cynnwys darganfod y manteision cenedlaethol o ran sut y caiff yr arian hwn ei wario gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol a phenderfynu ar ba un gyflawnwyd gwerth am arian.
Rwyf yn sicr bod llwyddiannau cadarnhaol y Gronfa Gofal Canolraddol yn deillio o’r ffaith ei fod yn cael ei wario ar y cyd gan bartneriaid. Nid yw gwneud pethau 22 gwaith yn gynaliadwy. Felly mae'r Gronfa Gofal Canolraddol yn cynrychioli un enghraifft glir o fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni eu blaenoriaeth allweddol o wneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau. Gellir gweld enghraifft arall yn y disgwyliad a geir yn y canllawiau statudol y dylai partneriaid roi proses gomisiynu integredig ar waith. Mae hyn yn cynnwys strategaethau comisiynu ar y cyd yn ogystal â dulliau cyffredin o osod manylebau, cytuno ar ffioedd a sicrhau ansawdd. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ganolbwyntio ar well ansawdd yn ogystal â sicrhau gwell gwerth am arian.
Mae'r Ddeddf yn gosod rheidrwydd ar y Rhanbarthau i sefydlu cyllidebau cyfun o ran darparu lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion erbyn mis Ebrill 2018. Bydd y cronfeydd cyfun hyn yn fodd o roi cefnogaeth sylweddol i’w trefniadau comisiynu ar y cyd, ac yn ddilyniant naturiol o hynny. Rwyf wedi datgan yn glir lawer gwaith fy mod yn disgwyl y caiff y cronfeydd cyfun hyn eu sefydlu ar y cyd ar lefel ranbarthol rhwng y bwrdd iechyd a'r holl awdurdodau lleol o fewn ardal y bartneriaeth. Rydym ni i gyd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd effeithiol sy'n gwella lles ein pobl, a gellir cyflawni hynny dim ond drwy gydweithio pwrpasol rhwng partneriaid sy'n arwain at weithio integredig a chynaliadwy yng ngwir ystyr y gair. Ni ellir cyflawni'r canlyniadau hynny yn llawn os nad oes ymrwymiad llwyr i gydweithio. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd drafod yn agored sut y gellir defnyddio arian cyhoeddus i fynd i'r afael ag anghenion rhanbarthol yn y modd mwyaf effeithiol. Mae ymdrin â chronfeydd cyfun yn y modd hwn yn gwbl gyson â'r cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol.
Yn dilyn ymatebion i ymgynghoriad yn 2015, oedwyd y gofyniad am gronfeydd cyfun ar gyfer cartrefi gofal hyd fis Ebrill 2018. Yn ôl unrhyw safonau, mae partneriaid wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer y gofyniad hwn ac fe ofynnais i gadeiryddion rhanbarthol ysgrifennu ataf erbyn diwedd mis Medi, yn nodi pa gynnydd a wnaed ganddynt. Er eu bod yn nodi heriau, roedd partneriaid yn mynegi yn gyffredinol eu huchelgais i symud tuag at fabwysiadu trefn o gomisiynu rhanbarthol ar y cyd, ac mae hynny yn fy nghalonogi, ond ni ddylai fod unrhyw amheuaeth y dylai hyn gynnwys gweithio i gyllidebau cyfun. Yr wythnos diwethaf fe drefnodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad cenedlaethol i drafod y cyfleoedd a'r heriau mae cyllidebau cyfun yn eu cyflwyno. Byddwn yn trefnu cymorth ychwanegol i ranbarthau yn ystod y misoedd nesaf i'w helpu i sefydlu a rheoli cronfeydd cyfun ar y sail a amlinellais yn gynharach. Byddaf yn asesu cynnydd eto yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Rwy'n cydnabod bod rhanbarthau wedi gwneud cynnydd wrth sefydlu'r cyllidebau cyfun hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod, er hynny, bod problemau yn dal i fodoli o ran gallu rhai rhanbarthau i weithredu'r gofyniad hwn yn llawn erbyn mis Ebrill. Os, fodd bynnag, nad wyf yn fodlon â'r ffordd y cyflwynwyd y gofyniad hwn ym mhob rhanbarth erbyn diwedd y flwyddyn ariannol sydd ar ddod, bydd angen i mi ystyried dewisiadau o ran ymyrraeth fwy uniongyrchol. Mae'r rhain yn wasanaethau pwysig sy'n ymdrin â rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed.
Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau wrth ddarparu gwasanaethau integredig a chydweithredol. Bydd yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio ac am newid diwylliannol sylweddol. Fodd bynnag, nid yw pobl yn poeni ynghylch ble mae gwasanaethau iechyd yn dod i ben na ble mae gwasanaethau cymdeithasol yn dechrau. Maen nhw eisiau gwasanaethau gofal a chymorth integredig a di-dor, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi'r arweiniad a'r buddsoddiad i sicrhau'r newid hanfodol hwn. Diolch.
Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw. Rwyf i hefyd yn croesawu cyhoeddi'r asesiadau poblogaeth, er fy mod mewn cryn ddryswch ynghylch sut y llwyddodd y byrddau iechyd hyn a sefydliadau eraill i lunio cynlluniau strategol yn y gorffennol heb y fath bethau. Rwy'n synnu’n fawr o glywed y cymerodd gyhyd i'w rhoi ar waith, oherwydd byddwn wedi meddwl mai elfen allweddol o ddeall pa wasanaethau y mae angen i chi eu darparu fyddai gwybod pa boblogaeth yr ydych chi'n ei gwasanaethu.
Hefyd, ychydig ar ôl hynny, soniasoch am y ffaith ynghylch y byrddau rhanbarthol a’u bod i ddefnyddio hyn yn rhan o'r broses i ystyried eu cyfranogiad strategol. A allwch chi gadarnhau pa un a yw ymddiriedolaeth y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn rhan o'r cynnig hwnnw hefyd, oherwydd, wrth gwrs, maen nhw’n rhan annatod o ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol?
Rydych chi’n sôn, Gweinidog, am y gronfa gofal integredig, ac mae croeso i arian bob amser, does dim dwywaith am hynny. Fodd bynnag, wrth graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg iawn bod rhai byrddau iechyd yn nodi nad yw’r ffactorau sy’n rheoli costau a buddsoddiadau mewn meysydd allweddol yn cael eu lliniaru gan y lefel ofynnol o arbedion y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a yw hyn yn ddigon? Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi, neu beth ydych chi'n disgwyl i'r byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau integredig ei wneud er mwyn sicrhau bod digon o arian yn y cronfeydd hyn i fwrw ymlaen a darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn eu hardal benodol nhw? Fel y dywedais i, mae hyn i’w weld yn eglur iawn pan fo’r pwyllgor iechyd yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Pa fetrigau y byddwch chi'n eu defnyddio wrth edrych ar eich adolygiad cynhwysfawr o'r Gronfa Gofal Canolraddol? Ydych chi mewn difrif wedi meddwl sut y bydd hynny—neu a yw eich swyddogion wedi ystyried sut y bydd hynny'n cael ei farnu? Pa feincnodau fyddwch chi'n eu defnyddio? Mae'n gwestiwn a godais gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach ynglŷn â datganiad blaenorol. Mae’n iawn cael yr adolygiadau hyn, ond mae'n rhaid bod gennych chi fframwaith y gwyddoch chi y gall yr adolygiadau hynny weithio oddi mewn iddo, a gweithio'n dda.
Nid yw eich datganiad ar integreiddio a chydweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol heddiw yn sôn am integreiddio cynllunio gweithlu. A fyddwch chi’n edrych ar hynny? A fyddwch chi’n gofyn i'r byrddau rhanbarthol hynny edrych ar hynny yn rhan o'u proses waith, wrth symud ymlaen? Oherwydd nid oes unrhyw ddiben bod gennym, er enghraifft, yr holl feddygon a nyrsys yn y byd y dymunwn ni—oni byddem ni yn y sefyllfa honno—i ddarganfod wedyn nad oes gennym ni ddigon o weithwyr cymdeithasol i gael pobl yn ôl i'w cartrefi, ac yn y blaen.
Nid ydych chi ychwaith yn sôn am sut y gallwn ni ddefnyddio'r byrddau hyn i feithrin diwylliant o arloesedd. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n dod yn amlwg iawn, iawn yn yr adolygiad seneddol ac yn y dystiolaeth arweiniol sy'n cael ei chyflwyno gan y King’s Fund, ac ati, yw bod angen y gallu arnom ni i ganiatáu i hadau bychain o arloesi fwrw gwreiddiau, i wneud y newidiadau hynny, i sicrhau bod yr integreiddio hwn yn gweithio'n dda. Mae’n rhaid inni groesawu’r sector preifat i diriogaeth y sector cyhoeddus. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut y byddwch chi'n gwneud y gwaith hwnnw a sut y byddwch chi’n gallu rheoli'r tensiwn nid annaturiol rhwng monolithau enfawr y sector cyhoeddus, os mynnwch chi, a'r sector gofal preifat ac, wrth gwrs, ein hawdurdodau lleol, sydd, fel y gwyddom ni eisoes, yn awdurdodau lleol trist iawn, a hwythau newydd dderbyn eu cyllidebau, ac yn pendroni sut y gallan nhw gyflawni eu rhan nhw o'r fargen hon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy siarad am yr asesiadau anghenion poblogaeth, ac maen nhw wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth nodi rhai themâu craidd, rwy'n credu, sy'n berthnasol i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Gwelwyd yn glir iawn bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r meysydd penodol hynny sy’n gyffredin i’r holl asesiadau anghenion poblogaeth hynny, ond mae tlodi ac amddifadedd, pwysigrwydd annibyniaeth i bobl, a phwysigrwydd meithrin gwytnwch mewn unigolion a chymunedau, mae nhw wedi eu hamlygu fel themâu o ran y ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r anghenion a nodwyd yn yr asesiadau anghenion poblogaeth hynny. Mae'r asesiadau anghenion eu hunain yn ymwneud ag wyth thema graidd: plant a phobl ifanc, iechyd pobl hŷn, anableddau corfforol, anableddau dysgu ac awtistiaeth, iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau, gofalwyr sydd angen cymorth, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin yn y cartref a thrais rhywiol. Felly, rwy'n credu eu bod yn rhoi darlun clir a chadarn iawn inni ynghylch anghenion y gwahanol grwpiau amrywiol hynny o bobl, ledled y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny. Fy mwriad yw cyhoeddi asesiad anghenion poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar yr hyn a ddaeth i’r amlwg o’r asesiadau anghenion poblogaeth ar lefel ranbarthol, oherwydd y buon nhw mor ddadlennol ac mor ddiddorol, felly rwyf wedi gofyn i Ofal Cymdeithasol Cymru ymgymryd â'r darn hwnnw o weithio gyda golwg ar adrodd ym mis Tachwedd. Dyna'r nod: adrodd ar y dyddiad hwnnw.
O ran sut y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod i gytundeb o ran cyfuno cyllidebau a faint y maent yn ei gronni o fewn y cyllidebau hynny, ac a oes ganddynt ddigon i ddiwallu anghenion y bobl y maen nhw wedi eu nodi trwy eu hasesiad anghenion poblogaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau statudol o dan Ran 9 o'r Ddeddf, sy'n rhoi canllawiau cam wrth gam bron iawn ynglŷn â chyllidebau cyfun. Er enghraifft, mae'n cychwyn gydag asesiad anghenion poblogaeth, ond yna mae'n symud ymlaen i gytuno ar ddatganiad sefyllfa marchnad integredig briodol a strategaeth gomisiynu fel canlyniad i hynny, a chytuno ar gontractau a manylebau cyffredin, a datblygu ffordd integredig o fynd ati i gytuno ar ffioedd gyda darparwyr, a ffordd integredig o sicrhau ansawdd, gan sicrhau tryloywder bob amser hefyd. Felly, dylai'r camau hynny ar hyd y ffordd arwain at sefyllfa pan mai’r dilyniant naturiol nesaf yw cyllidebau cyfun, ac y cânt eu cyfuno mewn ffordd ddeallus sy’n caniatáu digon o adnoddau er mwyn diwallu'r anghenion hynny hefyd. Felly, mae'r camau hynny wedi eu hamlinellu mewn canllawiau statudol.
Fe wnaethoch ofyn hefyd sut y gallwn ni sicrhau bod y Gronfa Gofal Integredig yn caniatáu arloesi, a dyna un o'r rhesymau dros sefydlu’r Gronfa yn y lle cyntaf, er mwyn rhoi caniatâd, os mynnwch chi, i bobl sy'n gweithio yn y sector ac i arweinwyr ym maes iechyd a chymdeithasol, i roi cynnig ar bethau gwahanol ac i wneud pethau'n wahanol. Mewn gwirionedd, sefydlwyd y Gronfa Gofal Integredig i annog arloesi, ac a dweud y gwir, roedd hi’n iawn os nad oedd pethau'n gweithio; fe allem ni ddysgu oddi wrth hynny cymaint ag yr ydym yn dysgu o bethau sydd yn gweithio. Felly, mae arloesi wedi bod yn rhan ganolog iawn o hynny erioed, ac mae yna rai enghreifftiau gwych, wrth gwrs. Efallai eich bod yn ymwybodol o Dîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolradd Sir Benfro, PIVOT, sydd wedi defnyddio £160,000 o gyllid eleni i gefnogi’r agwedd o ryddhau pobl yn amserol ac yn effeithiol o'r ysbyty, a hefyd i wella cyfleoedd i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Hyd yn hyn, yn y flwyddyn ariannol hon, mae 1,320 o ddiwrnodau gwely wedi'u rhyddhau a 132 o dderbyniadau i ysbytai wedi eu hosgoi, ac fe gafodd 80 o bobl eu rhyddhau gyda’r cynnig o gymorth dilynol dim ond yn rhan o’r prosiect penodol hwnnw hefyd. Felly, mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd, a phobl yn meddwl mewn ffordd wahanol iawn.
O ran cynllunio gweithlu, unwaith eto mae hyn yn rhywbeth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymwneud llawer iawn ag ef o ran eu cyfrifoldebau newydd a helaethach o ran datblygu a goruchwylio'r gweithlu yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio'n agos iawn o fewn y sector a chyda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd.
Yn olaf, soniasoch am y sector gofal preifat hefyd, a sut yr ydym ni’n sicrhau ein bod yn cydnabod y partneriaid pwysig sy’n rhan o hyn i gyd. Wel, mae rheidrwydd ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, drwy'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i gael cynrychiolydd o'r sector annibynnol ar bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, fel y gallant hwythau roi eu safbwynt unigryw i'r byrddau hynny hefyd.
Mae yna ddwy brif elfen i’r datganiad, am wn i, ac rwy’n diolch i’r Gweinidog am y datganiad hwnnw. Yn gyntaf: cryn ganmoliaeth o rai elfennau o waith y gronfa gofal ganolraddol—bellach yn gronfa integredig. Mi gymeraf i’r cyfle hwn, os caf, i atgoffa’r Siambr yma bod y gronfa honno yn rhan o gytundeb y gyllideb flaenorol efo Plaid Cymru, a’n bod ni’n falch ein bod ni wedi dod a’r syniad hwnnw at y bwrdd, oherwydd y ffordd rydym ni wedi ei weld o yn cael ei ddatblygu. Prif elfen y datganiad, wedyn, ydy’r cyd-destun ehangach yma o gyfuno cyllidebau a gweithio mewn partneriaeth, ac mae gen i nifer o gwestiynau yn codi allan o hynny. Mae’r datganiad yn awgrymu bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd rhywsut ddim yn rhoi ymrwymiad llawn i’r byrddau rhanbarthol:
‘Those outcomes cannot be…achieved by anything less than a full commitment to working together.’
Beth ydych chi’n meddwl ydy’r prif rwystr i gael y math o ymrwymiad llawn i lwyddiant y byrddau? Rydych chi’n ein hatgoffa ni, ar ôl ymgynghoriad, fod gohiriad wedi bod yn yr angen am gyllidebau cyfun i gartrefi gofal tan 2018. Rydw i’n cytuno efo chi, neu efo’r awgrym, fod hyn yn ddigon o amser. Ond o ddarllen rhwng y llinellau, mae’n ymddangos bod rhai partneriaid yn canfod hyn yn anodd o hyd. Yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi fel Gweinidog yn difaru ymestyn y dedlein ar y sail ei bod hi’n ymddangos, beth bynnag ydy’r dedlein, fod rhai partneriaid yn cael trafferth ymrwymo iddo fo?
A ydych chi hefyd yn cydnabod bod arwahanrwydd iechyd a gofal cymdeithasol, a’r diffyg dyletswyddau statudol, yn golygu bod wastad peryg mai’r hyn y byddai gweithio partneriaeth yn ei olygu byddai rheolwyr yn cyfarfod i ddadlau i’w cyfraniadau nhw i’r gyllideb gyfun fod cyn lleied â phosib, ac felly bod cyfyngiadau gweithio partneriaeth heb ymrwymiadau statudol yn cael eu harddangos yn eithaf clir yn y fan hyn? O bosib fe wnaf i ofyn hefyd am eich sylwadau chi ynglŷn â’r opsiwn arall, sef, wrth gwrs, i roi cyllideb benodol i’r byrddau rhanbarthol yn hytrach nag i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar wahân.
Y cwestiwn nesaf: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn erbyn cyflwyno newidiadau strwythurol eang i gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, yn dadlau y byddai newidiadau o’r math hynny yn ddrud, a hefyd yn aflonyddgar neu’n ‘disruptive’. Pam felly ydych chi yn cynllunio i newid iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf a ddim hyd yn oed yn defnyddio’r cyfle hwnnw i greu corff mwy integredig, lle y byddai adnoddau yn cael eu targedu ar wasanaethau rheng-flaen, pan rydych chi wedi cymryd y penderfyniad i wneud newid strwythurol?
Nesaf, mi wnaf i’ch atgoffa am ambell i welliant gan Blaid Cymru a wrthodwyd gan y Llywodraeth wrth i’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol gael ei thrafod. Un o’r rheini fyddai i ganiatáu i awdurdodau lleol i gyflogi yn uniongyrchol nyrsys cofrestredig, a drwy hynny rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu gofal cymdeithasol cryfach. A ydych chi’n difaru gwneud hynny? Hefyd, yn cyfeirio nôl at yr hyn a ddywedais i’n gynharach, ein gwelliant ni hefyd i gryfhau’r ddyletswydd go iawn ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gydweithio ar gyfuno cyllidebau; hynny ydy, mi oeddem ni’n dweud y dylen nhw, yn hytrach na ‘fe ddylen nhw ystyried’, neu ‘fe ddylen nhw allu’.
Ac yn olaf, heddiw mi ydym ni’n clywed awdurdodau lleol ledled Cymru yn ymateb gyda chryn bryder, a hynny yn ddealladwy iawn, i’r cyhoeddiad ynglŷn â’u cyllidebau drafft nhw eu bod nhw’n wynebu blynyddoedd yn rhagor o doriadau. A ydych chi fel Gweinidog yn credu ei bod hi yn bosib i wasanaethau cymdeithasol gynnal y math o lefel o wasanaeth y maen nhw yn ei ddarparu ar hyn o bryd, heb sôn am eu gwella a’u cryfhau nhw, o fewn cyd-destun lle mae cyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu torri ac, ar yr un pryd, lle mae yna gynnydd mewn galw ar eu gwasanaethau nhw? Oni ddylem ni mewn difri fod wir yn meddwl yn nhermau cyllideb sengl rŵan—iechyd a gofal cymdeithasol? Oherwydd mi fyddwn i’n dadlau yn gryf iawn ei bod hi yn gamarweiniol i danlinellu cynnydd o £200 miliwn mewn gofal iechyd os ydy gofal cymdeithasol, sydd â chymaint o impact ar yr NHS, yn mynd i lawr, neu mewn peryg o fynd i lawr, yn y blynyddoedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn. Dechreuaf drwy ddweud, yn y llythyrau hynny y cyfeiriais atynt yn fy natganiad, pryd yr ysgrifennodd holl gadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol ataf erbyn diwedd y mis diwethaf, gan roi diweddariad ar y cynnydd— roedd pob un o'r llythyrau hynny'n cynnwys diweddariad ar y cynnydd a wnaed tuag at y chwe cham gwahanol hynny tuag at gyllidebau cyfun, y soniais amdanynt yn fy ymateb i Angela Burns. Mae'n deg dweud bod gwahanol ranbarthau ar wahanol gamau ar y daith honno, ond rydym ni wedi bod yn gwbl glir y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pa gymorth bynnag sydd ei angen er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y pwynt hwnnw pryd y gallant gyfuno'r cyllidebau hynny. Ond nid oes amheuaeth o gwbl bod yr holl ranbarthau hynny'n llwyr ymrwymedig i gyllidebau cyfun. Rwyf wedi siarad â chadeiryddion byrddau partneriaeth rhanbarthol, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd. Er enghraifft, ddoe ddiwethaf, cyfarfûm â'r holl arweinyddion mewn llywodraeth leol sydd â chyfrifoldeb dros ofal cymdeithasol, ac mae pob un ohonynt yn gwbl gefnogol i gyllidebau cyfun ac yn cydnabod pwysigrwydd hynny. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth o ran yr ymrwymiad i hynny. O ran pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd, mae'n rhywbeth sy’n eithriadol o gymhleth i'w wneud, ond, fel y dywedais yn fy natganiad, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pa bynnag gymorth ychwanegol sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw.
O ran gweithio mewn partneriaeth, nid yw hynny’n ymwneud mewn gwirionedd â rheolwyr yn siarad; y gwir gydweithio yw'r hyn sy'n digwydd o ran, ar lawr gwlad, sut yr eir ati i ddiwallu’r angen gofal a chymorth hwnnw y mae’r unigolyn sy'n derbyn gofal a chefnogaeth ei angen. Mae’n siŵr eich bod yn gwybod am enghreifftiau yn eich ardal chi yn y gogledd lle mae'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi neilltuo £1 miliwn eleni i wella eu gwasanaethau camu i fyny, camu i lawr. Felly, mae hynny'n cefnogi pobl sy'n dod allan o'r ysbyty sy'n feddygol iach ond bod angen rhywfaint o ofal a chymorth arnynt. Mae dros 800 o bobl eisoes wedi elwa ar y gwasanaeth hwn ac mae mwy na 2,000 o ddyddiau gwely wedi eu harbed hefyd.
Hefyd, yn rhanbarth gogledd Cymru, defnyddiwyd dros £1 miliwn o'r gronfa gofal integredig i sefydlu gwasanaethau un pwynt mynediad aml-ddisgyblaeth, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion mewn ffordd amserol, effeithiol ac effeithlon. Yn wir, mae llawer o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi mabwysiadu’r ffordd honno o weithio gyda’r drefn un pwynt mynediad, wedi gweld pa mor wirioneddol effeithiol yw hynny.
Cyfeiriasoch at Ben-y-bont ar Ogwr, ac, wrth gwrs, yn y datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 18 Mehefin, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ein bod yn cynnig y dylid addasu ffin bwrdd iechyd lleol Cwm Taf i gynnwys ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a byrddau iechyd, bydd y Llywodraeth yn trafod y cynnig hwnnw ac yn datblygu dogfen ymgynghori ffurfiol ac fe gyhoeddir datganiad arall ar hyn yn ystod yr hydref hwn. Ond gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau trafod mewn cryn fanylder â’r partneriaid yng Nghwm Taf a bwrdd partneriaeth ranbarthol Bae’r Gorllewin y trefniadau trosglwyddo posibl pe byddai ffin Cwm Taf yn cael ei ymestyn i ymgorffori Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Credaf hefyd ei bod yn bwysig inni drin ein holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol a'n holl awdurdodau lleol a'n byrddau iechyd yn yr un modd, yn hytrach na bod gennym drefniadau pwrpasol ar gyfer byrddau iechyd unigol ac yn y blaen.
O ran y gyllideb benodol, rydych chi'n iawn, mae mwy nag un ffordd o gyfuno cyllideb; mae hynny'n bendant yn wir. Fodd bynnag, y dewis erioed oedd annog a rhoi rhyddid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, trwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, i berchnogi hynny ac i fod yn gyfrifol eu hunain am arwain y gwaith o gyfuno cyllidebau eu hunain. Rwy'n credu bod honno'n ffordd fwy effeithiol ac yn ffordd fwy dymunol, yn sicr, na bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi’r drefn cyfuno cyllidebau arnynt. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi ei gwneud hi’n glir yn fy natganiad heddiw, os na fyddaf yn fodlon ar y cynnydd a wnaed, y byddaf yn ystyried ffyrdd eraill o gyfuno cyllidebau hefyd.
Os caf i, dim ond ar un pwynt arall, soniasoch am y setliad anodd y mae awdurdodau lleol yn gorfod ymdopi ag ef. Mae'n ganlyniad i saith mlynedd o gyni a llai o arian i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs byddwch wedi darllen datganiad y Gweinidog, sy’n amlinellu'r setliad a wnaed. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod gweithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth yn rhoi cyfleoedd i awdurdodau lleol yn yr ystyr, pan fydd cyllidebau cyfun yn dod i rym ac y byddwn ni’n comisiynu’r lleoedd hynny mewn cartrefi gofal oedolion ar y cyd, ceir cyfle gwych mewn gwirionedd i wneud pethau saith gwaith yn hytrach na 22 gwaith, gan rannu arbenigedd a rhannu manteision y trefniadau comisiynu ehangach hynny hefyd. Felly, mae yna gyfleoedd, yn sicr, gyda'r dull hwn.
Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Mae'r ymgyrch 1000 o Fywydau wedi dangos yr hyn sy'n bosibl pan fyddwn ni'n unedig wrth ymgyrraedd at un nod—nod o wella profiad pob claf o'r gofal y mae’n ei dderbyn. Mae’n wych gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y timau gofal iechyd. Gan gydweithio mewn ffordd sydd â thystiolaeth yn sail iddi, maen nhw wedi parhau i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a gwneud gwelliannau sylweddol i brofiadau a diogelwch cleifion. Felly, mae’n rhaid inni gydnabod, pa mor galed bynnag yr ymdrechwn ni, bod camgymeriadau dynol yn parhau i fod yn un o ffeithiau fywyd. Felly, mae’n rhaid inni barhau i archwilio diwygiadau cadarnhaol i reoli ein gwasanaeth iechyd, a blaenoriaethu gofal a diogelwch cleifion bob amser.
Yn gyntaf oll, mae’n rhaid inni gydnabod natur unrhyw faterion a phroblemau a gwneud ymrwymiad clir i newid systemau diffygiol sy'n esgeuluso cleifion. Er mwyn gwella profiad pob claf yn ein GIG mae’n rhaid i bawb sy’n rhan ohono gydweithio gyda'r clleifion a'u teuluoedd. Elfen hanfodol o wella profiadau cleifion a staff yw cydlynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac os yw hyn yn methu, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol. Enghraifft yr wyf wedi sôn amdani o’r blaen yn y Siambr hon, ond rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig sôn amdani eto, yw achos gŵr bonheddig 83 oed o'm rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru a gafodd lawdriniaeth fawr a thriniaeth ddilynol, a chafodd brofiad o’r diffygion yn y system ac ni lwyddodd i fanteisio ar ofal cydweithredol rhwng gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Yn syml, nid oedd unrhyw gynllun pan gafodd ei ryddhau o'r ysbyty ac ni soniwyd gair wth neb ei fod yn dod adref o'r ysbyty, ac roedd wedi cael llawdriniaeth ddargyfeirio driphlyg ar ei galon ac yntau’n 83 oed.
Felly, a yw'r Gweinidog felly yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r integreiddio rhwng y gwasanaethau hyn gynnwys symleiddio'r wybodaeth y mae'n ofynnol i gleifion ei chyflwyno, a thrwy hynny atal claf rhag gorfod rhoi, fel yn yr achos hwn, yr un wybodaeth i asiantaethau a gweithwyr proffesiynol lluosog ac yn y diwedd, peidio â chyflawni'r canlyniad. Byddai hyn yn gwella'r broses o rannu gwybodaeth, na ddigwyddodd yn yr achos hwn, ac yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-fynd yn well â’i gilydd, gan esgor ar fwy o gydgysylltu rhwng y ddau? Ydych chi'n ystyried bod swyddogaeth awdurdodau lleol yn yr achos hwn yn gadarnhaol? Pa brofiadau a gawsoch chi wrth drafod a chytuno gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'r materion hyn? Un o'r heriau mawr sy’n bodoli o ran trosglwyddo llyfn o’r gwasanaethau iechyd i ofal cymdeithasol yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal. Ers canol y degawd diwethaf, rydym ni wedi gweld gwelliannau cyflym yn nifer y bobl sy'n gorfod aros. Yn wir, mae'r nifer wedi gostwng o 775 yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2004 i 472 yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr y llynedd. Fe ŵyr pob un ohonom ni fod cynllunio gweithlu yn hanfodol bwysig, ac mae pob bwrdd iechyd wedi datgan bod cost staff asiantaeth oherwydd prinder yn cael effaith fawr ar eu cyllideb ac yn amsugno llawer iawn o gostau. Felly, mae hon yn dasg enfawr, ac fe hoffwn i ofyn sut y byddwch chi’n mynd i'r afael â'r mater hwn, os gwelwch yn dda.
Er gwaethaf y gostyngiad sylweddol hwn mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, mae'n amlwg bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi sefydlogi ers 2010. Rwy'n sylweddoli y bydd yna amrywiad bob amser yn y ffigurau hyn. Fodd bynnag, yn 2013, roedd 5,393 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal o’i gymharu â bron i 6,000 yn 2016. Felly, un o brif achosion yr oedi hwn yw faint o welyau sydd ar gael, gan fod nifer y gwelyau oedd ar gael yn 2010 wedi gostwng gan 15 y cant. Ar adeg pan fo Cymru'n wynebu pwysau cynyddol ar wasanaeth y GIG, mae darparu gwelyau yn hanfodol i leihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Felly, mae'r gostyngiad o 15 y cant yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau ac yn cael effaith andwyol ar brofiad y claf. Felly, yn arbennig, mae pobl hŷn yn dioddef oedi o ran eu gofal, ac yn aml yn cael eu gadael yn yr ysbyty oherwydd nad oes lle iddyn nhw fynd iddo— felly, dyma wasanaethau sydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi gweld cwtogi ar eu cyllideb, gan waethygu'r broblem ymhellach. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nifer y gwelyau sydd ar gael yn rhwydd er mwyn lleddfu’r pwysau yn ysbytai Cymru a, hefyd, gwneud popeth o fewn ei gallu i atal cartrefi gofal rhag cau ledled Cymru?
Mae toriadau i gyllidebau gwasanaethau cymdeithasol wedi rhoi mwy o bwysau ar ofal cymdeithasol pan fydd cleifion yn cael eu trosglwyddo o'r ysbyty. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r henoed, ac mae llawer ohonyn nhw'n profi oedi wrth drosglwyddo ac yn dibynnu, felly, ar y gwasanaethau cymdeithasol am y cymorth hanfodol a gânt. Er enghraifft, mae Cyngor Caerdydd yn wynebu toriadau difrifol i'w gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cyngor eisoes wedi gwneud gwerth £200 miliwn o arbedion yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Os gwneir toriadau pellach— [Torri ar draws.] Os gwneir toriadau pellach i gyllidebau cyngor fel yn achos Cyngor Caerdydd, yna bydd gallu’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyfyngu fwyfwy, gan adael llawer o gleifion, yn ifanc ac yn hen, heb ofal hanfodol.
Os na all y gwasanaethau cymdeithasol ddiwallu’r galw, yna mae'n anochel y bydd hyn yn effeithio'n sylweddol ar faint o welyau sydd ar gael mewn ysbytai. Felly, mae hyn yn cael effaith bellach ar drosglwyddo gofal, gan achosi mwy o rwystrau i ddarparu gwasanaethau gofal integredig.
Oherwydd bod cynghorau, nid dim ond yma yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, yn wynebu cyfnod heriol yn economaidd, a wnaiff y Gweinidog flaenoriaethu cyllid hanfodol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol i'r henoed a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac ystyried yr argymhellion a wnes yn gynharach yn fy araith, gan sicrhau bod pawb yn ein gwasanaeth iechyd yn elwa ar iechyd a gofal cymdeithasol cydweithredol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau yna ac fe ddechreuaf drwy gydnabod eich sylwadau yn arbennig ynglŷn â brwdfrydedd ac ymroddiad y bobl sy'n gweithio ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol—rwyf wedi gweld hynny gyda’m llygaid fy hun wrth ymweld â llawer o brosiectau’r Gronfa Gofal Integredig sy'n digwydd ledled Cymru. Mi fyddwn i’n sicr yn annog Aelodau, fel yr wyf bob amser yn ei wneud, i ymweld â'r prosiectau i gael eu hysbrydoli gan waith arloesol a brwdfrydedd pur pobl ar lawr gwlad drwy’r Gronfa Gofal Integredig
Hefyd, soniasoch am bwysigrwydd blaenoriaethu'r unigolyn, a dyna'n union yr hyn y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn bwriadu ei wneud, yn yr ystyr ei bod yn rhoi'r unigolyn wrth wraidd y penderfyniadau a wneir amdano. Mae'n ymwneud â chanlyniadau personol, ynglŷn â chael y sgwrs honno gyda nhw ynghylch 'beth sy'n bwysig' er mwyn deall yr hyn y byddai'r unigolyn yn hoffi ei weld yn digwydd, a deall eu bod yn arbenigwyr cydradd ochr yn ochr â'r gweithwyr proffesiynol—nhw yw’r arbenigwyr ar eu bywydau, felly dylen nhw gael eu trin fel arbenigwyr cydradd yn y sgyrsiau hynny.
Fe wnaethoch chi grybwyll hefyd bod cydlynu’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn hollbwysig, ac rwyf yn llwyr gytuno â chi yn hynny o beth. Cyfeiriasoch at achos gofidus iawn fel enghraifft o pam y mae hi mor bwysig ein bod yn cael cydlyniad rhwng y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae'r gronfa gofal integredig yn ceisio'i gyflawni. Er enghraifft, yng Nghwm Taf, maen nhw wedi gwario £1 miliwn i ddatblygu gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref. Mae hwnnw ar waith saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae'n cynnwys tîm amlddisgyblaeth yn yr ysbyty, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Maent yn cynnal asesiadau cychwynnol o unigolion ac yn comisiynu neu'n darparu gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal cymdeithasol trydydd sector i hwyluso’r broses o anfon pobl adref yn ddiogel ac yn amserol ac atal mynediad diangen yn y lle cyntaf. Felly mae hyn yn sicrhau bod gan bobl y pecyn cymorth eang hwnnw o'u cwmpas, gan ystyried iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i sicrhau bod pecyn ar gael i alluogi pobl i aros gartref.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd peidio â bod angen i bobl ddweud eu hanes lawer gwaith, oherwydd gall hynny beri gofid i bobl ac nid oes angen hynny o gwbl ar adeg pan fo cymaint o dechnoleg ac ati ar gael i ni. Dyna, mewn gwirionedd, yw un o'r pethau y maen nhw’n eu defnyddio yn y gwasanaeth Cadw’n Iach Gartref yng Nghwm Taf. Rydym ni hefyd wedi buddsoddi £2 filiwn o'r Gronfa Gofal Integredig eleni yn system gwybodaeth gofal cymunedol Cymru yn benodol, ac mae’r gwasanaeth hwnnw eisoes wedi ei roi ar waith rhwng y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys, i ddechrau, fel bod yr un math o wybodaeth ar gael iddyn nhw. Roeddwn yn falch o lansio'r fenter benodol honno yn gymharol ddiweddar, a chael y cyfle i siarad â staff, a ddywedodd cymaint o wahaniaeth mae’n ei wneud bod y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn gallu cael gafael ar yr un math o wybodaeth am yr unigolyn. Mae’r gwasanaeth wedi ei roi ar waith hefyd yn awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Ynys Môn, Gwynedd, Bro Morgannwg, Ceredigion a Thorfaen. Powys yw'r unig ardal lle mae wedi'i integreiddio'n llawn ar hyn o bryd, ond rydym ni yn symud tuag at hynny, ac, i ddweud y gwir, rydym ni wedi darparu £6.7 miliwn o arian cyfalaf, ar gyfer costau sefydlu a chostau cychwynnol i gael trwydded ar gyfer Cymru gyfan—sy’n dangos yn glir y flaenoriaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’r fenter benodol honno.
Nid wyf yn siŵr a wyf yn adnabod y ffigurau a ddyfynnwyd gennych chi o ran dadwenwyno fel y ffigyrau diweddar, oherwydd maen nhw’n sicr wedi gostwng eto ers y ffigurau y gwnaethoch chi eu dyfynnu i ni. Mae'r cyfanswm yn awr 7 y cant yn is nag yn yr un cyfnod y llynedd, ac fel yn achos yr holl gyfansymiau, mewn gwirionedd, yn y flwyddyn bresenol, mae'n is nag unrhyw un o'r cyfansymiau a adroddwyd yn y ddwy flynedd flaenorol ar gyfer yr un misoedd. Felly, rydym ni’n sicr yn gwneud cynnydd da, ac mae hyn ar adeg pan fo anghenion unigolion yn cynyddu, gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, ac yn y blaen. Felly, mae hyn yn sicr yn faes lle yr ydym ni’n gwneud cynnydd da iawn.
Un o'r pethau oedd o ddiddordeb i mi pan gychwynnais ar fy swydd o ran oedi wrth drosglwyddo gofal oedd y ffaith bod nifer fawr o'r achosion o oedi, mewn gwirionedd, oherwydd dewis unigolyn. Felly, peidio â gallu mynd i’w dewis cyntaf o gartref gofal, er enghraifft. Mae llawer iawn o'r oedi oherwydd hynny, a dyna pam mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mor bwysig o ran codi safonau drwy’r sector cyfan fel nad oes gan bobl ddewis mor anodd ei wneud pan eu bod yn pwyso a mesur y dewisiadau rhwng dau gartref gofal gwahanol. Mewn gwirionedd, mae arnom ni eisiau sector cartrefi gofal lle mae'r holl gartrefi gofal yn ddeniadol i'r unigolyn, felly ni fydd angen pendroni yn y fath fodd wrth wneud y dewisiadau anodd hynny.
Diolch ichi am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Rwy'n siŵr bod unfrydedd barn yn y Siambr bod gofal cymdeithasol yn un o'r materion mwyaf ac yn un o heriau mwyaf cynyddol ein hoes ni, ac mae angen inni gael gwell cyswllt a chydweithredu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i ateb yr heriau hyn, a'r cwestiwn yw, mewn gwirionedd, sut orau ydym ni am wneud hynny’n ymarferol. Gweinidog, soniasoch yn eich datganiad mai cyfrifoldeb rhanbarthau fydd sefydlu'r cyllidebau cyfun hyn ar gyfer darparu lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion erbyn mis Ebrill 2018, ac rwy'n ddiolchgar am eich ymatebion blaenorol ynglŷn â hyn. Dim ond meddwl yr wyf i, tybed a allwch chi ymhelaethu ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol a lle yr ydym ni arni o ran sicrhau bod hynny’n gweithio'n effeithiol yn ymarferol.
Rydych chi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio; a allwch chi ymhelaethu ar hyn ac a ydych chi'n cytuno y dylai cydweithio o ran cyllidebau cyfun a'r agenda integreiddio gynnwys gweithio trawsbleidiol effeithiol? A'r sylw olaf yr hoffwn ei wneud yw: pa ystyriaeth a roddwyd, neu y gellid ei roi, i'r modd y gellid defnyddio asedau cymunedol presennol yn well neu roi diben newydd iddynt a'u defnyddio mewn modd arloesol a chydweithredol er mwyn diwallu anghenion gofal cymdeithasol ac iechyd y gymuned—yn enwedig o ran edrych ar y diffyg darpariaeth o ran gofal seibiant meddygol ar gyfer yr henoed, y rhai mwyaf agored i niwed a bregus, gan weithio law yn llaw â gofal cymdeithasol? A oes ystyriaeth hefyd i'r swyddogaeth y gallai’r trydydd sector ei chwarae, o bosib, o ran cynnal cyfleusterau er mwyn sicrhau bod hynny'n gallu digwydd yn well?
Diolch am y cwestiynau yna. Rydych chi’n hollol gywir bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn rhai o'r heriau mawr yr ydym ni’n eu hwynebu yn ein hoes ni, a dyna pam, yn ein rhaglen lywodraethu, y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod y sector fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol. Rwy'n falch iawn bod y sector wedi ei gydnabod, yn 'Ffyniant i Bawb', yn un o'r pum maes allweddol a all wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru, a chredaf fod hynny'n gadarnhaol iawn, iawn.
O ran sut mae cyllidebau cyfunol yn gweithio'n ymarferol, rydym ni wedi darparu'r canllawiau statudol i awdurdodau lleol fel modd o ddisgrifio hynny, ac mae cyllidebau cyfun mewn gwirionedd yn ymwneud â mynd ati mewn modd integredig i gytuno ar y ffioedd gyda darparwyr, cytuno ar fanylebau, a chytuno ar yr ymrwymiadau ariannol hynny y bydd pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth yn eu gwneud.
Mae'r mater trawsbleidiol a awgrymwyd gennych chi yn ddiddorol iawn mewn gwirionedd yn yr ystyr bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys partneriaid y daethpwyd â nhw at ei gilydd o’r holl sectorau. Felly mae hi yn bwysig bod gweithio trawsbleidiol da yn digwydd, ac yn sicr nid wyf i wedi cael unrhyw wybodaeth i awgrymu fel arall. Mae'r trydydd sector hefyd yn bartneriaid hollbwysig, a dyna pam, mewn gwirionedd, ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol, mae hawl i ddau berson fod yn cynrychioli'r trydydd sector ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, a chredaf fod hynny’n dangos, mewn gwirionedd, y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r rhan y gall y trydydd sector ei chwarae o ran diwallu anghenion gofal cymdeithasol a hefyd yr arbenigedd y maen nhw’n ei gyfrannu a'r ffaith eu bod yn agos iawn, iawn at bobl ar lawr gwlad, fel y gallant yn sicr fod yn llais i bobl y maen nhw’n eu cynrychioli.
Mae gan y Gronfa Gofal Integredig elfen o gyllid cyfalaf gwerth £10 miliwn yn rhan ohono, ac yn sicr mae hynny yn cynnig cyfleoedd, efallai, i addasu’r cyfleusterau presennol, ac yn y blaen, er mwyn eu gwneud yn addas i ddiwallu anghenion pobl. Rydym wedi gweld enghreifftiau o hyn mewn rhai o'r gwasanaethau camu i fyny, camu i lawr, er enghraifft, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus o ran atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen, ond hefyd o ran hwyluso’r broses o ddychwelyd adref yn gynharach.
Dim ond i ddatblygu'r cwestiwn hwn ynglŷn â’r bartneriaeth ranbarthol a'r berthynas rhwng y cyllidebau cyfunol. Fe wnaethoch egluro i Hannah Blythyn y gall amrywiaeth eang o bobl fod yn rhan o'r bartneriaeth ranbarthol a fydd yn gyfrifol am wario'r gyllideb gyfun honno, ond mae'r cyllidebau cyfun—os wyf i’n deall y rheoliadau yn gywir—yn dod oddi wrth y Bwrdd Iechyd Lleol a'r awdurdod lleol, nid o ffynonellau eraill hefyd. Os ydych chi hefyd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a oes gan y Byrddau Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol unrhyw ryddid i wahodd partneriaid eraill i gyfrannu at gyllideb gyfun? Nid wyf yn glir o'r ddeddfwriaeth a yw hynny'n bosibl. O dan yr amgylchiadau hynny, neu hyd yn oed os yw ond yn cynnwys y Byrddau Iechyd Lleol a'r cynghorau, yn amlwg bydd y swm y mae pobl yn ei gyfrannu at gyllidebau cyfun yn wahanol. A oes mwy o ddylanwad mewn bywyd go iawn gan y bobl hynny sydd fwyaf hael eu cyfraniad i’r gronfa honno, os caf ei fynegi yn y ffordd honno? Fe wn i na ddylai fod, ond a ydych chi'n cael ar ddeall o'ch ymweliadau y gallai hynny fod yn duedd y gallai fodoli o dan yr wyneb?
Mae dinasyddion, wrth gwrs, yn rhan o'r partneriaethau rhanbarthol. Rydych chi bellach wedi siarad â phenaethiaid y byrddau. A allwch chi roi rhyw syniad imi o sut y bydd dinasyddion yn cyfrannu? Byddai'n syfrdanol meddwl mai dim ond cynghorwyr ychwanegol ydynt ar ryw adeg o’r broses, yn hytrach na’u bod yn rhan flaenllaw a chanolog yn y cynlluniau hyn.
Ac yna yn olaf, rwy'n falch o glywed eich bod yn gwerthuso'r Gronfa Gofal Integredig ar ei newydd wedd; Sylwais ichi ddweud hynny. A allwch chi roi ychydig o sicrwydd inni na fydd y dangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn edrych arnynt yn hynny o beth—ni wnaethoch chi ateb cwestiwn Angela Burns yn llwyr ynghylch hyn—yn sylweddol wahanol i'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a ragwelwyd yn wreiddiol pan sefydlwyd y gronfa ar ei hen ffurf? Rwy'n credu bod angen ffydd arnom ni na fydd unrhyw newidiadau i’ch targedau, os caf ei roi felly, a fyddai’n cuddio diffygion, annisgwyl neu fel arall; rwy'n credu y byddai’n well gennym ni gael gwybod y gwir. Diolch.
Diolch, a dyna un o'r rhesymau yr wyf i wedi comisiynu’r craffu sylweddol hwn—neu y byddaf yn ei gomisiynu yn y flwyddyn ariannol nesaf—ar y Gronfa Gofal Integredig, ac mae hynny er mwyn darganfod y gwir: wyddoch chi, pa fath o werth am arian yr ydym ni’n ei gael? Rydym ni eisoes wedi gwneud y gwaith o edrych ar enghreifftiau o arfer da, felly fe wyddom ni fod hwnnw'n bodoli, ond mewn gwirionedd mae angen i ni fod yn deall y gwir werth am arian, ac yn y blaen. O ran manylebau'r darn hwnnw o waith, ni chawsant eu pennu eto. Felly, yn amlwg, byddaf yn eangfrydig iawn ynghylch hynny.
Rydych chi'n hollol iawn; mae'n rhaid i gyfranogiad ac ymgysylltiad dinasyddion fod yn ganolog i waith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Roedd y gwaith a wnaethant o ran datblygu’r asesiadau anghenion poblogaeth yn eang iawn, ac yn sicr roedd dinasyddion yn rhan o hynny. Ond ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd, mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu cynrychioli ar y byrddau hynny. Mae'n wirioneddol bwysig bod ganddyn nhw lais cryf, yn ogystal â thrwy fforymau dinasyddion ac yn y blaen, o ran sicrhau, fel mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi rheidrwydd arnom i’w wneud, bod yr unigolyn a’r defnyddiwr gwasanaeth yn gwbl ganolog hefyd. Felly, mae hynny'n hollol angenrheidiol. Ac wrth gwrs, mae gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddyletswydd i wneud y boblogaeth leol yn ymwybodol o'r gwaith y maen nhw’n ei wneud hefyd. Gwn fod hynny'n rhywbeth y caiff ei drafod, mewn gwirionedd, yn y cyfarfod gyda chadeiryddion y byrddau a gynhelir yfory,.
O ran pwy sy'n cyfrannu faint i’r gronfa, mae hynny i raddau helaeth yn benderfyniad lleol, a chredaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud o ran caniatáu i'r partneriaid hynny edrych yn y modd cydweithredol ac arloesol hwnnw o ran sut y gallan nhw ddod i gytundeb ynghylch pwy sy'n cyfrannu beth i'r gronfa. Gwn nad yw'r trafodaethau hynny'n hawdd, ond, mewn gwirionedd, gyda'r brwdfrydedd a fu a'r ymrwymiad a gafwyd gan yr holl bartneriaid dan sylw, rwy'n ffyddiog y gallan nhw gynnal y sgyrsiau hynny heb gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Diolch i’r Gweinidog. Daw hynny â thrafodion y dydd i ben.